27
Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn Mae Asiantaeth Ieuenctid Cymru wedi gofyn am a chael caniatâd i ddarparu’r deunydd hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei atgynhyrchu ychwaith. Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol. Er mwyn cael rhagor o fanylion ar yr AIG ewch i’w gwefan: www.nya.org.uk

Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn

Mae Asiantaeth Ieuenctid Cymru wedi gofyn am a chael caniatâd i ddarparu’r deunydd hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd

anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei atgynhyrchu ychwaith.

Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol. Er mwyn cael rhagor o fanylion ar yr AIG ewch i’w gwefan:

www.nya.org.uk

Page 2: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

1. Cyflwyniad Cefais fy ngeni yn Northampton yn 1939. Athrawes ysgol oedd fy mam ac roedd ei rhieni hi yn weision fferm o Swydd Gaergrawnt. Peiriannydd moduron yw fy nhad. Cefais fy magu yn y tŷ pâr yr oedd fy rhieni wedi ei brynu ar ffiniau’r fwrdeistref. Enillais ysgoloriaeth i’r ysgol ramadeg leol, ac yn 1958 es ymlaen i brifysgol ranbarthol i astudio Saesneg. Arhosais yno am flwyddyn yn unig, ond yn ystod y flwyddyn yna cefais gyfle i ddarganfod “Y Dref”, gwneud ffrindiau ar y staff academaidd – a ffurfio atgasedd cynyddol at y corff myfyrwyr. Tra’n darganfod “Y Dref” - proses a gymerodd dros chwe mis i mi, daeth band roc a rôl yn eu harddegau ataf i ofyn i mi helpu allan gyda nhw a’u cynorthwyo i lwyfannu eu sioe eu hunain. Roedden nhw am drefnu eu sioe eu hunain, sioe nad oedd yn gorfod gwrando ar orchmynion Clwb Gweithwyr y Dynion neu Fudiad Ieuenctid.

Fegywea wegwieubwdddwMay hopaoeryddy WsyymfawWnaifaangwy ynam

Dogfennau o BwysigrwyddHanesyddol

BOIS Y FONESIG ALBEMARLE

gan Ray Gosling Cyhoeddiad Young Fabian, Ionawr 1961

lly, dyma fi’n symud ymlaen dros fnod o ymhell dros flwyddyn, o inyddu cyfres o ddawnsfeydd roc rôl, a gollodd arian mawr, i inyddu clwb ieuenctid a oedd yn neud elw sylweddol. Mae’n glwb enctid sy’n cael ei reoli gan yllgor o ‘ŵyr caled’ y dref - 12 o ynion a menywod ifanc sy’n eud sut mae’r clwb yn gweithredu. e ar agor am ymhell dros 12 awr

dydd, ac adeg ysgrifennu’r erthygl n, mae yna dri aelod o staff rhaol, a fi; pob un ohonynt dros 22 d. Dydw i ddim yn arwain y clwb - w i’n ei gyfarwyddo yn ôl

muniadau’r aelodau.

rth wneud fy ngwaith, rydw i wedi nnu ar y cyhoedd – mae’n ddangos nad oes ganddyn nhw r o wybodaeth o gwbl am

asanaethu Ieuenctid, nac arferion c ymddygiad y genhedlaeth ncach. Felly, rwy’n teimlo bod gen rhoi braslun o hanes y asanaeth nodedig hwn. Gobeithio

bydd y rheiny ohonoch sydd ddim gyfarwydd ag arddull stacato yn yneddgar ac yn aros gyda fi.

Ysgrifennwyd ‘Bois y Fonesig Albemarle’, cyhoeddiad cyntaf Young Fabian, gan Ray Gosling, pan oedd yn 21 mlwydd oed. Roedd yn arfer bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerlŷr ac aeth ymlaen i fod yn ysgrifennydd cyffredinol menter ieuenctid o’r enw Leicester City Youth Venture, y clwb ieuenctid hunan-raglennu cyntaf i’w sefydlu yn sgil Adroddiad Albemarle. Erbyn hyn, mae’n newyddiadurwr ac yn ddarlledwr llawrydd llwyddiannus, ac wedi ysgrifennu sawl llyfr. Ei lyfr diweddaraf yw ‘Personal Copy: A Memoir of the Sixties’ a’r cyhoeddwyr yw Faber and Faber.

Page 3: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

2. Hanes Y PUM CAM YN Y GWASANAETH IEUENCTID 1. Sgowtio i’r Bechgyn Yr 1980au – pobl ifanc mewn hofelau - diffyg maeth – diffyg awyr iach – ac roedd gwŷr Cristnogol selog wedi’u cynhyrfu. Roedd gorau’r genedl yn gwywo. Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth. Ac felly, fe gododd Brigâd y Bechgyn, Mudiad y Sgowtiaid i Fechgyn, ayb ayb; pob un yn anelu at roi corff, meddwl ac enaid iach i bobl ifanc o gartrefi llwm. Yr awyr agored yw’r ateb – cymorth cyntaf, y cwlwm riffio, bacwn llosg, tân y gwersyll, blancedi gwlyb. Y canlyniad - dynion da, parchus; dinasyddion sy’n haeddu bod yn rhan o’n Hymerodraeth Gristnogol. Y bechgyn mewn un cae: y merched mewn cae arall. Yn 12, 13, 14 mae’n lot o hwyl, ac yn hyfforddiant da iawn, yn enwedig i blant rhieni gofalgar wedi’u magu mewn tŷ pâr. Mae bywyd o orymdeithiau eglwysig, y Beibl, y cwlwm riffio ac ysgwyd llaw gyda’r llaw chwith, yn gwneud lles i fachgen ifanc. Fwy na thebyg na fydd yn cael y cyfle hwn eto.

Mae’n drueni mawr fod rhywbeth yn atal bechgyn rhag ymuno â’r mudiadau nobl hyn. Yn fy mhrofiad i, mae’r rhan fwyaf o’r gweithwyr yn y mudiadau hyn yn gweithio’n galed, yn ymroddgar ac wedi colli cysylltiad, i raddau, gyda Lloegr 1960. A staff y Pencadlys: Boy Scouts (Incorporated). Prif Sgowt: Yr Uwch-gapten Syr Charles Fitzroy Maclean, Bart.; Boys’ Brigade (Incorporated) , Ysgrifennydd: Yr Uwch-gapten Gadfridog D.J. Wilson-Haffenden, C.B.E. Dydw i'n dweud dim. Os gaf i fab, ni fyddai’n ceisio ei berswadio i beidio ag ymuno â mudiad fel hyn. Mae’n amlwg yn achos da iawn sy’n gwneud gwaith gwych, yn bennaf ar gyfer pobl ifanc dan bymtheg oed. Ac mae’n lot o hwyl ac yn rhoi hyfforddiant synhwyrol i nifer fawr o bobl ifanc iawn. 2. Dinas Nid Dinod – y 1930au Erbyn hyn, nid oedd gorau’r genedl yn broblem gorfforol yn unig. Nid bacwn llosg a chymorth cyntaf oedd ei angen. Roedd yna broblem gymdeithasol. Nid oedd gwaith ar gael. Roedd yn rhaid gwneud rhywbeth ar gyfer y difreintiedig, y tlawd, yr amddifadus, y rheiny heb ddim. Rhaid i ni gadw’r plantos oddi ar y strydoedd. Rhaid rhoi rhywbeth iddyn nhw i’w wneud. A wele, yn gweithredu fel lluoedd effeithiol am y tro cyntaf, Cymdeithas Genedlaethol y Clybiau Bechgyn, Cymdeithas

Page 4: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

Genedlaethol y Clybiau Cymysg, a'r Clybiau Merched, Campysau’r Prifysgolion - Israddedigion, Graddedigion (am un flwyddyn yn unig), personél milwrol wedi ymddeol, â chred danbaid fod ganddynt rywbeth i’w gynnig i’r genedl ifancach. Ac felly, heddiw, mae plant tlawd, difreintiedig ac amddifad yn cael mynd ar drên o Shoreditch i Gaergrawnt. Maen nhw’n gwrando â pharchedig ofn ar organ Capel King’s College. Maen nhw’n cael te yng Ngholeg Caergrawnt; yn cerdded ar hyd glannau’r Cam. Ac yna yn ôl ar y trên at fywyd y clwb – y tîm tennis bwrdd a'r ymgyrch i ddod yn ddynion. Teitl cylchgrawn swyddogol yr N.A.B.C. yw “The Challenge Incorporating the Boy” – na, nid y ferch. “Fe fyddai hynny’n ypsetio pob peth yr ydyn ni’n ceisio’i wneud”. A beth ydych chi’n ceisio’i wneud? Dewch i ni ystyried y Clybiau Menter sy’n bodoli nawr yn Llundain, y Canolbarth a Swydd Gaerhirfryn. Beth maen nhw’n ei wneud? Mae yna gorff wedi’i guddio mewn sgubor bum deg milltir i ffwrdd. Rhaid i chi ddynion ddod o hyd i fotwm glas ym mhoced chwith trwser y ddelw yma. Dyma restr o gliwiau i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r lleoliad. Rwy’n disgwyl i chi fod yn ôl cyn hanner nos. Yn ddiweddar, roedd yna gynnwrf mewn tref yn y Canolbarth pan

gafodd un o’r bechgyn hyn anaf tra’n teithio yng nghar dieithryn, a oedd yn digwydd gyrru heibio, wrth chwilio am y botwm glas. Fe ddywedodd un o arweinwyr y clwb a oedd yn gyfrifol am un o’r cynlluniau hyn wrthai: “Dyma’r peth mwyaf cyffrous yr ydyn ni wedi meddwl amdano hyd yn hyn. Dyma’r prif beth sy’n cynnal y clwb yma, mae’n herio’r bachgen cyfan”. 1935 - Blwyddyn y Jiwbilî Ac yna daeth Ymddiriedolaeth Jiwbilî’r Brenin Siôr i fodolaeth - 166 Piccadilly, W.1. Ysgrifennydd (1960), yr Uwchgapten Gadfridog T.N.F. Wilson, C.B., D.S.O., M.C. Nod: ‘symud lles corfforol, meddyliol ac ysbrydol y genhedlaeth ifancach yn ei flaen’. Sylwch ar y gair ‘lles’. Nid yw’r cymdeithasau hyn yn gysylltiedig ag unrhyw enwad penodol. Maen nhw’n Gristnogol yn ystyr ehangach y gair. Ac ar 27 Tachwedd, 1939, o’r Bwrdd Addysg, daeth yr alwad gref i bob dyn a menyw a oedd yn gwneud rhywbeth da i bobl ifanc - Cylchlythyr 1486 - y cylchlythyr a sbardunodd y Gwasanaeth Ieuenctid fel cangen o’r Adran Addysg Bellach yn y Bwrdd, ac yn nes ymlaen, y Weinyddiaeth Addysg (yn yr achos derbyniol yn unig). ‘Ond erbyn hyn, mae gan y gwasanaeth ieuenctid, rhan o’r maes addysgu a esgeuluswyd ers gormod o amser, arwyddocâd newydd ym mywyd y genedl, ac mae’r Bwrdd yn hyderus y bydd awdurdodau addysg lleol yn gwneud popeth posib i gwrdd â’r her hon’. Mae’r Weinyddiaeth wastad wedi bod yn hynod o hyderus

Page 5: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

y byddai’r Awdurdodau Addysg Lleol yn cwrdd â’r her hon. Mae’r ffeithiau yn yr Atodiad i Adroddiad Albemarle yn dangos mor bell y mae’r hyder hwn wedi cael ei drin; ac eto mae Adroddiad Albemarle yn hyderus y dylai'r Awdurdodau Addysg Lleol, a mudiadau gwirfoddol, feddwl pa ymagweddau y gallant eu defnyddio gyda'r bobl ifanc yma sy’n ei chael hi’n anodd dod i delerau â’r gymdeithas. Daeth y Gwasanaeth Ieuenctid i fodolaeth yn 1939 a’i nod oedd: 'Datblygiad cymdeithasol a chorfforol bechgyn a merched rhwng 14 ac 20 oed’. Sylwer eto: mae 60 y cant o gyfanswm aelodaeth ‘mudiadau ieuenctid’ sydd eisoes yn bodoli (2 ½ miliwn) yn iau na 15. Hynny yw, yn dal i fod mewn addysg lawn amser. 3. Biggles a’r Rhyfel Mae dyn yn tybio nad oedd gan y personél milwrol a oedd yn gysylltiedig, fawr o amser i’w dreulio ar waith ieuenctid, a hwythau’n brwydro i ennill rhyfel. Ond, am y tro cyntaf yn hanes y gwasanaeth ieuenctid, roedd yna gysylltiad rhwng y gwasanaeth a’r bobl ifanc. Roedd y Corfflu Hyfforddiant Awyr, y Llu Cadlanciau Cyfunol a’r Cadlanciau Môr, yn llwyddiannus fel unedau hyfforddi “cyn gwasanaeth” pur na welwyd eu tebyg ymhlith y mudiadau parafilwrol cyn y rhyfel, nac ar ei ôl. Roedd yna ddiben i’r cymorth cyntaf, i’r hyfforddi i fod yn wydn ac i’r cyrsiau i ddod yn ddynion.

Mae’n drueni mawr fod ysbryd oes ‘Biggles’ wedi marw yn yr ysgolion, ac eithrio ambell un o’r ysgolion bonedd gorau. Ond, efallai bod y newid hwn o’r ymdeimlad o ryfel i’r ymdeimlad o heddwch, yn esbonio pam nad ydyw Cynllun Gwobr Dug Caeredin yn apelio at y bachgen cyffredin, er ei fod yn llwyddiannus iawn ymhlith elît y genedl. Ar adegau o heddwch, mae’n ymddangos nad ydyw’r bachgen cyffredin am brofi ei hun mewn ymgyrchoedd yn llawn ymdrechion trefnus, gwrol a glân o ddygnwch meddyliol a chorfforol. Efallai mai dim ond hufen y genedl sy’n gorfod eu profi eu hunain yn y ffordd hon. 4. Richard Hoggart a Bois y ‘Milk Bar’ Canol yr ugeinfed ganrif. Mae’r gwasanaeth ieuenctid allan yn yr oerfel. Gweithwyr ieuenctid rhwystredig a’u syniadau! Fe ddywedodd gweithiwr ieuenctid yn 1949: ‘yn y pendraw, nid yw addysgu moesegol yn ddigon, ac os nad oes hawl addysgu unrhyw beth yn fwy na hyn, yna rhaid ei addysgu mewn ffordd sy’n mynd i ennyn diddordeb mewn gwerthoedd ysbrydol”. Y cwestiwn mawr oedd: ‘A oes yna le i bobl ifanc yn unig; grŵp tu allan i’r cartref, yr ysgol a’r gwaith?’ A’r atebion mawr: jyngl y bwrdd du, giang y ‘tedi bois’, ‘rock around the clock’ , bois y 'milk bar', Elvis Presley, Mr. Larry Parnes yn gwneud ei ffortiwn, coffi ewynnog a’r jiwc bocs. Y gweithwyr ieuenctid: ‘I unrhyw un sydd â’r dasg o ymgymryd â gwaith

Page 6: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

ieuenctid, mae arweiniad yn profi gallu wedi'i ysbrydoli gan y cymhelliant cywir.’ Y Weinyddiaeth: Llywodraeth Lafur, Llywodraeth Dorïaidd, a gwariwyd un geiniog o bob punt ar y gwasanaeth ieuenctid o gyfanswm grant addysg y Weinyddiaeth. Pwyllgor Jackson, 1949: ‘Adroddiad y Pwyllgor ar Recriwtio, Hyfforddi ac Amodau Gwasanaeth Arweinwyr Ieuenctid a Wardeiniaid Canolfannau Cymunedol’. Pwyllgor Fletcher, 1951: ‘Recriwtio a Hyfforddi Arweinwyr Ieuenctid a Wardeiniaid Canolfannau Cymunedol’. Cylchlythyron gan y Weinyddiaeth yn ymwneud â ffurfio ymddiriedolaethau a defnyddio neuaddau eglwysi a neuaddau plwyf . Er gwaethaf y difaterwch swyddogol, roedd rhai pobl yn poeni. Ac felly, dewch i ni ddechrau ‘teen canteen’. Roedd y dull yn anffurfiol, a’r agwedd - dewch i ni anghofio’r delfrydau uchel hyn (am y tro). Dewch i ni eu cael oddi ar y strydoedd ac allan o’r tafarndai. Druan â’r rhai ifanc yma; does unman ganddyn nhw i fynd. 5. Ac Yna Daeth Jones Y Dechreuwr Absoliwt. Y person ifanc yn ei arddegau i gymryd lle’r ‘tedi boi’, yr hwligan ifanc, gwŷr y siacedi duon, y 'mods', y busnes ‘arddegau' yma, y Ni Mawr yn brwydo yn erbyn y Nhw Mawr heb unrhyw reswm o gwbl. Rydyn ni’n casáu crynswth y bobl, y Blaid Lafur a’r dosbarth gweithiol; mae gennym ein byd bach ein hunain. Cadwch

allan. A Larry Parnes yn datrys ‘ing ac angerdd' y bobl ifanc, gyda byd adloniant torfol - roedd y "teenage racket" wedi cyrraedd. Ar gefndir stacato treisgar y Pumdegau, daeth y duw newydd, y bachgen yr oedd angen mawr amdano a’r plentyn anwes. Fe suddodd y merched i waelod y pentwr o recordiau llwyddiannus ac i mewn y daeth y Boom for Boys, yr Amser Mawr a darodd Manceinion, y Rhanbarthau, y Canolbarth, Lloegr Fetropolitanaidd a Maestrefi Lloegr - gan anwybyddu’n rhyfedd ddigon, serch hynny, Lerpwl, y Gogledd Ddwyrain a’r Gorllewin. A nawr mae ‘person ifanc’ 1960 wedi cyrraedd. Breuddwydio am fod yn dduw-fachgen, neu am fod mewn cariad â duw-fachgen, ond gyda diddordebau proffesiynol arbennig. Mae wedi’i sbriwsio i fyny ac yn graff. Mae yn erbyn y cartref, yn erbyn y gymuned. Nid yw cael ei weld yn y gwaith yn ddigon dramatig. Mae’r ffocws mawr ar hamdden. Ym Mhrydain Fawr heddiw, mae yna bum miliwn o bobl ifanc yn eu harddegau (15-25) sy'n ddibriod. Mae'n ddiddorol nodi nad yw categori Dr. Mark Abrams ym mhamffled y London Press Exchange, "The Teenage Consumer" yn dilyn y categori a dderbynnir yn gyffredinol, sef 14-20, ond yn hytrach, mae’n defnyddio’r categori llawer mwy realistig, sef 'ar ôl ysgol' a 'chyn setlo'. Cyfanswm pŵer gwario heb ei ymrwymo y bobl ifanc hyn, sydd yn eu harddegau, yw £900,000,000 ac mae 25 y cant o'r ffigwr yma’n cael ei wario ar ddillad, 14 y cant ar alcohol a thybaco, 14 y

Page 7: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

cant ar y cyfryngau poblogaidd - recordiau, ffilmiau, tapiau ayb, 12 y cant ar fariau coffi, caffis a byrbrydau. Mae'n amlwg, dros y deuddeg mis diwethaf, y gwelwyd dirywiad yng ngwerthiant recordiau poblogaidd. Mae'r person ifanc, sy'n llawn dop o wybodaeth, er ei fod yn breuddwydio am fod yn dduw-fachgen fel Larry Parnes, yn teimlo bod adloniant arbenigol yn gweddu'n fwy i'w hwyliau ar hyn o bryd. Mae'r recordydd tâp neu'r chwaraewr recordiau yn ffafrio Elvis Presley. Y duedd yw dilyn gwreiddiau cerddoriaeth boblogaidd yn hytrach na'r gerddoriaeth boblogaidd ei hun. Ac yna'n fuan wedi'r sîn ifanc, daeth Adroddiad Albemarle, y gwasanaeth ieuenctid sy'n ateb pob dim, a'r cysyniad newydd o fusnes ieuenctid. Roedd mudiadau newydd a mudiadau graddfa fawr yn gweld twrw'r dynion ifanc yn y jîns tynn, yn teimlo ei fod yn rhesymegol tybio y byddai modd rhedeg busnes ieuenctid ar hyd yr un llinellau. Petai dyn yn dechrau gyda jiwc bocs, efallai y byddai'n bosib gwella'r 'drygioni cymdeithasol'. "Chi'n gweld, o'n i'n meddwl, wel, chi'n gweld, pan oedd Joni bach ni mewn trafferth gyda'r heddlu, fe weles i mai'r broblem oedd bod ganddo nunlle i fynd. Ac felly fe agores i'r ystafell ffrynt ac fe ddywedes i wrth Joni bach, 'Dere a dy ffrindiau i gyd. Gwna fel wyt ti eisiau, a gwna gymaint o sŵn ag wyt ti eisiau. Joia!'. A, chredwch fi neu beidio, fe weithiodd hyn. Daeth Joni i fod yn fachgen da, ac fe feddylies i,

'Os yw hyn yn gallu digwydd i Joni bach ni, fe all ddigwydd i bob Joni". Ymateb i hyn gan berson ifanc: "Wi'n gweud wrthoch chi nawr. Mae'r Llywodraeth, a'r holl la-di-das, maen nhw'n mynd i mewn i'r peth busnes ieuenctid yma mewn ffordd fawr, ac nid ar ein cyfer ni mae e'. Wi'n gweud wrthoch chi. Ni yw'r blydi 'suckers' unwaith ‘to". Law yn llaw gyda'r symudiad busnes ieuenctid yma, daeth carfan 'gadewch iddyn nhw redeg yn wyllt' newydd; ' 'does dim byd yn bod ar bobl ifanc Prydain heddiw na fydd ychydig o oddefgarwch yn gallu ei sortio; y cyhoedd a'r heddlu sydd ar fai'. Gadewch i ni wasanaethu chwaeth boblogaidd, gadewch i ni fod yn cŵl ac nid yn sgwâr, ac yna fe fyddan nhw'n gwrando arnon ni pan fyddwn ni'n dweud wrthyn nhw am beidio â tharo Mam-gu dros ei phen. A throseddau ieuenctid? Mae’n bodoli. Mae’n broblem. Nid yw'r pwll dwfn o fwriad gweddus mor amlwg ymhlith pobl ifanc erbyn hyn. Mae rhai mudiadau wedi llwyddo'n sylweddol, ac yn dal i lwyddo. Maen nhw'n apelio at y bobl ifanc. Maen nhw mewn cysylltiad ac maen nhw'n pryderu. Mae'r Ceidwadwyr Ifainc, sy'n cael ei redeg gan y bobl ifanc ar gyfer y bobl ifanc, mewn cysylltiad ag idiom y 1960au. Mae yna synnwyr o bŵer; rydych chi'n gallu mynd ymlaen i fod yn rhywun gyda'r Torïaid Ifanc. Dydyn nhw ddim yn mynd i wella drygioni cymdeithasol, dydyn nhw ddim yn wasanaeth lles, a dydyn nhw ddim yn gwneud daioni,

Page 8: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

a dydyn nhw ddim yn anelu at fod wrth galon bywyd pobl ifanc. Maen nhw'n ddylanwad cymdeithasu ar gyfer rhan benodol ac ecsgliwsif o'r gymdeithas, ac maen nhw'n ffitio i'r patrwm cyfoes fel rhan ohono, ac nid fel canolfan ar ei gyfer. Mae’n bosib dweud yr un peth am y Ffermwyr Ifanc, y Theatr Ieuenctid, a rhai clybiau penodol ar gyfer sgiliau arbenigol: hwylio, mynydda ayb. Mae'n ddiddorol fod llawer o'r clybiau ar gyfer y rheiny sy'n araf yn feddyliol neu'n gymdeithasol mewn ardaloedd dirwasgedig neu annatblygedig o'r wlad, yn llwyddo'n arbennig o dda i roi rhywbeth i bobl ei wneud. Rwy’n gallu meddwl am glybiau yn Lerpwl ac mewn rhannau o Lundain sy'n wych yn y cyswllt hwn. Mae'n ymddangos mai'r clybiau llwyddiannus yw'r rheiny sydd â'r stigma 'dosbarth' - y dosbarth gweithiol onest neu'r dosbarth canol uwch. Mae'r trafferth yma i gysylltu â phobl ifanc i’w weld fwyaf amlwg yn y clybiau sy'n anelu at ddarparu ar gyfer y person cymdeithasol cyffredin, arferol heddiw. Nid yw'n ymddangos fod trefnwyr ac arweinwyr clybiau wedi taro deuddeg o ran agwedd feddyliol pobl ifanc mewn Prydain ffyniannus. Ymhob un o'r clybiau hynod o lwyddiannus, mae yna elfen ecsgliwsif, proffesiynol ond mae'r clwb ieuenctid cyffredin yn darparu ar gyfer pob person, yn hytrach na darparu'n broffesiynol ar gyfer elfennau penodol.

Ni fyddai'n anaddas dyfynnu o Raglen Gangen Enghreifftiol ar gyfer y Sosialwyr Ifanc: Darlith ar ystyr Sosialaeth Taith gerdded a Barbeciw. Darlith ar Lywodraeth Leol. Noson Gerddorol – Chopin. Jazz Modern ac yna Cŵn Poeth a Choffi. Dawns y Cynhaeaf yn y Neuadd Lafur. Dyma lond lle o weithgareddau cyffredinol a chymysg – llawer ohonynt yn cael eu gwneud lawer yn well gan fudiadau proffesiynol ac arbenigol; ac mae hwn yn fudiad sy'n bodoli at ddiben gweithgaredd benodol. Waeth beth yw beiau Adroddiad Albemarle a datganiad polisi'r Blaid Lafur, "The Younger Generation", maen nhw wedi tanlinellu, yn gryf iawn, bod yna angen dybryd am y proffesiynol a'r arbenigol, yn hytrach na'r cyffredinol ac amatur a'r rheiny sy'n ceisio gwneud pob dim.

3. Adroddiad Albemarle "Penodwyd y Pwyllgor gan y Gweinidog Addysg ym mis Tachwedd 1958. Rhoddwyd y cylch gorchwyl canlynol i ni: "Adolygu cyfraniad posib Gwasanaeth Ieuenctid Cymru a Lloegr i helpu pobl ifanc i wneud eu rhan ym mywyd y gymuned, yng ngolau'r newid mewn amodau cymdeithasol a diwydiannol, a thueddiadau mewn canghennau eraill o'r gwasanaeth addysg ar hyn o bryd; ac i roi cyngor

Page 9: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

ynghylch blaenoriaethu er mwyn sicrhau gwerth gorau am yr arian sy'n cael ei wario'." Roedd Pwyllgor Albemarle yn ei weld ei hun fel 'pwyllgor siartio', i adfywio'r gwasanaeth ieuenctid ac i osod patrwm cyffredinol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol. Mae wedi gwneud hyn, ac wedi'i wneud mewn ffordd gampus. Heb yr amrywiaeth barn sydd wedi dilyn yr Adroddiad, a'r arian ychwanegol sydd ar gael diolch i'r Gweinidog Addysg, nid oes amheuaeth y buasai cynlluniau fel yr un yr wyf innau ynghlwm ag ef, yn ei chael yn anodd iawn petai pethau'n galed arnom ni. Adroddiad Albemarle oedd y dechrau, ac nid y diwedd - ac i ddilyn yr adroddiad, rhaid gweld cynnydd, beirniadaeth a symud ymlaen. Fe fydd ei lwyddiant yn cael ei fesur gan ansawdd a maint yr arbrofi a'r adeiladu sy’n ei ddilyn. "Fodd bynnag, yr hyn sydd ei angen, yn anad dim ar ran y cyhoedd, yw gwerthfawrogiad dychmygus o'r newid yn y ffordd y mae pobl ifanc heddiw yn edrych ar y byd. Mae'n ddigon hawdd condemnio agweddau a gweithredoedd sy'n ddiniwed ynddynt eu hunain, ar y sail eu bod yn wahanol i'r codau ymddygiad neu ymddangosiad sydd wedi colli eu hystyr i'r cenedlaethau iau, neu'n ymddangos fel petaent yn eu tramgwyddo. Mae'n well cadw dig moesol ar gyfer yr hyn sydd mewn gwirionedd yn haeddu cerydd moesol, a hyd yn oed wedyn, fe fydd yn aneffeithiol onid ydyw'n cael ei fwydo'n sylweddol gan ddealltwriaeth sympathetig. Mae'r ymdrech i ddeall wrth wraidd pob rhinwedd, ac mae'n

siŵr mai dyma ble y gall y genedl ddechrau". Waeth pa mor dda oedd Pwyllgor Albemarle, a'i Adroddiad, mae yna feysydd i'w beirniadu yn yr Adroddiad - a rhaid ystyried hyn, yn hwyr neu hwyrach, mewn polisïau ôl-Albemarle. (a) Yr Ystod Oedran Roedd y Gwasanaeth Ieuenctid yn delio gyda phobl ifanc 15-20 oed. Rhoddwyd grantiau ar y sail y byddai mwyafrif aelodau'r clwb rhwng 15 ac 20 oed. Fe gafodd hyn effaith ar y mudiadau ieuenctid traddodiadol, yr oedd 60 y cant o gyfanswm eu haelodaeth yn iau na 15. Roedd Albemarle yn argymell newid: "Felly, rydyn ni'n argymell y bydd y Gwasanaeth ar gael i bob person ifanc rhwng 14 ac 20 (gan gynnwys pobl sy'n 14 ac yn 20). Efallai y bydd yna achos dros ailystyried y terfyn oed isaf os digwydd i'r oed gadael ysgol godi, ac yn sgil y newid hwn". Mae gostwng y terfyn oedran is o gymorth sylweddol i'r mudiadau ieuenctid traddodiadol, ond ar gyfer gwaith ymhlith elfennau annhraddodiadol ieuenctid, rhaid cofio diffiniadau eraill 'person ifanc'. Yr allwedd i'r drws yw 21. Yr ystod oedran ar gyfer y rhan fwyaf o waith ymchwil a marchnata ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, yw 15-25. Nid yw pobl ifanc yn peidio â bod yn eu harddegau wedi cyrraedd 20! Er gwaethaf y ffaith fod pobl yn priodi'n ifancach, mae'r gymdeithas o bobl ifanc yn eu harddegau yn dod i ben, ar bob lefel, rhywbryd rhwng 22 a 25.

Page 10: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

Erbyn cyrraedd 25, mae person, fel arfer, wedi gorffen yn yr ysgol a'r Gwasanaeth Cenedlaethol; prentisiaeth; carwriaeth ac addasiad emosiynol. Erbyn 25, mae rhywun wedi dod yn ddyn neu'n fenyw. Yn 25 mae'r seren ifanc naill ai'n 'hen ddyn/fenyw' neu'n fytholwyrdd; ond hyd nes cyrraedd 25, fel arfer, mae person yn gallu cadw ar flaen yr oes. Fel arfer, mae arweinwyr y gangiau rhwng 18 a 22. Mae troseddwyr mewn achosion enwog o lofruddio a dwyn ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau rhwng 15 a 25. Mae dylanwad y rheiny sydd dros 20 ar y rheiny sydd o dan 20 yn sylweddol. Dylid codi terfyn oedran y Gwasanaeth Ieuenctid i 25. Dylai fod yn gyfochrog â changhennau eraill o'r gwasanaeth addysg bellach, ac nid ag addysg uwchradd. Mae pobl ifanc heddiw'n dechrau'n ifancach a hefyd yn gorffen yn henach. Nid peth hawdd yw ildio'r teimlad gogoneddus o fod yn 'berson ifanc yn ei arddegau'. (b) Natur Arbenigol y Gwasanaeth Ieuenctid "...Rhaid i fudiadau enwadol, neu fudiadau sydd wedi ymrwymo'n benodol, fod yn rhydd i fynegi eu delfrydau ysbrydol yn eu gwaith ieuenctid. Ond, ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid ar y cyfan, rydym o'r farn fod ymgorffori nodau yn y ffordd hon yn gamgymeriad..." Roedd yr Adroddiad yn rhyfedd o amwys ar y rhaniad rhwng mudiadau ag ymrwymiad penodol, a'r rhai cymdeithasol cyffredinol. Cwestiynwyd rhai enwadol ac ni

chafodd y rheiny gyda diddordeb penodol a oedd yn disodli nodau arbennig, y sylw y dylent fod wedi ei gael. (c) Sefyllfa Arweinwyr Ieuenctid Cynorthwywyr Gwirfoddol "Mae yna nifer sylweddol o bobl sy'n fodlon rhoi o'u hamser i gwrdd â phobl ifanc ac i siarad â nhw, ac i helpu gyda gweithgareddau grwpiau, clybiau a chanolfannau ieuenctid. Mae'r hyn sydd wedi eu sbarduno i wneud gwaith yn y Gwasanaeth yn amrywio, ond mae pob un ohonom â gwir bryder ynghylch pobl ifanc a'r dyhead i'w helpu, waeth faint yw'r gost. Dyma nodwedd o'r rhan fwyaf o'r gweithwyr gwirfoddol hyn. Mae'n hanfodol i bobl ifanc ddeall fod llawer o'r genhedlaeth hŷn yn wir awyddus i fod yn ffrindiau ac i rannu eu diddordebau". A ddylai'r gwasanaeth ieuenctid fod yn wasanaeth ar gyfer yr henoed sy'n chwilio am ieuenctid a gollwyd, neu a yw'n mynd i fod yn gorff proffesiynol o weithwyr medrus mewn rhyw faes? Nid yw ysgolion, prifysgolion, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a mudiadau masnachol yn defnyddio pobl sydd â phryder a dyhead i helpu fel eu prif gymwysterau, mewn ffordd mor ddi-drefn. Nid yw hyn yn ddigon da. Rhaid cael gweithwyr ieuenctid sydd â sgiliau penodol a phroffesiynol. A rhaid cael pobl sydd â sgiliau yn ymwneud â'u cwsmeriaid. Mae croeso i'r amaturiaid ymweld, ond gweithio – plîs! Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Page 11: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

Unwaith eto, mae hyn yn dangos bod yr Adroddiad yn methu â nodi’r gwahaniaeth rhwng y rheiny sydd â sgiliau penodol, boed yn hwylio, pêl-droed neu Fethodistiaeth; a'r rheiny sydd â sgiliau gweinyddu a gwaith cymdeithasol. Ac nid yw'r Adroddiad yn sôn unwaith y gallai'r cynorthwywyr gwirfoddol ddod o blith y bobl ifanc eu hunain, yn enwedig y rheiny sydd dros 20. Gofynnir iddynt gael cymryd rhan. Mae angen eu harweiniad, ond nid yw eu statws fel gweinyddwyr, neu hyd yn oed gynorthwywyr gwirfoddol, yn cael ystyriaeth ddifrifol. Yr Arweinydd Yma eto, rwy'n anghytuno. Mae'r cysyniad o arweinydd, fel arweinydd, yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol gyda bron pob math o glwb. Ar ôl cytuno bod "hwn yn wasanaeth proffesiynol sy'n gyfnodol ei natur yn hytrach na gyrfa gydol oes", maen nhw'n dweud, yn y dyfodol, mai dim ond arweinwyr sydd wedi eu hyfforddi'n swyddogol ddylai fod yn gymwys i'w cydnabod yn swyddogol. A beth fydd yr hyfforddiant yn ei olygu? "Astudiaethau arweiniad; gwaith ymarferol, sgiliau personol" – y tair rhinwedd sy'n diflasu'r 60 y cant o bobl ifanc y mae'r adroddiad yn awgrymu y dylai'r gwasanaeth newydd eu denu. Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i arweinwyr naturiol - tafarnwyr, rheolwyr tai coffi, ayb. - a'u heffaith a'u dylanwad ar bobl ifanc. Mae yna arweinwyr naturiol hefyd, a ddylai fod yn gallu cael eu cydnabod yn swyddogol am gyfnod o ddwy i bum

mlynedd, ond sydd yna'n symud i ffwrdd oddi wrth y gwasanaeth, gan gwblhau eu defnyddioldeb. Mae gwahanol glybiau angen gwahanol fathau o arweinwyr - mae rhai angen pobl sydd wedi eu hyfforddi'n swyddogol, byddai eraill am eu hosgoi. Ni chafodd y cwestiynau a'r problemau hyn unrhyw sylw o gwbl. A pha fath o berson a ragwelir fel person sy'n addas i'w drawsnewid yn arweinydd ieuenctid? Athrawon, gweithwyr cymdeithasol a phobl aeddfed gyda dawn naturiol i arwain. Rhaid adolygu'r cysyniad o arweiniad yn ei gyfanrwydd, a'i archwilio'n llwyr cyn gynted â phosib, cyn i'r Coleg Hyfforddi Cenedlaethol ar gyfer Arweinwyr Ieuenctid, fynd yn geidwadol iawn ei ffordd. (d) Diwylliant a Strwythur Ieuenctid "Rydyn ni wedi ceisio...edrych ar y byd fel y mae pobl ifanc yn ei weld". Daw'r rhan fwyaf o'r wybodaeth am bobl ifanc gan y mudiadau sy'n gweithio yn y gwasanaeth, ac ni holwyd y mudiadau ymchwil na'r arsylwyr annibynnol, heblaw am Mark Abrams, i ddarparu'r ffeithiau ar gyfer eu pennod ar "Bobl Ifanc Heddiw". Mae'r adroddiad yn siarad am ymagwedd newydd at y "di-glwb" a'r ffaith nad yw'r gwasanaeth presennol yn cwrdd â'u hanghenion. "...Wrth gwrs, mae yna ddulliau amrywiol, ond mae yna lai o barodrwydd nag y buasem wedi’i obeithio, i dorri tir newydd. Mae'r math o fachgen neu ferch y maen nhw'n anelu atynt yn dueddol o fod yr un peth". Ac eto, mae'r ymchwiliad i fywyd

Page 12: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

cymdeithasol presennol y di-glwb gan y Pwyllgor, lawer yn llai trwyadl nag ymchwiliad Dr. MacAllister Brew yn 'Service of Youth': ac felly, yn aml, nid yw eu darganfyddiadau’n hollol gywir. (e) Strwythur y Clwb Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth o gwbl i strwythur y clwb. "Dylai fod, ymhlith y bechgyn hŷn yma, nifer a allai, gyda'r cymhelliant cywir, chwarae rhan bwysig yn y broses o redeg mudiadau presennol a'r grwpiau hynny sy'n cynhyrchu eu rhaglenni eu hunain..." Ond pa ran fyddan nhw'n ei chwarae? "...Fe fuasem yn hoffi gweld mwy o gyfrifoldeb dros weithgareddau a rhaglenni yn cael ei rhoi i’r bobl ifanc, ble bynnag mae hyn yn bosib, a gwir gyfrifoldeb dros bethau o fewn eu gallu (neu ddigon tu allan iddo i wneud iddynt ymestyn eu meddyliau) yn cael ei roi iddynt..." Ond sut? Ac ym mha fath o strwythur? Pa fath o glwb? Mae pwyllgorau rheoli, clybiau cefnogwyr, cyfranogiad ieuenctid, oll yn cael sylw, ond nid yw'r graddau y dylid defnyddio'r rhain, ac o dan ba amodau, yn cael sylw o gwbl. Nid yw'r awgrym o ddefnyddio ysgolion a chanolfannau cymunedol, yn cael ei archwilio'n ddigonol i ddarganfod y math o berson i fanc y byddai'r adeiladau hyn yn debygol o’i ddenu – neu gadw i ffwrdd. Mae perthnasoedd y Weinyddiaeth gyda'r Awdurdod Lleol; y Mudiadau Gwirfoddol Cenedlaethol a'r

Mudiadau Gwirfoddol Lleol, yn aneglur o hyd. Nid yw ymdrechion i gydlynu'r gwahanol fathau o waith o fewn y gwasanaeth, yn cael sylw.

4. Gwasanaeth Ieuenctid, 1960 Yn gyffredinol, mae'n drewi o'r haenen uchaf i'r gweithwyr yn y maes. Yr unig gyfiawnhad posib yw'r ychydig fannau bach llachar, ynysig iawn, o waith arbrofol ac arbenigol, a'r gronfa fawr o fwriadau da nad oes modd eu defnyddio. Yr Haenen Uchaf: Gellir gweld cyferbyniad rhwng teitl ac enw ysgrifennydd cyffredinol Undeb y Myfyrwyr - Phyllis Savage, ac enwau staff y pencadlysoedd mewn mudiadau ieuenctid, sydd eisoes wedi cael sylw. Pam mae'r holl bersonél milwrol hyn yn cael eu defnyddio mor doreithiog i wasanaethu ieuenctid? Y Milwyr ar Bwyllgor Albemarle: "Nid yw'r pwyllgor yna'n ddim byd ond llond lle o dedi bois". Ac yn y Maes Yn y maes y mae'r arweinwyr, meistri bach y clybiau bach. Gellir eu rhannu'n ddau gategori cyffredinol: (a) Y gweithwyr lles gonest, hen ffasiwn, Yr efengylwr, yr un sy'n holi, yr un sy'n chwilio am waith da i'w wneud. Y rheiny sy'n mynd i mewn i fariau coffi i geisio cyrraedd y "tedi

Page 13: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

boi" fel petaent yn mynd i mewn i'r jyngl. Y frigâd "Dw i wastad wedi bod â diddordeb mewn pobl ifanc"; y rheiny sydd am wneud gwaith da; y rheiny sy'n trio'n galed; y rheiny sydd am achub merched ifanc rhag cymryd camau angheuol. Y rheiny sy'n ymddiheuro. "Rhaid i chi ddod eto. Mae'n drueni i chi ddod ar noson wan". Y rheiny sydd ag ofn ac yn ymwybodol: "Chi'n gweld, maen nhw'n siarad â fi ond dydw i ddim yn teimlo eu bod yn ymddiried ynof fi". Yr ymroddgar a'r realydd: "O, ond mae'n rhaid i chi ddisgwyl trafferth. Daeth giang o'r caffi ar draws yr hewl neithiwr, a chwalu’r clwb yn llwyr. Rhaid i chi ddisgwyl y math yma o beth". Y rheiny y mae pobl ifanc yn tyfu arnynt, hyd nes bod helpu pobl ifanc yn diwallu angen yn y gweithiwr ieuenctid yn fwy nag y mae'r gweithiwr ieuenctid yn diwallu angen y bobl ifanc. Y cymdeithasegwr: "Stopiwch fod mor ddinistriol. Nagoes unrhyw awgrymiadau gyda chi?" Gadewch lonydd iddyn nhw. "Ond allwch chi ddim, bach, maen nhw'n broblem gymdeithasol". (b) Mae'r ail gategori cyffredinol yn cynnwys y rheiny sy'n anonest iddyn nhw'u hunain ac i'r bobl ifanc a'u gwaith; y rhodresgar; y rheiny sy'n credu eu bod yn gwybod yr holl

atebion; sy'n credu bod pobl ifanc yn dod ymlaen yn dda gyda nhw, eu bod yn gallu dod ymlaen yn dda gyda phobl ifanc. Y Milwyr: "A beth am yr ysbryd tîm? A yw pawb yn dod at ei gilydd i gyfrannu?" Y rheiny sy'n falch eu bod mor wydn: "O, ond tedi bois ydyn nhw, bob un wan jac. Rydyn ni wedi trefnu pwyllgor ac ef yw'r unig un sydd ddim wedi bod yn Borstal", (meddai yn llon.) Y merthyr dros bobl ifanc: "Treuliais fy mywyd cyfan gyda phobl ifanc". Y rheiny sy'n dda mewn chwaraeon: "Mae'n helpu os ydych chi'n dda mewn chwaraeon. Eu cadw'n weithgar. Rhoi rhywbeth iddyn nhw i'w wneud". Y bydol: "Rhaid dangos diddordeb mewn pâr o goesau merch. Dangos eich bod chi'n ddynol, hefyd, yntefe?" Y damcaniaethwyr: "Rydw i wedi treulio 'mywyd cyfan gyda bechgyn". Ond beth am y merched? "O, wel, bydden nhw jyst yn dinistrio'r holl waith da yr ydyn ni wedi'i wneud yn adeiladu’n tîm tenis bwrdd". Ond dydych chi ddim yn credu mai diddordeb cyntaf y ferch yw'r bachgen? "Os alla i ddweud, grwt, rwyt ti wedi taro'r hoelen ar ei phen. Dyna pam nad ydw i am eu gadael nhw i mewn".

Page 14: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

Nid yw'r dyfyniadau hyn wedi eu cynnwys am eu gwerth cynhenid eu hunain, ond am eu bod yn enghreifftiau o agwedd nawddoglyd, bendant pobl aeddfed a chyfrifol sy'n ceisio arwain pobl ifanc y genedl yn gyffredinol. Rwy'n gobeithio eu bod yn rhoi rhyw argraff o'r awyrgylch sy'n mygu pobl ifanc – awyrgylch y ddarpariaeth gyffredinol mewn gwasanaethau ieuenctid. Yn fy marn i, porthi'r chwaeth boblogaidd yw agwedd waethaf gwasanaeth ieuenctid llachar, newydd yr oes sydd ohoni. Mae Royston Ellis, y 'bardd' bitnic newydd, yn ffrind i Cliff Richard, ac felly fel symbol o'n treftadaeth ddiwylliannol, mae cylchgrawn yr N.A.B.C., Challenge, yn gallu rhoi cyhoeddusrwydd iddo fel glaslanc gwych. Nawr, yr agwedd yw bod yn rhaid dynesu at ddiwylliant, addysg, yr 'ymgyrch i ddod yn ddyn', o lefel isaf pobl ifanc. Rhaid gorchuddio pilsen chwerw hunanddyrchafiad gyda siwgr 'jazz modern ac yna cŵn poeth, a CHOFFI'; rhaid gwisgo crefydd mewn ‘roc a rôl’. Cyswllt Ffug Mae yna ddyhead gwirioneddol ymhlith trefnwyr ieuenctid i sicrhau bod y cyswllt angenrheidiol gyda phobl ifanc yn cael ei sefydlu ar eu lefel nhw eu hunain. Mae'n drueni bod y rheiny sydd â'r agwedd hon yn methu â deall y cyswllt hwn ar unrhyw lefel heblaw'r lefel arwynebol. Maen nhw'n mynd ar drywydd y cyswllt gan ofni'r bobl ifanc. Ddylech chi byth dweud nad ydych chi'n hoffi roc a rôl. Ddylech chi ddim dweud

na allwch chi wrando ar ddim byd ond y clasuron. Nid yw'r trefnwyr ieuenctid hyn yn llwyddo i ddeall bod pobl ifanc, yn fwy nag unrhyw adran arall o'r gymuned, yn ymwybodol iawn o'u hurddas, nid yn unig fel pobl ifanc, ond fel pobl. Nid criw o bobl wirion ydyn nhw. Maen nhw'n mynnu'r didwyll, y gonest. Rhaid parchu chwaeth y person ifanc a hefyd, yn fwy pwysig, chwaeth y person sy'n gwneud y cysylltiad. Nid peth ifanc, glaslanc, misffit cymdeithasol, llyfr achos gweithiwr cymdeithasol, neu rywun i deimlo trueni drosti/drosto, rhywun sydd angen help, yw'r person ifanc. Mae'r person ifanc yn unigolyn mewn cymdeithas gymhleth. Nid yw am gael ei ystyried fel person ifanc ond, yn hytrach, fel cymeriad, fel unigolyn. Ni ddylai perthynas y person ifanc a'r arweinydd ieuenctid, fod fel perthynas disgybl ac athro; gweithiwr a rheolwr; prentis a meistr na mab a thad - ond dylai fod yn berthynas defnyddiwr a chyflenwr - a rhaid i'r cyflenwr fod fel nofelydd, cynorthwywr ar y tu mewn a thyst ar y tu allan - yn deimladwy i ofynion ei ddefnyddiwr, ond yn gallu sefyll ar wahân a gweld ei gleient, ei ddefnyddiwr, ei gymeriad, mewn persbectif. Un man lle'r oedd Adroddiad Albemarle yn methu oedd nad oedd yn ystyried y berthynas rhwng yr arweinydd ieuenctid, neu'r cyflenwr, a'r person ifanc, y defnyddiwr, o gwbl.

Page 15: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

5. Adroddiad Albemarle a'r Genhedlaeth Iau Mae'r tebygrwydd rhwng yr Adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Albemarle a'r Adroddiad gan Gomisiwn Ieuenctid y Blaid Lafur, yn hynod. Mae'r ddau'n gofyn am fwy o arian ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid presennol, ac ymestyniadau arbrofol iddynt. Nid yw'r naill na'r llall yn cwestiynu p'un ai fod y gwasanaeth ieuenctid sydd eisoes yn bodoli yn addas i bobl ifanc 1960. Roedd y ddau'n credu y byddai'r 'cŵn poeth a choffi', gwisgo'r gwasanaeth i fyny, yn denu'r niferoedd angenrheidiol o bobl ifanc yn eu harddegau hwyr. Nid oedd un ohonynt yn ystyried strwythur gweinyddol clybiau ieuenctid; ac nid oedd un ohonynt wedi meddwl am strwythur arall ar gyfer adrannau gwahanol o'r gymuned ifanc. Ond mae'r ddau wedi gwneud eu gwaith – tynnu sylw at y gwasanaeth ieuenctid, rhoi blaenoriaeth uwch iddo o ran arian gan y Weinyddiaeth. Fel adroddiadau rhagarweiniol, roedd yn rhaid eu hedmygu. Mae'n drueni fod meddylfryd y Blaid Lafur ond ychydig fisoedd o flaen meddylfryd y Llywodraeth – ac nad oedd modd gwahaniaethu rhwng eu meddyliau. Mae'n drueni mwy fod cymaint yn y gwasanaeth ieuenctid yn gweld yr adroddiadau hyn fel dogfennau terfynol i weithio ohonynt. Beth rydw i am ei wneud nawr, yw cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer polisi mwy adeiladol; awgrymiadau

a ddylai, yn fy marn i, gael eu trafod yn fanwl, yn fwy trwyadl gan yr awdurdodau cymwys, cyn gynted â phosib. Gellir rhannu pobl ifanc heddiw yn chwe chategori; a dau raniad mawr: A1. Y myfyrwyr, sy'n cael darpariaeth mewn mudiad llawer mwy pwerus nag unrhyw adran arall o bobl ifanc, yn eu gwaith ac yn eu gweithgareddau amser hamdden. A2. Y bleiddiaid unig sy'n ddigon hapus a diddig, tra'u bod yn cael llonydd. Nid oes gan bob person ifanc amser hamdden yn yr ystyr derbyniol. Rhaid i'r person sy'n llunio polisïau yn y dyfodol gofio gadael llonydd i'r adran hon. Nid yw pob person ifanc eisiau cymdeithasu. A3. Y rheiny sydd â chlymau penodol – gyda'r cartref, cariad, diddordeb penodol, sy'n cael eu holl sylw. Ni ddylid amharu â'r rhain chwaith. Maen nhw'n ddigon diddig. Rhaid parchu eu dyhead i gael llonydd. Ac yna, mae'r rheiny y gall y gwasanaeth ieuenctid ddarparu ar eu cyfer, ac y dylai ddarparu ar eu cyfer. B1. Y rheiny sydd angen hyfforddiant. Mae yna bobl ifanc sydd eisiau gwasanaeth AR GYFER pobl ifanc; sydd eisiau cael eu hyfforddi mewn dinasyddiaeth dda, mewn bod yn aelod o gymuned Gristnogol. Maen nhw eisiau mynd i wersylla gyda'r sgowtiaid a dysgu sut i glymu clymau riffio a sut i goginio. Mae'n ymddangos bod Adroddiad

Page 16: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

Albemarle wedi diflasu'r mudiadau hyn. Maen nhw'n ymddangos eu bod o dan yr argraff y bydd yr holl arian ychwanegol yn mynd i'r 'tedi bois’. Ond nid oes unrhyw beth ymhellach o'r gwir. Ac nid oes unrhyw un yn sylwi ar y gwaith gwych y maen nhw'n ei wneud, ac wedi bod yn ei wneud ers cenedlaethau, ac felly, yn gyffredinol, maen nhw'n dal i fod yn yr un cyflwr cyn-Albemarleaidd o ddigalondid. Mae angen dybryd am fwy o arian ar gyfer clybiau o'r math hwn. Ac mae'n bryd llacio'r terfyn oedran 15 ymhellach, i alluogi, yn benodol, y Sgowtiaid, i geisio'n llwyddiannus am fwy o grantiau. B2. Y rheiny sydd â diddordebau penodol. Mae hyn yn broblem y bydd mwy o arian yn ei helpu, ond ni fydd yn ei ddatrys ynddo'i hun. Mae yna stigma dosbarth ac arian ynghlwm â llawer o'r clybiau hyn sydd â diddordeb penodol. Mae hwylio, marchogaeth, mynydda, ayb, yn dal i fod yn hobïau amser hamdden ar gyfer y rheiny yn y setiau cywir. Fe ddywedodd merch wrthai y byddai'n rhaid iddi ymuno â'r Ceidwadwyr Ifanc os oedd i barhau gyda'i hwylio heb gael ei herlid. Rhaid cyflwyno system grantiau i sicrhau bod modd ehangu aelodaeth y clybiau hyn. Ond fe fydd yr ehangu hwn yn bolisi y bydd y clybiau eu hunain yn ei wrthwynebu'n gryf iawn. Rhaid dyfeisio system i alluogi pobl ifanc i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn yn rhydd; efallai rhoi grantiau i'r clybiau os fyddan nhw'n cynnig helpu a hyfforddi nifer penodol o bobl ifanc sydd am ddefnyddio'u cyfleusterau,

ond yn methu fforddio gwneud hynny. Ond rhaid gwarchod eu natur ecsgliwsif hefyd. Mae yna rywbeth am y clwb ecsgliwsif a fydd yn apelio at bob person ifanc. Fe allai ehangu aelodaeth mewn ffordd ddi-drefn fod yn angheuol. B3. Y categori diwethaf yw'r clwb amser hamdden: a dyma ble mae'r broblem fawr - y 60 y cant sydd ddim am ymuno â chlybiau ieuenctid ar hyn o bryd, y rheiny nad yw'r gwasanaeth ieuenctid yn apelio atynt mwyach, ond sydd yn draddodiadol, serch hynny, ag ysbryd cymunedol cryf. Strwythur Diffygiol Mae'r bai mwyaf ar strwythur y clybiau. Nid yw'r bobl ifanc dan sylw yn hoffi'r clybiau ieuenctid sy'n bodoli ar hyn o bryd. Ac nid methiant y gwasanaeth ieuenctid i fod yn "cŵl" yw'r atgasedd hwn. Yn aml, y clwb "cŵl" sy'n siomi. Y symudiad "cŵl" hwn yw'r rheswm y mae cymaint o'r meddylfryd Albemarle ac ôl-Albemarle yn methu. Mae'r rheswm dros fethiant y clybiau hyn yn mynd yn ddyfnach. "Mae pobl ifanc heddiw wedi diflasu ac wedi blino ar y clwb ieuenctid ficer-aidd sydd gennym nawr. Nid yw pobl yn sylweddoli bod gennym ein meddwl ein hun ac maen nhw'n credu bod angen dyn hŷn a mwy deallus i ofalu amdanom ni". Os yw'r clwb ieuenctid yn mynd i fod yn 'roc a rôl' i gyd, yna plîs, gadewch iddo fod yn broffesiynol; ac mewn clwb roc a rôl proffesiynol heddiw, nid oes angen cymorth y wladwriaeth. Yn ei ffordd ei hun, mae bar coffi'r '2

Page 17: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

I's' yn Old Compton Street yn glwb ieuenctid llwyddiannus, ond ni ddylai'r Weinyddiaeth Addysg gael y dasg o feithrin clybiau o'r fath ar hyd llinellau tebyg. Os ydynt yn cael y dasg hon, yna man a man eu gwladoli. Mae ganddynt werth i'r person ifanc sydd â'r diddordeb penodol. Yr hyn sydd ei angen yw clwb ar gyfer y defnyddiwr cyffredin, y person ifanc cyfartalog o 1960 a fydd yn rhoi urddas, annibyniaeth a phŵer; a fydd yn cynnig dylanwad cymdeithasu ar fywydau ei gwsmeriaid. Ni ddylai nod y Llywodraeth ddirywio i mewn i well 'roc a rôl' – ond integreiddio adran ynysig o'r gymuned i mewn i gymdeithas gyfrifol. Rhaid rhoi cymorth i greu cymdeithas gan y defnyddiwr ifanc ar gyfer y defnyddiwr ifanc; eu byd nhw eu hunain wedi'i integreiddio ac yn cymryd ei le yn y byd mwy ac ehangach. Wrth integreiddio'r adran hon o'r gymdeithas, mae'n hen bryd i'r gymdeithas oedolion gael ffydd yn y boblogaeth nad ydynt yn fyfyrwyr fel y maen nhw’n dangos ffydd yn y myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn gyfres hynod o bwerus a gweddol gyfoethog o fudiadau sy’n cael eu rhedeg gan y myfyrwyr ar gyfer y myfyrwyr. Mae’n hen bryd bod yr adran fawr o bobl ifanc sy’n weddill yn cael cynnig yr un peth, dan amodau tebyg. Yn aml, mae mudiad Undeb y Myfyrwyr yn cael canmoliaeth am ei rhan ym mywyd y myfyriwr, o ran ei baratoi ar gyfer y byd integredig tu allan. Faint yn fwy fyddai rôl mudiad sy’n darparu ar

gyfer pobl ifanc nad ydynt mewn addysg llawn amser, wrth integreiddio rhan o’r gymdeithas sydd allan o diwn gyda phobl eraill o’r gymdeithas, yn y broses o integreiddio’r adran honno i’r gymdeithas gyfan. Mae pobl ifanc wedi cael llond bol ar y geiriau brysiog, ystrydebol yna, “ieuenctid” a “pobl ifanc”; ac wedi cael llond bol ar y bobl hynny sydd wedi “ymroi” neu “ymrwymo” i wasanaeth ieuenctid, fel maen nhw’n ei weld. Yr hyn sydd ei angen yw arwydd o ffydd gan oedolion yn y genhedlaeth o bobl iau nad ydynt yn fyfyrwyr, a hynny ar raddfa fawr. Mae yna grŵp trefnus ac ymwybodol iawn o bobl ifanc sy’n ymateb yn gryf i weithgarwch grŵp sydd wedi’i gynllunio mewn ffordd gydwybodol, yn syml gan ei fod wedi’i gynllunio ar eu cyfer ac nid ganddynt. Mae’r genhedlaeth iau hon yn cael ei dal rhwng tecnocratiaeth a democratiaeth, yn ymrafael ag ymdeimlad tyngedfennol naturiol o fethiant mewn oes ddadrithiedig sy’n prysur golli ei chyfeiriad foesol. Ac nid yw’r gymdeithas yn ei chyfanrwydd yn barod i gynnig y ffydd sydd ei angen os yw’r genhedlaeth hon yn mynd i fod yn gyfrifol yn gymdeithasol.

6. Pontio’r Gagendor Rhwng Gofal a Chysylltiad Ar yr un llaw, mae’r Nhw sydd, wedi dod o hyd i hwyliau’r genhedlaeth ifanc hon, ac wedi gwireddu ei

Page 18: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

gwerth masnachol, wedi gwneud y cysylltiad, er eu lles nhw eu hunain. Prin iawn y bydd y bobl yma sy’n gwneud y cysylltiad yn pryderu mewn gwirionedd; ac yna dim ond pan fydd angen. Prin iawn y byddan nhw’n deall eu defnyddwyr. Mae eu hymchwil i mewn i bobl ifanc yn ffocysu ar ba mor hygoelus y maen nhw’n debygol o fod. Fel yr archfarchnadoedd, maen nhw’n ennill ffydd eu noddwyr, trwy ddulliau hollol arwynebol. Eu camgymeriad nhw yw meddwl nad ydyw eu noddwyr yn ymwybodol o’u dulliau. Ar yr ochr arall, mae’r Nhw y mae pobl yn cymryd eu bod yn ofalgar at bobl ifanc; yr arweinwyr ieuenctid sydd gymaint allan o gysylltiad â’r elfennau arwynebol ym mhatrymau bywyd eu noddwyr ag ydynt gyda’r rhesymau tu ôl iddynt. Mae’r amaturiaid hyn yn dibynnu ar eu cronfa ddiwaelod o fwriadau da. Fel y Cymdeithasau Cydweithredol, maen nhw’n bodoli i gynnig cyfleoedd i’w noddwyr i brofi hamdden, ymlacio, addysg ac integreiddio, ond nid ydynt yn llwyddo i wneud y cysylltiad, i greu’r ewyllys da sydd ei hangen. Rhaid i’r Chwith fod yn feiddgar. Rhaid iddo nodi’n bendant fod yn rhaid rhoi gwasanaeth ieuenctid i’r math hwn o berson ifanc, yn y modd genidol. Fel clybiau’r gweithwyr, y “co-ops”, undebau’r myfyrwyr, rhaid i glybiau ieuenctid o’r math hwn gael eu rhedeg gan y bobl ifanc ar gyfer y bobl ifanc. Rhaid mai tasg y bobl hŷn a gwell hyn yw helpu pan fydd galw arnynt i wneud hynny; ac nid arwain, ac yn llai fyth gorchymyn. Rwyf wedi meddwl yn aml efallai y

byddai o gymorth petai’r clwb unigol â pherthynas uniongyrchol at wasanaeth ieuenctid canolog, ac nid trwy fudiad gwirfoddol. O’m profiad i, mae’r swyddogion yn y Weinyddiaeth wedi bod yn llawer mwy craff a chydymdeimladol na phenaethiaid y mudiadau gwirfoddol, sy’n aml yn rhan amser. A rhaid i’r cyhoedd ddeall na fyddai hyn yn ddiwedd ar y cweryla, yr ymladd yn y strydoedd. Allai hyn ddim bod - fe fydd y glas wastad yn las: fe fydd israddedigion wastad yn israddedigion; fe fydd “teds” wastad yn “teds”. Ond yr hyn sy’n rhaid ei wneud yw pontio’r bwlch hwn rhwng y rheiny sy’n pryderu ond heb wneud y cysylltiad â’r rheiny nad ydynt yn pryderu ond sydd wedi gwneud y cysylltiad. A’r Canlyniad? Efallai y bydd gwyryfon yn cael eu treisio. Efallai y bydd clwb yn cael enw gwael fel puteindy cyhoeddus. Efallai y derbynnir nwyddau wedi eu dwyn. Efallai y bydd yna guddfan i ladron a llofruddwyr. Efallai y bydd pobl weddus yn cael eu dychryn. Efallai y bydd yna le i buteiniaid ifainc weithredu. Ond er gwaethaf hyn, o fyd di-drefn eu hunain, daw byd trefnus eu hunain, wedi’i lywodraethu ganddyn nhw’u hunain, wedi’i integreiddio i mewn i’r gymdeithas gyfrifol. Fe fydd yn rhaid talu’r dyn llaeth. Fe fyddan nhw’n atebol i’r rheiny sy’n rhoi’r arian. Yn atebol i’w bancwyr, eu harchwilwyr – yr holl gyrff proffesiynol hynny y mae’n rhaid i bob aelod o’r gymdeithas, rywbryd

Page 19: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

neu’i gilydd, ateb iddynt – hyd yn oed Comisiynwyr Cyllid y Wlad. Fe fydd y bobl ifanc dan sylw yn cael gwell dealltwriaeth o’u byd eu hunain, a’r byd mawr tu allan. Fe fydd y mudiad wedi dod o lawr gwlad, oddi tano, wedi’i drefnu gan leiafrif deallus ac addysgedig y bobl ifanc. Gellir gweld paralel gydag ymddangosiad cenhedloedd Affrica. Mae’n bryd i’r Weinyddiaeth Addysg ryddhau’r Gwasanaeth Ieuenctid. O frenhiniaeth oleuedig y clwb ieuenctid traddodiadol, o’r frenhiniaeth gyfansoddiadol ôl-Albemarle, mae’n rhaid mai’r cam nesaf yw annibyniaeth. Fe fydd gwers y Congo’n cael ei hailadrodd, yn ogystal â gwers Ghana. Fe fydd angen yr henuriaid o hyd ar gyfer y tasgau arbenigol a medrus, ac fe fyddan nhw’n gwybod ac yn teimlo bod eu hangen, ond rhaid bod y gweithredu cyffredinol yn nwylo’r bobl ifanc. A’r Canlyniad Os Na Wnawn Ni Hyn? Fe fydd y ddrwgdybiaeth ohonyn Nhw yn parhau: y Nhw sydd am fynd â’n harian ni, ein cadw ni oddi ar y strydoedd, ein gwneud ni’n bobl dda, rhoi roc a rôl i ni. Nid yw’r jiwc bocs, dan ofal y Weinyddiaeth Addysg, yn ateb. Y cyfan y mae’r jiwc bocs yn ei wneud yw porthi chwaeth boblogaidd. Man a man ein bod ni’n gwladoli mudiad Mecca gyda’i arwyddeiriau cwrteisi a gwasanaeth; Polisi sy’n Addas i Bawb; Effeithiau Golau Gwych. Plîs, dim gwasanaeth cymdeithasol - benthyciad, nid cymhorthdal. Rhaid i’r genhedlaeth

iau hon fod yn ymatebol yn gymdeithasol, ond cyn hynny rhaid iddi ddod yn gyfrifol yn gymdeithasol. Rhaid iddi ddysgu hunanlywodraeth cyn y gall ddisgwyl (a chyn y gall y gymdeithas ddisgwyl iddi) ddeall cymdeithas ddemocrataidd a chymryd rhan ynddi. Roedd Adroddiad Albemarle yn nodi: “Dylid rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan fel partneriaid yn y gwasanaeth ieuenctid, ac yn arbennig yn natblygiad grwpiau sy’n eu rhaglennu eu hunain. Rhaid i’r gwasanaeth AR GYFER pobl ifanc edrych ar ei hun o’r newydd. Mae’r cynnydd rhwng 1943 a 1960 wedi mynd tuag at yn ôl. Pwy yn union yw’r NI sy’n bwriadu gwneud hyn i gyd ar eu cyfer NHW? Oni ddyle nhw fod yn gallu ei wneud drostynt eu hunain? Yr ateb yw DYLENT, os ydyn ni’n rhoi’r cyfle iddyn nhw. Nid dim ond mwy o arian sydd ei angen, ond ffydd. Rhaid i ni fod yn barod i ddweud: dyma grant, a roddir i chi, bobl ifanc, o dan yr amodau canlynol...trefnwch eich hun, ymsefydlwch fel sefydliad democrataidd, clwb a fydd yn darparu ar gyfer hamdden, hobïau ac addysg eich pobl eich hun. A’r Arweinwyr Yn y Math Hwn o Glwb? Dyma anhawster, ond rwy’n credu’n wir y byddai arweinwyr ieuenctid yn dod yn eu blaen o dan gynllun o’r fath. Mae pwyllgor y clwb yn penodi’r staff. Efallai y bydd y pwyllgor dan bwysau, ond pa bwyllgor sydd ddim o dan bwysau? Efallai y bydd y clwb yn ildio, a gellir penodi’r person anghywir. Ond yn

Page 20: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

gyffredinol, fe fydd arweinydd yn dod i’r adwy - fe fyddai mudiad cyfan yn dod i’r amlwg gyda staff o bobl ifanc, sydd â sgiliau mewn delio gyda’u problemau eu hunain mewn ffordd drefnus iawn. A’r Coleg Hyfforddi Cenedlaethol Ar Gyfer Arweinwyr Ieuenctid Sy’n Cael Ei Sefydlu Nawr? Rwy’n teimlo, os yw hyn ar gyfer yr arweinwyr ieuenctid, ac nid y gweinyddwyr a’r cynghorwyr medrus ar gyfer gwasanaeth ieuenctid mawr, unedig sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc, yna mae’n un o’r eliffantod gwyn mwyaf y mae’r Llywodraeth wedi buddsoddi ynddo. Dylai rheolwr y clwb, pan fydd dros 25 oed, ac yn methu â gwasanaethu fel arweinydd mwyach, fod yn gallu mynd i goleg o’r fath a hyfforddi i ymuno â’r staff yn y pencadlys cenedlaethol neu leol, fel gweinyddydd neu berson wedi’i hyfforddi, gyda sgil benodol i’w chynnig i bob clwb mewn ardal benodol. A Chyrff Ymddiriedolaeth? Rhaid cael yr opsiwn olaf hwn, ar gyfer pwyllgor rheoli, sy’n cynnwys pobl ifanc, ond dim ond ar gyfer yr adegau hynny o argyfyngau dwys sy’n ymddangos nad oes datrys iddynt, sy’n siŵr o ddigwydd. Dylen nhw fod yn gorff o gynghorwyr, ac, nid yn gorff gweithredol neu lywodraethu, o dan unrhyw amodau. Efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw ddal yr eiddo a’r asedion, os na fydd pwyllgor rheoli clwb yn cael gwneud

hynny, o dan y gyfraith, oherwydd eu hoed. Dylent helpu pan ofynnir iddynt wneud hynny, a chamu i mewn mewn argyfwng yn unig. A Chynorthwywyr Gwirfoddol? Yn y clwb ble rydw i’n gweithio, mae yna lond lle o gynorthwywyr gwirfoddol – pob un heb ei dalu, pob un o dan 25 oed, pob un yn gweithio’n galed. Mae yna lond lle o bobl ifanc sy’n aros i helpu i adeiladu a gweithredu eu clwb eu hunain, os ydynt yn gallu teimlo mai eu clwb nhw ydyw. A Beth Sydd yn y Clwb Hwn? Yn yr un modd ag adeilad Undeb y Myfyrwyr – Clwb Gweithwyr – ystafell fwyta ac yfed, bar coffi, neuadd ddawns, ystafelloedd ar gyfer addysg, hamdden, gweithgareddau penodol y byddai clwb am eu cynnig. Yr hyn yr wyf i’n ei hyrwyddo yw sefydlu Gwasanaeth Ieuenctid yn y Modd Genidol, o dan arweiniad medrus gan y Weinyddiaeth ac awdurdodau lleol. Dylai’r gweithredu yn y maes fod yn nwylo’r bobl ifanc yn llwyr, gyda’r bobl ifanc yn dewis eu haelodau gorau i weithio’n llawn amser, ac i gael eu talu’n llwyr yn eu mudiad eu hunain. I ddechrau, rhaid iddo ddarparu ar gyfer hamdden. Rhaid iddo fod yn wasanaeth ar wahân i’r gwaith, y cartref neu’r ysgol, wedi’i leoli mewn adeilad ar ei gyfer ei hun yn unig, mewn ardal a ddefnyddir gan bobl ifanc mewn ardal benodol – ac nid adain i’r ieuenctid sydd ynghlwm ag

Page 21: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

ysgol. Os yw person ifanc eisiau addysg, mae yna fudiadau a sefydliadau i ddarparu’n broffesiynol ar gyfer ei anghenion penodol. Yr hyn sy'n rhaid iddo ei gael, yn hwyr neu hwyrach, yw ei le ei hun, sy'n cael ei weithredu gan ei bobl ei hun; a dylai fod yn gyfrifoldeb i'r Blaid Lafur bwyso am bolisi a fyddai'n gwneud hyn yn bosib. Mae'n bolisi a fyddai'n llawn anhawster, ond mae'n bolisi sydd wedi ei gweithredu'n llwyddiannus i grwpiau eraill yn y gymdeithas – y clybiau golff, y cymdeithasau cydweithredol, clybiau cinio'r merched, undebau'r myfyrwyr. Ac, fel y myfyrwyr, nid oes gan bobl ifanc yn y dosbarth hwn yr arian i dalu’r cyfalaf cychwynnol sydd ei angen i weithredu polisi o’r fath. Rhaid iddo fod yn gyfrifoldeb ar y Llywodraeth i ddarparu’r cyfalaf cychwynnol – ar ffurf benthyciad i’r bobl ifanc eu hunain a fydd yn gorfod sicrhau, ac a fydd yn sicrhau, fod clwb o’r fath yn talu amdano’i hun. Ni fydd amser hamdden y person ifanc sy’n gweithio yn cael ei ddiwallu gan weithwyr ieuenctid sy’n darparu gweithgareddau ar ei gyfer; ni fydd pobl ifanc yn fodlon gyda gwasanaeth ieuenctid hyd nes eu bod nhw’n gallu rhedeg y sioe, eu sioe nhw eu hunain; a hyd nes, fel y golffwyr a phob un arall, bod ganddyn nhw eu lle eu hunain, wedi’i rheoli ganddyn nhw’u hunain. Dylai’r Blaid Lafur deimlo’n falch ei bod wedi hyrwyddo achos o’r fath – gwasanaeth sy’n cael ei rhedeg gan y bobl ifanc ar gyfer y bobl ifanc.

7. A Dyma Gaerlŷr Geirfa Dinas - ardal Dinas Caerlŷr, a’r maestrefi; y boblogaeth gyfan; y cyhoedd. Y Dref - ardal ganol y dref, sy’n cynnwys y sinemâu, tafarndai, caffis, siopau, neuaddau dawns - yr ardal ganolog y mae bywyd y ddinas yn troi o’i chwmpas; ac yn benodol y canolfannau adloniant hynny a ddefnyddir gan bobl ifanc sy’n gweld y dref fel eu hardal leol nhw, er eu bod, efallai, yn byw mewn maestrefi. Aelodaeth – defnyddir yn gyffredinol i gynnwys defnyddwyr rheolaidd y clwb; y rheiny sy’n adnabyddus i’r staff a’r pwyllgorau. Yn ystod yr amser rhydd a oedd gennyf tra ym Mhrifysgol Caerlŷr, symudais yn raddol i ffwrdd o’r mannau traddodiadol y byddai’r myfyrwyr yn mynd iddynt – Undeb y Myfyrwyr, y bariau cwrw digon rhyfedd – yn ôl at y diriogaeth a oedd yn adnabyddus i mi, ac yr oeddwn wedi cael fy magu ynddi ers yn blentyn, yn Northampton, yn Llundain, ac mewn dinasoedd taleithiol ar draws Prydain. Nid oeddwn yn teimlo’n gyffyrddus (ac mae hyn yn wir hyd heddiw) yn y tafarndai ar ystadau maestrefol mewnol parchus, neu yn y tafarndai arbenigol ar gyfer y chwaethus yng nghanol y dinasoedd. Roedd yn well gen i’r dafarn a’r bar coffi mawr,

Page 22: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

cymysg yng nghanol y ddinas gyda’u cwsmeriaid cymysg – Gwyddelig, lleol, Dwyrain Ewropeaidd, puteiniaid, teds, masnachwyr marchnad – y math o dafarn ble mae dyn yn gallu treulio noson gyfan ar ei ben ei hun, heb unrhyw un yn tarfu arno nac yn siarad ag ef, ac eto gydag ambell jôc wrth y bar mae’r gymdeithas yn ei dderbyn. Ar fy mhen fy hun, roeddwn yn arfer eistedd neu sefyll wrth fariau gwahanol, stondinau cŵn poeth, tai coffi a neuaddau dawns ar draws y ddinas am wythnosau, heb siarad â neb, heblaw am y geiriau cyfeillgar arferol - hyd nes i mi deimlo fy mod yn dechrau dod i delerau â’r hinsawdd, awyrgylch y ddinas a’i phobl. Ar y pryd, roedd hyn yn weithgarwch hanner-ymwybodol. Nid oeddwn wedi meddwl am weithio gyda phobl ifanc, nag am aros yng Nghaerlŷr, o gwbl. Diddordeb oedd fy nghymhelliant, hoffter tuag at y mathau o berson yn y dref a’m hatgasedd at y myfyrwyr fel corff. Roedd hyn yn newid. Roedd yn dda i ‘nobl’. Yn araf, o ddarnau bach o sgyrsiau a glywais, ac wrth symud o un neuadd ddawns i’r llall, o un dafarn i’r nesaf, roedd gennyf ddarlun gweddol gywir o’r ddinas - yr ystadau garw, y tafarndai coeth a pharchus, bariau’r hoywon, y bariau ar gyfer puteiniaid, tafarndai’r bobl ifanc, neuaddau dawns, ayb. - y rhai ar y dref, y rhai ar gyfer y dosbarth gweithiol gonest, y rhai ar gyfer y parchus, y rhai ar gyfer y cyfoethog. Ac ar ôl bron i chwe mis o fynd o le i le’n ddamweiniol ac yn ysbeidiol,

roeddwn i’n defnyddio tafarn ar faestref fewnol fel fy nhafarn rheolaidd. Roedd hi’n fawr, gyda dartiau a sgitls, ar gyfer y dosbarth gweithiol, dim honiadau, dim byd brwnt neu slebogaidd, dim pobl tu allan i’r cyffredin o ran cwsmeriaid; dim ond dynion a menywod cyffredin, o bob oed, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n byw ar yr ystâd gerllaw. Ond roedd y bobl ifanc, yn gyffredinol, yn eu cadw eu hunain i’w hunain mewn un cornel, a theimlais fy hun yn agosáu at y cornel hwnnw. Ddywedais i ddim rhyw lawer - gwrando, yn dawel - ond gydag amser, cefais wahoddiad i ddod i fyny’r grisiau bob Nos Lun i wrando ar y band yn ymarfer. Gwahoddiad agored, ac fe dderbyniais. Gallech chi ddweud mae’n debyg nad oedd angen yr holl symud araf hwn i mewn i grŵp cymdeithasol cadarn, a’i fod yn wastraff amser. Petawn i wedi dweud o’r dechrau - rwy’n dod o’r dref nesaf i’r de. Rydw i’n styc yn y blydi prifysgol yma. Rwy’n casáu’r lle. Ewch â fi allan i weld y dref, cael amser da, OK? fe fuaswn i wedi cael canlyniadau haws a chyflymach. Fe fuaswn i wedi bod yn un o’r bois, ychydig yn rhyfedd, ond yn OK. Ond doedd gen i ddim unrhyw fwriad i fod yn un o’r bois, a does gen i ddim bwriad nawr. Ni chefais fy ngwneud felly. Ni chefais fy magu felly. Dydw i ddim yn meddwl fel hyn, a dydw i ddim eisiau bod yn un o’r bois. Y dull cysylltu arall fyddai wedi bod yr un gonest - rydw i eisiau gwneud daioni. Rydw i wedi cael addysg. Rydw i eisiau eich helpu chi. Petawn i wedi gwneud hyn yn iawn, yna

Page 23: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

efallai y byddai wedi gweithio, ond unwaith eto doeddwn i ddim yn gallu gwneud daioni, a doeddwn i ddim eisiau gwneud daioni. Es allan i’r dref i gael hwyl, allan o ddiddordeb ac i ddianc oddi wrth fy nghyd-fyfyrwyr. Doeddwn i ddim eisiau gwneud dim byd a oedd yn adeiladol yn gymdeithasol, na gwneud cysylltiad. A doedd hi ddim yn fater o fynd allan i gael amser da gyda’r bois. Dyhead oedd hwn i gadw fy nhraed ar y ddaear, mater o ddiddordeb, o hoffter, a dyna ydyw o hyd. Arian a Hwyl Roedd y band ar Nos Lun yn yr ystafell lan llofft yn gyfuniad rhyfedd. Roedd y canwr yn Cliff Richard bach ‘posh’. Iddo ef, roeddwn i, mewn ffordd digon amwys, yn Ddyn o’r Tu Allan. Roedd ef eisiau cael pobl i’w hurio, cyhoeddusrwydd, brêc. Roedd yn meddwl efallai y gallwn i ei helpu i wireddu hyn. Roedd y band yn un traddodiadol, wedi’i fagu yng nghlybiau gweithwyr a chlybiau ieuenctid y ddinas, a’r tafarndai yn y wlad, ac roedden nhw’n amau unrhyw un o’r tu allan. Roedden nhw eisiau arian a hwyl, ac nid unrhyw fath aruchel o addoliad, neu obaith o enwogrwydd. Roedd cefnogwyr y ddau, fy nghysylltiadau cyntaf, am i’r band, y canwr, a’r perfformwyr a oedd yn eu cefnogi, ddod ymlaen. Nhw, wedi i mi fod gyda'r band a chriw'r dafarn am ychydig wythnosau, a awgrymodd eu bod am redeg eu dawns eu hun; oherwydd yn aml roedd chwarae i bobl eraill yn waith di-ddiolch, ni fydden nhw’n cael unrhyw frêc y

ffordd yr oedden nhw’n mynd nawr, efallai y byddai’r ddawns yn gwneud arian i mi, a beth bynnag, roedd y cyfan yn ‘nobl’, yn ychydig o hwyl. Roedd bron pob un yn y grŵp yn hoffi’r syniad. Gofynnwyd i mi drefnu dawns; llogi neuaddau, a’r holl fusnes y byddwn i, yn eu barn nhw, yn gallu ei wneud yn well na nhw. Roeddwn i’n gweld eu pwynt ac felly fe anogais i’r peth bob cam hyd at y manylion ymarferol. Ar yr adeg hon, dyma fi’n gadael y Brifysgol, a dychwelyd i Lundain. Ond diolch i’r syniadau yr oeddwn i’n dechrau dod ar eu traws, a’r cysylltiadau yr oeddwn i wedi’u gwneud, des yn ôl i Gaerlŷr ar ôl mis, fel dyn gweithiol. Cymerais fflat, a swydd galed ar y rheilffordd - gwaith caled, cyflog teg gyda’r shifftiau goramser. Gyda’r band a’r canwr, llogais neuadd ar gyfer dwy Nos Wener yn olynol. Y noson gyntaf cafwyd colled sylweddol. Yr ail noson, roeddem yn ffodus i adennill ein costau, ond dyna’r diwedd i mi. Roedd yr arian wedi mynd, ac nid oedd mwy ar gael. Fe gymerodd wythnosau o oramser i dalu dyledion y ddawns gyntaf. Ond roedd yr arbrawf wedi gwneud un peth da. Roeddwn i’n dod yn adnabyddus. Mewn ffordd fechan, roeddwn i ar y map, ac nid fel un o’r bois neu un ohonyn Nhw - ond fel person ‘ok’, yn trio’n galed. A nawr, i ychwanegu at y band hanner-proffesiynol a’i ganwr, roedd yna fand rheolaidd, mwy amatur, arall o bobl ifanc y dref. Roedd mwy nag un canwr yn y band â mwy o ddiddordeb mewn cael hwyl na gwneud arian ac enw. Roedd y band yn cynnwys ffrindiau Arweinwyr

Page 24: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

Pwerus Mawr y Dref. O’r band yma y cafwyd y bobl i lenwi rhai o’r swyddi pwysig yn y mudiad presennol. Cefais ysbrydoliaeth gan yr ail fand hwn, a sbardunwyd y syniad yn ei flaen ymhellach. Parhaodd y dawnsfeydd. Roedd yna golled, ond rhywsut nid oedd ots nawr. Anghofiais am y biliau. Roedd y syniad yn cymryd siâp, a’r hyder ynddo’n cynyddu: clwb yn cael ei redeg gan y Dref ar gyfer y Dref ar hyd yr un llinellau ag Undeb y Myfyrwyr. Daeth y wasg i’r dawnsfeydd, yn gyfeillgar ac yn ddefnyddiol. Roedd yna gefnogaeth i’r syniad o gyfeiriad y Brifysgol, a gwelais fod fy meddyliau i fy hun wedi ymddangos ym meddyliau pobl eraill. Roedd yr hinsawdd ar gyfer cefnogaeth yn iawn. Caerlŷr oedd y lle cyntaf ar gyfer clybiau wedi’u noddi gan fenter o’r enw Youth Venture; ac un o’r cyntaf i ofyn am grant gan y Weinyddiaeth Addysg o dan yr amodau ôl-Albemarle. Daethpwyd o hyd i safle, yn weddol rhad, yng nghanol y ddinas, i’w ddatblygu yn gartref parhaol i’r bobl ifanc. Wrth i’r dawnsfeydd bylu nid oedden nhw’n gyfrifoldeb i mi mwyach. Roedd pwyllgor bellach yn cymryd awenau’r syniad, y dawnsfeydd a’r dyfodol - pwyllgor o aelodau a ddaeth, i raddau helaeth, o blith aelodau’r ail fand. Fe welodd y cefnogwyr botensial yn y syniad, ac yn y bobl a oedd yn gysylltiedig ag ef. Newidiais fy swydd a gweithio ar felt cynhyrchu ffatri genwair. Ac ym mis Mawrth y llynedd cefais fy mhenodi yn ysgrifennydd llawn amser i’r mudiad. Mewn cyfnod o bedair

wythnos roedd grŵp hunan-raglennu a oedd yn cynnal dawnsfeydd wythnosol mewn neuadd eglwys wedi dod yn fudiad llawr gwlad gydag ymrwymiad o £12,000 mewn gwariant cyfalaf o blith ei gefnogwyr. "Tŷ'r Arglwyddi" O fis Mawrth i fis Mehefin, ychydig iawn a ddigwyddodd. Roedd gennyf yr amser yr oedd ei angen i ddod o hyd i’r personoliaethau a’r cysylltiadau i sicrhau bod y cynllun yn un cadarn. Roedd yna faterion gweinyddol a chyfreithiol i’w setlo; caniatâd cynllunio. Ffurflenni’r Weinyddiaeth i’w llenwi, y pwyllgor a mudiadau cefnogwyr i’w ffurfio. Roedd Corff yr Ymddiriedolaeth yn ei weld ei hun fel corff o gefnogwyr, ac nid pwyllgor rheoli. Roedd y bobl ifanc ei hunain yn teimlo angen am ‘Dŷ'r Arglwyddi’ o’r fath gyda rheolaeth gyfreithiol, ac roedd ganddynt bwyllgor rheoli yn cynnwys eu haelodau nhw yn unig a oedd yn setlo’r holl faterion polisi ac arfer ymarferol. Eto, hyd yn oed yn y Corff Cefnogol, mae’r aelodau’n rheoli 40 y cant o’r pleidleisiau. Roedd yn rhaid sefydlogi’r Pwyllgor i’w wneud yn fwy neu’n llai cynrychiadol o’r Dref a defnyddwyr y clwb yn y dyfodol. Yn ystod y cyfnod hwn o gyflogaeth llawn amser wrth sbarduno datblygiad y clwb, treuliwyd llawer o’m hamser yn dod o hyd i’r personoliaethau a fyddai’n cadw’r clwb ‘ar y Dref’, ac yn deall natur y grwpiau pŵer y bydden nhw’n eu cynrychioli, i raddau. Heb yr amser yma, rwy’n amau a fyddai ‘Arbrawf Caerlŷr’ wedi bodoli yn ei ffurf

Page 25: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

bresennol. Nawr, roeddwn i’n teithio’r tafarndai, y neuaddau dawns, y bariau coffi a chorneli’r strydoedd, yn hyderus. Y Dref Roedd y Dref yn disgyn, yn gyffredinol, i dri chategori: 1. Hen Bobl y Dref – dynion gwydn, caled a oedd wedi bod yn ‘tedi bois’ yn y 50au. Roedd y rhain yn awr yn 20-30. 2. Y Dorf Newydd a oedd erbyn hyn yn Bobl y Dref. Roedd y cyhoedd yn eu gweld fel dynion ifanc, caled ac a oedd yn cael eu harwain gan un dyn ifanc, cryf. 3. Y Plant a fyddai’n ei gefnogi, waeth beth fyddai strwythur mewnol y clwb. Roeddwn i’n canolbwyntio ar Bobl y Dref heddiw, 18-20 mlwydd oed; rhai ohonynt wedi bod ar y pwyllgorau ers eu dechreuad. Ond hyd yn hyn, nid oedd syniad y clwb wedi cael effaith ar yr arweinydd, Brenin Pobl y Dref, yn llygaid y cyhoedd o leiaf. Roeddwn i’n argyhoeddedig y byddai’n rhaid iddo fod ar y pwyllgor hwn, os oeddwn i eisiau cefnogaeth y dref. Roedd yn gweithio i fusnes ceir ail law ar heol brifwythiennol ychydig tu allan i’r ddinas. O fod yn ffrind, roedd yn rhaid i mi ei adnabod, a darganfod pam fod ganddo enw mor dda. Treuliais bron i wythnos allan yn y garej hon, yn siarad, yn gwylio, yn gwrando, yn holi, yn chwilio. Roeddwn i’n siŵr ei fod yn ddyn da ar gyfer y pwyllgor, ac felly fe ddaeth ar y pwyllgor. Dydw i ddim yn siŵr pa mor iawn oeddwn i, neu os oeddwn i’n anghywir; ond rydw i’n gwybod nawr y dylwn i fod wedi cynnwys un neu fwy o’r arweinwyr eraill nad oedd mor fawr a grymus, ond a oedd â phŵer, dylanwad a pharch yn y Dref. Yn y cyfamser, roedd ein cais am grant cyfalaf wedi arwain at gynnig o 50 y cant gan y Weinyddiaeth, tuag at gostau

cyfalaf. Roedd darluniau penseiri’n cael eu pasio gan yr awdurdodau perthnasol. Ond ni fyddai’r adeilad newydd wedi’i orffen am ddeuddeg mis arall. Eto, ar y llawr, roedd yna fudiad yn bodoli’n llwyr, yn aros i’w gadarnhau. Aethpwyd ati bryd hynny i ddod o hyd i safle newydd – canolog, yn y dref, un mawr. Ni ddaeth unrhyw beth o’r cynllun cyntaf. Roeddwn i wedi taro’r gwaelod. Cefais fy ngorchymyn gan y pwyllgor i ddod o hyd i adeilad arall, a bod yn sicr y tro hwn fod rhywbeth yn dod ohono. Daethpwyd o hyd iddo, ac ar ôl trafferthion cychwynnol, roeddem yn barod i symud i mewn. Roedd y manylion ymarferol bron yn gyflawn - staffio, oriau, gweithrediad. Wedi brwydro am gefnogaeth y Dref i’r syniad sylfaenol, roedd gan y cefnogwyr farn wahanol ynghylch ei weithredu. Yn naturiol, roedden nhw eisiau gweld eu syniad bach nhw ar waith. Roedd yna bwysau i gael swyddi, i gymryd drosodd, i gael fy ngwared i, yr Ymddiriedolwyr, fy nghefnogwyr personol i ar y pwyllgor, er mwyn rhoi rheolaeth lwyr i Hen Bobl y Dref, Pobl y Dref heddiw, y Bandiau, y rhai a oedd am wneud arian o’r cynllun, y plant cyffredin a oedd yn casáu effaith drechol y Dref. Cynigiwyd llwgrwobrwyon. Ar adegau, mae’n rhaid rhoi llwgrwobrwyon, i dawelu adrannau, neu i ennill cefnogaeth eraill. Fel sydd i’w ddisgwyl mewn cymdeithas o’r fath, nid yw prynu diod a tharo rhywun ar ei gefn yn ddigon i ddynion a menywod pwerus yn y gymdeithas hon. I ryw raddau, mae hyn yn parhau hyd heddiw. Yr ymgyrch i gael swydd, y ceisiadau i gymryd drosodd, y difrodi, defnyddio ystafelloedd fel puteindy, tatŵydd gwrywaidd, ysgol gardiau, ar gyfer derbyn eiddo wedi ei ddwyn, trawsnewid yn gaffi trwy’r nos, clwb cinio i ddynion busnes - roedd yn rhaid gwrthod y rhain i gyd, a heb os fe fydd yna lond lle o bwysau i’w gwrthod yn y dyfodol - a’r syniad sydd wastad ym

Page 26: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

meddwl rhywun y dylai’r mudiad dalu allan i fodloni phob chwilen ym mhen yr aelodau, pob dyled a phob amser caled. Cafwyd cyfarfodydd pwyllgor ble roedd yr aelodau yn ofn siarad rhag ofn iddynt ddioddef dial. Ar un adeg roedd yn rhaid talu arian allan i atal yr ystafell yr oedden ni’n ei defnyddio fel swyddfa rhag cael ei difrodi, y papurau rhag cael eu dinistrio a fi rhag cael fy nhorri i fyny. Bob tro, mae yna ateb syml - gwahodd cefnogwyr y syniad fel syniad, y clwb fel clwb, sef y mwyafrif helaeth, ond nid yw hyn yn digwydd. Roedd yn rhaid i ddrws y clwb fod yn agored i bawb. Ac nid oedd trin troseddwyr yn yr un ffordd ag yr oedden nhw wedi trin y clwb, yn ateb. Rydw i wedi cwrdd â phob her o’r natur eithafol yma, ar fy mhen fy hun. Ers hynny, cefais fy mhrofi’n iawn. Pan fydd y cefnogwyr wedi symud i mewn yn erbyn unigolion neu grwpiau pŵer unigol, maen nhw wedi defnyddio’r dulliau grym traddodiadol, a bron ymhob achos, maen nhw, neu’r clwb, wedi dioddef. Cyn i’r clwb agor, roedd yna ddadl, ar bob lefel, ynghylch staff. Roeddwn i’n gwrthod credu y byddai’r cynllun yn gweithio petai staff yn cael eu penodi o blith unrhyw un heblaw pobl y Dref. Roedden ni ar y Dref, gyda’i holl fanteision ac anfanteision; a dylai’r holl staff fod â phrofiad o’r ffordd y mae’r Dref yn gweithio, y personoliaethau a’r egwyddorion dan sylw. Pwynt arall yr oeddwn i’n benderfynol yn ei gylch oedd agor yn ystod y dydd a than yn eithaf hwyr yn y nos – ganol dydd i ganol nos. Caffi Canol y Dref Wrth i’r clwb agor, aeth y gwaith o reoli oddi wrthyf i at y tîm o staff a’r pwyllgor, ac roedd hyn yn fy siwtio i’n iawn. Bellach, roeddwn i wedi datblygu i mewn i’r person yr ydw i nawr – pennaeth gweinyddu, sy’n atebol i’r pwyllgor, ac yn gweithredu eu

dymuniadau nhw. Roedd y syniad wedi datblygu i mewn i fudiad. A dyna fe; caffi canol y dref; y bar coffi a ddatblygodd i fod yn brif fan ymgynnull ar gyfer y Dref, ac yn faes y gad i bob grŵp pwysedd cystadleuol a giang yn y Dref. Roedd y syniad yn gweithio ac yn dechrau talu ffordd. Roedd y staff llawn amser, ar gyflog llawn, y cynorthwywyr gwirfoddol a’r pwyllgor yn bersonoliaethau o’r Dref, ac mae hyn yn wir hyd heddiw - y crwt ifanc sy’n byw ar enillion anfoesol; y butain ifanc; y lleidr proffesiynol; y dyn caled sy’n dal i fod yn llawn natur ar ôl rhoi cosfa i mi; yr amlgymharus; y lleidr; y bachgen o’r Borstal; y ferch o’r Ysgol Warchod; yr un sy’n araf yn feddyliol; yr un sy’n llawn creithiau; yr unllygeidiog; y diog a’r person anghyflogadwy; a’r gonest, y gwydn a’r cyffredin. Nid dim ond aelodau o glwb ieuenctid oedd y rhain, ond, i ryw raddau, gweithwyr ieuenctid, trefnwyr a gweithredwyr mudiad mawr sy’n darparu ar gyfer cwsmeriaid sy’n amrywio o’r wyryf 19 oed mwyaf dymunol i’r llofrudd 25 oed, a lwyddodd i gael dedfryd am ddynladdiad. Ai dyma’r awyrgylch y gofynnir i’r bachgen a’r ferch ifanc, cyffredin fod yn rhan ohono? Na, ni fuasai bachgen neu ferch gweddus yn rhoi troed mewn clwb o’r fath. Mae’n enwog ar draws Dwyrain Canolbarth Lloegr. Ond i’r nifer fawr o bobl sydd â’r Dref ar eu meddwl, boed yn onest, yn weddus, yn dwyllodrus neu’n buteiniaid; iddyn nhw mae’r clwb yma’n fendith. Mae’n ddolen gyswllt go iawn rhwng y clwb ieuenctid traddodiadol sydd ddim yn apelio i berson ifanc o’r fath, a’r dafarn neu’r caffi masnachol ar y Dref. Mae yna ymladd, mae yna dreisio ac mae yna ddwyn; ond yr hyn sy’n rhyfedd yw ei fod yn goroesi - ac nid yw hyn yn ganlyniad i ddylanwad unrhyw berson unigol. Mae’n bodoli ac mae’n symud

Page 27: Mae Hawlfraint ar y Deunydd hwn - youthworkwales.org.uk · hwn ar CD at ddibenion addysgol yn unig. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’r deunydd hwn, ac ni ellir ei

yn ei flaen. Mae yna ymdeimlad cymunedol o gyfrifoldeb dros yr hyn y maen nhw’n ei weld fel eu clwb nhw eu hunain. Nhw, ac nid fi, sy’n gwneud iddo weithio. Nhw sydd wedi ei adeiladu, ei beintio, ei atgyweirio, a nhw sy’n sicrhau bod ei siartiau cynnydd yn mynd i fyny ac i fyny. Nid yw’r ymladd yn erbyn y clwb, ond ymladd ‘teuluol’ rhwng grwpiau a gangiau cystadleuol sydd oll yn cefnogi’r clwb. Mae’r 'treisio' yn gilyddol. Mae’r dwyn yn bitw, a’r rheiny sy’n rhy swil i ofyn am eu harian neu sigaréts sy’n gyfrifol. Tair Haenen A beth sydd yn y clwb? Adeilad mawr, ond nid digon mawr. Undeb y myfyrwyr ar raddfa lai, ar gyfer poblogaeth weithio lawer yn fwy o’r un oedran. Trefniant tair haenen – bar coffi gyda jiwc bocs; neuadd ddawns gyda band roc sy’n eu trefnu eu hunain; ystafelloedd tawel a swyddfa gyda theledu, biliards, cylchgronau, papurau newydd a chyfleusterau gwybodaeth a chyngor. Fy ngwaith i yw bod yn ddolen gyswllt - rhwng y staff ar y bar coffi, y pwyllgor, sy’n tynnu’r llinynnau, y grwpiau allanol a mewnol eraill, o’r Awdurdodau Addysg Lleol i’n cynorthwywyr gwirfoddol ni’n hunain, a’n corff ymddiriedolwyr ni. Mae’r dyfodol agos yn llawn problemau - cyfreithiol, yr adeilad newydd, staff, cyllid, tensiynau’r dref, perthynas y plant cyffredin gyda ni - ond mae’n gweithio allan. Mae dyn yn gallu gwneud llanast, gwneud camgymeriad yn ei waith, ac fe allai’r mudiad cyfan fod mewn perygl o ddisgyn. Ond mae’n gweithio, ac fe fydd yn parhau i weithio, yn fy marn i, oherwydd mae’n diwallu angen cymdeithasol dwfn grŵp o bobl ifanc sydd ddim yn perthyn i glwb, ac am y rheswm yma, fe fydd yn goroesi’r troeon trwstan; a dylai pob cam i fyny fod yn uwch na’r diwethaf.

Atgynhyrchwyd gyda chaniatâd The Fabian Society, 11 Dartmouth Street, Llundain SW1H 9BN Gosodwyd y testun gan James Preston Cyhoeddwyd gan y Biwro Ieuenctid Cenedlaethol, 17-23 Albion Street, Caerlŷr LE1 6GD