16
www.llyfrgell.cymru Haf 2018 Ffilmiau Perfformiadau byw Sioeau Cyflwyniadau Teithiau

Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

www.llyfrgell.cymru

Haf 2018Ffilmiau Perfformiadau byw Sioeau Cyflwyniadau Teithiau

Page 2: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

2 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 3

CROESO CYNNWYS CIPOLWG

Mae 2018 yn ‘Flwyddyn y Môr’ – dewch i ddarganfod sut rydym yn dathlu ein harfordiroedd #BlwyddynyMôr #GwladGwlad

Cipolwg 3

Arddangosfeydd 4

Caffi Pen Dinas 7

Siop 7

Darlithoedd a Chyflwyniadau 8

Ffilm 20

Cerddoriaeth 21

Gweithgareddau i’r Teulu 22

Adnoddau Newydd 24

Gwybodaeth i Ymwelwyr 26

Cadwch mewn Cysylltiad 29

Mai02 Y Môr yn ei Waed – Kyffin Williams yn Fenis 1.00pm12 Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol: 10.00am – 4.00pm Tracing Welsh Mariners 11.00am Searching for Old Houses 2.00pm16 Petticoats of Power 1.00pm18 Carto-Cymru – Symposiwm Mapiau Cymru 2018 – Siartio’r moroedd 9.30am – 4.30pm22 Cadwraeth Archifau 10.30am – 12.30pm 23 In Search of Mary Shelley 5.30pm25 Aber Cycle Fest – Noson agoriadaol 6.30pm

Mehefin 06 The Lord Davies of Llandinam Archive 1.00pm08 Gig: Elin Fflur (Cerddoriaeth) 7.30pm13 Gofalu am David 5.30pm20 A Journey through The Rhinogydd Mountains – A Photographer’s Paradise! 1.00pm22 Ffilm: Tír na nÓg: an Irish and Welsh Cineconcert 7.30pm29 Dathlu Kyffin 10.00am – 4.30pm

Gorffennaf04 The History of the Gogerddan Estate 1.00pm05 – 06 Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018 9.00am – 5.00pm07 Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd… 2.00pm11 Dathlu Dilys: Brenhines ein Cân 1.00pm14 The Most Glorious Prospect: Garden Visiting in Wales 1639–1900 2.00pm18 Medieval Wall Paintings in Wales 1.00pm25 Ceredigion’s Oldest Houses 1.00pm

Awst02 Arts and crafts workshop with the RNLI (Gweithgaredd i’r teulu) 10.30am16 Gweithdy Argraffu Sgrin-sidan: Y Môr (Gweithgaredd i’r teulu) 10.00am23 Iwcs a Hwyl (Gweithgaredd i’r teulu) 10.00am30 Byd Gwirion a Gwallgo David Walliams (Gweithgaredd i’r teulu) 10.00am - 12.00pm

Medi 05 Aspects of Ceredigion’s Maritime History in the Nineteenth Century 1.00pm

Tocynnau: Swyddfa Docynnau 01970 632 548 digwyddiadau.llyfrgell.cymru Gostyngiad i grwpiau o 5 neu fwy

Digwyddiadau C Digwyddiad trwy gyfrwng y Gymraeg E Digwyddiad trwy gyfrwng y Saesneg B Digwyddiad dwyieithog T Darperir cyfieithu ar y pryd

Rhif Elusen Gofrestredig 525775 Delwedd clawr blaen: Golau Isel, Eryri - Kyffin Williams © LlGC

Page 3: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

ORIEL Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 5

ORIEL Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

Kyffin Williams Tu ôl i’r FfrâmOriel Gregynog , tan 01.09.18 Arddangosfa sy’n coffáu canmlwyddiant geni un o ffigurau enwocaf y byd celf yng Nghymru – Syr Kyffin Williams. Mae’r arddangosfa gofiadwy hon yn gyfle prin i weld rhai o baentiadau mwyaf eiconig yr arlunydd, ochr yn ochr â thrysorau cudd sy’n cael eu harddangos am y tro cyntaf. Byddwn yn mentro ‘tu ôl i’r ffrâm’ i ddysgu am ei dechneg, yr hyn a’i ysbrydolodd, a sut fu i’w bersonoliaeth, cymhlethdod ei gymeriad, a’i iechyd, ddylanwadu ar ei fywyd a’i waith.Delwedd: Mecryll - Kyffin Williams © LlGC

#Kyffin100

Jack Lowe - The Lifeboat Station Project Uwch Gyntedd, 31.03.18 - 09.03.19Detholiad unigryw o ddelweddau o orsafoedd bad achub Cymru sy’n rhan o fenter Jack i dynnu llun o bob un o’r 238 o orsafoedd yr RNLI o gwmpas y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Caiff y ffotograffau eu creu gan ddefnyddio Colodion ar Blatiau Gwlyb, proses Fictoraidd sy’n llwyddo i ddal delweddau syfrdanol ar wydr.Delwedd: Jack Lowe - Tenby Crew 2016

Llawysgrifau Mostyn: Arddangosfa’r CanmlwyddiantHengwrt, 21.07.18 - 8.12.18Daeth y grŵp cyntaf o lawysgrifau o Blasty Mostyn, Sir y Fflint i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1918. I nodi canmlwyddiant y derbyniad nodedig hwn, bydd y Llyfrgell yn dangos rhai o’i thrysorau mwyaf gwerthfawr o Fostyn yn ystod y tymor sydd i ddod, yn llyfrau printiedig cynnar, a llawysgrifau Cymraeg, Lladin a Saesneg. Maent yn cynnwys llawlyfr meddygol Gutun Owain, sy’n dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif, a Chronicl aruthrol Elis Gruffudd, ‘y Milwr o Galais’. Mae eto eitemau o bwys hanesyddol ar gadw ym Mhlasty Mostyn - eitemau na chant eu gweld yn aml gan y cyhoedd - a gyda chaniatad caredig yr Arglwydd Mostyn, dangosir detholiad bychan o’r rheiny hefyd yn yr arddangosfa. Dyma gyfle prin i weld trysorau o un o’r casgliadau preifat gorau erioed i’w lunio yng Nghymru.

Arddangosfeydd Dewch i fwynhau casgliadau hynod y Llyfrgell Genedlaethol sy’n cael eu harddangos yn ein horielau. Os mai dyma’ch ymweliad cyntaf, neu os ydych wedi ymweld o’r blaen, mae croeso cynnes yma bob amser. Mae ein holl arddangosfeydd am ddim ac rydym yn croesawu teuluoedd.

Delwedd: NLW MS 3026 p.26

Page 4: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

ORIEL Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

6 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 7

CAFFI PEN DINAS SIOP

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

Clawr i Glawr Byd y Llyfr, Llawr Gwaelodtan 2019Byddwn yn olrhain hanes y llyfr ar ei daith o’r Aifft i’r e-lyfr, gan edrych ar fathau o lyfrau, y broses o greu llyfr, a llyfrau fel darnau o gelf ynddynt eu hunain. Delwedd: Old King Cole, y llyfr lleiaf yn y byd

Ymgyrch Fframio’r DyfodolMae Ymgyrch Fframio’r Dyfodol yn ariannu fframiau cadwraeth ar gyfer paentiadau eiconig Kyffin. Eisoes, mae cyfraniadau hael gan y cyhoedd wedi galluogi ein bod wedi medru fframio’r paentiad yma o waith Kyffin. Gyda’ch cefnogaeth chi byddwn yn medru cyflawni mwy o’r gwaith cadwraeth hanfodol hwn gan sicrhau y bydd paentiadau Kyffin yma i’w gwerthfawrogi gan genedlaethau’r dyfodol.I gefnogi anfonwch rodd trwy’r post, cyfrannwch ar-lein, neu tecstiwch KYFF10 i 70070 i roi £10 i’r ymgyrch. Delwedd: Ffermwr ymysg y creigiau - Kyffin Williams © LLGC

Caffi Pen DinasMae Caffi Pen Dinas yn ymfalchïo mewn darparu bwyd o ansawdd uchel sy’n cael ei baratoi yma gyda chynnyrch Cymreig.Dewch i fwynhau’r amrywiaeth o frechdanau, panini, tatws trwy’u crwyn, cawl cartref a phrydau’r dydd. Mae diodydd poeth ac oer ar gael trwy’r dydd a beth am flasu ein teisennau cartref godidog?Lleolir Caffi Pen Dinas mewn man cyfleus yn ymyl y brif fynedfa, a darperir mynediad rhwydd a chyfleusterau i deuluoedd. Rydym ar agor rhwng 9.00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10.00am a 4.00pm ar ddydd Sadwrn.

SiopYn siop y Llyfrgell, gallwch brynu eitemau unigryw, gwaith wedi’i wneud â llaw a chrefftau a rhoddion anarferol a ysbrydolir gan gasgliadau’r Llyfrgell.Rydym yn gwerthu nwyddau hardd i’r cartref, gemwaith o ansawdd uchel a wneir â llaw yng Nghymru, teganau, llyfrau, cryno ddisgiau, a llawer mwy ...Rydym ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.Siop Ar-lein: siop.llgc.org.ukDelweddau: Keith Morris Artswebwales.com

Page 5: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

8 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 9

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

A wyddech chi fod y Llyfrgell yn cynnal sesiynau gwybodaeth Hanes Teulu?

Gweler ein gwefan am wybodaeth bellach.

Dydd Mercher 2 Mai 1.00pmY môr yn ei waed – Kyffin Williams yn Fenis David MeredithCyflwyniad i ddathlu canmlwyddiant ei eni: John Kyffin Williams, cawr ym myd celfyddydau Cymru ac un o gymwynaswyr mawr ei genedl.Mynediad am ddim trwy docyn#Kyffin100 Delwedd: Y Prif Gamlas - Kyffin Williams © LLGC

C T

Ffair Hanes Teulu a Hanes Lleol Dydd Sadwrn 12 Mai10.00am – 4.00pm

Diwrnod llawn o sgyrsiau, cyflwyniadau a stondinau, a chyfle i siarad ag arbenigwyr yn y maes. Diwrnod delfrydol i bawb sy’n ymddiddori ym mhob agwedd ar Hanes y Teulu a Hanes Lleol.

2.00pm

Searching for Old Houses Richard SuggettSgwrs ddifyr yn disgrifio rhai o weithiau diweddaraf a darganfyddiadau cyffrous y Comisiwn Brenhinol.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Cruck at Hafodygarreg © CBHC

E

11.00am

Tracing Welsh Mariners Dr Reg DaviesYn dilyn ymchwil helaeth gan yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llyfrgell y Guildhall a Chymdeithas yr Achrestrwyr yn Llundain, bydd sgwrs Dr Davies yn rhoi cyflwyniad defnyddiol i yrfaoedd eich cyndeidiau morol. Bydd y cyflwyniad yn cynnwys arddangosiad ymarferol o’i wefan www.welshmariners.org.uk sy’n cynnwys manylion dros 23,500 o forwyr a anwyd yng Nghymru a morwyr masnachol a oedd yn byw yng Nghymru.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: The Montgomery Castle

#BlwyddynyMôr

E

Page 6: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

10 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 11

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

Dydd Mercher 16 Mai1.00pm

Petticoats of Power Rachael HedgeYn aml, nid oes llawer o sylw’n cael ei roi i straeon am fenywod yn ystadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond mae gan nifer o’r menywod hyn straeon pwysig i’w hadrodd. Mae’r digwyddiad hwn yn cyflwyno’r menywod pwerus a helpodd i greu’r Llanerchaeron a welwn heddiw. Bydd arddangosfa Petticoats of Power yn cael ei chynnal yn Llanerchaeron rhwng 7 Mai a 7 Hydref 2018.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Llanerchaeron © Yr Ymddiriedoaleth Genedlaethol

E

Dydd Gwener 18 Mai9.30am – 4.30pm

Carto-Cymru – Symposiwm Mapiau Cymru 2018 – Siartio’r MoroeddSiartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir mapio o’r fath i ehangu’n dealltwriaeth o’r amgylcheddau hyn. Mae’r symposiwm yn ddigwyddiad ar y cyd rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Bydd y siaradwyr yn cynnwys: James Barry, Geowyddonydd Morol, Arolwg Daearegol o Iwerddon; Rob Shaw, Uwch Geo-Arolygydd, Rhaglen Darganfod, Canolfan Archaeoleg ac Arloesi Iwerddon; Daniel Hunt, Ymchwilydd - Prosiect CHERISH, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; Megan Barford, Curadur Cartograffeg, Amgueddfeydd Brenhinol Greenwich; Adrian Webb, Pennaeth yr Archif, Swyddfa Hydrograffeg y Deyrnas Unedig; Dr Hywel Griffiths, Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol & Cyfarwyddwr Astudiaethau Israddedig Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth; Gwilym Tawy, Curadur Mapiau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru; a Deanna Groom, Uwch Ymchwilydd (Arforol), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.Mynediad trwy docyn £20.00, sy’n cynnwys cinio bys a bawd, a lluniaeth yn y bore / prynhawn#CartoCymru #CaruMapiau #BlwyddynyMôr

C E T

Delwedd: Milford-Haven 1693

Delwedd: Coastline of Wales 1693

Page 7: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

12 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 13

XXXXXX Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

Dydd Mawrth 22 Mai 10.30am – 12.30pm

Cadwraeth Archifau Estynnir croeso cynnes i ddiwrnod agored Isadran Cadwraeth y Llyfrgell. Mae’r digwyddiad yma yn gyfle gwych i weld sut y gofalwn am ein hamrywiol gasgliadau. Yn ogystal â chyflwyniad cynhwysfawr, cewch gyfle i weld gweithdai’r Isadran, ac i siarad â’n harbenigwyr a’u holi am eu gwaith.Mynediad am ddim trwy docynC T

Dydd Mercher 23 Mai5.30pm

‘In Search of Mary Shelley’ Yr Athro Fiona Sampson Fel rhan o’r digwyddiadau i ddathlu dau gan mlynedd ers cyhoeddi Frankenstein, nofel Mary Shelley, bydd Yr Athro Sampson, awdur y llyfr llwyddiannus In Search of Mary Shelley, yn archwilio syniadau Rhamantaidd o ran hunaniaeth, moderniaeth, a bywgraffiad drwy fywyd a gwaith Mary Shelley, gan ddatgelu sut llwyddodd y rhain i helpu’r ferch yn ei harddegau greu Frankenstein.Pan oedd yn ifanc, roedd Mary’n ysu am gael byw mewn man anghysbell a pharadwysaidd gyda Percy Bysshe yng Nghwm Elan, ger Rhaeadr, Powys. Roedd Gorllewin Cymru yn dwyn atgofion chwerw iddi ar ôl i Fanny, ei hanner chwaer, ladd ei hun yn Abertawe. Serch hynny, roedd Mary’n dal i anwylo tirwedd Cymru yn unol â’r arfer Rhamantaidd er gwaethaf y realiti a brofodd yno. Mynediad am ddim trwy docyn E

Nos Wener 25 Mai6.30pm

Bydd y penwythnos o hwyl ar ddwy olwyn yn dechrau gyda noson yng nghwmni’r feicwraig o Gymru a enillodd ddwy fedal Olympaidd yn Rio, Becky James. Bydd y noson hefyd yn cynnwys ffilmiau o’r archif yn ymwneud â beicio, a bydd derbyniad ar ôl hynny. Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Simon Wilkinson, SWpics.com

E

Aber Cycle Fest Noson Agoriadol gyda Becky James, enillydd Olympaidd ddwbwl

Delwedd: Casgliad Aston Hall 4193

Delwedd: Clawr llyfr

Page 8: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

14 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 15

XXXXXX Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

Dydd Mercher 6 Mehefin 1.00pm

The Lord Davies of Llandinam Archive Rob PhillipsRoedd yr Arglwydd Davies o Landinam yn wleidydd, yn ddiwydiannwr ac yn ddyngarwr, ac mae’r archif yn un o’r casgliadau mwyaf o bapurau personol yn y Llyfrgell. Mae’n adlewyrchu diddordebau’r Arglwydd Davies, o ddociau a gwleidyddiaeth i iechyd a heddwch byd-eang. Bydd Rob Phillips, a fu’n catalogio’r papurau, yn trafod yr archif a’r hyn mae’n ei ddweud wrthym am fywyd a gyrfa’r dyn hynod hwn.Mynediad am ddim trwy docyn Delwedd: Lord Davies of Llandinam

E

Dydd Mercher 13 Mehefin 5.30pm

Gofalu am DavidSgwrs gan y ddarlledwraig Beti George am Alzheimers, a’r gofal a roddodd i’w chymar David Parry-Jones wedi iddo gael diagnosis o’r salwch yn 2008, tan ei farwolaeth yn Ebrill 2017. Hefyd trafodir yr ymgyrch dros ddiwygio gwasanaeth gofal dementia.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Beti George a David Parry-Jones

C T

Dydd Mercher 20 Mehefin 1.00pm

A Journey through The Rhinogydd Mountains - A Photographers’ Paradise! Jean Napier Ar ôl crwydro sir Feirionnydd ers nifer o flynyddoedd, a Mynyddoedd Rhinogydd yn enwedig, bydd y ffotograffydd Jean Napier yn mynd â ni ar daith i archwilio’r dirwedd naturiol a dynol sy’n filoedd o flynyddoedd oed drwy lens ei chamera.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Bryn Cader Faner - June Napier

E

Dydd Gwener 29 Mehefin 10.00am – 4.30pm

Dathlu KyffinFel rhan o arddangosfa bresennol y Llyfrgell, Kyffin Williams: Tu ôl i’r Ffrâm, byddwn yn cynnal diwrnod llawn o sgyrsiau a chyflwyniadau i gydnabod un o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru. Ymhlith y siaradwyr bydd David Meredith, Jenny Williamson, David Smith, Dr Lloyd Roderick, John Smith a Catrin Williams. Mynediad trwy docyn £10.00, sy’n cynnwys te / coffi yn y bore wrth gofrestru #Kyffin100 Delwedd: Kyffin yn y Studio © Bernard Mitchell

C E T

Page 9: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

16 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 17

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

Dydd Mercher 4 Gorffennaf 1.00pm

The History of the Gogerddan Estate Hilary PetersCyflwyniad i hanes ystad Gogerddan a’r teulu Pryse. Cewch ddysgu sut gwnaethon nhw newid y dirwedd ac am eu dylanwad cryf ar bob agwedd ar hanes sir Ceredigion. Dewch i gwrdd â Marjorie Pryse i glywed ei hanesion difyr a darllen ei llythyrau caru gan y pianydd o Wlad Pwyl!Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Thomas Pryse

E

Dydd Iau a Gwener 5 – 6 Gorffennaf 9.00am – 5.00pm

Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018 Cynhadledd Cwlwm Celtaidd 2018 fydd ail gynhadledd iaith Wicipedia a bydd yn canolbwyntio ar gefnogi ieithoedd Celtaidd a brodorol. Eleni, trefnir y digwyddiad ar y cyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Wikimedia UK. Prif amcan y gynhadledd fydd uno pobl sy’n gweithio’n ddiwyd i gefnogi cymunedau ieithyddol o dan yr un to; gan gryfhau’r berthynas rhyngddynt i greu ‘cwlwm’ cadarn, a’u cynorthwyo i weithredu. Gall y rheini sy’n dod i’r gynhadledd ddisgwyl cyflwyniadau a sgyrsiau am ddulliau arloesol o gefnogi a thyfu cymunedau ieithyddol, gan gynnwys dulliau arloesol o ran addysg agored, gwybodaeth agored a data agored.Mynediad drwy docyn £50.00 y dydd, sy’n cynnwys lluniaeth ysgafn a chinio. Bydd gostyngiadau i fyfyrwyr, pobl hŷn, a’r rhai sydd wedi’u cofrestru’n anablDelwedd: Celtic Knot 2017 ym Mhrifysgol Caeredin CC-BY-SA Wikimedia UK

B T

Dydd Sadwrn 7 Gorffennaf 2.00pm

Digwyddiad Cyfeillion y Llyfrgell: ‘Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd...’ Y Parch Ddr John Cynddylan Jones a llongau Evan Thomas, Radcliffe, Caerdydd Dr David JenkinsHanes rhyfeddol un o gewri’r pulpud Anghydffurfiol ddiwedd y 19eg ganrif, a’r rhan a gafodd yng ngwerthiant cyfranddaliadau mewn menter llongau a sefydlwyd gan un o aelodau ei gapel yng Nghaerdydd.Mynediad trwy docyn £4.00, am ddim i Gyfeillion y LlyfrgellDelwedd: Y Parch Ddr John Cynddylan Jones#BlwyddynyMôr C T

Dydd Mercher 11 Gorffennaf 1.00pm

Dathlu Dilys: Brenhines Ein Cân Geraint LewisCyfle i ddathlu canmlwyddiant geni un o gyfansoddwyr pwysicaf a mwyaf amryddawn Cymru – Dilys Elwyn Edwards. Mae ei harchif yn cael ei chadw yn y Llyfrgell, ac i gyd-fynd â’r cyflwyniad fe fydd arddangosfa fechan o’i gwaith i’w gweld.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: Dilys Elwyn-Edwards © Geraint Lewis

C T

Page 10: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

18 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 19

Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf 2.00pm

The Most Glorious Prospect: Garden Visiting in Wales 1639-1900 Ymunwch â Bettina Harden, awdur The Most Glorious Prospect, i glywed trafodaeth ddifyr rhyngddi a Gerald Morgan, awdur a hanesydd lleol, am hanes pobl yn ymweld â gerddi yng Nghymru rhwng 1639 a 1900. Mae The Most Glorious Prospect yn rhoi sylw i erddi hanesyddol Cymru, gan gynnwys gardd yr Hafod y bu ymwelwyr cyfoes yn ymweld â hi rhwng ei dyddiau cynnar yn y 17eg ganrif a’r cyfnod lle roedd twristiaeth yn ffynnu yn y 19eg ganrif. Ewch yn ôl mewn amser i gyfnod o ymweld â gerddi a mynd am dro o’u hamgylch, sy’n dod yn fyw drwy lythyrau a dyddiaduron ymwelwyr a chyfnodolion o’r cyfnod.Mynediad am ddim trwy docyn Delwedd: Clawr llyfr

E

Dydd Mercher 18 Gorffennaf 1.00pm

Medieval Wall Paintings in Wales Steffani DaviesBydd Steffani Davies yn trafod pwnc Traethawd Hir ei MA, gan fynd i’r afael â phob ‘pwy’, ‘beth’ a ‘sut’ ynghylch paentiadau wal o’r Oesoedd Canol yng Nghymru.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: One of the Seven Deadly Sins, St Cadoc’s Church, Llancarfan © Steffani Davies

Dydd Mercher 25 Gorffennaf 1.00pm

Ceredigion’s Oldest Houses Richard SuggettBydd Richard Suggett, hanesydd pensaernïaeth y Comisiwn Brenhinol, yn disgrifio’r heriau a wynebodd wrth ysgrifennu am gartrefi hynaf Ceredigion ar gyfer cyfrol ddiweddaraf yn y gyfres Cardiganshire County History. Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: ‘Yr Hen Dy’ Ystrad Fflur © CBHC

Dydd Mercher 5 Medi 1.00pm

Aspects of Ceredigion’s Maritime History in the Nineteenth Century William TroughtonYn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd herwlongau, smyglwyr a llongddrylliadau yn rhan o fywyd cymunedau arfordirol Ceredigion. Bydd y sgwrs hon yn rhoi sylw i rai agweddau ar fywyd arfordir Ceredigion yn ystod y cyfnod hwn.Mynediad am ddim trwy docynDelwedd: View near Aberystwyth Cardiganshire, William Daniell, 1813

#BlwyddynyMôr

DARLITHOEDD A CHYFLWYNIADAU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

E

E

E

Page 11: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

FFILMTocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

20 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

CERDDORIAETH

Nos Wener 22 Mehefin7.30pm

Ffilm: Tír na nÓg: cyngerdd sinematig Gymreig a GwyddeligMae’r rhaglen ddogfen wych hon gan driawd o newyddiadurwyr o Gymru – John Roberts Williams, Geoff Charles a Wil Vaughan o’r Cymro – yn cyflwyno cofnod cymdeithasol gwerthfawr o Orllewin Iwerddon yn 1947. Mae’r ffilm yn cofnodi’r daith o Gymru i Ddulyn, ac yna i Spiddal yn Sir Galway, lle caiff y teithwyr eu croesawu i fferm teulu’r Ó Neachtains. Cafodd y ffilm ei hadfer ar y cyd rhwng Archif Ffilmiau Iwerddon IFI ac Archif Ffilmiau Cymru yn 1995, a chafodd ei dangos am y tro cyntaf y flwyddyn honno yn Film Fleadh Galway. Nawr, dros 20 mlynedd yn ddiweddarach, bydd fersiwn newydd wedi’i ddigido o’r ffilm yn cael ei ddangos i gyfeiliant cerddoriaeth fyw. Bydd ffilmiau byrion eraill gan Archif Ffilmiau Iwerddon IFI sy’n olrhain y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon yn cael eu dangos i ategu’r rhaglen.Bydd y ffilmiau mud yn cael eu dangos i gyfeiliant cerddorion Gwyddelig traddodiadol, Saileog Ní Cheannabháin a Pádraic Keane, a fydd yn dwyn eu hysbrydoliaeth gan dreftadaeth gerddorol Gorllewin Iwerddon, sef y lle mae’r ffilm wedi’i lleoli. Mynediad trwy docyn £5.00. Bar ar gael E

Nos Wener 8 Mehefin 7.30pm

Noson acwstig yng nghwmni’r gantores a’r gyfansoddwraig boblogaidd Gymreig.

Mynediad trwy docyn £8.00Bar ar gael

Tocynnau

01970 632 548

digwyddiadau.llyfrgell.cymru

ELIN FFLUR

Page 12: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

22 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 23

GWEITHGAREDDAU I’R TEULU

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

Dydd Iau 2 Awst10.30am

Arts and crafts workshop with the RNLIGweithdy llawn hwyl gydag aelodau’r RNLI. Cyfle i greu eitemau ar thema’r môr i fynd adref gyda chi, gan hefyd ddysgu am ddiogelwch môr. Gweithdy sy’n addas i blant 6–11 oed.Mynediad am ddim trwy docynE

Dydd Iau 16 Awst10.00am

Gweithdy Argraffu Sgrin-sidan: Y Môr Ruth JênHoffech chi greu bag arbennig i gario eich trugareddau i’r traeth yr haf yma? Wel, dyma gyfle i chi ymuno gyda’r artist amryddawn Ruth Jên, gan ddefnyddio proses sgrin-sidan i argraffu bag arbennig. Gweithdy sy’n addas i blant 5–9 oed.Mynediad trwy docyn £10.00 (sy’n cynnwys deunydd a bag i fynd adre efo chi!) C

#Blw

yddynyMôr

Dydd Iau 30 Awst10.00am – 12.00pm

Byd Gwirion a Gwallgo David WalliamsFe’ch gwahoddir i fynd am dro i fyd gwirion a gwallgo David Walliams, un o awduron plant mwyaf poblogaidd y blaned! Cyfle i gamu mewn i fyd y straeon doniol a chwrdd â rhai o’r cymeriadau sy’n ymddangos yn yr addasiadau Cymraeg diweddaraf. Bydd gweithgareddau difyr, digon o hwyl a pharti i ddilyn – y ffordd ddelfrydol i orffen gwyliau haf 2018! Addas i blant 7+.Mynediad trwy docyn £5.00 (sy’n cynnwys byrger a diod yng Nghaffi Pen Dinas) C

Dydd Iau 23 Awst 10.00am

Iwcs a Hwyl Ydych chi am ddysgu chwarae’r ukelele? Neu ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau ar yr offeryn bach o Hawaii? Ymunwch â Steff Rees o Cered mewn gweithdy llawn hwyl wedi ei seilio ar ganeuon hen a newydd o’r Sîn Roc Gymraeg. Addas i bob oedran, o 8 hyd 80! Darperir yr offerynnau ar y diwrnod. Mynediad am ddim trwy docyn C

Page 13: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

ADNODDAU Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

24 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 25

ADNODDAU Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

Llwyfan Torfoli i Gymru Ym 2017, cychwynnodd y Llyfrgell ar gynllun newydd cyffrous i ddatblygu adnodd ar-lein pwrpasol a fyddai’n cynnig mynediad i’r casgliadau cenedlaethol trwy gyfleoedd gwirfoddoli o bell.Bydd y llwyfan torfoli a lansiwyd yn ddiweddar yn ein galluogi i ymgysylltu â gwirfoddolwyr ar draws Cymru a thu hwnt gan eu gwahodd i’n helpu i ddehongli ystod eang o drysorau ein cenedl. Ers mis Ionawr mae gwirfoddolwyr ar-lein wedi bod yn cynorthwyo’r Llyfrgell i ddatgloi hanes cuddiedig y Rhyfel Mawr

trwy drawsgrifio a mynegeio Cofnodion Tribiwnlysoedd Apêl y Rhyfel Mawr Sir Aberteifi. Y rhain oedd y tribiwnlysoedd oedd yn ymdrin ag apeliadau yn erbyn gorfodaeth i fynd i’r rhyfel, am resymau personol, economaidd, moesol neu grefyddol. Mae’r archif yn un hollol unigryw yng Nghymru, ac yn un o’r ychydig o’i math sy’n bodoli yn y Deyrnas Unedig. Mae’r llwyfan torfoli yn arddangos y ddelwedd ddigidol gan ddarparu meysydd penodol ar gyfer mewnbynnu data a disgrifiadau o’r ddelwedd. Pan fydd

gwirfoddolwyr wedi gorffen trawsgrifio’r cofnodion cyfan, bydd modd chwilio’r mynegai yn ôl enw, cyfeiriad, dyddiad, ayb. gan gynnig cyfoeth o wybodaeth ar gyfer teulu, ymchwilwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes y Rhyfel Mawr.Cynlluniwyd y llwyfan i fod yn hyblyg fel y gellid ei addasu dros y tymor hir i arddangos amrywiaeth o gasgliadau LlGC, gan gynnwys ffotograffau, llawysgrifau a dyddiaduron. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn hanes teulu, hanes cymdeithasol neu gasgliadau o arwyddocâd cenedlaethol,

ac os oes gennych hanner awr neu hanner diwrnod o’ch amser i’w roi i helpu’r Llyfrgell, mae croeso i chi ymuno â’n cymuned o wirfoddolwyr ar-lein trwy ymweld â:torf.llyfrgell.cymruAm ragor o wybodaeth, neu am ganllawiau ar sut i ddefnyddio’r wefan, cysylltwch â’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr:[email protected]

Llun i’r chwith: Carnifal Blaenau Ffestiniog - Casgliad Gwilym Livingstone Evans O dan: Gwirfoddolwyr y Llyfrgell

Page 14: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

GWYBODAETH I YMWELWYR

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

26 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 27

GWYBODAETH I YMWELWYR

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

GWASANAETH LLETYGARWCH Os ydych yn chwilio am leoliad godidog ac unigryw ar gyfer eich seremoni briodas, cynhadledd neu ddigwyddiad, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnig nifer o ystafelloedd i’w hurio, ynghyd â chymorth technegol a gwasanaeth arlwyo i hyd at 100 o bobl. Cysylltwch â’r Swyddog Lletygarwch ar [email protected] neu 01970 632 801 i drafod eich anghenion ymhellach.Delwedd: Y Drwm

Dylai pobl sy’n ymweld â digwyddiadau ac arddangosfeydd a gynhelir yn y Llyfrgell fod yn ymwybodol y gallai ffotograffwyr y Llyfrgell fod yno’n tynnu lluniau a fideos. Efallai y bydd y Llyfrgell yn dymuno defnyddio’r lluniau hyn mewn deunydd hyrwyddo a marchnata. Os oes gennych unrhyw wrthwynebiad i’r fath ddefnydd o lun y gallech fod ynddo, rhowch wybod i aelod o staff y Llyfrgell.Mae’r Llyfrgell yn cadw’r hawl i newid amserau a dyddiadau unrhyw ddigwyddiad neu arddangosfa. Mae’r manylion a geir yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.Os bydd digwyddiad yn cael ei ohirio, gwneir pob ymdrech i hysbysu deiliaid y tocynnau.

TEITHIOMae maes parcio cyfleus ger y Llyfrgell neu gallwch deithio ar fws 03 sy’n dilyn taith gylch rhwng tref Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth.

YSTAFELLOEDD DARLLEN • Hanes Lleol • Hanes y Teulu • Ymchwil Beth bynnag fo’ch diddordebau, dyma’r lle delfrydol i gael mynediad at gasgliadau eang y Llyfrgell. Dewch i ddefnyddio ein dwy ystafell ddarllen groesawgar a deniadol a gwneud y gorau o’n holl adnoddau, gyda chymorth staff profiadol a chyfeillgar. Delwedd: Ystafell Ddarllen y De

YMWELDMae teithiau tywys o amgylch y Llyfrgell ar gael bob dydd Llun am 11.00am a phob dydd Mercher am 2.15pm. I archebu tocyn cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01970 632 548 neu archebwch ar y we drwy fynd i digwyddiadau.llyfrgell.cymru.Mae’r Llyfrgell hefyd yn cynnig teithiau tywys i grwpiau a chymdeithasau – am ragor o wybodaeth ffoniwch 01970 632 800 neu e-bostiwch [email protected]

DARGANFOD Eisiau manteisio i’r eithaf ar gasgliadau a gwasanaethau’r Llyfrgell? Os felly, cynhelir sesiynau gwybodaeth ar y pynciau canlynol:• Sesiwn Groeso• Catalogau ac e-adnoddau• Hanes y Teulu a Hanes Lleol• Hanes AdeiladauAm ragor o wybodaeth neu i gadw lle yn un o’r sesiynau, ewch i www.llgc.org.uk/cymorthfeydd neu ffoniwch 01970 632 933

Page 15: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

GWYBODAETH I YMWELWYR

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

28 Digwyddiadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru HAF 2018 HAF 2018 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Digwyddiadau 29

XXXXXX Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

CADW’CH MEWN CYSYLLTIAD

Tocynnau 01970 632 548 | digwyddiadau.llyfrgell.cymru

OS AM GYFLE I ENNILL TALEB GWERTH £20.00 I’W WARIO

YN SIOP Y LLYFRGELL. danfonwch eich syniadau at

[email protected]

BARN Y BOBLBeth, neu bwy, hoffech chi eu gweld yn y Llyfrgell? Os oes gennych unrhyw awgrym am siaradwr, cerddor neu ddigwyddiad yr hoffech ei gynnig, cysylltwch â ni. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych.

CYSYLLTWCH Â:Uned Cysylltiadau Allanol Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth SY23 3BU01970 632 471 [email protected]

CEFNOGI CYFEILLION Y LLYFRGELL Ymunwch â Chyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gefnogi ac i chwarae eich rhan yn ein dyfodol. Cewch ostyngiad o 10% ar rai o’r eitemau yn Siop y Llyfrgell: www.llgc.org.uk/cyfeillion

Y GRONFA GASGLIADAU - Adeiladu’r Dyfodol I sicrhau bod ein gwaith casglu i barhau yn effeithiol a’n casgliadau i fod yn gyfredol, mi fydd rhaid inni sefydlu ffrydiau ariannu tymor hir cynaliadwy. Un ffordd o wneud hyn yw annog rhoddion i’r Gronfa Gasgliadau newydd. Buddsoddir yr arian er mwyn ennill incwm, a’r incwm fydd ar gael i wario ar eitemau newydd i’r casgliadau.Os hoffech ein cefnogi’n rheolaidd neu trwy gyfrannu unwaith yn unig mae cyfrannu ar-lein yn hawdd:www.llgc.org.uk/y-gronfa-gasgliadau

Am wybodaeth bellach cysylltwch â ni: [email protected]

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD!Ymunwch â’n rhestr bostio yn rhad ac am ddim i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y Llyfrgell. Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd i’r cyfeiriad isod.Enw

Cyfeiriad

Rhif ffôn

E-bost

Sut hoffech chi dderbyn eich copi?

Drwy’r post Drwy e-bost

Cefais y llyfryn hwn yn

(nodwch ble, er enghraifft, y Llyfrgell Genedlaethol, Canolfan Groeso Aberystwyth ayb)

Rwy’n deall y caiff yr wybodaeth uchod ei chadw yn y Llyfrgell yn unig, ac na fydd unrhyw gwmni na sefydliad arall yn ei defnyddio.

Dychwelwch y ffurflen wedi’i chwblhau at: Uned Cysylltiadau AllanolLlyfrgell Genedlaethol CymruAberystwyth SY23 3BUNeu drwy e-bost at [email protected]

Llyfrgell Genedlaethol CymruThe National Library of WalesAberystwythCeredigionSY23 3BU

01970 632 [email protected]

Oriau Agor Cyffredinol Dydd Llun – Dydd Gwener 9.30am – 6.00pmDydd Sadwrn 9.30am – 5.00pm

Page 16: Haf 2018 - Hafan | Llyfrgell Genedlaethol Cymru · – Siartio’r Moroedd Siartio moroedd ac arfordiroedd y Byd – sut mae mapiau’n darlunio’r môr a’r morlin, a sut y defnyddir

Kyffin Williams Tu ôl i’r Ffram / Behind the Frame Oriel Gregynog , tan 01.09.18 | Gregynog Gallery, until 01.09.18Delwedd/Images: Chwith/ Left: Evan Roberts © LlGC/NLW Uwchben/ Above: Lle Cul, Patagonia © LlGC/NLW