16
Gylchlythyr Interlink i grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf Gylchlythyr Interlink i grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl

Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: [email protected] Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Gylchlythyr Interlink i grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn Rhondda Cynon TafGylchlythyr Interlink i grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf

Rhif 67 Haf 2015

Urddas Mewn Iechyd Meddwl

Page 2: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

..... i rhifyn yr haf o Gylchlythyr Interlink. Os hoff ech chi

gyfrannu at y rhifyn nesaf,anfonwch eich erthyglau,

gwybodaeth, swyddi gwag neuhysbysebion erbyn:6 Tachwedd 2014 iCara Jordan-Evans

yn Interlink drwy e-bost: [email protected]

Yn y rhifyn hwn rydym wedi:

Cyfl wyniad 2Newyddion Interlink 3Iechyd Meddwl (MHSUI) 4-5Iechyd Meddwl 6-7Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 8-9Iechyd a Lles 10-11Camu Ymlaen 12

Llais y Gymuned 13Pobl Ifanc 14Newyddion Lleol 15Hyforddiant Interlink

16

Cyfeiriad:6 Melin Corrwg, Cardiff RoadUpper Boat, PontypriddCF37 5BE

Rhif ff on: 01443 846200

Facs: 01443 844843Ebost: [email protected]

Gwefan:www.interlinkrct.org.uk

Amser ar agor:Llun - Iau: 9.00am - 5.00pmGwener: 9.00am - 4.30pm

Croeso

Interlink News Cyfl wyniad

Tudalen 2

Croeso i’r rhifyn Iechyd a Lles Mae lles wedi cynyddu mewn pwysigrwydd ac yn destun sylw i bawb erbyn hyn, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae lles yn ganolog i ddwy ddeddf fwyaf Llywodraeth Cymru, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddfwriaeth arloesol hon yn nodi’r heriau mawr sy’n ein hwynebu ni i gyd yn sgil y toriadau mawr mewn gwariant cyhoeddus. Efallai ei bod yn ymddangos na all pethau fynd llawer gwaeth, ond fe fyddan nhw, gan eff eithio fwyaf ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae Interlink wedi gweithio gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a chynhyrchu adroddiad ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu rhai o’r heriau sy’n ein hwynebu ni, yn arbennig, pa mor anodd yw cynllunio yn yr hirdymor a dod o hyd i ff yrdd newydd o wneud pethau pan mae’n rhaid i chi wneud toriadau mawr fl wyddyn ar ôl blwyddyn. Gallwn fod yn hyderus bod dulliau gweithio diweddar ein partneriaid, yn arbennig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, eu hymgyrch Rhondda Cynon Taf Gyda’n Gilydd a’u Cronfa Galluogi Gymunedol, yn newydd ac yn arloesol, ac yn bwysicach, yn gosod y gymuned wrth wraidd pob dim.

Rydym wedi bod yn gweithio ar gais gwych am gyllid gan Eglwys Gymunedol New Life sy’n edrych ar ddarparu gwasanaethau hanfodol yn Nhonyrefail i’r gymuned gyfan. Maen nhw’n sicrhau ymyrraeth gynnar i atal problemau rhag tyfu ac achosi niwed i bobl a chymunedau (a thorri pethau na allwn ff orddio eu trwsio). Mae gan Interlink gynlluniau tebyg ar gyfer Hyb Lles yn Rhondda Cynon Taf.

Mae Interlink yn parhau i fod yn bosi f oherwydd y nifer anhygoel o unigolion, gwirfoddolwyr, aelodau, cymunedau a sefydliadau partner rydym yn gweithio gyda nhw bob dydd. Dim ond cipolwg bras o’r hyn sy’n digwydd ledled Rhondda Cynon Taf sydd yn ein cylchlythyr. Mae gennym brosiectau Llais y Gymuned anhygoel lle mae pobl leol yn dod ynghyd i leisio’u barn ar eu dyfodol eu hunain. Rydym yn gweithio gyda Chynghrair y Rhondda, lle mae grwpiau gwych yn cydweithio er mwyn gwneud gwahaniaeth i’r gymuned gyfan drwy weithio i wella’r Rhondda, gyda’r Big Click, Cyfeillion Coleg Cymunedol Tonypandy, y Ffatri Gelf, Theatr Spectacle, Tîm Pinc a’r Uned Pobl a Gwaith a llawer llawer mwy cyn bo hir!

A’r newyddion diweddara... Mae Interlink newydd dderbyn grant bach gan Gronfa wych Ymddiriedolaeth y Rhondda er mwyn helpu gyda’r gwaith hwn a hyrwyddo gwirfoddoli gyda phobl ifanc. Byddwn yn cynnal ein digwyddiad nesaf ar 7 Hydref yng Nglynrhedynog. . . os hoff ech chi gymryd rhan, cysylltwch â ni.

Un o’r pethau cyff rous mae Interlink yn eu gwneud i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, yw gweithio gydag Age Connects Morgannwg, Iechyd Cyhoeddus Cymru a llawer o bobl eraill i gynnal Prosiect Gwrando gyda phobl hŷn i nodi’r hyn y gallwn ni ei wneud i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd - yn dilyn ein Hadroddiad Ymchwil diweddar ‘From Isola on to Integra on’. Os hoff ech chi gopi o’r adroddiad neu os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y Prosiect Gwrando, bydden ni wrth ein boddau petaech chi’n ymuno â ni, felly... cysylltwch â ni!

Ac mae cymaint yn digwydd gyda’r Diwrnod Iechyd Meddwl ym mis Hydref, felly cymerwch gip ar dudalennau 8 a 9 ac ymunwch â ni...

Page 3: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Dates for your DiaryCrea ve Wri ng Workshopfor Service Users and Carers

2 and 3 September2.30pm - 4.30pmYMCA Pontypridd

Have your Say10 September

12.30pm - 4.00pmYMCA Pontypridd

Visual Arts Workshopsfor Service Users and Carers

16 and 23 September1.30pm - 3.30pmYMCA Pontypridd

Taff Ely Funding and Enterprise Event

15 September1.00pm - 5.00pm

Gilfach GochCommunity Centre

Transforming your Community

23 September10.00am - 3.00pmFerndale School

Rhondda Alliance Event7 October

10.00am - 4.00pmArts Factory, Ferndale

Have your Say 9 October

10.30am - 2.30pmMerthyr Tydfi l Rugby Club

Mental Health Forum24 November

9.30am - 12.00pm

Interlink AGM25 November

Newyddion Interlink

Tudalen 3

Mae Cymdeithas Tai Newydd wedi derbyn arian y Loteri Fawr i gynnal Prosiect HAPI.

Mae’r Prosiect wedi’i leoli yn Rhydfelen a’r Ddraenen Wen yn ardal Gogledd Taf Elái yn Rhondda Cynon Taf. Bydd yn darparu gwasanaeth anghlinigol i unigolion drwy gymorth un i un, gweithdai a gweithgareddau ymyrraeth i wella eu hiechyd a’u lles cyff redinol ac mae’n canolbwyn o’n benodol ar y trigolion mwyaf difrein edig. Bydd 840 o unigolion ac 20 sefydliad yn elwa o’r prosiect dwy fl ynedd hwn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Hyb Cymunedol Rhydfelen drwy e-bost: - [email protected] ff oniwch neu anfonewch neges tecst – 07899665807 Facebook: hapiRCT Twi er: hapi_RCT

For more informa on or to book a place contact Interlink on 01443 846200.

Prosiect Iach, Uchelgeisiol, Ffyniannus a Chynhwysol (HAPI)

Page 4: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Iechyd Meddwl

Tudalen 4

Mae’r Prosiect Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl (Involve 2 Evolve) yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r gwaith o gynnwys defnyddwyr gwasanaethau yn y gwaith o gynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau iechyd meddwl lleol ledled Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, er mwyn sicrhau bod llais defnyddwyr gwasanaethau yn cael ei glywed.

Rachel Wya yw Swyddog Datblygu’r Prosiect ac mae’n cydlynu cyfl eoedd cyfranogi amrywiol, fel hyff orddiant, grwpiau cynllunio a digwyddiadau ymgysylltu.

Cysylltwch â Rachel ar 01443 846200 neu e-bos wch: rwya @interlinkrct.org.uk

INVOLVE 2 EVOLVE – Eich Prosiect Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau Sefydlwyd y Prosiect i sicrhau bod pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynnwys mewn modd ystyrlon yn y ff ordd y mae’r gwasanaethau hynny yn cael eu cynllunio, eu darparu a’u datblygu yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Drwy wneud hyn, ein nod yw sicrhau bod llais pobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn cael ei glywed ac yn sbarduno camau i sicrhau gwelliannau parhaus i’r gwasanaethau hynny.

Mae Rachel Wya , Swyddog Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl yn Interlink, yn gweithio gydag unigolion er mwyn cyfl awni’r prosiect.

Mae sawl ff ordd i bobl gymryd rhan:• Cofrestru er mwyn cael ein Cylchlythyr SUN am

ddim• Digwyddiadau a gweithdai cyfranogi: Mae ff yrdd

gwych o ddarganfod mwy am brofi adau pobl o wasanaethau, rhannu enghrei iau o arferion da ac edrych ar ff yrdd newydd o gydweithio

• Rhannu eich Stori: Mae ysgrifennu neu siarad am eich profi adau iechyd meddwl, a’r hyn sydd wedi’ch helpu chi a’r hyn nad yw wedi helpu, yn gallu bod yn ff yrdd pwerus o hyrwyddo ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, gwella gwasanaethau a herio s gma

• Bod yn Gynrychiolydd Gofalwyr neu Ddefnyddwyr Gwasanaethau

• Helpu i recriw o staff iechyd meddwl

Beth yw barn pobl am Brosiect Involve 2 Evolve?

‘I mi, mae wedi bod yn achubiaeth, mae wedi rhoi hyder a gobaith i mi yn ogystal â’r ysgogiad a’r penderfyniad i wneud gwahaniaeth. Un o’r prif elfennau oedd y ff aith bod cydweithwyr gwych a chydymdeimladol o’m cwmpas i yn rhannu’r siwrne gyda mi. Roedd y m oedd yn hwyluso’r prosiectau yn eithriadol o gefnogol ac yn credu yn yr hyn roedd gen i i’w gynnig. Mae hynny yn hwb i mi. Bellach rydw i wedi cael fy nerbyn i gyfl ogaeth llawn amser gyda’r Gymdeithas Alzheimer lle mae fy sgiliau a’m hyder yn sgil y Prosiect yn cael eu defnyddio bob dydd. Heb y Prosiect Cynnwys Defnyddwyr, a chydlynwyr mor ymroddgar, ni fyddwn yn y sefyllfa rydw i ynddi heddiw, mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fy mywyd. Dwi’n ei gweld fel llwybr tuag at adferiad ar gyfer y bennod nesaf yn fy mywyd.’ Gareth Lewis, Gweithiwr Cymorth Demen a, Cymdeithas Alzheimer

Gareth Lewis, Alzheimer’s Society

Page 5: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Iechyd Meddwl

Tudalen 5

Mentrau Hyff orddiant Newydd yn Cynnwys Defnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr

Nod hyff orddiant INFORM yw codi ymwybyddiaeth ymysg staff meddygfeydd ac a o brofi adau cleifi on a gofalwyr o ddefnyddio gofal sylfaenol ar gyfer cyfl wr yn ymwneud â iechyd meddwl.

Mae wedi’i gynllunio a’i ddarparu gan grŵp sydd â phrofi ad go iawn o iechyd meddwl, sydd wedi datblygu amrywiaeth o ddulliau hyff orddi rhyngweithiol, gan gynnwys straeon digidol, gweithgareddau grŵp a chyfl wyniadau. Mae’r sesiwn dwy awr yn amlygu’r themâu cyff redin ym mhrofi adau pobl ac yn dangos sut y gall newidiadau syml i arferion gwaith fod yn hynod o eff eithiol wrth gefnogi pobl

Law yn Llaw at Iechyd Meddwl - Pennu’r BlaenoriaethauLaw yn Llaw at Iechyd Meddwl yw Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles Llywodraeth Cymru. Dros yr ychydig fi soedd nesaf, byddwn yn gofyn i ddefnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a staff , beth yw eu 5 Prif Flaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl o’r rhestr ganlynol.Beth yw eich 5 Prif Flaenoriaeth ar gyfer Iechyd Meddwl?• Datrys Argyfyngau a Gwasanaethau Triniaeth yn y

Cartref • Gwybodaeth a chyngor ynglŷn â Gwasanaethau

Iechyd Meddwl• Cymryd rhan mewn Cynllunio Gofal a Thriniaeth• Apwyn adau Cleifi on Allanol Iechyd Meddwl• Cymorth ar ôl Rhyddhau o’r Ysbyty • Cyfl eoedd ystyrlon yn ystod y dydd• Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed• Hunanladdiad a Hunan-niwed• Targedau’r Mesur Iechyd Meddwl • Gwella Mynediad at Seicolegydd• Iechyd Meddwl Pobl Hŷn• Llety• Cyrsiau Hunan-gymorth e.e. Ymwybyddiaeth

ofalgar• Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

Sut gallaf i gymryd rhan?• Rhannwch eich 5 Prif Flaenoriaeth ar gyfer

gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghwm Taf drwy gwblhau ein harolwg byr h ps://www.surveymonkey.com/r/3DYW2DG

• Dilynwch ni ar Twi er @Involve2E #cwmtafmhyourviews

• Hoff wch ni ar Facebook www.facebook.com/Involve2evolvemh

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Rachel ar 01443 846200 neu drwy e-bost: rwya @interlinkrct.org.uk

Os hoff ech ddod i’r digwyddiad neu os hoff ech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Rachel Wya ar 01443 846200 neu e-bos wch: rwya @interlinkrct.org.uk

Mae’n cynnig dealltwriaeth o:• Hawliau pobl o dan Ran 2 o’r Mesur Iechyd

Meddwl • Beth sy’n gwneud Cynllun Gofal a Thriniaeth da • Sut i Gynllunio ar gyfer Argyfwng

Hyff orddiant Cynllunio Gofal a Thriniaeth sy’n Canolbwyn o ar Ganlyniadau

Mae’r sesiwn hyff orddiant hon wedi’i chynllunio a’i chynnal gan Ddefnyddwyr Gwasanaethau a Gofalwyr ar gyfer Defnyddwyr Gwasanaethau, Gofalwyr, Cydlynwyr Gofal a sefydliadau Trydydd Sector.

Page 6: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Ydych chi’n dioddef o deimladau ysgafn neu gymedrol o orbryder neu iselder?

Os felly, mae croeso i chi ddod i’r grŵp cymorth gan gyfoedion. Mae’r grŵp yn cwrdd bob wythnos i rannu profi adau a rhoi cymorth i’w gilydd, ac yn cael gafael ar

wybodaeth a chyngor ynglŷn â’r ff ordd orau o reoli symptomau. Mae’n grŵp cyfeillgar sy’n cael ei gynnal

mewn awyrgylch preifat a chyfrinachol.

Ble? Ystafell Ymlacio (Chill Out Room) yng Nghanolfan Galw Heibio Llanharan

Pryd? Bob dydd Llun 1.00yp - 3.00yp

Eisiau rhagor o wybodaeth?Cysylltwch â Phoebe Walford ar 01443 229723neu Maria Abson drwy ff onio 01443 846200

Iechyd Meddwl

Tudalen 6

Cyfeirlyfr Gwasanaethau Cymorth Iechyd Mae gwefan Cymorth Iechyd Meddwl yn brosiect partneriaeth rhwng Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol New Horizons, y Bwrdd Iechyd Prifysgol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Nod y wefan yw rhoi cyngor a gwybodaeth hygyrch am faterion a gwasanaethau iechyd meddwl i bobl â phroblemau iechyd meddwl, eu gofalwyr, gweithwyr iechyd proff esiynol ac unrhyw un arall â diddordeb mewn iechyd meddwl.

www.mentalhealthsupport.co.uk am mwy o gwybodaeth!

Mae Maria Abson, Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl, yn cefnogi sefydliadau iechyd meddwl lleol yng Nghwm Taf ac yn cydlynu cysyll adau rhwng cymunedau, sefydliadau gwirfoddol a’r sector statudol drwy Fforwm Iechyd Meddwl Cwm Taf. Mae’r Fforwm Iechyd Meddwl yn croesawu unrhyw gymuned neu grŵp gwirfoddol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl yng Nghwm Taf.

Cysylltwch â Maria drwy ff onio 01443 846200 neu drwy e-bost: mabson@interlinkrct.

Nod y strategaeth newydd hon yw lleihau’r cyfraddau o hunanladdiad a hunan-niwed ymhlith poblogaeth Cymru a hyrwyddo, cydlynu a chefnogi cynlluniau a rhaglenni i atal ymddygiad a all arwain at hunanladdiad neu hunan-niwed ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.

Mae Siarad â fi 2 yn nodi chwe phrif amcan strategol:

Amcan 1: Gwella ymhellach ymwybyddiaeth, gwybodaeth a dealltwriaeth am hunanladdiad a hunan-niwed ymhlith y cyhoedd, unigolion sy’n dod i gysyll ad yn aml â phobl sydd mewn perygl o gyfl awni hunanladdiad a hunan-niwed a gweithwyr proff esiynol yng Nghymru

Amcan 2: Darparu ymatebion priodol i argyfyngau personol, ymyriadau cynnar a rheolaeth ar gyfer hunanladdiad a hunan-niwed

Siarad â fi 2 - Siarad â fi 2 - Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed ar gyfer Cymru 2015-2020 Amcan 3: Gwybodaeth a chymorth i’r rhai sydd wedi cael profedigaeth neu yr eff eithiwyd arnynt o ganlyniad i hunanladdiad a hunan-niwed

Amcan 4: Rhoi cymorth i’r cyfryngau fod yn gyfrifol wrth bortreadu ac adrodd ar hunanladdiad ac ymddygiad hunanladdol

Amcan 5: Lleihau mynediad at bethau y gellir eu defnyddio i gyfl awni hunanladdiad

Amcan 6: Parhau i hybu a chefnogi dysgu, systemau gwybodaeth a monitro ac ymchwil i wella ein dealltwriaeth am hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru ac arwain camau gweithredu

Am ragor o wybodaeth, gallwch lawrlwytho’r strategaeth: h p://gov.wales/topics/health/publica ons/health/reports/

Page 7: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Iechyd Meddwl

Tudalen 7

Posi ve Steps - Darran Las, Aberpennar Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob prynhawn dydd Gwener rhwng 12.30pm a 3.00pm yng Nghanolfan Gymunedol Darran Las.

New Beginnings - Glyn-cochMae’r grŵp yma’n cwrdd bob bore dydd Gwener rhwng 9.30am a 12.30pm yng Nghanolfan Gymunedol Glyn-coch.

Grŵp Cymorth gan Gyfoedion Cwm Clydach - Cwm Clydach Mae’r grŵp yma’n cwrdd bob prynhawn dydd Mawrth am 1.00pm - 3.00pm yng Nghanolfan Gymunedol Cwm Clydach.

Footsteps - GlynrhedynogMae’r grŵp yma’n cwrdd bob bore dydd Mawrth rhwng 10.30am a 1.30pm yn Neuadd Morlais, Glynrhedynog.

Silver Linings - LlanharanMae’r grŵp yma’n cwrdd bob prynhawn dydd Llun am 1.00pm - 3.00pm yng Nghanolfan Galw Heibio Llanharan.Cysylltwch â Phoebe Walford ar 01443 229723 neu Maria Abson ar 01443 846200

Grwpiau Cymorth Iechyd Meddwl gan Gyfoedion yn Rhondda M.A.S.H. - MaerdyMae’r grŵp yma’n cwrdd bob nos Fercher am 6.00pm - 8.00pm yng Nghanolfan Gymunedol y Maerdy.

Rhondda Listening Friends - TonpentreGrŵp cymdeithasol yw hwn a gall pobl alw heibio neu aros drwy’r dydd ar ddydd Llun yn Neuadd Eglwys Sant Ioan rhwng 11.00am a 2.30pm.

Grŵp Cymorth Deubegynol Aberdâr - AberdârMae’r grŵp yma’n cwrdd ar ddydd Mercher 1af bob mis am 12.00pm - 2.00pm yn New Horizons, 16a Dean Street, Aberdâr. Galwch mewn neu ff oniwch 0845 4349953 neu e-bos wch: [email protected]

New Connec ons - YstradMae’r grŵp yma’n cwrdd bob dydd Mercher rhwng 10.30am a 12.30pm yn Eglwys Providence, Ystrad. Cysylltwch â Simone ar 01443 424218 neu [email protected]

Mae’r grwpiau yma i bobl sydd â theimladau ysgafn i gymedrol o bryder ac iselder. Mae’r holl grwpiau’n codi pris am luniaeth, ac mae’r prisoedd yn amrywio.

Am mwy o gwybodaeth cysylltwch a Sara Davies ar 01443 424350 ne ebost: Sara.M.Davies@rhondda-cynon-taff .gov.uk

Gall ychydig o eiriau wneud byd o wahaniaeth. Peidiwch â bod ofn siarad am iechyd meddwl!

Mae problemau iechyd meddwl yn gyff redin. Bydd yn eff eithio ar un o bob pedwar ohonom ar ryw bwynt yn ein bywydau. Felly mae gallu siarad am iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n bwysig i ni i gyd.

Mae’r ff aith ei bod weithiau’n anodd siarad am broblemau iechyd meddwl, yn gallu bod ymhlith y pethau anoddaf am fod â salwch meddwl. Gall pobl deimlo’n anghyff orddus neu’n ofnus ynghylch siarad â rhywun am eu problem iechyd meddwl - neu siarad am eu problem iechyd meddwl eu hunain, ond nid yw hyn yn iach i neb.

Edrychwch ar ein hawgrymiadau i’ch helpu i siarad â rhywun am eu problemau iechyd meddwl, neu os oes gennych chi broblem iechyd meddwl ac rydych yn barod i siarad amdani, mae gennym awgrymiadau yngylch sut i siarad am eich iechyd meddwl. Os nad ydych wedi’i weld yn barod, gall ein hysbyseb teledu eich ysbrydoli i ddechrau’r sgwrs heddiw!

‘Mae’n hanfodol i agor trafodaethau am iechyd meddwl a dangos i eraill ei fod yn iawn i fod yn chi - nid yw’n heintus ac yn bwysig iawn y gall eraill siarad â’r person sy’n mynd drwyddo.‘ Esther, Time to Change Wales Champion

Siarad am Iechyd MeddwlMae pobl yn siarad am iechyd meddwl ar ein tudalen Facebook, www.facebook.com/ cwales felly beth am ymuno â’r sgwrs?

Cofi wch y gallwch ddarllen am brofi adau pobl o fyw gyda phroblemau iechyd meddwl (a sut i siarad amdanynt!) yn ein blogiau. www. metochangewales.org.uk/cy/blogs-stories

Am mwy o gwybodaeth ymweliad www. metochangewales.org.uk

Page 8: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Iechyd Meddwl

Tudalen 8

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2015Ymgyrch Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Fyd-Eang New Horizons

Cynon ValleyRecovery College

‘Prynhawn Agored’6 Hydref 2015

1.00yp - 3.00yp16 Dean Street, Aberdare

Cysylltu Janet Whiteman ar 01685 881113

‘Noson Cwis‘ 7 Hydref 2015

7.00yp bydd y Cwis yn dechrau am

7.30yp - 10.00ypTon Pentre Football Club

Ydych chi’n barod am yr Her? Oes gan eich sefydliad chi bobl sy’n gwybod popeth? Os felly, beth am roi m at ei gilydd ar

gyfer Noson Gwis Wythnos Iechyd Meddwl y Byd?

Beth amdani – dewch i gystadlu!

Am mwy o gwybodaeth cysylltu

Sara Davies 01443 424350 neu Janet Whiteman ar

01685 881113

New HorizonsRhondda Valley

Recovery College‘Prynhawn Agored’

8 Hydref 20151.00yp - 3.00yp

Apple Tree Stores, DinasCysylltu Janet Whiteman ar

01685 881113

Am mwy o gwybodaeth cysylltu Maria Abson, Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl yn Interlink ar 01443 846200 neu

ebos wch: [email protected]

Ar ôl i Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd sefydlu Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar 10 Hydref 1992, cafodd ei fabwysiadu gan lawer o wledydd fel ff ordd o hyrwyddo materion iechyd meddwl. Bob blwyddyn caiff thema ei dewis a chaiff deunyddiau addysg eu cynhyrchu gan y Ffederasiwn i’w dosbarthu. Eleni, y thema yw ‘Urddas mewn Iechyd Meddwl’ ac er mwyn gwneud cais am y deunydd addysgol, anfonwch e-bost at: [email protected] gan nodi eich manylion cyswllt.

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn agosáu ac mae digwyddiadau wedi’u trefnu yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful ar y thema Urddas mewn Iechyd Meddwl.

Mae hyrwyddo iechyd meddwl a lles yn lleol yn golygu manteision pwysig i bawb yn ein cymunedau, ac mae’n mynd ymhell o ran lleihau s gma ac unigrwydd gan greu cymuned gefnogol, wybodus sy’n goresgyn s gma. Mae hyn yn cyfeirio egni ac ymdrech newydd i’r gwaith o wella bywydau’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl drwy herio gwahaniaethu yn lleol.

Hoff ai Interlink ddiolch yn ddiff uant iawn i bawb sy’n rhan o’r gwaith o drefnu digwyddiadau Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn lleol. Heb gyfraniad a chefnogaeth barhaus, ni fyddai’r digwyddiadau yma’n digwydd o gwbl. Hoff em ddiolch i bawb am eu cefnogaeth unigol ac ar y cyd.

Page 9: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Iechyd Meddwl

Tudalen 9

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2015

‘ Prif Ddigwyddiad Merthyr Tudful‘ Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2015

9 Hydref 201510.30yb - 2.30yp

Merthyr Tydfi l Rugby Club

Mae Digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn ff ordd o weithio gyda’n gilydd er mwyn rhoi sylw i

anghenion ein cymunedau lleol.

Bydd y diwrnod hwn yn gyfl e i ddefnyddwyr gwasanaethau gysylltu â darparwyr

gwasanaethau, a bydd hefyd yn gyfl e i sefydliadau a phartneriaid lleol arddangos eu

gwasanaethau.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau, cre au a therapïau cyfl enwol ar gael ar y diwrnod.

Cysylltwch â Maria Abson drwy ff onio 01443 846200. Er mwyn archebu lle, cysylltwch â Carol Hindley yn

VAMT dros e-bost: [email protected] neu ff oniwch 01685 353917

Mae’r digwyddiad yma wedi’i anelu at ddef- Mae’r digwyddiad yma wedi’i anelu at ddef-nyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, y cyhoedd a nyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, y cyhoedd a gweithwyr proff esiynol sydd â diddordeb mewn gweithwyr proff esiynol sydd â diddordeb mewn iechyd meddwl, a bydd ystod eang o wybodaeth iechyd meddwl, a bydd ystod eang o wybodaeth

am faterion iechyd meddwl a lles a materion am faterion iechyd meddwl a lles a materion perthnasol eraill ar gael. perthnasol eraill ar gael.

Bydd amrywiaeth o sefydliadau yn bresennol a Bydd amrywiaeth o sefydliadau yn bresennol a bydd cyfl e i unigolion holi cwes ynau a chael bydd cyfl e i unigolion holi cwes ynau a chael arweiniad ar bynciau a materion o ddiddordeb arweiniad ar bynciau a materion o ddiddordeb iddyn nhw. Bydd y digwyddiad yn gyfl e i sefy-iddyn nhw. Bydd y digwyddiad yn gyfl e i sefy-dliadau ddathlu arferion da a llwyddiannau, ac dliadau ddathlu arferion da a llwyddiannau, ac

arddangos eu gwasanaethau.arddangos eu gwasanaethau.

Bydd therapïau holistaidd rhyngweithiol ar gael Bydd therapïau holistaidd rhyngweithiol ar gael i chi eu trio hefyd. Dewch yno i gael budd o’r i chi eu trio hefyd. Dewch yno i gael budd o’r

wybodaeth fydd ar gael.wybodaeth fydd ar gael. Bydd lluniaeth ar gael drwy’r dydd. Bydd lluniaeth ar gael drwy’r dydd.

Am ragor o wybodaeth ff oniwch Maria Abson ar 01443 846200. Er mwyn archebu lle cysylltwch â

Kath Price yn Interlink

‘Digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd RhCT’

2 Hydref 2015 2 Hydref 2015 10.00yb – 2.00yp10.00yb – 2.00yp

Michael Sobell Sports CentreMichael Sobell Sports Centre

Ysgrifennu CreadigolYMCA PontypriddMercher 2 Medi 2015 am 2.30yp - 4.30ypIau 3 Medi 2015 am 2.30yp - 4.30yp

Visual ArtsYMCA PontypriddMercher 16 Medi 2015 am 1.30yp - 3.30ypMercher 23 Medi 2015 am 1.30yp - 3.30yp

Er mwyn nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, 2015, mae’r prosiect Involve 2 Evolve yn gweithio mewn partneriaeth â Making Minds i gynnal gweithdai Celf ac Ysgrifennu Creadigol ar thema ‘Urddas mewn Iechyd Meddwl’

Gyda’ch caniatâd caiff eich gwaith ei arddangos yn y digwyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd a gaiff ei gynnal ddydd Gwener 2 Hydref yng Nghanolfan Michael Sobell, Aberdâr.

I archebu eich lle, cysylltwch âRachel Wya ar 01443 846200 neu

ebos wch: rwya @interlinkrct.org.uk

Hoff ech chi fynegi’ch syniadau neu eich profi adau mewn ff ordd greadigol?

Page 10: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Iechyd a Lles

Tudalen 10

Mae Anne Morris, Hwylusydd Gofal Cymdeithasol a Lles, yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy’n rhan o’r gwaith o wella iechyd a gofal cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf. Mae Anne yn cefnogi gwaith partneriaeth rhwng y sector ac asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill sy’n cynrychioli’r sector mewn grwpiau cynllunio a phartneriaeth strategol, drwy hyrwyddo sefydliadau trydydd sector a phartneriaid statudol i’w gilydd.

Cysylltwch ag Anne drwy ff onio 01443 846200 neu dros e-bost: [email protected]

Canmoliaeth i Grŵp Cymunedol yng Ngwobrau Tlws Grisial Her Iechyd Cwm Taf 2015 Mae grwpiau cymunedol sy’n hyrwyddo ff yrdd iach o fyw ac atal salwch yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful (Cwm Taf) wedi derbyn clod a gwobrau yng Ngwobrau’r Dlws Grisial eleni. Mae’r digwyddiad hwn, wedi’i drefnu gan Dîm Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ar y cyd ag Interlink, yn cydnabod llwyddiannau grwpiau a sefydliadau lleol sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella iechyd a lles.

Un o’r pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Cymdeithas Tai Rhondda gyda’r ‘Prosiect Canfod eich Dyfodol.’ Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda’r rhai sy’n dioddef o iechyd meddwl a chorff orol gwael, diff yg hyder, cyn-droseddwyr, a’r rhai sy’n teimlo’n unig ac ynysig. Mae’r prosiect yn cynnig cymorth un-i-un a chyfl eoedd i feithrin sgiliau newydd. Mae cymryd rhan yn y prosiect yn caniatáu i denan aid wireddu eu potensial a chodi eu huchelgais, gyda chefnogaeth i wirfoddoli ac i gael hyff orddiant a swyddi. Mae dau berson a gafodd fudd o’r prosiect yn rhannu eu straeon personol; mae un wedi gweddnewid ei fywyd ac mae nawr yn rhedeg menter gymdeithasol sy’n cynnig gwasanaethau garddio ac mae’r llall yn arwain grŵp cymorth iechyd meddwl gan gyfoedion.

Dywedodd Nicola John, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ‘Mae’r prosiectau hyn ar lawr gwlad yn gwneud cyfraniad enfawr i iechyd a lles. Rhaid canmol gwaith y grwpiau yma a hoff wn weld hyn yn digwydd mewn cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.’

Dywedodd Ian Davy, Prif Swyddog, Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, ‘Mae Gwobrau’r Dlws Grisial yn ff ordd wych o gydnabod gwaith gwych grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr’

Aeth y wobr gyntaf i Ferthyr Tudful Mwy Diogel am gyfres o brosiectau i gefnogi pobl sydd wedi goroesi cam-drin domes g. Eu bwriad yw defnyddio’r wobr ariannol i ariannu Côr ‘Lleisiau yn erbyn Trais’, dan arweiniad Grŵp Goroeswyr Ifanc. Rhoddwyd yr ail wobr i Gymdeithas Tai Merthyr Tudful am eu Prosiect ‘Boxfi t’ sy’n anelu at gael mwy o ferched yn eu harddegau i gymryd rhan mewn ymarfer corff . Aeth y drydedd wobr i Gymdeithas Gristnogol Almond Tree am y gwasanaeth cwnsela sy’n cynnig cwnsela i blant a phobl ifanc ym Merthyr Tudful.

Prosiect Find Your Future

Am mwy of gwybodaeth cysylltwch Anne ar 01443 846200 neu ebos wch: [email protected]

Page 11: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Iechyd a Lles

Tudalen 11

Mae’r Cydlynwyr Cymunedol wedi derbyn clod mawr gan lawer o bartneriaid.

Y Gronfa Gofal Canolraddol - Cefnogi Pobl HŷnYn gynharach yn y fl wyddyn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad pellach yn y Gronfa Gofal Canolraddol. Nod y Gronfa yw cefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi a’u cymunedau a datblygu’r broses o integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.

Derbyniodd rhanbarth Cwm Taf bron i £2fi liwn i barhau â phrosiectau sydd wedi profi i fod yn llwyddiannus wrth helpu pobl hŷn sy’n agored i niwed, i aros yn eu cartrefi eu hunain. Bydd y gronfa refeniw cylchol yn cefnogi cynlluniau sy’n gwella gofal y tu allan i’r ysbyty, ac sy’n helpu pobl i ddychwelyd i’w cartrefi ar ôl bod yn yr ysbyty a bydd yn ychwanegu adnodd newydd hanfodol i ofal yn y gymuned. Mae’r arian yn cefnogi’r 5 Cydlynydd Cymunedol ledled ardal Cwm Taf.

Mae’r Cydlynwyr wedi’u cyfl ogi gan Interlink a Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful ac maen nhw wedi datblygu perthynas dda gyda phartneriaid statudol yn gyfl ym, gan fapio gweithgareddau cymunedol a thrydydd sector i bobl dros 65 oed. Maen nhw wedi dod yn arbenigwyr ar eu cymdogaethau o’r dechrau, ac maen nhw wedi cael eff aith o ran lleihau unigrwydd i bobl dros 65 oed drwy eu cyfeirio at weithgareddau cymunedol a thrydydd sector.

Cyfeiriwyd Mrs P gan ei Therapydd Galwedigaethol at gymorth cyfeillio a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Roedd Mrs P yn derbyn ff ysio ar ôl cwympo a thorri ei chlun. Roedd wedi colli hyder o ran mynd allan a mynd o gwmpas y lle am ei bod yn ofni cwympo eto ac roedd yn dechrau mynd yn gaeth i’w chartref a theimlo’n unig. Cyfeiriwyd Mrs P gan y Cydlynydd at Wasanaeth Cyfeillio Cyfeillion Croeso RSVP, a bellach mae’n cael ymweliadau rheolaidd gan wirfoddolwr sy’n mynd gyda hi i weithgareddau bob wythnos. Mae ei hyder wedi cynyddu ac nid yw’n teimlo’n unig bellach, diolch i’r cynnydd y mae wedi gwneud gyda’i gwirfoddolwyr drwy sicrhau ei bod yn gadael y tŷ ac yn mynd o gwmpas y lle.

‘Mae’r gwaith rydych wedi’i wneud ers dechrau yn y swydd wedi bod yn werth chweil a gwerthfawr dros ben yn fy marn i. Mae’r holl wybodaeth rydych wedi’i chasglu a’i harddangos drwy’r swyddfeydd, yn ogystal â’r e-byst llawn gwybodaeth, wedi sicrhau ein bod yn gwybod beth sydd ar gael yn y gymuned ac mae hyn wedi bod o fudd i ddefnyddwyr gwasanaethau. Roeddech yn gallu cyfeirio’r defnyddwyr gwasanaethau at wasanaethau a’u cynghori ar y gwasanaethau roedd eu hangen arnyn nhw. Gobeithio y byddwch yn gallu parhau yn eich rôl gan ein bod wedi gweld budd go iawn ers i chi ymuno â ni.’ Linda Davies, Ardal De Cynon, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

‘Mae ein cyswllt â Chydlynwyr Cymunedol y Gronfa Gofal Canolraddol wedi bod yn amhrisiadwy. Maen nhw wedi gallu agor cymaint o ddrysau i wasanaethau cymunedol, nad oedden ni’n gwybod eu bod yn bodoli. Mae angen dybryd am y gwaith partneriaeth parhaus hwn wrth ein galluogi ni i ddarparu cymorth cymunedol cydlynol i drigolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.’ Samantha Sullivan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Bydd y gwirfoddolwyr yn cynorthwyo pobl hŷn drwy eu cefnogi i gysylltu ag eraill, i gadw i fynd, i gymryd sylw o’u hamgylchedd, i roi i eraill ac i barhau i ddysgu.

Cafwyd arian pellach drwy Gynllun Grant Capasi Cymunedol newydd ar gyfer prosiectau sy’n mynd i’r afael ag eff aith unigrwydd ac yn cynnig cyfl eoedd i bobl hŷn aros yn iach ac yn annibynnol am gyfnod mor hir â phosibl.

Am mwy o gwybodaeth cysylltwch Anne Morris ar 01443 846200 neu

ebos wch: [email protected]

Page 12: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Ar ôl cymryd rhan yn Camu Ymlaen, mae dau ohonyn nhw bellach wedi cael swyddi.

Yn ogystal â helpu pobl i fynd yn ôl i’r gwaith, mae dwsin o aelodau’r cwrs wedi cymryd rhan mewn hyff orddiant pellach i’w helpu i sefydlu grŵp animeiddio. Ac mae dau aelod o’r grŵp sy’n dioddef gyda gorbryder ac iselder, wedi darganfod sut y gallan nhw gymryd rhan gyda’r prosiect iechyd meddwl ‘Involve to Evolve’.

Mae Lucy ‘dwy swydd’ Foster yn ferch brysur! Hi yw Swyddog Cyfranogi a Gwerthuso Llais y Gymuned, a hefyd Cydlynydd Prosiect Camu Ymlaen.

Mae gwaith Lucy gyda Llais y Gymuned yn golygu cefnogi wyth prosiect gwahanol iawn sy’n cynnwys amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl ifanc, pobl hŷn a phobl ag anableddau, o ran cael llais yn y broses o wella gwasanaethau cymunedol.

Cysylltwch â Lucy drwy ff onio 01443 84200 neu e-bos o: [email protected]

Camu Ymlaen

Tudalen 12

Cwrs creadigol yn helpu dysgwyr i ‘gamu ymlaen’Mae Camu Ymlaen yn gwrs hyff orddi i fagu hyder. Mae Interlink Rhondda Cynon Taf yn rhedeg y cwrs ac mae wedi helpu pobl ddiwaith yn Rhondda Cynon Taf i fynd yn ôl i’r gwaith.

Llwyddodd y bobl ar y cwrs Camu Ymlaen 12 wythnos o 14 Ebrill hyd at fi s Gorff ennaf i greu murlun a chyfansoddi caneuon a’u recordio. Hefyd, fe wnaethon nhw gyfarwyddo a pherff ormio mewn fi deo cerddorol, a throi eu llaw at animeiddio, ysgrifennu creadigol a drama.

Wedi’i ariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a’i gynnal mewn partneriaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau a Chelfyddydau Cymunedol y Cymoedd a’r Fro, roedd y cwrs yn cynnig cyfl eoedd creadigol i 16 o bobl o ardal Rhondda Cynon Taf a oedd eisoes wedi cwblhau unedau llawn neu rannol cwrs cyfl ogadwyedd City a Guilds.

Dywedodd un o’r aelodau, ‘Rwy mor falch o gael swydd. Mae’r cwrs wedi bod yn gymaint o help i fi a dwi ddim yn credu y byddwn i wedi llwyddo yn y cyfweliadau swydd hebddo.’

Dywedodd Prif Weithredwr Interlink, Simon James, ‘Rydym yn falch gyda llwyddiant y cwrs, yn enwedig am fod pawb wedi gweld newid drama g yn hunan-barch a hyder yr aelodau.’

‘Buaswn yn dweud wrth bobl sydd am wneud y cwrs yma, gymaint o ofn oedd arna i. Ar ôl pythefnos, roeddwn yn edrych mlaen at ddod bob dydd.’

Page 13: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Llais y Gymuned

Tudalen 13

Llais y Gymuned Ynysybwl - Pwll ButchersYn 2014 cyhoeddodd Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf ei ‘Doriadau Cyllideb, Cam 2’ sy’n golygu na fyddai’r Awdurdod Lleol yn ariannu unrhyw bwll padlo awyr agored o hynny ymlaen.

Nid oes gan Ynysybwl lawer o gyfl eusterau hamdden cyhoeddus ac mae pwll padlo’r pentref yn drysor lleol ac yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd a phlant yn ystod misoedd yr haf pan fydd ar agor. Yn dilyn cau ysgol leol a chyhoeddiad y byddai’r llyfrgell yn cau yn fuan, penderfynodd grŵp o bobl leol weithredu, a chadw’r pwll padlo ar agor i blant Ynysybwl. Dywedodd uwch swyddog yn yr awdurdod lleol wrth un o’r trigolion ‘dydych chi ddim yn dewis byw yn Ynysybwl os ydych chi eisiau archfarchnad.’ Efallai fod hynny’n wir, ond dwi’n dewis byw yn Ynysybwl ar gyfer y pwll padlo hwn.

I ddechrau, ystyriwyd arbed y costau rhedeg blynyd-dol, drwy godi arian i newid y pwll padlo yn ardal sblash a gwnaethpwyd cryn dipyn o ymchwil i’r costau posibl, amserlennu a chynllun. Yn y tymor byr, penderfynwyd mai defnyddio gwirfoddolwyr i staffi o’r pwll padlo fyddai’r opsiwn mwyaf ymarferol.

Gyda chymorth Llais y Gymuned, roedd y gwirfoddolwyr yn gallu dylanwadu ar Wasanaethau Hamdden yr Awdurdod Lleol, Cymunedau yn Gyntaf, Bancio Amser, Partneriaeth Adfywio Ynysybwl a’r Cyngor Cymuned ac roedd eu dylanwad cymdeithasol anhygoel yn golygu eu bod wedi denu gwirfoddolwyr â sgiliau penodol i’w galluogi nhw i atgyweirio’r pwll a’r ystafell newid a staffi o’r pwll yn ystod gwyliau’r haf. Cafodd yr holl wirfoddolwyr wiriad CRB a ddarparwyd gan fusnes lleol, fe wnaethon nhw ennill cymhwyster Cymorth Cyntaf a derbyn hyff orddiant mewn Iechyd a Diogelwch pwll nofi o a gweithdrefnau Diogelu Plant.

Roedd y Cyngor Cymuned yn falch iawn o gael eu cynnwys yn y prosiect ac roedden nhw’n teimlo eu bod wedi gwrando ar y gymuned leol a’i chefnogi er mwyn cadw’r adnodd gwerthfawr hwn ar agor. Roedden nhw’n cydnabod eu bod wedi cael eu gorfodi i weithredu y tu allan i’r camau ff urfi ol arferol ac roedden nhw’n hapus i dderbyn cydnabyddiaeth am y penderfyniadau da a wnaethon nhw.

Mae Cyfeillion Pwll Butchers yn edrych ymlaen at agor y pwll am yr ail fl wyddyn. Iddyn nhw, mae’n drysor i’r gymuned.’ Rebecca Arnold

‘Dwi mor falch bod y pwll ar agor, byddai’r gymuned ar goll hebddo.’ Person ifanc

Am mwy o fgwybodaeth cysyllwch Lucy ar 01443 846200 neu

ebos wch: [email protected]

Page 14: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Pobl Ifanc

Tudalen 14

Dadl Pobl Ifanc - ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau

Cymerodd pobl ifanc o Rhondda Cynon Taf ran mewn dadl yn gofyn y cwes wn ‘ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn ffi t i bwrpas?’. Siaradodd Ysgol Gyfun Cymer Rhondda o blaid ac Ysgol y Pant yn erbyn y cynnig.

Cadeirydd y ddadl oedd y Cynghorydd Geraint Hopkins a chynhaliwyd y ddadl ym mhresenoldeb Comisiynydd Plant newydd Cymru, yr Athro Sally Holland.

Cynhaliwyd y digwyddiad hwn yn Siambrau’r Cyngor yng Nghwm Clydach ar 8 Gorff ennaf 2015, gyda nifer o bobl ifanc eraill a sefydliadau yn y gynulleidfa ac fe gawson nhw hefyd gyfl e i gyfrannu at y ddadl. Un o’r prif bwyn au a godwyd oedd nad oedd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant na Hawliau Plant yn gyff redinol yn cael eu hysbysebu a’u hyrwyddo. Cynhaliwyd pleidlais dros neu yn erbyn y cynnig a’r canlyniad oedd 60% - 40% o blaid y cynnig.

Y Camau Nesaf:Byddai pobl ifanc yn hoffi datblygu Hawliau Plant yn Rhondda Cynon Taf drwy godi ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant.

Cyfl wynwyd her i gynghorwyr Rhondda Cynon Taf i weithio tuag at broses ‘Sylw Dyledus’, sy’n debyg i’r ff ordd y mae’n rhaid i weinidogion yn Llywodra-eth Cymru weithredu o ran Mesur Hawliau Plant a

Am mwy o gwybodaeth cysylltwch Sue Phillips yn Interlink ar 01443 846200 neu ebost: [email protected]

Yn ystod gwaith yn y gymuned gyda merched ifanc yn Wa stown, fe ddywedodd rhai merched 15-16 oed y bydden nhw wrth eu bodd yn cael cyfl e i chwarae rygbi. Trefnwyd sesiwn blasu a daeth 28 merch i gymryd rhan, ac o’r sesiwn gyntaf honno, mae’r chwaraewyr unigol a’r m ei hun wedi mynd o nerth i nerth. Yn eu hail dymor daethon nhw’n ail yng Nghynghrair Cymru gan gyrraedd rownd derfynol Cwpan Merched Cymru.

Aeth saith o chwaraewyr Wa stown ymlaen i gynrychioli m rhanbarthol Gleision Caerdydd ac aeth pump yn eu blaenau i gynrychioli Dwyrain Cymru yn Stadiwm y Mileniwm.

Mae ymrwymiad a gwaith caled y merched ifanc hyn wedi arwain at nifer o weithgareddau eraill oddi ar y cae. Gellir gweld enghrei iau ar y clipiau fi deo. Gan gofi o nad oedd y merched hyn yn gallu pasio pêl rygbi, heb sôn am orfod dysgu taclo, sgrymio a’r holl sgiliau eraill sydd eu hangen i chwarae rygbi, mae eu llwyddiant wedi bod yn anhygoel.

Tîm PincMae iechyd a lles y m wedi gwella ac mewn rhai achosion mae’r merched wedi colli hyd at bedair stôn o bwysau yn sgil yr holl ymarfer corff rheolaidd sydd ei angen i chwarae rygbi. Mae wedi bod yn daith i’r merched, gyda heriau ar hyd y ff ordd, ond pan rydym yn ystyried yr hyn rydym wedi’i gyfl awni ar y cae ac oddi ar y cae yn ystod y daith hon, mae’n anhygoel ac mae’n dangos bod rygbi yn fwy na gêm!!

www.supporters.wru.co.uk/matchdaytv/?play=media&id=21428

Fideo hyrwyddo Merched Undeb Rygbi Cymruwww.youtube.com/watch?v=aicn6DEUFdo

Fideo hyrwyddo aerobics cadair freichiau cymunedolwww.youtube.com/watch?v=34a_Ld_6u9o

Achlysur codi arian y merched ‘Gate & Nominate’www.youtube.com/watch?v=WS8vVLeoOoU

Am mwy o gwybodaeth cysylltwch Mark Hu on, Dynamic Communi es Project Leader gan ebost: mark.hu [email protected] neu galw 07929504525 www.peopleandworkunit.org.uk

Page 15: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Newyddion lleol

Tudalen 15

Arian prosiectau bach Cynaliadwyedd Llywodraeth Cymru

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a Datblygu Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arian ar gyfer prosiectau bach.

Maen nhw’n gwahodd ceisiadau am arian i ariannu prosiectau bach (£1,000 - £15,000). Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Medi 2015. Rhaid cwblhau’r gweithgaredd a gynigir erbyn 31 Mawrth 2016.

Rydym yn gwybod bod prosiectau twf cymunedol yn cynnig cymaint yn fwy i’r bobl rydych yn gweithio gyda nhw na’r agwedd tyfu yn unig. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ariannu prosiectau sy’n dangos budd o sawl math i’r gymuned, felly peidiwch â bod yn swil, gwnewch yn siŵr eich bod yn canu eich clodydd eich hun ar y ff urfl en gais!

Mae’r nodiadau canllaw llawn a’r ff urfl en gais ar wefan Llywodraeth Cymru www.llyw.cymru

Gallai’r buddiannau y gallech eu nodi gyn-nwys:

• Rheoli adnoddau naturiol - gwella bioamrywiaeth yn eich ardal

• Gwella’r amgylchedd lleol – clirio mannau sydd wedi tyfu’n wyllt, gwella mynediad at fannau gwyrdd

• Cydnerthedd ac eff eithlonrwydd adnoddau – cydweithio gyda phartneriaid lleol i ychwanegu gwerth i brosiectau cymunedol lleol, mynd i’r afael â thlodi bwyd

Os hoff ech unrhyw gymorth gyda’r cyfl e ariannu hwn, hyd yn oed os mai dim ond darllen dros eich cais cyn i

chi ei anfon, cysylltwch â:

Ken Moon yn Interlink ar 01443 846200 neu e-bos wch: [email protected] [email protected] gyda

digon o amser cyn y dyddiad cau.

Os oes gennych unrhyw gwes ynau am sut i wneud cais, cysylltwch â Llywodraeth Cymru dros e-bost: [email protected] neu ff oniwch 02920 801029. Er mwyn anfon y cais dros

e-bost, dylech gynnwys y geiriau ‘Cais Prosiect Bach’ yn y pennawd neu anfonwch y cais drwy’r RHADBOST at: Pobl a’r Amgylchedd, Llywodraeth Cymru, NAT 8910, RHADBOST, Caerdydd CF10 3BR

Mae Cymdeithas Newyddion Llafar Pontypridd, elusen gofrestredig, wedi bod yn recordio detholiad o newyddion o’r Pontypridd and Llantrisant Observer bob wythnos ers bron i 40 mlynedd. Mae’n wasanaeth am ddim i bobl â nam ar y golwg sy’n byw yn ardal Pontypridd a’r cyffi niau ac mae’n cael ei recordio ym Mhrifysgol De Cymru am awr ar CD.

Mae’r Gymdeithas yn darparu’r gwasanaeth hwn i dros 50 o wrandawyr a gall ei ymestyn i lawer mwy o bobl â nam ar y golwg sy’n byw yn yr ardal. Gellir darparu chwaraewr CD am ddim i ddefnyddwyr newydd, os nad oes un ganddyn nhw.

Cymdeithas Newyddion Llafar Pontypridd yn chwilio am wirfoddolwyr

Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod ddwywaith y mis ar nos Lun yn y Brifysgol ac os ydych chi’n gallu gwirfoddoli i ymuno â ni neu os hoff ech dderbyn y gwasanaeth,

gadewch neges ar 01443 404118 gyda’ch manylion cyswllt.

Hefyd, mae’r Gymdeithas yn gwahodd aelodau’r gymuned sydd â diddordeb yn y gwasanaeth mae’n ei ddarparu i ymuno â’i Bwyllgor i’w helpu i ddatblygu’r gwasanaeth.

Page 16: Rhif 67 Haf 2015 Urddas Mewn Iechyd Meddwl · Cara Jordan-Evans yn Interlink drwy e-bost: cjordan-evans@interlinkrct.org.uk Yn y rhifyn hwn rydym wedi: Cyfl wyniad 2 Newyddion Interlink

Rhifyn Nesaf: Rhagfyr 2015

Rhif Elusen 1141143Rhif Cwmni 07549533

Social Services and Wellbeing 2014 - Act Awareness Raising Training 4 Medi 20159.30yb - 1.00yp

Introduc on to Inves ng in Volunteers 17 Medi 20159.30yb - 12.00yp

Mental Health First Aid for Youth 25 Medi a 2 Hydred 20159.30yb - 4.30yp

Safeguarding Children and Young People30 Medi 20159.30yb - 12.30yp

Safeguarding Vulnerable Adults 30 Medi 20151.30yp - 4.30yp

Awareness of Ea ng Disorders10 Tachwedd 20159.30yb - 12.30yp

Ehangwch eich gorwelion ..... gyda hyff orddiant Interlink

Mae pob cwrs yn cael ei gynnal yn Interlink oni bai ein bod yn nodi fel arall. I gael rhagor o wybodaeth ff oniwch 01443 846200 neu ewch i www.interlinkrct.org.uk i edrych ar y rhaglen hyff orddi.

Cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar a Rheoli Straen yn dechrau ym mis Medi Taf Ely - ymwybyddiaeth ofalgar 2 Medi am 5.30ypRoyal Glamorgan Hospital

Taff Ely - Rheoli Straen21 Hydref am 5.30ypRoyal Glamorgan Hospital

Rhondda - Rheoli Straen3 Medi am 6.00ypYstrad Leisure Centre

Rhondda - ymwybyddiaeth ofalgar22 Hydref am 6.00ypRhondda Fach Sports CentreTylorstown

Cynon Valley - ymwybyddiaeth ofalgar1 Medi am 6.15ypAbercwmboi Rugby Club

Cynon Valley - Rheoli Straen20 Hydref am 6.15ypAbercwmboi Rugby Club

Am mwy or gwybodaeth cysylltwch y University Health Board ar 01443 744800

neu ebos wch: CTT_stresscontrol&[email protected]

Mae pob cwrs yn rhedeg am 6 wythnos

Beth am ddylunio eich hyff orddiant eich hunan? Rydym yn cynnig cyrsiau ar gyfer unigolion a grwpiau, mae’r ffi oedd hyff orddi i’w trafod, ac rydym yn cynnig llawer o opsiynau am ddim - cysylltwch â ni!

Ydych chi’n chwilio am le ar gyfer swyddfa yn ardal Pontypridd? Mae gyda ni swyddfeydd ar gael i’w rhentu yn ein swyddfa yng Nglan-bad.

Neu ydych chi’n chwilio am gyfl eusterau cynadledda i’w llogi?Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfl eusterau cyfarfod a chynadledda.

Mae pris llogi ystafell yn cynnwys gallu defnyddio:Gliniadur; Tafl unydd; Sgrin Tafl unio; Cyswllt â’r We; Siart Cip; Bwrdd Ysgrifennu

Gellir archebu lluniaeth am bris bach ychwanegol.

Merthyr Tydfi l - Rheoli Straen1 Medi am 10.00ybSt Mathias Church Hall, Treharris

Merthyr Tydfi l - ymwybyddiaeth ofalgar20 Hydref am 10.00ybSt Mathias Church Hall, Treharris