9
             Gwasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus Taflen Teithiau Cerdded yn y Parc Gwledig Teithiau Cerddyd o Amgylch Parc Gwledig Tˆ y Mawr a Thraphont Dd ˆ wr Pontcysyllte

Gwasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddusold.wrexham.gov.uk/assets/pdfs/leisure/ty_mawr_walks_w.pdf · mewni goed y creaduriaid bychain. Mae’r rhan goediog hon yn

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  •             

               

    Gwasanaeth Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus

    Taflen Teithiau Cerdded yn y Parc Gwledig

    Teithiau Cerddyd o Amgylch Parc Gwledig Tŷ Mawr

    a Thraphont Dd ̂wr Pontcysyllte

  • Mae pob un o’r teithiau cerdded yn dechrau ym Mharc Gwledig Tŷ Mawr (cyfeirnod grid 283413) Mae’r Parc yng Nghefn Mawr, pum milltir i’r de o Wrecsam oddi ar y B5605.

    Dilynwch yr arwyddion brown a gwyn i’r Parc Gwledig oddi ar yr A483 lle mae’r ffordd i Riwabon/Llangollen yn ymadael â hi.

    Mae bysiau rhwng Wrecsam a Llangollen, Cefn Mawr a Chroesoswallt yn aros ger Tŷ Mawr. Mae arwyddion i’r parc o’r 2 safle bysiau gerllaw.

    Mae gorsaf reilffordd Rhiwabon 3 milltir o’r parc ac mae’r bysiau uchod yn mynd o’r orsaf.

    Parc Gwledig Tŷ Mawr Lôn Cae Gwilym

    Cefn Mawr Wrecsam LL14 3PT

    Ffôn: 01978 822780

    Mae’r Parc ar agor bob dydd Canolfan yr Ymwelwyr ar agor 10.30yb - 4.30yp

    Tymor yr Haf Tymor y Gaeaf

    Cynhyrchwyd y daflen hon gan Wasanaeth y Parciau, Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Er bod pob ymdrech wedi ei wneud i sicrhau cywirdeb, nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gallu derbyn cyfrifoldeb am

    ganlyniadau unrhyw wallau yn y cyhoeddiad hwn.

    Cyflwyniad Mae Tŷ Mawr yn Barc Gwledig o 35 o aceri. Mae hefyd yn fferm

    weithredol ac yn gartref i amrywiaeth o anifeiliaid. Mae’r parc rhwng Traphont Cefn a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte sydd erbyn hyn yn Safle

    Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae’r ddwy bont hon yn adeileddau peirianneg hanesyddol ac yn gefndir trawiadol i’r parc.

    Mae hyd y teithiau cerdded yn y daflen hon yn amrywio i fod yn addas i wahanol ddiddordebau a galluoedd. Gallwch fynd am dro bach o gwmpas anifeiliaid y fferm neu ar grwydr gyda glan yr afon at y draphont ddŵr ac yn

    ôl. Y daith fwy ar hyd Camlas y Shropshire Union, gan groesi’r draphont ddŵr ac yn ôl gyda glan Afon Dyfrdwy yw’r daith hiraf. Mae’r teithiau

    cerdded hyn yn cyfuno golygfeydd ysgubol o Ddyffryn Llangollen, hwyl y fferm, treftadaeth gyfareddol a harddwch ac amrywiaeth y lleoliad naturiol.

    Pa un a yw eich diddordeb mewn natur, hanes, ffermio, neu awyr iach ac ymarfer, mae taith addas i chi yn Nhŷ Mawr.

    Mynediad Cewch ddod i mewn i Dŷ Mawr yn rhad ac am ddim ond mae croeso bob

    amser i gyfraniadau ac mae’r rhain yn mynd i gynnal y parc.

    Cŵn Mae croeso i gŵn ar y teithiau cerdded hyn ond cadwch drefn ar eich cŵn

    os gwelwch yn dda. Mae bagiau baw i’w cael yng Nghanolfan yr Ymwelwyr.

    Dyluniwyd gan Bread and Butter Design 01978 844482

  • Teithiau Cerdded ar gyfer Pob Tymor

    Taith Gerdded y Traphont a'r Draphont Ddŵr Tŷ Mawr - Cylchdaith Llwybr Tŷ Mawr Trail

    Yn y Gaeaf, y Gwanwyn, yr Haf a'r Hydref cewch weld rhywbeth diddorol trwy

    gydol y flwyddyn

  • Tŷ Mawr, y Fferm ‘Bywyd Gwyllt’ Fel y mae’r enw Tŷ Mawr yn ei awgrymu, mae’r parc yn wir yn gartref

    mawr i amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid. Mae’n fferm a reolir trwy ddulliau organig, sef heb ddefnyddio plaladdwyr a gwrteithiau cemegol a fyddai’n niweidio’r bywyd gwyllt. Mae adran yr anifeiliaid bach ym mhen

    uchaf y parc yn ymyl Canolfan yr Ymwelwyr.

    Mae anifeiliaid mwy, yn cynnwys gwahanol fridiau o ddefaid, i’w gweld yn pori ar y dolydd. Mae byrddau arwyddion ger pob un o’r caeau yn egluro

    am yr anifeiliaid a’r bywyd gwyllt y gallech chi eu gweld.

    Mae anifeiliaid y fferm yn cael eu symud o gwmpas i wahanol gaeau er mwyn i’r glaswellt dyfu a chadw’r caeau yn ‘lân’. Mae rhai caeau yn cael eu gadael i dyfu er mwyn cael gwair ar gyfer ymborth y gaeaf ac i fod yn

    gynefin gwerthfawr i bryfaid ac adar.

    Mae’r coetiroedd a’r gwrychoedd yn cynnig ‘rhodfeydd bywyd gwyllt’ ar gyfer adar, draenogod, mamaliaid bychain a phryfaid ac mae gan yr afon

    ‘fywyd gwyllt’ cyfan ei hun.

    Mae’r daith gerdded o gwmpas Tŷ Mawr yn fodd i chi edmygu’r golygfeydd a gwylio’r bywyd gwyllt ac anifeiliaid y fferm. Yn gynnar yn y gwanwyn, mae ŵyn bach newydd eu geni yn prancio o gwmpas y caeau ac ym

    misoedd yr haf mae toreth o bryfaid fel gloÿnnod byw a gweision y neidr i’w gweld yn y dolydd blodau gwyllt. Ger yr afon, mae adar fel y siglen lwyd

    a’r trochwr i’w gweld yn aml.

    Beth am fynd i lecyn distaw a gwylio am dipyn?

    Afon Dyfrdwy a’i Bioamrywiaeth Nid dyffryn afon hardd yn unig yw Dyffryn Afon Dyfrdwy, mae hefyd yn Safle

    o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SDdGA) ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA). Golyga hyn ei fod wedi ei ddiogelu gan gyfraith y Du a’r

    UE oherwydd y cynefinoedd, planhigion ac anifeiliaid arbennig sy’n byw yn yr afon ac o’i chwmpas.

    Mae Eogiaid yr Iwerydd yn nofion i fyny Afon Dyfrdwy i ddodwy ac mae pysgod eraill, y grothell, y penllwyd a’r brithyll i’w gweld yma hefyd. Mae

    misglen berlog yr afon, sy’n brin ac i’w gael mewn naw o afonydd Cymru yn unig, yn ffynnu yma yn ogystal â’r llyriad nofiadwy sydd hefyd yn brin.

    Mae’r ardal yn llawn o bethau diddorol i’w gweld ar eich taith gerdded. Mae mathau hardd o weision y neidr, gloynnod byw a gwyfynod i’w gweld yn aml yn ystod y misoedd cynhesach. Mae rhywogaethau diddorol o ffyngau i’w gweld

    ar hyd glannau’r afon ac ar y coed gydag ymylon y llwybrau yn ystod yr hydref.

    Mae crehyrod, glas y dorlan, elyrch, hwyaid a hwyaid danheddog i’w gweld yn aml ar hyd yr afon gyda’r boncathod yn ymgodi uwchben. Yn y gaeaf mae titwod cynffon hir yn heidio’n swnllyd ger y gamlas ac mae’r gnocell

    fraith fwyaf a’r gnocell werdd yn pigo’n swnllyd yn y coetir o gwmpas. Nosweithiau’r haf, mae ystlumod yn gwibio ar hyd yr afon yn hela gwyfynod ac mae gwenoliaid y bondo yn gwibio i lawr ar hyd yr afon. Mae dyfrgwn i’w

    gweld weithiau yn y gamlas ac yn yr afon.

    Cofiwch beidio ag aflonyddu ar y cynefin, y planhigion na’r anifeiliaid ar hyd yr afon os gwelwch yn dda. Maent

    wedi ei diogelu gan y gyfraith.

  • Campwaith Henry Robertson `Traphont Ddŵr Pontcysyllte’ Cynlluniwyd Traphont Cefn gan Henry Robertson ac mae’n gofeb ogoneddus i ‘wallgofrwydd y rheilffyrdd’ yn ystod y 19eg ganrif. Cyflogwyd Thomas Brassey i adeiladu’r draphont gyda thywodfaen lleol Cefn a gyflenwyd gan Chwarel Chattam gerllaw (segur erbyn hyn). Heb gymorth peiriannau’r oes fodern, cwblhawyd y gwaith mewn dwy flynedd am gost o £72,346.

    Mae’r draphont yn cynnal y rheilffordd o Amwythig i Gaer ac agorwyd hi’n swyddogol ym mis Hydref 1848.

    Hanes y trên cyntaf a aeth ar ei thraws, yn cludo pwysigion lleol, oedd torri i lawr, a threuliodd y teithwyr noson anghyfforddus yng ngolau’r lleuad gydag Afon Dyfrdwy yn disgleirio islaw, cyn eu hachub!

    Ar unwaith daeth yn fwy gwerthfawr na Traphont Ddŵr Telford, gyda threnau ager yn disodli cychod y gamlas i gludo ar gyfer diwydiant, yn enwedig glo. Nid oedd y cyhoedd, awyddus bob amser i chwilio lleoedd newydd, yn gallu aros i deithio ar y trenau newydd.

    Henry Robertson, a oedd yn ddisgybl i Robert Stephenson, a gododd y draphont yn Y Waun hefyd. Roedd yn feistr haearn a pheiriannydd ac adeiladodd ran helaeth o system reilffyrdd mewndirol Cymru yn cynnwys rheilffordd Dyffryn Llangollen.

    Erbyn hyn yn Safle Treftadaeth Byd ac yn Adeilad Rhestredig Gradd 1, cynlluniwyd y draphont ddŵr odidog hon gan Thomas Telford a’i chwblhau ym 1805.

    Cynhyrchwyd glo, tywodfaen, haearn, cemegolion a nwyddau teracota i gyd yn ardal Cefn Mawr ac Acrefair a chludwyd hwy ar y gamlas i bob rhan o’r wlad. Traphont ddŵr Pontcysyllte yw’r draphont ddŵr uchaf a hiraf ym Mhrydain a’r draphont ddŵr uchaf yn y byd y gall cychod ei chroesi. Ei chost oedd £47,000 a bu 200 ddynion wrthi am ddeng mlynedd yn ei chodi.

    Defnyddiwyd tywodfaen nadd o Chwarel Chatham gerllaw i adeiladu’r 19 o bileri cau gan ddefnyddio morter wedi ei wneud o galch, dŵr a gwaed ych. Mae’r pileri yn cynnal cafn dŵr o haearn bwrw, a wnaethpwyd gan William Hazeldine yn ffowndri Plas

    Kynaston yng Nghefn Mawr. Dyfnder y cafn yw 1.60 metr (5.25 o droedfeddi) a chafodd uniadau’r cafn eu trin gyda gwlanen Gymreig wedi ei throchi mewn siwgr berwedig, ac yna ei selio â phlwm rhag ofn iddo ollwng dŵr! Mae’r dŵr i’r gamlas yn dod o Raeadr y Bedol ger Llangollen.

    Mae’r Draphont ddŵr yn cynnal Camlas y Shropshire Union yn uchel uwchben Dyffryn Dyfrdwy a’i henw ar lafar gwlad yw’r ‘nant yn y nen’. Y dyddiau hyn, mae mwy na 15,000 o gychod ac 20,000 o gerddwyr yn ei chroesi bob blwyddyn.

    Mae’r draphont ddŵr... yn 307 o fetrau ar ei hyd

    (1,007 o droedfeddi), 38 metr ouchder (126 o droedfeddi)

    ac mae ganddi 19 o bileri cau.

    Mae’r draphont:..yn 460 o fetrau ar ei hyd (1,508 o droedfeddi), 45 o fetrau o uchder (147 o droedfeddi) ac mae ganddi 19 o fwâu.

  • Mae’r daith gerdded hon oddeutu milltir o’i chwmpas. Mae hi’n hawdd ei cherdded ar lwybrau tarmac. Mae rhannau i fyny ac i lawr arni a dim camfeydd.

    1. Dechreuwch y tu allan i Ganolfan yr Ymwelwyr, heibio i’r ysgubor, ar draws y buarth i gyfeiriad y giât fawr. Trowch i’r dde gan ddilyn yr arwydd ‘Llwybr Tŷ Mawr’. Dilynwch y llwybr tarmac o gwmpas y parc.

    2. Wrth gae'r geifr, edrychwch ar yr arwydd i weld gwybodaeth am y cae.

    3. Mae’r llwybr yn mynd gyda glan yr afon heibio i’r ‘traeth’, llecyn hyfryd lle gallwch oedi am dipyn.

    4. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr, o dan fwâu Traphont Cefn.

    5. Ym mhen uchaf y llwybr, ger y colomendy a’r giatiau melyn, mae bwrdd gwybodaeth sy’n egluro mwy am hanes y draphont.

    6. Ewch trwy’r ail giât felen ac i mewn i goed y creaduriaid bychain. Mae’r rhan goediog hon yn ymylu’n ôl ar y cae picnic ac os dilynwch yn llwybr byddwch yn mynd heibio i dai’r anifeiliaid llai ar y dde. Peidiwch â methu cae pwll yr hwyaid lle bydd amrywiaeth o anifeiliaid llai yn difyrru’r ifanc a’r hen fel ei gilydd!

    Ewch yn ôl i Ganolfan yr Ymwelwyr. Gallwch fynd i’r naill gyfeiriad neu’r llall ar y daith gerdded hon.

    Llwybr Tŷ Mawr (oddeutu milltir o hyd)

    Parc GwledigTŷ Mawr

    Afon Dyfrdwy

    2. Cae'r Geifr

    Llwybr y Draphont Ddŵr

    4. Traphont Cefn

    3. Traeth

    1. Canolfan yr Ymwelwyr

    6. Coed y Creaduriaid Bychain

    5. Colomendy

    Efallai y gwelwch anifeiliaid ynpori yn y caeau. Ym mhob cae mae byrddau gwybodaethlle cewch wybod ychydig mwyam yr anifeiliaid yn y caeau a’r bywyd gwyllt y gallech chiei weld

    Os edrychwch yn ôl efallai y byddwch yn medru gweldCastell Dinas Bran uwchben Llangollen yn y pellter

  • Mae’r daith gerdded hon oddeutu 4 milltir o hyd ac mae’n gofyn oddeutu 2 awr o gerdded hamddenol. Mae hi’n hawdd ei cherdded heblaw dwy set o risiau. Nid oes camfeydd.

    1. Ewch o Ganolfan yr Ymwelwyr ac am y chwith o gwmpas tu blaen yr ysgubor ac i gyfeiriad Traphont tywodfaen Cefn. Mae’r llwybr tarmac yn mynd â chi trwy goed y creaduriaid bychain a heibio i’r colomendy lle gwelwch chi wybodaeth fanwl am y Draphont.

    2. Dilynwch y llwybr tarmac o dan fwâu aruchel y draphont.

    3. Ewch ymlaen gyda glan yr afon. Ewch o’r parc trwy droi i’r chwith trwy giât gyda’r arwydd ‘Traphont Ddŵr Pontcysyllte’ arni.

    4. Ewch i lawr y grisiau trwy’r coed a dilyn y llwybr gyda glan afon Dyfrdwy. Llwybr llinellol yw hwn ac mae’n hawdd ei ddilyn. Wrth gerdded, gwyliwch am bysgod yn neidio yn y mannau lle mae’r dŵr yn ddwfn a distaw.

    5. Croeswch y bont fach tros Nant Trefnant a heibio i’r hen bwmpdy o frics ar y chwith (roedd un tro yn rhan o Waith Cemegol Monsanto). Ewch ymlaen ar hyd y llwybr heibio i Goed Jeffrey. Os byddwch yn oedi ychydig gallech glywed y cnocellau

    yn curo’n brysur ar y coed yn y coetir hynafol hwn.

    Efallai y sylwch fod mwd neu dŵrr oren ar hyd y llwybr. Mae hyn oherwydd bod dŵr yn treiddio trwy hen byllau lle mae gwaddod haearn

    Taith Gerdded y Draphont a’r Draphont Ddŵr (oddeutu 4 milltir yno ac yn ôl)

    ac mae’r rhan hon yn gynefin da i dyfu tegeirianau.

    6. Wrth odre’r draphont ddŵr, dringwch y grisiau serth ar y dde ac ewch i fyny i fasn camlas Trefor. Lle gwerth chweil i edrych o’i gwmpas yw Basn Trefor. Mae yno Ganolfan Ymwelwyr, byrddau gwybodaeth, cerfluniau tywodfaen, cychod lliwgar, toiledau a siop i brynu hufen ia!

    7. Cyn mynd yn ôl i Dŷ Mawr, os ydych yn medru dioddef uchder yn dda, cerddwch ar hyd llwybr halio’r gamlas ar y draphont ddŵr i weld golygfa odidog o Draphont Cefn a’r Bont ganoloesol ar draws afon Dyfrdwy.

    I ddod yn ôl, ewch yn ôl i Dŷ Mawr yr un ffordd ag y daethoch.

    Afon Dyfrdwy

    1. Canolfan yr Ymwelwyr

    Parc GwledigTŷ Mawr

    2. TraphontCefn

    3. 4.

    6. 7. 5. Tŷ Pwmpio

    Traphont Ddŵr Pontcysyllte

    Wrth odre’r pileri cerrig edrychwch i fyny at y draphont ddŵr uwchben i weld y gwaith cerrig gwych a gyflawnodd y seiri maen lleol ac sydd yn dal i sefyll yn syth wedi 200 o flynyddoedd!

    Os edrychwch i fyny fe welwch gaenen o galchsydd wedi llifo allan o’r

    morter calch. Yn gynnarmin nos gallech hefyd

    weld ystlumod yn ymadael â’u mannau clwydo i

    hela gwyfynod.

  • Cylchdaith Tŷ Mawr (oddeutu 4.5 o filltiroedd)

    Mae’r daith gerdded hon oddeutu 4.5 milltir o hyd ac mae’n gofyn oddeutu ddwy awr a hanner o gerdded hamddenol. Mae hi’n hawdd ei cherdded heblaw’r 2 set o risiau serth. Nid oes camfeydd.

    1. Ewch allan o Barc Gwledig Tŷ Mawr a throi i’r dde ar hyd Lôn Cae Gwilym, gan gerdded o dan fwa uchel y rheilffordd at y B5605. Trowch i’r dde a dilyn y ffordd i lawr trwy Gefn Bychan i groesi afon Dyfrdwy.

    2. Cyn cyrraedd y bont, yr ochr arall i’r ffordd, mae Porthdy Wynnstay, adeilad rhestredig, a oedd un tro yn fynedfa i ystâd Wynnstay.

    3. Ewch ymlaen heibio i Fferm Tŷ Maen ar y chwith. Edrychwch ar draws i’r chwith a gwelwch bont fodern ffordd yr A483, ar draws afon Dyfrdwy, ac ar y dde, y Draphont Ddŵr, y Garth a Chastell Dinas Brân ar y bryn uchaf yn y pellter.

    4. Cyn bo hir byddwch yn gweld y rheilffordd ar y dde. Mae’n ymestyn allan tros y Draphont Ddŵr ac ar draws y dyffryn i Gefn Mawr.

    5. Ychydig cyn cyrraedd y bont tros Gamlas y Shropshire Union, trowch i’r dde ac ar hyd llwybr halio’r gamlas. Mae’r gamlas yn gartref i lawer o adar dŵr, yn enwedig hwyaid ac ieir dŵr.

    6. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr halio trwy’r coed. Wrth groesi pont fach efallai y cewch gipolwg ar Dŷ Mawr yr ochr arall i’r dyffryn.

    7. Heibio i fwâu’r Odyn Galch ar y chwith ac ymlaen at y bont godi ddu a gwyn. Yma, mae’n rhaid i chi ddewis.

    8. Os ydych yn ddigon dewr i fynd ar draws y Draphont Ddŵr 126 o uchder byddwch yn gweld rhai o’r golygfeydd mwyaf gwych yng Nghymru a bydd yn brofiad

    bythgofiadwy. Os felly, ewch ymlaen ar hyd y llwybr halio tros y draphont ddŵr ac yn ôl at y llwybr hwn ym man 11.

    9. Yn lle hynny, ewch ar draws y bont godi ac am y dde at y ffordd i Drefor (does dim llwybr). Mae bwrdd gwybodaeth yn y fan hon.

    10. Trowch i’r dde a dilynwch y ffordd i lawr at afon Dyfrdwy. Croeswch y Bont ganoloesol lle mae golygfa wefreiddiol o’r Draphont Ddŵr uwchben a throi i’r dde i fyny’r ffordd serth i Drefor. Cyn croesi’r gamlas, dilynwch y llwybr i’r dde o dan fwa’r draphont ddŵr ac am y chwith i fyny i fasn y gamlas.

    11. Mae Basn Trefor yn olygfa liwgar gyda chychod y gamlas wrth y cei, Tafarn Telford a’r tŷ bwyta a siop fach anrhegion, canolfan ymwelwyr a thoiledau. Gallwch hefyd weld cyfres o gerfluniau o garreg sy’n cynrychioli treftadaeth yr ardal.

    12. Ym mhen pellaf y draphont ddŵr, ger cerflun ‘y llaw’, ewch i lawr y llwybr serth o dan fwâu’r draphont ddŵr. Mae’r grisiau hyn yn mynd i lawr i Afon Dyfrdwy. Yna mae’r llwybr yn gwyro i’r chwith ar hyd Coed Jeffrey sy’n goetir hynafol.

    Efallai y sylwch fod mwd neu ddŵr oren ar hyd y llwybr. Mae hyn oherwydd bod dŵr yn treiddio trwy hen byllau lle mae gwaddod haearn ac mae’r rhan hon yn gynefin da i dyfu tegeiriannau.

    13. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr at yr hen bwmpdy brics. Croeswch y bont fach ac am y dde ar hyd lan yr afon, trwy’r dolydd ac yn ôl i Barc Gwledig Tŷ Mawr.

    Efallai y gwelwch chi hyd yn oed fflach o laswyrdd wrth i las y

    dorlan wibio heibio. Os syllwch chi i mewn i’r dŵr efallai y gwelwch

    chi benhwyad yn nofio heibio

  • Afon Dyfrdw

    y

    Parc Gw

    ledigTŷ

    Mawr

    TraphontCefn

    Traphont Ddŵr

    Pontcysyllte Cylchdaith

    Tŷ Maw

    r (oddeutu

    4.5 m

    illtir)

    1. Canolfan yr

    Ymwelw

    yr

    2.

    3.

    4. 5.

    6.

    7. 8.

    9.

    10. 11.

    13.

    12.