16
Llais Ardudwy 50c RHIF 426 IONAWR 2014 Gwenno Pugh yw enillydd Fferm Ffactor 2013 - y ferch gyntaf i ennill y teitl yn hanes y gyfres. Fe lwyddodd Gwenno, sy’n ffermio defaid, gwartheg a moch gyda’i gŵr ar eu fferm yn Rhosigor, Talsarnau, i ennill cystadleuaeth gref yn erbyn Dewi a Hefin yn y rownd derfynol, gan dderbyn cerbyd Isuzu D-max Yukon 4x4 newydd sbon yn wobr. “Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn o gwbl. Roeddwn i wedi gobeithio bod y ferch gyntaf i gyrraedd ffeinal Fferm Ffactor ond mae mynd un cam yn bellach ac ennill yr holl beth yn deimlad anghredadwy,” meddai Gwenno. “Ar y cyfan, fe ges i adborth reit dda gan y beirniaid ond roedd yna rai adegau lle’r oeddwn i’n meddwl y buaswn i’n mynd adref; yn enwedig ar ôl y dasg beic cwad ac wedi i fy nhîm golli yn y dasg gwneud selsig. “Mae hi wedi bod yn daith fythgofiadwy a dwi wedi gwneud gymaint o ffrindiau newydd. Braint yw cael bod y ferch gyntaf erioed i ennill teitl Fferm Ffactor.” Dyma ddywed Yr Athro Wynne Jones: “Mae Gwenno wedi cystadlu’n gryf trwy gydol y gystadleuaeth. Mae hi wedi dod i’r brig yn gyson, ac wedi gorffen y gyfres mewn steil.” Meddai un arall o’r beirniaid, Aled Rees, “Trwy gydol y gyfres mae Gwenno wedi bod yn ddibynadwy. Mae hi’n glod i’r diwydiant, yn enillydd teilwng ac yn wir haeddu ei lle yn oriel anfarwol Fferm Ffactor.” Llongyfarchiadau i Gwenno, oddi wrth ddarllenwyr Llais Ardudwy. GWENNO YW ENILLYDD FFERM FFACTOR 2013 FFARWELIO Â PHRIFATHRO Staff estynedig Ysgol Talsarnau Daeth cyfnod i ben yn hanes Ysgol Talsarnau ddiwedd Tymor yr Hydref, wrth i staff a phlant yr ysgol ffarwelio â’u prifathro diwyd, Mr Aled Williams. Roedd yn ŵr uchel iawn ei barch yn yr ardal hon. Bu’n bennaeth ar yr ysgol am ddeng mlynedd ac fe’i gwasanaethodd yn anrhydeddus iawn. Mae wedi ei benodi yn bennaeth Ysgol Llandegfan ar Ynys Môn. Bydd chwith mawr ar ei ôl yn yr ysgol ac yn y pentref, gan ei fod wedi gweithio nerth deng ewin er mwyn cael y gorau ar gyfer y staff a’r plant oedd dan ei ofal. Dymunwn yn dda iawn iddo yn ei swydd newydd a diolchwn iddo am ei gyfraniad gwiw yn yr ysgol a’r pentref. DIFROD AR ÔL STORM Diolch i Hugh Roberts am y ddau lun uchod a dynnwyd ar fore dydd Gwener, Ionawr 3. Yn ôl a ddeallwn, roedd y dŵr o fewn troedfedd i gyrraedd y tai cyngor yn y Bermo. Deallwn bod difrod mawr wedi digwydd mewn ardaloedd eraill hefyd, yn enwedig yn Llanbedr. Hyderwn y daw haul ar fryn i bawb yn yr ardal sydd wedi dioddef o effeithiau’r tywydd garw dros y dyddiau diwethaf.

Llais ionawr 2014

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Papur Bro ardal Ardudwy

Citation preview

Page 1: Llais ionawr 2014

Llais Ardudwy

50c

RHIF 426 IONAWR 2014

Gwenno Pugh yw enillydd Fferm Ffactor 2013 - y ferch gyntaf i ennill y teitl yn hanes y gyfres. Fe lwyddodd Gwenno, sy’n ffermio defaid, gwartheg a moch gyda’i gŵr ar eu fferm yn Rhosigor, Talsarnau, i ennill cystadleuaeth gref yn erbyn Dewi a Hefin yn y rownd derfynol, gan dderbyn cerbyd Isuzu D-max Yukon 4x4 newydd sbon yn wobr.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn o gwbl. Roeddwn i wedi gobeithio bod y ferch gyntaf i gyrraedd ffeinal Fferm Ffactor ond mae mynd un cam yn bellach ac ennill yr holl beth yn deimlad anghredadwy,” meddai Gwenno.

“Ar y cyfan, fe ges i adborth reit dda gan y beirniaid ond roedd yna rai adegau lle’r oeddwn i’n meddwl y buaswn i’n mynd adref; yn enwedig ar ôl y dasg beic cwad ac wedi i fy nhîm golli yn y dasg gwneud selsig.

“Mae hi wedi bod yn daith fythgofiadwy a dwi wedi gwneud gymaint o ffrindiau newydd. Braint yw cael bod y ferch gyntaf erioed i ennill teitl Fferm Ffactor.”

Dyma ddywed Yr Athro Wynne Jones: “Mae Gwenno wedi cystadlu’n gryf trwy gydol y gystadleuaeth. Mae hi wedi dod i’r brig yn gyson, ac wedi gorffen y gyfres mewn steil.” Meddai un arall o’r beirniaid, Aled Rees, “Trwy gydol y gyfres mae Gwenno wedi bod yn ddibynadwy. Mae hi’n glod i’r diwydiant, yn enillydd teilwng ac yn wir haeddu ei lle yn oriel anfarwol Fferm Ffactor.”

Llongyfarchiadau i Gwenno, oddi wrth ddarllenwyr Llais Ardudwy.

GWENNO YW ENILLYDD

FFERM FFACTOR 2013

FFARWELIO Â PHRIFATHRO

Staff estynedig Ysgol TalsarnauDaeth cyfnod i ben yn hanes Ysgol Talsarnau ddiwedd Tymor yr Hydref, wrth i staff a phlant yr ysgol ffarwelio â’u prifathro diwyd, Mr Aled Williams. Roedd yn ŵr uchel iawn ei barch yn yr ardal hon. Bu’n bennaeth ar yr ysgol am ddeng mlynedd ac fe’i gwasanaethodd yn anrhydeddus iawn.Mae wedi ei benodi yn bennaeth Ysgol Llandegfan ar Ynys Môn. Bydd chwith mawr ar ei ôl yn yr ysgol ac yn y pentref, gan ei fod wedi gweithio nerth deng ewin er mwyn cael y gorau ar gyfer y staff a’r plant oedd dan ei ofal.Dymunwn yn dda iawn iddo yn ei swydd newydd a diolchwn iddo am ei gyfraniad gwiw yn yr ysgol a’r pentref.

DIFROD AR ÔL STORM

Diolch i Hugh Roberts am y ddau lun uchod a dynnwyd ar fore dydd Gwener, Ionawr 3. Yn ôl a ddeallwn, roedd y dŵr o fewn troedfedd i gyrraedd y tai cyngor yn y Bermo. Deallwn bod difrod mawr wedi digwydd mewn ardaloedd eraill hefyd, yn enwedig yn Llanbedr. Hyderwn y daw haul ar fryn i bawb yn yr ardal sydd wedi dioddef o effeithiau’r tywydd garw dros y dyddiau diwethaf.

Page 2: Llais ionawr 2014

GOLYGYDDIONPhil MostertBryn Awel, Ffordd Uchaf, Harlech01766 [email protected]

Anwen RobertsBarcdy, Talsarnau01766 [email protected]

Newyddion/erthyglau i:Haf Meredydd14 Stryd Wesla, Porthmadog01766 [email protected]

Trefnydd HysbysebionAnn LewisMin y Môr, Llandanwg01341 241297

TrysoryddIolyn JonesTyddyn Llidiart, Llanbedr 01341 241391

Casglwyr newyddion lleolY BermoGrace WilliamsDavid JonesDyffryn ArdudwyGwennie RobertsSusan GroomLlanbedrGweneira JonesSusanne DaviesLlanfair a LlandanwgBet RobertsAnn LewisHarlechEdwina EvansCarol O’NeillJanet MostertTalsarnauGwenda GriffithsAnwen Roberts

Bydd y rhifyn nesaf yn ymddangos ar Chwefror 5. Newyddion i law Haf erbyn Ionawr 25 os gwelwch yn dda. Cedwir yr hawl i docio erthyglau. Gosodwyd y rhifyn hwn yn gyfangwbl electronig. O hyn ymlaen, ni fydd yn bosib cynnwys unrhyw newyddion hwyr dan y drefn newydd hon.

Llais Ardudwy

Y rhain o’r dwyrain sy’n dod – i siarad Am seren wrth Herod; Ymholi ar gamelod Am Un bach, y mwya’n bod.

Gwilym Herber Williams

Aeth bron i ugain mlynedd heibio er pan ddangoswyd yr olaf o gyfresi gwreiddiol C’mon Midffîld ar S4C, ond mae cwlt C’mon Midffîld yn fyw ac yn iach ac yn ennill tir. Mae’r llyfr yma’n ddathliad o’r cyfan o safbwynt yr awduron a’r actorion - o’r tic-tacs cyntaf i’r asiffeta olaf.

Mewn tafarn yn yr Wyddgrug yn 1978 cynhaliwyd y sgwrs a fyddai’n arwain at greu C’mon Midffîld, ac o’r sgwrs honno tyfodd tair cyfres radio, pum cyfres deledu, dwy ffilm, sioe lwyfan, casét o ganeuon, rhaglen Nadolig arbennig, sgetshis, gemau pêl-droed go iawn, cwisiau tafarn a dynwarediadau lu. Mae pobl ifanc a phlant oedd heb eu geni pan oedd Arthur Picton, Wali Tomos, Tecs, Sandra, George a’r gweddill yn eu hanterth yn medru adrodd talpiau hir o’r sgriptiau ar eu cof.

Mi gewch flas anghyffredin ar y llyfr a chyfle i ailfyw rhai o’r profiadau doniol gafodd y cymeriadau.

Llyfr clawr caled yw hwn. Ioan Roberts yw’r awdur. Pris - £12 Mae o’n werth bob ceiniog. Chwiliwch am gopi er mwyn gwario’r tocynnau llyfr gawsoch chi gan Santa.

HOLIADUR HWYLIOG

Dyma gyfres newydd o gwestiynau, a’r tro hwn rydan ni am wahodd ‘dysgwyr’ yn ogystal â phobl sy’n rhugl yn y Gymraeg. Os gwyddoch chi am ddysgwyr da, rhai sydd wedi croesi’r bont, mae croeso i chi ofyn y cwestiynau iddyn nhw a’u hanfon atom ni. Diolch.Un sydd wedi dysgu Cymraeg, a hynny yn dda iawn, yw Myfanwy Jones.Enw: Myfanwy Jones Gwaith: Wedi ymddeol Man geni: Mi ges i fy ngeni yn swydd Nottingham, ond deallaf i mi gael fy nghenhedlu yng Nghymru. Sut ydych chi’n cadw’n iach? Dwi’n mynd i ddosbarth Pilates yn Nhalsarnau a hefyd yn mynd i aquaerobics. Beth ydych chi’n ei ddarllen? Llyfr Rosie Thomas, ‘The Kashmir Shawl’. Pa un yw eich hoff raglen ar y radio neu’r teledu? Drama cyfnod. Ydych chi’n bwyta’n dda? Ydw, ac yn amrywio’r diet. Hoff fwyd? Kedgeree. Hoff ddiod? Gwin coch.

Pwy fuasai’n cael dod allan i fwyta efo chi? Julie Walters. Pa le sydd orau gennych? Harlech. Ble cawsoch chi’r gwyliau gorau? Teithio hefo Bob yn America a Chanada â sachau ar ein cefnau.Beth sy’n eich gwylltio? Eglwysi a chapeli nad ydynt yn cael eu defnyddio. Beth yw eich hoff rinwedd mewn ffrind? Hiwmor tebyg i fy un i. Pwy yw eich arwr/arwyr? Byddin yr Iachawdwriaeth. Beth yw eich bai mwyaf? Fy mod i’n bwyta gormod! Beth ydych chi’n ei gasáu mewn pobl? Pobl sy’n clebran. Beth yw eich syniad o hapusrwydd? Gwrando ar gorâl gan Bach. Eich hoff liw? Coch, mae’n lliw sy’n codi fy nghalon. Eich hoff flodyn? Cennin Pedr, mae’n flodyn sy’n fy ngwneud yn hapus, yn flodyn sy’n gwenu. Eich hoff fardd? John Betjeman am ei hiwmor. Roedd o’n gymeriad. Eich hoff gerddor? Bach. Rydw i’n hoff iawn o waith corawl ac o wrando ar yrorgan. Eich hoff ddarn o gerddoriaeth? Vivaldi - Y Pedwar Tymor. Pa dalent hoffech chi ei chael? Medru chwarae’r soddgrwth [cello]. Eich hoff ddywediad? ‘O lygad y ffynnon.’ Sut buasech chi’n disgrifio eich hun ar hyn o bryd? Rydw i’n lwcus ac yn hapus iawn fy mod yn byw yn Harlech.

SIOP DEWIMWY NA SIOP BAPUR

14 Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth01766 770266

[email protected] Agor:

Llun–Sadwrn o 6.00 tan 6.00, Dydd Sul o 6.00 tan 1.00BARA A BWYDYDD POETH

Y dewis gorau o bapurau a chylchgronau, melysion, baco, mapiau, llyfrau, diodydd meddal, hufen iâ a Loteri.

2

Page 3: Llais ionawr 2014

Y BERMO A LLANABER

3

Y Gymdeithas GymraegAr y 9fed o Ragfyr 2013,croesawodd John dri gŵr doeth o’r dwyrain atom sef, Al Tŷ Coch, Eilir yr Hendre a Glyn Tynbwlch, y tri o ardal Penllyn.Wel, am noson ddifyr. Roedd ganddynt hen greiriau diarth iawn yr olwg a rhaid oedd dyfalu pa un o’r tri oedd yn dweud y gwir am eu defnydd gwreiddiol. Roedd y tri cystal â’i gilydd am ddweud celwyddau a chawsom lond bol o chwerthin yn eu cwmni. Edrychwn ymlaen yn eiddgar am eu hymweliad nesaf â’r Gymdeithas Gymraeg.Byddwn yn cwrdd nesaf ar 8 Ionawr pryd gawn gwmni Mai a David Roberts, Dyffryn Ardudwy. Dymunwn Flwyddyn Newydd Dda i bawb.

Difrod ar ôl stormTynnwyd y llun ar y dde ym mis Ionawr, 2014. Tynnwyd y llun isod yn yr un lle ym mis Tachwedd 1931. Diolch i Hugh Roberts am y ddau lun.

R.J.WILLIAMS ISUZUTalsarnau 01766 770286

TRYCIAU ISUZU

R J Williams a’i FeibionGarej Talsarnau

Ffôn 01766 770286 Ffacs 01766 771250

RhoddCafwyd rhodd o £20 i’r Llais oddi wrth Iwan Bryn ac Enid Williams. Mae Iwan yn un o hogia Twyni gynt.

LlongyfarchiadauI Dorothy a Gareth, Craig y Wylan, Llanaber, ar enedigaeth eu hwyres fach, Gwenno Fflur, ar 24 Rhagfyr, merch fach i Siân a Hefin, Parc Isaf, Talybont. Yn dilyn y storm enfawr, bu difrod garw iawn i’r rheilffordd yn

Llanaber. Disgynnodd tunelli o rwbel ar y traciau mewn mannau a hefyd mae darnau helaeth o’r sylfeini wedi eu golchi ymaith rhwng Caerddaniel a diwedd y Promenâd. Diolch i John Williams, Hendreclochydd, am anfon y tri llun yn y golofn hon atom.

Honda Civic Tourer Newydd

Page 4: Llais ionawr 2014

LLANBEDR, CWM BYCHAN A NANTCOL

Rhai ymwelwyr o Huchenfeld ddaeth i’r Ŵyl Gwrw yn Llanbedr eleni

Ym mis Tachwedd y llynedd, arweiniodd Evie M Jones ei daith gyntaf i Gymdeithas Edward Llwyd yng Nghwm Nantcol. Daeth dipyn o bobl draw i ymuno â’r daith, ac yn y llun mae’r bobl oedd â chysylltiad ag Ardudwy.

Cymdeithas Cwm Nantcol Cawsom ein cinio Nadolig eleni yn y Clwb Golff yn Harlech. Mwynhawyd pryd blasus iawn a’r gwmnïaeth ddifyr arferol, gan gynnwys cwmni capten y Clwb, Gerallt Evans, sydd hefyd yn aelod hefo ni! Ein diddanwyr eleni oedd Treflyn ac Ann o Borthmadog. Un o blant Harlech yw Ann a bu Treflyn, a fagwyd ym Mhorthmadog, yn athro yn Ysgol Tanycastell ar ddechrau ei yrfa. Cawsom gan Treflyn unawdau ysgafn a chlasurol oedd yn dangos cyfoeth ac amrediad ei lais soniarus. Afraid dweud bod cyfeilio Ann o’r radd uchaf. Mwynhawyd y noson yn fawr gan bawb.Roedd 19 o wobrau raffl a’r enillwyr yn rhy niferus i’w rhestru!Bydd y tymor yn ailgychwyn ar nos Lun, Ionawr 13, pan ddisgwylir Glyn Williams, Borth-y-gest, i’n diddori.Ar Ionawr 27, disgwylir Iwan Morgan a Bryn Williams i gynnal noson o frethyn cartref dan arweiniad Phil Mostert. Mae croeso cynnes i unrhyw un droi i mewn atom. Cewch adloniant difyr, sgwrs, a phaned a chacen cyn troi am adref.

Cyhoeddiadau’r SulIONAWR Am 2.00 o’r gloch oni nodir yn wahanol12 Capel y Ddôl, Parch Carwyn Siddall19 Capel y Ddôl, Mrs Glenys Jones26 Capel Nantcol, Parch Dewi Tudur

Cymdeithas Edward Llwyd

Y Cylch Meithrin

Daeth plant o Gylch Meithrin Llanbedr i ymweld â Llyfrgell Harlech yn ystod mis Rhagfyr. Cafwyd hwyl a sbri yn gwrando ar storïau, canu a gwneud hosanau Nadolig ar gyfer y goeden. Mae croeso cynnes i unrhyw gylch Meithrin, cylch Ti a Fi ac ysgol gynradd i drefnu ymweliad â’r Llyfrgell yn ystod y flwyddyn er mwyn cael storïau, crefft, cwis neu sgwrs am y Llyfrgell. Cysylltwch ag Anna Yardley Jones ar 01766 514091 i drefnu.Gwnewch adduned blwyddyn newydd i gefnogi eich llyfrgell leol!

4

Diolch Dymuna teulu Cwm-yr-afon ac Elizabeth a Catrin, Cartref; Evan eu brawd ac Eleanor eu chwaer, ddiolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth drist o golli Tom - tad, taid, a brawd hoff. Diolch arbennig i Bethan Johnstone ac Arwel Jones, y Parchedig Peter James, Lisbeth James a Janet Pugh, a’r organydd Edward Owen am eu gwasanaeth yng Nghapel Rehoboth ac yn y fynwent ddydd yr angladd, a hefyd i Malcolm Griffiths a’i gwmni am y trefniadau. Diolch i bawb. £20 Rhodd i’r Llais

Anfonwn ein cydymdeimlad â Mrs Hooson, Pengarth isa yn ei cholled ym marwolaeth ei merch Salomi a oedd yn nyrs yn Aberystwyth. Does ond ychydig o fisoedd yn ôl pan fu farw ei mab James. Cydymdeimlwn â hi a’i theulu yn ei phrofedigaeth fawr.

Yng Nghapel Nantcol ar Sul y 15fed o Ragfyr cafwyd gwasanaeth Nadoligaidd ei naws gan aelodau o Glwb Ffermwyr Ieuanc yr ardal dan arweiniad Morfudd Lloyd. Diolch yn fawr iddynt ac am y paned a mins pei cyn mynd adre.

Mae Gwenda a Glyn Davies, Tregarth yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda a dedwydd iawn i’w holl ffrindiau yn Ardudwy.

Bu Meira Pierce, Bryn, mewn ysbyty yn Lerpwl yn cael llawdriniaeth ar ei chalon. Deallwn ei bod yn cryfhau bob dydd ac rydym yn falch o glywed hynny.

DiolchDymuna Meira Pierce, Bryn, Llanbedr, ddiolch o galon i’r llu o ffrindiau, cymdogion a theulu am y dymuniadau da a dderbyniodd drwy alwadau ffôn, cardiau a rhoddion cyn ac yn dilyn ei llawdriniaeth yn yr ysbyty yn ddiweddar.£10 Rhodd a diolch.

RHODDION Cafodd y Llais anrheg Nadolig arbennig iawn o £100 oddi wrth Edith Owen, Cemaes (Treflyn gynt). Diolch yn fawr iawn iddi.

Diolch yn fawr am y rhoddion i’r Llais gan: Morfudd Lloyd, Tyddyn Hendre, Cwm Nantcol £20 Gwenda Davies, Tregarth £7, Geraint Owen £12, Deilwen Jee £7, Edith Owen £2, Paul Jones £1.50, Isgoed Williams £1.

Page 5: Llais ionawr 2014

LLANFAIR A LLANDANWG

Neuadd Goffa, LlanfairGYRFA CHWIST

3ydd nos Fawrth yn y misam 7.00 o’r gloch

Croeso i ddechreuwyr.

CYNGOR CYMUNED

EGLWYS LLANFAIR

Gwasanaeth Plygain

Nos Fercher, Ionawr 15am 7.00

Croeso cynnes i bawb

5

Pwyllgor Neuadd Goffa Adroddodd Robert G Owen a Mair Thomas bod dipyn o gostau yn wynebu’r pwyllgor oherwydd eu bod wedi gorfod gosod drws newydd ar yr hen doiled, gosod peipen ddŵr newydd, newid bocs y meter trydan a thocio’n ôl y goeden oedd yn tyfu drosodd i ardd Tŷ Mawr. Bydd y pwyllgor yn codi prisiau llogi’r neuadd ym mis Ionawr 2014. Ar ôl trafod cytunwyd i roi £1,800 o gyfraniad ariannol iddynt.Yr ElorMae’r uchod yn dal yng Nghae Cethin a datganodd y Clerc bod Catrin Glyn, Swyddog Datblygu’r Lasynys Fawr wedi bod mewn cysylltiad yn datgan bod ganddynt ddiddordeb mawr mewn benthyg yr elor. Gofynnwyd i’r Clerc gysylltu unwaith yn rhagor â Catrin Glyn yn gofyn a ydynt eisiau’r elor yn Y Lasynys cyn i’r gwaith o wneud y gwelliannau gael ei orffen.Coed yn y FynwentMae pryder wedi codi ynglŷn â chyflwr y coed yn y fynwent. Cytunwyd i ofyn i ‘Tree Fella’ am bris i wneud y gwaith a gofyn iddo gyfarfod â Robert G Owen ar y safle’n gyntaf. Hefyd cafwyd gwybod bod llechen wedi dod yn rhydd ar do porth yr eglwys. Penderfynwyd gofyn i Mr Emlyn Griffiths ei thrwsio.Ceisiadau CynllunioEstyniad - Sarn Badrig, Cefnogi’r cais hwn.Unrhyw Fater ArallDatganwyd pryder nad yw’r gwaith sy’n cael ei wneud i Ysgubor Talarocyn yn cyd-fynd â’r cynlluniau a chytunodd Caerwyn Roberts ddelio gyda’r mater.Eisiau gwybod pam nad ydy’r bws coleg yn mynd i fyny drwy’r pentref erbyn hyn.Mae angen torri’r eiddew ger Castellfryn a chytunwyd i gael golwg mwy manwl ar y safle cyn anfon llythyr.

Cwpled Derbyniwyd y cwpled amserol hwn gan Winnie Griffith, Llanfair. Diolch Winnie, “Wyt Ionawr yn oer a phrin dy hwyl, Mis crafu’r esgyrn ar ôl yr Ŵyl.”

Merched y WawrEisteddodd deunaw o aelodau, ynghyd â’r gŵr gwadd Phil Mostert, i ginio Nadolig yn Hendre Coed, Llanaber. Mwynhawyd cinio blasus iawn cyn i Phil roi hanesion difyr am yr adeg y bu’n ymweld ag ysgolion yn rhinwedd ei swydd fel ymgynghorydd addysg. Bronwen, ein Llywydd, a ddiolchodd i staff Hendre Coed, i Phil am ein diddori, ac i Eirlys a fu’n gyfrifol am yr holl drefniadau.

Pen-blwydd arbennigPob hwyl ar y dathlu, Rob (Cae Cethin), yn dilyn dy ben-blwydd arbennig yn 60 ar ddiwrnod ola’r flwyddyn. Cofion cynnes oddi wrth y teulu a dy ffrindiau i gyd.

Gêm Rygbi’r Cyn-chwaraewyr Chwaraewyd y gêm rygbi arferol ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 28, pan ddaeth rhai o’r cyn-chwaraewyr at ei gilydd i herio’r tîm ifanc presennol. Deallwn mai’r cyn-chwaraewyr a orfu eleni. Yn ôl ein gohebydd, seren y gêm oedd Meilir Roberts, Uwchglan, Llanfair, a sgoriodd ddau gais a throsi pump. Da iawn Meilir, a diolch i ti am yr holl waith da yr wyt ti’n ei wneud dros y Clwb Rygbi.

Meilir Roberts - seren y gêm

RHAGOR O LANBEDR GŴYL GWRW

LLANBEDR Cymorth Ariannol i Grwpiau a Phrosiectau Cymunedol Mae Pwyllgor Gŵyl Gwrw Llanbedr yn gwahodd ceisiadau oddi wrth grwpiau a sefydliadau o fewn Llanbedr a’r ardal gyfagos am grantiau bychain ar gyfer prosiectau penodol neu arian refeniw. Gellir cynnwys ysgolion, sefydliadau gwirfoddol, clybiau chwaraeon neu grwpiau cymdeithasol ar gyfer bob oedran. Cynigir yr arian i ymgeiswyr llwyddiannus o’r elw a wnaed o Ŵyl Gwrw Llanbedr 2013. Efallai y bydd angen elfen gyfatebol, hyn yn dibynnu ar natur y cais.Dylai pob ymgeisydd baratoi cynllun prosiect gydag amcangyfrif o gostau ar gyfer prosiect adnabyddadwy neu angen penodol. Am fwy o fanylion a ffurflen gais, cysylltwch â Robin Ward, Ysgrifennydd ar 01341 241218 [email protected] dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau cyflawn - 31.01.14

YmddeoliadYn ystod 2013, ymddeolodd Mair Richards o Gyngor Cymuned Llanbedr. Hi oedd y ferch gyntaf i fod yn gynghorydd yn Llanbedr yn ôl y sôn a bu’n aelod am gyfnod hir. Dros y blynyddoedd hefyd mae hi ac Euron wedi bod yn hynod o weithgar yn y pentref. Daliwch ati.

Merched y Wawr NantcolAr Nos Fercher, Rhagfyr 4ydd,cawsom air o groeso gan Mair cyn canu cân y Mudiad i gyfeiliant Rhian. Cydymdeimlwyd â Heulwen wedi colli modryb yn Llanbrynmair. Dymunwyd gwellhad buan i Meira adref ar ôl derbyn llawdriniaeth yn Lerpwl ac i Olwen sydd wedi dod adref o Ysbyty Dolgellau. Ymlaen wedyn i estyn croeso cynnes i’r wraig wadd sef Siân Jones, sydd yn wreiddiol o Benrhyn-coch ac yn awr yn byw yn Llanegryn. Rheolwraig Wynnstay yn Nhywyn yw Siân ac wrth ei bodd yn gweithio yno ers 2007 erbyn hyn. Ar ôl graddio aeth i wneud cwrs blwyddyn yn Ffrainc cyn dychwelyd i weithio yng Nganllwyd a bu ym Mhortmeirion am 4 blynedd hefyd. Cawsom hwyl a sbort yn ei chwmni yn dweud ei hanes a chael ambell rysáit hefyd, yn cynnwys un arbennig oedd wedi ei gael gan ei Nain, sef yr “Honeymoon Pudding”. Yn ogystal â’i gwaith yn Wynnstay, mae Siân yn codi’n fore iawn i goginio pob math o ddanteithion ac maent ar gael yn siop y Spar a’r Caffi yn Nhywyn.Coginio Nadolig oedd thema’r noson ac fe gawsom flasu cymysgedd o ddanteithion bwffe yr oedd wedi eu paratoi ar ein cyfer - o fara a pharseli crwst wedi eu llenwi â chaws meddal a chaled, bacwn, eog, garlleg, chilli a phicl cymysg - roeddent i gyd yn flasus iawn! Gwen ddiolchodd i Siân ar ein rhan am y wledd a’r hwyl. I ddilyn, cawsom wledd arall gyda’n paned, cacennau wedi eu haddurno’n Nadoligaidd wedi eu paratoi gan aelodau Uwchartro.

Page 6: Llais ionawr 2014

DYFFRYN ARDUDWY A THAL-Y-BONT

6

Owen Gwilym Thomas, y Cyng. Gareth Roberts a’r Cyng. Eryl Jones-Williams sy’n cynrychioli Dyffryn Ardudwy a Thal-y-bont

ERYROD EIRA

Festri Lawen, HorebCynhaliwyd cinio Nadolig y Festri Lawen yng Ngwesty’r Aelybryn, nos Iau, 12 Rhagfyr. Croesawyd pawb gan y Cadeirydd Mr Dei Griffith a diolchodd i Anwen am wneud yr holl drefniadau. Wedi’r gwledda croesawodd Dei’r efeilliaid o Harlech, Roger a John Kerry a Gwynne Pierce o Lanbedr i’n diddori a mwynhawyd eu canu yn fawr iawn. Diolchodd Dei yn gynnes iawn iddynt a dymunodd yn dda i Roger a John ar eu hymddeoliad.Ar 9 Ionawr byddwn yn croesawu Alison Palmer Hargrave atom i sôn am fywyd gwyllt arfordir Cymru.

Teulu ArdudwyBnawn Mercher, 18 Rhagfyr, cyfarfu’r aelodau yn Tŷ Mawr, Llanbedr am ginio Nadolig. Roedd y cinio, y croeso a’r gwasanaeth yn arbennig a phawb wedi mwynhau.

Diolchwyd yn gynnes iawn i’r staff gan Gwennie ac i amryw o’r aelodau oedd wedi cyfrannu at y raffl ac i Siop Fox’s a London House am roddi gwobrau. Bydd y cyfarfod nesaf ar 15 Ionawr pryd y cawn gwmni Rhian ac Eifiona i roi hanes eu taith i Ganada i gwrdd â’u teulu.

Gwasanaethau’r Sul, HorebIONAWR 201412 – Hilda Harris19 – Y Parch Megan Williams, 5.30 26 - Mr Dewi JonesCHWEFROR2 – Y Parch Christopher Prew, 5.30

Rhodd - £5 Miss Mary Williams, Cynefin, Talybont

Gwasanaethau NadoligDaeth cynulleidfa deilwng i Wasanaeth Nadolig yr ysgol gynradd yng Nghapel Horeb. Gwasanaeth hyfryd iawn. Gwnaed casgliad at yr NSPCC.Yr un noson, roedd Noson o Garolau yn y Neuadd Bentref dan arweiniad Aled Morgan, a Chôr Meibion Ardudwy.Fore Sul, 22 Rhagfyr yn Horeb, cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig gan blant yr Ysgol Sul a’r oedolion. Yn dilyn, cafwyd paned a mins pei ac ymweliad gan Siôn Corn.Fore dydd Nadolig cynhaliwyd gwasanaeth byr dan ofal Mr Huw Dafydd yn Horeb.

ColledCydymdeimlwn yn ddwys iawn â holl deulu Danielle Wrighton yn eu profedigaeth fawr o golli merch annwyl iawn yn dilyn damwain mor erchyll. Gweddïwn am i chi gael nerth i’ch cynnal drwy’r amser anodd hwn.

Gwirfoddolwyr cymunedol yn halen y ddaearBydd gwirfoddolwyr o chwe chymuned yng Ngwynedd yn chwarae rôl flaenllaw yn cyflawni’r gorchwylion bach ond pwysig yn eu hardaloedd lleol yn ystod cyfnodau o dywydd gaeafol er mwyn helpu i sicrhau bod pawb yn gallu crwydro o amgylch eu pentrefi.Fel rhan o gynllun peilot Eryrod Eira, mae gwirfoddolwyr o sawl cymuned yng Ngwynedd, yn cynnwys Dyffryn Ardudwy, wedi derbyn offer a hyfforddiant gan y Cyngor i’w galluogi i glirio rhew ac eira o balmentydd a llwybrau lleol yn ystod tywydd gaeafol.Pan mae rhew ac eira yn cael ei ragweld, mae staff Priffyrdd a Bwrdeistrefol y Cyngor yn gorfod cadw’r 665 milltir o ffyrdd flaeno-riaeth gyntaf Gwynedd, sy’n cynnwys ffyrdd at ysbytai, ar agor. O ganlyniad, dydyn nhw ddim bob amser mewn sefyllfa i ymateb yn syth i geisiadau gan y cyhoedd i glirio rhew ac eira o balmentydd neu lwybrau. Dyma pam ein bod wedi cyd-weithio gydag aelodau lleol i sefydlu’r cynllun peilot Eryrod Eira, gyda’r nod o helpu cymunedau i helpu’u hunain yn ystod cyfnodau o eira mawr neu dywydd gaeafol eithafol. Yn Nyffryn Ardudwy, bydd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn cael cymorth gan y gwirfoddolwyr Alan Gerrard, Dewi Evans, Gareth Corps ac Owen Gwilym Thomas ar y cynllun peilot. R A B I

Merched o ardal Ardudwy sydd yn flaenllaw yng ngwaith RABI. Yn y llun, mae tair o ferched Ardudwy -

Jane, Ystumgwern; Olwen, Ty’n Braich; a Meinir, Cefn Isa’.

CydymdeimladCydymdeimlwn â Mrs Olive Williams, Glyn Berws, Talybont, yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer yn ardal Glyn Ceiriog.

GenedigaethLlongyfarchiadau a dymuniadau gorau i Hefin a Siân Edwards, Parc Isa, ar enedigaeth merch fach, Gwenno Fflur.

CofionAnfonwn ein cofion a’n dymuniadau gorauat Miss Mary Jones, Tyddyn y Felin, Talybont sydd wedi syrthio a thorri ei chlun. Deallwn ei bod wedi dod o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Dolgellau.

Colli cymwynaswr ninnau ar fin mynd i’r wasg, daeth tristwch mawr i’r ardal wrth i ni glywed y newydd drwg am farwolaeth Mr Emyr Pugh, Llwyn, Talybont a fu’n glaf yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar.

Roedd Emyr yn ŵr bonheddig ac yn gymwynaswr heb ei ail.Roedd yn gefnogol i nifer fawr o weithgareddau yn y pentref, ym Mro Ardudwy ac ymhell tu hwnt i hynny. Bydd coffâd llawn iddo yn ein rhifyn nesaf.

Cydymdeimlwn yn ddwys iawn â’i wraig Eiris, y plant Hywel a Lyn a’r wyrion, a’r teulu oll yn eu profedigaeth lem.

Page 7: Llais ionawr 2014

CEIR MITSUBISHI

Smithy Garage LtdDyffryn ArdudwyGwyneddLL44 2ENTel: 01341 [email protected]

RHAGOR O DYFFRYN A THAL-Y-BONT

HOLI AM DDAU LUNA all rhywun helpu gydag enwi’r plant yn llun uchod o hen Ysgol Cwm Nantcol? Hefyd a oes gan rywun syniad am y llun arall isod – lle y tynnwyd y llun, os gwelwch yn dda? Cefais y lluniau yma gan ddyn sy’n gweithio hefo fi yn Ysbyty Llandudno. Dywedodd wrthyf fod dau o’r plant yn y llun ysgol yn perthyn iddo fo, ond doedd ganddo ddim syniad am y llun arall.Diolch yn fawr.Nia [Fron Goch]

CYNGOR CYMUNED

7

Cydymdeimlodd y Cadeirydd â’r Clerc a’r teulu yn dilyn ei phrofedigaeth o golli ei hewythr Mr Tom Richards.Llongyfarchwyd Pwyllgor y Neuadd am y ffair Nadolig wych, CFfI Meirionnydd am ddod yn ail yn Eisteddfod Cymru, Côr CFfI Meirionnydd am ddod yn 1af drwy Gymru, a Mr Jamie Brooks am ennill trwy Brydain fel yr adeiladwr gorau yn y categori cartrefi 1-5 datblygiad bach gorau.DATGAN BUDDDatganodd Emrys Jones fudd yng nghais cynllunio Ysgubor ger Cae Tani, Tal-y-bont. Nid oedd yn bresennol i drafod y cais. CEISIADAU CYNLLUNIO Newid defnydd o safle gwersylla - Tir yn Nhyddyn Goronwy, Tal-y-bont. Angen mwy o wybodaeth ynglŷn â’r cais cyn gwneud penderfyniad.Trosi ysgubor yn dŷ menter wledig - Ysgubor ger Cae Tani, Talybont. Cefnogi’r cais.Ceisiadau Cynllunio a phenderfyniad arnyntAdeiladu hafdy yn yr ardd gefn - 29 Glan Ysgethin, Talybont - caniatáuAdeiladu estyniad ochr - Gors Dolgau, Dyffryn Ardudwy - caniatáuAdeiladu 3 ffenestr dormer - Plas Heulwen, Dyffryn Ardudwy - gwrthodCyfarfod gyda Chyngor Cymuned Llanbedr Adroddwyd bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd wedi mynychu’r cyfarfod uchod a chafwyd adroddiad manwl. Pwyllgor Elin Humphreys Mae Geraint Wynne wedi ymddeol o’r pwyllgor hwn ar ôl bod arno am 32 o flynyddoedd ac mae Mrs Pat Thomas wedi ei hethol yn Gadeirydd yn ei le. Adroddwyd ymhellach bod deg unigolyn wedi cael £100 yr un o’r gronfa.GOHEBIAETH Cyngor Gwynedd - Adran BriffyrddCais yn gofyn am arwydd arall i ystâd Glanrhos wedi ei basio ymlaen i Gaernarfon. Nid cyfrifoldeb yr Adran Briffyrdd yw ochor y ffordd o faes parcio’r fynwent. Mae’r gwaith o ddraenio ac atgyweirio wyneb y ffordd o Bron y Foel Uchaf i Talffynhonnau wedi ei raglennu. Eisiau holi pwy sy’n gyfrifol am y darn tir uwchben maes parcio’r fynwent os nad yw’n perthyn i’r Cyngor Sir.

TRAED BACH

Yn ddiweddar, aeth aelodau o Bartneriaeth Economaidd Gwynedd i weld menter ‘Traed Bach’, sef busnes gofal plant sydd wedi ei sefydlu gan ddwy chwaer a mam yn Nhal-y-bont. Mae’r chwiorydd yn gyfrifol am ofalu am uchafswm o bum plentyn y diwrnod, ac yn gallu cynnig gwasanaeth gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg.“Mae cychwyn y fenter yma wedi fy ngalluogi i fel rhywun ifanc i aros i fyw a gweithio yn yr ardal, ac mae gallu cychwyn menter deuluol gyda fy mam a fy chwaer yn rhywbeth yr ydw i’n falch iawn ohono,” meddai Rwth Jones, cydberchennog Traed Bach.

Moira Jones, yn trafod datblygiadau’r busnes gydag Eurwyn Edwards, Aelod o Bartneriaeth Economaidd Gwynedd

Page 8: Llais ionawr 2014

HARLECH

TOYOTA HARLECHFfordd Newydd, Harlech 780432

AURIS

YARIS

Dewch i holi am ein cynigion arbennig

ar Yaris ac Auris.

Gwasanaeth Carolau UndebolRoedd yn hyfryd gweld Eglwys St Tanwg yn orlawn ar gyfer y gwasanaeth undebol ddechrau mis Rhagfyr. Cafwyd darlleniadau gan bron bob capel ac eglwys yn yr ardal, a chyfraniadau gloyw gan Feibion Prysor o Drawsfynydd a Seindorf Harlech. Casglwyd £504 at Apêl y Philipinos. Mwynhawyd mins pei a gwin cynnes ar ddiwedd yr oedfa.

Noson o GarolauDaeth cynulleidfa dda ynghyd i noson garolau’r Cyngor Cymuned a gynhaliwyd yn Ysgol Ardudwy ar Ragfyr 18, yng nghwmni Côr Tanycastell, Côr Ysgol Ardudwy, Seindorf Harlech a Chôr Meibion Ardudwy. Trefnwyd raffl ar gyfer Apêl y Philipinos a llwyddwyd i godi dros £140 at yr achos teilwng hwn.

Capel JerusalemYn dilyn y gwasanaeth Nadolig ddechrau Rhagfyr dan arweiniad Mr James Nelson, penderfynwyd anfon £50 at Apêl y Philipinos.

Mrs Glenys Stuart, KiltanA hithau yn 96 oed, bu farw Mrs Anne Glenys Stuart o Kiltan, Ffordd Uchaf. Ganwyd hi yn Harlech a bu’n byw yn Lerpwl gyda’i brodyr Ivor a Humphrey, dau gapten ar y môr fel eu tad. Daeth yn ôl i Kiltan i fwynhau 38 mlynedd o ymddeoliad hapus gyda’i diweddar ŵr, Leslie, a fu farw yn 2005. Roedd ei meddwl yn fywiog tan y diwedd ac roedd yn gadarn ei barn mai yn Kiltan, yn edrych ar y golygfeydd godidog dros Fae Tremadog, yr oedd am orffen ei dyddiau. Dywedodd Mrs Stuart lawer tro mor ffodus yr oedd hi o’i gofalwyr tyner a’i galluogodd i wneud hyn.Cydymdeimlwn â’r ddau fab, Graham a Peter, a’u teuluoedd yn eu profedigaeth.

Perfformiad gwychPleser yw llongyfarch Eifion Roberts, 28 Tŷ Canol, am redeg mor wych yn yr hanner marathon a gynhaliwyd yn Aberystwyth yn ddiweddar. Ef enillodd y ras i redwyr dros 50 oed. Da iawn Eifion.

8

PWLL NOFIO HARLECH

Nid oes gennym bellach ond tri aelod o’r Bwrdd Rheoli sy’n gweithio’n ddygn i gadw’r cyfleuster hamdden hwn ar agor i’r cyhoedd. Rydym hefyd yn ffodus o gael cymorth gan staff a gaiff eu cyflogi yn y ganolfan a grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr. Er mwyn i’r cyfleuster hwn aros ar agor mae angen cryfhau Bwrdd y Cyfarwyddwyr a gwneud defnydd ehangach o wirfoddolwyr. Mae angen i’r gymuned leol helpu i wneud i hyn ddigwydd. Mae yna hefyd rwystrau ariannol sylweddol i’w wynebu dros y misoedd nesaf. Teimlwn yn gryf - gyda’r cymorth cywir yn ei le - bod nifer o opsiynau ar gael i ni ond ni ellir cyrraedd y nod gydag ond tri aelod ar y Bwrdd Rheoli.

PWLL NOFIO HARLECH CYFARFOD

CYFFREDINOLTheatr Harlech Ionawr 21, am 6.30.

Croeso cynnes i bawb.

YsbytyAnfonwn ein cofion at Arawn Jones, Cerrig Gwaenydd, a fu’n glaf yn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar. Er ei fod dros ei 80 oed erbyn hyn, nid yw wedi elwa fawr o’r gwasanaeth iechyd erioed. Bu’n treulio cyfnod gyda’i frawd, Iddon, ym Mhenmaenmawr yn dilyn y driniaeth. Mae’n gwella’n dda erbyn hyn.Brawd Arawn, sef Iddon, sy’n adrodd yr hanes am ymweliad gweddol ddiweddar i’r feddygfa yn Harlech yng nghwmni Arawn. Cyfarchwyd nhw yn y feddygfa gan Dr Edwards a dyma holi am enw’r claf.“Arawn Lloyd Jones.”Wedi chwilio ar y cyfrifiadur am sbel, dyma Dr Edwards yn holi trwy ddweud, “Does dim golwg o’ch enw chi, pa bryd fuoch chi yn gweld meddyg ddiwethaf?”“1943!” oedd ateb Arawn.“Roedd hynny 70 mlynedd yn ôl, cyn sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol!” meddai’r meddyg yn syfrdan. A dyna’r tri ohonyn nhw yn chwerthin yn afieithus!

Seindorf Harlech ar fore Dydd NadoligSeindorf Arian HarlechHoffai pwyllgor Seindorf Arian Harlech ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn 2013. Buont yn brysur dros gyfnod y Nadolig yn chwarae carolau yn Y Bala, Tremadog, Dolgellau, Sgwâr Llew Glas, Harlech ac ar fore Nadolig. Braf iawn oedd gweld trigolion Harlech yn mwynhau’r band, a diolch yn fawr am y cyfraniadau o £352. Hoffai aelodau’r band ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb.

Pen-blwyddi arbennigPob dymuniad da i Amy Lumb, Harlech oedd yn 18 ar 28 Rhagfyr; i Emily Evans, Harlech oedd yn 21 ar ddiwrnod Nadolig ac i Sue Davies (Pennie) a fydd yn 50 ar 19 Ionawr. Cyfarchion oddi wrth eu teuluoedd a’u ffrindiau oll yn yr ardal.

DyweddïoLlongyfarchiadau mawr a phob dymuniad da i Kyle Jones a Ffion Lisk ar eu dyweddïad.

Symud Mae Douglas Owen, 63 Y Waen, wedi symud i Hafod Mawddach, y Bermo. Dymunwn bob hapusrwydd iddo yn ei gartref newydd.

Gwellhad buan Pob dymuniad da am wellhad buan i Sonia Thomas yn dilyn ei damwain a berodd iddi dorri ei garddwrn a’i ffêr.Ein dymuniadau gorau hefyd i John Barnett sydd yn aros am lawdriniaeth i’w galon.

Gyrfa Chwist Ionawr 16, am 7.30

Ystafell y Band, Harlech

Elw at Bwyllgor Apêl Eisteddfod yr Urdd 2014 ac elusennau lleol.

Capel Jerusalem am 4.00 o’r gloch

Ionawr 19: Dewi Morris Ionawr 26: Parch Ddr Geraint Tudur

Page 9: Llais ionawr 2014

RHAGOR O HARLECHCYNGOR CYMUNED

HARLECH

LLYTHYRAnnwyl Gyfaill

Tybed fedrwch chi fy helpu? Bûm yn byw yn Harlech hyd nes ro’n i’n 17 oed. Roedd fy niweddar dad, John Selwyn Davies, yn ddarlithydd yng Ngholeg Harlech.

Yn 1959 neu 1960, daeth grŵp o blant o’r Almaen i aros yn Harlech. Daeth merch o’r enw Danuta i aros gyda ni ym Mryn Awel. Roedd hi tua 5 oed ar y pryd ac mi ddysgodd Saesneg yn dda. Un o dras Hwngaraidd oedd hi. Roedd y teulu wedi ffoi i’r Almaen ar ôl i Rwsia ymosod ar Hwngari yn 1956. Credaf mai enw ei mam oedd Veronica, ac mai Sefydliad y Merched drefnodd y daith, ond nid wyf yn sicr o hyn.

Hoffwn wybod mwy am y cefndir a pham y daeth y plant i Harlech. Hoffwn baratoi rhaglen ddogfen am y digwyddiad, ond mae’n rhaid i mi ddod i wybod mwy am y cefndir cyn medru gwneud hynny. Tybed a all darllenwyr Llais Ardudwy daflu goleuni ar y mater?

Yn ddiolchgar,Andrew Davies [[email protected]]Caerdydd

9

O’r chwith i’r dde – Llion Lloyd Kerry, Gareth Evans, Rhys Butler, Owain Aeron, John Lloyd Kerry, Roger Lloyd Kerry ac Emyr Price.

GWEITHWYR Y CWRS GOLFF[cyn ymddeoliad John a Roger Kerry]

Croesawyd Mr Colin Jones o Gyngor Gwynedd i drafod pryderon ynglŷn â pharcio yn y dref. Bydd Cyngor Gwynedd yn ail edrych ar y safleoedd parcio drwy’r Sir yn y dyfodol agos a hefyd bod y peiriant talu ym maes parcio’r hen ysgol yn gweithio’n iawn ar ôl cael ei ail-leoli.Cydymdeimlodd y Cadeirydd â’r Clerc a’i theulu yn eu profedigaeth o golli ei hewythr Mr Tom Richards a fu ar un adeg yn aelod gwerthfawr o’r Cyngor. Hefyd â’r Cyng James Maxwell a’r teulu yn eu profedigaeth o golli ei frawd yng nghyfraith a hefyd perthynas agos arall.Ar nodyn hapusach estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i Elfyn Anwyl a’r teulu ar enedigaeth Hari Gwilym a hefyd â Wendy Williams ar ddod yn nain, a Heidi Williams ar ddod yn fodryb am y tro cyntaf yn dilyn genedigaeth Isla.CEISIADAU CYNLLUNIOCais am Dystysgrif Gyfreithlon ar gyfer defnyddio’r eiddo fel 2 dŷ - 7 & 7A Rhes Bronwen, Harlech. Cefnogi’r cais hwn.GOHEBIAETH - Cyngor Gwynedd Cafwyd cais am sylwadau gan y Cyngor am drwydded eiddo i Gwalia, Stryd Fawr, Harlech. Nodwyd y buasai’r aelodau’n falch o weld y safle yn rhoi’r gorau i werthu bwyd i’w fwyta allan am 11.00 o’r gloch y nos i gyd-fynd â llefydd eraill yn y dref.UNRHYW FATER ARALLCaerwyn Roberts wedi anfon i’r Coleg yn gofyn a fyddant yn fodlon trosglwyddo safle Pen y Graig i’r Cyngor.Angen cynnal cyfarfod â’r Pwyllgor Twristiaeth a Chymdeithas Hanes Harlech er mwyn trafod cynllun gwelliannau’r dref.Perchennog Pant Mawr wedi torri mwy o goed ger y tanciau nwy a phenderfynwyd anfon llythyr iddo yn datgan siom y Cyngor bod hwn wedi ei wneud heb gysylltu gyda hwy’n gyntaf.Angen creu is-bwyllgor cynllunio. Bydd Elfyn Anwyl, Gareth Jones, Gordon Howie a Korina Mort yn aelodau.Datganwyd pryder am yr holl faw cŵn sydd ar y palmant ger yr ysgol gynradd ac ar hyd y llwybr sy’n mynd draw am y pwll nofio. Penderfynwyd cysylltu gyda Chyngor Gwynedd ynglŷn â hyn.

TŶ AR WERTHyng nghanol tref Harlech.

Mewn cyflwr da - tair llofft - gwres canolog - garej.Ffôn: 01978 352852

Page 10: Llais ionawr 2014

OFERGOELION PEDOLMae pedol yn symbol o lwc meddan nhw. Yng ngwledydd Prydain ac yn UDA fe ddylid ei hongian â’r ochr agored ar i fyny. Yng ngweddill y byd, mae’r ochr agored ar y gwaelod ac mae’r bedol yn adlewyrchiad o’r groth. Cyflwynir pedol yn aml mewn priodas. Dywedir hefyd ei bod yn fwy lwcus os hoelir hi hefo saith hoelen.CERDDED O DAN YSGOLNi ddylid cerdded o dan ysgol meddan nhw. Dywed rhai bod y siâp triongl a greir gan ysgol yn gorwedd yn erbyn wal yn sanctaidd. Dywed eraill fod peryg i bot paent neu sgaffaldiwr simsan ddisgyn ar eich pen! Mae cysylltiad hefyd hefo’r crocbren. Yn y cyfnod pan oedd crogi cyhoeddus, credid bod eneidiau’r rhai a grogwyd yn llechu dan yr ysgol.COLLI HALENAr un adeg, roedd halen yn ddrud ac yn brin, a chan hynny roedd yn beth anffodus i’w golli. Gwaith y diafol oedd colli halen, ac mae llun Leonardo da Vinci o Jiwdas Iscariot wedi troi’r pot halen yn cadarnhau’r goel. Credid bod y Diafol yn llechu tu ôl i’r ysgwydd chwith, ac mae traddodiad o daflu’r halen dros yr ysgwydd chwith er mwyn taro’r Diafol a’i rwystro rhag creu mwy o helynt. Yn Norwy, credid y byddai colli llawer o halen yn dod â llawer o anlwc, felly roedd rhaid colli mwy o ddagrau er mwyn i’r halen ymdoddi. GOLEUNI’R LLEUADMae sawl ofergoel yn ymwneud â’r lleuad. Yn yr hen amser, credid ei bod yn beryglus i gysgu yng ngoleuni lleuad lawn. Byddai pobl yn cau’r llenni er mwyn osgoi gwneud hyn. Ni ddylid edrych ar y lleuad trwy ddrych. Ni ddylid llygadrythu ar y lleuad. Mae llawer yn credu hyd heddiw bod lleuad lawn yn cael effaith ar ymddygiad gormesol. Mae rhai heddluoedd yn sicrhau bod mwy o blismyn ar ddyletswydd pan fo’r lleuad yn llawn.TORRI DRYCHAnlwc am saith mlynedd meddan nhw. Mewn sawl gwareiddiad, credir bod yr enaid yn cael ei gadw yn yr adlewyrchiad mewn drych, ac os gwneir niwed i’r drych yna caiff yr enaid ei niweidio hefyd. Byddai ein cyndeidiau yn malu’r gwydr yn shwrwd er mwyn rhyddhau’r enaid ynddo. Nodwyd bod caethweision o Affrica yn UDA yn credu y gellid golchi’r lwc ddrwg ymaith trwy osod y drych toredig mewn afon oedd yn llifo tua’r de.GADAEL TŶ TRWY DDRWS GWAHANOLMae llawer o bobl yn gosod symbol lwcus ar y drws ffrynt. Y drws hwn oedd yr amddiffyniad pennaf. Roedd rhaid cadw’r cartref rhag llid y Diafol. Roedd yn anlwcus i rywun adael trwy’r drws cefn gan nad oedd hwn wedi ei ddiogelu i’r fath raddau. O fynd allan trwy ddrws gwahanol, roedd peryg i’r ymwelydd fynd â’r lwc dda ymaith hefo fo. Byddai’r drws yn cael ei agor ar ôl marwolaeth er mwyn rhyddhau’r ysbryd, ac ar ôl genedigaeth er mwyn gadael i’r enaid newydd ddod i mewn.CATHOD DUONMae rhai diwylliannau yn credu bod cath ddu yn lwcus ac eraill yn credu mai anlwc a ddaw yn ei sgîl. Yn yr Almaen, mae’n anlwcus os yw cath ddu yn croesi o’r dde i’r chwith, ond yn lwcus os gwna fel arall. Yn yr Alban, daw cath ddu â chyfoeth i chi, yn Tsieina fe ddaw â thlodi a newyn.

10

THEATR HARLECHAm fanylion pellach am ddigwyddiadau’r Theatr,

ffoniwch 01766 780667, neu ewch i’r wefan ar www.theatrharlech.comDigwyddiadau am 7.30 oni nodir yn wahanol.

IONAWR10-11 - Ffilm, “Saving Mr Banks”12 - y ffilm fel uchod am 2.30 yp

16 - Cymdeithas Ffilmiau Harlech, y ffilm “NO”17/18 - Ffilm “Sunshine on Leath”19 - y ffilm fel uchod am 2.30 yp

24 - Sioe Gerdd Richard Durrant am 7.45 yh

TATWS AR WERTH

(unrhyw bwysau)

Parc Isaf, Dyffryn01341 247447

Mynwent LlandecwynAdroddwyd bod y pwysau ar y giât wedi diflannu a bod defaid yn y fynwent a chytunodd John Richards ddelio gyda’r mater.CEISIADAU CYNLLUNIOEstyniad - Ty’n y Ffrwd, Llandecwyn. Cefnogi’r cais.Feranda i flaen y tŷ - Penbryn Isa, Cilfor. Cefnogi’r cais.Trosi beudy i ystafelloedd gwely- Llidiart Garw, Eisingrug. Cefnogi’r cais.GOHEBIAETHCyngor Gwynedd - Adran BriffyrddMae’r ffordd drwy bentref Talsarnau wedi ei harchwilio ac nid oes craciau ynddi sy’n beryglus, hefyd bod ffordd stad Bryn Eithin wedi ei chynnwys ar restr ailwynebu ac nid yw’r maes parcio i lawr Ffordd Stesion yn gyfrifoldeb yr adran hon. UNRHYW FATER ARALLDarllenodd Owen Lloyd Roberts ddarn o’r wasg am faes awyr Llanbedr.Angen cysylltu gyda’r Post Brenhinol i ofyn a oedd posib ailagor y blwch post ar y bont yn Ynys.Penderfynwyd anfon llythyr o ddiolch i Mr Aled Williams, Pennaeth yr ysgol gynradd a oedd yn gadael diwedd tymor y Nadolig.Eisiau ysgrifennu at Ddŵr Cymru i nodi bod draen cae chwarae Cilfor yn cael ei drafod unwaith eto gan fod cwynion wedi eu derbyn gan Caerwyn Roberts am y budreddi yn y cae. Datganwyd pryder bod y mater o’r cae chwarae/maes parcio yn dal i lusgo a chytunodd Gwynfor Williams gysylltu gyda Mr Gareth Evans ynglŷn â’r mater; hefyd, mae angen manteisio ar gynnig y cwmni sy’n adeiladu Pont Briwet o anghenion i bentrefi.Llwybr cyhoeddus o Gae’n Bwlch i Ty’n y Bwlch angen ei dorri oherwydd ei fod wedi cau hefo drain.Llongyfarchwyd hogia’r garej am hysbysebu Talsarnau ar y teledu.Llwybr Capel Fawnog wedi ei agor ond datganwyd pryder am lwybr y Wern; adroddodd Gwenda Griffiths hanes y gwaith oedd wedi ei wneud ger Cae’r Meddyg yn Llanbedr.Datganwyd pryder bod llawer o ddŵr o amgylch y blwch post ger y Motel.Angen cwblhau gwaith yng Ngardd y Rhiw.Cynllun Asiantaeth yr Amgylchedd gyda’r clawdd llanw wedi dychryn llawer o drigolion sydd wedi gweld y cynlluniau. Angen ysgrifennu at Gyngor Gwynedd i ofyn beth sy’n digwydd gan fod rhai wedi bod yn trafod gyda ffermwyr.

CYNGOR CYMUNEDTALSARNAU

Page 11: Llais ionawr 2014

11

YSGOL ARDUDWYBand 1Rydym wedi cyrraedd Band 1 yng nghyfundrefn Bandio Cymru, sy’n golygu ein bod bellach yn un o ysgolion gorau Cymru. Mae Ysgol Ardudwy yn un o dair ysgol yng Ngwynedd a dim ond ugain ysgol drwy Gymru i gyrraedd Band 1. Mae ein canlyniadau gwych yr haf diwethaf a gwelliant mewn presenoldeb wedi arwain at y llwyddiant yma. Dywed Maldwyn Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr: “Rwyf yn llongyfarch pawb yn yr Ysgol - y Prifathro, staff a disgyblion, ar gyrraedd yr uchelfannau yma. Mae hyn yn newyddion gwych i ardal Ardudwy i gyd.”Noson AgoredBob blwyddyn byddwn yn agor ein drysau ac yn croesawu pawb sydd eisiau dod yma i gael gweld yr ysgol. Cafwyd ymateb ardderchog eto eleni. Rhannwyd y noson yn ddwy, gyda pherfformiadau ar gychwyn y noson gan ddisgyblion yr ysgol ym myd gymnasteg, cerddoriaeth, dawns, gwaith y cynradd a chyflwyniadau Cymraeg a Saesneg. Yn ogystal, cafwyd perfformiad graenus gan Gôr yr Ysgol gyda’u fersiwn nhw o Salem - ‘Yn yr Haf ’. Yn ail hanner y noson tywyswyd y darpar-rieni o gwmpas yr ysgol gan ddisgyblion B11 a chafwyd cyfle i ymweld â’r gwahanol adrannau a chymryd rhan mewn gweithgareddau diddorol a phwnc-benodol.Cafwyd noson i’w chofio a bu’r achlysur yn llwyddiant mawr. Mae pawb yn edrych ymlaen at yr un nesaf yn barod!Gwasanaeth CarolauCynhaliwyd y gwasanaeth carolau ym Mhenrhyndeudraeth ar 5 Rhagfyr. Cafwyd cyflwyniad o ganu, darllen a darluniau ar wal y capel a oedd yn cyfuno i sôn mor gymhleth y gall yr ŵyl hon fod i bawb mewn cymdeithas.Wrth i’r gwasanaeth fynd yn ei flaen, roedd dilyniant o luniau yn cael eu dangos, a’r artist oedd Oisín Lowe-Sellers, B11. Roedd ganddo gasgliad hyfryd o bwerus yn dangos golau/tywyllwch sy’n rhan ganolog o stori’r Nadolig. Ymunodd disgyblion o Ysgol Cefn Coch â ni yn y gwasanaeth a chafwyd tair carol ganddynt. Roedd eu perfformiad yn raenus iawn. Diolch i Mr Rhys Glyn, y Prifathro, a Mrs Iorwerth am eu dysgu. Ar ôl y gwasanaeth, cafwd paned a mins peis yn y festri drwy haelioni Cyfeillion yr Ysgol.Codi Arian Yn ddiweddar, cyflwynwyd siec am £630.47 i Dylan Ellis, Trefnydd yr Urdd ym Meirionydd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar ôl trefnu ffair yn yr ysgol gan ddisgyblion B10.Gig yr Urdd Cafodd holl ddisgyblion yr ysgol gyfle i fynychu gig a drefnwyd gan yr Urdd fel taith o gwmpas Ysgolion Uwchradd Meirionnydd ar 16 Rhagfyr. Roedd pawb wedi mwynhau perfformiadau.GaleriBu deg o ddisgyblion B9 yn mynychu’r gynhadledd undydd hon yn Y Galeri, Caernarfon a drefnwyd gan ‘Llwyddo’n Lleol’, gyda chynrychiolwyr o’r diwydiant ffilm a theledu. Rhoddwyd darlun clir o’r math o swyddi sydd i’w cael a hynny’n lleol. Roedd y siaradwyr i gyd yn gweithio i gwmnïau yng Ngwynedd. Gala NofioLlongyfarchiadau i nifer o ddisgyblion am lwyddo yn y gystadleuaeth Gala Nofio Rhanbarth Meirion gyda’r Urdd. Dyma enillwyr y gwobrau cyntaf yn y gwahanol oedrannau:Merched :Nofio Dull Rhydd - Chelsea Smedley - B8, Jessica Richardson-Owen – B10 Nofio Broga - Olivia Povey – B7 , Georgia Povey – B10 Nofio Cefn - Chelsea Smedley – B8, Rebecca Armstrong – B10Nofio Pili Pala - Alaw Sharp – B8, Georgia Povey – B10 Nofio Cymysg - Olivia Povey – B7 Nofio Dull Rhydd - Steffan Titley – B7, Gruff Jones – B10, JJ Lewis Roberts - B10 Nofio Broga - Steffan Titley – B7, JJ Lewis Roberts - B10 Nofio Cefn - Gruff Jones – B10

Page 12: Llais ionawr 2014

CROESAIR

ATEBION MIS RHAGFYRAR DRAWS1 Comed 4 Digoni 7 Adrodd 8 Rilen 9 Asio 10 Naws 12 Ceirw 14 Ysu 18 Soced 19 Lili 20 Arwyr 21 YnyswyrI LAWR1 Claear 2 Mari 3 Diddos 4 Darfod 5 Galanas 6 Nenfwd 11 Persawr 13 Record 15 Sepal 16 Edwyn 17 Caead 19 Gweler 2 i lawr.

ENILLWYR MIS RHAGFYRNid oedd ond un enillydd ym mis Rhagfyr, sef Mr Ieuan Jones, Rhosfawr, Pwllheli. Rhaid bod y croesair yn fwy anodd nag arfer, neu roedd pawb yn brysur yn paratoi at y Nadolig!

SYLWER Atebion i sylw:Haf Meredydd, 14 Stryd Wesla, Porthmadog LL49 9DSerbyn canol y mis os gwelwch yn dda.

AR DRAWS1 Hel clecs [7]5 Trugaredd Duw at ddynion [4]7 Amrywiaeth [5]8 Curo [6]9 Rhedegyn araf [7]10 Yr awr hon [4]11 Gwella o ran golwg [6]13 Cymryd enw Duw yn ofer [5]14 Rhodd werthfawr a gynigir i Dduw [5]16 Priodi [3]19 Enw dyn [5]20 Y person sydd â’r hawl cyfre-ithiol ar eiddo aelod o’r teulu ar ôl iddo farw [6]

I LAWR1 Cwt ci [5]2 Heb nerth [5]3 Siarad dwli [7]4 Dioddef o brinder bwyd [6]5 Cân sy’n mynegi hiraeth am un sydd wedi marw [8]6 Creadur sy’n byw yn y tŷ [7,5]12 Tref yng ngogledd orllewin Cymru [6]14 Y fan lle mae afon yn llifo i’r môr [6]15 Uned i fesur faint o nwy a ddefnyddir mewn tŷ, swyddfa, ayyb [4]17 Y darn o’r talcen uwchben y llygad, lle mae blew yn tyfu [3]18 Darn gwastad o bren neu garreg ar waelod ffenestr [3]

1 2 3 4 5 6

7 8

9 10

11 12 13

14 15 16

17 18

2019

12

DYWEDIADAU AM Y TYWYDD

IONAWR

Tir dan ddŵr - prinder.Tir dan eira - bara.Blwyddyn o eira, Blwyddyn o lawndra.Os y borfa dyf yn Ionor , Gwaeth y tyf drwy’r flwyddyn rhagor.Daear las, mynwent fras.A heuo’i geirch yn Ionor, A gaiff aur a phres yn drysor.Diwerth gwanwyn yn Ionawr.Haf yn Ionawr gaeaf yn MaiIonawr - mis marw.Mis du wedi’r Nadolig.

CROESO ADREF I MEIRION

Dyffryn Seaside EstateNos Sadwrn, Ionawr 25

am 7.30

SESIWN SELSIG

Tocyn: £10

Elw at Tŷ Gobaith

Croeso cynnes i bawb!

Neuadd LlanbedrYm mis Rhagfyr cafwyd caniatâd cynllunio i gynlluniau’r neuadd newydd gan y Parc Cenedlaethol. Yn ogystal, gwnaethpwyd cais i’r Gronfa Loteri Fawr i ariannu’r prosiect.

Mae’r pensaer, Selwyn Jones, wedi dylunio Neuadd newydd sy’n cynnwys cymaint â phosib o’r awgrymiadau a gynigiwyd gan bentrefwyr am bethau sydd eu hangen yn y ganolfan newydd.

Gwyndaf Williams, Tyddyn Siân, sydd wedi bod wrthi ers misoedd yn gwneud y gwaith sydd wedi galluogi’r Pwyllgor i roi’r ceisiadau yma gerbron. Mae Iolyn Jones, Trysorydd newydd Pwyllgor y Neuadd, wedi bod yn help mawr gyda’r cais i’r loteri hefyd, gyda Gruff Price yn chwarae rhan hanfodol hefyd. Mae W Eirwyn Thomas, Goronwy Davies, Morfudd Lloyd a Margaret Cross hefyd wedi bod yn aelodau gweithgar o’r Pwyllgor. Mae eisiau diolch yn fawr iddynt am yr holl waith gan obeithio y bydd y ceisiadau am grant yn llwyddiannus.

Bydd y loteri yn hysbysu’r pwyllgor a yw’r cais yn llwyddiannus erbyn diwedd Mehefin 2014 ac, os felly, bydd y gwaith yn dechrau o fewn chwe mis. Siawns felly y bydd y Neuadd newydd yn cael ei defnyddio cyn diwedd 2015.

CANOLFAN IECHYD ARDUDWY Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod adeilad newydd y feddygfa yn Harlech yn barod. Roedd y tîm meddygol yn symud i mewn ac yn weithredol yno erbyn canol mis Rhagfyr. Mae’r lle ychwanegol a’r cyfleusterau diweddaraf yn galluogi’r staff i gynnig i gleifion yn Harlech rai o’r gwasanaethau a gynigir ar hyn o bryd ym Mhenrhyndeudraeth, megis mân lawdriniaethau. Mae digonedd o le parcio i gleifion ac mae’r cyfleusterau toiledau a mynediad i’r anabl yn llawer gwell. Mae hefyd ystafelloedd wedi eu neilltuo ar gyfer newid babanod a bwydo babi. Cyfeiriad y Feddygfa newydd yw:

Canolfan Iechyd Ardudwy, Ffordd Morfa, Harlech, Gwynedd LL46 2UH. 01766 781843 yw’r rhif ffôn.Bydd oriau agor Canolfan Iechyd Ardudwy yn parhau fel ag y maent: Dydd Llun i ddydd Iau9.00 - 1.00 2.00 - 6.00 Dydd Gwener 9.00 - 1.00 Ar Gau

MARCHNAD CYNNYRCH LLEOL

GWYNEDD

Y Ganolfan, Harbwr Porthmadog

9.30 y bore – 2.00 y pnawn

Dydd Sadwrn ola’r mis.Cyfle i brynu cynnyrch lleol ffres

o bob math, o fadarch, wyau, cacenni, llysiau, bara a chig,

i daffi a jamiau!

SAMARIAIDLlinell Gymraeg

0300 123 3011

Page 13: Llais ionawr 2014

13

TALSARNAU, YNYS A LLANDECWYN

Neuadd Gymuned, Talsarnau

GYRFA CHWISTyr ail Nos Iau yn y mis

am 7.30 o’r glochCroeso cynnes i bawb.

Merched y Wawr yn eu Cinio Nadolig yn y Ship

Clwb y Werin yn eu Cinio Nadolig yn y Ship

Gwasanaeth Nadolig Prynhawn Sul, 22 Rhagfyr, hyfryd oedd cael cynulleidfa dda wedi dod ynghyd i Wasanaeth yr Adfent yng Nghapel Bryntecwyn.Paratowyd y Gwasanaeth gan y Gweinidog, y Parch Anita Ephraim. Croesawodd Mai Jones bawb i’r oedfa ac eglurodd bod y Gweinidog wedi anfon ymddiheuriad ei bod yn methu bod yn bresennol. Aethpwydymlaen gyda’r gwasanaeth, a chael darlleniadau gan Ella Wynne Jones, Anwen Roberts, Frances Griffiths, Eluned Williams, Gwyneth Davies, Carys Evans, Siwan Mitchelmore, Meinir Jones a Mai Jones, ynghyd â chanu carolau cynulleidfaol. Roedd rhan arbennig gan y plant yn ystod y gwasanaeth a chafwyd darlleniadau addas ar gyfer y Nadolig gan Beca, Ellie, Siôn, Osian, Jac, Sioned, Lois ac Erin cyn i Cari Elen a Dylan Bryn ymuno gyda hwy i ganu carol i gyfeiliant Elin Williams ar y piano. Ella Wynne Jones oedd wrth yr organ.Diolchodd Mai i bawb a gymerodd ran, gan fynegi gwerthfawrogiad o’uparodrwydd i gyfrannu bob amser.Roedd Carys Evans wedi trefnu bod pob plentyn yn cael anrheg i fynd adref gyda hwy.

Cinio Nadolig Clwb y Werin 2013Penderfynwyd cael y cinio yng Ngwesty’r Llong yn Nhalsarnau ar y diwrnod arferol i ni gyfarfod sef dydd Llun y 16eg o Ragfyr. Braf oedd gweld pawb yno, pymtheg ohonom, a chawsom groeso cynnes gan y staff. Mi’r oedd cerdyn a thocyn raffl ar y cefn i bawb i’w hatgoffa o’u dewisiadau. Cawsom ginio penigamp mewn awyrgylch gartrefol a chynnes.Arian y raffl wythnosol oedd yn talu am y cinio ac yn gofalu bod raffl i bawb oedd yn bresennol yno. Diolchodd Jack Foster am y cinio ardderchog ac i’r trefnwyr a dymunodd Nadolig Llawen i bawb.

Merched y WawrCroesawodd y Llywydd, Gwenda Paul, bawb i ginio Nadolig y gangen yng Ngwesty’r Llong, Talsarnauprynhawn dydd Iau, 5 Rhagfyr. Roedd yr ystafell fwyta’n gynnes braf, ac wedi i bawb eistedd wrth y bwrdd, cafwyd gair o weddi gan y Llywydd, cyn i’r bwyd gael ei weini gan ddau ŵr ifanc dymunol iawn. Roedd y bwyd yn ardderchog a mwynhawyd gwledd – gyda digon i’w fwyta! Gwerthfawrogwyd yrarlwy’n fawr iawn a diolchwyd i’r cogydd ifanc am y paratoadau ar ein cyfer.Wrth fwynhau’r baned a mins pei ar y diwedd, cyflwynodd Gwenda Paul rai materion i sylw’r aelodau. Darllenwyd pigion o gyfarchion Nadolig Gill Griffiths, y Llywydd Cenedlaethol, rhannwyd gwybodaeth ynglŷn â chyfarfod yn Llanelltyd ar 20 Ionawr i baratoi at Eisteddfod yr Urdd 2014, ac atgoffwyd pawb o’r Bowlio Deg yng Nglanllyn ar 21 Chwefror - y tîm i’w gadarnhau eto. Gan mai noson gyda’r dysgwyr fydd ar y rhaglen y tro nesaf, trefnwyd y lluniaeth ar gyfer hyn a chafwyd addewidion am gyfraniadau. Roedd nifer dda o wobrau i’w hennill yn y raffl a bu naw aelod lwcus. Wrth orffen, dymunodd yLlywydd Nadolig Llawen i bawb.

Yr Yrfa Chwist Nadolig Dymuna pwyllgor y Neuadd Gymuned ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu rhoddion a’u cymorth i wneud y noson hon yn un hynod lwyddiannus eto eleni. Cyfanswm yr elw oedd £640.

GenedigaethCroeso i’r byd i Hari Gwilym, mab i Caryl ac Elfyn Anwyl, brawd bach i Efan a Guto ac ŵyr i Gwynfor a Debora, a Phil a Janet. Anfonwn ein dymuniadau gorau.

Y LASYNYS FAWR

TENDR TORRI GWAIR

Gwahoddir tendrau gan gontractwyr gydag yswiriant a chymwysterau priodol ar gyfer torri cae tua hanner acer o faint a lawnt 20 llath wrth 4 llath bob tair wythnos, yn ôl y tyfiant, rhwng mis Mawrth a mis Hydref, yn gynhwysol, o fis Mawrth 2014 ymlaen. Y contract yn cynnwys torri, hel a chario.

Cysyllter â Catrin Glyn ar 01766 781395

Page 14: Llais ionawr 2014

14

Cefais lythyr gan Mrs Doris Griffith yn ddiweddar ac fe safodd un frawddeg yn fy meddwl o hyd, “Does dim llawer o’n hen gydnabod ar ôl yn y stryd rŵan.” Dyma finnau yn mynd ati i fynd i lawr y stryd a meddwl pwy fyddwn innau yn eu hadnabod.

Cychwynnais o’r neuadd, heibio tŷ plisman ar y gornel a throi am y teras. Y tŷ cyntaf oedd tŷ Modryb Phoebe (Mitchelmore wedyn).Yna dod at dŷ’r Griffiths’ a chofio Anita, athrawes yn yr ysgol gynradd, Ronald, y mab a aeth i’r weinidogaeth Wesleaidd, Trefor oedd yn y busnes llaeth yn Llunden - roedd yn weithiwr da iawn yng Nghapel Chiltern St, Llunden; Glenys a weithiai yn y post yn y Bermo a Meira a briododd ag Emyr, siop Cadwaladr Bermo.Dod i lawr y steps a mynd i weld Mrs Griffiths (California). Dw’n i ddim pam oedd yn cael ei galw felly ond fe hoffai dyfu lemons ac roedd yn hoff iawn o gathod.

Nesa roedd Meirion House. Dyna le cafodd William (gŵr Doris) ei fagu. Siop Capten a Mrs Griffiths lle’r oeddynt yn gwerthu bwyd a dillad. Cofio Jennie, y ferch hynaf, yna Megan (a fu farw yn ifanc). Dwy arall ond nid oeddwn yn eu hadnabod.Drws nesaf, siop Mrs Morgan, gwerthu popeth. Erbyn hyn byddech wedi cyrraedd y groesffordd, un ar y chwith yn mynd i Gapel Horeb, rhiw serth iawn, mynwent ar y chwith, a’r capel ar y dde.

Croesi drosodd a dod i’r post, lle’r oedd y Williams’ yn byw a chroesi’r ffordd i Tŷ’r Crydd. Bob amser yn llawn o fechgyn ifanc yn gwrando ar straeon tad Meirion ac wedi hynny Meirion ei hun gyda’i hiwmor iach. Byddai’r bechgyn yn dod o bob rhan o’r byd a rhyw stori i’w dweud.

Fyddwn i byth yn mynd yn ôl i’r Dyffryn heb droi i mewn.Croesi’r ffordd wedyn heibio i hen gartref Meirion Williams, y cerddor, a fu yn bostman yn y Dyffryn adeg y rhyfel.Mynd heibio i dŷ ar y dde lle’r oedd y mab yn aelod o’r AA ac fe hoffem ni’r plant siarad ag ef ac edmygu ei wisg.

Heibio Borthwen i’r Capel Wesla a siop H P Davies ar y chwith, a nesaf atynt hwynt siop bwtsiar y Wynniaid. Cofio’r plant yn

bennaf, Cedri a briododd Gwenfron a John a aeth yn Vet. Yna dod at Berwyn, siop ddiddorol iawn, gallech brynu bron bopeth yna ac yno hefyd roedd petrol i’w brynu. Yr ochr arall i’r ffordd oedd tŷ’r Tomosiaid, tŷ Olwen, oedd yn eneth glyfar iawn.

Yna heibio Capel Baptus a dod i’r Terrace lle trigai Doris a’i theulu ac ar yr ochr arall y post newydd. Ymlaen wedyn nes dod i Glasfryn a Glascoed, lle’r oedd fy ffrind Beti yn byw, a’i thad Lewis Jones,

saer coed ac yn flaenor yn Horeb. Yna i lawr i London House, arogl bara

ffres yno bob amser. Cartref Elwyn a’i chwaer Eurwen, gwraig y Parch W Jones a fu’n gweinidogaethu tua Efyrnwy a Llwchwr ond a fu farw yn ifanc.

EDRYCH YN ÔL

Miss Betty Owen a mi tu allan i Horeb Terrace, 9 Hydref 1950

Rhaid sôn am Mrs Davies, London House, un arall o athrawesau Ysgol Sul. Hi hefyd a roddodd y siars imi, ar ran Horeb, pan oeddwn yn gadael am India. Mae’r llestri arian yma o hyd. Dyna oedd byrdwn ei neges, “Ceisiwch bethau mawr gan Dduw, a mentrwch bethau mawr dros Dduw.” Geiriau William Carey; roeddwn fawr feddwl y byddwn yn byw heb fod yn rhy bell o Serampore, tua 200 milltir!

Ymlaen ar hyd ffordd heibio tŷ gwerthu dillad, Miss Jones ac yna Penbryn; cofio May, Beti a’r gweddill, cyn gorffen yn yr Ysgol Gynradd gyda Mr Wynne Thomas yn brifathro. Roedd bod yn ei ddosbarth yn golygu gweithio canys hwn oedd dosbarth y ‘scholarships’. Cael ein pwyso i gofio ffeithiau a dyna lawenydd oedd yn dod pan glywem ein bod wedi pasio ac yn cael mynd i Ysgol Bermo.

Rhaid sôn am Miss Thomas Dolgau, a ddysgai’r plant lleiaf, a Miss Griffith ac yna Miss Jones; ie, roeddynt oll yn cael eu henwau priodol nid eu henw cyntaf! Mor wahanol yw dysgu rŵan.Wel, dyma fi wedi cyrraedd pen y stryd; ddim yn gywir o bell ffordd ond hwyrach ei fod wedi goglais gof rhai.

Rwyf i yn 92 rŵan a ddim yn cofio pob peth ond diolch am gof go lew.

Cofion atoch i gyd, Gwen Gors

RHAGOR O OFERGOELION

Ni ddylid torri’r ewinedd ar ddydd Sul.Ni ddylid torri ewinedd babi cyn ei ben-blwydd cyntaf.Peidiwch â rhoi cyllell na siswrn yn anrheg.Trwyn neu’r bochau yn cosi, mae rhywun yn siarad amdanoch chi.Os daw cryndod sydyn drosoch, mae rhywun yn sefyll ar eich bedd.Os bydd ystlum yn glynu yn eich gwallt, mi fyddwch yn anlwcus.Ni ddylid croesi cyllell a fforc ar y bwrdd; mae’n arwydd o ffrwgwd.Os gollyngwch chi gyllell ar lawr fe ddaw dyn dieithr i’r tŷ, os gollyngwch fforc fe ddaw gwraig i’r tŷ, os gollyngwch lwy fe ddaw plentyn.Brathu eich tafod wrth fwyta, rydych wedi bod yn dweud celwydd.Mi ddylech ddal eich gwynt wrth fynd heibio mynwent.Ni ddylid agor ambarel yn y tŷ.Mae dydd Gwener y 13eg yn ddiwrnod anlwcus.Dylid cyfarch [saliwtio] pioden pan welwch chi hi.Un frân ddu anlwc i mi, dwy frân ddu lwc i mi, tair brân ddu cariad i mi, pedair brân ddu priodas i mi.Peidiwch â defnyddio croesffordd fel man cyfarfod.Peidiwch â chymryd merch sydd â gwallt coch yn forwyn briodas [fe fydd yn dwyn y priodfab].Croeswch eich bysedd wrth ddymuno lwc.Dylid gorchuddio drych ar ôl marwolaeth yn y cartref.Rhowch halen ar riniog tŷ newydd i gadw’r Diafol draw.Peidiwch â gosod esgidiau newydd ar y bwrdd.Peidiwch â dod a blodau’r lili neu fwtsias y gog i’r tŷ.Mae damweiniau yn digwydd fesul tri.Mae cynffon cwningen yn arwydd o lwc.Os gwelwch chi oen cynta’r gwanwyn yn eich wynebu, byddwch yn lwcus. Os bydd â’i ben ôl atoch, byddwch yn anlwcus.

Page 15: Llais ionawr 2014

C e f n o g w c h e i n h ys b ys e b w y rFfoniwch Ann Lewis am delerau hysbysebu - 01341 241297

Ar agor:Llun - Gwener10.00 tan 15.00Dydd Sadwrn

10.00 tan 13.00

Sgwâr Llew Glas

Tafarn yr EryrodLlanuwchllyn01678 540278

Bwyd Cartref DaCinio Dydd Sul

Dathliadau ArbennigCroeso i Deuluoedd

Dei GriffithsBryn Coch,

Dyffryn Ardudwy

TACSI01341

247741

E B RichardsFfynnon Mair

Llanbedr01341 241551

Cynnal Eiddo o Bob Math

Toi gyda llechi,gosod brics, plastro,

teilsio lloriau a waliau,gwaith coed ayyb.

Llais Ardudwy

drwy’r post

Manylion gan:Mrs Gweneira Jones

AlltgochLlanbedr

01341 241229

Pritchard & Griffiths Cyf.

Tremadog, Gwynedd LL49 9RHwww.pritchardgriffiths.co.uk

TREFNWYR ANGLADDAU

Gwasanaeth Personol Ddydd a Nos Capel Gorffwys Ceir Angladdau Gellir trefnu blodau a chofeb

T N RICHARDSCaergynog, Llanbedr

01341 241485

Adnewyddu Hen DdodrefnRydym yn gwarantu gwaith

trwsio a chwyro o’r safon uchaf.Mewn busnes ers 30 mlynedd.

GERALLT RHUNBryn Dedwydd,

TrawsfynyddLL41 4SW

01766 540681

Tiwniwr Piano a Mân [email protected]

JASON CLARKEMaesdre, 20 Stryd Fawr,

PenrhyndeudraethLL48 6BN

01766 770754

Arbenigwr mewn gwerthu a thrwsio

peiriannau sychu dillad, golchi dillad, a golchi llestri

TERENCE BEDDALL

15 Heol Meirion, Bermo

Papuro, peintio, addurno tu mewn a thu allan

01341 28040107979 558954

J Charles Hughes a’i GwmniCYFREITHWYR

Penybont, Dolgellau Ffôn: 01341 422464, Ffacs 01341 423986Capel Dŵr, Harlech 01766 780818

• prynuagwerthueiddo• gwaithteuluaphlant• gwaithtroseddol• ewyllysionaphrofiant

• damweiniau• dyledion• cynllunio• tenantiaeth

Gwasanaeth cyfreithiol dyletswydd, nos a phenwythnos: 01341 241461

Mi ddown i’ch cartref.e-bost: [email protected]

GERAINT WILLIAMSGwrachynys, Talsarnau

SAER COEDAmcanbris am ddim.

Gwarantir gwaith o safon.Ffôn: 01341 780742

Ffôn Symudol: 07769 713014

15

H Y S B Y S E B I O N

Yswiriant Fferm, Busnesau, Ceir a ThaiCymharwch ein prisiau drwy

gysylltu ag:Eirian Lloyd Hughes

07921 088134 01341 421290YSWIRIANT I BAWB

CYNLLUNIAU CAE DU

Harlech, Gwynedd01766 780239

Defnyddiau dodrefnu gan gynllunwyr am bris gostyngol.

Stoc yn cyrraedd yn aml.

Page 16: Llais ionawr 2014

16

YSGOL TALSARNAU

Mr Aled Williams, pennaeth Ysgol Talsarnau, yng nghwmni’r plant a rhai o’r staff ar ddiwedd y tymor.Diolch iddo am ei waith diflino dros yr ysgol.Cafodd yr ysgol hapus hon gyfnod llewyrchus iawn dan ei arweinyddiaeth. Pob bendith iddo yn y dyfodol. Hyderwn y bydd rhieni a phlant Llandegfan yn elwa’n fawr o’i arweiniad.

ARIAN I AFFRICA YN DILYN CYNGERDD

Yn dilyn cyngerdd a gynhaliwyd gan Gôr Meibion Ardudwy yng Nghroesoswallt yn ystod 2013, cawsom wybod gan ‘Dolen Ffermio’ fod swm o £776 wedi ei gasglu at un elusen yn Affrica. Yn benodol, fel y dangosir yn y llun, llwyddwyd i anfon allweddell er mwyn hybu diwylliant cerddorol y brodorion.Llongyfarchiadau i ‘Dolen Ffermio’ am y gwaith gwych a wneir ganddynt i leddfu tlodi yn y trydydd byd.