View
215
Download
0
Category
Preview:
Citation preview
Hau i
Fedi
www.ysgoluwchraddbodedern.org
@YUBoded
Bwletin Mai 2017
Kieran Jones
Enw sy’n hen gyfarwydd i’r bwletin yw Kieran o flwyddyn
10. Mae Kieran fel yr ydym yn gwybod yn llwyddiannus
iawn yn y byd pêl-fasged cadair olwyn. Ymhlith ei
lwyddiannau'r flwyddyn hon, mae wedi cynrychioli Cymru
yn y timau o dan 15, 19 a 23 oed. Mae ei dȋm lleol
‘Knights’ wedi ennill pob un o’u 12 gêm cynghrair a’u
galluogodd i gystadlu ar lefel genedlaethol yn Worcester.
Yn dilyn gemau anodd yn y gystadleuaeth, daeth y
‘Knights’ i’r brig!
Llongyfarchiadau iddynt ar yr aur, ac am fod yn
bencampwyr cenedlaethol Prydain 2016-2017.
Cafodd Kieran hefyd ei ddewis fel llysgennad anabledd
chwaraeon Ynys Môn er mwyn codi statws anabledd o
fewn chwaraeon ar draws y sir.
Ar lefel ysgol, mae Kieran gydag eraill wedi llwyddo i
ennill yr aur ar lefel rhanbarthol yng ngemau pêl-fasged
ysgolion Cymru yng Nghaerdydd ac yna 4ydd ar lefel
Prydeinig yn Worcester. Am fwy o’i hanes, mae erthygl
ddiddorol iawn yn y GAMP.
Zoe- May Owen
Mae’n braf cael trafod llwyddiannau ein disgyblion yn yr
ysgol a thu allan. Mae Zoe-May yn ferch ym mlwyddyn
11, sy’n flaengar iawn yn y gymuned. Yn ychwanegol i’w
gwaith ysgol yng nghyfnod prysur yr arholiadau, mae
Zoe-May wedi derbyn cydnabyddiaeth am ei gwaith
elusennol.
Ar ôl ei phenodiad fel brenhines elusennol Carnifal
Caergybi, mae wedi defnyddio’r rôl i godi arian ar gyfer
yr elusen Crohn’s and Colitis UK. Yn unigol mae Zoe-
May wedi codi bron i £5000 a chyda help cangen leol
codwyd £7000 yn ychwanegol. Cynhaliwyd stondinau
ganddi yng nghanol Caergybi. Trefnwyd digwyddiadau ar
y cyd gyda’r awyrlu yn RAF Valley ac yn dilyn cais i’r
cyngor ysgol, bydd yr ysgol yn cynnal diwrnod diwisg
ysgol, lle bydd canran o’r arian yn mynd at yr elusen.
Athletau Ysgolion Môn Bu cynrychiolaeth ar draws ystod o flynyddoedd yn athletau Ysgolion Môn y mis hwn.
Llongyfarchiadau i bawb ar gael eu dewis. Llwyddodd 6 disgybl i fynd ymlaen i
gynrychioli'r sir yng nghystadleuaeth Eryri.
Pob lwc i’r 6 a diolch i’r adran Addysg Gorfforol am eu hyfforddi, sef,
Jack Evans Blwyddyn 10- Pwysau
Siân Bown Blwyddyn 10- Naid Uchel
Lia Evans Blwyddyn 9- Pwysau
Aled Murphy Blwyddyn 8- 200m
Beth McCracken Blwyddyn 8- 800m
Shanellie Cooper Blwyddyn 8- Naid Uchel
Yr Adran Addysg Gorfforol
Pêl fasged IZB
Dyma’r tîm a lwyddodd i ddod yn 4ydd drwy Brydain yn dilyn eu buddugoliaeth
yng nghystadleuaeth Cymru. Diolch o galon i Gemma Thomas blwyddyn 13 am
eu harwain a'i hyfforddi.
Llwyddiant ar faes y bêl droed Curodd tîm pêl droed Blwyddyn 12 ac 13 yn erbyn Ysgol Uwchradd Caergybi
(3-0) yn ddiweddar. Diolch i Luke Roberts blwyddyn 13 am eu harwain.
Elain Rhys
Braf yw gweld un o dalentau mawr yr
ysgol a’r ardal yn cael ei chydnabod
unwaith eto. Mae Elain wedi ennill yn
genedlaethol yng nghystadlaethau’r Urdd.
Mae wedi dod i’r brig mewn 3 maes; 3ydd
am gyfansoddi cerddoriaeth, 2il am
erthygl newyddiadurol a chyntaf am
gyfansoddi gosodiad yn Eisteddfod yr
Urdd.
Bydd Elain ymhlith eraill yn cystadlu ar
lwyfan genedlaethol Eisteddfod yr Urdd yn
Pen y Bont ar Ogwr.
Pob lwc iddynt i gyd.
Presenoldeb
Mae’n bleser pob tro i gydnabod llwyddiannau ein disgyblion. Un llwyddiant sy’n cael ei
gymryd yn ganiataol yn aml yw presenoldeb da. Targed yr ysgol i bob plentyn yw
presenoldeb llawn. Deallwn wrth gwrs bod salwch yn medru cael effaith ond disgwylir i bob
plentyn fynychu’r ysgol am o leiaf 95% o’r flwyddyn. Mae colli ysgol yn rheolaidd yn medru
cael effaith ar gyrhaeddiad, a gyda chyfnod yr arholiadau wedi cyrraedd mae pob gwers yn
bwysig.
Mae’r tabl isod yn amlygu effaith absenoldeb dros y flwyddyn ysgol.
Presenoldeb Blwyddyn Ysgol Nifer
Diwrnodau
Nifer
Wythnosau Nifer Gwersi
90% 19 4 100
80% 38 8 200
70% 57 11.5 290
Gofynnir yn garedig i rieni hysbysu’r ysgol ar ddiwrnod cyntaf salwch eich plentyn am unrhyw
absenoldebau a’r diwrnod dychwelyd.
Eto'r tymor yma, cafwyd gwasanaeth arbennig er mwyn dathlu presenoldeb da gan ddilyn
cyfarwyddiadau'r cyngor ysgol o ddefnyddio sustem loteri i ddisgyblion sydd â phresenoldeb
da neu well. Mae tocyn yn cael ei roi i ddisgyblion sy’n cyrraedd ein targed o 95% a
phresenoldeb o 100% a chynnydd o 5% rhwng cyfnod arolygon. Y tymor yma, rhannwyd dros
400 o docynnau.
Mae’r rhif wedyn yn cael ei fwydo i’r rhaglen dewis rhif ar hap oddi ar y we.
Llongyfarchiadau i Lowri Thomas o flwyddyn 7, Courtney Williams o flwyddyn 8,
Louise Wiltshire o flwyddyn 9, Rhys Harris o flwyddyn 10 a Manon Hughes o
flwyddyn 11. Derbyniodd y 5 taleb stryd fawr werth £20.
Dyma Lowri, Manon, Louise a Rhys yn
derbyn eu talebau,- llongyfarchiadau!
Mae’r ysgol yn ymwybodol mai gwaith tîm yw cyrraedd ein targedau - a diolch i
rieni a staff mae presenoldeb disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern ar gynnydd. I
gydnabod llwyddiannau, byd Mr Bryan Griffiths yn trefnu brecwast diolch i 9A am
wneud y cynnydd mwyaf y tu mewn i gyfnod arolwg - cynnydd sylweddol 2.7% ers
y Nadolig - gwych!
Cynllun Arloesi नमस्ते (namaste)
Dyma chi gyfarchiad mewn Hindi a gafodd ddysgwyr blwyddyn 7 yn ddiweddar gan Sarah
Roberts a ddaeth i siarad hefo nhw am ei thaith hi a’i gŵr yn India y llynedd. Roedden nhw wedi
bod i ffwrdd ar daith o gwmpas y byd o’r blaen ond penderfynon nhw’r tro hwn dreulio 6 mis yn
India ei hun ac aros am 3 mis yn Dharamsala yng Ngogledd India lle bu’r ddau’n dysgu
Saesneg i Dibetiaid a oedd wedi ffoi o’u gwlad. Roedd yn brofiad gwerthfawr a chyfoethog iawn
yn ôl Sarah.
Cafodd y disgyblion wybod am eu taith trên o Kolkata yn y dwyrain i fyny i Dharamsala gan
stopio yn y ddinas ysbrydol, Varanasi, lle aiff miloedd ar filoedd o bobl i farw cyn cael eu llosgi ar
goelcerthi angladdol ar yr afon Ganges. Teflir y lludw i’r afon hefyd. Serch hynny, mae’r bobl yn
ymolchi ac yn golchi’u dillad yn yr afon. Cawsant hefyd gyfle i weld ambell i ddilledyn a
deunyddiau o’r wlad enfawr honno ac arogli perlysiau megis Cardamon gwyrdd a garam masala.
Siaradodd Sarah am eu profiad o fwyta llysiau’r rhan fwyaf o’r amser a sut i osgoi’r buchod
sanctaidd ar y strydoedd ac weithiau mewn adeiladau. Caiff pobl eu herlid os ydyn nhw’n cam-
drin buchod. Diolchwn iddi am ddod i’r ysgol i siarad am ei phrofiadau. Tybed a ysgogwyd rai
disgyblion i ymweld ag India?
Llwyddiant disgybl blwyddyn 11
Fel rhan o arlwy cwricwlwm disgyblion
CA4, mae cynnig iddynt fynychu cyrsiau
yng ngholeg Menai. Mae’n bleser pur i
gyhoeddi fod Tomos Simpson o flwyddyn
11 wedi derbyn gwobr fel un o ddysgwyr
blwyddyn 11.
Llongyfarchiadau Tomos, rydym i gyd yn
falch iawn ohonot.
Mae’r ŵyl genedlaethol yn agoshau. Mae’r ysgol yn barod yn codi
ymwybyddiaeth disgyblion drwy wasanaethau ac arddangosfeydd.
I godi ymwybyddiaeth y gymuned, bydd stondin yng nghyntedd yr ysgol yn
ystod noson rieni blwyddyn 8 ar y 23ain o Fai o 4.30 tan 7yh.
Mae croeso i bawb i ddod draw, i gael sgwrs gyda swyddogion yr
Eisteddfod a chipolwg ar gynllun y maes.
Yr Eisteddfod Genedlaethol
Cafodd Bodedern ymweliad eto gan y ‘Labordy mewn Lori’, sy’n labordy gwyddoniaeth deithiol i
bobl ifanc, er mwyn i bobl ifanc yr ardal ddod i gysylltiad â gwyddoniaeth.
Pwrpas ‘Labordy mewn Lori’ yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr, gan
gynnig y cyfle i blant rhwng 11 a 14 oed archwilio gwyddoniaeth trwy gyfrwng arbrofion
rhyngweithiol a grëwyd yn arbennig ar eu cyfer.
Mae’r ‘Labordy mewn Lori’ yng Nghymru yn bartneriaeth rhwng y Sefydliad Ffiseg a Llywodraeth
Cymru. Mae Sefydliad Schlumberger yn un o’r partneriaid a sefydlodd y rhaglen, a darperir
cymorth ar ffurf gwirfoddolwyr gan y Rhwydwaith Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a
Mathemateg. Nod ‘Labordy mewn Lori’ yw hybu agweddau cadarnhaol at wyddoniaeth a sicrhau
bod gwyddoniaeth a pheirianneg yn fwy deniadol i bobl ifanc rhwng 11 a 14 oed.
Diolch i Mr Francis, Pennaeth yr Adran Ffiseg am drefnu'r weithgaredd ac i’r llysgenhadon
STEM o blith Blwyddyn 13 am helpu.
Gwelwn rai o flwyddyn 7 yn mwynhau'r profiad.
‘Labordy mewn Lori’
Llongyfarchiadau i Courtney Jones,
Callum Jones, William Bell a Cara
Rogerson a gymrodd rhan yn ‘2016 Relay
for Life’ er mwyn codi arian ar gyfer
ymchwil Cancr ym Mhrydain. Fel rhan o‘r
ras gyfnewid 24 awr yn Nhreborth, cododd
y gofalwyr, goroeswyr cancr a’r
gwirfoddolwyr £70,550.82 i Cancer
Research UK.
Rhedwr o fri
Llongyfarchiadau i Mr Tom williams
Pennaeth yr adran Addysg Gorfforol am
gwblhau Marathon Llundain yn ddiweddar.
Cododd dros fil o bunnoedd tuag at yr
elusen Clic Seargent.
Recommended