6
Gelateria Newydd i Bentref Eidalaidd Mae ymwelwyr â Phortmeirion, un o brif gyrchfannau twristiaid, wedi bod yn cael blas ar rywbeth newydd sbon yr haf hwn, sef hufen iâ a gynhyrchir yn y Pentref. Mae’r gelateria newydd a’i chyfarpar cynhyrchu wedi bod yn llwyddiant ysgubol o safbwynt twristiaid, ac wedi dod â swyddi cynaliadwy drwy gydol y flwyddyn yn ei sgil. Agorodd y gelateria ym mis Ebrill ar safle’r hen siop lyfrau, sydd bellach wedi symud dros y ffordd. Cafodd Caffi’r Angel ei enwi ar ôl Angel Cottage lle mae wedi ei leoli. Hwn oedd y bwthyn cyntaf a adeiladodd Clough Williams-Ellis, y gŵr a sefydlodd Bortmeirion, yn fuan ar ôl prynu’r safle ym 1925. Mae’r cyfarpar cynhyrchu wedi creu saith swydd ychwanegol a’r bwriad yw defnyddio cynhwysion gorau’r ardal, gyda llaeth a hufen yn dod o Hufenfa De Arfon ym Mhwllheli. Mae Robin Llewelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion wrth ei fodd gyda’r datblygiad newydd, sy’n ychwanegu dilysrwydd at awyrgylch Eidalaidd y Pentref. Meddai Robin: “Pan feddyliwyd am y syniad, aethom draw i gynnal archwiliad i Rimini yn yr Eidal, lle mae’r ‘gelato’ yn gelfyddyd. Roeddem ni eisiau copïo hyn ym Mhortmeirion ac rydym wedi buddsoddi, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mewn sefydlu ein cyfleusterau cynhyrchu ein hunain. “Mae’r ychwanegiad diweddaraf hwn at ein portffolio yn cyd-fynd yn dda ag ethos yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud, gan greu swyddi drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na rhai tymhorol.” Mae twristiaeth gynaliadwy yn egwyddor arweiniol ym Mhortmeirion lle mae 190 aelod o staff bellach yn cael eu cyflogi drwy’r flwyddyn. Mae digwyddiadau ar raddfa fawr wedi helpu i sefydlu’r atyniad fel un o brif gyflogwyr yr ardal ac mae’r cyfleusterau newydd yn sicr o atgyfnerthu’r llwyddiant hwn. Mae’r daith flasu hufen iâ drylwyr a wnaethom i’r Eidal wedi talu ar ei chanfed! www.portmeirion-village.com www.gwyneddbusnes. net 01 Caffi’r Angel (Ch i Dd) Iwan Parry, Connor Evans, Laura Seabright, Michael Kennedy Ian Tansley, Peter Saunders OBE, Keith Bartlett RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD Rhifyn 11, Haf 2014 Hwb Ariannol Bill Gates i Gwmni Lleol Mae The Sure Chill Company, y busnes technoleg oergelloedd o Dywyn, yn dathlu llwyddiant ariannol sylweddol, ar ôl derbyn $1.4m (£800,000) gan Sefydliad Bill a Melinda Gates. Bydd y cymhorthdal hwn yn caniatáu i’r Sure Chill Company ddatblygu ei system chwyldroadol sy’n oeri brechlynnau ac sy’n cael ei defnyddio mewn gwledydd sy’n datblygu, yn y frwydr i ddileu afiechydon y gellir eu hatal ledled y byd. Bellach bwriad y cwmni yw datblygu’r cam ‘prawf o gysyniad’ ymhellach i gynnal treialon maes yn Affrica dros y 15 mis nesaf. Bydd darllenwyr cyson Cylchlythyr RhBG yn cofio bod y Sefydliad, wedi cydnabod potensial gwaith arloesol The Sure Chill Company y llynedd gyda chymhorthdal o fwy na $100,000 (£67,000). Mae’r buddsoddiad newydd wedi cael ei groesawu gan y Cadeirydd, Peter Saunders OBE, sy’n entrepreneur ac yn ‘angel busnes’ sydd wedi buddsoddi £2m o’i arian ei hun yn y fenter. Syniad gwreiddiol Ian Tansley, y Prif Swyddog Technegol yw technoleg Sure Chill, ac mae’n cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’r cynllun yn harneisio priodweddau arbennig dŵr i gynnal tymheredd oer cyson. Mae hyn yn caniatáu i frechlynnau gael eu storio yn ddiogel mewn oergell gludadwy sy’n gallu gweithredu heb drydan am 35 diwrnod. Mae’r cwmni eisoes wedi cyflenwi ei oergelloedd mawr i gadw brechlynnau i fwy na 30 o wledydd, ac yn gynharach eleni cafodd 200 eu cludo ar longau i Ynysoedd y Philipinau i gynorthwyo ymateb UNICEF i Deiffŵn Enfawr Haiyan. “Bydd yr arian yn caniatáu inni integreiddio’r dechnoleg i oergell brechlynnau, y gellir ei defnyddio yn y rhan fwyaf o fannau anghysbell i gefnogi rhaglenni imiwneiddio,” meddai Keith Bartlett, Prif Weithredwr The Sure Chill Company. “Mae gan y system oeri gadarn, bragmatig a hawdd-ei-defnyddio hon y potensial i achub bywydau niferoedd dirifedi o blant ledled y byd.” Er mwyn ategu ei lwyddiant yn y sector meddygol mae The Sure Chill Company yn awyddus i ehangu i farchnadoedd eraill. Dangoswyd diddordeb sylweddol gan sectorau bwyd a diod a’r sector domestig. Mae’r dechnoleg arloesol, gyda’i gallu dihafal i oeri ac sy’n gweithio heb gyflenwad trydan di-dor, yn brif bwynt gwerthu. www.surechill.com

Gelateria Newydd i Bentref Eidalaidd Hwb Ariannol Bill Gates ...Mae twristiaeth gynaliadwy yn egwyddor arweiniol ym Mhortmeirion lle mae 190 aelod o staff bellach yn cael eu cyflogi

  • Upload
    others

  • View
    3

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Gelateria Newydd i Bentref EidalaiddMae ymwelwyr â Phortmeirion, un o brif gyrchfannau twristiaid, wedi bod yn cael blas ar rywbeth newydd sbon yr haf hwn, sef hufen iâ a gynhyrchir yn y Pentref. Mae’r gelateria newydd a’i chyfarpar cynhyrchu wedi bod yn llwyddiant ysgubol o safbwynt twristiaid, ac wedi dod â swyddi cynaliadwy

    drwy gydol y flwyddyn yn ei sgil.

    Agorodd y gelateria ym mis Ebrill ar safle’r hen siop lyfrau, sydd bellach wedi symud dros y ffordd. Cafodd Caffi’r Angel ei enwi ar ôl Angel Cottage lle mae wedi ei leoli. Hwn oedd y bwthyn cyntaf a adeiladodd Clough Williams-Ellis, y gŵr a sefydlodd Bortmeirion, yn fuan ar ôl prynu’r safle ym 1925. Mae’r cyfarpar cynhyrchu wedi creu saith swydd ychwanegol a’r bwriad yw defnyddio cynhwysion gorau’r ardal, gyda llaeth a hufen yn dod o Hufenfa De Arfon ym Mhwllheli.

    Mae Robin Llewelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion wrth ei fodd gyda’r datblygiad newydd, sy’n ychwanegu dilysrwydd at awyrgylch Eidalaidd y Pentref. Meddai Robin:

    “Pan feddyliwyd am y syniad, aethom draw i gynnal archwiliad i Rimini yn yr Eidal, lle mae’r ‘gelato’ yn gelfyddyd. Roeddem ni eisiau copïo hyn ym Mhortmeirion ac rydym wedi buddsoddi, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mewn sefydlu ein cyfleusterau cynhyrchu ein hunain.

    “Mae’r ychwanegiad diweddaraf hwn at ein portffolio yn cyd-fynd yn dda ag ethos yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud, gan greu swyddi drwy gydol y flwyddyn yn hytrach na rhai tymhorol.”

    Mae twristiaeth gynaliadwy yn egwyddor arweiniol ym Mhortmeirion lle mae 190 aelod o staff bellach yn cael eu cyflogi drwy’r flwyddyn. Mae digwyddiadau ar raddfa fawr

    wedi helpu i sefydlu’r atyniad fel un o brif gyflogwyr yr ardal ac mae’r cyfleusterau newydd yn sicr o atgyfnerthu’r llwyddiant hwn. Mae’r daith flasu hufen iâ drylwyr a wnaethom i’r Eidal wedi talu ar ei chanfed!

    www.portmeirion-village.com

    www.gwyneddbusnes. net 01

    Caffi’r Angel (Ch i Dd) Iwan Parry, Connor Evans, Laura Seabright, Michael Kennedy

    Ian Tansley, Peter Saunders OBE, Keith Bartlett

    RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDDRhifyn 11, Haf 2014

    Hwb Ariannol Bill Gates i Gwmni LleolMae The Sure Chill Company, y busnes technoleg oergelloedd o Dywyn, yn dathlu llwyddiant ariannol sylweddol, ar ôl derbyn $1.4m (£800,000) gan Sefydliad Bill a Melinda Gates. Bydd y cymhorthdal hwn yn caniatáu i’r Sure

    Chill Company ddatblygu ei system chwyldroadol sy’n oeri brechlynnau ac sy’n cael ei defnyddio mewn gwledydd sy’n datblygu, yn y frwydr i ddileu afiechydon y gellir eu hatal ledled y byd. Bellach bwriad y cwmni yw datblygu’r cam ‘prawf o gysyniad’ ymhellach i gynnal treialon maes yn Affrica dros y 15 mis nesaf.

    Bydd darllenwyr cyson Cylchlythyr RhBG yn cofio bod y Sefydliad, wedi cydnabod potensial gwaith arloesol The Sure Chill Company y llynedd gyda chymhorthdal o fwy na $100,000 (£67,000). Mae’r buddsoddiad newydd wedi cael ei groesawu gan y Cadeirydd, Peter Saunders OBE, sy’n entrepreneur ac yn ‘angel busnes’ sydd wedi buddsoddi £2m o’i arian ei hun yn y fenter.

    Syniad gwreiddiol Ian Tansley, y Prif Swyddog Technegol yw technoleg Sure Chill, ac mae’n cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’r cynllun yn harneisio priodweddau arbennig dŵr i gynnal tymheredd oer cyson. Mae hyn yn caniatáu i frechlynnau gael eu storio yn ddiogel mewn oergell gludadwy sy’n gallu gweithredu heb drydan am 35 diwrnod. Mae’r cwmni eisoes wedi cyflenwi ei oergelloedd mawr i gadw brechlynnau i fwy na 30 o wledydd, ac yn gynharach eleni cafodd 200 eu cludo ar longau i Ynysoedd y Philipinau i gynorthwyo ymateb UNICEF i Deiffŵn Enfawr Haiyan.

    “Bydd yr arian yn caniatáu inni integreiddio’r dechnoleg i oergell brechlynnau, y gellir ei defnyddio yn y rhan fwyaf o fannau anghysbell i gefnogi rhaglenni imiwneiddio,” meddai Keith Bartlett, Prif Weithredwr The Sure Chill Company. “Mae gan y system oeri gadarn, bragmatig a hawdd-ei-defnyddio hon y potensial i achub bywydau niferoedd dirifedi o blant ledled y byd.”

    Er mwyn ategu ei lwyddiant yn y sector meddygol mae The Sure Chill Company yn awyddus i ehangu i farchnadoedd eraill. Dangoswyd diddordeb sylweddol gan sectorau bwyd a diod a’r sector domestig. Mae’r dechnoleg arloesol, gyda’i gallu dihafal i oeri ac sy’n gweithio heb gyflenwad trydan di-dor, yn brif bwynt gwerthu.www.surechill.com

    http://www.portmeirion-village.comhttp://www.surechill.com/

  • www.gwyneddbusnes. net02

    Daeth aelodau cymuned fusnes Gwynedd ynghyd ar ddydd Iau 22 Mai i anrhydeddu’r disgleiriaf a’r gorau yn eu plith. Mewn Cinio Gala arbennig sy’n uchafbwynt Wythnos Busnes Gwynedd 2014, cafodd Sean Taylor ei enwi yn Berson Busnes y Flwyddyn yng Ngwynedd. Perchennog TreeTop Adventure yw Sean, a’i brosiectau diweddaraf yw atyniadau Zip World ym Methesda a Blaenau Ffestiniog.

    Mae’r Zip World Velocity gwreiddiol, a agorwyd yn 2013, wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol, a rhagwelir y bydd y fenter Zip World Titan newydd ym Mlaenau Ffestiniog yn rhoi hwb i’r economi leol o ran swyddi ac incwm twristaidd. Daw Sean yn wreiddiol o Drefriw, ac ar ôl gwasanaethu am 22 mlynedd gyda’r Morlu Brenhinol dychwelodd i’w ardal enedigol i agor Tree Top yn 2007, sef busnes cwrs rhaffau antur llwyddiannus ym Metws-y-Coed.

    Y Cinio Gala yw uchafbwynt Wythnos Busnes Gwynedd, sydd bellach yn dathlu ei nawfed flwyddyn o fodolaeth lwyddiannus. Mae’n ddathliad o fenter ranbarthol ac ar yr un pryd yn gyfle i’r gymuned fusnes rwydweithio a rhannu syniadau. Cynhelir digwyddiadau arbennig ledled y sir mewn lleoedd fel Dolgellau, Bangor, Caernarfon a Phwllheli. Eleni cynhaliwyd y Brecwast Busnes Lansio yng Nghanolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor, lle bu Ieuan Wyn Jones, y prif siaradwr, yn trafod datblygiad Parc Gwyddoniaeth Menai.

    Drwy gydol yr wythnos cynhaliwyd gweithdai ar bynciau mor amrywiol â thwf, gwasanaethau cychwyn busnes, tendro, rheoli amgylcheddol a marchnata digidol, ynghyd â chymorth busnes a digwyddiadau rhwydweithio.

    Cynhelir y Cinio Gala yng Nghanolfan Rheolaeth yr Ysgol Fusnes. Mae gwobr Person Busnes y Flwyddyn, a gyflwynir gan Rwydwaith Busnes Gwynedd, yn dathlu llwyddiannau sylweddol yr enillydd, ac yn cadarnhau ei gyfraniad unigryw i sector busnes y sir. Cyflwynwyd y wobr gan Gwyn Jones, Aelod o Fwrdd RhBG.

    Cafodd Dafydd Lake o Lake Digital, Porthmadog, newyddion da hefyd pan dderbyniodd wobr yr Entrepreneur Ifanc gan gangen Gwynedd o Ffederasiwn Busnesau Bychain. Mae’r wobr hon yn cael ei dyfarnu i berson busnes ifanc sydd wedi sefydlu busnes llwyddiannus yn ystod y flwyddyn ac sydd wedi gwneud cyfraniad positif i economi Gwynedd.

    Y siaradwr gwadd yn y Cinio oedd y Gwir Anrhydeddus yr Arglwydd Wigley, a draddododd y brif araith ar yr economi, gan rannu ei brofiadau o weithio yn y sector preifat a chyda’r Llywodraeth. Cyflwynodd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd, wobrau i Delsol, o Gaernarfon ac i Megni, ym Mharc Menai, i gydnabod eu cyfraniad i’r economi leol. Meddai:

    “Mae Wythnos Busnes Gwynedd a’r Gwobrau hyn yn llwyfan rhagorol ar gyfer dathlu busnesau gorau’r sir. Mae’r digwyddiad yn bodoli ers naw mlynedd bellach ac wedi dod yn uchafbwynt y calendr busnes, ac eto eleni mae wedi cynnig cyfle ardderchog i fusnesau ddod at ei gilydd i drafod materion busnes yn ogystal â chael cymorth ymarferol ar sut i lwyddo yn ystod yr amseroedd heriol hyn.”

    Manteisiodd Prifysgol Bangor hefyd ar y cyfle yn ystod y Cinio i lansio gwe-dudalen newydd sbon ar gyfer cwmnïau, gan gynnig gwybodaeth ar amrediad eang o gyfleoedd busnes a gynigir gan Brifysgol Bangor: www.bangor.ac.uk/workingwithbusiness www.gwyneddbusnes.net

    Uchafwynt Gwobrau Wythnos Busnes

    Sean Taylor a Gwyn Jones

    Mae gwaith comisiwn i drawsysgrifio dogfen bwysig o’r ddeunawfed ganrif wedi cael ei gwblhau gan Sue Proof, y cwmni prawf ddarllen a golygu o Benrhyndeudraeth. Bydd ail gyfrol o ddyddiaduron William Bulkeley, y tirfeddiannwr o Ynys Môn, yn mynd yn “fyw” ar wefan Prifysgol Bangor fis Gorffennaf nesaf, gan lunio adnodd y gall haneswyr ei archwilio.

    Mae Susan Walton, perchennog Sue Proof, wedi treulio mwy na 700 awr yn trawsysgrifio oddeutu 400,000 o eiriau o’r dyddiaduron hyn a ysgrifennwyd â llaw. Cymerodd y prosiect, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Edward Llwyd, fwy na dwy flynedd i’w gwblhau.

    Mae’r dyddiaduron yn rhychwantu cyfnod o tua deng mlynedd ar hugain, ac yn cynnwys popeth o fanylion am y tywydd i’r ffaith bod merch Bulkeley wedi priodi môr-leidr! Mae cyfres o ddigwyddiadau dilynol i gyd-fynd â lansiad ar-lein yn cael eu cynllunio, gan gynnwys Diwrnod Agored a drama a gomisiynwyd yn arbennig. www.sueproof.co.uk

    Prawf o Lwyddiant

    http://www.bangor.ac.uk/workingwithbusiness/http://www.gwyneddbusnes.net/http://www.sueproof.co.uk/

  • www.gwyneddbusnes. net 03

    Adnewyddu Enw Brand Cymreig CyfarwyddMae siop weithgareddau awyr agored newydd agor ei drysau ym Mhorthmadog gan greu 17 o swyddi newydd a diogelu naw o rai eraill. Mae Gelert.com, sy’n rhoi bywyd newydd i’r nod masnach enwog Gelert, yn siop 21,000 troedfedd sgwâr, sy’n elwaar fuddsoddiad sylweddol i’r cwmni. Agorwyd siop newydd ym Mangor, gan roi gwaith i rai o’r staff o’r siop oedd wedi cau yng Nghaernarfon, ac mae agor y gangen ym Mhorthmadog yn cwblhau dychweliad llwyddiannus un o brif frandiau Eryri. Mae Gelert.com ar safle stad ddiwydiannol Penamser lle cychwynnodd Gelert ei fusnes cyfanwerthu gyntaf un yn y dref.

    Roedd y cwmni, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1975 fel siop fechan ym Meddgelert, yn siop-un-safle i rai sy’n hoffi gwersylla a’r awyr agored. Datblygodd brand Gelert i fod yn hynod o boblogaidd, gan fasnachu yn Ewrop ac Asia yn ogystal â’r DU. Ar ôl cael ei ehangu yn gyflym, yn y diwedd roedd ganddo bump o siopau, ac roedd yn cael ei werthu mewn siopau blaenllaw, ac yn cyflogi tua 100 aelod o staff.

    Pylodd yr enwogrwydd pan aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Mehefin 2013, a chaeodd y siopau ar ôl i’w prydlesi ddod i ben. Dyma pryd y camodd Sports Direct International Group, un o brif adwerthwyr chwaraeon y DU, i’r bwlch, i brynu elfennau cyfanwerthu ac adwerthu’r busnes.

    Agorwyd Gelert.com yn swyddogol yn ystod penwythnos y Pasg a Dafydd Elis Thomas fu’n gyfrifol am dorri’r rhuban. Yn ôl y sôn, mae’r masnachu cyntaf wedi bod yn galonogol iawn ac ni allai Maggie Hughes, Rheolwr y Siop fod yn fwy hapus:

    “Mae’n rhagorol bod yn ôl mewn busnes ar safle Penamser. Rydym yn gweld llawer o’n hen gwsmeriaid ffyddlon yn dod yn ôl ar gyfer y tymor newydd ar ôl clywed ein bod yma yn ein safle newydd ardderchog.

    “Daeth llawer o bobl i’n agoriad mawreddog – roedd Diwrnodau Hwyl arbennig i Deuluoedd ar y dydd Sadwrn a’r dydd Llun a llwyddwyd i godi £640.00 o roddion i dîm Achub Mynydd Aberglaslyn. Roedd popeth mor llwyddiannus fel ein bod yn cynllunio mwy o ddigwyddiadau ar gyfer Aberglaslyn i’r dyfodol!”

    Dan nawdd Yeomans, is-gwmni Sports Direct, mae’r hen warws segur ym Mhorthmadog wedi dod yn fusnes blaenllaw ac mae’r staff yn teimlo’n optimistaidd ynghylch y dyfodol.

    www.gelert.com

    Tîm Gelert adeg eu Lansiad Pasg (Dafydd Elis Thomas – 3ydd o’r dde, Maggie Hughes – 4edd o’r dde

    http://www.gelert.com/

  • www.gwyneddbusnes. net04

    Arian Ewropeaidd yn rhoi Hwb i BrifysgolMae cynlluniau uchelgeisiol Prifysgol Bangor newydd gael hwb anferth ar ffurf cymorth o £45 miliwn gan Fanc Buddsoddi Ewrop. Mae’r cyllid cyfatebol hwn yn mynd tuag at uwchraddio cyfleusterau dysgu ac ymchwil, ynghyd ag ehangu ac ailddatblygu adeiladau’r Brifysgol.

    Yn gynwysedig yn y prosiectau a ariennir, mae’r adeilad Pontio y bwriedir ei agor ym mis Medi, a Chanolfan Forol Cymru ym Mhorthaethwy. At hyn, rhan o’r rhaglen yw uwchraddio neuaddau preswyl, gwella adnoddau chwaraeon, ac adnewyddu prif adeilad hanesyddol y Brifysgol. Y mae hefyd gynlluniau i

    fuddsoddi mwy yn adnoddau’r gwyddorau ar hyd Ffordd Ddeiniol a Stryd y Deon yn ogystal â gwelliannau ar Safle’r Normal.

    Meddai’r Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor:

    “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol a fydd yn caniatáu inni ddatblygu’r profiad o’r radd flaenaf yr ydym yn ei ddarparu i’n myfyrwyr. Bydd uwchraddio cyfleusterau addysgu, ymchwil a lletyaeth ym Mhrifysgol Bangor yn sicrhau y bydd cenedlaethau i ddod o fyfyrwyr yn elwa ar gyfleusterau academaidd rhagorol a phrofiad o safon fyd eang fel myfyrwyr”

    Yn ychwanegol at gefnogaeth gan Fanc Buddsoddi Ewrop, bydd rhaglen fuddsoddi’r Brifysgol yn cael ei chynnal gan ei hadnoddau ei hun, cyllid o Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Llywodraeth Cymru a ffynonellau eraill.

    Y gobaith yw y bydd menter y Brifysgol yn cryfhau cysylltiadau busnes o fewn ardal Gwynedd. Agwedd bwysig o’r prosiect fydd sicrhau bod rhaglenni academaidd yn adlewyrchu gofynion marchnad lafur Gwynedd yn well. Bydd hyn yn fanteisiol i gyflogwyr a myfyrwyr fel ei gilydd, ac yn rhoi’r sgiliau sydd fwyaf eu hangen o fewn y gymuned fusnes i raddedigion.

    tinyurl.com/University-Funding

    Adrenalin yn Tanio Ffyniant TwristaiddBydd rhai sy’n chwilio am ias a chyffro yn cael eu denu i atyniad newydd cyffrous sy’n agor yng Ngheudyllau Llechwedd yr haf yma. Mae Zip World Titan wedi ei gynllunio ar ffurf wyth cilomedr o wifren wib y gall timau o bedwar deithio ar ei hyd ar gyflymder o hyd at 70mya. Mae lansiad Titan yn dod yn union ar ôl Zip World Velocity, a agorodd yn Chwarel y Penrhyn y llynedd ac sydd eisoes wedi croesawu 21,000 o ymwelwyr. Gyda’i gilydd, mae’r atyniadau hyn yn tanlinellu statws Gwynedd fel cyrchfan antur hollbwysig.

    Mae’r datblygiad newydd yn sicr o greu mwy na 30 o swyddi parhaol a rhai dros dro yn yr ardal. Hefyd, bydd Ceudyllau Llechwedd yn lansio profiad “Deep Mine” tanddaearol newydd i gyd-fynd â lansiad y wifren wib.

    Meddai Michael Bewick, rheolwr gyfarwyddwr Llechwedd: “Lansiwyd Ceudyllau Llechi Llechwedd fwy na 40 mlynedd yn ôl ac mae’n un o’r atyniadau mwyaf poblogaidd yng Ngogledd Cymru, felly rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu ychwanegu Zip World Titan at yr hyn yr ydym yn gallu ei gynnig.”

    Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod y sector gweithgareddau awyr agored yn cyfrannu £481 miliwn i’r economi. Mae Gwynedd yn flaenllaw o safbwynt twf datblygiadau antur y wlad, sydd, yn ôl yr amcangyfrif, yn darparu swyddi i 8,000 o bobl ledled Cymru. Bellach mae arlwy’r sir yn cynnwys beicio mynydd, chwaraeon dŵr gwyn a dringo creigiau, yn ogystal â’r wifren wib hwyaf a chyflymaf yn hemisffer y Gogledd.

    www.zipworld.co.uk/titan

    http://tinyurl.com/University-Funding%0Dhttp://www.zipworld.co.uk/titan/

  • www.gwyneddbusnes. net 05

    Yr Enwebiad Gorau i Adwerthwr MoesegolMae Babi Pur, adwerthwr nwyddau ar gyfer babanod a phlant bach, wedi cyrraedd y rhestr fer i gael Gwobr Foesegol yr Observer. Mae’r enwebiad ar gyfer yr adwerthwr moesegol gorau, a ddyfernir yn flynyddol gan y papur Sul cenedlaethol, yn cael ei roi i gwmnïau sy’n hyrwyddo cadwyni cyflenwi moesegol neu sy’n creu profiadau siopa gwyrdd arloesol.

    Mae Jolene a Peter Barton, perchnogion Babi Pur, yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn stocio brandiau sy’n apelio yn gyffredinol ond sydd ar yr un pryd yn cyrraedd safonau moesegol uchel. Maent yn honni fod yn rhaid i foeseg gael blaenoriaeth ar elw. Maent yn ailddefnyddio blychau a deunydd pecynnu ac yn stocio teganau, dillad a chewynnau golchadwy sydd wedi eu gwneud o ddefnyddiau naturiol yn unig sy’n cyrraedd safonau masnach deg.

    Sefydlwyd y cwmni o Benrhyndeudraeth yn 2007 pan ddaeth Peter a Jolene yn ôl i Ogledd Cymru ar ôl genedigaeth eu merch gyntaf. Diben Babi Pur oedd llenwi’r bwlch yn y farchnad ar gyfer dillad ac ategolion babanod o ansawdd uchel a moesegol dderbyniol. Mae ystyriaethau megis masnachu a chyflogau teg, dileu llafur plant a ffynonellu cynhyrchion a chrefftau lleol i gyd yn greiddiol i ethos y cwmni. Meddai Peter:

    “Rydym yn credu fod gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid, darparu nwyddau yn gyflym, cyfathrebu da a chynghori doeth i gyd yn rhan o redeg busnes moesegol. Er na allwn brin gredu ein bod wedi cael ein henwebu ar gyfer y wobr hon, rydym yn teimlo y gallwn wneud newid gwirioneddol drwy’r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud bob dydd.”

    Cafodd Babi Pur ei roi ar y rhestr fer gyda phedwar busnes arall. Eleni bydd dewis y cyhoedd yn ymuno â rhestr nodedig o gyn-enillwyr, gan gynnwys Hugh Fearnley-Whittingstall, Malala Yousafzai a Joanna Lumley.

    www.babipur.co.uk

    Cyfleuster Ailgylchu Masnachol Newydd

    Mae cyfleuster ailgylchu bwyd gwastraff arloesol bellach yn weithredol yng Nghlynnog Fawr. Agorwyd adeilad Prosiect GwyriAD, a godwyd gan Biogen, gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones. Mae’r gwaith gwerth £6 miliwn yn defnyddio technoleg treulio anaerobig i ddadelfennu 11,000 tunnell fetrig o wastraff bwyd bob blwyddyn. Bydd hyn yn cynhyrchu 3,500 megawatt awr o drydan adnewyddadwy ar gyfer y Grid Cenedlaethol. Byddai’r ynni gwyrdd a gynhyrchid gan y Prosiect GwyriAD yn ddigon i bweru pob cartref ym Mhenygroes yn ddi-dor am flwyddyn. Bydd y broses, nid yn unig yn osgoi tirlenwi ac yn helpu Gwynedd i gwrdd â’i thargedau ailgylchu cytunedig, ond hefyd yn cynhyrchu biowrtaith i’w ddefnyddio ar diroedd ffermydd lleol.

    Meddai Gareth Roberts, aelod cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer yr amgylchedd: “Rydym yn falch iawn fod gwaith GwyriAD bellach yn gweithredu’n llawn - dyma’r cyfleuster cyntaf o’i fath i’w weithredu gan Gyngor yng Nghymru ac mae’n tanlinellu ymrwymiad Gwynedd i ddarganfod ffyrdd newydd gwyrdd o ddelio â gwastraff bwyd y sir”

    www.biogen.co.uk/bw-gwyriad.asp?lang=english

    Safon Aur i Asiantaeth RecriwtioMae Letterbox Recruiting newydd gipio gwobr aur chwenychedig Buddsoddwyr mewn Pobl, a hynny am yr eilwaith. Meincnod safon y DU yw Buddsoddwyr mewn Pobl ym maes rheoli pobl a gwella busnes. Dim ond i sefydliadau sydd wedi arddangos rhagoriaeth ym maes datblygu a chefnogi eu staff y dyfernir y wobr aur. Cafodd Letterbox, sy’n gweithio ledled Gogledd Cymru, eu cydnabod fel cyflawnwyr uchaf yn 2011 ac maent yn hynod o falch fod eu hymdrechion wedi talu a’u bod wedi ennill y clod ychwanegol hwn.

    www.letterboxrecruiting.co.uk

    Enillwch Lond Basged o Ddanteithion!Mae cyfle i aelodau RhBG ennill gwobr ardderchog yr haf hwn. Y cwbl sydd angen ei wneud yw mynd i weld yr amrywiaeth o grefftau sydd ar gael yng Nghanolfan Grefftau Corris.Cynhelir Helfa Drysor a bydd deg cliw i’r ymwelwyr eu datrys wrth iddynt grwydro o amgylch y safle. Basged foethus yw’r wobr sy’n cynnwys gwerth £250 o nwyddau a danteithion. Yn eu mysg ceir eitemau crefft a wnaed â llaw ynghyd â detholiad blasus o fwyd a diod a wnaed yn lleol, neu daleb anrheg os hynny yw eich dewis. Bydd yr holl atebion cywir yn cael eu tynnu o het ar ddiwedd y tymor.

    www.corriscraftcentre.co.uk

    http://www.babipur.co.ukhttp://www.biogen.co.uk/bw-gwyriad.asp%3Flang%3Denglishhttp://www.letterboxrecruiting.co.uk/http://www.corriscraftcentre.co.uk/

  • Yn GrynoCanmoliaeth i Gwmni Cyfryngau o Gaernarfon

    Yn ddiweddar derbyniodd cwmni Rondo Media o Gaernarfon ganmoliaeth frwd gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mewn llythyr oedd yn llongyfarch Robin Evans, Cadeirydd Rondo, cymeradwyodd Ms Hart y cwmni ar gael eu cydnabod gan gylchgrawn Broadcast fel un o brif fusnesau cynhyrchu annibynnol y cyfryngau yn y DU.

    Pwysleisiodd Ms Hart eu cyfraniad gwerthfawr i’r economi leol, yn arbennig eu gwaith gyda chwmnïau creadigol llai. Yn ddiweddar cyrhaeddodd Rondo garreg filltir o ran darlledu pan ymddangosodd 1000fed rifyn y rhaglen wobrwyedig Rownd a Rownd, ac mae gan y cwmni lwyddiannau eraill hefyd megis y ddrama gomedi feddygol The Indian Doctor, gyda Sanjeev Bhaskar.

    rondomedia.co.uk

    Amserlen Cyrsiau sydd Newydd gael eu Cyhoeddi

    Mae Elevate Cymru yn y Gogledd wedi cyhoeddi eu hamserlen newydd o gyrsiau o fis Mai hyd at fis Medi. Mae’r rhwydwaith ddysgu seiliedig ar waith yn cynnig cyrsiau arweinyddiaeth a rheoli sy’n cael eu hariannu yn llawn mewn amryw o safleoedd. Mae adborth yn awgrymu ei bod ar brydiau yn anodd

    i Fentrau Bychain a Chanolig lleol roi’r amser a’r ymrwymiad ariannol sydd eu hangen i ryddhau aelodau o staff am gyfnodau o hyf-forddiant estynedig. Er mwyn ymateb i hyn, a chan ddymuno manteisio i’r eithaf ar fuddion ymarferol y gweithle, bydd cyrsiau tridiau dwys yn cael eu cynnal yng Ngoleg Llandrillo, sef: Rheoli Digwyddiadau, Rheoli Prosiectau a Sgiliau Cyfathrebu Busnes. Gellir cael manylion llawn yr holl gyrsiau yn: elevate.bangor.ac.uk/courses.php.en

    Tlysau Hardd Gwobrau Dewi Sant

    Gwaith Llechi Inigo Jones oedd wedi darparu’r llechi ar gyfer tlysau Gwobrau Dewi Sant 2014. Mae’r gwobrau yn dathlu ac yn cydnabod llwyddiannau rhyfeddol pobl Cymru. Ymhlith yr enillwyr o Ogledd Cymru roedd Bryn Terfel a Jade Jones, a chyflwynwyd ytlysau iddynt gan y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

    www.inigojones.co.uk

    CYFLEOEDD ARIANNULlywodraeth Cymru yn Lansio Cronfa Gyfalaf Newydd

    Mae cronfa newydd gwerth £20 miliwn yn awr ar gael i fusnesau yng Ngwynedd. Mae hon wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cael ei rheoli gan Gyllid Cymru, eu cangen fuddsoddi.

    Yn ddiweddar lansiwyd Cronfa Gyfalaf Twf Cymru gan Edwina Hart, Gweinidog yr Economi wedi ei bwriadu ar gyfer Mentrau Bychain a Chanolig sy’n dymuno sicrhau benthyciadau rhwng £50,000 a hyd at £2 filiwn, am gyfnodau o hyd at ddeunaw mis. Rhoddir cymorth i’r cwmnïau sydd angen opsiynau ariannu tymor byr, a gellir defnyddio’r benthyciadau, a geir ar gyfer prynu stoc, cyllid prosiect, neu i ddiogelu blaendaliadau, bondiau perfformiad a gwarant. Rhagwelir y gallai’r gronfa helpu hyd at 90 o fentrau bychain a chanolig, gan greu a diogelu oddeutu 1000 o swyddi dros gyfnod o bum mlynedd.www.financewales.co.uk

    HSBC yn Cynorthwyo Twf Busnes

    Gallai busnesau yng Nghymru fanteisio ar y cyhoeddiad yn ddiweddar gan HSBC ei fod wedi clustnodi £400m ar gyfer mentrau bychain a chanolig. Bydd y buddsoddiad hwn yn dod o’i gronfa arian gwerth £6bn ar gyfer mentrau o’r fath yn y DU sy’n agored i fusnesau newydd a rhai sy’n bodoli eisoes a chanddynt drosiant o ddim mwy na £30m. Gall cwmnïau Gwynedd sydd â mentrau sy’n elwa o’r cynllun.

    Nod y cynllun yw helpu cwmnïau uchelgeisiol yn eu hymdrechion i gyfalafu ar adferiad economaidd cyffredinol y DU drwy fuddsoddi mewn twf.

    www.hsbc.com/about-hsbc/structure-and-network/commercial-banking

    Canolfan Gynghori Ar-lein Newydd

    Mae Business Finance Zone yn ganolfan gynghori ar-lein newydd a sefydlwyd gan Busnes Cymru i arwain cwmnïau tuag at y cymorth ariannol gorau. Gan ddefnyddio cronfa ddata (Finance Locator) o fwy na 1,000 cynllun, gall gwe-ddefnyddwyr astudio amrediad o gynigion, yn cynnwys rhai sydd ar gael gan lywodraethau, banciau, cyfalafwyr menter ac ariannu rhwng cydweithwyr.

    I ddarganfod mwy ffoniwch: 03000 603 000

    neu ewch i: www.business.wales.gov.uk/zones/business-finance

    Unrhyw Sylwadau

    Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen hwn, sef Cylchlythyr diweddaraf Rhwydwaith Busnes Gwynedd. Byddem yn gwir werthfawrogi cael unrhyw ymateb gennych. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu syniadau ar ffyrdd y gallwn ei wella, cofiwch adael inni wybod.

    E-bostiwch y Golygydd Jacquie Knowles ar: [email protected]

    I ymuno (mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM) neu i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith ewch i:www.gwyneddbusnes.net

    www.gwyneddbusnes. net 06

    © 2014 Rhwydwaith Busnes GwyneddYsgrifennwyd a golygwyd gan : Jacquie Knowles

    Dylunwyd gan:Sylwer na ellir dal y cyhoeddwyr yn gyfrifol

    am unrhyw wallau neu hepgorau yn y testun.

    http://rondomedia.co.uk/cy/cyflwyniad.htmhttp://elevate.bangor.ac.uk/courses.php.enhttp://www.inigojones.co.uk/http://www.financewales.co.uk/www.hsbc.com/about-hsbc/structure-and-network/commercial-bankinghttp://business.wales.gov.uk/zones/business-financehttp://www.gwyneddbusnes.net