4
Y TYST mwy ar dudalen 2 PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 38 Medi 19, 2019 50c. Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd – 2019 Braint oedd cael fy ethol yn aelod o Bwyllgor Gweinyddol Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd yn ei Gyngor Cyffredinol yn Leipzig yn 2017. Llynedd, yn Seoul, De Corea, bu i ni dreulio ein hamser yn datblygu strategaeth newydd ar gyfer 2018–24. Eleni, ein prif waith, rhwng 9 a 15 Mai 2019, oedd sicrhau fframwaith gweithredol i’r Cynllun Strategol gan sicrhau bod yna allbynnau priodol, digonol a mesuradwy. Roeddem yn cyfarfod mewn hen fynachlog Sistersaidd â’i wreiddiau yn ymestyn ’nôl i 1185, mewn pentref o’r enw Kappel am Albis, rhyw 20 milltir o Zürich, a 300 llath o bentrefan Näfenhäuser, lle lladdwyd y diwygiwr Ulrich Zwingli yn 1531. Llewyrch goleuni Thema’n cyfarfod oedd ‘Gadewch i’ch Goleuni Ddisgleirio: ceisio Shalom yng nghanol yr Ymerodraeth.’ Heblaw am faterion cyllidol, defnyddio proses o wneud penderfyniadau trwy gonsensws, yn hytrach na phleidlais, a wnaethom. Hynny, ar ystod eang o faterion yn ymestyn o dderbyn aelodau newydd i’r Cymundeb, i ystyried polisïau buddsoddi moesegol a rhywedd. Cawsom ein croesawu gan Ffederasiwn Eglwysi Protestannaidd y Swistir, a hwythau yng nghanol dathliadau pum canmlwyddiant Ulrich Zwingli yn ‘pregethu’r Diwygiad’ o bulpud Grossmünster yn Zürich. Clywsom sut mae’r eglwysi wedi ymrwymo i weddïo’n ddygn am ysbrydoliaeth a hyder i ddarganfod ffyrdd newydd o gyfleu neges Crist i’r nifer cynyddol o ddinasyddion y wlad sydd heb unrhyw ymlyniad crefyddol. Ymerodraeth Ar y dydd Sadwrn fe’n gwahoddwyd i ymuno mewn cynhadledd ar ‘Yr Eglwys, y Wladwriaeth a Gwleidyddiaeth: Cydweithredu neu Wrthdystiad.’ Clywsom am gyd-destunau penodol Brasil, Cameroon, Colombia, Hwngari, Penrhyn Corea, Nigeria a Syria. Rhaid cyfaddef i mi gael fy arswydo gan y duedd, fyd-eang mae’n amlwg, tuag at boblyddiaeth ac awdurdodyddiaeth. Fe ddwysbigwyd ein cydwybod gan hanesion am drais, cam-drin, mudo dan orfodaeth a gwadu hawliau dynol cymunedau sydd wedi'u hymyleiddio mewn llawer o sefyllfaoedd eraill ledled y byd. Erbyn hyn daeth nifer ohonom yn gyfarwydd, mewn cyfarfodydd eciwmenaidd a rhyngwladol eu naws, o gyfeirio at agweddau o’r fath fel dylanwadau’r Ymerodraeth. Yng nghanol y bygythiadau cynyddol i Heddwch ar ddaear lawr Diwrnod Rhyngwladol Heddwch yw hi ar 21 Medi, rhannwch eich cerddi, eich gweddïau a’ch meddyliau gyda ni. Dyma gerdd o eiddo Mererid Hopwood sy’n defnyddio gwaith Hedd Wyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer cerdd sy’n gri o’r galon. Rhyfel Mewn ymateb i ‘Rhyfel’ a ‘Blotyn Du’ Hedd Wyn Gwae ni pan gaeo’r pum pelydryn haul yn ddwrn dan gysgod storm, pan waedo glaw y bore naddion dur heb adael traul ar ddwylo’r duwiau, dim ôl chwys na baw; gwae ni pan glatsho cwyn cleddyfau’r gwynt ym mhennau’u mamau nhw a’n byd ni’n gân, a hiraeth hardd yr hen delynau gynt yn suo crud ein holl freuddwydion mân; gwae ni am hawlio’r sêr a’r lleuad bell a’r cwmwl aur sy’n cylchu’r glesni maith, gwae ni am sarnu’r Drefn, er gwybod gwell, a byw heb weld y cynrhon yn y graith; gwae ni, gwae fi, am fod yn rhan o’r set sy’n gwneud dim byd ond ‘fire and forget’. Enw un o daflegrau’r RAF yw ‘Storm Shadow’ a’u henw ar y dull o ladd yw ‘Fire and Forget’. fywyd y mae’r Ymerodraeth yn eu creu, ein gwaith fel Cristnogion yw cyhoeddi cynnig Iesu o gyflawnder bywyd. Wrth i ni gyfarfod, cawsom ein hatgoffa’n aml o’n treftadaeth ddiwygiedig gyfoethog a’r alwad i ddiwygio’n barhaus. Blaengaredd Cafwyd adroddiadau o ranbarthau’r Cymundeb. Yn absenoldeb Cymedrolwr Ewrop gofynnwyd i mi gyflwyno adroddiad o waith y Cymundeb yng ngwledydd ein cyfandir. Soniais am ein gofid cyffredinol o dyfiant gwleidyddiaeth adain dde, a’r agwedd senoffobig, fewnblyg a myopig a ddaw yn sgil hynny. Cefais gyfle hefyd i sôn am y gwaith

PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2019. 12. 3. · Hedd Wyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer cerdd sy’n gri o’r galon. Rhyfel Mewn ymateb i ‘Rhyfel’ a ‘Blotyn Du’

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2019. 12. 3. · Hedd Wyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer cerdd sy’n gri o’r galon. Rhyfel Mewn ymateb i ‘Rhyfel’ a ‘Blotyn Du’

Y TYST

mwy ar dudalen 2

PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 38 Medi 19, 2019 50c.

Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd – 2019Braint oedd cael fy ethol yn aelod oBwyllgor Gweinyddol Cymundeb EglwysiDiwygiedig y Byd yn ei GyngorCyffredinol yn Leipzig yn 2017. Llynedd,yn Seoul, De Corea, bu i ni dreulio einhamser yn datblygu strategaeth newydd argyfer 2018–24. Eleni, ein prif waith, rhwng9 a 15 Mai 2019, oedd sicrhau fframwaithgweithredol i’r Cynllun Strategol gansicrhau bod yna allbynnau priodol, digonola mesuradwy. Roeddem yn cyfarfod mewnhen fynachlog Sistersaidd â’i wreiddiau ynymestyn ’nôl i 1185, mewn pentref o’r enwKappel am Albis, rhyw 20 milltir o Zürich,a 300 llath o bentrefan Näfenhäuser, llelladdwyd y diwygiwr Ulrich Zwingli yn1531.

Llewyrch goleuniThema’n cyfarfod oedd ‘Gadewch i’chGoleuni Ddisgleirio: ceisio Shalom yngnghanol yr Ymerodraeth.’ Heblaw amfaterion cyllidol,defnyddio proseso wneudpenderfyniadautrwy gonsensws,yn hytrach naphleidlais, awnaethom.Hynny, ar ystodeang o faterion ynymestyn odderbyn aelodaunewydd i’rCymundeb, iystyried polisïau buddsoddi moesegol arhywedd. Cawsom ein croesawu ganFfederasiwn Eglwysi Protestannaidd ySwistir, a hwythau yng nghanol dathliadaupum canmlwyddiant Ulrich Zwingli yn‘pregethu’r Diwygiad’ o bulpudGrossmünster yn Zürich. Clywsom sutmae’r eglwysi wedi ymrwymo i weddïo’nddygn am ysbrydoliaeth a hyder iddarganfod ffyrdd newydd o gyfleu neges

Crist i’r nifer cynyddol o ddinasyddion ywlad sydd heb unrhyw ymlyniad crefyddol.YmerodraethAr y dydd Sadwrn fe’n gwahoddwyd iymuno mewn cynhadledd ar ‘Yr Eglwys, yWladwriaeth a Gwleidyddiaeth:Cydweithredu neu Wrthdystiad.’ Clywsomam gyd-destunau penodol Brasil,Cameroon, Colombia, Hwngari, PenrhynCorea, Nigeria a Syria. Rhaid cyfaddef i migael fy arswydo gan y duedd, fyd-eangmae’n amlwg, tuag at boblyddiaeth acawdurdodyddiaeth. Fe ddwysbigwyd eincydwybod gan hanesion amdrais, cam-drin, mudo danorfodaeth a gwadu hawliaudynol cymunedau syddwedi'u hymyleiddio mewnllawer o sefyllfaoedd eraillledled y byd. Erbyn hyndaeth nifer ohonom yngyfarwydd, mewncyfarfodydd eciwmenaidd arhyngwladol eu naws, ogyfeirio at agweddau o’rfath fel dylanwadau’rYmerodraeth. Yng nghanoly bygythiadau cynyddol i

Heddwch ar ddaear lawrDiwrnod Rhyngwladol Heddwch yw hi ar 21 Medi, rhannwch eich cerddi, eich gweddïaua’ch meddyliau gyda ni. Dyma gerdd o eiddo Mererid Hopwood sy’n defnyddio gwaithHedd Wyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer cerdd sy’n gri o’r galon.

RhyfelMewn ymateb i ‘Rhyfel’ a ‘Blotyn Du’ Hedd WynGwae ni pan gaeo’r pum pelydryn haulyn ddwrn dan gysgod storm, pan waedo glawy bore naddion dur heb adael traular ddwylo’r duwiau, dim ôl chwys na baw;gwae ni pan glatsho cwyn cleddyfau’r gwyntym mhennau’u mamau nhw a’n byd ni’n gân,a hiraeth hardd yr hen delynau gyntyn suo crud ein holl freuddwydion mân;gwae ni am hawlio’r sêr a’r lleuad bella’r cwmwl aur sy’n cylchu’r glesni maith,gwae ni am sarnu’r Drefn, er gwybod gwell,a byw heb weld y cynrhon yn y graith;gwae ni, gwae fi, am fod yn rhan o’r setsy’n gwneud dim byd ond ‘fire and forget’.

Enw un o daflegrau’r RAF yw ‘Storm Shadow’ a’u henw ar y dull o ladd yw ‘Fire and Forget’.

fywyd y mae’r Ymerodraeth yn eu creu,ein gwaith fel Cristnogion yw cyhoeddicynnig Iesu o gyflawnder bywyd. Wrth i nigyfarfod, cawsom ein hatgoffa’n aml o’ntreftadaeth ddiwygiedig gyfoethog a’ralwad i ddiwygio’n barhaus.BlaengareddCafwyd adroddiadau o ranbarthau’rCymundeb. Yn absenoldeb CymedrolwrEwrop gofynnwyd i mi gyflwynoadroddiad o waith y Cymundeb yngngwledydd ein cyfandir. Soniais am eingofid cyffredinol o dyfiant gwleidyddiaethadain dde, a’r agwedd senoffobig,fewnblyg a myopig a ddaw yn sgil hynny.Cefais gyfle hefyd i sôn am y gwaith

Page 2: PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2019. 12. 3. · Hedd Wyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer cerdd sy’n gri o’r galon. Rhyfel Mewn ymateb i ‘Rhyfel’ a ‘Blotyn Du’

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 19, 2019Y TYST

Yr Ysbryd Glân 7Dyma’r rhan olaf o ddefosiwn y Parch. DrGeraint Tudur ar ddoniau’r Ysbryd adraddodwyd yng nghyfarfodydd BlynyddolUndeb yr Annibynwyr Cymraeg eleni ynRhydymain.Ond, wrth gwrs, mae’n traddodiad ni’ngweld pethau’n wahanol. Er hynny, rhaidcyfaddef fy mod wedi cael ychydig ogysylltiad â’r mudiad Pentecostalaidd drosy blynyddoedd, felly dwy stori i orffen.Siarad â thafodauPan oeddwn yn Ysgrifennydd Cyffredinol,cefais wahoddiad i gyfarfod o Gyngor yCynghrair Cynulleidfaol yn Llundain. Arddiwedd un sesiwn, cafwyd cyfnod oweddi, ac yn ystod y cyfnod hwnnwdywedodd gwraig o’r Alban ei bod ynteimlo ysgogiad i weddïo mewn tafodau. Afyddai caniatâd iddi wneud hynny? Roeddyr annifyrrwch yn yr ystafell yn amlwg, aneb yn dangos llawer o frwdfrydedd, arwahân, hynny yw, i YsgrifennyddCyffredinol y Gynghrair ar y pryd.

Yn y diwedd, cytunodd y Cadeirydd, adyma’r wraig yn gweddïo’n fyr, heb i middeall yr un gair. Wedi iddi wneud,gofynnwyd a oedd rhywun yn galludehongli’r tafodau, a gan na chafwydymateb, daeth y cyfarfod i ben. Wrth i niadael yr ystafell, daeth yr YsgrifennyddCyffredinol ataf yn wên o glust i glust, adweud ‘Dyna beth oedd cynhyrfus!’

‘Wyddost ti,’ meddwninnau wrtho, ‘wrth i’rwraig siarad, roeddwnyn meddwl sut yr oeddDuw yn gallu dod atomweithiau yn annisgwylac mewn ffyrddsyfrdanol. Er hynny, does dim rheswm iofni.’

Ar unwaith, trodd y cyfaill ar ei sawdl iwynebu’r sawl oedd yn yr ystafell, achyhoeddi, ‘Gyfeillion, mae gennymddehongliad i’r tafodau, diolch i Geraint!’IachâdYr ail stori yw hon. Tra’r oeddwn yngweithio yn y Brifysgol ym Mangor, yroeddwn yn gyfrifol am achredu cyrsiaumewn dau goleg oedd yn perthyn i’rAssemblies of God, un yn Iwerddon a’rllall ym Mrwsel yng ngwlad Belg.

Ar y pryd, yr oeddwn yn dioddef ostiffrwydd yn fy ngwddf – ‘cric’, fel ybyddwn yn dweud – ac yr oedd yn fymhoeni. Tra’r oeddwn i ym Mrwsel, mae’nrhaid y gwnes awgrymu fy mod mewnychydig o boen, a phrin nad oeddwn wedigorffen y frawddeg nad oedd haid o boblwedi casglu o’m hamgylch, rhoi eu dwyloar fy ngwddf a dechrau gweddïo’n huawdla brwdfrydig ar i Dduw fy ngwella. Rhaidcyfaddef i mi deimlo ychydig yn swil affrwcslyd tra’r oedd hyn yn digwydd.

Canlyniadau?Beth oedd canlyniadau’r ddau ddigwyddiadhyn? Yn gyntaf, ymddangosodd fy ngeiriauhonedig o ddehongliad o’r tafodau ar bapurswyddogol y Gynghrair Gynulleidfaol amweddill tymor yr YsgrifennyddCyffredinol, ac ysbrydoli ambell un, yn ôlyr hyn a ddeallais.

Am y digwyddiad ym Mrwsel, does dimcric yn fy ngwddf bellach, ac mae’rbroblem wedi cilio ers yr amser hwnnw.Trwy ddirgel ffyrddBeth ddysgwn ni felly? Y cyfan y gallaf eiddweud yw bod digwyddiadau fel y rhainwedi fy nysgu i beidio â rhagdybio fy modyn gwybod y cwbl am y ffyrdd dirgel ymae Duw yn gweithio, neu fy mod yn deallei feddwl a’i ddulliau i’r fath raddau fel fymod yn meddu ar y gair olaf ar y mater.

A wyf yn cytuno â Calfin fod oes ygwyrthiau wedi dod i ben? Ydwyf, yn sicr!Ond a wyf yn credu fod Duw yn dal i allugwneud gwyrthiau, a pheri rhyfeddodau, arhoi arwyddion? Ydwyf eto, a hynny am fymod yn credu na allwn gyfyngu Duw i’nbocsys bach deallusol a thraddodiadol einhunain, a hynny am ei fod yn sofran, ynhollalluog, mewn gair, yn Dduw.

Nid wyf yn credu fod yn rhaid i Dduw,mewn unrhyw ffordd, gyfyngu ei hun iunrhyw derfynau yr ydym ni wedi eugosod ar ei gyfer, ond yr wyf yn credu’nbendant y byddai’n dda o beth i ni gofiohynny tra y byddwn yma yn Rhydymain aceto pan fyddwn wedi dychwelyd adref.

Geraint Tudur

Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd – 2019: parhadcymdeithasol a wna cynifer o’n heglwysi,y cynllun ‘Diakonia’ a’n prosiectrhanbarthol ar groesawu’r dieithryn, aceleni, y gofidiau enbyd sy’n codi yngngwledydd Prydain o ganlyniad i effeithiautrafodaethau Brexit. Da oedd medru sônam flaengaredd Undeb yr AnnibynwyrCymraeg a Cytûn yn y cyd-destun hwnnw. KoinoniaAgwedd unigryw o gyfarfodydd PwyllgorGweinyddol y Cymundeb yw cael cyfle igydaddoli gyda Christnogion Diwygiedig ybyd! Eleni, yn wahanol i’r llynedd,cawsom gwmni hwylusydd addoli. Bendithoedd bod o dan ei harweinyddiaeth; hithauwedi paratoi cyfres o wasanaethau i ni ynôl traddodiadau’r gwahanol genhedloedd agynrychiolir ar y Pwyllgor Gweinyddol –o’n gwasanaethau mwy strwythuredig affurfiol ninnau yn Ewrop, i frwdfrydeddheintus eglwysi Affrica; o gynhesrwyddaddoliad blodeuog a rhythmig y Caribî iwasanaethau carismataidd De America.Gofynnwyd i mi gymryd rhan yn yr oedfagoffa i dri o ffyddloniaid y Cymundeb a fu

farw yn ystod y flwyddyn. Y gwasanaethmwyaf ysbrydoledig oedd y Cymun.Cynhelir hwn yn flynyddol, ar y diwrnodolaf, yn benodol i aelodau’r PwyllgorGweinyddol. Pawb mewn cylch a phob unohonom, yn ein tro, yn torri’r bara arhannu’r gwin i’n gilydd. CymdeithasGristnogol fyd-eang yn cyd-addoli –koinonia o’r iawn ryw.Evangelischen KricheFel sy’n digwydd yn aml mewncyfarfodydd o’r fath, disgyn gwaith i’chcôl! Eleni eto, gofynnwyd i mi fod ynarweinydd y grŵp drafftio yn ystod ycyfarfod, ac fe’m henwebwyd ynGadeirydd y Gweithgor AdolyguCyfansoddiad y Cymundeb ar gyfer 2024!Yn ystod y mis nesaf caf y fraint o annerchCyfarfodydd Blynyddol un o eglwysiProtestannaidd mwyaf yr Almaen(Evangelischen Kirche im Rheinland) ynNuremberg. Cyn hynny, daw cyfleoedd iroi amlinelliad o waith y Cymundeb iBwyllgorau Eciwmenaidd Eglwys yr Alban(Eaglais na h-Alba) yng Nglasgow, ac

Eglwysi Diwygiedig a Lutheraidd yWeriniaeth Tsiec (Českobratrská církevevangelická) ym Mhrâg. Wrth wneud hynbyddaf yn sôn am waith ein heglwysi ni ofewn Undeb yr Annibynwyr Cymraeg –mae hynny, bob amser, yn rhoi crynfoddhad i mi!

Hefin Jones

Page 3: PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2019. 12. 3. · Hedd Wyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer cerdd sy’n gri o’r galon. Rhyfel Mewn ymateb i ‘Rhyfel’ a ‘Blotyn Du’

Medi 19, 2019 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

Barn AnnibynnolCodi’r faner

Mae’r Diwrnod Heddwch Rhyngwladol yncael ei nodi bob blwyddynar draws y byd ar 21Medi. Sefydlwyd ydiwrnod yn y flwyddyn1981 yn dilynpenderfyniad unfrydol yCenhedloedd Unedig, ermwyn annog cymunedauledled y byd i ymrwymo iheddwch ac i adeiladudiwylliant o heddwch.Hinsawdd a heddwch Eleni, thema’r DiwrnodHeddwch Rhyngwladoloedd ‘GweithreduHinsawdd dros Heddwch’, thema sy’ntynnu sylw at bwysigrwydd brwydro ynerbyn newid yn yr hinsawdd fel ffordd iamddiffyn a hyrwyddo heddwch ledled ybyd.

Mae newid yn yr hinsawdd yn achosibygythiadau clir i heddwch a diogelwchrhyngwladol. Mae trychinebau naturiol yndadleoli deirgwaith cymaint o bobl nagwrthdaro a rhyfel, gan orfodi miliynau iadael eu cartrefi a cheisio diogelwch ynrhywle arall. Mae hylendid dŵr achnydau’n peryglu diogelwch bwyd a’r

effaith ar iechyd pobl yn cynyddu.Dim ond drwy gymryd camau pendant i

frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ymae sicrhau heddwch. Wrth siarad âMāoris ifanc a phobl ynysoedd y MôrTawel yn Seland Newydd ym mis Mai,dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol y

Cenhedloedd Unedig,António Guterres, ‘nid ywnatur yn cynnal trafodaethau’a phwysleisiodd bedwarmesur allweddol y dylaiLlywodraethau eublaenoriaethu er mwyncyrraedd niwtraliaeth garbonerbyn 2050: treth ar lygreddac nid pobl; rhoi’r gorau isybsideiddio tanwydd ffosil;rhoi’r gorau i adeiladuplanhigion glo newydd erbyn2020; canolbwyntio areconomi werdd, nid economilwyd.

Gweithredu Yn y cyfnod yn arwain at DdiwrnodHeddwch Rhyngwladol ar 21 Medi, roeddy Cenhedloedd Unedig yn galw ar bawb iweithredu i fynd i’r afael â newid yn yrhinsawdd. Mae pob un ohonom yn rhano’r ateb – o ddiffodd y goleuadau iddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, athrefnu ymgyrch codi ymwybyddiaeth ynein cymuned. Dyma her i bob yr unohonom yn bersonol.

Bydd y Faner Heddwch yn cael ei

chodi’n uchel ar y Clos Mawr, Caerfyrddinam hanner dydd ar 21 Medi, gan Faer yDref mewn seremoni fer a drefnir ar y cydrhwng Cyngor y Dref a Chymdeithas yCymod. Mae’r seremoni flynyddol hon ynarwydd gweladwy o’n hymrwymiad fel trefi weithredu dros heddwch ym mhob fforddbosib.

Ydy’r dyddiad yn cael ei nodi yn eichcymuned chi tybed? Byddai’n dda gwybodein bod yn rhan o don o ddigwyddiadau ardraws y wlad ar 21 Medi bob blwyddyn.

Beti-Wyn James(Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd

yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyrna’r tîm golygyddol.)

Noson lawnsio llyfr newyddHANES EGLWYS

ANNIBYNNOL

TABERNACL, Hendy-Gwyn

gan Denley Owen

Yn y Tabernacl, Hendy-gwynar nos Wener, Medi 27ain, 2019

am 7.00 yr hwyrPaned a chacen ar ȏl yr oedfa.

Croeso cynnes i bawb

Fel Rhwydwaith Heddwch yngNghymru yr ydym yn annog eglwysi achyfundebau i gofio DiwrnodHeddwch y Byd drwy greu rhywbethpwrpasol, a’i anfon atom i’w rannu.Gall fod yn weddi am heddwch, yngân, cyflwyniad byr neu gerdd ac yn yblaen. Anfonwch eich cyfraniad atomcyn 21 Medi er mwyn i ni rannu’rnegeseuon ar y diwrnod. Gellir e-bostio [email protected]’ch cyfraniadau.

JOHN THOMAS JONES: EI YRFA FEL CENHADWR YM MADAGASCAR

Yn gynharach eleni yng nghapel Pant-teg ger Caerfyrddin, yng nghwmni ei fabPhilip ac aelodau eraill o’r teulu, feddathlwyd bywyd a gwaith y Parchg J.T. Jones, cenhadwr lleol aeth iFadagascar ganrif yn ôl. Mae’r ail ysgrifhon gan y PARCHG EMYR GWYNEVANS yn dechrau gyda’r hanes amJ.T. a’i wraig Emily Bowen yn glanio aryr ynys yn 1922. Rhaid edmygu antur adewrder J. T. Jones wrthorchfygu anawsterau yn eigariad mawr tuag atfrodorion Madagascar, a’iwasanaeth a’i ymdrechiontros ledaenu Efengyl IesuGrist ar yr ynys. Roedd ywlad yn gyntefig a chyfleusterau teithio ynbrin iawn. Maes ei lafur yn ei flynyddoeddcyntaf oedd Mandritsara, yng ngwlad yTsimiheti ‘y tu hwnt i’r goedwig’ yn ygogledd. Ar ôl taith gyda thrên i ddechrau,wynebau deng niwrnod o gerdded trwygoedwigoedd a dyffrynnoedd a throsfryniau. Doedd fawr o ffyrdd, ondcannoedd o lwybrau troellog trwy wladwyllt iawn. Roedd gofalaeth J.T. tua’r unfaint a Chymru, ac fe gymerai saith

niwrnod i’w theithio o’r gogledd i’r de, achwe diwrnod o’r dwyrain i’r gorllewin,gyda miloedd o frodorion oedd heb glywederioed am Iesu Grist.Llwyddiannau cynnar ar y maesYmdaflodd i’r gwaith ar unwaith, ganymweld ag eglwysi a chodi capeli.Gweithiau’n galed o blaid cymod ymhlithy llwythau brodorol. Daeth ei ddwyflynedd gyntaf i ben gyda chyfarfod ynMandritsara ar Sul cyntaf Tachwedd 1924pan oedd yr eglwys yn llawn am saith ybore, a phedwar bachgen ifanc o gartrefipaganaidd yn cael eu bedyddio a’r pedwaram ddod yn efengylwyr a gweinidogionIesu Grist i’w pobl. Dywedir mai cyfrinachllwyddiant a derbyniad gwresog J.T. oeddanwyldeb ei bersonoliaeth a’r ffaith ei fodyn weithiwr diarbed, yn un oedd yn teithiobellterau mawr o bentre i bentre.Rhoddodd bwyslais mawr ar feithrinarweinwyr brodorol ac ymhen dim amserroedd wedi gweld codi capeli newydd gydallawer yn holi am Iesu Grist. Ymdrechodd iwella cyflwr yr eglwysi yno, ac i ysgaru’rCristnogion oddi wrth bechodau fel dwynanifeiliaid a meddwdod.

parhad ar dudalen 7

Page 4: PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Y TYST · 2019. 12. 3. · Hedd Wyn fel ysbrydoliaeth ar gyfer cerdd sy’n gri o’r galon. Rhyfel Mewn ymateb i ‘Rhyfel’ a ‘Blotyn Du’

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Ty John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Medi 19, 2019Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

GolygyddAlun Lenny

Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Cofio GavinCyfuniad o’r melys a’r chwerw oedd dyddMawrth, 3 Medi, 2019. Melys, oherwyddbod Meryl Pike Williams, perchennogSiop Bapur Pikes ym Mhorthmadog yndathlu ei phen-blwydd yn 60 oed. MaeMeryl yn un o bileri’r gymuned ymMhorthmadog, ac yn ddiweddar fe’ihetholwyd yn flaenor yng Nghapel yPorth. Dymunwn Ben-blwydd Hapus iawniddi. Penderfyniad Meryl oedd cyflwyno unrhyw rodd a gawsai i Elusen MIND. Ynystod Awst eleni collodd eglwys Salem, Porthmadog un o’i haelodau ifanc – GavinLloyd Pugh, 27 oed, bellach o Gaerdydd. Bachgen ifanc cwrtais, annwyl a galluogiawn oedd Gavin, ac y mae’i golli wedi ysgwyd ei deulu, y gymuned a’r capel, acestynnwn ein cydymdeimlad llwyraf a’r teulu. Yn y llun gwelir, o’r dde i’r chwith –Dafydd Williams a’i wraig Meryl ac Arwel Pugh, tad Gavin, sy’n ddiacon ffyddloniawn yn Salem ac yn ddosbarthwr Y Tyst yn ein plith. Bendith ar bob cofio am Gavin.

Iwan Llewelyn

JOHN THOMAS JONES: EI YRFA FELCENHADWR YM MADAGASCAR – parhadGorchfygu trychinebau personolEto, fe brofodd siomedigaeth acanawsterau lu. Ganwyd tri o blant i J.T. acEmily, ond wedi geni’r trydydd plentynclafychodd ei briod a bu farw yn 1926 ar ydaith o 200 milltir i weld meddyg. ‘Collaisfy ffrind gorau a’m cydymaith mewnbywyd pan oedd fwyaf ei heisiau,’ meddai.Cyn diwedd y flwyddyn bu farw’i fabieuangaf, ac o fewn llai na chwech mislladdwyd ei ail fab pan drawydImerimandroso gan gorwynt enbyd achwalodd ei gartref ac adeiladau’r orsaf, yrysbyty a’r coleg (yn y llun) lle hyfforddidgweinidogion. Syrthiodd to cartref J.T. arben y rhai oedd yn cysgodi yno rhag ystorm, ac yn ogystal â’i fab Victor,lladdwyd y Parchg. T. B. Lees, cenhadwr achydymaith yn y gwaith, a thri brodor.

Daeth haul eto ar fryn yn ei hanes panbriododd â Mademoiselle MandeleineHippeau, athrawes a chenhades dan nawddCymdeithas Genhadol Paris. Ganwydiddynt ddau o blant o’r ail briodas sefLilian a Philip. Wedi’r briodas dychwelsanti Imerimandroso gan gychwyn y gwaith oailadeiladu yno. Llwyddwyd i ailgodi’rysgol a’r coleg, ac erbyn diwedd yflwyddyn roedd 60 o fyfyrwyr yn cael eihyfforddi i fod yn genhadon agweinidogion dros Iesu Grist. Y flwyddynganlynol, 1928, dychwelodd i Gymru amseibiant, ac ym Mehefin 1929 fe wnaethannerch yng Nghyfarfodydd BlynyddolUndeb yr Annibynwyr yn Llanelli gandraddodi ei anerchiad yn y cyfarfodcenhadol lle dywedir iddo ysbrydoli pawbâ’i ffydd a’i obaith yn ei waith. Bu’n

annerch yr Undeb deirgwaith etorhwng 1937 a 1951.Gofalaeth anferthErbyn 1932 roedd J. T. Jones yngofalu am y cyfanswm rhyfeddol o137 o eglwysi mewn tri rhanbarth.Teithiodd gannoedd o filltiroedd ynarolygu ac adeiladu’r eglwysi, ynymweld â phentrefi ar droed, ar gefnbeic, ac yn y car a brynwyd iddo ganarian a gasglwyd yng Nghymru yndilyn apêl yn Undeb Rhos yn 1934 odan arweiniad Elfed. Ar ôl seibiant

pellach o’r maes cenhadol, dychweloddJ.T. a’i briod i Fadagascar yn Rhagfyr1946, ac i ganol gwrthryfel yn erbynFfrainc, oedd yn rheoli’r wlad ac wediymateb i’r gwrthryfel gyda chreulondebmawr. Roedd y Malagasi yn amheus o bobEwropead, a bu’n flynyddoedd anodd apheryglus ond hefyd yn gyfle i J.T. iwasanaethu fel noddwr a chymodwr ycarfannau gelyniaethus. Roedd anwyldeb eiberson, a diau fod y ffaith mai Cymroydoedd, yn golygu ei fod wedi cael eidderbyn gan y Malagasi fel un oedd yncydymdeimlo yn llwyr â’i hachos ac un ygallasent ymddiried ynddo.Madagascar yn galw hyd y diweddDychwelodd i’w gartref yn Eltham amseibiant, ac er bod ei iechyd yn dirywio,roedd ei fryd ar fynd yn ôl i Fadagascar.‘Mae pobl Madagascar yr un fath yn gywirâ phobl Cymru – nid oes un gwahaniaethrhyngddynt,’ meddai. Yn groes i orchymynei feddyg a dymuniad y GymdeithasGenhadol, gwnaeth drefniadau iddychwelyd i Fadagascar, ond bu farw’ndawel yn ei gartref ar 4 Ebrill 1952. Nidoedd lle i amau ei gariad angerddol tuag atynys a’i phobl. Hyfrydwch ym mlwyddynApêl Madagascar yw cael cofio am ycenhadwr John Thomas Jones, Ffosygaseg,un o blant ac enwogion y ffydd yn haneseglwys Pant-teg, Sir Gâr.