Upload
dangphuc
View
228
Download
10
Embed Size (px)
Citation preview
Mae'n bleser gennyf gyflwyno i chi'r arolwg byr hwn o Rhwydwaith Ymchwil
Cenedlaethol Sêr Cymru i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd (NRN-LCEE).
Yn y tudalennau a ganlyn, byddwn yn amlinellu'n fyr yr ymchwil a wneir yn ein 8 Clwstwr
Ymchwil cydweithredol, ynghyd ag arwyddocâd ehangach y gwaith hwn i'r sialensiau a
wynebir gan gymdeithas.
Cewch ddarllen hefyd am ein Cymrodoriaethau Dychwelyd, sy'n cefnogi ymchwilwyr sy'n
dychwelyd wedi cyfnodau sylweddol i ffwrdd o waith ymchwil, am gyfleoedd cyllido
newydd ac adroddiadau ar amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus a drefnwyd gan y
Rhwydwaith.
Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau’r cyflwyniad byr hwn i’n Clystyrau.
Yr Athro David Thomas
Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru
i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd
Cysylltu: [email protected]
Hyrwyddo ymchwil i ddefnydd cynaliadwy o adnoddau
naturiol i ddarparu ynni, dŵr a bwyd, ynghyd â darparu
gwasanaethau ecosystem eraill.
“Mae'r Rhwydwaith yn annog ymchwil ryngddisgyblaethol ar draws
adrannau a phrifysgolion, fel bod gwyddonwyr amgylcheddol yn
cydweithio â gwyddonwyr ynni, er enghraifft, penseiri gyda gwyddonwyr
planhigion. Y Rhwydwaith fu'r catalydd i ddod â hwy i'r un ystafell. Mae'n
annog cynlluniau cydweithredu i fod yn fwy arloesol.”
Yr Athro David Thomas, Cyfarwyddwr NRN-LCEE, a ddyfynnwyd yn Science Magazine, Hydref 2016
Mae ymchwil draws-ddisgyblaethol yn elfen greiddiol o'r Rhwydwaith a
chydweithio sydd wrth wraidd holl ymchwil NRN-LCEE. Mae'r ymchwil yn ymdrin
ag ystod eang o ddisgyblaethau, wedi'i chlystyru o gwmpas pedair prif thema:
1. Dwysáu cynaliadwy
2. Llwybrau ynni carbon isel
3. Datblygu'r Fio-economi
4. Effeithiau newid hinsawdd a gweithgaredd dynol, a sut y gellir eu lliniaru
Yn ganolog i'r Rhwydwaith mae wyth o sefydliadau partner, ac mae o leiaf ddau o'r
rhain yn cydweithio ar unrhyw broject a gyllidir gan NRN-LCEE.
Yn ogystal, mae ymchwilwyr y Rhwydwaith yn cydweithio â 28 o bartneriaid ar
draws y Deyrnas Unedig, Sbaen, Yr Iseldiroedd a'r Unol Daleithiau. Mae'r rhain yn
cynnwys sefydliadau ymchwil, cyrff llywodraeth, cwmnïau bychain a chanolig a
phartneriaid mewn diwydiant.
84 Ymchwilydd 25 CYMRAWD
YMCHWIL
12 Myfyriwr PhD
48 SEFYDLIADAU CYFRANNOG
6 Cymrawd
sy’n Dychwelyd
Lleihau Effeithiau Dyframaeth Dwys yn wyneb Newid Hinsawdd
Mae'r galw am bysgod a physgod cregyn ledled y byd wedi cynyddu 9% bob blwyddyn dros y
degawdau diwethaf ac mae amaethu pysgod wedi dod yn gynyddol bwysig.
Er mwyn hybu ymarferoldeb economaidd, sicrhau cynaliadwyedd hir-dymor a lleihau effaith y
diwydiant ar yr amgylchedd, bydd rhaid i bysgod a gaiff eu ffermio ffynnu ar lai o fwyd, llai o le
a llai o ddŵr - a chymhlethir hyn i gyd gan dymereddau uwch.
Nod ‘AquaWales’ yw pontio, am y tro cyntaf, rhwng cydrannau genetig ac amgylcheddol
(epigenetig) dofi pysgod er mwyn lleihau effeithiau dyframaeth dwys.
Mae'r Clwstwr yn rhoi sylw i'r tair agwedd hanfodol sy'n gysylltiedig â dyframaethu cynaliadwy:
1) Gwella dulliau magu pysgod, yn arbennig problemau'n ymwneud â gorlenwi
2) Gwella gallu pysgod i wrthsefyll pathogenau
3) Penderfynu ar bresenoldeb ac ymlediad rhywogaethau dyfrol ymledol (AIS)
Arweinydd Clwstwr: Dr Sonia Consuegra | Prifysgol Abertawe | [email protected]
Erbyn 2030 disgwylir y bydd dyframaeth byd-
eang yn cyflenwi dros 60% o bysgod a fwyteir gan
bobl. Yng Nghymru, mae pysgodfeydd yn
cyfrannu dros £30 miliwn y flwyddyn at
economïau gwledig ac arfordirol.
Yn fyd-eang, mae'r diwydiant dyframaeth yn colli
$3 biliwn yn flynyddol drwy afiechydon ar
bysgod.
Un o nodweddion allweddol ffermio pysgod yw
dwysedd annaturiol o uchel. Un o'r prif sialensiau
o ran hyrwyddo magu pysgod yw datblygu
rhywogaethau sy'n ymateb yn dda i orlenwi.
Mae angen dewisiadau eraill yn hytrach na bridio dethol i wella
cynhyrchu dyframaeth a gwarchod lles pysgod a chynaliadwyedd
amgylcheddol. Gallai dulliau epigenetig ar sail yr amgylchedd fod yn
ddewis o'r fath.
Cyflwynwyd llawer o rywogaethau ymledol cyn i ni ddod i wybod am
faint eu heffeithiau. Mae gwybodaeth gyfredol ar effeithiau AIS yn
helaeth ac yn cynyddu'n gyson.
Gall dilyn mesurau syml helpu i osgoi achosion newydd o AIS a'u
gwasgaru ymhellach (e.e. diheintio offer pysgota neu hwylio, rheoli
ffermio rhywogaethau a gyflwynwyd neu ffermio rhywogaethau lleol).
Mae angen i wneuthurwyr penderfyniadau gynyddu ymwybyddiaeth
diwydiant a'r cyhoedd ynghylch bygythiadau dyframaeth ac AIS i'r
amgylchedd a'r mesurau posibl i osgoi problemau cysylltiedig â hynny.
1. Sut mae gorlenwi'n effeithio ar forffoleg, ffisioleg ac ymddygiad pysgod gwyllt a rhai a fegir,
ynghyd â'u gallu i wrthsefyll parasitiaid?
2. Beth yw swyddogaethau cymharol effeithiau genetig ac an-enetig yn y ffordd mae pysgod
gwyllt a rhai a fegir yn ymateb i straen a gwrthsefyll pathogenau a sut mae newid hinsawdd
yn effeithio arnynt?
3. Beth yw llwybrau cyflwyno a gwasgaru rhywogaethau ymledol yn ymwneud â dyframaeth
(AIS)?
I ateb y cwestiynau hyn, mae ‘AquaWales’ yn cynnal arbrofion i gymharu patrymau genynnau
mewn pysgod a gaiff eu magu mewn gwahanol ddwyseddau stocio, dod i gysylltiad â
phathogenau a chynnydd mewn tymheredd. Maent yn defnyddio tair rhywogaeth wahanol sy'n
berthnasol i ddyframaeth: Tilapia'r Nîl (Oreochromis niloticus), Eog Iwerydd (Salmo salar) a Drae-
nogiad y môr (Dicentrarchus labrax).
Yn ail, mae ‘AquaWales’ yn defnyddio dulliau canfod newydd (DNA amgylcheddol) a gwaith
gwyddonol gan y cyhoedd i fapio a modelu llwybrau gwasgaru AIS. Nod y Clwstwr yw datblygu
map manwl o ddosbarthiad AIS yng Nghymru ar gyfer y rhywogaethau a ganlyn: Cimwch
arwyddol Americanaidd (Pacifastacus leniusculus), Cregyn gleision sebra (Dreissena polymorpha)
a Chranc Tsieineaidd (Eriocheir sinensis).
Asesu Cylch Bywyd Canlyniadol Effeithiau Amgylcheddol ac
Economaidd Llwybrau Cryfhau a Dwysáu Gwartheg Godro a Bîff
Arweinydd Clwstwr: Dr James Gibbons | Prifysgol Bangor | [email protected]
Mae'r diwydiant llaeth yn y DU wedi mynd drwy duedd o gyfuno a dwysáu (C&I) am dros 20
mlynedd. Gall C&I effeithio ar reolaeth a dulliau gweithredu ffermydd, ac arwain at newidiadau
anuniongyrchol mewn defnydd tir (iLUC) drwy gynhyrchu porthiant a galw cynyddol am borthiant
wedi'i fewnforio.
Mae gan C&I effeithiau amgylcheddol hefyd drwy nwyon tŷ gwydr a gollyngiadau nitrogen a
disbyddu maetholion ac adnoddau cyfyngedig. Mae effeithiau o'r fath yn amrywio rhwng
gwahanol fathau o ffermydd, er enghraifft yn dibynnu ar fath y porthiant a ph'un a gedwir
anifeiliaid i mewn neu allan.
Mae ‘Cleaner Cows’ yn defnyddio asesu cylchoedd bywyd a modelu economaidd ac amgylcheddol
i asesu effeithiau cynhyrchu llaeth a bîff ac iLUC ar wahanol raddfeydd, gan ganolbwyntio ar y
meysydd a ganlyn:
1) Tueddiadau ar lefel fferm a newidiadau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol
cysylltiedig
2) Effeithiau amgylcheddol newidiadau i ddulliau rheoli a gweithredu systemau llaeth a
bîff rhyng-gysylltiedig
3) Gyrwyr economaidd ac effeithiau C&I systemau ffermydd llaeth
Mae cynhyrchu llaeth a bîff yn achosi 9% o allyriannau CO2 byd-
eang, gan gyfrannu at newid hinsawdd o achos dyn. Cynyddir
ôl-troed carbon bwyd a gaiff ei fwyta yn y DU 50% drwy
ddefnydd tir y tu allan i'r DU.
Yn 2014-2015 yn unig, rhoddodd ffermydd llaeth yn Lloegr a
Chymru £750 miliwn i ffermwyr.
Rhwng 1994 a 2012 fe wnaeth cyfran ffermydd llaeth yn
cynhyrchu llai na 0.5 miliwn L ostwng o 45% i 11%, tra gwnaeth
cynhyrchiant ar ffermydd yn cynhyrchu dros 2 miliwn L gynyddu i
31%.
Mae gan reoli cynnwys nitrogen mewn porthiant botensial
sylweddol i leihau allyriadau nitrogen o ffermydd llaeth.
Dylai mesurau dwysáu cynaliadwy gymryd i ystyriaeth effeithiau
cymdeithasol-ddemograffig a rhanbarthol, yn ogystal ag effeithiau
economaidd ac amgylcheddol ar raddfa ehangach.
Mae gan gymryd i ystyriaeth effeithiau cynhyrchu porthiant ar
ôl-troed carbon y diwydiant llaeth yn y DU ac yn fyd-eang
oblygiadau mawr ar gyfer asesu cynaliadwyedd cynnyrch llaeth.
Ni ostyngir gor-gynhyrchu llaeth ar hyn o bryd heb ymyriad polisi,
oherwydd anogaethau annigonol ar hyn o bryd i ffermydd unigol
leihau'r llaeth maent yn ei gynhyrchu.
1. Beth yw effeithiau cynhyrchu llaeth yn symud o un math o fferm i fath arall yn ystod cyfuno
a dwysáu (C&I)?
2. Sut mae llwybrau C&I gwartheg llaeth dan do a phori allan yn cymharu o ran adnoddau ac
effeithlonrwydd ariannol ac effeithiau amgylcheddol?
3. Beth yw'r dulliau a'r polisïau rheoli mwyaf effeithiol i arwain dwysáu cynhyrchu llaeth mewn
ffordd gynaliadwy?
Gan ddefnyddio setiau data mawr ar gynhyrchu llaeth yn y DU, mae'r Clwstwr yn dadansoddi
tueddiadau amgylcheddol ac economaidd ar gyfer y diwydiant yn y gorffennol. Maent yn
defnyddio'r rhain i ragweld cynaliadwyedd ffermydd o wahanol fath yn y dyfodol dan wahanol
senarios economaidd-gymdeithasol a pholisi.
Yn ail, mae'r Clwstwr yn modelu'r gyrwyr economaidd ac effeithiau dulliau gweithredu C&I a
dadansoddi cylch bywyd cyflawn cynhyrchu llaeth a bîff. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu
porthiant, isadeiledd, cludiant, gwastraff, a phrosesau ecolegol, economaidd a chymdeithasol
cysylltiedig. Trwy wneud hyn, gellir asesu effaith ehangach gwahanol ymborth anifeiliaid a dulliau
rheoli, megis ffermydd lle mae gwartheg yn pori allan a rhai dan do.
Yn olaf, defnyddir adborth o fodelu asesu rheolaeth ffermydd, economaidd a chylch bywyd i
asesu cynaliadwyedd ac arfer gorau hir dymor i'r diwydiant llaeth a bîff.
Strategaeth i ddiogelu glaswelltiroedd rhag tywydd eithafol drwy
wrthsefyll gwahanol fygythiadau
Mae gwell glaswelltiroedd ar gyfer ffermio da byw yn elfen bwysig o dirwedd ac economi Cymru.
Gall tywydd eithafol effeithio'n negyddol arnynt, gan effeithio ar ddiogelwch bwyd, storio carbon
a dŵr, bioamrywiaeth, yn ogystal â'r economi a'r tirwedd. Gall effeithiau tywydd eithafol fod yn
waeth os yw hynny'n digwydd yn fwy aml, rhywbeth sydd i'w ddisgwyl gyda newid hinsawdd.
Er mwyn gwarchod glaswelltiroedd ffermio i'r dyfodol, mae angen mathau newydd o laswellt a all
wrthsefyll mwy nag un bygythiad, ynghyd â strategaethau rheoli tir wedi'u seilio ar wyddoniaeth.
Mae ‘Climate-Smart Grass’ yn asesu ymatebion glaswelltir i ddigwyddiadau tywydd eithafol, ac yn
datblygu mathau newydd o laswellt a fydd yn gallu gwrthsefyll y gwahanol amodau hinsawdd
canlynol yn well:
1) Llifogydd
2) Sychder
3) Osôn uchel ar lefel daear
Arweinydd Clwstwr: Yr Athro Davey Jones | Prifysgol Bangor | [email protected]
Mae tywydd eithafol cynyddol gyson
(e.e. stormydd, sychder, gwres mawr) eisoes yn
effeithio ar 300 miliwn o bobl ar draws y byd.
Amcangyfrifir bod llifogydd yn achosi
£10-25 miliwn ac osôn £180 miliwn o ddifrod yn
flynyddol i gnydau yn y DU. Mae llifddwr yn
rhedeg oddi ar dir amaethyddol yn costio
£4 biliwn y flwyddyn yn y DU.
Mae gweiriau Festulolium yn tyfu'n gyflym a
chyda gwreiddiau dwfn, gan eu galluogi i
wrthsefyll llifogydd a sychder, ac yn fan cychwyn
delfrydol i ddatblygu amrywiaethau newydd.
Rhagwelir patrymau tywydd eithafol amlach i Gymru yn cynnwys
stormydd, cyfnodau hirach heb law, a mwy o achosion o osôn
niweidiol ar lefel daear. Mae addasu'n hanfodol i amddiffyn tirwedd
Cymru a'r economi Gymreig.
Yn economaidd, sychder yw'r bygythiad mwyaf i ardaloedd
amaethyddol Cymru. Mae sychderau'n gysylltiedig fel rheol â lefelau
niweidiol o osôn lefel daear a straen gwres.
Llifogydd sy'n achosi'r canlyniadau hir dymor mwyaf difrifol oherwydd
y difrod mae'n ei achosi i'r pridd ac i'r glaswellt.
Mae amrywiaethau presennol o weiriau tir isel yn cael eu niweidio'n
hawdd gan lifogydd, gan arwain at gynnydd mewn chwyn. Mae
amrywiaethau newydd yn gallu gwrthsefyll a dod dros lifogydd yn well.
Mae llawer o weiriau sy'n gallu gwrthsefyll llifogydd hefyd yn debygol
o fedru gwrthsefyll sychder yn well.
1. Beth yw effeithiau cyfuniadau o lifogydd, sychder ac osôn uchel ar lefel daear ar ryngweithio
planhigion-pridd mewn glaswelltiroedd, cynhyrchiant fferm a darparu gwasanaethau
ecosystem?
2. Beth yw'r ‘trobwyntiau’ pan all straenachoswyr achosi newidiadau negyddol di-droi'n-ôl yng
ngweithrediad ecosystemau glaswelltiroedd?
3. Beth yw'r nodweddion allweddol sydd eu hangen i amrywiaethau gwair Festulolium
wrthsefyll gwahanol fygythiadau tywydd?
Gan ddefnyddio arbrofion maes hir-dymor, mae'r Clwstwr yn profi sut mae priddoedd a
glaswelltir arferol yn ymateb i gyfnodau olynol o sychder a llifogydd, a beth yw'r 'trobwyntiau' ar
ôl rhai nad oes adferiad yn digwydd. Defnyddir tai gwydr Solardome gyda systemau chwistrellu
osôn i weld beth yw'r ateb a'r adferiad i unrhyw gyfuniad o dri bygythiad (osôn, llifogydd a
sychder).
Yn ogystal, mae amrywiaethau o wair Festulolium yn cael eu sgrinio am wrthsefyll straen gan
ddefnyddio technegau bridio moleciwlaidd. Nesaf, defnyddir yr amrywiaethau mwyaf gwydn i
ddatblygu glaswelltiroedd newydd uchel eu cynnyrch sy'n gwrthsefyll gwahanol fygythiadau.
Yn olaf, defnyddir profion maes helaeth i ddilysu gwytnwch yr amrywiaethau newydd dan
wahanol senarios tywydd eithafol.
Asesu, Disgrifio a Gwella Storio Carbon Daearegol ac Ynni Geothermol
yng Nghymru
Mae Storio Carbon Daearegol (GCS - sef chwistrellu CO2 i greigiau tanddaearol) yn strategaeth
allweddol i leihau allyriadau CO2. Gall gweithgaredd microbaidd is-wyneb gynorthwyo
rhyngweithiad CO2 â chreigiau tanddaearol, a all achosi i CO2 gael ei 'gaethiwo' mewn mwynau
solid.
Yn ychwanegol at GCS, mae gan faes glo Cymru'r potensial i ddarparu ynni carbon isel drwy
bympiau gwres tanddaear (GH), gan ddefnyddio gwres dŵr daear a gynhyrchir yn ficrobaidd.
Nod ‘Geo-Carb-Cymru’ yw disgrifio a gwella cyfleoedd ar gyfer systemau GCS a GH yng Nghymru.
Yn arbennig, bydd y Clwstwr yn asesu:
1) Ymarferoldeb, cyfyngiadau a maint cronfeydd GCS posibl yng Nghymru
2) Y rheolaethau ffisegol, cemegol a microbiolegol ar CO2 is-wyneb
3) Y potensial i wres a gynhyrchir yn ficrobaidd ddarparu ynni carbon isel drwy
gyfrwng pympiau GH ar raddfa fawr
Amcangyfrifir y gall GCS leihau allyriadau CO2
byd-eang 19% ac y gall ymladd newid
hinsawdd gostio 70% yn fwy heb GCS.
Mae Cymru ar hyn o bryd yn cynhyrchu 13%
o garbon y Deyrnas Unedig a chyfrannu at
newid hinsawdd o achos dyn.
Nid oes gan allyrwyr carbon Cymru fynediad
rhwydd at storio carbon daearegol
confensiynol mewn cronfeydd gwag yn y
meysydd nwy. Felly, mae'n bwysig archwilio
opsiynau storio anghonfensiynol mewn
tywodfeini, glo a siâl yng Nghymru.
Arweinydd Clwstwr: Dr Andrew Mitchell | Prifysgol Aberystwyth | [email protected]
Mae gan Gymru opsiynau storio carbon sylweddol yn nhywodfeini
Dwyrain Môr Iwerddon ac ym meysydd glo De Cymru; dylid ystyried
y rhain ar gyfer GCS o gynhyrchu pŵer a diwydiant.
Mae archwilio is-wyneb yn datgelu cymunedau microbaidd brodorol
arbennig, gan ddatgelu potensial biotechnolegol yr is-wyneb i wella
ynni carbon isel ac i gael organebau ar gyfer defnyddiau masnachol
posibl.
Mae gan gymunedau microbaidd y potensial i wella GCS a GH, drwy
gynyddu cyfradd drawsffurfio CO2 i ffurf fwynol, a thrwy gynyddu'r
gyfradd y mae adweithiau geogemegol sy'n cynhyrchu gwres yn
digwydd.
Mae hen gloddfeydd tan-ddaear a thipiau gwastraff ar yr wyneb yn
fannau delfrydol ar gyfer archwiliadau geothermal yn y dyfodol.
1. Pa rai yw'r mannau addas ar gyfer Storio Carbon Daearegol (GCS) yng Nghymru a'r cyffiniau?
2. Beth yw effeithiau gweithgaredd microbaidd ar lif a ffawd CO2 a chwystrellir a gallu
safleoedd GCS posibl i gynhyrchu?
3. Beth yw effeithiau chwistrellu CO2 a chael gwared ar wres geothermal i gynhyrchu ynni ar yr
is-wyneb?
4. Sut mae nodweddion ffisegol ac amgylchedd cemegol safleoedd storio posibl yn effeithio ar
gymunedau microbaidd?
Yn gyntaf, mae mapiau daearegol 3D clir yn cael eu defnyddio i nodi safleoedd storio posibl o
amgylch Cymru, a'u sefydlogrwydd dros ganrifoedd.
Yn ail, mae arbrofion ynghyd â thechnoleg dilyniannu DNA yn cael eu defnyddio i ddisgrifio
amrywiaeth microbaidd mewn safleoedd storio posibl, ac i asesu swyddogaeth microbau yn
sefydlogrwydd CO2 o dan y ddaear drwy fwyneiddiad, a chyfraddau cynyddol adweithiau
cynhyrchu gwres.
Yn olaf, mae modelau newydd yn cael eu datblygu i asesu'r prosesau allweddol sy'n effeithio ar
sefydlogrwydd a symudiad CO2 dan y ddaear; o ryngweithiadau gyda chelloedd microbaidd
unigol, i fandyllau creigiau a ffurfiannau craig cyfan.
Gwella Cynhyrchiant Amaethyddol a Gwytnwch Gwasanaethau
Ecosystemau mewn Tirweddau Aml-swyddogaethol
Mae trefoli, diraddiad amgylcheddol a newid hinsawdd yn sialensiau o bwys i amaethyddiaeth, yn
arbennig wrth gydbwyso sicrwydd bwyd gyda gwasanaethau ecosystem eraill, defnydd lluosog o
dir, a swyddogaeth amaethyddiaeth mewn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG).
Mae presenoldeb gwrychoedd a choed mewn tiroedd pori yn creu 'tirwedd aml-swyddogaeth' a
all wella lles a chynhyrchiant da byw drwy ddarparu cysgod a llystyfiant. Gall tirwedd o'r fath yr un
pryd gefnogi gwasanaethau tirwedd eraill, megis rheoli hinsawdd a llifogydd, iechyd pridd, dal
carbon a chadwraeth maetholion.
Mae ‘Multi-Land’ yn archwilio sut mae coed a gwrychoedd yn y tirwedd yn effeithio ar ymddygiad
anifeiliaid, gwella gwasanaethau ecosystem, a newid cylchynu maetholion a biogeocemeg pridd.
Yn benodol, mae'r Clwstwr yn anelu at wella ein dealltwriaeth o'r canlynol:
1) Y rhyngweithiadau rhwng da byw yn pori, rhywogaethau planhigion tir pori,
gweithrediad pridd a chyflwyno gwasanaethau ecosystem
2) Swyddogaeth ymddygiad anifeiliaid, maethiad a metabolaeth mewn cynyddu
cynhyrchiant a lleihau allyriadau GHG
Mae anifeiliaid cnoi cil yn cynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i 7.1
Gt CO2 o GHG byd eang, sy'n cynrychioli 14.5% o gyfanswm
allyriadau anthropogenaidd a 9% o allyriadau'r DU. Yng
Nghymru, amcangyfrifir y gall gwell porthiant, llwyddiant
ŵyna a dulliau rheoli leihau hyn o 6.5%.
Y DU yw 6ed cynhyrchydd cig defaid mwya'r byd ac mae'n
allforio 36% o'r cynnyrch i dros 100 o wledydd.
Fe wnaeth datgoedwigo yn ystod y bedwaredd ganrif ar
bymtheg leihau gorchudd coed y DU i 5% o arwynebedd tir.
Yng Nghymru, mae polisïau diweddar wedi cynyddu hyn i
15%, ond ni ddeellir yn iawn eto swyddogaeth coed mewn
amaethyddiaeth gynaliadwy.
Arweinydd Clwstwr: Dr Andrew Smith | Prifysgol Bangor | [email protected]
Mae gwella ein dealltwriaeth o ryngweithiadau coed-da byw-pridd
yn ucheldiroedd Cymru yn hanfodol i gynyddu gallu'r ecosystem i
wrthsefyll newid hinsawdd a digwyddiadau eithriadol.
Mae amrywiaethu ucheldiroedd gyda choed a gwrychoedd yn rhoi
potensial i ddwysáu dulliau ffermio mewn ffordd gynaliadwy.
Gall lleoli coed a gwrychoedd yn strategol hybu defnydd tir gan wella
lles a chynhyrchiant da byw.
Mae defnyddio rhywogaethau coed a pharamedrau hydrolegol pridd
o fath penodol yn hanfodol i hyrwyddo dulliau naturiol effeithiol i
reoli llifogydd.
1. A all rhyngweithiadau rhwng da byw a choed gynyddu cynhyrchiant amaethyddol yn
gynaliadwy?
2. Sut mae cynnwys coed mewn tir pori'n effeithio ar reoli hinsawdd?
3. Beth yw effeithiau rhywogaethau penodol o goed a math pridd ar hydroleg?
I ateb y cwestiynau hyn, mae'r Clwstwr yn defnyddio modelau realistig, maint llawn o ddefaid i
fesur thermoreoli defaid mewn tiroedd pori gyda lefelau amrywiol o orchudd coed. Wrth gyfuno
hyn â data tywydd lleol, gellir asesu effeithiau cysgod ar fetabolaeth anifeiliaid. Asesir ymddygiad
pori drwy ddefnyddio tagiau tracio GPS, a mapio symudiad anifeiliaid ar fapiau tirwedd a
llystyfiant.
Mae tiroedd pori gyda lefelau gwahanol o orchudd coed yn cael eu cymharu i ymchwilio sut mae
gorchudd yn effeithio ar fioamrywiaeth dan ddaear ac allyriadau GHG o'r pridd. Gellir asesu
effaith coed ar nodweddion pridd a hydroleg drwy gymharu pridd mewn gwahanol safleoedd
ledled Cymru.
Yn olaf, defnyddir modelau i benderfynu'r safleoedd mwyaf strategol i feltiau cysgod yn y tirwedd
er mwyn lliniaru effaith llifogydd.
Caiff data o'r holl wahanol raddfeydd hyn eu cyfuno i fesur effaith da byw a'u hymddygiad ar
ddosbarthiad gofodol maetholion, llifau dŵr a fflycsau GHG mewn tirweddau.
Integreiddio Gwyddorau Planhigion a'r Amgylchedd Adeiledig
Mae pensaernïaeth sydd wedi ei hysbrydoli gan natur a dulliau modern magu planhigion yn ceisio
cynyddu goddefgarwch i eithafion hinsawdd a defnyddio ynni, dŵr a golau yn effeithlon. Mae
angen i bensaernïaeth ddarparu amgylchedd adeiledig i gymdeithas i'r dyfodol sydd yn effeithlon
o ran adnoddau, yn effeithiol o ran darparu amodau da ar gyfer byw a gweithio, ac sydd yn
ddymunol i'r synhwyrau. Mae angen i wyddonwyr planhigion ystyried sut y gellir cynhyrchu
cnydau o fewn dinasoedd, a darparu amrywiaethau cnydau sy'n gallu gwrthsefyll tywydd eithafol.
Mae ‘Plants & Architecture’ yn astudio'r rhyngweithio rhwng adeiladau a phlanhigion a'u
hamgylchedd, er mwyn i ni fedru datblygu'r dinasoedd a'r cnydau ar gyfer yfory.
Mae'r Clwstwr yn canolbwyntio ar bum maes ymchwil:
1) Isadeiledd gwyrdd - Dewis planhigion ar gyfer adeiladau gwyrdd
2) Effeithiau straen gwynt a mecanyddol ar blanhigion
3) Amaethyddiaeth drefol - dewis planhigion, effeithiau golau, maetholion a thymheredd
4) Deunyddiau bio-seiliedig
5) Modelu hinsawdd trefol
Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhagweld y
bydd 70% o boblogaeth y byd yn byw mewn
trefi a dinasoedd erbyn 2050. Mae hyn
eisoes dros 50%.
Mae'r Undeb Ewropeaidd yn anelu at arbed
20% o'i ddefnydd ynni sylfaenol erbyn 2020.
Gwella gallu adeiladau i ddefnyddio ynni'n
effeithlon yw un o'r dulliau cyflymaf a mwyaf
cost effeithiol o arbed ynni a lleihau
allyriadau CO2.
Mae cynhyrchu cnydau o fewn dinasoedd yn
fanteisiol trwy leihau costau cludiant, yn
ogystal â thrwy fanteision esthetig ac iechyd.
Arweinydd Clwstwr: Yr Athro Iain Donnison | Prifysgol Aberystwyth | [email protected]
Gall pensaernïaeth a gwyddorau planhigion ddysgu oddi wrth ei
gilydd i ddatblygu atebion seiliedig ar natur i wneud dinasoedd y
dyfodol yn fwy cynaliadwy ac yn fannau mwy dymunol i fyw a
gweithio ynddynt.
Gall amaethyddiaeth drefol fod yn ffynhonnell cynnyrch ffres, gwaith
a hamdden; gan gyfrannu at iechyd a lles pobl o fewn trefi a
dinasoedd.
Gall planhigion roi ystod o ddeunyddiau adeiladu y gellir eu
defnyddio i leihau'r allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig ag
adeiladu adeiladau a'u defnyddio wedyn.
Gall isadeiledd gwyrdd, yn cynnwys defnyddio toeau a waliau
gwyrdd, helpu i wella perfformiad adeiladau yn ogystal â helpu i fynd
i'r afael ag effeithiau ynysoedd gwres mewn dinasoedd.
1. Pa donfeddi LED sy'n hybu twf cnydau a gwerth maethol, a sut mae straen gwynt a mecanyddol
yn effeithio ar dwf cnydau a phensaernïaeth?
2. Pa is-haenau to gwyrdd sy'n hybu twf planhigion, ansawdd aer a rheolaeth thermal adeiladau?
3. Sut all strwythurau cell planhigion a morffoleg ffibrau ddylanwadu ar gynllunio deunyddiau
adeiladu sy'n rhoi perfformiad uchel?
4. Sut mae mannau gwyrdd trefol yn effeithio ar ficro-hinsoddau o amgylch adeiladau a defnydd
ynni adeiladau?
Mae'r Clwstwr yn defnyddio arbrofion traddodiadol a threialon maes i ymchwilio i dwf cnydau
dan amodau gwahanol. Yn ogystal, mae ffibrau newydd o blanhigion a deunyddiau cyfansawdd
yn cael eu datblygu ac mae eu defnydd at ddibenion adeiladu gwahanol yn cael eu profi.
Mae adeiladau cysyniadol yn cael eu cynllunio sy'n ymgorffori deunyddiau newydd a nodweddion
ffisegol yn deillio o blanhigion, megis strwythurau seiliedig ar gelloedd a sensitif i olau, a waliau a
thoeau gwyrdd.
Yn olaf, mae effaith mannau gwyrdd a phlanhigion ar ficro-hinsoddau trefol ac amgylcheddau dan
do yn cael ei brofi a'i fodelu ar gyfer adeiladau presennol a rhai i ddod.
Meintioliad, Optimeiddiad, ac Effaith Amgylcheddol Ynni
Adnewyddadwy'r Môr
Arweinydd Clwstwr: Dr Simon Neill | Prifysgol Bangor | [email protected]
Mae moroedd ysgafell gogledd orllewin Ewrop yn rhoi adnoddau blaenllaw o ran ynni llanw ac
ynni'r môr ar gyfer datblygu diwydiant ynni adnewyddadwy'r môr. Fodd bynnag, nid yw natur yr
adnoddau hyn a'u hymwneud â'i gilydd yn cael eu deall yn llawn, na sut y bydd yr adnodd yn
esblygu o ganlyniad i godiad yn lefel y môr a newidiadau mewn patrymau tywydd.
Ymhellach, mae ansicrwydd o hyd ynglŷn â sut orau i optimeiddio gosodiadau ynni'r môr fel bod
yr adnoddau ysbeidiol hyn yn gallu darparu ffynhonnell gadarn o bŵer, gan leihau effaith
amgylcheddol gymaint ag y bo modd.
Nod ‘Quotient’ yw deall swyddogaeth elfennau adnewyddadwy'r môr yn amrywiol
ddarpariaethau ynni'r dyfodol, o fewn cyd-destun y themâu ymchwil a ganlyn:
1) Asesu adnoddau
2) Optimeiddiaeth
3) Effeithiau dyfeisiadau ynni adnewyddadwy ar yr amgylchedd
4) Effeithiau'r amgylchedd ar ddyfeisiau ynni adnewyddadwy
Mae Llywodraeth y DU wedi addo cael gwared ar
ffynonellau pŵer wedi'u seilio ar garbon erbyn 2025.
Er mwyn cyflawni galw am ynni a lleihau newid
hinsawdd, mae angen i gynhyrchu ynni amrywiaethu
a lleihau dibyniaeth ar danwyddau ffosil.
Amcangyfrifir bod gan foroedd ysgafell gogledd
orllewin Ewrop 27GW o ynni o lanw a thonnau. Dim
ond 7MW sydd wedi ei osod hyd yma.
Mae gan y diwydiant ynni môr y potensial i ddarparu
£1.4 - £4.3 biliwn i GDP y DU erbyn 2050.
Mae tonnau a symudiadau rheolaidd llanw yn rhoi ffynhonnell ynni
carbon isel a all hefyd ddarparu economi uwch dechnoleg.
Mae sialensiau peirianyddol yn amgylchedd eithafol y cefnfor yn
sylweddol. Er enghraifft, mae cyflymder ceryntau llanw a dwysedd
dŵr môr yn debyg i rymoedd 4 corwynt dyddiol.
Gyda'r strategaeth gywir ar gyfer ynni môr adnewyddadwy, gellir
cynhyrchu trydan cyson o'r adnoddau sydd ar gael, gan ddarparu ar
gyfer diwydiant uwch dechnoleg a hyd at £4.3 biliwn i GDP y DU
erbyn 2050.
Mae angen offer gwyddonol newydd i roi gwybodaeth i beirianwyr a
llunwyr polisi am y rhyngweithiadau rhwng dyfeisiadau a'r adnodd. Er
enghraifft, modelau sy'n dynwared dynameg tonnau a llanw ar gyfer
amodau cefnforol, a rhagfynegiadau cludo gwaddod ar raddfeydd
amser canmlwyddol i asesu effaith amgylcheddol dyfeisiadau.
1. Faint o drydan ellir ei gynhyrchu o adnoddau ynni môr tonnau a llanw?
2. Ymhle o amgylch y DU y gall araeau môr adnewyddadwy gael eu datblygu orau?
3. Pa gynllun sy'n creu'r dyfeisiadau mwyaf gwydn ac effeithlon a sut fydd dyfeisiadau'n
rhyngweithio â'r amgylchedd?
4. Pa effeithiau fydd newidiadau i'r adnoddau yn y dyfodol yn eu cael ar y diwydiant ynni môr?
I ateb y cwestiynau hyn, mae ‘Quotient’ yn ymchwilio i adborth rhwng dyfeisiadau ynni
adnewyddadwy a'r amgylchedd. Mae'r Clwstwr yn defnyddio uwchgyfrifiadura ar gyfer modelu
3D cydraniad uchel ar draws ystod o raddfeydd amser a graddfeydd gofodol, a ddilysir gan
arsylwadau maes ac arbrofion labordy.
Ar raddfa môr ysgafell, mae'r Clwstwr yn edrych ar amodau eigionegol drwy fodelu
hydrodeinamig ac yn asesu gallu gweithredu a lleoliadau gorau i araeau tonnau a llanw.
Ar raddfa ranbarthol, mae amrywiad cynnwrf mewn gofod ac amser a ffurfweddiad optimaidd
dyfeisiadau ar wely'r môr yn cael eu nodweddu.
Mae effeithiau dyfeisiadau ar yr amgylchedd yn cael eu hasesu drwy fesur cynnwrf ac effaith
llanw a thonnau ar ddyfeisiadau unigol, ac ar berfformiad a gwytnwch tyrbinau.
Integreiddio Gwytnwch Ecosystemau yn rhan o Gynllunio Arfordirol er mwyn Parhad
Amddiffynfeydd Naturiol rhag Llifogydd a Gwasanaethau Ecosystemau Gwlyptiroedd
Mae'r morfeydd heli yn hanfodol i amddiffyn arfordiroedd, trwy amsugno tonnau a chloi
priddoedd o fewn rhwydi gwreiddiau planhigion. Mae morfeydd heli'n rhoi manteision
ychwanegol i gymdeithas, ar ffurf lleoedd hamdden, storio carbon, tir pori a chynefin bywyd
gwyllt. Eto, mae morfeydd yn naturiol ddeinamig: Gallant newid eu safle'n gyflym, tyfu, neu
drawsnewid yn fflatiau llaid. Yn dibynnu lle mae'r morfa, gall newid hinsawdd a datblygu
arfordirol hefyd effeithio ar forfeydd, y defnydd a wneir ohonynt a'u rheoli.
Mae ‘Resilcoast’ yn rhoi sylw i swyddogaeth morfeydd heli yn rhoi manteision naturiol, ac yn
ymchwilio i wytnwch hanesyddol a dyfodol morfeydd dan wahanol amodau, drwy archwilio:
1) Sut mae gwytnwch naturiol yn dibynnu ar gyflwr yr amgylchedd
2) Sut mae gwerth manteision naturiol yn amrywio gyda tharfu a newid hinsawdd naturiol
ac o waith dyn
3) Sut mae cyflwr morfeydd yn effeithio ar reoli'r arfordir, economi Cymru, a darparu cynefin i
rywogaethau sydd dan fygythiad
Ar hyn o bryd mae 5.5. miliwn o gartrefi'r DU
mewn perygl oddi wrth lifogydd, ac mae difrod
llifogydd i gartrefi yng Nghymru a Lloegr yn unig yn
costio £1.2 biliwn yn flynyddol. Disgwylir i hyn
gynyddu gydag effeithiau newid hinsawdd, yn
cynnwys stormydd cyson a chodiad yn lefel y môr.
Mae arfordir Cymru'n gartref i dros 60% o'r
boblogaeth, mae'n darparu 92,000 o swyddi ac o
bwysigrwydd hamdden i 75% o'r bobl.
Mae 23% o arfordir Cymru eisoes yn dangos
arwyddion o erydu, gan achosi risg i gartrefi,
isadeiledd a gwasanaethau ecosystem.
Arweinydd Clwstwr: Dr Martin Skov | Prifysgol Bangor | [email protected]
Mae rhaid deall gwytnwch ar raddfeydd mwy: tra bo rhai morfeydd
yn erydu mae eraill gerllaw yn ehangu. Dylai polisi feithrin trefn
reoli ar sail 'darlun mawr'.
Mae morfeydd heli a reolir yn dda yn rhoi cyfleoedd busnes rhagorol
drwy weithgareddau hamdden.
Mae ar ecosystemau arfordirol angen lle a chyfle i dyfu, crebachu
neu symud. Nid ydynt yn sefydlog. Gall rhwystro eu ffordd fod yn
ddrud, os collir gwarchodaeth arfordirol naturiol.
Mae rhoi lle i natur yn lleihau peryglon llifogydd: po fwyaf y morfa,
po leiaf y don.
Mae cyfleoedd helaeth i wella polisi rheoli traethlinau: Daethom ar
draws dros 250 o offerynnau polisi perthnasol i forfeydd ar gyfer un
aber yng Nghymru, ond yr un yn targedu gwytnwch yn benodol.
1. Beth yw'r patrymau gwytnwch, trawsffurfio a symudiadau mewn morfeydd heli?
2. Beth yw'r mecanweithiau biolegol ac amgylcheddol sy'n sail i wytnwch morfeydd, a beth yw
effeithiau bioamrywiaeth, da byw yn pori a newid hinsawdd?
3. Pa wasanaethau ecosystem y mae morfeydd heli'n eu darparu, a sut orau y gellir troi
hynny'n bolisi a chamau rheoli?
Gan ddefnyddio ffotograffiaeth awyr hanesyddol o ardaloedd arfordirol, mae ‘Resilcoast’ wedi
creu map hanesyddol o forfeydd yng Nghymru ac mae'n cymharu hyn â newid amgylcheddol yn y
gorffennol .
Mae arbrofion maes mewn morfeydd ledled Cymru'n cael eu defnyddio i adnabod effeithiau pori
a phrosesau amgylcheddol ar erydiad a thwf morfeydd.
Mae modelau mathemategol uwch yn cael eu datblygu, mewn cydweithrediad â'r Clwstwr
‘Quotient’, i ragfynegi newidiadau yn y dyfodol i faint morfeydd heli a sut y bydd newidiadau o'r
fath yn debygol o effeithio ar y manteision naturiol mae pobl yn eu cael o forfeydd.
O gyfuno'r data hyn ag ymchwil i bolisi a chynllunio rheoli traethlinau, gall y Clwstwr nodi pa
fanteision mae morfeydd heli'n eu rhoi i gymdeithas, sut mae newidiadau cyflwr yn cael eu
hystyried yn y polisi presennol, a pha mor dda mae'n rhoi sylw i wytnwch naturiol.
Mae Cynllun Cymrodoriaethau Dychwelyd yr NRN-LCEE yn benodol yn cefnogi
ymchwilwyr sy'n dychwelyd yn dilyn cyfnodau estynedig o'u gwaith. Trwy gyfrwng
y fenter hon, mae chwe ymchwilydd sy'n dychwelyd ar ôl absenoldeb mamolaeth
wedi cael cyfle i neilltuo rhagor o'u hamser i ddatblygu eu hymchwil, gan gyflawni
cyhoeddiadau o ansawdd uchel a denu rhagor o incwm grantiau.
Dr Jessica Adams | Prifysgol Aberystwyth | [email protected]
Uwch Wyddonydd Ymchwil yw Jessica gyda diddordeb mewn defnyddio
macroalgâu (gwymonau) ar gyfer bioburo, echdynnu cynnyrch gwerth uchel, a
bioarchwilio poblogaethau microbaidd newydd. Gyda'i Chymrodoriaeth
Ddychwelyd, mae Jessica'n datblygu cynlluniau cydweithio newydd yn y DU,
Ewrop a Japan, gan edrych ar ddefnyddio dulliau newydd i echdynnu o wymon,
datrys problem gwymon ar draethau, a datblygu mwy o ymwybyddiaeth o drin
gwymon mewn gwahanol ddiwylliannau.
Dr Elaine Jensen | Prifysgol Aberystwyth | [email protected]
Genetegydd moleciwlaidd yw Elaine a ddechreuodd ei gyrfa ymchwil gyda
gradd mewn Bioleg Amgylcheddol fel myfyriwr 'hŷn', ac ar gyfer ei PhD
ymchwiliodd i fynegiant genynnau yn ystod rhyngweithiadau codlys a
rhizobia. Roedd ei BSc yn cynnwys project anrhydedd ar fioadferaid a bu arni
eisiau mynd ar drywydd y pwnc hwn byth ers hynny. Gan ddefnyddio ei
Chymrodoriaeth Ddychwelyd, mae wedi cychwyn project newydd yn y maes
hwn a fydd yn gwerthuso cnydau ynni megis Miscanthus a Phalaris wrth adfer
gwaddod mwyngloddiau wedi'i halogi.
Dr Emma Hayhurst | Prifysgol De Cymru | [email protected]
Mae Emma yn Uwch Ddarlithydd mewn Bioleg Foleciwlaidd gan wneud
ymchwil i wytnwch amgylcheddol gwrthfiotig. Mae'n defnyddio'r
Gymrodoriaeth Ddychwelyd i edrych ar fynychder gwytnwch gwrthfiotig
mewn gwahanol amgylcheddau, ac effaith gwahanol ddulliau treulio
anaerobig ar leihau'r mynychder hwnnw, ac i ddatblygu cynlluniau cydweithio
lleol, cenedlaethol a rhyngwladol newydd yn y maes.
Dr Katrien van Landeghem | Prifysgol Bangor | [email protected]
Darlithydd mewn Daeareg Môr yw Katrien, sy'n astudio prosesau cludo
sylfaenol rhewlif a gwaddodion a phrosesau hydrodynamig ar wely'r môr yn
y gorffennol a'r presennol. Gan ddefnyddio ei Chymrodoriaeth Ddychwelyd,
nod Katrien yw gwella modelau erydiad llongddrylliadau, drwy ddyblygiad
mwy cywir o wely'r môr mewn modelau o'r fath. Gellir defnyddio hyn fel
eglurhad i ddeall sut mae dyfeisiadau adnewyddadwy môr alltraeth a
strwythurau amddiffyn rhag llifogydd yn ymateb i'w hamgylchedd.
Dr Claire Risley | Prifysgol Aberystwyth | [email protected]
Darlithydd mewn Epidemioleg yw Claire gyda ddiddordeb mewn dulliau
meintiol o ddadansoddi'r rhyngweithiadau rhwng hinsawdd, bioamrywiaeth,
perygl difodiant ac afiechyd mewn poblogaethau anifeiliaid. Mae Claire yn
defnyddio ei Chymrodoriaeth Ddychwelyd i ymchwilio i'r hyn sy'n symbylu
afiechyd mewn anifeiliaid gwyllt. Mae'r project yn defnyddio data hinsawdd
ar ryngweithiadau rhwng pathogenau ac organebau lletyol er mwyn datgelu
gwendidau afiechydon hinsawdd ymysg rhywogaethau a chymunedau.
Dr Sindia Sosdian | Prifysgol Caerdydd | [email protected]
Darlithydd gydag arbenigedd mewn bio-geocemeg môr a newid hinsawdd yn
y gorffennol yw Sindia. Mae'n defnyddio technegau geocemegol mewn
ysgerbydau cwrel i ddeall effaith defnydd tir riffiau cwrel. Gyda'i
Chymrodoriaeth Ddychwelyd, mae Sindia'n datblygu cynlluniau cydweithio
ym Malaysia ac Indonesia i ddeall effaith ehangu cynhyrchiant palmwydd
olew yn Borneo ar iechyd ac amrywiaeth riffiau cwrel. Bydd yn teithio hefyd i
Taiwan i ddysgu techneg geocemegol newydd i helpu i ddatrys effeithiau
amaethyddol ar system arfordirol Borneo.
“Mae'r grant wedi fy ngalluogi i gael rhywun i wneud fy ngwaith addysgu yn fy lle am
y flwyddyn academaidd nesaf. Fe wnes gais llwyddiannus am fyfyriwr PhD a gyllidir
yn fewnol ac, oherwydd y grant Cymrodoriaeth Ddychwelyd, rwy'n gwybod y bydd
gennyf yr amser i'w goruchwylio'n briodol.” Dr Emma Hayhurst, Cymrawd NRN-LCEE sy'n Dychwelyd
“Mae'r Gymrodoriaeth wedi rhoi cyfle i mi ganolbwyntio ar ddatblygu cysylltiadau
newydd a mwy o ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac wedi rhoi cyhoeddusrwydd
ehangach i'm hymchwil.” Dr Jessica Adams, Cymrawd NRN-LCEE sy'n Dychwelyd
Nod ein rhwydwaith yw dod â'r gymuned academaidd yng Nghymru at ei gilydd
drwy ddarparu cyfleoedd i rwydweithio gyda gwyddonwyr blaenllaw mewn
digwyddiadau thematig.
Mae'r NRN-LCEE yn trefnu cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus
gyda'r bwriad o ddenu gwyddonwyr blaenllaw o'r tu allan i
Gymru i roi darlithoedd ysbrydoledig, hygyrch a llawn
gwybodaeth ynglŷn â phynciau'n ymwneud ag ynni carbon
isel a'r amgylchedd.
Cynhelir y darlithoedd tua unwaith bob deufis, ac maent am
ddim ac yn agored i'r cyhoedd. Cynhelir y digwyddiadau gan
grwpiau ymchwil ledled Cymru.
Caiff yr holl ddarlithoedd eu recordio a'u harchifo ar ein
gwefan ac YouTube.
Cewch fwy o wybodaeth yn:
Fe wnaeth y bartneriaeth hon â Chymdeithas
Genedlaethol Bioleg edrych ar fwyd a'i
gynaliadwyedd, drwy herio panel o arbenigwyr o
faes ymchwil a diwydiant i gyflwyno beth oeddent
hwy'n feddwl fyddai bwydlen y dyfodol, ac i
amlygu sut y bydd ymchwil ac arloesi'n siapio
argaeledd a chynaliadwyedd ein bwyd yn y
dyfodol.
Cafwyd digon i gnoi cil arno yn y digwyddiad, a
gadeiriwyd gan y newyddiadurwr bwyd, Diane
Fresquez, a golwg ryfeddol ar ddyfodol ein bwyd.
Edrychodd y gweithdy hwn ar thema
hynod draws-ddisgyblaethol
'gwytnwch' gan dynnu ynghyd benseiri
ac ecolegwyr, gwyddonwyr
amaethyddol a microbiolegwyr,
gwyddonwyr cymdeithasol a
pheirianwyr. Roedd yn ddigwyddiad
gwir ryngddisgyblaethol gyda siaradwyr o bob rhan o Brydain, Yr Almaen a Sweden.
Trefnwyd y digwyddiad mewn partneriaeth â Chymdeithas Frenhinol Bioleg.
Roedd ‘Low Carbon Cymru' yn achlysur ar y cyd rhwng NRN-LCEE a Cynnal Cymru: Sustain
Wales, a thynnodd ynghyd wyddonwyr a gwahanol ddiwydiannau sy'n gweithio at gael atebion
naturiol ar gyfer cymdeithas carbon isel. Rhoddodd areithiau gan academyddion ar draws y DU
ac Ewrop olwg newydd ar atebion wedi'u seilio ar natur i ddatblygu cyfansoddion cemegol,
cynllunio trefol, ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni.
Mae'r NRN-LCEE yn awyddus i ysbrydoli mwy o ferched
i gael gyrfa mewn gwyddoniaeth (gweler ein Cynllun
Cymrodoriaethau Dychwelyd ar y dudalen flaenorol).
Ein nod yw denu mwy o wyddonwyr benywaidd i
siarad yn ein digwyddiadau, ac o'r holl siaradwyr a
wahoddwyd hyd yma mae 55% wedi bod yn ferched.
Yn ein cyfres darlithoedd cyhoeddus yn unig, mae dros
75% o siaradwyr wedi bod yn ferched.
Ewch i'n gwefan www.nrn-lcee.ac.uk i gofrestru i dderbyn ein
cylchlythyr ac i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau yn y dyfodol
Nod yr NRN-LCEE yw hyrwyddo gwyddoniaeth ynni a'r amgylchedd i gynulleidfa
ehangach ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr yng Nghymru.
Hyrwyddir ein hymchwil mewn gwyliau gwyddonol ledled Cymru yn ogystal ag yn y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol, ac mae ymchwilwyr NRN-LCEE wedi siarad am eu gwaith mewn ysgolion ac mewn digwyddiadau cyhoeddus.
Dyma olwg gyffredinol ar rai o'r ymdrechion a wnaed gan ein gwyddonwyr i gyflwyno eu hymchwil i gynulleidfa ehangach.
Ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn dysgu teuluoedd am amrywiaeth bywyd a geir mewn afonydd a
nentydd lleol yn y ‘Nant Fawr Stream Shuffle’ blynyddol.
Llun: Ben Whittaker
Chloe Robinson, myfyriwr
PhD ‘AquaWales’, yn
siarad yn SoapBox Science
yn Abertawe.
Fe wnaeth y Clwstwr ’Plants and Architecture’ groesawu
ymwelwyr i ddigwyddiad 'Plants in Space’ yng Ngardd
Fotaneg Genedlaethol Cymru, pryd cafwyd amrywiaeth
o weithgareddau i deuluoedd.
Ymunodd yr NRN-LCEE mewn partneriaeth â rhaglen Crwsibl Cymru (www.welshcrucible.org.uk)
am 2 ddiwrnod o hyfforddiant i holl gymrodyr a myfyrwyr NRN-LCEE.
Rhoddodd yr achlysur gyfle i rwydweithio a hyfforddi mewn sgiliau trosglwyddadwy allweddol megis addasu eich ymchwil at gynulleidfaoedd gwahanol, cydweithio, datrys problemau a rheoli projectau, a fydd yn helpu Cymrodyr a myfyrwyr PhD i ddatblygu arweinyddiaeth ar gyfer gweddill eu gyrfa.
Mae mynediad at ddata o ansawdd uchel a'r gallu i'w ddadansoddi yn allweddol i broject ymchwil llwyddiannus.
Dyna pam mae'r NRN-LCEE wedi darparu bwrsariaethau i'w Chymrodyr i weithio gyda Swyddfa Met y Deyrnas Unedig am gyfnod byr, i feithrin cydweithio ac i ddysgu sut i ddadansoddi peth o'r data diweddaraf ym maes gwyddoniaeth hinsawdd.
Mae'r NRN-LCEE wedi ymuno â
Chanolfan Darganfod Gwyddoniaeth
TECHNIQUEST i gael hyfforddiant
STEM i'w holl Gymrodyr Ymchwil a
myfyrwyr PhD.
www.techniquest.org
Llun: L&TF
Mae Gronfa Datblygu Ymchwil (CDY) yr NRN-LCEE yn cefnogi cynlluniau
cydweithredu sy'n cyfrannu at ddatblygu cynhwysedd ymchwil Cymru.
Mae'r cyllid ar gael ar gyfer gweithdai, digwyddiadau neu weithgareddau sy'n
cefnogi datblygiadau ymchwil newydd a/neu ehangu cyfleoedd i drosglwyddo
gwybodaeth ac ennyn diddordeb budd-ddeiliaid. Mae'r cyllid hefyd wedi rhoi
cefnogaeth i ysgrifennu cynigion.
Ar y tudalennu hyn fe gewch ddetholiad o'r gweithgareddau a gyllidwyd hyd yma.
Mae amryw o ddigwyddiadau a gyllidir gan y CDY i'w cynnal eto yn 2017.
I gael golwg gyffredinol ar yr holl gynlluniau a gyllidwyd gan y CDY ewch i:
Mae cynlluniau'r CDY wedi dod â dros 330 o wyddonwyr, llunwyr polisi a
chynrychiolwyr diwydiant o tua 120 o sefydliadau yng Nghymru, gweddill
y DU ac yn rhyngwladol at ei gilydd.
Adeiladu pontydd newydd ar
gyfer ynni carbon isel
Sefydliad Ymchwil Diogelwch
Ynni, Prifysgol Abertawe
Systemau Ynni'r Dyfodol: O
'Smart grids for smart living'
Stadiwm Principality, Caerdydd
Potensial rheoli'r acsis
perfedd-microbiome-
ymennydd mewn cynhyrchu
anifeiliaid
IBERS, Prifysgol Aberystwyth
Gweithdy ysgrifennu cynigion i
ddarpar ymgeiswyr Marie Skłodowska
Curie Individual Fellowship
Prifysgolion Bangor a Chaerdydd
Synwyryddion a thechnolegau
synhwyro ar gyfer rheoli tir yn
effeithiol
Canolfan Ymchwil Henfaes, Bangor
Archwilio rhyngweithiadau yn
rhyngwyneb rhewlifeg, eigioneg a
rhew môr
Canolfan Môr Cymru, Prifysgol Bangor
Ymchwil Morlyn Llanw
Canolfan Môr Cymru, Prifysgol Bangor