16
PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW, CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM. 364 364 364 364 364 Ionawr 2012 Ionawr 2012 Ionawr 2012 Ionawr 2012 Ionawr 2012 40 40 40 40 40c Mae Aled Williams, mab Glyn a Dilys Williams, Tre’r Llai wedi cael dyrchafiad yn ddiweddar. Mae Aled wedi bod yn gweithio i’r Llywodraeth yn Llundain ers rhai blynyddoedd ac erbyn hyn mae wedi’i benodi yn Bennaeth Cyfathrebiadau ac Ymweliadau – rhan o gynrychiolaeth y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae Aled, Liz ac Isobella bellach wedi symud i Frwsel ac yn dechrau dod i arfer â bywyd mewn gwlad dramor. Roedd wythnos gyntaf Aled yn ei swydd newydd yn fedydd tân go iawn oherwydd mai hon oedd yr wythnos pan gynhaliwyd y cyfarfodydd pwysig ymysg y 26 o wledydd parthed yr Ewro. Ymddangosodd llun Aled gyda Mr Cameron ym mhapur Sul ‘The Observer’ yr wythnos honno. Dymunwn bob dymuniad da i Aled yn ei swydd newydd ac ymfalchïwn yn ei lwyddiant. Cafwyd perfformiadau rhagorol gan y ddwy chwaer hyll, sef Morgan Tudor a Hywel Jones a’u mam Gethin Edwards pan gyflwynodd disgyblion Ysgol Dyffryn Banw eu pantomeim, Sinderela, yng Nghanolfan y Banw cyn y Nadolig. TALENT ALENT ALENT ALENT ALENTAU CAEREINION U CAEREINION U CAEREINION U CAEREINION U CAEREINION HWYL Y PANTOMEIM Ceri Pryce a Manon Lewis, enillwyr cystadleuaeth Talentau Caereinion 2011. Roedd pawb wedi eu swyno gan y ddeuawd hyfryd a gafwyd gan y ddwy. HELO...BE’ SY’N DIGWYDD FAN HYN? ateb ar dudalen 9 Daeth Iolo Williams, y darlledwr adnabyddus, i gynnau goleuadau Nadolig Llanfair eleni ac o’r herwydd mae’r dref wedi bod yn fôr o oleuni dros gyfnod gwlyb a diflas y Nadolig. Wedi i Iolo gynnau’r goleuadau cafwyd gorymdaith drwy’r dref o dan arweiniad crïwr y dref, Geraint Peate. Daeth Band Arian Porthywaun i ddiddanu ar y noson ac ymunodd pawb i ganu carolau ar sgwâr y dref cyn mynd i lawr am yr Institiwt i fwynhau lluniaeth a chyfarfod â Siôn Corn. Diolch i’r Pwyllgor, o dan arweiniad eu cadeirydd, Viola Evans, am drefnu’r digwyddiad hwn eto eleni. GWEITHIO YM MRWSEL A dyma un arall o gynrychiolwyr ardal Plu’r Gweunydd – Arwyn Groe – y tu allan i’r Senedd Ewropeaidd ar yr 8fed o Ragfyr. Ai dyma pam fu raid i Cameron fynd â’i feto i Frwsel fore trannoeth? Na, roedd Arwyn yma i gefnogi Gwenllian yn annerch y Senedd ar systemau Datganoli a sefyllfa’r Cwrdiaid yn y Dwyrain Canol ac yn cael ei dywys o gwmpas gan Tom Plascoch.

Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

PAPUR BRO LLANGADFAN, LLANERFYL, FOEL, LLANFAIR CAEREINION, ADFA, CEFNCOCH, LLWYDIARTH, LLANGYNYW,CWMGOLAU, DOLANOG, RHIWHIRIAETH, PONTROBERT, MEIFOD, TREFALDWYN A’R TRALLWM.

364364364364364 Ionawr 2012Ionawr 2012Ionawr 2012Ionawr 2012Ionawr 2012 4040404040ccccc

Mae Aled Williams, mab Glyn a Dilys Williams,Tre’r Llai wedi cael dyrchafiad yn ddiweddar. MaeAled wedi bod yn gweithio i’r Llywodraeth ynLlundain ers rhai blynyddoedd ac erbyn hyn maewedi’i benodi yn Bennaeth Cyfathrebiadau acYmweliadau – rhan o gynrychiolaeth y DeyrnasUnedig yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae Aled, Lizac Isobella bellach wedi symud i Frwsel ac yndechrau dod i arfer â bywyd mewn gwlad dramor.Roedd wythnos gyntaf Aled yn ei swydd newyddyn fedydd tân go iawn oherwydd mai hon oedd yrwythnos pan gynhaliwyd y cyfarfodydd pwysigymysg y 26 o wledydd parthed yr Ewro.Ymddangosodd llun Aled gyda Mr Cameron ymmhapur Sul ‘The Observer’ yr wythnos honno.Dymunwn bob dymuniad da i Aled yn ei swyddnewydd ac ymfalchïwn yn ei lwyddiant.

Cafwyd perfformiadau rhagorol gan y ddwychwaer hyll, sef Morgan Tudor a HywelJones a’u mam Gethin Edwards pangyflwynodd disgyblion Ysgol Dyffryn Banweu pantomeim, Sinderela, yng Nghanolfany Banw cyn y Nadolig.

TTTTTALENTALENTALENTALENTALENTAAAAAU CAEREINIONU CAEREINIONU CAEREINIONU CAEREINIONU CAEREINIONHWYL YPANTOMEIM

Ceri Pryce a Manon Lewis, enillwyrcystadleuaeth Talentau Caereinion 2011.Roedd pawb wedi eu swyno gan y ddeuawdhyfryd a gafwyd gan y ddwy.

HELO...BE’ SY’N DIGWYDD FAN HYN?

ateb ar dudalen 9

Daeth Iolo Williams, y darlledwr adnabyddus, i gynnau goleuadau Nadolig Llanfair eleni aco’r herwydd mae’r dref wedi bod yn fôr o oleuni dros gyfnod gwlyb a diflas y Nadolig.Wedi i Iolo gynnau’r goleuadau cafwyd gorymdaith drwy’r dref o dan arweiniad crïwr y dref,Geraint Peate. Daeth Band Arian Porthywaun i ddiddanu ar y noson ac ymunodd pawb iganu carolau ar sgwâr y dref cyn mynd i lawr am yr Institiwt i fwynhau lluniaeth a chyfarfodâ Siôn Corn. Diolch i’r Pwyllgor, o dan arweiniad eu cadeirydd, Viola Evans, am drefnu’rdigwyddiad hwn eto eleni.

GWEITHIO YM MRWSEL

A dyma un arall o gynrychiolwyr ardal Plu’rGweunydd – Arwyn Groe – y tu allan i’r SeneddEwropeaidd ar yr 8fed o Ragfyr. Ai dyma pam furaid i Cameron fynd â’i feto i Frwsel fore trannoeth?Na, roedd Arwyn yma i gefnogi Gwenllian ynannerch y Senedd ar systemau Datganoli asefyllfa’r Cwrdiaid yn y Dwyrain Canol ac yn caelei dywys o gwmpas gan Tom Plascoch.

Page 2: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

22222 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012

DYDDIADURIonawr 10 Pantomein - Jac a’r Goeden Ffa yn

Theatr HafrenIonawr 13 Plygain Mallwyd am 7 o’r glochIonawr 15 Bingo yn Neuadd Pontrobert am 7.30Ionawr 21 Noson Cwis yn Neuadd Pontrobert am

7.30Ionawr 23 Is-bwyllgor Cerdd Eisteddfod Powys

Llanfair yn Festri Capel Moreia, Llanfairam 7 o’r gloch

Ionawr 25 Jambori (ar gyfer plant bl. 5 a 6)Ionawr 27 Noson Gomedi Cymdeithas Adloniant

Llanfair, gyda Eilir Jones - 7.30pm, YrInstitiwt.

Ionawr 27 Gyrfa Chwist yn Neuadd Pontrobert am8.00

Ionawr 27 Dawns Santes Dwynwen, adloniant - PenTennyn yn Neuadd Llanerfyl dan nawdd Ffrindiau Ysgol Llanerfyl. Tocynnau £10yn cynnwys swper ysgafn ar gael ganGwenan (820447)

Chwef. 9 (nos Iau) Gyrfa Chwilod yn Dyffryn, Foelo dan nawdd Merched y Wawr. Croeso iddysgwyr yr ardal. Mynediad £5.

Chwef. 19 Cinio Elusennol yng NghanolfanHamdden Llanfair er budd ‘CymorthCanser Macmillan’ am 12 o’r gloch.Tocyn £18 yn cynnwys band a siaradwrgwadd. Ffoniwch Sarah ar 01938 820168am docynnau.

Chwef. 23 Cystadlaethau Dawnsio yr Urdd CylchCaereinion yng Nghanolfan HamddenLlanfair

Mawrth 3 Eisteddfod Cylch Caereinion yngNghanolfan Hamdden Llanfair Caereinion.

Mawrth 9 Cystadlaethau Celf a Chrefft yr UrddCylch Caereinion yn Ysgol GynraddLlanfair Caereinion

Mawrth 14 Noson Chwaraeon Merched y Wawr yn yCann Office.

Ebrill 26 am 7y.h. yn Hen Gapel John Hughes,bydd cangen Maldwyn o GymdeithasEdward Llwyd yn cynnal nosongymdeithasol yng nghwmni’r bardd oLanfair, Emyr Davies. Croeso i aelodauac eraill. Cost: £2. Lluniaeth ysgafn.Trefnydd: Eluned Mai. Cyswllt: NiaRhosier 01938 500631

Meh. 16 Taith Gerdded Plu’r Gweunydd o GoedDyfnant i’r Foel

Medi 27 Pwyllgor Blynyddol Plu’r Gweunydd am7.30 yn Neuadd Pont Robert

TÎM PLU’R GWEUNYDDCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeiryddCadeirydd

Arwyn DaviesGroe, Dolanog, 01938 820435

Is-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddIs-GadeiryddDelyth Francis

Trefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddTrefnydd Busnes a ThrysoryddHuw Lewis, Post, Meifod 500286

YsgrifenyddionYsgrifenyddionYsgrifenyddionYsgrifenyddionYsgrifenyddionGwyndaf ac Eirlys Richards,

Penrallt, Llwydiarth, 01938 820266

Trefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauTrefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauTrefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauTrefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauTrefnydd Dosbarthu a ThanysgrifiadauGwyndaf Roberts, Coetmor

Llanfair Caereinion 01938 810112

Golygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolGolygydd YmgynghorolNest Davies

Panel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolPanel GolygyddolCatrin Hughes, Llais Afon, Llangadfan

01938 [email protected] Steele, Eirianfa

Llanfair Caereinion [email protected]

Alwyn Hughes, Llais Afon, LlangadfanMari Lewis, Swyddfa’r Post, Meifod

500286

Diolchiadau £5

CyfarchionDymuna Mrs Nesta Williams, Meifod ac OgwynDavies, Rhos-y-menyn, Flwyddyn Newydd Ddai bob un – teulu, cymdogion a ffrindiau oll.

DiolchDymuna Megan, Arwyn a Rhian a’u teulu ddiolcho galon am bob arwydd o gydymdeimlad achymorth a ddangoswyd iddynt yn euprofedigaeth drist o golli g@r, tad a thaid arbennigsef Trefor Jones, Tan-y-Bryn, Meifod. Diolchhefyd am y rhoddion hael o dros ddwy fil obunnau tuag at wahanol achosion.Gwerthfawrogwyd y cyfan yn fawr iawn.

DiolchCarai Leusa Rees, Aelybryn ddiolch yn fawr iawni bawb am y cardiau, yr anrhegion a’r galwadauamrywiol a dderbyniodd tra yn yr ysbyty. Maeeisiau datgan diolch arbennig i Megan a’r teuluyng Ngwerncaeryddion, Llanbedr am eu gofalohoni. Dymuna hefyd ddymuno BlwyddynNewydd Dda i’r teulu, ffrindiau a chymdogion.

DiolchDymuna Gwilym a Selwyn, Eurwyn a Janet,Gwynfryn a Ceri a’r teulu ddiolch am bobcydymdeimlad a dderbyniwyd yn euprofedigaeth. Diolch am yr holl gardiau,galwadau ffôn ac am eich presenoldeb yn yrangladd. Diolch hefyd am y rhoddion hael o£1550 er cof am Ceri sy’n cael ei rannu rhwngSevern Hospice, Ward 21 Ysbyty’r Amwythig aHope House. Diolch yn fawr iawn i bawb.

DiolchDymuna teulu’r diweddar Tom Morris ddiolch ibawb am y caredigrwydd a ddangoswyd iddyntyn eu profedigaeth. Diolch i bawb a ddaeth i’rangladd ac am y rhoddion hael a roddwyd ercof. Diolch i’r Parch. Peter Williams am arwain ygwasanaeth, i Mr John Ellis ac i Glyn Roberts,ffrind i’r teulu, am deyrnged mor addas. Methoddmerch Tom, Helen, â dod i’r gwasanaeth acanfonodd yr ychydig eiriau hyn o SelandNewydd:“Mae’n dristwch mawr i ni na allwn fod gyda chiheddiw ar yr achlysur trist iawn hwn. Rydym yngwerthfawrogi ac yn cydnabod yn ddiolchgar yrholl negeseuon o gydymdeimlad a gawsomgennych chi i gyd.Roedd Dad yn dad ardderchog i ni ac yn esiampli ni i gyd fel plant. Roedd yn garedig, yn onest,yn weithgar iawn ac yn un a oedd yn cyflawnillawer yn dawel bach. Roedd ganddo hefydsynnwyr digrifwch y byddai’r rhan fwyaf ohonochrwy’n si@r yn ymwybodol ohono.Un o’m hoff atgofion oedd pan ddaeth ar ei daitholaf i Seland Newydd. Fe’i gwahoddwyd ichwarae bowls i’r clwb bowlio lleol. Fe enilloddy twrnamaint a dangosodd hefyd ei fod yn galluyfed! Dyna falch oeddem o’r sgôr: Cymru 1,Seland Newydd 0, a dyw’r clwb bowlio ddimwedi anghofio.Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r rhai aofalodd am Dad, gan ei gwneud yn bosibl iddoaros yn ei gartref ei hun. Oherwydd fy mod ynbyw mor bell i ffwrdd roedd yn gysur mawr i niwybod ei fod yn derbyn gofal da.Yn olaf, diolch yn fawr iawn i chi i gyd am ymunoâ ni i ddathlu bywyd Dad.Hunwch yn dawel, Dad.Helen a’r teulu.

RhoddDiolch yn fawr iawn i Mai Porter am ei rhoddhael tuag at goffrau Plu’r Gweunydd.Gwerthfawrogwn eich haelioni yn fawr iawn.

Annwyl OlygyddionWedi clywed gan un a oedd yn hynodsiomedig, bod cymeradwyaeth (clapio dwylo)wedi digwydd ym Mhlygain yr ifanc ymMoreia, Llanfair ddechrau Rhagfyr. Pahamtybed? Mae’n bwysig cyflwyno gwirdraddodiad y Plygain, sef gwasanaeth o fawli Dduw, i’r to sy’n codi – nid ‘adloniant’ ydyw,fel y mae plygeinwyr profiadol yn gwybod yniawn.Gair i gall.Yn gywirNia Rhosier

* * * * * * * * * * * *

LLYTHYRON

Gwefan Gymraeg i AsiantaethGwyliau yng Nghymru

Mae lansiad gwefan Gymraeg asiantaethgwyliau ar-lein, gan gwmni ifanc Llion Pughea Gareth Mahoney, yn ddatblygiad busnesarwyddocaol.Bydd y wefan Gymraeg, ‘Y Gorau o Gymru’(wwwwwwwwwwwwwww.ygorauogymru.co.uk.ygorauogymru.co.uk.ygorauogymru.co.uk.ygorauogymru.co.uk.ygorauogymru.co.uk), yn galluogicwsmeriaid i chwilio ac archebu gwyliau ymmhob cornel o Gymru trwy gyfrwng yGymraeg am y tro cyntaf.Mae Y Gorau o Gymru yn cynnig lletymoethus pedair a phum seren ar hyd a lledCymru, a nawr fe fydd yn lledu ei apêl trwyddarparu gwefan Gymraeg, yn ogystal ag unSaesneg ar gyfer archebion ac ymholiadau.Meddai Llion sy’n rhedeg asiantaeth Y Gorauo Gymru o Gemaes, ger Machynlleth: “Mae’nholl bwysig i ni fel cwmni ein bod ynymgorffori’r iaith Gymraeg yn ein busnes.Ychydig iawn o ddarpariaeth sydd ar gaelym myd twristiaeth ar gyfer siaradwyrCymraeg.”Ychwanegodd Gareth, sydd hefyd yn rhedegy cwmni o’r swyddfa yng Nghaerdydd: “Mae22% o’n harchebion yn dod gan bobl syddyn byw yng Nghymru ac mae 1 o bob 5 odrigolion Cymru’n siarad Cymraeg. Felly mae’na fwlch yn y farchnad ac ‘rydyn ni’nhyderus y gallwn ei lenwi.”Maent hefyd wedi ymestyn gwasanaeth ywefan, fel ei bod nawr yn bosib i ddysgwyrarchebu gwersi Cymraeg fel rhan o’r profiadgwyliau unigryw.Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae’rbythynnod gwyliau yn dod gyda chynhwysynychwanegol, arbennig iawn sy’n gwneudgwyliau yng Nghymru yn unigryw a chyflawn.Fe’i gelwir yn ‘Groeso Cynnes Cymraeg’, agallwch chwilio am fythynnod â pherchnogionsy’n siarad Cymraeg trwy glicio ar‘perchnogion yn siarad Cymraeg’ o dan ‘Mwyo Opsiynau Chwilio’.I ddathlu’r garreg filltir hon, hoffai Y Gorau oGymru gynnig côd gostyngiad o 5% i unrhywun sy’n dymuno aros yn eu bythynnodgwyliau yn 2012. Bydd y cynnig yn ddilystan y 29ain o Chwefror 2012 a’r côd (i’wddyfynnu wrth archebu dros y ffôn neu ar-lein) yw ‘Gwyliau2012Gwyliau2012Gwyliau2012Gwyliau2012Gwyliau2012’. Gellir defnyddio hwnar gyfer unrhyw ddyddiadau yn ystod 2012.Am fwy o wybodaeth ynghylch bythynnodgwyliau Y Gorau o Gymru ffoniwch 01650511 101 neu [email protected]

Page 3: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 33333

O’R GADER

Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos aaeth heibio, yr wyf fi ac Evelyn wedi cael‘modd i fyw’ yn gwrando ar blant a phobl ifancMaldwyn yn perfformio ar lwyfannau’r sir acy mae’r safon wedi bod yn anhygoel ac yndangos nad yw diwylliant ein gwlad amddiflannau am beth amser eto!Yn gyntaf, Rhagfyr 15 – buom ein dau ynNeuadd Llanerfyl i gyngerdd Plant YsgolLlanerfyl. Y tro cyntaf ers dros ddengmlynedd i ni fod heb @yr ymysg y plant (ond,yr oeddynt cystal bob tamaid). Yr un oedd ystori, yr un oedd y prif gymeriadau a’r unoedd y golygfeydd – ie, Stori’r Nadolig. Ondam berfformiad gan y plant eto eleni -‘ffantastig’. Y neuadd yn orlawn, y llwyfanyn orlawn a phob un o’r plant a’u hyfforddwyri’w llongyfarch yn fawr ar eu perfformiad.Hoffais yn fawr y cyferbyniad rhwng einrhialtwch a’n cyfrifoldebau at eraill, gyda’rtlodion yn cael eu hanghofio yn ein digonedd.Ardderchog Olwen, y staff a’r plant. Dawnac addewid i’r dyfodol yn y rhai lleiaf ar yllwyfan. Cofiadwy iawn.Yn ail, Rhagfyr 17 – Bûm yng NghanolfanLlanfair Caereinion yn gwylio ‘Gair yn Gnawd’.Sioe Nadolig Ysgol Theatr Maldwyn ganPenri, Linda a Derek. Y tri eto yn llwyddo igreu campwaith! Yr un hen stori eto, Stori’rNadolig. Roedd gweld 70 o ieuenctidMaldwyn a’r cyffiniau ar lwyfan yn canu ambron i awr yn wefreiddiol ac yn codi’r galon.A’r safon? Anhygoel – ac fel rhyw wefrychwanegol roedd Huw, yr @yr, yn y corws.Sioe i’w chofio a llongyfarchiadau i bawb agymerodd ran.Wedyn i gwblhau y drindod wefreiddiol onosweithiau cofiadwy.Nos Lun, 19 Rhagfyr – Cawsom anrhegNadolig cynnar – dau docyn i GyngerddDathlu 10 Mlynedd o fodolaeth Ysgol Dafydd

Llwyd, Ysgol Gynradd Gymraeg gyntafPowys. Yr hen, hen stori eto, ond bytholnewydd! Noson i’w chofio oedd hon hefyd,mae’r ysgol bellach yn 160 mewn nifer ac yroedd pob un ohonynt ar y llwyfan. Panagorwyd y llenni cafwyd golygfa liwgar,obeithiol ac yn hwb anhygoel i ddyfodoladdysg trwy gyfrwng y Gymraeg ymMhowys.Cawsom ein swyno gan y canu a’n synnu atsafon acennu Cymraeg y plant. Y rhanhelaeth ohonynt yn tarddu o gartrefi di-Gymraeg. Clod i’r athrawon a chlod i ffyddy rhieni yn anfon eu plant i Ysgol Gymraegei hiaith. Rhieni sydd wedi gallu goresgyn yrhagfarnau ieithyddol!. Yr oedd safon y canuyr ynganu a’r donyddiaeth yn rhyfeddol ac yroedd gweld 160 o blant dan 12 oed ar lwyfanTheatr Hafren yn ysbrydoliaeth pur. Cawsomy newyddion da fod adeiladu ysgol bwrpasolGymraeg newydd yn y Drenewydd ar ygorwel a ‘standing ovation’ hefyd.Llongyfarchiadau mawr i staff a phlant YsgolDafydd Llwyd am noson i’w chofio.Rhagfyr 4ydd – roeddem wedi cael rhagflaso fis arbennig. Plygain yr Ifanc ym MoreiaLlanfair – roedd bod yno yn wefr! A’r capelgyda ‘standing room only’ dan ei sang! Eto,cafwyd plant ysgolion lleol yn cymryd rhangyda safon y canu yn uchel iawn eto. A’r unhen stori ‘newydd’ unwaith eto.Nos Sul Rhagfyr 18 – Plygain Capel Peniel aPhlygain Capel Cymraeg y Trallwm ar y 13ego Ragfyr.Ie, mis wrth ein bodd. Pwy sydd ag amser ifod yn ‘bored’ ‘dwch gyda’r fath wledd arstepen y drws? Ys dywed ‘Carol y Swper’

‘Derbyniwn ein breintiau a’u mwynhau ‘Mae’rswper yn barod’, O, brysiwch.

Dyn wrth ei fodd.

G@r Llysmwyn yn atgyfodi (am un tro)G@r Llysmwyn yn atgyfodi (am un tro)G@r Llysmwyn yn atgyfodi (am un tro)G@r Llysmwyn yn atgyfodi (am un tro)G@r Llysmwyn yn atgyfodi (am un tro)yn llawn gobaith!yn llawn gobaith!yn llawn gobaith!yn llawn gobaith!yn llawn gobaith!

BOWEN’S WINDOWSGosodwn ffenestri pren a UPVC o

ansawdd uchel, a drysau acystafelloedd gwydr, byrddauffasgia a ‘porches’ am brisiau

cystadleuol.Nodweddion yn cynnwys unedau28mm wedi eu selio i roi ynysiad,awyrell at y nos a handleni yn cloi.

Cewch grefftwr profiadol i’wgosod.

BRYN CELYN,LLANFAIR CAEREINION,

TRALLWM, POWYSFfôn: 01938 811083

Ewyllys daYdi, mae’n dymor o ewyllys da. Acmae isio canmol. Canmol rhai ofusnesau mawrion Trallwm.Morrisons oedd y cynta’ i dynnu’nsylw i sawl blwyddyn yn ôl bellachefo’r Gymraeg yn cael sylw

blaenllaw ar eu harwyddion. Yna daeth Tesco,a hwythau hefyd â defnydd cadarn o’rGymraeg – a iaith rwydd iawn hefyd ar yrarwyddion tu fewn i’r siop, nid fel y gwelwn niweithiau rhyw iaith glogyrnaidd wedi’ichyfieithu’n slafaidd o’r Saesneg. A dynagwmni mawr arall Trallwm yn dyrchafu’rGymraeg yn ddiweddar, sef un o’rmarchnadoedd anifeiliaid mwya’ yn Ewrop.Gwell ydi peidio sôn gormod am stryd fawr ydre’, na llefydd bwyta ein tre’ marchnad ni ynardal Plu’r Gweunydd. Ond dyna fo, mae ‘nafusnesau yn nes lawer i ‘gadarnleoedd’ yGymraeg sydd ddim llawer gwell. Beth bynnagam hynny, rhaid canmol yr uchod am eublaengarwch a’u teyrngarwch, gan obeithio ybydda’ nhw’n ysgogiad ac yn llusern i eraill.

LeanneBraf oedd clywed yn ddiweddar fod LeanneWood o’r Rhondda am sefyll amarweinyddiaeth Plaid Cymru. Mor ddiflas ydilot o’n gwleidyddion ni, llawer ohonyn’ nhwwedi’u mowldio fel robotiaid i ddeud y pethdisgwyliedig. Mae ‘na gyfweliade efo lotohonyn’ nhw’n g’neud i gyfweliad diwedd gêmefo pêl-droedwyr swnio’n ddiddorol tu hwnt! Nidfelly Leanne; gwleidydd a pherson egwyddorola diddorol sy’n ofni neb.

2012Mae dechrau blwyddyn newydd yn adeg igym’yd gwynt, a chloriannu’r hyn sy’ genno’ni. Mae’n gyfle i ddiolch ac i werthfawrogi. Ynein cyswllt ni, mae’n gyfle i ddiolch am yr hollgyfraniade amhrisiadwy i’r Plu. Am waith ycolofnwyr, y gohebwyr, y ffotograffwyr [mae’rlluniau’n gyson o safon uchel], y golygyddion[ardderchog] a’r hysbysebwyr ffyddlon. I’rdosbarthwyr a’r siope, ac i bawb sy’n darllenhyn o eirie.Bu 2011 hefyd yn flwyddyn greulon, greulon irai teuluoedd yn ardal y Plu. Mae’n meddylieni efo chi.

BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB SY’N DARLLEN Y PLU!

Page 4: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

44444 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012

FOELMarion Owen

820261

LLANGADFAN

AnffawdCafodd Mrs Eluned Hughes anffawd pan ynsiopa cyn y ‘Dolig. Braf oedd gweld eich bodyn gwella. Cydymdeimlwn â chi fel teulu areich profedigaeth. Bu farw Idris Thomas, g@rMair, chwaer i Mrs Hughes, ar Ragfyr 1af.Roedd yn gyn bennaeth Ffiseg a chynBrifathro Ysgol Dyffryn Nantlle ac yn byw ymMhenmorfa, ger Porthmadog.Anfonwn air at gymdogion sydd wedi bod ynwael yn ystod y mis – cadwch yn gynnes.

Eglwys GarthbeibioCynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig EglwysGarthbeibio ar Ragfyr y 4ydd. Roedd ygwasanaeth dan ofal Col. Glyn Jones, Llanfairgyda Mrs Megan Crosby yn chwarae’r organ.Cafwyd darlleniadau gan aelodau’r Eglwys acharolau gan barti Merched y Wawr a Grug aTudur, Gors. Roedd yr Eglwys wedi eihaddurno yn hyfryd iawn a chafwyd mins peisa gwin poeth ar ddiwedd y gwasanaeth.

Swper y PensiynwyrTrefnwyd Swper y Pensiynwyr yn y Ganolfan,nos Sadwrn, Rhagfyr 3ydd. Diolch i’r CyngorCymuned am drefnu. Roedd yr adloniant gangangen iau o deulu Moeldrehaearn. Diolchiddynt hwythau.

Merched y WawrCynhaliwyd Gwasanaeth Carolau gan BwyllgorRhanbarth Merched y Wawr yng NghapelCreigfryn, Carno. Aeth parti i gymryd rhan ogangen y Foel. Deallaf i’r cyfan fod ynllwyddiant.Cynhaliwyd ein swper blynyddol yngNgwesty’r Dyffryn, nos Lun, Rhagfyr 12fed.Roedd ugain ohonom yn bresennol. Diolch iMandy am yr arlwy ardderchog fel arfer.Nos Iau, Ionawr 12 daw Gerallt Dolymaen a

John y Maes atom i ddweud peth o’u hanestra ar wyliau yng Nghenya.

DawnswyrBu’r Dawnswyr yn cynnal Twmpath ynLlanfihangel nos Sadwrn, Rhagfyr 10. Bu’rnoson yn llwyddiant mawr fel arfer. Amsercinio Sul, Rhagfyr 11 aeth rhai o’r aelodau igael ein cinio Nadolig yng NgwestyLlanwddyn. Cawn beth heddwch rwan, nesdaw y Fari Lwyd. Cofiwch amdani, Ionawr14 – yn y Brigands, ac yna i’r Buckley Pinesa’r Llew Coch. Beth am ymuno â ni?

Cyngerdd yr YsgolCafwyd Pantomeim eleni a’i gynnal ar ddwynoson, Rhagfyr 15 ac 16. Roedd yn anhygoelac yn hollol broffesiynol. Llawenydd oeddgweld cymaint o blant mân yn mwynhau yprofiad. Diolch i bawb a fu’n gweithio’n galedi’w wneud yn llwyddiant.

Gwasanaeth Nadolig Capel yFoelCynhaliwyd hwn ar bnawn Sul, Rhagfyr 18.Braf iawn oedd gweld y plant a’r bobl ifancyn ymrwymo i ddathlu’r @yl. Braf oedd gweldy capel yn gyfforddus lawn. Gwnaed casgliader budd Ymchwil Canser yn ystod ygwasanaeth. Ar ddiwedd y gwasanaethmwynhawyd cacennau hyfryd a gwin poethwedi eu paratoi gan aelodau’r Capel.

Noson GymdeithasolCynhaliwyd Noson Gymdeithasol yngNgwesty’r Dyffryn ar Ragfyr 28. Cafwydadloniant gan Elen Davies ac Alun Jonesynghyd â lluniaeth wedi ei baratoi gan aelodau’rEglwys. Roedd yr elw er budd EglwysGarthbeibio.

Penblwydd hapusBydd Carol Popplewell yn dathlu eiphenblwydd ar Ionawr 1af; Mandy, Dyffryn arIonawr 21 a Laura Roberts ar Ionawr 25.Penblwydd hapus i chi i gyd.

Dymunaf Flwyddyn Newydd Dda i holldrigolion ardal y Plu a hir y parhaed y Plu.‘

TristwchTywyllwyd Nadolig eleni gyda chwmwl odristwch pan glywyd am farwolaeth Cath,Tynewydd yn wraig a mam ifanc. Bu Cath ynymladd yn hir ac yn ddewr yn erbyn ei chlefydcreulon ond yn anffodus bu iddi farw yn YsbytyBronglais rai dyddiau cyn y Nadolig. Mae einmeddyliau gyda’i theulu oll ond yn arbenniggyda John a’r plant, Dylan, Eurgain, Meilir,Elain ac Awel. Cafodd Cath fwynhad abalchder yn magu ei phlant a dw i’n si@r ybydd y teulu yn gwerthfawrogi ein cefnogaethninnau fel ardal i ddygymod â’r golledddychrynllyd hon.

EdwinaBu farw Edwina Augustin (Humphreys) gynto Benybont, Llangadfan yn Orlando, Florida,UDA. Merch oedd i Ifan a Mary Humphreys,Mary Humphreys o deulu Cefne ac Ifan yn uno deulu Cyffin Fawr. Wedi gadael YsgolLlanfair bu’n gweithio yn Caerynnach cynmynd i weithio yn y dderbynfa mewn gwestymawr yn Llundain. Priododd ac aeth gyda’ig@r i Efrog Newydd lle bu â swydd uchel yn yWaldorf Astoria, un o westai mwyaf y ddinas,ac yno y cyfarfu â llawer o enwogion y bydgan gynnwys Richard Burton fel cyd-Gymro.Gedy ei chwaer Dolly sydd yn byw yn Broad-way, Swydd Caerwrangon a dau o blantMaurice a Tanya. Cydymdeimlwn â’r teuluoll.

Dymuniadau gorauAnfonwn ein dymuniadau gorau fel ardal atDelyth, Rhandir Isa sydd yn dechrau ar eithriniaeth yn fuan.

DyweddiadLlongyfarchiadau i Mared Edwards, Glanaberar ei dyweddiad dros y Nadolig â DylanLlywelyn o Ddinas Mawddwy. Pob dymuniadda i’r ddau ohonoch ar gyfer y dyfodol.

LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i Sioned, Llwyn y Grug arbasio gradd MSc gyda Rhagoriaeth mewn‘Planning Practice and Research’ o BrifysgolCaerdydd. Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio igwmni cynllunio ‘CDN Planning’ yng Nghonwyfel ymgynghorydd cynllunio.

Prawf gyrruLlongyfarchiadau i Huw, Llwyn y Grug ar basioei brawf gyrru rhwng y Nadolig a’r FlwyddynNewydd. Tybed fydd Huw yn mynd ymlaenr@an i ddysgu sut mae dreifio lori?

Ffair NadoligUnwaith eto daeth tyrfa dda i Ffair Nadolig yNeuadd ar Ragfyr y 9fed. Noson lwyddiannusa byrlymus dros ben gydag ymweliad SiônCorn yn uchafbwynt i’r gweithgareddau.

Cyngerdd RhagorolNi all geiriau ddisgrifio’r wledd a gawsom yngNghanolfan y Banw gan ddisgyblion YsgolBanw ganol mis Rhagfyr. Roedd y set, ygwisgoedd a’r perfformiad yn rhagorol.Llongyfarchiadau i bawb oedd ynghlwm âchynhyrchu’r sioe.

Two Fat Ladies!Trefnodd Clwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Banwnoson Bingo yn y Ganolfan ar Dachwedd19eg. Noson o hwyl cyn y Nadolig.

BLWYDDYN NEWYDD DDA I BAWB

LLANFAIR CAEREINIONTREFNWR ANGLADDAU

Gwasanaeth Cyflawn a PhersonolCAPEL GORFFWYS

Ffôn: 01938 810657Hefyd yn Ffordd Salop,

Y Trallwm. Ffôn: 559256

R. GERAINT PEATE

Huw EvansHuw EvansHuw EvansHuw EvansHuw Evans,,,,,Gors, Llangadfan

Arbenigwr mewn gwaith:Weldio a FfensioGosod concrid‘Shytro’ waliau

Codi adeiladau amaethyddolRhif ffôn: 01938 820296

a ffôn symudol: 07801 583546

IVOR DAVIESPEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR PEIRIANWYR AMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLAMAETHYDDOLRevel Garage, Aberriw, Y Trallwng

Trwsio a gwasanaethu peiriannau fferm yrholl brif wneuthurwyr

Ffôn/Ffacs: 01686 640920Ffôn symudol: 07967 386151

Ebost: [email protected]

DAVID EDWARDS01938 810 242

07836 383 653 (Symudol)

TTTTTANWYDDANWYDDANWYDDANWYDDANWYDDBANWYBANWYBANWYBANWYBANWY FUELS FUELS FUELS FUELS FUELS

(CARTREF, AMAETHYDDOL,DIWYDIANNOL, MASNACHOL)

GLO GLO GLO GLO GLO AC OLEW DYDD AC OLEW DYDD AC OLEW DYDD AC OLEW DYDD AC OLEW DYDD AAAAA NOS NOS NOS NOS NOS

Page 5: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 55555

LLWYDIARTHEirlys Richards

Penyrallt 01938 820266

Dymunwn blwyddyn newydd dda iddarllenwyr y Plu o Lwydiarth.

Eglwys y Santes FairPnawn Sul, Rhagfyr 11e.g. am 4y.p.,cynhaliwyd y Gwasanaeth Nadolig danarweiniad y Parch. Hilary Jelland agweinyddwyd y Cymun. Mwynhawyd paneda mins peis ar y diwedd.

Mewn gwaeleddDymunwn wellhad buan i Gwylfa James,Garreg Fach, ac i Einion Evans, Y Warren,mae’r ddau wedi derbyn llawdriniaethau ynddiweddar. Mae Arthur Watkins yn YsbytyTrallwm erbyn hyn.

Penblwydd ArbennigLlongyfarchiadau i Gwyn Evans, Tyisa, arddathlu ei benblwydd yn 80 oed.

GenedigaethLlongyfarchwn Annie Evans, Efail Lwydiarth,ar ddod yn hen-nain a Gwyndaf ar ddod yndaid. Ganwyd merch fach i Shona a Trystan,Gwen Llwyd. Dymunwn y gorau i chwi fel teulu.

CydymdeimloCydymdeimlwn â John, T~ Newydd Cyffin, a’rplant sef Dylan, Eurgain, Meilir, Elain ac Awel,yn eu tristwch o golli Catherine, priod a mamannwyl a hefyd y teulu oll yn colli merch achwaer.

PONTROBERTElizabeth Human,T~~~~~ Newydd 500493

Clwb CyfeillgarwchBu aelodau a ffrindiau’r clwb yn y Tanhousei’w cinio Nadolig. Croesawyd nifer dda ynogan Rita cyn eistedd a mwynhau cinio blasus.Gwnaed raffl ar y diwedd ac aeth pawb adrewedi eu digoni. Diolchodd Rita i deulu’rTanhouse cyn atgoffa’r aelodau am y cyfarfodcynta ar Chwefror 7fed 2012!

Clwb Cinio PensiynwyrBu aelodau o’r clwb cinio dydd Gwener yndathlu’r Nadolig yn y Tanhouse hefyd agwahoddwyd y gwirfoddolwyr i ymuno â hwyfel arwydd o ddiolch. Cyflwynwyd y fendithgan Ivor Hawkins, diolchodd Vicky Morgani’r gwirfoddolwyr am eu cymorth ar hyd yflwyddyn a diolchodd Eileen Norris ar ran yraelodau i Ivor ac Angela a’u tîm am eu gwaithyn cadw’r clwb i fynd sydd yn rhoi pleser i’raelodau bob dydd Gwener.

CydymdeimladEstynnwn ein cydymdeimlad i Steve Adamsa’r teulu yn dilyn marwolaeth Dr John ynLlanfair.

CarolauCroesawodd y Cynghorydd Sir Barry Thomasblant ac oedolion o amgylch y goeden Nadoligcyn troi’r goleuadau ymlaen – yna cyflwynwydy carolau gan Sally Birchall, CadeiryddLlywodraethwyr yr Ysgol a chafwyd canucarolau gyda band yr ysgol yn arwain.Adroddwyd Gweddi’r Arglwydd ar y diweddac aeth pawb i’r Neuadd i’r Ffair Nadolig.

Roedd y Neuadd yn llawn o wahanol stondinauac roedd llu o rieni a ffrindiau wedi dod igefnogi. Roedd yno naws y Nadolig go iawn.

Cyngerdd yr YsgolDaeth tyrfa dda i weld y plant yn cyflwyno’rSioe Nadolig. Cafwyd caneuon gan blant bachyr Ysgol Feithrin i ddechrau yna’r plant h~nyn cyflwyno ‘Dilyn y Seren’. Roedd y plant igyd yn broffesiynol iawn a phob un wedicymryd rhan. Diolchodd Mrs Parry i’r plantac i’r staff, ac i bawb a ddaeth i gefnogi.Diolchodd Sally Birchall i staff yr ysgol ac ibawb am gefnogi. Dymunwyd Nadolig Llaweni bawb.

Eglwys Sant IoanCafwyd gwasanaeth carolau a darlleniadau’rNadolig yn yr eglwys dan arweiniad y ParchWarren Williams a Roger Waterfield efo BerylJones wrth yr organ. Mwynhawyd gwincynnes a mins peis ar y diwedd. Anfonwyd ycasgliad i’r elusen ‘Crisis’.

DyweddiadLlongyfarchiadau i Llinos Griffiths, athrawesbabanod Ysgol Pontrobert ar ei dyweddïaddros wyliau’r Nadolig ag Andrew Edwards.Pob dymuniad da i’r ddau ohonoch yn ydyfodol.

Penblwydd arbennigBydd Gwyn Jones, Nantlle yn dathlupenblwydd arbennig ar Ionawr y 10fed. Mae’nanodd credu ond bydd y g@r bonheddig yn90 oed. Derbyniwch ein llongyfarchiadau felardal a phob dymuniad da ar gyfer y flwyddynnewydd.Meddyliwn am bawb sydd ddim yn dda boedadre neu mewn ysbyty, a phawb sydd mewnprofedigaeth ymhell ac agos.

Blwyddyn Newydd Dda i Bawb.

Ysgol FeithrinDaeth Siôn Corn i’r Ysgol Feithrin a chyflwynodd anrheg i bob un o’r plant.

Od,ond dim pawb sy’n gwybod am ein yswiriant ty.

Am bris galwch 01938 810224 neu galwch i fewn i'r swyddfa a siarad i Wyn, Med, Liz neu Joan yn Swyddfa NFU Mutual Stryd y Bont Llanfair Caereinion Y Trallwng SY21 0RZ

Agent of The NationalFarmers Union MutualInsurance Society Limited.

We do right by you

POST A SIOP

LLWYDIARTH

KATH AC EIFION MORGANyn gwerthu pob math o nwyddau,

Petrol a’r Plu

Adeiladau newydd, EstyniadauPatios, Gwaith cerrig

Toeon

Tanycoed, Meifod, Powys,SY22 6HP

Ffôn: 07812197510 / 01938 500514

GARETH OWEN

CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR CONTRACTWR ADEILADUADEILADUADEILADUADEILADUADEILADU

Dyfynbris am Ddim

Garej LlanerfylCeir newydd ac ail law

Arbenigwyr mewn atgyweirio

Ffôn LLANGADFAN 820211

Page 6: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

66666 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012

COLOFN MAI

Dyma un o’r sbeisys hynaf ac yn dyddio nôli’r canol oesoedd. Mae sôn am sinamon yny Beibl ac mae hanes bod Nerw wedi llosgisinamon am flwyddyn gyfan i leddfu eiofidiau. Daw sinamon o risgl coed bythwyrdd,cynhenid o Sri Lanka a’r India. Ar ôl pilio’rrhisgl oddi ar foncyff y goeden mae’r sinamonyn cyrlio’n naturiol i bibellau ac yna yn caeleu gadael i sychu.Mae rhyw 200 o fathau o sinamon a’r ddaufath mwyaf poblogaidd yn ein siopau ni yw y‘cassia’ o Siapan a’r un o Ceylon. Yr un oCeylon sydd yn cael y wobr gyntaf am eifelystra a’i rinweddau puraf.Mae gan sinamon hanes hir o ddarparumeddyginiaethau llesol at asma, diffyg cwsg,annwyd y pen, blinder, arthritis, y cof ac maellosgi ‘olew hanfodol’ sinamon yn helpu’r corffi lwyr ymlacio ar ôl diwrnod prysur.Mae’r tywydd oer yn siwr o fod o’n blaen adyma de arbennig at gynhesu’r corff a’r ysbrydi groesawu’r Flwyddyn Newydd.

Te Sinamon a SinsirDefnyddio tebot neu fyg mawr.Sleisen dda o sinsir ffresDarn o ffon sinamon neu ½llond llwy de o bowdr sinamonsleisen dew o lemwndwy lond llwy de o fêlllond llwy fwrdd o frandi, os y mynnir

Arllwys d@r berwedig dros y cynhwysion agadael iddynt fwydo am rhyw 10 munud neumwy. Ail-gynhesu os mynnir.

O ble y daeth yr hen rigwm neu gân:‘Nytmeg a sinsir, sinamon a mêl.

Blwyddyn Newydd Dda

Golgyddol:Golgyddol:Golgyddol:Golgyddol:Golgyddol: Yn gyntaf hoffwn ymddiheuro iMai ac i’r darllenwyr am wneud camgymeriadyn y rysait Teisen Siocled a ymddangosoddyn y rhifyn diwethaf. Mae copi cywir achyflawn o’r rysait i’w weld ar dudalen 13dudalen 13dudalen 13dudalen 13dudalen 13 yrhifyn hwn. Gobeithio wir na achosodd hynunrhyw drafferth mawr i’r rheini oedd eisiaucoginio’r deisen hyfryd hon.

Sinamon

DIGWYDDIADAU MIS RHAGFYR YN ARDAL Y PLU!

Emyr Davies yn llawn o’i egni arferol yn rhoidarlith yn ystod cyfarfod blynyddol CylchLlenyddol Maldwyn ym mis Hydref 2011. Teitly ddarlith oedd ‘Bro – Bardd Gwlad yn eiGynefin. Roedd pawb wedi mwynhau ac roeddllawer o draddodi ar y diwedd.

Fflur Roberts a Catrin Mills y ddwy delwythendeg ym Mhantomeim Sinderela, YsgolGynradd Dyffryn Banw.

Sinderela sef Grug Evans a’i chyfaill y ciannwyl Teaser sef Poppy Davies.Perfformiwyd y panto i ganolfan lawn arRagfyr 15 ac 16.

Bethan Gwanas, David Oliver a Delyth Jones,beirniaid anrhydeddus Talentau Caereinion agynhaliwyd yn y Ganolfan Hamdden ar Ragfyr19.

Roedd Joseff Davies o’r Foel wedi rhyfeddupan aeth i gyfarfod â Sion Corn yn y FfairNadolig a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Banwar Ragfyr y 9fed.

Siôn Corn yn cael croeso cynnes iawn ganGeraint Peate ar ei ymweliad â LlanfairCaereinion nos Wener, Rhagfyr y 9fed

Page 7: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 77777

LLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAdeiladwr Adeiladwr Adeiladwr Adeiladwr Adeiladwr TTTTTai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac Estyniadauai ac EstyniadauGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu GerrigGwaith Bric, Bloc neu Gerrig

Ffôn: 01938 810330

ANDREW WATKIN

Froneithin,Fronei thin,Fronei thin,Fronei thin,Fronei thin,

Siop Trin GwalltA.J.’s

Ann a Ann a Ann a Ann a Ann a KathyKathyKathyKathyKathyyn Stryd y Bont, Llanfair

Ar agor yn hwyr ar nos IauFfôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 81Ffôn: 8112271227122712271227

Mae’r Cymry hynny sy’n byw ar hyd arfordirGogledd Cymru (arfordir yr henoed yw undisgrifiad difrïol am y llecyn hyfryd hwnnw)yn gwybod bod gan y rhai a ddaeth i fyw ynoddywediad tebyg i hyn - Os nad ydach chiwedi bod i Fanceinion da chi ddim wedi byw!Y ffaith yw bod bron pawb yn y gogledd wedibod i’r ddinas enwog hon un ai i siopa, i weldpêl-droed, yn fyfyriwr yn y brifysgol neuefallai, fel Wesleaid da, i astudio yn LlyfrgellRylands sy’n adnodd cwbl hanfodol ihaneswyr yr enwad. Mae mynd yno yn rhwyddgan fod trenau rheilffyrdd y gogledd yn eichcyrchu’n gyflym i ben eich taith. Bu hyn ynnodwedd o’r cysylltiad rhwng Manceinion a’rgogledd ers amser maith. Mae gennyf gof ofynd ar y ‘Manchester Clubman’ sawl tro oFae Colwyn yn y pumdegau, gan gyrraeddmewn da bryd i gael brecwast yn un o fwytai’rddinas. Pan oedd y ‘Clubman’ yn ei fri, hwnoedd y trên a gyrchai masnachwyr cyfoethogBae Colwyn a’r cyffiniau i’w swyddfeydd ymManceinion ac yn eu cario adref erbyn amserswper. Mae disgynyddion y bobl hyn yn dal ifyw ar hyd yr arfordir ac mae llawer ohonyntyn aelodau gwerthfawr yn yr EglwysiMethodistiaid Saesneg sydd i’w cael yn nhrefimawr y gogledd.Ni wn beth yw eich perthynas â dinasManceinion, ond tybed beth fyddai eichymateb pe byddwn yn dweud fel hyn: Os nafuoch chi ’rioed yn Eglwysbach, ’da chi ddimwedi byw. Eglwysbach, Dyffryn Conwy yw’rllecyn y cyfeiriaf ato. Bu llawer yn ddiau arymweliad â gerddi enwog Bodnant, ond osnad ydych wedi mentro heibio i’r gerddi hyn,yna ni chawsoch weld un o berlau mwyafgodidog a dirgel Cymru.Nid yw Eglwysbach 2011 yr un fath â’r llecyna welais i am y tro cyntaf yn 1947 wrth gwrs.Yn y cyfnod pellennig hwnnw dau fws oeddyn gwasanaethu’r pentref, bws 10 y bore a 5yr hwyr. Gallech amseru pethau yn bur fanwlwrth ddyfodiad a mynediad y bysys rheiny!Pentref bach oedd yno yn 1947, yn fythynnodgwyngalchog a fyddai yn eich dallu pan fyddai’rhaul yn danbaid. Roedd efail y gof ar waith amelin ym mhen pella’r dyffryn i falu grawn.Roedd ac y mae Eglwys Martin Sant a’rfynwent yn ganolbwynt i’r cyfan o hyd a dayw gallu dweud fod capeli’r Presbyteriaid a’rWesleaid yn dal i fod yn llecynnau bywiog.Mae yno hefyd ysgol sydd wedi gwasanaethu’rardal yn ffyddlon ar hyd y blynyddoedd maith.Mae i’r ardal le cynnes yn fy nghalon gan maiyma yn fferm Y Llety y magwyd mam, yrieuengaf o chwech o blant. Am ryw reswm nachefais esboniad llawn amdano, magwydmam yn Fedyddwraig, y hi a’i brawd agosaf,

tra bod y gweddill yn Eglwyswyr neu’nBresbyteriaid. Pan ddaethom fel teulu i fywyno yn 1947, y Capel Wesla oedd y dewis legan inni fynychu’r Capel Wesla yn Llanberiscyn hynny.Pobl sy’n bwysig ac nid lle ond mae clywedenwau rhai o ffermydd y teulu yn taro clochatgof bob tro. Bu perthnasau yn byw yn YPlas, Yr Henblas, Dyffryn a Th~ Mawr amgryn gyfnod er nad oes neb o waed yn un o’rffermydd hyn bellach. Perthynai’r tir i ArglwyddAberconwy ac mae lle i gredu fod yperchennog wedi bod yn feistr teg i’wdenantiaid. Roedd gyda’r cyntaf yn ymorol isicrhau bod plant y pentref yn cael ciniomaethlon a weinid am flynyddoedd maith ynyr Institiwt yng nghanol y pentref.Pan oeddwn blentyn fe wnaeth rhai ogymeriadau’r ardal argraff ddofn arnaf. Dynai chi Idwal Wyn Jones, er enghraifft. Roeddef yn fardd gwlad o gryn fedr gyda llawer o’ibenillion ar gof plant y pentref. Os nad wyf yncamgymryd, ef oedd awdur y geiriau heriolhyn:Werin Cymru paid â hepian,Crëwyd di ar gyfer gwaith,Gwna dy gyfran yn y winllan,Paid segura i fagu craith.Roedd Idwal Wyn Jones (1890-1967) yn un ohoelion wyth Cerdd Dant yn Sir Ddinbych, yndelynor, gosodwr a hyfforddwr. Gellir dadlau’nwahanol mae’n debyg, ond cerddor mwyaf yrardal oedd Owen Williams (1877-1956),cyfansoddwr cerddoriaeth Sul y Blodau, Clochy Llan a Canlyn Iesu wnaf o hyd. Cadwai efsiop esgidiau a llyfrau yn y pentref a byddai’nrhoi gwersi piano i lawer yn y fro. G@r urddasoliawn yr olwg oedd Owen Williams ac ynorganydd o fri.Heb ddadl yr enwocaf o blant yr ardal oeddJohn Evans, T~ Du, Eglwysbach a anwyd ynoyn 1840. Dechreuodd bregethu yn 17 oed acyn fuan iawn daeth Cymru a thu hwnt i wybodam ei ddoniau arbennig. Bu’n weinidog mewnsawl man yng Nghymru a Lloegr a bu’nysgogi’r bobl i godi capeli Wesla mewn sawllle. Ef a fu’n gyfrifol am ddechrau’rGenhadaeth Wesleaidd ym Mhontypridd yn1893 wedi iddo gael ei danio gan waith y Cen-tral Halls yn Lloegr. Bu farw yn 1897, acyntau’n ddim ond 53 oed, tra ar daith bregethuyn Lerpwl ac ym mynwent Anfield mae ei fedd.Pe byddech yn digwydd mynd ar daith iGaerdydd ac yn troi o’r A470 am Bontypridd,fe welwch ger pont enwog y dref honno adeiladtri llawr gyda’r geiriau Eglwysbach Surgery arei dalcen. Hwn yn ei ddydd oedd Capel CoffaJohn Evans ond mae bellach yn feddygfa sy’ngwasanaethu Pontypridd a’r fro. Mae’n brafmeddwl bod enw Yr Eglwysbach yn dal i gaelei arfer mor bell o fro ei febyd. Ac er bod gwaithei law wedi dadfeilio bellach mewn sawl man,mae achos yr UNUNUNUNUN a daniodd John Evans yndal ei afael o hyd yn rhai o drigolion y Gymruhon.

O’R GORLAN

Gwyndaf Roberts

LLANERFYLGenedigaethGanwyd merch fach i Huw a Nia Ellis y Berthcyn y Nadolig, llongyfarchiadau iddynt a phobdymuniad da gyda’r magu.

Cinio CymunedolTrefnwyd cinio i’r gymuned gan y Cyngor Broar Ragfyr 11 yn Neuadd Llanerfyl. Paratowydy bwyd gan Bethan o Fachynlleth a daeth tua60 i fwynhau’r wledd. Cafwyd adloniant iddilyn gan Ellen Davies a phlant yr ardal.

Yr EglwysCafwyd gwasanaeth yn yr Eglwys dan ofal yParch Glyn Morgan ar Noswyl Nadolig.Roedd hi’n braf gweld cymaint o blant acoedolion wedi troi allan.

PentyrchCynhaliwyd gwasanaeth plygain teuluol yngnghapel Pentyrch ar bnawn Sul Rhagfyr18fed. Pleser oedd cael croesawu aelodau ogapeli eraill yr ardal i gydaddoli â ni.Cymerwyd y rhannau agoriadol gan HywelJones. Yna cafwyd eitemau gan y parti plantsef Adleis, Catrin, Ella, Sioned a Carys gydachymorth gan Gwenno, Heledd a SiwanMaesgwyn a Greta Parc. Yna cafwyd eitemauofferynnol gan Llyr a Catrin, Owain a Lynfaac Adleis ynghyd â darlleniadau gan Rhydianac Owain Rhydygro, ac anerchiad i’r plant ganDelyth Jones. Yna cafwyd dwy garol gan bartih~n y capel sef Eirys Jones, Eleri Mills,Maureen Jones, Ann Jones, Mary Bebb,Miriam Jones ac Eleri Gittins. Y cyfeilyddoedd Delyth Jones. Yn dilyn y gwasanaeth,mwynhaodd y gynulleidfa luniaeth ysgafn addarparwyd gan wragedd y capel.

Parti Ysgol FeithrinCafwyd parti Nadolig yn ôl yr arfer adosbarthwyd anrhegion gan Siôn Corn – awelwyd yn cerdded drwy’r pentref!

Dymuniadau daMae David a Merlyn Gepp wedi symud iKilclooney yn yr Iwerddon. Anfonwn eindymuniadau gorau atynt a gobeithio y byddantyn hapus iawn yno.

PlygainRoedd yr Eglwys dan ei sang ar nos Sul y1af o Ionawr pan gynhaliwyd y Blygainflynyddol. Daeth 9 parti ymlaen i ganu acroedd y canu cynulleidfaol yn wefreiddiol.Roedd y gwasanaeth dan ofal y Parch GlynMorgan a braf oedd clywed y Parch DavidFrancis ar ddiwrnod cyntaf ei ymddeoliad ynchwarae’r organ mor grefftus. Ar ôl ygwasanaeth paratowyd swper i’r carolwyr yny neuadd gan aelodau’r Eglwys.

Dawns Santes DwynwenCynhelir Dawns Santes Dwynwen, FfrindiauYsgol Llanerfyl ar nos Wener y 27 o Ionawryn Neuadd Llanerfyl. Ceir adloniant ‘leni gany gr@p Pen Tennyn. Mae mynediad yn £10sy’n cynnwys swper ysgafn. FfoniwchGwenan ar 820447 i archebu eich tocynnau.

Cinio ElusennolMae Sarah May, Cringoed yn trefnu CinioElusennol er budd Nyrsys Macmillan yngNghanolfan Hamdden Llanfair ar ddydd Sul,Chwefror 19 am 12 o’r gloch. Mae tocynnauyn £18 sy’n cynnwys cinio, siaradwr gwadd aband. Os oes gennych ddiddordeb mewnprynu tocyn ffoniwch Sarah ar 820168.

Page 8: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

88888 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012

BECIAN DRWY’R LLÊNgyda Pryderi Jones

(E-bost: [email protected])SCroesair 182- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -- Ieuan Thomas -

(12, Maes Hyfryd, Carmel, Caernarfon,Gwynedd, LL54 7RS)

Enw: _________________________

Faint ohonoch sy’n cofio dathlu’r Nadoligcyntaf gyda’ch cymar? Aeth dros wythmlynedd heibio bellach ers i’r wraig ddathluei Nadolig cyntaf gyda mi ond ein hail Nadoligyr ydw i’n ei gofio orau! Yn Heol Powys,Machynlleth yr oeddem yn byw bryd hynny achofiaf yn iawn y strach a gawson ni wrthbaratoi’r twrci. Roeddem yn rhieni newyddgofalus yn ceisio cadw golwg yr un pryd arNon yn fabi bach yn ei chrud! Un llygad yngofalu fod y twrci ddim yn llosgi a’r llall yngwneud yn si@r fod Non yn ddiddos. I ganoly stryffig y cyrhaeddodd Hedd, fy nhad yngnghyfraith a lluniodd y pennill hwn yn y fana’r lle!

I ddyn dwad fel fi, mae tymor y plygeiniauym Maldwyn yn dymor difyr iawn a braf ywgweld y traddodiad anrhydeddus a Chymreighwn yn mynd o nerth i nerth. Tybed faintohonoch sy’n gwybod am y gerdd gyntaf unyn Gymraeg i drafod genedigaeth Iesu Grist?Wel, y gerdd hynaf i oroesi fodd bynnag ydyhonno gan y brawd Madog ap Gwallter c.1250.Mae’n bosib ei fod wedi byw yn LlanfihangelGlyn Myfyr, Sir Ddinbych ac mae’n debygmai dim ond tair o’i gerddi a oroesodd, dwyo’r rheiny yn Llyfr Coch Hergest. Dyma ran ogerdd Madog ap Gwallter a chredaf bod angenei llefaru i’w llwyr werthfawrogi. Ffwrdd â chifelly, i’r ardd neu i’r buarth, digon o lais r@an!

Geni Crist

Mae’r twrci fel rhyw fabiYn mynnu sylw o hyd,Y tinffoil yw ei wrthbanA’r popty yw ei grud!

Mab a’n rhodded,Mab mad aned dan ei freiniau,Mab gogoned,Mab i’n gwared, y mab gorau,Mab fam forwynGrefydd addfwyn, aeddfed eiriau,Heb gnawdol DadHwn yw’r Mab rhad, rhoddiad rhadau…Cawr mawr bychan,Cryf, cadarn, gwan, gwynion ruddiau:Cyfoethog, tlawd,A’n Tad a’n Brawd, awdur brodiau.Iesu yw hwnA erbyniwn yn ben rhiau.Uchel, isel,Emanuel mêl meddyliau…

Go dda chi! Y gwaith cartref a osodais y misdiwethaf oedd cael hyd i unrhyw gerdd amlyn. Cefais englyn gan O’r Shetin am y MonaLisa! Fodd bynnag, roedd Mrs Dilys Lewis Nythy Dryw yn llawer nes ati yn cyfeirio at y cerddi‘Llyn Eiddwen’ gan J.M Edwards ac ‘Ar LanLlyn Celyn’ gan Gwilym R. Jones. Cefaisnodyn hefyd gan Elinor Llais Afon yn dweudei bod yn cofio llefaru’r gerdd ‘Capel Celyn’gan Aled Lewis Evans yn Eisteddfod yr Urddac mae’n dechrau gyda’r geiriau “D@r glashardd”. Mae Mrs Noreen Thomas, Amwythigyn cofio am ‘Lyn y gadair’ gan T.H. Parry-Williams ac yn nodi bod darn o dir ar ffurf cadairyn ymestyn i’r llyn. Wyddwn i ddim mo hynnyo’r blaen! Seren aur i’r tair ohonoch a diolch ichi am anfon eich atebion ataf ym MhrifysgolLlanfair.

Blwyddyn newydd dda a phob iechyd i chi unac oll.

Gwaith Cartref:

Gorffen limrig yw hi’r mis hwn! Dyma’r llinellgyntaf.

Wrth ddathlu y Calan tro d’wetha…Wrth ddathlu y Calan tro d’wetha…Wrth ddathlu y Calan tro d’wetha…Wrth ddathlu y Calan tro d’wetha…Wrth ddathlu y Calan tro d’wetha…

Ar draws1. Lle mae Seland Newydd (3,4,3)8. Gallwch hyn â’r llygaid (5)9. Mae un dd@r yn Llanfair (3)10. Y taleithiau (1,1,1)11. Dweud (5)12. “......” Da, llwnc destun (5)13. Ar ôl yr enw cyntaf (3,3)15. Perthnasau agos (6)18. Mae’n gymorth i ymolchi (5)20. Planhigyn bythol wyrdd (5)21. Gair yn eithro (3)22. Nofel o un i’r llall! (3)23. Fel brenin (5)24. Pen yr Wyddfa yng Nghymru (5,5)

I lawr2. Ysgrif Marc (7)3. Rhiant gwryw (3)4. _______ y Bwn a’r Bannau (6)5. Disgrifiad ohonof yn chwaraewr (7)6. Pâr o fuchod (3,3)7. Testun pasiant bachgen yn rhagfynegi (3,7)8. Pardner Sian mab John Cymraeg! (4,2,4)14. Mam Dewi Sant ac yn wael (3,4)16. Addoli o dan y dderwen (7)17. Offeryn i daenu (6)19. Y ____ Papur Bro’r Ceffyl (5)23. Cyn bo hir (3)

Atebion 181Ar draws. 1. Dyffryn Banw; 8. Pared; 9. Neb;10. Iâr; 11. Epsom; 12. Oen du; 13. Ein Tad;15. Simdde; 18. Digio; 20. Freud; 21. IRA;22. Wyr; 23. Digar; 24. Nenfwd UchelI lawr. 2. Ymryson; 3. Rod; 4. Ninnau; 5.Arbrofi; 6. Wniwn; 7. Y tri ucheldir; 8.Pleserdaith; 14. Afon Wen; 16. Dreigie; 17.Aber Riw; 19. Gwaun; 23. Dau

Noreen heb orffen dau ac Ivy heb orffen unac un camsillafu Aberiw. A diolch am y geiriaucaredig a’r cerdyn. Ond choelia i ddim mo’rfrawddeg olaf! Olwen a dau wall – ac ynsynnu ati fel gwraig fferm fod iâr yn gymar i’rceiliog! Blwyddyn Newydd Dda.

Bryn Haslam y Plymwr01686 630 159 07854508883

Trin boeleri, gwresogigwyrdd, gwresogi o

dan y llawr,a phob agwedd ar

waith plymio

PLYMIO A GWRESOGI

Gwasanaeth proffesiynol,

dibynadwy a fforddiadwy

Gwaith tractor yn cynnwysTeilo â “Dual-spreader”Gwrteithio, trin y tir â

‘Power harrow’,Cario cerrig, pridd a.y.y.b.

â threlyr 12 tunnell.Hefyd unrhyw waith ffensio

Cysylltwch â Glyn Jones:

01938 82030507889929672

Contractwr Amaethyddol

JAMES PICKSTOCK CYF.MEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYSMEIFOD, POWYS

Meifod 500355 a 500222

Dosbarthwr olew AmocoGall gyflenwi pob math o danwydd

Petrol, Kerosene, Disl Tractor a Dervac Olew Iro a

Thanciau StorioGWERTHWR GLOCYDNABYDDEDIG

A THANAU FIREMASTERPrisiau CystadleuolGwasanaeth Cyflym

Page 9: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 99999

LLANLLUGANI.P.E.

810658Helo bawbDymunaf Flwyddyn Newydd sydd yn iachus

a llawen i chwi i gyd.

OrdeinioY diwrnod pan sefydlwyd y Parchedigion Davida Mary Dunn yn Eglwys y Santes Fair, Llanfairroeddwn yn eistedd heb fod ymhell o’r tublaen. Roedd yn wasanaeth crefyddol abythgofiadwy. Ond ar ddiwedd yr oedfa gyda’rswyddogion i gyd yn cerdded yn ôl i’r festri aMr Lyn Jones yn dal y Groes hardd o’i flaenfe’m hatgoffodd o’r orymdaith fawr yn yr Ei-steddfod Genedlaethol gyda Lyn fel Ceidwady Cledd, yr Esgob Gregory yn archdderwyddac eraill yn eu gwisgoedd gwyn a glas ameistres y gwisgoedd, neb llai na Mrs MeganRoberts. Wel gall pawb freuddwydio!

Canolfan y CwmMae’n dymor cinio Nadolig unwaith eto, ac ary nos Fercher gyntaf ym mis Rhagfyrdathlwyd cinio’r pensiynwyr ac i ddifyrru yDdau Gareth ac mae’n hyfryd gweld GarethFronhaul gynt gyda ni, ei gymdogion affrinidau. Cafwyd swper blasus iawn a’r henysgol wedi ei haddurno yn hardd iawn.Diolchwyd i bawb gan Mr Howard Newall.

Pawb yn mwynhau’r wledd

Gareth Fronhaul

Y noson ganlynol daeth aelodau’r ATB ynghydi weld Alwyn Hughes yn dangos lluniau o’rbywyd gwyllt o’r mynydd i lawr at y môr agorffennwyd gyda phaned o de a bisgedi achafwyd y diolchiadau gan John Yeomans.

Y DafarnNos Wener cafwyd cinio moethus i’r ‘SevernValley Ploughing Association’ yna ar y nosonSadwrn cinio i aelodau a ffrindiau’r ATB.Arhosais gartref am fy mod wedi bod allanbob dydd yn mwynhau, a digon yw digon. Ondcyn hynny yn y bore cafwyd Ffair Nadolig ynhen neuadd yr Institiwt. Trueni nad oes plantbach yn yr ardal ac felly nid oedd y g@r yn eiwisg goch am ddwad. Diar mi, nid oedd yniawn hebddo. Hyfryd gweld dau offeiriad yplwyf yna.

DyweddïoYm mharti’r pensiynwyr cododd g@r ar eidraed a chyhoeddi ei fod wedi gofyn i Juditho Gefn-y-bryn ei briodi a’r ateb oedd ‘Ie’. Ynwir rydym oll yn llongyfarch Judith ac yndymuno hapusrwydd iddi o waelod eincalonnau. Collodd ei g@r yn sydyn iawn raiblynyddoedd yn ôl. Gwraig sydd wedi dod oLoegr yma i fyw ac mae wedi ymuno yn einplith yn gartrefol iawn, mae’n bleser cwrdd âJudith bob amser.

GwellhadMae rhai pobl o’r plwyf – o’r pen uchaf i lawri’r gwaelodion wedi bod yn symol ac hefydwedi bod yn yr ysbyty, felly dymuniadau gorauam wellhad buan oddi wrthym ein tri yma.

ProfedigaethMae marwolaeth sydyn Cath Jones TyNewydd Llangadfan wedi cyffwrdd calonnaua syfrdanu pawb drwy’r ardal. Anfonwn eincydymdeimlad dwysaf at John a’r plant yneu colled enfawr, ynghyd ag at aelodau’r teuluestynedig o fewn yr ardal.

Cymdeithas y MerchedCyfle i anghofio am dywydd oer y gaeaf, achael ein tywys i bellafoedd ynysoedd Ha-waii fu ein hanes ym mis Rhagfyr danarweiniad Felicity Ramage, Y Wig, a fu ynogyda’i g@r. Nid gwyliau cyffredin o ymlaciodan ymbarel gwellt ar draeth euraidd mo hwn,ond cyfle i brofi a darganfod prydferthwchnaturiol yr ynys o losgfynyddoedd, fforestyddtrofannol, taith mewn awyren uwchben ytirwedd a ‘snorclo’ gyda’r pysgod (ar siarcod)yn n@r gloyw’r môr. Yn anffodus bu rhaid rhoi’rgorau i’r snorclo yn fuan oherwydd bygythiady siarcod!!Diolch i Felicity am ein tywys i’r fath baradwysac am rannu ei phrofiadau gyda ni. Diolchhefyd iddi am gynnal y noson yn ddwyieithog– mae Felicity wedi bod yn dysgu’r Gymraegers iddi symud i’r ardal ac yn manteisio arbob cyfle i gael ymarfer a defnyddio’r iaith –gwych, diolch iti.

Gair yn GnawdGobeithio i chi gael cyfle i wrando ar raglenarbennig a ddarlledwyd ar Radio Cymru arDdydd Nadolig pan fu aelodau Ysgol TheatrMaldwyn yn perfformio Cantawd (Cantata) ynseiliedig ar stori’r Geni o’r enw ‘Gair yn Gnawd’Llongyfarchiadau i Linda Gittins Faeldref a’ichyd gyfarwyddwyr yn yr Ysgol am gael eucomisiynnu i gyfansoddi y Cantawd arbennigyma ac am hyfforddi’r criw ifanc i safon morbroffesiynol.Cynhaliwyd cyngherddau hefyd cyn y ‘Doligyn Llanfair Caereinion, Y Bala a Machynlleth.

Babi NewyddLlongyfarchiadau i Nia a Huw Ellis Y Berth arenedigaeth merch fach – Ela Mair – ar noswylNadolig. Anrheg Nadolig perffaith ac mae Ifana Deio wrth eu boddau dwi’n siwr – alle SiônCorn ei hun ddim bod wedi gwneud yn well!!Rhaid peidio anghofio am Taid a Nain hefyd –hwythau rwan a mwy o waith ‘sbwylio’ ar eudwylo.

DOLANOG

CYFCYFCYFCYFCYFARFOD BLARFOD BLARFOD BLARFOD BLARFOD BLYNYDDOLYNYDDOLYNYDDOLYNYDDOLYNYDDOL YYYYYGYMRODORIAETHGYMRODORIAETHGYMRODORIAETHGYMRODORIAETHGYMRODORIAETH

Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol ynYYYYY CAPEL CAPEL CAPEL CAPEL CAPEL CYMRAEG, CYMRAEG, CYMRAEG, CYMRAEG, CYMRAEG, YYYYY TRALLTRALLTRALLTRALLTRALLWMWMWMWMWMDYDD SADWRN, CHWEFROR 25DYDD SADWRN, CHWEFROR 25DYDD SADWRN, CHWEFROR 25DYDD SADWRN, CHWEFROR 25DYDD SADWRN, CHWEFROR 25ainainainainain

2012 am 2.00 o’r gloch2012 am 2.00 o’r gloch2012 am 2.00 o’r gloch2012 am 2.00 o’r gloch2012 am 2.00 o’r glochCynhelir yr

IS-BWYLLGOR CYLLID am 11.00 o’rgloch

(Darperir cinio i aelodau’r is-bwyllgoram 12.30)Cynhelir

IS-BWYLLGOR YR ORSEDDam 1.15 o’r gloch

Croeso i holl aelodau’r Gymrodoriaeth i’rCyfarfod Blynyddol,

a gobeithiwn weld aelodau’r Is-bwyllgoraui gyd yn bresennol.

Fe glywir am ladron yn torri mewn i geirweithiau, ond pur anaml mae rhywun yn gorfodtorri mewn i’w gar ei hun! Dyma ddigwyddoddi Ken Astley yn ddiweddar. Daeth i YsgolCaereinion i nôl ei wyres a oedd yn sâl ganadael y ci yn y car. Pan aeth yn ôl roedd y ciwedi cloi drysau’r car. Yn anffodus nid oeddgan Ken druan oriad sbâr a bu’n rhaid i GlynLloyd dorri ffenest ar ôl gwneud ei orau i agory drysau. Roedd Ken yn ddiolchgar i Glynam y gymwynas (gostus!!) hon. Roeddcamra’r Plu gerllaw i gofnodi’r achlysur.Mae sôn fod Glyn Lloyd am fynychu cwrssut i dorri mewn i gerbydau yn y flwyddynnewydd!

Page 10: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

1010101010 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012

Colofn y DysgwyrLois Martin-Short

Llwyddiant yn Eisteddfod yFoelEnillodd Catrin Hughes, o Fwlch y Cibau, ywobr gyntaf yn y Traethawd i’r Dysgwyr ynEisteddfod y Foel. Mae Catrin yn mynychudosbarth Uwch yn y Trallwng. Daeth MikeDeacon, o Lanwyddelan, yn drydydd. Mae o’nmynd i ddosbarth Pellach yn y Trallwng. Daiawn chi’ch dau. Edrychwn ymlaen at ddarlleny traethodau yn y golofn hon cyn bo hir.

Côr Meibion Treorci –Adroddiad Rosemary BennettAr y 15fed o Hydref, roedd yn bleser mawr imi fynd i weld Côr Meibion Treorci yn TheatrSevern, Amwythig. Mi es i efo ffrind o’rdosbarth Cymraeg, Miri Collard. Roedd y daithi Amwythig yn cymryd hanner awr yn ei charhi. Mae Theatr Severn ger yr afon, yng nghanoly dref. Roedd ’na 500 o bobl yn y theatr –doedd dim un gadair sbâr o gwbl.Côr Meibion Treorci ydy’r côr gorau yn y byd.Dw i tipyn bach yn unochrog achos mi ges ify ngeni yn Nhreorci. Mae Treorci yn SirForgannwg, De Cymru. Roedd y côr yn canullawer o ganeuon enwog. Roedd pawb wrtheu bodd. Yn anffodus mi wnaeth dyn lewyguyn ystod y cyngerdd. Dw i’n hapus i ddweudfod o wedi gwella ar ôl tipyn o awyr iach aglasied o dd@r. Diolch byth!Ar ôl y cyngerdd, mi gaethon ni ein gwahoddi’r bar i gael Sing-Song efo dynion y côr. Rôni’n ’nabod un dyn – Dai Evans. Dw i’n ei ’nabodo ers mwy na hanner can mlynedd! Mae o’nfrawd i fy ffrind yn Nhreorci. Mae gynno folais ardderchog.Roedd Miri a fi wrth ein bodd ar ôl nosonarbennig. Os dach chi’n cael siawns i weldCôr Meibion Treorci, rhaid i chi brynu tocynachos maen nhw’n werth yr arian. Dw i’n eucymeradwyo yn bendant.

Ta Ta Tebot – Adolygiad o CDTebot Piws, gan Miri CollardDim ond un gânnewydd sydd arCD newydd yTebot Piws,recordiad byw o’ucyngerdd olaf ymMhenrhyndeudraetheleni, ond yn sicr,mae’n werth eibrynu oherwyddyr hwyl a’r sbri.

Roeddwn i yn y gynulleidfa ac mae gwrandoar y CD fel ail-fyw’r noson. Mi faswn i’n hofficael geiriau’r caneuon efo’r CD fel gwnaethonnhw efo Twll Du Ifan Saer yn 2008. Ond maellawer o bobl yn cofio’r geiriau beth bynnag.Mae un trac ar bymtheg ar y CD. John Jonesoedd y gân gyntaf iddyn nhw ei hysgrifennu.Mae Os yn gân newydd sbon. Rhwng y ddwymae ’na ganeuon sy’n annwyl gan bawb –caneuon cyflym fel Ie, Ie, ’na Fe a BlaenauFfestiniog; rhai yn arafach, fel Lleucu Llwyda Nwy yn y Nen; caneuon doniol iawn, felGodro’r Fuwch a Mae Rhywun Wedi Dwyn fyNhrwyn; cân emosiynol Ar y Mynydd, syddyn deyrnged i Grav, a rhai sy’n amhosibl eudisgrifio, fel M.O.M.Ff.G.Wrth gyflwyno’r gân gyntaf, mae Stanli yndweud, “Mae croeso i chi ganu yn y penillionac yn y cytgan.” Mae sgwrs yr artistiaid â’rgynulleidfa’n ddoniol iawn. “Dw i isie i chi ganug’da ni,” meddai Dewi Pws, ond ar ôl y pennillcyntaf, gwaeddodd “No good! Mae’n rhaid ichi ganu gyda ni! Dewch ymlaen!” Wedyn,“Dyna’r noson ola’, dan ni isie cael parti!” Apharti oedd o. Ymunwch chi yn y parti efo CDbythgofiadwy.

Say Something in WelshFasech chi’n hoffi siarad Cymraeg efo rhywunbob dydd heb fynd allan o’r t~? Fasech chi’nhoffi gwella eich ynganu (pronunciation)? Wel,mae ’na gwrs ar lein sy’n rhoi llawer o ymarfersiarad. Ewch iwww.saysomethinginwelsh.com lle dach chi’ngallu gwrando ar y wers gyntaf. Dach chi’ngallu dewis fersiwn y Gogledd neu fersiwn yDe. Mae’n rhaid i chi gofrestru drwy roi eichenw a’ch cyfeiriad e-bost, ond mae’r cwrs amddim. Mae 25 o wersi sy’n para hanner awr.Os dach chi’n ’nabod rhywun arall sydd wedidechrau dysgu Cymraeg, dwedwch wrthynnhw am y wefan. Mae’r wefan hefyd yn sônam gyrsiau wythnos sy’n costio £250. Maehyn yn cynnwys gweithgareddau bob dydd allety mewn hostel. Mae bwyd yn costio £3 ydydd. Os dach chi wedi bod ar un o’r cyrsiauhyn, mi faswn i’n hoffi clywed sut hwylgaethoch chi.Mae ’na siop hefyd ar y wefan, sy’n gwerthupob math o bethau gyda logos Cymraeg -crysiau-t, bagiau, capiau, teis, sticeri ac yn yblaen.

Cyfleoedd i ddefnyddio eichCymraegNoson GemauNoson GemauNoson GemauNoson GemauNoson GemauMae Steve Morgan yn trefnu nosweithiauchwarae gemau yn Gymraeg yng ngwesty’rCain, Stryd Fawr, Llanfyllin, bob yn ail nosIau, am 8.00. Yr un nesaf fydd nos Iau, y

12fed o Ionawr.Clwb Coffi - TrefaldwynClwb Coffi - TrefaldwynClwb Coffi - TrefaldwynClwb Coffi - TrefaldwynClwb Coffi - Trefaldwyn

Bydd clwb coffi newyddsbon yn dechrau y misyma, yng Ngwesty’rDdraig, Trefaldwyn.Bydd y gr@p yn cyfarfodar ddydd Llun olaf bobmis rhwng 1.00-3.00.

Mae’r un cyntaf yn digwydd dydd Llun, 30Ionawr. Dyma gyfle i ddefnyddio eichCymraeg mewn awyrgylch hamddenol drosbaned. Croeso cynnes i ddysgwyr a ChymryCymraeg. Dewch yn llu.Clwb Clonc CaerswsClwb Clonc CaerswsClwb Clonc CaerswsClwb Clonc CaerswsClwb Clonc CaerswsMae’r Clwb Clonc yn cyfarfod bob yn ail nosFercher rhwng 8.00 a 9.00 yn Lolfa Clwb yPentref, Caersws. Byddan nhw’n trafodArferion y Flwyddyn Newydd ar Ionawr 4. ByddGyrfa Chwilod ar Ionawr 18 a gemau MatsioParau ar Chwefror 1. Am fwy o fanylion,cysylltwch â Delma Thomas: 01686 688538.Gyrfa ChwilodGyrfa ChwilodGyrfa ChwilodGyrfa ChwilodGyrfa ChwilodPeidiwch ag anghofio am y noson i ddysgwyryn y Foel, Chwefror 9fed. Mwy o fanylion yny golofn fis nesaf.

Cyrsiau yn y flwyddyn newyddYsgol IonawrYsgol IonawrYsgol IonawrYsgol IonawrYsgol IonawrOs hoffech chi gael cyfle i siarad Cymraegam ddau ddydd trwy’r dydd, ewch i’r YsgolIonawr, dydd Gwener a dydd Sadwrn, Ionawr6 a 7, yng Ngholeg Powys, y Drenewydd.Mae’r gwersi yn rhedeg o 9.30 - 3.30. Mae’ncostio £15/£10. Bydd te a choffi ar gael onddewch â phecyn cinio. Ffoniwch Menna 01686614226.DechreuwyrDechreuwyrDechreuwyrDechreuwyrDechreuwyrDach chi’n ’nabod rhywun sydd wedi bod ynmeddwl am ddysgu Cymraeg? Bydd dau gwrsMynediad newydd yn dechrau y mis yma iddechreuwyr. Bydd dosbarth yn Nhrefaldwynac un arall yn Llanidloes. Mae’r ddau ar nosFawrth, o 6.30 tan 8.30, gan gychwyn ar yr17eg o Ionawr. Sesiwn Blasu ydy’r wythnosgyntaf (am ddim!) a bydd 20 wythnos wedihynny. Mae’r cyrsiau’n costio £37 neu £27gyda gostyngiad am dymor o 10 wythnos. Amfwy o fanylion, ffoniwch Menna ar 01686614226UwchUwchUwchUwchUwchMae cwrs Uwch newydd ddechrau yn yTrallwng. Mae’r dosbarth yn cyfarfod bob dyddMawrth, 9.15-1.15, yn y Llofft, Coed y Dinas.Mae’n costio £48/£38 y tymor. Am fwy ofanylion, ffoniwch Menna, 01686 614226, neudewch i ddosbarth cyntaf y flwyddyn newyddar y 10fed o Ionawr.

CEFIN PRYCE YR HELYR HELYR HELYR HELYR HELYGYGYGYGYGLLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINIONAIR CAEREINION

Ffôn: 01938 811306

Contractwr adeiladuAdeiladu o’r NewyddAtgyweirio Hen Dai

Gwaith Cerrig

#####yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?yn tew i’w gwerthu?

Prynwr ardal y Plui Welsh Country

FoodsFfoniwch Elwyn Cwmderwen

07860 689783neu

01938 820769

Morris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant HireMorris Plant Hire OFFER CONTRACWYR

AR GAEL I’W HURIOgyda neu heb yrwyr

Cyflenwyr Tywod, Graean aCherrig Ffordd

Gosodir Tarmac a ChyrbiauAMCANGYFRIFON AM DDIM

Ffôn: 01938 820 458Ffôn symudol: 07970 913 148

Page 11: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 1111111111

CynefinCynefinCynefinCynefinCynefinAlwyn Hughes

ar ddydd Llun a dydd Gwener

PRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPPRACTIS OSTEOPAAAAATHIGTHIGTHIGTHIGTHIG BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI BRO DDYFI

yn ymarfer uwch ben

Salon Trin GwalltAJ’s

Stryd y BontLlanfair Caereinion

Ffôn: 01654 700007neu 07732 600650

E-bost: [email protected]

ByddMargery Taylor B.SC (Anrh) Ost.; D.C.R.R. a

Peter Gray, B.Sc (Anth) Ost.

Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Ysgrifennafyr ychydig eiriau yma ar fore Dydd Calan acni welwyd neb yn casglu calennig fel yn yramser a fu. Rydym ynghanol tymor yplygeiniau; fe fûm ym Mhlygain Pontrobert arfore’r Nadolig – hon yw’r unig blygain cyn-dydd sy’n dal i fod. Roedd yno awyrgylchhyfryd yng ngolau cannwyll – y capel yn llawna chroeso cynnes Miss Nia Rhosier a’ichyfeillion, sydd mor nodweddiadol o’r pentrehwn. Roedd yn ddechrau hyfryd i’r dydd acyn werth yr ymdrech i godi’n gynharach nagarfer!Bûm yn darllen llyfr diddorol iawn, sef Llyfr yNadolig Cymreig (Golygwyd gan Ifor apGwilym). Ynddo deuthum ar draws ysgrif aysgrifennwyd gan y ddiweddar Dr Enid PierceRoberts a chredaf y buasai’n beth da iddi weldgolau dydd unwaith eto.“Hen Garolau Plygain“Hen Garolau Plygain“Hen Garolau Plygain“Hen Garolau Plygain“Hen Garolau PlygainNid ydys yn honni bod cyfansoddi a chanucarolau yn perthyn yn arbennig i SirDrefaldwyn a’r ffiniau, eithr gellid dweud ynweddol bendant i’r arfer fod mewn bri yno aciddo barhau’n boblogaidd yno’n hwy nag ynunman arall yng Nghymru. Yn wir, y mae’rarfer o gynnal plygeiniau ar adeg y Nadoligyn parhau’n ddifwlch mewn rhai llannau hydheddiw.Erbyn hanner olaf y ddeunawfed ganrif yroedd y gair plygain wedi colli ei ystyr owasanaeth crefyddol arbennig ar awr neilltuolo’r bore. Yn hytrach golygai gyfarfod ar unrhywawr o’r dydd i ganu carolau adeg y Gwyliau,rywdro rhwng dydd Nadolig a’r Hen Galan. Yneglwys y plwyf y cynhelir y cyfarfod ganamlaf, er y gwyddys am yr arfer o gynnalplygeiniau mewn tai annedd weithiau hebrithyn o wasanaeth eglwysig yngl~n ag ef.Yr oedd i bob llan ei ddydd neu ddyddiauplygain ei hun. Yn Nyffryn Banw cynhelidplygain-cyn-dydd am bump o’r gloch foreNadolig yn Llanerfyl, a phlygain ar raddfafechan nos g@yl y Nadolig yn Llangadfan aGarthbeibio. Yna cynhelid yr Hen Blygain ynLlangadfan ar yr Hen Nadolig, sef G@ylYstwyll, a byddai Hen Blygain Llanerfyl aGarthbeibio yr un wythnos a phartïon y triphlwyf yn helpu ei gilydd. Byddai plygain yn

Llanymawddwy am un o’r gloch fore Nadolig,ac wedi canu yno âi’r cantorion i eglwysMallwyd erbyn pump o’r gloch i’r blygain-cyn-dydd...Ond y Blygain Fawr oedd plygainLlanfihangel-yng-Ngwynfa ar yr ail Sul yn yflwyddyn newydd. Yr oedd hon yn enwogiawn. Nid oedd na glaw na gwynt nac eira narhew yn rhwystro pobl rhag cyrchu yno o bobcyfeiriad. Dechreuai’r cyfarfod am chwecho’r gloch yr hwyr ond rhaid oedd mynd yno oleiaf awr cyn pryd os am gael mynd i mewni’r eglwys. Oherwydd gor-boblogrwydd bu raidrhoi pen arni dros dro fel plygain gyhoeddus.Oddeutu 1904-05 daeth y fath dyrfa yno nesllenwi’r fynwent yn ogystal â’r eglwys...Y mae hanes ar gof am blygeiniau mewn taiannedd. Arferid cynnal un mewn ffermdy o’renw Penthryn yng Nghwm Cywarch, acambell waith ym Mherth-y-felin ym Mawddwy.Clywid sôn am ‘Blygain y Gwaelod’ ym mhlwyfLlanerfyl a ‘Phlygain y Fronfelen’ ym mhlwyfLlangadfan. Oddeutu diwedd y ganrifddiwethaf lledodd yr arfer i rai o gapeli’rAnnibynwyr – Penllys, Braich-y-Waun, Sardis(Llanwddyn), Cwm Nant Meichiaid; achynhelid un hefyd yng nghapel y Bedyddwyr,Pont Llogel, a chapel y Wesleaid, Dolwar.Peth diweddar iawn, heb fagu gwreiddiau eto,yw plygain yn un o gapeli’r Methodistiaid.Ni oleuid yr eglwys gogyfer â phlygain cyn-dydd. Rhaid oedd canu nes i’r wawr dorri acni ellid gweld hynny pe cynheuid y canhwyllaua’r lampau. Felly cariai aelodau pob parti bwt

o gannwyll yn eu poced a’i oleuo cyn canu.Anaml y byddai neb yn mynd i’r gwely y nosoncynt; yr oedd yn ffasiwn gwneud cyflaith drwy’rnos a’i dywallt ar lechen i oeri – gwych o bethyn si@r at glirio lleisiau’r datganwyr.Yn Llanerfyl darperid brecwast yn ffermdy’rMaes-gwyn ar gyfer y cantorion, ond pandaeth y Parchg. T.D. James yno yn yRheithordy y darperid y bwyd. Yr oedd yrarfer o roi tâl i’r cantorion wedi darfod cyn cofi neb sy’n fyw heddiw, ac ers amser cynhynny, canys ni wyddys dim amdano. Ni @yrneb ychwaith am yr arfer o roi cwrw am garoler y gwelwyd bod Dafydd Cadwaladr yn cwynoo’r herwydd...”

******Fe gafodd lawer ohonom y fraint o wrando arDr Roberts yn darlithio yn Llanerfyl ychydigfisoedd cyn iddi farw. Cofiaf hi’n dweud fodcysylltiad rhwng rhai o hen donau carolau’rplygain a chaneuon yr hen borthmyn a gerddaiwartheg drwy’r dyffryn hwn ar eu taith hir iLoegr.Roedd yn fwriad ganddi ysgrifennu erthygl i’rPlu ar y peth, ond ysywaeth ni wireddwyd eidymuniad. Dyma’r unig dro imi gyfarfod â hiac roedd ei darlith yn dyst i’w dawn o draddodi.Cefais lawer o wybodaeth ganddi mewn llythyra galwad ffôn ac mae bwlch mawr ar ei hôl.Dyma un o ysgolheigion mwyaf yr ugeinfedganrif heb amheuaeth a diolchwn fod darnauo’i gwaith yn dal ar fod i’n goleuo am ein haneslleol. Braint oedd cael ei hadnabod.

Huw Lewis

Ffôn: Meifod 500 286Post a Siop Meifod

Contractwr AmaethyddolGwaith tractor yn cynnwys

Peiriant hel cerriga

Pheiriannau i chwalu ahel gwair/silwair

Ffôn: 01938 820231Ffôn: 01938 820231Ffôn: 01938 820231Ffôn: 01938 820231Ffôn: 01938 820231Ffôn symudol: 07968 348624Ffôn symudol: 07968 348624Ffôn symudol: 07968 348624Ffôn symudol: 07968 348624Ffôn symudol: 07968 348624

John JonesMaesllymystyn

Page 12: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

1212121212 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012

Ffermio- Nigel Wallace -

Ar y FfermTua blwyddyn yn ôl ysgrifennais am newidein tenant. Cyd-ddigwyddodd hyn â diweddein cynllun Tir Gofal. Hefyd gallemddychwelyd o ffermio organig i ffermio’ngonfensiynol. Ar ben hyn nid oes gennymhawliau i’r Taliad Sengl. Golygodd hyn fod ynrhaid inni dderbyn rhent is gan ein tenantnewydd ond hefyd mae mwy o ryddid yngl~nâ rheolaeth y tir. Gan fod y cynlluniau newydde.e. Glastir a’r newidiadau arfaethedig i’rTaliad Sengl i gyd yn golygu mwy ofiwrocratiaeth a llai o arian, tybed faint offermwyr eraill a benderfyna ddilyn y fforddhon?Mae ein tenant newydd yn byw gerllaw acmae ei drefn ffermio’n cynhyrchu cryn dipyno dail. Mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl idrin y tir bron i gyd â thail, rhywbeth nad oeddwedi digwydd ers talwm, a hefyd gwrtaith lley lladdwyd gwair. Mae llawer o’r tir yn cael eibori gan wartheg yn ogystal â defaid.Penderfynir ar gyfraddau stocio yn ôl faint olaswellt sydd ar gael yn hytrach na rhifau abenderfynir gan ryw swyddog o bell. Ycanlyniad yw bod tyfiant eithafol o laswelltgarw wedi’i atal, mae’r glaswellt a gynhyrchirwedi cynyddu ac mae’r porfeydd yn edrychyn fwy iach a ffrwythlon. Gobeithiaf wneudprofion pridd gan na chwalid ond ychydig iawno galch yn ystod y blynyddoedd organig.Tybiaf hefyd fod angen edrych ar lefelauffosffad a photash. Mae digonedd o flodaugwyllt yn dal yn y caeau.Un fantais o beidio â bod yn organig yw galluchwistrellu. Dros y blynyddoedd organig bu’rdanadl poethion ar gynnydd. Rwyf wedicychwyn ymdrin â’r rhain ac eisoes nid wyfbellach yn cael fy mhigo pan symudaf y ffenstrydan i’r ceffylau. Ymddengys fod pori’ndynnach ac yn cynnwys gwartheg wedigwanhau’r ysgall hefyd. Fel llawer o ffermwyrgwnaethom lawer o ffensio tua 30 mlyneddyn ôl. Mae’r rhan fwyaf o’r gwifrau’n dal yniawn ond mae’r polion yn dechrau mynd. Hefydroedd yn rhaid inni wella ambell ddarn o achos

y gwartheg.Mae digon o bethau sy’n galw am wario’r arianrhent. Yn ychwanegol at y ffensio, maegwrychoedd sydd angen eu plygu.Ymddengys fod y contractwyr sy’n ymgymrydâ’r gwaith hwn yn brysur iawn. Ceisiaf wneudrhywbeth fy hunan ond mae amser ac, yn fyoedran i, egni’n gyfyngedig. Wedi gadael ygwrychoedd i dyfu a phlannu coed yn ygorffennol, mae rhai o’r rhain bellach ag angensylw’r dyn trin coed. Hefyd yn ôl yr arian syddar gael bob blwyddyn, mae rhywun sy’npeintio’r adeiladau inni. Ar y cyfan rwyf ynfalch o olwg y fferm a chredaf y dylai hi fodmewn cyflwr addas i gyfrannu pan ddaw’r galwi gynhyrchu bwyd o ddifrif. Credaf y bydd rhaidi’r pwyslais ar gynhyrchu bwyd godi o achosbod poblogaeth y byd yn cynyddu.Fy nod yw i’r tir gael ei reoli mewn dull sy’ndefnyddio technoleg fodern e.e. gwrteithiau achwistrellu, lle darperir mantais gan y rhainond ar yr un pryd i seilio cynhyrchu yn bennafar adnoddau’r fferm. Bydd hyn gyda’r gwaithgyda’r coed a’r gwrychoedd yn darparu, yn fymarn i, gytbwysedd addas rhwng cynhyrchubwyd a bywyd gwyllt yn y byd sydd ohoni.Rwyf hefyd wedi addasu’r cyn-laethdy ynNhroed yr Ewig i fod yn gut i gadw’r tractorynddo ar adegau i osgoi teithio ar y fforddfawr pan fydd yr ymwelwyr gwallgof yn achosiperygl!

Pynciau Llosg 2012Cwlio Moch DaearCwlio Moch DaearCwlio Moch DaearCwlio Moch DaearCwlio Moch Daear. . . . . Oedi yw’r prif hanesyma ac yn Lloegr. Yn y ddwy wladpenderfynwyd cynnal cynllun peilot. YngNghymru sut bynnag penderfynodd ygweinidog newydd adolygu’r wyddoniaethunwaith eto. Yr hyn sydd ei angen ywgweithredu’r cynllun peilot i brofi a fyddaipolisi o’r fath yn un llwyddiannus neu beidioyn hytrach na chnoi cil dros hen wybodaethunwaith eto. Gobeithiwn gael penderfyniadffafriol yn y flwyddyn newydd. Yn Lloegrsiaradai’r gweinidog newydd fel pe bai yn frwddros fwrw ymlaen ond dim ond r@an mae sônam gychwyn. Cyn hynny roedd llawer o sônam fwy o gymhlethdod i sefydlu’r cynllun nadoedd ef wedi meddwl. Nid oedd datganiad ganrywun o English Nature, y corff sydd i reoli’rcwl, nad oedd ef yn frwd o blaid y prosiect ounrhyw gymorth ychwaith. Gan fod Cadeirydd

English Nature, Poul Christiansen yn ffermwrllaeth mawr, tybed eto faint o ddylanwad droseu swyddogion sydd gan aelodau o fyrddau’rcyrff mawr fel hyn.Yn y cyfamser deil nifer y moch daear igynyddu, bydd y clwyf yn lledaenu a byddrhaid lladd miloedd eto o wartheg. A oes gany ddwy lywodraeth y plwc ar gyfer y frwydranochel gydag ymgyrchwyr y mochyn daear?Efallai y gobeithia’r gweinidogion na ddalianti fod yn gyfrifol erbyn yr adeg pan fydd ynrhaid i rywbeth digwydd. Naill ai hyn neu byddbrechiad yn ymddangos trwy wyrth neu byddbarn wyddonol am y mater yn newid. Os deilpethau fel y maent ni fydd dyfodol disglair iffermio ac nid yw pethau’n argoeli’n dda o ransicrwydd bwyd chwaith.Diwygio’r CAPDiwygio’r CAPDiwygio’r CAPDiwygio’r CAPDiwygio’r CAP. . . . . Mae’r bwriadau cyntafwedi’u cyhoeddi ac nid ydynt yn codi’r galon.Wrth gwrs bydd llawer o drafod ac onewidiadau cyn gwelwn y polisi yn y pen drawac ni fydd hanes cyfarfod argyfwng yrEwrozone wedi helpu’n hachos yn ytrafodaethau a ddaw. Roeddwn wastad ynmeddwl bod yr egwyddor o dalu yn ôl y tir affermir yn gall, ond mae anawsterau sylweddoli lunio trefn sy’n cydnabod yn deg y lefelaugwahanol o reolaeth a hefyd i drefnu’r newido’r taliadau hanesyddol i drefn fwy addas.Mae capio taliadau i ffermwyr mawr hefyd ynanodd. Sut y gall hyn gael ei wneud hebgosbi’r rhai sy’n cyflogi nifer o bobl a heb fodyn fiwrocratig ofnadwy? Sut y gallai defnyddiocontractwyr hunangyflogedig gael eigydnabod yn deg? Ymddengys y buasai’nsymlach ac yn decach i dalu pawb a chaelarian yn ôl drwy’r drefn treth incwm.Mae hefyd diffyg cefnogaeth i’r bryniau a’rsyniad y dylai ffermwyr neilltuo 7% o’u tir ifywyd gwyllt. Os gallwn gynnwys eingwrychoedd, coetiroedd a’r tir sydd eisoesmewn cynlluniau’r amgylchedd ni fydd hyn ynrhy ddrwg ond i’r ffermydd tir âr bydd yreffeithiau’n llym yn arbennig gyda chylchdrogorfodol o gnydau. Gan fod y boblogaeth yncynyddu mae’n anodd gweld y polisïau hynyn ychwanegu at gynhyrchu bwyd a sicrwyddbwyd a hefyd yn lleihau biwrocratiaeth. Hebamheuaeth, bydd llawer o’r uchod yn plesio’rRSPB ac eraill sydd â diddordeb yn bennafyn ffyniant y rhywogaethau nad ydynt ynfwytadwy!

Siop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopSiop, Caffi, Swyddfa Bost, SiopDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf BetrolDrwyddedig a Gorsaf Betrol

MallwydAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyrAr agor o 7.30 tan 7.00 yr hwyr

Bwyd da am bris rhesymol

8.00a.m. - 5.00p.m.Ffôn: 01650 531210

CONTRACTWR TRYDANOLHen Ysgubor

Llanerfyl, Y TrallwmFfôn: 01938 820130

Rhif ffôn symudol: 07966 231272

ALUN PRALUN PRALUN PRALUN PRALUN PRYCEYCEYCEYCEYCE

Gosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäigGosod systemau solar ffotofoltäig

Gellir cyflenwi eich holl angheniontrydanol

- amaethyddol, domestig neuddiwydiannol.

Gosodir stôr-wresogyddiona larymau tân hefyd.

A oes arnoch angen glanhaueich simnai cyn y gaeaf,

neuhoffech chi brynu coed tân?

Cysylltwch â Richard JenkinsPont Farm

Betws Cedewain, Y DrenewyddFfôn: 07976872003 neu

01686 640 906

Page 13: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 1313131313

Y TRALLWMBryn Ellis552819

Y Gymdeithas Gymraeg -Ar 23ain Tachwedd cawsom noson ddifyr yngnghwmni Gareth Vaughan, cyn-lywydd UndebFfermwyr Cymru. Y cadeirydd oedd ArwestaVaughan, Is-lywydd y gymdeithas a chwaer-yng-nghyfraith ein g@r gwadd, Gareth.Rhoddodd inni ei gefndir personol yn cael eifagu ar fferm yn ardal Llyn Clywedog a’rnewidiadau fu yn ystod ei fywyd. Yna cawsomei farn ar rai o’r gwahanol datblygiadau ymmyd amaeth ac ymatebodd i lawer ogwestiynau gan y gynulleidfa. Diolch i’rmerched am ddarparu paned ar y diwedd.

Y Gymdeithas Gymraeg -Y BlygainUnwaith eto eleni llwyddodd Elwyn Davies idrefnu Plygain bleserus iawn. Cafwyd pumpar hugain o eitemau gydag amrywiaeth eango garolau. Diolch i Glyn Williams am arwain ynoson ac i’r merched am ddarparu swper.

Yr Ysol SulBore Sul 11eg o Ragfyr cafwyd gwasanaethNadolig dan ofal plant yr Ysgol Sul yn y CapelCymraeg. Braf oedd gweld y plant yn ailadrodd Stori’r Nadolig, wrth iddynt ganu adarllen o’r Beibl. Diolch i Siân, Joanne a

Bernard am hyfforddi’r plant, a mawr ddiolchi blant yr Ysgol Sul am wasanaeth arbennigiawn. Ar ôl y gwasanaeth aeth pawb i’r festri ifwynhau paned a mins pei a baratowyd ganchwiorydd y Capel.

Y Capel CymraegCafwyd gwasanaeth Nadolig ar Sul, 18fedRhagfyr dan ofal Gwyndaf James. Cymerwyd

rhan gan aelodau’r capel gyda Glyn Williamsyn ein tywys tuag at wir ystyr yr @yl. Hyfrydoedd gweld pedair cenhedlaeth o un teulu ynbresennol, sef Enid James, Gwyndaf aMarian, Gwawr, Ffion a Harri bach. Gwnaedcasgliad i Shelter Cymru.

Teisen Siocled Tywyll a Llugaeron150g (6 owns) o fflwr codi cyflawnLlond llwy de o bowdr codi150g (6 owns) o fenyn150g (6 owns) o siwgr molases 3 @y150g (6 owns) o siocled tywyll gyda chocomass uchel 65% i 85% ar gyfer ei doddi150g (6 owns) o lugaeronHanner llond cwpan o bort50g, 2 owns o molases

Hollti neu wasgu’r llugaeron a’u mwydo drosnos yn y port a’r 50gm (2 owns) o molases.

Defnyddio’r dull hufennu i wneud yr ysbwng.Toddi’r siocled a’i ychwanegu at ycymysgedd uchod gyda’r llugaeron, heb yport.Rhannu’r cymysgedd yn ei hanner a’i arllwysrhwng dau dun 20cm (8 modfedd) gydagwaelodion wedi eu leinio gyda phapur cwyr.Coginio am 40 munud heb agor drws y ffwrn!mewn tymheredd 170 neu Marc 3 nwy.Gadael y cacennau yn eu tuniau am 5munud ac yna eu troi allan i oeri. Eu gosodwrth ei gilydd gan ddefnyddio jeli neu jamllugaeron. Addurno gyda mwy o siocledtywyll wedi ei doddi a llwyth o lugaeronwedi eu crisialu neu wedi eu trochi mewnsiwgr mân gwyn. Mwynhewch – ondychydig ar y tro!

LLUN O’R GORFFENNOL

Cân Actol Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd tua1975. Ymysg y yr wynebau gwelwn Jayne Thomas, Ifan Francis, Philip Langford, ChristineDavies, Vivian Jones, Helen Morris, Irfon Davies, Glandon Lewis, Marc Jones, Bryn Francisa llawer un arall!

A fyddech cystal ag anfon eichcyfraniadau at y rhifyn nesaf erbyn dyddSadwrn, 21 Ionawr. Bydd y papur yn caelei ddosbarthu nos Fercher Chwefror 1

Rhifyn nesaf

Page 14: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

1414141414 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012

MEIFODMarian Craig01938 500440

Babis NewyddLlongyfarchiadau i Arwyn a Caroline Jones,Tan-y-Bryn ar enedigaeth merch fach o’r enwThea, chwaer newydd i Rhys ac Owain.Hefyd i Ryan a Gwerfyl, Tan-y-Chwarel arenedigaeth eu babi cyntafanedig, bachgenbach o’r enw Owain.

Penblwydd ArbennigDymuniadau gorau i Glenys Gwalchmai arddathlu penblwydd arbennig ym mis Rhagfyr.

GwellhadDymunwn y gorau i Nesta Williams, T~ Capelsydd ar hyn o bryd yn Ysbyty’r Trallwm, brafyw cofnodi ei bod yn gwella.A’r un yw’r dymuniad i bob un arall sydd wedibod yn sâl neu yn derbyn triniaeth. Gobeithiobyddwch yn teimlo’n fwy calonnog yn yflwyddyn newydd.

Clwb Forget Me NotBu aelodau a ffrindiau’r Clwb yn dathlu’rNadolig gyda chinio blasus dros ben yn yKing’s Head. Diolch i Rob a Rachel a’r staffam eu croeso cynnes. Yn ystod y prynhawncyflwynwyd anrheg a blodau i Carol Andrewsydd yn rhoi’rgorau i fod yn arweinydd y Clwbar ôl deuddeg mlynedd. Mae Karen Evansyn mynd i gymryd ei lle.

Gwasanaeth NadoligCynhaliwyd gwasanaeth Nadolig yng Nghapelyr Annibynwyr o dan arweiniad CeinwenHoodway. Hefyd yn cymryd rhan oedd CôrBach y Llan o Lansantffraid, Gloria a Llewelynyn disgrifio Nadolig oeddynt yn ei gael panoedden nhw yn blant a chafwyd darlleniad o’rYsgrythur gan Sion, Pentre Gof. Mrs Prim-rose Lewis Jones oedd wrth yr organ.Cyflwynwyd y casgliad eleni i’r Clwb ForgetMe Not.

Ysgol MeifodCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligCyngerdd NadoligRoedd y neuadd yn orlawn ar y ddauberfformiad o’r cyngerdd. Eleni cyflwynoddy plant h~n y Pantomeim Cinderella, ac roeddyr actio a’r canu yn wych dros ben. Stori’rGeni ar thema wahanol oedd gan y plant bachsef ‘Ganwyd mewn Ysgubor’. Roeddynt ynddigon o ryfeddod.Gwasanaeth NadoligGwasanaeth NadoligGwasanaeth NadoligGwasanaeth NadoligGwasanaeth NadoligDaeth Darren Mayor i’r ysgol i arwaingwasanaeth Nadolig. Mae’r plant bob amseryn mwynhau gwasanaethau Darren.Cinio a Pharti NadoligCinio a Pharti NadoligCinio a Pharti NadoligCinio a Pharti NadoligCinio a Pharti NadoligMwynhaodd y plant a’r staff ginio Nadoligardderchog wedi ei goginio gan y gogyddes,Gwynifer Jones. Diolchwyd iddi gan blantBlwyddyn Chwech am ginio heb ei ail drwy’rflwyddyn. I orffen y tymor roedd pawb wedigwisgo eu dillad parti i fwynhau disgo a gemaua the wedi ei baratoi gan y llywodraethwyr.Cafwyd ymweliad gan Siôn Corn hefyd addaeth ag anrheg i bawb. Diolchwyd i’rllywodraethwyr gan Matthew Owen.

Menter IaithMaldwyn

Taith NadoligG y d ad i w r n o dNadolig ynp r y s u rg y r r a e d d ,roedd ynamser iM e n t e rM a l d w y ndeithio oamgylch ySir i ddathlu’r#yl gyda’rp l a n tm e i t h r i n .Gyda help Catherine o Fudiad Meithrin, Meiniro Twf, Swyddog newydd Ti a Fi yr ardal, Eleri,a Linda Griffiths, oedd yn diddanu’r plantgyda’r sesiwn ganu, cawsom wythnosarbennig gyda 122 o blant a 96 o rieni ynmynychu. Cynhaliwyd sesiynnau ymMachynlleth, Trefeglwys, Y Drenewydd,Llanfair, Llanrhaeadr a’r Trallwng rhwng y 6-8o Ragfyr, yn cynnig celf a chrefft, canu,sesiwn stori, ac anrheg bach gan Sian Corn,gwraig Siôn!Dyma lun a dynnwyd yn un o’r digwyddiadau.

Ment-HerMae disgyblion Llanfair a Bro Ddyfi wedi bodyn brysur iawn eto eleni gyda phrosiect Ment-Her y Fenter. Yn dilyn sesiwn feirniadu yn yddwy ysgol, penderfynodd y beirniaid (BerylVaughan, Delma Thomas a Bethan Elin) maitîm ‘Tactegau Teulu’ oedd yn fuddugol ynYsgol Caereinion. Aelodau’r tîm oedd GabbyJones, Jorge Bowen, Catrin Thomas, MeganVarley a Jake Metcalfe. Rhaid oedd cynnal ydigwyddiad dan sylw cyn y Nadolig, fellycafwyd noson Tactegau Teulu ( cyfieithiad o’rraglen boblogaidd, Family Fortunes) ynNeuadd Caereinion ar y 12 Ragfyr. Cymruoedd thema’r cwestiynau, ac Iolo Williamsoedd ein Vernon Kay lleol, gyda theuluoeddMr Richards (Cymraeg) a Mr Davies (Maths)yn brwydro am y wobr!Tim Llan, Dylan a Dewi oedd yn fuddugol ynYsgol Bro Ddyfi gyda’u syniad nhw o gynnalcystadleuaeth ‘Ready Steady Cook’ Cymraegyn yr Ysgol ar ddiwrnod ola’r tymor, gydaAeron Pughe a Will Hendreseifion yn brwydroyn erbyn ei gilydd yn y gegin!Cafodd y ddau ddigwyddiad eu beirniadu, acmi fydd enillydd yn cael ei gyhoeddi yn yflwyddyn newydd....felly cadwch eichclustiau’n agored!

Diwrnod Agored LlyfrgellGenedlaethol CymruMae’r Fenter yn ystyried trefnu bws iDdiwrnod Agored Llyfrgell Genedlaethol Cymruar 28 Ionawr, yn ddibynnol ar faint oddiddordeb gaiff ei nodi. Yno i’ch diddanubydd Huw Edwards o’r BBC, April McMahon,Hen Ffilmiau a Ffotos, Teithiau, CerddoriaethFyw, Gweithgareddau i’r Plant, a llawer mwy.Bydd y teulu oll yn medru mwynhau diwrnodllawn o ddigwyddiadau ac atyniadau, ac nidoes ffi mynediad. Os oes diddordeb gennychfynychu’r digwyddiad, cysylltwch a’r fenter –[email protected] neu 01686 614 022.

Cysodir ‘Plu’r Gweunydd gan CatrinHughes, a Gwasg y Lolfa, Talybont

sydd yn ei agraffu

CYSTADLEUAETHSUDOCW

ENW: _________________________

CYFEIRIAD: __________________

____________________________________

____________________________________

Blerwch ar ran y deipyddes unwaith eto – ynanghofio cyhoeddi enw’r enillydd misdiwethaf. Wel, yr enw cyntaf allan o’r hetoedd Miriam Jones, Brynderw a bydd hi’nderbyn tocyn gwerth £10 i’w wario yn W.H.Smith. Ymddiheuriadau i bawb, dwi’n addobod yn fwy effro mis yma. Bu’r postmon ynbrysur iawn mis yma yn dosbarthu atebion ySudocw ymysg y cardiau Nadolig.Cyrhaeddodd 30 ymgais y mis yma a diolchyn fawr iawn i Bet Evans, Pennal; JoanLangford, Cyfronydd; Rhiannon Gittins,Llanerfyl; Rona Evans, Trallwm; Eirys Jones,Dolanog; Elizabeth George, Llanelli; HeatherWigmore, Llanerfyl; Anne Wallace, Llanerfyl;Cath Williams, Pontrobert; Eluned Davies,Cwmgolau; Maureen Jones, Cefndre; EirwenRobinson, Cefncoch; Ann Closman;Henffordd; Megan Roberts, Llanfihangel;Caron Laflain, Llanfair; Llinos Jones, Penisa’rCyffin; Ieuan Thomas, Caernarfon; G.Williams, Llanidloes; Noreen Thomas,Amwythig; David Smyth, Foel; Enid Jones,Mallwyd; Anna Jones, Y Drenewydd; TudorJones, Arddlîn; Gwylfa Jones, Llanfyllin;David Burrows, Llanerfyl; Ken Bates,Llangadfan; Beryl Jacques, Cegidfa; G.P.Lewis, Llanbrynmair; Llio Lloyd, Rhuthun;Jean Preston, Dinas Mawddwy a LindaJames, Llanerfyl.I fewn â’r enwau i’r fasged olchi unwaith etoa’r enw cyntaf allan oedd Enid Jones,Collfryn, Mallwyd sydd yn ennill tocyn gwerth£10 i’w wario yn un o siopau Charlies. Byddenillydd Sudocw mis Ionawr yn ennill £10 i’wwario yn Siop Alexanders, Y Trallwm.Anfonwch eich atebion at Mary Steele,Eirianfa, Llanfair Caereinion, Y Trallwm,Powys neu Catrin Hughes, Llais Afon,Llangadfan, Y Trallwm, Powys, SY21 0PWerbyn dydd Sadwrn Ionawr 21. Pob lwc ibawb.

Page 15: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 1515151515

Er Cofam Sally Edwards

I’r rhai ohonoch sydd yn cadw ôl-rifynnau o’r‘Plu’ fe gofiwch i mi yn rhifyn Awst/Medi 1981sôn am ymddeoliad y meddyg hwn,wedi gwasanaeth arbennig a hirfaithi ardal Llanfair Caereinion. Fegofiwch hefyd fod ei dad Dr WalterMilton Jones wedi gwasanaethu’rardal a sefydlu’r practis meddygolpresennol yn Llanfair ym 1925.Buddug Bates a’m hatgoffodd mai‘John Doctor’ y galwai pobl cefngwlad ef, ond Dr John oedd o i boblLlanfair ar hyd ei oes hir. Nid ynaml y ceir meddyg wedi’i eni ac yn marw ynei dref enedigol. Ond, dyna fu hanes Dr John.Fe’i ganwyd yn ‘Sheffield House’ neu (SiopAshton’s heddiw) ym mis Gorffennaf 1921 acfe’i haddysgwyd yn yr ysgolion lleol cynsymud i Ysgol Breifat yn Wellington, SirAmwythig ac ymuno â Phrifysgol Lerpwl argwrs meddygol. Cafodd flwyddyn yncynorthwyo ei dad yn Llanfair cyn ymuno âChatrawd Feddygol y Brenin a gweldgwasanaeth yn yr Aifft a’r Eidal.Ymunodd â phractis ei dad, Dr Walter, yn 1945a gwasanaethu am 36 mlynedd fel meddygteulu. Meddyg teulu o’r iawn ryw ydoedd,roedd yn adnabod pawb ac yn gwybod hanespawb, ffaith a oedd yn gymorth i’r cleifion.Roedd yn adnabod yr ardal yn ddaearyddolac roedd hyn yn gymorth mawr iddo ac i’wgyd-feddygon. Y mae’n anodd darganfod rhaillefydd diarffordd liw dydd, heb sôn am liwnos. Gwasanaeth anhygoel.Yr oedd ganddo ddiddordeb mawr â phrofiadeang mewn ffotograffiaeth ac y mae yn eigartref stôr fawr iawn o luniau, yn olygfeydda chymeriadau. Byddaf yn sôn wrth Barbara(ei wraig) ac yn ymdrechu i arbed y casgliadpwysig hwn i ofal yr ardal – oes na rhywun afuasai’n ymgymryd â’r gwaith o ddigideiddio’rlluniau a’u cyhoeddi?

Fe gofiwn am rai o’i gyd-feddygon Dr Harry

ER COF AM GYFAILL‘JOHN DOCTOR’ neu ‘DR JOHN’

Dr Elfed Hughes a Dr Pat O’Dwyer a’i wraig,Gill, i lawr hyd at y meddygon heddiw yn

parahau â’r gwaith a ddechreuwydyn 1925 gan dad ein Doctor John.Yr oedd ganddo galon dyner atheimladwy. Gofynnais iddo rywbrydos oedd perthynas agos â rhai o’rcleifion a’i ffrindiau yn effeithio arno.Ei ateb oedd ei bod yn mynd ynanoddach o ddydd i ddydd cysurorhai o’i ffrindiau gorau mewn salwchterfynol, ond bod y berthynasbersonol rhwng meddyg a’r claf yn

rhywbeth dirgel ac anesboniadwy.Yr oedd John wedi gweld newidiadau mawriawn mewn dulliau meddygol, yn y peiriannaua’r adnoddau. Ond yr oedd hefyd yn gresynuat y dirywiad cymdeithasol a theuluol lle ymae’r uned deuluol a oedd yn gysegredig wedichwalu.Cefais y fraint gan y teulu o dalu’r deyrngedolaf iddo yn yr Eglwys a soniais am ei hofftero ‘Jazz’ a theithiai’r byd gyda Barbara ifynychu gwyliau Jazz.Roedd yn ddyn cymhleth, eto’n syml eiofynion. Ffrind i bawb a gweithiwr diwyd erbudd elusennau niferus. Yr oedd Brynglasyn ganolfan nifer o nosweithiau ‘Caws a Gwin’er lles i eraill ac roedd yr ardd ogoneddus alliwgar a gadwai’r teulu mor brydferth er buddy Gymdeithas Gerddi Cenedlaethol, yn caelei defnyddio’n helaeth.Rhoddodd oes hir o wasanaeth i’w gyd-ddyn,bu’n ffyddlon yn Eglwys y Santes Fair ac ynun o fechgyn Llanfair i’r carn. Roedd Llanfairwedi ei ysgrifennu ar ei dalcen.Bydd colled fawr ar ôl y cawr tyner hwn adiolchwn i Dduw am gael cyd-fyw â fo cyhyd.Yr oeddem fel teulu, Evelyn, Irfon a finne wedibod yn gymdogion am flynyddoedd lawer –ond roedd Dr John yn fwy na chymydog –roedd yn ffrind teuluol.Fel y dywed John Penry o’r Foel am gymydog,roedd yn:

‘Byw yn nes na’r drws nesa’.

Cydymdeimlwn â Barbara a’r teulu i gyd yneu profedigaeth – ond mae gennym ni fel teuluatgofion hapus iawn am Ddoctor John.

Dyma englyn John Penry i dad Doctor Johnsydd hefyd yn gweddu i’r mab.

Emyr

Dr Walter Milton JonesDr Walter Milton JonesDr Walter Milton JonesDr Walter Milton JonesDr Walter Milton Jones Ar w~s pan ddoi i breswyl – ciliai ofn Y claf fu’n ei ddisgwyl; Llawn o rin yn llonni’r hwyl Oedd gwên y meddyg annwyl.

Dr Elfed Hughes, Dr John aDr Pat O’Dwyer

Winstanley, Dr Griffiths ac yn ddiweddarach

CYDNABYDDIR CEFNOGAETHDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONESDEWI R. JONES

D.R. & M.L. Jones

Atgyweiriohen dai neu

adeiladau amaethyddol

LLANERFYLLLANERFYLLLANERFYLLLANERFYLLLANERFYLFfôn: Llangadfan 387

Ganwyd Sally yn Ysbyty Lancaster ac fe’imagwyd ar Netherbeck Farm gyda’i rhieni,Tom a Betty Dinsdale, a’i brawd, Peter. Panymddeolodd ei rhieni a rhoi’r gorau i’r fferm,daethant i fyw i Winsfield, Manafon a hynnyyn 1966. Ym 1968 dechreuodd Sally hyfforddii drin gwallt ac yn 1970 daeth i weithio gydaSheila Jones yn Stryd y D@r, Llanfair a symudi fyw at ei rhieni ym Manafon. Cyfarfu â’i darpar@r, David, yn fuan ar ôl dod i’r ardal a phriodwydy ddau ymhen llai na blwyddyn ar ôl hynny –ar ddiwrnod y Grand National, fel na fyddaiDavid fyth yn anghofio pen-blwydd eu priodas!Erbyn hyn roedd David yn gweithio i R.Darlington ac roedd David a Sally yn byw ymMelin-y-ddôl. Prynodd David a Sally siop‘sweets’ yn Llanfair a bu hi’n gofalu am y siopam gyfnod cyn agor ei busnes trin gwallt eihun uwchben y siop. Erbyn hyn roedd Chriswedi cyrraedd a symudodd y teulu i fyw iFaesglas. Wedi prynu’r busnes cludiant a glosymudodd y teulu i Lwyn Onn ac ym 1979ganwyd Sarah. Treuliodd y ferch fach gyfnodauhir yn Ysbyty Plant Birmingham a chododdSally lawer o arian i ddangos gwerthfawrogiady teulu am y gofal a gafodd eu merch yno.Yn dilyn marwolaeth ei frodyr, Roger a Bob,ym 1981, daeth David yn bartner yng nghwmniM.E. Edwards a’r Meibion a dechreuodd Sallyweithio fel Ysgrifennydd y cwmni. Yn 1991dechreuodd David y busnes cludo olew achymerodd Chris ofal am y busnes glo.Gweithiodd David a Sally yn galed i ddatblygu’rbusnes ac mae llwyddiant y cwmni wedigolygu eu bod yn gyflogwyr pwysig yn yr ardal.Ym 1995 symudodd David a Sally i’w cartrefnewydd, Min y nant, ac yno cafodd Sally gyflei sefydlu aelwyd newydd a mwynhau creugardd helaeth o amgylch y t~.Dechreuodd David a Sally brynu ceffylau yny cyfnod hwn. Roedd y rhain yn cael euhyfforddi gan Mrs Sykes ac roedd Sally wrthei bodd yn mynd i’r rasys gyda Wendy, agweld ei cheffylau yn rhedeg ac weithiau ynennill. Enillodd ei cheffyl, Highway Code, eiras y diwrnod ar ôl iddi farw a chyfeiriwyd atfarwolaeth Sally gan y sylwebyddion ar yteledu ar ddiwrnod y ras.Ond cariad pennaf Sally oedd ei theulu. RoeddChris a Joanne a’u plant yn arbennig iawn iddia daeth teulu bach Sarah a Mark â chymainto lawenydd i’w bywyd.Wynebodd Sally ei salwch yn ystod y misoeddolaf hyn gyda dewrder a phenderfyniad. Cofiwnam y teulu i gyd yn eu galar wrth golli gwraiga mam arbennig.

Geraint Peate

Page 16: Plu Hydref 2011 fersiwn olajonhead.myzen.co.uk/plu1/rhifynnau/documents/archive/... · 2017. 6. 9. · Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012 3 O’R GADER Yn ystod y mis, neu yn wir yr wythnos

1616161616 Plu’r Gweunydd, Ionawr 2012

LLANFLLANFLLANFLLANFLLANFAIRAIRAIRAIRAIRCAEREINIONCAEREINIONCAEREINIONCAEREINIONCAEREINION

DyweddïadLlongyfarchiadau gwresog i Siôn Ellis, mabHuw a Jean Ellis, ar ei ddyweddïad gydagAlice Hall o Hinkley, Swydd Gaerl~r. MaeSiôn yn dilyn cwrs Tystysgrif Addysg iRaddedigion yn Aberystwyth ar hyn o brydac yn mynd i fod yn treulio cyfnod o ymarferdysgu yn Ysgol Caereinion yn ystod y tymornesaf.

GeniLlongyfarchiadau i Shelagh Jones, Hafan Deg,ar ddod yn hen nain – ganwyd mab bach iPaul a’i wraig yn y Drenewydd.

BedyddBedyddiwyd William, gor-@yr Doreen Jones,gan y Rheithor Mary Dunn a David Dunn ynEglwys y Santes Fair.

Dymuniadau daDymunwn yn dda i Doreen Jones, ar ôl iddidorri asgwrn yn ei throed. Brysiwch wella.

ColledionCynhaliwyd nifer o angladdau mawr yn Eglwysy Santes Fair y mis hwn. Daeth tyrfa luosogi dalu’r deyrnged olaf i Dr John, ac i ddiolcham ei wasanaeth a’r caredigrwydd addangosodd i bobl yr ardal pan oedd yngwasanaethu fel meddyg yn Llanfair.Yna ar Ragfyr 14eg cynhaliwyd angladd MrsSally Edwards, Min-y-nant, LlanfairCaereinion a fu farw yn ddim ond 63 oed.Cydymdeimlwn yn ddwys â’i phriod David,a’r plant, Chris a Sarah a’u teuluoedd yn eucolled fawr.Cydymdeimlwn hefyd â Jane Evans ac âMorfydd Jones sydd wedi bod mewnprofedigaeth – bu farw brawd Morfydd yn dilynsalwch hir.

CroesoCroeso cynnes iawn i’r ddau reithor newydd– David a Mary Dunn. Maent yn ymddangosfel pe baent yn cartrefu’n dda yn ein plith adymunwn bob bendith iddynt yn ei gwaith.Cynhaliwyd y gwasanaeth sefydlu ar Ragfyr3ydd o dan ofal Esgob Llanelwy, a chredirmai dyma’r tro cyntaf i dîm o @r a gwraiggael eu penodi yn offeiriaid ar y cyd yn yresgobaeth gyfan. Magwyd David a Mary ynNe Cymru. Cas-gwent, Sir Fynwy oedd cartrefDavid, a magwyd Mary yng Nghwm Sirhowy,ger Caerffili. Maent wedi bod yn briod am 43o flynyddoedd. Mae ganddynt bedwar o blantac mae dau ohonynt yn offeiriaid gydagEglwys Lloegr. Cyn ei ordeinio yn 1900gwasanaethodd David gyda’r RAF, ac maeMary yn gyn athrawes Mathemateg.

Undeb y MamauCynhaliwyd gwasanaeth Cymun a Charolaugydag aelodau o Langynyw a Phontrobert cyny Nadolig. Cyflwynwyd y darlleniadau ganddwy aelod o’r gangen a chymerwyd ygwasanaeth gan y Rheithor newydd, Parch.Mary Dunne, gyda’i g@r, David, yncynorthwyo.Cynhelir cinio Nadolig y gangen yn y Dyffryn.

Parti i’r HenoedParatowyd Parti i’r Henoed yn yr YsgolUwchradd gan staff a disgyblion yr YsgolUwchradd. Cafwyd pnawn difyr iawn yn euplith a chroeso cynnes. Diolch o galon i’r

disgyblion am baratoi pryd ardderchog, ac amyr adloniant – mae yna rywbeth i’w ddweuddros fynd yn hen!!

Plygain yr IfancRoedd capel Moreia yn orlawn i Blygain yrIfanc a gynhaliwyd nos Sul, Rhagfyr 4ydd.Arweinydd y blygain eleni oedd Mari Jones,Hafod a gwnaeth ei gwaith yn ardderchog, ahynny ar fyr rybudd. Cymerwyd rhan ganbartïon o Ysgol Gynradd Llanfair, YsgolLlanerfyl, Merched Ifanc Llanerfyl, YsgolRhiwbechan, Ysgol Pontrobert ac Angharad,Manon a Seren. Cafwyd eitem offerynnol oYsgol Pontrobert ac unawd gan AngharadLewis cyn i’r bechgyn, gyda chymorth rhai o’rdynion, ymuno i ganu Carol y Swper.Diolchwyd i bawb gan Elen Jones, a’rorganydd oedd Sioned Lewis.

Gwasanaeth Carolau Merchedy WawrCynhaliwyd y gwasanaeth hwnyn Ebeneser nos Fercher,Rhagfyr 7fed. Ni lwyddwyd igynnal y gwasanaeth arbennighwn y llynedd oherwydd ytywydd oer a’r eira, ac fellyroedd gennym wasanaethgraenus wedi’i baratoi ganHafwen Roberts wrth gefn ac ynbarod i’w gyflwyno. Daeth criwda i’r gwasanaeth, gan gynnwysrhai o’r dynion a braf oeddcroesawu pawb i’r festri ambaned a mins pei ar y diwedd.

Gwasanaeth CarolauUndebolCafwyd gwasanaeth i ddathlu’rNadolig a’r Flwyddyn Newyddyn yr Eglwys ar fore dyddCalan. Cymerwyd rhan ganCheryl Andrew, Ivy Evans,Jonathan Steele, Ann Robinson,Rhodri Davies, Sheila Bebb,Eluned Davies, Huw Ellis,Geraint Peate a BethanLangford a chroesawyd pawbgan y Parch. David Dunn.Canodd plant yr Ysgol Sul eubendith arferol, o dan arweiniadStephanie Benbow, ar ddiweddy gwasanaeth. Gwnaed casgliadwrth y drws tuag at Uned Dialy-sis yr Arennau yn Ysbyty’rTrallwng.

Merched Llanfair yn mynd i hwyl y Nadolig

Y