8
Y Diolchgarwch hwn, mae’r Trefn Gwasanaeth 1 wedi ei ysbrydoli gan ferched grymus, sy’n cydsefyll i adnewyddu eu cymunedau a thrawsnewid eu bywyd yn Ethiopia. Yma, byddwn yn gweu darlleniadau, gweddïau a chaneuon gyda’i gilydd yn y gobaith y byddwn yn rhannu yn llawenydd y rhai sy’n casglu’r cynhaeaf o amgylch y byd wrth inni ddiolch am ddaioni Duw gartref. Trefn Gwasanaeth Diolchgarwch 2018 Gweithgarwch agoriadol Dangoswch y lluniau o fenter gydweithredol merched Ethiopia sydd ar gael ar ddiwedd y Trefn Gwasanaeth hon, ochr yn ochr â lluniau o’ch cymuned eglwysig a’ch cymuned leol, yn dysgu a gweithio gyda’i gilydd. Ymatebion agoriadol Gweddïo gyda’n gilydd rhannu gyda’n gilydd dyma newyddion da. Dysgu gyda’n gilydd gweithio gyda’n gilydd dyma newyddion da. Chwerthin gyda’n gilydd wylo gyda’n gilydd dyma newyddion da. Dyma newyddion da ar gyfer ein cymuned. Dyma newyddion da ar gyfer byd Duw. Emyn 621 Caneuon Ffydd (Yma’n hedd y mynydd sanctaidd) Gweddïau o nesâd Dduw ein creawdwr Dduw’r gwanwyn a’r Cynhaeaf rydym yma. Iesu’r storïwr Iesu ein ffrind rydym yma. Ysbryd Glân ein hanadl Dduw byw oddi fewn inni rydym yma. Rydym yma ar dy wahoddiad i gyfarfod â thi. (distawrwydd) Am ein tueddiad i weithio ar ein pen ein hunain pan fyddai’n well inni gydweithio, Dduw’r Cynhaeaf maddau inni. Am gau ein meddwl i storïau a sefyllfaoedd y dylem geisio eu deall a gweithredu arnynt, Dduw’r Cynhaeaf maddau inni. Am ein hanfodlonrwydd i ganiatáu i’r Ysbryd Glân ein herio a’n hail-wneud, Dduw’r Cynhaeaf maddau inni. (distawrwydd) Dywedodd Iesu – Gwrandewch, dyma Newyddion Da: Mae’r rhai sy’n gwrando ar fy neges a chaniatáu iddi dyfu yn eu calon a’u meddwl, yn parhau i fyw a charu nes iddynt ddwyn ffrwyth da. Amen. Apêl Diolchgarwch 2018

Apêl Diolchgarwch 2018 Trefn Gwasanaeth Diolchgarwch 2018...Y Diolchgarwch hwn, mae’r Trefn Gwasanaeth 1 wedi ei ysbrydoli gan ferched grymus, sy’n cydsefyll i adnewyddu eu cymunedau

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Y Diolchgarwch hwn, mae’r Trefn Gwasanaeth1 wedi ei ysbrydoli gan ferched grymus, sy’n cydsefyll i adnewyddu eu cymunedau a thrawsnewid eu bywyd yn Ethiopia. Yma, byddwn yn gweu darlleniadau, gweddïau a chaneuon gyda’i gilydd yn y gobaith y byddwn yn rhannu yn llawenydd y rhai sy’n casglu’r cynhaeaf o amgylch y byd wrth inni ddiolch am ddaioni Duw gartref.

    Trefn GwasanaethDiolchgarwch 2018

    Gweithgarwch agoriadolDangoswch y lluniau o fenter gydweithredol merched Ethiopia sydd ar gael ar ddiwedd y Trefn Gwasanaeth hon, ochr yn ochr â lluniau o’ch cymuned eglwysig a’ch cymuned leol, yn dysgu a gweithio gyda’i gilydd.

    Ymatebion agoriadolGweddïo gyda’n gilyddrhannu gyda’n gilydddyma newyddion da.

    Dysgu gyda’n gilyddgweithio gyda’n gilydddyma newyddion da.

    Chwerthin gyda’n gilyddwylo gyda’n gilydddyma newyddion da.

    Dyma newyddion daar gyfer ein cymuned.Dyma newyddion daar gyfer byd Duw.

    Emyn 621 Caneuon Ffydd(Yma’n hedd y mynydd sanctaidd)

    Gweddïau o nesâdDduw ein creawdwrDduw’r gwanwyn a’r Cynhaeafrydym yma.

    Iesu’r storïwrIesu ein ffrindrydym yma.

    Ysbryd Glân ein hanadlDduw byw oddi fewn innirydym yma.

    Rydym ymaar dy wahoddiadi gyfarfod â thi.

    (distawrwydd)

    Am ein tueddiad i weithio ar ein pen ein hunain pan fyddai’n well inni gydweithio,Dduw’r Cynhaeaf maddau inni.

    Am gau ein meddwl i storïau a sefyllfaoedd y dylem geisio eu deall a gweithredu arnynt,Dduw’r Cynhaeaf maddau inni.

    Am ein hanfodlonrwydd i ganiatáu i’r Ysbryd Glân ein herio a’n hail-wneud,Dduw’r Cynhaeaf maddau inni.

    (distawrwydd)

    Dywedodd Iesu –Gwrandewch, dyma Newyddion Da:Mae’r rhai sy’n gwrando ar fy neges a chaniatáu iddi dyfu yn eu calon a’u meddwl,yn parhau i fyw a charu nes iddynt ddwyn ffrwyth da. Amen.

    Apêl Diolchgarwch 2018

  • Y Darlleniad Beiblaidd cyntafLuc 8:1-15 (fersiwn ar gyfer chwe llais)

    Llefarydd Teithiodd Iesu trwy drefi a phentrefi, yn pregethu am y newyddion da am deyrnasiad Duw.

    Llais 1 Aeth y deuddeg disgybl gydag ef.

    Llais 2 Ac felly hefyd aeth rhai merched oedd wedi eu hiachau o ysbrydion aflan a heintiau - roedd Mair Magdalen yn un ohonynt.

    Llais 3 Roedd Joanna, oedd a’i gŵr Chuza yn swyddog yn llys Herod, yn un arall.

    Llais 4 Ac roedd Siwsana gyda hwy hefyd, ac roedd llawer o rai eraill.

    Llais 5 Defnyddiodd y merched hyn eu hadnoddau eu hunain, eu sgiliau a’u syniadau a’u harian eu hunain, i gefnogi Iesu a’i ddisgyblion.

    Llefarydd Roedd pobl o un dref ar ôl y llall yn dod i chwilio am Iesu. Un diwrnod, pan oedd tyrfa fawr wedi casglu, dywedodd y stori hon wrthynt.

    Llais 1 Unwaith roedd yna ffermwr a aeth allan i hau.

    Llais 2 Wrth iddo hau’r had yn y cae, disgynnodd peth ohono ar y llwybr ac fe sathrodd pobl arno, ac fe ddaeth yr adar a’i fwyta.

    Llais 3 Disgynnodd peth o’r had ar dir creigiog, lle’r oedd ond chydig iawn o bridd. Pan ddechreuodd yr had hwn dyfu yn yr haul poeth doedd dim lleithder yn y ddaear a sychodd y planhigion a marw.

    Llais 4 Syrthiodd peth o’r had ymysg planhigion drain ifanc. Tyfodd y drain gyda’r had a’i dagu.

    Llais 5 A syrthiodd peth o had y ffermwr mewn pridd da. Tyfodd yr hadau hyn i’w llawn dwf a chynhyrchu cannoedd ar gannoedd o ronynnau haidd.

    Llefarydd Yn ddiweddarach daeth y disgyblion at Iesu a gofyn iddo egluro beth a olygai’r stori.

    Llais 1 Wel, meddai Iesu, yr hadau yn y stori yw’r newydd da am sut y mae Duw yn eich caru ac am ichi fyw eich bywyd.

    Llais 2 Mae’r hadau a ddisgynnodd ar y llwybr yn debyg i’r bobl sy’n clywed be ddywed Duw, ond pan fo pobl ddrwg yn dweud wrthynt nad yw geiriau Duw yn wir, dydyn nhw ddim yn gwrando ar eiriau Duw mwyach.

    Llais 3 Mae’r hadau a ddisgynnodd ar dir creigiog yn debyg i’r bobl sydd yn hapus i glywed geiriau Duw ond pan mae pethau anodd yn digwydd yn eu bywyd, oherwydd nad yw gair Duw wedi gwreiddio yn eu bywyd, maent yn disgyn yn ôl.

    Llais 4 Mae’r hadau a dyfodd gyda’r drain yn debyg i’r bobl a glywodd eiriau Duw, ond caiff y geiriau eu tagu gan bryderon am gyfoeth a phleserau bywyd, ac nid yw’r hadau hyn byth yn aeddfedu.

    Llais 5 Ond yr hadau a ddisgynnodd ar dir da, dyma’r bobl a glywodd eiriau Duw a’u cadw yn eu calon. Dyma’r bobl a glywodd y newydd da a’i fyw.

    Llefarydd Dyma’r hadau sydd yn parhau i dyfu nes iddynt ddwyn ffrwyth da a’u bod yn barod ar gyfer y Cynhaeaf.

    Emyn 674 Caneuon Ffydd(Fy nghalon, cred yn Nuw)

    Ail ddarlleniad BeiblaiddDiarhebion 8:1-12, 18-21 (fersiwn ar gyfer dau lais)

    Llais 1 Mae doethineb yn galw, a deall yn codi ei lais.

    Mae hi’n sefyll ar fannau uchaf y dref, wrth ymyl y croesffyrdd, ac wrth ymyl giatiau’r ddinas.

    Mae hi’n gweiddi wrth y fynedfa.

  • Llais 2 Dw i’n galw arnoch chi i gyd, bobl! Dw i’n galw ar y ddynoliaeth gyfan. Chi rai gwirion, dysgwch sut mae bod yn gall; chi bobl ddwl, dysgwch chithau rywbeth. Gwrandwch, achos mae gen i bethau gwych i’w dweud; dw i am ddweud beth sy’n iawn wrthoch chi. Dw i bob amser yn dweud y gwir; mae’n gas gen i gelwydd.

    Mae pob gair dw i’n ei ddweud yn iawn, does dim twyll, dim celwydd. Mae’r peth yn amlwg i unrhyw un sy’n gall, ac mae unrhyw un craff yn gweld eu bod yn iawn.

    Cymer beth dw i’n ei ddysgu, mae’n well nag arian; ac mae’r arweiniad dw i’n ei roi yn well na’r aur gorau.” Ydy, mae doethineb yn well na gemau gwerthfawr; does dim byd tebyg iddi.

    Llais 1 Mae doethineb yn galw, a deall yn codi ei lais. Mae hi’n sefyll ar fannau uchaf y dref, wrth ymyl y croesffyrdd, ac wrth ymyl giatiau’r ddinas. Mae hi’n gweiddi wrth y fynedfa,

    Llais 2 Dw i’n rhoi cyfoeth ac anrhydedd i bobl, cyfoeth sy’n para, a thegwch. Mae fy ffrwyth i’n well nag aur, ie, aur coeth, a’r cynnyrch sydd gen i yn well na’r arian gorau. Dw i’n dangos y ffordd i fyw’n gyfiawn, a gwneud beth sy’n iawn ac yn deg. Dw i’n rhoi etifeddiaeth gyfoethog i’r rhai sy’n fy ngharu, ac yn llenwi eu trysordai nhw.

    Mae doethineb yn galw, a deall yn codi ei lais. Mae hi’n sefyll ar fannau uchaf y dref, wrth ymyl y croesffyrdd, ac wrth ymyl giatiau’r ddinas. Mae hi’n gweiddi wrth y fynedfa,

    Emyn 834 Caneuon Ffydd(Tydi, yr hwn a roddaist)

    Pregeth

    Casgliad

    Gweddïau o ddiolchgarwch ac eiriolaethNid yw ei gasglu wedi bod mor rhwydd y blynyddoedd diwethaf, mae newid hinsawdd, trachwant dyn, llifogydd a sychder a haint i gyd wedi gadael eu hôl. Dduw’r greadigaeth, wrth inni ganu emynau llawen ac edmygu arddangosfa’r cynhaeaf, rho inni drugaredd a dealltwriaeth sydd yn ein symud y tu hwnt i’n siom am brisiau uwch y siopau, yn ein symud i weddi a chonsyrn gweithredol dros y rhai sy’n dibynnu ar y cynhaeaf yn ei holl ffurfiau. (2)

    Gweddïwn dros ferched a theuluoedd pentrefi Alduba a Chali yn Ethiopia,Dduw’r cynhaeaf gwrando ein gweddi.

    Gweddïwn dros bobl o amgylch y byd sy’n cyd-weithio i gefnogi eu hunain a’u cymunedau,Dduw’r cynhaeaf gwrando ein gweddi.

    Gweddïwn gyda phartneriaid Cymorth Cristnogol a phawb sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth,Dduw’r cynhaeaf gwrando ein gweddi.

    Gweddïwn dros ein cymunedau ein hunain yn … (rhowch enw eich cymuned a’ch anghenion lleol yma)Dduw’r cynhaeaf gwrando ein gweddi.

    Gweddïwn drosom ein hunain … ein hanghenion, ein cwestiynau, ein breuddwydion,Dduw’r cynhaeaf gwrando ein gweddi.

    Dduw’r cynhaeaf gwna ni yn rhoddwyr hael. Derbyn ein diolch a gwrando ein gweddïau. Rho inni heddiw dy gariad a’th fendith. Amen.

    Tynnu llun grŵpFel lluniau grŵp y cymunedau o ferched yn Ethiopia, gwahoddwn chi i dynnu llun grŵp o’ch cynulleidfa yn ystod eich Gwasanaeth Diolchgarwch. Os ydych yn hapus iddo fynd ar y cyfryngau cymdeithasol, os gwelwch yn dda rhannwch ef gyda #CydSefyll ac enw eich eglwys. Tagiwch:@DileuTlodi ar Trydar@ChristianAidCymru ar Facebook@christianaiduk ar InstagramNeu os yw’n well gennych, anfonwch eich lluniau at [email protected] ac fe’i rhannwn ar sianeli Cymorth Cristnogol Cymru ar eich rhan.

  • Rhif elusen Cymru a Lloegr 1105851 Rhif cwmni DG 5171525. Nodau masnachu Cymorth Cristnogol yw’r enw Cymorth Cristnogol a’r logo. Mae Cymorth Cristnogol yn aelod allweddol o ACT Alliance. © Cymorth Cristnogol Ebrill 2018. J61022 Llun: Cymorth Cristnogol/Matthew Gonzalez-Noda. Bydd yr arian a godir trwy ein Hapêl Diolchgarwch 2018 yn derbyn cyfraniad cyfatebol gan yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ymrwymo i ariannu 80% o brosiect Chwalu’r Rhwystrau. Mae Cymorth Cristnogol wedi ymrwymo i ariannu’r 20% sy’n weddill trwy apeliadau a chyfraniadau eraill.

    Emyn 104 Caneuon Ffydd(Am bryderferthwch daear lawn)

    Gweddi i gloiDduw, a wnaeth y ddaear,gwreiddia ni’n ddwfn yn dy gariada thyfa doethineb a chyfiawnder ynom.Amen.

    Iesu, a adroddodd storïau gwych,heua dy newyddion da yn ein calon,a helpa ni i’w fyw gyda’n gilydd, yn llawen.Amen.

    Ysbryd Glân yr antur,heria ni a chalonoga ni ein holl ddyddiauac arwain ni gartref i’r Cynhaeaf.Amen.

    Nodiadau1. Paratowyd y Trefn Gwasanaeth gan Ruth Burgess

    o Gymuned Iona ac aelod o gymuned addoli a diwinyddiaeth Cymorth Cristnogol.

    2. Cyfieithiad o ‘Acorn and Archangels’ gan Ruth Burgess, Wild Goose Publications, t 147, Carolyn Morris, ionabooks.com

    Awgrymiadau yn unig yw’r emynau a gynhwysir. Ar bob cyfrif, teimlwch yn rhydd i ddewis emynau sydd wrth eich bodd eich hun.

  • Cyfarfod o grŵp hunan-help merched Shaka (‘goleuni’r bore’), yn siop solar Shaka yn Ethiopia.

    Grŵp hunan-help merched Shaka yn eu siop solar.

  • Aberash a’i theulu y tu allan i’r tŷ iddynt ei godi, yn defnyddio’r arian a godwyd trwy’r siop solar. Mae Aberash yn aelod o’r grŵp merched sy’n rhedeg y siop a enwyd yn ‘Shaka’ oherwydd ei fod wedi llewyrchu goleuni yn eu bywyd.

    Aelodau o grŵp merched Shaka yn gwerthu plisg coffi yn y farchnad. Ari Fereda sydd ar y dde. Defnyddiodd Ari fenthyciad gan y grŵp merched er mwyn ehangu a gwella ei busnes da byw (pesgi geifr) mewn adegau o sychder.

  • Mae Abebech Libane, 38, yn rhedeg siop leol gyda’i gŵr Akayake. Mae’n aelod o grŵp merched Addis, ac mae wedi ehangu ei busnes siop gyda help benthyciadau gan y grŵp.

    Mae aelodau o grŵp merched Addis yn creu incwm trwy weithio yng nghaeau ffermwyr.(O’r chwith): Aster Argo, 29. Aasnakech Almi, 27. Makesho Mata, 49. Adaneh Muda, 28. Tigist Lifo, 28. Maysso Aliyo, 23.

  • Cyfarfod o grŵp merched Addis (‘yr un newydd’).

    Cyfarfod o grŵp merched Addis.