6
TGAU Lletygarwch ac Arlwyo Mae hwn yn gwrs newydd a fydd yn eich caniatáu i ddatblygu ac ymestyn eich sgiliau mewn Lletgarwch ac Arlwyo mewn cyd-destun galwedigaethol. Mae hyn yn golygu bydd popeth y byddwch chi’n ei wneud yn cysylltu’n uniongyrchol â gweithio mewn unrhyw agwedd o’r Diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo e.e. – cogydd, gweinyddes, rheolwr tŷ bwyta, ceidwad tŷ, derbynfa. Bonws arall o ddilyn y cwrs hwn yw bod pwyslais cryf ar ennill y wybodaeth ofynnol trwy waith ymarferol ac felly mae’n ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n well ganddynt ddysgu “trwy wneud”. Hefyd gellir rhoi cynnig ar yr arholiad ddwywaith – Ionawr / Mehefin ym Mlwyddyn 11 – felly os byddwch yn ennill gradd dda ym mis Ionawr, ni fydd cymaint o bwysau arnoch ym mis Mehefin. Gall ymgeiswyr ennill y sgiliau gofynnol ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo trwy amrediad o wahanol ffyrdd: Yn yr ysgol – paratoi ar gyfer achlysuron mewnol e.e. cinio Nadolig, bore coffi, gwerthu teisennau ar gyfer elusen ac ati. Trwy leoliadau gwaith cwrs ym Mlynyddoedd 10 ac 11. Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeiswyr ar un lleoliad mewn allfa arlwyo ac un lleoliad mewn allfa lletygarwch. Trwy sesiynau ymarferol wythnosol lle y bydd disgwyl iddynt gynhyrchu seigiau i ddatblygu sgiliau ymarferol cymwys a sicrhau gwybodaeth gadarn o seigiau ar gyfer pob achlysur e.e. bwffe priodas, prydau bwyd nos tri chwrs a

TGAU Lletygarwch ac Arlwyo

  • Upload
    archer

  • View
    62

  • Download
    0

Embed Size (px)

DESCRIPTION

TGAU Lletygarwch ac Arlwyo. - PowerPoint PPT Presentation

Citation preview

Page 1: TGAU Lletygarwch ac Arlwyo

TGAULletygarwch ac Arlwyo

Mae hwn yn gwrs newydd a fydd yn eich caniatáu i ddatblygu ac ymestyn eich sgiliau mewn Lletgarwch ac Arlwyo mewn cyd-destun galwedigaethol. Mae hyn yn golygu bydd popeth y byddwch chi’n ei wneud yn cysylltu’n uniongyrchol â gweithio mewn unrhyw agwedd o’r Diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo e.e. – cogydd, gweinyddes, rheolwr tŷ bwyta, ceidwad tŷ, derbynfa.  Bonws arall o ddilyn y cwrs hwn yw bod pwyslais cryf ar ennill y wybodaeth ofynnol trwy waith ymarferol ac felly mae’n ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n well ganddynt ddysgu “trwy wneud”. Hefyd gellir rhoi cynnig ar yr arholiad ddwywaith – Ionawr / Mehefin ym Mlwyddyn 11 – felly os byddwch yn ennill gradd dda ym mis Ionawr, ni fydd cymaint o bwysau arnoch ym mis Mehefin.  Gall ymgeiswyr ennill y sgiliau gofynnol ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo trwy amrediad o wahanol ffyrdd: Yn yr ysgol – paratoi ar gyfer achlysuron mewnol e.e. cinio Nadolig, bore coffi, gwerthu teisennau ar gyfer elusen ac ati. Trwy leoliadau gwaith cwrs ym Mlynyddoedd 10 ac 11. Yn ddelfrydol, bydd yr ymgeiswyr ar un lleoliad mewn allfa arlwyo ac un lleoliad mewn allfa lletygarwch. Trwy sesiynau ymarferol wythnosol lle y bydd disgwyl iddynt gynhyrchu seigiau i ddatblygu sgiliau ymarferol cymwys a sicrhau gwybodaeth gadarn o seigiau ar gyfer pob achlysur e.e. bwffe priodas, prydau bwyd nos tri chwrs a seigiau sy’n cwrdd ag anghenion penodol cleientiaid e.e. coeliag, llysieuwyr. Trwy ffug brofiad gwaith / chwarae rôl / gwylio fideos astudiaethau achos, ymweliadau â gwahanol allfeydd ac ati.

Page 2: TGAU Lletygarwch ac Arlwyo

TGAU Lletygarwch ac Arlwyo  

Manylion y cwrs gan gynnwys meysydd astudio  Gellir astudio Lletygarwch ac Arlwyo fel gradd unigol neu fel cydran o Lletygarwch ac Arlwyo dwyradd.  ARLWYO (Unedau 1 a 2) Mae’r unedau hyn yn canolbwyntio ar yr agwedd o baratoi a gweini bwyd yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo.  Meysydd Astudio:

 · Y diwydiant – bwyd a diod · Rolau swydd, cyfleoedd gyrfa a hyfforddiant perthnasol · Iechyd, diogelwch a hylendid· Paratoi bwyd, coginio a chyflwyno · Maeth a chynllunio bwydlenni · Costio a rheoli cyfrannau · Offer arbenigol· Cyfathrebu a chadw cofnod · Ystyriaethau amgylcheddol

Page 3: TGAU Lletygarwch ac Arlwyo

TGAU Lletygarwch ac Arlwyo  

LLETYGARWCH (Unedau 3 a 4) Mae’r unedau hyn yn canolbwyntio ar yr agwedd lletygarwch yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo ac yn arbennig y sgiliau sy’n gysylltiedig â pharatoi a chynnal digwyddiadau ac achlysuron. Meysydd astudio:  · Y diwydiant – lletygarwch· Mathau o wasanaeth a gynigir a'r grwpiau cleientiaid cysylltiedig· Rolau swydd, cyfleoedd gwaith hyfforddiant perthnasol· Cynllunio bwydlen, paratoi a chyflwyno· Cynllunio ar gyfer achlysuron a digwyddiadau· Costio bwydlenni a digwyddiadau· Gofal cwsmeriaid· Safonau gwasanaeth · Cyfathrebu a gwaith tîm · Ystyriaethau amgylcheddol

Llwybrau dilyniant i Astudio Pellach: Cyrsiau NVQ, BTEC mewn Lletygarwch ac Arlwyo  Cyfuniadau pwnc: Gwyddoniaeth, Hamdden a Thwristiaeth.

Llwybrau dilyniant i Yrfa a Chyflogaeth:

Amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith, cogydd dan hyfforddiant, staff gweini, gwaith mewn bar, cynorthwyydd arlwyo, morwyn ystafell mewn gwesty, cadw tŷ, cynorthwyydd campfa mewn campfa gwesty, croesawydd mewn gwesty.   

Page 4: TGAU Lletygarwch ac Arlwyo

UNED 1: Sgiliau Arlwyo cysylltiedig â pharatoi a gweini bwyd Tasg Dan ReolaethDwy dasg ymarferol wedi'u dewis o fanc o chwe thasg wedi’u gosod gan CBAC. Wedi'i hasesu'n fewnol gan ddefnyddio meini prawf gosod CBAC ac wedi'i safoni'n allanol. Cyfanswm o 45 awr. 60%

UNED 2: Arlwyo, bwyd a'r cwsmerPapur Ysgrifenedig 1¼ awr Un papur ysgrifenedig a gaiff ei osod a'i farcio'n allanol. Mae'r holl gwestiynau'n orfodol ac wedi'u targedu at ystod gyfan graddau TGAU. Bydd y papur yn cynnwys cwestiynau atebion byr, strwythuredig ac ymateb rhydd wedi'u tynnu o gynnwys arlwyo.Bydd yr arholiad hwn ar gael naill ai fel asesiad electronig neu fel papur ysgrifenedig traddodiadol. 40%

Crynodeb o’r Asesiad

Arlwyo (Gradd Unigol)

Page 5: TGAU Lletygarwch ac Arlwyo

UNED 3: Sgiliau lletygarwch cysylltiedig â digwyddiadau ac achlysuronTasg wedi'i seilio ar ddigwyddiadUn dasg wedi'i seilio ar ddigwyddiad o restr o dasgau gosod CBAC. Wedi'i hasesu'n fewnol gan ddefnyddio meini prawf gosod CBAC ac wedi'i safoni'n allanol.Cyfanswm o 45 awr. 60%

UNED 4: Lletygarwch a'r cwsmerPapur Ysgrifenedig 1¼ awr Un papur a gaiff ei osod a'i farcio'n allanol. Mae'r holl gwestiynau'n orfodol ac wedi'u targedu at ystod gyfan graddau TGAU. Bydd y papur yn cynnwys cwestiynau atebion byr, strwythuredig ac ymateb rhydd wedi'u tynnu o gynnwys lletygarwch. 40%

Crynodeb o’r Asesiad

Arlwyo (Gradd Unigol)

Page 6: TGAU Lletygarwch ac Arlwyo

TGAU Lletygarwch ac Arlwyo  (Dwyradd)

Crynodeb o’r Asesiad

UNED 1: Sgiliau Arlwyo cysylltiedig â pharatoi a gweini bwydTasg dan Reolaeth Dwy dasg ymarferol wedi'u dewis o fanc o chwe thasg a osodir gan CBAC. Wedi'i hasesu'n fewnol gan ddefnyddio meini prawf gosod CBAC ac wedi'i safoni'n allanol.

Cyfanswm o 45 awr. 30%

UNED 2: Arlwyo, bwyd a'r cwsmerPapur Ysgrifenedig 1¼ awr Un papur ysgrifenedig a gaiff ei osod a'i farcio'n allanol. Mae'r holl gwestiynau'n orfodol ac wedi'u targedu at ystod gyfan graddau TGAU. Bydd y papur yn cynnwys cwestiynau atebion byr, strwythuredig ac ymateb rhydd wedi'u tynnu o gynnwys arlwyo.Bydd yr arholiad hwn ar gael naill ai fel asesiad electronig neu fel papur ysgrifenedig traddodiadol. 20%

UNED 3: Sgiliau lletygarwch cysylltiedig â digwyddiadau ac achlysuronTasg wedi'i seilio ar DigwyddiadUn dasg wedi'i seilio ar ddigwyddiad o restr o dasgau gosod CBAC. Wedi'i hasesu'n fewnol gan ddefnyddio meini prawf gosod CBAC ac wedi'i safoni'n allanol.

Cyfanswm o 45 awr. 30%

UNED 4: Lletygarwch a'r cwsmerPapur Ysgrifenedig 1¼ awr Un papur a gaiff ei osod a'i farcio'n allanol. Mae'r holl gwestiynau'n orfodol ac wedi'u targedu at ystod gyfan graddau TGAU. Bydd y papur yn cynnwys cwestiynau atebion byr, strwythuredig ac ymateb rhydd wedi’u tynnu o gynnwys lletygarwch. 40%