24
Croeso’r Rheolwr Croeso i lyfryn digwyddiadau Awst a Medi yn Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru. Ar ôl haf arbennig o brysur rydym yn cymryd hoe fach ym mis Awst i gael ein cefnau atom ac i wneud ein gwaith hanfodol fel ein bod wedi’n hadfywio’n barod i groesawu cynulleidfaoedd drwy’r drysau unwaith eto yn yr hydref. Serch hynny mae yna ddigon ar fynd ym misoedd Awst a Medi felly bwriwch olwg ar y llyfryn a dod aton ni i gael cip ar sêr y to sy’n codi gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru; tipyn o hwyl yng nghwmni’r Wiggles; cerddoriaeth fyw syfrdanol gan Texas, Dr Hook, a Go West heb sôn am gomedi gan Jon Richardson, Frankie Boyle a Francesca Martinez ac ymweliad gan y syfrdan ar YouTube Miranda yn Miranda Sings. Roger Hopwood, Rheolwr 07-19 Ar Fynd Manylion yr holl ddigwyddiadau tan gamp yn y Neuadd ym misoedd Awst a Medi 2017 a Maes o Law. 20-24 Gwybodaeth am Godi Tocynnau Sut i godi’ch tocynnau a manylion ein disgowntiau. Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 01 Cynnwys Yn glocwedd o’r chwith i’r dde: Miranda Sings, The Dreamboys, Texas, Neil Sedaka, Frankie Boyle 02-03 Dan sylw Awgrymiadau digwyddiadau Actifyddion Artistig a bwyd blasus at eich ymweliad. 04-06 Proffil Dewch i chwilio’r pleserau sydd yn eich aros yn Nhymor 17/18 Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd. Beth sy’n eich aros yn Lolfa L3. Dilynwch ni ar Twitter: twitter.com/NeuaddDewiSant Rydym ni ar Facebook: www.facebook.com/NeuaddDewiSant

Yn glocwedd o’r chwith i’r dde : Miranda Sings, The ......yn y cof luniau lliwgar pypedau’n dod yn fyw ar amrantiad! Ar ôl gwerthu pob tocyn y llynedd, daw’r cyngerdd bythol-boblogaidd

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Croeso’rRheolwr

    Croeso i lyfryn digwyddiadau Awst a Medi yn NeuaddGyngerdd

    Genedlaethol Cymru.

    Ar ôl haf arbennig o brysur rydym yncymryd hoe fach ym mis Awst i gaelein cefnau atom ac i wneud ein gwaithhanfodol fel ein bod wedi’n hadfywio’nbarod i groesawu cynulleidfaoedddrwy’r drysau unwaith eto yn yr hydref.

    Serch hynny mae yna ddigon ar fyndym misoedd Awst a Medi felly bwriwcholwg ar y llyfryn a dod aton ni i gaelcip ar sêr y to sy’n codi gydaCherddorfa Genedlaethol IeuenctidCymru; tipyn o hwyl yng nghwmni’rWiggles; cerddoriaeth fyw syfrdanolgan Texas, Dr Hook, a Go West heb sôn am gomedi gan Jon Richardson,Frankie Boyle a Francesca Martinez acymweliad gan y syfrdan ar YouTubeMiranda yn Miranda Sings.

    Roger Hopwood, Rheolwr

    07-19Ar FyndManylion yr hollddigwyddiadau tan gamp yn y Neuadd ym misoeddAwst a Medi 2017a Maes o Law.

    20-24Gwybodaeth amGodi TocynnauSut i godi’ch tocynnau amanylion ein disgowntiau.

    Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 01

    CynnwysYn glocwedd o’r chwith i’r dde: Miranda Sings, The Dreamboys, Texas, Neil Sedaka, Frankie Boyle

    02-03Dan sylwAwgrymiadaudigwyddiadau ActifyddionArtistig a bwyd blasus ateich ymweliad.

    04-06ProffilDewch i chwilio’r pleserausydd yn eich aros ynNhymor 17/18 CerddorfaFfilharmonig Caerdydd.

    Beth sy’n eich aros ynLolfa L3.

    Dilynwch ni ar Twitter:twitter.com/NeuaddDewiSant

    Rydym ni ar Facebook:www.facebook.com/NeuaddDewiSant

  • 02 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

  • Neuadd Dewi SantAwst a Medi 2017Dan Sylw

    Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 03

    Mae dewis blasus o Tapasar gael yn aml yn LolfaLefel 3.

    I weld pryd mae Tapas argael bwriwch olwg ar y prifgofnodion yn y llyfryn neu’rwefan a chwilio am ysymbol glas.

    Ac t i f yddion Ar t ist ig

    CYNLLUN CYFANSODDWYRIFAINC – LEFEL 1Ydych chi rhwng pymtheg a deunaw oed? Ymunwch â’n Cynllun CyfansoddwyrIfainc i ddatblygu eichsgiliau cyfansoddi, llebyddwch chi’n gweithiogyda chyfansoddwyr acofferynwyr proffesiynol.

    SOUNDWORKSGweithdy cerddorarheolaidd ydi Soundworks agynhelir ddyddiau Mawrthyn Neuadd Dewi Sant ibobol a chanddyn nhwlawer o anghenionarbennig. Mae oedolion achanddyn nhw amrywiaetho anawsterau corfforol adysgu yn dod i’r sesiynau,sy’n rhoi lle i’r cyfranwyrchwilio a chreucerddoriaeth mewn ffordd

    traddodiadol Java achyfansoddiadau o’rgorllewin i’r gamelan. Maecroeso i aelodau newyddymuno â’r cylch gallucymysg yma, waeth bethfo’u profiad blaenorol.

    SESIYNAU BLASU’RGAMELAN I YSGOLIONMae’r sesiynau’n paradwyawr fel arfer ac maennhw ar gael drwy gydol ytymor, yn ddelfrydol igyfnod allweddol 2ymlaen.

    Am ragor o wybodaeth rhowchganiad i 029 2087 neu 8572 [email protected]

    LLEFYDD I FWYTAMae Bwyty’r Sêr ar gael i’w hurio’nbreifat. Am wybodaeth, cysylltwch â 02920 [email protected]

    Mae tameidiau i aros pryd adiodydd poeth ar gael yn Art CafeCelf ar lefel 4 ar gyfer y rhan fwyafo berfformiadau gyda’r hwyr achanol dydd.

    Ciniawa

    ddifyr ac agosatoch, a’rpwyslais ar gael hwyl. Maear y cyfranwyr i gyd angencymorth amrywiol gan eugweithwyr gofal felly mae’rgweithdai hefyd yn cynnigcyfle i’r gofalwyr ddatblygugalluoedd defnyddiocerddoriaeth i feithrincyneddfau eu cleientiaid o ran rhyngweithiocymdeithasol, medraucyfathrebu a hyder. Maecroeso i aelodau newydd arunrhyw fan yn ystod ytymor.

    GAMELAN CAERDYDD Mawrth 6-8pmMae repertoire GamelanCaerdydd, ensemblegamelan cymunedoedolion Neuadd DewiSant, yn cynnwyscyfansoddiadau

    Tapas yn Lolfa L3Pob platiad £4.50Cw^ n Poeth yn Lolfa L3

  • 04 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

    Mae tymor 2016/17 yn cychwyn yn grand o’i go’ ag angerdd tanllyd FromRussia…With Love (nos Wener 20 Hydref).Mae’r cyngerdd cyfareddol yma’n rhan oW^yl R17 ledled y ddinas, sy’n nodi

    canmlwyddiant Chwyldro Rwsia ac sy’n dali’r dim ffrwydrad cymdeithasol adiwylliannol yr oes.

    Ail Concerto Piano Rachmaninovcyfareddol sydd ar ganol y rhaglen yma –darn sy’n gyfarwydd i selogion y pictiwrs,sef y gerddoriaeth ramantaidd oedd wrthgraidd Brief Encounter. Daw Cerddor Ifancy Flwyddyn 2014 y BBC, Martin JamesBartlett, at y Gerddorfa i’r hyn sy’n addobod yn berfformiad cymhellol y clasur yma.

    Ac at hynny mae’r Adagio moethus oSpartacus Khachaturian, sef arwydd-dôn y gyfres deledu boblogaidd The OnedinLine. Daw’r cyngerdd i ben ym malelliwgar Stravinsky, Petrushka, sy’n deffroyn y cof luniau lliwgar pypedau’n dod ynfyw ar amrantiad!

    Ar ôl gwerthu pob tocyn y llynedd, daw’rcyngerdd bythol-boblogaidd Noson yn yPictiwrs (nos Wener 8 Rhagfyr) yn ei ôl iddathlu gwaith chwedlonol John Williamsar ben ei flwydd yn bump a phedwarugain. Glywch chi gerddoriaeth aruthrol oJurassic Park, ET, Saving Private Ryan a’rholl ddarnau gorau oll o Star Wars –rhagolwg i’r dim Episode VIII, sy’n dod arglawr wythnos yn ddiweddarach!

    Proffil

    CerddorfaFfilharmonigCaerdyddTymor 2017/18Yn dilyn blwyddyn dorrodd bob record, dymaGERDDORFA FFILHARMONIG CAERDYDD yn ei hôl ac i’w chanlyn tymor newydd cyffrous sy’ncynnwys mawrion Rwsia, chwedlau’r pictiwrs asymffonïau syfrdanol.

  • Neuadd Dewi SantAwst a Medi 2017

    Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 05

    Wedyn byddwch yn barod i gael eichswyno a’ch cyfareddu gan symffonïausyfrdanol gan Haydn a Brahms, a TheLark Ascending Vaughan Williams sy’nddigon i fynd â’ch gwynt chi ac sy’n cipiopleidlais gwledydd Prydain yn gyson ynhoff ddarn o gerddoriaeth glasurol, yn ycyngerdd Clasuron i Bawb (nos Wener 16 Mawrth).

    Yn olaf ond nid leiaf damaid, TrydeddSymffoni hudol a gogoneddus MahlerSymphony No 3 (nos Wener 15 Mehefin),yn ddiweddglo aruthrol y tymor, wedi’isgorio i gerddorfa enfawr a dau gorws, yn rhoi llwyfan i’r mezzo-soprano o fri,Kate Woolveridge.

    £6.50 – £23.50O godi tocynnau i’r cyngherddau ill pedwar ar yr un pryd arbedwch chi 25% â’n Cynnig Cyfres.

    Llun: Gareth Bull

  • Dewch aton ni i amgylchfyd hamddenol ac anffurfiol ein Lolfa L3 sy’n cynnigprofiad agosatoch o gerddoriaeth a chomedi a bar croesawgar lle gewch chi flasar beint o Carling, Worthington’s, Brains a Stowford Press Cider o’r gasgen amddim ond £3 y peint mewn perfformiadau dethol.

    RACHEL NEWTON BANDMawrth 27 Mehefin £14.00*/£15.00

    MARTIN SIMPSONMawrth 19 Medi£17.00/£19.00

    CAPITAL CITY JAZZ ORCHESTRA gyda Gordon CampbellMawrth 26 Medi £14.00

    BELLA HARDYMawrth 31 Hydref£14.00/£15.00

    FRIGGMawrth 21 Tachwedd£15.00*/£16.00*

    TOM RUSSELLMercher 22 Tachwedd£21.50

    MARTYN JOSEPHMawrth 16 Ionawr £17.00/£19.00

    CAPITAL CITY JAZZORCHESTRA gyda Tim GarlandMawrth 23 Ionawr £14.00

    AMY WADGE & LUKE JACKSONMawrth 30 Ionawr £14.00

    * A Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 y pryniant

  • Neuadd Dewi SantAwst a Medi 2017Awst

    NEWYDD DDOD I LAW – GORFFENNAFIAU 27 – SADWRN 29 7.15pm

    CerddorfaGenedlaetholIeuenctid Cymru Cyfansoddwyr IfaincCyfansoddwyr Ifainc ydi’rychwanegiad diweddaraf at deulu CelfyddydauCenedlaethol IeuenctidCymru ac mae’n cynnwyspeth o ddawn ifanc greadigolmwyaf cyffrous Cymru.

    Yn y cyngerdd awr ginio yma mae’r cyfansoddwyr yn cyflwyno’u cerddoriaethnewydd sbon danlli grai, a sgrifennwyd yn ystod ypreswyliad cynt yn benodol i ensembles siambrchwaraewyr CGIC sy’n ei pherfformio.£5.00**Gewch chi’ch tocyn am hannerpris o’i godi gyda thocyn iberfformiad CGIC.

    Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 07

    Pirates of PenzanceGilbert & SullivanThe Unknown Theatre Company

    Lefel 1

    Dyma roi bywyd o’r newydd i The Pirates of Penzanceâ’r holl ddyfeisgarwch, brwdfrydedd ac egni mae’rUnknown Theatre Company yn enwog amdanynt.

    Bydd y cast ifanc hynod o ddawnus yn dod â chomediegnïol i hiwmor gwych y sioe a’i ffraethineb fel siswrn.Mae’n heigio gan ganeuon cofiadwy, gan gynnwys ycwlwm tafod o gân barablu enwog gan yrUwchfrigadydd a ‘When a felon’s not engaged in his employment’ gan y Sarjant Heddlu llwfr.

    Cefnogir y cynhyrchiad yma gan Actifyddion Artistig yn rhan o’n rhaglen Gymuned a Dysgu.£10.00Tocynnau £5.00 i aelodau ReactTocynnau mantais safonol: pob tocyn £2.00 yn rhatach (gweler tudalen 22).

    SADWRN 5 1.00pm

    Tudalen 24

  • Queens ofComedy Mae tîm Klub Kids yn ei ôlac i’w ganlyn y gymanfagyfoglyd yma.

    Bianca Del Rio sy’n ddigridat ddagrau fydd ynllywyddu a does dim dauna chawn ni drêt go iawn,a chwe chwîn comedi arun llwyfan.

    Hyn a hyn o docynnau VIPCwrdd a Chyfarch ar gaelsy’n cynnwys y seddigorau.

    Ystod Oedran: 16+£35.00Tocynnau VIP £125.00.A Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 y pryniant.Ar Werth yn Awr

    Ar FyndSADWRN 5 7.30pm SUL 6 2.30pm GWENER 1

    Drysau 8.00pm

    08 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

    The WigglesSioe FawrMae Sioe Fawr y Wigglesyn dod i wledydd Prydain.Bydd Emma, Lachy, Simonac Anthony yn morio canuHot Potato, Rock-a-Byeyour Bear a Do thePropeller! Cewch ddawnsiobale, tap, dawnsioGwyddelig ac ucheldiroeddyr Alban gydag Emma. Fe fydd yn bondibethma!Welwch chi Dorothy’rDinosor, Wags y Ci, Henry’rOctopws a’r CaptenFeathersword pan ddônnhw at y Wiggles yn SioeFawr y Wiggles!

    Ystod Oedran 2-7£16.50Teulu o 4: £55.00Grwpiau o 10 neu fwy: un am ddim.Ar Werth yn Awr

    CerddorfaGenedlaetholIeuenctid Cymru Carlo Rizzi – arweinydd

    Strauss Der Rosenkavalier,CyfresStrauss Till Eulenspiegelslustige StreicheBritten Four Sea Interludeso Peter GrimesDebussy La Mer

    Bydd cerddorion ifaincymhlith goreuon Cymru ynperfformio, a CherddorfaGenedlaethol IeuenctidCymru’n dod yn ei hôl ynei chyngerdd olaf ar daith2017. Carlo Rizzi fydd ynarwain y Gerddorfa mewnrhaglen wych sydd unwaitheto’n rhoi stondin i ddawnsyfrdanol ei haelodau.£14.00Tocynnau Mantais Safonol (aceithrio Plant dan 16): pob tocyn£2.00 yn rhatach. Gweler tudalen22.Ar Werth yn Awr

    Tudalen 24

    Tudalen 24

    Tudalen 24

  • SADWRN 2 7.00pm SADWRN 9 7.30pm SUL 10 3.00pm

    Arch-sêrYmaflyd CodwmCymruDewch aton ni i noson obefredd, glamor a llanastclepian cyrff. Dyma sêrdros ben llestri’r bydymaflyd codwm yngwrthdaro mewn noson ofynd gwyllt a chlepian eihochr hi yn y sioe wallgo’bost yma sy’n hwyl i’r teului gyd.

    Welwch chi holl firi YmaflydCodwm Americanaidd –sêr megis Stevie Starr sy’nddigon o ryfeddod, ypaladr o ddyn llawn myndJohn Titan a’r ehedwrmewn mwgwd o FecsicoMagico!

    Dylai plant dan 14 fod yngnghwmni oedolyn.Oedolyn: £13.00Plentyn: £11.00Teulu o 4: £40.00Ar Werth yn Awr

    Frankie Boyle &FrancescaMartinezStand Up ForLincoln’s LegsFrankie Boyle gydaFrancesca Martinez, aTiernan Douieb yn llywydd.

    Dewch aton ni i noson dangamp o gomedi i godi arianar gyfer achos lleol, CoesauLincoln.

    Mae Parlys yr Ymennyddar y plentyn pedeirblwyddLincoln a bydd yr holl ariana godir yn mynd tug atlawfeddygaeth yn Americarydd dro ar fyd iddo.www.facebook.com/lincolnslegs

    £26.50Tocynnau mantais safonol:gostyngiadau o £2.00 y tocyn(gweler tudalen 20).Ar Werth yn Awr

    Cerddorfa OperaCenedlaetholCymru’nperfformio Ozgyda Cherddorfa“We’re off to see theWizard!” Peidiwch, da chi, â cholli’r chwip yma oberfformiad, a CherddorfaOpera Cenedlaethol Cymru’ncynnig cyfeiliant byw i’r ffilmhudol o’r flwyddyn 1939,gyda’r canu gwreiddiol.Anghofiwch am draciau saincraflyd: dyma i chi’r cyfle iglywed Somewhere Over theRainbow, Follow the YellowBrick Road a’ch holl hoffganeuon mewn lliw llacharcerddorfaol – gwledd imunchkins o bob oed.£21.50Plant dan 16: £11.50 yr un.Ar Werth yn Awr

    Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 09

    Neuadd Dewi SantAwst a Medi 2017Awst/Medi

    Tudalen 24Tudalen 24

    Tudalen 24

  • Ar FyndLLUN 11 Drysau 7.00pm

    Whitney Queenof the NightYn mynd â ni ar reid collicylla drwy dri degawd o hitsclasurol, mae’r cynhyrchiadarobryn yma’n rhoi llwyfan igymanfa syfrdanol ogerddorion ac artistiaid sydd,ynghyd â pherfformiad egnïoldigon i fynd â’ch gwynt chiyn ysbryd Whitney, yncyflwyno sioe sy’n siomi’rochr orau bob gafael.

    ‘Hearts pounding, feettapping, a must-see forWhitney fans.’Danielle Travis, P&S News

    www.queenofthenight.co£23.00Pobol ifanc dan 16 oed, Pobol droseu 60, Myfyrwyr, Hawlwyr,Defnyddwyr cadeiriau olwyn(ynghyd ag un cydymaith), Grwpiauo 20 neu fwy: pob tocyn £2.00 ynrhatach Cynllun REACT: £10.00. A Thâl Gwasanaeth Tocynnau o£3.95 y pryniant.Ar Werth yn Awr

    SUL 17 7.30pm

    10 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

    TEXASAc EraillÂ’u halbwm newydd penigamp Jump On Board, euhalbwm stiwdio newydd cyntaf ersThe Conversationyn 2013, mae Texas yn cychwyn ar eu taith yngngwledydd Prydain yn Neuadd Dewi Sant.

    Hoelion wyth Texas, Johnny McElhone a SharleenSpiteri, a’i sgrifennodd ac a’i cynhyrchodd ac mae’ralbwm yn glasur pop heb flewyn ar dafod. Mae’r senglnewydd Let’s Work It Out – ac iddi fideo bendigedig yncynnwys Thierry Henry – ar restr chwarae Radio 2.

    Wedi gwerthu dros bymtheg miliwn ar hugain orecordiau - yn dri albwm rhif un, saith albwm deguchaf a 13 o senglau deg uchaf – mae golwg y byddJump On Board yn dwyn yn ei flaen gyrch trawiadolTexas ar y siartiau.£30.00 | £39.00 | £51.00 Platinwm a VIP: £96.50.Ar Werth yn Awr

    Tudalen 24

  • Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 11

    Neuadd Dewi SantAwst a Medi 2017Medi

    MERCHER 20 7.30pm IAU 21 8.00pm

    The Dreamboys Taith Prydain 2017Does dim dwywaith nad ydi’r Dreamboys yn bennaf SioeStripio Dynion gwledydd Prydain, i’r dim i noson allan i’rc’wennod gyda’ch ffrindiau i gyd.

    Eu stondin ydi’r act Stripio Dynion enwocaf agynhyrchodd gwledydd Prydain erioed. Yn sgìlymddangos yn westeion ar rai o sioeau teledu mwyafgwledydd Prydain megis The X Factor, Britain’s GotTalent, Celebrity Big Brother, Loose Women, ThisMorning, Geordie Shore a The Only Way is Essex, aTheithiau Byd-eang enfawr a werthodd bob tocyn, doesryfedd i’r Dreamboys gael y gair o fod yr unig Grw^pStripio Dynion mewn hanes i ennill bri enwogion.

    Argymhellir 18 Oed +£17.50 | £22.50 | £25.50Rhai gostyngiadau ar gael. Grwpiau: Codwch ddeg tocyn a chael yrunfed ar ddeg am ddim. A Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 ypryniant.Ar Werth yn Awr

    Noson yng Nghwmni

    Neil SedakaA’r gwestaiJack LukemanMae gyrfa drigain mlynedddrawiadol Neil Sedaka ynamrywio o fod yn un ogynyrfiadau pop glasoed y pum degau i fod yngyfansoddwr caneuonllwyddiannus iddo ef eihun ac artistiaid eraill yn y chwe degau ac ynarchseren yn y saithdegau, yn wastad yn rymym maes sgrifennu apherfformio drwy’r byd yn grwn.£49.50 | £58.50Pobol dros eu 60, Defnyddwyrcadeiriau olwyn (ynghyd ag uncydymaith): £49.50.Ar Werth yn Awr

    Tudalen 24

    Tudalen 24

  • Ar Fynd

    12 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

    GWENER 22 8.00pm

    The OvertonesAc Eraill

    Grw^p harmoni clòs ydi’rOvertones: Mike, Darren, Tim, Lachie a Mark. Fe’idarganfuwyd gan un ochwilotwyr am dalent WarnerBrothers tra oedden nhw’ngweithio fel peintwyr aphapurwyr mewn siop ynymyl Oxford Street yn canu yn ystod eu hamser paned.

    Cyrhaeddodd eu halbwmdébut Good Ol’FashionedLove rif 4 yn siart AlbymauPrydain. Maen nhw wedigwerthu mwy na hannermiliwn o gopïau o’u halbwmcyntaf a theithio gyda PeterAndre a Syr Cliff Richard.

    Rhaid i blant dan 14 oed fodyng nghwmni Oedolyn.£21.00 | £26.00 | £31.00 VIP £66.50Ar Werth yn Awr

    ELO Again Taith Return to The BlueDathlu Deugeinmlwyddiant albwm eiconig ELO,Out Of The Blue

    Mae ELO Again – y Sioe Deyrnged Orau Oll i’r ElectricLight Orchestra – yn rhoi blas dramatig go iawn i chi orotsiwn beth oedd yr ELO clasurol ar ei anterth. Mae’rprofiad drwyddo draw yn ail-greu’n broffesiynol un ogyngherddau ELO ynghyd ag atgynhyrchu sain, sioeoleuadau ac effeithiau gweledol ardderchog.

    Perfformir yr holl hits mawr – Livin’ Thing, Sweet Talkin’Woman, 10538 Overture, Wild West Hero, The Diary OfHorace Wimp, Telephone Line, Turn To Stone a llawer,llawer ar ben hynny.£23.50Cynnig Cw^n Caer: pob tocyn £3.50 yn rhatach o’u codi cyn 30 Mehefin (ni ellir ei ddefnyddio gyda disgowntiau eraill). Grwpiau o 10 neu fwy: pob tocyn £2.50 yn rhatach. A ThâlGwasanaeth Tocynnau o £3.95 y pryniant.Ar Werth yn Awr

    Tudalen 24

    Tudalen 24

    SADWRN 23 7.30pm

  • Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 13

    Neuadd Dewi SantAwst a Medi 2017Medi

    LLUN 25 8.00pm MAWRTH 26 1.00pm

    Cyngerdd Awr GinioEnillydd 2015 Rhodd Kenneth LovelandFrancina Moll Salord – ffidilAnna Szalucka – piano

    Yn Gdansk y ganed Anna a daeth i’r Royal Academy ofMusic yn 2014. Yn 2016 enillodd Gystadleuaeth PianoRyngwladol Talinn. Rhoes Anna ddatganiadau solo laweryn ogystal ag ymddangos gyda Thriawd Bukolika.

    Ym Menorca y ganed Francina a astudiodd yn y PurcellSchool cyn symud i’r Royal College of Music. Ynddiweddar chwaraeodd gyda Cherddorfa SymffoniBarcelona ac mae’n awr gyda’r Southbank SinfoniaOrchestra.

    Sylfaenwyd Rhodd Kenneth Loveland yn y flwyddyn 2000i goffáu ac i barhau gwaith Kenneth yn rhoi cymorth igerddorion ifainc. Dyfarnir y Rhodd bob blwyddyn ifyfyriwr perfformio eithriadol ar safon ôl-raddedig uwch.

    Mae’r cyngerdd heddiw’n cynnwys gweithiau gan Ravel,Prokofiev, Debussy a Szymanowski.

    Pris y cyngerdd yma ydi Talu Be Fynnwch.

    Tudalen 24

    Miranda SingsGwnaeth Miranda Singsstrôc drwy’r gwledydd, a’i sianel YouTube wedicasglu dros saith miliwn o danysgrifwyr selog acwedi’i gwylio fwy na biliwno weithiau.

    Yn 2008, gan yr actores, y ddigrifwraig a’r gantoresColleen Ballinger, y crëwydy cymeriad Miranda, ibarodïo’r cantorion ifainc,wedi ymgolli ynddyn nhw’uhunain a chanddyn nhwfwy o hyder (a vibrato) nago ddawn, oedd yn llwytho ifyny fideos i YouTube. MaeMiranda’n adnabyddus argorn ei gwefusau cochionwedi’u gorliwio, cyngoramheus ynghylch canu abywyd, hunanhyder di-saila rhefru dros ben llestri amei theulu a’i phroblemaupersonol.£30.00 | £60.00A Thâl Gwasanaeth Tocynnau o£3.95 y pryniant.Ar Werth yn Awr

    Tudalen 24

  • Ar FyndMAWRTH 26 8.00pm

    14 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

    Tudalen 24

    Capital City Jazz OrchestraGyda’r Gwestai Arbennig y Trombonydd Gordon CampbellYn gwmni i feibion Caerdydd, Capital City Jazz Orchestra,daw’r Unawdydd Jazz Rhyngwladol Gordon Campbellmewn noson fendigedig o Jazz a Swing Big Band.

    Yn 2007 y ffurfiwyd y Capital City Jazz Orchestra acmae ynddi gerddorion Jazz ymhlith y goreuon yn NeCymru. Yn ystod y deng mlynedd aeth heibio gweithioddgyda llu o artistiaid Jazz rhyngwladol gan gynnwys Clare Teal, Matt Ford, Lee Gibson, Claire Martin, Alan Barnes, Mark Nightingale, Dave O’ Higgins, Bruce Adams, Nigel Hitchcock a Bobby Shew.

    Ystyrir Gordon Campbell yn un o ganwyr trombônblaenllaw’r wlad. Mae’n Drombôn blaen gyda’r JohnWilson Orchestra a’r BBC Big Band – swydd mae’n ei dal ers 1984. Cwmpasodd ei yrfa amrywiol jazz,clasurol, theatr gerdd, ffilm a pop. Gweithiodd gydallawer o berfformwyr blaenllaw’r byd gan gynnwys Ella Fitzgerald, Sarah Vaughan, Barbra Streisand, Tony Bennett, Ray Charles a Robbie Williams ag enwi ond dyrnaid.£14.00Tocynnau mantais safonol: pob tocyn £2.00 yn rhatach (gwelertudalen 22). Grwpiau o 10 neu fwy: pob tocyn £2.00 yn rhatach.Ar Werth yn Awr

  • MERCHER 27 7.30pm IAU 28 & SUL 1 HYDREF 8.00pm

    Dr Hook™

    yn serennu Dennis LocorriereTaith y Byd Timeless 2017Yn dilyn cyfres o berfformiadau dan eu sang yn 2016,estynnwyd taith Timeless yng ngwledydd Prydain hyd at 2017 o alw aruthrol amdani gan y cyhoedd!

    O ddechreuadau cyntaf un Dr Hook hyd at anterth eullwyddiant, Dennis Locorriere oedd llais digamsyniol hitsmwyaf a hoff ganeuon y band. Cafodd Dr Hook fwy na70 o ddisgiau Platinwm ac Aur a chyrraedd saflechwedlonol mewn gwledydd lawer.

    Dewch i ddeffro yn y cof glasuron megis Sylvia’s Mother,Sexy Eyes, A Little Bit More, When You’re In Love With A Beautiful Woman, Sharing The Night Together, TheCover Of Rolling Stone a Queen Of The Silver Dollar abachu ar y cyfle yma i weld Dr Hook yn fyw!£29.00 | £32.00 | £35.00Defnyddwyr cadeiriau olwyn ynghyd ag un cydymaith: seddi’r stalau£29.00 yr un. A Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 y pryniant.Ar Werth yn Awr

    Jon Richardson The Old ManDyma un o enwebeionGwobr Gomedi Prydain aseren Live At The Apolloac 8 Out Of 10 Cats yn eichychwyn hi ar daith ledled y genedl i gwyno am gyflwr y byd heb gynnig yr un ateb.Ers ei sioe ddiweddarafdaeth yn w^ r ac yn dad,gweld gwledydd Prydain ynbwrw’u pleidlais dros adaelyr UE a gwylio esgyniadDonald Trump, a hyn oll yn ei adael yn gofyn uncwestiwn, pam mae’nymddangos nad oes runenaid byw arall yn gallullwytho peiriant golchi llestri’n iawn?£20.50A Thâl Gwasanaeth Tocynnau o£3.95 y pryniant. Ar Werth yn AwrCanllaw i Rieni: 14+ (mwy nathebyg bydd rhegi a chynnwysanaddas i blant). Cofiwch y byddailwerthu tocynnau na chytunwydarno yn peri canslo’r archeb.

    Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 15

    Neuadd Dewi SantAwst a Medi 2017Medi

    Tudalen 24

    Tudalen 24

  • Ar FyndGWENER 29 7.30pm SADWRN 30 7.30pm

    Go WestYn 1982, gan Peter Coxa Richard Drummie, yffurfiwyd y band yma, un o eiconau chwedlonol yrwyth degau, a enillodd Wobr Brit ac a aeth â hi’naruthrol yn fasnachol yn un o ddeuawdau canu/cyfansoddi mwyafllwyddiannus yr wyth degau.

    Chwe albwm ac ugainmiliwn o werthiannauwedyn, mae Go West yngryfach nag erioed. Cawsantsenglau rhif y gwlith mewnsiartiau ym mhedwar ban byd a byddant ynperfformio’u holl hits mwyafgan gynnwys: We Close OurEyes, Call Me, Faithful, Kingof Wishful Thinking a Don’tLook Down.£23.50 | £25.50 | £29.50A Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 y pryniant. Tocynnaumantais safonol: pob tocyn £2.00 yn rhatach (gweler tudalen22).Grwpiau: 1 ym mhob 10 amddim.

    16 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

    Tudalen 24

    Tudalen 24

    Hud yr OperaThe English National PhilharmonicOrchestraGyda Lesley Garrett

    Mae’r sioe’n cynnwys English National PhilharmonicOrchestra a phrif gantorion o’r Royal Opera House ac English National Opera. Bydd y Gerddorfa danarweiniad Ben Crick a’r Unawdwyr yn cynnwys John Cunningham (Bariton), Hannah Mason (MezzoSoprano) a Lee Bradley (Tenor).

    Sioe i’r teulu i gyd ac ynddi’r holl ddarnau gorau ooperâu poblogaidd, gan gynnwys llawer mae pawbyn eu hadnabod heb wybod, mae’n debyg, maiopera ydyn nhw. Bydd yn cynnwys ffefrynnau megiscân y Toreador o Carmen, Marriage Of Figaro Mozart,Time To Say Goodbye, Anvil Chorus Verdi, deuawdPearl Fishers, Ave Maria ac wrth gwrs, NessunDorma.

    Mae Lesley Garrett yn un o hoff gantorion Prydain, yn adnabyddus am ymddangos mewn opera, theatr gerdd ac ar y teledu. Daw at EnglishPhilharmonic Orchestra i noson o gerddoriaethhudol.£41.50Grwpiau o 10 neu fwy: pob tocyn £2.00 yn rhatach.Ar Werth yn Awr

  • SADWRN 30 7.30pm

    Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 17

    Maes o Law

    * Ar Werth yn Awr

    HYDREFSul 1 7.30pm Jon Richardson*Llun 2 7.30pm Justin Hayward*Mercher 4 Drysau Elaine Paige*

    7.00pmGwener 6 Drysau The Pretenders*

    7.00pmLlun 9 7.30pm Rip It Up*– Dancing Through The ‘50sMawrth 10 Drysau Squeeze*

    7.00pmMercher 11 8.00pm Russell Brand*Gwener 13 7.30pm Lulu*Sadwrn 14 8.00pm Joel Dommett*Mercher 18 7.30pm Shane Filan*Iau 19 7.30pm Ray Mears*Gwener 20 7.30pm Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd*Sul 22 6.00pm Debbie Chapman Dancers yn cyflwyno Dansation XIII*Iau 26 7.30pm Milton Jones is Out There*Gwener 27 7.30pm Sixties Gold* Sadwrn 28 8.00pm Jimmy Carr*– The Best of, Ultimate, Gold, Greatest Hits Mawrth 31 8.00 pm Gwrando’r Gwreiddiau* – Bella Hardy

    Lolfa L3

  • Maes o Law

    18 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

    * Ar Werth yn Awr

    TACHWEDDIau 2 7.30pm Down to Earth* – Noson yng Nghwmni Monty Don Gwener 3 7.30pm The World Famous Elvis Show* – gyda Chris ConnorMawrth 14 Drysau Collabro*

    7.00pmIau 16 7.30pm Jon Ronson’s*

    Psychopath Night Gwener 17 8.00pm The Magic of Motown*Sadwrn 18 7.00pm Alison Moyet*Mawrth 21 8.00pm Gwrando’r Gwreiddiau* – Frigg

    7.00pm Lolfa L3Mercher 22 8.00pm Tom Russell*Llun 27 Drysau Bananarama*

    7.00pm Pob Tocyn Wedi’i WerthuMercher 29 Drysau Status Quo*

    7.00pm Aquostic LiveIau 30 7.30pm John Wilson a’r John Wilson Orchestra*

    Dathlu Dramâu Cerdd Ffilm MGM

  • * Ar Werth yn Awr

    RHAGFYRMawrth 5 7.30pm The Bootleg Beatles mewn Cyngerdd*Sadwrn 9 7.30pm Messiah Handel*Mawrth 12 7.30pm Kate Rusby*Mercher 13 7.00pm The Darkness*

    IONAWR 2018Mawrth 16 8.00pm Gwrando’r Gwreiddiau* – Martyn Joseph

    Lolfa L3Sadwrn 20 7.30pm Back to Bacharach*Sadwrn 27 7.30pm Vampires Rock Ghost Train*Mawrth 30 8.00pm Gwrando’r Gwreiddiau* – Amy Wadge & Luke Jackson

    Lolfa L3

    CHWEFROR 2018Gwener 2 7.30pm Paul Carrack mewn Cyngerdd *Gwener 16 Drysau Erasure a Gwesteion Arbennig*

    7.00pmMawrth 27 8.00pm Russell Brand*

    Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 19

    Neuadd Dewi SantAwst a Medi 2017

    John Wilson a’rJohn WilsonOrchestraDathlu Dramâu CerddFfilm MGM

    A Gwesteion Arbennig a’r JWO Chorus

    Iau 30 Tachwedd 7.30pm

    £22.50 – £44.00A Thâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 ypryniant. Ar Werth yn Awr

    Tudalen 24

  • * Ar Werth yn Awr

    FFURFLEN GAIS CYFEILLION NEUADD DEWI SANTEnw:

    Cyfeiriad:

    Cod Post:

    Teleffon (yn ystod y dydd):

    Teleffon (gyda’r nos):

    Cofiwch roi cyfeiriad e-bost i ni fel y gallwn roi gwybod i chi’n syth pan fydd sioeaunewydd ar werth rhwng llyfrynnau.

    Ebost:

    Taliad (ticiwch fel y bo’n briodolRydw i’n amgáu siec/archeb bost yn daladwy i:CYNGOR CAERDYDD am £18 am flwyddyn gyntaf fy aelodaeth o’r Cyfeillion

    A wnewch chi godi £18 ar fy Mastercard Visa

    Switch Delta Cod Sicrwydd (y tri rhif olaf ar gefn eich cerdyn)

    Rhif y Cerdyn:

    Dyddiad Cychwyn:

    Dyddiad Terfyn:

    Rhif cyhoeddi (Switch yn unig)

    Llofnod Deiliad y Cerdyn

    Cadwch MewnCysylltiad ac MewnCywair – Dewch ynGyfeillion Pennaf!

    MAWRTH 2018Mercher 7 7.30pm The Sensational 60s Experience*Gwener 9 8.00pm Ed Byrne: Spoiler Alert*Sadwrn 31 7.30pm Jonathan Pie*

    EBRILL 2018Iau 10 7.30pm Remembering FredGwener 27 7.30pm David Baddiel*

    MAI 2018Gwener 11 7.30pm Jason Manford*

    Maes o Law

    * Ar Werth yn Awr

  • Gwybodaeth am godi tocynnau

    Swyddfa Docynnau: 029 2087 8444Codi tocynnau ar lein 24 awr y dydd –www.stdavidshallcardiff.co.uk Gweinyddu: 029 2087 8500Ebost: [email protected]

    Gewch chi bellach ddewis eich sedd eich hun pan fyddwch chi’n codi tocynnau ar lein.

    Mewn rhai digwyddiadau, oherwydd y nifer ogwsmeriaid yn y Swyddfa Docynnau, efallai y byddgofyn i ni stopio gwerthu tocynnau i ddigwyddiadaudiweddarach hanner awr cyn rhagfyrhrau perfformiad.

    Mae codi tocynnau yn hawddMae’r Swyddfa Docynnau ar agor ddydd Llun tanddydd Sadwrn 9.30am tan chwarter awr ar ôlrhagfyrhrau’r perfformiad (neu 5.30pm pan nad oesperfformiad – ym mis Awst), ddyddiau Sul a GwyliauBanc awr cyn y perfformiad i bobl sy’n dod ynbersonol yn unig.

    Ffôn ar 029 2087 8444. Gewch chi dalu ar eich uniongyda chardiau debyd neu gredyd neu gadw’chtocynnau a thalu cyn pen tridiau. Rydym yn derbyncardiau Mastercard, Visa, Switch a Delta. Dydym niddim, fodd bynnag, yn derbyn cardiau Solo nacElectron. I osgoi posibilrwydd ciwiau hir, cofiwchgasglu tocynnau wedi talu amdanynt ymlaen llaw oleiaf hanner awr cyn rhagfyrhrau’r perfformiad. Mae’rllinellau teleffon yn cau hanner awr cyn amser cau’rSwyddfa Docynnau.

    POST ysgrifennwch atom ni yn Neuadd Dewi Sant, Yr Aes, Caerdydd, CF10 1SH gyda manylion cyflawnynghylch eich gofynion gan gynnwys y man eisteddsydd orau gennych ac unrhyw ddisgowntiau sy’nberthnasol. Rhowch eich enw, eich cyfeiriad, eich codpost a’ch rhif ffôn yn ystod y dydd ac amgaewch siecyn daladwy i Gyngor Caerdydd neu fanylion eich cerdyn (gan gynnwys y dyddiad terfyn a rhifdosbarthu Switch), ac amlen â stamp a chyfeiriad er mwyn anfon eich tocynnau.

    AR LEIN awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Ymwelwch âwww.stdavidshallcardiff.co.uk

    Mae’r gwasanaeth yma’n berthnasol i’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau unwaith y bydd y cyfnod coditocynnau cyffredinol wedi rhagfyrhrau. Nid yw llefyddcadeiriau olwyn ar gael ar lein. A wnewch chi roicaniad i’r Swyddfa Docynnau i wneud yn siw^ r fod eich seddi yn cwrdd â’ch gofynion penodol.

    Neu gallwch e-bostio’ch gofynion o ran tocynnau atomni yn [email protected]

    Yn Wyrdd Amdani – Ymunwch â’n rhestr e-bost a chaelyr wybodaeth ddiweddaraf am sioeau a chynigion ynsyth i’ch blwch derbyn. Ymgofrestrwch ynwww.stdavidshallcardiff.co.uk

    Amddiffyn DataPan fyddwch chi’n codi tocynnau i Neuadd Dewi Santcadwir eich gwybodaeth bersonol ar systemgyfrifiadurol y Swyddfa Docynnau. Drwy godi tocynnaurydych chi’n caniatáu cadw’ch gwybodaeth bersonolyn unol â’r Deddfau Amddiffyn Data. Gofynnir i chi ageir defnyddio’r wybodaeth yma:

    • i roi gwybod i chi am ddigwyddiadau neuddatblygiadau i ddod yn New Theatre neu NeuaddDewi Sant;

    • i’w rhoi i gyrff eraill yn y celfyddydau yn ne Cymru– a allai gynnwys Theatr Sherman, CanolfanMileniwm Cymru, CBCDC, National Theatre Wales,Canolfan Celfyddydau Chapter, Opera CenedlaetholCymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC,Sinfonia Cymru a Ballet Cymru - at ddiben tebyg;

    • gan gyrff heb fod yn y celfyddydau, wedi’u detholyn ofalus, at ddiben rhagor o wybodaeth a allai fodo ddiddordeb i chi.

    Gofynnir i chi ddweud pa ddewisiadau sy’n dderbyniolgennych. Bydd hyn yn rhoi lle i ni brosesu eichgwybodaeth bersonol yn unol â’ch dymuniadau.

    Gellir rhannu gwybodaeth codi tocynnau cwsmeriaid(ac eithrio manylion cardiau credyd) ag asiantaethauallanol at ddiben dadansoddi. Bydd Neuadd Dewi Santyn gwneud popeth rhesymol i sicrhau diogelwch dataoddi mewn i’r broses yma.

    Mae prosesau Neuadd Dewi Sant yn cydymffurfio âDeddf Amddiffyn Data 1998.

    Rheolir, cynhyrchir a gweithir ein gwefannau a’nHysbysebion Swyddogol gan Neuadd Dewi Sant o’nswyddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Nid yw NeuaddDewi Sant yn dweud ar gyfrif yn y byd fod y deunydda’r wybodaeth ar ein gwefan neu y gellir eu cyrchudrwyddi nac yn addas nac ar gael i’w defnyddio mewnGwledydd eraill y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

    Tocynnau MantaisMae’r tocynnau mantais sy’n dilyn yn berthnasol isioeau sy’n crybwyll gostyngiadau yn y panel prisiau:Cyfeillion Neuadd Dewi Sant, Plant dan 16, Myfyrwyr,*Pobl dros eu 60, Pobl anabl (ynghyd ag uncydymaith) a Hawlwyr. Dim ond un disgownt y tocyn ycewch ei ddefnyddio ac mae gofyn prawf o’ch statws.A wnewch chi ddweud pa ddisgownt rydych chi’n eihawlio pan fyddwch chi’n codi’ch tocyn.

    22 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

  • Fel arall derbynnir tocynnau i’w hailwerthu ar yr amodbenodol mai tocynnau Neuadd Dewi Sant a werthirgyntaf ac nad oes unrhyw sicrwydd y cân nhw’uhailwerthu. Fedrwn ni ddim ailwerthu tocynnau oni baibod y tocynnau gwreiddiol yn cael eu dychwelyd i’rSwyddfa Docynnau’n gyntaf. Cedwir 20% o werthunrhyw ailwerthu.

    Ar wahân i’r ddau wasanaeth yma neu gansloperfformiad, fyddwn ni ddim yn ad-dalu arian unwaithy bydd tocynnau wedi’u codi. Os canslir perfformiadrhaid dychwelyd tocynnau i’r fan lle codwyd nhw (e.e. Os codwyd nhw trwy un o’n hasiantaethautocynnau cydnabyddedig, dylid eu dychwelyd nhw’nuniongyrchol atyn nhw).

    Os bydd angen tocynnau dyblyg, codir tâl o £2.50 ytocyn am y gwasanaeth yma.

    HwyrddyfodiaidEr mwyn peidio â tharfu ar neb, ni chaiffhwyrddyfodiaid fynd i’r awditoriwm ond bai bod saibpriodol yn y perfformiad. Gellir gwylio’r cyngerdd ardeledu cylch cyfyng yn y bar ar Lolfa L3.

    Amodau gwerthuCadwn yr hawl i wneud newidiadau yn y cast neu’rrhaglen os bydd angen. Mae’n bosib y gwaherddirmynediad dan rai amgylchiadau ac efallai na wneir ad-daliad. A wnewch chi fwrw golwg ar eich tocynnaupan godwch chi nhw i wneud yn siw^ r eu bod yn iawn.Mae ad-daliadau fel y gwêl yn dda gan Reolwr ySwyddfa Docynnau.

    Tâl Gwasanaeth TocynnauMae Tâl Gwasanaeth Tocynnau o £3.95 y pryniant ambob pryniant tocynnau felly dim ond £3.95 dalwch chi,waeth cynifer o docynnau godwch chi ar yr un pryd (feallai newid). Mae’r Tâl Gwasanaeth Tocynnau ynymorol am gost cynhyrchu eich tocynnau, prosesueich archeb ac anfon eich tocynnau atoch chi. Mae’namcan gennym roi gwasanaeth ardderchog igwsmeriaid pa un a ddôn nhw aton ni’n bersonol, rhoicaniad i ni dros y ffôn ynteu rhyngweithio â ni ar lein.Bydd y tâl bychan yma am bob pryniant yn rhoi lle i niddal i wneud hyn yn wyneb galwadau mwyfwy aradnoddau gwerthfawr.

    Bydd rhai digwyddiadau wedi’u heithrio o’r Tâl – erenghraifft digwyddiadau a drefnir gan A2 ActifyddionArtistig ac unrhyw ddigwyddiad lle mae’r pris drutaf yn £14.00 neu lai.

    Tocynnau ar lein @ www.stdavidshallcardiff.co.uk | 23

    Neuadd Dewi SantAwst a Medi 2017

    Caiff defnyddwyr cadeiriau olwyn (ynghyd ag uncydymaith) godi tocynnau seddi’r stalau am y pris isafmewn sioeau sy’n crybwyll y gostyngiad yma. Nid ywllefydd cadeiriau olwyn ar gael bob amser a dylid eucadw nhw trwy’r Swyddfa Docynnau, nid ar lein, ermwyn sicrhau cwrdd ag anghenion penodol ycwsmeriaid.

    Tocynnau MyfyrwyrMae tocynnau hanner pris hefyd ar gael igyngherddau yng Nghyfres Cyngherddau CerddorfaolNeuadd Dewi Sant tan 6.30pm ar ddiwrnod yperfformiad. Rhaid casglu tocynnau ac fe'u rhoddirpan ddangosir cerdyn adnabod myfyriwr dilys.

    GrwpiauRydym yn croesawu partïon o bob maint ac yn cynnig disgowntiau dethol i grwpiau o 10 neu fwy. Rhowch ganiad i’r Llinell Boeth Grwpiau un pwrpas ar 029 20878443.

    Mae Tocynnau Teulu ar gael i rai digwyddiadau lledangosir hynny. Mae’r tocynnau ar gyfer Teulu o 4 sy’ncynnwys uchafswm o 2 o oedolion ac o leiaf 1 plentyndan 16 oed.

    *Efallai na fydd y disgownt yma yn berthnasol.

    PlantMae gostyngiadau a phrisiau arbennig yn berthnasol i lawer o ddigwyddiadau. Am resymau Iechyd aDiogelwch, bydd gofyn i bob plentyn oed cerdded fod â thocyn.

    Cyfeillion Neuadd Dewi SantGewch chi ostyngiadau dethol, copi o’r llyfryn gydallythyr newyddion bob yn ddeufis ac achub y blaen yn codi tocynnau i’r rhan fwyaf o ddigwyddiadau amddim ond £18.00 y flwyddyn. Rhowch ganiad i WendyScanlon, Trefnydd y Cyfeillion ar 029 2087 8557 amragor o fanylion.

    Ad-daliadau, Cyfnewidiau a DyblygiadauMae gan Neuadd Dewi Sant feddwl mawr o ymroddiad ei chyngherddwyr yn codi tocynnau’nfuan ac mae’n cydnabod bod pethau annisgwylweithiau’n eu rhwystro nhw rhag dod. Mae moddcyfnewid tocynnau am unrhyw ddigwyddiad arall amyr un pris neu fwy (o dalu’r gwahaniaeth). Nid yw’rdewis cyfnewid ar gael i gyngherddau sydd wedigwerthu pob tocyn. Os ydi’r digwyddiad yn rhan odymor penodol (ee Proms, Bale etc), cynigir tocynnaua gyfnewidir oddi mewn i’r un tymor. Rhaid i docynnauddod i law yn y Swyddfa Docynnau dim hwyrach na48 awr cyn y perfformiad gwreiddiol. Mae yna dâl o£2.00 y tocyn am y gwasanaeth yma. (Gwaetha’rmodd, ni ellir cyfnewid nac ailwerthu tocynnau agodwyd trwy Ganolfan Gofal Cwsmeriaid y BBC nacasiantaethau allanol yn Neuadd Dewi Sant.)

  • Gwybodaeth am godi tocynnau

    SUT I DDOD ATOMRydym yng nghalon Caerdyddnesaf at Ganolfan Siopa Dewi Santar Yr Aes.

    GWASANAETHAU IGWSMERIAID

    Os oes gennych chi ofynioneistedd arbennig a wnewch chi roi gwybod i’r SwyddfaDocynnau.

    Mae cyfleusterau i ddefnyddwyrcadeiriau olwyn yn cynnwys lloriaugwastad, cyfleusterau tai bach (yn y Bwyty ac ar Lefelau 2,3,4 a 5) achownteri lefel isel yn y SwyddfaDocynnau, yr Ystafell Gotiau a BarLefel 3. Gall defnyddwyr cadeiriauolwyn ynghyd ag un cydymaithgodi tocynnau i seddi cefn y stalauam bris y tocyn rhataf sydd ar gaelar gyfer y perfformiad. Efallai ybydd cwsmeriaid ag anawsteraucerdded yn cael mai seddi’r stalauydi’r mwyaf hygyrch.

    Mae system is-goch ar gael yn yrawditoriwm (ac eithrio Rheng 5) agellir ei defnyddio heb neu gydachymorth clywed. A wnewch chiroi gwybod i staff y SwyddfaDocynnau pan fyddwch chi’n codi tocynnau a rhoddircyfarwyddiadau defnyddio cyflawnpan gyrhaeddwch chi ar gyfer ydigwyddiad.

    Am wybodaeth ynghylch sut y gallcwsmeriaid â nam ar eusymudedd fynd i Neuadd DewiSant mewn cerbyd pan fyddannhw’n mynd i berfformiad neuddigwyddiadau penodol sydd hebfod yn berfformiadau, ewch idudalennau Eich Ymweliad aMynediad y wefanwww.stdavidshallcardiff.co.uk neuroi caniad i’r Swyddfa Docynnauar 029 2087 8444. Cofiwch, ermwyn cydymffurfio â chytundebrhwng Cyngor Caerdydd a HeddluDe Cymru, mai hyn a hyn o

    drwyddedau gollwng i gerbydaupreifat a rannir ar gyfer pobperfformiad yn ôl y drefn y cyntafi’r felin gaiff falu.

    Mae gwybodaeth amddigwyddiadau ar gael mewnfformatau Braille a phrint bras o’rddesg ar lawr gwaelod y Neuadd,Llyfrgell Ganolog Caerdydd aChymdeithas Deillion Caerdydd. I gael eich copi eich hun rhowchganiad i’r Adran Farchnata ar 029 2087 8542.

    Mae croeso i gw^ n tywys. A wnewch chi roi gwybod i’rSwyddfa Docynnau pan fyddwchchi’n codi tocynnau.

    Cynllun cenedlaethol newydd ydiHynt sy’n gweithio gyda theatraua chanolfannau celfyddydaudrwy hyd a lled Cymru i ymorolbod pethau’n glir ac yn gyson oran polisi tocynnau teg amynediad. Mae gan ddeiliaidcardiau Hynt hawl i docyn ynrhad ac am ddim i gynorthwywrpersonol neu ofalwr yn NeuaddDewi Sant a’r holl theatrau achanolfannau celfyddydau sy’nrhan o’r cynllun. Ewch iwww.hynt.co.uk i gaelgwybodaeth am y cynllun ac iymuno.

    24 | Swyddfa Docynnau 029 2087 8444

    A wnewch chi ymorol bod eichffôn symudol wedi’i ddiffodd yn ystod y perfformiad. Nichaniateir tynnu lluniau narecordio unrhyw berfformiad.