2
Mae’r Post Brenhinol a’r groesffurf yn nodau masnachu cofrestredig i Grŵp y Post Brenhinol Cyf. © Grŵp y Post Brenhinol Cyf. Cedwir pob hawl. SANTA02

Mae’r Post Brenhinol a’r groesffurf yn nodau€¦ · pan mae eisiau bwyd! Mewn gwirionedd, mae’n gofyn i mi ei fwydo nawr, felly mae’n well i fi fynd. Nadolig Llawen oddi

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Mae’r Post Brenhinol a’r groesffurf yn nodau€¦ · pan mae eisiau bwyd! Mewn gwirionedd, mae’n gofyn i mi ei fwydo nawr, felly mae’n well i fi fynd. Nadolig Llawen oddi

Mae’r Post Brenhinol a’r groesffurf yn nodau masnachu cofrestredig i Grŵp y Post Brenhinol Cyf.© Grŵp y Post Brenhinol Cyf. Cedwir pob hawl.

SANTA02

Page 2: Mae’r Post Brenhinol a’r groesffurf yn nodau€¦ · pan mae eisiau bwyd! Mewn gwirionedd, mae’n gofyn i mi ei fwydo nawr, felly mae’n well i fi fynd. Nadolig Llawen oddi

Mae bron yn noswyl Nadolig ac rwyf newydd dderbyn dy lythyr hyfryd. Fel ti, Nadolig yw fy hoff adeg o’r flwyddyn.

Mae darllen pa mor dda yr wyt wedi bod eleni wedi rhoi gwên fawr ar fy wyneb. Cofia barhau i fod yn dda am nad yw Noswyl Nadolig yn bell i ffwrdd!

Wrth i ni baratoi ar gyfer y diwrnod mawr, mae’n brysur iawn yma ym Mhegwn y Gogledd. Mae’r corachod yn gweithio ddydd a nos i wneud yr holl deganau mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Mae cymaint o fechgyn a merched ar y rhestr plant da eleni! Dwi’n ofni na allaf ddweud yr un peth am y corachod. Fe wnaeth rhai fenthyg fy nghamera a’i ddychwelyd yn llawn ‘sELFies’. Maent yn gorachod drygionus iawn. Gallwch weld un o’u ‘sELFies’ ar flaen y cerdyn hwn.

Ar Noswyl Nadolig, ti yw un o’r enwau cyntaf ar fy rhestr ymweld, felly cofia fynd i’r gwely’n gynnar. Cofia, ni fyddaf yn gallu gadael dy anrhegion os byddi ar ddihun!

Byddai’n wych pe byddet yn gallu gadael rhywbeth allan i mi ei yfed, rwy’n mynd yn sychedig pan fyddaf yn dosbarthu anrhegion. Mae Rwdolff yn hoffi moron, mae’n waith caled arwain y sled ar Noswyl Nadolig ac mae’n mynd yn bigog pan mae eisiau bwyd! Mewn gwirionedd, mae’n gofyn i mi ei fwydo nawr, felly mae’n well i fi fynd.

Nadolig Llawen oddi wrthyf i, Siân Corn, y corachod drygionus, Rwdolff a’r ceirw eraill!

Wyt ti’n gallu dod o hyd i Rwdolff er mwyn iddo allu arwain sled Siôn Corn ar Noswyl Nadolig?

Defnyddia bensel a dod o hyd i rif 1. Awgrym: Nid yw’n rhy bell o drwyn coch Rwdolff. Gwna linell i gysylltu rhif 1 â rhif 2, rhif 2 â rhif 3, ac yn y blaen. Parha hyd nes y byddi’n gallu gweld hoff garw pawb!

Paid anghofio lliwio Rwdolff i mewn!