106
Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP, DU Ffôn: +44 (0)1792 205678 www.abertawe.ac.uk Lleoliad ar y clawr: Yr Hwylbont, Marina Abertawe Israddedigion 2013 Israddedigion 2013 Prifysgol Abertawe SWAN S93

Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Citation preview

Page 1: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Prifysgol Abertawe, Parc Singleton,Abertawe, SA2 8PP, DU

Ffôn: +44 (0)1792 205678

www.abertawe.ac.uk

Lleoliad ar y clawr: Yr Hwylbont, Marina Abertawe

Israddedigion 2013

Isradd

ed

igio

n 20

13

Prifysg

ol A

be

rtawe

SWA

N S93

Page 2: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Ffôn: +44 (0)1792 295784www.abertawe.ac.uk

AcademiHTeifi prifysgol.abertawe

Hanes nodedig {gweledigaeth gyffrous}Ein cred ni yw y dylai astudio gynnwys archwilio a darganfod; dylai fod yn gyffrous ac yn wobrwyol, a bob amser yn ysbrydoliaeth.

Buom yn paratoi myfyrwyr am lwyddiant personol a phroffesiynol ers 1920. Mae ein hanes hir o weithio’n agos gyda’r byd diwydiant yn sicrhau bod ein graddau’n cwrdd ag anghenion cyflogwyr a bod gan ein hymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang effaith wirioneddol ar iechyd, diwylliant, a lles ein cymdeithas.

Mae astudio mewn prifysgol a arweinir gan ymchwil hefyd yn golygu eich bod yn elwa o wybodaeth a sgiliau academyddion penigamp o glod rhyngwladol. Byddwch yn elwa o ddull modern o ddysgu, sydd wedi’i gefnogi gan adnoddau gwych a safonau uchel o ddysgu. Mae ein hamrywiaeth eang o raddau Anrhydedd Sengl a Chyd-anrhydedd yn rhoi’r hyblygrwydd i chi ddilyn y cyrsiau sy’n eich diddori fwyaf, sy’n golygu y gallwch reoli eich astudiaethau.

Byddwn hefyd yn eich annog i roi cynnig ar bynciau newydd, ac i fanteisio ar y cyfleoedd i brofi gwledydd a diwylliannau eraill lle bynnag y bo’n bosib.

Rydym hefyd yn brifysgol â chynlluniau ar gyfer rhaglen uchelgeisiol i ehangu’r campws a fydd yn caniatáu i ni i ddyblu mewn maint a chynnig hyd yn oed mwy o gyfleusterau i wella ein profiad arobryn i fyfyrwyr.

Bydd y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesedd newydd yn harneisio cryfderau ymchwil Prifysgol Abertawe sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn hybu twf mewn clystyrau o gwmnïoedd technoleg uchel, gan greu amgylchedd dysgu unigryw i fyfyrwyr sy’n gwella eu gyrfaoedd.

Page 3: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Mae cymuned y brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod, ac yn cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu gwych, i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Ein nod yw rhoi profiad ardderchog i fyfyrwyr sy’n rhoi i chi oes o atgofion gwych i gyd-fynd â chyrsiau sy’n eich darparu â sgiliau lefel uchel ac yn rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd.

Mae’r momentwm yr ydym wedi’i greu fel un o brifysgolion a arweinir gan ymchwil mwyaf uchelgeisiol y DU wedi ein gwneud yn ddewis naturiol i nifer fawr o fyfyrwyr talentog, ac mae’r cynnydd mewn ceisiadau i astudio yma’n arwydd clir o’n llwyddiant.

Credaf ein bod wedi dod o hyd i’r cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil gwych, i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog. Gobeithiaf y byddwch yn ymuno â ni.

Croeso

Yr Athro Richard B. Davies,Is-ganghellor

2 3

Page 4: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Coleg y Celfyddydau a’r DyniaethauAstudiaethau Americanaidd 34Almaeneg 32Astudiaethau Canoloesol 36Astudiaethau’r Cyfryngau 38Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (PPE) 42 Athroniaeth, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith (PPL) 40 Y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg 156Cyfathrebu Gwleidyddol 52Cyfieithu 54Cymraeg 58Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) 64

Eidaleg 70 Ffrangeg 74Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Cyhoeddus 82Hanes 98Iaith a Chyfathrebu 100 Iaith Saesneg 102Llenyddiaeth Saesneg 106Rhyfel a Chymdeithas 146Sbaeneg – Astudiaethau Sbaenaidd 148

Y Coleg Busnes, Economeg a’r Gyfraith Rheoli Busnes 142Economeg 66

Ysgol y GyfraithTroseddeg 154Y Gyfraith 162

Y Coleg PeiriannegPeirianneg – Amgylcheddol 118Peirianneg – Awyrofod 120Peirianneg – Cemegol 122Peirianneg – Cynlluniau Blwyddyn Sylfaen Integredig 124Peirianneg – Defnyddiau 126 Peirianneg – Defnyddiau Chwaraeon 128 Peirianneg – Dylunio Cynnyrch 130Peirianneg – Mecanyddol 132

Peirianneg – Meddygol 134Peirianneg – Sifil 136Peirianneg – Trydanol ac Electronig 138 Gwyddor Chwaraeon 86Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg 88

Coleg y Gwyddorau Dynol ac IechydBydwreigiaeth 50Gwaith Cymdeithasol 80Gwyddor Barafeddygol 92Gwyddor Gofal Iechyd – Clywedeg 92 Gwyddor Gofal Iechyd – Gwyddorau Ffisiolegol 94

Gwyddor Gofal Iechyd – Technoleg Ffiseg Feddygol 96Y Gwyddorau Meddygol a’r Dyniaethau 160Iechyd a Gofal Cymdeithasol 104Nyrsio 112Osteopatheg 116Polisi Cymdeithasol 140Seicoleg 150

Y Coleg MeddygaethBiocemeg Meddygol a Biocemeg 44 Geneteg Feddygol a Geneteg 76Me ddygaeth – Meddygaeth i Raddedigion

Mb Bch (Cymru) 110

Y Coleg GwyddoniaethBioleg a’r Gwyddorau Biolegol 46 Bioleg y Môr 48Cyfrifiadureg 56Daearyddiaeth 60Ffiseg 72Geo-Wybodeg 78 Gwyddor Ffisegol y Ddaear 90 Mathemateg 108Swoleg 152

Yr Adran Addysg Barhaus OedolionY Dyniaethau 158

Llety 166

Ble i fwyta? 170

Lles a chymorth anabledd 171

Undeb y Myfyrwyr 174

Clybiau chwaraeon 175Cynnwys

Cyrsiau

4 5

Gyrfaoedd, sgiliau a chyflogadwyedd 176

Astudio a gweithio dramor 180

Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth 184

Sgiliau iaith 186

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg 187

Cwestiynau Cyffredin Astudio 190

Ff oedd Dysgu, ysgoloriaethau a

bwrsariaethau 192

Ceisiadau a Derbyniadau 198

Mapiau 204

Hanes ac Etifeddiaeth 208

Cyn-fyfyrwyr 209

Croeso i Abertawe 02

Bywyd fel Myfyriwr yn Abertawe 06

Ymchwil yn Abertawe 14

Cymorth yn Abertawe 20

Cyfleoedd byd-eang yn Abertawe 24

Chwaraeon yn Abertawe 26

Myfyrwyr Abertawe 30

Page 5: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

“ Cynigodd PrifysgolAbertawe gwrs mor

unigryw a oedd yn caniatáu i

mi dreulio blwyddyn dramor yn Canada.

Astudio a byw ar lan y môr Pan fyddwch chi’n dechrau yn y brifysgol, rydych yn dechrau ar antur fawr, profiad a fydd yn newid eich bywyd ac yn ehangu’ch gyrfa. Mae dewis eich cwrs yn rhan fach o ddewis y lle y byddwch yn byw, yn astudio ac yn ei alw’n gartref am y tair neu’r pedair blynedd nesaf.

Mae ein ffordd o fyw ar y campws yn meithrin cymuned groesawgar, gosmopolitan sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Yna mae ein lleoliad, yn cynnig y gorau o bob byd: rydym wedi’n lleoli mewn parcdir eang ar hyd tair milltir o draethau godidog Bae Abertawe, ac o fewn cyrraedd hawdd i ddinas fyrlymus Abertawe.

Pan fyddwch yn dewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe, rydych yn dod yn rhan o sefydliad uchelgeisiol a arweinir gan ymchwil a hefyd yn elwa o fyw yn un o ranbarthau naturiol mwyaf prydferth y DU. Nid yw’n syndod bod llawer o’n graddedigion yn dewis aros yma ymhell ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.

Gwobrwyo llwyddiant academaiddDyfernir ein Hysgoloriaethau Rhagoriaeth i BOB myfyriwr sy’n ennill tair gradd A ar lefel Safon Uwch (neu gyfwerth) YN OGYSTAL Â phum gradd A ar lefel TGAU (neu gyfwerth). Bydd myfyrwyr Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru sy’n ennill Craidd + AA mewn pynciau opsiynau yn gymwys i dderbyn y dyfarniad.

Bydd pob Ysgoloriaeth yn werth £3,000 dros ddwy flynedd (gyda £1,500 yn daladwy yn y flwyddyn gyntaf a £1,500 pellach yn daladwy yn yr ail flwyddyn).

Am fanylion ynglyn â’n holl ysgoloriaethau a bwrsariaethau ewch i:

Dewch i weld drosoch eich hunRhaid gweld i gredu – felly beth am gymryd golwg fanylach? Bydd ein Diwrnodau Agored yn rhoi syniad i chi o fywyd campws a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl o’r profiad yn Abertawe. Nodir dyddiadau ein Diwrnodau Agored ar gyfer mynediad yn 2013 isod:

“Mae’r awyrgylch ym Mhrifysgol Abertawe heb ei ail. Gyda golygfeydd ardderchog o’r traeth a’r parc o sawl un o’r preswylfeydd ar y campws does dim byd gwell. Mae gan y Brifysgol gydbwysedd gwych o weithio a chwarae, gyda phawb yn eich annog i gyflawni’r gorau y gallwch. ”

Laura PettitBSc Rheoli Busnes

Taith i lannau newydd {yn dechrau yma}

Diwrnodau Agored:Dydd Sadwrn 30 Mehefn

Dydd Sadwrn 6 Hydref

Dydd Sadwrn 10 TachweddAimee,BA Rheoli Busnes Rhyngwladol

6

www.swansea.ac.uk/cy/ysgoloriaethau/

7

Page 6: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Fel dinas fywiog i fyfyrwyr, mae gan Abertawe rywbeth i bawb. O fywyd diwylliannol a diwylliant chwaraeon ffyniannus i fywyd nos gwefreiddiol, golygfeydd arfordirol syfrdanol i barciau heddychlon, a siopa gwych i’r gorau o fywyd modern y ddinas, Abertawe yw’r lle delfrydol i adeiladu eich dyfodol.{chwa o awyr iach}

Abertawe

96%o’n myfyrwyr yn cytuno bod Prifysgol Abertawe’n ‘lle da i fod’(Arolwg Baromedr Myfyrwyr i-graduate™, Hydref 2011)

8 9

Mae

Page 7: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

• mae ein campws wedi’i leoli ger traeth tair milltir Bae Abertawe

• mae Penrhyn Gwyr – 19 milltir o arfordir dramatig a darluniadwy – yn ddelfrydol pan fo angen saib o’r darlithoedd a’r llyfrgell

• traethau glân, arobryn – gan gynnwys pum traeth “Baner Las” – sydd wedi ymddangos ar ymgyrchoedd teledu cenedlaethol

• Cyrhaeddodd Bae’r Tri Chlogwyn rowndiau terfynol rhaglen deledu ITV “Britain’s Best View”

• Dyfarnwyd Pen Pyrod yn Rhosili “y lle mwyaf rhamantaidd i weld yr haul yn machlud yn y DU” gan ddarllenwyr cylchgrawn Country Living

• ceir brigdonni ymhlith y gorau yn y DU rownd y gornel

• mae pentref pysgota’r Mwmblws ar gyrion deheuol Bae Abertawe yn drysor go iawn – ymlaciwch mewn un o’r tafarndai poblogaidd yn y pentref neu blaswch yr hufen iâ arobryn lleol

Mae’r ardal gyfagos hefyd yn werth ei gweld. O fewn ychydig flltiroedd yn unig, gallwch ddod o hyd i:

• Sir Gaerfyrddin – “Gardd Cymru”

• “Gwlad y Rhaeadrau”– Dyffryndir Cwm Afan a Chwm Nedd

• prydferthwch gwyllt, mynyddig Bannau Brycheiniog

• cestyll canoloesol a henebion hanesyddol dirifedi

• Mae Parc Singleton yn gartref i’r penwythnos dawns blynyddol “Escape in the Park”

Agorwch eich MeddwlMae astudio yn Abertawe yn cynnig sawl cyfle i chi fwydo eich ochr greadigol a diwylliannol.

Yng nghalon ein campws mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin, lleoliad bywiog sy’n cynnal rhaglen eang o ddramâu, dawns, jazz a cherddoriaeth fyd fyw, a ffilmiau sinema. Mae Taliesin hefyd yn gartref i Oriel Ceri Richards, sy’n arddangos gwaith gan artistiaid sy’n dechrau dod i’r amlwg yn ogystal ag artistiaid sefydledig, a’r Ganolfan Eifftaidd, galeri deulawr sy’n arddangos dros fil o wrthrychau o’r Hen Aifft yn dyddio yn ôl o cyn 3,500CC i AD500.

Os hoffech grwydro oddi ar y campws, gallwch:

• ymweld â Chanolfan Dylan Thomas, sy’n cynnal Gwyl flynyddol Dylan Thomas, nosweithiau barddoniaeth cyson a pherfformiadau ar gyfer pawb

• manteisio ar Adain Gelfyddydau Theatr y Grand, Abertawe, lleoliad poblogaidd ar gyfer comedi a jazz, â dwy ardal arddangos, bar a chaffi ar y to, ac ardal berfformio 120 sedd

• archwilio Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n cadw etifeddiaeth ddiwydiannol a morwrol gyfoethog Cymru, neu amgueddfa hynaf Cymru, Amgueddfa Abertawe sy’n gartref i drysorau o orffennol Abertawe

O gwmpas y lleByddwch yn darganfod bod Abertawe a Gwyr yn cynnig y gorau o bob byd, cydbwysedd o gyffro a bwrlwm y ddinas a pharadwys naturiol o fewn tafliad carreg i’ch drws blaen. Mae ein campws wedi’i leoli yng nghanol Parc Singleton a Gerddi Botanegol Singleton, un o’r pedwar parc yn Abertawe i dderbyn gwobr “Baner Werdd” 2009. Yn 2009 enillodd tiroedd y Brifysgol eu hunain wobr aur Abertawe yn ei Blodau.

Byddwch hefyd ddim ond ychydig gamau i ffwrdd o’r môr…

11 10

Byd newydd {bywyd newydd}

Page 8: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Tra bod Abertawe yn ddinas sy’n llawn traddodiad, diwylliant a chymeriad, y mae iddi hefyd ddatblygiad glan y môr ac ardaloedd caffi modern a chosmopolitan sy’n ateb holl ofynion y boblogaeth ffyniannus o fyfyrwyr sydd yn y ddinas.

Os ydych yn byw ar neu oddi ar y campws, dydych chi byth yn bell o gyfleusterau hamdden gwych y Ddinas a’i bywyd nos byrlymus. Ceir dewis o dafarndai, clybiau a bariau ar Wind Street enwog Abertawe, mwynhewch yr awyrgylch yng nghyfadeilad hamdden £6 miliwn y ddinas, Oceana, neu ceir profiad mwy daearol yn un o’r lleoliadau cerddoriaeth fyw ardderchog – fydd hi ddim yn cymryd hir i chi deimlo’n rhan o fywyd cymdeithasol Abertawe.

Mae datblygiadau newydd o bwys, yn cynnwys yr adeilad talaf yng Nghymru, yn rhoi syniad gwirioneddol o bwrpas a gweledigaeth i’r lle, tra bod golygfeydd syfrdanol yr ardal gyfagos yn golygu y byddwch yn astudio mewn un o leoliadau mwyaf prydferth y DU.

O ran hamdden a difyrrwch, mae atyniadau lleol yn cynnwys yr LC2, cartref y Boardrider, y peiriant tonnau sefyll dwr dwfn cyntaf yn y byd. Mae Stadiwm Liberty a’i 20,000+ o seddi yn gartref i bêl-droed a rygbi proffesiynol yn y Ddinas, a hefyd yn cynnal cyngherddau roc a phop mawr.

Ac os ydych yn mwynhau ffilmiau, does dim rhaid mynd ymhellach na chyfleuster 12-sgrin o’r radd flaenaf sinema Vue a chyfadeilad Sinema Odeon, sydd â lôn bowlio deg hefyd.

Ceir hefyd:

• Canol y Ddinas a Chanolfan Siopa’r Cwadrant – cartref i ystod eang o arwerthwyr annibynnol a phrif siopau’r stryd fawr. Mae’r datblygiad diweddaraf, prosiect adwerthu gwerth £30 miliwn, yn addo hyd yn oed mwy o ddewis i siopwyr

• marchnad dan do enwog Abertawe – heb ei ail am gynnyrch ffres a bwyd môr lleol

• y prif archfarchnadoedd i gyd: Tesco, Co-op, Lidl a Sainsbury’s sydd agosaf i’r Brifysgol yng Nghanol y Ddinas

• Ty Tawe – cartref Menter Iaith Abertawe – a chanolfan sy’n hybu iaith a diwylliant Cymraeg y ddinas. Cynhelir gweithgareddau fn nos i fyfyrwyr a’r gymuned leol ac mae siop lyfrau, CDs a rhoddion Cymreig yno

• yr Ardal Forwrol – lleoliad awelog ar gyfer golygfeydd morwrol, hwylio, arddangosfeydd, tafarndai a llefydd i fwyta

• dydych chi byth yn bell i ffwrdd o unrhyw le – ceir gwasanaeth bws rheolaidd, rhwydwaith estynedig o lwybrau seiclo di-draffg, a chysylltiadau bws, rheilffordd a thraffordd da

Caffis, diwylliant {a chefn gwlad a fydd yn eich syfrdanu}

1312

Page 9: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Antur peirianneg Dr Ben Evans yw modelwr CFD y prosiect BLOODHOUND. Mae’n astudio aerodynameg y car er mwyn deall sut y bydd yn ymddwyn.

Mae ei fodelau cyfrifiannu wedi dylanwadu ar ddyluniad BLOODHOUND, gan gynnwys cyfluniad ei olwynion blaen, siâp y trwyn, a mewnlif y peiriant jet.

Mae’r gwaith o fodelu’r CFD yn parhau i fod yn un o’r prif offerynnau a ddefnyddir i ddatblygu geometreg arwynebol BLOODHOUND.

Y Car Uwchsonig BLOODHOUND yw’r car sy’n gobeithio cynyddu record presennol y byd am gyflymder ar y tir gan 30% i 1,000mya erbyn 2013. Gweledigaeth deiliaid record presennol y byd am gyflymder ar y tir, Syr Richard Noble a’r Asgell-gomander Andy Green, a aeth â’r record i 763mya yn eu car uwchsonig THRUST SSC, yw’r antur wyddoniaeth a pheirianneg bum mlynedd hon.

Prif rôl Prifysgol Abertawe ym mhrosiect BLOODHOUND yw datblygu’r dechnoleg Dynameg Hylifol Cyfrifiannol (CFD) arloesol a ddefnyddiwyd i ddylunio’r car uwchsonig THRUST SSC yn aerodynamig. Mae’r dechnoleg CFD hynny wedi’i datblygu ymhellach erbyn hyn ac wedi’i haddasu i fynd i’r afael â heriau uchelgeisiol a phenodol BLOODHOUND SSC mewn gwyddoniaeth, peirianneg a mathemateg.

{ar gyflymder o 1,000mya}

14

www.bloodhoundssc.com

15

Page 10: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn herio’r ffiniau o ran meddwl gwyddonol ac academaidd – gan ymgymryd ag ymchwil ac iddi arwyddocâd byd-eang, sy’n cyffwrdd â phob agwedd o gymdeithas, o ddiwylliant, newid hinsawdd a busnes, i beirianneg, gwyddoniaeth iechyd a lles.

Mae nifer o’n hymchwilwyr yn adnabyddus yn rhyngwladol am eu cyfraniadau i’w maes. Rydym yn arbennig o falch o’n cysylltiadau cydweithredol llewyrchus â byd diwydiant, sydd ymhlith y gorau yn y DU.

.

Mae ymchwilwyr Abertawe’n defnyddio’r dechnoleg argraffu ddiweddaraf i ddatblygu biosynhwyrydd cost isel â’r gallu i wneud diagnosisau o ystod o gyflyrau iechyd. Nod y prosiect yw gosod gwrthgyrff byw mewn inc addas y gellir eu hargraffu ar swbstrad neu ddefnydd cydnaws i greu synhwyrydd tafladwy y gellir ei fasgynhyrchu ar gost isel.

Bydd amrywiaeth o wrthgyrff wedi’u hargraffu yn cyflymu’r broses brofi gan leihau’r angen am offer arbenigol a chymhleth – mae hyn yn cyflwyno’r posibilrwydd o sganwyr electronig symudol a diagnosisau llawer cyflymach. Mae’n caniatáu i’r agwedd hon o ofal cleifion gael ei symud o’r ysbyty neu’r labordy i feddygfa’r Meddyg Teulu, gan ryddhau adnoddau

ysbyty costus ar gyfer gweithgareddau eraill. Gall hefyd fod yn amhrisiadwy mewn argyfyngau dyngarol ac mewn ardaloedd anghysbell.

Synwyryddion Biomeddygol Cost Isel

Sefydliad Ymchwil Hywel DdaMae Sefydliad Ymchwil Hywel Dda newydd Ysgol y Gyfraith yn darparu arweinyddiaeth ddeallusol a chyfeiriad ar gyfer ymchwil dan y pennawd cyffredinol ‘Cymru’r Gyfraith’, y broses lle y mae’r system gyfreithiol yng Nghymru wedi creu ei hunaniaeth gyfreithiol nodedig ei hun mewn ymateb i newid cyfansoddiadol a datganoli.

Mae rhewlifwyr Abertawe yn gweithio ar fenter pum mlynedd a ariannir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i archwilio sefydlogrwydd llen iâ’r Ynys Las ar gyfer y dyfodol. Prif ganlyniad prosiect Rhagfynegi, Sefydlogrwydd ac Esblygiad Glandir Iâ’r Ynys Las (GLIMPSE) fydd rhagfynegiadau manylach o gyfradd codiad yn lefel y môr yn y dyfodol.

Mae’r diffyg dealltwriaeth ynghylch sut y mae rhewlifau arllwyso’r Ynys Las yn newid yn golygu bod modelau’n rhagfynegi cyfradd codiad lefel y môr sy’n deillio o’r Ynys Las yn is yn rheolaidd. Bydd prosiect GLIMPSE yn helpu sicrhau y bydd y modelau hyn yn cynnig rhagfynegiadau gwell ynghylch dyfodol llen iâ’r Ynys Las.

Rhagfynegi Codiad yn Lefel y Môr

16

Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio CymruMae’r Ganolfan yn cymryd ei henw gan yr actor llwyfan a’r seren ffilm adnabyddus. Yn 2005, rhoddwyd papurau personol Richard Burton i’w cadw ym Mhrifysgol Abertawe, ac maen nhw’n ffurfio rhan ganolog o’r cyfleuster newydd, Archif Richard Burton, a agorwyd ym mis Ebrill 2010.

Mae’r Ganolfan yn cydnabod ac yn parchu’r modd y gellir ystyried, deall a gwerthfawrogi Cymru, a hefyd yn gosod Cymru mewn cyd-destunau a thrafodaethau byd-eang i geisio dod o hyd i’r fframweithiau cymharol perthnasol y gellid cymharu’r profiad Cymreig drwyddynt.

17

www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil

{gyrru potensial}Arwain y ffordd

Page 11: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

“Mudiadau mawr” Gwnaed y gyfres arloesol hon a ddangoswyd ar orsaf deledu National Geographic, yn adrodd hanes mudiadau epig gan anifeiliaid, yn bosib drwy arbenigedd tîm o ymchwilwyr yn y Brifysgol. Roedd y gwaith ffilmio ar gyfer y gyfres yn cynnwys defnyddio rhai o dagiau cofnodi data electronig chwyldroadol Grwp Tagiau Smart Abertawe, i ddilyn a dadansoddi ymddygiad anifeiliaid morol – gan gynnwys eliffantod môr, pengwiniaid, mulfrain, morfilod a siarcod – o gwmpas y byd.

Heneiddio ArloesolMae’r Ganolfan Heneiddio Arloesol yn ganolfan ryngddisgyblaethol ag enw da sy’n tyfu’n rhyngwladol am ei rhagoriaeth mewn ymchwil a hyfforddiant ym maes heneiddio. Mae’r Ganolfan yn darparu canolbwynt ar gyfer ymchwil mewn heneiddio ar draws Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, y Coleg Peirianneg a’r Coleg Meddygaeth. Mae hefyd yn gartref i’r Rhwydwaith Datblygu Ymchwil Pobl Hyn a Heneiddio, a Grwp Diddordeb

Ymchwil Strôc Cymru, ac mae ganddi gysylltiadau cryf â Rhwydwaith Ymchwil Dementia ac Afiechydon Niwro-ddirywiol Cymru.

Mae gwaith y Ganolfan wedi’i dargedu at adnabod bylchau mewn ymchwil a chreu gwybodaeth ryngddisgyblaethol newydd.

Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r ymchwil arloesol sydd ar waith ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i:

Mae ffisegwyr Abertawe’n rhan o’r tîm ALPHA (Antihydrogen Laser Physics Apparatus) wedi’i leoli yn CERN yn Genefa. Hwn oedd y tîm cyntaf i greu, dal a storio atomau gwrth-hydrogen am gyfnod digon hir i’w hastudio’n fanwl. Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol ar brif lwyddiant y tîm ym mis Tachwedd 2010, pan lwyddwyd i ddal atomau gwrthfater am y tro cyntaf.

Mae’r ymchwil wedi’i chefnogi gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a chan ariannu gan Ymddiriedolaeth Leverhulme. Nod yr ymchwil yw astudio gwrth-hydrogen a’i gymharu’n fanwl â hydrogen cyffredin, yr elfen fwyaf niferus yn y Bydysawd. Dim ond mewn arbrofion y mae gwrth-hydrogen wedi’i ffurfio erioed, ac mae’r tîm yn gobeithio dangos pam mai hyn yw’r achos.

Mae Gwrthfater yn Bwysig

1919

Mae Prosiect dwy flynedd ar y cyd rhwng Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe a byd diwydiant yn helpu datblygu cynorthwyon anadlu sy’n dynwared perfformiad ysgyfaint iach.

Bydd y prosiect yn galluogi cleifion â chlefyd yr ysgyfaint nad ydynt yn gallu symud i fwynhau ansawdd bywyd gwell. Mae’r gwaith yn adeiladu ar y rhyngweithio rhwng y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sydd wedi sefydlu Abertawe fel dinas flaenllaw yng nghyswllt deall gwaed a’i briodweddau. Wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, nod y prosiect yw datblygu prototeip o gynorthwyydd anadlu ar raddfa fach, sy’n gallu rheoleiddio’r broses o ocsigeneiddio a gwaredu carbon deuocsid yn y gwaed, mewn ymateb i wahanol anghenion metabolaidd cleifion.

Yr Ysgyfant Artiffisial

www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil

18

Page 12: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Rhagoriaeth dysgu Mae addysgu a arweinir gan ymchwil ac a yrrir gan ymarfer yn meithrin diwylliant o chwilfrydedd a dychymyg, ac yn helpu sicrhau bod graddau’r Brifysgol yn berthnasol i’r byd modern. Mae myfyrwyr yn elwa o gynnwys cyrsiau a ddylanwadir gan ddiddordebau ymchwil eu darlithwyr, a chan fodiwlau sy’n gofyn iddynt ymgymryd â phrosiectau sy’n seiliedig ar ymchwil.

Fel prifysgol a arweinir gan ymchwil, mae gan Abertawe enw da sy’n tyfu am ymgymryd ag ymchwil o safon fyd-eang ar draws sawl ardal o’i phortffolio academaidd, ond nid yw hyn yn golygu bod arbenigedd ymchwil staff yn llywio cynnwys cyrsiau yn awtomatig. Yn yr un modd, mae sawl gradd megis nyrsio, peirianneg, a’r gyfraith yn arwain at gymwysterau ymarferol, ond nid yw’r cyfleoedd a geir i droi theori yn ymarfer wastad yn rhan annatod o’r profiad addysgu a dysgu.

Mae’r Brifysgol wrthi ar hyn o bryd yn asesu enghreifftiau o gysylltiadau addysgu a arweinir gan ymchwil ac a yrrir gan ymarfer ar draws y campws er mwyn adnabod cyfleoedd i adeiladu ar arfer da presennol, ac i ddatblygu strategaethau newydd sy’n sefydlu’r cysylltiadau hyn ar draws ei phortffolio academaidd.

Cymorth gan gyrff proffesiynolMae llawer o gyrsiau’r Brifysgol wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol, yn cynnig lleoliadau ar brosiectau yn y byd diwydiant, ac yn darparu cyfleoedd i gymhwyso gwybodaeth mewn gosodiadau ymarferol. Ewch i’r wefan i weld rhai o’r achrediadau:

Cyflogadwyedd – Cynllunio ar gyfer eich DyfodolPo fwyaf cynnar yr ydych yn dechrau cynllunio ymlaen, y mwyaf parod y byddwch chi i afael yn y cyfleoedd swyddi rydych am eu cael.

Un o brif amcanion y Brifysgol yw i “baratoi a hyrwyddo cyflogadwyedd ein graddedigion”. Mae gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd rôl allweddol wrth gyflawni’r amcan hwn drwy ddarparu gwasanaethau a fydd yn gallu eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen arnoch i gael eich swydd gyntaf. Maes o law, bydd y rhinweddau hyn yn eich galluogi i reoli eich gyrfa yn y dyfodol yn effeithiol. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad diduedd gan staff Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd proffesiynol cymwysedig mewn awyrgylch cefnogol:

Adnoddau LlyfrgellMae ein llyfrgell wedi’i lleoli mewn man canolog ar y campws a cheir yno amrywiaeth eang o adnoddau i’ch helpu i gael y gorau o’ch astudiaethau. Ni hefyd sydd â’r oriau agor hiraf o blith holl lyfrgelloedd prifysgolion Cymru. Rydym ar agor am dros 110 awr yr wythnos yn ystod y tymor, gan gynnwys dyddiau Sul, ac rydym ar agor am 24 awr yn ystod cyfnodau arholiadau a thymor yr Haf. Mae gennym dros 800,000 o lyfrau, cyfnodolion, papurau newydd a deunyddiau argraffedig eraill, yn ogystal â fideos, DVDau ac amrywiaeth eang o gymwysiadau meddalwedd.

swanuni.iss

Discovery – gwirfoddoli i fyfyrwyrYdych chi am ennill sgiliau rhyngbersonol, arweinyddiaeth, cymdeithasol a mentergarwch gwerthfawr gan helpu pobl eraill i gyflawni eu potensial ar yr un pryd?

Mae Discovery yn elusen gofrestredig sydd wedi ei sefydlu ers dros 40 mlynedd. Mae ganddi gannoedd o fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau ar draws Dinas Abertawe.

Mae mentrau Discovery dan arweiniad myfyrwyr yn dod â phrofiadau a chyfleoedd newydd i rai o grwpiau mwyaf difreintiedig y rhanbarth, ac yn helpu ein myfyrwyr i werthfawrogi ac i wella’u datblygiad personol eu hunain. Am ragor o wybodaeth, ewch i:

www.swansea.ac.uk/discovery

www.swansea.ac.uk/undergraduate/careers-and-employability/accreditations

www.swansea.ac.uk/undergraduate/careers-and-employability/service

Y Campws Gwyddoniaeth ac ArloeseddBydd y campws newydd yn darparu cyfleuster ymchwil a phrofi a weithredir mewn partneriaeth â Rolls-Royce, yn ogystal â chyfleusterau addysgu ac ymchwil integredig a fydd yn gwella cyflogadwyedd ein graddedigion ymhellach drwy eu darparu â’r sgiliau a’r profiadau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

“ Rydw i’n gweithio yn y ganolfan Eifftaidd ac rydym yn ffodus iawn i’w chael hi yn y Brifysgol. Mae hi’n un

o’r prifysgolion prin yn y DU sy’n cynnig gradd

mewn Eifftoleg a chanddi amgueddfa Eifftaidd ar ei

champws hefyd.

”Isabel,

BA Eifftoleg a Hanes yr Henfyd

Rydym wrth eich ochr {bob cam o’r ffordd}

20 21

Page 13: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

gan y system graddio prifysgolion byd-eang QS Stars

Mae astudio mewn prifysgol a arweinir gan ymchwil hefyd yn golygu eich bod yn elwa o wybodaeth a sgiliau academyddion penigamp o glod rhyngwladol.

23

Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn gradd 5 seren ar gyfer ansawdd ei haddysgu

{Rhagoriaeth}Addysgu

22

Page 14: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Astudio a gweithio dramor. Pam y dylech Fynd Ymhellach...?Mae buddion astudio a gweithio dramor yn hysbys iawn:

“ Mae traean o gyflogwyr yn

ystyried graddedigion ag unrhyw

brofiad rhyngwladol dramor yn fwy

cyflogadwy. ” Adroddiad CIHE,

Graduate Employability: What do employers think and want? 2008

Mae myfyrwyr sy’n astudio neu’n gweithio dramor yn ennill sgiliau bywyd amhrisiadwy. Mae’r rhain yn cynnwys gwell ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol a byd-eang, aeddfedrwydd, hyder a’r gallu i addasu i amgylchiadau a heriau newydd.

www.swansea.ac.uk/workabroad

Gweithio dramorMae ystod o gyfleoedd ar gael i chi ennill profiad gwaith rhyngwladol. Mae’r rhain yn cynnwys:

• Lleoliadau gwaith Erasmus

• Lleoliadau Cynorthwywyr Iaith y Cyngor Prydeinig

• Swyddi Preswyl gyda chwmnïoedd rhyngwladol yn India

• Swyddi preswyl yn y Gyfraith a’r Cyfryngau yn Oklahoma, UDA

Mae argaeledd yn amrywio bob blwyddyn. Ewch i’r wefan am fanylion llawn:

Dilynwch ni ar Twitter/swanseaIDO www.facebook.com/GOFurtherSwanseaUniversity

“ Yn ystod fy astudiaethau, cefais gyfle i

fynd ar antur anhygoel i India drwy gymryd rhan

mewn rhaglen Astudio Dramor y Brifysgol. Heb os,

roedd yn uchafbwynt o’m cyfnod fel myfyriwr.

”Sara Heledd Davies,

BSc Nyrsio

I ble y gallaf fynd?Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiadau â thros gant o brifysgolion a sefydliadau partner ar draws y byd, gan gynnwys:

Awstria Canada Denmarc Y Ffindir Ffrainc

Yr Almaen Hong Kong Hwngari Yr Eidal Yr Iseldiroedd

Seland Newydd Norwy Patagonia Portiwgal Sbaen

Sweden Y Swistir UDA

www.swansea.ac.uk/gofurther

AriannuGall rhaglenni astudio a gweithio dramor mewn gwledydd Ewropeaidd hefyd fod yn gymwys am ariannu drwy’r rhaglen Erasmus. Gall ariannu fod ar gael am raglenni eraill hefyd. Gweler ein gwefan am fanylion.

Mae Prifysgol Abertawe’n cydnabod na fu gwella cyflogadwyedd ei darpar raddedigion erioed mor bwysig. Gyda chysylltiadau â thros gant o brifysgolion a sefydliadau partner mewn mannau cyffrous o amgylch y byd, ac ystod o raglenni haf a gweithio dramor, mae Prifysgol Abertawe mewn safle unigryw i gynnig cyfle i fyfyrwyr Fynd Ymhellach...

Astudio dramorBydd yr opsiynau sydd ar gael i chi’n dibynnu ar eich rhaglen radd. Gweler y wefan am fanylion:

Blwyddyn dramor: Os yw eich cynllun gradd yn cynnig blwyddyn ryngosodol dramor (cynllun gradd pedair blynedd), byddwch yn astudio mewn sefydliad partner yn eich trydedd flwyddyn.

Semester dramor: Mae rhai cynlluniau gradd yn caniatáu i chi dreulio semester dramor yn eich ail flwyddyn fel rhan o’r cynllun gradd tair blynedd.

www.swansea.ac.uk/summerprogrammes

Rhaglenni HafMae ein portffolio o raglenni haf yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill profiad gwerthfawr dramor yn ystod gwyliau’r haf. Mae rhaglenni presennol yn cynnwys rhaglenni astudio, gweithio a gwirfoddoli yn Affrica, America, Asia ac Ewrop.

Mae rhaglenni a lleoliadau’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Gweler y wefan am fanylion presennol:

Ewch ymhellach… {byd o gyfleoedd}

24 25

http://studentblogs.swansea.ac.uk

Dewch i gwrdd â’n Myfyrwyr blogioCewch flas ar y profiad o fyw ac astudio yn Abertawe

www.swansea.ac.uk/studyabroad

Page 15: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Ysgoloriaethau Mynediad ChwaraeonBob blwyddyn mae’r brifysgol yn cynnig sawl ysgoloriaeth mynediad chwaraeon i fyfyrwyr rhagorol yn eu maes chwaraeon. Mae pob ysgoloriaeth yn werth £1000 y flwyddyn ac yn adnewyddadwy dros dair blynedd.

Mae’r cynllun yn ceisio mynd i’r afael â’r sbectrwm eang o dalent sydd gan bobl ifanc mewn chwaraeon unigol a thîm. Rydym yn edrych am fyfyrwyr sy’n bodloni’r gofynion academaidd arferol ar gyfer mynediad ond sydd hefyd wedi dangos gallu eithriadol yn y maes chwaraeon o’u dewis. Yn ymarferol, o ystyried y gystadleuaeth ddwys ar gyfer y gwobrau hyn, mae hyn fel arfer yn golygu y byddant wedi cyrraedd lefel o ragoriaeth a gydnabuwyd yn genedlaethol.

I fyfyrwyr sy’n cymryd eu chwaraeon o ddifrif, mae bob amser yn braf dod o hyd i brifysgol sy’n rhannu eu hymrwymiad a’u huchelgeisiau. Ond rydym yr un mor ddifrifol am hybu chwaraeon i bawb – beth bynnag eich lefel.

Prifysgol Chwaraeon Gwirioneddol

Gêm Farsity y PrifysgolionHer Farsity Cymru yw’r digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf o blith Gemau Farsity Prifysgolion Prydain, y tu ôl i’r gêm rhwng Rhydychen a Chaergrawnt.

Yn ystod Her Farsity y Prifysgolion mae prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn dros 20 o gampau gwahanol, o bêl-fasged, rhwyfo, golff a hoci i gleddyfaeth, sboncen a Ffrisbi Eithafol. Mae’r gystadleuaeth yn cyrraedd uchafbwynt â’r gêm rygbi fawr, a chwaraewyd o flaen torf o 14,000 yng nghartref rygbi Cymru, Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn 2011.

Mae sawl myfyriwr wedi symud ymlaen i gynrychioli ac ennill contractau gyda chlybiau is-broffesiynol a phroffesiynol yn dilyn perfformiadau gwych yng Ngêm Farsity Cymru. Mae timoedd blaenorol Prifysgol Abertawe wedi cynnwys chwaraewyr rhyngwladol Cymru Alun-Wyn Jones, Richie Pugh a Dwayne Peel. Mae Abertawe wedi ennill deg allan o’r pymtheg gêm rygbi Farsity sydd wedi’u chwarae hyd yma, gydag un gêm gyfartal rhwng y ddau dîm.

Rhagoriaeth mewn ChwaraeonMae’r Brifysgol yn creu enw i’w hun fel canolfan naturiol ar gyfer rhagoriaeth mewn chwaraeon, a bydd ein cyfleusterau’n allweddol wrth helpu athletwyr i wireddu eu breuddwydion yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012, a thu hwnt.

Mae sawl athletwr Olympaidd a Pharalympaidd, yn ogystal ag athletwyr sydd wedi cystadlu ym Mhencampwriaethau’r Gymanwlad a Phencampwriaethau’r Byd wedi astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae rhai ohonynt wedi buddio o’n cynllun ysgoloriaeth “Athletwyr Elitaidd” israddedig; mae eraill wedi ehangu eu potensial o ganlyniad i’r amgylchedd cystadleuol a chefnogol yma yn Abertawe.

Pentref ChwaraeonMae ein Pentref Chwaraeon gwerth £20 miliwn yn gartref i:

• Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe – pwll nofio 50-metr a phwll “cynhesu” 25-metr

• campfa’r UniGym sydd wedi’i chyfarparu’n llawn â dros 80 o orsafoedd ffitrwydd

• canolfan hyfforddi dan do

• wal ddringo

• ystafell ffisiotherapi a chyfleusterau tylino chwaraeon

• neuadd chwaraeon amlbwrpas

• caeau rygbi

• caeau pêl-droed

• sgwariau criced

• cyrtiau tenis

• caeau pob tywydd

• cyrtiau pêl droed pump bob ochr

• cae lacrós

• trac athletau wyth lôn.

“Mae’r gêm Farsity yn ddigwyddiad enfawr bob blwyddyn sy’n denu cefnogaeth gan fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol. Mae hanes llwyddiannus Abertawe yn y gêm hyd yma yn destun i’r gwaith paratoi a’r angerdd y mae’r Brifysgol yn ei ddangos ym mhob un o gemau’r

Faristy.” Alun-Wyn Jones, chwaraewr rygbi dros Gymru a’r Gweilch

a raddiodd o Abertawe

www.swansea.ac.uk/cy/ysgoloriaethau/ysgoloriaethau-chwaraeon

26

www.welshvarsity.com

“ Rydw i wrth fy modd â bywyd yn Abertawe, fedra i ddim meddwl am unrhyw le arall yr hoffwn fod.

”Nathan, BSc Gwyddor Chwaraeonwww.swansea.ac.uk/sport/varsity

27

Page 16: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

“Symudais i Abertawe ar gyfer y rhaglen radd gymaint ag ar gyfer y cyfleusterau, ond wrth gwrs roedd hi’n ddelfrydol bod mor agos at Bwll Cenedlaethol Cymru Abertawe. Roedd y Brifysgol yn gefnogol tu hwnt wrth fy helpu i gydbwyso fy astudiaethau gyda’m hyfforddiant a’m cystadlu.

”Enillodd y nofiwr Liz Johnson Fedal Aur yn y Gemau Paralympaidd yn Beijing. Graddiodd o Abertawe mewn Rheoli Busnes a Chyllid yn 2007.

(GG) – Gemau’r Gymanwlad

Mae ein cyn-fyfyrwyr chwaraeon yn cynnwys:

• Daniel Caines – Athletau, Prydain Fawr

(Gemau Olympaidd)

• Jo Crerar – Lacrós, Lloegr

• Adrian Dale – Criced, Lloegr

• Martyn Davies – Nofio, Cymru (GG)

• Tim Dolton – Hwylio (Her y Byd)

• Tim Dykes – Golff, Cymru

• Steven Evans – Nofio, Cymru (GG)

• Renee Godfrey – Syrffio

• Victoria Hale – Nofio, Cymru (GG)

• Emma James – Hoci, Cymru (GG)

• Alun-Wyn Jones – Rygbi, Cymru a’r Llewod

• Daniel Jones – Hoci, Cymru

• Robert Howley – Rygbi, Cymru a’r Llewod

• Katherine Lenaghan – Rygbi, Merched Cymru

• Katrina Lowe – Karate, Lloegr

• Sarah Powtle – Hoci, Cymru (GG)

• Phillipa Roles – Athletau, Prydain Fawr

(Gemau Olympaidd)

• Paul Thorburn – Rygbi, Cymru

• Stephanie Watson – Nofio, yr Alban (GG)

{Chwaraeon}gosod eich her

2928

Page 17: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Lowri Tommason-JamesBSc Gwaith Cymdeithasol

Ifan JohnstonBSc Mathemateg Bur

“ Rwy’n gobeithio mynd ymlaen i fod yn athro mathemateg mewn ysgol yng Nghymru, ac felly fe fydd y radd yma, a’r cyfleoedd rwy’n eu cael i drafod y pwnc yn Gymraeg, yn help mawr imi.

“ Mae’r cwrs wedi ei gynllunio er mwyn fy nghynorthwyo i ddysgu sut mae’r byd yn gweithio, yn ogystal â rhoi’r cyfle i astudio pynciau amserol fel yr hinsawdd a thywydd, llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd a dysgu sut i ddefnyddio’r systemau cyfrifadurol diweddara.

30

“ Mae’n gampws bach a chyfeillgar. Mae’r lleoliad yn wych ac mae’n cynnig popeth. Trwy ddewis astudio rhan o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, mi dderbyniais i addysg gan ddarlithwyr gwych a roddodd well dealltwriaeth i mi o’r cyfryngau Cymraeg.

“ Fe ddewisais i ddod i Abertawe gan fod y cwrs yn un pedair blynedd, ac yn y flwyddyn gyntaf mae’r pwyslais ar wella sgiliau iaith. Mae’n galed ond rwy’n ennill mwy a mwy o hyder. Rwy wir yn mwynhau’r cwrs.

“ Wedi gweithio ym maes gofal cymdeithasol dros y chwe blynedd diwethaf, gwelais gyfle i ddatblygu fy hun yn broffesiynol. Edrychaf ymlaen at ddatblygu fy ngallu yn yr elfen ymarferol o’r cwrs trwy fy lleoliad nesaf efo’r awdurdod lleol.

Bridie Angharad MorrisBA Astudiaethau’r Cyfryngau

Madison KeepingBA Cymraeg (Ail Iaith)

“ Ar ôl dim ond blwyddyn o astudio drwy’r Gymraeg yn y Brifysgol, rydw i’n teimlo bod gen i fantais dros fyfyrwyr cyfrwng Saesneg gan fy mod i’n medru cyfeithu o Ffrangeg i Gymraeg a Saesneg ac rydw i’n gwybod y bydd y sgiliau ychwanegol hynny’n werthfawr wrth i f chwilio am swydd yn y dyfodol.

Sara Heledd DaviesBSc Nyrsio

31

“ Treuliais chwe wythnos yn Bangalore gyda thîm o fyfyrwyr o gefndiroedd academaidd gwahanol, yn dysgu am gyfleusterau iechyd ac addysg y wlad. Rhoddodd y cyfle hwn olwg amhrisiadwy i mi ar ddiwylliant a ffordd o fyw sy’n hollol wahanol.

”Gwydion Jones

BA Daearyddiaeth

Charlotte Ward BA Ffrangeg

Page 18: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Siaradir Almaeneg gan dros gan miliwn o bobl ac mae’n brif iaith i fusnes, gwyddoniaeth a’r celfyddydau. Gyda’r economi fwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn arwain y ffordd o ran mewnforio ac allforio, mae’r Almaen yn cynnig nifer o gyfleoedd i’r rheiny sy’n siarad yr iaith.

Mae astudio Almaeneg yn Abertawe yn caniatáu i chi ddatblygu eich gwybodaeth o iaith bwysig fyd eang gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, ac i ymgolli yn yr hanes a’r diwylliant cyfoethog sy’n diffinio’r Almaen, Awstria a’r Swistir.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich darparu â’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o swyddi, megis cyfieithu, dehongli a dysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol

• rhoi profiad gwerthfawr i chi o ddiwylliant arall a’r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu a sgiliau cyflwyno

Fel rhywun â gradd Iaith, bydd yr annibyniaeth, yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu y byddwch yn eu magu yn rhoi cryn fantais i chi yn y farchnad swyddi ryngwladol.

Beth yw strwythur y radd?Yn ogystal â modiwlau iaith dwys lefel uchel, rhan allweddol o’r graddau hyn yw’r cyfle i astudio modiwlau ar yr agweddau amrywiol o gymdeithas a diwylliant y gwledydd hynny lle siaredir Almaeneg.

Rhwng Lefelau Dau a Thri, byddwch fel arfer yn treulio blwyddyn mewn gwlad lle siaredir Almaeneg, naill ai fel myfyriwr yn astudio mewn prifysgol neu fel cynorthwyydd Iaith Saesneg mewn ysgol. Neu, efallai y byddwch yn awyddus i gwblhau lleoliad gwaith yn yr Almaen, Awstria neu’r Swistir.

Mae pob modiwl iaith a rhai modiwlau diwylliannol yn cael eu dysgu mewn grwpiau bychain drwy gyfrwng Almaeneg. Dysgir ein modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau rhyngweithiol, a byddwch yn cael eich annog i ddefnyddio cyfarpar ieithyddol a chyfleusterau dysgu cyfrifiadurol sylweddol ein labordai iaith.

Mae ein Canolfan Llenyddiaeth Almaeneg Gyfoes yn cynnal rhaglen Awduron Preswyl poblogaidd, sydd wedi denu rhai o awduron mwyaf enwog yr Almaen i Abertawe ac sy’n rhoi cyfle unigryw i chi gyfarfod â rhai o awduron y testunau y gallwch eu hastudio yn ystod eich gradd.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Gallwch ddewis o blith amrediad eang o fodiwlau, ac mae modd astudio llawer ohonynt drwy gyfrwng y Gymraeg:

Lefel Un• Almaeneg Iaith Uwch neu Almaeneg

Iaith i Ddechreuwyr• Cyflwyniad i Ddiwylliant Almaeneg• Ffuglen Ewropeaidd Fodern:

Testunau a Chynnwys• Gweddnewidiadau ac Addasiadau:

Ffilm Gyfoes Ewrop

Lefel Dau• Almaeneg Iaith Gyffredinol• Gweithdy Cyfieithu• Pwer a’r Personol: Hunaniaethau

Newidiol yn y Diwylliant Almaeneg Modern

• Ffasgaeth Ewropeaidd• Fienna dan y Ddaear: Golwg

Tanddaearol ar Ddinas yr Ugeinfed Ganrif

BA Anrhydedd SenglR220 u AlmaenegR2N1 u Almaeneg (gydag Astudiaethau Busnes)R2G4 u Almaeneg (gydag Astudiaethau Cyfrifiadurol)R2M9 u Almaeneg (gydag Astudiaethau Cyfreithiol)

BA Cyd-anrhydedd Almaeneg aTR72 u Astudiaethau AmericanaiddQR72 u Groeg HynafolVR12 u Hanes yr HenfydQR82 u Gwareiddiad ClasurolLR12 u EconomegQRJ2 u Astudiaethau Iaith SaesnegQRH2 u Astudiaethau Iaith Saesneg

(gydag Astudiaethau Busnes)QR32 u Llenyddiaeth SaesnegRR12 u Ffrangeg

RRC2 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau Busnes)RRD2 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR21 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)LR72 u DaearyddiaethRV21 u HanesRR23 u EidalegRRF3 u Eidaleg (gydag Astudiaethau Busnes)RRG3 u Eidaleg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR32 u Eidaleg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)QR62 u LladinPR32 u Astudiaethau’r CyfryngauLR22 u GwleidyddiaethRR24 u SbaenegRRF4 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau Busnes)RRG4 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR42 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)RX23 u TEFLQR52 u CymraegRQ25 u Cymraeg (gydag Astudiaethau Busnes)RQG5 u Cymraeg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RGF5 u Cymraeg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)

BSc Cyd-anrhydedd Almaeneg aGR12 u Mathemateg

LLB Cyd-anrhydeddMR12 u Almaeneg a’r Gyfraith

u cynllun 4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Almaeneg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os oes gennych gymhwyster Safon Uwch mewn Almaeneg neu gymhwyster Almaeneg UG gyda graddau A neu B, gallwch wneud cais i astudio ar lefel uwch. Os nad oes gennych y cymwysterau yma, ond bod gennych Safon Uwch neu safon UG mewn iaith

“ Am drydedd flwyddyn fy ngradd, cefais interniaeth deg mis yn

adran gyfieithu Siemens ym Munich. Roedd symud i wlad arall i weithio

mewn awyrgylch Almaeneg yn gam mawr, ac yn dipyn o her, ond

roeddwn i’n falch o wybod bod gen i dîm o ddarlithwyr yn Abertawe

i’m cefnogi. Roedd yr interniaeth yn brofiad ardderchog, a dwi’n

ddiolchgar iawn amdano, gan iddo agor y drws i mi weithio i Siemens

pan gefais swydd yno fel Rheolwr Cyfieithu llawn-amser ar ôl i mi

raddio. Diolch i’r berthynas hir rhwng Adran Almaeneg Abertawe a

Siemens Sprachendienst, dwi wedi cael cyfle i groesawu nifer o

israddedigion Abertawe sydd hefyd wedi dewis gwneud interniaeth

gyda Siemens ym Munich – maen nhw wastad yn dod â’r newyddion

diweddaraf o Abertawe! ” Ula Mitchell, BA Almaeneg Rheolwr Cyfieithu, Siemens

Lefel Tri• Almaeneg Iaith Gyffredinol• Diwylliannau Canu Almaeneg ym

Merlin yr Ugeinfed Ganrif• Gweithdy Cyfieithu• Traethawd Hir

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys profion dosbarth, traethodau asesedig ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

Alm

aene

g

fodern arall, efallai y bydd modd i chi ddilyn Almaeneg ar lefel ddechreuwyr.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 86% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

3332

Page 19: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“Dwi’n Ymgynghorydd Ymchwil i Russel Reynolds Associates, un

o’r pedwar cwmni mwyaf yn y byd ym maes chwilio am bobl i lenwi

swyddi uchel. Dim ond graddedigion mae Russel Reynolds yn cyflogi

i wneud ymchwil, ac felly heb fy ngradd ni fyddwn wedi cael fy nerbyn

i’r cynllun. Roedd y ffaith i mi wneud yn dda yn fy ngradd yn help

hefyd, gan eu bod yn hoffi cyflogi pobl gyda chymhelliad, ac mae’n

anodd profi hynny ar y dechrau. Hefyd, mae’r ffaith fy mod wedi

treulio blwyddyn yn astudio yn UDA o gymorth mawr yn fy

ngwaith dydd i ddydd. ” Amy Tindale, BA Astudiaethau Americanaidd

Lefelau Dau a ThriGallwch ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau mewn Astudiaethau Americanaidd, gan gynnwys:• Arweinyddiaeth Arlywyddol• Hil ac Ethnigrwydd• Rhyfel Cartref America• Iaith America – Delwedd America• Creu America’r Trawsatlantig• Diwylliant Brodorion America• Hanes Affricanaidd-Americanaidd• Ffuglen Americanaidd Gyfoes• Rhanbarth Deheuol America• Materion mewn Gwleidyddiaeth

Americanaidd• Llenyddiaeth a Diwylliant

Affricanaidd-Americanaidd• Rhyfel UDA yn erbyn Cyffuriau• Gorllewin America (h.y. Sunfighter)• Technoleg Cyfathrebu yn UDA

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau a thraethawd hir.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

BA Anrhydedd SenglT701 s Astudiaethau AmericanaiddT700 u Astudiaethau Americanaidd

BA Cyd-anrhydeddAstudiaethau Americanaidd aQT37 s Llenyddiaeth SaesnegTQ73 u Llenyddiaeth SaesnegTR71 u FfrangegLT77 s DaearyddiaethTL77 u DaearyddiaethTR72 u AlmaenegVT17 s HanesTV71 u HanesLT2R u Cysylltiadau RhyngwladolTR73 u EidalegLT27 s Gwleidyddiaeth

TL72 u GwleidyddiaethVTH7 s Hanes CymdeithasolTVR3 u Hanes CymdeithasolTR74 u SbaenegQT57 Q Cymraeg

LLB Cyd-anrhydedd Astudiaethau Americanaidd aMT17 s Y GyfraithMT1R u Y Gyfraith

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

“Rwy’n sefyll yma yn gwybod bod fy stori yn rhan o stori fwy America, bod arna i ddyled i bawb a ddaeth cyn fi, ac na fyddai fy stori i hyd yn oed yn bosib mewn unrhyw wlad arall ar y Ddaear.”

Barack Obama, Gorffennaf 2004

Mae Unol Daleithiau America yn cael effaith uniongyrchol a pharhaus ar fywydau pob un ohonom. Mae’n dylanwadu ar ein diwylliant, ein heconomi a’n hagwedd wleidyddol. Mae Astudiaethau Americanaidd yn Abertawe yn gynllun gradd eang a rhyngddisgyblaethol sy’n eich galluogi i werthfawrogi natur, diwylliant, hanes a thraddodiadau gwleidyddol UDA.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich arfogi â’r sgiliau sy’n berthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys addysgu, cyfrifeg, gweinyddu busnes, TG, y cyfryngau, y Gwasanaeth Sifil, marchnata, cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• eich darparu â’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol y cwrs hwn yw’r cyfle i archwilio agweddau tuag at UDA ledled y byd a’r rhesymau dros yr agweddau hynny, sydd felly’n rhoi persbectif rhyngwladol unigryw i chi. Mae dros 250 o fyfyrwyr Americanaidd yn astudio yn Abertawe bob blwyddyn, sydd felly’n rhoi mynediad i chi at rwydwaith parod o gysylltiadau yn ymestyn ar draws UDA.

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, wedi’u hategu gan lyfrgell sy’n llawn adnoddau gweledol. Os byddwch yn dewis un o’r rhaglenni gradd pedair blynedd, byddwch yn treulio blwyddyn dramor, yn astudio naill ai mewn Prifysgol yn America neu yn Ewrop (os dewiswch wneud Astudiaethau Americanaidd gydag iaith). Os byddwch yn dewis cynllun tair blynedd, byddwch fel arfer yn treulio’ch holl amser yn Abertawe ond bydd yr opsiwn gennych o astudio yn UDA am un semester.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel UnByddwch yn dilyn tri modiwl gorfodol sydd wedi’u cynllunio i roi cyflwyniad i chi i’r amryw ddisgyblaethau y mae Astudiaethau Americanaidd yn ymdrin â hwy:

• Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Americanaidd, o’r Cyfansoddiad i’r Arlywyddiaeth

• Diwylliant Americanaidd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a’r Ugeinfed Ganrif

• Golwg gryno ar Hanes America

Gellir dewis modiwlau opsiynol o blith ystod o fodiwlau a gynigir mewn Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol ac yn ehangach yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cynnwys Rhyfel a Heddwch yn yr Oes Niwclear, Cyflwyniad i Astudiaethau Ffilm a Phortreadau o Ryfel.

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Astud

iaethau A

me

ricanaidd

Astudiaethau Americanaidd Mae 93% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

3534

Page 20: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Mae’r byd canoloesol yn gyfnod sifalri a’r Croesgadau, cyfnod geni prifysgolion ac eglwysi cadeiriol Gothig gwych a rhai o chwedlau serch boneddigaidd pwysicaf ein hoes. Mae Astudiaethau Canoloesol yn archwilio’r etifeddiaeth gyfoethog o bron i fil o flynyddoedd o hanes a diwylliant Ewropeaidd i ddangos sut y bu i’r Canol Oesoedd lunio ein cymdeithas fodern.

Mae Astudiaethau Canoloesol yn Abertawe yn un o’r ychydig gynlluniau o’i fath ym Mhrydain ac yn cynnig safbwynt unigryw ar un o’r cyfnodau mwyaf diddorol yn hanes y gwareiddiad Gorllewinol.

Bydd y graddau hyn yn:• eich darparu â’r sgiliau angenrheidiol ar

gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys rheoli, gweinyddiaeth, dysgu, newyddiaduraeth, y gyfraith a’r gwasanaeth sifil

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• darparu llwyfan ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig

Beth yw strwythur y radd?Mae’r radd hon yn caniatáu i chi astudio amrywiaeth o themâu a phynciau yn ymdrin â bron i fileniwm (c500AD i c1500AD) ym mhrofiad hanesyddol cymdeithasau yng Ngorllewin Ewrop.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau sy’n annog trafodaethau ar themâu a phynciau allweddol. Mae’r traethawd hir y byddwch yn ei gwblhau yn Lefel Tri yn rhoi cyfle i chi ymchwilio pwnc sydd o ddiddordeb i chi. Mae rhai traethodau diweddar wedi ymdrin ag adeiladu cestyll yn Lloegr, breninesiaeth Ganoloesol a Vlad the Impaler.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel UnGallwch astudio amrywiaeth o bynciau mewn Hanes, Saesneg, y Clasuron, Ffrangeg, Eidaleg, Lladin, Sbaeneg neu yn y Gymraeg ar y cyd â thri modiwl craidd:• Ewrop Ganoloesol: cyflwyniad• Cymdeithas a dysgu yn Ewrop yr

Oesoedd Canol• Creu Hanes

Lefelau Dau a ThriGallwch ddewis o amrywiaeth o fodiwlau gan gynnwys:• Addasiadau Arthuraidd• Rhyfel a Chymdeithas yn y Byd

Eingl-Normanaidd• Fenis y Dadeni• Chaucer, Rhyw a Rhywioldeb yn yr

Oesoedd Canol• Pechod, Rhyw, y Gwrywaidd a’r

Gwrthun yn yr Oesoedd Canol• Magna Carta• Y Cathariaid a’r Croesgadau

Albigensaidd• Byw a marw yn dilyn y Pla Du yn Lloegr

Ganoloesol• Traethawd Hir

Noder y gall y modiwlau fod yn agored i’w newid.

Sut y caf fy asesu?Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs wedi’i asesu, arholiadau ysgrifenedig a thraethawd hir ar Lefel Tri.

BA Cyd-anrhydedd Astudiaethau Canoloesol aV115 s Hanes yr HenfydQVR1 s Groeg HynafolQVV1 s Gwareiddiad ClasurolQVH1 s Llenyddiaeth SaesnegRVC1 u FfrangegV130 s HanesRVH1 u EidalegQVP1 s LladinRVK1 u SbaenegQVM1 Q Cymraeg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Astudiaethau Canoloesol

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Er bod cymhwyster Safon Uwch mewn Hanes yn fantais, nid yw’n angenrheidiol. Yn yr un modd, gan fod Astudiaethau Canoloesol yn cynnwys rhywfaint o astudiaethau llenyddol, byddai Safon Uwch mewn Saesneg, Cymraeg, Eidaleg, Sbaeneg neu

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

“ Mae Abertawe yn brifysgol dda iawn ac mewn lleoliad hynod o

brydferth. Mae’r cyrsiau yn ddiddorol, mae’r darlithwyr yn wych ac

mae’r myfyrwyr yn hwyl. Mae’n anodd meddwl am brofiad gwell i

fyfyriwr – rwy’n ystyried fy hun yn hynod ffodus fy mod wedi astudio

yn Abertawe. ” Jess Ranthum, BA Astudiaethau Canoloesol

Astud

iaethau C

anolo

eso

l

Ffrangeg yn ddelfrydol, ond nid yn angenrheidiol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 90% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

3736

Page 21: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Ar ôl tair blynedd gyffrous yn cwblhau fy BA Astudiaethau’r Cyfryngau

a blwyddyn yn astudio MA Newyddiaduraeth Gymharol ym Mhrifysgol

Abertawe, mae gen i gydbwysedd da o wybodaeth ddamcaniaethol a sgiliau

newyddiaduraeth ymarferol. Mae hynny’n fy ngalluogi i fynd ati i ysgrifennu

newyddion ac erthyglau mewn modd effeithiol, ac i ddatblygu portffolio

gwaith cryf. Mae’r ymagwedd fyd-eang tuag at newyddiaduraeth yn fy helpu

i ddatblygu safbwynt ehangach o gyfryngau’r byd, a deall pwysigrwydd

technolegau cyhoeddi newydd. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn, gan fy mod

i’n gweithio bellach yn Shanghai, Tsieina, yn olygydd y we ar gyfer cylchgrawn

Time-Out. ” Claire Siobodian, BA Astudiaethau’r Cyfryngau

O’r cyfryngau print a darlledu i sinema a theledu, cyhoeddi digidol, rhwydweithio cymdeithasol, a chysylltiadau cyhoeddus, mae’r cyfryngau yn dylanwadu’n fwyfwy ar y ffordd yr ydym yn rhyngweithio â’n cymdeithas. Mae’n llunio’r ffordd yr ydym yn gweld ein hunain ac eraill, a gall fod yn arf bwerus ar gyfer newid cymdeithasol, y da a’r drwg.

Mae gan Astudiaethau’r Cyfryngau yn Abertawe olwg alwedigaethol, ddamcaniaethol a rhyngwladol eang sy’n adlewyrchu’r heriau a’r cyfleoedd yn ein byd sy’n llawn cyfryngau.

Bydd y graddau hyn yn:• eich darparu â dealltwriaeth ddofn o

hanes, theori ac ymarfer y cyfryngau, ffilm, cysylltiadau cyhoeddus a newyddiaduraeth

• eich darparu â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau ym maes y cyfryngau

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir gan gyflogwyr gan gynnwys y cyfryngau newydd, gweithio mewn tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a sgiliau dadansoddi

• rhoi mantais gystadleuol i chi ym marchnad swyddi a diwydiannau heddiw

Beth yw strwythur y radd?Mae gan ein gradd BA Anrhydedd Sengl Astudiaethau’r Cyfryngau flwyddyn sylfaen gyffredinol ac mae’n ymgorffori llwybrau gwahanol yn y cyfryngau, ffilm, cysylltiadau cyhoeddus, newyddiaduraeth a chyfryngau ymarferol ar Lefelau Dau a Thri, gan eich galluogi i addasu eich gradd at eich anghenion, eich diddordebau a’ch dyheadau eich hun.

Mae’r radd hon yn darparu rhaglen gyfunol o hanes, theori ac ymarfer sy’n ymgorffori sgiliau a thechnegau sy’n berthnasol i’r diwydiannau cyfryngau, ffilm a chysylltiadau cyhoeddus modern.

Yn ogystal â chael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a thiwtorialau grwpiau bychain, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol, gweithdai, a dysgu ar-lein. Yn lefel Tri, byddwch yn cwblhau traethawd hir, a fydd yn rhoi cyfle i chi archwilio’r pwnc sydd o ddiddordeb mwyaf i chi.

Yn dibynnu ar y radd yr ydych yn ei dewis, mae’n bosib y bydd cyfle i chi hefyd arddangos eich sgiliau mewn ymarfer cyfryngau, er enghraifft drwy ddylunio gwefan, gwneud fideo, neu gyflwyno portffolio newyddiaduraeth. Gall y radd hefyd gynnwys lleoliadau gwaith cystadleuol.

Yn ogystal, mae llwybrau’r BA mewn Astudiaethau’r Cyfryngau yn eich darparu â’r opsiwn clir o symud ymlaen i MA naill ai yn y Cyfryngau Digidol, Ffilm Ewropeaidd, Newyddiaduraeth Gymharol neu Ymarfer Proffesiynol y Cyfryngau.

Ceir manylion llawn ar ein gwefan.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Cyflwyniad i Gyfathrebu yn y Cyfryngau• Datblygiad Ffilm a Sinema• Cymdeithas Cymru Gyfoes• Cyflwyniad i Gysylltiadau Cyhoeddus• Cyfathrebu ac Ymarfer Creadigol• Cyfryngau Ddoe ac Heddiw • Hanes Propaganda• Ffilm Ewropeaidd Gyfoes

Lefel Dau• Damcaniaethu’r Cyfryngau• Sgriptio Ffilmiau • Sgiliau Cyfryngau Ymarferol• Creu a Chyflwyno Testunau• Y Diwylliant Gweledol ac Astudiaethau’r

Cyfryngau • Damcaniaeth Cysylltiadau Cyhoeddus• Ymarfer Cysylltiadau Cyhoeddus• Hanes Animeiddio’r Sgrin • Testunau Trawsgyfryngol• Cyfryngau a Chymdeithas• Rhyfel a Gwrthdaro mewn Ffilm

Ewropeaidd

BA Anrhydedd SenglP300 s Astudiaethau’r Cyfryngau

BA Cyd-anrhydedd Astudiaethau’r Cyfryngau aPQ91 s Iaith Saesneg QP33 s Llenyddiaeth SaesnegPR31 u FfrangegPR32 u AlmaenegPR33 u EidalegL220 u GwleidyddiaethPR34 u SbaenegQP53 Q Cymraeg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Astudiaethau’r Cyfryngau

• Darllen y Sgrin: Syniadau a Syniadaethau ar y Sgrin

• Busnes ac Entrepreneuriaeth• Y Cyfryngau Newydd

Lefel Tri• Paratoi ar gyfer y Traethawd Hir• Traethawd hir• Iaith a’r Cyfryngau• Drama a Dogfen ar y Sgrin• Newyddiaduraeth Ar-lein • Strategaeth, Marchnata a Brandio• Llofnodi’r Sgrin: Awduriaeth Ffilm a

Theledu• Ffilm a Theledu Cyfoes• Cynhyrchu Radio• Creu Fideo• Athroniaeth Ddigidol: Gwreiddiau’r

Rhithwir

Noder y gall y modiwlau fod yn agored i’w newid.

Yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion cyflogwyr yn y diwydiant yng Nghymru, rydym yn cynnig ystod o fodiwlau yn y Cyfryngau a gaiff eu rhestru uchod, a gaiff eu dysgu a’u hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfle hefyd i chi gyflawni traethawd hir trwy’r Gymraeg a derbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg. At hynny, cynigir cyfleoedd profiad gwaith gwych a

gweithdai meistr gydag arbenigwyr o’r diwydiant.

Sut y caf fy asesu?Caiff eich cynnydd ei fonitro a’i asesu drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau, arholiadau ysgrifenedig, ymarfer y cyfryngau, cyfraniadau i seminarau, prosiectau grwp, dylunio gwefannau, cyflwyniadau, cyfraniadau ar-lein, traethawd hir ac adolygiadau ffilm beirniadol.

Seilir oddeutu 60 y cant o ddosbarthiad eich gradd derfynol ar y gwaith cwrs y byddwch yn ei gwblhau yn ystod eich astudiaethau.

Astud

iaethau

’r Cyfryng

au

Mae 91% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

3938

Page 22: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglVLM5 s Athroniaeth, Gwleidyddiaeth a’r

Gyfraith

s cynllun 3 blynedd

Athroniaeth, Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith (PPL)Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Mae’r BA mewn PPL yn seiliedig ar, ac wedi’i datblygu o, radd hir sefydledig Abertawe mewn PPE, Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg. Mae PPL yn datblygu’r gallu i ddeall sylfeini a chymhwyso meddwl athronyddol, gwleidyddol a chyfreithiol i broblemau’r byd heddiw. Mae PPL yn darparu cyflwyniad integredig i athroniaeth, gwleidyddiaeth a’r gyfraith fodern, o Weriniaeth Plato hyd at argyfwng diweddaraf cyfalafiaeth fyd-eang a’r her i ddiogelu Hawliau Dynol a Sifil.

Mae gradd PPL Abertawe – un o ddim ond tair yn y DU – wedi’i dylunio i ddarparu’r offer dadansoddol sydd ei angen i wella’ch dealltwriaeth o brif draddodiadau meddwl gwleidyddol, cyfreithiol ac athronyddol.

Bydd y radd hon yn:

• eich helpu i ddatblygu gwerthfawrogiad o feddwl a dadansoddi gwleidyddol; o ddulliau a hanes athroniaeth; ac o gyfraith gyfansoddiadol, cyfraith trosedd a chyfraith yr UE, a dealltwriaeth o ryngberthnasau gwleidyddiaeth, athroniaeth a’r gyfraith

• eich darparu â’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn ystod o feysydd amrywiol, gan gynnwys llywodraeth a gwleidyddiaeth ryngwladol, ganolog a lleol, gwasanaethau cyhoeddus, addysgu, a’r cyfryngau

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• eich darparu â’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol o’r radd arloesol hon yw’r cyfle i archwilio a gwerthuso prif draddodiadau meddwl athronyddol, gwleidyddol a chyfreithiol, eu hymddangosiad a’u datblygiad dilynol, a’r rhyngweithio hanfodol a’r rhyngberthnasau sydd rhyngddynt.

Cewch eich addysgu yn bennaf drwy ddarlithoedd a seminarau grwpiau bach, ac yn ystod Lefel Tri bydd cyfle gennych i gwblhau traethawd hir ar bwnc o’ch dewis, neu interniaeth yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel UnByddwch yn dilyn chwe modiwl gorfodol, a fydd yn darparu sail gadarn mewn:• Athroniaeth• Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Etholiadol• Gwleidyddiaeth Ryngwladol• Cyfraith Gyhoeddus• Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd

Lefel DauByddwch yn dilyn tri modiwl sylfaenol ac integredig gorfodol: • Materion Sylfaenol mewn Athroniaeth

Foesol• Gwleidyddiaeth Brydeinig a Pholisi

Cyhoeddus• Cyfraith Trosedd

Byddwch hefyd yn dewis opsiynau o blith ystod eang o fodiwlau, sy’n caniatáu i chi astudio agweddau arbennig o wleidyddiaeth, y gyfraith ac athroniaeth mewn mwy o ddyfnder. Mae’r rhain yn cynnwys pynciau megis:• Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Prydain

ac America• Anarchiaeth a Threfn: Materion yng

Ngwleidyddiaeth y Byd• Hil-laddiad• Economi Gwleidyddol Byd-eang: o

Fercantiliaeth i Neo-ryddfrydiaeth• Hanes Meddwl Gwleidyddol

“ Fel rhan o’m cwrs cefais gyfle unigryw i ddewis modiwl lleoliad

gwaith yn gweithio gyda Chynulliad Cymru, a oedd yn gyfle i mi gael

cipolwg ‘tu ôl i’r llenni’ ar wleidyddiaeth Cymru; roedd hi’n brofiad

ardderchog – ac eithaf dadlennol! ” Jo Edwards, BA Gwleidyddiaeth

Athro

niaeth, G

wle

idyd

diae

th a’r Gyfraith (PPL

)

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

• Sylfaenwyr Athroniaeth Fodern: Descartes i Kant

• Athroniaeth Foesol• Penderfyniadau a Chyfrifoldeb:

Y Dewis Trasig• Gweriniaeth Plato • Gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol

a De Asia• Pwer• Cyfraith Teulu• Cyfraith Hawliau Dynol y DU• Materion Cyfreithiol mewn Gofal

Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol

Lefel TriMae’r opsiynau’n cynnwys pynciau megis:• Athroniaeth y Gwyddorau

Cymdeithasol• Athroniaeth Crefydd a Gwyddoniaeth• Athroniaeth Gymhwysol• Athroniaeth Ddigidol• Gweledigaethau Democratiaeth• Y Gyfraith, Cyfiawnder, Awdurdod a

Chymdeithas• Globaleiddio• Astudiaethau Diogelwch Cyfoes• Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Gofod • Gwleidyddiaeth a Datblygu

Rhyngwladol• Economi Gwleidyddol Cyfoes• Cymdeithaseg y Gyfraith• Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol• Cyfraith Amgylcheddol

• Cyfraith Hawliau Dynol y DU• Cyfraith Teulu• Terfysgaeth: yr ymateb cyfreithiol• Ymddygiad Gwrthgymdeithasol:

Cyfraith, Polisi ac Ymarfer• Cyfraith Chwaraeon

Sylwer y gall modiwlau fod yn agored i’w newid.

Sut y caf fy asesu?Er mwyn i chi elwa gymaint â phosib o’ch cwrs gradd, caiff eich cynnydd ei fonitro a’i werthuso drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, arholiadau ysgrifenedig, gwaith tîm a chyflwyniadau.

Mae 93% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

4140

Page 23: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL0V0 s ■ Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac

Economeg

s cynllun 3 blynedd

Prin y bu’r gallu i ddeall sylfeini a chymhwyso meddwl athronyddol, gwleidyddol ac economaidd erioed mor bwysig. Mae PPE yn darparu cyflwyniad integredig i athroniaeth fodern, gwleidyddiaeth ac economeg o Weriniaeth Plato i’r argyfwng diweddaraf mewn cyfalafiaeth fyd eang a chynnwrf economaidd.

Mae gradd PPE Abertawe – y cyntaf yng Nghymru – wedi’i dylunio i ddarparu’r offer dadansoddol sydd ei angen i wella’ch dealltwriaeth o brif draddodiadau meddwl gwleidyddol, economegol ac athronyddol.

Bydd y radd hon yn:• eich helpu i ddatblygu gwerthfawrogiad

o ddulliau meintiol ac economeg, a dealltwriaeth o’r berthynas rhwng gwleidyddiaeth, athroniaeth ac economeg

• eich darparu â’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn ystod o feysydd amrywiol, gan gynnwys llywodraeth a gwleidyddiaeth ryngwladol, ganolog a lleol, gwasanaethau cyhoeddus, rheoli busnes, addysgu, a’r cyfryngau

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• eich darparu â’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol o’r radd arloesol hon yw’r cyfle i archwilio a gwerthuso prif draddodiadau meddwl athronyddol, gwleidyddol ac economegol, eu hymddangosiad a’u datblygiad dilynol, a’r rhyngweithio hanfodol a’r rhyngberthnasau sydd rhyngddynt.

Byddwch yn cael eich dysgu yn bennaf drwy gyfrwng darlithoedd a grwpiau seminar bach, ac yn ystod Lefel Tri bydd cyfle i chi gwblhau traethawd hir neu swydd breswyl gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel UnByddwch yn dilyn cyfuniad o fodiwlau gorfodol a modiwlau dewisol, fydd yn rhoi sylfaen cryf mewn:• Athroniaeth• Llywodraeth a Gwleidyddiaeth

Etholiadol• Gwleidyddiaeth Ryngwladol• Dulliau Meintiol• Ystadegau• Theori Meicro/macro-economaidd

Lefel DauByddwch yn dilyn tri modiwl sylfaenol ac integredig gorfodol:• Sylfaenwyr Athroniaeth Fodern:

Descartes i Kant• Micro-economeg Ganolradd• Economeg Wleidyddol Fyd-eang:

o Fercantiliaeth i Neo-ryddfrydiaeth

Byddwch hefyd yn dewis opsiynau o ystod eang fodiwlau, sy’n caniatáu i chi astudio agweddau arbennig o wleidyddiaeth, economeg ac athroniaeth mewn mwy o ddyfnder. Mae’r rhain yn cynnwys pynciau megis:• Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Prydain

ac America• Anarchiaeth a Threfn: Materion yng

Ngwleidyddiaeth y Byd• Hil-laddiad• Hanes Meddwl Gwleidyddol• Athroniaeth Foesol• Penderfyniadau a Chyfrifoldeb: Y Dewis

Trasig• Gweriniaeth Plato• Macro Economeg Ganolradd• Masnach• Economeg Ddatblygu• Economeg yr UE

Lefel TriMae’r opsiynau’n cynnwys pynciau megis:• Athroniaeth y Gwyddorau Cymdeithasol

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os nad oes gennych gymhwyster Safon Uwch mewn Economeg a/neu Fathemateg, byddwch, yn Lefel 1, yn dilyn modiwlau Economeg a Dulliau Meintiol gwahanol yn ôl eu trefn, er mwyn eich paratoi i astudio Economeg ymhellach yn Lefel 2.

Athro

niaeth, G

wle

idyd

diae

th ac Econo

me

g (PPE

)

• Athroniaeth Crefydd a Gwyddoniaeth• Athroniaeth Gymhwysol• Athroniaeth Ddigidol• Gweledigaethau Democratiaeth• Y Gyfraith, Cyfiawnder, Awdurdod a

Chymdeithas• Globaleiddio• Astudiaethau Diogelwch Cyfoes• Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Gofod• Gwleidyddiaeth a Datblygu

Rhyngwladol• Economeg Wleidyddol Gyfoes• Dadansoddi Economeg Estynedig• Economeg Ariannol• Economeg Fathemategol• Economeg Gymhwysol• Masnach Ryngwladol• Economeg Lafur• Dewis Cyhoeddus• Polisi Ariannol

Sylwer y gall modiwlau fod yn agored i’w newid.

Sut y caf fy asesu?Er mwyn i chi elwa gymaint â phosib o’ch cwrs gradd, caiff eich cynnydd ei werthuso drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, arholiadau ysgrifenedig, gwaith tîm a chyflwyniadau.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“ Mae astudio PPE yn Abertawe wedi bod yn brofiad syfrdanol.

Mae cynnwys y pwnc yn amrywiol ac yn ddiddorol, ac er y gall y

llwyth gwaith fod yn drwm ar adegau, mae’r persbectif gwahanol a

geir o bob pwnc yn amhrisiadwy. Mae’r tri phwnc yn rhyngweithio

ac yn cyfuno i roi dealltwriaeth fwy dwys a mwy cyflawn o faterion

mewn modd unigryw, sydd yn aml yn arwain myfyrwyr PPE i farn

newydd ac arloesol. Mae’r darlithwyr yn hynod o frwd am eu pwnc

a bob amser yn hapus i siarad a chynorthwyo gydag unrhyw

broblemau. Mae’r rhaglen yn darparu dewis ardderchog o fodiwlau

sy’n eich caniatáu i’w theilwra i’ch diddordebau penodol. Os ydych

yn fodlon gweithio’n galed, mae gan PPE lawer i’w gynnig, ac mae

Abertawe’n lle gwych i’w astudio. Mae’r opsiwn am interniaeth yn y

Cynulliad Cenedlaethol yn unigryw i Abertawe, ac yn amhrisiadwy i

unrhyw fyfyriwr sy’n astudio gyrfa wleidyddol. Mae’r lleoliad yn

wych gyda thraeth trawiadol; bywyd cymdeithasol heb ei ail, a

Gwyr gerllaw. Byddwn yn argymell Abertawe i bawb, a PPE i bawb

sydd â diddordeb o ddifrif yn y berthynas rhwng cenhedloedd, grym,

pobl, ac adnoddau. ” Joe Wilson, BA Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg

Mae 93% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (PPE)

4342

Page 24: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Roedd y prosiect ymchwil biocemeg yn gyfle gwych i mi ddatblygu fy

hun, a dysgu mwy am gymhlethdodau biocemeg ac i baratoi ar gyfer gyrfa

yn y dyfodol mewn gwyddoniaeth ac ymchwil. ” Alun Newsome, BSc Biocemeg Feddygol

Mae Biocemegwyr a Biocemegwyr Meddygol yn datblygu syniadau a chynhyrchion newydd sy’n cael eu cymhwyso i’r sialensiau iechyd mwyaf yr ydym yn eu hwynebu heddiw. Maent yn gweithio mewn ystod eang o ddiwydiannau, gan gynnwys meddygaeth, amaethyddiaeth, cynhyrchion fferyllol, gwyddor fforensig a milfeddygaeth. Mae Biocemegwyr yn ein helpu i ddeall proses bywyd ei hun.

Mae Biocemeg, sef astudio sut mae celloedd yn gweithio ar y lefelau moleciwlaidd ac is-foleciwlaidd, wedi’i disgrifio fel sylfaen meddygaeth fodern. Cyfeirir ati hefyd fel bioleg gemegol, bioleg celloedd moleciwlaidd a bioleg y gell fyw.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi i weithio mewn meysydd megis ymchwil canser, datblygu cyffuriau a datblygu cnydau ac agrocemegau newydd

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach sy’n eich galluogi i ymgymryd â swyddi ymchwil ym myd diwydiant

• eich arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth i weithio yn y diwydiannau fferyllol, biotechnoleg, agrocemegol a bwyd

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Bydd y radd mewn Biocemeg Feddygol yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa mewn labordai meddygol, y diwydiant fferyllol neu ar gyfer mynediad i raddedigion i Feddygaeth.

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a grwpiau trafod, a ategir gan ddosbarthiadau ymarferol. Gallwch hefyd ddefnyddio’r pecynnau hunan-ddysgu a meddalwedd efelychu sy’n rhoi profiad i chi o dechnegau na fyddant fel arfer ar gael ar lefel israddedig.

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil dan oruchwyliaeth gwyddonydd ymchwil proffesiynol. Trwy weithio fel ymchwilydd annibynnol, byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiectau effeithiol ac yn derbyn hyfforddiant i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Gallwch ddewis o blith ystod o fodiwlau’n ymwneud â phynciau sy’n perthyn i gryfderau ein staff mewn biocemeg foleciwlaidd, biocemeg famalaidd a biocemeg ficrobaidd.

Os byddwch yn dewis astudio Biocemeg Feddygol, byddwch yn elwa ar arbenigedd staff yn y Coleg Meddygaeth. Byddwch hefyd yn dilyn modiwlau mewn pynciau arbenigol ym maes mecanweithiau moleciwlaidd afiechydon a geneteg feddygol.

Lefel Un• Geneteg a Phrosesau Esblygu• Egni a Metaboledd: Adweithiau Bywyd • Macromolecylau: Ffurf a Swyddogaeth• Rheolaeth Fetabolaidd a Ffisioleg

Foleciwlaidd• Datblygu Sgiliau Biocemegol• Cemeg Bywyd• Cemeg Organig Ragarweiniol• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Cemeg Organig Grwpiau

Swyddogaethol• Strwythur Atomig a Chyfnodoldeb

Cemegol• Bioleg Celloedd a Microbaidd

BSc Anrhydedd SenglC700 s BiocemegC741 s Biocemeg Feddygol

BSc Cyd-anrhydeddCC47 s Biocemeg a Geneteg

s cynllun 3 blynedd

Y Coleg Meddygaeth

Biocemeg Feddygol a Biocemeg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/medicine/BScProgrammes

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295668

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Bydd angen cymhwyster safon uwch mewn Cemeg arnoch ac o leiaf un pwnc gwyddoniaeth arall, Bioleg fel arfer.

Cynhwysir y graddau hyn yn y pynciau blaenoriaeth ar gyfer bwrsariaethau ychwanegol yn seiliedig ar incwm – gweler tudalen 196.

Bio

cem

eg

Fed

dyg

ol a B

ioce

me

g

Byddwch yn datblygu sgiliau a phrofiad mewn dulliau dadansoddol, prosesu data, ac ysgrifennu adroddiadau trwy ddysgu’n seiliedig ar gyfrifiaduron a dosbarthiadau ymarferol cysylltiedig.

Lefel Dau• Metaboledd Carbohydrad a

Glycobioleg• Technegau Biocemegol• Metaboledd Asid Brasterog a

Therpenaidd• Biocemeg a Ffisioleg Glinigol• Sbectrometreg Mas Biomoleciwlaidd a

Dadansoddi Proteomig• Rheoli Metabolaidd: Ensymau a

Throsglwyddo Signalau• Datblygu Sgiliau Biocemeg II• Technegau Moleciwlaidd• Geneteg Ddynol a Meddygol• Geneteg Ficrobaidd• Mynegiant Genynnau• Mecanwaith Moleciwlaidd Afiechydon

a Diagnosteg• Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg

Mae dosbarthiadau ymarferol yn eich galluogi i ymestyn y sgiliau a enillwydar Lefel Un ac i ddatblygu cymwyseddau newydd.

Lefel Tri• Prosiect Ymchwil Biomoleciwlaidd• Biocemeg Cynnyrch Naturiol• Pilennau a Throsi Egni• Asidau Niwclëig: Cydrannau,

Metaboledd ac Addasu• Cludo drwy Pilenni• Agweddau ar Fiocemeg Synhwyraidd

Ddynol a Metabolaidd • Trin Genynnau• Datblygiad Anifeiliaid • Geneteg Feddygol• Biotechnoleg a Pheirianneg Proteinau• Mwtaniadau ac Iechyd Dynol• Geneteg Canser• Adolygiad o Lenyddiaeth Fiocemeg

a Chyfathrebu

Gradd Gyd-anrhydedd mewn Biocemeg a GenetegMae’r radd gyd-anrhydedd Biocemeg a Geneteg yn cynnig modiwlau o’r naill radd Anrhydedd Sengl ac yn ymdrin ag amrywiaeth ehangach o bynciau ym meysydd biocemeg, geneteg a bioleg foleciwlaidd. Mae wedi’i bwriadu er mwyn arddangos agweddau’r ddwy ddisgyblaeth sy’n gorgyffwrdd.

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, aseiniadau a gwaith ymarferol. Mae’r prosiect y byddwch yn ei gwblhau yn Lefel Tri yn rhan bwysig o’r rhaglen radd sy’n eich cynorthwyo i gael profiad gwerthfawr o greu, cynllunio a rhoi prosiect ymchwil ar waith.

Mae 82% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

4544

Page 25: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB neu gyfwerth, gan gynnwys Bioleg

Bagloriaeth Ryngwladol: 33, gan gynnwys 5 mewn Bioleg ar Lefel Uwch

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: http://www.swansea.ac.uk/biosci/

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295720

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

BSc Anrhydedd SenglC104 s BiolegC100 s Gwyddorau Biolegol (gan ohirio’ch

dewis o arbenigedd)

BSc Cyd-anrhydedd Gwyddorau Biolegol aCL17 s Daearyddiaeth

Am raddau perthynol, gweler Bioleg y Môr (tudalen 48) a Swoleg (tudalen 152).

s cynllun 3 blynedd

“ Wedi ennill gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Bioleg yn

2010, rydw i nawr yn gweithio fel Cynorthwyydd Ymchwil yn y labordy

microbioleg yn Zoobiotic lle rydw i’n gyfrifol am brofi cynnyrch. Mae’n

swydd heriol ond roeddwn yn barod iawn amdani oherwydd roedd fy

nhraethawd hir yn cynnwys meithrin cynrhon a phrofi eu secretiadau

pwysig o safbwynt meddygol. ” Mark Martin, BSc Bioleg

Cynorthwyydd Ymchwil, Zoobiotic Ltd

Mae Biolegwyr yn rhannu diddordeb yn y byd naturiol, p’un ai a ydynt yn ceisio deall y grymoedd sy’n penderfynu sut mae cell yn datblygu, y ffyrdd y mae organebau’n rhyngweithio â’u hamgylcheddau, neu gymhlethdodau’r genom dynol.

Mae graddau Abertawe mewn Bioleg a Gwyddorau Biolegol yn rhoi’r hyblygrwydd i chi astudio organebau byw yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi.

Bydd y radd hon yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfa â chanolbwynt ar waith maes a/neu waith labordy mewn meysydd yn cynnwys addysg, cadwraeth, monitro amgylcheddol, amaethyddiaeth ac ymchwil prifysgol

• rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o organebau byw a’r ffordd y maent yn rhyngweithio â’r amgylchedd

• eich darparu â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer adnabod rhywogaethau a chynnal arolygon amgylcheddol

• eich darparu â hyfforddiant arbenigol a’r sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr posibl yn chwilio amdanynt

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a grwpiau trafod, a ategir gan ddosbarthiadau ymarferol a chyrsiau maes poblogaidd. Byddwch hefyd yn elwa ar gael cyfleusterau addysgu ardderchog ar gyfer astudiaethau ecolegol, ffisiolegol a moleciwlaidd.

Bydd astudiaethau maes yn caniatáu i chi weithio mewn cyfoeth o gynefinoedd lleol o ansawdd ardderchog megis ecosystemau arfordirol morol, amgylcheddau dwr croyw / tir gwlyb a chynefinoedd tirol ysblennydd Penrhyn Gwyr, ardal genedlaethol o harddwch naturiol eithriadol.

Mae ein Labordy Dysgu newydd yn gyfleuster sydd wedi’i ddiweddaru’n sylweddol i ddysgu lefel uwch o sgiliau a thechnegau labordy trosglwyddadwy, ac mae’n gallu dal 150 o fyfyrwyr; Mae’n cynnwys ystod lawn o gyfarpar clyweledol sy’n gallu darlledu i sawl sgrin plasma o ffynonellau amrywiol gan gynnwys microsgopau, cyfrifiaduron, chwaraewyr

Fideo/ DVD, ac unedau delweddu/camera.

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar waith maes, gwaith labordy neu waith sy’n bur ddadansoddol. Gan ddibynnu ar natur eich prosiect, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm neu fel ymchwilydd annibynnol. Wrth wneud hyn, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau a gwaith tîm a chewch eich hyfforddi i lunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Byddwch yn elwa o gyfleusterau addysgu gwych, gan gynnwys:• labordai addysgu, ymchwil a TG• ystod helaeth o offer dadansoddi

modern• cyfleusterau meithrin arbenigol ar gyfer

amrywiaeth o organebau• ystafelloedd tymheredd cyson ac

ystafelloedd tyfu eraill, acwaria, a thai gwydr

• yr Amgueddfa Swolegol• llong ymchwil arfordirol 12.5m a

ddyluniwyd yn arbennig, yr RV Noctiluca

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?I ddechrau, rydym am i chi ennill elfennau angenrheidiol hyfforddiant ac addysg fiolegol eang a fydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i feysydd mwy arbenigol ar Lefelau Dau a Thri. I sicrhau hyn, mae’r cwrs Lefel Un yn cynnig modiwlau penodol yn bennaf. Yna, ar Lefelau Dau a Thri mae’r cwrs yn cynnig rhai modiwlau opsiynol sy’n eich galluogi i addasu’ch profiad dysgu. Mae’r modiwlau presennol yn cynnwys:

Lefel Un• Sgiliau Ysgrifennu Gwyddoniaeth a

Gyrfaol• Sgiliau Gwyddonol i Wyddonwyr

Biolegol• Cemeg Bywyd• Amrywiaeth, Ffurf, a Swyddogaeth

Anifeiliaid• Planhigion ac Algâu – Amrywiaeth,

Ffurf a Swyddogaeth• Bioleg Gellog a Microbaidd• Cyflwyniad i Ecoleg ac Ymddygiad• Geneteg a Phrosesau Esblygiadol

Lefel Dau

• Sut i Ymchwilio yn y Gwyddorau Biolegol

• Ecoleg Foleciwlaidd• Adolygiad Llenyddiaeth Fiolegol

• Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg• Infertebrata Tirol a Pharasitiaid

• Fertebrata

• Ymddygiad Anifeiliaid mewn Cadwraeth a Lles

• Ecoleg Forol Arfordirol

• Cefnforeg

• Plancton Morol ac Infertebrata Cefnforol

• Geneteg Ddynol a Meddygol• Biocemeg a Ffisioleg Glinigol

Lefel Tri

• Prosiect Ymchwil Bioleg

• Cwrs Maes Ecoleg Dirol NEU Gwrs Maes Ecoleg Anifeiliaid

• Adolygiad Llenyddiaeth mewn Bioleg

• Ymchwil gyfredol mewn Bioleg – mae’r holl aelodau staff yn cyflwyno modiwl ar eu diddordebau ymchwil penodol eu hun (ar ystod o bynciau) y byddwch yn dewis pump o’u plith ar gyfer asesu

Yn ogystal, yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion cyflogwyr yng Nghymru, mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cael ei chynnig yn y biowyddorau ar Lefel 1 gyda’r ddarpariaeth honno yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cyfle

hefyd i chi dderbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg.

Gwyddorau Biolegol gan ohirio’ch dewis o arbenigeddOs ydych yn ansicr pa radd yr ydych am ei hastudio, gallwch ddewis gohirio dewis eich cynllun gradd tan ddiwedd Lefel Un. Y cynlluniau sydd ar gael yw Bioleg, Swoleg a Bioleg y Môr.

Am ragor o fanylion, gweler Bioleg y Môr (tudalen 48), a Swoleg (tudalen 152).

Graddau Cyd-anrhydeddOs byddwch yn dewis y radd Daearyddiaeth a’r Gwyddorau Biolegol, byddwch yn gallu manteisio ar gryfderau staff yn y gwyddorau biolegol a daearyddiaeth ffisegol.

Am ragor o wybodaeth, gweler Daearyddiaeth (tudalen 60).

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs a phrosiect ymchwil ymarferol.

Y Coleg Gwyddoniaeth

Bio

leg

a’r Gw

ydd

orau B

iole

go

l

Bioleg a’r Gwyddorau Biolegol Mae 89% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (Data HESA 2009-10)

4746

Page 26: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Mae gan iechyd ein cefnforoedd ddylanwad uniongyrchol ar iechyd ein planed. Drwy astudio’r bywyd yn ein moroedd, ein haberoedd a’n gwlyptiroedd, mae biolegwyr y môr yn medru diogelu bioamrywiaeth y byd a diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl. Maent hefyd yn helpu i ddatblygu ffynonellau cynaliadwy o fwyd y môr a ffynonellau ynni amgen.

Mae Bioleg y Môr yn Abertawe yn gwrs hynod ymarferol. Lleolir y Brifysgol mewn lle delfrydol ar gyfer gwaith maes bioleg y môr a gwaith ar gwch – mae Penrhyn Gwyr cyfagos yn cynnig amrywiaeth o gynefinoedd i’w hastudio, o draethau caregog agored a chlogwyni serth i faeau cysgodol a thwyni tywod, morfeydd heli ac aberoedd morydol.

Bydd y radd hon yn:• eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn

ymchwil y môr, ymgynghori amgylcheddol, a chadwraeth

• rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o organebau’r môr a’u perthynas â’r amgylchedd

• eich galluogi i ennill gwerthfawrogiad o effaith a dylanwad organebau’r môr ar newid hinsawdd byd-eang

• darparu gwybodaeth i chi am agweddau masnachol o fioleg y môr, megis asesu effaith amgylcheddol a dyframaeth

• eich galluogi i ddatblygu sgiliau gwaith maes ac ar gwch

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau a grwpiau trafod, a ategir gan ddosbarthiadau ymarferol. Byddwch yn datblygu sgiliau fel biolegydd maes drwy gyflawni gwaith cwch ar ein cwch ymchwil, yr RV Noctiluca, a gwaith maes ar lannau lleol.

Pan fyddwch yn mynychu cwrs maes preswyl ar Ynys Cumbrae, yn yr Alban, byddwch yn derbyn hyfforddiant ar amrywiaeth o dechnegau samplu ac arolygu o’r llong, ac yn ennill profiad o adnabod amrywiaeth eang o greaduriaid infertebrata a physgod sy’n byw ar wely’r môr.

Mae ein Labordy Dysgu newydd yn gyfleuster sydd wedi’i ddiweddaru’n sylweddol i ddysgu lefel uwch o sgiliau a

thechnegau labordy trosglwyddadwy, ac mae’n gallu dal 150 o fyfyrwyr; mae’n cynnwys ystod lawn o gyfarpar clyweledol sy’n gallu darlledu i sawl sgrin plasma o ffynonellau amrywiol gan gynnwys microsgopau, cyfrifiaduron, chwaraewyr fideo/ DVD, ac unedau delweddu / camera.

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar waith maes, gwaith labordy neu waith sy’n bur ddadansoddol. Gan ddibynnu ar natur eich prosiect, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm neu fel ymchwilydd annibynnol.

Wrth wneud hyn, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau a gwaith tîm a chewch eich hyfforddi i lunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Byddwch yn elwa o gyfleusterau addysgu gwych, gan gynnwys:• labordai addysgu, ymchwil a TG• ystod helaeth o offer dadansoddi

modern• cyfleusterau meithrin arbenigol ar gyfer

amrywiaeth o organebau• ystafelloedd tymheredd cyson ac

ystafelloedd tyfu eraill, acwaria, a thai gwydr

BSc Anrhydedd SenglC160 s BSc Bioleg y Môr

Ar gyfer graddau cysylltiedig, gweler Bioleg a’r Gwyddorau Biolegol (tudalen 46), a Swoleg (tudalen 152).

s cynllun 3 blynedd

Y Coleg Gwyddoniaeth

Bioleg y Môr

“ Dwi wedi treulio pedair blynedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, tair blynedd yn israddedig yn astudio Bioleg y Môr, a blwyddyn yn fyfyriwr ôl-raddedig yn gwneud MSc Bioleg Amgylcheddol: Cadwraeth a Rheoli Adnoddau. Boed yn astudio neu’n cael hwyl, gallaf ddweud yn onest i mi gael amser bendigedig trwy gydol y cyfnod! Trwy f’astudiaethau israddedig des i ddeall pa mor anhygoel o amrywiol yw’r ecosystem forol, ond hefyd pa mor hawdd yw ei niweidio, ac i ba raddau mae’n cael ei hecsbloetio. Roedd hynny’n fy symbylu i wneud yr MSc, a oedd yn ehangu fy ngwybodaeth o sawl agwedd o gadwraeth a phroblemau amgylcheddol o gwmpas y byd yn y môr ac ar y tir. Gyda’r profiad a’r arbenigedd a enillais trwy astudio yn Abertawe, dwi wedi cael swydd yn gweithio gyda WWF Cymru yng Nghaerdydd, yn Swyddog Polisi Morol, lle dwi’n helpu gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy i amgylchedd morol Cymru. ”David Parker, BSc Bioleg y Môr ac

MSc Bioleg Amgylcheddol: Cadwraeth a Rheoli Adnoddau

Bio

leg

y Mô

r

• yr Amgueddfa Swolegol• yr RV Noctiluca sy’n llong ymchwil

arfordirol 12.5m a ddyluniwyd yn arbennig

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil deg wythnos. Gallwch ddewis prosiect yn seiliedig ar waith maes, ar gwch a/neu yn y labordy gan wneud defnydd o’r safleoedd astudio gwerthfawr sydd o amgylch Abertawe a’r Gwyr. Fel arall, mae’n bosibl y cewch leoliad yn rhywle arall yn y DU neu dramor. Ewch i’n gwefan i weld enghreifftiau o brosiectau blaenorol.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Ar Lefelau Un a Dau, mae’r cwrs wedi’i ragosod, ond ceir modiwlau opsiynol ar Lefel Tri a fydd yn eich galluogi i addasu eich profiad dysgu. Mae’r modiwlau presennol yn cynnwys:

Lefel Un• Ysgrifennu Gwyddoniaeth a Sgiliau

Gyrfaol • Sgiliau Gwyddonol i Wyddonwyr

Biolegol• Cemeg Bywyd• Amrywiaeth, Ffurf a Swyddogaeth

Anifeiliaid• Planhigion ac Algâu – Amrywiaeth,

Ffurf a Swyddogaeth

• Bioleg Gellog a Microbaidd• Cyflwyniad i Ecoleg ac Ymddygiad• Geneteg a Phrosesau Esblygiadol

Lefel Dau• Sut i Ymgymryd ag Ymchwil mewn

Gwyddor Fiolegol• Ecoleg Folecwlaidd• Adolygiad Llenyddiaeth Bioleg y Môr• Plancton Morol ac Infertebrata

Cefnforol• Fertebrata• Ecoleg Forol Arfordirol• Cefnforeg• Technegau mewn Bioleg y Môr

Lefel Tri• Prosiect Ymchwil Bioleg y Môr • Cwrs Maes Bioleg y Môr• Adolygiad Llenyddol mewn

Bioleg y Môr • Ymchwil gyfredol mewn Bioleg y Môr

– mae pob aelod o staff yn cyflwyno modiwl ar ei ddiddordeb/diddordeb ymchwil penodol (ar ystod o destunau) lle byddwch yn dewis pum pwnc i‘w hasesu.

Yn ogystal, yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion cyflogwyr yng Nghymru, cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y maes hwn gyda’r ddarpariaeth honno yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cyfle hefyd i dderbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs a phrosiect ymchwil ymarferol.

Mae 89% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? Safon Uwch: ABB neu gyfwerth, gan gynnwys Bioleg

Bagloriaeth Ryngwladol: 33, gan gynnwys 5 mewn Bioleg ar Lefel Uwch

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/biosci

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295720

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

4948

Page 27: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Roeddwn i’n caru Abertawe yn syth pan ddes i am fy nghyfweliad.

Roedd yr adran mor groesawgar.

Rydw i eisoes wedi cynorthwyo â genedigaeth 13 o fabanod ac wedi

cyfrannu at iechyd a lles llawer mwy o fenywod a’u babanod. Mae’r

staff i gyd yn gefnogol, boed yn y Brifysgol neu allan ar leoliad. Gan

fy mod i wedi gorffen fy mlwyddyn gyntaf, ni allaf feddwl am wneud

unrhyw beth arall. ” Lauren Vizard, BMid Bydwreigiaeth

Cydnabyddir bydwraig fel unigolyn proffesiynol atebol a chyfrifol sy’n cydweithio mewn partneriaeth â menywod gan roi’r gefnogaeth, y gofal a’r cyngor angenrheidiol iddynt yn ystod beichiogrwydd, esgor a’r cyfnod ôl-enedigol.

Mae’r gofal hwn yn cynnwys hyrwyddo iechyd, hyrwyddo genedigaeth naturiol, canfod cymhlethdodau gyda’r fam a’r plentyn, a chyfeirio at ofal meddygol neu gymorth arall perthnasol pan fo’n briodol.

Mae gan y fydwraig rôl bwysig o ran cynghori ac addysg, nid yn unig ar gyfer y fenyw, ond hefyd o fewn y teulu a’r gymuned. Dylai’r gwaith yma gynnwys addysg gyn-geni a pharatoi ar gyfer magu plant, a gall hefyd gynnwys iechyd y fenyw, iechyd rhyw neu iechyd cenhedlu a gofal plant.

Bydd astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi’r hyder a’r sgiliau i chi ar gyfer gyrfa wobrwyol fel bydwraig.

Bydd y radd hon yn:• eich helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r

cymwyseddau angenrheidiol i fod yn fydwraig

• cynnig cymorth i chi gael profiad ymarferol eang ar draws amrywiaeth o leoliadau mamolaeth

• darparu sylfaen gadarn i chi ddatblygu eich sgiliau ymhellach mewn perthynas ag ymarfer, rheoli, ymchwil ac addysg bydwreigiaeth

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer astudiaethau ôl-gofrestru mewn pynciau sy’n berthnasol i Fydwreigiaeth ar lefel gradd a lefel Meistr.

Beth yw strwythur y radd?Mae’r radd hon yn caniatáu i chi ennill gwybodaeth eang a dealltwriaeth o gysyniadau sylfaenol bydwreigiaeth, yn ogystal â’r sgiliau angenrheidiol i ymarfer fel bydwraig.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, grwpiau trafod, chwarae rôl, ac ymarferion efelychu. Mae 50% o’r radd yn seiliedig ar waith theori, a 50% yn seiliedig ar waith ymarfer.

Mae hwn yn gynllun tair blynedd, llawn amser sy’n cychwyn bob mis Medi.

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi hefyd gael:• gwiriad heddlu manylach y Swyddfa

Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

Bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?• Cyflwyniad i Fydwreigiaeth Broffesiynol• Biowyddoniaeth ar gyfer Bydwreigiaeth• Iechyd yn ystod Beichiogrwydd• Sgiliau Astudio ar gyfer Bydwreigiaeth• Sylfeini Ymarfer Bydwreigiaeth

Lefel Dau• Agweddau Seicogymdeithasol

Beichiogrwydd• Heriau yn ystod Beichiogrwydd• Cymhlethdodau yn ystod Beichiogrwydd• Datblygu Ymarfer Bydwreigiaeth

BMid Anrhydedd SenglB720 s Bydwreigiaeth

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

BydwreigiaethB

ydw

reig

iaeth

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Hefyd, bydd angen o leiaf pump TGAU arnoch mewn Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg yn ogystal â phwnc gwyddoniaeth ar radd A i C. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Lefel Tri• Bydwreigiaeth ar sail Tystiolaeth• Rheolaeth mewn Bydwreigiaeth• Optimeiddio Bydwreigiaeth• Ymarfer Bydwreigiaeth Effeithiol

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae’r cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ein campysau yn Abertawe a Chaerfyrddin yn cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol a Thechnegol, cyfleusterau ymarfer clinigol efelychiadol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol.

Trwy weithio’n agos â Byrddau Iechyd GIG lleol, mae’r Coleg wedi agor yn ddiweddar Swît Aneurin Bevan yn Abertawe. Mae’r gyfres o 10 ystafell ymarfer uwch-fodern yn creu amgylchedd clinigol gwirioneddol ar gyfer disgyblaethau gofal iechyd gan gynnwys Clywedeg, Anadlu, Cardioleg, Gwyddor Barafeddygol a Nyrsio.

Mae pob ystafell wedi’i chyfarparu â’r dechnoleg a’r offer diweddaraf i efelychu ymarfer clinigol, sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer ac i fagu hyder ac ennill profiad mewn amgylcheddau clinigol.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau ac aseiniadau ysgrifenedig.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa gymorth ariannol fydd ar gael i fyfyrwyr ar y rhaglen hon. Mae’r wybodaeth sydd gennym ym mis Hydref 2011 yn cynnwys:

Os ydych yn breswylydd y DU, neu wedi preswylio yma am y tair blynedd ddiwethaf, neu â ‘Chaniatâd i Aros’, yna:• nid oes ffioedd i’w talu• bydd myfyrwyr yn derbyn grant, heb

brawf moddion, o £1,000• byddwch yn gymwys i ymgeisio am

fwrsariaeth ar sail prawf moddion o hyd at £4,395,

• mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymgeisio am gymorth ychwanegol ar ffurf grant cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 ym mlwyddyn olaf eich astudiaethau)

Ar ben y fwrsariaeth sylfaenol ar sail prawf moddion, caiff myfyrwyr ymgeisio am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr a chanddynt anableddau, a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd ag oedolion neu blant yn dibynnu arnynt. Darparwyd y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cymru, sy’n rheoli trefniadau cyllido myfyrwyr ar gyrsiau a ariennir gan y GIG yng Nghymru. Felly, ni all y Brifysgol dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newid i’r wybodaeth hon.

Rhoddir manylion ar wefan y Brifysgol wrth iddynt ddod yn hysbys. Hefyd, cynghorir myfyrwyr i edrych ar wefan yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth ac Arloesi mewn Gofal Iechyd: www.nliah.wales.nhs.uk

Sylwer: Rydym yn argymell bod ceisiadau’n cael eu cyflwyno cyn 15 Ionawr 2013. Sylwer nad ydym yn gallu ystyried ceisiadau ar gyfer mynediad a ohirir.

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

5150

Page 28: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL220 s BA Cyfathrebu Gwleidyddol

s cynllun 3 blynedd

Ydych chi’n edrych ar y diwylliant cyfryngau yn y byd sydd ohoni, ac yn meddwl am beth sydd y tu ôl i’r holl helynt? Ydy gweithgarwch y dewin delwedd yn rhan anorfod o wleidyddiaeth bleidiol fodern? Ydy golygyddion papurau newydd yn rheoli ein democratiaeth mewn gwirionedd? Sut gall pleidiau gwleidyddol gyfleu eu syniadau a’u polisïau’n well i etholwyr sy’n gynyddol amheugar? Sut mae llywodraethau awdurdodus yn defnyddio teledu, radio, a phapurau newydd y wladwriaeth i lywio’r farn gyhoeddus? Sut ydyn ni’n gwybod beth sy’n wir a beth sy’n bropaganda? Pa rôl a chwaraewyd gan y cyfryngau newydd mewn protestiadau diweddar, o’r gwrthdystiadau yn erbyn treth danwydd ym Mhrydain yn 2001 i’r gwrthryfel yn yr Aifft yn 2011? Os yw’r cwestiynau hyn o ddiddordeb i chi, rydych chi o ddiddordeb i ni.

Mae ein staff ymroddedig yn yr adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol yn arbenigwyr sy’n arbenigo mewn gwleidyddiaeth, y cyfryngau, a chyfathrebu gwleidyddol. Rydym yn ymchwilwyr gweithgar sy’n adnabyddus ar draws y byd, ac rydym yn dysgu ystod gyffrous o bynciau sy’n delio ag ystod eang o faterion. Gallwn eich tywys ar daith hunan-ddarganfod, gan agor eich

meddwl i ddulliau newydd o feddwl, a chan eich arfogi â’r sgiliau fydd yn gwella’ch cyfleoedd cyflogaeth pan fyddwch yn graddio. Dilynwch eich diddordeb yn y cyfryngau a gwleidyddiaeth, gan astudio gradd sy’n berthnasol i’r ffordd yr ydym yn byw heddiw.

Bydd y radd hon yn:• eich darparu â’r sgiliau perthnasol ar

gyfer gyrfa mewn meysydd megis gwleidyddiaeth, y cyfryngau, a chyfathrebu

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• eich darparu â’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol y cwrs hwn yw’r cyfle i gynnal astudiaeth fanwl o’r cysyniadau a’r materion allweddol a fydd yn eich helpu i wneud synnwyr o’r cyfryngau a gwleidyddiaeth.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Beth yw Gwleidyddiaeth a

Chysylltiadau Rhyngwladol?• Gwleidyddiaeth a’r Bobl• Cyflwyniad i Astudiaethau’r Cyfryngau• Rhyfel a Heddwch mewn Oes

Niwclear

Lefelau Dau a Thri• Y Wladwriaeth a Sefydliadau

Gwleidyddol• Anarchiaeth a Threfn: (Materion yng

Ngwleidyddiaeth y Byd)• Rhyfel Digidol• Yr Ymerodraeth yn Taro Nôl• Hil-laddiad• Gwleidyddiaeth Brydeinig a Pholisi

Cyhoeddus• Gwleidyddiaeth y Cyfryngau Newydd• Polisi a Rheoleiddio’r Cyfryngau• Hanes Meddwl Gwleidyddol• Theori’r Cyfryngau• Economeg Wleidyddol Ryngwladol

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“Dewisais fy nghwrs yn Abertawe oherwydd ei fod yn un o’r

ychydig brifysgolion oedd yn cynnig gradd integredig gwleidyddiaeth,

y cyfryngau, a chyfathrebu gwleidyddol. Fel rhan o’r radd, dilynais y

modiwl interniaeth, yn gweithio yn y Cynulliad Cenedlaethol, rhywbeth

wnaeth newid fy mywyd. Cefais gyfle i weld sut mae gwleidyddion yn

gweithio y tu ôl i’r llenni, a sut maen nhw’n cyfleu eu neges i’r cyhoedd,

a gwnaeth fy ngalluogi hefyd i dynnu ar y wybodaeth a’r sgiliau a

ddysgais yn y brifysgol, a’u defnyddio yn y byd go iawn. Bedair

blynedd yn ddiweddarach, gallaf ddweud yn bendant yr oedd astudio

Cyfathrebu Gwleidyddol yn sylfaen dda i mi o ran gwleidyddiaeth ac

astudiaethau’r cyfryngau. Gwnaeth hefyd fy mharatoi am yrfa yn

gweithio mewn bywyd cyhoeddus fel ymchwilydd gwleidyddol ac fel

ymgynghorydd cyfathrebu.” Neil Ronconi-Woollard, BA Cyfathrebu Gwleidyddol,

Swyddog Cyfathrebu ac Ymchwilydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980 / 606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Yn eu blwyddyn olaf, mae gan fyfyrwyr opsiwn o ysgrifennu traethawd hir arbenigol dan oruchwyliaeth ar bwnc o’u dewis. Maent hefyd yn cael cyfle i astudio ein modiwl gwaith tîm unigryw a phoblogaidd, sef Ymchwilio Gwleidyddiaeth, sy’n cynnwys opsiynau ar gyfathrebu gwleidyddol. Yn y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn cydweithio ar bwnc arbenigol ac yn dysgu sut i ysgrifennu adroddiadau, rheoli cyfarfodydd, a rhoi cyflwyniadau cyhoeddus lefel uchel.

Sut y caf fy asesu?Er mwyn i chi elwa gymaint â phosib o’ch cwrs gradd, caiff eich cynnydd ei werthuso drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, arholiadau ysgrifenedig, gwaith tîm a chyflwyniadau.

Cyfathre

bu G

wle

idyd

do

l – G

wle

idyd

diae

th ac Astud

iaethau

’r Cyfryng

au

Mae 93% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Cyfathrebu Gwleidyddol – Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau

5352

Page 29: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglQ910 u Cyfieithu

u cynllun 4 blynedd

Mae’r galw byd eang am wasanaethau cyfieithu yn cynyddu yn gyflym wrth i gwmnïau, sefydliadau, a phobl ar draws y byd ddisgwyl prynu nwyddau a defnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng eu hiaith eu hunain.

Mae cyfieithwyr yn gweithio mewn amrywiaeth o amgylcheddau. Gallant fod yn gweithio gartref yn llawrydd, yn gyfieithwyr mewnol gydag asiantaethau sefydledig neu fod yn gweithio yn adrannau cyfieithu cwmnïau neu sefydliadau mawr, megis yr Undeb Ewropeaidd sydd â 23 iaith swyddogol.

Mae’r radd BA mewn Cyfieithu ym Mhrifysgol Abertawe yn darparu hyfforddiant ieithyddol lefel uchel mewn dwy iaith ac yn rhoi arbenigedd galwedigaethol i chi ar theori ac ochr ymarferol cyfieithu.

Bydd y radd hon yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa yn y farchnad waith lewyrchus ar gyfer cyfieithwyr cymwysedig

• eich darparu â’r cymhwysedd ieithyddol i ymdrin â dwy iaith ynghyd â’r sgiliau a’r mewnwelediad a ddisgwylir gan gyfieithwyr proffesiynol

• eich darparu â sylfaen ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a fydd yn datblygu ymhellach eich sgiliau cyfieithu a dehongli

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd arbennig y radd hon yw’r cyfle i astudio dau bâr iaith wedi eu llunio o’r ddwy iaith “ffynhonnell” yr ydych yn eu dewis yn ogystal â’ch iaith gyntaf.

Yn ystod Lefel Un byddwch yn dilyn modiwlau gorfodol ym mhob un o’ch ieithoedd ffynhonnell.

Ar gyfer yr iaith (ieithoedd) lle mae gennych gymhwyster Safon Uwch, byddwch yn dilyn modiwlau sy’n seiliedig ar destun penodol, ymarferion gramadegol, ac ymarferion llafar, yn ogystal â modiwlau arbenigol sy’n datblygu eich sgiliau wrth gyfieithu deunydd technegol i’r Saesneg. Os ydych yn ddechreuwr yn un o’ch ieithoedd ffynhonnell, byddwch yn dilyn dau fodiwl iaith dwys yn eu lle.

Byddwch fel arfer yn cwblhau blwyddyn dramor rhwng Lefelau Dau a Thri. Fe’ch

anogir i dreulio amser mewn dwy wlad ac i gymryd mantais ar y cytundebau sydd gennym gyda rhai o’r ysgolion cyfieithu enwocaf yn Ewrop. Efallai y bydd modd i chi gael lleoliad gwaith yn ystod un o’r ddau semester y byddwch dramor.

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn datblygu eich sgiliau cyfieithu i safon broffesiynol, a byddwch yn archwilio sut i ddehongli, rheoli terminoleg a chyfieithu â pheiriant, yn ogystal â’r agweddau ymarferol o weithio fel cyfieithydd proffesiynol.

Mae pob un o’n modiwlau iaith a rhai modiwlau academaidd yn cael eu dysgu yn yr iaith yr ydych yn ei hastudio. Byddwch yn cael eich addysgu mewn grwpiau bychain ac mewn seminarau, a gefnogir gan ddeunyddiau amlgyfrwng, deunyddiau’r rhyngrwyd ac ymarferion yn defnyddio pecynnau meddalwedd cyfoes a ddefnyddir gan gyfieithwyr proffesiynol.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Ffrangeg Iaith Gyffredinol• Ffrangeg Iaith Arbenigol• Almaeneg Iaith Gyffredinol• Almaeneg Iaith Arbenigol• Eidaleg Iaith Gyffredinol• Eidaleg Iaith Arbenigol• Sbaeneg Iaith Gyffredinol

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Cyfieithu

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980 / 606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Yn unol â safonau proffesiynol Ewrop, isafswm cymhwyster ieithyddol

Cyfie

ithu

“ Fe wnes i raddio gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn

Cyfieithu ar ôl astudio Eidaleg a Rwsieg. Roedd y cwrs yn hyblyg iawn,

ac astudiais i lenyddiaeth, hanes, technegau cyfieithu gyda chyfrifiadur,

ieithyddiaeth, a geiriadureg. Dewisais i’r BA Cyfieithu yn hytrach na

gradd iaith yn unig gan i fi deimlo y byddai’n arwain yn fwy

uniongyrchol at yrfa, ac yn gwella fy nghyflogadwyedd. Bellach, mae

gen i a chyn-fyfyrwraig arall fusnes cyfieithu llwyddiannus, ac yn 2010,

bu i’n cwmni ennill Gwobr Busnes Rhyngwladol HSBC. Y penderfyniad

i wneud y radd oedd y penderfyniad gorau wnes i erioed; fe’m

dysgodd i fod yn broffesiynol ac yn astud ym mhopeth a wnaf, a

rhoddodd i mi’r hyder i fynd allan a chyrraedd y nod. ”Rachel Bryan, Astudiaethau Cyfieithu 2009

• Sbaeneg Iaith Arbenigol• Cymraeg Iaith Gyffredinol• Llenyddiaeth Gymraeg ac

Astudiaethau Maes• Sgiliau Astudio ar gyfer Iaith• Cyflwyniad i Ddiwylliant Ffrengig• Cyflwyniad i Ddiwylliant Almaenaidd• Cyflwyniad i Ddiwylliant Eidalaidd• Cyflwyniad i Ddiwylliant Sbaenaidd

Lefel Dau• Cyflwyniad i Theori Cyfieithu• Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur• Ffrangeg Iaith Gyffredinol• Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol• Almaeneg Canolradd neu Uwch• Almaeneg Iaith Arbenigol• Eidaleg Iaith Gyffredinol• Eidaleg at Ddibenion Proffesiynol• Sbaeneg Canolradd neu Uwch• Iaith Arbenigol• Gweithdy Cyfieithu• Ffasgaeth Ewropeaidd• Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor

Lefel Tri• Geiriau, Termau a Chysyniadau• Cyflwyniad i Ddehongli• Profiad Gwaith Cyfieithu• Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol• Gweithdy Cyfieithu (Ffrangeg –

Saesneg, Saesneg – Ffrangeg)• Almaeneg Iaith Arbenigol III

• Eidaleg Iaith Arbenigol• Sbaeneg Iaith Arbenigol• Traethawd Hir ar gyfer Astudiaethau

Cyfieithu

Sut y caf fy asesu?Bydd eich datblygiad yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o ddulliau gan gynnwys traethodau wedi’u hasesu ac arholiadau ysgrifenedig.

cyfieithydd yw, ar wahân i’r iaith gyntaf, hyfedredd rhagorol mewn ail iaith a hyfedredd da mewn trydedd iaith. Fel arfer, Cymraeg neu Saesneg fydd eich iaith gyntaf, felly bydd angen Safon Uwch yn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg neu Gymraeg (ail iaith) fel eich ail iaith. Gallwch ddechrau ar iaith newydd ar gyfer eich trydedd iaith, allan o’r pump a gynigir, heb ddealltwriaeth flaenorol o’r iaith dan sylw.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 91% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

5554

Page 30: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BSc Anrhydedd SenglG400 s CyfrifiaduregG4R1 u Cyfrifiadureg (gyda Ffrangeg)G4R2 u Cyfrifiadureg (gydag Almaeneg)G4R3 u Cyfrifiadureg (gydag Eidaleg)G4R4 u Cyfrifiadureg (gyda Sbaeneg)G4Q5 u Cyfrifiadureg (gyda Chymraeg)G420 s Cyfrifiadura a ChyfathrebuG4L1 s Cyfrifiadura a ChyllidH641 s Technoleg y RhyngrwydG4GC s Mathemateg ar gyfer CyfrifiaduregH646 s Cyfathrebu Symudol a Thechnoleg

y Rhyngrwyd

MEng Anrhydedd SenglG403 u Cyfrifiadura

BSc Cyd-anrhydeddCyfrifiadureg aGF48 s Geo-wybodegFG34 s FfisegGG41 s Mathemateg Bur

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Y Coleg Gwyddoniaeth

Cyfrifiadureg

Mae Cyfrifiadureg yn effeithio ar bob agwedd o’n bywyd, gan roi pwyslais cynyddol ar addysg, busnes, a diwydiant i sicrhau fod gweithlu’r dyfodol yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ffynnu yn yr Oes Ddigidol. Mae Cyfrifiadureg yn Abertawe wrth wraidd yr arloesi technolegol sy’n ailddiffinio’r ffordd yr ydym yn byw, yn dysgu ac yn gweithio.

Mae ein prif raglenni gradd wedi’u hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiadura Prydain, sy’n caniatáu i chi ymuno â’r gymdeithas ar lefel graddedig.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi ar gyfer mynediad lefel uchel i ystod eang o yrfaoedd, gan gynnwys datblygu meddalwedd, systemau Rhyngrwyd, a datblygu technolegau symudol

• eich darparu â’r sgiliau sydd eu hangen i gael yr ateb cywir i broblemau, ac i fesur pa mor effeithiol yw’r atebion hynny

• eich dysgu sut i astudio ac asesu systemau, a chynllunio rhai newydd

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• Hefyd, gall cysylltiad diwydiannol yr Adran gydag IT Wales, eich helpu i ennill profiad gwerthfawr yn y diwydiant drwy gyfrwng gwaith ar leoliad wedi’i dalu

Beth yw strwythur y radd?Fel myfyriwr, bydd gennych ddefnydd o labordai cyfrifiadurol un pwrpas sy’n cynnwys ystod eang o gyfrifiaduron Windows, Linux ac Apple modern a soffistigedig.

Byddwch yn cael eich dysgu yn bennaf drwy gyfrwng darlithoedd, gwaith labordy, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial. Bydd gwaith ymarferol mwy sylweddol yn cael ei gyflawni yn ystod ymarferion gwaith cwrs grwp, ac ar brosiectau unigol. Byddwch yn dysgu sut i raglennu drwy ddefnyddio Java ac ieithoedd rhaglennu eraill yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Rhaglennu• Modelu Systemau Cyfrifiadurol • Cysyniadau Cyfrifiadureg• Materion Proffesiynol 1: Cyfrifiaduron

a Chymdeithas• Materion Proffesiynol 2: Datblygu

Meddalwedd

Lefel Dau• Cydredeg• Rhaglennu Rhesymegol a Deallusrwydd

Artiffisial • Graffeg Gyfrifiadurol 1: Prosesu a

Synthesis Delweddau • Systemau Bas Data • Iaith a Chyfrifiadura• Algorithmau• Peirianneg Meddalwedd

Cyfrifiad

ureg

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Mae Safon Uwch mewn Cyfrifiadureg/Astudiaethau Cyfrifiadura yn ddymunol, ond nid yn hanfodol. Mae B mewn TGAU Mathemateg yn angenrheidiol ar gyfer pob gradd, ond bydd angen Safon Uwch Mathemateg arnoch os ydych yn dewis astudio Cyfrifiadura a Chyfathrebu, Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadureg, neu Gyd-anrhydedd gyda Mathemateg.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?

MEng Safon Uwch: AAB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 34

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

BScSafon Uwch: ABB

Bagloriaeth Ryngwladol: 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Lefel Tri • Graffeg Gyfrifiadurol 2: Modelu

a Throsiad • Cysyniadau Ieithoedd Rhaglennu• Systemau Cywirdeb Uchel• Cryptograffeg a Diogelwch TG• Manylebau a Datblygu Prosiectau• Delweddu Data• Cyfrifiadura’r Rhyngrwyd • Gweithredu Prosiect a Thraethawd Hir• Cymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial• Adeiladu Cymwysiadau Dibynadwy i’r

Rhyngrwyd• Dylunio Rhyngweithiol Symudol• Datblygu Apps ar gyfer IOS ac Android• Cyfrifiadura Perfformiad Uchel yn C/

C++• Profi Meddalwedd• Systemau wedi’u Mewnosod• Rhesymeg ar gyfer Cyfrifiadureg• Golwg Cyfrifiaduron ac Adnabod

Patrymau

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a phrosiect yn ystod eich Lefel olaf.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Mae nifer o fwrsariaethau gennym – cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/compsci

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602022

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

“ Rhaid bod Prifysgol Abertawe ymhlith y prifysgolion gorau yn y

DU i astudio Cyfrifiadureg. Mae yna gymorth ardderchog i fyfyrwyr,

awyrgylch ffantastig, ac mae’n lleoliad gwych i astudio. Mwynheais y

modiwlau, y prosiect terfynol a chwmni fy nghydfyfyrwyr drwy gydol y

rhaglen gyfan, yn ogystal â chefnogaeth fy nhiwtoriaid, fy narlithwyr

a’m goruchwylwyr. ” Dhanaraj Jayapalan, BSc Cyfrifiadureg 2009 Datblygwr Graddedig,

Thomsons Online Benefits

Mae 90% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

5756

Page 31: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglQ560 Q CymraegQ5N1 Q Cymraeg (gydag Astudiaethau Busnes)Q5G4 Q Cymraeg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)Q5R1 u Cymraeg (gyda Ffrangeg)*Q5R2 u Cymraeg (gydag Almaeneg)*Q5M9 Q Cymraeg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)Q5R4 u Cymraeg (gyda Sbaeneg)*

BA Cyd-anrhydedd Cymraeg aQT57 Q Astudiaethau AmericanaiddVQ15 Q Hanes yr HenfydQQ85 Q Gwareiddiad ClasurolLQ15 Q EconomegQQ35 Q Astudiaethau Iaith SaesnegQQH5 Q Llenyddiaeth Saesneg

RQ15 u FfrangegRR15 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau Busnes)RQC5 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RQD5 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)LQ75 Q DaearyddiaethQR52 u AlmaenegRQ25 u Almaeneg (gydag Astudiaethau Busnes)RQG5 u Almaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RQF5 u Almaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)QQ57 Q GroegQV51 Q HanesQRM3 u EidalegRQ35 u Eidaleg (gydag Astudiaethau Busnes)

RQH5 u Eidaleg (gydag Astudiaethau Cyfrifiadurol)

QR53 u Eidaleg (gydag Astudiaethau Cyfreithiol)QQ56 Q LladinQP53 Q Astudiaethau’r CyfryngauQVM1 Q Astudiaethau CanoloesolLQF5 Q GwleidyddiaethQR54 u SbaenegRQ45 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau Busnes)RQK5 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RQL5 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau Cyfreithiol)QX53 Q TEFL

BSc Cyd-anrhydedd Cymraeg aGQ15 Q Mathemateg

Cymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop. Mae hi’n cael ei defnyddio’n eang ym myd masnach, diwydiant, addysg, y cyfryngau a llywodraeth leol ac mae’r gallu i siarad Cymraeg yn cael ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr gan gyflogwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Trwy astudio’r Gymraeg yn Abertawe, byddwch yn dysgu i werthfawrogi’r traddodiadau llenyddol a hanesyddol sy’n annwyl i Gymru, ac yn ennill y profiad sydd ei angen i weithio drwy gyfrwng iaith fywiog, fyw.

Bydd y graddau hyn yn:• eich darparu â’r sgiliau ieithyddol sydd

eu hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrediad eang o rolau, yn cynnwys cyfieithu, llywodraeth leol, busnes, cyfryngau ac addysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol.

• eich darparu â phrofiad gwerthfawr o ddiwylliant Cymru a’r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu â sgiliau cyflwyno

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd arbennig o’r radd hon yw’r cyfle i ddilyn modiwlau ar sawl agwedd wahanol o lenyddiaeth Gymraeg a’r iaith Gymraeg. Gallwch ddewis rhwng cwrs tair blynedd, os mai Cymraeg yw eich iaith gyntaf, a chwrs pedair blynedd, os mai Cymraeg yw eich ail iaith.

Os mai Cymraeg yw eich iaith gyntaf, ar Lefel Un byddwch yn dilyn y Cwrs Astudio Rhagarweiniol ynghyd â chyrsiau llenyddiaeth ac iaith. Os nad Cymraeg yw eich iaith gyntaf, cynigir ystod o fodiwlau gramadeg, llafar, llenyddiaeth a diwylliant i chi, a rhaid i chi gwblhau Lefel T cyn symud ymlaen i Lefel Dau.

Addysgir pob modiwl drwy gyfrwng y Gymraeg (ac eithrio’r rhai ar Lefel Un i ddechreuwyr). Addysgir dosbarthiadau iaith mewn grwpiau bychain, a chynigir modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a dosbarthiadau rhyngweithiol, â chefnogaeth lawn ystod o offerynnau dysgu ar-lein.

Mae’r modiwl Cymraeg yn y Gweithle a gynigir ar Lefel T yn cynnwys cynllun lleoliad gwaith, sy’n rhoi’r cyfle i chi ennill profiad o ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Gallwch gael eich gosod mewn amgylchedd lle cynhelir busnes yn

Gymraeg, gan gynnwys ysgolion, cwmnïau teledu, a chwmnïau cyfieithu.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Ymhlith y modiwlau y gallwch eu hastudio y mae:

Lefel 1• Sgiliau Iaith: Cyflwyno• Sgiliau Beirniadol• Testun a Chyd-destun• Cyflwyno’r Seiliau• Cadarnhau’r Seiliau• Llenyddiaeth Gyfoes• Golwg ar Gymru• Cymraeg Ysgrifenedig• Llafar• Cymdeithas Cymru Gyfoes

Lefel T (i fyfyrwyr cwrs 4 blynedd)• Llafar• Gloywi Iaith• Cymraeg yn y Gweithle

Lefel 2• Sgiliau Iaith: Cadarnhau• Gweithio Mewn Dwy Iaith• Creu a Chyflwyno Testunau• Cymru a’i Sefydliadau• Iaith a Chymdeithas• Cymraeg i Oedolion• Crefft y Cyfarwydd• Delweddu’r Cymoedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Cymraeg

Lefel 3• Sgiliau Iaith: Meistroli• Ysgrifennu Creadigol • Traethawd Estynedig • Cyfieithu• Y Traddodiad Barddol• Dafydd ap Gwilym• Llenyddiaeth 1700-1900• Rhyddiaith Ddiweddar• Barddoniaeth yr 20ed Ganrif

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, traethawd hir, ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

“ Dwi’n mwynhau fy amser yn y brifysgol yn fawr iawn. Mae’r

campws yn gartrefol ac yn gyfeillgar, y cwrs yn ddiddorol iawn ac mae’r

dosbarthiadau’n rhai bach felly rydym ni i gyd yn cael digon o sylw a

chymorth gan y darlithwyr. ”

Ffion Williams, BA Cymraeg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606890/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth, gan gynnwys y Gymraeg

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Cym

raeg

LLB Cyd-anrhydeddMQ15 u Cymraeg a’r Gyfraith

u cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

* Addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae 86% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

5958

Page 32: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL700 s DaearyddiaethL720 s Daearyddiaeth Ddynol

BSc Anrhydedd SenglF800 s DaearyddiaethF8R9 u Daearyddiaeth (gydag

Astudiaethau Ewropeaidd)FF86 s Gwyddor Ffisegol y DdaearF840 s Daearyddiaeth Ffisegol

BA Cyd-anrhydedd Daearyddiaeth aLT77 s Astudiaethau AmericanaiddTL77 u Astudiaethau AmericanaiddLL17 s EconomegLQ73 s Llenyddiaeth SaesnegLR71 u Ffrangeg

LR72 u AlmaenegLV71 s HanesLR73 u EidalegLL47 s Polisi CymdeithasolLR74 u SbaenegLQ75 Q Cymraeg

BSc Cyd-anrhydedd Daearyddiaeth aCL17 s Gwyddorau BiolegolLL71 s EconomegF830 s Geo-Wybodeg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

Daearyddiaeth yw astudiaeth y byd yr ydym yn byw ynddo. Mae Daearyddiaeth yn ein helpu i ddeall sut y mae tirwedd yn cael ei llunio, sut y mae poblogaethau’n symud ac yn rhyngweithio, a sut mae newid hinsawdd yn effeithio arnom i gyd.

Mae cryfderau dysgu ac ymchwil Daearyddiaeth yn Abertawe’n cynnwys newid amgylcheddol a hinsawdd; ymfudo a hunaniaeth genedlaethol; rhewlifeg a deinameg llenni iâ; modelu amgylcheddol byd-eang ac arsylwi’r Ddaear; a damcaniaeth gymdeithasol a dinasoedd y byd.

Bydd ein graddau Daearyddiaeth yn:

• eich darparu â dealltwriaeth o’r byd dynol, yr amgylchedd naturiol, a rhyngweithio rhyngddynt

• eich darparu â’r sgiliau ymarferol, rhifiadol a chyfrifiannol sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr

• datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan gynnwys sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau a dadansoddi

• eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn ystod eang o feysydd yn cynnwys, rheoli amgylcheddol, cadwraeth, asiantaethau cymorth a datblygu, awdurdodau lleol, addysg, cynllunio ariannol, cyfrifiadura, rheoli busnes a manwerthu, cynllunio rhanbarthol ac adnoddau, ac asesu risg yswiriant

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig mewn daearyddiaeth, gwyddor y Ddaear, neu’r gwyddorau cymdeithasol

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes. Byddwch yn archwilio pwnc daearyddol arloesol ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf.

Rydym yn gosod pwyslais cryf ar waith maes ac mae ein lleoliad yn caniatáu mynediad hawdd i amrywiaeth eang o amgylcheddau gan gynnwys Penrhyn Gwyr, Bannau Brycheiniog, gorllewin Cymru wledig a thirweddau dinesig a diwydiannol De Cymru.

Mae myfyrwyr Anrhydedd Sengl yn gwneud cwrs maes tramor yn Lefel Dau.

Mae’r cyrchfannau ar hyn o bryd yn cynnwys Awstria neu Mallorca, gyda’r gost wedi’i chynnwys yn y ffioedd dysgu, neu Efrog Newydd neu Vancouver, am dâl ychwanegol.

Mae’r modiwlau dewisol yn Lefelau Dau a Thri yn darparu cyfleoedd ychwanegol am waith maes yn India neu UDA, ac yn lleol yn ne a gorllewin Cymru. Mae myfyrwyr yn cyfrannu tuag at gostau’r gwaith maes yn y modiwlau dewisol.

Byddwch hefyd yn gallu defnyddio meddalwedd sy’n benodol ar gyfer Daearyddiaeth, gan gynnwys meddalwedd ystadegol gyda chymwysiadau ar gyfer Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol drwy gyfrwng ein labordy cyfrifiaduron personol.

Byddwch hefyd yn elwa o ystod o gyfleusterau labordy a chyfrifiadurol ardderchog, gan gynnwys labordy cyfrifiaduron perfformiad uchel ar gyfer prosesu a dehongli arsylwadau lloeren o’r Ddaear a data Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS); sbectromedr mas cymhareb isotop sefydlog; siambr profion hinsoddol; meintiolwr gronynnau laser; cromatograff nwy; offer nodweddu mwynau magnetig; a dadansoddydd carbon organig awtomataidd.

Y Coleg Gwyddoniaeth

Daearyddiaeth

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel UnMae’r modiwlau yn darparu sylfaen gref mewn daearyddiaeth ddynol a ffisegol a dulliau daearyddol: Mae’r union fodiwlau y byddwch yn eu hastudio yn amrywio yn ôl eich union gynllun gradd, ond maent yn cynnwys:• Y Ddaear ar Waith• Wyneb newidiol y ddaear• Newid amgylcheddol byd-eang• Pobl, lle a chenedl• Daearyddiaeth a globaleiddio• Cynaladwyedd mewn byd bregus• Dulliau Daearyddol, Astudiaeth ymarferol,

Sesiynau Tiwtorial a Gwaith Maes

Rydym yn cynnig fersiwn Gymraeg o un neu fwy o’r modiwlau darlith uchod. Yn ogystal, rydym yn defnyddio technoleg ar lein i gynnig modiwl ar ‘Amgylchedd Cymru’. Modiwl gwreiddiol a difyr arall sy’n cael ei redeg ar y cyd â Phrifysgolion Bangor ac Aberystwyth yw’r modiwl ‘Methodoleg Maes’, a gaiff ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Dysgir y modiwl yn ystod penwythnos preswyl sy’n cynnig y cyfle i brofi amrywiaeth o dechnegau maes sy’n ymwneud ag astudiaethau daearyddiaeth ddynol a ffisegol, ynghyd â chwrdd â darlithwyr a myfyrwyr eraill o Gymru. Rydym hefyd yn

cynnig tiwtorialau cyfrwng Cymraeg i’r rheiny sy’n dymuno hynny.

Rydych hefyd yn dewis modiwlau ychwanegol ar Lefel Un, a all gynnwys:• Daeareg (gorfodol ar gyfer BSc

Daearyddiaeth Ffisegol)• Daearyddiaeth Ddynol Ychwanegol

(gorfodol ar gyfer BA Daearyddiaeth Ddynol)

Lefelau Dau a ThriMae modiwlau gorfodol yn cynnwys:• Dulliau Ymchwil (mewn gwyddor

amgylcheddol neu gymdeithasol)• Cwrs Maes Dramor• Dulliau Daearyddiaeth Ffisegol neu

Ddynol• Traethawd Hir a Chymorth Traethawd

Hir (myfyrwyr Anrhydedd Sengl yn unig)

Mae’r Modiwlau Dewisol sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:• Y Ddaear o’r Gofod: Monitro Newid

Amgylcheddol Byd-eang• Mapio Digidol a Gwyddoniaeth

Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)• Y Ddaear Beryglus: Deall a Byw gyda

Pheryglon Naturiol• Newid Amgylcheddol• Cofnod Daearegol o Newid

Amgylcheddol

• Hydroddaeareg Gymhwysol• Daearyddiaeth Gymdeithasol a

Diwylliannol• Cynllunio a Pholisi Economaidd

Rhanbarthol• Cymdeithas, Hamdden a Gofod• Esblygiad dinasoedd y Trydydd Byd• Ffiniau a Chysylltiadau yn

Naearyddiaeth Gymdeithasol• Ffiniau Ymchwil Daearyddol• Lleoliad Gwaith Daearyddol• Prydain Wledig Gyfoes• Llefydd Diwydiannol Newydd• Daearyddiaeth Hunaniaeth

Genedlaethol• Daearyddiaeth Ymfudo Gorfodol a

Lloches• Y Dychymyg Dinasyddol• Dinasoedd y Byd• Datblygiad Cymdeithasol: Prosesau a

Chymwysiadau• Gwyddoniaeth a Pholisi Hinsawdd• Rhewlifeg• Ail-lunio Amgylcheddau Cwaternaidd• Amgylcheddau a Thirweddau Trofannol

Llaith• Hinsawdd y 1,000 o flynyddoedd

diwethaf • Modelu Amgylcheddol• Tectoneg platiau a geoffiseg fyd-eang

Dae

arydd

iaeth

“ Mwynheais i bob eiliad o’m cwrs. Roedd y darlithoedd yn

ddiddorol, ac roedd y darlithwyr yn eu gwneud nhw’n gyffrous, ac

roedd y daith i Vancouver yn yr ail flwyddyn yn fendigedig. Gwnaeth

y cwrs fy ngalluogi i wneud MA mewn Cynllunio Gofodol ac mae

gradd mewn Daearyddiaeth wedi agor llawer o ddrysau i mi wrth

chwilio am swyddi. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio i adran eiddo

Archfarchnadoedd Sainsbury’s yn y tîm cynllunio trefol.”Laura Gray, BA Daearyddiaeth 2008 Tîm Cynllunio Trefol, Archfarchnadoedd Sainsbury’s

Mae 87% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

6160

Page 33: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Gallwch ddewis dilyn hyd at draean o’ch modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg ar bob lefel, sy’n sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant cynllun Mantais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ar Lefel Dau mae rhai modiwlau gorfodol ar gael yn y Gymraeg yn ogystal â rhai dewisol dynol a ffisegol. Ar Lefel Tri gallwch astudio a pharatoi eich Traethawd Hir drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chefnogaeth staff arbenigol. Mae’r modiwl Lleoliad Gwaith Daearyddol yn seiliedig ar y profiad gwaith a gynigir fel rhan o gynllun Mantais, sy’n golygu y gallwch wella’ch proffil cyflogadwyedd a chael credydau academaidd am wneud hynny. Mae cyfle hefyd i chi dderbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg.

Yn achos graddau Cyd-anrhydedd, mae’r ymrwymiad i Ddaearyddiaeth gan amlaf yn hanner eich amser, â hanner yn y pwnc arall.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, gwaith ymarferol, gwaith maes ac asesu parhaus drwy gyfrwng dosbarthiadau tiwtorial. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir ar Lefel Tri.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Mae myfyrwyr sy’n astudio 40 credyd bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaethau gwerth £1,500 dros dair blynedd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/geography

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602022

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Nid yw cymhwyster Safon Uwch mewn Daearyddiaeth yn hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Y Coleg Gwyddoniaeth

Daearyddiaeth

62

Page 34: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Cyd-anrhydedd TEFL aQX33 s Astudiaethau Iaith SaesnegQXH3 s Llenyddiaeth SaesnegRX13 u FfrangegRX23 u AlmaenegRX33 u EidalegRX43 u SbaenegQX53 Q Cymraeg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

TEFL – dysgu Saesneg i bobl nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt i gyfathrebu yn Saesneg – mae’n agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd gwobrwyol ar draws y byd. Mae’r galw am athrawon TEFL yn cynyddu yn gyflym wrth i fwy o ysgolion rhyngwladol chwilio am diwtoriaid cymwysedig.

Mae Abertawe yn dysgu amrywiaeth o raddau Cyd-anrhydedd sy’n caniatáu i chi astudio TEFL gydag iaith arall, neu Iaith Saesneg neu Lenyddiaeth Saesneg. Am ragor o fanylion am raddau Anrhydedd Sengl, gweler y wybodaeth ar dudalennau Astudiaethau Iaith Saesneg ar dudalen 102.

Bydd y graddau hyn yn:• eich darparu â’r sgiliau perthnasol ar

gyfer gyrfa mewn dysgu Saesneg (neu unrhyw iaith) fel iaith dramor, yn y DU neu dramor

• rhoi gwybodaeth uwch i chi o sut mae iaith yn gweithio a’r ffyrdd mwyaf effeithiol o fynd ati i ddysgu’r Saesneg

• darparu llwyfan ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig mewn TEFL neu faes dysgu arall

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

Beth yw strwythur y radd? Yn ystod Lefel Un, byddwch yn meistroli’r dulliau sylfaenol, yr egwyddorion a’r eirfa ar gyfer disgrifio, dadansoddi a dehongli iaith a defnydd iaith. Yn ystod Lefel Dau, byddwch yn dilyn modiwlau TEFL, gan ddewis o ystod o fodiwlau mewn themâu megis seicoieithyddiaeth, ieithyddiaeth gymdeithasol, a dadansoddi mynegiant. Bydd eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o ddefnydd iaith yn cael eu datblygu a’u cymhwyso i lefelau mwy arbenigol.

Os ydych yn dewis gradd Gyd-anrhydedd sy’n cyfuno TEFL gydag iaith dramor, byddwch fel arfer yn cael profiad dysgu gwerthfawr yn ystod blwyddyn dramor rhwng lefelau Dau a Thri. Yn ystod Lefel Tri fe’ch anogir i ymgymryd â gwaith mwy annibynnol ac arbenigol, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi archwilio pynciau sydd o ddiddordeb mwyaf i chi.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Sgiliau Astudio ar gyfer Iaith• Disgrifio Iaith• Iaith Bywyd Bob Dydd• Astudio’r Iaith Saesneg

Lefel Dau• Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor• Dulliau Dysgu a Methedolegau Iaith • Seicoieithyddiaeth• Dadansoddi Mynegiant• Corpa a Chydgordio• Astudio Tafodieithoedd

Lefel Tri• Caffael Iaith Gyntaf• Caffael Ail Iaith• Iaith yn y Cyfryngau• Prosiect Ymchwil

Sut y caf fy asesu?Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau ac arholiadau. Wrth i chi ddilyn eich cwrs gradd, rhoddir mwy o bwyslais ar waith cwrs.

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

“ Mae’r posibiliadau a’r cyfleoedd y mae gradd mewn TEFL yn eu

cynnig yn ddiddiwedd. Unwaith i chi gymhwyso mae’r byd i gyd yn

agor o’ch blaen. ” Joyce Jones, BA TEFL a Saesneg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Mae cymwysterau mewn Iaith neu Lenyddiaeth Saesneg, iaith fodern neu bynciau eraill ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau yn ddymunol, ond nid ydynt yn hanfodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Dysg

u Sae

sneg

fel Iaith D

ramo

r (TEFL)

Mae 91% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL)

6564

Page 35: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Bydd astudio Economeg yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i yrfa sy’n talu yn dda. Bydd hefyd yn eich helpu i gael dealltwriaeth lawnach o’r byd yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddo.

Mae’r Arolwg Bodlonrwydd Myfyrwyr Cenedlaethol yn gyson yn rhoi Economeg yn Abertawe yn uwch na’r cyfartaledd, ac rydym wedi ennill mwy o wobrwyon am addysgu ysbrydoledig gan Rwydwaith Economeg yr Academi Addysg Uwch nag unrhyw Brifysgol arall yn y DU.

Mae ein holl staff academaidd yn ymchwilio yn gyson sydd yn helpu cadw ein dysgu yn fyw, yn berthnasol ac yn gyfredol. Yn ystod Ymarferiad Asesu Ymchwil 2008, aseswyd bod 100 y cant o’n hymchwil o safon ryngwladol, gyda 60 y cant wedi ei raddio’n arwain y ffordd yn fyd-eang (4*) neu o safon ryngwladol ragorol (3*).

Mae gan Economeg yn Abertawe ddimensiwn rhyngwladol cryf, gan ddenu myfyrwyr o ledled y byd, ac mae’n rhoi llawer o gyfleoedd i astudio tramor, yn yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia, Seland Newydd neu Ewrop.

Blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’r myfyrwyr sy’n graddio yn sôn cymaint iddyn nhw fwynhau eu cyfnod yn Abertawe a sut y mae’r sgiliau y maent wedi’u datblygu yn Abertawe wedi’u galluogi i elwa o gyfleoedd gyrfa rhagorol yn y sector preifat a chyhoeddus.

Mae’r Ysgol wedi ei hachredu gan gyrff proffesiynol, gan gynnwys:• Y Sefydliad Cyfrifwyr Rheoli Siartredig

(CIMA)• Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig

Siartredig (ACCA)• Y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM)

Gall yr achrediadau yma eich eithrio o arholiadau rhai cyrff proffesiynol ar ôl i chi raddio.

Bydd y graddau hyn yn:• eich hyfforddi i weithio fel

economegydd proffesiynol, neu yn y sectorau Cyllid neu Gyfrifeg

• eich galluogi i roi eich sgiliau ar waith fel dadansoddwr, ymchwilydd neu gynghorydd llywodraeth

• eich paratoi am swydd sy’n talu’n dda mewn rheolaeth neu ymgynghoriaeth reoli

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Bydd amrywiaeth o ddulliau addysgu’n cael eu defnyddio yn ystod eich astudiaethau yn Abertawe gan gynnwys darlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol gan ddefnyddio ein cyfleusterau TG. Byddwch hefyd yn cael gwaith darllen mewn meysydd penodol ac yn cymryd rhan mewn gwaith prosiect fel tîm. Gallwch ddisgwyl 10 i 12 awr o ddarlithoedd ac un neu ddau ddosbarth tiwtorial yr wythnos. Mae dosbarthiadau ymarferol hefyd yn rhan annatod o rai modiwlau.

Os ydych yn dewis y radd BSc neu BA Anrhydedd Sengl mewn Economeg neu Economeg Busnes â blwyddyn dramor, gallwch fanteisio ar y cyfle i dreulio eich trydedd flwyddyn yn yr Unol Daleithiau, Canada, Awstralia, Seland Newydd neu Ewrop er mwyn datblygu eich gwybodaeth arbenigol a’ch sgiliau ymhellach ac i gynyddu eich apêl i gyflogwyr posib.

Os ydych yn cofrestru ar gyfer gradd Gyd-anrhydedd yn Lefel Un, gallwch ddewis i drosglwyddo i radd Anrhydedd Sengl yn un o’r ddau bwnc Cyd-anrhydedd ar ddechrau Lefel Dau. Mae’r mwyafrif o raddau Cyd-anrhydedd wedi eu rhannu’n gyfartal ar draws y ddwy

BA Anrhydedd SenglL104 s EconomegL105 u Economeg (gyda blwyddyn dramor)L113 s Economeg BusnesL115 u Economeg Busnes (gyda blwyddyn

dramor)L1N4 s Economeg Busnes gyda Chyfrifeg

BA Cyd-anrhydedd Economeg aLR11 u FfrangegLL17 s DaearyddiaethLR12 u AlmaenegLV11 s HanesLR13 u EidalegLL12 s GwleidyddiaethLL41 s Polisi CymdeithasolLR14 u Sbaeneg

LQ15 Q Cymraeg

BSc Anrhydedd SenglL100 s EconomegL101 u Economeg (gyda blwyddyn dramor)L112 s Economeg BusnesL111 s Economeg AriannolL160 s Economeg Busnes RhyngwladolL1NK s Economeg Ariannol gyda ChyfrifegL114 u Economeg Busnes (gyda blwyddyn

dramor)

BSc Cyd-anrhydedd Economeg aNL21 s Rheoli BusnesLL71 s DaearyddiaethGL11 s Mathemateg

LLB Cyd-anrhydeddML11 s Economeg a’r Gyfraith

s cynllun 3 blynedd u cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

Yr Ysgol Busnes ac Economeg

EconomegEco

nom

eg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/sbe/economics

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295168

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Nid oes angen cymwysterau Safon Uwch neu UG mewn Economeg na Mathemateg, ond mae TGAU Mathemateg gradd C neu uwch yn angenrheidiol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan

adran bartner, er bod modiwlau’r Gyfraith yn cynnwys y rhan fwyaf o’r LLB yn y Gyfraith ac Economeg ar Lefel Un.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Os ydych yn astudio unrhyw un o’n graddau BSc neu BA Anrhydedd Sengl, byddwch yn astudio modiwlau craidd yn y canlynol:

Egwyddorion Economeg: mae Egwyddorion Economeg yn archwilio’r economi ar waith ar y lefelau micro a macro. Bydd darlithoedd a dosbarthiadau tiwtorial ar wahân ar gael ar gyfer myfyrwyr sydd heb astudio Economeg o’r blaen.

Economi Prydain: mae’n ymdrin â materion polisi megis cystadleuaeth diwydiannol a rheoli monopolïau, ymfudo, pris diweithdra a chwyddiant, deddfwriaeth isafswm cyflog a pholisi ariannol.

Materion Cyfredol mewn Economeg: mae’n ymchwilio i faterion testunol, gan gynnwys rheoli llygredd, taliadau tagfeydd traffig, ffioedd dysgu atodol prifysgol ac economeg terfysgaeth.

Dulliau Ystadegol: mae’n rhoi cyflwyniad i ddulliau sylfaenol cyflwyno a dadansoddi data, gyda rhywfaint o bwyslais ar eu defnyddio ym maes economeg, busnes, a rheoli.

Sgiliau Academaidd, Proffesiynol, ac Entrepreneuriaeth: mae’n eich arfogi ag ystod o sgiliau astudio, TG, a datblygu personol a fydd o ddefnydd i chi yn eich astudiaethau academaidd ac yn eich gyrfa yn y dyfodol.

Dulliau meintiol: mae wedi’i ddylunio i gyflwyno myfyrwyr i ddefnyddio dulliau meintiol ar gyfer problemau busnes ac economeg. Cynigir darlithoedd ar wahân i fyfyrwyr sydd heb astudio Mathemateg ar lefel Safon Uwch a’r rheiny sydd wedi’i astudio. Fel gyda’r modiwl Egwyddorion Economeg, mae hyn yn ein galluogi i gadw golwg agos ar anghenion penodol y ddau grwp o fyfyrwyr, yn enwedig oherwydd y gall rhai myfyrwyr heb y profiad blaenorol hwn gael y dulliau meintiol yn arbennig o heriol.

Mae modiwlau ar gyfer graddau eraill yn amrywio yn ôl rhaglen y cwrs – ceir manylion llawn ar ein gwefan.

BSc a BA EconomegLefel Un• Yr Economi Brydeinig• Materion Cyfredol mewn Economeg• Egwyddorion Economaidd• Sgiliau Academaidd, Proffesiynol,

ac Entrepreneuriaeth• Dulliau meintiol• Dulliau Ystadegol

Lefelau Dau a ThriYn Lefelau Dau a Thri, mae pob rhaglen radd yn dod yn fwy arbenigol. Mae’r ddwy lefel yn cynnwys cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol ond gyda llawer mwy o ddewis na Lefel Un. Gallwn gynnig amrywiaeth o fodiwlau a fydd yn eich galluogi i lunio eich gradd yn ôl eich diddordebau a’ch dyheadau gyrfa. Mae’r Modiwlau sydd ar gael yn cynnwys:• Economeg Ddatblygu• Economeg Reoli• Economeg Ariannol• Masnach Ryngwladol• Polisi a Sefydliadau Ariannol• Dewis Cyhoeddus• Materion Economeg Gyfoes• Economeg Ryngwladol ac Economi

Ewrop• Economeg Lafur• Effeithlonrwydd y Marchnadoedd

Ariannol

Mae 91% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

6766

Page 36: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Yr Ysgol Busnes ac Economeg

Economeg

Wrth i chi astudio, bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar ddysgu mewn grwpiau bychain a fydd yn caniatáu i chi fod yn rhan o drafodaethau a dadleuon ac yn helpu i adeiladu eich hyder. Bydd hefyd yn darparu cyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu hanfodol a sgiliau cyflwyno sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gyflogwyr.

BSc a BA Economeg Busnes, BSc Economeg Busnes Rhyngwladol: mae’r graddau yma yn eich galluogi i archwilio arbenigedd busnes a rheoli gan ganolbwyntio ar gyd-destun economaidd gwneud penderfyniadau mewn busnes rhyngwladol.

BSc Economeg Ariannol: llwyfan ardderchog ar gyfer gyrfa yn y byd ariannol, bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn Economeg, ac agweddau ar Gyllid megis rheoli ariannol, marchnadoedd arian a sefydliadau ariannol.

BSc Economeg Ariannol gyda Chyfrifeg, BA Economeg Busnes gyda Chyfrifeg: dewis delfrydol os oes gennych ddiddordeb mewn mesur perfformiad, gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd mewn busnes, cyllid neu’r sector cyhoeddus.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau, arholiadau a thraethawd hir ar bwnc o’ch dewis. Mae gofyn i chi basio’r flwyddyn gyntaf cyn parhau i’r ail flwyddyn. Bydd eich gradd derfynol yn gyfartaledd o’r marciau a enilloch yn ail flwyddyn a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau.

Cyrchfannau diweddar ein graddedigion

• Dadansoddydd Cefnogi Masnachu Deilliadau Cynwydd, Royal Bank of Scotland

• Masnachwr Deilliadau, Kondor Trading

• Economegydd, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

• Dadansoddydd Ariannol, Standard Bank of South Africa

• Dadansoddydd Ariannol, Royal Bank of Scotland

• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant – Bancio, HSBC

• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant – Masnach, Morrisons

• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant – Personél, Waitrose

• Ymgynghorydd TG, JP Morgan

• Masnachwr Deilliadau Rhyngwladol, OSTC

• Cyfrifydd dan Hyfforddiant, PriceWaterhouseCoopers

• Econometrydd dan Hyfforddiant, Obel Publications

“ Cefais i brofiad gwych mewn awyrgylch diogel a chartrefol, er yn gyffrous ac yn heriol. Byddai fy mywyd

wedi bod yn bur wahanol oni bai i fi ddod i astudio yn Abertawe, a dwi’n siwr fy mod wedi cael y gofal gorau

posibl. Ni pherwyd i fi deimlo fel rhif erioed, roeddwn i bob amser yn teimlo fel unigolyn a gafodd ei drin felly.

Anrhydedd, a thestun balchder, yw bod yn rhan o Brifysgol Abertawe, ac ni fyddai fy mhrofiadau na fy

nghyflawniadau wedi bod yn bosibl heb yr ymroddiad a chymorth cyson a dderbyniais i gan bawb.”Laura Millard BSc Economeg a Daearyddiaeth 2011

(Yn y llun ar y dde)

68 69

Page 37: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Mae’r Eidal yn un o gadarn leoedd y gwareiddiad Gorllewinol. O’r Etrwsgiaid a’r Rhufeiniaid, y Dadeni, uno, a ffasgiaeth hyd at ddemocratiaeth a Berlusconi, mae’r Eidal wedi chwarae rôl bwysig yn hanes Ewrop. Mae ei hetifeddiaeth ddiwylliannol a’i chryfder economaidd yn sicrhau bod yr Eidal yn un o bartneriaid masnachu pwysicaf y byd.

Bydd astudio Eidaleg ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i gyfuno gwybodaeth eang am etifeddiaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth gymdeithasol gyfoes yr Eidal gyda sgiliau iaith lefel uchel. Mae’r radd yn agored i ddechreuwyr yn ogystal â’r rheiny sydd â gwybodaeth flaenorol o’r iaith.

Bydd y graddau hyn yn:

• wobrwyol mewn amrywiaeth o swyddogaethau, megis cyfieithu, dehongli a dysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol

• rhoi profiad gwerthfawr i chi o ddiwylliant arall a’r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu â sgiliau cyflwyno

Fel rhywun â gradd iaith, bydd yr annibyniaeth, yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu y byddwch yn eu magu yn rhoi cryn fantais i chi yn y farchnad swyddi ryngwladol.

Beth yw strwythur y radd?Rhan allweddol o’r radd yw’r cyfle i astudio modiwlau ar agweddau amrywiol cymdeithas a diwylliant yr Eidal.

Addysgir dosbarthiadau iaith mewn grwpiau bychain, a chynigir modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a dosbarthiadau rhyngweithiol, wedi’u cefnogi’n llawn gan ystod o offer dysgu ar-lein, deunydd DVD a’r Rhyngrwyd, a’n labordai iaith a chyfrifiaduron sydd wedi’u cyfarparu’n dda.

Rhwng Lefelau Dau a Thri, byddwch fel arfer yn treulio blwyddyn yn yr Eidal, un ai fel myfyriwr ar un o’n cytundebau cyfnewid sefydledig gyda phrifysgolion yr Eidal, neu fel cynorthwyydd Iaith Saesneg mewn ysgol Eidalaidd ar raglen cynorthwywyr y Cyngor Prydeinig. Neu, efallai y byddwch yn awyddus i gwblhau lleoliad gwaith yn yr Eidal.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Gallwch ddewis o ystod eang o fodiwlau, yn cynnwys:

Lefel Un• Eidaleg Iaith Uwch neu Eidaleg Iaith i

Ddechreuwyr• Iaith Arbenigol (ar gyfer myfyrwyr lefel

uwch)• Sgiliau Astudio• Cyflwyniad i Ddiwylliant yr Eidal• Gweddnewidiadau ac Addasiadau:

Ffilm Gyfoes Ewrop

Lefel Dau• Eidaleg Iaith Gyffredinol (Uwch/

Canolradd)• Iaith Fusnes• Darllen Ffuglen Eidalaidd Fodern• Ffasgaeth Ewropeaidd

Lefel Tri• Eidaleg Iaith Gyffredinol• Ysgrifennu’r Eidal Fodern

Sut y caf fy asesu?Bydd eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys aseiniadau, traethodau wedi’u hasesu, ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

BA Cyd-anrhydedd Eidaleg aTR73 u Astudiaethau AmericanaiddVR13 u Hanes yr HenfydQR83 u Gwareiddiad ClasurolLR13 u EconomegQRJ3 u Astudiaethau Iaith SaesnegQRH3 u Astudiaethau Iaith Saesneg (gydag

Astudiaethau Busnes)QR33 u Llenyddiaeth SaesnegRR13 u FfrangegRRC3 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau Busnes)RRD3 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR31 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)LR73 u Daearyddiaeth

RR23 u AlmaenegRRF3 u Almaeneg (gydag Astudiaethau

Busnes)RRG3 u Almaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR32 u Almaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)RV31 u HanesQR63 u LladinPR33 u Astudiaethau’r CyfryngauRVH1 u Astudiaethau CanoloesolLR23 u GwleidyddiaethRR34 u SbaenegRRH4 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau

Busnes)RRJ4 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)

RR43 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau Cyfreithiol)RX33 u TEFLQRM3 u CymraegRQ35 u Cymraeg (gydag Astudiaethau

Busnes)RQH5 u Cymraeg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)QR53 u Cymraeg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)

LLB Cyd-anrhydeddMR13 u Eidaleg a’r Gyfraith

u cynllun 4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

EidalegEid

aleg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os oes gennych Safon Uwch mewn Eidaleg gallwch wneud cais i astudio ar lefel uwch. Os oes gennych gymhwyster UG neu TGAU mewn Eidaleg, neu os nad oes gennych unrhyw brofiad blaenorol o’r iaith,

“ Mwynheais i gwrdd â ffrindiau newydd yn Abertawe. Roedd yr

holl brofiad yn y brifysgol yn caniatáu i mi dyfu fel unigolyn, ac wedi fy

helpu i gyrraedd lle’r ydw i heddiw. Bellach, dwi’n gweithio i Yahoo!,

fel Swyddog Gweithredol Cynllunio a Strategaeth yn y Tîm Gwerthu

Byd-eang, sy’n helpu cefnogi a rhoi diweddariadau i reolwyr gwerthu

am gynnyrch newydd, ac sy’n ymateb i friffiau sy’n cyrraedd gan

gwsmeriaid. ” Alex Giacon, BA Eidaleg

Swyddog Gweithredol Cynllunio a Strategaeth, Yahoo!

fel arfer mae angen Safon Uwch neu gymhwyster UG mewn iaith fodern arall. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 86% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

7170

Page 38: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BSc Anrhydedd SenglF300 s FfisegF302 u Ffiseg gyda blwyddyn dramorF390 s Ffiseg gyda NanotechnolegF3F5 s Ffiseg gyda Ffiseg Gronynnau a

ChosmolegF3C6 s Ffiseg gyda Gwyddor ChwaraeonF341 s Ffiseg Ddamcaniaethol

MPhys Anrhydedd SenglF303 u FfisegF340 u Ffiseg DdamcaniaetholF304 l Ffiseg gyda blwyddyn dramor

BSc Cyd-anrhydedd Ffiseg aFG34 s CyfrifiaduregFG31 s Mathemateg

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen IntegredigF301 u Ffiseg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 mlynedd

“ Dewisais i’r cynllun MPhys am

fy mod i’n awyddus i gynyddu fy

siawns o gael swydd fel ffisegydd.

Ers graddio, rydw i wedi bod yn

ddigon ffodus i gael lle ar gynllun

hyfforddiant i raddedigion Tanwydd

Niwclear Prydain. ”Sharon Bean, MPhys

Y Coleg Gwyddoniaeth

Ffiseg

Mae ffisegwyr yn ceisio ateb y cwestiynau mawr: A oes modd ail-greu’r amodau oedd yn bodoli ychydig eiliadau ar ôl y Glec Fawr yn y labordy? Sut mae cydrannau elfennol mater, megis cwarciau a leptonau’n rhyngweithio? Sut y dechreuodd y Bydysawd? Sut y gallwn greu a harneisio gwrthfater? A sut y gallwn ddeall beth y mae gofod ac amser wedi’u gwneud ohono?

Drwy wneud hyn, mae ffisegwyr wedi newid y ffordd yr ydym yn byw. Mae eu gwaith wedi arwain at ddatblygu technolegau a dyfeisiau newydd, gan gynnwys llawer o bethau yr ydym yn eu cymryd yn ganiataol bellach, megis ffonau symudol, sganwyr MRI, a hyd yn oed y We Fyd-eang!

Bydd gradd Ffiseg yn:

• eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd gwobrwyol, o wyddoniaeth niwclear, meteoroleg a ffiseg feddygol, i gyllid, peirianneg a chefnforeg

• eich hyfforddi i ddefnyddio offer a chyfleusterau o’r radd flaenaf i archwilio problemau gwyddonol cymhleth

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, megis gweithio mewn tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, yn ogystal â sgiliau neilltuol datrys problemau, yn ddadansoddol ac yn fathemategol

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich dysgu trwy ddarlithoedd, gwaith labordy, dosbarthiadau enghreifftiol, a dosbarthiadau bach wythnosol yn datrys problemau. Cefnogir yr addysgu gan labordai wedi’u cyfarparu’n dda, â chyfleusterau yn cynnwys y labordy positron, microsgopau sganio twnelu, cyfleuster telesgop cysylltu-o-bell, a mynediad at uwch-gyfrifiaduron.

Mae aelodau’n staff addysgu o fri rhyngwladol, ac wedi gweithio gynt mewn sefydliadau blaenllaw megis CERN, Sefydliad Princeton ar gyfer Astudiaethau Uwch, MIT a Havard.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Mae ystod o fodiwlau ar gael, gan gynnwys:

Lefel Un• Dynameg I a II• Cyflwyniad i Seryddiaeth a Chosmoleg• Mater a Meysydd I a II• Tonnau ac Opteg• Y Byd Cwantwm• Dulliau Meintiol mewn Ffiseg• Ffiseg Labordy I• Calcwlws i Ffisegwyr• Mathemateg i Wyddonwyr II• Algebra i Ffisegwyr

Lefel DauFfiseg Ystadegol a ThermolCyflwyniad i Efelychu FfisegMecaneg Gwantwm IDulliau Mathemategol mewn Ffiseg I a IIFfiseg Mater Cywasg IFfiseg Labordy a Phrosiectau Grwp A a BElectromagnetedd a Pherthynoledd Arbenigol IElectromagnetedd IIFfiseg Gronynnau ISylfeini AstroffisegArchwilio’r Raddfa Nano/NanotechnolegModiwl opsiynol o Fathemateg/Cyfrifiadureg Lefel Tri

Lefel Tri• Mecaneg Gwantwm II• Ffiseg Atomig I• Ffiseg Mater Cywasg II• Prosiect• Arbrofion Opsiwn• Prosiect Ffiseg Ddamcaniaethol• Sylfeini Astroffiseg• Ffiseg Ddisgyrchol• Cosmoleg• Ffiseg Atomig ac Opteg Gwantwm II• Ffiseg Gronynnau II• Ffiniau Newydd Ffiseg Niwclear• Ffiseg Hinsawdd• Modelu Systemau Ffisegol

Rhagarweiniol• Dulliau Mathemategol mewn Ffiseg III

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/physics

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295720

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?MPhys

Safon Uwch: AAB neu gyfwerth gan gynnwys Ffiseg a Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 (o leiaf 4 mewn Mathemateg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

BSc

Safon Uwch: ABB

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 (o leiaf 5 mewn Mathemateg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Ffise

g

• Nanotechnoleg• Dyfeisiau Cwantwm a Chymeriadu• Un modiwl dewisol o Fathemateg

Lefel M (MPhys)• Theori Maes Cwantwm• Cymwysiadau Ffiseg Gwantwm• Systemau Laser Modern• Ffiseg Atomig ac Opteg Gwantwm III• Mecaneg Ystadegol• Ffiseg Gronynnau a Chosmoleg• Prosesu Gwybodaeth Gwantwm• Prosiect Ymchwil*• Prosiect Ymchwil Damcaniaethol*

*Gwneir y prosiect ymchwil yn un o’n grwpiau ymchwil yn yr Adran, neu mewn lleoliad allanol cymeradwyedig, megis CERN, Genefa.

Sut y caf fy asesu?Caiff eich cynnydd ei fonitro drwy gyfrwng amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys arholiadau, asesu parhaus, gwaith labordy, a phrosiectau ymchwil.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae gennym offer o’r radd flaenaf ac arbenigedd ymchwil sy’n ychwanegu gwerth enfawr at eich addysg israddedig a’ch profiad dysgu.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:• Systemau microsgopeg chwiliwr

sganio (SPM)• Systemau microsgopeg optegol

sganio maes agos (SNOM)• Systemau spectrosgopeg laser yn

seiliedig ar fflwroleuedd a spectrosgopeg Raman

• Cysodi microsgopeg epi-fflwroleuedd• Microsgopau grym atomig biolegol

ymchwil (AFM)• Clwstwr cyfrifiaduron Beowulf, gyda

130 o greiddiau CPU wedi’u cysylltu gan rwydwaith band anfeidrol cuddni isel

• Telesgop Schmidt-Cassegrain 16 modfedd â galluoedd delweddu a spectrosgopeg

• Cyfleoedd i gwblhau prosiect ymchwil yn CERN i fyfyrwyr MPhys yn eu blwyddyn olaf

O ganlyniad i’n rhaglen ymchwil ryngddisgyblaethol mae gan fyfyrwyr prosiect fynediad hefyd, er enghraifft, at gyfleusterau paratoi samplau biolegol ar y campws.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Mae’n bosib y byddwch yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaethau Adrannol, gwerth £500 bob blwyddyn astudio (ac yn codi i £1,000 ar gyfer pedwaredd flwyddyn y rhaglen MPhys). Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

BSc gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr nad oes ganddynt y cymwysterau angenrheidiol i gychwyn rhaglen BSc yn syth.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Gan amlaf bydd angen cymhwyster Safon Uwch Ffiseg a Mathemateg arnoch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 83% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

7372

Page 39: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Ffrangeg yw un o’r ieithoedd mwyaf arwyddocaol o ran diwylliant yn y byd. Fe’i siaredir gan dros 200 miliwn o bobl, ac ar bob cyfandir. Mae hanes Ffrainc wedi’i glymu â hanes gwareiddiad Gorllewinol, ac mae ei diwylliant cyfoethog, bywiog wedi dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn meddwl ers bron i fil o flynyddoedd.

Mae astudio Ffrangeg yn Abertawe yn eich annog i archwilio Ffrainc a’r byd Ffrangeg ei iaith mewn amgylchedd cyffrous a chefnogol.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich darparu â’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o swyddi, megis cyfieithu, dehongli a dysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol.

• rhoi profiad gwerthfawr i chi o ddiwylliant arall a’r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun.

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu â sgiliau cyflwyno

Fel rhywun â gradd Iaith, bydd yr annibyniaeth, yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu y byddwch yn eu magu yn rhoi cryn fantais i chi yn y farchnad swyddi ryngwladol.

Beth yw strwythur y radd?Mae’r radd hon yn rhoi’r cyfle i chi fod yn rhugl yn Ffrangeg drwy astudio cyfres o fodiwlau iaith perthynol, wedi’u hategu gan amrediad eang o fodiwlau ar hanes, llenyddiaeth, sinema, a diwylliant Ffrainc a’r iaith Ffrangeg. Bydd eich astudiaethau yn canolbwyntio ar dir mawr Ffrainc, ond hefyd yn cynnwys ei threfedigaethau blaenorol â’r byd ehangach Ffrangeg ei iaith.

Addysgir dosbarthiadau iaith mewn grwpiau bychain, a chynigir modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a dosbarthiadau rhyngweithiol, wedi’u cefnogi’n llawn gan ystod o offer dysgu ar-lein, deunydd DVD a’r Rhyngrwyd, a’n labordai iaith a chyfrifiaduron sydd wedi’u cyfarparu’n llawn.

Rhwng Lefelau Dau a Thri byddwch fel arfer yn treulio blwyddyn mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg, naill ai fel myfyriwr neu ar un o’n cytundebau cyfnewid sefydledig â Phrifysgolion Ffrengig, neu fel cynorthwyydd iaith Saesneg mewn ysgol

unrhyw le yn y byd Ffrangeg ei iaith ar raglen swyddi cynorthwyol Cyngor Prydain. Fel arall, mae’n bosib y byddwch eisiau cwblhau lleoliad gwaith mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Gallwch ddewis o amrediad eang o fodiwlau, llawer ohonynt y mae modd eu hastudio drwy gyfrwng y Gymraeg:

Lefel Un• Ffrangeg Iaith Gyffredinol I neu Iaith

Ffrangeg i Ddechreuwyr• Ffrangeg Iaith Arbenigol I• Cyflwyniad i Ddiwylliant Ffrengig • Gweddnewidiadau ac Addasiadau:

Ffilm Gyfoes Ewrop• Ffuglen Ewropeaidd: Testun a Chyd-

destun• Ffrangeg Iaith Gyffredinol II• Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol II• Gweithdy Cyfieithu• Paris• Sinema Ffrengig ers yr Ail Ryfel Byd• Hanes yr Iaith Ffrangeg

Lefel Tri• Ffrangeg Iaith Gyffredinol III• Ffrangeg at Ddibenion Proffesiynol III• Gweithdy Cyfieithu III• Ffrainc a’r Ail Ryfel Byd: Goresgyn,

Cydweithio a Gwrthsefyll

BA Anrhydedd SenglR101 u Ffrangeg R1N1 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau Busnes)R1G4 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)R1M9 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)

BA Cyd-anrhydedd Ffrangeg aTR71 u Astudiaethau AmericanaiddQR71 u Groeg HynafolVR11 u Hanes yr HenfydQR81 u Gwareiddiad ClasurolLR11 u EconomegQRJ1 u Astudiaethau Iaith SaesnegQRH1 u Astudiaethau Iaith Saesneg

(gydag Astudiaethau Busnes)

QR31 u Llenyddiaeth SaesnegLR71 u DaearyddiaethRR12 u AlmaenegRRC2 u Astudiaethau Iaith Saesneg

(gydag Astudiaethau Busnes)RRD2 u Almaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR21 u Almaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)RV11 u HanesRR13 u EidalegRRC3 u Eidaleg (gydag Astudiaethau Busnes)RRD3 u Eidaleg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR31 u Eidaleg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)QR61 u Lladin

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Ffrangeg

“ Mae Prifysgol Abertawe yn awyrgylch gwych i astudio ar lefel

uchel. Mae’r lleoliad yn hardd, ac mae’r Brifysgol yn buddsoddi at y

dyfodol ar raddfa fawr. Mae fy nghwrs yn cynnig ystod eang o

opsiynau i astudio iaith, diwylliant, cymdeithas, a hanes, gyda

phwyslais ar ddarllen o gwmpas y pwnc a’r cyfle i ddilyn diddordebau

arbennig. Hefyd, mae gradd iaith yn cynnig cyfle unigryw i dreulio

blwyddyn mewn gwlad dramor. Roeddwn i’n ffodus i dreulio blwyddyn

yn Nice, yn gweithio fel cynorthwyydd dysgu ac yn byw gyda theulu

lleol. Mwynheais fy mlwyddyn dramor yn fawr iawn; alla i ddim gor-

bwysleisio’r manteision. Mae astudio iaith dramor yn agor y drws i fyd

newydd llawn posibiliadau newydd, ac ni ddylid tanbrisio eu gwerth yn

y farchnad swyddi. ” Sophie Williams, BA Ffrangeg a Sbaeneg

Ffrange

g

• Cariad, Chwant ac Ystyr Bywyd: Thema mewn Llenyddiaeth Ffrangeg

• O’r Foneddiges i’r Wraig Ddrwg: Menywod Canoloesol

• Traethawd Hir Anrhydedd Sengl

Yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion cyflogwyr yn y diwydiant yng Nghymru, rydym yn cynnig ystod o fodiwlau a gaiff eu dysgu a’u hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfle hefyd i chi gyflawni traethawd hir trwy’r Gymraeg a derbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg. At hynny, cynigir cyfleoedd profiad gwaith gwych.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys profion dosbarth, traethodau asesedig ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

Mae 86% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

PR31 u Astudiaethau’r CyfryngauRVC1 u Astudiaethau CanoloesolLR21 u GwleidyddiaethRR14 u SbaenegRRC4 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau Busnes)RRD4 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR41 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)RX13 u TEFLQR51 u CymraegRQ15 u Cymraeg (gydag Astudiaethau Busnes)RQC5 u Cymraeg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR41 u Cymraeg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)

BSc Cyd-anrhydedd Ffrangeg aGR11 u Mathemateg

LLB Cyd-anrhydeddMR11 u Ffrangeg a’r Gyfraith

u cynllun 4 blynedd

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

7574

Page 40: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Taniodd fy ngradd israddedig mewn Geneteg awydd ynof i fod yn

wyddonydd proffesiynol a rhoddodd sail i mi ddilyn gradd ôl-raddedig

(hefyd yn Abertawe) a sefydlu gyrfa ymchwil mewn mwtaniad genynnol

moleciwlaidd a charsinogenesis yng Ngholeg Imperial, Llundain, cyn

ymuno â’r diwydiant fferyllol fel tocsicolegydd geneteg. Rydw i nawr yn

bennaeth ar yr uned tocsicoleg eneteg yn GlaxoSmithKline, rôl sy’n

cyfrannu at ddatblygu meddyginiaethau newydd i fynd i’r afael ag

anghenion cleifion sydd heb eu cyflawni ym maes sawl clefyd. ”Anthony Lynch, BSc Geneteg

Mae gan Eneteg rôl bwysig yng nghyswllt gwneud diagnosisau o afiechydon dynol a datblygu triniaethau a chynhyrchion fferyllol newydd. Mae’n taflu goleuni ar esblygiad dynol ac effaith newid amgylcheddol ar organebau byw, ac yn gallu ein helpu i warchod bioamrywiaeth y blaned.

Mae’r radd Geneteg Feddygol yn darparu hyfforddiant addas i fyfyrwyr sy’n dymuno ymgymryd ag astudiaeth bellach i fod yn feddyg. Mae myfyrwyr sy’n graddio mewn Geneteg Feddygol yn gymwys i ymgeisio ar gyfer rhaglen Meddygaeth i Raddedigion Abertawe.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich paratoi ar gyfer rolau mewn ystod eang o broffesiynau, gan gynnwys y diwydiant fferyllol, gwyddor fforensig a bioleg gadwraeth

• rhoi profiad i chi o dechnegau ar gyfer dadansoddi mynegiadau genynnol, rhyngweithiadau protein, strwythur a niwed i DNA, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddi cyfrifiadurol uwch

• eich paratoi ar gyfer hyfforddiant i raddedigion i fod yn feddyg, yn ddeintydd, neu’n athro, neu ar gyfer ymchwil ôl-raddedig neu ddoethur

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn cael eich addysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial mewn grwpiau bychain, e-ddysgu, a gwaith labordy ymarferol. Darparir yr addysgu gan staff geneteg wedi’u lleoli yng nghyfleuster ymchwil y Coleg sy’n ehangu, y Sefydliad Gwyddor Bywyd. Ceir cyfraniadau hefyd gan staff yn y Coleg Meddygaeth, sawl un ohonynt yn feddygon ac yn ymgynghorwyr mewn ysbytai lleol.

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil dan arweiniad gwyddonydd ymchwil proffesiynol. Trwy weithio fel ymchwilydd annibynnol, byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiectau effeithiol ac yn derbyn hyfforddiant i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Gallwch newid rhwng cynlluniau gradd, er enghraifft o Eneteg Feddygol i Eneteg, neu i radd gyd-anrhydedd gyda Biocemeg, yn dibynnu ar sut y mae eich diddordebau’n datblygu yn ystod y cwrs.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Dadansoddiad Geneteg I• Geneteg a Phrosesau Esblygu• Egni a Metaboledd: Adweithiau Bywyd• Macromolecylau: Ffurf a Swyddogaeth• Rheolaeth Fetabolaidd a Ffisioleg

Foleciwlaidd• Cemeg Bywyd• Cemeg Organig Ragarweiniol• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Cemeg Organig Grwpiau

Swyddogaethol• Strwythur Atomig a Chyfnodoldeb

Cemegol• Sgiliau Gwyddoniaeth• Planhigion ac Algâu: Amrywiaeth, Ffurf

a Swyddogaeth• Bioleg Gellog a Microbaidd• Amrywiaeth, Ffurf a Swyddogaeth

Anifeiliaid• Cyflwyniad i Ecoleg ac Ymddygiad

Lefel Dau• Dadansoddi Geneteg II• Technegau Moleciwlaidd• Geneteg Ddynol a Meddygol• Geneteg Microbaidd• Mynegiant Genynnau• Bioystadegau a Dylunio Arbrofol• Mecanwaith Moleciwlaidd Afiechydon

a Diagnosteg• Metaboledd Carbohydrad a

Glycobioleg

Y Coleg Meddygaeth

Geneteg Feddygol A Geneteg

BSc Anrhydedd SenglC400 s Geneteg C431 s Geneteg Feddygol

BSc Cyd-anrhydeddCC47 s Biocemeg a Geneteg

s cynllun 3 blynedd

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/medicine/BScProgrammes

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295668

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ar gyfer y radd BSc Geneteg, bydd angen cymhwyster Safon Uwch mewn Bioleg arnoch, ac ar gyfer y radd BSc Geneteg Feddygol bydd angen cymwysterau Safon Uwch mewn Bioleg a Chemeg arnoch.

• Technegau Biocemegol• Biocemeg a Ffisioleg Glinigol• Sbectrometreg Mas Biomoleciwlaidd a

Dadansoddi Proteomig• Rheoli Metabolaidd: Ensymau a

Throsglwyddo Signalau• Ecoleg Foleciwlaidd• Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg

Lefel Tri• Geneteg Feddygol• Prosiect Ymchwil Biomoleciwlaidd• Trin Genynnau• Esblygiad Moleciwlaidd• Datblygiad Anifeiliaid• Biotechnoleg a Pheirianneg Protein• Dadansoddi Geneteg III• Mwtaniad ac Iechyd Dynol• Geneteg Canser• Asidau Niwclëig: Cydrannau,

Metabolaeth ac Addasu• Cludo gan Bilenni• Agweddau ar Fiocemeg Synhwyraidd

Ddynol a Metabolaidd

Graddau Cyd-anrhydedd mewn Biocemeg a GenetegMae’r radd gyd-anrhydedd Biocemeg a Geneteg yn cynnig modiwlau o’r naill radd Anrhydedd Sengl ac yn ymdrin ag amrywiaeth ehangach o bynciau ym meysydd biocemeg, geneteg a bioleg foleciwlaidd. Mae wedi’i bwriadu i

danlinellu agweddau’r ddwy ddisgyblaeth sy’n gorgyffwrdd.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Bydd nifer o’r myfyrwyr israddedig yn cwblhau prosiectau ymchwil yn labordai’r Coleg Meddygaeth sydd o’r radd flaenaf, a byddant yn cael eu goruchwylio gan grwpiau ymchwil y Sefydliad Gwyddor Bywyd. Mae’r cyfleusterau all ychwanegu at eich profiad dysgu o ran ymchwil yn cynnwys:

• Canolfan EPSRC y DU ar gyfer Sbectrometreg Mas

• Y Ganolfan NanoIechyd• Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd• Labordai Ymchwil Gwybodeg Iechyd • Cyfleuster Ymchwil Clinigol ac Ystafell

Ddelweddu

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, aseiniadau a gwaith ymarferol. Mae’r prosiect y byddwch yn ei gwblhau yn Lefel Tri yn rhan bwysig o’r rhaglen radd sy’n eich cynorthwyo i gael profiad gwerthfawr o greu, cynllunio a rhoi prosiect ymchwil ar waith.

Ge

nete

g Fe

dd

ygo

l A G

ene

teg

Mae 82% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Cynhwysir y graddau hyn yn y pynciau blaenoriaeth ar gyfer bwrsariaethau ychwanegol yn seiliedig ar incwm – gweler tudalen 196.

7776

Page 41: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Mae gan staff yr Adran gymaint o wybodaeth a brwdfrydedd, ac

mae’n dangos! Mae’r gwaith maes yn llawer o hwyl ac yn wych ar

gyfer eich CV. Rwy’n edrych ymlaen at yrfa fel tirfesurydd ac yn

teimlo’n gwbl gymwys ar gyfer y swydd. ” Michael Brown BSc Geo-Wybodeg a Mathemateg

Mae’r astudiaeth o fesur tir a chreu mapiau wedi’i chwyldroi gyda datblygiad y systemau cyfrifiadurol mwyaf diweddar ar gyfer caffael, dadansoddi, a chyflwyno gwybodaeth geo-ofodol. Adnabyddir y ddisgyblaeth bellach fel Geo-Wybodeg.

Rydym yn byw mewn oes wybodaeth ac economi wybodaeth ac mae Geo-Wybodeg yn un o’r cydrannau allweddol. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd yn mwynhau cyfrifiadura, mathemateg neu ddaearyddiaeth ac sydd â diddordeb mewn data gofodol.

Bydd gradd Geo-Wybodeg yn:

• eich hyfforddi i fod yn wyddonydd gwybodaeth ddaearyddol

• eich darparu â’r sgiliau ymarferol, rhifiadol a chyfrifiannu sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr

• datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan gynnwys sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau a dadansoddi

• eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol ym meysydd megis geo-wybodeg, mapio a chartograffeg, cynllunio ariannol, rheoli busnes, addysg, cyfrifiadura, cadwraeth, dadansoddi amgylcheddol, ac asesu risg yswiriant

• eich paratoi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig mewn tirfesur, cartograffeg, synhwyro o bell neu Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

Beth yw strwythur y radd?Dysgir Geo-Wybodeg ym Mhrifysgol Abertawe fel gradd Gyd-anrhydedd, sy’n caniatáu i chi astudio modiwlau mewn Daearyddiaeth, Cyfrifiadureg, neu Fathemateg. Nid yw’r cynlluniau Cyd-anrhydedd o reidrwydd yn dilyn trefn rhaniad 50/50 ac efallai y bydd modd i chi ddilyn modiwlau dewisol i gynyddu eich gwybodaeth mewn maes penodol.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, seminarau, dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes. Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn cwblhau traethawd hir annibynnol. Bydd gennych ddefnydd o adnoddau dysgu ardderchog, sy’n cynnwys labordai ar gyfer cartograffeg, systemau gwybodaeth ddaearyddol a synhwyro o bell.

Byddwch hefyd yn gallu defnyddio meddalwedd sy’n benodol ar gyfer Daearyddiaeth, gan gynnwys meddalwedd ystadegol gyda chymwysiadau ar gyfer Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol drwy gyfrwng ein labordy cyfrifiadura personol.

Byddwch hefyd yn elwa o ystod o gyfleusterau labordy a chyfrifiadurol ardderchog, gan gynnwys labordy cyfrifiaduron perfformiad uchel ar gyfer prosesu a dehongli arsylwadau lloeren o’r Ddaear a data Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol; sbectromedr mas cymhareb isotop sefydlog; siambr profion hinsoddol; meintiolwr gronynnau laser; cromatograff nwy; offer nodweddu mwynau magnetig; a dadansoddydd carbon organig awtomataidd.

Rydym yn gosod pwyslais cryf ar waith maes ac mae ein lleoliad yn caniatáu mynediad hawdd i amrywiaeth eang o amgylcheddau gan gynnwys Penrhyn Gwyr, Bannau Brycheiniog, gorllewin Cymru wledig a thirweddau dinesig a diwydiannol De Cymru.

Mae’r modiwlau dewisol yn Lefelau Dau a Thri yn darparu cyfleoedd ychwanegol am waith maes yn India, ac yn lleol yn ne a gorllewin Cymru. Mae myfyrwyr yn cyfrannu tuag at gostau’r gwaith maes yn y modiwlau dewisol.

BSc Cyd-anrhydeddGeo-Wybodeg aF830 s DaearyddiaethGF18 s MathemategGF48 s Cyfrifiadureg

s cynllun 3 blynedd

Y Coleg Gwyddoniaeth

Geo-WybodegG

eo

-Wyb

od

eg

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel UnByddwch yn dilyn modiwlau mewn Daearyddiaeth ac naill ai Cyfrifiadureg neu Fathemateg, yn dibynnu ar gyfuniad eich gradd. Gweler Daearyddiaeth (tudalen 60), Cyfrifiadureg (tudalen 56) a Mathemateg (tudalen 108) am ragor o wybodaeth am y modiwlau sydd ar gael.

Lefelau Dau a ThriMae’r modiwlau Geo-Wybodeg yn cynnwys:• Y Ddaear o’r gofod: Monitro

Newid Amgylcheddol Byd-eang• Mapio digidol a Gwyddoniaeth

Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)• Modelu Amgylcheddol• Traethawd Hir (Lefel Tri)

Byddwch hefyd yn dilyn modiwlau mewn Daearyddiaeth, Cyfrifiadureg a Mathemateg, yn dibynnu ar gyfuniad eich gradd.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, gwaith ymarferol, gwaith maes ac asesu parhaus drwy gyfrwng dosbarthiadau tiwtorial. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir ar Lefel Tri.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau? Mae myfyrwyr sy’n astudio 40 credyd bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaethau gwerth £1,500 dros dair blynedd.

Mae 87% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Mae cymhwyster Safon Uwch mewn pwnc mathemategol yn ddelfrydol, ond nid yn hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/geography

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602022

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

7978

Page 42: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BSc Anrhydedd SenglL500 s Gwaith Cymdeithasol

s cynllun 3 blynedd

Mae Gwaith Cymdeithasol yn ymwneud â chefnogi datblygiad cymdeithasol unigolion, grwpiau, a chymunedau lleol. Mae hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol yn ddwy elfen allweddol sy’n tanategu gwaith cymdeithasol. Mae gweithwyr cymdeithasol yn aml yn gweithio mewn timoedd amlddisgyblaethol ar y cyd â gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg.

Bydd y radd hon yn:

• eich darparu â chymhwyster proffesiynol sy’n cael ei gydnabod yng Nghymru a Lloegr

• eich galluogi i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Gofal Cymru

• eich hyfforddi i weithio mewn gwahanol feysydd o fewn gwaith cymdeithasol boed yn y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy datrys problemau a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Mae gradd Gwaith Cymdeithasol yn gynllun tair blynedd. Mae ymarfer yn rhan bwysig o’r rhaglen gyda 50% o’r cwrs yn y Brifysgol a 50% yn y maes ymarfer gydag asiantaethau gwaith cymdeithasol mewn amryw leoliadau.

Mae’n rhaid i bob myfyriwr gyrraedd safon Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL) yn ystod blwyddyn gyntaf eu cwrs astudio.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial. Yn ystod Lefel Un, byddwch yn meddu ar wybodaeth sy’n berthnasol i ymarfer gwaith cymdeithasol a byddwch yn mynd ar leoliad byr am 20 diwrnod.

Yn Lefelau Dau a Thri bydd astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan ddau leoliad gwaith 90 diwrnod gydag asiantaethau gofal cymdeithasol, lle byddwch yn cael eich goruchwylio a’ch asesu gan staff cymwysedig.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un

• Cyd-destun Gwaith Cymdeithasol Cyfredol

• Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol mewn Cymdeithas Amrywiol

• Deall Gwybodaeth: Defnyddio, Ymchwilio a Chofnodi Gwybodaeth Gwaith Cymdeithasol

• Tyfiant a Datblygiad Dynol

• Cyflwyniad i Gyfraith Gwaith Cymdeithasol

• Gwaith Cymdeithasol ar Waith I

• Dysgu Ymarfer I

Lefel Dau

• Theorïau a Dulliau mewn Ymarfer Gwaith Cymdeithasol

• Gwaith Cymdeithasol ar Waith II

• Dysgu Ymarfer II

• Materion Cyfreithiol mewn Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol

Lefel Tri

• Ymarfer Critigol mewn Gofal Plant

• Ymarfer Critigol mewn Gofal Oedolion yn y Gymuned

• Lleoliad Maes Ymarfer III

• Defnyddio Gwybodaeth i Wella Ymarfer

Yn ogystal, yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion cyflogwyr yng Nghymru, cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Gwaith Cymdeithasol gyda’r ddarpariaeth honno yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cyfle hefyd i chi dderbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg.

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Gwaith Cymdeithasol

“ Yr hyn a fwynheais fwyaf am y cwrs oedd dyfnder y wybodaeth a

ddarparwyd yn y darlithoedd a’r cyfle i dderbyn gwybodaeth ymarferol

gan siaradwyr gwadd sy’n gweithio yn y maes. ”Alun John Rees, BSc Gwaith Cymdeithasol Gweithiwr Cymdeithasol, Cyngor Sir Benfro

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences a darllenwch y ‘Cwestiynau Cyffredin’.

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602942

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BCC

Bagloriaeth Ryngwladol: 28

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae’n ofynnol, wrth ymgeisio, fod gan ymgeiswyr radd C neu uwch ar lefel TGAU mewn Saesneg neu Gymraeg a Mathemateg (neu gyfwerth, er enghraifft Sgiliau Allweddol 2: Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif).

Gw

aith Cym

de

ithasol

Ar ben hynny, bydd raid i ganolwr gadarnhau eich bod wedi cyflawni lleiafswm o 210 awr o brofiad gwaith gofal cymdeithasol perthnasol pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais.

Bydd eich sgiliau personol a’ch potensial i gwrdd â gofynion y cwrs yn cael eu gwerthuso yn ystod cyfweliad dethol. Byddwch dim ond yn cael cynnig lle ar y rhaglen ar ôl i chi gofrestru’n llwyddiannus â Chyngor Gofal Cymru fel gweithiwr cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys datganiad personol ynghyd â gwiriad y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) a datgeliad iechyd.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o draethodau, cyflwyniadau dosbarth, adroddiadau myfyriol a gwaith portffolio.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth ar gyfer eich ffioedd dysgu. Cysylltwch â Chyngor Gofal Cymru a chyllid myfyrwyr Cymru am ragor o wybodaeth.

Mae 98% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

8180

Page 43: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL254 s Cysylltiadau Rhyngwladol L2RD u ■ Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda

Ffrangeg)L2R2 u ■ Cysylltiadau Rhyngwladol (gydag

Almaeneg)L2R3 u ■ Cysylltiadau Rhyngwladol (gydag

Eidaleg)L2R4 u ■ Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda

Sbaeneg) L2Q5 Q ■ Cysylltiadau Rhyngwladol (gyda

Chymraeg)L220 s ■ Cyfathrebu Gwleidyddol

(Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau)

L200 s ■ Gwleidyddiaeth

BA Cyd-anrhydedd Cysylltiadau Rhyngwladol aLT2R u ■ Astudiaethau AmericanaiddLV2C s ■ Hanes Modern

BA Cyd-anrhydedd Gwleidyddiaeth aLT27 s ■ Astudiaethau AmericanaiddTL72 u ■ Astudiaethau AmericanaiddVL12 s ■ Hanes yr HenfydLL12 s ■ EconomegLQ23 s ■ Llenyddiaeth SaesnegLR21 u ■ FfrangegLR22 u ■ AlmaenegLV21 s ■ HanesLR23 u ■ EidalegVL32 s ■ Hanes Cymdeithasol LL42 s ■ Polisi Cymdeithasol

LR24 u ■ SbaenegLQF5 Q ■ Cymraeg

LLB Cyd-anrhydeddLM21 s ■ Gwleidyddiaeth a’r Gyfraith

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

Mae gwleidyddiaeth yn golygu mwy nag astudio sefydliadau llywodraethol a chysylltiadau rhyngwladol. Mae’n ddisgyblaeth sydd wedi archwilio gweledigaethau gwahanol ar gyfer cymdeithas fwy teg ers miloedd o flynyddoedd, ac eto’n parhau i fynd i’r afael â sialensiau mwyaf heddiw.

Mae’r Adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn ymchwilio i faterion megis hil-laddiad, argyfyngau ariannol, swyddogaeth yr Unol Daleithiau, a dyfodol datganoli gwleidyddol. Mae’n gofyn o ble y daw’r bygythiadau i’n cymdeithas ac a oes modd i ni eu hatal.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich darparu â’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd gwahanol, yn cynnwys y gwasanaethau sifil a’r gwasanaethau cudd, llywodraeth leol a chenedlaethol, rheoli, cyllid, dysgu a newyddiaduraeth

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• eich darparu â’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Rhan allweddol o’r cyrsiau hyn yw’r cyfle i fynd i’r afael ag ymchwil gymhleth a datrys problemau sy’n darganfod lle mae’r dylanwad a sut mae’r dylanwad hwnnw yn cael ei ddefnyddio ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial a thrafodaethau grwp bach. Wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth annibynnol fanwl ar eich pen eich hun neu fel rhan o grwp.

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan yn ein cynllun llwyddiannus ac arloesol sef Cynllun Preswyl Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a hefyd i gwblhau traethawd hir dan oruchwyliaeth ar bwnc o ddiddordeb arbennig i chi.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Beth yw Gwleidyddiaeth a

Chysylltiadau Rhyngwladol?• Rhyfel a Heddwch mewn Oes Niwclear• Gwleidyddiaeth a’r Bobl

Lefel Dau

• Hanes Meddwl Gwleidyddol

• Anarchiaeth a Threfn: Materion yng Ngwleidyddiaeth y Byd

• Hil-laddiad

• Y Wladwriaeth a Sefydliadau Gwleidyddol

• Gwleidyddiaeth Brydeinig a Pholisi Cyhoeddus: O Ryddfrydiaeth i Lafur Newydd

• Yr Ymerodraeth yn taro nôl: Bygwth a Defnyddio Grym Milwrol

• Sylfaenwyr Athroniaeth Fodern

• Traethawd Estynedig (Gwleidyddiaeth)

• Cyfathrebu Gwleidyddol

• Economeg Wleidyddol Fyd-eang

Lefel Tri

• Traethawd Hir

• Cynllun Preswyl Cynulliad Cenedlaethol Cymru

• Ymchwilio Gwleidyddiaeth I a II

• Rhyfel Cyffuriau UDA: Gwleidyddiaeth y Gwaharddiad

• Arlywyddiaeth America: Arweinyddiaeth a Phwer

• Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Gofod

• Diogelwch Cyfoes

• Polisi a Rheoleiddio’r Cyfryngau

• Technolegau Sgrin Newydd

• Economeg Wleidyddol Gyfoes

• Gwleidyddiaeth a Datblygu Rhyngwladol

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Gw

leid

ydd

iaeth a C

hysylltiadau R

hyngw

lado

l

• Interniaeth Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol

• Gweledigaethau Democratiaeth

• Globaleiddio

• Dulliau Meintiol mewn Dadansoddi Gwleidyddol a Chymdeithasol

Sut y caf fy asesu?Er mwyn i chi elwa gymaint â phosib o’ch cwrs gradd, caiff eich cynnydd ei werthuso drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys traethodau asesedig, arholiadau ysgrifenedig, gwaith tîm a chyflwyniadau.

“ Roedd penderfynu astudio Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe

yn un o’r penderfyniadau gorau wnes i erioed. Mae wedi fy ngalluogi i

archwilio’r byd yr ydym yn byw ynddo, ac i ddeall y pynciau llosg

pwysicaf ym materion y byd. O achosion gwrthdaro i’r atebion i ddod

â heddwch, mae’r cyfleoedd astudio o fewn y radd hon yn ddi-ben-

draw. Rhoddodd y modiwlau gorfodol yn nwy flynedd gyntaf y cwrs

sail gwybodaeth sylweddol i mi, o ran theori a ffaith, am faterion

rhyngwladol allweddol. Roedd y sylfeini hyn yn fy ngalluogi i ddatblygu

fy niddordebau penodol, a dwi wedi cael cyfle i arbenigo yn y rhain yn

fy mlwyddyn olaf. Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu yn ystod y

cwrs gan ganiatáu datblygiad set gwerthfawr o sgiliau i hwyluso

astudiaeth fwy annibynnol ar lefel tri. Cyflwynir y cwrs gan

academyddion blaenllaw yn y maes, pob un ohonynt yn gyfeillgar ac

yn barod i roi cymorth, os a phan fydd angen. Dwi’n teimlo bod modd i

mi ddilyn pa bynnag drywydd y byddaf yn ei ddewis, ond dwi’n credu,

o ganlyniad i’r cyfleoedd a gynigiwyd i mi o fewn y rhaglen radd hon,

y byddaf yn dewis aros ym maes Cysylltiadau Rhyngwladol.”Joanna Halbert, BA Cysylltiadau Rhyngwladol

Mae 93% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

8382

Page 44: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Parafeddygon yn aml yw’r cyntaf o’r gwasanaethau brys i gyrraedd lleoliad y ddamwain. Yn rheolaidd yng nghanol sefyllfaoedd dryslyd, llawn anrhefn a pherygl, mae parafeddygon wedi’u haddysgu i ddarparu cymorth achub bywyd a gofal trawma i gleifion yn yr amgylcheddau mwyaf heriol, a’u sefydlogi ar gyfer eu trosglwyddo i’r ysbyty. Yn ogystal â hyn, mae parafeddygon yn ymateb i gleifion ag anghenion cymdeithasol ac yn helpu’r cleifion hyn naill ai i symud i’r ysbyty neu drwy gynnig ymyriadau i helpu pobl aros yn eu tai eu hunain.

Trwy astudio Gwyddor Barafeddygol yn Abertawe, byddwch yn ennill cymhwyster cydnabyddedig a fydd yn caniatáu i chi wneud cais i gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd (HPC) ac ymarfer fel parafeddyg.

Bydd y cwrs hwn yn:• eich dysgu i fod yn barafeddyg• eich paratoi ar gyfer byd dynamig,

ansicr ac anrhagweladwy ymarfer parafeddygol mewn gwasanaeth iechyd sy’n moderneiddio

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Sylwer: mae’r teitl “Parafeddyg” wedi’i ddiogelu gan Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001. Yn unol â’r gyfraith, rhaid i unrhyw un sydd am ymarfer gan ddefnyddio teitl a ddiogelir gan Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 fod ar gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd (HPC). Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd (HPC) yn: www.hpc-uk.org

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi gael:• gwiriad heddlu manylach gan y

Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

• trwydded yrru lawn y DU (Categori B gydag uchafswm o dri phwynt cosb) – nid yw trwydded yrru dros dro’n ddigonol

Bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Sylwer: mae’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru’n mynnu bod gan ei barafeddygon drwydded yrru sy’n

caniatáu iddynt yrru cerbydau categori C1. Felly, ystyrir bod trwydded categori C1 yn fantais wrth ymgeisio, ond nid yw’n hanfodol i chi gael eich derbyn ar y cwrs hwn. Ni fydd Prifysgol Abertawe yn eich darparu â thrwydded o’r categori hwn fel rhan o’r cwrs.

Beth yw strwythur y cwrs?Nodwedd allweddol o’r cwrs hwn yw’r cyfle i dreulio 50% o’ch amser yn ennill profiad ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Cymru, gan gynnwys Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cyfleusterau Ymddiriedolaethau’r GIG, lleoliadau clinigol o fewn y GIG yng Nghymru, ac o fewn y gymuned mewn ambiwlansiau gweithredol. Byddwch yn treulio gweddill eich amser ar gampws Prifysgol Abertawe.

Tra byddwch ar leoliad, byddwch yn trin cleifion dan oruchwyliaeth ymarferydd cymwysedig a chewch eich cefnogi drwy gydol y cwrs gan Addysgwyr Lleoliadau Ymarfer. O ganlyniad, byddwch yn ennill profiad amhrisiadwy o ofal iechyd, yn ogystal â chyfle heb ei ail i ymarfer a datblygu sgiliau perthnasol. Er mwyn defnyddio’r ystod eang o fathau o leoliadau ambiwlans, gall myfyrwyr ddisgwyl lleoliadau clinigol ar draws Cymru.

Diploma mewn Addysg Uwch (DIPHE): Gwyddor Barafeddygol

: 2 flynedd llawn amser (45 wythnos y flwyddyn)

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Gwyddor Barafeddygol

“ Mae’r cwrs yn cynnig cydbwysedd gwych rhwng dysgu academaidd

a dysgu’n seiliedig ar ymarfer. Mae gweithio gyda Pharafeddygon ar

leoliad gwaith yn cynnig mewnweliad i’r swydd ac yn ffordd drylwyr o

ymarfer y sgiliau rydych chi’n eu dysgu yn y Brifysgol. Mewn gwirionedd,

y rhan o’r cwrs a fwynheais i fwyaf oedd bod ar leoliadau ymarferol. Mae

myfyrwyr yn cael eu derbyn a’u croesawu ac rwy’n teimlo fel rhan o’r tîm.

Mae bod â’r lefel o gyfrifoldeb a phwrpas ar y cwrs yn adlewyrchu bywyd

gwaith go iawn. ” Jack Wood, DipHE Gwyddor Barafeddygol

Gw

ydd

or B

arafed

dyg

ol

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Bydd angen lleiafswm o 5 TGAU arnoch ar radd C neu uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys Cymraeg/Saesneg Iaith, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Yn ogystal bydd angen lleiafswm o ddau gymhwyster Safon Uwch (ar radd B neu uwch); byddai Safon Uwch mewn gwyddoniaeth yn cael ei ystyried yn fantais.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Cewch gyflwyno cais yn uniongyrchol i Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd (gweler uchod).

Mae hwn yn gwrs llawn-amser, dwy flynedd. Bob blwyddyn, byddwch yn astudio modiwlau gorfodol wedi’u dylunio i’ch darparu â’r theori a’r profiad ymarferol sydd eu hangen i sicrhau eich datblygiad deallusol a phroffesiynol.

Lefel UnByddwch yn ennill gwybodaeth gadarn o gysyniadau sylfaenol ynghylch gofal cleifion, ac yn:• datblygu gwybodaeth o brif systemau’r

corff a phatholeg berthynol• perfformio asesiadau cleifion ac yn

adnabod afiechydon sy’n bygwth bywyd

• ymarfer cymorth achub bywyd a diffibrilio

• dysgu sut i ddehongli arsylwadau clinigol er mwyn trin a rheoli cleifion

• dysgu am egwyddorion cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol

• datblygu sgiliau myfyrio ynghylch ymarfer

Lefel DauByddwch yn:• datblygu eich gwybodaeth o anatomi a

ffisioleg ymhellach• dysgu am y ffactorau sy’n dylanwadu

ar iechyd a salwch• ymarfer cymorth achub bywyd uwch ac

ymyriadau parafeddygol

• dysgu am egwyddorion a pherthnasedd ymchwil

• datblygu sgiliau myfyrio ynghylch ymarfer ymhellach

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae’r cyfleusterau o’r radd flaenaf yn ein campysau yn Abertawe a Chaerfyrddin yn cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol a Thechnegol, cyfleusterau ymarfer clinigol efelychiadol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa gymorth ariannol fydd ar gael i fyfyrwyr ar y rhaglen hon. Mae’r wybodaeth sydd gennym ym mis Hydref 2011 yn cynnwys:

Os ydych yn breswylydd y DU, neu wedi preswylio yma am y tair blynedd ddiwethaf, neu â ‘Chaniatâd i Aros’, yna: • nid oes ffioedd i’w talu• bydd myfyrwyr yn derbyn grant, heb

brawf moddion, o £1,000• byddwch yn gymwys i ymgeisio am

fwrsariaeth ar sail prawf moddion o hyd at £4,395

• mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymgeisio am gymorth ychwanegol ar ffurf grant cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 ym mlwyddyn olaf eich astudiaethau)

Ar ben y fwrsariaeth sylfaenol ar sail prawf moddion, caiff myfyrwyr ymgeisio am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr a chanddynt anableddau, a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd ag oedolion neu blant yn dibynnu arnynt.

Darparwyd y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cymru, sy’n rheoli trefniadau cyllido myfyrwyr ar gyrsiau a ariennir gan y GIG yng Nghymru. Felly, ni all y Brifysgol dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newid i’r wybodaeth hon.

Rhoddir manylion ar wefan y Brifysgol wrth iddynt ddod yn hysbys. Hefyd, cynghorir myfyrwyr i edrych ar wefan yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth ac Arloesi mewn Gofal Iechyd: www.nliah.wales.nhs.uk

Gallwch hefyd wneud cais i’ch awdurdod addysg lleol am fenthyciad.

Yn ogystal bydd cymwysterau eraill megis Diploma BTEC Cenedlaethol (MMM) neu gyfwerth yn cael eu hystyried.

Rhaid i bob ymgeisydd fod dros 18 oed pan fydd y cwrs yn dechrau.

Mae’n bosib y bydd y Coleg yn gallu ystyried cymwysterau eraill sydd gennych, gan ddefnyddio Achredu Dysgu Blaenorol (APL). Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

8584

Page 45: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BSc Anrhydedd SenglC600 s Gwyddor Chwaraeon

BSc Cyd-anrhydedd Gwyddor Chwaraeon aGC16 s Mathemateg

HND006C ; Gwyddor Chwaraeon*

* Rhyddfraint i, a dysgir yng Ngholeg Gwyr Abertawe

; cynllun 2 flynedd s cynllun 3 blynedd

Mae Gwyddonwyr Chwaraeon yn helpu athletwyr i uchafu eu perfformiad, i fod yn fwy ffit, yn gryfach ac yn barod yn feddyliol. Maent yn defnyddio gwyddoniaeth, technoleg a meddyginiaeth i helpu timoedd ac unigolion i ennill mantais gystadleuol amlwg dros eu gwrthwynebwyr ac mae galw cynyddol ar eu harbenigedd ym maes ymarfer corff (e.e. adferiad cardiaidd) ac mewn chwaraeon perfformiad uchel.

Mae Gwyddor Chwaraeon yn Abertawe’n rhaglen berthnasol o safbwynt proffesiynol, ac mae’n astudio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gyfranogiad a pherfformiad mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Mae’r staff i gyd yn weithgar ym maes ymchwil ac mae ganddynt gysylltiadau gwych yn y byd chwaraeon a gwyddor ymarfer corff.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyfra fel gwyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff

• eich darparu â chyfleoedd gyrfaol gwobrwyol mewn rolau megis cryfder a chyflyru, hyfforddi chwaraeon, addysgu a darlithio, hyrwyddo iechyd ac astudiaethau ôl-raddedig

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd arbennig o’r cwrs hwn yw’r cyfle i archwilio theori ac ymarfer Gwyddor Chwaraeon drwy weithgaredd chwaraeon ymarferol a gwaith labordy cyffrous. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gwaith grwp a dosbarthiadau tiwtorial, yn ogystal ag ymarferion yn y labordai fydd yn cynnwys anthropometreg, ffisioleg, biomecaneg, seicoleg a dadansoddi symudiad.

Mae’r cwrs dwy flynedd Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) mewn Gwyddor Chwaraeon yn rhyddfraint Coleg Gwyr Abertawe. Mae’n darparu cymhwyster Addysg Uwch ar ben ei hun, yn ogystal â’r cyfle i fyfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs BSc Gwyddor Chwaraeon.

Os ydych yn dewis y rhaglen HND, byddwch yn dod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe ac yn gymwys i chwarae i’n timoedd chwaraeon.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Sgiliau Peirianneg• Cyflwyniad i Fiomecaneg• Ffisioleg Ddynol• Y System Niwrogyhyrysgerbydol Ddynol• Seicoleg Chwaraeon I• Metaboledd Ymarfer Corff• Hyfforddiant Ffitrwydd ar gyfer

Chwaraeon• Gwyddor Hyfforddi• Dulliau Ymchwil mewn Gwyddor

Chwaraeon• Moeseg Chwaraeon

Lefel Dau• Dadansoddiad Biomecanyddol o

Symudiad Dynol• Maetheg Ddynol• Seicoleg Chwaraeon II• Ffisioleg Ymarfer Corff• Cinanthropometreg• Gwyddor Hyfforddi II• Dulliau Ymchwil mewn Gwyddor

Chwaraeon II

Lefel Tri• Traethawd Hir• Biomecaneg Chwaraeon• Chwaraeon, Diet a Chlefyd• Seicoleg Chwaraeon III• Chwaraeon a Ffisioleg Ymarfer• Gwyddor Hyfforddi

Y Coleg Peirianneg

Gwyddor Chwaraeon

Sut y caf fy asesu?Caiff eich sgiliau a’ch gwybodaeth eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, aseiniadau a thraethawd hir.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cynnig Ysgoloriaeth Chwaraeon Mynediad Israddedig i fyfyrwyr â dawn neilltuol. Gweler tudalen 196 am ragor o wybodaeth.

“ Galluogodd y llwybr academaidd a ddewisais i mi ddatblygu fy

ngwybodaeth mewn Ffisioleg Ymarfer Corff, Dadansoddi Perfformiad /

Nodiannol, Cinanthropometreg a Maetheg Chwaraeon, ac mae’r rhain

yn feysydd yr wyf yn eu defnyddio yn ddyddiol. Roedd y darlithwyr yn

gyfeillgar ac roeddent yn rhoi cyngor a gwybodaeth i mi ar fy

niddordeb mewn Cryfhau a Chyflyru, a gwnaethon nhw hefyd fy helpu

i ennill profiad ymarferol (lleoliad gyda thîm rygbi’r Gweilch). Roedd fy

nhair blynedd yn Abertawe yn anghredadwy ac yn gymorth i mi, heb

os, i gyrraedd y man lle ydwyf heddiw. ”Eamon Swift, BSc Gwyddor Chwaraeon Prif Wyddonydd Chwaraeon gydag West Ham United

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/sport

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: Fel arfer BBB neu gyfwerth, gan gynnwys o leiaf un pwnc gwyddoniaeth, er ein bod yn ystyried pynciau eraill, e.e. Seicoleg ac Ymarfer Corff gyda gofynion mynediad uwch, fel arfer ABB.

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Gw

ydd

or C

hwarae

on

Hefyd rhaid eich bod wedi llwyddo mewn o leiaf pump TGAU, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Er mwyn astudio’r cwrs HND bydd angen un cymhwyster Safon Uwch neu gyfwerth a phedwar cymhwyster TGAU (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg) arnoch.

Ar gyfer y BSc Gwyddor Chwaraeon, bydd angen fel rheol tri chymhwyster Safon Uwch â’r graddau BBB neu gyfwerth, yn cynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol.

Mae 96% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

8786

Page 46: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglCH61 s Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg

MEng Anrhydedd SenglCH6C u Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

O bêl-droed a rygbi proffesiynol i nofio rhyngwladol yn y Gemau Olympaidd, mae’r amgylchedd chwaraeon modern yn gofyn am fwy gan athletwyr nag erioed o’r blaen. Wrth i ffiniau cryfder a dygnwch dynol gael eu hestyn a’u profi i’r eithaf, mae Gwyddonwyr Chwaraeon a Pheirianwyr yn fwyfwy canolog i’r gwaith o helpu athletwyr i lwyddo yn y byd chwaraeon.

Mae Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg yn golygu cymhwyso egwyddorion allweddol i heriau chwaraeon. Mae’r cynllun gradd newydd hwn wedi’i ddylunio i ddatblygu’ch gwybodaeth graidd mewn dylunio, dadansoddi mecanyddol a strwythurol, defnyddiau a modelu cyfrifiadurol. Mae hefyd yn darparu mewnwelediad i ffisioleg, biomecaneg, seicoleg, ymarfer a gwyddor chwaraeon.

Bydd y radd hon yn:

• rhoi’r wybodaeth a’r profiad technegol i chi sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym meysydd chwaraeon a ffisioleg ymarfer, biomecaneg chwaraeon, seicoleg a maetheg ddynol, dadansoddi a dylunio peirianneg a pheirianneg chwaraeon

• eich cyflwyno i dechnegau modern mewn datrys problemau cyfrifiadurol a rhoi cyflwyniadau

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethurol, neu ymchwil academaidd

Mae’r rhaglen hon hefyd yn rhoi’r gorau o bob byd i chi gan y byddwch yn rhyngweithio gyda myfyrwyr ar y rhaglen MEng a BEng Peirianneg Fecanyddol a Dylunio Cynnyrch. Byddwch hefyd yn rhannu brwdfrydedd a heriau chwaraeon gyda myfyrwyr ar y rhaglen BSc mewn Gwyddor Chwaraeon.

Beth yw strwythur y radd?Mae’r BEng yn rhaglen sy’n dair blynedd o hyd ac sy’n integreiddio darlithoedd, sesiynau tiwtorial, gwaith labordy ymarferol, aseiniadau dylunio a dysgu gyda chymorth cyfrifiadur i ddarparu hyfforddiant mewn agweddau allweddol ar beirianneg a gwyddoniaeth.

Ar Lefelau Un a Dau, byddwch yn ennill gwerthfawrogiad trylwyr o ddylunio, mecaneg, offeryniaeth a rheoli,

defnyddiau, dadansoddi peirianneg, ffisioleg a biomecaneg, anthropometreg, metaboledd ymarfer, systemau niwro-gyhyrysgerbydol dynol a seicoleg chwaraeon. Mae cyfran sylweddol o’r modiwlau biomecaneg a ffisioleg yn cael ei threulio’n gwneud gwaith labordy.

Mae Lefel Tri wedi’i dylunio i ehangu’ch sgiliau a’ch gwybodaeth am reoli peirianneg, dylunio gyda chymorth cyfrifiadur gyda dealltwriaeth bellach o fiomecaneg, seicoleg, maetheg ddynol a ffisioleg. Byddwch yn ennill profiad o offer sganio tri dimensiwn a phrototeipio cyflym o’r radd flaenaf i gynorthwyo’r broses ddylunio. Yn y prosiect yn y flwyddyn olaf, byddwch yn defnyddio’ch sgiliau peirianneg mewn prosiect sy’n gysylltiedig â chwaraeon.

Mae’r MEng yn rhaglen sy’n bedair blynedd o hyd, ac mae’r tair blynedd gyntaf yr un peth â’r radd BEng. Ar Lefel Pedwar, byddwch yn ehangu ac yn dyfnhau’ch gwybodaeth am themâu allweddol, gan gynnwys: biomecaneg, ymarfer a ffisioleg chwaraeon, deallusrwydd cyfrifiadurol a dadansoddi data, dadansoddi elfennau cyfyngedig a modelu cyfrifiadurol, dylunio prosiectau a rheoli ac entrepreneuriaeth.

Y Coleg Peirianneg

Gwyddor Chwaraeon a Pheirianneg

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?BEng

Safon Uwch: ABB neu gyfwerth, gan gynnwys Mathemateg a Gwyddor Ffisegol

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 (gan gynnwys 4 mewn Mathemateg Lefel Uwch)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

MEng

Safon Uwch: ABB neu gyfwerth, gan gynnwys Mathemateg a Gwyddor Ffisegol

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 (gan gynnwys 4 mewn Mathemateg Lefel Uwch)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“ Mae’r Gemau Olympaidd yn profi cryfder a dygnwch dynol i’r

eithaf. Mae deall sylfeini Gwyddor Chwaraeon a chymhwyso

gwybodaeth am Beirianneg yn gallu helpu athletwyr i fynd

ymhellach. ” Dr Ransing, Tiwtor Derbyn

Gw

ydd

or C

hwarae

on a Phe

irianneg

Sylwer, mae cyfleoedd i drosglwyddo o’r rhaglen BEng i’r rhaglen MEng hefyd ar gael ar ôl diwedd Lefel Dau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Mecaneg Hylifau I• Dylunio Peirianneg I• Sgiliau Peirianneg• Cryfder Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg I a II• Cyflwyniad i Fiomecaneg• Ffisioleg Ddynol• Offeryniaeth a Rheoli• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Systemau Niwro-gyhyrysgerbydol

Dynol

Lefel Dau• Anthropometreg• Trosglwyddo Gwres• Mecaneg Beirianegol• Dynameg I• Dadansoddi Straen I• Mesur a Rheoli Offeryniaeth• Peirianneg â Chymorth Cyfrifiadur• Dylunio Peirianneg II• Systemau Niwro-gyhyrysgerbydol

Dynol• Dadansoddiad Biomecanyddol o

Symudiad Dynol• Ffisioleg Ymarfer Corff

Lefel Tri• Polymerau, Defnyddiau a Phrosesu• Dylunio Cynnyrch â Chymorth

Cyfrifiadur• Rheoli Peirianneg• Prosiect Unigol• Ffisioleg Ymarfer Corff• Biomecaneg Chwaraeon• Anafiadau Chwaraeon

Lefel Pedwar (MEng yn unig)• Deallusrwydd Cyfrifiadurol mewn

Peirianneg• Prosiect grwp• Traethawd Ymchwil Hir• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Dadansoddi Cyfrifiadurol Elfennau

Cyfyngedig• Mesur a Dadansoddi ffisiolegol• Dylunio Cynnyrch yn Seiliedig ar

Efelychu• Dadansoddiad Biomecanyddol o

Symudiad Dynol

Sut y caf fy asesu?Caiff eich sgiliau a’ch gwybodaeth eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, aseiniadau a thraethawd hir.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Bob blwyddyn mae’r Brifysgol yn cynnig Ysgoloriaeth Chwaraeon Mynediad Israddedig i fyfyrwyr â dawn neilltuol. Gweler tudalen 196 am ragor o wybodaeth.

Mae 95% o raddedigion Peirianneg, a 96% o raddedigion Chwaraeon mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

8988

Page 47: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Rhoddodd y cwrs Daearyddiaeth yn Abertawe ddechreuad

ardderchog i mi wrth ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer astudiaeth

ôl-raddedig yn ogystal â gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant gwybodaeth

ddaearyddol. Mae sawl un o’r modiwlau, megis modelu amgylcheddol,

synhwyro o bell a systemau gwybodaeth ddaearyddol, yn dysgu

amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy sy’n addas ar gyfer gweithle

technolegol heddiw. Yn bwysicaf oll, roedd yr adran yn cynnig

amgylchedd cyfeillgar a chefnogol tu hwnt i ddysgu ynddo. ”Will Tompkinson, BSc Daearyddiaeth, (nawr yn gweithio fel Gwyddonydd Ymchwil Graddedig i Arolwg Ordnans)

BSc Anrhydedd Sengl

FF86 s Gwyddor Ffisegol y Ddaear

s cynllun 3 blynedd

Mae Gwyddor Ffisegol y Ddaear yn cyfuno astudio tirweddau ac amgylcheddau naturiol mewn daearyddiaeth ffisegol ag agweddau o ddaeareg i archwilio’r prosesau ffisegol sy’n llunio ein planed a’r newidiadau sydd wedi effeithio ar amgylcheddau dros gyfnodau o ganrifoedd i gannoedd o filiynau o flynyddoedd.

Bydd y radd hon yn:

• eich darparu â dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol a sut y mae wedi newid ar hyd amser

• eich darparu â’r sgiliau ymarferol, rhifiadol a chyfrifiannol sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr

• datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a dadansoddi

• eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn meysydd megis rheoli amgylcheddol, cadwraeth, awdurdodau lleol, addysg, cyfrifiadureg, neu asesu risg yswiriant

• eich paratoi ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig mewn daearyddiaeth ffisegol neu wyddor y Ddaear

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes. Byddwch yn archwilio pwnc gwyddor y Ddaear arloesol ar gyfer eich traethawd hir yn y flwyddyn olaf.

Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar waith maes ac mae ein lleoliad yn caniatáu mynediad hawdd i amrywiaeth eang o amgylcheddau gan gynnwys Penrhyn Gwyr, Bannau Brycheiniog a gorllewin Cymru, lle byddwch yn ymgymryd â chwrs maes tridiau yn ystod Lefel Dau.

Byddwch yn dilyn cwrs maes tramor yn Lefel Dau. Mae’r cyrchfannau ar hyn o bryd yn cynnwys Awstria neu Mallorca, a bydd y gost wedi’i chynnwys yn y ffioedd dysgu, neu Vancouver, am dâl ychwanegol.

Mae’r modiwlau dewisol yn Lefelau Dau a Thri yn darparu cyfleoedd ychwanegol am waith maes yn lleol yn ne a gorllewin Cymru. Mae myfyrwyr yn cyfrannu tuag at gostau’r gwaith maes yn y modiwlau dewisol.

Cewch ddewis ymchwil daearegol yn seiliedig ar waith maes yn Llwyfandir

Colorado, UDA, tuag at eich traethawd hir yn Lefel Tri.

Cewch fynediad at feddalwedd sy’n benodol i’r pwnc yn ein labordy cyfrifiadurol personol. Byddwch hefyd yn elwa o ystod o gyfleusterau labordy a chyfrifiadurol eraill, gan gynnwys labordy cyfrifiaduron perfformiad uchel ar gyfer prosesu a dehongli arsylwadau lloeren o’r Ddaear a data Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol; sbectromedr mas cymhareb isotop sefydlog; siambr profion hinsoddol; meintiolwr gronynnau laser; cromatograff nwy; offer nodweddu mwynau magnetig; a dadansoddydd carbon organig awtomataidd.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel UnMae’r modiwlau’n darparu sylfaen gref mewn daearyddiaeth ffisegol a daeareg: • Y Ddaear ar Waith• Wyneb Newidiol y Ddaear• Y Ddaear Ddynamig• Hanes y Ddaear• Newid Amgylcheddol Byd-eang• Cynaladwyedd mewn Byd Bregus• Dulliau Daearyddol, Astudiaeth

Ymarferol, Sesiynau Tiwtorial a Gwaith Maes

• Cyflwyniad i Ddaeareg Ymarferol

Gwyddor Ffisegol y DdaearY Coleg Gwyddoniaeth

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/geography

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602022

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB neu gyfwerth, gan gynnwys o leiaf un pwnc gwyddoniaeth.

Bagloriaeth Ryngwladol: 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Lefelau Dau a ThriMae modiwlau gorfodol yn cynnwys:• Dulliau ymchwil mewn Gwyddor

Amgylcheddol• Cwrs Maes Dramor• Cofnod Daearegol o Newid

Amgylcheddol (darlithoedd a dosbarthiadau maes)

• Ymagweddau at Ddaearyddiaeth Ffisegol

• Traethawd Hir a Chymorth Traethawd Hir

Byddwch yn dewis modiwlau dewisol o ddaearyddiaeth ffisegol a daeareg. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cynnwys:• Hydroddaeareg Gymhwysol• Newid Amgylcheddol• Y Ddaear Beryglus: Deall a Byw Gyda

Pheryglon Naturiol• Y Ddaear o’r Gofod: Monitro Newid

Amgylcheddol Byd-eang• Mapio Digidol a Gwyddoniaeth

Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)• Tectoneg Platiau a Geoffiseg Fyd-eang• Ail-lunio Amgylcheddau Cwaternaidd• Hinsawdd y 1000 o Flynyddoedd

Diwethaf• Gwyddoniaeth a Pholisi Hinsawdd• Rhewlifeg• Amgylcheddau a Thirweddau

Trofannol Llaith

• Modelu Amgylcheddol• Ffiniau Ymchwil Daearyddol• Lleoliad Gwaith Daearyddol

Cewch ddewis dilyn modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg ar bob lefel.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, gwaith ymarferol, gwaith maes ac asesu parhaus drwy gyfrwng dosbarthiadau tiwtorial. Byddwch hefyd yn cwblhau traethawd hir ar Lefel Tri.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Mae myfyrwyr sy’n astudio 40 credyd o fodiwlau Daearyddiaeth bob blwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymwys i ymgeisio am ysgoloriaethau gwerth £1,500 dros y tair blynedd.

Gw

ydd

or Ffi

seg

ol y D

dae

ar

Mae 87% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

9190

Page 48: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Mae’r radd Clywedeg yn gwrs cyffrous gydag agweddau’n

seiliedig ar waith ac egwyddorion damcaniaethol. Mae hyn yn fy

ngalluogi i gymhwyso’r wybodaeth yr wyf wedi’i hennill mewn

darlithoedd, ac i gwrdd ag ystod eang o bobl ym maes clywedeg a

phroffesiynau perthynol eraill. Mae’r fwrsariaeth a dderbyniais wedi bod

yn gymorth mawr ac mae’r staff yn gyfeillgar iawn ac mae eu drysau ar

agor i mi bob amser. ” Rebecca Chaplin, BSc Clywedeg

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Y rhaglen Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Niwrosynhwyrol) a gynigir yn Abertawe yw Clywedeg. Ar hyn o bryd, nid ydym yn cynnig Niwroffisioleg nac Ophthalmeg a Gwyddor Golwg.

Mae clywedegwyr yn ofalwyr iechyd proffesiynol sydd wedi’u hyfforddi i wneud diagnosis am, a rheoli, nam clywedol cleifion ac anhwylder balans ac anhwylderau perthynol, ac i brofi, gosod, ac addasu cymhorthion clyw. Gallant weithio mewn ysbytai neu yn y sector preifat, ac mae ganddynt rôl ymarferwr iechyd. Trwy astudio Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg) yn Abertawe, byddwch yn ennill gradd â chanolbwynt clinigol, gyda phwyslais ar ddysgu trwy ymarfer.

Datblygwyd y radd mewn cydweithrediad ag Academi Clywedeg Prydain. O raddio gyda’r radd hon, byddwch yn gymwys i ymgeisio i gofrestru’n wirfoddol gyda’r Cyngor Cofrestru Ffisioleg Glinigol, ac am Reoleiddio gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd (yn amodol ar gymeradwyo’r rhaglen).

Bydd y radd hon yn:• eich arfogi â’r sgiliau a’r gallu

angenrheidiol i ddod yn Glywedegydd cofrestredig

• eich hyfforddi i ddefnyddio offer soffistigedig a chyfleusterau gofal iechyd

• eich helpu i ennill profiad ymarferol helaeth a’r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Rhaglen dair blynedd lawn amser yw hon. Bydd y flwyddyn gyntaf yn cynnwys elfennau sy’n gyffredin i glywedeg, niwroffisioleg, ac ophthalmeg a gwyddor golwg. Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn arbenigo yn y ddisgyblaeth glywedeg o’ch dewis.

Yn ystod tair blynedd eich gradd, byddwch yn astudio yn y Brifysgol, lle byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol a sgiliau clinigol ymarferol yn y labordy sgiliau clywedeg, a hefyd mewn adrannau clywedeg ar draws Cymru, lle byddwch yn gweithio wrth ochr clywedegwyr proffesiynol i ddatblygu a mireinio’ch sgiliau clinigol.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Yn ystod y tair blynedd, byddwch yn astudio ystod eang o fodiwlau. Mae’r modiwlau i gyd yn fodiwlau craidd, a rhaid pasio’r cyfan i ennill gradd. Dyluniwyd y modiwlau i gwrdd â gofynion prosiect Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol yr Adran Iechyd (www.networks.nhs.uk/nhs-networks/msc-framework-curricula/documents/BSc_HCS_Neurosensory_Sciences%202011-12.pdf). O ganlyniad, wrth raddio, bydd gennych yr holl wybodaeth a sgiliau angenrheidiol am fynediad syth i’r proffesiwn clywedeg.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio? Mae gan y Coleg gyfleusterau helaeth sy’n cynnwys; canolfannau adnoddau clinigol a sgiliau technegol, cyfleusterau efelychu ymarfer clinigol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol. Trwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd lleol y GIG, mae’r Coleg yn ddiweddar wedi agor Swît Aneurin Bevan. Mae’r 10 ystafell ymarfer uwch-fodern hyn yn creu awyrgylch clinigol go iawn ar gyfer ein disgyblaethau Gwyddor Gofal Iechyd sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer ac i fagu hyder ac ennill profiad mewn ymarferion clinigol cyn mynd ar leoliad.

BSc Anrhydedd Sengls Gwyddor Gofal Iechyd (Clywedeg)

Cyhoeddir y Cod UCAS ar y wefan mor fuan ag y bydd yn hysbys.

s cynllun 3 blynedd

Gwyddor Gofal Iechyd – Clywedeg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences

Cysylltwch â Swyddfa Dderbyn Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? Safon Uwch: BBB, gydag o leiaf un mewn pwnc gwyddonol (Mathemateg, Ffiseg, Bioleg, Cemeg) ar radd B neu’n uwch.

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Hefyd, bydd angen TGAU Mathemateg, Saesneg, neu Gymraeg a gwyddoniaeth ddwbl neu wyddorau ar wahân ar radd C neu’n uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Gw

ydd

or G

ofal Ie

chyd –

Clyw

ed

eg

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau a thraethawd hir.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eto ba gefnogaeth yn union a gynigir ar gyfer y rhaglen hon, ond rydym yn rhagweld y bydd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

Os ydych yn breswylydd y DU, neu wedi preswylio yma am y tair blynedd ddiwethaf, neu â ‘Chaniatâd i Aros’, yna:

• nid oes ffioedd i’w talu

• bydd myfyrwyr newydd yn derbyn grant, heb brawf moddion, o £1,000

• byddwch yn gymwys i ymgeisio am fwrsariaeth o hyd at £4,395, ar sail prawf moddion

• mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymgeisio am gymorth ychwanegol ar ffurf benthyciad cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 ym mlwyddyn olaf eich astudiaethau)

Ar ben y fwrsariaeth sylfaenol ar sail prawf moddion, caiff myfyrwyr ymgeisio am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau, a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd ag oedolion neu blant yn dibynnu arnynt.

A oes unrhyw ofynion ychwanegol? Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi hefyd gael:

• gwiriad heddlu manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol.

Bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

9392

Page 49: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Bydd y rhaglenni gradd Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Ffisiolegol) yn eich dysgu i fod yn ffisiolegwyr cardiaidd ac anadlu. Mae’r rhain yn weithwyr proffesiynol medrus tu hwnt sy’n monitro, yn mesur, ac yn dadansoddi gweithrediad y galon a’r ysgyfaint mewn amgylcheddau clinigol. Maen nhw’n gwella ansawdd bywyd cleifion drwy wneud diagnosisau o glefyd ac yn darparu gwybodaeth ynghylch y driniaeth.

Wrth astudio Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddorau Ffisiolegol) yn Abertawe, byddwch yn ennill gradd sy’n canolbwyntio ar waith clinigol, gyda phwyslais ar ddysgu trwy ymarfer, a fydd, pan fyddwch yn graddio, yn eich cymhwyso i ymgeisio i gofrestru’n wirfoddol a gweithio fel ymarferydd annibynnol.

Fel Ffisiolegydd Gwyddor Gofal Iechyd, bydd bywydau yn aml yn dibynnu ar eich sgiliau.

Bydd y radd hon yn:

• arwain at gymhwyster cydnabyddedig a fydd yn eich galluogi i fod yn Ffisiolegydd Cardiaidd neu Anadlu

• eich darparu â’r sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen i weithio yn y GIG a’r sector preifat

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi hefyd gael:• gwiriad heddlu manylach y Swyddfa

Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

Bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Beth yw strwythur y radd?Rhaglen dair blynedd lawn amser yw hon. Mae’r flwyddyn gyntaf yr un peth ar gyfer Ffisioleg Gardiaidd a Ffisioleg Anadlu. Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn cael addysg arbenigol yn y ddisgyblaeth o’ch dewis, sef Ffisioleg Gardiaidd neu Ffisioleg Anadlu.

Ffisioleg GardiaiddFel ffisiolegydd cardiaidd, byddwch yn cyfuno asesu cleifion â defnyddio offer arbenigol i wneud diagnosisau ac i ddarparu cyfarwyddyd ynghylch rheoli afiechyd y galon. Byddwch hefyd yn ymwneud â thrin abnormaleddau rhythm y galon.

Mae Ffisiolegwyr Cardiaidd yn perfformio ystod o archwiliadau, yn cynnwys:• Electrocardiograff gorffwys (ECG)• Monitro’r gallu i gerdded• Profi goddef ymarfer (ETT)• Cathetreiddio cardiaidd• Ecocardiograffeg• Rheolwyr calon parhaol a diffibrilwyr

mewnosodol

Ffisioleg AnadluFel Ffisiolegydd Anadlu, byddwch yn defnyddio amrywiaeth o offer a thechnegau i fesur a monitro gweithred anadlu cleifion, ac yn gwneud diagnosisau, ac yn rhoi gwybodaeth i gleifion am driniaethau ar gyfer clefydon yr ysgyfaint. Byddwch hefyd yn gwneud diagnosis a thrin rhai anhwylderau anadlu’n ymwneud â chysgu.

BSc Anrhydedd Sengls Gwyddor Gofal Iechyd (Cardioleg)s Gwyddor Gofal Iechyd (Anadlu)

Cyhoeddir codau UCAS ar y wefan pan fyddant yn hysbys.

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Gwyddor Gofal Iechyd – Gwyddorau Ffisiolegol

“ Mae’r cwrs yn ein dysgu am ffisioleg anadlu a’r profion amrywiol y

gellid eu gwneud i helpu gwneud diagnosis am anhwylderau anadlu. Mae

hefyd yn archwilio meysydd eraill megis bioleg ddynol, mathemateg,

ffiseg, anatomi, ffisioleg, a llawer mwy. Fy hoff agwedd o’r cwrs yw

dysgu’r theori a’i roi ar waith ar leoliad.” Catrin Lewis, BSc Gwyddor Gofal Iechyd

(Anadlu)

Gw

ydd

or G

ofal Ie

chyd –

Gw

ydd

orau Ffi

siole

go

l

Mae Ffisiolegwyr Anadlu yn perfformio ystod o archwiliadau, yn cynnwys: • Cyfeintiau ysgyfaint a llif allananadlu

gorfodol• Cyfnewid nwyon resbiradol• Nwyon y gwaed• Ymateb i driniaeth• Anadlu yn ystod cwsg• Triniaeth CPAP• Profion ar gyfer alergeddau• Ymateb ffisiolegol i ymarfer corff

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Yn ystod y tair blynedd, byddwch yn astudio ystod eang o fodiwlau. Mae’r modiwlau i gyd yn fodiwlau craidd, a rhaid llwyddo yn y cyfan i ennill gradd. Dyluniwyd y modiwlau i gwrdd â gofynion prosiect Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol yr Adran Iechyd (www.networks.nhs.uk/nhs-networks/msc-framework-curricula/documents/BSc_HCS_Medical_Physics_Technology%202011-12.pdf). Felly, wrth raddio bydd gennych yr holl wybodaeth a sgiliau angenrheidiol i gychwyn yn y proffesiwn ac i ymarfer yn eich arbenigedd.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae gan y Coleg gyfleusterau helaeth sy’n cynnwys; canolfannau adnoddau clinigol a sgiliau technegol, cyfleusterau efelychu ymarfer clinigol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol. Trwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd lleol y GIG, mae’r Coleg yn ddiweddar wedi agor Swît Aneurin Bevan. Mae’r 10 ystafell ymarfer uwch-fodern hyn yn creu awyrgylch clinigol go iawn ar gyfer ein disgyblaethau Gwyddor Gofal Iechyd sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer ac i fagu hyder ac ennill profiad mewn ymarferion clinigol cyn mynd ar leoliad.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau a thraethawd hir.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eto ba gefnogaeth yn union a gynigir ar gyfer y rhaglen hon, ond rydym yn rhagweld y bydd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

Os ydych yn breswylydd y DU, neu wedi preswylio yma am y tair blynedd ddiwethaf, neu â ‘Chaniatâd i Aros’, wedyn:• nid oes ffioedd i’w talu• bydd myfyrwyr newydd yn derbyn

grant, heb brawf moddion, o £1,000• byddwch yn gymwys i ymgeisio am

fwrsariaeth o hyd at £4,395, ar sail prawf moddion

• mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymgeisio am gymorth ychwanegol ar ffurf grant cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 ym mlwyddyn olaf eich astudiaethau)

Ar ben y fwrsariaeth sylfaenol ar sail prawf moddion, caiff myfyrwyr ymgeisio am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau, a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd ag oedolion neu blant yn dibynnu arnynt.

Rhoddir manylion ar wefan y Brifysgol wrth iddynt ddod yn hysbys.

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB, gan gynnwys Bioleg ar radd B neu’n uwch.

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Hefyd, bydd angen TGAU Mathemateg, Saesneg, neu Gymraeg a gwyddoniaeth ddwbl neu wyddorau ar wahân ar radd C neu’n uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanitiesandhealthsciences

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

9594

Page 50: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Mae gan y Brifysgol gysylltiadau ag ysbytai lleol ac rydych yn treulio

llawer o amser ar leoliad. Gan ystyried natur ymbelydrol Technoleg

Glinigol, mae’n amhosib ymarfer holl agweddau clinigol y swydd ar

gampws y Brifysgol. Mae’n gyffrous ac yn ddiddorol bod y cwrs yn

cynnwys rhywbeth mor aruthrol ag ymbelydredd.

Gan ei bod yn adran fach, mae yna deimlad braf o gymuned ymhlith y

myfyrwyr ar y cwrs.” Helen Donne, BSc Gwyddor Gofal Iechyd

Mae gan Dechnolegwyr Ffiseg Feddygol rôl ganolog yn system gofal iechyd dechnolegol soffistigedig heddiw. Mae’r rhan fwyaf o weithredoedd diagnostig clinigol, a llawer o weithredoedd therapiwtig, yn defnyddio technegau yn seiliedig ar ffiseg, gan gynnwys defnyddio ymbelydredd ïoneiddio. Mae Technolegwyr Ffiseg Feddygol yn gweithredu systemau i ddal delweddau, a phrosesu delweddau, ac maent yn ymwneud yn agos â sicrhau ansawdd yr holl offer yn ymwneud â phelydr X ac ymbelydredd gama. Mae radiotherapi’n gofyn am dargedu ymbelydredd yn fanwl gywir i drin tiwmorau heb niweidio meinwe iach.

Bydd astudio Technoleg Ffiseg Feddygol yn Abertawe yn eich darparu â gwybodaeth sylfaenol o’r tri maes Technoleg Ffiseg Feddygol, sef meddygaeth niwclear, radiotherapi, a diogelu rhag ymbelydredd. Dilynir hyn gan hyfforddiant arbenigol pellach mewn un maes (ar hyn o bryd, meddygaeth niwclear neu radiotherapi). Wrth i chi raddio, byddwch yn barod i gychwyn ymarfer a gweithio yn y maes yr ydych wedi dewis arbenigo ynddo.

Dyluniwyd y cwrs i gwrdd â gofynion prosiect Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol yr Adran Iechyd a’r Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg mewn Meddygaeth. Felly, pan fyddwch yn graddio, byddwch yn gymwys i ymgeisio i gofrestru’n wirfoddol, ac i weithio yn y GIG neu mewn amgylchedd gwaith arall fel ymarferwr annibynnol.

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi hefyd gael:• gwiriad heddlu manylach y Swyddfa

Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

Bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Beth yw strwythur y radd?Yn ystod tair blynedd eich gradd, byddwch yn rhannu’ch astudio rhwng y brifysgol, lle cewch ddealltwriaeth ddamcaniaethol, ac ysbytai ar draws Cymru, lle byddwch yn ymarfer wrth ochr Technolegwyr Ffiseg Feddygol proffesiynol i ddatblygu a mireinio’ch sgiliau clinigol.

Gradd dair blynedd llawn amser yw Technoleg Ffiseg Feddygol. Wrth raddio, cewch naill ai BSc mewn Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear) neu BSc mewn Gwyddor Gofal Iechyd (Radiotherapi).

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Yn ystod y tair blynedd, byddwch yn astudio ystod eang o fodiwlau. Mae’r modiwlau i gyd yn fodiwlau craidd, a rhaid llwyddo yn y cyfan i ennill gradd. Dyluniwyd y modiwlau i gwrdd â gofynion prosiect Moderneiddio Gyrfaoedd Gwyddonol yr Adran Iechyd (www.networks.nhs.uk/nhs-networks/msc-framework-curricula/documents/BSc_HCS_Medical_Physics_Technology%202011-12.pdf). Felly, wrth raddio bydd gennych yr holl wybodaeth a sgiliau angenrheidiol i gychwyn yn y proffesiwn ac i ymarfer yn eich arbenigedd.

BSc Anrhydedd Sengls Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth

Niwclear)s Gwyddor Gofal Iechyd (Radiotherapi)

Cyhoeddir y Cod UCAS ar y wefan mor fuan ag y bydd yn hysbys.

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Gwyddor Gofal Iechyd – Technoleg Ffiseg FeddygolG

wyd

do

r Go

fal Iechyd

– Te

chnole

g Ffi

seg

Fed

dyg

ol

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae gan y Coleg gyfleusterau helaeth sy’n cynnwys; canolfannau adnoddau clinigol a sgiliau technegol, cyfleusterau efelychu ymarfer clinigol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol. Trwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd lleol y GIG, mae’r Coleg yn ddiweddar wedi agor Swît Aneurin Bevan. Mae’r 10 ystafell ymarfer uwch-fodern hyn yn creu awyrgylch clinigol go iawn ar gyfer ein disgyblaethau Gwyddor Gofal Iechyd sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer ac i fagu hyder ac ennill profiad mewn ymarferion clinigol cyn mynd ar leoliad.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau a thraethawd hir.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eto ba gefnogaeth yn union a gynigir ar gyfer y rhaglen hon, ond rydym yn rhagweld y bydd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:

Os ydych yn breswylydd y DU, neu wedi preswylio yma am y tair blynedd ddiwethaf, neu â ‘Chaniatâd i Aros’, yna:

• nid oes ffioedd i’w talu

• bydd myfyrwyr newydd yn derbyn grant, heb brawf moddion, o £1,000

• byddwch yn gymwys i ymgeisio am fwrsariaeth o hyd at £4,395, ar sail prawf moddion

• mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymgeisio am gymorth ychwanegol ar ffurf grant cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 ym mlwyddyn olaf eich astudiaethau)

Ar ben y fwrsariaeth sylfaenol ar sail prawf moddion, caiff myfyrwyr ymgeisio am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau, a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd ag oedolion neu blant yn dibynnu arnynt.

Rhoddir manylion ar wefan y Brifysgol wrth iddynt ddod yn hysbys.

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB, gydag o leiaf un mewn Mathemateg neu Ffiseg ar Radd B neu’n uwch.

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Hefyd, bydd angen TGAU Mathemateg, Saesneg, neu Gymraeg a gwyddoniaeth ddwbl neu wyddorau ar wahân ar radd C neu’n uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanitiesandhealthsciences

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

9796

Page 51: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Mae Hanes yn golygu deall diwylliannau dynol y gorffennol a’r presennol, a gwerthfawrogi amrywiaeth a newid mewn cymdeithasau dynol. Rydym yn byw mewn cyfnod globaleiddio cyflym a heddiw – yn fwy nag erioed – mae angen i ni ddeall sut y daethom i fodoli fel hyn, a sut y mae diwylliannau dynol wedi rhyngweithio’n hanesyddol gan adael etifeddiaeth gymhleth ond pwerus i’r dyfodol.

Mae astudio hanes yn golygu meddwl ynglyn â sut i gynrychioli, cadw a choffau’r gorffennol mewn dulliau sy’n adlewyrchu ein cyd-gyfrifoldeb am y byd yr ydym yn byw ynddo. Yn Abertawe, fe’ch anogir i astudio’r gorffennol er mwyn ateb sialensiau’r presennol a chyfrannu at lunio’r dyfodol. Mae ein cynlluniau gradd wedi’u creu i ateb yr her hon, a chyfarparu myfyrwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau a fydd yn eu gosod ar lwybr gyrfa llwyddiannus. Mae graddau Hanes yn Abertawe yn archwilio’r prif gyfnodau a gwareiddiadau’r Oesoedd Canol hyd heddiw.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich darparu â’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys dysgu, cyfrifeg, bancio, yswiriant, y cyfryngau, marchnata, rheoli personél, a gwaith amgueddfa a threftadaeth

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• eich darparu â’r sgiliau a’r dulliau methodolegol sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Rydym yn cynnig ystod eang o raddau wedi’u cynllunio i roi’r cyfle i chi arbenigo yn y pynciau y mae gennych fwy o ddiddordeb ynddynt. Ceir gwybodaeth bellach am ein cyrsiau ar ein gwefan.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau gyda phwyslais ar ddysgu rhyngweithiol a chyfrannu yn y dosbarth.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Ewrop Ganoloesol: Cyflwyniad• Hanes y Byd, 1500-1800• Ewrop Eithafol, 1789-1989• Creu Hanes

Lefel Dau• Ymarfer Hanes: Yr Amrywiol Ffynonellau• Twf Gwyddoniaeth Fodern: o Athen i

Los Alamos• Rhyfel a Chymdeithas yn y Byd

Eingl-normanaidd• Cyflwyniad i Fyd Dante• Cyflwr yr Eglwys yn Ewrop Ganoloesol

Ddiweddarach• Prydain Ganoloesol: c.1250-1520• Dadeni’r Oesoedd Canol• Cyfnod Aur Iberia, 1450-1700• Byd Prydeinig yr Iwerydd,

c.1550-1760• O Resymu hyd at Ramantiaeth: Ewrop

1650-1800• Rhyfel a’r Gymdeithas Brydeinig,

c. 1688-1815• Ewrop Chwyldroadol a Napoleon,

1789-1815• Yr Ymerodraeth Brydeinig ers

1800: Awdurdod a Phryder• Y Ganrif Gymreig: Gwleidyddiaeth,

Cenedligrwydd a Chrefydd,1847-1947• Y Deyrnas Unedig, 1801-1922

BA Anrhydedd SenglV100 s Hanes V101 u Hanes V116 u Hanes yr Henfyd a’r Oesoedd

Canol V1R1 u Hanes Ewropeaidd (gyda

Ffrangeg)V2R2 u Hanes Ewropeaidd (gydag

Almaeneg)V2R3 u Hanes Ewropeaidd (gydag

Eidaleg)V2R4 u Hanes Ewropeaidd (gyda

Sbaeneg)V2Q5 u Hanes Ewropeaidd (gyda

Chymraeg)

BA Cyd-anrhydedd Hanes aVT17 s Astudiaethau Americanaidd TV71 u Astudiaethau Americanaidd QV7C u Groeg HynafolV110 s Hanes yr Henfyd V190 u Hanes yr Henfyd QV81 s Gwareiddiad ClasurolQV8C u Gwareiddiad Clasurol LV11 s EconomegQV31 s Llenyddiaeth SaesnegQV3C u Llenyddiaeth Saesneg RV11 u Ffrangeg LV71 s DaearyddiaethRV21 u Almaeneg QV71 s Groeg (iaith hynafol)RV31 u EidalegQV61 u Lladin

VQ1P s Lladin V130 s Astudiaethau Canoloesol V191 u Astudiaethau Canoloesol LV2C s Hanes Modern a Chysylltiadau

RhyngwladolLV21 s GwleidyddiaethVL1F u Gwleidyddiaeth LV43 s Polisi Cymdeithasol RV41 u Sbaeneg QV51 s Cymraeg VQ1M u Cymraeg

LLB Cyd-anrhydeddMVC1 s Hanes a’r Gyfraith

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Hanes

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Mae cymhwyster Safon Uwch mewn Hanes yn ddymunol ond nid o reidrwydd yn hanfodol. Os ydych yn dymuno astudio’r rhaglen Hanes Ewropeaidd, fel arfer mae angen Safon Uwch mewn iaith addas, serch hynny, gydag Eidaleg, Sbaeneg a Chymraeg

Hane

s

• Y Rhyfel Byd Cyntaf: Gwleidyddiaeth, Cymdeithas a Diwylliant 1870-1933

• Ffasgiaeth Ewropeaidd• Ewrop Natsïaidd Feddianedig:

Cydweithio, Gwrthsafiad, Hil-laddiad• Adluniad Ôl-ryfel: Ewrop 1945-1956• Hanes ar y Teledu Lefel Tri• Bod yn Groesgadwr: Marchog a’i Stori

o’r Groesgad Gyntaf• Y Cathariaid a’r Croesgadau

Albigensaidd• Cylch Bywyd yn Ewrop Ganoloesol

Ddiweddarach, 1300-1500• Y Dadeni yn Fenis, 1380-1520• Celf a Chymdeithas y Dadeni Cynnar yn

yr Eidal• Tywysogion, Pabau a Phrotestaniaid: Y

Diwygiad yn Lloegr yng nghyfnod y Tuduriaid ac Ewrop

• Teulu, Rhyw ac Agosatrwydd ym Mhrydain Fodern Gynnar

• Diwylliant Argraffu a Hanes y Llyfr• Y Daith Fawr, c.1500-1800• Ymerodraethau Ewropeaidd yn y

Dwyrain• Gwyddoniaeth a Natur yn Ewrop

Fodern Gynnar• Masnachwyr a Rhyfeddodau: Teithiau

Hirbell yn y Byd Modern Cynnar• America Chwyldroadol, 1760-1791

• O Machiavelli i Mussolini: Llywodraeth a Chymdeithas o fewn Syniadaeth Wleidyddol y Gorllewin

• Cefndir i Gymru I: Tarddiad Cymru hyd 1800 (myfyrwyr tramor yn unig)

• Cefndir i Gymru II: 1800 hyd heddiw (myfyrwyr tramor yn unig)

• Almaen Weimar• Ymfudwyr Gwyddelig ym Mhrydain yng

nghyfnod Fictoria • Hanes cymdeithasol y Pwll Glo yn Ne

Cymru• Caethwasiaeth a’r Chwyldro

Americanaidd• Ailfeddwl y Dref Gymreig, 1780-1850 • Rhyfel Prydain, 1939-1945: Y Ffrynt

Gartref• Carcharorion Rhyfel yng

Ngwrthdrawiadau’r Ugeinfed Ganrif• Llywodraethu’r Eidal I: Rheolaeth y Wlad

yn yr Eidal Ryddfrydol a Ffasgaidd, 1861-1940

• Chwaraeon a’r Gymdeithas Brydeinig 1860-1960

• Y Cyfryngau a Chymdeithas yn y 1930au

• Ffasgiaeth hyd at y Weriniaeth: Yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd

• Hanes Cyfraith Cymru

Yn ogystal, yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion cyflogwyr yng Nghymru, cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg gyda’r ddarpariaeth honno yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cyfle hefyd i chi gyflawni traethawd hir trwy’r Gymraeg a derbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg.

Sylwer y gall modiwlau fod yn agored i’w newid.

Sut y caf fy asesu?Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs wedi’i asesu ac arholiadau ysgrifenedig. Mae’r traethawd hir y byddwch yn ei gwblhau yn Lefel Tri yn cael ei asesu fel darn o waith cwrs ysgrifenedig a thrwy arholiad llafar.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Rydym yn cynnig pedair ysgoloriaeth flynyddol i’n myfyrwyr israddedig mwyaf addawol yn Lefel Un, ar sail cymwysterau academaidd. Byddwch yn cael eich ystyried yn awtomatig ar gyfer y wobr unwaith i chi ddechrau ar eich astudiaethau yma gyda ni.

efallai y bydd modd i chi ddysgu’r iaith fel dechreuwr os oes gennych ddawn ieithyddol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 90% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

9998

Page 52: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

O areithiau gwleidyddol i hysbysebu a newyddiaduraeth, o gysylltiadau cyhoeddus i negeseuon testun a’r cyfryngau newydd, mae iaith a chyfathrebu yn diffinio sut yr ydym yn rhyngweithio â’r byd o’n cwmpas. Wrth werthfawrogi sut y mae iaith yn gweithio gallwn ddeall sut mae’n dylanwadu ar ein hymateb i wahanol sefyllfaoedd, a sut mae’n amlygu gwir gymhelliad, uchelgais a gobeithion pobl.

Mae Iaith a Chyfathrebu yn Abertawe yn archwilio’r gwahanol dechnegau o ddisgrifio a dadansoddi iaith, ac yn cyflwyno gwahanol theorïau am gyfathrebu.

Bydd y radd hon yn:

• eich darparu â’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa mewn meysydd megis newyddiaduraeth neu ddarlledu

• darparu llwyfan ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig mewn ieithyddiaeth neu theori cyfathrebu

• rhoi gwybodaeth ddatblygedig i chi o sut mae iaith yn gweithio

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Bydd astudio’r radd hon yn eich galluogi i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol a dealltwriaeth o sawl ffactor sy’n llunio arferion cyfathrebu ar draws amrywiaeth eang o gyd-destunau. Yn benodol, byddwch yn archwilio sut mae iaith yn gweithio mewn sefydliadau, yn y newyddion a gwleidyddiaeth, ac mewn perthynas â diwylliannau byd-eang, hunaniaeth unigol a chyfun, a chydberthnasau rhyng-ddiwylliannol.

Cewch eich addysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, grwpiau seminar a dosbarthiadau tiwtorial. Yn ystod Lefel Tri byddwch yn cwblhau traethawd hir annibynnol neu brosiect cyfathrebu ar bwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Yn ogystal â’r modiwlau a gynigir, gallwch hefyd ddewis dilyn modiwlau mewn iaith dramor. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel UnModiwlau Gorfodol• Sgiliau Astudio ar gyfer Iaith• Iaith Bywyd Bob Dydd• Cyflwyniad i Gyfathrebu yn y Cyfryngau• Cyfathrebu ac Ymarfer Creadigol

Modiwlau Dewisol• Astudio’r Iaith Saesneg• Y Gymdeithas Gymreig Gyfoes• Cyflwyniad i Astudiaethau Ffilm

Lefel DauModiwlau Gorfodol• Dadansoddi Mynegiant• Astudio Tafodieithoedd• Damcaniaethu’r Cyfryngau • Y Diwylliant Gweledol ac Astudiaethau’r

Cyfryngau

Modiwlau Dewisol• Corpora a Chydgordio• Seicoieithyddiaeth• Darllen y Sgrin• Gwleidyddiaeth y Cyfryngau Newydd

Lefel Tri• Iaith yn y Cyfryngau

BA Anrhydedd SenglPQ91 s Iaith a Chyfathrebu

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Iaith a Chyfathrebu – Iaith Saesneg ac Astudiaethau’r Cyfryngau

Iaith a Chyfathre

bu –

Iaith Sae

sneg

ac Astud

iaethau

’r Cyfryng

au

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Mae cymwysterau mewn Iaith neu Lenyddiaeth Saesneg, iaith fodern neu bynciau eraill ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau yn ddymunol, ond nid ydynt yn hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

“ Yr hyn sydd wedi fy ysbrydoli fwyaf yma yn Abertawe yw

ymrwymiad yr holl ddarlithwyr. Dydyn nhw byth yn rhy brysur i’ch

helpu! Dwi wedi mwynhau pob munud o bob modiwl yn ystod fy

astudiaethau. ” Amy Bowen, BA Iaith a Chyfathrebu

Modiwlau Dewisol• Traethawd Hir• Cynhyrchu Fideos• Technolegau’r Sgrin Newydd• Caffael Iaith Gyntaf

Sut y caf fy asesu?Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau ac arholiadau. Wrth i chi ddilyn eich cwrs gradd, rhoddir mwy o bwyslais ar waith cwrs.

Mae 91% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

101100

Page 53: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Mae pob un ohonom yn defnyddio iaith, ac mae pob un ohonom â barn ar yr hyn sy’n gwneud Saesneg da neu wael. Ond prin iawn y byddwn yn cymryd yr amser i feddwl am sut a pham y mae iaith yn gweithio: sut y mae geiriau’n cyfuno i’n hysbrydoli a chael effaith arnom, yn ein perswadio, ein hannog a’n diddanu – neu hyd yn oed sut rydym yn caffael iaith yn y lle cyntaf.

Mae graddau Iaith Saesneg Abertawe wedi’u dylunio i ymdrin â theori ac ymarfer ieithyddol mewn ffordd gytbwys a chryno, gan sicrhau bod gan fodiwlau’r cwrs berthnasedd galwedigaethol i ddefnyddio iaith ac ieithyddiaeth yn y byd go iawn.

Efallai y byddwch hefyd â diddordeb yn ein gradd mewn Iaith a Chyfathrebu (gweler tudalen 100), neu ein hystod o gynlluniau gradd cyd-anrhydedd gydag Astudiaethau Iaith Saesneg a chyda TEFL (gweler tudalen 64).

Bydd y graddau hyn yn:• eich arfogi â’r sgiliau perthnasol ar

gyfer gyrfa mewn meysydd megis dysgu, addysg, cyfathrebu a’r cyfryngau, cyhoeddi, a chysylltiadau cyhoeddus

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a dadansoddi

• rhoi gwybodaeth ddatblygedig i chi o sut y mae iaith yn gweithio

• darparu llwyfan ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig

Beth yw strwythur y radd?Yn ystod Lefel Un, byddwch yn meistroli’r dulliau sylfaenol, yr egwyddorion a’r eirfa ar gyfer disgrifio, dadansoddi a dehongli iaith a defnydd iaith. Ar Lefel Dau, bydd eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o iaith yn cael eu datblygu, ac yn ystod Lefel Tri, cewch eich annog i ymgymryd â gwaith mwy annibynnol ac arbenigol, a fydd yn eich galluogi i archwilio’r maes astudiaethau iaith cymhwysol sy’n eich diddori fwyaf.

Os byddwch yn penderfynu cyfuno’ch gradd ag Iaith Ewropeaidd byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio neu’n gweithio dramor. Gallwch weithio naill ai fel athro cynorthwyol Saesneg mewn ysgol Ewropeaidd neu gallwch astudio yn un o’n prifysgolion partner cyn dychwelyd i Abertawe ar gyfer eich blwyddyn olaf.

Cewch eich addysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gwaith grwp.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Gallwch ddewis o ystod eang o fodiwlau, ac mae rhai ohonynt yn orfodol.

Lefel Un• Sgiliau Astudio ar gyfer Iaith• Disgrifio Iaith• Iaith Bywyd Bob Dydd• Astudio’r Iaith Saesneg• Datblygiad Saesneg

Lefel Dau• Seicoieithyddiaeth• Dadansoddi Mynegiant• Astudio Tafodieithoedd• Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor• Dadansoddi Cyrff o Destunau a

Chydgordio

Lefel Tri• Prosiect Ymchwil• Caffael Iaith Gyntaf• Caffael Ail Iaith• Iaith yn y Cyfryngau• Materion yn ymwneud ag Addysgu’r

Iaith Saesneg

QRJ3 u EidalegQRH3 u Eidaleg (gydag

Astudiaethau Busnes)QQ63 s LladinQRJ4 u SbaenegQRH4 u Sbaeneg (gydag

Astudiaethau Busnes)QX33 s TEFLQQ35 Q Cymraeg

BA Cyd-anrhydedd TEFL aQXH3 s Llenyddiaeth SaesnegRX13 u Ffrangeg RX23 u AlmaenegRX33 u EidalegRX43 u SbaenegQX53 Q Cymraeg

BA Anrhydedd SenglQ310 s Astudiaethau Iaith SaesnegQ311 u Astudiaethau Iaith Saesneg

(gyda blwyddyn dramor)PQ91 s Iaith a Chyfathrebu

BA Cyd-anrhydeddAstudiaethau Iaith Saesneg aQQ73 s Groeg HynafolQVJ1 s Hanes yr HenfydQQ38 s Gwareiddiad ClasurolQQ31 s Llenyddiaeth SaesnegQRJ1 u Ffrangeg QRH1 u Ffrangeg (gydag

Astudiaethau Busnes)QRJ2 u AlmaenegQRH2 u Almaeneg (gydag

Astudiaethau Busnes)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Iaith SaesnegIaith S

aesne

g

“ Dwi’n cofio fy ymweliad cyntaf â Phrifysgol Abertawe... yr hyn

a’m tarodd yn syth oedd lleoliad trawiadol y campws, yn swatio ym

mharc hyfryd Singleton, ac yn edrych dros Fae Abertawe. Lleoliad i

godi’r ysbryd, yn wir! Roeddwn i hefyd yn dwlu ar y syniad o gampws

sengl gyda’r holl wasanaethau a phopeth sydd ei angen arnoch yn yr

un lle – ac ar yr un pryd, yn ddigon bach fel bod popeth wrth law. Pan

ddechreuais ar fy rhaglen, ni ches fy siomi o gwbl: roedd y darlithwyr

i gyd yn wybodus, yn ddymunol, yn gyfeillgar, a bob amser yn

barod i helpu. Roedd yr astudio’n ddwys, ond teimlais fy mod yn

cael fy ngrymuso wrth ddechrau dysgu am wahanol agweddau ar

ieithyddiaeth, a gweld sut mae’r cyfan yn dod at ei gilydd i greu

darlun mwy. Dyna fodlonrwydd! Bydd gan Abertawe le arbennig

yn fy nghalon am byth. Roedd yr awyrgylch cynnes, croesawgar yma,

yn ogystal â safon uchel y dysgu, wedi helpu i sicrhau mai’r tair

blynedd ddiwethaf oedd y cyfnod hapusaf, llawnaf, a mwyaf

gwobrwyol yn fy mywyd. ” Alessandra Cingi, BA Astudiaethau Iaith Saesneg a Lladin

Athro Iaith Saesneg

Sut y caf fy asesu?Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau trwy gyfuniad o aseiniadau ac arholiadau. Wrth i chi ddilyn eich cwrs gradd, rhoddir mwy o bwyslais ar waith cwrs.

Mae 91% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Mae cymwysterau mewn Iaith neu Lenyddiaeth Saesneg, iaith fodern neu bynciau eraill ym maes y celfyddydau a’r dyniaethau yn ddymunol, ond nid ydynt yn hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

103102

Page 54: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Mae astudio iechyd a gofal cymdeithasol yn ymdrin ag ystod eang o faterion sy’n effeithio ar iechyd a lles cymdeithas, o heneiddio a salwch i bolisi cymdeithasol, seicoleg a rheoli iechyd cyhoeddus. Mae’r radd yn berthnasol tu hwnt yn y sectorau gwirfoddoli ac annibynnol, ac i sefydliadau elusennol mawr â chanolbwynt ar iechyd neu ofal cymdeithasol.

Bydd y radd hon yn:

• paratoi myfyrwyr yn wych ar gyfer swyddi gweinyddol a rheoli ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

• darparu dealltwriaeth hanfodol o bolisi, theori ac ymarfer mewn iechyd a gofal cymdeithasol

• eich paratoi i weithio ar draws ffiniau proffesiynol a sefydliadol gan annog perthnasau rhwng gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth a chydweithio rhyngbroffesiynol

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Yn fwy na dim, bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i adnabod ac asesu natur a phwysigrwydd y materion sy’n ymwneud â rheoli iechyd cyhoeddus yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i unigolion sy’n gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel gyrfa ddeniadol ond nad ydynt am ddilyn gyrfaoedd proffesiynol mewn meddygaeth, nyrsio neu waith cymdeithasol.

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn dilyn amrywiaeth o bynciau yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys seicoleg, cymdeithaseg, anatomi a ffisioleg ddynol, rheoli ac arweinyddiaeth a sgiliau ymchwil. Mae’r rhaglen hefyd yn darparu trosolwg ar strwythur a threfniadaeth iechyd a gofal cymdeithasol y DU, ac yn ymdrin â phrif bolisïau’r DU a Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd Lefel Un yn eich paratoi i ddatblygu sgiliau astudio ac yn cyflwyno’r cysyniadau o iechyd, salwch, lles cymdeithasol, polisi cymdeithasol a seicoleg. Ceir rhagarweiniad i anatomi a ffisioleg hefyd.

Bydd Lefel Dau yn adeiladu ar y cysyniadau hyn, yn archwilio datblygiad hyd oes, datblygiad iaith, ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a gweithio gyda phartneriaid. Ar ddiwedd yr ail flwyddyn, cewch ddewis dau fodiwl 10-credyd gorfodol a fydd yn eich galluogi i ddewis

meysydd astudio sydd fwyaf perthnasol i’ch diddordebau chi, ac yn berthnasol i’ch anghenion datblygu arbennig.

Mae’r testunau a drafodir yn Lefel Tri yn cynnwys heneiddio mewn cymdeithas, iechyd cyhoeddus ac epidemioleg, rheoli, arweinyddiaeth a moeseg mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y flwyddyn olaf bydd disgwyl i chi gwblhau traethawd hir 8,000 o eiriau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Sgiliau Astudio a Gwybodeg Iechyd• Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol;

Problemau Cymdeithasol a Sefydliadau Lles

• Sylfeini Anatomi a Ffisioleg Ddynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

• Cyflwyniad i Seicoleg, Iechyd, Salwch a Meddygaeth

• Cymdeithaseg Iechyd a Salwch• Cyflwyniad i Ymchwil Iechyd a Gofal

Cymdeithasol• Cyflwyniad i Bolisi Cyhoeddus yn y

Cyfnod Modern• Ymarfer Gwasanaeth Iechyd

BSc Anrhydedd SenglL510 s Iechyd a Gofal Cymdeithasol

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Iechyd a Gofal CymdeithasolIe

chyd a G

ofal C

ymd

eithaso

lLefel Dau• Iechyd ac Economeg• Polisi Anabledd I• Y Person sy’n Datblygu• Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol• Hyrwyddo Iechyd ac Addysg Iechyd• Cymdeithaseg Iechyd a Salwch II• Gwahaniaeth a Chyfiawnder• Arferion Gofal Iechyd a Chyfreithiol• Seicoleg, Iechyd a Salwch

Lefel Tri• Polisi Cymdeithasol mewn Cymdeithas

sy’n Heneiddio• Seicoleg Gymhwysol• Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg• Rheoli ac Arweinyddiaeth mewn Iechyd

a Gofal Cymdeithasol• Moeseg mewn Iechyd a Gofal

Cymdeithasol• Traethawd Hir

Sut y caf fy asesu?Caiff cynnydd ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs (traethodau a phrosiectau),aseiniadau, papurau ateb byr ac arholiadau ffurfiol.

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? TGAU: A-C Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth

Safon Uwch: Lleiafswm o BBC

Bagloriaeth Ryngwladol: 30

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Er nad yw’n hanfodol, byddai’n ddefnyddiol pe bai myfyrwyr wedi astudio’r Dyniaethau – yn enwedig cymdeithaseg neu seicoleg – cyn ymgymryd â’r radd hon. Mae profiad o astudio bioleg ddynol a’r biowyddorau hefyd yn ddymunol.

Dylech arddangos diddordeb mewn gweithio gyda phobl, gallu i gyfathrebu’n dda, yn ogystal â’r potensial i ddatblygu’r rhinweddau personol sy’n ddefnyddiol ar gyfer gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a rheoli.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

105104

Page 55: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglQ300 s Llenyddiaeth SaesnegQH20 u Llenyddiaeth Saesneg

(gyda blwyddyn dramor)Q3L3 s Saesneg gyda RhyweddQHL3 u Saesneg gyda Rhywedd

(gyda blwyddyn dramor))

BA Cyd-anrhydedd Llenyddiaeth Saesneg aQT37 s Astudiaethau Americanaidd TQ73 u Astudiaethau AmericanaiddQQ37 s Groeg HynafolVQ13 s Hanes yr HenfydQQ83 s Gwareiddiad ClasurolQQ31 s Astudiaethau Iaith Saesneg

QQ3D u Astudiaethau Iaith Saesneg (gyda blwyddyn dramor)

QR31 u FfrangegLQ73 s DaearyddiaethQR32 u AlmaenegQV31 s HanesQR33 u EidalegQQ36 s LladinQP33 s Astudiaethau’r CyfryngauQVHI s Astudiaethau CanoloesolLQ23 s GwleidyddiaethQR34 u SbaenegQXH3 s TEFLQQH5 Q Cymraeg

Beth sy’n gwneud rhai llyfrau’n llenyddiaeth ac eraill ddim? Beth y gallwn ei ddysgu o weithiau llenyddol y gorffennol? Sut y mae astudio iaith yn ein helpu i ddeall ein diwylliant? A sut mae rhyw unigolion yn effeithio ar eu harferion darllen ac ysgrifennu?

Mae astudio Llenyddiaeth Saesneg yn Abertawe’n annog archwilio un o’r disgyblaethau mwyaf eang, cyffrous a heriol. Mae’n meithrin sensitifrwydd at iaith ac yn ceisio ateb rhai cwestiynau ysgogol.

Bydd y graddau hyn yn:• eich arfogi â’r sgiliau llafar ac

ysgrifenedig datblygedig sydd eu hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn ystod eang o swyddi, gan gynnwys darlledu, newyddiaduraeth, cyhoeddi, y gwasanaeth sifil, rheoli neu addysgu

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy eraill y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi megis gweithio mewn tîm, cyfathrebu a rhoi cyflwyniadau

• darparu sylfaen ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Mae’r cyrsiau BA Saesneg, BA Saesneg gyda’r Rhywiau a’r cyrsiau Cyd-anrhydedd yn ymdrin â’r amrywiaeth gyfan o lenyddiaeth Saesneg o’r cyfnod Canoloesol cynnar hyd at heddiw ac yn datblygu eich dealltwriaeth o theori feirniadol a’r amryw ddulliau o ymdrin â llenyddiaeth.

Mae opsiynau ar gael gydag Ysgrifennu Creadigol (mae ein tîm o athrawon ysgrifennu creadigol ymhlith y cryfaf yn y DU); Astudiaethau’r Rhywiau; a phob agwedd o astudiaethau ieithyddiaeth ac iaith.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a sesiynau grwpiau bach. Rydym yn anelu at gadw ein dosbarthiadau seminar mor fach â phosib – fel arfer dan 20 – i hyrwyddo’r amgylchiadau gorau posib ar gyfer dysgu ac addysgu.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel Un• Angenfilod a thrawsnewidiadau:

cyflwyniad i ffuglen a theori• Barddoniaeth delynegol a dramâu

trasiedi: cyflwyniad i’r genre• Astudio’r Iaith Saesneg• Ffuglen Ewropeaidd Fodern

• Agweddau at y rhywiau mewn Llenyddiaeth Saesneg

• Cymdeithas a dysgu yn Ewrop yr Oesoedd Canol

• Damcaniaethau ac Angenfilod: Frankenstein, Dracula, Beirniadaeth

• Trawsnewid Ffuglen• Sgiliau Astudio ar gyfer Iaith

Lefel Dau• Cyflwyniad i Ysgrifennu Cymraeg yn

Saesneg• Barddoniaeth Affricanaidd

Americanaidd• Y Gothig a’r Ffantastig• Barddoniaeth Blake• Breuddwydio am California• Calonnau Cudd• Ysgrifennu ar y Corff• Y Rhywiau a Genre• Moderniaeth a Modernedd• Gornestau Canoloesol• Ffuglen Ôl-fodernaidd• Llenyddiaeth Ôl-wladychol• Shakespeare a’r Cysyniad o Gomedi• Thomas Hardy• Testunau Trafod: Damcaniaeth mewn

Llenyddiaeth• Barddoniaeth yn yr Ugeinfed Ganrif• Ysgrifennu Creadigol: Mynegiant

Naratif, Dramatig, a Barddonol I a II• Astudio Tafodiaith• Dulliau Dysgu Iaith a Methodoleg

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Llenyddiaeth Saesneg

Lefel Tri• Ffuglen Wyddelig Fodern yn Saesneg• Damcaniaethu Testunau• Yr Erotig a’r Egsotig• Rhamantwyr Eironig• Darllen/Ysgrifennu Trawma• Pechod, Rhyw, y Gwryw• Chaucer• Ffuglen a Drama Ewropeaidd• Dylan Thomas• Cynhanes, Hanes ac Iaith• W. B. Yeats• Cymru, Enw Unigol, Profiad Lluosog• Llefydd Rhyfedd a Seibrofodau: Y

Rhywiau a’r Ffantastig• Shakespeare ac Eraill• Rhamantiaeth, Chwyldro a Realaeth• Pwer a Pherfformiad 1590-1740• Traethawd Hir• Darganfod Hen Saesneg• Trawsnewid Beowulf yn yr Ugeinfed

Ganrif• Ysgrifennu Ffuglen• Llenyddiaeth a’r Metropolis: Portreadu

Bywyd Llundain 1900-1939• Ysgrifennu Creadigol: Ysgrifennu ar

gyfer Perfformio• Ysgrifennu Creadigol ac Ysgrifennu

Ysbryd Lle a Bywyd• Ysgrifennu Creadigol: Rhyddiaith a

Barddoniaeth ar waith• Paratoi Prosiect Ymchwil• Astudio Dramor

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy ddulliau amrywiol, gan gynnwys arholiadau a gwaith cwrs.

Llenyd

diae

th Sae

sneg

“ Mae astudio Saesneg yn Abertawe wedi bod yn brofiad yr wyf

wedi’i fwynhau’n ddeallusol ar lefel unigol, sydd hefyd wedi ehangu

fy nealltwriaeth o iaith, testunau, ac amrywiaeth ddiwylliannol ar lefel

ehangach. Felly, os ydych yn chwilio am awyrgylch cydwybodol,

bywiog, ac ysgogol ar gyfer eich astudiaethau israddedig, ‘sdim

angen edrych ymhellach. Mae’r Adran yn ceisio creu naws gyfeillgar

ac egalitaraidd tuag at astudiaethau academaidd, ac mae’n hynod o

lwyddiannus yn hynny o beth. Trwy gydol eich cyfnod astudio, mae’r

staff yn gefnogol, ac, yn allweddol, yn eich annog, gan ychwanegu at

y teimlad o gymuned sy’n treiddio trwy’r adran. Mae Saesneg yn

Abertawe yn meithrin gwerthfawrogiad o gynhyrchu testunau,

soffistigeiddrwydd damcaniaethol, ac wrth gwrs, dadansoddi

llenyddol manwl. Bydd fy nghyfnod yn Abertawe yn brofiad anodd ei

anghofio, a dwi’n annog y sawl sy’n ystyried astudio Saesneg ar lefel

israddedig i ystyried Abertawe, fel cyfle arbennig i ddatblygu’ch gyrfa

a’ch deallusrwydd. ” Darren Gilmore, BA Llenyddiaeth Saesneg

Mae 91% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Bydd angen cymhwyster Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg neu Lenyddiaeth/Iaith Saesneg arnoch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

107106

Page 56: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

GC16 s Gwyddor Chwaraeon GQ15 Q Cymraeg

s rhaglen 3 blyneddu rhaglen 4 blyneddQ rhaglen 3/4 blynedd

MMath Anrhydedd SenglG103 u Mathemateg

BSc Anrhydedd SenglG100 s MathemategG110 s Mathemateg BurG120 s Mathemateg GymhwysolG190 s Mathemateg ar gyfer Cyllid

BSc Cyd-anrhydedd Mathemateg aGG41 s CyfrifiaduregGL11 s Economeg GR11 u Ffrangeg GF18 s Geo-wybodeg GR12 u Almaeneg FG31 s FfisegGR14 u Sbaeneg

Mae Mathemateg yn bwnc sy’n hynafol ac yn fodern. Hwn yw’r pwnc mwyaf rhyngwladol o’r holl bynciau, a’r sail y mae’r byd modern wedi’i adeiladu arni. Mae gwyddoniaeth a busnes yn dibynnu ar seiliau mathemategol, ac mae’n graddau’n adlewyrchu hyn.

Wrth astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn ymdrin â’r theori rhifau a astudiodd Pythagoras, y Fathemateg Ariannol y mae gwyr busnes Wall Street yn dibynnu arni, a chyfoeth o destunau eraill sy’n adlewyrchu ein rhagoriaeth ymchwil mewn tebygolrwydd, dadansoddi, geometreg ddi-gymudol, a thopoleg algebraidd.

Bydd y graddau hyn yn:• eich hyfforddi am ystod eang o

yrfaoedd ym myd busnes yn ogystal â chyfrifiadura a dysgu

• rhoi sylfaen ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

• rhoi sgiliau trosglwyddadwy i chi, gan gynnwys cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Mae ein cynlluniau gradd wedi’u strwythuro i gynnig hyblygrwydd a chaniatáu i chi addasu eich gradd i weddu i’ch amcanion gyrfaol a’ch diddordebau.

Ar gyfer y rheiny sydd am ddilyn gyrfa dra fathemategol mae ein gradd MMath flaenllaw yn gwrs pedair blynedd wedi’i fwriadu i roi gwybodaeth drylwyr ym mhob agwedd ar Fathemateg i fyfyrwyr sy’n arbennig o dalentog.

Mae ein cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl tair blynedd yn cynnwys yr amrywiaeth gyffredinol o ddeunydd mathemategol ac yn caniatáu i chi ganolbwyntio ar naill ai un agwedd o’r pwnc (Pur, Cymhwysol neu Gyllid), neu i gynnwys amrywiaeth o ddeunydd o fewn y radd Fathemateg.

Rydym hefyd yn cynnig nifer o raddau sy’n cyfuno Mathemateg gyda phynciau eraill megis Economeg, Geo-wybodeg neu Wyddor Chwaraeon. Os ydych yn dilyn Mathemateg gydag iaith dramor, byddwch yn treulio blwyddyn intercalaraidd yn astudio Mathemateg dramor, drwy’r iaith briodol.

Mae ein dulliau addysgu wedi’u strwythuro ar y ddealltwriaeth fod Mathemateg yn rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei wneud, nid ei weld neu ei glywed yn unig. Mae’r rhan fwyaf o’r deunydd yn cael ei gyflwyno mewn darlithoedd pumdeg munud pan fydd y darlithwyr yn disgrifio’r ffeithiau allweddol a’r theori, gan egluro’r rhain gydag enghreifftiau, taflenni neu drwy ddefnyddio cyfrifiadur. Yna, byddwch yn profi eich gwybodaeth ac yn gwella’ch dealltwriaeth gyda thaflenni ymarfer cyson a dosbarthiadau enghreifftiau. Mae Ystafell Ddarllen Aubrey Truman yn gartref poblogaidd ar gyfer y math hwn o waith. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd gennych hefyd diwtor academaidd personol a fydd yn cyfarfod â chi, a phump neu chwe myfyriwr arall, am oddeutu awr bob wythnos.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Mae pob rhaglen radd yn cynnwys nifer o fodiwlau gorfodol, sy’n darparu’r deunydd craidd ar gyfer y rhaglen benodol honno, a chyfres o fodiwlau opsiynol sy’n caniatáu ychydig o ddewis personol.

Yn ystod blwyddyn olaf y rhan fwyaf o raglenni gradd byddwch yn cwblhau modiwl traethawd hir, pan fydd cyfle gennych i archwilio cangen o Fathemateg sydd o ddiddordeb arbennig i chi, neu

Y Coleg Gwyddoniaeth

MathemategM

athem

ateg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.maths.swan.ac.uk

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295098

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

fynd i fwy o fanylder ar bwnc yr ydych eisoes wedi’i ddysgu. Mae’r modiwlau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys:

Lefel Un• Calcwlws Rhagarweiniol• Dadansoddi Rhagarweiniol• Sylfeini Algebra• Cyflwyniad i Algebra Llinellog• Dulliau mewn Algebra a Chalcwlws• Geometreg Glasurol• Mecaneg Glasurol (gronynnau)• Tebygolrwydd Elfennol ac Ystadegau• Dulliau Cyfrifiadurol (gyda

Mathemateg)

Lefel Dau• Dadansoddi Gwirioneddol a Gofodau

Metrig• Calcwlws Fector a Theori Mesur• Gofodau Fector• Grwpiau a Chylchoedd• Dulliau Algebra a Chalcwlws Pellach• Geometreg Uwch• Mecaneg Glasurol (o wrthrychau

anhyblyg)• Tebygolrwydd Damcaniaethol ac

Ystadegau• Dulliau Rhifiadol (gyda Mathemateg)

Lefel Tri ac M (MMath)• Dadansoddi Gweithredol• Dadansoddi Fourier

• Theori Gyfnewidiol Gymhleth• Hafaliadau Differol• Geometreg Ddifferol• Hafaliadau Differol Rhannol• Algebra Uwch• Topoleg• Grwpiau Lie ac Algebrâu Lie• Theori Rhifau• Theori Codio Algebraidd• Prosesau Stocastig• Calcwlws Ito a Hafaliadau Differol

Stocastig• Theori Black-Scholes• Dadansoddi Rhifiadol• Rhifeg Hafaliadau Differol a Hafaliadau

Differol Rhannol• Dynameg Ddadansoddol• Electromagneteg• Mecaneg Ystadegol• Prosiect

Yn ogystal, yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion cyflogwyr yng Nghymru, cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn Mathemateg gyda’r ddarpariaeth honno yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cyfle hefyd i chi dderbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg.

Sut y caf fy asesu?Caiff eich cynnydd ei fonitro’n bennaf drwy arholiadau ysgrifenedig ffurfiol,

ac mae gan lawer o fodiwlau gydran asesu parhaus o oddeutu 20%.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig nifer o ysgoloriaethau yn amrywio o ran gwerth hyd at £3,000. Dyfernir y rhain ar sail arholiadau cystadleuol. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? MMath

Safon Uwch: AAA – neu gyfwerth, gan gynnwys Mathemateg.

Bagloriaeth Ryngwladol: 36

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

BSc

Safon Uwch: AAB neu gyfwerth, gan gynnwys Mathemateg.

Bagloriaeth Ryngwladol: 34

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“ Mwynheais fy nghwrs yn fawr. Roeddwn yn hoff o natur amrywiol y gwaith ac arbenigedd y staff; mae’n hawdd gweld eu bod yn angerddol ynglyn â’r hyn y maent yn ei addysgu. Mae’r cwrs yn bendant wedi fy nghynorthwyo ar gyfer fy ngyrfa gan fod modd i mi ddefnyddio fy ngradd yn uniongyrchol gyda

rhannau o’m gwaith.”Vicky Stockley, BSc mewn Mathemateg ar

gyfer Cyllid 2008 Gwarantydd, Gwasanaethau

Cyllid Zurich

Mae 94% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

109108

Page 57: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Heb os, meddygon sydd ag un o’r swyddi mwyaf gwobrwyol y gellid dychmygu. Trwy gymhwyso eu gwybodaeth o’r corff dynol, maen nhw’n gallu cael effaith drawsffurfiol ar ein hiechyd a’n lles. Maen nhw’n defnyddio gwyddoniaeth i ddeall sut i’n trin pan fyddwn yn sâl, a waeth pa agwedd o feddygaeth y maen nhw’n dewis ei dilyn, eu prif ddiddordeb yw ein lles.

Ers ei lansiad yn 2004, mae Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion Abertawe wedi sefydlu ei hun yn radd neilltuol sy’n caniatáu i raddedigion o unrhyw ddisgyblaeth ddysgu’r egwyddorion gwyddonol a chlinigol sy’n ymwneud â Meddygaeth, ac i ystyried ei hagweddau moesol.

Bydd y radd hon yn:

• eich paratoi i fod yn feddyg

• eich cyflwyno i ymarfer proffesiynol gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf a dulliau dysgu sydd ar flaen y gad

• eich paratoi at addysg feddygol bellach ar ôl cofrestru yn eich arbenigedd dewisol

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Byddwch yn gweithio â chleifion go iawn a chleifion ffug yn ystod pob cam o’ch dysgu; gan gasglu gwybodaeth, datblygu sgiliau clinigol ac ymddwyn mewn modd sy’n nodweddu meddyg doeth. Caiff eich astudiaethau eu rhannu rhwng wythnosau dysgu yn y Brifysgol a lleoliadau clinigol gyda phartneriaid GIG lleol, yn enwedig Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Mae hon yn rhaglen bedair blynedd annibynnol wedi’i lleoli’n gyfan gwbl yn Abertawe a gorllewin Cymru. Mae pob wythnos astudio a leolir ar y campws yn eich annog i archwilio problem glinigol benodol yn fanwl trwy ddefnyddio tiwtorialau grwp, darlithoedd a seminarau, ac i ymarfer eich sgiliau clinigol mewn amgylchedd labordy. Atgyfnerthir y wybodaeth hon drwy ddod i gysylltiad â sefyllfaoedd clinigol yn ystod Cyfleoedd Dysgu yn y Gosodiad Clinigol a Dysgu yn y Gymuned, a bydd y ddau ar gael o dymor cyntaf eich cwrs. Mae lleoliadau clinigol yn caniatáu i chi i ymarfer eich sgiliau a datblygu eich dealltwriaeth o’r agweddau cymdeithasol a sefydliadol ehangach ym maes meddygaeth.

Os ydych yn siarad Cymraeg, bydd cyfle i chi wella eich geirfa dechnegol yng nghyd-destun yr ymgynghoriad clinigol. Os nad ydych yn siarad Cymraeg, byddwn yn eich helpu i ymgyfarwyddo â’r iaith a’i gwreiddiau, ac yn eich annog i edrych ar gyflwyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymwybyddiaeth iaith yng ngofal iechyd, ‘Iechyd Da!’.

Yn ogystal â’r wythnosau dysgu, byddwch yn cwblhau ystod o weithgareddau eraill, yn cynnwys:• lleoliadau mewn canolfan gofal

sylfaenol i weld cleifion a phrofi gwaith yr ymarferwyr cyffredinol a’u cydweithwyr clinigol

• prentisiaethau clinigol pum wythnos pan fyddwch yn cael eich gosod mewn tîm gofal iechyd i weithio wrth ochr staff eraill ac ennill profiad o rôl y meddyg – cynhelir y cyntaf o’r rhain ym Mlwyddyn Un

• cyfnodau arbenigol pum wythnos pan fyddwch yn astudio gofynion iechyd grwp penodol o gleifion (e.e. Seiciatreg)

• cyfres o ddiwrnodau ‘proffesiynoldeb’ a arweinir gan fyfyrwyr – yn archwilio ymarfer proffesiynol meddygaeth

• cyfnod dewisol o astudio ym Mlwyddyn Tri, sy’n caniatáu i chi ymweld â bron i unrhyw ran o’r byd i ddilyn prosiect a gymeradwyir

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/medicine

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602618

Ymwelwch â’r Brifysgol: Rydym yn cynnal dau ddiwrnod agored bob blwyddyn ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion.

Yn 2012, y dyddiadau fydd: Gwener 16 Mawrth 2012 Gwener 22 Mehefin 2012

MB BCh (Wales)A101 u Meddygaeth

u cynllun 4 blynedd

I gofrestru ar gyfer ein diwrnod agored nesaf, ewch i’n gwefan: www.gemedicine.swansea.ac.uk

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Sylwer: Rhaid cyflwyno ceisiadau i UCAS erbyn 15fed Hydref 2012

Y Coleg Meddygaeth

Meddygaeth – Meddygaeth i Raddedigion MB BCh (Cymru)

Me

dd

ygae

th – M

ed

dyg

aeth i R

add

ed

igio

n MB

BC

h (Cym

ru)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Gan fod hyn yn gynllun i raddedigion, rhaid bod gennych, neu disgwylir i chi gael, gradd ag anrhydedd ail ddosbarth adran uwch neu anrhydedd dosbarth cyntaf. Gall hyn fod mewn unrhyw bwnc, ond bydd rhaid i chi arddangos ymrwymiad pendant i Feddygaeth, a dealltwriaeth o’i gofynion a’i gwobrwyon.

• cyfnod “cysgodi” terfynol sy’n eich galluogi i hogi eich sgiliau cyn i chi ddechrau gwaith fel meddyg cymwysedig

Sylwer: Mae gwaith prosiect bob blwyddyn yn rhoi cyfle i chi weithio â phroffesiynau eraill ac archwilio’r materion sy’n ymwneud â dysgu rhyngbroffesiynol.

Ar ôl i chi raddio, byddwch yn cael cynnig blwyddyn gylchdroadol ar Raglen y Flwyddyn Sylfaen yng Nghymru, ac wedi hynny, dylech fod wedi’ch cymhwyso’n llawn â’r priodoleddau angenrheidiol a fydd yn eich cynorthwyo drwy weddill eich addysg feddygol ôl-raddedig a hynny mewn maes meddygaeth sy’n eich cyffroi fwyaf.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Bydd nifer o’r myfyrwyr israddedig yn cwblhau prosiectau ymchwil yn labordai’r Coleg Meddygaeth sydd o’r radd flaenaf, a byddant yn cael eu goruchwylio gan grwpiau ymchwil yr Athrofa Gwyddor Bywyd. Mae’r cyfleusterau a fydd yn ehangu eich profiad dysgu yn cynnwys:

• Canolfan EPSRC y DU ar gyfer Sbectrometreg Mas

• Uwch-gyfrifiadur ‘Blue C’ IBM • Y Ganolfan NanoIechyd• Uned Ymchwil Gwybodaeth Iechyd• Labordai Ymchwil Gwybodeg Iechyd • Cyfleuster Ymchwil Clinigol ac Ystafell

Ddelweddu

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu bob tymor drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, aseiniadau a gwaith ymarferol. Mae asesiadau yn ymdrin â phedair thema addysgol: Sgiliau Deallusol; Sgiliau Ymarferol; Sgiliau Trosglwyddadwy; a Datblygiad Proffesiynol.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Os ydych yn dod o Loegr neu o Gymru, rydych yn gymwys ar gyfer benthyciad i fyfyrwyr yn Lefel Un. Mae bwrsariaethau ar sail prawf moddion ar gael gan Uned Grantiau Myfyrwyr y GIG o Lefel Dau ymlaen.

Dylai fod gennych TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg ar lefel C neu’n uwch, ac, yn ddelfrydol, rhywfaint o brofiad o Fioleg neu Gemeg ar lefel uwch na TGAU (mae hyn yn ddymunol ond nid yn hanfodol).

Bydd hefyd rhaid i chi sefyll Prawf Derbyn Graddedigion i Ysgolion Meddygaeth (GAMSAT), a chael sgôr uwch na 50.

Mae pob cynnig a wneir gan y Brifysgol yn dibynnu ar Wiriad Cofnodion Troseddol (CRB) boddhaol, a phrawf Iechyd Galwedigaethol.

Mae’r Rhaglen Meddygaeth i Raddedigion ar agor i ddinasyddion y DU a’r UE yn unig.

“Clywais rywbeth ar y newyddion ynglyn â’r llywodraeth yn caniatáu cyrsiau meddygaeth pedair blynedd i fyfyrwyr aeddfed a blannodd syniad yn fy meddwl a oedd yn gwrthod mynd i ffwrdd, felly penderfynais wneud cais. Mae’n anodd cael lle ar y cwrs, ac mae’n ymrwymiad llawn-amser, ond mae pob darlith wedi bod yn hynod o ddiddorol. Rydych yn cael eich boddi â phrofiad clinigol o’r dechrau; rydych yn ymweld ag unedau Achosion Brys, yn eistedd i mewn ar ymgynghoriadau Meddygon teulu, yn dosbarthu cyffuriau mewn carcharau, ac yn mynd allan â pharafeddygon ar nos Wener. Mae’r meddygon yn eich helpu: maen nhw’n sylweddoli bod pobl sy’n gwneud eu hail radd o ddifri ac yn gydwybodol. Teimlaf

yn freintiedig tu hwnt.”Andrew Phillips MB BCh, Meddygaeth

111110

Page 58: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Mae Nyrsys yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau, ac mewn ystod o amgylcheddau gwahanol, i ddarparu ymarfer nyrsio diogel a gofalgar sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac ymyriadau.

Mae Nyrsio’n alwedigaeth unigryw, sy’n heriol ond yn wobrwyol tu hwnt. A chyda moderneiddio cyfredol yn y sector gofal iechyd hefyd, ni fu erioed cyfnod mwy cyffrous i ymuno â’r proffesiwn.

Bydd gradd mewn nyrsio yn:

• eich darparu â’r paratoadau addysgol i weithio fel nyrs gofrestredig mewn gosodiad ysbyty neu osodiadau yn y gymuned

• eich paratoi at fodloni anghenion meddyliol a chorfforol hanfodol pobl o bob oed a chyflwr yn ogystal â rhoi i chi’r wybodaeth benodol a’r sgiliau i ymarfer yn eich maes dewisedig

• eich darparu â sylfaen ar gyfer eich datblygiad proffesiynol a phersonol i’ch galluogi i weithio ym meysydd nyrsio a rheoli gofal iechyd, ymchwil, addysg, neu rolau nyrsio arbenigol

• eich helpu i ennill profiad ymarferol helaeth a’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio mewn tîm, cyfathrebu, technoleg gwybodaeth, datrys problemau, dadansoddi, a gwneud penderfyniadau

Beth yw strwythur y radd?Mae’r rhaglen wedi’i datblygu i gefnogi Safonau Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer Addysg Nyrsio Gyn-gofrestru 2010.

Felly, byddwch yn elwa o gyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol a phrofiad nyrsio ymarferol wedi’u hintegreiddio’n ofalus. Mae 50% o’r radd yn seiliedig ar theori ac yn cael ei gyflwyno ar y campws, a chaiff y 50% arall ei gyflwyno trwy gyfleoedd dysgu trwy ymarfer gydag un o’r Byrddau Iechyd Lleol sy’n bartneriaid i ni, neu mewn lleoliad iechyd neu gymdeithasol preifat ar draws ardal ddaearyddol y Coleg. Mae’n bosib hefyd y bydd cyfle i chi gwblhau lleoliad gwaith tri mis dramor â sefydliad gofal iechyd Ewropeaidd arall drwy gynllun ERASMUS.

Fe’ch addysgir gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, dysgu ar sail tystiolaeth, seminarau, e-ddysgu, a thiwtorialau, wedi’u cyflenwi â gwaith ymarferol yn y labordy biowyddoniaeth a’n hystafelloedd ymarfer clinigol.

Mae’r radd yn hyrwyddo addysg oedolion, a bydd yn eich annog i feddwl yn annibynnol. Bydd cyfnodau o astudio hunan-gyfeiriedig ochr-yn-ochr â dysgu dan arweiniad darlithwyr. I gefnogi’ch datblygiad personol a phroffesiynol, bydd gennych diwtor personol ar gyfer tair blynedd y rhaglen. Mae pob tiwtor personol yn Nyrs Gofrestredig.

Sylwer: Mae’n bosib astudio Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl ar gampysau Abertawe a Chaerfyrddin. Mae Nyrsio Plant ar gael ar gampws Abertawe yn unig. Os ydych yn dewis astudio yng Nghaerfyrddin, gellir trefnu lleoliadau gwaith clinigol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro.

Mae’r radd anrhydedd hon yn gwrs tair blynedd, llawn-amser sy’n dechrau ym mis Medi 2012. Bydd derbyniad ychwanegol ar gyfer Nyrsio Oedolion bob mis Mawrth hefyd fel arfer.

Pa feysydd y gallaf arbenigo ynddynt?Nyrsio OedolionYn y maes hwn o nyrsio, byddwch yn profi’r continwwm o ofal oedolion. Addysgir i chi’r sgiliau i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal ar sail

BSc Anrhydedd Sengl AbertaweB702 s Nyrsio (Oedolion)B703 s Nyrsio (Plant)B704 s Nyrsio (Iechyd Meddwl)

CaerfyrddinB740 s Nyrsio (Oedolion)B760 s Nyrsio (Iechyd Meddwl)

s cynllun 3 blynedd

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Nyrsio

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: lleiafswm o BBC neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32-30

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ffafrir cymhwyster Safon Uwch mewn pwnc iechyd neu wyddoniaeth. Hefyd, bydd angen o leiaf pump TGAU arnoch mewn Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg yn ogystal â Gwyddoniaeth Ddwbl ar radd A i C.

Nyrsio

tystiolaeth i hybu iechyd a lles oedolion â chyflyrau acíwt a chronig. Nyrsio Plantfel nyrs i blant, byddwch yn ymdrin â phlant a phobl ifainc o 0–16 oed o ystod eang o gefndiroedd diwylliannol ac economaidd-gymdeithasol. Byddwch yn dysgu i asesu, cynllunio, gweithredu a gwerthuso gofal nyrsio i gwrdd â gofynion holistig plant, pobl ifainc a’u teuluoedd.

Nyrsio Iechyd MeddwlFel nyrs iechyd meddwl, rydych yn debygol o ymdrin â phobl o bob oedran ac o ystod eang o gefndiroedd. Wrth i’ch gyrfa ddatblygu, gallwch ddewis arbenigo mewn meysydd megis camddefnyddio cyffuriau ac alcohol neu weithio gyda throseddwyr.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Mae pob modiwl yn orfodol. Bydd y rhaglen yn cynnwys dysgu ar y cyd ar draws y meysydd yn ogystal â modiwlau penodol ar gyfer y meysydd unigol.

Lefel Un• Sylfeini Ymarfer Nyrsio • Dysgu Sut i Ddysgu mewn Addysg

Uwch ac Ymarfer Clinigol• Beth yw Nyrsio?

• Datblygu Gwybodaeth Nyrsio• Portffolio: Cyflwyniad i Ymarfer

Proffesiynol (Nyrsio)

Lefel Dau • Iechyd Cyhoeddus• Gofal Acíwt• Gofal Parhaus a Lliniarol• Portffolio: Datblygu ymarfer nyrsio

Lefel Tri• Rheoli Gofal mewn Sefyllfa Newidiol

Dros Ben • Ymestyn Ymarfer Nyrsio Proffesiynol• Arweinyddiaeth a Rheoli• Portffolio: Atgyfnerthu Ymarfer Nyrsio

Yn ogystal, yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion cyflogwyr yng Nghymru, cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg gyda’r ddarpariaeth honno yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cyfle hefyd i chi dderbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys portffolio, asesiadau ysgrifenedig, ac arholiadau. Bydd angen i chi gwblhau cymwyseddau clinigol yn yr amgylchedd dysgu ymarfer, ac fe’ch asesir hefyd ar eich agwedd a’ch ymddygiad proffesiynol.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol a Thechnegol, cyfleusterau ymarfer clinigol efelychiadol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol.

Mae Swît Aneurin Bevan y Coleg yn Abertawe yn gyfres o 10 ystafell ymarfer uwch-fodern, yn creu amgylchedd clinigol gwirioneddol ar gyfer disgyblaethau gofal iechyd gan gynnwys Clywedeg, Anadlu, Cardioleg, Gwyddor Barafeddygol a Nyrsio.

Ceir cyfleusterau a thechnoleg arloesol hefyd ar gampws Caerfyrddin. Drwy weithio’n agos â Byrddau Iechyd GIG lleol, mae’r cyfleusterau ymarfer clinigol wedi’u dylunio i weithredu fel gosodiad ysbyty neu gymunedol go iawn.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

A oes unrhyw ofynion ychwanegol?Os ydych yn cael cynnig lle ar y rhaglen hon, bydd gofyn i chi hefyd gael:

• gwiriad heddlu manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) (Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr)

• Gwiriad Iechyd Galwedigaethol – rhaid i bob myfyriwr gadw at bolisi brechu Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd oni bai eu bod wedi’u heithrio’n feddygol

• geirda cymeriad boddhaol

• bydd unrhyw gynnig am le’n amodol ar ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

113112

Page 59: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Nyrsio

A oes unrhyw fwrsariaethau ar gael?Hyd yma, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pa gymorth ariannol fydd ar gael i fyfyrwyr ar y rhaglen hon. Mae’r wybodaeth sydd gennym ym mis Hydref 2011 yn cynnwys:

Os ydych yn breswylydd y DU, neu wedi preswylio yma am y tair blynedd ddiwethaf, neu â ‘Chaniatâd i Aros’, yna:

• nid oes ffioedd i’w talu

• bydd myfyrwyr newydd yn derbyn grant, heb brawf moddion, o £1,000

• byddwch yn gymwys i ymgeisio am fwrsariaeth o hyd at £4,395, ar sail prawf moddion

• mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i ymgeisio am gymorth ychwanegol ar ffurf grant cynhaliaeth o hyd at £2,324 (£1,811 ym mlwyddyn olaf eich astudiaethau)

Ar ben y fwrsariaeth sylfaenol ar sail prawf moddion, caiff myfyrwyr ymgeisio am nifer o lwfansau ychwanegol os ydynt yn cwrdd â’r meini prawf penodol. Mae’r lwfansau hyn yn darparu cymorth i fyfyrwyr ag anableddau, a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd ag oedolion neu blant yn dibynnu arnynt.

Darparwyd y wybodaeth hon gan Lywodraeth Cymru, sy’n rheoli trefniadau cyllido myfyrwyr ar gyrsiau a ariennir gan y GIG yng Nghymru. Felly, ni all y Brifysgol dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newid i’r wybodaeth hon.

Rhoddir manylion ar wefan y Brifysgol wrth iddynt ddod yn hysbys. Hefyd, cynghorir myfyrwyr i ymweld â gwefan yr Asiantaeth Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth ac Arloesi mewn Gofal Iechyd: www.nliah.wales.nhs.uk

“ Cefais gyfle i ddilyn modiwl trwy gyfrwng y Gymraeg ar ddechrau’r

cwrs a phenderfynais gymryd mantais o’r cynnig. Braf yw cael cyfathrebu

a thrafod drwy gyfrwng fy mamiaith, yn ogystal a gwneud ffrindiau

newydd agos. Mae’r modiwl wedi fy ngalluogi i ddysgu a defnyddio

geirfa Gymraeg sy’n berthnasol ym mhob lleoliad clinigol. Mae’n syndod

imi gymaint o gleifion, o bob oedran, sy’n teimlo llawer mwy cartrefol a

hapus i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Teimlad braf hefyd yw

medru cyfathrebu drwy gyfrwng y ddwy iaith gyda theuluoedd a

ffrindiau’r cleifion sy’n aml mewn sefyllfa anodd a thrist. ”Sara Heledd Davies, BSc Nyrsio

114 115

Page 60: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Gradd Gychwynnol Uwch mewn Osteopatheg (M.Ost)B310 u Osteopatheg

u cynllun 4 blynedd

Mae Osteopatheg yn broffesiwn a gydnabyddir yn eang ac a seilir ar dystiolaeth sy’n cwmpasu agwedd gyfannol a chydol oes tuag at ddarparu gwasanaethau diagnostig, asesu, ac adfer. Mae’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) yn diffinio osteopatheg fel modd o ganfod, trin, ac atal anhwylderau sy’n effeithio ar y system gyhyrysgerbydol, sef cyhyrau, gewynnau, nerfau, a chymalau, ac adfer iechyd pobl sy’n dioddef ohonynt, mewn modd cyfannol a seilir ar wyddoniaeth. Mae hwn yn gynllun pedair blynedd, llawn amser sy’n cychwyn bob mis Medi.

Bydd y radd hon yn:• eich darparu â’r sail addysgol a’r

profiad ymarferol i’ch galluogi i ennill y sgiliau a’r cymwyseddau sydd eu hangen i ymgeisio i gael eich cofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC).

• eich helpu i ddatblygu hunanhyder• dangos i chi sut i ddefnyddio gwybodaeth

i ymarfer o fewn awyrgylch diogel• eich darparu ag addysg a phrofiad

clinigol o fewn y clinigau osteopatheg perthynol

• hybu ymarfer ar sail tystiolaeth, datblygiad personol a phroffesiynol yn ogystal â chyflwyniad i reoli busnes i’ch paratoi ar gyfer ymarfer preifat

Beth yw strwythur y radd?Bydd darlithoedd yn helpu myfyrwyr i ddiffinio ehangder a dyfnder y ddealltwriaeth sydd ei hangen. Bydd seminarau a arweinir gan fyfyrwyr, sesiynau myfyrio strwythurol a dysgu trwy brofiad ynghyd â’r defnydd o efelychu ar gyfer paratoi sgiliau clinigol yn strwythurol yn y labordy sgiliau clinigol yn galluogi myfyrwyr i fagu hunan hyder a chymhwyso gwybodaeth ar gyfer ymarfer mewn amgylchedd diogel.

Yn ogystal â hyn, bydd yr holl fyfyrwyr yn derbyn addysg a phrofiad clinigol o fewn y clinig osteopatheg perthynol, lle bydd myfyrwyr yn ennill profiad o gymhwyso’u sgiliau clinigol gyda chleifion dan oruchwyliaeth broffesiynol. Yn ystod y rhaglen bedair blynedd, bydd gan yr holl fyfyrwyr leiafswm o 1200 awr o ymarfer clinigol sydd eu hangen arnynt i gofrestru gyda’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC). Mae’r lleoliadau clinigol wedi’u cynnwys yn yr amserlen wythnosol drwy gydol y flwyddyn academaidd o’r flwyddyn gyntaf hyd at y flwyddyn olaf.

*Mae’r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) wedi cytuno cydnabod y cymhwyster Meistr Osteopatheg (M.Ost), a roddir gan Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor, yn gymhwyster cydnabyddedig i gofrestru ar gyfer, ac i ymarfer, Osteopatheg.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Bydd y rhaglen yn cynnwys y modiwlau canlynol a fydd yn archwilio strwythur a gweithrediadau’r corff dynol (yn cynnwys seicoleg), ac yn cymhwyso hyn â chyflwyniad clinigol ac egwyddorion osteopatheg:

• Anatomi, Pathoffisioleg a Therapiwteg• Sgiliau Osteopathig• Ymarfer ar sail Tystiolaeth• Datblygiad Personol a Phroffesiynol • Rheoli Busnes• Seicoleg Gymhwysol a Chymdeithaseg/

Seicoleg Iechyd• Biomecaneg Glinigol a Delweddu• Rheoli Poen• Portffolio Clinigol

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Osteopatheg – Gradd Gychwynnol Uwch *(M.Ost)O

steo

pathe

g –

Grad

d G

ychwynno

l Uw

ch *(M.O

st)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Fel arfer, bydd angen tri chymhwyster Safon Uwch arnoch ar radd B neu’n uwch, yn cynnwys gwyddor fiolegol (e.e. Bioleg Ddynol). Bydd angen hefyd leiafswm o bump TGAU yn cynnwys Cymraeg neu Saesneg Iaith a Mathemateg ar radd C neu’n uwch.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Mae Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd wedi agor swît o ystafelloedd yn ddiweddar, sy’n gweithredu’n llawn fel clinig osteopatheg. Mae gan Glinig Osteopatheg Prifysgol Abertawe dîm o ymarferwyr arbenigol yn ogystal â myfyrwyr osteopatheg yn arsylwi neu’n ymarfer dan oruchwyliaeth. Bellach, mae’r clinig ar agor i staff, myfyrwyr, a’r cyhoedd. Ewch i: www.targetpain.co.uk am ragor o fanylion.

Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn cynnwys Canolfan Adnoddau Sgiliau Clinigol a Thechnegol, cyfleusterau ymarfer clinigol efelychiadol, ystafelloedd ymarfer biowyddoniaeth, a labordai seicoleg arbenigol.

Trwy weithio’n agos gyda Byrddau Iechyd lleol y GIG, mae’r Coleg yn ddiweddar wedi agor Swît Aneurin Bevan. Mae’r gyfres o 10 ystafell ymarfer uwch-fodern yn creu amgylchedd clinigol gwirioneddol ar gyfer disgyblaethau gofal iechyd gan gynnwys Clywedeg, Anadlu, Cardioleg, Gwyddor Barafeddygol a Nyrsio.

Mae pob ystafell wedi’i chyfarparu â’r dechnoleg a’r offer diweddaraf i efelychu ymarfer clinigol, sy’n rhoi cyfle ardderchog i fyfyrwyr droi theori llyfrau testun yn ymarfer ac i fagu hyder ac ennill profiad mewn amgylcheddau clinigol.Ceir cyfleusterau a thechnoleg arloesol hefyd ar gampws Caerfyrddin. Drwy weithio’n agos â Byrddau Iechyd GIG lleol, mae’r cyfleusterau ymarfer clinigol wedi’u dylunio i weithredu fel gosodiad ysbyty neu gymunedol go iawn.

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

“ Mae’r cwrs newydd hwn yn gymhwyster proffesiynol ac yn

ddatblygiad cyffrous tu hwnt i Goleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd.

Bydd yn paratoi myfyrwyr i fod yn osteopathiaid cymwys a fydd yn

ddadansoddol, yn ymwthgar, yn greadigol, yn ddiogel, yn hyderus ac

yn benderfynol sy’n croesawu newid yn ogystal â dod yn ddefnyddwyr

o waith ymchwil. ” Ross Johnston, Cyfarwyddwr y Cwrs

117116

Page 61: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglH834 s Peirianneg AmgylcheddolH2G0 s Peirianneg Amgylcheddol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH836 u Peirianneg AmgylcheddolH2F0 l Peirianneg Amgylcheddol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 mlynedd

Mae Peirianneg amgylcheddol yn helpu i optimeiddio defnydd adnoddau naturiol a datblygu ffynonellau egni adnewyddadwy, gan ddarparu atebion i rai o broblemau mwyaf difrifol ein planed. Â disgwyl i boblogaeth y byd gyrraedd naw biliwn yn 2050, mae gwneud yn siwr y bydd gan genedlaethau’r dyfodol ddigon o ddwr glan, aer, tir, a bwyd yn sialens enfawr.

Tra bod llawer o raddau peirianneg amgylcheddol wedi’u seilio ar Beirianneg Sifil, Peirianneg Amgylcheddol yn Abertawe yw un o’r graddau arbenigol prin sy’n dilyn y trywydd Cemegol a Biobrosesu. Mae hyn yn datblygu’r sgiliau dadansoddi a chreadigol sydd eu hangen ar gyfer dylunio, gweithredu a rheoli cyfleusterau prosesu yn economaidd ac yn ddiogel.

Cyflwynwyd ein graddau Peirianneg Amgylcheddol i’r Sefydliad Peirianwyr Cemegol (IChemE) i’w hachredu.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd gwobrwyol mewn sefydliadau diwydiannol a chyhoeddus, a’r sectorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwysiad peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Cewch eich addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau, a gwaith prosiect. Dyluniwyd ein cyrsiau i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol, megis: rheoli adnoddau dynol, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau.

Mae Lefelau Un a Dau yn gyffredin i’n holl gynlluniau gradd, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi drosglwyddo rhwng rhaglenni BEng a MEng ar ddiwedd Lefel Dau. Yn ystod Lefel Tri byddwch yn ymweld â rhai o’n partneriaid ym myd diwydiant ac yn cwblhau prosiectau ymchwil a dylunio â pherthnasedd uniongyrchol i reoli adnoddau cynaliadwy. Yn y cynllun MEng, mae’r prosiect dylunio wedi’i ohirio tan Lefel Pedwar.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Egwyddorion Prosesau Cemegol• Labordy Peirianneg Gemegol ac

Amgylcheddol• Mecaneg Hylifau I• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i

Beirianwyr• Dadansoddi Peirianneg I a II• Cemeg Organig Ragarweiniol• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Cynaladwyedd mewn byd bregus• Adnoddau Defnyddiau• Cemeg Sylfaenol

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Amgylcheddol

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? BEng

Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg neu Gemeg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg neu Gemeg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg neu Gemeg)

Bagloriaeth Ryngwoadol: 34 – 33 (gan gynnwys Mathemateg a Ffiseg neu Gemeg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

“ Mae Peirianneg

Amgylcheddol yn Abertawe’n

wych!! Mae’n cynnwys pob

agwedd o beirianneg, ac mae’r

cyfuniad o sesiynau ymarferol a

darlithoedd yn ei gwneud yn

radd hynod o berthnasol a

diddorol i’w hastudio. Mae

chwaraeon yn boblogaidd yn

Abertawe hefyd, ac mae cymryd

rhan mewn chwaraeon yn ffordd

arbennig o gymdeithasu a

chystadlu ar lefel uchel. Mae

gwisgo gwyrdd a gwyn ar gyfer

y gystadleuaeth ryng-brifysgol

flynyddol yn bendant yn

uchafbwynt y flwyddyn ”Daniel Course, MEng Peirianneg

Amgylcheddol

Lefel Dau• Trosglwyddo Gwres• Dadansoddi a Dylunio Prosesu

Cemegol• Prosesau Gwahanu• Mecaneg Hylifau II• Egwyddorion Peirianneg Fiocemegol I• Dylunio Adweithyddion• Mesur a Rheoli Offeryniaeth• Peirianneg ar gyfer cynaladwyedd• Pwer ar gyfer trafnidiaeth, diwydiant a’r

cartref• Dadansoddi Data• Gweithredoedd Proses a Pheiriannau

Amgylcheddol• Dulliau Ymchwil Amgylcheddol

Lefel Tri• Asesu Effaith Amgylcheddol• Diogelwch ac Atal Colledion• Prosiect• Modelu Amgylcheddol • Technolegau Ynni a Charbon Isel• Peirianneg Dwr a Dwr Gwastraff• Systemau Gronynnol• Ymarfer Peirianneg Amgylcheddol• Rheoli Peirianneg

Lefel Pedwar (MEng)• Prosiect Dylunio• Optimeiddio• Rheoli Gwastraff – Cemegol a Ffisegol• Rheoli Gwastraff Biolegol• Gwyddor Coloid a Rhyngwynebol• Trin Dwr: Dylunio a gweithredu• Systemau Generadu Pwer• Technegau Ailgylchu Defnyddiau• Peirianneg Dwr Gwastraff

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Peirianne

g –

Am

gylche

dd

ol

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi ymdrin â’r pynciau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

119118

Page 62: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?BEng

Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth neu Dechnoleg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (gan gynnwys 4 mewn Mathemateg Lefel Uwch)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

BEng Anrhydedd SenglH400 s Peirianneg AwyrofodH402 u Peirianneg Awyrofod (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH403 u Peirianneg AwyrofodH404 l Peirianneg Awyrofod (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 mlynedd

O’r ffwrnais yng nghraidd tyrbin nwy i ganolfan gyfrifiadurol sedd y peilot, mae awyrennau modern yn mynnu’r beirianneg fwyaf diweddar. Mae graddau peirianneg awyrofod yn rhoi i fyfyrwyr olwg unigryw ar yr atmosffer, y cosmos a’r dechnoleg sydd ei hangen i’w harchwilio.

Mae ymchwil awyrofod safon byd Abertawe wedi cyfrannu at sawl prosiect cyffrous, gan gynnwys dylunio’r uwch-jet deulawr, Airbus A380, a’r aerodynameg ar gyfer Thrust SSC a dorrodd record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir. Mae peirianwyr Abertawe nawr yn dylunio’r BLOODHOUND SSC, â’r bwriad o gynyddu record cyflymder tir y byd i 1,000 m.y.a.

Mae ein graddau Awyrofod wedi’u hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) a’r Gymdeithas Awyrenneg Frenhinol (RAeS).

Bydd y graddau hyn yn:

• eich darparu â’r sgiliau sydd eu hangen i wneud penderfyniadau lefel uchel yn y sector peirianneg awyrofod rhyngwladol

• eich hyfforddi ar gyfer dylunio, dadansoddi, profi a hedfan cerbydau awyrofod gan gynnwys awyrennau, hofrenyddion a gleidrau wedi’u gyrru

gan bropelar a’u pweru gan jetiau

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwyso peirianneg i’r diwydiant awyrofod

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, wedi’u hategu gan ymweliadau safle â rhai o’n partneriaid diwydiannol, sawl un ohonynt yn sefydliadau rhyngwladol mawr ac yn enwau o bwys.

Byddwch yn gwneud gwaith labordy yn ein twnnel gwynt a’n stondin profi peiriant jet ar y campws, ac yn ennill profiad

hedfan ymarferol gyda’n hefelychydd hedfan blaen y gad Merlin MP521X a gwersi hedfan mewn maes awyr lleol.

Byddwch hefyd yn cwblhau cwrs profi hedfan mewn perfformiad, sefydlogrwydd a rheolaeth awyrennau yn Adran Hedfan Cranfield. Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol, megis: rheoli adnoddau dynol, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Cryfder Defnyddiau• Systemau Deinamig• Mecaneg Hylifau I• Thermodynameg I• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Dylunio Peirianneg I• Mecaneg Beirianegol• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg I a Dadansoddi

Peirianneg II• Cyflwyniad i Beirianneg Awyrofod

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Awyrofod

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth neu Dechnoleg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys 5 mewn Mathemateg Lefel Uwch)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

Peirianne

g –

Aw

yrofo

d

“Gan fod cyrsiau peirianneg

yn rhai modiwlaidd, mae

darlithoedd craidd fel

Dadansoddi Peirianneg

(Mathemateg) yn denu tua 200

o bobl. Tueddir cael grwpiau

llai o lawer ar gyfer modiwlau

penodol i’r cwrs. Mae’r

darlithoedd mwy eu maint

wedi’u bwriadu ar gyfer astudio

a darllen annibynnol ac mae

gan y grwpiau darlith llai eu

maint fwy o deimlad ystafell

dosbarth yn perthyn iddynt â

mwy o ryngweithio rhwng

myfyrwyr a darlithwyr. ”Matt Tricklebank, BEng Awyrofod

Lefel Dau• Mecaneg Strwythurol IIa• Systemau Rheoli• Dadansoddi Cylchedau• Dynameg I• Thermodynameg II• Dylunio Peirianneg II• Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur• Astudiaethau Arbrofol• Aerodynameg• Strwythurau Cyrff Awyrennau• Mecaneg Hedfan• Mecaneg Strwythurol a Defnyddiau

Awyrofod• Rhinweddau Mecanyddol Defnyddiau• Technoleg Roced a Gofod

Lefel Tri• Dull Elfennau Cyfyngedig• Dynameg Nwyon• Prosiect• Dynameg II• Rheoli Peirianneg• Aerodynameg Gyfrifiadurol• Gyriad• Defnyddiau Cyfansawdd• Dylunio Peirianneg Awyrofod III• Defnyddiau Perfformiad Uchel a’u

Dewis• Systemau Lloeren• Hollt a Lludded

Lefel Pedwar (MEng)• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Prosiect grwp• Traethawd Ymchwil Hir• Dynameg a Rheolaeth Hedfan• Rhyngweithio Strwythur-Hylifau• Dulliau Rhifiadol• Dynameg Hylifau Gyfrifiadurol• Cynllunio Prosiectau Strategol• Awyrennau Asgell Gylchdro

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

121120

Page 63: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Mae peirianwyr cemegol yn chwarae rhan bwysig wrth bennu ein safon byw ac ansawdd bywyd. Maen nhw’n cymhwyso eu gwybodaeth i faterion sylfaenol, megis sut yr ydym yn caffael ac yn gwneud defnydd o’n hadnoddau naturiol, a sut yr ydym yn eu hailddefnyddio, yn eu hailgylchu ac yn eu gwaredu yn effeithlon.

Mae Peirianneg Gemegol yn Abertawe yn darparu gwybodaeth o brosesu ffisegol, cemegol a biolegol, gan ysgogi’r datblygiad o sgiliau dadansoddi a chreadigol sydd eu hangen ar gyfer dylunio, gweithredu a rheoli cyfleusterau prosesu yn ddiogel.

Mae ein graddau wedi’u hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Cemegol (IChemE).

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd gwobrwyol mewn sefydliadau diwydiannol a chyhoeddus, a sectorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwysiad peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm,

sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Erbyn i chi gwblhau Lefel Dau bydd y wybodaeth a’r profiad angenrheidiol gyda chi i dreulio blwyddyn mewn diwydiant, os ydych yn dymuno. Yn yr un modd, mae’r radd MEng yn cynnwys canran sylweddol o waith prosiect diwydiannol.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, ac mae ein cyrsiau i gyd wedi’u dylunio i gynnig modiwlau i chi sy’n ehangu eich profiad ac yn dysgu sgiliau proffesiynol i chi, megis rheoli adnoddau dynol, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau. Mae Lefelau Un a Dau yn gyffredin i’n holl gynlluniau gradd, sy’n rhoi’r hyblygrwydd i chi drosglwyddo rhwng rhaglenni BEng ac MEng ar ddiwedd Lefel Dau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Egwyddorion Prosesu Cemegol a

Biocemegol• Labordy Peirianneg Gemegol• Trosglwyddo Gwres• Mecaneg Hylifau I• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianneg• Dadansoddi Peirianneg I• Dadansoddi Peirianneg II• Dadansoddi a Dylunio Prosesu Cemegol• Cemeg Organig Ragarweiniol• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Gwyddor Peirianneg Gemegol• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i

Beirianwyr

Lefel Dau• Prosesau Gwahanu• Egwyddorion Peirianneg Fiocemegol I• Dylunio Adweithyddion• Mesur a Rheoli Offeryniaeth• Dylunio ac Efelychu Prosesau• Cymwysiadau Peirianneg• Thermodynameg Dylunio Prosesu• Llif Hylifau• Modelu Prosesu• Dulliau Ystadegol a Chyfrifiadurol• Gweithredoedd Proses a Pheiriannau

Amgylcheddol

BEng Anrhydedd SenglH831 s Peirianneg GemegolH832 u Peirianneg Gemegol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH801 u Peirianneg GemegolH890 l Peirianneg Gemegol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 mlynedd

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Cemegol

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? BEng

Safon Uwch: ABB – ABB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a Chemeg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (gan gynnwys Mathemateg a Chemeg, y ddau ar Lefel Uwch yn ddelfrydol)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

MEng

Safon Uwch: AAB – BBB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a Chemeg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys Mathemateg a Chemeg, y ddau ar Lefel Uwch yn ddelfrydol)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

“ Yn ystod fy nghwrs rydw i wedi cael cyfle i weithio ar brosiect fel

rhan o leoliad diwydiannol. Yn fy achos i, roedd cwmni’n colli miloedd

o bunnoedd mewn nitrogen yr oeddent wedi’i brynu ond yn methu rhoi

cyfrif amdano. Fy rôl i oedd dod o hyd i’r nitrogen direidus. Rhoddodd

hyn gyfle i fi astudio purfa ddiwydiannol ar raddfa lawn a dysgu mor

bwysig yw peirianwyr cemegol mewn diwydiant ” Dele Adeleja, MEng Peirianneg Gemegol a Biobrosesu

Peirianne

g –

Ce

me

go

l

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

Lefel Tri• Diogelwch ac Atal Colledion• Gweithredoedd Peiriannau Prosesu• Prosiect Dylunio• Dylunio Adweithyddion II• Prosesau Gwahanu II• Dylunio Peiriannau Prosesu • Ymarfer Peirianneg Amgylcheddol • Systemau Gronynnol• Rheoli Peirianneg• Technolegau Ynni a Charbon Isel

Lefel Pedwar (MEng)• Prosiect Dylunio• Cynnyrch Biolegol ac Optimeiddio

Cynnyrch• Prosiect Ymchwil• Moeseg, Diogelwch, a Rheoleiddio

mewn Peirianneg• Gwyddor Coloid a Rhyngwynebol• Hylifau a Llifoedd Cymhleth• Optimeiddio• Dihalwyno• Technoleg Pilenni

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

123122

Page 64: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglH101 u Dewis wedi’i Ohirio (yn cynnwys

blwyddyn sylfaen)

u cynllun 4 blynedd

Nid oes gan bob myfyriwr y gofynion mynediad sydd eu hangen i astudio Peirianneg, a’r unig ffordd i rai o beirianwyr mwyaf talentog heddiw gael eu graddau oedd trwy’r cyfle a gawsant i astudio cyrsiau a oedd yn cynnwys blwyddyn sylfaen.

Mae gradd Beirianneg bedair blynedd Abertawe gyda Blwyddyn Sylfaen Integredig wedi’i dylunio er mwyn darparu mynediad ehangach i raddau Anrhydedd achrededig, gan roi’r cyfle i fwy o fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a dilyn gyrfaoedd gwobrwyol mewn peirianneg.

Mae ein graddau wedi’u hachredu gan:• Sefydliad y Peirianwyr Sifil• Sefydliad y Peirianwyr Dylunio• Y Sefydliad Defnyddiau, Mwynau, a

Mwyngloddio• Sefydliad y Peirianwyr Cemegol• Y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg• Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol• Y Gymdeithas Awyrenneg Frenhinol

Bydd y Flwyddyn Beirianneg Sylfaen yn:

• eich galluogi i symud ymlaen i un o raddau peirianneg Prifysgol Abertawe ac, ar ôl hyfforddiant pellach, i fod yn Beiriannydd Siartredig

• eich darparu â dealltwriaeth eang o themâu ac egwyddorion craidd peirianneg

Beth yw strwythur y radd? Mae ein graddau Blwyddyn Sylfaen Integredig wedi’u dylunio i’ch darparu â’r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen i astudio Peirianneg ar lefel Baglor neu Feistr. Maen nhw’n ymdrin ag ystod o bynciau sy’n gyffredin i’n holl raddau peirianneg.

Tra bod rhai myfyrwyr yn datgan pa raglen radd y byddant yn hoffi ei dilyn ar ôl cwblhau’r flwyddyn sylfaen ar eu ffurflenni cais, mae sawl myfyriwr yn dewis eu cynllun gradd yn ystod y flwyddyn sylfaen ei hun gan nad oes angen gwneud y penderfyniad terfynol tan ddiwedd y flwyddyn academaidd ei hun.

Mae’r flwyddyn astudio gyntaf ar Lefel 0, ac fe’i haddysgir drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau. Gallwch symud ymlaen i radd BEng ar Lefel Un ar ôl cwblhau’r flwyddyn sylfaen, ac efallai gallwch drosglwyddo i rai

cynlluniau MEng penodol ar ddiwedd Lefel Dau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel 0 (Sylfaen)• Trydan a Magnetedd• Mecaneg• Mecaneg Thermo-hylifau• Datblygu Sgiliau Allweddol i Beirianwyr• Sylfeini Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol Ia • Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol Ib• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol IIa • Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol IIb• Cemeg Sylfaenol• Gwyddor Peirianneg

Mae’r modiwlau sydd ar gael i chi yn y Lefelau dilynol yn dibynnu ar eich dewis o radd. Am ragor o wybodaeth, darllenwch y wybodaeth am y cyrsiau ar gyfer y graddau yr ydych yn eu hystyried.

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Cynlluniau Blwyddyn Sylfaen Integredig

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? Safon Uwch: BBC – BCC

Bagloriaeth Ryngwladol: 26

Bagloriaeth Cymru: : Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Bydd angen arnoch hefyd TGAU Mathemateg a Ffiseg (neu Wyddoniaeth Dyfarniad Dwbl) ar radd B neu uwch.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, ond bod gennych brofiad diwydiannol perthnasol neu gymwysterau eraill, cysylltwch â ni i drafod eich cais mewn manylder.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Peirianne

g –

Cynlluniau B

lwyd

dyn S

ylfaen Inte

gre

dig

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

“ Mae’r flwyddyn sylfaen i’w gweld fel cymysgedd o’r holl bynciau

gwyddoniaeth lefel ‘A’ ac mae’r gwaith tua’r un lefel. Er fy mod i’n

mynd ymlaen i wneud Peirianneg Drydanol ac Electronig, mae’r cwrs

yn gyffredin i bob disgyblaeth, sy’n rhoi llawer o opsiynau i fi. ”Mike Ayles, BEng Peirianneg Blwyddyn Sylfaen

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau? Gweler tudalen 196 am ragor o wybodaeth ynglyn ag ysgoloriaethau’r Brifysgol.

Bydd eich awdurdod addysg DU lleol yn ariannu’r pedair blynedd o astudio sy’n angenrheidiol am radd BEng integredig, ac mae’n bosib y byddant hefyd yn barod i ariannu’r flwyddyn ychwanegol os ydych yn dewis gwneud y radd MEng.

“Roedd y flwyddyn sylfaen wedi fy ngalluogi i gychwyn ar y cwrs

BEng gyda dealltwriaeth o sut mae’r Coleg Peirianneg yn gweithio a

beth oedd y disgwyliadau ohonof i fel myfyriwr Peirianneg.

Cefais mai’r drydedd flwyddyn o fy nghwrs Baglor oedd y gorau,

oherwydd y rhyddid i ddilyn prosiect yn y flwyddyn olaf. Roedd fy

mhrosiect yn y Ganolfan Nanotechnoleg Amlddisgyblaethol, a roddodd

awydd i mi ddilyn MSc mewn Nanotechnoleg i Nanowyddoniaeth.

Gan fy mod wedi cael fy noddi, roedd gan fy mhrosiect MSc gysylltiad

â diwydiant oherwydd y cyllid, ac roeddwn i’n gweithio gyda chwmni

o’r enw Enfis. Roedd hyn yn fy ngalluogi i ddatblygu sgiliau masnachol

a thechnegol rhagorol mewn awyrgylch diwydiannol go iawn. O’r fan

honno, roedd modd i mi drosglwyddo fy ngwybodaeth i Ganolfan

Golau Uwch-effeithiol Cymru yn y Brifysgol.

Ar hyn o bryd, dwi’n gweithio tuag at Ddoethuriaeth Peirianneg,

EngD. ” Jonathan Davies, BSc Peirianneg Drydanol ac Electroneg 2009, a MSc

Nanotechnoleg, 2010 Peiriannydd Ymchwil Lefel 1, Tata Steel

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

125124

Page 65: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglJ500 s Gwyddor Defnyddiau a PheiriannegJ502 u Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg

(gyda blwyddyn mewn diwydiant)J510 u Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg

(gyda blwyddyn dramor)

MEng Anrhydedd SenglJ504 u Gwyddor Defnyddiau a PheiriannegJ503 l Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg

(gyda blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 mlynedd

Mae Peirianwyr Defnyddiau yn arwain datblygiadau technolegol y byd. Maen nhw’n gweithio ar y lefel atomig hyd at lefel cydrannau graddfa eang a dulliau gweithgynhyrchu i ddatblygu prosiectau arloesol newydd ym mhob sector, o’r sectorau awyrofod a moduro, i chwaraeon a thechnolegau ecogyfeillgar.

Mae Abertawe yn un o brif ganolfannau’r DU am addysgu defnyddiau ac mae ganddi enw da ar raddfa ryngwladol am ei hymchwil. Mae ein graddau i gyd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Defnyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3).

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol mewn ystod o sectorau peirianneg, yn cynnwys awyrofod, moduro, gweithgynhyrchu, chwaraeon a generadu ynni

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwysiad peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Mae Peirianneg Defnyddiau yn Abertawe wedi’i chefnogi gan ystod o bartneriaethau ym myd diwydiant, gan gynnwys Rolls-Royce, Airbus, yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, a Tata Steel.

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau ymarferol, yn cynnig hyfforddiant mewn agweddau craidd gwyddor defnyddiau a pheirianneg. Byddwch yn ennill profiad ymarferol drwy archwiliadau labordy yn defnyddio’r offer diweddaraf, yn ogystal â chymwysiadau cyfrifiadura a modelu defnyddiau. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil neu ddylunio sylweddol yn ystod Lefel Tri (BEng) neu Bedwar (MEng). Ar gyfer cynlluniau gradd perthnasol, bydd cyfle gennych i dreulio blwyddyn mewn diwydiant mewn prifysgolion penodol yn yr Unol Daleithiau,

Canada neu Awstralia cyn dychwelyd i Abertawe i gwblhau blwyddyn olaf eich astudiaethau.

Mae ein cyrsiau i gyd wedi’u dylunio i gynnig modiwlau i chi sy’n ehangu eich profiad ac yn dysgu sgiliau proffesiynol i chi, megis rheoli adnoddau dynol, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau.

Mae’r MEng mewn Gwyddor Defnyddiau a Pheirianneg wedi’i ddatblygu mewn cydweithrediad â byd diwydiant ac yn bodloni gofynion y Cyngor Peirianneg.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianneg • Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Technoleg Gweithgynhyrchu I• Adnoddau Defnyddiau• Priodweddau Mecanyddol Defnyddiau I• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol Ia a

IIa• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Cemeg Sylfaenol• Astudiaethau Achos Defnyddiau• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i

Beirianwyr• Gwyddor Peirianneg

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Defnyddiau

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? BEng

Safon Uwch: BBB neu gyfwerth (gan gynnwys 2 bwnc gwyddoniaeth neu dechnoleg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

MEng

Safon Uwch: ABB neu gyfwerth (gan gynnwys 2 bwnc gwyddoniaeth neu dechnoleg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

“ Mae’n gwrs eang sy’n

ymdrin â phopeth o ddethol

defnyddiau ar gyfer peiriannau

jet i ddeddfwriaeth

amgylcheddol. Gan ei fod yn

bwnc newydd, sy’n torri tir

newydd â niferoedd cymharol

isel yn graddio bob blwyddyn,

mae rhagolygon ar gyfer

gyrfaoedd yn y dyfodol yn dda

iawn – rydw i’n cael fy noddi

gan gwmni olew mawr ar hyn

o bryd. ” Tim Rudd, MEng Gwyddor Defnyddiau

a Pheirianneg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Lefel Dau• Cryfder Defnyddiau• Esblygu a Rheoli Micro-strwythurau• Polymerau: Strwythur a Phrosesu• Defnyddiau Cyfrifiadurol I• Technoleg Gweithgynhyrchu II• Dulliau Ystadegol a Chyfrifiadurol• Sesiynau Ymarferol IIa ac IIb• Modelu ac Efelychu Defnyddiau• Trefn ac Anhrefn mewn Defnyddiau• Anffurfiad Mecanyddol mewn

Defnyddiau Strwythurol• Defnyddiau Ymarferol a Smart

Lefel Tri• Prosiect• Defnyddiau Cyfrifiadurol II• Cerameg• Polymerau: Priodweddau a Dylunio• Rheoli Peirianneg• Metelau: Gweithgynhyrchu Uwch a

Diogelu• Micro-strwythurau a Chymeriadaeth• Meteleg Ffisegol Dur• Defnyddiau Cyfansawdd• Hollt a Lludded

Lefel Pedwar (MEng)• Technegau Ailgylchu Defnyddiau • Dadansoddi a Deddfwriaeth

Amgylcheddol • Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Prosiect Grwp (30 o Gredydau)• Defnyddiau Awyrofod• Dylunio Cynnyrch yn Seiliedig ar

Efelychu• Cynllunio Prosiectau Strategol• Traethawd Ymchwil Hir• Ffiseg y Corff• Systemau Generadu Pwer

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?O ganlyniad i’n cysylltiadau cryf â byd diwydiant, rydym yn gallu cynnig nifer o ysgoloriaethau a gwobrwyon ar Lefel Un, gan gynnwys ysgoloriaethau mynediad i’r sawl hynny â graddau Safon Uwch uchel. Ewch i’n gwefan am ragor o fanylion.

Peirianne

g –

De

fnydd

iau

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

127126

Page 66: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Mae cyfarpar chwaraeon ar ben blaen datblygiad defnyddiau newydd ac mae synergedd rhwng gwyddor chwaraeon a pheirianneg defnyddiau yn tyfu’n gyflym. Fel rhywun sy’n graddio yn y radd hon, byddwch yn arbenigo mewn dylunio, datblygu, gweithgynhyrchu, a defnyddio defnyddiau ac offer chwaraeon mewn meysydd megis chwaraeon moduro, seiclo, chwaraeon dwr, chwaraeon raced, amddiffyn rhag trawiadau, arwynebau synthetig, ac offer prosthetig.

Datblygwyd y radd hon o gryfderau hir dymor y Brifysgol mewn Peirianneg Defnyddiau a Gwyddor Chwaraeon, ac mae achrediad gan y Sefydliad Defnyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3) yn cael ei geisio ar hyn o bryd.

Bydd y radd hon yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol mewn peirianneg a thechnoleg sy’n berthnasol i chwaraeon mewn amrediad eang o sectorau, gan gynnwys offer, cerbydau, dillad ac arwynebau chwaraeon

• darparu’r hyfforddiant angenrheidiol mewn gwyddoniaeth a pheirianneg defnyddiau i ganiatáu i chi ddilyn gyrfa mewn sectorau peirianneg mwy prif ffrwd, megis awyrofod, moduro, adeiladu ac ynni

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwysiad peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Mae gan Beirianneg Defnyddiau yn Abertawe hanes gwych o gydweithio â phartneriaid o bwys ym myd diwydiant sydd bellach yn cael ei ehangu i faes Defnyddiau Chwaraeon.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, prosiectau grwp ac astudiaethau achos. Bydd y rhain yn eich darparu â hyfforddiant mewn agweddau craidd peirianneg defnyddiau,

biomecaneg, a thechnegau mesur. Byddwch yn ennill profiad ymarferol drwy wneud archwiliadau labordy gan ddefnyddio offer o’r radd flaenaf yn ogystal â chymwysiadau cyfrifiadur. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil sylweddol, a fydd yn caniatáu i chi archwilio maes o’ch dewis yn fwy manwl, gyda’r rhan fwyaf o’r prosiectau yn gysylltiedig â’n hymchwil diwydiannol parhaus.

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i gynnig modiwlau i chi sy’n ehangu eich profiad ac yn dysgu sgiliau proffesiynol i chi, megis materion yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a’r amgylchedd, rheoli adnoddau dynol, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianneg• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Technoleg Gweithgynhyrchu I• Priodweddau Mecanyddol Defnyddiau I• Dadansoddi Peirianneg Sylfaenol Ia a IIa• Cyflwyniad i Fiomecaneg• Y System Niwrogyhyrysgerbydol Ddynol• Astudiaethau Achos Defnyddiau• Defnyddiau: Ymarferol I

BEng Anrhydedd SenglJ400 s Defnyddiau Chwaraeon

s cynllun 3 blynedd

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?BEng

Safon Uwch: BBB neu gyfwerth (gan gynnwys 2 bwnc gwyddoniaeth neu dechnoleg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

BEng Anrhydedd Sengl

Peirianneg – Defnyddiau Chwaraeon

“ Mae’r sector chwaraeon a hamdden yn un sy’n dibynnu fwyfwy

ar ddatblygiadau technolegol, yn enwedig ym maes defnyddiau. Mae

gweithgarwch economeg sylweddol yn tyfu yn y sectorau hyn ar draws

y DU a gweddill y byd, yn arwain at y gemau Olympaidd yn 2012 a

thu hwnt i hynny. Gyda’n harbenigedd hir dymor mewn Defnyddiau, a

chynhwysiad diweddar Gwyddor Chwaraeon yn y Coleg Peirianneg,

rydym yn gyffrous iawn i gyflwyno’r cwrs israddedig newydd hwn i

gwrdd â’r galw cynyddol am raddedigion â sgiliau peirianneg

technegol ynghyd â gwybodaeth o wyddor chwaraeon a’r diwydiant

chwaraeon. ” Dr Amit Das, Tiwtor Derbyn

Peirianne

g –

De

fnydd

iau Chw

araeo

n

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Lefel Dau• Esblygu a Rheoli Microstrwythurau• Polymerau: Strwythur a Phrosesu• Technolegau Gweithgynhyrchu II• Sesiynau Ymarferol IIa ac IIb• Dadansoddi Biomecanegol

Symudiadau Dynol • Cinanthropemeteg• Defnyddiau Ymarferol a Smart• Anffurfiad Mecanyddol mewn

Defnyddiau Strwythurol• Dulliau Ystadegol a Chyfrifiadurol

Lefel Tri• Prosiect• Priodweddau Mecanyddol Defnyddiau III• Cerameg• Polymerau: Priodweddau a Dylunio• Rheoli Peirianneg• Defnyddiau Cyfansawdd• Dulliau Ystadegol a Chyfrifiadurol• Y Corff Dynol mewn Peirianneg• Biomecaneg Chwaraeon

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, prosiect ac adroddiadau ymarferol, aseiniadau grwp, cyflwyniadau llafar ac asesu parhaus.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?O ganlyniad i’n cysylltiadau cryf â byd diwydiant, rydym yn gallu cynnig nifer o ysgoloriaethau a gwobrwyon ar Lefel Un, gan gynnwys ysgoloriaethau mynediad i’r sawl hynny â graddau uchel ar lefel Safon Uwch uchel. Ewch i’n gwefan am ragor o fanylion.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi ymdrin â’r pynciau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

129128

Page 67: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglH150 s Peirianneg Dylunio CynnyrchH153 u Peirianneg Dylunio Cynnyrch (gyda

blwyddyn yng Ngogledd America)H152 u Peirianneg Dylunio Cynnyrch (gyda

blwyddyn yn Ewrop)H154 u Peirianneg Dylunio Cynnyrch (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH155 u Peirianneg Dylunio CynnyrchH156 l Peirianneg Dylunio Cynnyrch (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 mlynedd

Mae Peirianneg Dylunio Cynnyrch yn gyrru’r gwaith o ddatblygu, profi a gweithgynhyrchu cysyniadau a chynhyrchion newydd. Mae’n cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau, ac mae wrth wraidd rhai prosiectau ysbrydoledig tu hwnt, megis “Antur Beirianneg” y BLOODHOUND SSC, sy’n ceisio codi record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir i 1,000mya.

Mae ein hamrywiaeth o gyrsiau Dylunio Cynnyrch wedi’u cynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd am barhau i astudio Dylunio a Thechnoleg y tu hwnt i lefel Safon Uwch. Mae’r cyrsiau wedi’u strwythuro i’ch addysgu ynglyn â sut i gymryd cynnyrch o gam y cysyniad a’r dylunio gwreiddiol i fyny hyd at gynhyrchu a gweithgynhyrchu.

Prif themâu’r cwrs yw Dylunio Cynnyrch, Dylunio Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur, Dadansoddi Peirianegol, Gwyddor Defnyddiau, Gweithgynhyrchu, a gwaith prosiect â chymhwysiad diwydiannol.

Mae ein gradd Peirianneg Dylunio Cynnyrch wedi’i hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) a Sefydliad y Dylunwyr Peirianegol (IED)

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi i ddatblygu cynnyrch o gam y cysyniad a’r dylunio gwreiddiol i fyny hyd at gynhyrchu a gweithgynhyrchu

• rhoi’r gallu i chi ddisgrifio cynhyrchion newydd gan ddefnyddio brasluniau cysyniadol a dylunio technegol drwy gymorth cyfrifiadur

• rhoi’r gallu i chi ddeall egwyddorion sylfaenol peirianneg, gan gynnwys sut i werthuso data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau technegol sy’n berthnasol i gymhwyso peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau,

wedi’u hategu gan sganio 3D o’r radd flaenaf ac offer prototeipio cyflym. Yn Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect dylunio grwp amlddisgyblaethol ar raddfa fawr.

Os ydych yn dewis y radd MEng, byddwch yn ennill gwerthfawrogiad ehangach o offer dylunio uwch a chysyniadau rheoli. Mae hyn yn darparu sgiliau technegol a dadansoddol ychwanegol i wella’r broses ddylunio a datblygu cynhyrchion gwell.

Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau i chi sy’n ehangu eich profiad ac yn dysgu sgiliau proffesiynol i chi, megis rheoli prosiectau, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Gweithdy Dylunio Cynnyrch I• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Dylunio Peirianneg I• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Technoleg Gweithgynhyrchu I• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i

Beirianwyr• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianneg• Mecaneg Beirianegol • Cryfder Defnyddiau • Dadansoddi Peirianneg I a II

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Dylunio Cynnyrch

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? BEng

Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (gan gynnwys Mathemateg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys Mathemateg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Peirianne

g –

Dylunio

Cynnyrch

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

“ Rydw i wir yn mwynhau

astudio Dylunio Cynnyrch yn

Abertawe gan fod y cwrs yn

ymdrin ag amrywiaeth mor eang

o ddisgyblaethau sy’n arwain at

brofiad dysgu eang ac amrywiol.

Mae’r cwrs yn her ond hefyd yn

wobrwyol tu hwnt. Rydw i’n

hapus dros ben fy mod i wedi

dewis astudio yma ”Stephen Wright, BEng Dylunio Cynnyrch

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ar gyfer pob cwrs, mae cymhwyster Safon Uwch mewn Technoleg Dylunio yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi ymdrin â’r pynciau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Lefel Dau• Gweithdy Dylunio Cynnyrch II• Gwerthuso Cynnyrch• Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur• Dylunio Peirianneg II• Dylunio Elfennau Peiriannau• Dadansoddi Cylchedau• Technolegau Gweithgynhyrchu II• Mecaneg Hylifau I • Thermodynameg I • Dadansoddi Straen I• Dulliau Ystadegol a Chyfrifiadurol

Lefel Tri• Gweithdy Dylunio Cynnyrch III• Dylunio Cynnyrch drwy gymorth

Cyfrifiadur• Dylunio Peirianneg III• Prosiect Unigol• Optimeiddio Gweithgynhyrchu• Rheoli Peirianneg• Dull Elfennau Cyfyngedig • Anffurfiad Mecanyddol mewn

Defnyddiau Strwythurol• Defnyddiau Perfformiad Uchel a’u

Dewis

Lefel Pedwar (MEng)• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Prosiect grwp• Traethawd Ymchwil Hir• Cynllunio Prosiectau• Technegau Ailgylchu Defnyddiau• Monitro Cyflwr a Gweithredu

Peiriannau• Dylunio Cynnyrch yn Seiliedig ar

Efelychu• Systemau Generadu Pwer• Deallusrwydd Cyfrifiadurol mewn

Peirianneg• Dadansoddi a Deddfwriaeth

Amgylcheddol

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

131130

Page 68: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglH300 s Peirianneg FecanyddolH302 u Peirianneg Fecanyddol (gyda

blwyddyn yn Ewrop)H303 u Peirianneg Fecanyddol (gyda

blwyddyn yng Ngogledd America)H305 u Peirianneg Fecanyddol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH304 u Peirianneg FecanyddolH306 l Peirianneg Fecanyddol (gyda

blwyddyn mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 mlynedd

Mae Peirianwyr Mecanyddol yn gweithio ym mhob agwedd ar y diwydiant peirianneg i drosi syniadau’n ddyfeisiau. Maen nhw’n dylunio ac yn datblygu cynhyrchion arloesol newydd, o ddyfeisiau biofeddygol ffurf fechan a lloerennau cyfathrebu pwrpasol, i gludiant awyr milwrol a sifil, cynhyrchu ynni, systemau ailgylchu, ac offer chwaraeon.

Mae Peirianwyr Mecanyddol felly ar flaen y gad ym maes technoleg ac o bosib, nhw yw’r mwyaf amryddawn a gwerthadwy o blith y proffesiynau peirianneg.

Mae ein cynlluniau gradd wedi’u hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE).

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth eang o sectorau peirianneg, yn cynnwys peirianneg fodurol, awyrofod a chynhyrchu pwer

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwysiad peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, â dylunio peirianneg yn agwedd integredig ganolog drwy gydol y radd. Yn Lefel tri, datblygir eich sgiliau dylunio a dadansoddi ymhellach drwy brosiect dylunio grwp a phrosiect unigol yn gysylltiedig â diwydiant neu ymchwil.

Mae’n bosib i chi drosglwyddo rhwng y rhaglenni BEng a MEng, yn dibynnu ar eich perfformiad academaidd – mae’r MEng yn cyflwyno sgiliau rheoli ac entrepreneuriaeth uwch sy’n darparu sbringfwrdd i’r swyddi gorau mewn Peirianneg.

Gallwch fanteisio ar y cyfle i dreulio blwyddyn mewn diwydiant neu i astudio dramor yn un o’n prifysgolion partner yn Ewrop, Gogledd America neu Canada, cyn dychwelyd i Abertawe i gwblhau Lefel Tri.

Mae ein cyrsiau i gyd wedi’u dylunio i gynnig modiwlau i chi sy’n ehangu eich profiad ac yn dysgu sgiliau proffesiynol i chi, megis rheoli adnoddau dynol, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Cryfder Defnyddiau• Mecaneg Hylifau I• Thermodynameg I• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Dylunio Peirianneg I• Mecaneg Beirianegol• Sgiliau Peirianneg• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i

Beirianwyr• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Technoleg Gweithgynhyrchu I• Dadansoddi Peirianneg I a II

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Mecanyddol

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? BEng

Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a Gwyddor Ffisegol)

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (gan gynnwys Mathemateg ar Lefel Uwch a Gwyddor Ffisegol)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a Gwyddor Ffisegol)

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys Mathemateg ar Lefel Uwch a Gwyddor Ffisegol)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

“ Mynychais gwrs yn ystod

gwyliau haf blwyddyn 12 o’r enw

Cynllun Addysg Beirianneg

Cymru, a oedd yn cynnig

cyflwyniad i beirianneg. Roedd y

cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth

eang o weithgareddau

peirianneg, o adeiladu a phrofi

dyfeisiau bach, i rocedi a darlith

gan gynrychiolydd o gwmni

Airbus UK. Gwnaeth y cwrs fy

annog i wneud peirianneg yma

yn Abertawe yn sicr. ”Sarah-Jane Rees, BEng Peirianneg Fecanyddol

Peirianne

g –

Me

canydd

ol

Lefel Dau• Trosglwyddo Gwres• Systemau Deinamig• Llif Hylifau• Dadansoddi Cylchedau• Dynameg I• Thermodynameg II• Dadansoddi Straen I• Dylunio Peirianneg II• Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur• Astudiaethau Arbrofol• Dylunio Elfennau Peiriannau• Technolegau Gweithgynhyrchu II

Lefel Tri• Systemau Rheoli• Dull Elfennau Cyfyngedig• Prosiect• Dynameg II• Mecaneg Hylifau III• Optimeiddio Gweithgynhyrchu• Rheoli Peirianneg• Dadansoddi Peirianneg III• Dylunio Peirianneg III• Arfer Peirianneg Fecanyddol

Lefel Pedwar (MEng)• Optimeiddio• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Deallusrwydd Cyfrifiadurol mewn

Peirianneg• Prosiect grwp• Traethawd Ymchwil Hir• Cynllunio Prosiectau• Dylunio Cynnyrch yn Seiliedig ar

Efelychu • Mecaneg Hylifol Uwch• Systemau Rheoli Modern

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

A oes unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau?Gweler tudalen 196 am ragor o wybodaeth ynglyn ag ysgoloriaethau’r Brifysgol.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi ymdrin â’r pynciau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

133132

Page 69: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglHB18 s Peirianneg Feddygol

MEng Anrhydedd SenglHB1V u Peirianneg Feddygol

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Mae Peirianneg Feddygol yn ddisgyblaeth ar flaen y gad sy’n pylu’r ffiniau rhwng y gwyddorau ffisegol a biofeddygol. Mae’n cymhwyso egwyddorion peirianneg at y corff dynol yn ogystal ag at yr offeryniaeth sydd wrth wraidd meddygaeth fodern.

Mae astudio Peirianneg Feddygol yn Abertawe yn darparu cyfle cyffrous i archwilio ystod eang o faterion yn fanwl, o ddylunio dyfeisiau prosthetig a defnyddiau biogydnaws newydd i ymddygiad biomoleciwlau cymhleth a hylifau yn y corff.

Mae’r radd wedi’i chyflwyno ar gyfer achrediad gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE). Fe’i haddysgir yng Ngholegau Peirianneg a Meddygaeth y Brifysgol, ac mae’n ymgorffori tair thema beirianneg:• Biomecaneg a defnyddiau – datblygu a

dadansoddi defnyddiau yng nghyswllt cryfder a biogydnawsedd

• Offeryniaeth – technegau diagnostig a therapiwtig uwch

• Bioprosesau – y prosesau ffisegol a chemegol sy’n digwydd yn y corff dynol

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o sectorau, yn cynnwys dylunio a gweithgynhyrchu offeryniaeth a dyfeisiau meddygol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwyso peirianneg i’r diwydiant meddygol (dyfeisiau ac offerynnau)

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd?Caiff eich astudiaethau academaidd eu hategu gan y thema glinigol gref sy’n rhedeg trwy gydol darlithoedd, tiwtorialau a seminarau’r cwrs. Ar Lefel Tri, byddwch yn canolbwyntio ar gymhwyso peirianneg i’r corff dynol, ac yn cwblhau prosiect ymchwil unigol estynedig yn gysylltiedig â’r Ysgol Feddygaeth neu ysbytai GIG lleol.

Mae’n bosib i chi drosglwyddo rhwng y rhaglenni BEng a MEng, yn dibynnu ar eich perfformiad academaidd – mae’r MEng yn edrych tuag at ddyfodol peirianneg feddygol mewn meysydd fel Bio-nanotechnoleg a Pheirianneg Meinweoedd a Biomecaneg Gyfrifiadurol, yn tynnu ar arbenigedd a’r offer o’r radd flaenaf sydd ar gael yn y Colegau Peirianneg a Meddygaeth.

Mae ein cyrsiau i gyd wedi’u dylunio i gynnig modiwlau i chi sy’n ehangu eich profiad ac yn dysgu sgiliau proffesiynol i chi, megis rheoli adnoddau dynol, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Cryfder Defnyddiau• Dylunio Analog• Dadansoddi Cylchedau• Mecaneg Hylifau I• Dosbarthiadau Dylunio a Labordy I• Dadansoddi Peirianneg I a II• Cyflwyniad i Beirianneg Feddygol• Egwyddorion Prosesau Cemegol• Dyfeisiau Electronig ac Offeryniaeth • Sgiliau Peirianneg• Cemeg Sylfaenol• Gwyddor Peirianneg Gemegol• Mecaneg Beirianegol

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Meddygol

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? BEng

Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth neu Dechnoleg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (gan gynnwys 4 mewn Mathemateg Lefel Uwch)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg a phwnc Gwyddoniaeth neu Dechnoleg)

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (gan gynnwys 5 mewn Mathemateg Lefel Uwch)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

“ Mae ansawdd ac argaeledd

y labordy a’r systemau TG

gymaint yn well nag unrhyw

beth rydw i wedi’i weld mewn

unrhyw brifysgol arall, yn

enwedig yr amrediad o offer

yn y labiau electroneg. ”Luke Burke, BEng Peirianneg Feddygol

Lefel Dau• Cemeg Offerynnol a Dadansoddol• Peirianneg Fiocemegol• Llif Hylifau• Priodweddau Mecanyddol Defnyddiau I• Peirianneg drwy gymorth Cyfrifiadur• Dulliau Ystadegol a Chyfrifiadurol• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Egwyddorion Prosesau Cemegol a

Biocemegol• Technegau Diagnostig Meddygol

Dewisol• Dynameg I• Mecaneg Beirianegol• Astudiaethau Arbrofol

Lefel Tri• Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg• Dylunio Cynnyrch drwy gymorth

Cyfrifiadur• Prosiect Ymchwil Unigol• Prosiect Dylunio Grwp• Priodweddau Mecanyddol Defnyddiau II• Polymerau, Defnyddiau a Phrosesu• Technoleg Mewnblaniadau a

Phrosthetig• Rheoli Peirianneg• Dull Elfennau Cyfyngedig• Mecaneg Hylifau III• Nanoelectroneg

Lefel Pedwar (MEng)• Moeseg, Diogelwch a Rheoliadau• Gwyddor Coloid a Rhyngwynebol• Chwilio ar y raddfa Nano• Nanotechnoleg Feddal• Bio-nanotechnoleg• Cyflwyniad i Fiowybodeg• Prosiect annibynnol yn gysylltiedig â’r

Coleg Meddygaeth/GIG/diwydiant• Priodweddau Mecanyddol Defnyddiau III• Dadansoddi Cyfrifiadurol Elfennau

Cyfyngedig• Mecaneg Fio-hylif Gyfrifiadurol• Biomecaneg Gyfrifiadurol• Delweddu Meddygol• Dulliau Rhifiadol

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Peirianne

g –

Me

dd

ygo

l

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

135134

Page 70: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BEng Anrhydedd SenglH200 s Peirianneg SifilH202 u Peirianneg Sifil (gyda blwyddyn

mewn diwydiant)

MEng Anrhydedd SenglH201 u Peirianneg SifilH204 l Peirianneg Sifil (gyda blwyddyn

mewn diwydiant)

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddl cynllun 5 mlynedd

Mae peirianwyr sifil yn llunio ac yn diogelu’r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo. Maen nhw’n dylunio, yn adeiladu, ac yn cynnal prosiectau isadeiledd mawr, megis systemau trafnidiaeth, cyflenwi dwr, ac adeiladau, ac maen nhw’n datblygu ffyrdd newydd i gwrdd â heriau peirianneg mwyaf y byd.

Mae Abertawe yn gyson ymysg y prifysgolion uchaf o ran Peirianneg Sifil yn y DU ac mae ei pheirianwyr wrth wraidd prosiectau gwirioneddol ysbrydoledig, gan gynnwys “Antur Peirianneg” BLOODHOUND SSC, sy’n bwriadu cynyddu record y byd ar gyfer cyflymder ar y tir i 1,000mya. Graddiwyd Peirianneg Sifil yn 2il yn y DU yn yr Ymarferiad Asesu Ymchwil diweddaraf yn 2008.

Mae ein cynlluniau gradd Peirianneg Sifil MEng a BEng wedi’u hachredu gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), sy’n rhagofyniad i fod yn Beiriannydd Siartredig.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn peirianneg sifil, strwythurol, dinesig a meysydd peirianneg perthynol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwysiad peirianneg i fyd diwydiant

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Beth yw strwythur y radd? Nodwedd allweddol ein graddau Peirianneg yw’r cyfle i weithio ar faterion cyfredol sy’n berthnasol i fyd diwydiant mewn gosodiad ymarferol. Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau, wedi’u hategu gan ymweliadau safle â rhai o’n partneriaid diwydiannol, sawl un ohonynt yn sefydliadau rhyngwladol mawr ac yn enwau o bwys.

Dyluniwyd ein cyrsiau i gynnig modiwlau sy’n ehangu’ch profiad ac sy’n dysgu sgiliau proffesiynol, megis rheoli adnoddau dynol, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau.

Mae’n bosib i chi drosglwyddo rhwng y rhaglenni BEng ac MEng, yn dibynnu ar eich perfformiad academaidd. Os ydych yn penderfynu astudio’r radd BEng neu MEng â blwyddyn mewn diwydiant, byddwch yn treulio blwyddyn ar leoliad diwydiannol â chwmnïau lleol neu genedlaethol cyn i chi ddychwelyd i’r Brifysgol i gwblhau Lefelau Tri a Phedwar. Fodd bynnag, rydym hefyd yn annog ein myfyrwyr i ennill profiad ymarferol ym myd diwydiant a byddwn yn eich cefnogi os ydych yn penderfynu gwneud lleoliad diwydiannol deuddeg mis.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Cryfder Defnyddiau• Tirfesur• Dylunio Cysyniadol• Labordy Sifil • Mecaneg Hylifau I• Dylunio a Dosbarthiadau Labordy I• Mecaneg Beirianegol• Ymwybyddiaeth Amgylcheddol i

Beirianwyr• Cyflwyniad i Beirianneg Defnyddiau• Dadansoddi Peirianneg I a II• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianegol

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Sifil

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? BEng

Safon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth gan gynnwys Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (o leiaf 5 mewn Mathemateg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

MEng

Safon Uwch: AAA – AAB, gan gynnwys Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol: 36 – 34 (o leiaf 5 mewn Mathemateg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Peirianne

g –

Sifi

l

“ Mae peirianneg yn

Abertawe yn wych. Mae safon yr

addysgu’n ardderchog ac mae

yna rywun bob amser wrth law i

gynnig cymorth ychwanegol.

Mae’r prosiectau yr wyf wedi

cymryd rhan ynddynt hyd yn hyn

yn cynnwys: gwneud pont ddur;

dysgu sut i ddefnyddio

meddalwedd fel Matlab, CAD a

rucksack; dylunio a chymysgu

eich concrit eich hun; a thaith

maes tri diwrnod i dirfesur yng

nghanolbarth Cymru. ”Rosie Jay, MEng Peirianneg Sifil

Lefel Dau• Mecaneg Hylifau II• Mecaneg Strwythurol IIa• Dylunio Concrit Cyfnerthedig• Mecaneg Bridd Sylfaenol• Dylunio Dur• Mecaneg Strwythurol IIb• Labordy Sifil III• Dynameg I• Dulliau Ystadegol a Chyfrifiadurol• Ymarfer Dylunio Peirianneg Sifil I• Daeareg Ragarweiniol i Beirianwyr• Rheoli Peirianneg

Lefel Tri• Mecaneg Strwythurol III• Geomecaneg• Dull Elfennau Cyfyngedig• Dylunio Peirianneg Tir a Dwr• Peirianneg Sylfeini• Dylunio Uwch-strwythurau• Hydroleg a Llif Ansefydlog• Prosiect• Ymarfer Dylunio Peirianneg Sifil II• Dadansoddi Peirianneg III• Arfer Amgylcheddol a Pheirianegol

Lefel Pedwar (MEng)• Dull Elfennau Cyfyngedig• Dylunio Strwythurol Uwch• Dadansoddi Strwythurol Uwch• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Prosiect grwp• Rhyngweithio Strwythur-Hylifau• Mecaneg Hylifol Uwch• Dadansoddi Dynameg a Byr-dymor• Efelychu Cronfeydd Dwr• Plastigrwydd Cyfrifiadurol

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200.

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, fe allwch gael eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

137136

Page 71: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Mae peirianneg drydanol yn diffinio’r byd o’n cwmpas. O chwaraewyr MP3 i’r Rhyngrwyd, rhwydweithiau ffonau symudol byd-eang i ffynonellau ynni adnewyddadwy, mae’n llywio’r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau.

Mae peirianneg drydanol yn cynnig cyfle i weithio ar draws y byd cyfan, o gyffro byd Fformwla Un ac “Antur Beirianneg” y BLOODHOUND SSC, i’r cyflymydd gronynnau enfawr yn CERN yn y Swistir. Mae Nanotechnoleg, agwedd newydd ar Beirianneg sy’n torri tir newydd, yn sbarduno’r broses o ddatblygu cyfrifiaduron tra chyflym a biosynhwyryddion uwch-sensitif, sy’n chwyldroi’r diwydiannau electroneg a meddygol, ac yn y pendraw, yn newid y ffordd rydym yn byw.

Mae ein graddau Peirianneg Drydanol ac Electronig wedi’u hachredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET). Mae’r radd Peirianneg Drydanol gyda Nanotechnoleg wedi’i chyflwyno ar gyfer achredu.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich hyfforddi ar gyfer gyrfa mewn peirianneg drydanol, electronig a nanopeirianneg mewn ystod eang o sectorau diwydiannol

• rhoi’r gallu i chi ddeall, gwerthuso a dehongli data, datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau ar sail cysyniadau sylfaenol yn berthnasol i gymhwyso peirianneg i’r diwydiant electronig

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

• eich darparu â sylfaen i chi anelu am y statws nodedig “Peiriannydd Siartredig”

• eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig neu ddoethur, neu ymchwil academaidd

Mae sawl un sydd wedi graddio mewn peirianneg drydanol ac electronig o Abertawe wedi symud ymlaen i fod yn uwch weithredwyr mewn cwmnïoedd rhyngwladol a hyd yn oed entrepreneuriaid sydd wedi gwneud miliynau a miliynau o bunnoedd.

Beth yw strwythur y radd?Rydym yn gweithio gyda chwmnïau blaenllaw’r byd yn cynnwys Agilent, BT, IBM, International Rectifier, Siemens, Toyota a Nortel, i sicrhau bod eich astudiaethau wedi’u hategu gan ymarfer cyfredol, perthnasol i fyd diwydiant ac ymchwil gydnabyddedig ar raddfa ryngwladol.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a sesiynau labordy. Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn astudio electronig lefel uwch wedi’u teilwra i’ch disgyblaeth arbennig ac yn cwblhau prosiect unigol sy’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae prosiectau yn amrywio o brofi syniadau newydd mewn offeryniaeth i ddylunio dyfeisiau electronig newydd gydag un o’n grwpiau ymchwil blaenllaw.

Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i gynnig modiwlau i chi sy’n ehangu eich profiad ac yn dysgu sgiliau proffesiynol i chi, megis rheoli adnoddau dynol, rheoli eiddo deallusol, ac ysgrifennu adroddiadau.

Nodwedd allweddol y radd Peirianneg Drydanol gyda Nanotechnoleg yw’r cyfle i weithio ar flaen y gad gydag un o dechnolegau mwyaf cyffrous y byd, a hynny mewn amgylchedd ymarferol. Cewch eich addysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a sesiynau labordy, a byddwch yn cael budd o’r cyfleusterau safon byd yn ein Canolfan Nanotechnoleg Amlddisgyblaethol.

Ar Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect sy’n datblygu’ch sgiliau a’ch gwybodaeth ym maes defnyddiau a dyfeisiau trydanol

BEng Anrhydedd SenglH6G4 s Electroneg gyda ChyfrifiaduregH602 s Peirianneg Electronig a ThrydanolH603 s Peirianneg Electronig a Thrydanol

(gyda blwyddyn yn Ewrop, Gogledd America, Awstralia, neu Ddiwydiant)

H615 s Peirianneg Electronig gyda Nanoelectroneg

H613 s Peirianneg Electronig gyda Nanotechnoleg

H640 s Peirianneg DelathrebuH622 s Peirianneg Delathrebu (gyda

blwyddyn yn Ewrop, Gogledd America, Awstralia, neu Ddiwydiant)

Y Coleg Peirianneg

Peirianneg – Trydanol ac Electronig

MEng Anrhydedd SenglH6GK u Electroneg gyda ChyfrifiaduregH6GL l Electroneg gyda Chyfrifiadureg (gyda

blwyddyn yn Ewrop, Gogledd America, Awstralia, neu Ddiwydiant)

H606 u Peirianneg Electronig a ThrydanolH600 l Peirianneg Electronig a Thrydanol

(gyda blwyddyn yn Ewrop, Gogledd America, Awstralia, neu Ddiwydiant)

H614 u Peirianneg Electronig gyda Nanoelectroneg

H621 u Peirianneg DelathrebuH623 l Peirianneg Delathrebu (gyda

blwyddyn yn Ewrop, Gogledd America, Awstralia, neu Ddiwydiant)

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? BEng

Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg ac yn ddelfrydol, bwnc technoleg megis Electroneg, Ffiseg neu TG)

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32 (o leiaf 4 mewn Mathemateg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd l 5 year scheme

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/engineering

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295514

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Peirianne

g –

Trydano

l ac Electro

nig

ar y raddfa nano, gan gynnwys gweithgynhyrchu a nodweddu ar y raddfa nano gan ddefnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf sydd ar gael yn y Ganolfan. Ar gyfer yr MEng, cewch gynnig ystod o opsiynau uwch ym maes datblygu nanoelectroneg, gan gynnwys efelychu ar y raddfa nano, ymchwilio ar y raddfa nano, a strwythurau a dyfeisiau ar y raddfa nano.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?

Lefel Un• Offeryniaeth a Rheoli• Dylunio Digidol• Systemau Dynamig• Arwyddion a Systemau• Micro-reolyddion • Dylunio Analog• Dadansoddi Cylchedau• Sgiliau Gwyddonol a Pheirianneg• Dadansoddi Peirianneg I a II• Peirianneg Bwer I• Priodweddau Ffisegol Defnyddiau • Y Byd Cwantwm

Lefel Dau• Cylchedau Electronig• Peirianneg Bwer II• Defnyddiau a Dyfeisiau Electronig• Systemau Rheoli• Peirianneg Meddalwedd

• Cyfathrebu• Cylchedau Ymarferol• Ymarfer Dylunio Grwp• Electromagneteg• Technoleg Lled-ddargludyddion• Cymwysiadau Rhesymeg Cyfresol• Mecaneg Gwantwm I• Ffiseg Mater Cywasg I

Lefel Tri• Rheoli• Dylunio Cylchedau Integredig• Cyfathrebu Llafar a Delwedd• Cyfathrebu Digidol• Cylchedau Microdonnau ac Antena• Electroneg Dylunio• Electroneg Pwer• Prosiect• Dyfeisiau Cwantwm• Rheoli Peirianneg• Nanoelectroneg• Ffiseg Mater Cywasg II

Lefel Pedwar (MEng)• Electroneg Pwer Uwch a Gyriannau• Chwilio ar y raddfa Nano• Systemau Cyfathrebu Symudol• Electroneg Gap Band Eang• Entrepreneuriaeth i Beirianwyr• Prosiect grwp• Technolegau Electroneg Ynni Effeithlon• Systemau Rheoli Modern

• Strwythurau a Dyfeisiau ar y Raddfa Nano

• Dadansoddi a Modelu Signalau• Cyfathrebu Digidol• Cyfathrebu Optegol• Cyfathrebu Diwifr• Rhwydweithiau Optegol• Nanotechnoleg Feddal• RF a Microdonau

Sut y caf fy asesu?Asesir eich cynnydd trwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ac asesu parhaus.

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ar gyfer y graddau blwyddyn yn Ewrop, rhaid cael iaith berthnasol ar lefel TGAU gradd B neu uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan

Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n bosib y cewch eich ystyried ar gyfer y cynllun Blwyddyn Sylfaen Integredig (gweler tudalen 124).

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i ymuno â’r rhaglen ar Lefel Dau os ydych eisoes wedi astudio’r testunau a gynigir ar Lefel Un. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

MEng

Safon Uwch: AAB – ABB neu gyfwerth (gan gynnwys Mathemateg ac yn ddelfrydol, bwnc technoleg megis Electroneg, Ffiseg neu TG)

Bagloriaeth Ryngwladol: 34 – 33 (o leiaf 5 mewn Mathemateg)

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Mae 95% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

139138

Page 72: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Ar ôl colli rhan o’m golwg a dod yn fam, roeddwn am wneud

rhywbeth i mi fy hun a chyflawni fy amcanion. Ers dechrau yn y brifysgol

dwy flynedd yn ôl, mae gennyf fwy o hunan hyder, ac rwy’n mwynhau

dysgu am bynciau newydd sy’n effeithio ar bawb, bob dydd. Mae

Abertawe wedi cwrdd â’m disgwyliadau. ” Carly Burgess, BSc Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe

BSc Anrhydedd SenglL400 s Polisi Cymdeithasol

BA Cyd-anrhydedd Polisi Cymdeithasol aLL42 s Gwleidyddiaeth

BSc Cyd-anrhydedd Polisi Cymdeithasol aMLF4 s TroseddegLL41 s EconomegLV43 s Hanes Cymdeithasol

s cynllun 3 blynedd

Mae Polisi Cymdeithasol yn bwnc academaidd ac yn faes cymhwysol. Mae’n ein helpu i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol mwyaf brys heddiw, trwy ddeall sut a pham mae cymdeithasu’n newid, a sut mae polisïau’n cael eu llunio i ymateb i’r newidiadau hyn.

Mae Polisi Cymdeithasol yn ystyried materion megis hawliau cymdeithasol dinasyddion, materion cydraddoldeb a thegwch, pa bethau y dylid eu tybio’n anghenion dynol sylfaenol, sut y dylid cwrdd â’r anghenion hynny a phwy sy’n gyfrifol am hynny. Mae hefyd yn rhoi persbectif beirniadol ar faterion megis trosedd, tlodi, ac anghyfartaledd rhyw ac iechyd, gan asesu effaith pob un o’r rhain ar unigolion ac ar y gymdeithas gyfan.

Bydd ein rhaglen israddedig yn eich cyflwyno i’r problemau a’r cwestiynau hyn, ac yn eich annog i ddatblygu ymagwedd feirniadol tuag at weld sut mae llywodraethau a sefydliadau eraill yn ymateb i anghenion cymdeithasol newidiol mewn cyd-destun cynyddol fyd-eang. Mae’r rhaglen yn dod â ffocws cenedlaethol a rhyngwladol i Bolisi Cymdeithasol, trwy gadw’n gyfredol â’r ffyrdd y mae globaleiddio, mudiadau cymdeithasol, yr Undeb Ewropeaidd, a llywodraethau datganoledig yn y DU yn llunio polisïau yng Nghymru a thu hwnt.

Bydd dilyn gradd Polisi Cymdeithasol yn Abertawe yn:

eich helpu i ddatblygu:• ymwybyddiaeth feirniadol o

drawsnewidiadau gwladwriaeth les• gwybodaeth ddwys am wahanol

agweddau lles, megis iechyd a gofal cymdeithasol, nawdd cymdeithasol, tai, trosedd, heneiddio, a dinasyddiaeth

• dealltwriaeth o’r maes o safbwynt damcaniaethol a safbwynt cymhwysol

• ymwybyddiaeth o safbwyntiau rhyngwladol a chymharol ar les cymdeithasol

eich darparu â’r:• wybodaeth a’r sgiliau perthnasol ar

gyfer gyrfa yn y sector cyhoeddus, yn cynnwys llywodraeth leol a chanolog, y system cyfiawnder troseddol, sefydliadau gwirfoddol a’r sector preifat

eich arfogi ar gyfer:• hyfforddiant proffesiynol a

galwedigaethol pellach ym meysydd megis y gyfraith, dysgu, rheoli tai, iechyd a gofal cymdeithasol, eiriolaeth, neu waith gwirfoddol

eich paratoi ar gyfer:• astudiaethau ôl-raddedig neu ymchwil

tuag at yrfa academaidd

• ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys dadansoddi, meddwl yn feirniadol, datrys problemau, astudiaeth annibynnol a gweithio fel rhan o dîm yn ogystal â sgiliau ysgrifenedig, cyflwyno a sgiliau cyfathrebu eraill

Beth yw strwythur y radd?Mae’r Rhaglen yn cynnig cyfle i ddilyn naill ai Gradd Anrhydedd Sengl mewn Polisi Cymdeithasol neu Radd Gyd-anrhydedd gyda phynciau eraill yn Abertawe, gan gynnwys Troseddeg. Mae pob gradd yn cynnig modiwlau sy’n cyfuno hyfforddiant dadansoddi beirniadol a sgiliau ymchwil sylfaenol ag astudio pynciau llosg cyfoes o ran lles.

Cewch eich dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, grwpiau gweithdy, sesiynau cymorth, a sesiynau un i un. Byddwch hefyd yn elwa o’n cysylltiadau cryf gyda gweithwyr proffesiynol yn y sectorau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, tai a’r sector gwirfoddol sydd yn aml yn cyfrannu i’n Rhaglen fel darlithwyr gwadd.

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Polisi Cymdeithasol

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences/undergraduate/socialpolicy

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606726

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Mae cymwysterau Safon Uwch mewn pynciau llenyddol megis Saesneg, Hanes, Gwleidyddiaeth, Daearyddiaeth, Cymdeithaseg, y Gyfraith neu Seicoleg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Os ydych yn penderfynu dilyn gradd Gyd-anrhydedd byddwch fel arfer yn dilyn 50% o’ch modiwl mewn Polisi Cymdeithasol a 50% yn y pwnc arall. Ceir manylion pellach am ein cyrsiau gradd ar ein gwefan.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?I gwblhau’ch gradd, bydd raid i chi ennill 120 o gredydau ar bob lefel.

Lefel UnModiwlau gorfodol ar gyfer Graddau Anrhydedd Sengl a Chyd-anrhydedd• Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol I:

Problemau Cymdeithasol• Cyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol II: Y

Cyfnod Modern• Sgiliau Astudio mewn Troseddeg a

Pholisi Cymdeithasol• Cyflwyniad i’r System Cyfiawnder

Troseddol

Modiwlau gorfodol ar gyfer y Radd Anrhydedd Sengl• Darpariaeth Lles: Ein Hetifeddiaeth

Fictoraidd• Cysyniadau, Syniadau ac Ideolegau

mewn Polisi Cymdeithasol: Cyflwyniad

Modiwlau eraill• Troseddeg, Trosedd a Chymdeithas• Cyflwyniad i’r Gyfraith• Dioddefwyr a Dioddefoleg• Y Dychymyg TroseddegolCewch ddewis hefyd o fodiwlau dewisol sydd ar gael i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf o ystod o raglenni ar draws y Brifysgol.

Lefel Dau (modiwlau gorfodol ar gyfer Anrhydedd Sengl)• Modelau Polisi Cymdeithasol• Ymdriniaeth Gymharol o’r

Wladwriaeth Les

Lefel Tri (modiwlau gorfodol ar gyfer y Radd Anrhydedd Sengl)• Egwyddorion Polisi Cymdeithasol• Traethawd Hir ar Bolisi Cymdeithasol

Yn ystod Lefelau Dau a Thri, cewch hefyd ddewis o ystod o fodiwlau Polisi Cymdeithasol dewisol er mwyn cyrraedd 120 o gredydau ar bob lefel, gan gynnwys:

• Polisi Anabledd• Polisi Iechyd• Polisi Teulu• Cydraddoldeb, Amrywiaeth,

a Dinasyddiaeth

• Polisi Cymdeithasol yn Ewrop• Polisi Tai• Polisi Nawdd Cymdeithasol: Ymateb

y Wladwriaeth i Anghenion Ariannol

Cewch hefyd ddewis o fodiwlau Troseddeg dewisol, gan gynnwys:• Achosion Troseddu• Troseddau Rhywiol• Trosedd, Cyffuriau ac Alcohol• Camwahaniaethu, Gormes, Trosedd

a’r Cyfryngau

Sut y caf fy asesu?Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs (traethodau a phrosiectau), aseiniadau ac arholiadau.

Yn ystod Lefel Tri, bydd y cyfle gennych i gwblhau traethawd hir Polisi Cymdeithasol, oddeutu 10,000 o eiriau ar fater cymdeithasol neu bwnc polisi perthnasol o’ch dewis.

Polisi C

ymd

eithaso

l

Mae 100% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

141140

Page 73: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglN101 s Rheoli BusnesN2M1 s Rheoli Busnes gyda’r GyfraithN128 u Rheoli Busnes Rhyngwladol

(Gogledd America)N125 u Rheoli Busnes Rhyngwladol

(Awstralasia)N126 u Rheoli Busnes Rhyngwladol (Ewrop)N127 u Rheoli Busnes Rhyngwladol (Iaith)

BSc Anrhydedd SenglNN43 s Cyfrifeg a ChyllidNN4H u Cyfrifeg a Chyllid

(gyda blwyddyn dramor)N100 s Rheoli BusnesN1N4 s Rheoli Busnes (Cyfrifeg)N1N3 s Rheoli Busnes (Cyllid)

N1G5 s Rheoli Busnes (Systemau Gwybodaeth)

N1N5 s Rheoli Busnes (Marchnata)N123 u Rheoli Busnes Rhyngwladol

(Gogledd America)N121 u Rheoli Busnes Rhyngwladol

(Awstralasia)N124 u Rheoli Busnes Rhyngwladol (Ewrop) N122 u Rheoli Busnes Rhyngwladol (Iaith)

BSc Cyd-anrhydeddNL21 s Rheoli Busnes ac Economeg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

Mae rheoli’n ymwneud â gwneud penderfyniadau a chael y gorau gan bobl ar bob lefel ym mhob math o sefydliad. Mae’n rhyngddisgyblaethol: mae gan ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol, seicolegol, economaidd a thechnegol rolau pwysig i’w chwarae.

Mae Rheoli Busnes yn Abertawe’n darparu craidd o bynciau gofynnol ynghyd â dewis eang o lwybrau y gellir eu dilyn, gan greu profiad addysgol sy’n werth chweil yn academaidd ac sy’n darparu sylfaen ardderchog ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd.

Mae gan Yr Ysgol Busnes ac Economeg ddimensiwn rhyngwladol cryf, ac mae llawer o’n cynlluniau gradd yn cynnig dewis cyfnewid am flwyddyn, yn astudio mewn sefydliad academaidd yn UDA, Canada, Awstralia, Seland Newydd, neu mewn Prifysgol Saesneg yn Ewrop. Mae’r rhagolygon gyrfaol yn arbennig o dda, ac mae’r Ysgol wedi’i hachredu gan gyrff proffesiynol, gan gynnwys:

• Y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM)• Y Sefydliad Cyfrifwyr Rheoli Siartredig

(CIMA)• Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig

Siartredig (ACCA)

Mae’n bosib y bydd yr achrediadau hyn yn golygu na fydd angen i chi sefyll arholiadau rhai cyrff proffesiynol ar ôl i chi raddio.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd rheoli mewn sectorau megis manwerthu, gweithgynhyrchu, cyllid, cyfrifeg, a’r sector cyhoeddus

• eich arfogi â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi er mwyn gwella’ch cyflogadwyedd

• cyfuno safbwyntiau damcaniaethol ac ymarferol i sicrhau addysg fusnes fwy cyflawn

Entrepreneuriaeth a Chyflogadwyedd Mae ein myfyrwyr yn elwa o ystod o gyfleoedd profiad gwaith perthnasol trwy interniaethau, prosiectau ar y cyd gyda diwydiant, a lleoliadau gwaith neu flas ar waith a drefnir drwy ein partner, Go Wales. Cysylltwch â ni, neu ewch i’n gwefan am ragor o fanylion.

Beth yw strwythur y radd?Gallwch ddewis dilyn rhaglen astudio gyffredinol neu gallwch arbenigo mewn maes arbennig. Mae ein hystod eang o fodiwlau yn rhoi’r rhyddid i chi ddilyn y pynciau sydd o ddiddordeb mwyaf i chi. Mae nifer o’r modiwlau’n gyffredin i bob un o’r graddau Rheoli Busnes, ond bydd modiwlau gorfodol yn amrywio yn ôl y cwrs yr ydych yn dewis ei ddilyn.

Gallwch arbenigo mewn Marchnata, Cyfrifeg, Cyllid, neu Systemau Gwybodaeth, neu gallwch ddewis gynllun sy’n cynnwys blwyddyn dramor, lle cewch gyfle i astudio yn un o’n 40 prifysgol neu ysgol fusnes bartner yn UDA, Canada, Awstralia, Seland Newydd neu Ewrop.

Gan fod ein modiwlau Lefel Un yn gyffredin i’r rhan fwyaf o’r rhaglenni gradd, mae ein cyrsiau wedi’u strwythuro i roi’r hyblygrwydd sydd ei angen arnoch i gwrdd â’ch amcanion a’ch nodau addysgol. Er enghraifft, gallwch fel arfer newid rhwng rhaglen tair blynedd a rhaglen pedair blynedd, rhwng BA a BSc, neu rhwng gradd gyffredin a rhaglen astudio fwy penodol.

Yr Ysgol Busnes ac Economeg

Rheoli Busnes

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/business

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295601

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB – BBB

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Bydd ein cynigion yn cydnabod cwblhau craidd Bagloriaeth Cymru.

Ar gyfer pob un o’n cyrsiau, bydd angen TGAU Mathemateg a Chymraeg Iaith neu Saesneg Iaith ar radd C neu uwch arnoch.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Graddau Rheoli Busnes:Lefel UnMae’r modiwlau’n ymdrin â’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i astudio Rheoli Busnes, gan gynnwys:• Marchnata • Pobl a Sefydliadau• Cyfrifeg Ariannol a Rheoli• Economeg• Sgiliau Academaidd, Proffesiynol, ac

Entrepreneuriaeth• Dulliau Ystadegol • Dulliau mesurol

Mae fersiynau amgen o fodiwlau Lefel Un ar gael i fyfyrwyr â chefndiroedd mathemategol gwahanol ac i fyfyrwyr sy’n meddu ar gymhwyster Safon Uwch mewn Economeg a’r rheiny sydd heb.

Lefel DauAr Lefel Dau, bydd pob rhaglen radd yn dod yn fwy arbenigol. Bydd myfyrwyr yn astudio cymysgedd o fodiwlau gorfodol ac opsiynol ond gyda mwy o ddewis o fodiwlau nag ar Lefel Un.

Mae’r graddau BSc Rheoli Busnes yn canolbwyntio mwy ar agweddau mesurol y pwnc, megis Cyllid Corfforaethol a Rheoli Gweithredol, tra bod y graddau BA yn canolbwyntio mwy ar bynciau sy’n

ymwneud â threfniadaeth a phobl, megis Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymddygiad Sefydliadau.

Ar Lefel Dau, mae oddeutu traean o’ch modiwlau yn agored i ddewis, ac yn cynnwys pynciau megis cyfrifeg, cyllid, entrepreneuriaeth, rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol, cyfraith busnes, gwneud penderfyniadau, systemau gwybodaeth, economeg, ac opsiwn i astudio iaith Ewropeaidd.

Lefel TriBydd rhai modiwlau’n orfodol, o ganlyniad i’ch dewis gradd, ond ar y lefel hon cewch ddewis oddeutu hanner eich modiwlau o’r dewisiadau sydd ar gael. Bydd y rhain yn caniatáu i chi archwilio pynciau newydd, yn ogystal â datblygu’ch gwybodaeth o’r pynciau a astudiwyd ar Lefel Dau. Mae enghreifftiau’n cynnwys:• Ymddygiad Defnyddwyr• Ymchwil Marchnata• Cyfathrebu Marchnata• Gwasanaethau Ariannol• Arloesi Ariannol a Rheoli Risg• E-fasnach• Entrepreneuriaeth• Rheoli Amgylcheddol• Cyfraith Busnes• Cysylltiadau Cyflogaeth

• Rheoli Adnoddau Dynol• Moeseg Fusnes• Strategaeth Reoli• Rheoli Prosiectau• Systemau Gwybodaeth

Cyfrifeg a Chyllid: mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefel Un, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau cyllid a chyfrifeg megis Cyfrifeg Ariannol, Cyfrifeg Rheoli, Cyllid Corfforaethol, a Threthiant ar Lefelau Dau a Thri. Bydd myfyrwyr ar y cynllun hwn yn cael eu heithrio o rai arholiadau proffesiynol CIMA ac ACCA.

Rheoli Busnes (Marchnata): mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefelau Un a Dau, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau marchnata megis Ymddygiad Defnyddwyr, Cyfathrebu Marchnata Integredig, Ymchwil Marchnata, a Marchnata Strategol Byd-eang ar Lefel Tri. Bydd graddedigion y cynllun hwn yn gymwys i ymuno â Diploma Proffesiynol y Sefydliad Marchnata Siartredig.

Rhe

oli B

usne

s

Os ydych yn dewis astudio un o’n rhaglenni gradd Rhyngwladol (iaith), fel arfer bydd angen cymhwyster Safon Uwch arnoch mewn iaith briodol, er y gallai cymhwyster TGAU mewn Eidaleg neu Sbaeneg fod yn dderbyniol ar gyfer graddau gyda’r ieithoedd hyn.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 83% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

143142

Page 74: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Rheoli Busnes (Cyllid): mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefel Un, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau megis Cyfrifeg Ariannol, Arloesi Ariannol a Rheoli Risg, Gwasanaethau Ariannol, a Rheoli Ariannol Rhyngwladol ar Lefelau Dau a Thri.

Rheoli Busnes (Cyfrifeg): mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefel Un, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau megis Cyfrifeg Rheoli, Cyfrifeg Ariannol, Archwilio, a Gwasanaethau Ariannol, ar Lefelau Dau a Thri.

Rheoli Busnes (Systemau Gwybodaeth): mae’n dilyn strwythur tebyg i’r radd Rheoli Busnes ar Lefel Un, ond gyda phwyslais sylweddol ar bynciau megis Dadansoddi a Dylunio Systemau Gwybodaeth, E-fasnach, Systemau Bas-data, a Chynllunio a Rheoli Systemau Gwybodaeth ar Lefelau Dau a Thri.

Rheoli Busnes gyda’r Gyfraith: mae hyn yn dilyn strwythur y rhaglen Rheoli Busnes, gyda thraean o’ch credydau yn cael eu hastudio mewn modiwlau o Ysgol y Gyfraith. Mae rhaglen LLB y Gyfraith gyda Busnes ar gael hefyd – gweler tudalen 162 am fanylion.

Rheoli Busnes ac Economeg: mae’n dilyn y rhaglen Rheoli Busnes, gydag oddeutu hanner eich credydau yn dod o fodiwlau Economeg.

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac asesu parhaus o’ch gwaith mewn darlithoedd, gwaith ymarferol, aseiniadau grwp, seminarau a thiwtorialau.

Cyrchfannau diweddar ein graddedigion

• Ymgynghorydd Modelu Dadansoddol Blaengar, AC Neilsen

• Dadansoddwr Busnes, Bloomberg

• Graddedig Masnachol, Tata Steel

• Dadansoddwr Ariannol, Cable and Wireless Worldwide

• Graddedig Ariannol dan Hyfforddiant, Tate & Lyle

• Graddedig Ariannol, Ford Motor Company

• Archwilydd Ariannol, PriceWaterhouseCoopers

• Rheolwr Ariannol dan Hyfforddiant, L’Oreal

• Masnachwr Arian Tramor, HSBC

• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant, Enterprise Rent-a-Car

• Rheolwr Graddedig dan Hyfforddiant, Barclays

• Bancwr Buddsoddi, Julian Hodge

• Ymgynghorydd TG, Cap Gemini

• Ymgynghorydd Rheoli, Accenture

• Rheolwr dan Hyfforddiant, Marks and Spencer

• Rheolwr dan Hyfforddiant, Shell UK

• Ymgynghorydd Recriwtio, Microsoft

• Masnachwr Cyfranddaliadau, OSTC

• Cyfrifydd dan Hyfforddiant, Deloitte

• Archwilydd dan Hyfforddiant, PriceWaterhouseCoopers

“ Yn Abertawe, dwi wedi cyflawni mwy nag oeddwn i erioed wedi

meddwl y byddwn i’n gallu. Roedd strwythur hyblyg y cwrs yn caniatáu i

mi arbenigo mewn pynciau o ddiddordeb arbennig, ac mae’r wybodaeth

a’r sgiliau yr wyf wedi’u dysgu yn golygu y gallaf ddod o hyd i swydd

mewn unrhyw faes rheoli. Roedd y staff rhagorol a’r amgylchedd dysgu

gwych yn fy helpu i gyrraedd fy mhotensial llawn. Dwi wedi mwynhau

pob munud. ” Francesca Sibbald, BSc Rheoli Busnes

Graddedig dan Hyffordiant, TLC Marketing

Yr Ysgol Busnes ac Economeg

Rheoli Busnes

144 145

Page 75: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglL252 s Rhyfel a Chymdeithas

s cynllun 3 blynedd

Mae rhyfel wedi bod yn gatalydd treisgar ar gyfer newid drwy gydol hanes y ddynolryw, o’r gwrthdrawiadau yn yr henfyd i’r rheiny yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n peri dioddefaint enbyd a dirywiad, ac eto yn ysgogi ac yn ysbrydoli dewrder ac arwriaeth.

Er mwyn deall profiad pa mor gymhleth ac amlochrog yw rhyfel, rhaid ei ddadansoddi’n llawn mewn cyd-destunau gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol, technolegol, hanesyddol milwrol a chyd-destun y cyfryngau.

Mae Rhyfel a Chymdeithas yn Abertawe yn croesi’r ffiniau academaidd traddodiadol er mwyn archwilio rhyfel ar hyd yr oesoedd. Mae’n defnyddio cryfderau’r Brifysgol o ran Astudiaethau Americanaidd, Hanes yr Henfyd, y Clasuron, Eifftoleg, Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ogystal â Llenyddiaeth ac Astudiaethau’r Cyfryngau.

Bydd y radd hon yn:

• eich darparu â’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfa mewn meysydd mor amrywiol â rheoli, gweinyddu, addysgu, newyddiaduraeth a’r lluoedd arfog

• eich helpu i gael sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau a sgiliau dadansoddi

• darparu llwyfan ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig

Beth yw strwythur y radd?Bydd y radd hon yn rhoi cyfle dihafal i chi ddatblygu eich dealltwriaeth hanesyddol, wleidyddol a milwrol o ryfel, ac i archwilio’i gysylltiad gyda chymdeithas drwy ystyried sut mae’r profiad o ryfel wedi llunio cynnyrch diwylliannol.

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial a seminarau, gyda chefnogaeth deunyddiau llyfrgell amlgyfrwng da sy’n cynnwys amrywiaeth eang o ffilmiau a rhaglenni dogfen sy’n berthnasol i wahanol fodiwlau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Gallwch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau gan gynnwys:

Lefel Un• Theorïau Rhyfel• Portreadau o Ryfel• Rhyfel a Rhyfela yn y Byd Modern

Lefel Dau• Rhyfel Digidol• Rhyfel a Rhyfela yn yr Hen Fyd• Rhyfel Cartref America• Rhyfel Algeria• Rhyfel a Chymdeithas yn y Byd

Eingl-normanaidd• Hil-laddiad• Yr Ymerodraeth yn taro nôl

Lefel Tri• Rhyfel Cyffuriau UDA: Gwleidyddiaeth

y Gwaharddiad• Diogelwch Cyfoes• Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Gofod• Hynafiaeth Hwyr: Trawsnewidiad y

Byd Rhufeinig AD 250-600• O Ffasgaeth i’r Weriniaeth:

Yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd• Atgofion o Ryfel• America Chwyldroadol• Rhyfel Cartref Sbaen• Canlyniadau Rhyfel

Sut y caf fy asesu?Bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro drwy gyfuniad o waith cwrs wedi’i asesu ac arholiadau ysgrifenedig.

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Rhyfel a Chymdeithas

“ Mae Rhyfel a Chymdeithas yn gwrs heriol ond eto’n wobrwyol ar yr

un pryd. Rwyf wedi cynyddu fy ngwybodaeth mewn Hanes,

Gwleidyddiaeth, y Clasuron ac Astudiaethau Americanaidd. Mae fy

nghyfnod yn Abertawe wedi bod yn wych; mae’r Brifysgol yn groesawgar

ac mae’r staff bob amser wrth law i gynorthwyo. ” Rebecca Thomas, BA Rhyfel a Chymdeithas

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Rhyfe

l a Chym

de

ithas

“ Roeddwn i’n mwynhau yn arbennig yr amrywiaeth eang o

fodiwlau sydd ar gael ar gyfer y cwrs, yn rhychwantu popeth o hanes

rhyfela hynafol hyd at ryfela’r byd modern. Roedd y nifer bychan o

bobl ar y cwrs yn ein galluogi i gael perthynas lawer mwy personol â’n

cyd-fyfyrwyr, yn ogystal â chyda thiwtoriaid a chyfarwyddwr y cwrs.

Roedd y cwrs hefyd wedi rhoi cyfle i mi wneud rhaglen interniaeth am

un mis yn Oklahoma, gyda’m cyd-fyfyrwyr. ” Adam Barnes, BA Rhyfel a Chymdeithas, 2010

(Ar hyn o bryd yn dilyn Gradd Meistr Ymchwil mewn Hanes Milwrol ym Mhrifysgol Buckingham.)

Mae 93% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

147146

Page 76: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglR410 u SbaenegR4N1 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau Busnes)R4G4 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)R4M9 u Sbaeneg (gydag Astudiaethau Cyfreithiol)

BA Cyd-anrhydedd Sbaeneg aTR74 u Astudiaethau AmericanaiddVR14 u Hanes yr HenfydQR84 u Gwareiddiad ClasurolLR14 u EconomegQRJ4 u Astudiaethau Iaith SaesnegQRH4 u Astudiaethau Iaith Saesneg (gydag

Astudiaethau Busnes)QR34 u Llenyddiaeth SaesnegRR14 u Ffrangeg

RRC4 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau Busnes)RRD4 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR41 u Ffrangeg (gydag Astudiaethau Cyfreithiol)LR74 u DaearyddiaethRR24 u AlmaenegRRF4 u Almaeneg (gydag Astudiaethau Busnes)RRG4 u Almaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR42 u Almaeneg (gydag Astudiaethau

Cyfreithiol)RV41 u HanesRR34 u EidalegRRH4 u Eidaleg (gydag Astudiaethau Busnes)RRJ4 u Eidaleg (gydag Astudiaethau

Cyfrifiadurol)RR43 u Eidaleg (gydag Astudiaethau Cyfreithiol)QR64 u Lladin

PR34 u Astudiaethau’r CyfryngauRVK1 u Astudiaethau CanoloesolLR24 u GwleidyddiaethRX43 u TEFLQR54 u CymraegRQ45 u Cymraeg (gydag Astudiaethau Busnes)RQK5 u Cymraeg (gydag Astudiaethau Cyfrifiadurol)RQL5 u Cymraeg (gydag Astudiaethau Cyfreithiol)

BSc Cyd-anrhydedd Sbaeneg aGR14 u Mathemateg

LLB Cyd-anrhydeddMR14 u Sbaeneg a’r Gyfraith

u cynllun 4 blynedd

Siaradir Sbaeneg gan dros 350miliwn o siaradwyr brodorol ar draws y byd ac mae’n dod yn fwy pwysig wrth i economi’r gwledydd datblygedig yn America Ladin gryfhau a dod i amlygrwydd. Dyma iaith Dali a Picasso, Cortez a Cervantes, enillwyr gwobrau Nobel Gabriel García Márquez a Mario Vargas Llosa, ac Antonio Banderas a Penelope Cruz. Mae Sbaeneg yn iaith swyddogol mewn 21 o wledydd.

Bydd ein graddau’n eich galluogi i archwilio ystod eang o bynciau ieithyddol a diwylliannol.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich darparu â’r sgiliau ieithyddol angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn amrywiaeth o feysydd, megis cyfieithu, dehongli a dysgu

• eich paratoi ar gyfer swyddi gwerthu rhyngwladol, swyddi marchnata a swyddi rheoli o fewn sefydliadau rhyngwladol

• rhoi profiad gwerthfawr i chi o ddiwylliant arall a’r gallu i ddefnyddio eich menter eich hun

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu a sgiliau cyflwyno

Fel rhywun â gradd Iaith, bydd yr annibyniaeth, yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu y byddwch yn eu magu yn rhoi cryn fantais i chi yn y farchnad swyddi ryngwladol.

Beth yw strwythur y radd?Nodwedd arbennig o’r graddau hyn yw’r cyfle i astudio modiwlau ar amryw o agweddau cymdeithasol a diwylliannol o fewn y gwledydd lle siaredir Sbaeneg yn Ewrop ac America Ladin.

Addysgir dosbarthiadau iaith mewn grwpiau bychain, a chynigir modiwlau diwylliannol drwy gyfuniad o ddarlithoedd a dosbarthiadau rhyngweithiol, wedi’u cefnogi’n llawn gan ystod o offer dysgu ar-lein, deunydd DVD a’r Rhyngrwyd, a’n labordai iaith a chyfrifiaduron sydd wedi’u cyfarparu’n llawn.

Rhwng Lefelau Dau a Thri byddwch fel arfer yn treulio blwyddyn mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg, naill ai fel myfyriwr ar un o’n cytundebau cyfnewid sefydledig gyda phrifysgolion Sbaeneg, neu ynteu fel cynorthwyydd Iaith Saesneg mewn ysgol Sbaeneg neu America Ladin ar raglen cynorthwyydd y Cyngor Prydeinig. Neu, efallai y byddwch yn awyddus i gwblhau lleoliad gwaith mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Gallwch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau gan gynnwys:

Lefel Un• Sbaeneg Iaith Uwch neu Sbaeneg i

Ddechreuwyr• Cyflwyniad i Ddiwylliant Sbaenaidd• Ffuglen Ewropeaidd Fodern: Testunau

a Chyd-destunau• Gweddnewidiadau ac Addasiadau:

Ffilm Gyfoes Ewrop

Lefel Dau• Sbaeneg Iaith Gyffredinol (Uwch/

Canolradd)• Gweithdy Cyfieithu• Esblygiad yr Iaith Sbaeneg• Barcelona / Buenos Aires• Ffasgaeth Ewropeaidd

Lefel Tri• Sbaeneg Iaith Gyffredinol• Cariad, Anrhydedd a Hunaniaeth

mewn Theatr a Ffilm Sbaenaidd• Hunaniaethau Sbaenaidd• Traethawd Hir (Anrhydedd Sengl ac

ymgeiswyr LLB)

Yn ogystal, yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a gofynion cyflogwyr yng Nghymru, cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Sbaeneg – Astudiaethau SbaenaiddS

bae

neg

– A

studiae

thau Sb

aenaid

d

“ Pan ddes i Abertawe, roeddwn i’n siarad Sbaeneg yn barod, a

chymhelliad cryf oedd y cyfle i astudio iaith arall ar lefel dechreuwr.

Yn ystod fy ngradd, roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus i ddod o hyd

i leoliad yn Chile, ac i fyw gyda thri theulu gwahanol yn Chile.

Gwnaeth y flwyddyn honno fy ysbrydoli cymaint, a gwneud i mi

feddwl am bethau na fyddai wedi croesi fy meddwl o’r blaen. Des

i mewn i’r Brifysgol trwy un drws, ond mae nifer y drysau y mae

Prifysgol Abertawe wedi’u hagor i mi – ac mae’n dal i’w hagor

– yn anhygoel. ” Vicki Jade Stevenson, BA Sbaeneg a TEFL

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os oes gennych gymhwyster Safon Uwch mewn Sbaeneg, neu radd A neu B ar lefel Uwch Gyfrannol gallwch wneud cais i astudio ar lefel uwch. Os nad oes gennych y cymwysterau yma, ond bod gennych gymhwyster Safon Uwch neu Uwch Gyfrannol mewn unrhyw iaith

yn y pwnc gyda’r ddarpariaeth honno yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf. Bydd cyfle hefyd i chi gyflawni traethawd hir trwy’r Gymraeg a derbyn cefnogaeth tiwtor personol cyfrwng Cymraeg.

Sut y caf fy asesu?Bydd eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn cael eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys traethodau wedi’u hasesu, traethodau hir, ac arholiadau llafar ac ysgrifenedig.

fodern arall, efallai bydd modd i chi astudio Sbaeneg ar lefel dechreuwr.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 86% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

149148

Page 77: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

“ Astudiais i Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe rhwng 2001 a 2004. Yn sicr, rhoddodd y radd israddedig sylfaen dda i mi o ran damcaniaethau seicolegol, yn delio ag ystod eang o bynciau yn ystod y tair blynedd. Roedd astudio Seicoleg yn Abertawe yn gweddu’n berffaith i’m hanghenion; dysgu o safon dda gan staff academaidd gwybodus, profiadol, a hawdd mynd atynt yn awyrgylch cyfeillgar hamddenol Prifysgol Abertawe. Wedyn, cwblheais MSc Seicoleg Glinigol ac Annormal yn Abertawe yn 2005. Bellach, dwi ym mlwyddyn tri fy hyfforddiant doethur Seicoleg Glinigol ym Mhrifysgol Rhydychen. Byddaf bob amser yn edrych yn ôl at f’amser yn Abertawe gyda hoffter enfawr, wedi cael ychydig o flynyddoedd gwych yno, a chwrdd â llawer o gyfeillion oes. ”

Chris James, BSc Seicoleg 2004

BSc Anrhydedd SenglC800 s Seicoleg

s cynllun 3 blynedd

Datgloi cyfrinachau’r meddwl dynol yw un o heriau mwyaf gwyddoniaeth fodern. Mae Seicoleg, yr astudiaeth o ymddygiad dynol, yn ein helpu i wneud synnwyr o sut yr ydym yn deall y byd, beth sy’n gwneud i ni chwerthin neu grio, pam yr ydym ni’n ymwybodol, a pham yr ydym yn gwneud y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud.

Dilysir y radd Seicoleg gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, ac mae’n eich gwneud yn gymwys am Aelodaeth Raddedig y Gymdeithas, ac am Sail Raddedig ar gyfer Aelodaeth Siartredig. Dyna’r cam cyntaf tuag at ddod yn Seicolegydd Siartredig.*

Bydd y radd hon yn:• eich darparu â’r sgiliau perthnasol ar

gyfer gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o rolau, gan gynnwys addysgu, nyrsio, rheoli personél ac ymgynghoriaeth

• eich paratoi ar gyfer astudiaeth neu ymchwil ôl-raddedig

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Os ydych yn dymuno ymarfer fel seicolegydd mewn meysydd megis Seicoleg Glinigol, Addysgol, Fforensig neu Alwedigaethol, bydd rhaid i chi ymgymryd ag astudiaeth bellach ar lefel ôl-raddedig neu ddoethurol.

Beth yw strwythur y radd?Cewch eich addysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, gwaith mewn grwpiau bychain (tiwtorialau), prosiectau, aseiniadau a gwaith ymarferol yn y labordy. Rydym yn gosod pwyslais arbennig ar gyfranogiad a rhyngweithio myfyrwyr, sy’n eich annog i wneud cysylltiadau rhwng y syniadau allweddol a drafodir mewn modiwlau gwahanol.

Bydd dosbarthiadau ymarferol yn ystod Lefelau Un a Dau yn eich dysgu i ddylunio, cynllunio a chynnal arbrofion, ysgrifennu adroddiadau ymarferol, a chynnal dadansoddiadau ystadegol. Mae’r dosbarthiadau hyn yn ffordd ddelfrydol o’ch paratoi ar gyfer y prosiect ar Lefel Tri.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Lefel UnMae modiwlau craidd yn cynnwys:• Seicoleg Wybyddol• Seicoleg Gymdeithasol a Datblygiadol• Seicoleg Fiolegol• Seicoleg Unigol ac Annormal• Ystadegau a Seicoleg Arbrofol• Sgiliau Astudio ar gyfer SeicolegMae modiwlau Lefel Un yn orfodol, ac yn rhoi cyflwyniad cyffredinol i’r pwnc. Mae’r modiwlau’n cynnig fframwaith sylfaenol ar gyfer astudiaeth ddamcaniaethol ac arbrofol o Seicoleg a’r modd y mae’n cael ei defnyddio.

Lefel Dau• Cof, Sylw a Dysgu• Canfyddiad, Meddwl a Rhesymu• Seicoleg Gymdeithasol• Datblygiad Iaith a Hyd Oes• Yr Ymennydd ac Ymddygiad• Gwahaniaethau Unigol• Dulliau Arbrofol ac Ystadegau

Mae modiwlau Lefel Un yn orfodol, ac yn dilyn y pynciau a astudiwyd yn Lefel Un yn fwy dwys, yn ogystal â phynciau eraill.

Lefel TriGall myfyrwyr ddewis pum modiwl o restr helaeth o fodiwlau dewisol. Gall y modiwlau hyn amrywio o flwyddyn i

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

SeicolegS

eico

leg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/healthandhumansciences

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295278

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: AAB

Bagloriaeth Ryngwladol: 34

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Nid yw’n angenrheidiol eich bod wedi astudio Seicoleg ar lefel Safon Uwch.

flwyddyn, ond mae’r modiwlau ar hyn o bryd yn cynnwys:• Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol• Cyffuriau ac Ymddygiad• Ymddygiad Bwyta• Seicoleg Esblygiadol• Seicoleg Iechyd• Pynciau Llosg mewn Niwrowyddoniaeth

Wybyddol• Niwroseicoleg• Agweddau Ymarferol y Cof• Seicopatholeg• Cwsg a Breuddwyd• Seicoleg Gwaith• Traethawd Hir

Byddwch hefyd yn gwneud prosiect ymchwil gorfodol dan oruchwyliaeth.

*Ar yr amod eich bod yn derbyn Gradd Anrhydedd Ail Ddosbarth, Adran Dau.

BSc (Anrh) Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor Bydd gan fyfyrwyr sy’n cychwyn y Rhaglen BSc Seicoleg tair blwyddyn gyfle, yn ail flwyddyn eu hastudiaethau, i wneud cais i drosglwyddo i’r Rhaglen pedair blynedd Seicoleg gyda Blwyddyn Dramor.

Pa gyfleusterau y byddaf yn eu defnyddio?Byddwch yn elwa ar dechnoleg o’r radd flaenaf, gydag 20 ystafell ymchwil gyffredinol a nifer o labordai arbenigol sy’n cynnwys: • labordy mesur seicoffisiolegol EMG/

ECG• labordy arsylwi cymdeithasol gydag

offer aml-gamera ac aml-fonitor• labordy cwsg gyda dwy ystafell wely• labordy gwyddoniaeth wybyddol• labordy canfod• labordy EEG• labordy olrhain symudiadau’r llygaid

Hefyd, mae gan y Coleg gyfleusterau helaeth ar gyfer casglu data arbrofol ar gyfrifiaduron.

Sut y caf fy asesu?Ar Lefel Un, byddwch yn cael eich asesu drwy arholiad amlddewis ac atebion byr, arholiad ystadegau, a thraethodau cwrs. Gofynnir i chi hefyd ysgrifennu cyfres o adroddiadau ynglyn â’r gwaith arbrofol yr ydych yn ei wneud.

Ar Lefelau Dau a Thri, byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig a gwaith cwrs. Eto, bydd adroddiadau o waith ymchwil yn rhan annatod o’ch asesiad.

Ar gyfer ymgeiswyr sy’n cynnig Seicoleg, Bioleg, Cemeg, Mathemateg, neu Ffiseg ar Lefel Uwch, y cynnig arferol fydd ABB.

Hefyd rhaid bod gennych TGAU Mathemateg gradd C neu uwch.

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Mae 94% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

151150

Page 78: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglC300 s Swoleg

Ar gyfer graddau cysylltiedig, gweler Bioleg a’r Gwyddorau Biolegol (tudalen 46), a Bioleg y Môr (tudalen 48).

s cynllun 3 blynedd

Mae Swoleg yn gangen o fioleg sy’n canolbwyntio’n benodol ar anatomi, esblygiad, ecoleg a ffisioleg anifeiliaid. Mae’n ein helpu hefyd i ddeall ymddygiad anifeiliaid ac i nodi dulliau effeithiol o wella lles anifeiliaid. Mae gan swolegwyr rôl bwysig i’w chwarae mewn rheolaeth amgylcheddol a chadwraeth ond maent hefyd yn debygol o ddylanwadu ar ddatblygiadau mewn sectorau eraill megis amaethyddiaeth, bioleg y môr, meddygaeth, iechyd cyhoeddus, a milfeddygaeth.

Mae Swoleg yn Abertawe yn cynnig ystod eang o bynciau i’w hastudio yn y labordy ac yn y maes.

Bydd y radd hon yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn amrywiaeth eang o swyddi ecolegol ac amgylcheddol (e.e. amaethyddiaeth, lles anifeiliaid, cadwraeth, y cyfryngau, llygredd, iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid)

• eich darparu â gwybodaeth a phrofiad addas ar gyfer gyrfa mewn dysgu bioleg neu wyddoniaeth yn ogystal â darparu cyfle i geisio am swyddi yn y diwydiannau milfeddygol a biotechnoleg

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Mae Swoleg yn Abertawe yn rhoi cyfle heb ei ail i chi astudio ymddygiad anifeiliaid, ecoleg a chadwraeth mewn amrywiaeth o amgylcheddau naturiol ar draws Bae Abertawe a Phenrhyn Gwyr hyfryd. Byddwch hefyd yn ymweld ag amrywiaeth o leoliadau maes, megis Canolfan Gwlypdir Cenedlaethol Cymru (CGCC), Parc Margam a Sw Bryste a byddwch yn cwblhau cwrs maes mewn ecoleg anifeiliaid yn eich blwyddyn olaf.

Byddwch yn cael eich dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial, gwaith maes, a dosbarthiadau ymarferol. Mae ein labordai yn llawn offer ar gyfer astudiaethau ymddygiad, cadwraeth anifeiliaid, ecoleg, imiwnoleg, entomoleg a dulliau molecwlar a geneteg Swoleg.

Mae ein Labordy Addysgu newydd yn ddiweddariad sylweddol i addysgu lefel uwch o sgiliau a thechnegau labordy trosglwyddadwy, ac mae’n gallu dal 150 o fyfyrwyr; mae’n cynnwys ystod lawn o gyfarpar clywedol sy’n gallu darlledu i

sawl sgrin plasma o ffynonellau amrywiol gan gynnwys microsgopau, cyfrifiaduron, chwaraewyr fideo/DVD, ac unedau delweddu/camera.

Yn ystod Lefel Tri, byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil, a all fod yn seiliedig ar waith maes, gwaith labordy neu waith sy’n bur ddadansoddol. Gan ddibynnu ar natur eich prosiect, byddwch yn gweithio’n rhan o dîm neu’n ymchwilydd annibynnol.

Wrth wneud hyn, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau a gwaith tîm a chewch eich hyfforddi i lunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Byddwch yn elwa o gyfleusterau addysgu gwych, gan gynnwys:• labordai addysgu, ymchwil a TG• ystod helaeth o offer dadansoddi

modern• cyfleusterau meithrin arbenigol ar gyfer

amrywiaeth o organebau• ystafelloedd tymheredd cyson ac

ystafelloedd tyfu eraill, acwaria, a thai gwydr

• yr Amgueddfa Swolegol• yr RV Noctiluca sy’n llong ymchwil

arfordirol 12.5m a ddyluniwyd yn arbennig

Y Coleg Gwyddoniaeth

Swoleg

“ Mae cael eich dysgu gan amrywiaeth o academyddion gwybodus

a brwdfrydig ym Mhrifysgol Abertawe yn fraint. Mae eu meysydd o

arbenigedd unigol yn amrywiol dros ben ac yn darparu sbectrwm eang

o opsiynau o ran yr hyn y gallwch ei astudio ar gyfer eich gradd.

Roedd gwrando ar ddarlithoedd gan aelodau staff o safon byd wedi

codi awydd arnaf i ehangu fy niddordebau ac i dreulio amser yn

darllen am bynciau nad oeddent o ddiddordeb i mi o’r blaen. ”Lily Green, BSc Swoleg

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB neu gyfwerth, gan gynnwys Bioleg

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 gan gynnwys 5 mewn Bioleg ar Lefel Uwch

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.abertawe.ac.uk/biosci

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295720

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Bydd ein cysylltiadau cryf gyda sefydliadau rhyngwladol a chenedlaethol megis Cymdeithas Mamaliaid Prydain, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, The Vincent Wildlife Trust ac Ysbyty Adar y Gwyr yn ychwanegu at werth eich astudiaethau.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Rydym yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau. Mae’r modiwlau presennol yn cynnwys:

Lefel Un• Sgiliau Ysgrifennu Gwyddoniaeth a

Gyrfaol • Sgiliau Gwyddonol i Wyddonwyr

Biolegol • Cemeg Bywyd• Amrywiaeth, Ffurf a Swyddogaeth

Anifeiliaid• Planhigion ac Algâu – Amrywiaeth,

Ffurf a Swyddogaeth • Bioleg Gellog a Microbaidd • Cyflwyniad i Ecoleg ac Ymddygiad • Geneteg a Phrosesau Esblygu

Lefel Dau• Sut i Ymgymryd ag Ymchwil yn y

Gwyddorau Biolegol• Ecoleg Folecwlar• Parasitoleg• Adolygiad o lenyddiaeth swoleg• Bioleg Celloedd ac Imiwnobioleg

• Infertebrata Daearol• Fertebrata• Ymddygiad Anifeiliaid mewn

Cadwraeth a Lles• Ecoleg Forol Arfordirol• Cefnforeg• Plancton Morol ac Infertebrata

Cefnforol • Geneteg Ddynol a Meddygol • Biocemeg a Ffisioleg Glinigol

Lefel Tri• Prosiect Ymchwil Swoleg• Cwrs Maes Ecoleg Anifeiliaid NEU

Gwrs Maes Ecoleg Ddaearol• Adolygiad Llenyddiaeth ar Swoleg• Ymchwil gyfredol mewn swoleg – mae

pob aelod o staff yn cyflwyno modiwl ar ei ddiddordeb ymchwil penodol (ar amrywiaeth o bynciau) lle byddwch yn dewis pum modiwl i‘w hasesu.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs a phrosiect ymchwil ymarferol.

Sw

ole

g

Mae 89% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

153152

Page 79: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Troseddeg yw’r astudiaeth o pam y mae pobl yn cyflawni gweithredoedd anghyfreithlon; sut – a pham – yr ydym yn cymeriadu trosedd y ffordd yr ydym, a sut y mae’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio. Mae’n cwmpasu ystod o feysydd academaidd, gan gynnwys hanes, polisi cymdeithasol, gwleidyddiaeth, a chymdeithaseg, i gynnig golwg ar droseddu o safbwynt cymdeithasol ac unigol, ac mae’n edrych yn feirniadol ar sut y mae’r system ddedfrydu yn gweithio.

Mae Troseddeg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn meysydd megis cyfiawnder ieuenctid, troseddu, cyffuriau ac alcohol, carchardai, trosedd corfforaethol a throsedd rhywiol.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich paratoi ar gyfer gyrfa wobrwyol yn y system cyfiawnder troseddol, megis gwasanaethau’r heddlu, y carchar a’r gwasanaethau prawf

• eich darparu â’r sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn meysydd megis cyfiawnder ieuenctid, cymorth i ddioddefwyr, diogelwch cymdeithasol ac atal troseddu

• eich darparu â sylfaen ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil academaidd

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Bydd graddau Troseddeg yn rhoi dealltwriaeth gritigol i chi o’r hyn sy’n achosi troseddau ac ymateb cymdeithas iddynt, a chewch eich annog i gymhwyso’ch gwybodaeth o drosedd a chyfiawnder troseddol yng nghyd-destun ehangach problemau cymdeithasol eraill ac ymateb y llywodraeth iddynt. Cewch eich addysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd, seminarau a gwaith grwp.

Os ydych yn fyfyriwr Cyd-anrhydedd, byddwch fel arfer yn astudio’r ddau fodiwl Troseddeg craidd ar Lefel Un (ond dim ond y modiwl Troseddeg, Trosedd a Chymdeithas os ydych yn dewis Cyd-anrhydedd gyda’r Gyfraith). Byddwch hefyd yn astudio unrhyw fodiwlau sydd eu hangen ar gyfer eich pwnc Cyd-anrhydedd. Ar Lefel Dau a Thri, rhannir eich astudiaethau yn gyfartal rhwng y ddau bwnc.

Gellir hefyd astudio’r radd Anrhydedd Sengl a’r radd gyd-anrhydedd gyda Pholisi Cymdeithasol yn rhan-amser.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Mae’r modiwlau sydd ar gael yn cynnwys:

Lefel Un• Troseddeg, Trosedd a Chymdeithas

(modiwl craidd)• Cyflwyniad i’r System Cyfiawnder

Troseddol (modiwl craidd)• Sgiliau Astudio mewn Troseddeg a

Pholisi Cymdeithasol• Prosiect Troseddeg• Y Dychymyg Troseddegol• Dioddefwyr a Dioddefoleg• Cyflwyniad i’r Gyfraith

Lefel Dau• Achosion Troseddu• Penydeg a Chosb• Ymateb i Droseddau: Dioddefwyr,

Plismona ac Atal Troseddu• Troseddau Rhywiol• Trosedd, Cyffuriau ac Alcohol• Carchardai: Y Gorffennol, y Presennol

a’r Dyfodol• Dulliau Ymchwil mewn Troseddeg• Gyrfaoedd ar gyfer Troseddolegwyr• Camwahaniaethu, Gormes, Trosedd a’r

Cyfryngau

BSc Anrhydedd SenglM2L4 s Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

BSc Cyd-anrhydedd Troseddeg aMLF4 s Polisi Cymdeithasol

LLB Cyd-anhrydedd Troseddeg aMM19 s Y Gyfraith

s cynllun 3 blynedd

Ysgol y Gyfraith

Troseddeg

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/law

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 602441

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Mae cymwysterau Safon Uwch mewn Saesneg, Hanes, Daearyddiaeth, Cymdeithaseg, y Gyfraith, neu Seicoleg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“ Mae Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn gwrs hynod o

ddiddorol y dylech ond ei gymryd os ydych o ddifrif am astudio pob

agwedd o droseddu. Mwynheais bob modiwl a byddwn yn argymell

eraill i brofi’r cwrs. Gallwch ddysgu am bethau nad ydych yn clywed

amdanynt o ddydd i ddydd, a chael dealltwriaeth gyflawn o sawl

agwedd o droseddu. ” Amy Hopkin BA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Trose

dd

eg

Lefel Tri• Troseddeg Gritigol• Troseddwyr Ifanc a Chyfiawnder

Ieuenctid• Troseddau Corfforaethol a Choler

Gwyn• Troseddau Rhywiol yn erbyn Plant• Y Rhywiau, Trosedd a Chyfiawnder

Troseddol• Deall Plismona• Cyflwyniad Critigol i Astudiaethau

Terfysgaeth• Troseddu Rhyw• Dulliau Ymchwil Cymhwysol mewn

Troseddeg• Traethawd Hir (myfyrwyr Anrhydedd

Sengl yn unig)

Sut y caf fy asesu?Asesir y modiwlau Troseddeg i gyd bron drwy gyfrwng traethodau ac aseiniadau ysgrifenedig. Os ydych yn fyfyriwr Anrhydedd Sengl, byddwch yn cwblhau traethawd hir 10,000 o eiriau ar bwnc o’ch dewis yn ystod Lefel Tri.

Mae 96% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

155154

Page 80: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau

BA Anrhydedd SenglV116 s Hanes yr Henfyd a Hanes

CanoloesolV112 s Hanes yr HenfydQ820 s Gwareiddiad ClasurolQ800 s ClasuronV410 s Eifftoleg

BA Cyd-anrhydedd Hanes yr Henfyd aQVJ1 s Astudiaethau Iaith SaesnegVQ13 s Llenyddiaeth SaesnegVR11 u FfrangegVR12 u AlmaenegVQ17 s GroegV110 s HanesVR13 u Eidaleg VQ16 s LladinV115 s Astudiaethau Canoloesol

VL12 s GwleidyddiaethVR14 u SbaenegVQ15 Q Cymraeg

BA Cyd-anrhydeddGwareiddiad Clasurol aQQ38 s Astudiaethau Iaith SaesnegQQ83 s Llenyddiaeth SaesnegQR81 u Ffrangeg QR82 u AlmaenegQQ78 s GroegQV81 s HanesQR83 u EidalegQQ86 s LladinQVV1 s Astudiaethau CanoloesolQR84 u SbaenegQQ85 Q Cymraeg

BA Cyd-anrhydedd Eifftoleg aVV41 s Hanes yr HenfydVQ48 s Gwareiddiad Clasurol

BA Cyd-anrhydedd Groeg aVQ17 s Hanes yr HenfydQQ78 s Gwareiddiad ClasurolQQ73 s Astudiaethau Iaith SaesnegQQ37 s Llenyddiaeth SaesnegQR71 u Ffrangeg QR72 u AlmaenegQV71 s HanesQVR1 s Astudiaethau CanoloesolQQ57 Q Cymraeg

Y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg

Rhyfela, Gwleidyddiaeth, y Rhywiau. Dyma oedd materion allweddol yr henfyd, yn union fel y maent heddiw. Goresgyniadau Rameses II, Alexander, a’r Cesariaid; gwrthryfel Buddug a barddoniaeth Sappho; ac ysgrifennu Homer, Virgil, a’r dramodwyr a’r athronyddion Clasurol – mae’r rhain i gyd wedi ein swyno ers miloedd o flynyddoedd, ac yn parhau i wneud.

Mae’r Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys hanes a llenyddiaeth, archaeoleg a chelf, a diwylliant ac athroniaeth i daflu goleuni ar y gwareiddiadau hynafol sydd wedi llunio ein byd modern.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich arfogi â’r sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfaoedd mewn ystod eang o feysydd amrywiol, gan gynnwys rheoli, gweinyddiaeth, newyddiaduraeth a’r gwasanaeth sifil neu yrfaoedd mwy arbenigol mewn meysydd megis addysgu, rheoli treftadaeth a gwaith amgueddfa

• eich helpu i ennill sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu prisio, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn tîm, sgiliau cyflwyno, datrys problemau a sgiliau dadansoddol

• eich darparu â llwyfan ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig

Beth yw strwythur y radd?Fel myfyriwr y Clasuron, Hanes yr Henfyd neu Eifftoleg, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy’n ymdrin â phob agwedd ar yr henfyd. Yn ogystal, bydd myfyrwyr Eifftoleg yn manteisio’n sylweddol o ddefnyddio Canolfan Eifftaidd y Brifysgol, amgueddfa unigryw wedi’i lleoli ar y campws gyda thua 3000 o wrthrychau archeolegol o Gasgliad Hynafiaethau Eifftaidd Wellcome. Mae’r Ganolfan Eifftaidd yn adnodd amhrisiadwy, yn enwedig yn ystod Lefel Tri, os ydych yn penderfynu cyflawni prosiect amgueddfa ar bwnc o’ch dewis.

Gallwch astudio Groeg, Lladin neu iaith yr Aifft fel rhan o’n rhaglenni gradd i gyd, gyda chyrsiau i ddechreuwyr ar gael am bob un ohonynt. Os oes profiad blaenorol gennych o Roeg neu Ladin, mae’n bosib y bydd modd i chi astudio’r rhain ar lefel uwch.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau gyda phwyslais ar ddysgu rhyngweithiol a chyfrannu yn y dosbarth.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Mae Hanes yr Henfyd yn canolbwyntio ar hanes gwleidyddol a chymdeithasol y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig. Mae Gwareiddiad Clasurol yn ymdrin â llenyddiaeth a diwylliant y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig. Mae’r Clasuron yn astudio ieithoedd a llenyddiaeth glasurol Groeg a Lladin. Mae Eifftoleg yn cynnwys iaith, hanes, llenyddiaeth, diwylliant ac archaeoleg yr Hen Aifft. Mae astudiaethau Groegaidd yn cynnwys iaith Roeg glasurol yn ogystal ag agweddau o hanes a gwareiddiad Groegaidd, ac mae Lladin yn cynnig astudiaeth o Ladin glasurol yn ogystal ag agweddau o hanes a gwareiddiad Rhufeinig.

Mae myfyrwyr Hanes yr Henfyd a Gwareiddiad Clasurol, wrth arbenigo mewn naill ai hanes neu lenyddiaeth a diwylliant yr hen fyd, yn dewis o blith detholiad cyffredinol o fodiwlau sy’n ymdrin â phob agwedd ar hynafiaethau. Ychydig iawn o’r modiwlau sy’n orfodol, sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddilyn eu diddordebau eu hunain o fewn paramedrau eu cynllun gradd dewisol.

Y C

lasuron, H

anes yr H

enfyd

ac Eifftole

g

BA Cyd-anrhydedd Lladin aVQ16 s Hanes yr HenfydQQ86 s Gwareiddiad ClasurolQQ63 s Astudiaethau Iaith SaesnegQQ36 s Llenyddiaeth SaesnegQR61 u Ffrangeg QR62 u AlmaenegQV61 s HanesQR63 u EidalegQVP1 s Astudiaethau CanoloesolQR64 u SbaenegQQ56 Q Cymraeg

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blyneddQ cynllun 3/4 blynedd

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB – BBB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33 – 32

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Os ydych am astudio am radd yn y Clasuron, mae’n rhaid eich bod wedi astudio Groeg neu Ladin i lefel Safon Uwch. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/artsandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 606980/606981

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored.

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Lefel Un• Dehongli’r Henfyd• Athens Clasurol• Rhufain Awgwstaidd• Cyflwyniad i Wareiddiad yr Hen Aifft• Cyflwyniad i Hanes yr Hen Aifft • Cyflwyniad i Athroniaeth• Cychwyn ar Ladin• Cychwyn ar Roeg• Iaith yr Aifft

Lefelau Dau a Thri• Hanes yr Henfyd a Gwareiddiad

Clasurol• Ysgrifennu Hanes yr Henfyd (gorfodol

ar gyfer Anrhydedd Sengl, argymhellir ar gyfer Cyd-anrhydedd Hanes yr Henfyd)

• Darllen Gwareiddiad Clasurol (gorfodol ar gyfer Anrhydedd Sengl, a Chyd-anrhydedd Gwareiddiad Clasurol)

• Rhyfel a Rhyfela yn yr Henfyd • Diwedd y Weriniaeth Rufeinig,133-44

BC• Hanes ac Archeoleg Prydain Rhufeinig• Yr Ymerodraeth Rufeinig, AD 14-238• Hynafiaeth Hwyr: Trawsnewidiad y Byd

Rhufeinig, AD 250-600• Taleithiau Dinasoedd Groeg• Gwareiddiad Helenistaidd• Twf Gwyddoniaeth Fodern: o Athen

i Los Alamos

• Hanes Technoleg a Pheirianneg yr Henfyd

• Haneswyr Groegaidd: Hanes fel Llenyddiaeth

• Alexandria: Metropolis Amlddiwylliannol yr Henfyd

• Paganiaid, Iddewon, a Christnogion: Crefyddau’r Ymerodraeth Rufeinig

• Chwaraeon, Gemau ac Adloniant yn y byd Groegaidd a Rhufeinig

• Homer ac Arwriaeth: Iliad Homer• Trasiedi Groegaidd: Penderfyniadau a

Chyfrifoldeb• Gweriniaeth Plato• Rhamant Roegaidd: Môr, Haul a Rhyw• Y Nofel Ddigri Rufeinig • Y Clasuron yn y Sinema• Modiwl Taith Astudio: Y Peloponesos• Traethawd hir

Y ClasuronMae gradd y Clasuron yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar astudio ieithoedd Groeg a Lladin, a llenyddiaeth y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig yn eu hieithoedd gwreiddiol. Byddwch hefyd yn dewis modiwlau dewisol o’r rhai a gynigir ar gyfer y graddau Gwareiddiad Clasurol a Hanes yr Henfyd.

Eifftoleg• Iaith Eifftaidd (gorfodol ar gyfer

Anrhydedd Sengl, argymhellir ar gyfer Cyd-anrhydedd)

• Cyflwyniad i Archeoleg yr Aifft• Credoau ac Arferion Crefyddol

yr Hen Aifft• Problemau ac Arferion mewn Diwylliant

Materol Eifftaidd• Trefi a Chefn Gwlad Eifftaidd• Cyflwyniad i Hen Eifftaidd• Oes Amarna • Hud a Defod yn yr Hen Aifft• Alexandria: Metropolis

Amlddiwylliannol yr Henfyd• Traethawd Hir neu brosiect amgueddfa

Sylwer y gall modiwlau fod yn agored i’w newid.

Sut y caf fy asesu?Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau gwaith cwrs a thraethawd hir neu brosiect amgueddfa.

Mae 90% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio (HESA data 2009-10)

157156

Page 81: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd Sengll Y Dyniaethaun Y Dyniaethaun Llenyddiaeth Saesneg

l cynllun 5 blyneddn cynllun 5 blynedd

Mae nifer o bobl yn astudio’n rhan-amser gan eu bod am rannu eu gwaith a’u hymrwymiadau teuluol gyda’r cyfle i ennill cymhwyster sy’n eu galluogi i newid cyfeiriad eu gyrfaoedd. Mae gradd ran-amser i eraill yn caniatáu iddynt ddechrau gweithio i gefnogi eu teuluoedd ac i ariannu’u hastudiaethau.

Beth bynnag yw eich rheswm dros astudio yn rhan-amser ym Mhrifysgol Abertawe, gallwch fod yn sicr y byddwch yn graddio ag ymdeimlad o lwyddiant a hunan gyflawniad.

Bydd y graddau hyn yn:

• eich galluogi i raddio gyda gradd Anrhydedd o fewn chwe blynedd

• eich helpu i ennill profiad ymarferol helaeth a’r gallu i weithio ar eich liwt eich hun

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gweithio fel rhan o dîm, sgiliau cyfathrebu, cyflwyno, datrys problemau, a dadansoddi

Beth yw strwythur y radd?Mae’r cwrs yn cael ei ddysgu gan yr Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) ac adrannau eraill o fewn y Brifysgol, gyda modiwlau yn cael eu dysgu ar y campws ac mewn lleoliadau yn y gymuned.

Cewch eich addysgu drwy gyfuniad o ddulliau, gan gynnwys darlithoedd a seminarau lle anogir gwaith grwp, ac efallai y bydd gofyn i chi wneud cyflwyniadau fel unigolion neu fel grwp.

Fel arfer, byddwch yn astudio modiwlau cyfwerth â 60 credyd y flwyddyn hyd nes i chi gyrraedd 360 credyd (120 yr un ar Lefel Un, Dau a Thri). Mewn rhai achosion, bydd modd i chi gael gradd o fewn pum mlynedd drwy gwblhau dim ond 60 credyd ar Lefel Tri. Cysylltwch â ni os ydych am archwilio’r opsiwn yma ymhellach.

Mae ein lleoliadau cymunedol yn cynnwys:• Banwen• Brynaman• Clydach• Abergwaun• Glyn-nedd• Hwlffordd• Llandybie• Llanelli• Arberth• Castell-nedd• Doc Penfro• Port Talbot• Canolfan Phoenix (Abertawe)

Pa bynciau y gallaf eu hastudio?Mae amrediad eang o bynciau ar gael, gan gynnwys:

Lefel Un• Hanes yr Henfyd• Cynghori• Saesneg• Astudiaethau Amgylcheddol• Hanes• Daearyddiaeth Ddynol• Ieithyddiaeth• Athroniaeth• Gwleidyddiaeth• Seicoleg• Gwyddoniaeth a Chymdeithas• Polisi Cymdeithasol• Cymdeithaseg• Ystadegau

Lefelau Dau a Thri• Hanes yr Henfyd• Cynghori• Saesneg• Hanes• Athroniaeth• Gwleidyddiaeth• Seicoleg• Polisi Cymdeithasol• Cymdeithaseg

Y Dyniaethau (Rhan-Amser)Adran Addysg Barhaus Oedolion

Y D

yniaethau (R

han-A

mse

r)

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/dace

Cysylltwch â’r Adran Addysg Barhaus Oedolion: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295499

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gweler ein manylion cyswllt uchod.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf? Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Mae’n bosib nad oes angen cymwysterau ffurfiol arnoch i astudio gradd BA yn y Dyniaethau (rhan-amser) gan ein bod yn ystyried yr holl geisiadau yn ôl eu haeddiant. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad swyddogol.

Nid oes rhaid i chi ymgeisio trwy UCAS. Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i ofyn am ffurflen gais.

Sut y caf fy asesu? Fel arfer, byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau a gwaith cwrs, yn cynnwys traethodau, prosiectau a chyflwyniadau. Ar Lefel Un, mae’r rhan fwyaf o’r cyrsiau yn cael eu hasesu drwy gyfrwng gwaith cwrs.

A yw’r cymwysterau sydd gennyf eisoes yn cael eu cydnabod? Efallai y byddwch yn cael eich eithrio o ran o’r rhaglen radd os oes gennych gymwysterau yn barod yr ydym yn eu hystyried yn addas. Nodwch fod yn rhaid cyflwyno cais am eithrio credydau cyn Awst 31, 2013 a bydd hwn yn cael ei ystyried os ydych wedi derbyn eich cymwysterau yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf.

“ Pan fyddaf yn sefyll o flaen fy nosbarth hanes TGAU, dwi’n

gwneud gyda theimlad o falchder a chyflawniad mawr. Pan

ddechreuais fy nghwrs gradd rhan amser, ni allwn ond breuddwydio

am sefyll o flaen grwp o ddisgyblion un diwrnod i rannu fy nghariad

a’m brwdfrydedd tuag at hanes. Mae’r cwrs rhan-amser wedi fy helpu i

wireddu’r freuddwyd hon ”Samantha Anderson, BA Dyniaethau 2008

159158

Page 82: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

BA Anrhydedd SenglBV95 s Y Gwyddorau Meddygol a’r

Dyniaethau

s cynllun 3 blynedd

“Mae’n bwysicach gwybod pa fath o berson sydd â chlefyd na pha fath o glefyd sydd gan berson.”

(Hippocrates)

Mae’r radd arloesol, ryngddisgyblaethol hon yn adlewyrchu dealltwriaeth meddygaeth gyfoes o salwch, iechyd ac ymyriadau gofal iechyd o safbwynt cleifion ac o safbwynt bio-seico-gymdeithasol. Mae wedi’i datblygu mewn cydweithrediad â Choleg Meddygaeth y Brifysgol ac yn caniatáu i chi astudio’r sbectrwm eang o bynciau sy’n ymwneud â gwyddor a chelfyddyd meddygaeth.

“Nid creu system yw fy nod neu weld cleifion fel systemau, ond yn hytrach creu darlun o fyd, amrywiaeth o fydoedd – y dirwedd o fodolaeth lle mae’r cleifion hyn yn byw”

(Oliver Sacks)

Bydd y radd hon yn:• eich darparu â phlatfform delfrydol ar

gyfer mynediad i feddygaeth i raddedigion, neu fynediad i’r proffesiynau parafeddygol (e.e. ffisiotherapi, hybu iechyd, therapi iaith) neu ar gyfer ymchwil ôl-raddedig mewn meddygaeth neu ofal iechyd

• eich darparu â sgiliau dadansoddi critigol a gwerthuso allweddol,

gwybodaeth a phrofiad a werthfawrogir gan gyflogwyr y sector rheoli gofal iechyd, ac yn y sectorau rheoli preifat a chyhoeddus cyffredinol

• eich darparu â dealltwriaeth eang o feddygaeth a gofal iechyd, ac ein profiad ohonynt fel cymdeithas

• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy, yn cynnwys gweithio mewn tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a sgiliau dadansoddi uwch

Beth yw strwythur y radd?Mae’r radd hon yn caniatáu i chi archwilio ochr wyddonol ac ochr ddynol meddygaeth a gofal iechyd. Mae wedi’i dylunio i’ch darparu â safbwynt cynhwysfawr wedi’i seilio ar ystod eang o bynciau a dynnir o’r Gwyddorau Meddygol, y Gwyddorau Dynol a’r Dyniaethau.

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Mae dysgu drwy gyfrwng cyfrifiadur yn agwedd graidd o ambell fodiwl arbennig, a byddwch yn ymgymryd â chyfres o arsylwadau clinigol yn Lefel derfynol y radd.

Bob blwyddyn, byddwch yn dilyn dau fodiwl ym mhob un o’r chwe maes astudio gwahanol hyn:

Y Gwyddorau Biolegol – sy’n archwilio sut y mae gwybodaeth o systemau biolegol ar y lefel foleciwlaidd, lefel y gell a lefel yr organeb yn ategu meddygaeth glinigol.

Y Gwyddorau Clinigol – sy’n canolbwyntio ar y sgiliau astudio a dysgu allweddol mewn meddygaeth a gofal iechyd, yn enwedig dadansoddi gwybodaeth gritigol hanfodol meddygaeth ar sail tystiolaeth, y materion sy’n ymwneud â rhoi ymyraethau cyhoeddus ar waith, ac integreiddio gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol mewn rhyngweithiadau â chleifion, drwy arsylwi clinigol myfyriol.

Athroniaeth Meddygaeth – sy’n archwilio materion moesegol a chysyniadol sy’n llunio natur ac amcanion meddygaeth, yn cwestiynu problemau bywyd a marwolaeth yn fanwl, moeseg geneteg, anhwylder amlbersonoliaeth, a chysyniadau ynghylch salwch meddyliol.

Y Gwyddorau Cymdeithasol a Meddygaeth – sy’n cynnwys y dimensiynau economaidd, seicolegol a chymdeithasegol sy’n cyfarwyddo’r profiad o feddygaeth a gofal iechyd, a hefyd faterion costio a darparu gwasanaeth dros hyd oes.

“Dewisais y BSc Gwyddorau Iechyd a’r Dyniaethau (MeSh) oherwydd

ei bod yn rhoi sylfaen dda iawn ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion.

Mae’n gwrs gwych sy’n cynnwys ystod amrywiol o bynciau’n ymwneud

â meddygaeth fodern. Mae’n anelu at ddatblygu dealltwriaeth ddwys o

bwysigrwydd gofal yn canolbwyntio ar y claf trwy ddeall iechyd o

safbwynt bio-seico-gymdeithasol. Yn arbennig, mwynheais i’r lleoliadau

ym mlwyddyn tri, a’m helpodd i ddeall pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a

gwrando da er mwyn bod yn effeithiol wrth wneud penderfyniadau. ”Louise Treen, BSc Y Gwyddorau Meddygol a’r Dyniaethau

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Y Gwyddorau Meddygol a’r Dyniaethau

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences/undergraduate/medicalsciencesandhumanities

Cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 518531

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth.

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Safon Uwch: ABB neu gyfwerth

Bagloriaeth Ryngwladol: 33

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Nid oes angen Lefel Uwch Mathemateg neu bynciau gwyddonol (er eu bod yn ddefnyddiol iawn i baratoi am y cwrs hwn), ond mae angen lleiafswm o 5 TGAU gradd C neu’n uwch, gan gynnwys TGAU Saesneg (neu Gymraeg) a Mathemateg. Mae cymhwyster

Hanes Meddygaeth – sy’n darparu golwg gritigol ar ryngweithio rhwng ffactorau deallusol a chymdeithasol yng ngwneuthuriad theori, ymarfer a phroffesiynoli meddygol a rôl gyffredinol meddygaeth yng nghreadigaeth cymdeithas fodern ers 1500.

Llenyddiaeth a Meddygaeth – sy’n cyferbynnu barn meddygon a chleifion ar afiechyd drwy archwilio naratif gofal iechyd a salwch.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Mae’r modiwlau sydd ar gael yn cynnwys:

Lefel Un• Sylfeini mewn Mathemateg a Ffiseg

Systemau Byw• Bioleg Ddynol Gymhwysol• Cyflwyniad i Gyfraith Iechyd• Cyflwyniad i Athroniaeth Meddygaeth• Cyflwyniad i Seicoleg, Iechyd, Salwch

a Meddygaeth• Anatomi a Ffisioleg Ddynol I• Sgiliau Astudio a Gwybodeg Iechyd• Cyflwyniad i Hanes Meddygaeth• Cyflwyniad i Lenyddiaeth a

Meddygaeth• Cymdeithaseg Iechyd a Salwch

Lefel Dau• Dulliau ac Ystadegau Ymchwil• Y Gyfraith Iechyd ac Ymarfer• Athroniaeth Iechyd, Afiechyd a Salwch• Pobl, Poblogaethau a Gofal Meddygol:

Safbwyntiau Athronyddol• Meddyginiaeth Fwyaf Effeithlon a

Chymdeithas c.1300-2000• Anatomi a Ffisioleg Ddynol II

Dewisiadau mewn• Economeg Iechyd• Cymdeithaseg Iechyd a Meddygaeth II• Seicoleg, Iechyd, Salwch a

Meddygaeth II• Pathoffisioleg• Geneteg

Lefel Tri• Cymhwyso Gwybodaeth mewn

Meddygaeth• Pobl a Salwch: Safbwyntiau

Athronyddol• Ysbytai mewn Hanes c.1700-1948• Ffisioleg Systemau a Phatholeg

Gyffredin• Traethawd Hir (testun meddygol/gofal

iechyd o’ch dewis)• Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg

Dewisiadau mewn• Patholeg a Therapiwteg• Geneteg Uwch

Sut y caf fy asesu?Asesir eich sgiliau a’ch gwybodaeth drwy amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol, cyflwyniadau llafar, aseiniadau, a thraethawd hir. Mae cydbwysedd da rhwng gwaith cwrs ac arholiadau.

Gwyddoniaeth Ddwbl TGAU, neu Ffiseg a Chemeg yn ddefnyddiol ond nid yn hanfodol. Cewch ragor o wybodaeth ar ein gwefan neu drwy anfon e-bost at y cyfeiriad isod.

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

Y G

wyd

do

rau Me

dd

ygo

l a’r Dyniae

thau

161160

Page 83: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

CO

DA

U U

CA

S

O gwmnïau cyfreithiol bychain i Lys Cyfiawnder Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig, mae’r proffesiwn cyfreithiol yn llunio pob agwedd o’n cymdeithas, ein gwleidyddiaeth, a’n heconomïau. Mae’r Gyfraith yn rheoleiddio sut yr ydym yn prynu ac yn gwerthu nwyddau a gwasanaethau, a sut yr ydym yn llywodraethu ein hunain. Mae’n diffinio sut yr ydym yn erlyn ac yn amddiffyn, a sut yr ydym yn diogelu hawliau pobl nad ydynt yn gallu amddiffyn eu hunain.

Mae cyrsiau LLB Abertawe i gyd yn raddau ymgymhwyso yn y Gyfraith.

Bydd y graddau hyn yn:• eich darparu â sylfaen gref ar gyfer

gyrfa yn y gyfraith• eich hyfforddi i gymhwyso cysyniadau

cyfreithiol mewn amgylchedd ymarferol• eich darparu â sgiliau trosglwyddadwy,

gan gynnwys gweithio mewn tîm, cyfathrebu, rhoi cyflwyniadau, datrys problemau, a sgiliau ymchwil a dadansoddi

Yn Ymarferiad Asesu Ymchwil 2008, cydnabuwyd bod 95% o’n hymchwil o safon ryngwladol, sy’n golygu y cewch eich addysgu gan staff uchel eu profiad sy’n weithredol ym maes ymchwil. Mae lefelau bodlonrwydd ein myfyrwyr yn

gyson yn uchel – yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, 2011, cafodd Abertawe’r sgôr cyffredinol uchaf o holl Ysgolion y Gyfraith yng Nghymru.

Beth yw strwythur y radd? Mae ein dull arloesol o addysgu yn caniatáu i chi deilwra eich gradd yn unol â’ch diddordebau, eich cynlluniau ar gyfer eich gyrfa, a’ch cryfderau. Gan fod y modiwlau sylfaen gorfodol sydd eu hangen ar gyfer gradd ymgymhwyso yn y gyfraith i gyd yn cael eu cwblhau ar Lefelau Un a Dau, bydd cyfle gennych i ddewis o ystod eang o fodiwlau opsiynol yn eich blwyddyn olaf sy’n ddefnyddiol tu hwnt os ydych yn dymuno arbenigo mewn maes arbennig o’r gyfraith.

Cewch eich annog yn gryf i ychwanegu at eich astudiaethau academaidd drwy ymgymryd â phrofiad gwaith perthnasol. Bydd ein Tiwtor Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael mewn cwmnïau cyfreithiol lleol a darparwyr gwasanaethau cyfreithiol eraill megis Gwasanaeth Erlyn y Goron a Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd.

Cewch eich addysgu mewn awyrgylch dysgu cyfeillgar a chefnogol, drwy amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys

darlithoedd, seminarau, gwaith grwp ac ymchwil dan oruchwyliaeth. Byddwch hefyd yn ennill profiad ymarferol o ddadlau achosion mewn awyrgylch llys yn ein Ffug Lys. Mae ein Llyfrgell Gyfreithiol wedi’i chyfarparu’n dda ac yn cynnig cyfleusterau ardderchog yn ogystal â chymorth drwy gydol eich astudiaethau. Mae ein casgliad sylweddol yn y llyfrgell wedi’i gefnogi gan ystod helaeth o ddeunydd cyfreithiol electronig.

Pa fodiwlau y gallaf eu hastudio?Anrhydedd Sengl LLBLefel UnMae modiwlau gorfodol yn cynnwys:• Sgiliau Cyfreithiol• Cyfraith Gyhoeddus• Cyfraith Camweddau• Cyfraith Contract• Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd

Lefel DauMae modiwlau gorfodol yn cynnwys:• Tegwch ac Ymddiriedolaethau• Cyfraith Tir• Cyfraith Trosedd• Modiwlau opsiynol

Mae amrywiaeth o fodiwlau opsiynol hefyd ar gael.

LLB Prif Bwnc/ Is-bwncM1N1 s Y Gyfraith a Busnes

s cynllun 3 blyneddu cynllun 4 blynedd

LLB Anrhydedd SenglM100 s Y GyfraithMM12 s Y Gyfraith (Trosedd a Chyfiawnder

Troseddol)

LLB Cyd-anrhydedd y Gyfraith aMT17 s Astudiaethau AmericanaiddMT1R u Astudiaethau AmericanaiddMM19 s TroseddegML11 s EconomegMR11 u Ffrangeg MR12 u AlmaenegMVC1 s HanesMR13 u EidalegLM21 s GwleidyddiaethMR14 u SbaenegMQ15 u Cymraeg

Ysgol y Gyfraith

Y Gyfraith

Sut y gallaf gael gwybod rhagor?Ewch i’n gwefan: www.swansea.ac.uk/law

Cysylltwch â’r Tiwtoriaid Derbyn: E-bost: [email protected] Ffôn: +44 (0)1792 295831

Ymwelwch â’r Brifysgol: Gweler tudalen 198 am fanylion ein Diwrnodau Agored

Sut i wneud cais: Gallwch wneud cais ar-lein yn www.ucas.ac.uk – gweler tudalennau 198 i 203 am ragor o wybodaeth

Pa raddau sydd eu hangen arnaf?Ar gyfer LLB Anrhydedd Sengl:

Safon Uwch: AAB neu gyfwerth

Efallai y bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer cynlluniau Cyd-anrhydedd fynychu cyfweliad a gwneir cynigion ar sail hynny.

Bagloriaeth Ryngwladol: 34

Bagloriaeth Cymru: Gweler tudalen 201

Am fanylion llawn cymwysterau derbyniol eraill, gweler tudalen 200

Y G

yfraith

Lefel TriGallwch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau gan gynnwys: • Ymddygiad Gwrthgymdeithasol: Polisi

ac Arfer Cyfreithiol • Cyfreitheg Gymhwysol• Cyfraith Masnach• Cyfraith Cystadlu

• Rheoleiddio Troseddol Corfforaethol• Tystiolaeth Droseddol• Cyfiawnder Troseddol a Hawliau Dynol• Seibr-drosedd• Traethawd Hir• Cyfraith E-fasnach• Cyfraith Cyflogaeth• Cyfraith Amgylcheddol• Cyfraith Teulu• Sylfeini Ymarfer y Gyfraith• Cyfraith a Pholisi Tai• Cyfraith Hawliau Dynol• Cyfraith Eiddo Deallusol• Cyfraith Ryngwladol• Cyfraith a Threfn Lywodraethol Aml-lefel• Cyfraith Olyniaeth• Hanes Cyfreithiol Cymru• Materion Cyfreithiol mewn Gofal

Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol • Cynllunio a Chadwraeth Natur• Cyfraith Gyhoeddus Ryngwladol• Terfysgaeth: Yr Ymateb Cyfreithiol• Themâu mewn Cyfreitheg• Cyfraith Chwaraeon• Olyniaeth

Cynlluniau LLB Cyd-anrhydeddMae myfyrwyr Cyd-anrhydedd i gyd yn dilyn yr un strwythur sylfaenol, er bod y radd prif bwnc/is-bwnc yn y Gyfraith gyda Busnes wedi’i phwyso o blaid y Gyfraith. Astudir y modiwlau gorfodol Lefel Un a Lefel Dau fel modiwlau 30 credyd ar y cynllun Anrhydedd Sengl, ac fel modiwlau 20 credyd ar y cynlluniau Cyd-anrhydedd, i gymryd i ystyriaeth y modiwlau ychwanegol y mae myfyrwyr Cyd-anrhydedd yn eu hastudio o’r pwnc partner.

Lefel Un• Sgiliau Cyfreithiol• Cyfraith Gyhoeddus• Contract• Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd• Cyfraith Camweddau• Modiwlau o’r pwnc partner

Lefel Dau• Cyfraith Trosedd• Eiddo• Cyfiawnder ac Ymddiriedolaethau• Modiwl opsiynol• Modiwlau o’r pwnc partner

Lefel Tri• Modiwlau opsiynol (yn berthnasol i’r

radd ymgymhwyso yn y Gyfraith)• Modiwlau o’r pwnc partner

Sut y caf fy asesu?Cewch eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig, asesu parhaus, aseiniadau a thraethodau hir/estynedig.

Mae angen ail iaith berthnasol arnoch ar gyfer y graddau Cyd-anrhydedd yn y Gyfraith ac Ieithoedd. Ceir rhagor o wybodaeth am ein gofynion mynediad ar ein gwefan.

“ O edrych yn ôl, rhaid i mi ddweud

mai dewis astudio yn Abertawe oedd y

penderfyniad gorau a wnes i erioed. Dwi

wedi mwynhau astudio’r Gyfraith yma yn

fawr iawn. Mae pawb, o’r darlithwyr i’r

derbynyddion yn Ysgol y Gyfraith wedi

bod o gymorth mawr, ac maen nhw’n

gwneud eu gorau glas i roi’r cymorth

angenrheidiol i chi.”Kimberly Rupik, LLB Law

Mae 97% o raddedigion mewn cyflogaeth lawn-amser neu astudiaeth bellach o fewn chwe mis o raddio. (Data HESA 2009-10)

163162

Page 84: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Pan fyddwch chi’n dechrau yn y brifysgol, rydych yn dechrau ar antur fawr, profiad a fydd yn newid eich bywyd ac yn ehangu’ch gyrfa. Mae dewis eich cwrs yn rhan fach o ddewis y lle y byddwch yn byw, yn astudio ac yn ei alw’n gartref am y tair neu’r pedair blynedd nesaf.

Eich bywyd – y ffordd yr hoffech chi ei fyw

Bydd yr adran hon yn rhoi gwybodaeth i chi am:

• fyw a dysgu yn Abertawe

• sut yr ydym yn cefnogi myfyrwyr a chanddynt anableddau,

anawsterau iechyd meddwl, a chyflyrau eraill

• rôl Undeb y Myfyrwyr wrth wneud yn siwr bod eich amser

yn Abertawe yn gofiadwy - am y rhesymau cywir i gyd

164

1afyn y DU ar gyfer cymorth swyddfa lety{ i-graduate Student Barometer™, Hydref 2011

Page 85: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

166 167

Byw ar y campwsMae byw mewn un o’n naw neuadd gampws yn eich gosod reit yng nghanol bywyd y brifysgol.

Mae ein llety hunanarlwyo yn cynnwys ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n llawn, ystafelloedd en suite ac ystafelloedd safonol â chegin ac ardal fwyta wedi’u rhannu – yn ddelfrydol i’ch helpu i ddod i arfer â bywyd myfyriwr yn gyflym ac yn hwylus.

Mae ein llety wedi’i arlwyo’n rhannol yn cynnwys gwerth un pryd y diwrnod yn eich ffioedd preswyl - rhoddir cerdyn bwyta i chi gyda chredydau arno y gellir eu defnyddio mewn unrhyw un o gyfleusterau Arlwyo Campws y Brifysgol.

Mae cyfleusterau’r campws hefyd yn cynnwys:

• siopau• canolfan iechyd • deintydd • bariau • swyddfa bost • bwytai • siop lyfrau

Byw yn y Pentref MyfyrwyrTua dwy filltir o’r campws mae Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan. Mae’r pentref yn cynnig llety hunan arlwyo a chyfleusterau wedi’u rhannu ar gyfer oddeutu 1,600 o fyfyrwyr, mewn fflatiau a thai ar gyfer rhwng pedwar a deg o fyfyrwyr.

Os ydych yn dewis byw yn y pentref, bydd gennych eich ystafell eich hun ar gyfradd sy’n cymharu’n ffafriol â llety sector preifat. Mae bywyd myfyrwyr yn y Pentref yn gymdeithasol ac yn gefnogol a byddwch yn manteisio ar:

• The Wonky Sheep, y bar ar y safle• siop gyfleustra • siop prydau parod • gwasanaeth bws rheolaidd yn

ystod y tymor• cae chwaraeon wyneb caled

Llety teuluol Mae gennym nifer o fflatiau teuluol yn ein preswylfa dawel ddynodedig, Ty Beck, oddeutu milltir o’r campws yn ardal Uplands sy’n boblogaidd â myfyrwyr. Oherwydd y tenantiaethau 51- wythnos, mae’r llety hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a rhyngwladol yn bennaf.

Dod o hyd i’r lle perffaith yn y sector preifatOs byddai’n well gennych fyw oddi ar y campws, byddwch yn falch o wybod bod cyflenwad da o dai sector preifat o safon yn Abertawe. Mae ein hasiantaeth gosod SAS yn rheoli dros 100 o dai yn ardaloedd Brynmill ac Uplands sy’n boblogaidd â myfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt o fewn dwy filltir i’r campws ac yn agos i siopau lleol, bariau a chyfleusterau prydiau parod. Mae modd chwilio ein cronfa ddata ar-lein, Studentpad, i ddod o hyd i dai sydd ar gael yn yr ardal ac mae’n declyn gwerthfawr sy’n arbed ymdrech wrth edrych am dai. Teimlwch yn gartrefol

Os ydych am fyw yng nghalon campws y Brifysgol, yn ein Pentref Myfyrwyr, neu un o’r tai preifat cyfagos a reolir gan ein hasiantaeth osod, SAS, mae Gwasanaethau Preswyl yn darparu ystod o opsiynau i chi ddewis o’u plith.

Pwyntiau pwysig i’w nodi ynglyn â’n preswylfeydd:

• mae gan ein hystafelloedd ryngrwyd diwifr am ddim i gael mynediad i rwydwaith y Brifysgol

• mae gan ein hystafelloedd deleffonau sy’n caniatáu i chi wneud galwadau am ddim i rwydwaith teleffon y Brifysgol

• mae’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl yn unig (ac eithrio fflatiau teulu Ty Beck)

• mae ystafelloedd wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn – cysylltwch â’r Swyddfa Anableddau am ragor o wybodaeth

• Wardeniaid Lles preswyl

• cyfleusterau golchi dillad

• llety penodol ar gyfer siaradwyr Cymraeg

Gall dechrau yn y brifysgol fod yn dipyn o gorwynt, a dyna pam yr ydym eisiau i chi gael rhywfaint o heddwch meddwl pan ddaw hi at eich llety. Rydym yn credu ei bod yn bwysig i chi ddewis preswylfa sy’n siwtio eich gofynion chi orau, a’ch bod yn edrych ar eich preswylfa yn y brifysgol fel cartref i ffwrdd o gartref go iawn.

Page 86: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

168 169

Rydw i’n siarad Cymraeg. Oes modd i mi fyw gyda siaradwyr Cymraeg eraill? Oes – os ydych yn siarad Cymraeg mae gennym lety penodol i siaradwyr Cymraeg fyw gyda’i gilydd. Os oes diddordeb gennych, byddwch yn siwr o nodi hyn ar eich ffurflen gais.

Pryd y byddaf yn gwybod a ydw i wedi cael cynnig lle ym mhreswylfeydd y Brifysgol? Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr fel arfer yn derbyn eu cynnig am lety yn fuan ar ôl derbyn eu graddau Safon Uwch.

Beth sy’n digwydd os ydw i’n gwneud cais drwy Glirio?Os ydych yn gwneud cais i astudio yn Abertawe drwy Glirio, anfonir manylion yr opsiynau llety sydd ar gael i chi ar ôl i chi dderbyn cadarnhad o fynediad i’r Brifysgol.

Pa gymorth sydd ar gael yn y preswylfeydd? Rydym yn gosod cryn bwyslais ar les myfyrwyr. Yn ogystal â staff diogelwch 24-awr, mae ein Wardeiniaid Lles ar gael i’ch helpu i ymgartrefu ac i gynnig cymorth bugeiliol. Mae swyddog heddlu dynodedig ar y campws hefyd.

Am faint o hyd y gallaf rentu’r ystafell? Bydd eich cytundeb llety ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan.

A fedraf fyw ar y campws ar ôl fy mlwyddyn gyntaf?Rydym yn neilltuo rhywfaint o ystafelloedd yn ein preswylfeydd ar gyfer myfyrwyr sy’n dychwelyd. Dewis poblogaidd â’n myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn yw byw gyda ffrindiau mewn ty a reolir gan y Brifysgol, neu mewn llety sector preifat.

Am ragor o fanylion ynglyn â’n preswylfeydd, a’r cymorth yr ydym yn ei gynnig i’ch helpu i setlo i mewn yn gyflym, ewch i’n gwefan yn: neu cysylltwch â Gwasanaethau Preswyl: Ffôn: +44 (0)1792 295101 E-bost: [email protected]

Faint y bydd hyn yn ei gostio?Mae’r rhent yr ydych yn ei dalu’n dibynnu ar y breswylfa a’r ystafell yr ydych yn eu dewis.

* Mae’r ffioedd hyn ar gyfer sesiwn academaidd 2011/12. Sylwer bod cyfraddau ar

gyfer mynediad 2013 dan arolygaeth ar hyn o bryd ac yn debygol o godi. Fe’ch cynghorir i edrych ar ein gwefan ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf.

** Lle bo hynny’n berthnasol, mae prisiau ar gyfer llety Campws Safonol yn cynnwys y ffi arlwyo wythnosol.

Ydych chi’n gwarantu lle ym mhreswylfeydd y Brifysgol?Ydyn – os ydych chi’n fyfyriwr israddedig newydd, llawn amser sy’n cwrdd â gofynion cynnig cadarnhaol ar gyfer lle yn Abertawe, a’ch bod yn gwneud cais am lety erbyn 30 o Fehefin. Lle bo hynny’n bosib, gwnawn ein gorau i ehangu’r cynnig hwn i fyfyrwyr dewis Yswiriant a Chlirio.

Pryd y dylwn wneud cais am lety?Gorau po gyntaf! Os oes gennych gynnig cadarnhaol am le, mae modd i chi wneud cais am lety o ddechrau mis Mai – byddwch yn derbyn manylion ynglyn â gwneud cais ar-lein gyda’ch cynnig. Rydym yn eich cynghori i wneud cais yn gynnar, yn enwedig ar gyfer y llety en suite poblogaidd tu hwnt.

Cwestiynau cyffredin ynglyn â’ch llety

Preswylfa Math o ystafell Rhent wythnosol*

Pentref Myfyrwyr Safonol £73 – £78

Campws Safonol En suite

£92 – £108£87 – £108.50**

Ty Beck Safonol En suite Fflat teuluol

£78 – £80£89 – £99£138 – £167.00

Tai a reolir gan y Brifysgol Safonol £59 – £71www.swansea.ac.uk/accommodation

Page 87: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

170 171

Os oes gennych ymholiad cyffredinol, problem benodol, neu os ydych chi eisiau siarad am bethau, mae derbynfa Gwasanaethau Myfyrwyr yn lle da i ddechrau. Rydym yn cynnig siop un stop i ddarparu myfyrwyr â’r cyngor a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Gofalu am eich lles

Oeddech chi’n gwybod? Mae’r Adran Gwasanaethau Myfyrwyr wedi’i hachredu fel un sy’n bodloni’r Safon Ansawdd Matrics ar gyfer cyngor gwybodaeth a gwasanaethau cynghori. {

Y Swyddfa Anableddau

Cefnogi Myfyrwyr ag Anableddau Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol, neu ofynion arbennig eraill, does dim rheswm pam dylai eich profiad yn y brifysgol fod yn wahanol i brofiad unrhyw un arall, ac rydym yn croesawu eich cais i astudio yn Abertawe.

Cyn i chi wneud cais, dylech:

• gysylltu â staff y Swyddfa Anableddau ymhell cyn cyflwyno eich cais i adael i ni wybod pa bwnc yr ydych yn gobeithio ei astudio a pha anghenion arbennig y gallai fod eu hangen arnoch. Gallwn esbonio sut y bydd y Brifysgol yn eich cynorthwyo, a gallwn drefnu taith dywys breifat o’r campws ar eich cyfer.

• datgan eich anabledd, cyflwr neu angen arbennig cyn gynted â phosib – mae lle ar gael ar y ffurflen UCAS i ddarparu’r wybodaeth berthnasol. Os ydyw’n well gennych beidio â chyflwyno gwybodaeth yn y modd hwn, a wnewch chi ysgrifennu’n uniongyrchol at y Swyddfa Anableddau.

Yn ystod y broses ymgeisio, mae’n bosib y byddwch yn cael eich gwahodd am gyfweliad anffurfiol â staff y Swyddfa Anableddau. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni asesu eich anghenion a chynllunio ar gyfer eich derbyniad, a bydd modd i chi weld drosoch chi’ch hun os mai Abertawe yw’r lle gorau ar eich cyfer chi.

• Y Venue (Ty Fulton) – pasta, cig a physgod, saladau ffres a llysiau, pwdinau cynnes ac oer, a’n bargeinion pryd dyddiol

• Caffi Fusion (Ty Fulton) – brecwast traddodiadol ac iach, bwyd cynnes ac oer drwy gydol y dydd. Cadwch lygad ar agor am nosweithiau thema poblogaidd Fusion

• Taliesin (Canolfan y Celfyddydau Taliesin) – profwch flas o Fôr y Canoldir ag un o’r bwydlenni tapas ardderchog, neu dewiswch o ystod o brydiau cynnes, brechdanau a Choffi Costa®

• Siop y Gornel (Ty Fulton) – ar gyfer brechdanau, byrbrydau a diodydd

• Caffi Hoffi Coffi Costa (Llyfrgell) – caffi Cymraeg y campws a lle gwych i ymlacio gyda’ch ffrindiau dros baned a myffin blasus

• Bake-n-Take (Ty Fulton) – mae popty’r campws yn cynnig dewis o basteiod poeth ffres melys a sawrus, saladau a diodydd cynnes ac oer

• Café Glas (y Sefydliad Gwyddor Bywyd) – siop goffi Starbucks® sydd hefyd yn cynnig cacenni arbenigol ardderchog

• Callaghan’s (adeilad James Callaghan) – siop goffi Starbucks® â detholiad blasus o fara arbenigol wedi’u llenwi â chynhwysion cyfoes

• Costa@Emily Phipps (Hendrefoelan) – yn cynnig dewis eang o fwydydd cynnes ac oer â detholiad o goffi arbenigol a diodydd oer.

• Mae digonedd o beiriannau gwerthu bwyd o gwmpas y campws sy’n cynnig diodydd poeth ac oer, melysion a byrbrydau

Rydym yn gweithredu ystod o fannau arlwyo o gwmpas y campws. Mae gan bob un ddelwedd a math o fwyd arbennig, o brydiau ysgafn a baguettes i luniaeth Prydeinig traddodiadol, prydiau Indiaidd, Mecsicanaidd, a Tsieineaidd, a phasta deniadol.

Mae gan bob un o’n mannau arlwyo ddewis ar gyfer llysieuwyr hefyd. Cadwch lygad ar agor am ein nosweithiau thema, ein gwyl fwyd Cymreig, a’n fersiwn o Ready Steady Cook! Felly, pan fyddwch wedi cael digon o goginio a golchi llestri, ewch i:

Oeddech chi’n gwybod? Mae Cerdyn Arlwyo Hyblyg y Brifysgol yn ffordd syml ddi-ffws o dalu am eich prydiau bwyd mewn unrhyw un o’n mannau arlwyo. Mae modd i chi roi arian ar y cerdyn unrhyw bryd, ac mae eich credyd yn gymwys ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan. {

Ble i fwyta?

Arlwyo cydwybodol Abertawe oedd y brifysgol Masnach Deg gyntaf yng Nghymru. Byddwch yn dod o hyd i gynnyrch Masnach Deg ym mhob agwedd o’n gwasanaethau arlwyo, sy’n helpu i sicrhau prisiau gwell, amodau gwaith gweddus, a thelerau teg i ffermwyr a gweithwyr mewn gwledydd datblygol.

Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo’n bosibl, gan sicrhau cynaladwyedd i fusnesau’r rhanbarth. Hefyd, rydym yn tyfu’n perlysiau’n hunain, sy’n cael eu casglu a’u defnyddio’n ddyddiol.

Cawsom gymeradwyaeth y Gymdeithas Llysieuwyr, a dyfarnwyd ein bod ar y lefel uchaf ar gyfer diogelwch bwyd gyda chymeradwyaeth lawn yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys ein polisïau Cynaladwyedd a Masnach Deg, ewch i’n gwefan:

www.swansea.ac.uk/catering

Page 88: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

172 173

Gwasanaethau Lles Fel myfyriwr, mae’n bosib y byddwch yn ei chael hi’n anodd rheoli’r pwysau a’r straen newydd sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol wrth hefyd geisio addasu i newidiadau yn eich ffordd o fyw a’ch amgylchedd. Mae Gwasanaethau Lles yn cefnogi myfyrwyr sy’n dioddef o straen o ganlyniad i broblemau seicolegol, emosiynol, neu iechyd meddwl, ac mae ar gael i’ch cefnogi ar unrhyw adeg ar eich taith academaidd. Mae’r gwasanaethau a gynigir yn cynnwys: sesiynau galw heibio cychwynnol, i drafod eich pryderon; grwpiau a gweithdai (e.e. pryder am wneud cyflwyniad); cymorth gyda phroblemau iechyd meddwl a chynghori. Mae sawl myfyriwr sydd wedi profi anawsterau iechyd meddwl yn y gorffennol wedi ei chael hi’n ddefnyddiol cysylltu â’r gwasanaeth cyn gynted â phosib ar ôl iddynt gyrraedd y campws.

Mae’r cymorth a gynigir yn hyblyg ac wedi’i fwriadu i siwtio’ch anghenion arbennig chi. Efallai y byddwch am i rywun gysylltu â’ch meddyg teulu, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, neu’ch Coleg/Ysgol Academaidd i helpu sicrhau bod unrhyw addasiadau rhesymol ac addas yn cael eu gwneud. Efallai y bydd o gymorth i chi fynychu gweithdy, neu i gael eich cynghori er mwyn archwilio pryderon neu broblemau penodol. Mewn rhai achosion mae’n bosib y cewch gynnig mentor proffesiynol i’ch helpu i gyrraedd eich potensial llawn. Mae’r gwasanaeth a gynigir yn gyfrinachol, yn gyfeillgar, ac yn broffesiynol.

Ffôn: +44 (0)1792 295592 E-bost: [email protected]

Eich Ffydd Mae Canolfan Gaplaniaeth y campws wedi’i darparu gan dîm o chwe chaplan o’r Eglwys Anglicanaidd (Eglwys Cymru), Eglwys y Bedyddwyr, yr Eglwys Uniongred Roegaidd, Yr Eglwys Fethodistaidd, Yr Eglwys Gatholig, a’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi bywyd ysbrydol cymuned y Brifysgol, pa bynnag hil, statws neu ffydd.

Rydym yn un o’r unig brifysgolion yn y DU â mosg ar ein campws, ac roeddem yn falch o ennill gwobr Darpariaeth Mosg Orau’r DU gan Ffederasiwn y Myfyrwyr Islamaidd.

Sicrhau cyfle cyfartal Mae Prifysgol Abertawe yn gymuned campws cosmopolitan sy’n annog ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir. Fel myfyriwr, gallwch fod yn hyderus eich bod yn byw ac yn astudio mewn amgylchedd addysgiadol sy’n cefnogi cyfleoedd cyfartal i bawb, ac na fyddwch yn destun ar gyfer gwahaniaethu nac aflonyddu o unrhyw fath.

Rydym yn gofyn i’n staff, ein myfyrwyr a’n cyflenwyr gydweithio er mwyn helpu i hybu cydraddoldeb. Rydym yn glynu wrth Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000, a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, sy’n mynnu ein bod yn cael gwared ar anffafriaeth anghyfreithlon ac yn hybu cyfle cyfartal a chysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau.

I sicrhau ein bod yn cwrdd â’r gofynion hyn:

• mae gennym Bwyllgor Cyfle Cyfartal a Gweithgor Cydraddoldeb Hiliol sy’n cwrdd bob tymor

• mae gennym Gynghorydd Cyfle Cyfartal ym mhob Coleg/Ysgol Academaidd

• rydym yn adolygu ein Polisi a’n Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, a’r Cynllun Cydraddoldeb Anabledd bob blwyddyn. Gellir dod o hyd i’r rhain ar wefan y Brifysgol

• rydym yn cyhoeddi llawlyfr Cysylltiadau Hiliol a Chi, sy’n amlinellu’r polisïau a’r ymddygiad disgwyliedig gan bob un o’n staff a’n myfyrwyr i sicrhau bod Prifysgol Abertawe yn parhau i gynnig amgylchedd academaidd heb wahaniaethu nac aflonyddu

Cymorth proffesiynol, pan fo ei angen arnoch Rydym wedi sefydlu amrediad eang o fesuriadau i sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnoch drwy gydol eich astudiaethau.

Yn benodol rydym yn:

• gweithio gyda chi i deilwra rhaglen hyblyg o gymorth sy’n berthnasol i’ch anghenion

• trefnu pobl i gymryd nodiadau, mentoriaid, darllenwyr a thiwtoriaid arbenigol

• cysylltu â’r Swyddfa Arholiadau os oes angen amser neu gymorth ychwanegol i gwblhau asesiadau

• mae gennym dîm o diwtoriaid arbenigol, sy’n darparu gwybodaeth a chyngor, yn ogystal ag arweiniad ynglyn â sgiliau astudio ac ymlacio

• mae gennym Ganolfan Asesu wedi’i dylunio at y pwrpas sy’n cynnig gwasanaeth cynhwysfawr i adnabod ac asesu eich anghenion

• gallu’ch helpu i geisio am gyllid oddi wrth eich corff cyllido lleol, Gwasanaethau Cymdeithasol, neu sefydliadau eraill

Mae rhan fwyaf yr adeiladau ar ein campws cryno, gymharol wastad yn fodern ac wedi’u cyfarparu’n dda â rampiau, lifftiau a thai bach hygyrch. Mae palmant botymog wedi’i osod ar bob prif lwybr, ac mae nifer sylweddol o’r ystafelloedd gwely astudio yn neuaddau preswyl y campws wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr â phroblemau symud. Mae larymau tân ar gyfer pobl â nam ar eu clyw hefyd wedi’u mewnosod.

Gwasanaethau eraill

• Mae cyfleusterau ar gyfer pobl â nam ar eu golwg yn eithriadol. Rydym yn cynnig hyfforddiant symud ac mae Canolfan Trawsgrifio Prifysgol Abertawe yn gallu darparu myfyrwyr ag anableddau â deunydd (yn y prif ieithoedd Ewropeaidd) mewn amrediad o fformatau gwahanol, gan gynnwys Braille, sain, print mawr, testun electronig a diagramau botymog. Mae’r Ganolfan yn un o bum gwasanaeth trawsgrifio prifysgol yn unig yn y DU, a’r unig un yng Nghymru

• Cynghorir myfyrwyr ag anghenion gofal personol i gysylltu â’r Swyddfa Anableddau i drafod eu hanghenion

• Mae gan y Llyfrgell dîm o lyfrgellwyr pwnc wrth law i’ch helpu i fanteisio’n llawn ar eich astudiaethau, ac mae’n cynnig gwasanaeth “caffael o’r silff”, darllen wyneb yn wyneb, a chyfleusterau TG arbenigol

• Mae pob Cyfrifiadur Personol ar rwydwaith y Brifysgol yn eich darparu â mynediad i feddalwedd arbenigol, megis SuperNova ar gyfer myfyrwyr â nam ar eu golwg a myfyrwyr dall, a meddalwedd Mapio Meddwl Inspiration, a Text Help Read and Write Gold ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau dysgu penodol

Cysylltwch â ni Am ragor o wybodaeth ynglyn â’r cymorth yr ydym yn ei gynnig, ewch i’n gwefan:

neu cysylltwch â’r Swyddfa Anableddau: Ffôn: +44 (0)1792 602000Ffacs: +44 (0)1792 295090 E-bost: [email protected]

Cyfleusterau meddygol Mae practis meddygol GIG a deintyddfa ar agor i fyfyrwyr ar y campws. Os ydych yn byw mewn llety Prifysgol, bydd rhaid i chi gofrestru â Meddyg Teulu yn Abertawe o fewn dwy wythnos ar ôl cyrraedd.

Os nad ydych chi’n byw mewn llety Prifysgol, byddwn yn eich cynghori i gofrestru â meddyg teulu yn Abertawe pan gyrhaeddwch.

Cymorth proffesiynol

www.swansea.ac.uk/undergraduate/student-services/disability-office

Page 89: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

174 175

Cymerwch ranMae gan Undeb y Myfyrwyr dros gant o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon. O Amnest ac Akido i Gwrw Go Iawn a Rhwyfo. Byddwch yn siwr o ddod o hyd i rywbeth sy’n mynd â’ch bryd, a byddwch yn bendant yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i gymryd rhan mewn bron i unrhyw beth dan yr haul.

Mae yma hefyd gymdeithas arbennig ar gyfer siaradwyr Cymraeg, boed yn rhugl neu’n ddysgwyr, sef Y Gymdeithas Gymraeg (Y GymGym). Mae’r GymGym yn gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd, i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous a bod yn rhan o gymuned myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe beth bynnag fo pwnc eich gradd. Mae’r GymGym yn cwrdd yn wythnosol gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymhlith y digwyddiadau a drefnwyd yn ddiweddar gan y GymGym yr oedd taith i Ddulyn i wylio Cymru yng nghystadleuaeth rygbi’r 6 Gwlad, taith i’r ddawns a’r Eisteddfod ryng-golegol a chyfle i wylio’r rhaglen Jonathan yn cael ei ffilmio. I gysylltu â’r GymGym gallwch e-bostio ygymdeithasgymraegabertawe @gmail.com

Mae cymryd rhan mewn cymdeithasau hefyd yn rhoi hwb i’ch cyflogadwyedd: gall y sgiliau yr ydych yn eu hennill wrth gynnal digwyddiadau, trefnu pobl, cael swyddi sydd â chyfrifoldeb neu reoli cyllidebau ychwanegu gwerth go iawn at eich CV. Gallwch hefyd gynrychioli eich cyd-fyfyrwyr fel Cynrychiolydd Cwrs. Eto, byddwch yn ennill sgiliau gwerthfawr y bydd cyflogwyr yn eu cydnabod.

Meithrinfa Ddydd Mewn lleoliad cyfleus ar y campws, mae Meithrinfa Undeb y Myfyrwyr yn darparu gofal plant proffesiynol am bris cymorthdaledig i fyfyrwyr. Gall y Feithrinfa gynnig llefydd i blant o dri mis oed i saith mlwydd oed.

Ffôn: +44 (0) 1792 513151 E-bost: [email protected]

Hoffi chwaraeon? Mae chwaraeon yn rhan enfawr o brofiad myfyrwyr yn Abertawe, ac mae’n cynnig llawer i unrhyw un sydd eisiau cymryd rhan, boed am hwyl neu er mwyn cystadlu.

Mae Swyddog Chwaraeon a thîm gweinyddol ymroddedig iawn yn gweithio i gwrdd ag anghenion yr holl fyfyrwyr sy’n mwynhau eu chwaraeon. Ar ben hynny, mae gan y Brifysgol gyfleusterau gwych i’w cynnig.

Ar hyn o bryd, mae gennym dros 40 o dimoedd yn cystadlu yn y gynghrair BUCS (Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain) ar ddydd Mercher, gan deithio ar draws Cymru a Lloegr, ac mae gennym ryw 30-40 o glybiau’n cystadlu mewn twrnameintiau a digwyddiadau rheolaidd BUCS.

Y clybiau chwaraeon a gynigir gan Undeb y Myfyrwyr ar hyn o bryd yw:

• Aikido • Pêl-droed Americanaidd

• Saethyddiaeth • Badminton

• Pêl-fasged • Corff-fyrddio

• Bocsio • Canwio • Codi Hwyl

• Criced • Marchogaeth

• Pêl-droed • Cleddyfaeth

• Golff • Heicio • Hoci

• Jitsu • Judo • Gwibgartio

• Karate • Cicfocsio

• Syrffio barcud • Lacrós

• Achub bywydau • Beicio

Mynydd • Mynydda

• Pêl-rwyd • Pwl • Rhwyfo

• Rygbi’r Gynghrair • Rygbi’r

Undeb • Rhedeg • Hwylio

• Sgïo/eirafyrddio • Sboncen

• Campau Tanddwr • Syrffio

• Nofio • Tae Kwon Do • Tenis

• Triathlon • Ffrisbi Eithafol

• Bwrddhwylio

www.swansea-union.co.uk

www.swansea.ac.uk/undergraduate/student-services/childcare/

gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr. Mae’r Undeb yn cael ei arwain gan fyfyrwyr ac yn meddu ar hanes cryf o ddod â myfyrwyr ynghyd ar faterion o bwys.

Mynnwch eich llaisMae gan Undeb y Myfyrwyr saith swyddog etholedig llawn amser, a nifer o swyddogion etholedig gwirfoddol i’ch cynrychioli ar bob lefel, o gyfarfodydd pwyllgorau’r Brifysgol i wrthdystiadau cenedlaethol.

Bydd digon o gyfleoedd gyda chi hefyd i ddweud eich dweud drwy ein papur newydd bob pythefnos Waterfront, cylchgrawn yr Ents, ein gwefan, a’n gorsaf radio ein hunain:

Abertawe Cymdeithasol Ydych chi’n hoffi’r syniad o nosweithiau gwych allan yng nghalon ardal glybio Dinas Abertawe? Beth am Ddawns Flynyddol yr Haf a’r Ddawns Nadolig yn ogystal â nosweithiau thema a nosweithiau chwaraeon wedi’u trefnu? Mae UMPA yn gosod pwyslais ar eich darparu ag amser da, p’un ai’n noson allan yn y dref neu yn ein clwb nos ar y campws, neu’n ymlacio yn ein bariau myfyrwyr a’n siopau coffi, byddwch yn dod o hyd i rywle i siwtio’ch hwyl.

Eich cefnogi chi Mae cefnogi chi, eich diogelwch a’ch lles yn hanfodol bwysig. Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhedeg canolfan gyngor sy’n cynnig arweiniad ar faterion megis arian, tai, diogelu defnyddwyr ac anawsterau yn gysylltiedig â’ch cwrs.

Bydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe (UMPA) wrth wraidd eich profiad myfyriwr o’r foment y byddwch yn cyrraedd hyd at y diwrnod y byddwch yn graddio.

Mae gan bawb syniadau gwahanol o fywyd myfyriwr ond mae pawb yn cytuno ar un peth: chi sy’n ei benderfynu. Gallwch fod yn hyderus y bydd yr Undebau yn gweithio’n galed i gynrychioli eich llais, i’ch darparu â’r cyfleoedd sydd eu hangen arnoch ac i sicrhau eich lles fel myfyriwr. Maent hefyd yn dod â myfyrwyr ynghyd drwy gyfrwng calendr cymdeithasol gwych y byddwch yn ei ddisgwyl gan gymuned mor fywiog.

Pan fyddwch yn dod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn aelod o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig, sy’n

Eich Undeb – Gweithio drosoch chi

“Dwi’n arwain tîm o swyddogion sy’n sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed ar bob lefel yn y Brifysgol. Mae Undeb y Myfyrwyr wrth galon cymuned ffyniannus y myfyrwyr, a byddwch yn ymuno â ni ar un o’r adegau mwyaf cyffrous yn ein hanes; nid yw myfyrwyr erioed wedi cael cymaint o fewnbwn i’w hundeb, eu prifysgol, a’u cymuned leol. Mae gyda ni fywyd nos o safon fyd eang yng nghlybiau mwyaf Cymru, ac mae gyda

ni gyfleusterau newydd sbon megis ein bar a’n siop goffi.”Luke James, Llywydd Undeb y Myfyrwyr

“Manteisiwch ar bob cyfle ddaw i chi yn Abertawe. Mae cyfoeth o bynciau astudio ar gael yma. Ymunwch â’r GymGym i chi gael cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg a chofiwch, mae Abertawe wedi’i dewis yn ddinas fwyaf cyfeillgar Cymru, a’r ail fwyaf cyfeillgar ym Mhrydain! Mae yma

deimlad o gymuned ac fe wnewch chi ffrindiau am oes!.”Owain Harries, Swyddog Materion Cymreig Undeb y Myfyrwyr

{ {

www.xtreme.org

Page 90: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

176

Meddwl am eich dyfodol

Bydd yr adran hon yn dweud mwy wrthych am sut yr ydym yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant gyrfaol. Byddwch yn darllen sut:

• rydyn ni’n ymrwymedig i sicrhau bod ein graddau’n berthnasol i’r byd gwaith

• gall ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd eich helpu i gynllunio ar gyfer bywyd ar ôl Abertawe

• gall cynllunio datblygiad personol eich helpu chi i uchafu eich potensial

• gall ein hyfforddiant mentergarwch eich ysbrydoli i gychwyn eich busnes eich hun

• gall Atodiadau Diploma wella eich cyflogadwyedd ar draws Ewrop

• mae Discovery, yr elusen wirfoddoli ar y campws, yn rhoi cyfleoedd i chi i ennill profiad gwerthfawr

Po fwyaf cynnar rydych chi’n dechrau cynllunio ymlaen, y mwyaf parod y byddwch chi i afael yn y cyfleoedd swyddi rydych chi am eu cael.

96%o fyfyrwyr yn fodlon ag arbenigedd darlithwyr{ i-graduate Student Barometer™, Hydref 2011

Page 91: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

178 179

Cadw golwg ar eich datblygiad Mae’r tîm Gyrfaoedd yn gweithio ochr yn ochr â’n staff academaidd i ddarparu cynllunio datblygu personol i bob myfyriwr, gan wneud yn siwr bod eich cyflogadwyedd yn cael ei wella’n barhaus drwy gydol eich amser yn Abertawe.

Byddwn yn eich helpu i adnabod a datblygu amrywiaeth o sgiliau fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o’ch amser yn y brifysgol, ac i gael yr hyn rydych yn dymuno’i gael o’ch gyrfa. Byddwch yna’n creu ac yn cynnal e-bortffolio sy’n cofnodi’r sgiliau y byddwch yn eu caffael, y nodweddion personol y byddwch yn eu datblygu a’r profiadau sy’n rhoi bywyd i’ch CV, o’ch cyfranogiad mewn chwaraeon a chymdeithasau, i’r rolau mwy ffurfiol y gallech eu gwneud mewn lleoliadau gwaith a gwirfoddoli.

Symbylu mentergarwch Yn ystod eich cyfnod yn Abertawe gallwch gymryd mantais o’r amryw gyfleoedd i ddysgu ac i ymarfer sgiliau busnes a mentergarwch allweddol. Gallwch: • gymryd rhan mewn seminarau a

gweithdai i ddysgu gan siaradwyr gwadd ysbrydoledig o’r sector preifat

• mynychu dosbarth meistr i weld sut y mae’r entrepreneuriaid mwyaf llwyddiannus yn rhedeg ac yn tyfu eu busnesau

• astudio modiwlau entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd mewn meysydd pwnc megis Astudiaethau Plentyndod, Peirianneg, Astudiaethau Rheoli ac Ieithoedd Modern

• mwynhau rhaglen Ysgol Haf am wythnos a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau menter megis cynllunio busnes, cyllid a chyfraith busnes

Fel myfyriwr, bydd gennych fynediad hefyd i Students in Free Enterprise (SIFE), sefydliad nid er elw sy’n weithredol mewn dros 1,500 o brifysgolion mewn 47 gwlad. Mae SIFE yn canolbwyntio ar economeg marchnadoedd, sgiliau llwyddiant, mentergarwch, llythrennedd ariannol, cynaliadwyedd amgylcheddol a moeseg fusnes. Gallai cymryd rhan gyda

SIFE roi hwb gwirioneddol i’ch gyrfa. Ac os oes syniad gwych gennych am fenter newydd, gallwch siarad gyda ni am ein cyllido cam cynnar a’n cefnogaeth cynllunio busnes i helpu graddedigion i sefydlu eu busnesau eu hunain.

Gwneud eich gradd yn berthnasol o gwmpas y byd Mae cyflogwyr yn y DU yn deall gwerth gradd o brifysgol ym Mhrydain, ond os ydych yn penderfynu gweithio yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd, sut y gallwch fod yn siwr y bydd eich gradd yn cael ei chydnabod ym mha ran bynnag o’r byd y byddwch yn mynd iddi?

Ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau, byddwch yn derbyn Atodiad Diploma, sy’n rhoi disgrifiad manwl o natur, lefel, cyd-destun, cynnwys a statws eich cwrs. Mae’n amlygu’r sgiliau deallusol ac ymarferol yr ydych wedi’u hennill, gan alluogi cyflogwyr i weld yn syth yr hyn yr ydych wedi’i gyflawni.

Abertawe oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r Atodiadau Diploma, sydd wedi’u datblygu gan y Comisiwn Ewropeaidd. Nid rhywbeth i gymryd lle eich CV yw’r rhain, ond maen nhw’n sicr yn ychwanegu gwerth ato.

Discovery – Gwirfoddoli i Fyfyrwyr AbertaweYdych chi am ennill sgiliau rhyngbersonol, arweinyddiaeth, cymdeithasol a mentergarwch gwerthfawr gan helpu pobl eraill i gyflawni eu potensial ar yr un pryd?

Mae Discovery yn elusen gofrestredig sydd wedi ei sefydlu ers dros 40 mlynedd. Mae ganddi gannoedd o fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brosiectau ar draws Dinas Abertawe.

Mae mentrau Discovery dan arweiniad myfyrwyr yn dod â phrofiadau a chyfleoedd newydd i rai o grwpiau mwyaf difreintiedig y rhanbarth, ac yn helpu ein myfyrwyr i werthfawrogi ac i wella’u datblygiad personol eu hunain. Am ragor o wybodaeth, ewch i:

Adeiladu eich rhwydweithiau rhyngwladolAr ôl i chi raddio, byddwch yn dod yn aelod o’n Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr, rhwydwaith gwerthfawr o 55,000 aelod gweithredol sy’n rhannu profiadau cyffredin a chariad tuag at Abertawe.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn gweithio ar bob lefel o fewn diwydiant, masnach, chwaraeon a’r sector cyhoeddus, ym Mhrydain a thramor, sy’n golygu y byddwch yn canfod cyfeillion a chydweithwyr o’r un meddylfryd â chi lle bynnag yr ydych yn y byd.

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn dweud wrthym yn gyson eu bod yn manteisio’n broffesiynol ac yn gymdeithasol o berthnasau y maent wedi’u ffurfio drwy’r Gymdeithas. Mae llawer wrthi’n cefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yn y DU a thramor, ac yn eu helpu i wneud penderfyniadau ynghylch beth i’w astudio a sut y gall y profiad o fod yn fyfyriwr yn Abertawe gael effaith ar eu gyrfaoedd a fydd yn newid eu bywydau.

Mae llawer o’n cyn-fyfyrwyr yn dewis dod yn llysgenhadon dros y Brifysgol. Ble bynnag y byddwch chi yn y byd, gallwch helpu Abertawe drwy sefydlu cangen leol o’r Gymdeithas i alluogi hen ffrindiau i gadw mewn cysylltiad. Gallwch hefyd helpu i hyrwyddo’r Brifysgol i ddarpar fyfyrwyr yn y DU, yn Ewrop neu’n rhyngwladol. Am wybodaeth ynglyn â’n Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr, ewch i:

www.swansea.ac.uk/discovery

www.swan.ac.uk/cy/cynfyfyrwyr

Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r sector cyhoeddus yn ein galluogi i ychwanegu gwerth gwirioneddol at eich addysg. Rydyn ni’n gwrando’n ofalus ar gyflogwyr pan fyddan nhw’n dweud wrthym ba sgiliau a phrofiadau y maen nhw’n eu mynnu gan weithwyr graddedig, ac rydyn ni’n teilwra ein cyrsiau i wneud yn siwr eich bod yn ennill y sgiliau proffesiynol a lefel uchel a fydd yn eich galluogi chi i ffynnu yn y byd cynyddol gystadleuol heddiw.

Caiff llawer o’n cyrsiau eu hachredu gan gyrff proffesiynol. Maent yn cynnig lleoliadau prosiect gyda diwydiant, ac yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio’ch gwybodaeth mewn lleoliad ymarferol. Wedi’r cyfan, dim ond un rhan yn unig o’r hyn yr ydym yn ei wneud yw datblygu eich sgiliau academaidd a’ch hoffter o ysgolheictod. Byddwn hefyd yn eich annog i ennill cymaint o brofiad ymarferol ag sy’n bosibl.

Dyna pam mae pob disgrifiad cwrs yn y prosbectws hwn yn dweud wrthych chi’n glir beth y bydd y radd yn eich hyfforddi chi i’w wneud a pha sgiliau y bydd yn eich helpu i’w hennill.

Rydyn ni hefyd wedi arloesi’r cynllun lleoliad gwaith GOWales, sy’n helpu myfyrwyr i ddod o hyd i waith gyda chwmnïau lleol bach a chanolig eu maint yn ogystal â sefydliadau’r sector cyhoeddus, gan roi’r cyfle i chi wella eich sgiliau a’ch rhagolygon gyrfaol.

Gwasanaeth Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddOs nad ydych chi wedi penderfynu beth i’w wneud ar ôl y brifysgol, peidiwch â phryderu. Os oes gennych ddiddordeb mewn swyddi, astudiaethau ôl-raddedig, gwaith gwirfoddol, neu os ydych am gymryd blwyddyn i ffwrdd, mae ein cynghorwyr hyfforddedig wrth law i roi’r gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch.

Gallwn ni eich helpu i: • ddatblygu portffolio o sgiliau perthnasol, gwybodaeth

a phrofiad ymarferol • ennill y budd mwyaf o leoliadau swydd a gwaith gwyliau • dod o hyd i swyddi rhan-amser yn ystod y tymor a

chyfleoedd eraill i ddatblygu eich sgiliau • cwblhau ceisiadau swydd a pharatoi ar gyfer cyfweliadau • sicrhau cyflogaeth addas neu gyfleoedd astudio pellach

ar ôl graddio

Mae gennym Ddesg Gymorth yn y Llyfrgell ac adnoddau gwybodaeth helaeth i helpu â chynllunio eich dyfodol. Mae Ymgynghorwyr Gyrfaoedd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener i roi arweiniad ar unrhyw fater sy’n ymwneud â gyrfaoedd, a bydd ein gwefan www.swansea.ac.uk/careers yn ddefnyddiol i chi hefyd. Mae’r wefan hon yn cael ei diweddaru’n ddyddiol a cheir yno lawer o wybodaeth a dolenni defnyddiol. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd a mynychu digwyddiadau Gyrfaoedd.

O ddifrif am eich sgiliau

Oeddech chi’n gwybod? Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi’i achredu’n allanol gan y safon Ansawdd Matrics ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Fel rhan o Wasanaethau Systemau Gwybodaeth, mae hefyd wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth am Wasanaeth Cwsmeriaid, sef safon gwasanaeth cwsmeriaid y Llywodraeth. {

Page 92: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

180 181

Astudio Tsieinëeg – yn TsieinaYn 2009, lansiwyd cyfle cyffroes gennym i bob myfyriwr ddysgu Tsieinëeg Mandarin ar y cyd â’u gradd. Os ydych yn penderfynu dilyn y dosbarthiadau iaith allgyrsiol yn Abertawe, efallai y bydd cyfle gennych i dreulio hyd at bedair wythnos yn Tsiena yn ystod yr haf, yn astudio iaith a diwylliant Tsieineaidd yn un o’n prifysgolion partner.

Hyd yn oed os na fedrwch ymrwymo i’r daith i Tsieina, rydym yn argymell eich bod yn dilyn y dosbarthiadau iaith. Mae gan Tsieina ddylanwad cryf ar yr economi fyd-eang, felly byddai medru siarad yr iaith yn rhoi hwb i’ch rhagolygon swydd.

Adeiladu sgiliau yn IndiaRydym hefyd yn datblygu prosiectau newydd i gynorthwyo ein myfyrwyr i ennill profiad astudio a phrofiad gwaith gwerthfawr yn India. Mae ein rhaglen beilot Astudio yn India yn galluogi myfyrwyr i brofi bywyd yn India, drwy gyfuno darlithoedd mewn coleg partner gyda gwaith gwirfoddol mewn canolfan ddatblygu wledig a chydag elusennau yn y dinasoedd.

Rydym hefyd wedi datblygu cynllun lleoliad gwaith sy’n creu cysylltiadau gyda nifer o gwmnïoedd rhyngwladol sydd â’u swyddfeydd mewn dinasoedd megis Bangalore, Mumbai a Hyderabad – mae un o’r myfyrwyr cyntaf i fanteisio ar y cynllun wedi cwblhau swydd meddyg preswyl gyda GE Healthcare yn Bangalore, ac wedi cael gwarant swydd pan fydd yn graddio.

Rhaglenni Haf UDA Mae’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol hefyd yn gweinyddu rhaglenni poblogaidd, sy’n rhoi’r cyfle i chi brofi byw a gweithio yn UDA. Mae gan y Brifysgol dros ugain mlynedd o brofiad trefnu teithiau cyfnewid academaidd gydag UDA, ac yn mwynhau cysylltiadau cryf gyda nifer o gwmnïoedd a sefydliadau Americanaidd.

Mae’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol hefyd yn gweithio i ddatblygu rhaglenni haf newydd gyda gwledydd ar draws y byd. Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig mwy na chyfle am daith eich bywyd. Byddant yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau a phersbectif byd-eang a fydd yn para am oes.

Am ragor o fanylion ynghylch unrhyw un o’r cyfleoedd hyn, cysylltwch â’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol:Ffôn: +44 (0)1792 602365 E-bost: [email protected]

Wrth i fwy a mwy o fusnesau recriwtio talent ar draws y byd, rydym yn dod o hyd i ffyrdd newydd o sicrhau eich bod yn sefyll allan, waeth o ble yn y byd yr ydych yn dod, ac rydym yn annog ein holl fyfyrwyr i gymryd mantais o’r cyfleoedd i ennill profiad o wledydd a diwylliannau newydd.

Ein nod yw rhoi cyfle i’n holl israddedigion dreulio cyfnod yn astudio neu’n gweithio dramor. Pan fydd myfyrwyr yn dychwelyd o’r teithiau cyfnewid neu leoliadau gwaith hyn, rydym yn gweld gwir wahaniaeth yn eu hyder, eu sgiliau cyfathrebu, a’u haeddfedrwydd, ac mae’r mwyafrif llethol wedi ennill gwybodaeth a phrofiadau na allwch mewn gwirionedd eu hailadrodd heb y cipolwg hwnnw i ddiwylliannau newydd.

Mae astudio a gweithio dramor:

• yn eich gwobrwyo gyda rhagolwg rhyngwladol y mae cyflogwyr yn ei groesawu

• yn eich cynorthwyo i ennill hyder a dod yn fwy hunan ddibynnol

• yn rhoi’r annibyniaeth a’r hwb i chi a fydd yn rhoi’r dechrau gorau posib i’ch gyrfa

Mae gennym gysylltiadau astudio tramor gyda mwy na 100 o brifysgolion partner o amgylch y byd, o Ewrop, Asia ac Awstralasia, i Ogledd a De America.

Os ydych yn dewis un o’n rhaglenni gradd pedair blynedd i israddedigion, byddwch fel arfer yn astudio yn un o’n prifysgolion partner yn ystod eich trydedd flwyddyn. Os ydych ar raglen dair blynedd, gallwch fanteisio ar y cyfle i “astudio dramor yn lle astudio yn Abertawe”, sy’n golygu efallai y bydd modd i chi dreulio tymor o’ch ail flwyddyn dramor.

Ceir rhestr lawn o’n prifysgolion partner yn:

Cyflwyno ErasmusOs ydych yn penderfynu astudio neu weithio yn Ewrop am gyfnod o rwng tri neu ddeuddeg mis fel rhan o’ch gradd, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn grant o dan gynllun Erasmus, cynllun addysgiadol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch. Os byddwch yn treulio blwyddyn gyfan dramor, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer hepgoriad i’ch ffioedd dysgu. Mae nifer o leoliadau Ewropeaidd lle y dysgir drwy gyfrwng y Saesneg, felly nid yw’n

angenrheidiol i chi siarad ail iaith. Am ragor o fanylion am ein cynllun Erasmus, ewch i:

Gweithio dramor Os ydych yn dilyn rhaglen radd bedair blynedd, efallai y bydd modd i chi dreulio eich trydedd flwyddyn ar leoliad gwaith yn hytrach nag astudio mewn prifysgol bartner. Cysylltwch â Thiwtor Derbyn y cwrs sydd o ddiddordeb i chi i drafod y cyfleoedd am weithio dramor fel rhan o’ch gradd. Mae nifer o’n myfyrwyr yn dewis gweithio fel Cynorthwywyr Iaith y Cyngor Prydeinig, yn enwedig os ydynt yn astudio ieithoedd neu’n gobeithio mynd i ddysgu. Ceir rhagor o fanylion yn:

Efallai y bydd modd i chi hefyd drefnu lleoliad gwaith cyflogedig neu wirfoddol dramor. Mewn egwyddor, yr ydym yn falch o gefnogi pob cyfle i ennill profiad rhyngwladol, ond bydd angen i gydlynydd blwyddyn tramor eich cwrs gymeradwyo’r lleoliad. Gall lleoliadau yn y rhan fwyaf o leoliadau yn Ewrop hefyd fod yn gymwys ar gyfer cefnogaeth gan y rhaglen Erasmus.

Astudio a gweithio dramor

Bydd astudio neu weithio dramor yn ychwanegu gwerth at eich CV.

Os ydych yn mwynhau teithio ac yn awyddus i brofi byw mewn diwylliant arall, beth am ystyried byw a gweithio dramor fel rhan o’ch gradd?

www.swansea.ac.uk/international/opportunities/study-abroad/exchange

www.swansea.ac.uk/international/opportunities/study-abroad/erasmus

www.britishcouncil.org/languageassistants

Page 93: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

182

Rydyn ni’n credu y dylai addysgu roi pleser yn ogystal ag ysgogi a herio.

Cewch eich ysbrydoli

Bydd yr adran hon yn rhoi gwybodaeth i chi am:

• ein hymrwymiad i ragoriaeth mewn dysgu ac addysgu

• ein hagwedd tuag at e-ddysgu a defnyddio technolegau

newydd yn y theatr ddarlithio

• ein llyfrgell a’n hadnoddau dysgu

• sut y bydd eich tiwtor personol yn eich cefnogi drwy gydol

eich amser yn Abertawe

• cyfleoedd i astudio’n rhan-amser

• strwythur eich gradd

Elwa o’n hymchwil o safon fyd-eang

Mae ein staff academaidd yn ymchwilio yn gyson sydd yn help i gadw ein dysgu yn fyw, yn berthnasol ac yn gyfredol. Gall fod yn gofiadwy ac yn ysbrydoledig iawn cael eich addysgu gan y bobl sydd wedi ysgrifennu testunau allweddol ar gyfer eich cwrs. Mae hefyd yn golygu eich bod yn dysgu am ddamcaniaethau a thechnolegau newydd wrth iddynt gael eu datblygu a’u rhoi ar waith.

Page 94: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

184 185

Gallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael gwasanaeth gwych – rydym ymhlith nifer fechan o lyfrgelloedd a gwasanaethau TGCh yn y DU sydd wedi derbyn gwobr Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid.

Rheolir y llyfrgell gan Wasanaethau Gwybodaeth a Systemau, sydd hefyd yn rheoli’r rhwydwaith TG y byddwch yn ei ddefnyddio trwy gydol eich cyfnod yn Abertawe, yn cynnwys y rhwydwaith diwifr sydd ar gael yn y rhan fwyaf o’r adeiladau ar gampws Singleton a’n holl lety myfyrwyr (yn cynnwys Hendrefoelan a Thy Beck).

Mae system gyfrifiadurol y campws wedi’i chysylltu â’r byd tu allan trwy gyfrwng y rhwydwaith cyflym JANET. Ar sawl golwg, rydym ar flaen y gad wrth archwilio gallu rhwydweithiau o’r fath i ddarparu technolegau amlgyfrwng, fideo a thechnolegau eraill sy’n fwyfwy annatod i arferion dysgu ac addysgu modern.

Mae dros 1,900 o gyfrifiaduron ar gael i fyfyrwyr eu defnyddio ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein rhwydwaith myfyrwyr yn rhoi’r canlynol i chi:

• mynediad am ddim i’r Rhyngrwyd

• cyfrif e-bost a storfa ffeiliau bersonol

• mynediad i gatalog y llyfrgell ar-lein

• y cyfle i ail-fenthyg ac archebu llyfrau

• mynediad i filoedd o erthyglau mewn cyfnodolion ar-lein

• cyfleuster i chwilio cronfeydd data gwybodaeth wedi’u rhwydweithio

• ffordd hawdd o gadw mewn cysylltiad â thiwtoriaid a myfyrwyr eraill

• mynediad i Amgylchedd Dysgu Rhithiol (Blackboard)

• mynediad hawdd i swyddogaethau gweinyddol gan gynnwys cofrestru

Os ydych yn berchen ar eich gliniadur eich hun gallwch ei gysylltu â rhwydwaith diwifr y Brifysgol. Mae gennym hefyd oddeutu 100 gliniadur i’w llogi. Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan yn:

Adnoddau dysgu

www.swansea.ac.uk/iss

Rydym eisoes yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau a thechnolegau, megis efelychiadau senario, blogiau, podlediadau, fodlediadau a rhwydweithio cymdeithasol, yn ogystal â rhoi darlithoedd rhyngweithiol gan ddefnyddio systemau ymateb cynulleidfa a adnabyddir fel ‘clicwyr’.

Byddwch hefyd yn gwneud defnydd rheolaidd o Blackboard, ein hamgylchedd dysgu rhithwir, sy’n hwyluso dysgu ac addysgu ar-lein.

Drwy Blackboard, cewch fynediad i ddeunyddiau cwrs, taflenni a nodiadau darlith, yn ogystal ag ardal gyffredin ar gyfer gwaith grwp, trafodaethau ar-lein a chyfnewid syniadau â’ch cyd-fyfyrwyr.

Sefydlwyd ein Hacademi Dysgu ac Addysgu Abertawe yn 2009 i gynnig y cyngor a’r arweiniad strategol angenrheidiol i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig profiad dysgu ardderchog, a’n bod yn gwneud y gorau o dechnolegau addysgu newydd.

Rydym bob amser yn chwilio am ddulliau arloesol i ychwanegu gwerth at eich profiad dysgu drwy ddefnyddio arferion gorau i wella ansawdd ein haddysgu ac i roi mwy o gyfle i chi ddweud wrthym beth rydych chi’n ei feddwl o sut rydych chi’n cael eich addysgu.

Dysgu ac addysgu arloesol

Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth

Mae ein llyfrgell wedi’i lleoli mewn man canolog ar y campws ac mae yno amrywiaeth eang o adnoddau i’ch helpu i gael y gorau o’ch astudiaethau.

Ni hefyd sydd â’r oriau agor hiraf o blith holl lyfrgelloedd prifysgolion Cymru. Rydym ar agor am dros 110 awr yr wythnos yn ystod y tymor, yn cynnwys Suliau, ac rydym ar agor 24 awr yn ystod cyfnodau arholiadau a thymor yr Haf. Mae gennym dros 800,000 o lyfrau, cyfnodolion, papurau newydd a deunyddiau argraffedig eraill, yn ogystal â fideos, DVDau ac amrywiaeth eang o raglenni meddalwedd. Ar hyn o bryd rydym yn darparu:

• 450 cyfrifiadur i chi eu defnyddio pan fo’r Llyfrgell ar agor

• cefnogaeth un i un i gysylltu eich gliniadur neu’ch cyfrifiadur â’n rhwydwaith diwifr

• cyfleusterau hunanwasanaeth i fynd ag eitemau allan a’u dychwelyd eich hun i arbed amser i chi

• amrywiaeth o ardaloedd astudio tawel ac ardaloedd ar gyfer astudio mewn grwpiau

• cyfleusterau penodol ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig

• cyngor ac arweiniad manwl gan staff cyfeillgar a pharod eu cymorth

• llungopiwyr, sganwyr ac argraffwyr

• cyrsiau ar sut i wneud y defnydd gorau o’n gwasanaethau a’n hadnoddau

Page 95: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

186 187

Meddwl am y Brifysgol? Siarad Cymraeg? Beth am astudio trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog?Mae astudio rhywfaint o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn gallu cynnig manteision i chi fel myfyriwr:

Cam naturiol: Mae nifer sylweddol o’n myfyrwyr wedi astudio’n Gymraeg neu’n ddwyieithog yn yr ysgol neu’r coleg, felly mae’n gam naturiol i astudio trwy’r Gymraeg yn y brifysgol hefyd.

Mantais i’ch CV: Byddwch hefyd yn dod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio terminoleg arbenigol yn y Gymraeg sy’n gallu bod yn fantais wrth i chi chwilio am swydd ar ôl graddio. Bydd nodi’r sgil hon yn ychwanegiad atyniadol iawn ar eich CV a hithau’n fyd o gystadlu brwd am swyddi.

Mwy o sylw: Yn aml iawn, mae’r dosbarthiadau’n llai sy’n golygu mwy o sylw gan ddarlithwyr a thiwtoriaid.

Mantais ariannol: Mewn rhai meysydd mae modd i fyfyrwyr dderbyn arian trwy ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg penodol.

Mae cyfle i chi astudio rhywfaint o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn y meysydd canlynol:

• Almaeneg*• Astudiaethau Busnes• Astudiaethau’r Cyfryngau*• Astudiaethau Iechyd• Biowyddorau• Cymraeg*• Daearyddiaeth*• Ffrangeg*• Gwaith Cymdeithasol• Hanes• Mathemateg• Nyrsio*• Peirianneg• Sbaeneg*• Y Gyfraith*

* ysgoloriaeth ar gael gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am

astudio’r cyfan neu rywfaint o’r cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae ysgoloriaethau eraill ar draws y pynciau ar gael gan y

Brifysgol i rai sydd am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Lynsey Thomas, Swyddog Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 01792 602912 neu [email protected]

Barn y myfyrwyr

Darpariaeth cyfrwng CymraegOs ydych yn dymuno gweithio, astudio, neu deithio tramor, gall sgiliau iaith eich helpu. Pan fyddwch yn ceisio am swyddi, gall sgiliau iaith fod yn fonws, a’ch gosod ar wahân i’r ymgeiswyr eraill.

Mae’r rhaglen Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i chi ennill sgiliau iaith sylfaenol tra’ch bod yn ennill credydau tuag at eich gradd, pa raglen bynnag y byddwch yn ei hastudio.

Pa ieithoedd y gallaf eu hastudio?Mae modiwlau Ieithoedd i Bawb ar gael yn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, a’r Gymraeg. Hefyd, mae’r modiwlau Ffrangeg a Sbaeneg ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

Beth y byddaf yn ei ddysgu?Bydd modiwl Ieithoedd i Bawb yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol o ran darllen, ysgrifennu, gwrando, a siarad yn yr iaith o’ch dewis, ac o ran defnyddio’r iaith mewn modd effeithiol mewn sefyllfaoedd bob dydd.

Pwy gaiff astudio modiwlau Ieithoedd i Bawb? Mae modiwlau Ieithoedd i Bawb ar agor i fyfyrwyr Lefel Un, Lefel Dau, a Lefel M ar unrhyw raglen radd ar draws y Brifysgol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Ieithoedd i bawb

www.swansea.ac.uk/artsandhumanities/artsandhumanitiesadmissions

“Penderfynais astudio Ffrangeg ym Mhrifysgol

Abertawe gan fod llawer o ddewis ar gael i astudio

drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyn cychwyn, roeddwn

i’n pryderu na fuasai llawer o fyfyrwyr Cymraeg yn

y Brifysgol, ond mae nifer fawr o siaradwyr Cymraeg

yma. Ar ôl dim ond blwyddyn o astudio drwy’r Gymraeg

yn y Brifysgol, rydw i’n teimlo bod gen i fantais dros

fyfyrwyr cyfrwng Saesneg gan fy mod i’n medru cyfieithu

o Ffrangeg i Gymraeg a Saesneg ac rydw i’n gwybod

y bydd y sgiliau ychwanegol hynny’n werthfawr wrth i fi

chwilio am swydd yn y dyfodol.” Charlotte Ward, myfyrwraig ail flwyddyn, BA Ffrangeg

“Awyrgylch bywiog a chyffrous y brifysgol wnaeth

fy nenu i Abertawe. Mae’n lleoliad gwych: rhwng y môr

a dinas fyrlymus, ac mae yma gyfle i fwynhau manteision

y ddau fyd. Yn fy mhrofiad i, mae’r darlithwyr yn barod

iawn i roi cymorth i fyfyrwyr ar unrhyw adeg. Mae’n braf

hefyd i weld y Gymraeg yn ennill tir yma, ac mae’r

dewisiadau ar gyfer astudio trwy gyfrwng yr iaith yn

cynyddu o hyd. Dewch i Abertawe i brofi’r wefr.”Hannah Sams, wedi graddio â BA Cymraeg o Brifysgol Abertawe yn 2011.

Bellach yn cwblhau MA trwy Ymchwil.

Page 96: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

188

Academi Hywel Teifi Mae Academi Hywel Teifi yn sefydliad arbennig iawn a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y brifysgol ac i weithredu fel pwerdy ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Y mae tair elfen i waith Academi Hywel Teifi - mae’n ganolfan ragoriaeth ar gyfer astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth, mae’n hybu addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ar draws y pynciau a gaiff eu dysgu yn y brifysgol ac mae’n gweithio i sicrhau lle amlycach i’r iaith ym mhob agwedd o fywyd y brifysgol a rhanbarth de-orllewin Cymru.

Tra bod yr Academi’n gartref i dîm creiddiol o staff mae hefyd yn darparu cymuned ar gyfer pawb sy’n cynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol ac i’r 3,500 o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma. At hynny, mae Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi’i lleoli o fewn yr Academi.

Trwy amrywiol weithgareddau mae’r Academi yn cefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe gan hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Academi yn darparu’r amgylchedd gorau posibl i’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ffynnu yn y Brifysgol a’r rhanbarth, gan roi’r adnoddau i’r staff addysgu a’r staff ymchwil gyfrannu’n genedlaethol at lwyddiant y Gymraeg ac mae myfyrwyr a ddaw yma o bob cwr o Gymru yn medru elwa ar adnoddau sefydliad o statws cenedlaethol. Y nod yw sicrhau y bydd myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cael y gorau o ddau fyd - profiad Cymreig a Chymraeg mewn prifysgol ag iddi gysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol.

Coleg Cymraeg CenedlaetholMae Prifysgol Abertawe yn gweithio ar y cyd â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae Cangen Prifysgol Abertawe o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi’i lleoli yn Academi Hywel Teifi, yn darparu cymorth a chefnogaeth i siaradwyr Cymraeg ar draws y campws. Mae drws y gangen ar agor i fyfyrwyr a staff sydd am wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael trwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac am y cyfleoedd sydd ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Pam fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn berthnasol i chi?Mae aelodaeth y Coleg yn agored i bawb sydd yn bwriadu dechrau astudio ar gwrs prifysgol yn y dyfodol agos. Rhaid i chi fod dros 16 mlwydd oed er mwyn ymaelodi â’r Coleg. Mae’r categori yma o aelodaeth yn agored i fyfyrwyr ysgol, myfyrwyr addysg bellach a myfyrwyr sydd yn ystyried astudio mewn prifysgol ond sydd tu allan i’r system addysg ar hyn o bryd. Bydd myfyrwyr mewn sefydliadau Addysg Bellach yn perthyn i gategori ‘Darpar Fyfyrwyr’ fel rheol, ond os ydych yn dilyn cwrs addysg uwch yn y sefydliad, byddwch yn gymwys i ymaelodi yng nghategori ‘Myfyrwyr Prifysgol’.

Bydd Darpar Fyfyrwyr yn derbyn y buddion / manteision canlynol wrth ymaelodi â’r Coleg:

• Bod yn gymwys i ymgeisio am Ysgoloriaethau Israddedig y Coleg

• Derbyn gwybodaeth reolaidd am weithgareddau o ddiddordeb e.e. ymweliadau ysgolion a ffeiriau i ddisgyblion blwyddyn 11 a 12, digwyddiadau Mantais

• Derbyn fersiwn electronig o gylchlythyr Mantais

• Derbyn gohebiaeth a chylchlythyron rheolaidd gan Mantais / y Coleg yn ystod y flwyddyn

• Derbyn gwybodaeth am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg prifysgolion drwy’r chwilotydd cyrsiau ar wefan Mantais

Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gynlluniau ysgoloriaethau sydd yn agored i fyfyrwyr sydd am astudio rhan o’u cwrs, neu’r cwrs cyfan, trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir derbyn hyd at £1,000 y flwyddyn am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Am wybodaeth bellach, gweler tudalennau’r Coleg Cymraeg ar wefan Academi Hywel Teifi: www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi neu wefan Ymgyrch Mantais y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: http://www.mantais.ac.uk/arian

Page 97: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

191190

Beth yw tiwtor personol? Mae’n hollol amlwg bod lefel y gefnogaeth a gewch yn cyfateb i faint y byddwch yn elwa o’ch astudiaethau. Dyna pam ein bod yn clustnodi tiwtor personol ar eich cyfer all drafod eich cynnydd academaidd a phersonol bob cam o’r ffordd. Gall tiwtora personol ychwanegu gwerth gwirioneddol at brofiad yn y brifysgol, yn enwedig yn ystod yr wythnosau a’r misoedd cyntaf o fywyd prifysgol.

Sut mae fy nghynnydd yn cael ei fonitro? Bydd eich tiwtoriaid yn cwrdd â chi’n rheolaidd i wneud yn siwr eich bod yn gwneud cynnydd boddhaol o ran presenoldeb, perfformiad mewn arholiadau ac mewn unrhyw aseiniadau y mae disgwyl i chi eu gwneud.

Sut mae fy ngradd yn cael ei dosbarthu? Bydd y radd y byddwch yn ei derbyn yn cael ei dyfarnu gan Brifysgol Abertawe. Mae ein graddau Anrhydedd yn cael eu dosbarthu fel Dosbarth Cyntaf, Ail Ddosbarth (Adran Un neu Ddau) neu Drydydd Dosbarth, a gradd Basio.

Oes modd i mi astudio modiwlau yn Gymraeg? Oes. Os ydych chi’n siarad Cymraeg fel mamiaith neu ail iaith, neu os aethoch i ysgol Gymraeg. Gallwch astudio rhan o fodiwlau neu fodiwlau cyfan trwy gyfrwng y Gymraeg mewn meysydd fel y Cyfryngau, Daearyddiaeth, y Gyfraith, Peirianneg, Hanes, Mathemateg, y Biowyddorau, Almaeneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Gwaith Cymdeithasol, Gwyddor Iechyd a Chymraeg. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: [email protected]

Ydw i’n gallu cyflwyno asesiadau a chael fy arholi yn Gymraeg? Ydych. Cyn belled â’ch bod yn rhoi gwybod i ni o flaen llaw, gallwch gyflwyno gwaith i’w asesu yn Gymraeg tra’n astudio modiwlau cyfrwng Saesneg beth bynnag eich pwnc. Yr unig eithriadau yw asesiadau sy’n seiliedig ar eich gwybodaeth o iaith arall. Os hoffech gyflwyno eich papurau arholiad, eich gwaith asesedig neu draethodau hir yn Gymraeg, bydd angen i chi roi gwybod i’ch Coleg/Ysgol Academaidd o fewn pedair wythnos i gofrestru ar y modiwl(au), neu wrth gofrestru os ydyw’r modiwl yn llai na phedair wythnos o hyd. Bydd y Coleg/Ysgol Academaidd yn anfon eich cais ymlaen at y Gofrestrfa Academaidd a fydd yn gwneud y trefniadau cyfieithu priodol. Cysylltwch ag: [email protected] am ragor o wybodaeth.

Ydw i’n gallu trosglwyddo? Efallai y byddwch yn gallu newid y cyfuniad o fodiwlau rydych yn eu hastudio cyn belled â bod y trosglwyddo’n digwydd o fewn y terfyn amser a bennwyd.

Efallai y bydd hi hefyd yn bosibl newid eich rhaglen radd ar ôl i chi gael eich derbyn i’r Brifysgol os oes lle gwag yn yr Ysgol berthnasol/Coleg perthnasol ac os ydych yn meddu ar y cymwysterau priodol i astudio’r rhaglen newydd. Fel arfer bydd angen i unrhyw drosglwyddo gael ei gymeradwyo erbyn diwrnod cyntaf wythnos addysgu gyntaf Lefel Dau.

Ydw i’n gallu astudio’n rhan-amser? Rydym yn annog agwedd hyblyg tuag at astudio, beth bynnag yw eich amgylchiadau, ac yn croesawu ymholiadau gan fyfyrwyr rhan-amser posib. Mae ein Hadran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) yn rheoli ein darpariaeth dysgu gydol oes a hefyd yn ystyried pob cais gan fyfyrwyr hyn yn ei rinwedd ei hun. Mae modd dilyn y rhan fwyaf o’n graddau yn rhan-amser, sy’n caniatáu i chi astudio ar gyflymder sy’n cyd-fynd â’ch ffordd o fyw. Os ydych am gael manylion pellach am astudio am radd yn rhan-amser, cysylltwch â Swyddog Derbyn y cwrs. Efallai bod gennych ddiddordeb yn ein gradd ran-amser yn y Dyniaethau, Saesneg, Hanes a Hanes yr Henfyd – gweler tudalen 158 am ragor o fanylion. Am ragor o wybodaeth am astudio gydag AABO, ewch i’n gwefan:

neu ffoniwch: +44 (0)1792 295499.

Am ragor o wybodaeth darllenwch y Canllaw Academaidd ar-lein:

www.swansea.ac.uk/dace

www.swansea.ac.uk/registry/academicguide/

Cwestiynau cyffredin am astudio

Modiwlau? Credydau? Rhaglenni? Dyma ein canllaw cyflym i’r ffordd y caiff eich gradd ei strwythuro.

Beth yw rhaglen radd? Casgliad o fodiwlau yw rhaglen radd sy’n cyfuno i ffurfio cyfanwaith sy’n dderbyniol yn academaidd. Pan fyddwch yn ymrestru, byddwch yn derbyn llawlyfr sy’n rhoi manylion strwythur eich rhaglen radd ac yn dweud wrthych ba fodiwlau sy’n orfodol neu’n opsiynol, ac os ydych yn gallu dilyn unrhyw fodiwlau dethol.

Beth yw modiwl? Modiwlau yw blociau adeiladu eich gradd. Unedau annibynnol ydyn nhw fel arfer, yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a gwaith ymarferol. Byddwch fel arfer yn cael cyfle i ddewis o blith amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol, ynghyd â modiwlau craidd gorfodol sy’n ofynnol ar gyfer eich gradd.

Mae gan bob modiwl ei faes llafur, ei ganlyniadau dysgu a’i ddulliau asesu unigryw ei hun, a byddwch yn cael cyngor gan eich tiwtoriaid i’ch helpu i ddewis y modiwlau fydd o’r budd mwyaf i chi. Byddwch yn derbyn pwyntiau credyd am bob modiwl y byddwch yn ei gwblhau.

Modiwlau dewisol yw modiwlau nad ydynt yn rhan o’ch prif raglen radd. Er enghraifft, os ydych yn astudio Peirianneg ac yn dymuno astudio Iaith Fodern, efallai y byddwch yn gallu dilyn modiwl dewisol yn yr iaith yr hoffech ei hastudio. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael gan eich Coleg neu eich Ysgol Academaidd.

Beth yw pwyntiau credyd? Mae pob modiwl yn werth nifer penodedig o bwyntiau credyd. Bydd disgwyl i chi astudio’r hyn sy’n cyfateb i 12 modiwl deg credyd ar bob Lefel (blwyddyn astudio), gan roi cyfanswm o 360 credyd ar ôl cwblhau gradd dair blynedd (480 ar gyfer graddau pedair blynedd).

Page 98: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Bydd yr adran hon yn rhoi gwybodaeth i chi am:

• ffioedd dysgu a chyllid myfyrwyr i fyfyrwyr y DU, myfyrwyr yr UE,

a myfyrwyr rhyngwladol

• sut mae benthyciadau i fyfyrwyr yn gweithio, a sut i wneud

ceisiadau amdanynt

• sut y mae ein hysgoloriaethau a’n bwrsariaethau yn gwobrwyo

dawn academaidd a chwaraeon

• cyfleoedd i ennill arian wrth astudio

• y cyngor a’r cymorth ariannol a’r cronfeydd wrth gefn yr ydym

yn eu darparu

Mae mynd i’r Brifysgol yn fuddsoddiad ariannol sylweddol. Mae rheoli eich arian yn ofalus yn rhan hanfodol o’r profiad myfyriwr.

192

Rheoli eich arian

£3,000 Ysgoloriaethau Rhagoriaeth{ i bob myfyriwr sy’n ennill tair gradd A ar lefel Safon Uwch neu gyfwerth

Page 99: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

195194

Ffioedd dysgu ar gyfer mynediad yn 2013

Myfyrwyr o GymruBydd Prifysgol Abertawe yn codi ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn. Fodd bynnag, os ydych yn preswylio yng Nghymru, ac yn astudio ar gyfer eich gradd gyntaf, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd ymlaen llaw. Rydych yn gymwys i dderbyn:

• Grant ffioedd dysgu o £5,535 y flwyddyn oddi wrth Lywodraeth Cymru (yn amodol ar delerau ac amodau)

• Benthyciad ffioedd dysgu o £3,465 y flwyddyn, y mae’n rhaid ei ad-dalu

• Benthyciad cynhaliaeth o hyd at £4,745 (£3,673 os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni) i helpu gyda’ch costau byw (yn dibynnu ar incwm eich cartref)

• Grant Dysgu’r Cynulliad, ar sail prawf moddion, o hyd at £5,000 i helpu gyda’ch costau byw (yn dibynnu ar incwm eich cartref)

• Caiff hyd at £1,500 o’ch Benthyciad Cynhaliaeth ei dileu unwaith y byddwch yn dechrau ad-dalu

Am ragor o wybodaeth, ewch i:

Myfyrwyr o fannau eraill yn y DUBydd Prifysgol Abertawe yn codi ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn. Fodd bynnag, os ydych yn preswylio yn Lloegr, ac yn astudio ar gyfer eich gradd gyntaf, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd ymlaen llaw. Rydych yn gymwys i dderbyn:

• Benthyciad ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn, y mae’n rhaid ei ad-dalu

• Benthyciad cynhaliaeth o hyd at £5,500 (£4,375 os ydych yn byw yng nghartref eich rhieni) i helpu gyda’ch costau byw (yn dibynnu ar incwm eich cartref)

• Grant Cynhaliaeth, ar sail prawf moddion, o hyd at £3,250 i helpu gyda’ch costau byw (yn dibynnu ar incwm eich cartref)

Am ragor o wybodaeth, ewch i:

Myfyrwyr o’r UE Bydd Prifysgol Abertawe yn codi ffioedd dysgu o £9,000* y flwyddyn. Fodd bynnag, os ydych yn fyfyriwr o’r UE, ac yn ymgeisio i astudio yng Nghymru ar gyfer eich gradd gyntaf, ni fydd yn rhaid i chi dalu’r ffioedd ymlaen llaw.

Rydych yn gymwys i dderbyn:• Grant ffioedd dysgu o £5,535 y flwyddyn oddi wrth

Lywodraeth Cymru (yn amodol ar delerau ac amodau) • Benthyciad ffioedd dysgu o £3,465 y flwyddyn, y mae’n

rhaid ei ad-dalu

• Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn grant i helpu gyda’ch costau byw os ydych yn cwrdd ag amodau preswylio penodol

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Tîm Ewropeaidd Gwasanaethau Cyllid Myfyrwyr Blwch 89, Darlington, DL1 9AZFfôn: +44 (0) 141 243 3570

Ad-dalu Nid oes rhaid dechrau ad-dalu benthyciadau tan eich bod wedi gorffen astudio ac yn ennill dros £21,000 y flwyddyn. Atalir y taliadau os bydd eich cyflog yn cwympo o dan y trothwy hwn. Maint yr ad-daliadau yw 9% o’r incwm ar ôl £21,000. Er enghraifft, byddai rhywun sy’n ennill £25,000 y flwyddyn yn talu 9% o £4,000 (oddeutu £30 y mis). Dilëir unrhyw ddyled sydd yn weddill ar ôl 30 o flynyddoedd. Nid oes rhaid ad-dalu unrhyw grant (yn amodol ar delerau ac amodau).

Mae’r tabl isod yn dangos y swm wythnosol y gall myfyriwr ddisgwyl ei dalu:

Incwm blynyddol Incwm wythnosol Ad-daliad benthyciad wythnosol

£21,000 £404 £0

£25,000 £480 £6.92

£30,000 £577 £15.58

£35,000 £673 £24.23

* Mae pob ffigwr yn cyfeirio at y swm ar gyfer 2012, gyda’r bwriad o roi braslun yn unig. Mae Ffioedd Dysgu’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant, a chyhoeddir y lefelau newydd ar ein gwefan mor fuan ag y byddant yn hysbys: www.swansea.ac.uk/undergraduate/fees-and-funding/tuition-fees

Codir Ffioedd Dysgu ar bob myfyriwr bob blwyddyn, a byddant yn codi o flwyddyn i flwyddyn. Mae’r swm y bydd disgwyl i chi ei dalu’n amrywio, gan ddibynnu ar le’r ydych yn byw, beth ydych chi’n ei astudio, ac ar ba lefel.

www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

www.direct.gov.uk

www.direct.gov.uk

Page 100: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Ysgoloriaethau a bwrsariaethau

Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Rydym yn cynnig Ysgoloriaeth Rhagoriaeth gwerth £3,000 i bob myfyriwr newydd o’r DU/UE sy’n ymgeisio am gwrs lle mae angen talu ffioedd, ac sy’n derbyn AAA neu gyfwerth ar lefel Safon Uwch (gan eithrio Safon Uwch Astudiaethau Cyffredinol).

Ysgoloriaeth Teilyngdod Rydym yn cynnig Ysgoloriaeth Teilyngdod gwerth £2,000 i bob myfyriwr newydd o’r DU/UE sy’n ymgeisio am gwrs lle mae angen talu ffioedd, ac sy’n derbyn AAB neu gyfwerth ar lefel Safon Uwch (gan eithrio Safon Uwch Astudiaethau Cyffredinol).

Bydd ysgoloriaethau ar gael ym mhob maes pwnc (anrhydedd sengl, cyd-anrhydedd ac anrhydedd gyfunol), heblaw Gwaith Cymdeithasol, cyrsiau yn y Gwyddorau Iechyd, Meddygaeth i Raddedigion a chyrsiau lle y telir bwrsariaethau gan y cyrff proffesiynol priodol.

Ysgoloriaethau Chwaraeon Mae ein hysgolorion chwaraeon yn athletwyr o’r radd flaenaf sydd â’r potensial i fod o safon fyd-eang. Bob blwyddyn, rydym yn cynnig deg ysgoloriaeth mynediad israddedig gwerth £1,000 y flwyddyn i helpu ein hathletwyr nodedig â’u costau hyfforddi, cit, ffioedd trac a theithio.

Bwrsariaethau ar Sail IncwmBydd cymorth ariannol ychwanegol sylweddol ar gael i fyfyrwyr o gefndir incwm isel ar gyfer hyd gyfan y cwrs:

(Y pynciau blaenoriaeth yw: Peirianneg, Mathemateg, Cyfrifiadureg,

Biowyddoniaeth, Ffiseg, Ieithoedd Tramor Modern a’r Gyfraith).

Cyllid Adrannol Mae sawl un o’n Colegau a’n Hysgolion Academaidd wedi gosod cronfeydd o’r neilltu, neu wedi derbyn grantiau, i wobrwyo cyraeddiadau academaidd myfyrwyr. Mae’r gwobrau yn amrywio o ran gwerth i hyd at £2,500.

Ceir manylion llawn ein hysgoloriaethau a’n bwrsariaethau i gyd ar ein gwefan yn:

Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg CenedlaetholMae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gynllun Ysgoloriaethau. Cynigir dau gategori o ysgoloriaethau israddedig, sef Prif Ysgoloriaethau ar gyfer cyrsiau gradd lle mae o leiaf 240 credyd (neu o leiaf dwy ran o dair o’r cwrs, gan gynnwys o leiaf 80 credyd ym mhob blwyddyn) ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ac Ysgoloriaethau Cymhelliant, lle mae o leiaf 120 credyd (neu draean o’r cwrs, gan gynnwys o leiaf 40 credyd ym mhob blwyddyn) ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Prif Ysgoloriaethau yn werth £1,000 y flwyddyn (£3,000 dros dair blynedd) ac mae’r Ysgoloriaethau Cymhelliant yn werth £500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd).

Mantais sydd yn hyrwyddo’r Cynllun Ysgoloriaethau Israddedig ar ran y Coleg, a gellir canfod manylion llawn ynglyn â sut i fynd ati i wneud cais drwy fynd i

Incwm cartref Bwrsariaeth Bwrsariaeth Pwnc Blaenoriaeth Cyfanswm y bwrsariaethau posibl

£15,000 £3,000 £1,500 £4,500

£15,000 – £25,000 £2,000 £1,500 £3,500

£25,000 – £30,000 £1,000 £1,500 £2,500

www.swansea.ac.uk/scholarships

www.mantais.ac.uk/arian

196

Page 101: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Y camau nesaf

Bydd cyfle gennych i:

• gwrdd â’r Tiwtoriaid Derbyn

• mynd ar deithiau tywys o’r adrannau academaidd a dysgu rhagor ynglyn â’u cyrsiau

• archwilio ein campws cyfeillgar a chwrdd â rhai o’n myfyrwyr

• gweld sut y bydd y Ganolfan Gyrfaoedd yn eich paratoi ar gyfer bywyd ar ôl astudio

• dysgu mwy am ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg

• edrych ar ein cyfleusterau TG a llyfrgell

• trafod unrhyw ofynion arbennig â’r Swyddfa Anableddau / Gwasanaethau Myfyrwyr

• profi’r arlwyo ar y campws yn ein bwytai a’n caffis

• gweld sut y mae ein myfyrwyr yn byw drwy ymweld â rhai o’n preswylfeydd

Rhaid gweld i gredu – felly beth am gymryd golwg fanylach? Bydd ein Diwrnodau Agored yn rhoi syniad i chi o fywyd campws a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl o’r profiad yn Abertawe.

198

Ewch i www.swansea.ac.uk/opendays am ragor o fanylion neu ffoniwch +44 (0)1792 295784.

Bydd cyfle hefyd i chi ymweld â’r Brifysgol ar ôl i chi wneud cais – cysylltwch â’ch Coleg neu’ch Ysgol Academaidd am ragor o wybodaeth ynglyn ag ymweliadau ar ôl gwneud cais.

Ddydd Sadwrn 30 Mehefin Dydd Sadwrn 6 Hydref Dydd Sadwrn 10 Tachwedd{ Cynhelir ein Diwrnodau Agored ar gyfer mynediad yn 2013 ar:

Page 102: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

200 201

Bagloriaeth Cymru Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru â phynciau dewisol perthnasol. I gydnabod bod y cymhwyster yn paratoi ar gyfer ein cynlluniau gradd yn ardderchog, bydd ein cynigion yn cydnabod cwblhau Cymhwyster Craidd Bagloriaeth Cymru yn llwyddiannus.

Rydym hefyd yn croesawu amrediad eang o gymwysterau eraill, megis Bagloriaeth Ryngwladol neu Ewropeaidd, Diploma Uwch, BTEC, neu gwrs neu ddiploma mynediad. Rydym wrthi o hyd yn adolygu derbynioldeb cymwysterau newydd, felly os ydych yn sefyll arholiadau nad ydynt wedi’u rhestru, cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyn. Gweler y tabl ar dudalen 203 am ragor o wybodaeth.

Dyddiadau a dyddiadau cau• Mae modd i chi gyflwyno’ch cais i

UCAS o 1 Medi 2012 (ar gyfer mynediad yn yr hydref 2013)

• Y dyddiad cau cyntaf yw 15 Hydref 2012 os ydych yn astudio Meddygaeth, Deintyddiaeth, neu os ydych hefyd yn gwneud cais i Rydychen neu Gaergrawnt

• Y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr cartref a’r UE yw 15 Ionawr 2013

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol yw 30 Mehefin 2013 Byddwn yn eich argymell i gyflwyno’ch cais cyn gynted â phosib. Er bod ceisiadau a wneir ar ôl y dyddiad cau yn bosib, nid ydym yn gallu gwarantu y byddwn yn eu hystyried yn yr un modd â cheisiadau a gyflwynir ar amser.

Pan fyddwn yn derbyn eich cais gan UCAS, bydd y Tiwtoriaid Derbyn ar gyfer eich cwrs dewisol yn:

• gwneud yn siwr eich bod yn cwrdd â’r gofynion mynediad, yn ogystal ag unrhyw ofynion meddygol a di-academaidd eraill

• gwneud yn siwr bod gennych chi’r profiad a’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer astudio’r pwnc

• edrych am dystiolaeth o’ch ymrwymiad a’ch cymhelliad, a thalu sylw i’ch llwyddiannau

• ystyried eich geirda ac unrhyw asesiadau gan seicolegwyr addysg neu ymarferwyr meddygol

• gwneud yn siwr bod unrhyw adnoddau a chyfleoedd dysgu y bydd eu hangen arnoch ar gael

Os ydym yn meddwl bod gennych chi’r hyn sydd ei angen i astudio gyda ni, mae’n bosib y byddwn yn eich gwahodd ar gyfer cyfweliad i ddod i’ch adnabod yn well. Mae cwrdd â darpar-fyfyrwyr mewn cyfweliadau a Diwrnodau Agored yn aml yn caniatáu’r hyblygrwydd i ni deilwra ein cynigion at gryfderau pob unigolyn.

Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol, neu anhawster dysgu penodol, mae’n bosib y byddwn yn gofyn i Swyddog Anableddau neu Gyfarwyddwr Iechyd Galwedigaethol y Brifysgol gyfweld â chi fel y bydd modd i ni wneud yn siwr ein bod ni’n gallu cynnig y gefnogaeth y bydd ei hangen arnoch drwy gydol eich astudiaethau.

Cofiwch: mae gennym ddiddordeb mewn pobl a fydd yn manteisio ar y cyfle i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd, ac a fydd yn elwa fwyaf o’r profiad yn Abertawe. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn pobl a fydd yn ychwanegu

gwerth at chwaraeon, diwylliant, a bywyd cymdeithasol ein cymuned.

Bydd UCAS yn rhoi gwybod i chi os byddwn yn cynnig lle i chi ac a oes unrhyw amodau arbennig. O bryd i’w gilydd, gall aelod o staff y Coleg neu Ysgol Academaidd sydd o ddiddordeb i chi awgrymu y byddwch yn derbyn cynnig, ond nid yw hyn yn ymrwymiad terfynol – arhoswch am gynnig ffurfiol gan UCAS.

Os yw eich cynnig yn amodol ar sut yr ydych yn ei wneud yn eich arholiadau, ni fyddwn yn rhoi derbyniad terfynol o’ch cais hyd nes y bydd y canlyniadau wedi’u cyhoeddi. Os ydych yn derbyn ein cynnig amodol yn gadarn ond ddim yn llwyddo i gael y graddau arholiad sydd eu hangen arnoch, bydd ystyried eich perfformiad ar y cyfan o bosib yn rhoi’r hyblygrwydd i ni fedru cadarnhau eich cynnig.

Bob blwyddyn, rydym yn derbyn llawer mwy o geisiadau i astudio gyda ni na’r llefydd sydd gennym ar gael, ac mae sawl cwrs yn gordanysgrifio’n gyflym. Yn anochel felly, mae’n rhaid i ni siomi rhai o’n hymgeiswyr. Os nad ydych yn cael lle yn Abertawe, a’ch bod yn meddwl ein bod ni wedi gwneud camgymeriad, gallwch ofyn i ni ailystyried eich cais. Cysylltwch â’r Swyddfa Dderbyn am ragor o fanylion.

UCASRhaid gwneud pob cais am raddau israddedig llawn-amser a Diplomâu Cenedlaethol Uwch drwy UCAS, sef Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau. Dylech hefyd ddefnyddio UCAS os ydych yn dymuno trosglwyddo o un brifysgol i brifysgol arall. Y ffordd symlaf o wneud cais yw ar-lein yn www.ucas.ac.uk

Sylwer bod UCAS yn codi ffi ymgeisio o £22 ar gyfer dau i bum dewis prifysgol, neu £11 ar gyfer dim ond un dewis. (Mae’n bosib y bydd y tâl yn cynyddu ar gyfer mynediad yn 2013). Ceir manylion pellach ar wefan UCAS.

Beth sydd ei angen arnoch? I astudio yn Abertawe mae’n rhaid eich bod chi’n cwrdd â’n gofynion mynediad cyffredinol yn ogystal â’r graddau mynediad gofynnol ar gyfer eich rhaglen radd ddewisol. (Yn ymarferol, os ydych yn cwrdd â gofynion y cwrs, byddwch fel arfer yn cwrdd â’n gofynion cyffredinol.)

Mae ein gofynion cyffredinol yn cynnwys:

• TGAU Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith gradd C neu fwy a

• lleiafswm o ddau gymhwyster Safon Uwch gradd E neu fwy, neu un cymhwyster Safon Uwch a dau gymhwyster safon UG gradd E neu fwy

neu • gymhwyster cyfwerth

(gweler y tabl ar dudalen 203)

I wneud cais am gynllun Diploma Cenedlaethol Uwch, bydd angen arnoch:

• TGAU Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith gradd C neu fwy ac

• o leiaf un cymhwyster Safon Uwch (neu ddau gymhwyster safon UG) gradd E neu fwy

Mae’n bosib y cewch eich esgusodi o’r gofynion cyffredinol os yw’r Coleg neu’r Ysgol Academaidd yr ydych yn gwneud cais iddo/iddi yn awgrymu eich bod wedi cwrdd â’r safon mynediad angenrheidiol.

Sut ydyn ni’n dewis ein myfyrwyr

Page 103: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

203202

Beth Pryd Ticiwch

Dewis y cwrs yr ydych am ei astudio (tudalennau 32 i 163) Nawr

Gwirio’r graddau sydd eu hangen arnoch Nawr

Gwirio a fydd angen unrhyw gymwysterau eraill arnoch Nawr

Dod i ymweld â ni – yn annibynnol neu fel rhan o Ddiwrnod Agored (gweler tudalen 198)

Unrhyw bryd

Gwneud Cais! Erbyn 15 Ionawr 2013 (gan amlaf)

Os ydych yn cael gwahoddiad, dod am gyfweliad Rhwng Hydref a Gorffennaf

Derbyn ein cynnig Rhwng Hydref a Gorffennaf

Casglu eich canlyniadau Awst 2013

Derbyn cadarnhad terfynol o’ch cynnig gennym Awst 2013

Derbyn eich pecyn ymrestru a dechrau paratoi ar gyfer bywyd fel myfyriwr Medi 2013

Dechrau astudio yn Abertawe! Medi 2013

Rhestr wirio eich cais

Ein Polisi DerbynMae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau ac ymholiadau gan bawb waeth beth fo’u hoed, hil neu darddiad ethnig neu genedlaethol, credoau crefyddol neu wleidyddol, cenedl, tueddfryd rhywiol, statws priodasol, cyfrifoldebau teuluol, ac anabledd corfforol neu synhwyraidd, oni bai fod y gweithgareddau hynny’n anghyfreithlon neu’n groes i bolisi’r Brifysgol.

Mae’r Brifysgol yn trin pob ymgeisydd ar ei haeddiant unigol ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr ag ystod o gymwysterau.

Cofiwch

• Gwnewch gais ar-lein yn www.ucas.ac.uk

• Ein henw a’n cod sefydliad UCAS yw SWAN S93

• Y dyddiad cau ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau yw 15 Ionawr 2013

• Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio [email protected], neu drwy ffonio +44 (0)1792 295111

• Ceir rhagor o wybodaeth yn www.swansea.ac.uk

• Gallwch ymuno â ni ar – www.facebook.com/UGAdmissions

• Dilynwch ni ar Twitter – twitter.com/SwanseaUniApply

• UCAS YouGo – yougo.co.uk/login.aspx

Cynigion cyffredin

Safon Uwch (pwyntiau tariff)

18 UnedDiploma Cenedlaethol BTEC

Bagloriaeth Ewropeaidd

Bagloriaeth Ffrainc

Abitur yr Almaen

Bagloriaeth Ryngwladol

Pwyntiau Tystysgrif Gadael Iwerddon

Diploma Mynediad

AAA (360) DDD 85% 16 1.2-1.4 36 40533 Rhagoriaeth, 9 teilyngdod

AAB (340) 80% 15 1.5-1.7 34 39027 Rhagoriaeth, 15 teilyngdod

ABB (320) DDM 77% 14 1.8-2.1 33 37524 Rhagoriaeth, 15 teilyngdod

BBB (300) 75% 13 2.2-2.4 32 36018 Rhagoriaeth, 18 teilyngdod

BBC (280) DMM 73% 12 2.5-2.7 30 34515 Rhagoriaeth, 18 teilyngdod

BCC (260) 70% 11 2.8-3.0 28 33012 Rhagoriaeth, 18 teilyngdod

CCC (240) MMM 64% 10 3.1-3.3 26 3156 Rhagoriaeth, 33 teilyngdod

CCD (220) 60% 9 3.4-3.6 24 300 27 teilyngdod

Nodiadau Cyfartaledd Cyffredinol

Cyfartaledd Cyffredinol

Cyfartaledd Cyffredinol

Cyfanswm Pwyntiau BR

O bwyntiau Tystysgrif Gadael Iwerddon (nid tariff.) Rhaid i hyn gynnwys o leiaf 3 pas B1 mewn papurau uwch /anrhydedd

Yn cyfeirio at gredydau lefel 3

Oes angen gradd lwyddo Gyffredinol

OES OES OES OES OES Ddim yn berthnasol OES

Page 104: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

204 205

Gwasanaethau / CyfleusterauCofrestrfa Academaidd 2.1Swyddfa Dderbyn 2Swyddfa’r Cyn-fyfyrwyr 2Oriel Gelf 32Banc 32Bariau 17, 18, 32Siop Lyfrau 32Peiriannau Arian Parod 17, 18, 32Swyddfa Arlwyo 17 Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd 7Gweinyddiaeth Ganolog 2Canolfan y Gaplaniaeth 17Swyddfa Gynadleddau 17

Crèche / Meithrinfa 30Deintyddfa 23Swyddfa Anableddau / Anghenion Arbennig 3.1Swyddfa Anableddau – Canolfan Asesu a Hyfforddi 13Discovery – Gwirfoddoli Myfyriwr 17Y Ganolfan Eifftaidd 32.1Adran Ystadau 18Adran Gyllid 1Adnoddau Dynol 2Swyddfa Ryngwladol 2.1

Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol 3.1Llyfrgell y Gyfraith 5Canolfan Llyfrgell a Gwybodaeth 7Marchnata 2Adnoddau Cyfryngau 3Canolfan Feddygol 17Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol 3.1Mosg 6Iechyd Galwedigaethol a Chanolfan Argyfwng 22Swyddfa’r Post 17

Swyddfa Ôl-raddedigion 2.1Ffreutur 17Adran Ymchwil ac Arloesi 8.2Gwasanaethau Preswyl 22Siopau 17, 18Uned Datblygu Staff 13Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr 23Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr 3.1Undeb y Myfyrwyr 18Theatr (Taliesin) 32Canolfan Drawsgrifio 15Siop Deithio 17Gwasanaethau Lles 23

Ardaloedd AcademaiddAddysg Barhaus Oedolion 11.1Astudiaethau Americanaidd 4Dyframaeth 34Gwyddorau Biolegol 9, 9.4, 11.2Busnes 16Astudiaethau Plentyndod 11.2Y Clasuron, Hanes yr Henfyd, ac Eifftoleg 3Cyfrifiadureg 8.1, 8.2Troseddeg 11.2Cymraeg 3

Map o’r campws

Economeg 14Peirianneg 8.1, 8.2Saesneg 3Ffrangeg 3Daearyddiaeth 9Almaeneg 3Gwyddor Iechyd 11.1Astudiaethau Sbaenaidd 3Hanes 4Eidaleg 3

Y Gyfraith 14Mathemateg 8.3Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu 3Meddygaeth 12, 33Ffiseg 11.2Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol 4Seicoleg 11.2Polisi / Gwaith Cymdeithasol 11.2Gwyddor Chwaraeon 11.2, 11.3Rhyfel a Chymdeithas 4

Llety MyfyrwyrKilvey 19.1Preseli 20Cefn Bryn 21Rhossili 21.2, 21.3Penmaen 22Horton 23Oxwich 25Langland 26Caswell 27

Page 105: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

206 207

ABERTAWE

CAERDYDD

BRYSTE LLUNDAIN

PLYMOUTHSOUTHAMPTON

DOFR

CAERGRAWNT

LEEDS

CAEREDIN

ABERDEEN

BELFAST

DULYN

CAERGYBI

LERPWL

MANCEINION

BIRMINGHAM

Aberystwyth 73

Bangor 160

Birmingham 126

Bryste 85

Caerdydd 40

Caeredin 383

Glasgow 426

Leeds 227

Lerpwl 168

Llundain 203

Manceinion 187

Newcastle 319

Sheffield 200

Southampton 160

Birmingham 3awr 15munud

Bryste 2awr

Caerdydd 55munud

Lerpwl 4awr 40munud

Llundain 3awr

Manceinion 4awr 30munud

Pellteroedd teithio i Abertawe (milltiroedd) Cyrraedd Abertawe ar y trên

TO M4A 4 8 3

A4

06

7

A 4 8 3

A4

06

7

C A N O L F A N D D I N E S I G

S G E T I

G O R S A F B Y S I A U

U P L A N D S

B R Y N M I L L

T O W N H I L L

I B E N R H Y N G Ŵ Y R

S T T H O M A S

D O C I A U

I ’ R M W M B W L S

A4

21

6

A 4 1 1 8

M 4

C O C Y D

B 4 4 3 6

A 4 0 6 7

Y S B Y T Y S I N G L E T O N

M 4C y f f o r d d 4 2 4 M I L L T I R

P

P

S T A D I W ML I B E R T Y

B A E A B E R T A W E

C A N O L F A N H A M D D E N

C y f f o r d d 4 7 3 M I L L T I R P A R C I O A T H E I T H I O G L A N D Ŵ R

G O R S A F T R E N A U ’ R S T R Y D F A W R

P A R C I O A T H E I T H I O F F O R D D F A B I A N

A R C H F A R C H N A D S A I N S B U R Y

M A E S C H W A R A E O N S A N H E L E N

P R I F Y S G O L A B E R T A W E

C A N O L F A N C H W A R A E O N Y B R I F Y S G O L A P H W L L N O F I O C E N E D L A E T H O L

C Y M R U A B E R T A W E

HE

OL

CO

CY

D

F F O R D D F A B I A N

Ymweld ag Abertawe

Y Brifysgol – CyffredinolFfôn: +44 (0)1792 205678 Ffacs: +44 (0)1792 295048E-bost: [email protected]

Gwasanaethau RheilffyrddFfôn: +44 (0)8457 484950www.nationalrail.co.uk

Ymholiadau Bysiau a ChoetsisFfôn: +44 (0)8705 808080www.nationalexpress.comwww.firstcymru.co.uk

Llinell Gymorth i DeithwyrFfôn: +44 (0)8706 082608www.traveline.org.uk

Canolfan Groeso AbertaweCanolfan Groeso AbertaweFfôn: +44 (0)1792 468321E-bost: [email protected]/tourism

Swyddfa Anableddau’r BrifysgolFfôn: +44 (0)1792 513000Minicom/testun: +44 (0)1792 513100Ffacs: +44 (0)1792 513200E-bost: [email protected] www.swansea.ac.uk/study/current/StudentSupportServices/DisabilityOffice

Rhifau ffôn a manylion cyswllt defnyddiol:

Cynhyrchwyd gan yr Adran Farchnata, Prifysgol AbertaweDyluniad: Icon Creative Design, www.iconcreativedesign.comDelweddau ar dudalennau 8,11,13,166 © Crown Copyright (2007) Visit Wales

Mae Prifysgol Abertawe’n elusen gofrestredig rhif.1138342 © Prifysgol Abertawe 2012

Mae’r wybodaeth yr ydym wedi’i chyhoeddi yn y prosbectws hwn wedi’i bwriadu fel arweiniad i ddarpar fyfyrwyr sy’n ystyried astudio ym Mhrifysgol Abertawe yn 2013. Nid yw’n ffurfio rhan o unrhyw gytundeb, a gwneir pob ymdrech i sicrhau bod popeth yr ydym wedi’i gynnwys yn fanwl gywir ac yn gyfredol ar adeg argraffu. Mae gan Brifysgol Abertawe’r hawl i newid ein ffioedd, ein rheoliadau, a’n gwasanaethau, ac i addasu, tynnu’n ôl neu ychwanegu cyrsiau a chynlluniau gradd newydd ar unrhyw adeg, a hynny heb hysbysiad.

Mae’r prosbectws hwn wedi’i brintio ar bapur a wnaed o bwlp a gynhyrchwyd o ffynonellau cynaliadwy gan ddefnyddio inciau o fas llysiau.

Ychydig o bethau a allai fod o ddiddordeb i chi

Unwaith y byddwch wedi gorffen defnyddio’r llyfryn hwn, a fyddech gystal â'i roi i rywun arall neu ei ailgylchu

Page 106: Prifysgol Abertawe - Prospectws i israddedigion 2013

Hanes ac etifeddiaeth

208

Gosododd y Brenin Siôr V garreg sylfaen y Brifysgol ar 19 Gorffennaf 1920 a chofrestrodd 89 o fyfyrwyr (gan gynnwys 8 myfyrwraig) y flwyddyn honno. Ym 1921 penodwyd Dr Mary Williams yn Athro mewn iaith a llenyddiaeth Ffrangeg, y fenyw gyntaf i’w phenodi’n Gadair mewn prifysgol yn y DU. Erbyn mis Medi 1939, roedd 65 aelod staff a 485 o fyfyrwyr.

Ym 1947 dim ond dau adeilad parhaol oedd ar y campws: Abaty Singleton a’r llyfrgell. Roedd y Pennaeth, J. S. Fulton, yn cydnabod bod angen ehangu’r ystâd ac roedd ganddo weledigaeth o gymuned hunangynhaliol, â chyfleusterau preswyl, cymdeithasol ac academaidd ar un safle. O’i weledigaeth cafwyd campws prifysgol cyntaf y Deyrnas Unedig.

Erbyn 1960 roedd rhaglen ddatblygu ar raddfa fawr ar waith a welodd adeiladu’r neuaddau preswyl newydd, y Twr Mathemateg a Gwyddoniaeth, a Thy’r Coleg (a ailenwyd yn Dy Fulton yn ddiweddarach). Dechreuodd y gwaith ar bentref y myfyrwyr yn Hendrefoelan ym 1971, sefydlwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym 1973, ac agorodd Canolfan y Celfyddydau Taliesin ar y campws ym 1984.

Trosglwyddodd yr Ysgolion Nyrsio Rhanbarthol i Abertawe ym 1992, ac agorodd yr Ysgol Feddygaeth yn 2001, gan nodi cynnydd sylweddol yng ngallu Cymru i hyfforddi meddygon ac ymgymryd ag ymchwil arloesol.

Yn 2003, gosododd y Brifysgol amcanion a gynlluniwyd i sicrhau ei dyfodol tymor hir fel sefydliad a

arweinir gan ymchwil o ansawdd rhyngwladol. Agorodd y Technium Digidol yn 2005, a phrin ddwy flynedd yn ddiweddarach, agorodd y Brifysgol ei Sefydliad Gwyddor Bywyd, sy’n masnacheiddio canlyniadau ymchwil a gynhelir yn yr Ysgol Feddygaeth. Dechreuwyd gwaith ar ail Sefydliad Gwyddor Bywyd yn 2009. Ym mis Rhagfyr 2011, agorwyd Sefydliad Gwyddor Bywyd II, canolfan o’r radd flaenaf am gynnal ymchwil meddygol.

Mae Prifysgol Abertawe ar hyn o bryd yn mwynhau cyfnod o dwf parhaus a arweinir gan ymchwil, ac yn parhau i weithio er lles y ddinas, ei phobl a diwydiannau. Ceir rhagor o wybodaeth ynglyn â’n hanes a’n hetifeddiaeth ar ein gwefan yn www.swansea.ac.uk/university/AboutUs

Hanes cryno

Y Brifysgol yn derbyn ei Siarter Brenhinol; Brenin Siôr y Pumed yn gosod y garreg sylfaen yn Abaty Singleton

Y Coleg Herodrau yn rhoi arfbais

Dug Caint yn agor y llyfrgell, a gynlluniwyd gan Vernon Owen Rees

Kingsley Amis yn ysgrifennu Lucky Jim tra’r oedd yn darlithio yn Abertawe

Agor neuaddau preswyl cyntaf y campws

Yr Athro Mary Williams yn dod y fenyw gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael cadair prifysgol

Neuadd Beck yn agor fel y neuadd breswyl gyntaf

J S Fulton yn amlinellu ei weledigaeth o “gymuned prifysgol gyflawn”, yn paratoi’r ffordd i Abertawe ddod y brifysgol campws gyntaf yn y Deyrnas Unedig

Y Brifysgol yn derbyn ei chyfrifiadur digidol cyntaf, IBM1620

Agor yr adeilad Mathemateg a Ffiseg (Ty Vivian) a Thy’r Coleg (Ty Fulton)

1965

1962194819251921

1920 1921 1937 1954 1961

1967Yr Athro Olek Zienkiewicz yn chwyldroi peirianneg gyda chyhoeddi ‘The Finite Element Method for Solid and Structural Mechanics’

Theatr Taliesin yn agor ar y campws

Coleg Prifysgol Abertawe yn dod yn Brifysgol Cymru Abertawe

Casgliad Richard Burton yn dod i Abertawe

Sefydliad Gwyddor Bywyd gwerth £50 miliwn yn agor

Abertawe yn dathlu ei 90ain pen-blwydd

Gwaith yn cychwyn ar bentref myfyrwyr newydd yn Hendrefoelan

Penodi’r Arglwydd Callaghan, y cyn Brif Weinidog, yn Llywydd

Sefydlu Ysgol Feddygaeth (ysgol glinigol i ddechrau)

Y Brifysgol yn cael pwerau i ddyfarnu ei graddau ei hun

Prifysgol Abertawe yn cael ei hannibyniaeth o Brifysgol Cymru

1971 1985 2001 2006 2007

1984 1996 2005 2007 2010

Cyfnod Dau’r Sefydliad Gwyddor Bywyd gwerth £28.8 miliwn yn agor

2011

twitter.com/Swansea_AlumniSwanseaUniversiyAlumniAssociation

Mae Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe yn sicrhau y gallwch gadw cysylltiad agos â’r Brifysgol ymhell ar ôl i swn y cymeradwyo yn eich seremoni graddio bylu. Mae’n holl raddedigion yn dod yn aelodau oes yn awtomatig o’r Gymdeithas, sy’n gymuned gynnes, groesawgar o raddedigion sy’n cael eu huno gan eu profiad o astudio yn Abertawe.

Mae’r Gymdeithas yn rhwydwaith bywiog o 55,000 o aelodau gweithgar sy’n gweithio ar bob lefel mewn diwydiant, masnach, chwaraeon, a’r sector cyhoeddus. Mae rhai yn arwain adrannau cwmnïau rhyngwladol, ond mae eraill yr un mor debyg o fod yn rheoli’r busnesau llai, mentrus sy’n gyrru’r economi, neu’n darparu gofal iechyd mewn ysbytai, neu’n dysgu mewn ysgolion.

Y mae hefyd gymuned gynyddol fawr o gyn-fyfyrwyr rhyngwladol, sy’n golygu y byddwch yn dod o hyd i gyfeillion a chydweithwyr o’r un anian lle bynnag yr ewch chi yn y byd. Gwnewch y gorau o’r rhwydwaith hwn. Pwy a wyr pa ddrysau allai agor i chi yn y DU neu

dramor o ganlyniad i’r perthynas a grëwyd trwy fod yn gyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe?

Trwy’r Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr, gallwch gadw mewn cysylltiad â’r newyddion, gwasanaethau, a chynnyrch diweddaraf o’r Brifysgol, mynychu aduniadau, a chadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau trwy ddefnyddio’r Bwrdd Cyfeillion ar-lein.

Mae i gyd yn rhad ac am ddim – ewch i www.swansea.ac.uk/alumni am ragor o fanylion.

Byddwch mewn cwmni da. Mae’n cyn-fyfyrwyr yn cynnwys: • Annabelle Apsion, actores • Liam Dutton, daroganwr

tywydd y BBC • Richey Edwards a Nicky Wire,

cerddorion, Manic Street Preachers • Dr Lyn Evans CBE, Arweinydd

Prosiect, Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr, CERN

• Hywel Francis AS • Renee Godfrey, pencampwr syrffio,

cyflwynydd teledu

• Sylvia Heal AS, Dirprwy Lefarydd Ty Cyffredin (2000-10)

• Jonathan Hill, cyflwynydd newyddion gydag ITV Cymru

• Andy Hopper CBE FRS, cyd-sylfaenydd Acorn Computers Ltd

• Rob Howley, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a’r Llewod

• Liz Johnson, enillydd medal aur am nofio yn y Gemau Paralympaidd

• Alun Wyn Jones, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a’r Llewod

• Simon Jones, cricedwr Swydd Morgannwg a Lloegr

• Syr Terry Matthews OBE, biliwnydd cyntaf Cymru

• Jason Mohammad, cyflwynydd teledu a radio gyda BBC Cymru

• Nia Parry, cyflwynydd teledu ar S4C• Colin Pillinger CBE, gwyddonydd

planedol • Penny Roberts, Prif Ohebydd y BBC • Elin Rhys, rheolwr-gyfarwyddwr

cwmni Telesgôp• Urien Wiliam, nofelydd a dramodydd

Cymraeg

Eich cymdeithas cyn-fyfyrwyr