Upload
others
View
0
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Stena Line, Caergybi
Zip World
Eryri
Surf Snowdonia
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen
Pontio
Gorsaf B er Trawsfynydd
Orthios
Ysbyty Gwynedd, Bangor
Ysbyty Maelor, Wrecsam
Maes Awyr Llanbedr
CARCHAR
Golwg ar
Ogledd Cymru
Cynnwys
Mae llawer iawn yn digwydd yng Ngogledd Cymru
Y diwydiannau mwyaf yn y Gogledd
Diwydiannau sy’n tyfu yn y Gogledd
Datblygiadau newydd; swyddi newydd yng Ngogledd Cymru
Cyfarfod â’r cyflogwyr
Beth alla’ i ei ennill?
Dysgu a Hyfforddiant yng Ngogledd Cymru
Beth am y dyfodol?
Mae llawer iawn yn digwydd yng Ngogledd CymruO Gaergybi ym mhen pellaf y gogledd-orllewin i Wrecsam yn y dwyrain, mae gogledd Cymru’n cynnwys chwe awdurdod unedol; Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r gogledd yn gartref i 700,000 o bobl, ac mae bron draean o’r rheini’n siarad Cymraeg.Mae gan y rhanbarth economi amrywiol iawn gyda gwahaniaethau penodol rhwng y dwyrain a’r gorllewin. Mae Gogledd Cymru yn gartref i ystod o fynyddoedd enwog a’r mynydd uchaf sef Yr Wyddfa. Gyda rhai o’r golygfeydd harddaf yng Nghymru, nid yw’n syndod bod Twristiaeth yn un o’r diwydiannau pwysicaf ar draws y rhanbarth. Tra yn y dwyrain, mae gan Sir y Fflint ddiwydiannau Gweithgynhyrchu Awyrofod a Gwyddor Bywyd sy’n ffynnu.
Erbyn 2017bydd Carchar Ei
Mawrhydi Berwyn, y carchar newydd yn y
gogledd yn creu 1,000 o swyddi
(Cyngor Sir Wrecsam, 2016)
Bydd angen dros
5,000 o bobl i weithio yn y maes
Gweithgynhyrchu yn y
gogledd erbyn 2022(BUEGC, 2016)
Mae’n bosibl y bydd modd creu
3,000 o swyddi ym maes twristaeth
yn y 5-10 mlynedd nesaf
(BUEGC, 2016)
Mae Airbusgweithgynhyrchu
awyrofod,
yn cyflogi 6,000 o bobl yn Sir y Fflint
Bydd Orthios Biomass
yn creu 1,200o swyddi adeiladu a
500 o swyddi parhaol
erbyn 2018(Orthios Eco Park, 2016)
Golwg ar Ogledd Cymru gyrfacymru.com
Mae bron i 700,000 o bobl yn byw yng Ngogledd Cymru sef 22% o gyfanswm poblogaeth Cymru
Yn y gogledd y mae 23% o holl swyddi Cymru (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru,2016)
Y diwydiannau mwyaf yn y gogledd
Nifer o bobl a gyflogir (ffigwr wedi’i dalgrynnu)
* (Y Gyfraith, Cyfrifeg, Pensaernïaeth, Rheoli Eiddo a Thechnegol)
Ffynhonnell: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2016
Mae bron i 1 o bob 3 o swyddi naill ai mewn Manwerthu a gwerthu neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan wneud y ddau yn gyflogwyr mwyaf Gogledd Cymru.
Ymhle mae’r rhan fwyaf o’r swyddi yn y gogledd?
Manwerthu a Gwerthu
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gweithgynhyrchu
Addysg
Adeiladu
Lletygarwch a Bwyd
48,000
46,000
37,000
31,000
26,000
22,000
21,000
20,000
16,000
14,000
13,000
7,000
6,300
6,000
Yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân a’r Cyngor
Cyllid, Yswiriant a Gweinyddu
Proffesiynol a Gwyddonol*
Y Celfyddydau Creadigol,
Adloniant a Chwaraeon
Cludiant a Storio
Cyflenwi Ynni a Dŵr
Amaethyddiaeth
TG
Diwydiannau sy’n tyfu yn y GogleddMae rhai diwydiannau’n arbennig o bwysig i ddyfodol y gogledd oherwydd eu bod yn tyfu ac oherwydd y gallant ddod â rhagor o swyddi a chyfleoedd i’r economi:
YNNI A’R AMGYLCHEDD UWCH DDEUNYDDIAU A GWEITHGYNHYRCHU Beth am weithio mewn maes sy’n cynhyrchu
ynni i Gymru? Neu beth am feddwl am swydd sy’n diogelu ein hamgylchedd?
Mae mwy na 33,000 yn gweithio yn y diwydiant hwn yn y gogledd ac mae’r nifer fwyaf o swyddi yn y maes i’w gweld yng ngogledd-orllewin y rhanbarth. (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2016)
Dyma rai o’r swyddi y gallech eu hystyried: Peiriannydd Mecanyddol, Gweithiwr Ailgylchu, Biolegydd, Technegydd Tyrbinau, Gosodwr Waliau Ceudod a Amgylcheddwr.
A allwch weld eich hun yn dylunio neu’n adeiladu awyrennau, neu’n gweithio ar gynhyrchion uwch-dechnoleg ar gyfer pob math o ddefnydd.
Mae 27,000 yn gweithio yn y diwydiant hwn a’r nifer fwyaf o’r swyddi yn y maes i’w gweld yn nwyrain y rhanbarth. (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2016)
Gallech ystyried swyddi fel: Technegydd Peirianneg Awyrofod, Technegydd Labordai, Gwyddonydd, Peiriannydd Dylunio a Weldiwr.
ADEILADU TWRISTIAETH Gweithiwch yn y diwydiant adeiladu a gallech fod yn adeiladu cartrefi newydd ac ysgolion newydd, neu hyd yn oed fod yn rhan o rai o’r datblygiadau pwysig sydd wedi’u cynllunio ar gyfer Gogledd Cymru.
Bydd galw bob amser am weithwyr adeiladu ar gyfer datblygiadau newydd yn y rhanbarth. Mae mwy na 25,000 yn gweithio yn y diwydiant hwn.
Bydd galw yn y dyfodol am y canlynol: Gosodwyr Brics, Peirianwyr Sifil, Syrfewyr a Seiri Coed a Dodrefn. (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2016)
Mae’r gogledd yn denu traean yr holl bobl sy’n ymweld â Chymru ac mae’n dod ag £1.8 biliwn i economi’r rhanbarth.
Mae mwy na 37,000 yn gweithio yn y diwydiant hwn ac mae swyddi yn y maes ar gael ledled y rhanbarth. (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2016)
Yn y gogledd, bydd angen: Hyfforddwyr Gweithgareddau Awyr Agored, Cogyddion, Cynorthwywyr Hamdden, Cynorthwywyr Cegin a Rheolwyr Gwesty.
Y DIWYDIANNAU CREADIGOL BWYD A FFERMIOMae’r diwydiannau Creadigol megis rhai yn y cyfryngau, celf a dylunio yn arbennig o gryf yn y gogledd a disgwylir iddynt dyfu yn ystod y pum mlynedd nesaf mewn pocedi ar draws y rhanbarth. (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2016)
Mae mwy na 12,000 yn gweithio yn y diwydiant hwn ac mae’r swyddi yn y maes i’w gweld ar draws y rhanbarth. (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2016)
Yn y diwydiant cystadleuol hwn lle mae pethau’n symud yn gyflym, gallech gael swydd yn gweithio ar set yn y diwydiant teledu neu ffilm, yn datblygu apiau, yn curadu mewn amgueddfa, yn dylunio’r ffasiynau diweddaraf, yn perfformio ar lwyfan neu efallai’n creu eich gweithiau celf eich hun.
Gallech ystyried swyddi fel: Swyddog Marchnata, Dylunydd Graffig, Rhaglennwr a Datblygwr Meddalwedd, Peiriannydd Darlledu, a Newyddiadurwr.
Mae Ffermio a chynhyrchu bwyd yn hollbwysig i economi’r gogledd.
Mae bron 16,000 yn gweithio yn y diwydiant hwn a’r nifer fwyaf o swyddi yn y maes i’w gweld yn Sir y Fflint, Wrecsam a Gwynedd. (Llywodraeth Cymru, 2015)
Nid caeau glas, boreau cynnar neu linellau cynhyrchu yw’r stori i gyd. Gallech fod yn dylunio awyrennau bach dibeilot i gyfrifo faint o wrtaith sydd ei angen, neu’n datblygu cynnyrch bwyd newydd, yn rheoli gyrr o wartheg llaeth neu’n peiriannu offer robotig newydd i’w bwydo. Gallech ystyried swyddi fel: Peiriannydd Amaethyddol, Rheolwr Fferm, Gwyddonydd Ymchwil Amaethyddol , Ecolegydd, Biodechnolegydd, Technegydd Bwyd, and Paciwr.
Golwg ar Ogledd Cymru gyrfacymru.com
IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL MANWERTHU A GWERTHUMae mwy na 46,000 wedi’u cyflogi ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y gogledd sy’n golygu mai dyma’r cyflogwr mwyaf ond un yn y rhanbarth.
Mae 12,000 yn gweithio i ddarparu gofal cymdeithasol drwy’r rhanbarth a bydd angen 500 o swyddi newydd yn y sector Gofal bob blwyddyn yn yr 20 mlynedd nesaf (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2015)
Gallech ystyried swyddi fel: Cynorthwyydd Gofal, Gweithiwr Cymdeithasol, Cynorthwyydd Gofal Cartref, Gweithiwr Cymunedol, Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd, Gweithiwr Adsefydlu.
Manwerthu a Gwerthu sy’n cyflogi’r nifer fwyaf o bobl yn y gogledd, sef 48,000 o bobl. (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2016)
Gallech ystyried swyddi fel: Cynorthwyydd Gwerthu, Rheolwr Siop, Prynwr, Gwerthwr, Gwerthwr dros y Ffôn, Gwerthwr Ceir, Gwerthwr Cyfryngau Hysbysebu.
Datblygiadau newydd; swyddi newydd yng Ngogledd CymruWrth i ddiwydiannau dyfu ac yn sgil datblygiadau newydd ar draws y rhanbarth, bydd swyddi newydd ar gael a mwy o alw am y swyddi sydd ar gael eisoes er enghraifft:
Cyfarfod â’r cyflogwyrDyma rai o’r cyflogwyr yng Ngogledd Cymru:
• Peirianwyr Awyrofod
• Technegwyr Amaethyddol
• Perianwyr Darlledu
• Technegwyr Labordai
• Biolegwyr Môr
• Swyddogion Carchar
• Crefftau Adeiladu Medrus
• Gweithwyr Ailgylchu• Peirianwyr Ynni
Adnewyddadwy
• Syrfewyr• Peirianwyr Tyrbinau Gwynt
Dim ond 4 o bobl ar y mwyaf
sy’n cael eu cyflogi
gan 66% o’r cyflogwyr.
(Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, 2015)
Yn Wrecsam y
mae 17% swyddi gwyddor bywyd yng
Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio
mewn cwmniau fferyllol
(Llywodraeth Cymru,2015)
Canolfan Chwaraeon Dŵr, Conwy.
Zip World, profiad anturus Bethesda, Gwynedd.
Siemens Healthcare Diagnostics, Gwynedd.
Surf Snowdonia, parc antur, Conwy.
D & C Jones Co Ltd,gwasanaethau peirianneg sifil, Gwynedd.
RWW Innogy Fferm Wynt Gwynt y Môr,Conwy/Sir Ddinbych.
Wockhardt UK, cwmni fferyllol, Wrecsam.
Convatec Ltd, cwmni cynhyrchion a thechnoleg meddygol, Sir y Fflint.
Toyota Motor Manufacturing Sir y Fflint.
Airbus Aerospace Manufacturing, Sir y Fflint.
Golwg ar Ogledd Cymru gyrfacymru.com
Beth alla’ i ei ennill?Gall cyflogau amrywio gan ddibynnu ar eich profiad, y cyflogwr a ble rydych chi’n byw. Gellir ennill cyflogau uwch ar gyfer swyddi uwch. Mae cyflogau’n amrywio ar gyfer gweithwyr hunangyflogedig hefyd.
Faint o gyflog ygallwn ei gael yng ngogledd Cymru?
MAE’R CYFARTALEDD CYFLOG YN AMRYWIO O ARDAL I ARDAL YN Y GOGLEDD
CYFLOG CYFARTALOG AR GYFER SWYDDI CYMWYSEDIG
Cyflog Amser Llawn Blynyddol ar Gyfartaledd
Sir Ddinbych £22,134Ynys Môn £23,076Gwynedd £23,700Wrecsam £25,491Sir y Fflint £25,612Conwy £26,160Cymru £24,491 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2013
Cofiwch mai’r cyflog cyfartalog yw hwn; bydd gwahanol swyddi’n talu gwahanol ystod o gyflog.
Meddyg £66,000Rheolwr mewn Prifysgolion a Cholegau £51,000Deintydd £45,000Peiriannydd Awyrennau £42,000Rhaglennydd Cyfrifiadurol £37,000Biolegydd Môr £36,000Technegydd Tyrbinau £35,000Athro/Athrawes Ysgol Gynradd £33,000Nyrs £28,000Cogydd £25,000Rheolwr Siop £24,000Gosodwr Brics £20,000Gweithiwr Fferm £17,000Gofalwr £15,000Cynorthwy-ydd Gwerthu £14,000ASHE, 2015: Cymru
27,000 amcangyfrif o nifer y dysgwyr
Ffynhonnell: Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, 2016
Dysgu a Hyfforddiant yng Ngogledd CymruMae Gogledd Cymru’n lle gwych i ddysgu a hyfforddi. Mae llawer o opsiynau i barhau i ddysgu a hyfforddi fydd yn gweddu i’ch dull dysgu ac i’ch sgiliau a’ch diddordebau.
27,000 amcangyfrif o nifer y dysgwyr
Addysg Bellach
Golwg ar Ogledd Cymru gyrfacymru.com
Hyfforddiant a dysgu’n seiliedig ar waith
Mae gwahanol ffyrdd o hyfforddi wrth weithio a chael eich talu hyd yn oed wrth ichi ddysgu:
Sut y galla’i ddysgu wrth ennill?
Sut y galla’i ddysgu wrth ennill?
Twf Swyddi Cymru Cyfle i gael swydd â chyflog am 6 mis
Hyfforddeiaethau Lefel 1
Prentisiaethau Lefel 2 i Lefel 3
Prentisiaethau Uwch Lefel 4 i Radd Sylfaen ac Anrhydedd
5 SWYDD UCHAF CYNLLUN TWF SWYDDI CYMRU YN Y GOGLEDD
Y PRIF SWYDDI GWAG I BRENTISIAID
Maes Gwaith % o holl Swyddi Twf
Swyddi Cymru
Gwaith Gweinyddu a Swyddfa 20%Arlwyo a Lletygarwch 15%Manwerthu a Gwerthu 10%Marchnata a Hysbysebu 9%Adeiladu ac Adeiladwaith 8%(Gyrfa Cymru, 2014)
Maes Gwaith % o’r holl Brentisiaethau
Gwag
Gwaith Gweinyddu, Busnes a Swyddfa 21%Peirianneg 15%Gofal Iechyd 11%Arlwyo a Lletygarwch 10%Manwerthu, Gwerthu a Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Adeiladu ac Adeiladwaith 6%Trin Gwallt a Harddwch 6%(Gyrfa Cymru, 2014)
Chwilio am gwrs
Chwilio am swyddi gwag gyda Twf Swydd Cymru a Phrentisiaethau Cael gwybod rhagor am swyddi a hyffordi
Mae ‘na
13,320 o brentisiaethau yng
Ngogledd Cymru (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, 2016)
Addysg UwchOeddech chi’n gwybod hyn?
9,000 amcangyfrif o nifer y dysgwyr
11,000 amcangyfrif o nifer y dysgwyr
Golwg ar Ogledd Cymru gyrfacymru.com
10%
Mae gan 37% o bobl o oedran gweithio yn y gogledd gymhwyster Lefel 4 neu uwch.
Er enghraifft, Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).
A oes angen sgiliau Cymraeg arnaf?Os ydych yn gweithio yng Nghymru, gall siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg fod o fantais i chi yn y gweithle, yn enwedig os ydych chi’n gweithio mewn ardael Gymraeg ei hiaith.Yng Ngwynedd ac ar Ynys Môn y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Mae 56%o’r holl gyflogwyr yn y gogledd yn dweud bod meddu ar sgiliau Cymraeg yn bwysig (Llywodraeth Cymru, 2014)
% O’R BOBL SY’N MEDRU SIARAD CYMRAEG
Y PRIF DDIWYDIANNAU AR GYFER SIARADWYR CYMRAEG
Gwynedd 65%
Ynys Môn 57%Conwy 27%
Sir Ddinbych 25%Sir y Fflint 13%Wrecsam 13%Cymru 19%(Cyfrifiad, 2011)
% y cyflogwyr sy’n dweud bod sgiliau Cymraeg yn bwysig
Gofal plant 84%Amaethyddiaeth a Bwyd 46%Gofal Cymdeithasol 43%Diwydiannau Creadigol 39%Lletygarwch 35%Manwerthu 26%Cyllid 26%Adeiladu 25%(Llywodraeth Cymru, 2014)
11,000 amcangyfrif o nifer y dysgwyr
Dod o hyd i Gwrs Addysg Uwch
Mae ‘na 11 o brifysgolion o fewn awr o daith i Ogledd
Cymru (Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd
Cymru, 2016)
Golwg ar Ogledd Cymru gyrfacymru.com
Beth am y dyfodol?Swyddi mewn galw dros y 5 mlynedd nesaf yng Ngogledd Cymru. Gweithwyr newydd y bydd eu hangen bob blwyddyn.
Pa swyddi y byddgalw amdanynt yn
y gogledd?
600
220
500
220
430
190
290
180
280
161
260
156
240
143
Gweithwyr Gofal
Athrawon Cynradd a Meithrin
Cynorthwywyr Gwerthu
Nyrsys Cynorthwyol
Nyrsys
Staff bar
Staff gweinyddu
Cynorthwywyr Dosbarth
Staff cegin
Athrawon Ysgol Uwchradd
Glanhawyr
Rheolwyr Siopau
Ffermwyr
Meddygon
Ffynhonnell: Working Futures, 2012-2022
Golwg ar Ogledd Cymru gyrfacymru.com