17
DARPARIAETH EFFAITH WELEDOL Y Trydydd Adroddiad Blynyddol Mehefin 2016 – Mai 2017

Y Trydydd Adroddiad Blynyddol Mehefin 2016 – Mai 2017 · 2017. 11. 3. · yn ystod y flwyddyn wrth i ni weithio i fireinio’r llwybrau posibl fel eu bod yn dod â’r manteision

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • DARPARIAETH EFFAITH WELEDOL

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol Mehefin 2016 – Mai 2017

  • 01

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017Darpariaeth Effaith Weledol

    Cynnwys

    Rhagair gan Chris Baines 01

    Rhagair gan Hector Pearson 02

    01 Darpariaeth Effaith Weledol 03

    02 Cydweithio â rhanddeiliaid 04

    2.1 Y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid 04

    2.2 Gweithgareddau’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid 04

    2.3 Cynnwys a Grymuso Rhanddeiliaid yn Ehangach 06

    03 Ein pedwar Prosiect VIP 09

    3.1 AHNE Dorset 10

    3.2 Parc Cenedlaethol y New Forest 14

    3.3 Parc Cenedlaethol y Peak District 18

    3.4 Parc Cenedlaethol Eryri 22

    04 Menter Gwella’r Dirwedd 26

    4.1 Gair am Fenter Gwella’r Dirwedd 26

    4.2 Prosiectau Ffenestr 1 26

    4.3 Prosiectau Ffenestr 2 27

    05 Y camau nesaf a’r llinell amser 28

    Rhagair gan Chris Baines

    Chris BainesCadeirydd y Grŵp Cynghori ar gyfer RhanddeiliaidProsiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP)

    Dros y deuddeng mis diwethaf, rydym wedi symud ymlaen yn dda iawn er bod y dasg yn aruthrol o gymhleth.

    Rydym yn bwriadu tynnu peilonau i lawr a chladdu ceblau yn rhai o’r tirweddau mwyaf sensitif a sydd agosaf at galon Cymru a Lloegr. Wrth gwrs, mae’r ddaeareg, yr ecoleg a’r archaeoleg yn eithriadol o heriol a buom yn gweithio’n galed i ganfod ffyrdd creadigol o fodloni gofynion sydd weithiau’n cystadlu â’i gilydd. Mae angen medrusrwydd ac amynedd mawr hyd yn oed ar dasgau eithaf syml fel yr arolygon cychwynnol a gwaith archwilio’r ddaear. Yn ogystal, rhoddir pwysau mawr ar y gwahanol awdurdodau ac asiantaethau y mae angen eu cymeradwyaeth ar y gwaith.

    A minnau’n gadeirydd y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid, rwy’n edmygu proffesiynoldeb pawb wrth eu gwaith. Mae’r ffaith ein bod wedi llwyddo i gydweithio cystal a’n bod i gyd yn parchu ein gilydd wedi bod yn fanteisiol iawn. Mae staff uwch ac ymgynghorwyr arbenigol National Grid yn croesawu ac yn parchu gwybodaeth a phrofiad aelodau’r Grŵp o faterion yn ymwneud â’r dirwedd. Mae ganddynt hwythau arbenigedd sydd gyda’r gorau yn y byd a gwir ddyfeisgarwch ac mae’n amlwg eu bod o’r farn bod y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol yn eithriadol o bwysig. Mae pawb sy’n gweithio ar y prosiect yn rhannu brwdfrydedd dros ddatrys y problemau a sicrhau rhagoriaeth wrth i ni agosáu at gam nesaf y prosiect.

    Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae staff proffesiynol National Grid ac aelodau’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid wedi ymweld gyda’i gilydd â’r safleoedd yn Eryri a’r New Forest a bu’r ymweliadau hyn yn arbennig o werthfawr. Ceir gwrthgyferbyniad trawiadol rhwng y ddwy dirwedd ac mae’r heriau technegol a wynebir ynddynt yn wahanol iawn hefyd. Trwy rannu ein gwahanol sgiliau, rydym wedi llwyddo yn y ddwy ardal i gytuno ar addasiadau i’r cynlluniau gwreiddiol a ddylai helpu i hwyluso’r ffordd i gwblhau’r gwaith a sicrhau hyd yn oed fwy o welliant gweledol hirdymor.

    Mae dod â’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i gyflawni’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol yn ffordd bwerus iawn o weithredu, a dylid llongyfarch y rheoleiddiwr, Ofgem, am annog y bartneriaeth arbennig hon. Trwy fanteisio ar eu gwahanol gryfderau, mae’n amlwg bod y gwahanol randdeiliaid yn teimlo bod y broses yn un braf, greadigol a chynhyrchiol iawn. Felly, rwy’n credu ein bod yn sicrhau gwell canlyniadau o dan amodau amgylcheddol sy’n eithriadol o gymhleth.

    Mae’r ansicrwydd am ragolygon treftadaeth naturiol Prydain ar ôl Brexit yn gwneud rhywun yn anghysurus iawn. Ers bron hanner canrif, bu arian Ewropeaidd yn gonglfaen i’r gefnogaeth ddeddfwriaethol ac ariannol i’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a’n Parciau Cenedlaethol. Mae cefnogaeth y rheoleiddiwr ynni i’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol wedi datgelu ffordd ychwanegol y gellir defnyddio arian cyhoeddus i sicrhau manteision cyhoeddus yn y dirwedd. Wrth i’r rhaglen hon symud ymlaen, rwy’n gobeithio y bydd rheoleiddwyr eraill, yn arbennig reoleiddwyr y diwydiannau dŵr, trafnidiaeth ac iechyd, yn gweld y prosiect fel model y gallant ei fabwysiadu. Byddai cymorth ariannol a chymorth o ran sgiliau gan y diwydiannau a reoleiddir i’r tirweddau a rennir yn amserol ac yn beth i’w groesawu’n fawr.

    Bydd y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol yn gwella’r dirwedd mewn ffordd benodol yn y Peak District, y New Forest, Dorset ac Eryri, ond mae ei effaith hirdymor yn haeddu bod yn fwy pellgyrhaeddol o lawer.

  • 02

    Darpariaeth Effaith Weledol

    03

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Rhagair gan Hector Pearson

    Hector PearsonRheolwr y Prosiect Darpariaeth Effaith WeledolNational Grid

    New image please

    01: Darpariaeth Effaith Weledol

    Mae prosiect Darpariaeth Effaith Weledol National Grid yn tanddaearu llinellau trawsyrru trydan uwchben presennol mewn pedair tirwedd o bwys cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr, gyda’r nod o helpu i leihau effaith weledol seilwaith trawsyrru trydan. Mae ein pedwar prosiect yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dorset, Parc Cenedlaethol y New Forest, Parc Cenedlaethol y Peak District a Pharc Cenedlaethol Eryri.

    Rydym yn defnyddio lwfans o £500m gan Ofgem i wneud y gwaith hwn mewn Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNEoedd) yng Nghymru a Lloegr, ac Ardaloedd o Harddwch Cenedlaethol yn yr Alban. National Grid sy’n berchen ar y seilwaith trawsyrru trydan yng Nghymru a Lloegr. Mae’r ddarpariaeth yn cynnwys ein Menter Gwella’r Dirwedd, sef cynllun grantiau ar gyfer prosiectau gwelliannau lleol, llai o faint, sy’n agored i bob un o’r 30 Parc Cenedlaethol neu AHNE sy’n cynnwys llinellau trawsyrru uwchben National Grid neu’n cael eu heffeithio ganddynt.

    Rydym ni yn National Grid yn credu’n angerddol mewn chwarae ein rhan i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y dirwedd.

    Y dasg bwysicaf i ni yw defnyddio’r lwfans hwn i wneud y gwelliannau mwyaf posibl i’r tirweddau hyn, gan osgoi effeithiau amgylcheddol annerbyniol. Er mwyn gofalu ein bod yn gwneud hyn yn iawn, gan sicrhau’r manteision mwyaf posibl o’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol, mae National Grid yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid.

    Ar ddechrau’r prosiect, fe wnaethom ni sefydlu Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid. Mae’n cynnwys sefydliadau cenedlaethol sy’n ymroi i warchod y dirwedd a chefn gwlad ledled Cymru a Lloegr. Gyda’n gilydd, cawsom y dasg anodd o benderfynu pa brosiectau i’w dewis a sut y gellid dosbarthu’r lwfans. Gwneir y penderfyniadau hyn yn unol â’r Egwyddorion Arweiniol a nodir yn ein polisi ar y Ddarpariaeth Effaith Weledol. Trwy weithio fel hyn, ein nod yw sicrhau tegwch a chydbwysedd wrth wneud penderfyniadau.

    Mae’r trydydd adroddiad blynyddol yn cofnodi hynt y gwaith a’n gweithgareddau allweddol rhwng Mehefin 2016 a Mai 2017. Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar y cynnydd a nodwyd yn ein dau adroddiad blynyddol blaenorol. Os hoffech eu darllen neu wybod rhagor am y ffordd y cafodd y pedwar prosiect eu blaenoriaethu, ewch i’n gwefan www.nationalgrid.com/VIP.

    571km o linellau trawsyrru trydan National Grid mewn Parciau Cenedlaethol ac AHNEoedd

    30 Parc Cenedlaethol ac AHNE yng Nghymru a Lloegr wedi’u cynnwys yn y prosiect

    53.7km o linellau mewn 12 adran mewn wyth ardal a warchodir = yr effaith fwyaf

    Pedair adran o’r llinell uwchben wedi’u blaenoriaethu ar gyfer tanddaearu

    Menter Gwella’r Dirwedd = cyllid o hyd at £200,000 ar gyfer pob un o’r prosiectau gwelliannau gweledol lleol

    Dimensiynau’r prosiect

    Mae’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol wedi symud ymlaen yn dda dros y flwyddyn hon eto.

    Mae’r gwaith peirianyddol a’r gwaith dylunio manwl yn rhoi pedwar prosiect a ddaw â manteision mawr i rai o dirweddau mwyaf gwerthfawr y wlad. Bu timau peirianneg, cynllunio ac amgylchedd National Grid yn gweithio i ganfod ffyrdd o roi ceblau tanddaear yn lle darnau o linellau trydan foltedd uchel uwchben yn Dorset, y New Forest, y Peak District ac Eryri.

    Caiff y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol ei lywio gan randdeiliaid ymroddedig sy’n adnabod ein tirwedd ac yn ymboeni amdani. Mae’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid, o dan gadeiryddiaeth Chris Baines, wedi llywio’r prosiect trwy nifer o benderfyniadau heriol yn ystod y flwyddyn wrth i ni weithio i fireinio’r llwybrau posibl fel eu bod yn dod â’r manteision mwyaf posibl i’r dirwedd gan effeithio cyn lleied ag y bo modd ar yr amgylchedd a’r dreftadaeth.

    Mae’r Grŵp Cynghori cenedlaethol ar gyfer Rhanddeiliaid, yn ei dro, wedi derbyn gwybodaeth gan ein Grwpiau Cyfeirio lleol ar gyfer Rhanddeiliaid, sy’n cynnwys arbenigwyr technegol lleol sydd â dealltwriaeth drwyadl o faterion lleol. Mae ar y prosiectau rydym yn symud ymlaen â nhw heddiw ddyled fawr i’w cyngor arbenigol nhw a bu’n hyfryd cael cydweithio â nhw mewn ffordd agored a chydweithredol.

    Cafodd y cyhoedd, hefyd, gyfle i fynegi eu barn a bu’r gefnogaeth a gawsom i’n cynlluniau yn galonogol iawn ym mhob un o’r pedair ardal.

    Dros y flwyddyn ddiwethaf, dechreuwyd teimlo manteision y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol y tu hwnt i’r pedair adran o’r llinell a gafodd eu

    blaenoriaethu, gyda’r taliadau cyntaf yn cael eu gwneud i gefnogi prosiectau bychain trwy’r Fenter Gwella’r Dirwedd. Mae’r diddordeb yn y fenter hon yn dal i dyfu a gallwn ddisgwyl gweld hyd yn oed fwy o gynlluniau’n cael eu cynnig pan ddaw ffenestri ymgeisio yn y dyfodol.

    Mae’n gyffrous iawn cael edrych ymlaen at y flwyddyn sydd i ddod i’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol. Ein nod yw cyflwyno ein cais cynllunio ar gyfer prosiect Dorset cyn diwedd 2017, a’r tri phrosiect arall yn dilyn hynny.

    Yn gyffredinol, bu’n galonogol iawn gweld cymaint y gellir ei gyflawni pan fydd sefydliadau o bob rhan o’r sbectrwm yn cydweithio. Wrth symud ymlaen, byddwn yn dal i weithio yn agored a thryloyw, ac edrychaf ymlaen at weld yr un faint o gydweithio ar y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol wrth i ni ymdrechu i wneud gwahaniaeth go iawn yn y tirweddau gwerthfawr hyn.

    LWFANS O

    £500M ER BUDD PARCIAU CENEDLAETHOL,

    AHNEOEDD AC ARDALOEDD O HARDDWCH CENEDLAETHOL

  • 04

    Darpariaeth Effaith Weledol

    05

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Gan y rhanddeiliaid y mae’r allwedd i lwyddiant y prosiectau hyn. Credwn fod barn ein rhanddeiliaid a’n defnyddwyr yn hanfodol er mwyn penderfynu sut y dylem ddefnyddio lwfans y Ddarpariaeth Effaith Weledol i wneud y gwelliannau mwyaf posibl i’r dirwedd.

    02: Cydweithio â rhanddeiliaid

    Lansiwyd y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid i wasanaethu’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol ym mis Ebrill 2014. Yr amgylcheddwr blaenllaw, Chris Baines, yw’r cadeirydd ac mae’r grŵp yn cynghori National Grid wrth asesu a dewis y prosiectau a gynigir. Mae’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid yn cynnwys cynrychiolwyr o

    2.1 Y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid

    sefydliadau sy’n ymroi i wella’r dirwedd a chefn gwlad ledled Cymru a Lloegr, ynghyd ag Ofgem (rheoleiddiwr y marchnadoedd trydan a nwy) a National Grid ei hunan. Maent yn cynghori’r prosiect ar y penderfyniadau allweddol a, hefyd, ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol y tu allan i’r grŵp.

    National ParksEngland

    Aelodau’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid:

    Yn ystod 2016/17, cyfarfu’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid dair gwaith. Mae cofnodion y cyfarfodydd hyn i’w gweld ar ein gwefan.

    2.2 Gweithgareddau’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid

    Mae’r tablau a ganlyn yn rhoi trosolwg o’r gweithgareddau a’r materion allweddol y bu’r grŵp yn eu hystyried dros y flwyddyn ddiwethaf.

    Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid Y prif eitemau a drafodwyd

    8fed Cyfarfod

    27–28 Medi 2016

    Cynhaliwyd ym Mharc Cenedlaethol y New Forest

    Y newyddion diweddaraf am hynt y pedwar prosiect, yn cynnwys trosolwg o’r gwaith technegol a’r gwaith ymgysylltu â’r Grwpiau Cyfeirio lleol ar gyfer Rhanddeiliaid, perchnogion tir, rhanddeiliaid lleol eraill a’r gymuned

    Ymweliad safle ag ardal prosiect Parc Cenedlaethol y New Forest

    Trafodaeth ar y blaengynlluniau a chynlluniau wrth gefn rhag ofn i un o’r prosiectau dynnu allan

    Ystyried cynlluniau ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu yn lleol yn y dyfodol ynghyd â manteision codi proffil cenedlaethol y prosiect

    Y newyddion diweddaraf am y Fenter Gwella’r Dirwedd, yn cynnwys ystyriaeth y Panel Cymeradwyo o’r cylch cyntaf o geisiadau.

    Presenoldeb yng nghyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid

    Sefydliad Presenoldeb yng nghyfarfodydd 2016/17

    Cadeirydd 3 allan o 3

    Cadw 3 allan o 3

    Yr Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol 3 allan o 3

    Campaign to Protect Rural England (CPRE) 2 allan o 3

    Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) 3 allan o 3

    Historic England 3 allan o 3

    Landscape Institute 2 allan o 3

    Cymdeithas Genedlaethol yr AHNEoedd 3 allan o 3

    National Grid 3 allan o 3

    National Parks England 3 allan o 3

    Parciau Cenedlaethol Cymru 3 allan o 3

    Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 3 allan o 3

    Natural England 2 allan o 3

    Cyfoeth Naturiol Cymru 1 allan o 3

    Ofgem 1 allan o 3

    Y Cerddwyr 3 allan o 3

    Visit England 1 allan o 3

    Croeso Cymru 2 allan o 3

    Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid Y prif eitemau a drafodwyd

    Cyfarfod Ychwanegol

    12 Rhagfyr 2016

    Cynhaliwyd yn Birmingham

    Y newyddion diweddaraf am hynt y pedwar prosiect, yn cynnwys trosolwg o’r gwaith technegol a’r gwaith ymgysylltu â’r Grwpiau Cyfeirio lleol ar gyfer Rhanddeiliaid, perchnogion tir, rhanddeiliaid lleol eraill a’r gymuned

    Cadarnhau gallu National Grid i ddefnyddio’r holl bwerau statudol sydd ar gael iddo, yn cynnwys camau gorfodol i gaffael hawliau, er mwyn symud ymlaen â’r prosiectau

    Newyddion diweddaraf am y Fenter Gwella’r Dirwedd, yn cynnwys y penderfyniadau cyllido ar geisiadau yn y ffenestr gyntaf a datganiadau o ddiddordeb yn yr ail ffenestr.

    9fed Cyfarfod

    24–25 Ebrill 2017

    Cynhaliwyd ym Mharc Cenedlaethol Eryri

    Y newyddion diweddaraf am hynt y pedwar prosiect, yn cynnwys trosolwg o’r gwaith technegol a’r gwaith ymgysylltu â’r Grwpiau Cyfeirio lleol ar gyfer Rhanddeiliaid, perchnogion tir, rhanddeiliaid lleol eraill a’r gymuned

    Ymweliad safle ag ardal lleol Parc Cenedlaethol Eryri

    Trafodaeth am y defnydd posibl o dechnolegau arloesol fel llinellau â inswleiddir â nwy

    Y newyddion diweddaraf am y Fenter Gwella’r Dirwedd, yn cynnwys penderfyniadau cyllido ar geisiadau yn y ffenestr gyntaf, ceisiadau yn yr ail ffenestr, y gwersi a ddysgwyd ac annog ceisiadau ar gyfer y dyfodol.

  • 06

    Darpariaeth Effaith Weledol

    07

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    landscape with pylons

    Rydym wedi parhau â’n gwaith gyda’r Grwpiau Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid yn ardaloedd pob un o’r prosiectau. Sefydlwyd y grwpiau hyn ar ddechrau prosiect y Ddarpariaeth Effaith Weledol ac mae cynrychiolwyr Awdurdod y Parc Cenedlaethol perthnasol neu Bartneriaeth yr AHNE berthnasol a rhanddeiliaid lleol eraill yn dod i’r cyfarfodydd. Maent wedi rhoi gwybodaeth a chyngor hanfodol sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad y prosiect.

    Rydym wedi cynnal digwyddiadau ‘Galw Heibio’ ar gyfer aelodau’r cyhoedd ym mhob ardal er mwyn cynnwys pobl yr ardal wrth ddatblygu’r prosiect. Roedd y digwyddiadau hyn yn dangos i bobl sut roedd y cynlluniau ar gyfer y prosiectau’n datblygu ac roeddent yn gyfle i rannu eu barn.

    2.3 Cynnwys a Grymuso Rhanddeiliaid yn Ehangach

    Roedd aelodau o dîm National Grid wrth law yn y digwyddiadau i ateb cwestiynau ac i drafod y prosiectau’n fwy manwl.

    Trwy gydol y flwyddyn, roeddem yn rhannu gwybodaeth, newyddion a dogfennau ar ein gwefan www.nationalgrid.com/VIP ac rydym wedi bod yn cadw mewn cysylltiad â rhanddeiliaid lleol a’r cyhoedd trwy ddatganiadau i’r wasg, llythyrau a chyhoeddiadau fel dogfennau cryno a ffeithluniau.

    Yn ogystal, bu ein tîm yn trafod gyda’r ddau gwmni sy’n berchen ar rwydwaith trawsyrru yr Alban, sy’n datblygu eu prosiectau eu hunain i ddefnyddio lwfans Ofgem, er mwyn sicrhau bod Cymru, Lloegr a’r Alban yn cael y manteision mwyaf o’r lwfans.

    YMGYSYLLTU Â RHANDDEILIAID A’R CYHOEDD AM Y PROSIECTAU BLAENORIAETH 2016/17Oherwydd y gwahanol nodweddion lleol, mae’r trefniadau ymgysylltu yn wahanol ar gyfer pob prosiect

    22 Mehefin 2016 Digwyddiad galw heibio cyhoeddus Martinstown: 65 o bobl wedi dod yno

    25 Mehefin 2016 Digwyddiad galw heibio cyhoeddus yn Winterbourne Abbas: 41 o bobl wedi dod yno

    6 Medi 2016 Cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid: 7 o randdeiliaid yn bresennol

    5 Hydref 2016 Cyflwyniad yn Fforwm Blynyddol AHNE Dorset

    21 Tachwedd 2016 Cyflwyniad i Grŵp o Gynghorau Plwyf Winterbourne: 6 o randdeiliaid yn bresennol

    24 Tachwedd 2016 Cyflwyniad i fwrdd Partneriaeth AHNE Dorset: 25 o randdeiliaid yn bresennol

    22 Mawrth 2017 Cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid: 6 o randdeiliaid yn bresennol

    Cyfanswm y rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd a ddaeth i’r digwyddiadau – 150

    AHNE DORSET

    1 Gorffennaf 2016 Digwyddiad galw heibio cyhoeddus, Hale: 70 o bobl wedi dod yno

    2 Gorffennaf 2016 Digwyddiad galw heibio cyhoeddus, Hale: 76 o bobl wedi dod yno

    24 Awst 2016 Cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid: 13 o randdeiliaid yn bresennol

    8 Rhagfyr 2016 Cyfarfod o’r Grŵp Cyswllt Cymunedol: 13 o randdeiliaid yn bresennol

    Ymweliadau safle gyda Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol y New Forest, New Forest Verderers and Commoners sydd â stoc yn pori ar Hale Purlieu

    Cyfanswm y rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd a ddaeth i’r digwyddiadau – 172

    PARC CENEDLAETHOL Y NEW FOREST

    9 Mehefin 2016 Cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid (Barnsley): 4 o randdeiliaid yn bresennol

    9 Mehefin 2016 Cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid (Bakewell): 4 o randdeiliaid yn bresennol

    7 Gorffennaf 2016 Digwyddiad galw heibio cyhoeddus, Penistone: 24 o bobl wedi dod yno

    7 Gorffennaf 2016 Digwyddiad galw heibio cyhoeddus, Dunford Bridge: 23 o bobl wedi dod yno

    8 Gorffennaf 2016 Digwyddiad galw heibio cyhoeddus yn uned deithiol National Grid ym maes parcio’r Trans Pennine Trail yn Dunford Bridge: 25 o bobl wedi dod yno

    17 Awst 2016 Cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid: 12 o randdeiliaid yn bresennol

    10 Medi 2016 Stondin yn sioe Penistone: 118 o bobl wedi dod yno

    24 Hydref 2016 Cyflwyniad i Gyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Barnsley: 4 o randdeiliaid yn bresennol

    28 Tachwedd 2016 Cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid: 9 o randdeiliaid yn bresennol

    PARC CENEDLAETHOL Y PEAK DISTRICT (DWYRAIN)

    9 Rhagfyr 2016 Cyfarfod gyda Chyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Barnsley: 5 o randdeiliaid yn bresennol

    24 Ionawr 2017 Gweithdy technegol ar y Trans Pennine Trail: 11 o randdeiliaid yn bresennol

    24 Ionawr 2017 Gweithdy technegol ar Wogden Foot: 15 o randdeiliaid yn bresennol

    8 Chwefror 2017 Cyfarfod gyda rhanddeiliaid ecolegol: 6 o randdeiliaid yn bresennol

    2 Mawrth 2017 Ymweliad safle gyda Chyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Barnsley/Awdurdod Parc Cenedlaethol y Peak District: 4 o randdeiliaid yn bresennol

    5 Ebrill 2017 Cyfarfod gyda’r Yorkshire Wildlife Trust: 2 o randdeiliaid yn bresennol

    27 Ebrill 2017 Cyfarfod technegol gyda Chyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Barnsley: 3 o randdeiliaid yn bresennol

    Cyfanswm y rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd a ddaeth i’r digwyddiadau – 269

    14 Gorffennaf 2016 Digwyddiad galw heibio cyhoeddus, Swyddfeydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Penrhyndeudraeth: 67 o bobl wedi dod yno

    16 Gorffennaf 2016 Digwyddiad galw heibio cyhoeddus, Penrhyndeudraeth: 33 o bobl wedi dod yno

    8 Medi 2016 Cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid: 9 o bobl yn bresennol

    Cyfanswm y rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd a ddaeth i’r digwyddiadau – 109

    PARC CENEDLAETHOL ERYRI

    Cyfanswm terfynol y rhanddeiliaid a’r aelodau o’r cyhoedd a ddaeth i ddigwyddiadau 2016/17 700

  • 08

    Darpariaeth Effaith Weledol

    09

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    landscape with pylons

    EUROPARC Atlantic Isles

    Ym mis Chwefror 2017, gwahoddwyd rheolwr prosiect Darpariaeth Effaith Weledol National Grid, Hector Pearson, i roi cyflwyniad gweminar i arbenigwyr Ewropeaidd mewn tirweddau gwarchodedig.

    Cyflwynwyd y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Peter Ogden YDCW sy’n aelod o’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid ac roedd o dan nawdd EUROPARC Atlantic Isles, rhan o ffederasiwn EUROPARC sy’n dwyn ynghyd gynrychiolwyr o dros 400 o ardaloedd a

    warchodir yn genedlaethol mewn 36 o wledydd Ewrop. Cafwyd sesiwn Holi ac Ateb gyda’r cyfranwyr ar ôl y cyflwyniad a bu’n help i dynnu sylw at y prosiect ac i sôn wrth gynulleidfa Ewropeaidd am ei amcanion.

    CIGRE

    Yn ogystal, rhoddwyd cyflwyniadau ar y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i arbenigwyr rhyngwladol a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau yn y diwydiant ynni trydan mewn digwyddiadau ym Mharis a Dulyn gan y Cyngor Rhyngwladol ar Systemau Trydan Mawr (CIGRE).

    Llinell amser y gweithgareddau allweddol yn ystod 2016/17

    HAF 2016

    Ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid a chymunedau lleol, yn cynnwys cyfarfodydd o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid a digwyddiadau galw heibio i’r cyhoedd

    Casglu data amgylcheddol sylfaenol

    Y Panel Cymeradwyo’n ystyried ceisiadau ffenestr un Menter Gwella’r Dirwedd

    GAEAF 2016/GWANWYN 2017

    Datblygu opsiynau a ffefrir ar gyfer tynnu llinellau uwchben yn y pedair ardal flaenoriaeth a rhoi llinellau eraill yn eu lle

    Arolygon amgylcheddol, archaeolegol a geodechnegol

    Parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau lleol

    Y Panel Cymeradwyo’n ystyried ceisiadau ffenestr dau Menter Gwella’r Dirwedd

    Ymweliad y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid ag ardal prosiect Eryri

    2016 2017

    CERRIG MILLTIR

    MEDI 2016

    Cyfarfu’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid i gael y newyddion diweddaraf am hynt y pedwar prosiect a cheisiadau ffenestr un Menter Gwella’r Dirwedd

    Gwahoddwyd ceisiadau ffenestr dau Menter Gwella’r Dirwedd

    TACHWEDD 2016

    National Grid wedi cyflwyno prosiectau ffenestr un Menter Gwella’r Dirwedd i Ofgem

    RHAGFYR 2016

    Y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid wedi cadarnhau gallu National Grid i ddefnyddio’r holl bwerau statudol sydd ar gael iddo, yn cynnwys caffael gorfodol, er mwyn symud ymlaen â’r prosiectau

    EBRILL 2017

    Cyfarfu’r Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid i gael y newyddion diweddaraf am hynt y pedwar prosiect a cheisiadau ffenestr un a ffenestr dau Menter Gwella’r Dirwedd

    Ofgem wedi cadarnhau prosiectau llwyddiannus ffenestr un Menter Gwella’r Dirwedd

    MEDI 2016

    Ymweliad y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid ag ardal prosiect y New Forest

    03: Ein pedwar Prosiect VIP

    Nod ein pedwar prosiect Darpariaeth Effaith Weledol yw gwella rhai o dirweddau harddaf Cymru a Lloegr trwy danddaearu llinellau trawsyrru uwchben National Grid, gan osgoi effeithiau annerbyniol ar yr amgylchedd a chydbwyso ymarferoldeb technegol a chost. Rydym yn gwneud hyn trwy broses dryloyw o dan arweiniad y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid, gan elwa ar gyfraniad arbenigwyr technegol, a rhanddeiliaid a chymunedau lleol.

    Yn ystod 2016/17, symudwyd ymlaen yn dda â gwaith dylunio’r pedwar prosiect. Gwnaed cryn dipyn o waith technegol eleni i gyfrannu at hyn yn cynnwys astudiaethau amgylcheddol, ecolegol, geodechnegol, archaeolegol a pheirianyddol yn ogystal â thrafodaethau gyda rhanddeiliaid, perchnogion tir a chymunedau. Wrth ddylunio’r prosiectau hyn, ceisiwn sicrhau nad ydym yn amharu ar yr amgylchedd fwy nag sydd raid, os o gwbl.

    Ar y tudalennau nesaf, rydym yn sôn am hynt pob un o’r prosiectau ac yn edrych ymlaen at y gweithgareddau y bwriedir eu cynnal yn 2017/18.

    PARC CENEDLAETHOL ERYRI tua 3km o danddaearu, cael gwared â tua 10 peilon

    AHNE DORSET tuag 8km o danddaearu, cael gwared â tua 22 o beilonau

    PARC CENEDLAETHOL Y PEAK DISTRICT tua 2km o danddaearu, cael gwared â tua 7 peilon

    PARC CENEDLAETHOL Y NEW FOREST tua 3km o danddaearu, cael gwared â tuag 8 peilon

    EIN PEDWAR PROSIECT VIP

    Digwyddiadau eraill

  • 11

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Ym mhrosiect AHNE Dorset, rhoddir cebl tanddaear yn lle darn tuag 8km o’r llinell uwchben ger Winterbourne Abbas, gan gael gwared â 22 peilon o’r dirwedd yn barhaol. Dangosir y llwybr a ffefrir ar gyfer y cebl newydd ar y map uchod. Bydd angen adeiladu dau gompownd pennau selio newydd a pheilon terfynol newydd cysylltiedig i gysylltu’r cebl â’r llinell uwchben a fydd ar ôl.

    AHNE Dorset

    Coridor llwybr dangosol y cebl tanddaear

    Llinell uwchben bresennol National Grid (i’w chadw)

    Llinell bresennol National Grid y bwriedir ei thynnu

    Cebl tanddaear newydd National Grid

    Llinell uwchben newydd National Grid

    Peilon presennol National Grid

    Compownd Pennau Selio Arfaethedig

    Cynllun y llwybr presennol ym mis Mai 2017

    0 0.5 1 CilometrKilometres

    G/N

  • 12

    Darpariaeth Effaith Weledol

    13

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    AHNE Dorset AHNE Dorset

    Yn haf a hydref 2017, byddwn yn cwblhau’r arolygon ac yn cynnal asesiad amgylcheddol llawn o’r prosiect er mwyn sicrhau ein bod yn cael cyn lleied o effaith ar yr amgylchedd ag y bo modd, os o gwbl. Bydd ein trafodaethau gyda pherchnogion tir a rhanddeiliaid yn parhau.

    Ym mis Gorffennaf 2017, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar y prosiect arfaethedig cyn cyflwyno’r cais cynllunio, yn cynnwys manylion y camau i liniaru effeithiau amgylcheddol,

    Edrych ymlaen

    trefniadau rheoli traffig a threfn y prosiect. Disgwylir y bydd y cais cynllunio’n barod i’w gyflwyno yn y gaeaf 2017.

    Yn ôl y rhaglen ddangosol bresennol, os bydd yr holl drafodaethau, a’r ceisiadau angenrheidiol am gymeradwyaeth a chaniatâd yn llwyddiannus, bydd y gwaith ar y safle yn dechrau yng ngwanwyn 2019 a bydd yn cymryd rhyw dair blynedd i’w gwblhau.

    CYNGHORWYR Y PROSIECT Asesiad Amgylcheddol ac Archaeoleg – RSK

    Ecoleg, Daeareg, Priddoedd, a Thir wedi’i Halogi – Aecom

    Peirianneg – Mott McDonald Y dirwedd – Land Use Consultants Hydroleg/Adnoddau Dŵr – MWH Sŵn, Ansawdd yr Aer, Amaethyddiaeth a Defnydd Tir – Arcadis

    Materion cymdeithasol- economaidd – Jacobs

    DYNODWYD AHNE DORSET YN

    MAE’N CYNNWYS

    ARFORDIR DORSET BRON I GYD AC ARDALOEDD HELAETH YMHELLACH O’R MÔR.

    1959.AELODAU’R GR P CYFEIRIO AR GYFER RHANDDEILIAID

    Cynhaliwyd tri chyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid yn Dorset yn 2016/17

    Ym Mehefin 2016, cynhaliwyd dau ddigwyddiad galw heibio ar gyfer y cyhoedd yn Winterbourne Abbas a Martinstown. Daeth dros gant o bobl yr ardal ac roedd yr ymateb cyffredinol yn awgrymu bod cefnogaeth gref i’r prosiect yn yr ardal. Bu tîm y prosiect yn Fforwm Blynyddol AHNE Dorset ym mis Hydref 2016 hefyd ac roedd yno arddangosfa i esbonio’r prosiect.

    Yn dilyn y digwyddiadau hyn, ynghyd â rhagor o drafodaethau gyda rhanddeiliaid a gwaith technegol manwl, cytunwyd mewn egwyddor gyda’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid ar y llwybr a ffefrid ar gyfer y cebl newydd.

    Mae’r gwaith technegol a wnaed yn ystod 2016/17 wedi cynnwys archwilio’r ddaear a nifer o astudiaethau amgylcheddol, yn cynnwys rhai ym maes tirwedd a materion gweledol, ecoleg, archaeoleg, hydroleg, daeareg, defnydd tir, sŵn, traffig a materion cymdeithasol-economaidd. Roedd y gwaith hwn yn cyfrannu at ddyluniad y prosiect ac yn nodi unrhyw effeithiau amgylcheddol a fyddai’n gysylltiedig â’r datblygiad a chamau priodol i’w lliniaru.

    Hynt y gwaith hyd yma

    Caiff yr wybodaeth hon ei chynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol a gyflwynir gyda’r ceisiadau cynllunio.

    Roeddem yn parhau i gydweithio’n agos â rhanddeiliaid technegol, yn cynnwys Historic England, Natural England, Cyngor Sir Dorset a’r AHNE i drafod yr asesiadau ac i ddatblygu camau lliniaru priodol.

    Nodwyd lleoliadau ar gyfer y ddau gompownd pennau selio newydd, y naill i’r gogledd o’r A35 a Winterbourne Abbas a’r llall i’r de o Friar Waddon Edge. Wrth bennu’r lleoliadau hyn, buom yn ymchwilio i nifer o ddewisiadau ac yn cynnal astudiaethau amgylcheddol a pheirianyddol. Cynhaliwyd trafodaethau gyda pherchnogion tir a rhanddeiliaid ac rydym yn datblygu cynlluniau posibl ar gyfer tirlunio a phlannu er mwyn lleihau effaith weledol yr adeiladweithiau hyn.

    Lansiwyd gwefan prosiect Dorset ym mis Chwefror 2017, gyda manylion y llwybr a newyddion am hynt y prosiect: http://dorset.nationalgrid.co.uk

  • 15

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Parc Cenedlaethol y New Forest

    #*

    #*#*

    #* #* #*#*

    #* #*#*

    #*#*

    #*

    #*

    #*

    4YB062

    4YB057

    4YB058

    4YB059 4YB060 4YB0614YB066

    4YB0684YB069

    4YB070

    4YB063

    4YB071

    4YB064

    4YB067

    4YB065

    Contains OS data © Crown Copyright and database right 2016

    Preferred Cable Route Option

    FEED Document Number:

    J. Weeks

    04A3DRC. Carr

    06/05/2016

    Study area

    Sealing end compound (SEC)

    Horizontal directional drill (HDD)

    #* Existing 400kV tower

    Existing 400kV overhead line

    Preferred cable route

    Mire diversion Option A

    Mire diversion Option B

    P:\Bristol\BNI\363761 NG VIP\GIS\Drawings\Working Drawings\MMD_362981_C_DR_NF_LAY_0302.mxd

    MMD-362981-C-DR-NF-LAY-0302© Mott MacDonald Ltd.This document is issued for the party which commissioned it and for specific purposes connected with the captioned project only. It should not be relied upon by any other party or used for any other purpose.We accept no responsibility for the consequences of this document being relied upon by any other party, or being used for any other purpose, or containing any error or omission which is due to an error or omission in data supplied to use by other parties.

    Overview

    [

    Contains OS data © CrownCopyright and database right 2016

    1 of 1

    REPRODUCED FROM ORDNANCE SURVEY MAPS, BY PERMISSION OFTHE ORDNANCE SURVEY ON BEHALF OF THE CONTROLLER OF HERMAJESTY'S STATIONARY OFFICE. © CROWN COPYRIGHT ORDNANCESURVEY. OS LICENCE NO. 100024241

    Source:Tower and overhead line: National Grid, 2015.Study Area: AECOM, 2015, edited Mott MacDonald March 2016.

    1:16,000

    PDD-33493-LAY-302

    Development Eng: Document Type: Scale: Format: Sheet(s): Rev:

    Created by: Date: Checked by: Date: Approved by: Date:

    S. Goode 03/05/2016 06/05/2016J. Richards

    National Grid Document Number:

    Document Title:

    Scheme Name:

    Master Scheme No: Sub-Scheme No: Site:

    New Forest National Park33493 33493

    App'dRev Description Cre'd DateChk'd

    P1 06/05/2016Preliminary drawing, for comment SJG JW JRR

    400kV Visual Impact Provision - New Forest

    0 0.25 0.5 0.75 1Kilometers

    Notes:

    1. Route positions are shown indicatively for discussion purposes only2. NGTP 500 (UKBP) Stage 4.2 drawing - Development stage only3. Mire diversions currently under review

    02 11/08/2016Route option A added and revised SJG JW JRR

    03 11/11/2016Route A + mire diversion JAG EVI JW

    04 16/11/2016Mire diversion Option B added SJG CLJ JW

    Ardal yr astudiaeth

    Compownd pennau selio

    Gwaith drilio cyfeiriadol llorweddol

    Tŵr 400kV presennol

    Llinell uwchben 400kV bresennol

    Llwybr a ffefrir ar gyfer y cebl

    Dargyfeirio o’r gors – Opsiwn A

    Dargyfeirio o’r gors – Opsiwn B

    Ym mhrosiect Parc Cenedlaethol y New Forest, rhoddir cebl tanddaear yn lle darn 3km o’r llinell uwchben ger Hale, gan gael gwared ag 8 peilon o’r dirwedd yn barhaol. Dangosir y llwybr a ffefrir ar hyn o bryd ar gyfer y cebl newydd ar y map uchod. Bydd angen adeiladu dau gompownd pennau selio i gysylltu’r cebl â’r llinell uwchben a fydd ar ôl.

    Cynllun y llwybr presennol ym mis Mai 2017

  • 16

    Darpariaeth Effaith Weledol

    17

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Parc Cenedlaethol y New Forest

    Ym mis Gorffennaf 2016, cynhaliwyd dau ddigwyddiad galw heibio yn Hale ar gyfer y cyhoedd. Daeth dros gant o bobl yr ardal ac roedd yr ymateb cyffredinol yn awgrymu bod cefnogaeth gref i’r prosiect yn yr ardal.

    Yn dilyn y digwyddiadau hyn, rhagor o drafodaethau gyda rhanddeiliaid a gwaith technegol manwl, cytunwyd ar lwybr a ffefrid gyda’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid. Daethpwyd i ddealltwriaeth, mewn egwyddor, rhwng perchnogion y tir a National Grid ynghylch prynu’r tir angenrheidiol ar gyfer y ddau gompownd pennau selio newydd yn chwarel Pound Bottom (yn y pen dwyreiniol) a Stricklands Plantation (yn y pen gorllewinol).

    Mae’r gwaith technegol a wnaed eleni’n cynnwys astudiaethau ecolegol a hydrolegol, sy’n dal ar y gweill, ynghyd â gwaith archwilio’r ddaear ar hyd y llwybr a ffefrir. Gan fod yr ardal yn sensitif iawn o safbwynt amgylcheddol, rydym yn cydweithio’n agos â Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Comisiwn Coedwigaeth ac Awdurdod y Parc.

    Mae arolygon adar sy’n magu wedi nodi bod yno nifer o rywogaethau a warchodir yn rhyngwladol yn cynnwys y troellwr mawr, ehedydd y coed a thelor Dartford. Mae arolygon ar y gweill i ddeall effaith bosibl gwaith adeiladu’r prosiect ar y rhywogaethau hyn.

    Hynt y gwaith hyd yma

    Rydym wedi penodi arbenigwr trawsleoli ac adfer cynefinoedd i’n cynghori ar ffyrdd o leihau effaith y gwaith adeiladu ar gynefinoedd dynodedig ac ardaloedd pori stoc y New Forest.

    Cwblhawyd gwaith archwilio’r tir a fydd yn cyfrannu at benderfyniadau ar lwybr a dyluniad system y cebl.

    Ym mis Medi 2016, cynhaliodd y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid ei wythfed cyfarfod yn y New Forest. Roedd y cyfarfod yn cynnwys ymweliad safle i weld y darn o’r llinell uwchben a gaiff ei danddaearu a chyflwyniad gan brif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol y New Forest, Alison Barnes.

    Er mwyn cynnwys y nifer fawr o randdeiliaid sydd â diddordeb yn y prosiect, sefydlwyd Grŵp Cyswllt Cymunedol gan wahodd sefydliadau fel Cynghorau Plwyf, yr RSPB, CPRE Hampshire, The Verderers of the New Forest a’r New Forest Commoners Defence Association. Cyfarfu’r grŵp am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2016. Cynhaliwyd arolwg ar droed ar y safle ym mis Tachwedd 2016 gyda Hale Purlieu Commoners, sy’n ei ddefnyddio fel tir pori.

    Lansiwyd gwefan prosiect y New Forest ym mis Chwefror 2017, gyda manylion y llwybr a newyddion am hynt y prosiect: http://newforest.nationalgrid.co.uk

    Parc Cenedlaethol y New Forest

    Bydd gwaith technegol manwl a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid yn parhau yn 2017/18. Yn ôl y rhaglen ddangosol bresennol, os bydd yr holl ymgynghoriadau cyhoeddus a’r ceisiadau angenrheidiol am gymeradwyaeth a chaniatâd yn llwyddiannus, bydd y gwaith ar y safle yn dechrau yn haf 2019 a bydd yn cymryd rhyw ddwy flynedd a hanner neu dair blynedd i’w gwblhau.

    Edrych ymlaen

    PARC CENEDLAETHOL Y NEW FOREST Cafodd yr hen faes hela brenhinol hwn a’r ardal gyfagos, yn Hamphsire ar arfordir canol de Lloegr, eu dynodi’n Barc Cenedlaethol ym mis Mawrth

    2005

    AELODAU’R GR P CYFEIRIO AR GYFER RHANDDEILIAID

    Cynhaliwyd un cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid yn y New Forest yn 2016/17

    CYNGHORWYR Y PROSIECT Asesiad Amgylcheddol ac Archaeoleg – RSK

    Ecoleg, Daeareg, Priddoedd a Thir wedi’i Halogi – AECOM

    Peirianneg – Mott McDonald Y dirwedd – Land Use Consultants Hydroleg/Adnoddau Dŵr – MWH Sŵn, Ansawdd yr Aer, Amaethyddiaeth a Defnydd Tir – Arcadis

    Materion cymdeithasol-economaidd – Jacobs

    Trawsleoli ac Adfer Cynefinoedd – Alaska

    Ymgysylltu â rhanddeiliaid – Camargue

  • 19

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Background mapping information has been reproduced from the Ordnance Survey on behalf of the controller of Her Majesty's Stationery Office. © Crown copyright Ordnance Survey National Grid license no. 100022488

    0 0.4 0.8Kilometers

    Trans Penn

    ine Trail

    Dunford Bridge

    Dunford Bridge

    Wogden FootWogden Foot

    Trans Penn

    ine Trail

    Trans Pennine TrailTrans Pennine Trail

    Parc Cenedlaethol y Peak District

    Ym mhrosiect Parc Cenedlaethol y Peak District (Dwyrain) rhoddir cebl tanddaear yn lle darn 2km o’r llinell uwchben i’r dwyrain o Dwnnel Woodhead ger Dunford Bridge, gan gael gwared â 7 peilon a chompownd pennau selio o’r dirwedd yn barhaol. Bydd y llwybr a ffefrir ar gyfer y cebl newydd, a nodir ar y map uchod, yn rhedeg ochr yn ochr â’r Trans-Pennine Trail i’r de o afon Don i ymuno â cheblau presennol yn Nhwnnel Woodhead.

    Bydd angen adeiladu compownd pennau selio newydd a pheilon terfynol newydd cysylltiedig i gymryd lle un arall yn Safle Bywyd Gwyllt Lleol Wogden Foot i gysylltu’r cebl â’r llinell uwchben a fydd ar ôl. Fel rhan o’r prosiect, bydd angen newid cwrs y Trans-Pennine Trail dros dro am ryw ddwy flynedd fel y gellir gwneud y gwaith adeiladu.

    Cynllun y llwybr presennol ym mis Mai 2017

    Llinell bresennol National Grid y bwriedir ei thynnu

    Llinell uwchben bresennol National Grid (i’w chadw).

    Peilonau presennol National Grid

    Lleoliad yr Adeilad Cysylltu Ceblau Arfaethedig

    Lleoliad y Compownd Pennau Selio Arfaethedig

    Llwybr arfaethedig y cebl

    Existing National Grid line proposed for removal Existing National Grid overhead line (retained)

    Existing National Grid pylon

    Proposed Cable Jointing Building location Proposed Sealing End Compound location

    Proposed cable route

  • 20

    Darpariaeth Effaith Weledol

    21

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Parc Cenedlaethol y Peak District

    Bydd gwaith ecolegol ac amgylcheddol manwl a thrafodaethau’n parhau yn 2017/18 yn yr un modd â’n hymchwiliadau i’r dyluniadau tanddaearu priodol ar gyfer y prosiect. Rydym yn cynnal asesiad amgylcheddol llawn o’r prosiect er mwyn sicrhau ein bod yn amharu cyn lleied ag y bo modd, os o gwbl, ar yr amgylchedd. Bydd ein trafodaethau gyda pherchnogion tir a rhanddeiliaid yn parhau.

    Yn hydref 2017, cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar y prosiect arfaethedig, yn cynnwys manylion rheolaeth amgylcheddol,

    Edrych ymlaen

    trefniadau rheoli traffig a threfn y prosiect, cyn cyflwyno’r cais cynllunio. Disgwylir y bydd y cais cynllunio ar gyfer y compownd pennau selio’n barod i’w gyflwyno yn gynnar yn 2018.

    Yn ôl y rhaglen ddangosol bresennol, os bydd yr holl drafodaethau, a’r ceisiadau angenrheidiol am gymeradwyaeth a chaniatâd yn llwyddiannus, bydd y gwaith ar y safle yn dechrau yng ngwanwyn 2019 a bydd yn cymryd rhyw ddwy flynedd i’w gwblhau.

    PARC CENEDLAETHOL Y PEAK DISTRICT oedd y Parc Cenedlaethol cyntaf yng Nghymru a Lloegr ac fe’i dynodwyd yn

    Mae’n cynnwys rhannau o Swydd Derby, Swydd Efrog, Swydd Stafford a Swydd Gaer.

    1951

    AELODAU’R GR P CYFEIRIO AR GYFER RHANDDEILIAID

    Cynhaliwyd tri chyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid yn y Peak District yn 2016/17

    CYNGHORWYR Y PROSIECT Asesiad Amgylcheddol ac Archaeoleg – RSK

    Ecoleg, Daeareg, Priddoedd a Thir wedi’i Halogi – AECOM

    Y dirwedd – Gillespies Trafnidiaeth – WSP/Parsons Brinckerhoff

    Hydroleg/Adnoddau Dŵr – MWH Sŵn, Ansawdd yr Aer, Amaethyddiaeth a Defnydd Tir – Arcadis

    Materion cymdeithasol-economaidd – Jacobs

    Ymgysylltu â rhanddeiliaid – Camargue

    Ym mis Gorffennaf 2016, cynhaliwyd tri digwyddiad galw heibio yn Penistone, Dunford Bridge ac ar y Trans-Pennine Trail. Daeth dros 70 o bobl yno ac roedd yr ymateb cyffredinol yn awgrymu bod cefnogaeth dda i’r prosiect yn yr ardal. Ym mis Medi 2016, cawsom dros 100 o ymwelwyr i’n stondin yn Sioe Penistone ac roedd gan y mwyafrif helaeth ohonynt agwedd gadarnhaol iawn at y prosiect.

    Ar gais y Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid, buom yn ystyried llwybr arall posibl i’r gogledd o afon Don. Mae’r llwybr hwn yn osgoi’r Trans-Pennine Trail a Wogden Foot ond byddai’n gofyn am waith peirianyddol mwy cymhleth a fyddai’n achosi mwy o ffwdan, yn cynnwys drilio cyfeiriadol llorweddol o dan afon Don, delio â llethrau serth a chynhyrchu llawer iawn o rwbel.

    Comisiynwyd yr ymgynghorwyr Parsons Brinckerhoff i gynnal astudiaeth ddichonoldeb o’r opsiwn hwn. Roedd yr astudiaeth yn dangos y byddai’r dewis hwn yn amharu gryn dipyn yn fwy ar y dirwedd, ar y sefyllfa gymdeithasol-economaidd ac ar draffig/trafnidiaeth na’r llwybr a ffefrir, i’r de o afon Don. Wrth ystyried y canfyddiadau hyn yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2016, cytunodd y Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid yn ffurfiol y dylid symud ymlaen â’r llwybr a ffefrir, yr un deheuol.

    Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd yn 2016 gydag uwch-swyddogion ac aelodau o Gyngor Bwrdeistref Fetropolitanaidd Barnsley, sef

    Hynt y gwaith hyd yma

    awdurdod lleol yr ardal lle mae’r prosiect. Cytunwyd i gydweithio ar y prosiect. Fel rhan o hyn, mae manteision cymdeithasol ac economaidd y prosiect a’r manteision o ran adfywio’r ardal yn cael eu hystyried.

    Cynhaliwyd gweithdai ar Safle Bywyd Gwyllt Lleol Wogden Foot yn Ionawr a Chwefror 2017 i gychwyn trafodaethau manwl ar gyfleoedd i wella’r sefyllfa a lliniaru effeithiau drwg. Ymhlith y bobl oedd yn bresennol roedd gwirfoddolwyr o’r Trans-Pennine Trail, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Efrog, Fforwm Mynediad Lleol, y British Horse Society a grwpiau defnyddwyr eraill. Ar ôl hyn, cynhaliwyd rhagor o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid oedd â diddordeb arbennig mewn ecoleg.

    Dechreuwyd trafod trefniadau newid cwrs y Trans-Pennine Trail dros dro gyda rhanddeiliaid a pherchnogion tir. Mae’n bwysig bod y llwybr yn dal ar agor ac yn dal i gael ei ddefnyddio gan bobl yr ardal, cerddwyr pellter hir, beicwyr a phobl ar gefn ceffylau.

    Rydym yn ymchwilio i ddyluniadau tanddaearu priodol ar gyfer y prosiect hwn, ar hyd y llwybr a ffefrir.

    Lansiwyd gwefan arbennig ar gyfer prosiect y Peak District (Dwyrain) ym mis Chwefror 2917, gyda manylion y llwybr a newyddion am hynt y gwaith: http://peakdistricteast.nationalgrid.co.uk

    Parc Cenedlaethol y Peak District

  • 23

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Parc Cenedlaethol Eryri

    Ym mhrosiect Parc Cenedlaethol Eryri, rhoddir cebl tanddaear yn lle darn 3km o’r llinell uwchben sy’n croesi aber afon Dwyryd ger Porthmadog, gan gael gwared â 10 peilon o’r dirwedd yn barhaol. Bydd y cebl yn rhedeg mewn twnnel tanddaear o Gilfor i’r Garth o dan aber afon Dwyryd. Byddai angen adeilad pen twnnel ym mhob pen i’r twnnel ceblau hefyd. Bydd angen adeiladu compownd pennau selio a pheilon terfynol cysylltiedig i gysylltu’r cebl â’r llinell uwchben a fydd ar ôl yn y dwyrain.

    Yr ardal chwilio ar gyfer coridorau’r llwybrau tanddaear posib, y compownd pennau selio a’r adeiladau pen twnnel ym mis Mai 2017.

    Llinell bresennol National Grid y bwriedir ei thynnu

    Llinell uwchben bresennol National Grid (i’w chadw)

    Peilonau presennol National Grid

    Ardal chwilio llwybr arfaethedig y cebl

    Ardal chwilio’r Compownd Pen Selio/Adeilad Pen Twnnel arfaethedig

    0 0.5 1 CilometrKilometres

  • 24

    Darpariaeth Effaith Weledol

    25

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Parc Cenedlaethol Eryri

    Ym mis Gorffennaf 2016, cynhaliwyd dau ddigwyddiad galw heibio ym Mhenrhyndeudraeth ar gyfer y cyhoedd. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan y 100 o bobl leol a ddaeth yno, ac roedd cefnogaeth gref i ymestyn y twnnel tanddaear tua’r gorllewin o aber afon Dwyryd i’r Garth, gan ymuno â’r cebl presennol sy’n croesi aber afon Glaslyn. Trwy ymestyn y twnnel ni fydd angen gadael darn byr o’r llinell a thri pheilon rhwng y ddwy aber gan fod y rhain yn amharu ar y dirwedd ac yn edrych yn hyll.

    Yn dilyn y digwyddiadau hyn, ynghyd â gwaith technegol manwl a thrafodaethau gyda rhanddeiliaid, cytunwyd gyda’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid y dylid cael twnnel tanddaear o Gilfor i’r Garth.

    Yn 2016/17, canolbwyntiwyd ar waith archwilio’r ddaear i benderfynu ar ddyfnder a llwybr y twnnel. Mae angen caniatâd ar gyfer y gwaith hwn oherwydd y dynodiadau amgylcheddol sydd yn yr ardal ac, ym mis Mai 2017, gwnaethom gais i Cyfoeth Naturiol Cymru am Drwydded Forol. Er mwyn cyfrannu at y cais, paratowyd arolygon ecolegol, botanegol ac archaeolegol manwl yn cynnwys Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Pan ganiateir y

    Hynt y gwaith hyd yma

    drwydded – disgwylir hynny yn haf 2017 – bydd y gwaith yn dechrau.

    Gwnaed cynnydd ar yr arolygon trafnidiaeth a thraffig. Cynhaliwyd y rhain yn haf 2016 a byddant yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol o symudiadau trafnidiaeth a thraffig yn ystod y tymor prysuraf.

    Ym mis Ebrill 2017, cynhaliodd y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid ei nawfed cyfarfod yn Eryri. Roedd y cyfarfod yn cynnwys ymweliad safle ag aber afon Dwyryd a chyflwyniad gan brif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Emyr Williams.

    Rydym yn dal i gydweithio’n agos â phrosiect Cysylltiad Gogledd Cymru a fydd yn cysylltu atomfa newydd y bwriedir ei chodi ar Ynys Môn erbyn 2024. Rydym yn ceisio sicrhau bod ein gwaith yn cydredeg lle bo modd er mwyn creu llai o drafferth i’r gymuned leol ac i’r amgylchedd.

    Lansiwyd gwefan prosiect Eryri ym mis Chwefror 2017, yn cynnwys manylion y llwybr a newyddion am hynt y gwaith yn Gymraeg ac yn Saesneg: http://snowdonia.nationalgrid.co.uk/?lang=cy

    Bydd gwaith archwilio’r ddaear yn yr aber yn dechrau yn haf 2017 er mwyn penderfynu ar union ddyfnder a llwybr y twnnel. Penderfynir hefyd ar leoliadau’r adeiladau pen twnnel ar y naill ben a’r llall i’r twnnel a chompownd pennau selio ar ochr ddwyreiniol yr aber. Mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid, ein nod ni yw dewis y lleoliadau hyn yn ofalus er mwyn lleihau’r effaith weledol.

    Yn haf 2017, byddwn yn cynnal asesiad amgylcheddol llawn o’r prosiect er mwyn sicrhau ein bod yn amharu cyn lleied ag y bo modd, os o gwbl, ar yr amgylchedd.

    Edrych ymlaen

    Bydd ein trafodaethau gyda pherchnogion tir a rhanddeiliaid yn parhau.

    Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar y prosiect arfaethedig, yn cynnwys manylion lliniaru effeithiau amgylcheddol, trefniadau rheoli traffig a threfn y prosiect, cyn cyflwyno’r cais cynllunio yng ngaeaf 2018.

    Yn ôl y rhaglen ddangosol bresennol, os bydd yr holl drafodaethau a’r ceisiadau angenrheidiol am gymeradwyaeth a chaniatâd yn llwyddiannus, bydd y gwaith ar y safle yn dechrau yng ngwanwyn 2021 a bydd yn cymryd rhyw dair blynedd i’w gwblhau.

    Parc Cenedlaethol Eryri

    Dynodwyd PARC CENEDLAETHOL ERYRI yn a dyma yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru. Yn Eryri, ceir tirwedd amrywiol sy’n cynnwys mynyddoedd, dyffrynnoedd rhewlifol, rhostiroedd helaeth a dwy aber arfordirol.

    1951AELODAU’R GR P CYFEIRIO AR GYFER RHANDDEILIAID

    Cynhaliwyd un cyfarfod o’r Grŵp Cyfeirio ar gyfer Rhanddeiliaid yn Eryri yn 2016/17

    CYNGHORWYR Y PROSIECT Asesiad Amgylcheddol, Ecoleg ac Archaeoleg – RSK

    Y dirwedd – Gillespies Daeareg – AECOM Hydroleg/Adnoddau Dŵr – MWH, Morol – Intertek

    Sŵn, Ansawdd yr Aer, Amaethyddiaeth a Defnydd Tir – Arcadis

    Materion cymdeithasol-economaidd – Jacobs

    Ymgysylltu â rhanddeiliaid – Camargue

  • 26

    Darpariaeth Effaith Weledol

    27

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    Cynllun grantiau yw Menter Gwella’r Dirwedd (LEI) ac mae’n rhan bwysig o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP) National Grid. Mae ein Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid yn hyrwyddo’r fenter ac mae’n bwriadu defnyddio rhan o lwfans Ofgem ar gyfer prosiectau llai o faint i wneud gwelliannau lleol.

    04: Menter Gwella’r Dirwedd

    Lansiwyd Menter Gwella’r Dirwedd ym mis Mai 2016 ac mae’n cynnig grantiau o hyd at £200,000 ar gyfer prosiectau lleol i wneud gwelliannau gweledol. Nod cyffredinol y Fenter yw lleihau effaith weledol seilwaith trawsyrru trydan presennol National Grid a’i effaith ar y dirwedd a gwella ansawdd y tirweddau dynodedig yr effeithir arnynt. Dyma rai enghreifftiau o brosiectau y gellid eu hariannu:

    Plannu coed yn lleol Rheoli gwrychoedd Newidiadau i lwybrau troed, llwybrau beicio a llwybrau marchogaeth

    Ailadeiladu waliau cerrig sychion Gwella nodweddion arbennig y dirwedd, gan hybu bioamrywiaeth hefyd o bosib.

    4.1 Gair am Fenter Gwella’r Dirwedd

    Ein rhanddeiliaid sy’n sbarduno Menter Gwella’r Dirwedd. Caiff pob un o’r 30 o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Phartneriaethau AHNEoedd yng Nghymru a Lloegr sy’n dod o dan y Fenter gyflwyno ceisiadau am arian ar gyfer prosiectau. Roedd dwy ffenestr geisiadau yn 2016/17. Lansiwyd y ffenestr gyntaf ym mis Mai 2016 a’r ail ffenestr ym mis Medi 2016.

    Caiff National Grid ei gefnogi yn y gweithgareddau hyn gan gynghorwyr arbenigol allanol, yn cynnwys swyddog grantiau TrustCSR, cynghorwyr tirwedd Gillespies a Land Use Consultants, yn ogystal â Camargue sy’n gweithredu fel cynghorwyr cyfathrebu.

    Agorwyd y ffenestr gyntaf ar gyfer datgan diddordeb yn y fenter ym mis Mai 2016. Daeth cyfanswm o ddeuddeg datganiad o ddiddordeb i law o chwe ardal ledled y Deyrnas Unedig, sef pedwar Parc Cenedlaethol a dwy AHNE. Ar ôl asesiad manwl gan y swyddog grantiau a’r cynghorwyr tirwedd, roedd wyth o’r prosiectau hyn yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cyllido ac fe’u gwahoddwyd i gyflwyno ceisiadau llawn.

    Wedi hynny, cyflwynwyd chwe chais llawn i Banel Cymeradwyo Menter Gwella’r Dirwedd i gael eu hadolygu yn eu cyfarfod cyntaf ym mis Awst 2016. Mae’r panel annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Mary O’Connor o’r Landscape Institute, yn cynnwys arbenigwyr o Cadw, Historic England, Natural England a Chyfoeth Naturiol Cymru. Argymhellodd fod pum prosiect yn symud ymlaen i gael cyllid o Fenter Gwella’r Dirwedd.

    Daeth y ceisiadau hyn o AHNE High Weald, Parc Cenedlaethol North York Moors, Parc Cenedlaethol y Peak District a dau o Barc Cenedlaethol Eryri. Roedd y panel o’r farn bod y prosiectau hyn i gyd

    4.2 Prosiectau Ffenestr 1

    yn bodloni’r meini prawf ym mholisi Menter Gwella’r Dirwedd ac y gallent liniaru effeithiau gweledol y llinellau trawsyrru uwchben presennol a’u heffeithiau ar y diwedd yn effeithlon ac yn effeithlon.

    Ofgem sy’n penderfynu’n derfynol pa gynlluniau i’w hariannu, ar sail argymhellion y panel. Cyflwynwyd y ceisiadau’n ffurfiol i Ofgem gan National Grid ym mis Tachwedd 2016. Cadarnhaodd Ofgem ei fod yn fodlon â thri o’r ceisiadau gan AHNE High Weald, Parc Cenedlaethol North York Moors a Pharc Cenedlaethol y Peak District, ac fe gaiff y cyllid ei ddosbarthu i’r prosiectau llwyddiannus yn haf 2017.

    Ar hyn o bryd, mae National Grid yn gweithio ar fersiynau terfynol y ddau gais arall gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac Ofgem. Disgwylir y caiff y rhain eu cwblhau yn haf 2017.

    landscape with pylons

    PROSIECTAU A ARIANNIR YN FFENESTR 1 MENTER GWELLA’R DIRWEDD

    BEAUTIFUL BOUNDARIES AHNE HIGH WEALD

    Lleihau effaith weledol llinellau trawsyrru uwchben a’u heffaith ar y dirwedd trwy wella’r dirwedd gyda gwaith adfer a chreu nodweddion terfynau, yn cynnwys gwrychoedd, ffensys a chreu coetiroedd.

    UWCHRADDIO LLWYBR CEFFYLAU O OVER SILTON I THIMBLEBY YM MHARC CENEDLAETHOL NORTH YORK MOORS

    Tynnu sylw oddi wrth y llinell uwchben er mwyn lleihau’r effaith weledol a’r effaith ar y dirwedd trwy wella wyneb llwybr ceffylau cyhoeddus 2.2km er mwyn cynnig llwybr diogel a deniadol.

    TIRWEDD A GWELLIANNAU Y CENTRAL LONGDENDALE TRAILS YM MHARC CENEDLAETHOL Y PEAK DISTRICT

    Lleihau effaith weledol llinellau trawsyrru uwchben a’u heffaith ar y dirwedd trwy sgrinio, a mynd ati i wella mynediad i bawb trwy wella’r llwybrau a chreu llwybrau cylchol hygyrch.

    Agorwyd ail ffenestr y ceisiadau am gyllid ym mis Medi 2016. Daeth datganiadau o ddiddordeb i law o wyth ardal ledled y Deyrnas Unedig, sef pedwar Parc Cenedlaethol a phedwar AHNE. Ar ôl asesiad manwl, roedd saith o’r prosiectau hyn yn bodloni’r meini prawf ar gyfer cyllido ac fe’u gwahoddwyd i gyflwyno ceisiadau llawn.

    Cyfarfu’r Panel Cymeradwyo ym mis Mai 2017 i adolygu’r ceisiadau ac argymell pump i symud ymlaen i dderbyn cyllid. Ar sail argymhellion y Panel, bydd National Grid yn gofyn i Ofgem gadarnhau’r prosiectau llwyddiannus yn ystod haf 2017.

    4.3 Prosiectau Ffenestr 2

    Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am gyllid o Fenter Gwella’r Dirwedd, cewch ragor o wybodaeth ar ein gwefan, www.lei.nationalgrid.com

  • 28

    Darpariaeth Effaith Weledol

    29

    Y Trydydd Adroddiad Blynyddol – Mehefin 2016 – Mai 2017

    05: Y camau nesaf a’r llinell amser

    Flwyddyn nesaf, byddwn yn mynd ati i baratoi ceisiadau cynllunio i’w cyflwyno ar gyfer nifer o brosiectau â blaenoriaeth. Oherwydd bod gan ardal bob prosiect nodweddion gwahanol, mae’n debygol y bydd gwahaniaethau parhaus rhwng rhaglenni’r gwahanol brosiectau.

    Felly, byddwn yn cynnal arolygon ac asesiadau amgylcheddol a pheirianyddol, yn trafod hawliau tir a gofynion mynediad gyda pherchnogion tir, yn trafod gofynion caniatâd gydag awdurdodau cynllunio lleol a chyrff perthnasol eraill ac yn ymgynghori â rhanddeiliaid a chymunedau lleol.

    Bydd ein Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid yn adolygu’r gwaith hwn gyda’r nod o gadarnhau bod y prosiectau’n symud ymlaen i gael eu gweithredu. Yna gofynnir i Ofgem gadarnhau bod y cyllid ar gael.

    Bydd y ffenestr ymgeisio nesaf ar gyfer prosiectau o dan Fenter Gwella’r Dirwedd yn agor ym mis Gorffennaf 2017. Bydd pob un o’r 30 AHNE a Pharc Cenedlaethol sy’n dod o dan y prosiect hwn yn gymwys i gyflwyno cynlluniau y tro hwn eto.

    Byddwn yn dal i gyhoeddi newyddion am hynt y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol e.e. ar ein gwefan: www.nationalgrid.com/VIP

    landscape with pylons

    landscape with pylons

    2017 – 2018 Penderfynu ar lwybrau’r prosiectau, eu datblygu a sicrhau caniatâd

    Ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol

    Prosiectau cyntaf Menter Gwella’r Dirwedd yn dechrau

    Rhagor o gylchoedd ar gyfer Menter Gwella’r Dirwedd

    HAF/HYDREF 2017 Bydd y gwaith o gynnal arolygon, penderfynu ar lwybrau a datblygu’r prosiectau’n parhau

    Digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd

    Bydd y Grŵp Cynghori ar gyfer Rhanddeiliaid yn adolygu cyfraniadau technegol a chyhoeddus i gadarnhau’r ffordd y mae’r prosiectau’n symud ymlaen

    Cynhelir gweithdy Menter Gwella’r Dirwedd ar gyfer Parciau Cenedlaethol ac AHNEoedd ym mis Gorffennaf 2017

    Bydd y drydedd ffenestr ar gyfer datganiadau o ddiddordeb o dan Fenter Gwella’r Dirwedd yn agor ym mis Gorffennaf 2017

    Ofgem yn cadarnhau prosiectau ail ffenestr Menter Gwella’r Dirwedd

    2018 – 2021 Ofgem yn Cymeradwyo’r Asesiad Cyllido

    Adeiladu’r prosiectau

    Prosiectau Menter Gwella’r Dirwedd yn dechrau

    Rhagor o gylchoedd ar gyfer Menter Gwella’r Dirwedd

    Llinell amser y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol

  • National Grid plcNational Grid House, Warwick Technology Park, Gallows Hill, Warwick, CV34 6DA, United Kingdom Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr, Rhif 4031152www.nationalgrid.com

    RHAGOR O WYBODAETH:Llinell arbennig y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol: 0330 134 0051Ewch i’n gwefan yn: www.nationalgrid.com/VIPEbostiwch: [email protected] i’n cyfeiriad rhadbost gan nodi: “FREEPOST VISUAL IMPACT PROVISION”