8
Pob mis Mai mae rhyw fwrlwm rhyfedd ymhlith y merched yn ein capeli. Mae’n gyfnod y Sasiynau – dathliadau o’n gwaith cenhadol. Wrth gwrs eleni doedd hynny ddim yn bosib, a phob peth yn cael ei ohirio am flwyddyn. Ond mae’n rhaid i’r gwaith fynd yn ei flaen. Cofiwn fod ein casgliadau ni yn cynnig gobaith newydd i gymaint o gymunedau ac unigolion yma a thramor, felly gobeithio, ferched, eich bod wedi anfon eich casgliadau i’ch trysoryddion yn barod. Mae’n sifir eich bod chi. Da iawn llawforynion da a ffyddlon! Byddwn yn trafod sut y byddwn yn trefnu i gael y casgliad ar ôl i fywyd y capeli ail-gychwyn. Hwyrach, wrth feddwl ymlaen at y flwyddyn nesaf, y gallem hel arian yn unigol yn rheolaidd. Mae gan lawer ohonom flychau cenhadol fyddai’n hoffi bod yn llawn unwaith eto! Dros yr wythnosau nesaf cawn ymweld ag elusennau amrywiol a gweld sut mae’r arian mae’r merched yn ein capeli yn ei godi bob blwyddyn yn cael ei wario. Eleni yw’r drydedd flwyddyn i ni lansio thema newydd sy’n rhoi ffocws i’n gweithgareddau ac yn y Sasiwn mae’r llyfryn am y flwyddyn wedi cael ei gyflwyno a’i ddosbarthu. Eleni caiff ei anfon at yr eglwysi pan fydd bywyd ein capeli yn ail-gychwyn. Eisoes cafwyd deunydd ar y themâu Myfi yw Goleuni’r Byd a Myfi yw Bara’r Bywyd. Eleni dewiswyd Myfi yw’r Bugail Da fel y thema heb wybod y byddai angen y Bugail da ei hun ar bob un ohonom i’n bugeilio yn ystod y flwyddyn hon. Mae’r llyfryn yn cynnwys gwasanaethau, astudiaethau, tystiolaethau, newyddion am ein prosiectau cenhadol a gwaith crefft i gefnogi elusennau. Mae’r ymateb i’r llyfrynnau wedi bod yn arbennig o galonogol a llawer yn dweud wrthynt gael budd o’r deunydd sy ynddynt. Mewn rhai ardaloedd mae cylchoedd gwaith llaw wedi eu cychwyn a hyn yn rhoi cyfle i sgwrsio a rhannu profiadau a pharatoi adnoddau ar gyfer elusennau. Wedi dewis thema mae’n tyfu – syniadau yn dod o bob cyfeiriad. Diolch i O hwnt ac yma … t. 2 • Dathlu’r trigain … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8 CYFROL CXLVIII RHIF 27 DYDD GWENER, GORFFENNAF 3, 2020 Pris 50c yn calonogi yn ysbrydoli yn adeiladu y G O LEU AD EGLWYS BRESBYTERAIDD CYMRU Mae Eunice O’Hara, un o drigolion Abergwaun, wedi cerdded naw milltir heb adael ei stryd er mwyn codi arian at Elusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda a chefnogi’r ymgyrch argyfwng COVID 19. Yn ystod dydd Iau, Mai 7fed, dyma hi’n cerdded i lawr at derfyn y stryd cyn troi yn ôl drwy’r feidr gefn a dychwelyd at ddrws ffrynt ei chartref. Gwnaeth hyn gant o weithiau gan dorri’r daith yn unig am ginio a the. Daeth y plismon cymunedol i gerdded y ddau gylch cyntaf gyda hi. Yna gyda’r hwyr, pan oedd pawb allan yn clapio, daeth pum diffoddwr tân i’w hebrwng at derfyn ei thaith. Rhoddodd Eunice oes o wasanaeth gwirfoddol i’r gymuned. Cefnogodd elusennau iechyd megis Ysbyty Arch Noa, Ambiwlans Awyr Cymru, a bu’n swyddog gwirfoddol am dros 60 mlynedd gydag Urdd Sant Ioan. Gwasanaethodd fel stiward yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae hi’n aelod ffyddlon o Orsedd y Beirdd. Mae’n flaenores yng nghapel MC Caerfarchell ger Tyddewi. Cododd filoedd o bunnoedd at achosion meddygol yn ystod ei bywyd. Ond yn sgil ei thaith gerdded yn erbyn y coronafirws, casglwyd oddeutu £3,000 at yr achos. Os dymunwch gyfrannu at ei hymgyrch yna cliciwch ar: https://www.justgiving.com/fundraising/ euniceohara Mae pawb yng Nghaerfarchell ac Abergwaun yn falch ohoni. Go lew Eunice!!! Wiliam Owen Gweinidog Capel MC Caerfarchell Ymateb i COFID 19 Ar ddechrau’r daith yng nghwmni’r plismon cymunedol Gyda’r diffoddwyr tân ar ei chanfed cylch tra bod pawb yn clapio Ffydd Gobaith Cariad YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD (parhad ar y dudalen 2)

YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD · 2020. 7. 1. · Nid Old Moore’s Almanac cyfundebol mo’r Goleuad! Cais felly. Os oes gennych gyfraniadau byrion, blasus, y gellir eu defnyddio,

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD · 2020. 7. 1. · Nid Old Moore’s Almanac cyfundebol mo’r Goleuad! Cais felly. Os oes gennych gyfraniadau byrion, blasus, y gellir eu defnyddio,

Pob mis Mai mae rhyw fwrlwmrhyfedd ymhlith y merched yn eincapeli. Mae’n gyfnod y Sasiynau –dathliadau o’n gwaith cenhadol. Wrthgwrs eleni doedd hynny ddim ynbosib, a phob peth yn cael ei ohirioam flwyddyn. Ond mae’n rhaid i’rgwaith fynd yn ei flaen.

Cofiwn fod ein casgliadau ni yncynnig gobaith newydd i gymaint ogymunedau ac unigolion yma athramor, felly gobeithio, ferched, eichbod wedi anfon eich casgliadau i’chtrysoryddion yn barod. Mae’n sifireich bod chi. Da iawn llawforynion daa ffyddlon!

Byddwn yn trafod sut y byddwn yntrefnu i gael y casgliad ar ôl i fywyd ycapeli ail-gychwyn. Hwyrach, wrthfeddwl ymlaen at y flwyddyn nesaf, ygallem hel arian yn unigol yn rheolaidd.Mae gan lawer ohonom flychaucenhadol fyddai’n hoffi bod yn llawnunwaith eto! Dros yr wythnosau nesafcawn ymweld ag elusennau amrywiol agweld sut mae’r arian mae’r merched

yn ein capeli yn ei godi bob blwyddynyn cael ei wario.

Eleni yw’r drydedd flwyddyn i ni lansiothema newydd sy’n rhoi ffocws i’ngweithgareddau ac yn y Sasiwn mae’rllyfryn am y flwyddyn wedi cael ei

gyflwyno a’i ddosbarthu. Eleni caiff eianfon at yr eglwysi pan fydd bywydein capeli yn ail-gychwyn. Eisoescafwyd deunydd ar y themâuMyfi yw Goleuni’r Byd a Myfi ywBara’r Bywyd. Eleni dewiswydMyfi yw’r Bugail Da fel y thema hebwybod y byddai angen y Bugail da eihun ar bob un ohonom i’n bugeilioyn ystod y flwyddyn hon. Mae’rllyfryn yn cynnwys gwasanaethau,astudiaethau, tystiolaethau,newyddion am ein prosiectaucenhadol a gwaith crefft i gefnogielusennau. Mae’r ymateb i’rllyfrynnau wedi bod yn arbennig ogalonogol a llawer yn dweud wrthyntgael budd o’r deunydd sy ynddynt.Mewn rhai ardaloedd mae cylchoeddgwaith llaw wedi eu cychwyn a hynyn rhoi cyfle i sgwrsio a rhannu

profiadau a pharatoi adnoddau ar gyferelusennau.

Wedi dewis thema mae’n tyfu –syniadau yn dod o bob cyfeiriad. Diolch i

O hwnt ac yma … t. 2 • Dathlu’r trigain … t. 7 • Dyma gyfarfod hyfryd iawn … t. 8

CYFROL CXLVIII RHIF 27 DYDD GWENER, GORFFENNAF 3, 2020 Pris 50c

yn calonogi

yn ysbrydoli

yn adeiladu

yGOLEUADE G L W Y S B R E S B Y T E R A I D D C Y M R U

Mae Eunice O’Hara, un o drigolionAbergwaun, wedi cerdded naw milltirheb adael ei stryd er mwyn codi arian atElusennau Bwrdd Iechyd Hywel Dda achefnogi’r ymgyrch argyfwng COVID 19.

Yn ystod dydd Iau, Mai 7fed, dyma hi’ncerdded i lawr at derfyn y stryd cyn troiyn ôl drwy’r feidr gefn a dychwelyd atddrws ffrynt ei chartref. Gwnaeth hyngant o weithiau gan dorri’r daith yn unigam ginio a the.

Daeth y plismon cymunedol i gerdded yddau gylch cyntaf gyda hi. Yna gyda’rhwyr, pan oedd pawb allan yn clapio,daeth pum diffoddwr tân i’w hebrwng atderfyn ei thaith.

Rhoddodd Eunice oes o wasanaethgwirfoddol i’r gymuned. Cefnogoddelusennau iechyd megis Ysbyty ArchNoa, Ambiwlans Awyr Cymru, a bu’nswyddog gwirfoddol am dros 60mlynedd gydag Urdd Sant Ioan.Gwasanaethodd fel stiward yn yrEisteddfod Genedlaethol ac mae hi’naelod ffyddlon o Orsedd y Beirdd. Mae’nflaenores yng nghapel MC Caerfarchellger Tyddewi.

Cododd filoedd o bunnoedd at achosionmeddygol yn ystod ei bywyd. Ond ynsgil ei thaith gerdded yn erbyn ycoronafirws, casglwyd oddeutu £3,000at yr achos. Os dymunwch gyfrannu atei hymgyrch yna cliciwch ar:https://www.justgiving.com/fundraising/euniceohara

Mae pawb yng Nghaerfarchell acAbergwaun yn falch ohoni. Go lewEunice!!!

Wiliam OwenGweinidog Capel MC Caerfarchell

Ymateb i COFID 19

Ar ddechrau’r daith yng nghwmni’rplismon cymunedol

Gyda’r diffoddwyr tân ar ei chanfedcylch tra bod pawb yn clapio

Ffydd

Gobaith

Cariad

YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD

(parhad ar y dudalen 2)

Page 2: YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD · 2020. 7. 1. · Nid Old Moore’s Almanac cyfundebol mo’r Goleuad! Cais felly. Os oes gennych gyfraniadau byrion, blasus, y gellir eu defnyddio,

THEMA’R FLWYDDYNSyniad rhagorol oedd i Lywydd y GymanfaGyffredinol ddewis thema ar gyferblwyddyn ei lywyddiaeth, sef Digon i tify Ngras i. Teitl cyfrol gampus ydiweddar John Oman (un oysgolheigion disgleiriaf EglwysBresbyteraidd Lloegr yn ei dydd) oeddGrace and Personality. Ynddi y mae’ndadlau mai hanfod gras yw perthynas –perthynas â Duw a pherthynas â chyd-ddyn – a’r berthynas honno’n dod iweithrediad trwy’r Arglwydd Iesu Grist.Does neb wedi mynegi’r wedd sylfaenolhon o’r berthynas ddwyfol/ddynol ynwell na John Williams, Sant Athan, panganodd

…ymaflodd mewn dyn ar y llawrfe’i dygodd â’r Duwdod yn un;

y pellter oedd rhyngddynt oedd fawr,fe’i llanwodd â’i haeddiant ei hun.

(Caneuon Ffydd 347)

Mae’r darlun o’r cariad dwyfol fel llawrymus yn ymestyn i lawr ac yn cydiomewn dyn i’w godi i fywyd newydd, ynddarlun pwerus eithriadol ac yn galwam gael ei ddehongli yng ngoleuniprofiadau dynol bob dydd.

Llwyddodd John Williams i greu darlunsy’n ein hatgoffa o furlun enwogMichelangelo o Dduw yn estyn ei law igyffwrdd â llaw wywedig Adda. Mae’rdarlun yn un o’r clwstwr o ddarluniau arnenfwd Capel Sistïn yn y Fatican.Gras yw gair y Testament Newydd amymwneud Duw â ni yn Iesu Grist mewncariad, maddeuant a thiriondeb. A phanfydd Duw yn ymwneud â ni y mae’ngadael ei ôl yn drwm arnom – yn plannuynom ei feddwl ei hun, yn harddu’n

hymddygiad, yn ein llenwi â’i anian, yn eingwneud yn fwy tosturiol, ac yn fwy tebyg iIesu Grist.

Roedd Paul yn gweld y wyrth yma’ndigwydd wrth i bobl ddod o danddylanwad yr efengyl; hynny yw, wrthiddynt gael eu tynnu i mewn yn ddyfnachi’r berthynas unigryw hon â Duw yn IesuGrist. Byddai’n syniad i’r Cyfundeb baratoi achyhoeddi llyfryn yn cynnwys amlinelliad

o’r pynciau sy’n codi o’r prif thema; erenghraifft, Cynnwys Gras, CymdeithasGras, Cylch Gras, ac yn y blaen;cwestiynau sy’n codi o’r prif thema, acadrannau o’r Ysgrythur sy’n awgrymu ystyra phwysigrwydd gras. Bwriad llyfryn o’r

fath fyddai bod yn ganllaw i Seiat,dosbarth Ysgol Sul neu grfip trafod. Osnad oes cyfarfodydd o’r fath yn bodolimewn eglwys, byddai cael llyfryn o’rfaith yn symbyliad i roi cychwyn i un.O’i ddefnyddio’n ddiddorol gallai fod yngyfrwng i thema’r Llywydd gyrraeddpob eglwys, os nad bob aelod.

Tydi hi ddim yn ormod gofyn, Beth ambaratoi llyfryn addas ar y thema i boblifanc? Tra bo’r Cyfundeb yn darparuadnoddau o bob math i waith plant acieuenctid, ychydig iawn sydd ar gael ihelpu plant a phobl ifanc i dyfu yn yffydd ac yn hanfodion sylfaenol yrefengyl.

Un o’r dirgelion sy’n codi – ac y mae’ncael ei godi’n barhaus – ydi pam ymae’r Goleuad yn llawn darluniau obobl ifanc yn cyflawni pob math ogampau yng Ngholeg y Bala, ac etoyr un person ifanc o fath yn y byd i’wweld yn y capel ar fore Sul?Oes a wnelo’r peth â diffyg profiad oras yn ein heglwysi? Hoffwn wybod yrateb.

Elfed ap Nefydd Roberts

2 Y Goleuad Gorffennaf 3, 2020

O hwnt ac yma

Rembrandt van Rijn, Dychweliad y Mab Afradlon,c.1661–1669.

Hermitage Museum, Sant Petersburg

bawb a gyfrannodd at y gwaith. Diolchyn arbennig i’r Parch Nan WynPowell-Davies sy’n arolygu gwaith y tîmsef Eirian Roberts, Y Bala, TrefnyddGwaith y Chwiorydd yn y gogledd aThrysorydd yr Is-bwyllgor, CarysDavies, Llangefni, Cydlynydd RhaglenDorcas yn y gogledd a Sarah Morris,Llandysul, Cydlynydd Rhaglen Dorcasyn y de ac Ysgrifennydd yr Is-bwyllgor.Braint i mi yw cael bod yn Gadeirydd arIs-bwyllgor y Chwiorydd. Mae eingwaith wedi ei sylfeini ar weddi achredaf mai dyna sy’n gyfrifol am yrawyrgylch lawen a hyfryd sy’n ein plithac am lwyddiant y gwaith. Diolch i’rmerched sy’n cynrychiolihenaduriaethau a sasiynau yn y tairtalaith. Rydym yn un teulu hapus gyda’rnod o ddilyn Iesu ym mhob rhan o’ngwaith. Cewch glywed am y prosiectaurydym yn eu cefnogi yn y dyfodol.Daliwn ati mewn ffydd, gobaith achariad.

Eirlys Gruffydd-Evans.

CaisCarwn ddiolch i bawb o ddarllenwyr achyfranwyr i’r Goleuad am eu cefnogaethbarod yn ystod yr wythnosau diwethaf.Diolch i bawb sydd bellach yn darllen yGoleuad ar ffurf pdf ar lein, a’r rhai syddwedi dechrau darllen y Goleuad ynrheolaidd, ac sydd wedi mynegigwerthfawrogiad o’r ddarpariaeth.A diolch arbennig i Wasg y Bwthyn ac iCliff Thomas am ei waith gofalus aphrydlon drwy’r cyfnod hwn o ymneilltuo.

Bu’r Cyfnod Clo’n rwystr i bawb ac yrydym yn ymwybodol bod COVID 19 a’rynysu wedi effeithio ar iechyd pobl. Maellawer ohonom hefyd wedi syrffedu ar einhanallu i deithio i weld aelodau’nteuluoedd, ein plant a’n hwyrion.Bellach mae llacio ar y gorwel. A dawcyfle drachefn i ni deithio a’n traed yn“gwbwl rhydd”.

Ond. Meddyliwch am olygydd y Goleuad!Heblaw am y ffaith nad oes adroddiadauam weithgareddau capeli unigol i’whadrodd, na Sasiwn, na ChymanfaGyffredinol, na Choleg y Bala, na CholegTrefeca ayyb i’w cofnodi...

Mae’n her i adrodd newyddion pan nadoes newyddion.

Fel Joseff gynt mae’n cyfranwyr ffyddlon,a chyfranwyr newydd wedi bod yn driw acwedi anfon “saith mlynedd (wythnos)”o lawnder atom. Ond fe ddaw misoeddAwst a dechrau Medi drachefn. A daw“saith mlynedd (wythnos”) o lymder.Bydd “buchod” a “grawn” cyfraniadau ysaith wythnos o lawnder yn diflannu ac yntroi’n hesb.

Y gwir yw y gall y cyfnod nesaf barhauy tu hwnt i’r haf a dechrau’r hydref.Nid Old Moore’s Almanac cyfundebolmo’r Goleuad!

Cais felly. Os oes gennych gyfraniadaubyrion, blasus, y gellir eu defnyddio,newyddion efallai o bartneriaid cenhadolmae’ch capel yn eu noddi, elusennau,gweithgarwch sy’n parhau er nad ydymyn medru cyfarfod wyneb yn wyneb,ymatebion i ddatblygiadau gwleidyddol,newid hinsawdd....

Mae’r Goleuad yn bapur i ni i gyd – i chiac i’ch capel.

Cofiwch gysylltu.

Golygydd

Ymlaen mewn Ffydd,Gobaith a Chariad (parhad)

Gwellhad buanDaeth neges i’r Golygydd yn dweudbod y Parch Ddr. Elfed ap NefyddRoberts wedi dychwelyd i’w gartrefar ôl ysbaid yn yr ysbyty. Dymunwnadferiad iechyd pellach iddo.

Page 3: YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD · 2020. 7. 1. · Nid Old Moore’s Almanac cyfundebol mo’r Goleuad! Cais felly. Os oes gennych gyfraniadau byrion, blasus, y gellir eu defnyddio,

Gwers 42 – Sul, 12 Gorffennaf

MALACHI

‘Ti yw Haul Cyfiawnder nef’ (Caneuon Ffydd, 418)

“Wele’r dydd yn dod, yn llosgi felffwrnais, pan fydd yr holl rai balch a’rholl wneuthurwyr drwg yn sofl; bydd ydydd hwn sy’n dod yn eu llosgi,” meddARGLWYDD y Lluoedd, “heb adaeliddynt na gwreiddyn na changen. Ond ichwi sy’n ofni fy enw fe gyfyd haulcyfiawnder â meddyginiaeth yn eiesgyll, ac fe ewch allan a llamu fellloi wedi eu gollwng.” (Malachi 4:1–2;tud 300 yn y Gwerslyfr)

Darllen: Malachi 2:17–4:1–6; Marc1:1–15

Gweddi:

O Iesu’r Meddyg da, Ffisigwr mawr y byd,

O cofia deulu’r poen a’r pla, a’r cleifion oll i gyd.

Tydi yn unig fiyr holl gystudd plant y llawr,

y rhai sy’n crefu am yr hwyr, yn griddfan am y wawr. Amen.

(Caneuon Ffydd, 804)

Sawl tro ydych chi wedi clywed yrymadrodd ‘daw eto haul ar fryn’ ynddiweddar? Trwy’r Clo Mawr mae’rgeiriau wedi lleisio’r hiraeth gobeithiolam ddyddiau gwell i ddod. Mae’r unionymdeimlad yma, sydd wir yn addewid,i’w gael yng Ngair Duw hefyd: “Ond ichwi sy’n ofni fy enw fe gyfyd haulcyfiawnder â meddyginiaeth yn eiesgyll.”

Down at lyfr a phennod olaf yrHen Destament, ac adnod olaf eintrosolwg. Perthyn y broffwydoliaeth i’rcyfnod oddeutu 475 CC, pan oeddllawer wedi dychwelyd o Fabilon, acailgodi’r deml, ac eto mae’r bobl i’wgweld wedi eu dadrithio ac wedi collieu ffordd.

Yn nwy bennod gyntaf y llyfr fegawn siars i fod yn ffyddlon i Dduw a’i

gyfamod, gyda’r ail bennod yn cloi âgeiriau heriol i’n hoes sinigaidd ni sy’ncwestiynu Duw yn barhaus: ‘Yr ydychwedi blino’r ARGLWYDD â’chgeiriau … Trwy ddweud, “Y mae pawbsy’n gwneud drygioni yn dda yngngolwg yr ARGLWYDD …”; neu trwyofyn, “Ple mae Duw cyfiawnder?” ’(2:17) A ydym yn ymwybodol o’r hyn ygofynnwn amdano wrth herio Duw felhyn?

Buan y daw cerddoriaeth Handel i’nclyw: ‘ “Wele fi’n anfon fy nghennad ibaratoi fy ffordd o’m blaen; ac yn sydynfe ddaw’r Arglwydd yr ydych yn eigeisio i mewn i’w deml” ’ (3:1–2). Fewelwn yma chwarae ar eiriau ynbroffwydol, oherwydd ‘Malachi’ yw ‘fynghennad i’ mewn Hebraeg (cf. 1:1).Mae negesydd yr Arglwydd ar ddod ganddwyn ei gyfiawnder ef ei hun,cyfiawnder sy’n puro. Sylwch – gyda’rgair o gerydd a barn, daw hefydaddewid o drugaredd, i’r rhai sy’n eiofni: ‘ysgrifennwyd ger ei fron gofrestro’r rhai a oedd yn ofni’r ARGLWYDDac yn meddwl am ei enw. “Eiddof fifyddant,” medd ARGLWYDD yLluoedd, “… ac arbedaf hwy fel y maedyn yn arbed ei fab, … byddwch yngweld rhagor rhwng y cyfiawn a’rdrygionus, rhwng yr un sy’ngwasanaethu Duw a’r un nad yw.” ’(3:16–18)

Gorffennaf 3, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Yn unol â chamau a gymerwyd eisoesyng ngwledydd eraill y DeyrnasUnedig, fe gyhoeddodd LlywodraethCymru (https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-newidiadau-o-ddydd-llyn-22-mehefin) ar Fehefin 19 y galleglwysi ac addoldai eraill sydd am ail-agor ar gyfer gweddi gan unigolion acaelwydydd ar eu pennau eu hunain,wneud hynny o Fehefin 22, ond iddyntasesu’r risg, gwneud trefniadau ar gyferglanhau’r adeilad a phenderfynu yn sgilhynny fod ailagor yn ddiogel. Mater iawdurdodau pob enwad neu addoldyunigol yw penderfynu sut (os o gwbl) iweithredu’r cyfle hwn.

Mae hyn yn rhan o gamu’n ofalus o’rCyfnod Clo yng Nghymru i’r CyfnodCoch yn rhaglen Llywodraeth Cymru,Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithasa’n heconomi: dal i drafod(https://llyw.cymru/llacior-cyfyngiadau-ar-ein-cymdeithas-heconomi-dal-i-drafod). Yn ystod y Cyfnod Coch, byddaddoldai o hyd yn gallu cynnal

angladdau gyda chynulleidfaoeddcyfyngedig (er bod y rhan fwyaf oenwadau Cristnogol Cymru hyd ymawedi dewis peidio â chymryd y cyflehwn), cynnal priodasau gyda chynull -eidfaoedd cyfyngedig (ond hyd nes ceircaniatâd gan y Cofrestrydd Cyffredinol,ni fydd modd cofrestru priodasau aceithrio yn yr Eglwys yng Nghymru, ahynny mewn amgylchiadau eithriadol)(https://www.churchinwales.org.uk/en/clergy-and-members/coronavirus-covid-19-guidance/), ac i arweinyddddefnyddio’r addoldy i recordio neudarlledu oedfa.

Gall mynwentydd a gerddi o gwmpasaddoldai fod ar agor a gellir cynnalbanciau bwyd a sesiynau rhoi gwaed,ond bod pellter corfforol priodol yn caelei gadw. Mae darparwyr gofal plant0-12 oed (ttps://llyw.cymru/mesurau-diogelu-mewn-lleoliadau-gofal-plant-cadw-gofal-plant-yn-ddiogel#section-43618) yn gallu ailagor i fwy na phlantgweithwyr allweddol yn unig o

Fehefin 22, ac ar gais awdurdod lleolgall hynny gynnwys darparwyr sy’ndefnyddio adeiladau eglwysig. Nid oesrheidrwydd ar addoldai i fanteisio arddim o hyn, ac ni ddylid ailagor oni baiei bod yn ddiogel.

Bydd modd hefyd i awdurdodaueglwysig a chymunedau ffyddddefnyddio’r Cyfnod Coch i baratoi atfwy o lacio yn y Cyfnod Oren, a fydd yndechrau cael ei weithredu arOrffennaf 6, ac mae’n bosibl y caniateirrhai gweithgareddau ar y cyd o fewnaddoldai cyn diwedd Gorffennaf. Ceirdolenni at arweiniad LlywodraethCymru a (lle bo’n briodol) Llywodraethy Deyrnas Unedig a chyrff swyddogoleraill all fod o gymorth i awdurdodauaddoldai gynllunio ar wefan Cytûn –http://www.cytun.co.uk/hafan/covid-19-papur-briffio/, a bydd hon yn cael eidiweddaru’n gyson.

(Allan o Fwletin Polisi CytûnMehefin 2020)

DECHRAU AILAGOR ADDOLDAI YNG NGHYMRU

AR DAITH DRWY’R HEN DESTAMENTCanllaw ar gyfer astudiaeth a thrafodaeth mewn grfip bychan, gan gynnwys

gwers oedolion yr ysgol Sul neu fel deunydd myfyrdod personol(Seiliedig ar y gyfrol Geiriau Ffydd 3 gan y Parch. John Treharne,

sef gwerslyfr ysgol Sul yr oedolion am 2019/20)

Paratowyd gan y Parch. Hywel Rh. Edwards

(parhad ar y dudalen nesaf

Page 4: YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD · 2020. 7. 1. · Nid Old Moore’s Almanac cyfundebol mo’r Goleuad! Cais felly. Os oes gennych gyfraniadau byrion, blasus, y gellir eu defnyddio,

Mewn digwyddiad ar-lein a drefnwydgan Gyngor Eglwysi’r Byd ar22 Mehefin, fe gafodd Neges HeddwchEciwmenaidd ei chyflwyno i nodi 70mlynedd ers dechrau Rhyfel Corea, a’rymdrechion eciwmenaidd sydd ar waithdros heddwch yno. Yn ystod y digwyddiad, a gafodd ei

ffrydio’n fyw, fe ddarllenwyd y NegesHeddwch Eciwmenaidd gan gynrych -iolwyr o eglwysi a chynghoraueglwysig ledled y ddaear, yn cynnwys ygwledydd hynny a fu â rhan yn RhyfelCorea. Disgrifiwyd y rhyfel fel“gwrthdaro difaol iawn” nad oes

cytundeb heddwch erioed wedi deillioohono.“Saith degawd ar ôl i’r rhyfel hwn

ddechau, mae’n bryd cydnabod ei fodwedi dod i ben ers tro byd,” medd yneges. “Cododd heriau newydd iheddwch a sefydlogrwydd yn yrhanbarth ers hynny, ond nid ydym yncredu y bydd modd hwyluso datrysiadi’r heriau hynny drwy gadw’r gwrthdaroyma, sy’n 70 oed, yn agored.”Geilw’r neges hefyd am atal a dileu

unrhyw ymarferion milwrol pellach yny rhanbarth. “Rydym yn apelio amgyflawni llythyren ac ysbryd yr holl

gytundebau a roddodd gymaint o obaitham ffordd ymlaen tuag at heddwch arBenrhyn Corea – yn arbennigDdatganiad Panmunjom ym mis Ebrill2018, Cyd-ddatganiad Pyongyang ymmis Medi 2018, a Chyd-ddatganiadSingapore ym Mehefin 2018,” meddiryn y datganiad. “Gweddïwn amwireddu’r weledigaeth o weld PenrhynCorea yn ardal ddi-niwclear, a gweldbyd sy’n gwbl rydd o fygythiad arfauniwclear.”

Drwy’r flwyddyn 2020 mae CyngorEglwysi’r Byd, ynghyd â ChyngorCenedlaethol yr Eglwysi yn Corea,wedi bod yn cynnal Ymgyrch WeddiFyd-eang, â’r arwyddair: “Gweddïwn,heddwch nawr, diwedd i’r rhyfel”.Gwahoddir pob eglwys a phob Cristioni weddïo am ddiwedd ffurfiol i RyfelCorea a gweld gosod cytundebheddwch yn lle Cytundeb Cadoediad1953.Yn dilyn cyflwyniad cyhoeddus o’r

Neges Heddwch Gyd-eciwmenaidd, fegyfarfu Fforwm Heddwch, Ailuno aChydweithio Eciwmenaidd PenrhynCorea er mwyn rhannu gwybodaeth adadansoddi’r hyn sy’n digwydd yn yrhanbarth ar hyn o bryd, i ddiweddaru eigilydd am y mentrau diweddaraf ac idrafod cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Gorffennaf 3, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Daw’r Hen Destament i’w derfyngyda’r cyhoeddiad y bydd haulcyfiawnder Duw yn cyfodi gydagiechyd yn ei esgyll, addewid agyflawnwyd yng Nghrist, a’rdisgwyliad am Elias a fyddai’nparatoi’r ffordd ar ei gyfer, sef IoanFedyddiwr.Wrth i ni ddyheu a gweddïo am i haul

cyfiawnder Duw unwaith eto godi arfryn, gadewch i ni ddysgu ei ofni achadw ei ddeddfau a’i ordeiniadau(4:4), gan sicrhau bod ein henw hefydyn y gofrestr (3:16) yn nydd dyfodiad yrArglwydd.

Trafod ac ymateb:

1. Dywed Malachi yn glir mai ynnyfodiad yr Arglwydd y mae eingobaith. Ar beth mae’ch gobaithchi’n seiliedig?

2. Ai ein mesur ni o gyfiawnder ynteumesur Duw sy’n cyfrif yn y diwedd?Ystyriwch hyn yng ngoleuni 3:6,4:1–2 a Marc 1:1–15.

3. Gyda Sul y Tadau newydd fyndheibio, sut mae troi calonnau rhieni aphlant at ei gilydd heddiw (4:6;Caneuon Ffydd, 862)?

Daw eto haul ar fryn.

Ar daith drwy’r Hen Destament (parhad)

Mawr iawn yw ein diolch i’r Parch Hywel Edwards am ei arweiniad inni yn y gwersiar gyfer dosbarth ysgol Sul yr oedolion a grwpiau bychain eraill ac fel defosiwnpersonol wrth inni ddilyn gwerslyfr yr ysgol Sul a mynd ar daith drwy’r HenDestament i gyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Fe gyflawnodd gryn gamp agwasanaeth inni, ac fe wyddom iddo gael budd ei hunan o’r daith hefyd. Bu’r cyfnoddiwethaf yma yn un heriol ar gymaint o lefelau wrth inni gael ein cyfyngu i’ncartrefi. Bu Hywel ei hun yn wael yn ystod y cyfnod hwn, ond drwy’r cyfan feddaliodd ati i gynnig goleuni inni o’r Gair ac i’n herio drwyddo yn ei wersi.Gwnaeth hynny gyda gwybodaeth a mewnwelediad ysbrydol arbennig, gan ddwyngwersi perthnasol iawn inni yn ein cyfnod ein hunain. Dymunwn a gweddïwn amfendith arno wrth iddo fwynhau hoe haeddiannol o’r gwaith wythnosol yma ygwyddom y cafodd cymaint ohonoch fudd a bendith ohono. (Gol.)

Eglwysi ledled daear yn ymuno mewnNeges Heddwch Eciwmenaidd i Corea

Yr ardal rhwng y ddwy Corea sydd wediei dadfilitareiddio

(Llun: Grégoire de Fombelle/CEB)

“Cadwyn heddwch ddynol” ar hyd 500km yr ardal sydd wedi ei dadfilitareiddio rhwng De a Gogledd Korea, Ebrill 2019. Llun: John C. Park

Page 5: YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD · 2020. 7. 1. · Nid Old Moore’s Almanac cyfundebol mo’r Goleuad! Cais felly. Os oes gennych gyfraniadau byrion, blasus, y gellir eu defnyddio,

Cyhoeddwyd y cam diweddaraf ynrhaglen ymgysylltu LlywodraethCymru wrth lunio’r cwricwlwmnewydd ar gyfer ysgolion Cymru o Fedi2022.

Mae cynigion deddfwriaetholynghylch crefydd, gwerthoedd amoeseg (https://llyw.cymru/cynigion-deddfwriaethol-ynghylch-crefydd-gwerthoedd-moeseg/) yn cynnigfframwaith newydd ar gyfer sailgyfreithiol dysgu yr hyn a elwid gynt ynAddysg Grefyddol yn ein hysgolion.NID yw’r ddogfen yn amlinellucynnwys y cwricwlwm newydd ar gyfery pwnc – fe ddaw hwnnw yn yr hydref.

Mae’r ddogfen yn argymell:

• Ehangu cwmpas y pwnc i gynnwysnid yn unig grefyddau, ond hefydgredoau athronyddol “anghrefyddol”(megis dyneiddiaeth). Mae ynaymgais i gyfyngu ar rychwant y rhaintrwy ddefnyddio diffiniad o’rConfensiwn Ewropeaidd ar HawliauDynol, fel na fydd unrhyw gredoathronyddol yn gymwys i’w dysgu,dim ond y rhai sy’n ddigon cydlynusi gael eu hamddiffyn yn gyfreithiol.Bydd rhaid parhau i ddysgu amgrefyddau’r byd hefyd mewn maesllafur “plwraliaethol” – hynny yw,maes llafur fydd yn adlewyrchurhychwant y credoau crefyddol acanghrefyddol.

• Bydd Cynghorau YmgynghorolStatudol ar Addysg Grefyddol(CYSAGau) y cynghorau sir a’rCynadleddau Meysydd Llafur, sy’npennu’r maes llafur ymhob sir, yncynnwys grfip newydd, ochr yn ochrâ’r enwadau crefyddol lleol, igynrychioli’r credoau athronyddolhyn. Nid yw’n eglur a fydd pleidlaisgyfartal gan bwyllgor y fathgymdeithasau (sydd fel arfer yn fachiawn eu haelodaeth) â’r pwyllgorcrefyddau (sy’n cynrychioli rhyw300,000 o bobl ar draws Cymru).

• Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnigcanllawiau statudol ar gyfer llunio’rmeysydd llafur sirol, a bydd raid i’rmaes llafur cytunedig gael ei lunio ynunol â’r canllawiau hyn.

• Bydd yn ofynnol i ysgoliongwirfoddol â nodweddion crefyddol(ysgolion eglwysig) ddylunio eucwricwlwm fel ei fod yn cynnig dwyddarpariaeth amgen: Crefydd,Gwerthoedd a Moeseg wedi’idylunio’n unol â’r maes llafurcytunedig lleol; a Crefydd,Gwerthoedd a Moeseg wedi'i

dylunio’n unol â gweithredymddiriedolaeth neu ddaliadau ffyddyr ysgol. Mewn ysgolion eglwysig areolir (voluntary controlled schools),fe ddysgir y maes llafur cytunedig onibai fod rhieni yn gofyn am y maesllafur enwadol; ac mewn ysgolioneglwysig a gynorthwyir (voluntaryaided schools) fe ddysgir yn unol â’rmaes llafur enwadol oni bai fod rhieniyn gofyn am y maes llafur cytunedig.

• Bydd pob ysgol heb nodweddioncrefyddol (ysgolion cymunedol yrawdurdod addysg lleol) yn gorfod“ystyried” y maes llafur sirol wrthlunio ei maes llafur ei hun ar gyferCrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Ynwahanol i’r sefyllfa bresennol, ni fyddraid iddynt lynu’n agos iawn at ymaes llafur cytunedig wrthbenderfynu beth i’w ddysgu.

Canlyniad (paradocsaidd) hyn yw ybydd y maes llafur cytunedig yn cael eiddysgu’n llawn dim ond mewn ysgolioneglwysig a reolir ac, ar gais rhieni,ysgolion eglwysig a gynorthwyir, ondyn yr ysgolion eraill maes llafur lleol addysgir.

Mae’r wefan Law and Religion(https://www.lawandreligionuk.com/2020/05/06/radical-reform-of-religion-values-and-ethics-in-welsh-schools/) wedi cyhoeddi erthygl diddorol am y

newidiadau gan Russell Sandberg, syddwedi esgor ar drafodaeth fywiog ar ywe.

Gellir darllen yr ymgynghoriadllawn ar wefan Llywodraeth Cymru(https://www.llyw.cymru/cynigion-deddfwriaethol-ynghylch-crefydd-gwerthoedd-moeseg), a gall unigolion,teuluoedd, eglwysi ac ysgolion ymatebhyd at 28 Gorffennaf 2020. Oherwyddsafbwyntiau amrywiol ein haelodau, nifydd Cytûn yn llunio ymatebcyfansawdd o blaid neu yn erbyn, ondfe anogir ein haelod eglwysi a phawbsydd â diddordeb i ymateb ynuniongyrchol.

(Allan o Fwletin Polisi CytûnMehefin 2020)

Cwricwlwm i Gymru: crefydd,gwerthoedd a moeseg

Daeth gair i law (22.6.20) oddi wrthGyngor yr Eglwysi Rhyddion yn nodipwysigrwydd yr ymgynghoriad hwn abod Vaughan Salisbury wedi gyrruymateb iddo ar ran y Cyngor (CERhC),ymateb sydd i’w weld ar wefan yCyngor o fewn gwefan Cytûn. Mae’nbwysig bod cynifer o fudiadau/enwadau/ unigolion â phosib yn ymatebi’r ymgynghoriad hwn. Y dyddiad cauyw 28 Gorffennaf. Gellir cael y ffurflenymateb oddi ar wefan LlywodraethCymru: https://llyw.cymru/cynigion-deddfwriaethol-ynghylch-crefydd-gwerthoedd-moeseg

‘Gallwch ddefnyddio sylwadau oymateb Cyngor yr Eglwysi Rhyddionfel sail eich hymateb chi. Mae’nBWYSIG fod llu o ymatebion yn caeleu cyflwyno er mwyn sicrhau statws ypwnc i’r dyfodol,’ meddai’r Llywydd,Rheinallt Thomas.

Gorffennaf 3, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

DYSGU CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG YN EIN HYSGOLION

Gair y Dydd Mae’r rhifyncyfredol o Gair yDydd newyddymddangos o’rwasg, ac fel yrhifyn syddnewydd ddod iben, mae’r rhifynhwn hefyd yncynnig yr un

arweiniad, ond yn fwy personol, ag ymae addoli ar lein, y Zoom a’rFacebook wedi ei gynnig mor arbennigyn ddiweddar, sef addoli ar yr aelwyd,

mewn ffordd syml ac uniongyrchol.Dyma sylfaen yr ‘eglwys yn dy dª di’yn y Testament Newydd. Maecyfraniadau’r Athro Eryl Wynn Davies,y Parchedig Olaf Davies a’r ParchedigR. Alun Evans yn arweiniad fydd yngolled i’r rhai na fydd yn ei dderbyn.

Os nad ydych ymysg y rhai sydd yn eidderbyn yn gyson, nid yw’n rhy hwyr ichi danysgrifio am bris afresymol orad, sef £10 am flwyddyn gyfan!

Cysylltwch heddiw â:D. Glyn Williams,12 Coed y Glyn,Llandudno, Conwy, LL30 1JL01492 581439; 07866 126072

Page 6: YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD · 2020. 7. 1. · Nid Old Moore’s Almanac cyfundebol mo’r Goleuad! Cais felly. Os oes gennych gyfraniadau byrion, blasus, y gellir eu defnyddio,

LlythyrAnnwyl Olygydd,

Y trefniadau ar gyfer CynghorauYmgynghorol Sefydlog ar Addysg

Grefyddol (CYSAGau) aChynadleddau Meysydd Llafur

Cytunedig

Fel y nodais mewn hysbysiad ar wahâni’r Pedair Tudalen, un elfen o’rymgynghoriad Cwricwlwm i Gymru:crefydd, gwerthoedd a moeseg yw’rtrefniadau ar gyfer CYSAGau pob sir.Mae’r hyn a geir yn y ddogfen ynamwys ac yn llawer rhy benagored.Bydd hefyd, mi ofnaf, yn gwanhau’rlleisiau crefyddol a phroffesiynol ar yCYSAGau unigol. Oherwydd fymhryder, darperais ddogfen a’i gyrru atswyddogion Cymdeithas CYSAGauCymru ac i glerc pob CYSAG yngNghymru. O wybod bod deddfwriaethi’w chyflwyno CYN diwedd y cyfnodymgynghori, rwyf hefyd wedi gyrrucopi o’m cynnig personol i sylwLlywodraeth Cymru. Dyma’r ddogfen ayrrais:

CYSAG Y DYFODOL

Fel “tad” Cymdeithas CYSAGauCymru ac aelod di-dor ohoni o’rcychwyn, dwi’n bod yn hollolddigywilydd wrth gysylltu fel hyn âSwyddogion CCYSAGau Cymru agyrru copi hefyd i bob CYSAG yn ygobaith y bydd y syniad sy gennyf ynderbyn cymeradwyaeth er buddCYSAGau y dyfodol. Daeth y syniad imi wrth ddarllen paragraffau 17/18 o’rDdogfen Ymgynghorol ddiweddaraf arhennais fy ymateb gyda rhai cyd-weithwyr a chael ymateb cadarnhaoliawn.

Mae enw’r pwnc yn newid ac maenewidiadau eraill yn arfaethedig, gydarhai syniadau’n cael eu rhannu yn yddogfen. Mae cynnig i ychwanegu grfipat y rhai presennol sydd ar CYSAG.Mae fy nghynnig i yn mynd ymhellach.O ystyried bod newid posib i rieni

mewn ysgolion eglwysig ofyn amaddysgu o’r Maes Llafur Cytunedig abod yr Eglwys yng Nghymru a’rEglwys Gatholig Rufeinig yn“ddarparwyr”, oni ddylent hwy gaelgrfip iddynt eu hunain? Yn yr un modd,gan fod rôl athrawon mor allweddol yngngweledigaeth y cwricwlwm newydd,oni ddylai athrawon addysg grefyddol ysector cynradd ac uwchradd gael eugrwpiau eu hunain ar wahân? Hefyd,oni ddylai’r grwpiau ffydd sy ddim ynGristnogol fod â grfip iddyn nhw euhunain a fyddai’n sicrhau y blwraliaethy mae’r ddogfen yn ei herfyn? (Maerhai CYSAGau ar hyn o bryd hebgynrychiolwyr o’r sector hon.) Yna,wrth gwrs, i gyd-fynd â’r feddylfryd acyn wir awgrym y ddogfen, grfip argyfer yr anghrefyddol. Fy nghynnig iyw y dylai felly fod 7 grfip:

1. Cynghorwyr Sir2. Athrawon CGM Cynradd3. Athrawon CGM Uwchradd4. Cynrychiolwyr yr Eglwys yng

Nghymru a’r Eglwys Gatholig5 Cynrychiolwyr yr Enwadau Crist -

nogol eraill6. Cynrychiolwyr y Grwpiau Ffydd

eraill 7. Cynrychiolwyr y Grwpiau Anghref -

yddol Athronyddol

Dylid parhau gyda’r rheol mai UNpleidlais sydd gan bob grfip, a chan fod7 grfip ni fydd rhaid i gadeirydd fwrwpleidlais ychwanegol.

Cyflwynaf yr uchod i’ch sylw a’chcefnogaeth gan hyderu y gallwch eigynnwys yn eich ymateb i’rYmgynghoriad.

Mae’n BWYSIG fod llu o ymatebionyn cael eu cyflwyno er mwyn sicrhaudyfodol y pwnc, a hyderaf y bydd yneges uchod hefyd yn cael ei chefnogier sicrhau dyfodol ystyrlon i’rCYSAGau.

Rheinallt ThomasCaerdydd

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Gorffennaf 3, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Sul, 5ed Gorffennaf

OedfaDechrau Canu Dechrau Canmol

am 11:00ybgyda’r Parchedig Adrian Morgan

yn arwain

Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul am 7:30yh

(ailddarlledir y bore Sul canlynol cynyr oedfa)

Yr wythnos yma, Lisa fydd yn eintywys drwy rai o uchafbwyntiau’rgyfres bresennol o Dechrau Canu,Dechrau Canmol – o ganu grymus istraeon teimladwy o bob cwr oGymru.–––––––––––––––––––––––––––––

Caniadaeth y CysegrSul, 5ed Gorffennaf7:30yb a 4:30yp

Yn ôl ei arfer ar ddydd Sul cynta’rmis, Y Parchedig Owain Llªr Evanssy’n cyflwyno Caniadaeth y Cysegr.Mae’n parhau i ddathlu pen-blwyddCaniadaeth y Cysegr yn 70 mlwyddoed gyda’r cynllun o gofnodi emynaullai cyfarwydd Caneuon Ffydd.Pwrpas y prosiect yw sicrhau bodgan genedlaethau’r dyfodol archifgyflawn o’r gyfrol honno, ermwyn gwerthfawrogi’n traddodiademynyddol. Emynau Elfed sy’n caeleu canu heddiw gan gantorioncymanfa Annibynwyr gorllewinMyrddin o gapel Blaenycoed.

Oedfa Radio CymruOedfa Radio Cymru am 12:00yp,

5 Gorffennaf yng ngofaly Parchedig Eric Greene, Y Bala

Mae Radio Cymru wedi newid trefn yddarpariaeth grefyddol ar y Sul ersmis Ebrill, gyda’r arlwy yn edrych felhyn bellach:

7:30yb Caniadaeth y Cysegr12:00yp Yr oedfa12:30yp Bwrw Golwg16:30yp Caniadaeth y Cysegr

(ailddarllediad)

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected] deledu – gwerthfawrogiadOs ydych wedi gwerthfawrogi caelgwasanaeth Cymraeg ar y teledu,yna beth am anfon gair owerthfawrogiad at S4C i ddweud hynnyac i ofyn iddynt ystyried parhau â’rddarpariaeth yma ar ôl i’r cyfwngpresennol fynd heibio? Gellirysgrifennu at y cwmni, anfon negesebost at: [email protected] adael neges ar eu gwefan o dan ypennawd ‘cysylltwch â ni’. (Gol.)

Page 7: YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD · 2020. 7. 1. · Nid Old Moore’s Almanac cyfundebol mo’r Goleuad! Cais felly. Os oes gennych gyfraniadau byrion, blasus, y gellir eu defnyddio,

Cefais fy magu dros y ffin yn Lloegr irieni oedd ddim yn bobl gyhoeddusmewn unrhyw ffordd – doedd yna ddimcyfle i mi ymddangos ar lwyfaneisteddfod fel plentyn, tra yn y bydSeisnigaidd yn yr ysgol, mi nes yn sifirfy mod yn osgoi cymeryd rhan mewndramâu ac unrhyw fath o siaradcyhoeddus! Felly roedd yn dipyn obeth pan gefais y gwahoddiad i fynd ibregethu yng nghapel Bethel,Nant-y-fflint ar nos Sul Mehefin 26ain1960 yn yr wythnos pan roeddwn yncael fy mhen-blwydd yn ddeunaw ac ynfy nhymor olaf yn yr ysgol.

Mynd ar y bws o Gaer i Fflint efo’mffrind a Mr R. O. Thomas yn ein cyfarfodni yno i fynd yn ei fodur i fyny i’r Nant –capel bach yng nghanol y wlad – acwedyn ar ôl yr oedfa, cael ein pigo i fynygan fy ngweinidog, y diweddar Barch.Herbert Evans ar ôl ei gyhoeddiadrhywle yn yr ardal. Mae’n rhaid fy modwedi gwneud yn eithaf oherwydd migefais gyhoeddiad yno unwaith neuddwy pob blwyddyn am y pymthegmlynedd nesaf ac wedyn ar ôl cyfnoddistaw yn ystod y degawd nesaf, rwyfwedi bod yno unwaith neu ddwy bobblwyddyn o 1985 i’r presennol (78 obregethau i gyd!).

Roeddwn wedi trefnu i fynd yno ar y Sulolaf ym Mehefin eleni gan wahodd poblo Ysbyty Ifan, Padog a Chapel Garmon(yr eglwysi rwy’n gofalu amdanynt ynwirfoddol) i ddod i’r gwasanaeth am2-30 fel rhan o’u Pererindod, a hefydffrindiau o Gaer a Bala i ymuno â ni amynd i gael lluniaeth ysgafn yng

Ngwesty Springfield ar yr A55 wedyn,ond wrth gwrs, mae’r Coronavirus wedirhwystro ni rhag gwneud.

Dau le yn agos i’r Nant chwaraeoddrhan bwysig ym mlynyddoedd cynnar yrachos oedd Bagillt sydd yn is i lawr aHelygain (Halkyn) sy’n uwch i fyny.Dynion o Helygain ddaeth i’r ardalgyntaf i gychwyn ysgol Sul mewn llofftªd a oedd yn perthyn i ddyn o’r enwJohn Parry, ond yn 1853, fe adeiladwydcapel bach (sydd bellach yn dª) drwsnesaf i’r capel presennol a gafodd eiadeiladu yn 1867 am fod y cyntaf wedimynd yn rhy fach. Roedd rhwng 68 a 90yn dod i’r ysgol Sul a gynhaliwyd yn ybore, y bregeth yn y pnawn a’r cyfarfodgweddi gyda’r nos. Mae yna sôn amnifer o ddynion fel John Jones Tfir aWilliam Parry yn dod i fyny o Fagillt igynnal ysgol Sul bob wythnos am unmlynedd ar ddeg.

Gwasanaethodd R. O. Thomas felblaenor am 62 o fynyddodd o 1934 i1996 (a chefais y fraint o roi’r deyrngedyn ei angladd) ond dim ond dau syddwedi derbyn y swydd yn y chwedegmlynedd ddiwethaf sef y diweddar Wilf.Barker yn 1962 a Menna Coleclough yn1986. Hefyd, dim ond dau weinidogsydd wedi bod yn ystod yr un cyfnod,Y Parch. John Llywelyn Williams panroedden nhw yn rhannu efo Rhosesmor,a’r Parch. Cledwyn Griffith pan roeddennhw efo Caersalem, Fflint. Ymddeoloddyntau yn 1990 a byth ar ôl hynny, mae’rNant wedi bod yn ddi-fugail ond bodnifer ohonom wedi cadw golwg ar yrachos bach unigryw hwn sy’n dal i

gynnal oedfa pob dydd Sul (ar wahân iAwst) os oes pregethwr ganddyn nhwneu beidio.

Mae llawer o eglwysi yn ardal Fflint aThreffynnon oedd yn gryf trigainmlynedd yn ôl wedi cau eu drysaublynyddoedd yn ôl tra mae’r Nant oeddond â 23 o aelodau’r amser hwnnw yndal i fynd, a hynny oherwyddffyddlondeb yr ychydig yn cynnwysBrian a Menna Coleclough.

Diolch i Dduw am gapeli sy’n rhoi cyfle ibobl ifanc dibrofiad i wasanaethu’rDeyrnas heddiw, fel y rhoddodd Y Nantgyfle i mi wneud trigain mlynedd yn ôl.

Eric Green, Y Bala

Gorffennaf 3, 2020 Y Goleuad 7

BETHEL, NANT-Y-FFLINT

Gair pellach o LesothoY ffordd ymlaenDerbyniwyd neges o Lesotho mewn ymateb i gyfraniadchwiorydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yn ei neges i’r DrGraham Thomas, y Bala eglurodd Letlala Joshua Ramatlalibod y cymunedau yr oeddynt yn eu gwasanaethu amddatblygu rhaglenni a phrosiectau fyddai’n galluogi’r bobl ifod yn hunan gynaliadwy. Gyda hynny mewn golwg mae

bwriad i ddatblygu rhaglenni amaethyddol, i fagu moch, ieir, athyfu llysiau a chynnyrch y tir er mwyn i’r bobl fedru gofaluamdanynt eu hunain. Felly mae angen hyfforddiant er mwyni’r boblogaeth ddysgu rheoli’r gwaith yn dda. Ac wrth gwrs, argychwyn y gwaith roedd y prosiect am sicrhau bod marchnadbarod i dderbyn y cynnyrch.

“Hoffwn ddiolch i Eglwys Bresbyteraidd Cymru am eucyfraniadau a’i cefnogaeth i Gymuned Tebellong. Darllenwch2 Corinth 9:10 (“Bydd yr hwn sydd yn rhoi had i’r heuwr abara iddo’n ymborth yn rhoi had i chwithau ac yn ei amlhau;bydd yn peri i ffrwyth eich haelioni gynyddu.”) ac Eseia 9:3-4(“Amlheaist orfoledd iddynt, chwanegaist lawenydd;llawenhânt o’th flaen fel yn adeg y cynhaeaf, ac fel y byddantyn gorfoleddu wrth rannu’r ysbail. Oherwydd drylliaist yr iauoedd yn faich iddynt, a’r croesfar oedd ar eu hysgwydd…”)

Carwn ddiolch i i bob un sydd wedi cymryd rhan a chyfrannueu harian, a’u syniadau a phopeth sydd wedi galluogi i hynddigwydd. Diolchwn i Dduw am bopeth y mae wedi ei wneudtrwom ni.”

Gol. Diolch i’r rhai sydd wedi ymateb i’r erthygl gan ofyn aoedd modd iddynt gyfrannu’n uniongyrchol i’r Apêl? Gelliranfon sieciau yn daladwy i HIV Lesotho d/o Dr GrahamThomas, 28 Heol Tegid, Y Bala LL23 7EH. Neu fe allwchdalu’n uniongyrchol “Church Council of Christ Church, Bala”.Cyfrif 61669125 Cod didoli 40 16 02.

E-bost a’r GoleuadGall pwy bynnag sydd am anfon erthyglaua lluniau i’r Goleuad wneud hynny ar:

[email protected]

Page 8: YMLAEN MEWN FFYDD, GOBAITH A CHARIAD · 2020. 7. 1. · Nid Old Moore’s Almanac cyfundebol mo’r Goleuad! Cais felly. Os oes gennych gyfraniadau byrion, blasus, y gellir eu defnyddio,

• Wythnos nesaf – Diolch am Feibl yn ein hiaith •

8 Y Goleuad Gorffennaf 3, 2020

Dyma gyfarfod hyfryd iawn…Cuddiedig iawn i’r byd …Y mae yn nhrefniadaeth TeyrnasNefoedd ddatganiadau sydd ynymddangos yn wrthnysig, yn ffwlbrillwyr, i’r rhai nad ydynt yn derbyn nac ynufuddhau i Arglwydd y Deyrnas.

Gwelsom yr wythnosau diwethaf maidisgyblion sy’n cael eu hanfon i wneuddisgyblion yw eglwys Iesu Grist. Byddcroeso i’w neges pan fydd croeso i’r Unsy’n ein hanfon. Mae gwobr yn y gwaith.Ond mae yna elfen o wrthdaro rhwngdau fyd, rhwng dwy deyrnas, rhwnggwerthoedd a gweledigaeth am naturbywyd yn ei gyfanrwydd. Hyd heddiw febery’r Arglwydd i’n herio. Yn yr adnodausydd ar ein cyfer yn y Llithiadur gwelwndair enghraifft o hyn.

DARLLENIAD: Mathew 11: 16-24 –Does dim ennill.

Dyma yn gyntaf enghraifft o bobl na allyr Arglwydd byth eu bodloni na chwrddâ’i gofynion. Nid yw Teyrnas Dduw yncyd-fynd gyda’i diffiniad o beth ddylaiTeyrnas yr un Nefol fod. Os yw’n dodatom a chynnig gwledda llawen neu ynannog disgyblaeth grefyddol lem alleddf ac asgetaidd… Does dim plesio.Mae dymuniad pobl yn fympwyol bron.Daeth Ioan Fedyddiwr a chyhoeddineges o edifeirwch am fod TeyrnasDduw wedi dod yn agos. Daeth Iesuac eistedd gyda “phechaduriaid”. Nichroesawyd yr un o’r ddau ohonyntgan y sefydliad crefyddol. Does dimennill – am nad ydynt yn deall. Ond“eto profir fod doethineb Duw yniawn.”

Yn yr ail enghraifft mae Iesu’n einharwain i feddwl am ymatebcymdeithasau gwahanol. Ac os oeddei eiriau’n ysgwyd ei gynulleidfa ar ypryd, os deallwn ergyd ei eiriau, nifyddwn yn synnu ei fod wedi digio’rarweinwyr crefyddol. Meddyliwch,meddai, am ddinasoedd mwyafannuwiol yr hen fyd. Tyrus, Sidon a’ihaml-dduwiau; Sodom a gosbwyd amei bechod. Eto beth am Bethsaidaffyniannus a Chapernaum boblog? Niall eu hymffrost sefyll. Petai’r gwyrthiaua wnaed yn y dinasoedd paganaidd aga wnaed yn ninasoedd Galilea, meddaiIesu, byddent wedi ei groesawu acedifarhau. Ond gwrthod a wnaeth ydinasoedd llewyrchus. A daw ei eiriaucaled i’n sobri dau fileniwm ynddiweddarach. “Rwy’n dweud wrthych y

caiff tir Sodom lai i’w ddioddef yn nydd yfarn na thi.”

DARLLENIAD: Mathew 10: 25-30 –Mawl a gwahoddiad.

Daw gwerthoedd “gwrthnysig” y Deyrnasi’r amlwg yng ngweddi Iesu. Mae’r hynsy’n symbylu mawl Iesu yn ein taro’nchwithig braidd. Y mae yn yr efengylelfen guddiedig- sonnir am “guddio’rpethau hyn rhag y doethion a’rdeallusion.” ad 25. Nid doethineb dynolna gallu, na moes, na chrefydda sy’ndatgelu’r pethau dyfnaf y Deyrnas. Na,meddai Iesu, caiff y dirgelion cuddiedigeu “datguddio i rai bychain.” Eu cuddioa’i datgelu, “oherwydd felly y rhyngodddy fodd di.” Ac y mae’r ddwy elfen ynperi bod Iesu’n “ dy foliannu di o Dad,Arglwydd nef a daear…” Dyma yn wirdrefniadaeth wahanol, disgwyliadgwahanol, gwrthnysig i’n golwg ni.

Ac eto oni chanodd Mair – “gwasgaroddy rhai balch eu calon; tynnodddywysogion oddi ar eu gorseddau, adyrchafodd y rhai distadl; llwythodd ynewynog â rhoddion, ac anfonodd ycyfoethogion ymaith yn waglaw.”(Luc 1: 53) Ar ddechrau ei weinidogaethonid oedd Iesu ei hun wedi cyhoeddi,“Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd,canys eiddynt yw teyrnas nefoedd…”Math 5:3

A phan aeth Paul i ddinas baganaidd acanfoesol Corinth a chyhoeddi’rnewyddion da am groes Iesu Grist gallaiddweud mai “pethau ffôl y byd addewisodd Duw i gywilyddio’r doeth…”Mae yna rywbeth ben-i-waered ynnarpariaeth Duw.

Mae Iesu’n mynnu wedyn bod perthynasunigryw agos, yn perthyn iddo Ef a’rTad. Mae’r adnabyddiaeth ddirgel, ynrhan o hunan-adnabyddiaeth y Duwdod.Ond trwy weithgarwch Duw ei hun cawny fraint o “adnabod y Tad” trwy weithredy Mab sy’n “dewis ei ddatguddio ei huniddynt.” (ad 27)

Ac yna daw’r gwahoddiad mwyaf grasol-nid i’r mawrion, nid i feddylwyr mawr, nidi bobl sydd wedi byw bywydau neilltuol odda fel y Phariseaid, nid bobl ogyraeddiadau neilltuol.

Daw gwahoddiad Iesu at “bawb sy’nflinedig ac yn llwythog”. Nid gallu ondangen yw cymhwyster derbyn gras ynefoedd. Gras sy’n datgelu’n hangen.Gras Iesu Grist sy’n cyflawnir angen.

Daw’r gwahoddiad atom ynghyd agaddewid hefyd “rhoddaf fi orffwystra ichwi.” Iesu a ni – cyfarfod hyfryd iawn, niyn llwm, Iesu’n llawn, ni yn dlawd ynmeddu dim, yntau’n rhoddi popeth i ni.

Daw ef atom gydag addfwyndergostyngedig. Daw a gorffwystra i’nheneidiau, ac y mae hyd yn oed yr iauo fod yn ddisgyblion iddo yn hawdd eiddwyn ac yn ysgafn i’w dwyn o’igymharu â “rhyddid” ein gwrthryfel.

Felly, gwelwn nad yw Iesu’n eingwahodd i fwy o grefydda, fwy oymdrech, fwy o “gyfraniad” tuag at einhiachawdwriaeth. Gwahoddiad iheddwch yw’r gwahoddiad ato ef.Gwahoddiad i adnabod Duw yw’rgwahoddiad ato ef. Gwahoddiad i fywydheddychlon, llawn, sy’n rhagflas oShalôm y Deyrnas yw canlyniad dod atoEf.

GWEDDI

Trown atat ti Dduw pob cariad, Dduw,tirion a charedig, cyfiawn a maddeugar,gan sylweddoli y gallwn ddibynnu’n llwyrarnat ti. Rwyt yn croesawu atat y rhaisydd, fel ni, yn sylweddoli ein hangenamdanat. At y tlodion yn yr ysbryd ydaethost gan gynnig iddynt DeyrnasNefoedd. Maddau i ni ein hamheuon a’nanghrediniaeth y medret ti fod morgaredig tuag atom. Gofynnwn i ti amfaddeuant am bob camwedd syddynom, am bob pechod. Yr ydym am droioddi wrth yr hyn ydym, a chefnu ar yrhyn oeddem, er mwyn dy adnabod di felyr wyt. Bendithia ni felly Arglwydd Dduwdrwy dywalltiad grasol o’th Ysbryd Glanyn enw Iesu mawr. Amen.

Gadewch i ni gofio’n dawel am bob unyr ydym yn adnabod sy’n flinderog ac ynllwythog.

Pob un sy’n cario beichiau trymion…mewn llywodraeth, mewn llywodraethleol… y rhai sy’n gofalu anwyliaid… i’rrhai sy’n teimlo nad ydynt o werth yn ybyd. Gweddïwn dros y rhai sydd morgaled na welant angen ac na theimlantawydd am dy ras…

Gweddïwn dros dy eglwys ar draws ybyd. Gweddïwn am wledydd tlawd sy’nmethu delio a’r Coronovius. Gweddïwn ycawn ninnau fod yn Samariaid o’r unfryd yn ein hymateb ninnau hefyd.

GWEDDI’R ARGLWYDD

EMYN 340: O llefara addfwyn Iesu.

Os na nodir yn wahanol nid yw barn y cyfranwyr o angenrheidrwydd yn farn y golygydd na’r Gymanfa Gyffredinol.Anfoner pob gohebiaeth, newyddion, ysgrifau, a.y.y.b. at y Parch. Ddr. R. Watcyn James, Eryl, Capel Bangor, Aberystwyth SY23 3LZ. e-bost: [email protected]

Cyhoeddwyd gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac argraffwyd gan Wasg y Bwthyn, Caernarfon.