16
Nid ydych ar eich pen eich hun Ymdopi ag effeithiau emosiynol strôc – arweiniad ymarferol ar gyfer pobl sydd wedi goresgyn strôc, a’u gofalwyr Rydym yn falch i gyhoeddi cefnogaeth gan Ipsen Cyf ar gyfer yr Ymgyrch Bywyd ar ol Strôc. stroke.org.uk

stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

Nid ydych ar eich pen eich hunYmdopi ag effeithiau emosiynol strôc – arweiniad ymarferol ar gyfer pobl sydd wedi goresgyn strôc, a’u gofalwyr

Rydym yn falch i gyhoeddi cefnogaeth gan Ipsen Cyf ar gyfer yr Ymgyrch Bywyd ar ol Strôc.

stroke.org.uk

Page 2: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

Emosiynau a strôc – sut gallwn ni helpuMae strôc yn digwydd mewn amrantiad ond gall ei heffaith barhau am oes. Mae llawer o bobl yn gwella’n dda, ond oherwydd bod effaith strôc yn wahanol i bawb, mae’n bwysig eich bod yn cael y cymorth iawn ar eich cyfer chi.

Os ydych wedi cael strôc, neu os ydych yn ofalwr neu’n aelod o deulu lle mae rhywun wedi cael strôc, gall y gofid a’r ofn mae strôc yn eu hachosi ymddangos yn llethol. Efallai eich bod yn ei chael hi’n anodd gweld sut gallai pethau wella a hefyd gall effeithio ar y berthynas rhwng anwyliaid.

Mae llawer o bobl yn cuddio’r ofnau hyn, gan nad ydynt yn gallu eu rhannu. Yn aml iawn mae rhesymau dealladwy dros hyn – ymdopi ag effaith gorfforol y strôc, sioc, euogrwydd, dicter, rhwystredigaeth a’r gofid o roi baich ar ffrindiau a theulu. Ac os ydych yn ifanc ac wedi goresgyn strôc, neu’n rhiant i blentyn sydd wedi dioddef strôc, gall fod yn anoddach.

Os ydych wedi goresgyn strôc, yn aelod o deulu neu’n ofalwr, gall cael cymorth pan rydych yn teimlo fel hyn fod yn fodd i chi gael mwy o reolaeth a dechrau newid pethau am y gorau. Yn aml, mae gwybodaeth ddefnyddiol yn cael ei hanwybyddu yn union ar ôl cael strôc oherwydd eich bod dan bwysau llethol o bob cyfeiriad neu nid oes gennych yr amser i ddod o hyd i’r wybodaeth a’i dehongli – felly ein gobaith ni yw y bydd y daflen hon yn eich pwyntio i’r cyfeiriad cywir i gael y cymorth emosiynol iawn ar eich cyfer chi.

2

Page 3: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

Mynegwch eich hun

Mae pobl sydd wedi eu heffeithio gan strôc yn aml yn teimlo eu bod ar eu pennau eu hunain. Ond nid oes angen i chi deimlo felly. Nid ydych ar eich pen eich hun. Mae llawer o ffynonellau sy’n cynnig cymorth sydd yn gwneud byd o wahaniaeth i lawer o bobl. Mynegi eich teimladau a dod o hyd i gymorth yw’r camau cyntaf tuag at deimlo’n well.

“Byddwn yn dweud wrth unrhywun sydd yn fy sefyllfa i am beidioâ chynhyrfu, ac i dderbyn unrhyw gymorth a ddaw. Peidiwchâ meddwl bod eich bywyd trosodd os ydych yn dioddef strôc.”

Claire Simpson, goroeswr strôc

3

Page 4: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

4

Peidiwch â synnu os ydych yn teimlo syndod a dicter ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd. Mae ofn iddo ddigwydd eto, teimlad o anobaith, rhwystredigaeth a galaru am yr hyn rydych wedi ei golli yn emosiynau naturiol os ydych chi neu unrhyw aelod o’ch teulu wedi dioddef strôc. Mae’n bosibl i chi deimlo’n isel, yn bryderus ac efallai byddwch yn fwy emosiynol nag o’r blaen.

Ar adegau, mae pobl sy’n goresgyn strôc yn ymateb mewn modd amhriodol i sefyllfaoedd ingol. Peidiwch â gofidio - mae’n beth cyffredin i fynd drwy gyfnod o fynegi emosiynau yn wahanol, er enghraifft, chwerthin ar adegau amhriodol neu ddweud pethau sy’n ymddangos yn niweidiol neu’n gymysglyd i eraill. Gall y teimladau hyn fod o ganlyniad i’r strôc ei hun, neu’n rhan o addasu i’r ffordd mae’r strôc wedi newid eich bywydau.

Os yw eich emosiynau neu eich ymddygiad wedi newid ers eich strôc, neu os ydych yn teimlo’n wahanol, mae’n bosibl mai effaith eich strôc ar y rhan o’r ymennydd sy’n rheoli emosiynau yw’r achos. Mae’n normal eich bod yn profi newid yn eich emosiynau ar ôl unrhyw brofiad anodd neu drawmatig yn eich bywyd. Mae strôc yn digwydd heb unrhyw rybudd, ac mae’n cymryd amser i addasu i’r newid y gall ei achosi i’ch bywyd bob dydd.

Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn

Page 5: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

5

Rhai meddyliau a theimladau cyffredin

Mae hwyl isel, straen, diffyg hyder, dicter a phroblemau gyda pherthnasoedd yn heriau sy’n cael eu rhannu gan lawer o’r rhai hynny sy’n goroesi strôc, a’u teuluoedd. Gallwch fynd drwy ryw fath o alar am y bywyd roedd gennych cyn y strôc, ei chael hi’n anodd ymdopi yn y gwaith, neu deimlo bod eich ffrindiau wedi cefnu arnoch.

Mae hefyd yn gyffredin i fywyd teuluol droi’n ingol yn dilyn strôc wrth i newidiadau ddigwydd yn y rolau mae pobl yn eu cymryd fel cyfryngwyr, enillwyr cyflogau, talwyr biliau, neu’r rhiant sydd fwyaf tebygol o gynnal disgyblaeth yn y teulu. Gall unigolion ifanc sy’n goroesi strôc ofidio ynglŷn ag arholiadau, bwlio, cariadon, methu â chymryd rhan mewn chwaraeon, dysgu sut i yrru car neu hyd yn oed gadael cartref.

Ar ben yr holl helbul emosiynol hwn, mae’r rhwystredigaeth o fethu â chynnal tasgau bob dydd syml, fel cyfathrebu, gyrru car, siopa, gwisgo neu ymolchi. Mae’r rhai sy’n goroesi strôc a’u gofalwyr yn aml yn teimlo’n flinedig, yn methu â chael amser iddynt eu hunain (er eu bod yn teimlo’n ynysig hefyd), ac wedi eu hamddifadu o gyngor. Gall eich meddyliau droi at: A allaf fod fel roeddwn o’r blaen? Beth sydd wedi digwydd i’r unigolyn a briodais, pam fi? Nid oes atebion hawdd i’w cael, ond mae’n beth normal i ofyn y cwestiynau hyn. Yr ateb cywir i ymdopi â’r teimladau hyn yw derbyn eu bod yn rhai normal a dod o hyd i gymorth - mae llawer mwy ohono i’w gael nag y tybiwch.

Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn

Page 6: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

6

Pryder a cholli hunan hyder

Yn dilyn strôc, mae teimlo’n bryderus yn gyffredin. Efallai eich bod yn poeni ynglŷn â gofalu am eich teulu, a beth fydd yn digwydd i’ch swydd - faint o amser allwch chi ei gael i ffwrdd o’r gwaith, a fyddwch yn cael eich derbyn yn ôl, a fyddwch yn cael yr amser sydd ei angen arnoch i wella? Efallai eich bod yn poeni hefyd am yr effaith ar berthnasau agos (mae rhai’n teimlo eu bod yn cael eu gwrthod gan eu partneriaid er nad yw hynny’n wir), neu ynglŷn â chael strôc arall.

Beth allwch chi ei wneud: Cychwyn da fyddai cael gwybodaeth - mae gwybodaeth yn dileu llawer o’r gofid o ran ansicrwydd. Gall ein Llinell Gymorth Strôc gynnig cymorth a gwybodaeth dros y ffôn neu mewn neges e-bost (gweler tudalen 11). Gallwn greu pecyn gwybodaeth i ateb eich anghenion chi, chwilio am wasanaethau cymorth yn eich ardal chi, eich rhoi yn y cyfeiriad cywir am gymorth ynglŷn â gwneud cais am fudd-daliadau, eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau lleol, dweud wrthoch chi sut i gael cymorth ar-lein gan eraill sy’n byw gyda strôc.

Mae ein harchwiliadau’n dangos bod bron pob un sy’n goroesi strôc yn profi anawsterau emosiynol ar ôl cael strôc. Yn aml iawn mae’r problemau hyn yn gwella gydag amser, ac mae’n bosibl i chi deimlo fel chi eich hun unwaith yn rhagor yn gymharol gyflym, ond mae’n bosibl i rai problemau emosiynol eraill gymryd mwy o amser.

Ymdopi â newidiadau emosiynol

Page 7: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

Iselder

Mae dros hanner y rhai sy’n goroesi strôc yn dweud eu bod yn dioddef o iselder yn ystod y flwyddyn gyntaf yn dilyn eu strôc. Os ydych yn dioddef cymysgedd o deimladau trist, colli diddordeb mewn gweithgareddau bob dydd, yn teimlo’n ddiwerth, yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio, yn bwyta gormod neu ddim digon, yn sylwi ar newid yn eich patrwm cysgu, yn meddwl am niweidio eich hun neu’n colli hunan hyder, mae’n bosibl eich bod yn dioddef o iselder.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud: Siaradwch â’ch meddyg – gorau i gyd po gyntaf y cewch help. Ffoniwch neu anfonwch neges e-bost i ofyn am ein taflen ffeithiol Iselder ar ôl strôc (mae ar ein gwefan hefyd), sy’n cynnwys llawer o awgrymiadau i’ch helpu i reoli eich iselder. Os yw rhywun yn eich teulu’n oroeswr ifanc, mae gwybodaeth ac awgrymiadau ynglŷn ag ymdopi’n emosiynol i’w cael ar ein taflenni ffeithiol Strôc plentyndod a Strôc mewn oedolion ifanc.

Dicter

Ar ôl cael strôc, mae’n bosibl y gallech orflino drwy geisio gwneud pethau roedd yn eu cymryd yn ganiataol o’r blaen, ac yn flin oherwydd pethau na fyddai yn eich poeni fel arfer. Mae’n bosibl y byddwch yn cyfeirio’r dicter hwn at eich teulu a’ch gofalwyr - mae hyn yn naturiol, gan y gall emosiynau ddwysau pan rydych wedi blino ac wedi cael digon, neu os digwydd newid mawr yn eu hamgylchiadau.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud: Os gallwch, gwnewch rhywbeth corfforol, fel mynd am dro, mae’n ffordd dda o ollwng stêm. Os ydych yn gofidio am eich dicter, gwnewch apwyntiad i weld eich meddyg teulu a fydd yn gallu eich cyfeirio at therapydd neu gwnsler i’ch helpu drwy sgwrsio am bethau.

7

Page 8: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

8

Unigedd

Mae llawer o ofalwyr yn dweud wrthym eu bod yn teimlo’n hollol lluddedig ac unig ar adegau, yn enwedig pan na fydd ffrindiau a theulu yn deall pa mor anodd y gall hyn fod. Gall fod yn ofid i weld anwylyd yn sâl yn sydyn, a gall fod yn anodd cael eich hun yn chwarae rôl gofal heb ddigon o gefnogaeth. Mae’n bosibl eich bod yn teimlo colled ddofn, gan fod yr unigolyn roeddech yn ei adnabod a’i garu wedi newid. Ar adegau gall y newidiadau hyn ddylanwadu ar eich teimladau tuag atynt.

Mae gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol ond yn aml iawn nid yw’r rôl hon yn cael ei gwerthfawrogi a gall fod yn hynod o ymdrechgar, yn enwedig os cewch eich hun yn y rôl yn hollol ddisymwth. Gall olygu bod angen i chi fod yn gryf yn emosiynol ac yn gorfforol pan rydych yn teimlo ar eich gwanaf.

Gall bod yn ofalwr fod yn emosiynol dros ben hefyd

Yr hyn y gallwch chi ei wneud: Siaradwch ag eraill. Gall cwrdd â gofalwyr eraill, siarad ar-lein a chael cymorth gan y rhai hynny sydd mewn sefyllfa debyg fod yn help. Cofrestrwch fel gofalwr gyda’ch meddyg teulu a siaradwch â’ch meddyg neu weithiwr cymdeithasol - gallant eich helpu i ddeall beth sydd i’w ddisgwyl, a rhoi mwy o wybodaeth i chi am strôc a thriniaeth strôc o ran yr unigolyn rydych yn gofalu amdano. Gallwch ofyn i’r cyngor lleol am asesiad gofalwr o’ch anghenion fel cam cyntaf tuag at gymorth ymarferol. Peidiwch ag ofni bod yn onest ynglŷn â’r hyn sy’n digwydd ac, yn bennaf oll, peidiwch â meddwl eich bod wedi colli’r frwydr os ydych yn derbyn pa bynnag gymorth sydd ar gael. Cysylltwch â’n llinell gymorth i ganfod pa gymorth i ofalwyr sydd ar gael yn eich ardal chi (gweler tudalen 11).

Page 9: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

9

Gofidio am waith

Gall jyglo rôl gofalwr a chyfrifoldebau eraill yn y gwaith neu gyfrifoldebau teuluol eich lluddedu’n emosiynol.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud: Siaradwch â’ch cyflogwr - esboniwch fod eich sefyllfa yn anodd. Mae’n bosibl y cewch eu bod yn cydymdeimlo llawer mwy na’r disgwyl. Mae gennych yr hawl i ofyn am oriau gwaith hyblyg ac amser i ffwrdd i edrych ar ôl y rhai sy’n ddibynnol arnoch mewn argyfwng.

“Gall fod yn ofalwr fod yn ynod o anodd. Roeddwn ynteimlo bod personoliaeth fy ngŵr wedi newid yn llwyra theimlais yn unig dros ben. Mae siarad â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg yn helpu’n fawr.”

Christine Blandford, gofalwr.

Page 10: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

Ydych chi’n teimlo nad oes gennych amser i chi eich hun?

Mae edrych ar ôl rhywun sy’n ddibynnol arnoch yn gyfrifoldeb mawr ac mae’n hawdd anghofio am eich anghenion eich hun. Ond mae’n realistig, nid yn hunanol, ystyried edrych ar ôl eich hun, oherwydd os nad ydych yn gwneud hynny mae’n bosibl y byddwch yn cael eich hun o dan bwysau ac yn lluddedig.

Yr hyn y gallwch chi ei wneud: Efallai ei fod yn ymddangos yn foethusrwydd, ond gwnewch amser i chi wneud yr hyn rydych yn ei fwynhau. Efallai eich bod yn mwynhau mynd am dro, nofio, garddio neu fynd am goffi gyda ffrind. Cofiwch fwyta prydau iach go iawn. Ceisiwch gael noson dda o gwsg – mae diffyg cwsg yn gallu achosi iselder. Gallwch hefyd ystyried trefnu seibiant gofal. Gallech wneud hyn drwy gymorth ffrindiau a theulu, neu ddefnyddio asiantaeth gofal, gan gyflogi gweithiwr gofal yn uniongyrchol neu drwy gael cymorth gan eich cyngor lleol.

10

Page 11: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

11

Os ydych wedi cael strôc neu os ydych yn gofalu am rywun sydd wedi cael strôc, mae cael y wybodaeth ynglŷn â chanfod y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch yn gam cyntaf cadarnhaol tuag at deimlo’n well am y daith rydych wedi cychwyn arni. Dyma ble i ddechrau.

Rydym yma i chi

• Ffoniwch Linell Gymorth y Gymdeithas Strôc ar 0303 3033 100 a siaradwch â rhywun sy’n deall yr hyn rydych yn mynd drwyddo. Mae gennym rif ffôn destun hefyd, gallwch ei ddefnyddio os ydych yn cael anhawster siarad (gweler isod).

Beth bynnag yw eich cwestiwn – Beth sydd wedi digwydd? Beth sy’n debygol o ddigwydd yn y dyfodol? Sut wyf yn byw gyda’r newidiadau? – rydym yma i’ch helpu ac i roi’r cymorth mae arnoch ei angen. Byddwn hefyd yn gallu dweud wrthoch chi os oes un o’n Gwasanaethau Bywyd ar ôl Strôc neu gymorth tebyg ar gael yn agos i chi.

Page 12: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

12

• Ymunwch â chlwb strôc lleol, lle gallwch gwrdd â phobl leol sy’n mynd drwy bethau tebyg i chi, rhannu eich profiad ac elwa o’u dealltwriaeth. Mae’r clybiau hyn yn cynnig cymorth emosiynol gwerthfawr i ofalwyr, goroeswyr strôc pherthnasau. Cynhelir cyfarfodydd yn rheolaidd mewn canolfannau cymunedol lleol, neuaddau eglwys neu dafarnau, ynghyd â digwyddiadau cymdeithasol fel alldeithiau a nosweithiau cwis.

• Ewch i’n gwefan am wybodaeth ar strôc, gallwch siarad â phobl eraill sydd wedi eu heffeithio gan strôc drwy ein fforwm ar-lein TalkStroke, darllenwch am lwyddiannau pobl a chanfyddwch fwy am grwpiau strôc lleol a gwasanaethau cysylltiol sydd gerllaw. Gallwch hefyd weld yr amrywiaeth o gynnyrch ymarferol sydd gennym, wedi eu cynllunio i hyrwyddo annibyniaeth ac i’ch cefnogi chi.

“Clywais am y GymdeithasStrôc ar y radio, a chefais lawer o wybodaethganddynt. Gwellodd bywydyn sylweddol i mi ar y diwrnod cyntaf yr es i’r clwb strôc.”

Irene Thompson, goroeswr strôc

Page 13: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

13

• Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i lunio gwasanaethau strôc, beth am ymuno â’n Rhwydwaith Ymgyrchwyr? Gallwch uno ag eraill i weithredu dros gael dêl well ar gyfer y rhai sydd wedi goroesi strôc a’u gofalwyr. Ewch i stroke.org.uk/campaigns

• Ydych chi ar Twitter neu Facebook? Mae miloedd o’r rhai sydd wedi goroesi strôc, a’u gofalwyr, yn dilyn y Gymdeithas Strôc ac yn cefnogi ei gilydd ac yn rhannu awgrymiadau a gwybodaeth drwy Twitter a Facebook. Beth am ymuno â ni @TheStrokeAssoc, ac ar www.facebook.com/TheStrokeAssociation

Adnoddau i’ch helpu i ymdopi ag emosiynau yn dilyn strôc

Mae rhestr lawn o sefydliadau defnyddiol wedi eu cynnwys yn y cyhoeddiadau canlynol gan y Gymdeithas Strôc:

• Newidiadau emosiynol ar ôl strôc – cod yr eitem A01F36

• Iselder ar ôl strôc – cod yr eitem A01F10

• Strôc: Canllaw i ofalwyr – cod yr eitem A01F04

• Strôc mewn plentyndod – cod yr eitem A01F34

• Strôc mewn oedolion – cod yr eitem A01F09

Rydym yn cyhoeddi ystod eang o daflenni eraill hefyd i helpu pobl i ymdopi â bywyd yn dilyn strôc, gan gynnwys Datganiad Goroeswyr Strôc. Gallwch archebu pob un o’n cyhoeddiadau oddi ar linell gymorth y Gymdeithas Strôc, neu eu lawrlwytho neu eu archebu oddi ar ein gwefan yn stroke.org.uk/information/resource-library

Page 14: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

14

Y Gymdeithas Strôc Llinell gymorth strôc: 0303 3033 100E-bost: [email protected]: stroke.org.ukO ffôn destun: 18001 0303 3033 100

Sefydliadau eraill sy’n barod i helpu:

Carers UKCyngor, cymorth a gwybodaeth i ofalwyr Ffôn: 0808 808 7777E-bost: [email protected]: www.carersuk.org

ConnectCwnsela arbenigol ar gyfer pobl â strôc ac affasia Ffôn: 020 7367 0840E-bost: [email protected]: www.ukconnect.org

Different StrokesGwybodaeth, cyngor a chefnogaeth emosiynol ar gyfer goroeswyr ifanc strôcFfôn: 0845 130 7172 or 01908 317618E-bost: [email protected]: www.differentstrokes.co.uk

MindAdnoddau a chefnogaeth ar gyfer iechyd meddwlLlinell wybodaeth Mind: 0300 123 3393E-bost: [email protected]: www.mind.org.uk

Cael cymorth

Page 15: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

15

Mind CymruFfôn: 029 2039 5123E-bost: [email protected]: www.mind.org.uk/mind_cymru

RelateCefnogaeth gyda pherthnasoedd Ffôn: 0300 100 1234Gwefan: www.relate.org.uk

Relationships ScotlandCymorth gyda pherthnasoedd ledled yr Alban Ffôn: 0845 119 2020E-bost: [email protected]: www.relationships-scotland.org.uk

Y SamariaidRhywun i siarad â nhw – mae pobl yn cysylltu â ni pan mae pethau’n mynd yn drech Ffôn: 08457 90 90 90E-bost: [email protected]: www.samaritans.org

Scottish Association for Mental Health Gwybodaeth a chyngor ar iechyd meddwlFfôn: 0800 917 3466 (2-4pm dydd Llun i ddydd Gwener)E-bost: [email protected] Gwefan: www.samh.org.uk

SpeakabilityGwybodaeth a chefnogaeth i bobl y mae affasia wedi effeithio arnyntFfôn: 080 8808 9572E-bost: [email protected]: www.speakability.org.uk

Page 16: stroke.org.uk Nid ydych ar eich penre not alone Welsh A… · Beth bynnag rydych yn ei deimlo, mae popeth yn iawn. 5 Rhai meddyliau a theimladau cyffredin Mae hwyl isel, straen, diffyg

Mae’r Gymdeithas Strôc wedi ei chofrestru fel Elusen Gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (rhif 211015) ac yn yr Alban. Mae hefyd wedi ei chofrestru yng Ngogledd Iwerddon (XT33805), Ynys Manaw (Rhif 945) a Jersey (NPO 369).

Ni yw’r Gymdeithas Strôc

Rydym yn credu mewn bywyd a’r ôl strôc. Dyma pam rydym yn cefnogi’r rhai sy’n goroesi strôc i wella y gorau y gallant. Dyna pam rydym yn ymgyrchu dros ofal gwell ar gyfer strôc. A dyna pam rydym yn ariannu ymchwil i ganfod triniaethau newydd a ffyrdd o atal strôc.

Rydym yma i chi. Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.

Llinell Gymorth Strôc: 0303 3033 100 Gwefan: stroke.org.uk E-bost: [email protected] O ffôn destun: 18001 0303 3033 100 © Y Gymdeithas Strôc, 2013

Cod yr Eitem: A07M56W