12
20c y gloran DYDD GWYL DDEWI YN NHREORCI ^ BANERI YMHOBMAN

Y Gloran Mawrth-Ebrill 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

papur bro blaenau'r rhondda fawr, papur lleol, newyddion, erthyglau, gwaith plant

Citation preview

Page 1: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

20cy gloranDYDD GWYL DDEWIYN NHREORCI

^

BANE

RIYM

HOBM

AN

Page 2: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

DYDD GŴYL DDEWIRoedd llawer o bobl yn cwyno eleni nad oeddCaerdydd wedi manteisio ar Ddydd Gŵyl Ddewi iddenu pobl i'r brifddinas. Er bod yr orymdaith drwyganol y ddinas yn tyfu mewn poblogrwydd o flwyd-dyn i flwyddyn, doedd dim yn ardal y Bae i ddweudwrth ymwelwyr ei bod yn ddydd ein Nawddsant.Roedd yn dda, fodd bynnag, weld bod Siambr Fas-nach Treorci wedi achub ar y cyfle i drefnu am y trocyntaf raglen liwgar ac amrywiol i ddathlu'r achlysura honno'n ymestyn dros ddau ddiwrnod.I ddechrau, aeth llawer o siopau ati i addurno euffenestri yn drawiadol o chwaethus a braf oeddgweld y Ddraig Goch yn cyhwfan yn falch uwchbennifer fawr ohonynt. Amlygwyd cynnyrch Cymraeigyn ffenestri'r siopau a sicrhaodd nifer o'r llefyddbwyta fod danteithion traddodiadol Gymreig ar gael.

Ar ddydd Sadwrn, 2Mawrth cafwyd nifer oddigwyddiadau gan gyn-nwys ffair fach, march-nad dan do yng Nghlwby Bechgyn a'r Merched a

chôr o dan gyfarwyddyd Rhiannon Williams-Hale ynperfformio caneuon traddodiadol. Yn ogystal, roeddcyfle i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i alw heibio yny Lion a'r Llyfrgell am sgwrs anffurfiol a bu tîmRadio Rhondda wrthi'n brysur drwy'r dydd yn ych-wanegu at yr hwyl.Gan taw dyma'r flwyddyn gyntaf roedd lle i wella arrai o'r trefniadau ond deuparth gwaith ei ddechrau acrydym yn siwr y bydd modd elwa ar brofiad eleniwrth drefnu i'r dyfodol. Mae'r syniad o gynnal gŵylo'r fath yn un gwych ac yn sicr o ddod â budd diwyl-liannol a masnachol i'r dref. Golygodd y cwbl gryndipyn o waith i'r trefnwyr ac maen nhw'n haedduclod mawr am eu hymdrechion. Does ond gobeithioy bydd y syniad yn cydio ac y bydd trefi eraill ofewn y sir yn mynd ati i efelychu menter lwyddian-nus Treorci. Yn wir, mae'n esiampl i lawer o drefi

ein gwlad gan ddan-gos bod gŵyl ddiwyl-liannol o'r fath yngallu esgor ar ffyniant economaidd.Gol

2

golygyddoll

y gloranmaw-ebr2013YN Y RHIFYN HWN

Dydd Gwyl Ddewi...1Golygyddol..2

Elwyn Thomas-Cymdei-thas Gymraeg-Y Gornel

Iaith...3-4

Newyddion Lleol...5-9

Cerdd/ed..10-11Ysgolion..11-12

Argraffwyd Y GLORAN gan J & P Davisongyda chymorth Cymdeithas Celfyddydau Cymru

Cyhoeddwyd Y GLORAN gan Fwrdd Golygyddol Y GLORAN

Page 3: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

3

P'un sy'n gywir - eu gilydd neu ei gilydd? Dim ondyr ail, dwi'n ofni. Camgymeriad cyffredin iawn yw'sgrifennu, 'Gwelodd y ddau blentyn eu gilydd yn ydre'. Enw unigol yn golygu 'cyfaill, cydnabod, cydy-maith' oedd 'cilydd yn wreiddiol. a dylai'r ffurf 3pers. unigol 'ei' ei ragflaenu bob amser. Felly, dylidbod wedi 'sgrifennu, 'Gwelodd y ddau blentyn ei gi-lydd yn y dre'. Peidiwch BYTH â 'sgrifennu 'EU GI-LYDD'!

Pa dreiglad sy'n dilyn 'mor'? P'un sy'n gywir = morlawn neu mor llawn? Ateb. Dilynnir 'mor' bob amsergan dreiglad meddal ond NI

DREIGLIR 'll' a 'rh'. Felly, 'mor dda', 'mor wych' a'mor garedig' ond 'mor rhad' a 'mor llawen''.

Y GORNEL IAITH

Cymdeithas Gymraeg TreorciY gwleidydd o Dori, Dr Felix Aubel oedd ysiaradwr gwadd yng nghyfarfod mis Mawrth o'rGymdeithas, ond nid gwleidyddiaeth oedd maes eiddarlith. Yn rhan gyntaf ei anerchiad soniodd am eigefndir a'r dylanwadau a fu arno. Dechreuodd drwysôn am ei enw a hanes diddorol ei dad a gafodd eifagu o dan amgylchiadau anodd iawn yn Slofeniacyn dod yn ffoadur i Aberdâr maes o law. Aeth ym-laen i drafod dylanwadau'r capel, cymeriadau'r ardal,ei ysgolion a'i goleg cyn mynd ymlaen i sôn am raio'i brofiadau yn weinidog yn Aberaeron a Threlech.Dywedodd sut y datblygodd ei ddiddordebmewnhanes yn Ysgol Rhydfelen ac wedyn ym MhrifysgolLlambed a bod hynny wedi esgor ar ddiddordebmewn hen greiriau ac antiques. Yn ail ran y nosonbu wrthi'n trafod amrywiol wrthrychau yn perthyn i'raelodau, gan gynnwys hen lestri, pistol a ffon. So-niodd am hanes ac awgrymu gwerth y gwrthrychauhynny ac adrodd nifer o hanesion diddorol am sutroedd gwerthwyr hen bethau yn gallu twyllo. Rhy-buddiodd y gynulleidfa rhag gwerthu aur, er en-ghraifft, i brynwyr sy'n digwydd galw yn y cartrefgan ddweud eu bod yn annhebygol iawn o dderbyngwir werth yr antique ganddynt. Yn yr un modd, dy-wedodd ei bod yn ofynnol i fod yn ofalus iawn gydadiemwntau a gemau tebyg wrth roi modrwyau athlysau i emyddion i'w trwsio. Roedd y noson o danlywyddiaeth Parch Cyril Llewellyn yn un hynodlwyddiannus ac edrychir ymlaen at gyfarfod olaf ytymor, sef cyngerdd yn Hermon ar 28 Mawrth ganBarti'r Efail. Croeso i bawb.

Ganed Elwyn Thomas yn Tylorstown yn 1932 ac arôl astudio celf yng Ngholeg Celf Caerdydd, bu’n

ELWYN THOMASARLUNYDD

drosodd i dud 4

Page 4: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

athro yng Nghaint cyn dod yn bennaeth ar yr AdranGelf yn Ysgol Ramadeg Ferndale. Ar ôl ymddeol yn1987, bu'n brysur iawn yn arlunio gan ddefnyddioacrilig yn brif gyfrwng er ei fod hefyd yn defnyddiodyfrlliw a chyfryngau cymysg o dro i dro. Hefyd, arôl ymddeol, aeth ati i ddysgu Cymraeg o ddifrif, acerbyn hyn mae'n ei siarad yn rhugl ac yn helpu erailli'w dysgu. Fel artistiaid eraill o'r ardal, megis ErnieZobole a Charles Burton, sy'n gyfoeswyr iddo,cafodd Elwyn ei ysbrydoliaeth yma yn y cymoedd,fel yr esboniodd mewn cyfweliad â'r Gloran. "Balchder yn fy ngwreiddiau yng Nghwm Rhondda,ei phentrefi a’i thirwedd, a fu’n ffynhonnell gref,wedi fy ysbrydoli, yn anad dim, ym maes celf ers fynyddiau cynnar fel cyw-athro hyd at heddiw.

Yn naturiol ddigon, ceir yma yng nghymoedd yRhondda Fach a’r Fawr y nodweddion arferol sy’ndiffinio cwm, sef bryniau serth, llethrau mynydd, he-olydd cul a throellog ac, wrth reswm, resi o dai terasa chapeli. Gan amlaf, mae’r tir yn goruchafu tra bodyr awyr yn llai arwyddocaol yn fy ngwaith. Mae’rmodd y nodweddion hyn yn gwau yn tanio’r dy-chymyg ac ysgogi syniadau a chyfleoedd di-ri i un-rhyw arlunydd. Yn ogystal, mae’r elfen ddynol ynrhan bwysig yng ngwaith arlunydd ac o bryd i’w gi-

lydd rwyf yn cyflwyno’r elfen honno i ychwanegubywiogrwydd at fy lluniau.

Wrth fy ngwaith nid wyf yn ymwybdol o arddull ondyn paentio yn y ffordd orau y gallaf. Yn bennaf,rwyf yn gweithio gydag acrylics ond weithiau defny-ddio cymysgliw, pastel, inc, craeon a dyfrliw. Yngyffredinol rwyf yn cyfyngu fy hun i dim ond ychy-dig o liwiau.

Fel athro celf am flynyddoedd lawer, a thu hwnt i’rdosbarth, fe gefais flas mawr ar gelf yn ei chyfanr-wydd, yn enwedig celf sydd, yn ei hanfod, ynadlewyrchu’r cwm sydd yn annwyl i mi. Diau fod fyymweliadau cyson a’r Amgueddfa GenedlaetholCymru, Caerdydd, gyda’m brawd a’m rhieni, pan ynifanc oedd sail fy niddordeb mewn paentio.Cofiaf, yn arbennig, gweld lluniau Syr KyffinWilliams a Frank Brangwyn. Fy mrawd Mansel,sy’n byw yn Awstralia, yn mwynhau paentio o hyder bod meddygyniaeth oedd ei lwybr gyrfa. Yn wir,mae arnaf ddyled fawr i’m rhieni."

Mae gwaith Elwyn Thomas i'w weld yn gyson mewnnifer o orielau celf, gan gynnwys y Washington, Pe-narth, Oriel Heol Albany, Caerdydd, y Parc Tref-tadaeth, Trehafod ac Oriel Giles, Pontyclun. Gallwchhefyd weld ei waith ar y we ond ichi gwglo 'ElwynThomas, Rhondda Artist'.

4

ELWYN THOMASARLUNYDD parhad

Page 5: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

5

newyddion lleolDEUNYDD AR GYFER POB RHIFYN I MEWN

ERBYN DECHRAU’R MIS OS GWELWCH YN DDATREHERBERTLlongyfarchiadau twym-galon i Mrs EleanorJones, gynt o Deras St.Albans sydd wedi dathluei phen-blwydd yn 97oed yn ddiweddar. MaeMrs Jones yn ddiaconyng nghapel Blaen-y-cwm ond ar hyn o brydwedi ymgartrefu yngNghartref Gofal MillView, Ystrad Rhondda.Mae ei holl ffrindiau'ndymuno'n dda iddi i'r dy-fodol.

Ddechrau'r mis cynhali-wyd cyfarfod cyhoeddusgan Gwmni Pwll NofioTreherbert. Pwrpas y cy-farfod oedd rhoi adrod-diad i'r gymuned argynlluniau'r Cwmni ynsgil y penderfyniad iddymchwel y pwll nofio.Yn ei hadroddiad, cy-hoeddodd y cadeirydd,Janet Todd-Jones fod ycyfarwyddwyr wedi pen-derfynu dirwyn y cwmnii ben. Byddant yn dos-barthu'r cyfan o'r ariansydd yn weddill i wa-hanol fudiadau yn yrardal. Bydd y rhain yncynnwys y chwe ysgolgynradd a iau, ClwbBechgyn a Merched Tre-herbert. y mini-rygbi achymdeithasau henoedBlaenrhondda a Thre-herbert. Yn ogystal,bydd rhodd yn cael eigyflwyno i un o bencam-pwyr ifanc Cwm

Rhondda sy'n paratoi'nddiwyd ar hyn o bryd argyfer Gemau'r Gyman-wlad a gynhelir yng Ng-haeredin, Yr Alban yflwyddyn nesaf.

Ar ddiwedd mis Mawrth,bydd CwmN, sef partne-riaeth CymunedauCyntaf ward Treherbertyn dod i ben fel sefy-dliad cwbl annibynnol.Sefydlwyd CwmNi unmlynedd ar ddeg yn ôl adros y blynyddoedd maewedi bod yn gyfrifol amdrefnu llawer o ddig-wyddiadau er budd y gy-muned a chynnig llawero help i fudiadau acuniglion lleol. Mae'rstaff presennol a'urhagflaenwyr yn haedduclod a llawer o ddiolcham eu holl waith. ErbynEbrill bydd PartneriaethCymunedau'n GyntafTreherbert yn ymuno âchlwstwr ym mlaenau'rRhondda Fawr a fydd yncynnwys wardiau Tre-herbert, Treorci (Cwm-parc), Y Pentre ac YstradRhondda.

Nos Iau, 28 Chwefrorcynhaliwyd noson iddathlu Gŵyl Ddewi yngnghapel y Wesleaid.Roedd y noson o dan ly-wyddiaeth Mr MichaelHarris a chafwyd adloni-ant cerddorol gan Ann aTony Kingsbury. Yn ôlyr arfer cafwyd cawl a

phice-ar-y-ma'n i orffena chyfle i bawb gymdei-thasu a chafodd pawbnoson wrth eu bodd.

Ns Sul, 3 mawrth, etoyng nghapel y Wesleaid,cynhaliwyd gwasanaethdan ofal y Brownies lleolgyda Mrs BeverlyFletcher yn arwain.Daeth cynulleidfaniferus ynghyd i wrandoar ddarlleniadau o'r ys-grythur, darnau o farddo-niaeth a chael cyfle iganu detholiad o emynaucymraeg priodol ar gyferadeg Gŵyl Ddewi.

TREORCIBu farw WynneVaughan, gynt o StrydCaerdydd ond bellach oBen-y-bont ar Ogwr.Roedd Wynne yn gyfar-wyddwr Adran Iechyd aGofal CymdeithasolCyngor Rhondda CynonTaf ac yn uchel iawn eibarch yno. Cy-dymdeimlwn â'r teulu ollyn eu profedigaeth.

Da yw gweld y bydd Ice-land yn agor eu siopnewydd ar Sgwâr y Stagar 20 Mawrth. Mae'rcwmni hwn a sefydlwydyng ngogledd Cymruwedi bod yn llwyddian-nus iawn ac mae pawb ydymuno'n dda ir fenternewydd yn Nhreorci.

Pob dymniad da i MrElwyn Lewis, WoodlandVale, sydd yn YsbytyCwm Rhondda ar hyn obryd ac i Mrs ClariceLewis, Stryd Senghen-nydd sydd gartref bel-lach ar ôl treulio cyfnodyn yr un ysbyty.

Nos Iau , 21 Mawrthbydd Pwyllgor CancerUK Treorci yn cynnalnoson 'Dirgelwch yLlofruddiaeth' yn nha-farn y RAFA. Mae cyn-nal noson o'r fath llemae'r gyulleidfa'n ceisiodod o hyd i'r 'llofrudd' ynfenter newydd i'r pwyll-gor ond mae'r holl do-cynnau wedi eugwerthu'n barod a phawbyn edrych ymlaen atnoson gyffrous.

Daw tymor llwyddian-

EICH GOHEBWYRLLEOL:Rhowch wybodiddyn nhw os byd-dwch chi eisiaurhoi rhywbeth yn Y GLORAN

Treherbert:GERAINT a MERRILL DAVIES

Treorci:MARY PRICE

Cwmparc:NERYS BOWENDAVID LLOYD

Y Pentre:TESNI POWELLANNE BROOKE

Ton Pentre a’rGelli:HILARY CLAYTONGRAHAM JOHN

Page 6: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

6

nus Cymdeithas Gym-raeg Treorci i ben nosIau, 28 Mawrth pan fyddParti'r Efail yn cyflwynocyngerdd. Arweinydd yParti yw Menna Thomas,y mae ei mam, Gwen-fydd Williams gynt, ynhanu o Dynewydd.Cafodd y parti hwylioghwn lwyddiant mawrmewn eisteddfodau acmae pawb yn edrychymlaen at noson yn eucwmni. Croeso i bawb.Mynediad yn rhad ac amddim.

Blin oedd derbyn ynewyddion am far-wolaeth Araul TaliesinSkym, Stryd Caerdydd,person adnabyddus iawnyn yr ardal. Cy-dymdeimlwn â'i weddw,Vera a Paul yn eu hi-raeth. Cofiwn hefyd am

deulu Jean Gay, StrydFawr, yn enwedig eiphriod, Dennis.

Cynhaliwyd cyfarfodDydd Gweddi Bydeangy Chwiorydd yn eglwysBethlehem ar DdyddGŵyl Dewi. lluniwyd ygwasanaeth eleni ganchwiorydd o Ffraic ar ythema 'Bûm yn ddieithr arhoesoch i mi groeso'. Ysiaradwraig wadd oeddMrs Gwen Emyr,Caerdydd ac arwiniwydy gwasanaeth gan MrsAnn Davies (Bethlehem)Roedd y trefniadau danofal Mrs Janice Harris.

Roedd yn flin gan bawbdderbyn y newyddionam farwolaeth MrsShirley Morgan, StrydTynybedw, yn dilyn cys-tudd hir a ddioddefodd

yn ddewr a derbyn gofalcariadus gan ei gŵr ,Ieuan. Cydymdeimlwnag ef yn ei golled ahefyd â'i meibion, Greg aKevin a'u teuluoedd.

Llongyfarchiadaucalonnog i Mr TomHughes, Stryd Dumfriesar ddathlu ei ben-blwyddyn 90 oed y mis di-wethaf. Mae Tom yn dali fod yn hynod o sionc acyn mwynhau mynd amdro gyda'i wraig, Ellen,bob dydd. Mae ei hollffrindiau yn dymunoiddo iechyd a hapusr-wydd i'r dyfodol.

Un arall sy'n cyrraeddcarreg filltir nodedig ynfuan yw Mr AlbertStubbs, gynt o StrydDumfries ond bellach ogartref gofal Ystrad-

fechan, a fydd yn 100 ymis hwn. Mae meddwlAlbert mor fyw ag eri-oed ac mae ei hollffrindiau yn gobeithio ycaiff ddiwrnod i'r breninwrth ddathlu.

Yn ôl eu harfer, cyn-haliodd aelodau Sefy-dliad y Merched swper iddathlu Dydd GŵylDewi. Mwynhaodd pawbnoson o adloniant danofal yr Adran Berfformioa rhaid diolch i bawb aweithiodd mor galed isicrhau llwyddiant ynoson.

Llongyfarchiadau i Ju-dith ac Alan James,Stryd Bute sy newyddddathlu eu priodas aur. Iddathlu'r achlysur aeth yddau i'r Gran Canaria a;ndymuniad ni oll yw y

Page 7: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

7

cânt iechyd a phob ha-pusrwydd i'r dyfodol.

Llongyfarchiadau i Han-nah Duncan, Stryd Re-gent ar ennill gradd 2.1ym Mhrifysgol Morgan-nwg. Ar yr un pryd, dy-munwn adferiad llwyr abuan i'w mam, Margaretsydd wedi torri ei big-wrn!

Yr un yw ein dymuniad,sef 'Brysiwch i Wella' iMarilyn Jones, StrydRees sydd newydd dder-byn llawdriniaeth yn Ys-byty BrenhinolMorgannwg. Da ywdeall ei bod gartref erbynhyn ac yn gwella.

CWMPARCMae David Williams aBeverley Jones, HeolConway, wedi caelmerch, Ruby NiamhWilliams.  Cafodd hi ei

geni ar 14Chwefror.  Chwaer fach iCaitlin (8), sy'n mynd iYsgol Gynradd y Parc.Croeso i'r newydd-ddy-fodiad a llongyfarchi-adau i'r teulu..

Mae Cymdeithas RieniAthrawon newydd yndechrau yn Ysgol yParc.  Mae'r rhieni'n gob-eithio cydweithio â Mr.David Williams, pri-fathro, a'r staff er mwyni codi arian ar gyfer yrysgol.  Y flaenoriaethgyntaf yw offer ar gyfery maes chwarae.  MaeMr. Williams eisiauprynu offer ar gyfer dat-blygu ymarfer corff i'rplant. Ar hyn o bryd,dydyn nhw ond ynchwarae pêl droed ar yriard bob dydd.

Roedd rhieni Dewi Kin-sey, Heol Conway, ynsicr, wedi dewis enw pri-

odol iddo gan ei fod yndathlu ei ben-blwydd arddydd Gwyl Dewi.  MaeDewi, sy'n gyn-ddisgyblo Ysgol GymraegYnyswen, yn ddisgyblbellach yn Ysgol GyfunTreorci. Pob hwyl iddoam fod ganddo reswmdwbl dros ddathlu arddydd ein nawddsant.

Roedd yn ddrwg ganbawb dderbyn y newyd-dion am farwolaeth un odrigolion hynaf yr ardal,sef Mr Roy Jeremiah,Stryd Tallis. Roedd ynŵr siriol a chymdeithas-gar y gwelir ei eisiau.Cyflwynwn ein cy-dymdeimlad cywiraf i'wfab, Philip, ei ferch-yng-nghyfraith, Pat a'i wyres,Abigail.

Y PENTRELlongyfarchiadau i'n go-hebydd Dr Anne Brooke

ar ddathlu pen blwyddnodedig yn ddiweddar.Mae hi gartref yn Nor-folk, Virginia ra hyn obryd ac ar 21 Chwefrorcafodd gyfle i ddathluyng nghwmni ei dwychwaer a'i brawd yngnghyfraith. Mae ei hollffrindiau yn yr ardal hon,ynghyd ag aelodau Her-mon, Treorci yn eillongyfarch, yn dy-muno'n dda iddi i'r dy-fodol ac yn gobeithio ybydd nôl yn ein plith cynbo hir.

Bu farw Michael Pugh,Stryd Volunteer, ac yn-tau'n 63 oed, yn dilynsalwch hir a ddioddefoddyn ddewr. Er iddo gaelstrôc wyth mlynedd ynôl, llwyddodd Mike igadw'n siriol a byw eifywyd orau a fedrai.Roedd yn grefftwrmedrus a weithiodd trwygydol ei fywyd yn adran

Page 8: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

amgylchedd yGwasanaeth Sifil ac amgyfnod i CADW sy'n go-falu am adeiladau pwysi-caf Cymru a Lloegr. Bu'nun o'r tîm weithiodd iadfer Castell Windsor yndilyn tân rai blynyd-doedd yn ôl. Roedd ynhoff iawn o rygbi ac ynun o gefnogwyr selogClwb Treorci. Yn gened-laetholwr pybyr, safoddfel ymgeisydd dros BlaidCymru yn y Pentre. Cy-dymdeimlwn yn gywiriawn â'i weddw, Marilyn,ei ferch, Bronwen a'igŵr, Gavin, ynghyd â'iwyresau Grace, Emily aHolly a'r teulu oll yn euprofedigaeth.

Deallwn fod Jessie Mer-rit o Dŷ'r Pentre ar hyn obryd ac ynunwn â phawbyn y Tŷ a'i holl ffrindiaui ddymuno iddi adferiadbuan. Brysiwch adre!

Roedd yn flin calon ganaelodau Byddin yrIachawdwriaeth a phawbyn y gymuned dderbyn ynewyddion bod Major aMrs Westwood ynsymud o'r Pentre i ofaluam encadlys y Fyddinyn Abertawe. Mae pawbam ddiolch iddynt am yrholl waith a wnaethantyn y Pentre ac am euharweiniad brwd. Dy-munwn iddynt bob ben-dith a llwyddiant yn euswydd newydd.

Cynhelir cyfarfod PACTyn gyson yn LlysNazareth lle y trafodirproblemau lleol. Er en-ghraifft, problem parcioar hyd Stryd Llywelynoedd y pwnc llosg. Mae'rcynghorwyr lleol, Mau-

reen Weaver a Shelleyres-Owen bob amser ynbresennol ynghyd â'nSwyddog HeddluAtodol, Stephen Pike.Am ragor o wybodaethneu i godi unrhyw brob-lem, gallwch gysylltu âStephen ar07805301092.

Bob nos Fercher rhwng3.30 - 7.15pm, cynhelirChwarae Plant ar Barc yPentre ac estynnir croesoi blant o bob oedran igyfranogi o chwareaonamrywiol yn ôl eu did-dordeb. Trefnir sesiynauarbennig adeg y Pasg,eto ar ddydd Mercherond rhwng 11a.m. -1p.m. Gallwch gaelrhagor o wybodaeth trwyffonio Ben Greenway ar

Mae preswylwyr LlysSiloh am ddymuno'n ddai'w Warden, Diane sy'nmynd i Tenali, Indiagyda thîm o EglwysOasis o dan arweiniadbgail yr eglwys, JeffEvans. Byddant ynymweld â chartref he-noed yn Sekura, yn cen-hadu yn y pentrefi, ac yngweld ffynhonnau a nod-dwyd trwy arian a gas-glwyd ar daith gerddedelusengar yr haf di-wethaf. Byddant hefydyn ymweld â phrosiectauREPA INDIA sy'ngwella safonau byw ac agefnogir gan yr eglwys.Wrth fynd, mae Dianeam ddiolch i breswylwyry Llys a ChymdeithasTai Aelwyd am gyfrannudillad ac offer a hefyd iSiop Elusen y Pentre amanrheg hael o deganaumeddal. Bydd rhain ollynderbyn croeso mawr

gan rai o gymunedautlota'r byd.

Llongyfarchiadau gwre-sog i Cyril a MerylHoskins, Stryd Carneoedd yn dathlu eu prio-das ruddem ar 3 Mawrth.Ar ôl mwynhau 40mlynedd o fywyd prio-dasol hapus, mae euffrindiau yn dymuno id-dynt iechyd a hapusr-wydd i'r dyfodol. CafoddMeryl achos dwbl iddathlu am fod ei phen-blwydd ei hun y diwrnodcynt, 2 Mawrth.

Dymunwn ben-blwyddhapus iawn i Sheila aMarie Bennet, StrydRobert sydd, ill dwy, yndathlu eu pen-blwydd ymis hwn. Pob dymuniadda iddynt i'r dyfodol.

Dros gyfnod y Grawyscynhaliwyd bore cawl abara bob dydd Gweneryn y Capel Cynulleid-faol. Paratowyd y lluni-aeth gan wragedd yreglwys gyda'r arian ynmynd at achos da.

Bu nifer o deuluoedd ynyr ardal mewn profedi-gaeth yn ystod yr wyth-nosau a aeth heibio.Cofiwn am y teuluoedd aganlyn gan estyn iddyntein cydymdeimlad cy-wiraf: Teuluoedd y di-weddar John Williams,Stryd yr Eglwys, JeffBrown, Maendy Rd acEirwen Kendall, King St.

Roedd yn ddrwg iawngan holl breswylwyr TŷDdewi dderbyn ynewyddion am far-

wolaeth Mrs DonnaHedditch ar 10 Chwe-fror. Yn frodor o'rRhondda Fach, symu-dodd i Don Pentre raiblynyddoedd yn ôl. Yn86 oed, Donna oedd un obreswylwyr hynaf TŷDdewi, ond chwaraeoddran lawn yng ngweith-gareddau cymdeithasol ygymuned. Gwelir eiheisiau yn arbennig ynEglwys Sant Ioan lleroedd yn aelod ffyddlon.Cydymdeimlwn â Paul,Geraint, Deborah a'rteulu oll yn eu colled.

Un arall o breswylwyrgweithgar Tŷ Ddewi ywJean Vaughan sydd ynYsbyty Brenhinol Mor-gannwg ar hyn o ryd.Dymunwn iddi bobcysur ac adferiad buan.Mae Jean, hithau, ynaelod ffyddlon ynEglwys Sant Ioan llemae'n weithgar gydagUndeb y Mamau a hefydyn y gangen leol o Sefy-dliad y Merched (WI).Cofiwn yn ogystal am eigŵr, George, a fu am fly-nyddoedd yn gigydd ynY Gelli, sydd ar hyn obryd hefyd yn yr ysbyty.

Am beth amser, bu trigo-lion yr ardal yn poeni ameffaith cau gorsaf yrheddlu a bu aelodau obob plaid yn cydweithioi drio gwella'r sefyllfa.Yn sgil yr holl brotestiocafwyd datganiad ganAlun Michael, YComisiynydd Heddlu a'rPrif Gwnstabl, PeterVaughan yn dweud ybydd cymhorthfa leol yncael ei chynnal bob boreSadwrn rhwng 10 -12a.m. lle y bydd modd

8

Page 9: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

9

i'r cyhoedd drafod prob-lemau lleol â'r heddlu.Dywedodd y Cyng.Paul Cannon, sy'n gyn-blismon ei hun, y bydd

hyn yn mynd rhan orffordd i ateb gofidiaupobl leol.

TON PENTRE A’R GELLIparhad

Page 10: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

10

Er i Amble Skuse gael eigeni a'i magu yn Nyf-naint, daw teulu ei mamo Gwm Clydach yn yRhondda. Derbyniodd eihaddysg gerddorol yngNgholeg Celf Dartingtona Phrifysgol Spa Caer-faddon lle yr arbenigoddar ganu'r ffliwt a chyfan-soddi. Ar hyn o brydmae hi'n byw yng Ng-haeredin yn yr Alban. Eididdordeb mawr syni-adol yw'r modd y daw'rgorffennol a'r dyfodolynghyd i ffurfio'r presen-nol a'r cysylltiad rhwngiaith, hil a hunaniaeth.Bu'n gweithio gyda

brodorion yn Hondiwrasa Guatemala yn AmericaGanol yn datblygu'r syniadau hyn. I gyflawniei gwaith yma yngNghymru bu wrthi'n dys-gu'r Gymraeg a dyna'riaith mae hi wedi eidefnyddio gyda phlantYnyswen. Gyda'i did-dordeb mewn cerddori-aeth electronig, mae'rnoson yn y Parc a'r Dâryn argoeli fod yn unddiddorol iawn a phawbyn edrych ymlaen ati.

Cerdd/ed - Menter Gerddorol Newydd yn Nhreorci Ers peth amser mae cyfansoddwr ifanc, AmbleSkuse, sydd â'i gwreiddiau yn y Rhondda, wedi bodyn gweithio ar brosiect hanes lleol gyda disgyblionYsgol Gynradd Gymraeg Ynyswen. Tŷ Cerdd sy'nnoddi'r fenter sy'n ceisio cysylltu'r plant â'u cymunedleol a cheisio defnyddio cerddoriaeth i ddeall eihanes. Y nod yw creu darn o gerddoriaeth wedi eiseilio ar hanesion am yr ardal a chael y plant wrthgerdded o gwmpas i werthfawrogi'r gwahanol synau

a glywant a'u defnyddio'n rhan o'r cyfansoddiadgorffenedig. Bydd y darn gorffenedig ar gael yn rhano daith gerdded a greir yn rhan o'r prosiect.

Treorci yw lleoliad y prosiect cyntaf mewn cyfres orai tebyg ledled Cymru ac mae Band y Cory ynmynd i gymryd rhan a gyda'r plant byddant yn perf-formio darn fydd yn cael ei chwarae yn nathliadaucanmlwyddiant Theatr y Parc a'r Dâr ar 8 Mehefin.

Amble Skuse

!"#$%&'(#)%)*+,-../0123042567892:*;&)#62<=2>#")%&

4?;-;0-6@

Page 11: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

11

Plant Ynyswen yn mwynhau nodi’r sgôr cerddorol mewn ffurfiau graffeg

Page 12: Y Gloran   Mawrth-Ebrill 2013

12

Ysgol Gyfun Cymer RhonddaYsgol Gyfun Cymer Rhondda

CYNGERDD GALA YSGOL GYFUNCYMER RHONDDARoedd pawb yn mwynhau noson o dalent gorauCwm Rhondda yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda arnos Iau, 28ain o Chwefror. Yn gwmni i Gôr yCymer bydd Côr Meibion Pendyrus a'r unawdyddMark Evans.

EISTEDDFOD 2013Ar Fawrth 1af cynhaliwyd Eisteddfod fawreddog YCymer yng Nghanolfan Hamdden y Rhondda Fach achafwyd gwledd o dalent ar y llwyfan. EnillyddCadair yr Adran Gymraeg oedd Shauna Owen aMatthew Berry enillodd Cadair yr Adran Saesneg.Cipiodd Livia Jones Bl 9 y wobr am Gerddor yrYsgol Isaf am y trydydd tro yn olynnol, ac ElisJames o Flwyddyn 10 enillodd gwobr Cerddor yrYsgol Uchaf. Llys Englyn oedd y llys buddugol ytro hwn. Diolch o galon i holl ddisgyblion yr ysgolam yr oriau o baratoi ac am rannu eu talentau lu!