13
TAG Astudiaethau Crefyddol RS3 CHR: Astudio Cristnogaeth (U2) Topig 3 gan Gordon Reid

Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

  • Upload
    others

  • View
    7

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

TAG Astudiaethau Crefyddol RS3 CHR: Astudio Cristnogaeth (U2)

Topig 3

gan Gordon Reid

Page 2: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

1

Astudiaethau mewn Cristnogaeth (U2)

_____________________________________________________________________ Topig 3: Diwinyddiaeth Ffeministaidd Amcan Ar ddiwedd y pwnc hwn dylech allu:

• deall prif safbwyntiau diwinyddion ffeministaidd • gwerthuso i ba raddau yr effeithiodd y safbwyntiau hyn ar strwythurau a

chredoau traddodiadol yr Eglwys Gristnogol • deall dehongliadau o’r Beibl sy’n cynnwys materion o oruchafiaeth y

gwryw • gwerthuso’r damcaniaethau hyn • deall damcaniaethau ffeministaidd ynglŷn â chredoau crefyddol ac

awdurdod patriarchaidd • gwerthuso dadleuon ynglŷn â rhyw (gender) Duw ac Iesu Grist • gwerthuso’n feirniadol amrywiaeth o wahanol safbwyntiau ar ordeinio

merched a thynnu casgliadau ar sail rheswm a thystiolaeth • gweld y cysylltiadau rhwng y pwnc hwn a phynciau eraill yn yr uned.

Rhagarweiniad: Beth yw Diwinyddiaeth Ffeministaidd? Mudiad yw diwinyddiaeth ffeministaidd sy’n archwilio traddodiadau, ysgrythurau, arferion a chredoau crefyddol o safbwynt ffeministaidd. Amcan diwinyddion ffeministaidd yw ailystyried rôl merched mewn crefydd ac ail werthuso’r hyn a ystyria llawer yn strwythurau awdurdod sy’n rhoi blaenoriaeth i’r gwryw a’r defnydd o ddelweddau ac iaith wrywaidd wrth sôn am Dduw. Cychwynnodd diwinyddiaeth ffeministaidd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan gyhoeddodd Elizabeth Cady Stanton The Women’s Bible, a heriai ragdybiaethau traddodiadol am wrywedd Duw. Ers hynny, bu ffeministiaid yn hawlio cydraddoldeb i ferched yn yr Eglwys ac yn galw am ddiwygio’n helaeth strwythurau awdurdod eglwysig. Buont hefyd yn herio iaith ddiwinyddol draddodiadol wrywaidd. Er enghraifft, yn lle’r ffurf wrywaidd ‘theo’, y mae’n well gan lawer ffeminist ddefnyddio’r ffurf fenywaidd ‘thea’ wrth astudio Duw. Bydd eraill yn sôn am Dduw/ies neu am Dduw diryw (ef/hi).

Page 3: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

2

Pwnc trafod: A ddylem ni alw ‘Duw’ yn ‘dduwies’ hefyd?

Daeth diwinyddion ffeministaidd i wrthdrawiad â Christnogaeth am fod llawer ohonynt yn credu bod Cristnogaeth yn trin merched fel pobl eilradd o safbwynt eu rôl a’r modd y deellir eu bod ar ddelw Duw. Yn 20th Century Theology: God and the World in a Transitional Age (IVP, 1993) nododd Grenz ac Olson: ‘Datblygodd diwinyddiaeth ffeministaidd mewn tri cham pendant ... beirniadu’r gorffennol ... chwilio am safbwyntiau Beiblaidd gwahanol ... a gosod allan eu dull unigryw o ddiwinydda, sy’n cynnwys adolygu safbwyntiau Cristnogol.’

Pwnc seminar:

A yw’n iawn newid syniadau crefyddol neu a ddylent fod yr un fath bob amser? Strwythurau patriarchaidd: pwyslais gwrywaidd Cristnogaeth Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth y Beibl mewn dull gwrywaidd. Y maent yn hawlio:

• Mai gwrywaidd yw ffynonellau traddodiadol awdurdod crefyddol, megis y Beibl a’r traddodiad offeiriadol. Cred diwinyddion ffeministaidd nad wrth ei ryw y dylid adnabod Duw ond trwy brofiad personol.

• Byddwn yn defnyddio termau gwrywaidd wrth sôn am Dduw (e.e. ‘Tad’). Y mae diwinyddion ffeministaidd yn chwilio am iaith nad yw’n cyfeirio at ryw.

• Gwelir Duw fel gwryw a chanddo nodweddion gwrywaidd megis awdurdod a disgyblaeth. Dylid rhoi mwy o bwyslais ar ei nodweddion benywaidd megis maeth, gofal a chreadigrwydd.

• Dylid rhoi mwy o bwyslais ar rôl hanesyddol merched mewn traddodiadau crefyddol. Dylanwadodd llawer o ferched yn drwm ar gred grefyddol.

• Datganodd y ffeminist flaenllaw Sojourner Truth (daw’r dyfyniad o Ain’t I a Woman gan P. Mckissack, 1994, Scholastic Press):

‘A sut y daeth Iesu i’r byd ... trwy Dduw a’i creodd a’r ferch a’i dygodd. Ddyn, pa ran oedd gennyt ti?’

Page 4: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

3

Pwnc ymchwil:

Gwnewch restr o enghreifftiau o iaith bob dydd yn defnyddio termau rhywiaethol (sexist). Pa dermau y byddwn yn eu defnyddio mewn iaith bob dydd sydd fel pe baent yn rhoi awdurdod i’r naill ryw neu’r llall e.e. ‘meistr’ ‘llywodraethwr’? Y mae tri phrif safbwynt mewn diwinyddiaeth ffeministaidd, a’r tri’n wahanol iawn i’w gilydd:

• Safbwynt y ‘gwrthodwyr’, sef bod y Beibl yn hyrwyddo strwythur patriarchaidd gormesol sy’n rhoi blaenoriaeth i’r gwryw, a darlun gwryw o Dduw. Mae’r safbwynt hwn yn amau holl draddodiad Cristnogaeth ac yn galw am lwyr ail-werthuso’r Eglwys Gristnogol. Hawlia’i gefnogwyr fod y Beibl yn amlwg wrywaidd ac wedi dyddio ac nad oes ganddo heddiw ond ychydig neu ddim dylanwad, ac maen nhw’n annog dychwelyd at weld crefydd yn nhermau duwdod benywaidd neu dduwies.

• Safbwynt y ‘diwygwyr’, sy’n cytuno bod gormod o bwyslais ar

oruchafiaeth wrywaidd mewn Cristnogaeth, ond yn galw nid am wrthod y traddodiad Cristnogol ond am roi pwyslais newydd ar gydraddoldeb. Weithiau, gelwir cefnogwyr y safbwynt hwn yn ffeministiaid rhyddfrydig ac y maent yn gweithredu oddi mewn i Gristnogaeth. Credant mai’r rheswm am natur batriarchaidd yr ysgrythurau yw iddynt gael eu camddehongli gan lawer o ysgrifenwyr gwrywaidd a fu’n celu’n fwriadol rôl merched yng nghyfnod y Beibl.

• Y safbwynt ‘teyrngar’ sef nad oes rhywiaeth ormesol yn y Beibl. Y mae llawer o gefnogwyr y safbwynt hwn yn derbyn y gred draddodiadol mai lle’r ferch yng nghread Duw yw ymostwng a dibynnu ar yr eglwys a’r teulu. Honnant nad yw arweinyddiaeth dynion yn lleihau rhyddid nac urddas merched. Fel rheol, bydd cefnogwyr y safbwynt hwn, a elwir yn aml yn ffeministiaid efengylaidd, yn derbyn awdurdod dysgeidiaeth y Beibl. Pwnc seminar Pa un o’r tri safbwynt hwn sydd fwyaf argyhoeddiadol a pham? Pa un

sydd leiaf argyhoeddiadol? Rhowch resymau. Y man cychwyn i lawer o ddiwinyddion ffeministaidd yw profiad merched ac ymwrthod â ‘phatriarchaeth’, sef y strwythur awdurdod lle y mae dynion yn rheoli merched. Dadleuant na fydd merched yn wir fodau dynol nes diddymu patriarchaeth. Yn benodol, rhaid ail-werthuso’r Beibl, am y gall y Beibl fod yn ormes ar ferched. Dylid rhoi mwy o bwyslais ar rôl merched yn yr ysgrythurau.

Page 5: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

4

Pwnc trafod:

A ellir mewn gwirionedd ail-werthuso’r Beibl? Iaith ddiwinyddol o naws wrywaidd Cred diwinyddion ffeministaidd fod darostwng merched yn deillio o’r hanes Beiblaidd am Gwymp Adda ac Efa, ac i ysgrifenwyr diweddarach y Beibl, ac arweinyddion Cristnogaeth, gamliwio gweddill yr ysgrythurau yng ngoleuni’r hanes hwnnw. Dadleuant mai o ddefnydd yr Hen Destament o iaith wrywaidd ei naws y daw’r delweddau gwrywaidd o Dduw fel Tad ac yr anwybyddwyd llawer o ddarnau ysgrythurol sy’n tanlinellu ochr fenywaidd Duw: er enghraifft: ‘Fel y mae llygaid caethferch yn gwylio llaw ei meistres, felly y mae ein llygaid ninnau yn gwylio'r Arglwydd.’ – Salm 123.2 Ysgrifennodd E. Margaret Howe yn The positive case for the ordination of women (Grand Rapids, 1979): ‘Yr ydym ym maes mytholeg pan fyddwn yn meddwl am Dduw fel gwryw yn hytrach na benyw, yn union fel y byddem pe baem yn meddwl amdano fel benyw yn hytrach na gwryw. Y mae’r bod o Dduw yn trosgynnu cyfyngiadau rhywioldeb.’ Mae’r Beibl fel pe bai’n rhoi safbwyntiau gwrthgyferbyniol ar ferched. Dan Gyfraith Moses yr oedd rhai rheolau a oedd yn amlwg yn ffafrio’r gwryw: ‘Bydd gwraig sy'n beichiogi ac yn geni mab yn aflan am saith niwrnod ... Os bydd yn geni merch, yna bydd yn aflan am bythefnos.’ - Lefiticus 12:2,5 ‘Os bydd dyn wedi cymryd gwraig a'i phriodi, a hithau wedyn heb fod yn ei fodloni am iddo gael rhywbeth anweddus ynddi, yna y mae i ysgrifennu llythyr ysgar iddi, a'i roi yn ei llaw a'i hanfon o'i dŷ.’ – Deuteronomium 24:1 Fodd bynnag, y mae yng Nghyfraith Moses lawer o ddeddfau sy’n benodol yn amddiffyn hawliau merched ac yn hyrwyddo cydraddoldeb: ‘Anrhydedda dy dad a'th fam.’ – Exodus 20:12 Weithiau, darlunnir Duw mewn modd gwrywaidd iawn: ‘Ti yw fy Mrenin a'm Duw … Trwot ti y darostyngwn ein gelynion … y sathrwn ein gwrthwynebwyr.’ – Salm 44:4-5 Dro arall, ymddengys mewn gwedd fenywaidd: ‘A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, neu fam blentyn ei chroth? Fe allant hwy anghofio, ond nid anghofiaf fi di.’ – Eseia 49:15

Page 6: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

5

Yn ddiddorol, daliai merched yng nghyfnod yr Hen Destament swyddi uchel yn y gymdeithas Hebreig, yn broffwydi, barnwyr a llywodraethwyr. Yn y Testament Newydd rhoddir bri mawr ar Fair, mam Iesu, ac i ferched yr ymddangosodd y Crist atgyfodedig am y tro cyntaf.

Pwnc ymchwil:

I ba raddau y mae’r Beibl yn cyflwyno darlun anghyson o Dduw? Rhowch enghreifftiau. Dadleuodd Mary Daly fod gan Gristnogaeth, gyda’i symbolau gwrywaidd o Dduw, ei gwaredwr o wryw a’i hanes hir o arweinwyr a meddylwyr gwrywaidd, ragfarn yn erbyn merched na ellir ei newid, ac anogodd ferched i droi eu cefn ar y grefydd. Yn Beyond God (Llundain, 1973) y mae’n herio’r holl syniad o Dduw fel ‘Tad’, gan fynnu mai ffrwyth dychymyg gwrywaidd ydyw: ‘Os yw Duw’n wryw, yna y mae’r gwryw’n Dduw.’ Honna na ellir ystyried Duw mewn termau dynol (anthropomorffaeth). Berf, meddai, yw Duw - nid gwrthrych ond dull o ‘Fod-oli’. Mae’n mynd ymlaen i ddweud nad oes gan Dduw gynllun, nad yw’n barnu pechod nac yn pennu bywyd ar ôl marwolaeth. Ar un ystyr, daw pawb o hyd i’w dduw oddi mewn iddo’i hun: ‘Ystyr bod yn feidrol yw medru eich enwi eich hun, y byd a Duw.’

Pwnc trafod: A yw hyn yn gydnaws â chred y Cristion?

Aeth Daphne Hampson yn Theology and Feminism (Rhydychen, 1990) ymhellach. Honna mai ‘ôl-Gristion’ ydyw a ymwrthododd â Christnogaeth draddodiadol am nad yw’n gydnaws â’i safbwyntiau ffeministaidd. Myn fod moesoldeb Cristnogol yn rhywiaethol ac annilys. Mewn darlith yn 1997 dywedodd: ‘Nid peth niwtral yw’r myth (Cristnogol); mae’n beth hynod beryglus. Darlun gwrywaidd ydyw – un disglair a chyfrwys a chymhleth – a dynnwyd i gyfreithloni byd patriarchaidd ac i alluogi dynion i ddod o hyd i’w ffordd o’i fewn ... Rhaid inni ei weld am yr hyn ydyw. Person ysbrydol, nid anffyddiwr, wyf fi ... y mae’n amlwg i mi bod yna rywbeth daionus a phrydferth a threfnus o dan bopeth, fod iddo nerth ac y gallwn dynnu oddi arno a bod perthynas rhyngom ag ef. Rwy’n galw’r peth hwnnw’n Dduw.’

Page 7: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

6

Pwnc trafod: A yw’r safbwynt hwn ar Dduw yn gydnaws â Christnogaeth

draddodiadol? I Hampson, y mae ffeministiaeth yn anghydnaws â Christnogaeth. ‘Arall’ yw Duw’r Beibl am ei fod yn bod cyn y creu. Y mae ffeministiaeth, fodd bynnag, yn gweld Duw nid fel ‘arall’ ond fel un sy’n gysylltiedig â phopeth sy’n bod. Geiriau tebyg sydd gan Rosemary Radford Ruether yn Sexism and God Talk (Llundain, 1983): ‘Egwyddor hanfodol diwinyddiaeth ffeministaidd yw hyrwyddo cyflawn ddynoliaeth merched.’ Mae’n mynd ymlaen i awgrymu y dylid gwrthod y darnau hynny o’r Beibl sy’n gormesu ar ferched neu’n pwysleisio awdurdod gwrywaidd – pethau fel: ‘Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gŵyr fel i'r Arglwydd; oherwydd y gŵr yw pen y wraig.’ – Effesiaid 5: 22-23 ‘Nid Adda a dwyllwyd; y wraig oedd yr un a dwyllwyd, a chwympo drwy hynny i drosedd.’ – 1 Timotheus 2:14

Pwnc seminar: Os gair Duw yw’r Beibl, a yw hi’n iawn gwrthod rhannau ohono?

Yn ôl Ruether: ‘Mae’r testunau hyn wedi colli eu grym dros ein bywydau. Does dim rhaid inni fwyach ymddiheuro drostynt na cheisio’u dehongli fel gair y gwirionedd; gallwn fwrw ymaith eu neges ormesol fel mynegiant o’r drwg.’ Yn Wisdom Ways: Introducing Feminist Biblical Interpretation (Efrog Newydd, 2001) hawlia Elizabeth Schussler Fiorenza mai mudiad rhyddid yw diwinyddiaeth ffeministaidd; ei amcan yw dileu strwythurau tra-arglwyddiaeth batriarchaidd a rhaid i Gristnogion roi’r gorau i argyhoeddiadau traddodiadol, gan gynnwys y gred mai Duw gwrywaidd a ysgrifennodd y Beibl. ‘Golyga cymryd rhan mewn ysbrydolrwydd ffeministaidd Beiblaidd ... dysgu sut i ddarllen a deall y Beibl o safbwynt damcaniaeth ffeministaidd am gyfiawnder a mudiad ffeministaidd o blaid newid.’ Hawlia y dylid:

• gwrthod y rhannau hynny o’r Beibl sy’n gormesu ar ferched • anrhydeddu merched yn y Beibl a gam-driniwyd gan batriarchaeth • ailysgrifennu testunau Beiblaidd i roi eu priod le i ferched.

Page 8: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

7

Tasg ysgrifennu: (a) Archwiliwch y safbwynt bod y Beibl a’r Eglwys yn hyrwyddo strwythurau patriarchaidd. (b) ‘Y mae pwyslais gwrywaidd i Gristnogaeth’. Aseswch y safbwynt hwn. Person Crist ac oblygiadau ei ryw i’r weinidogaeth Gristnogol Y mae ffeministiaid yn rhanedig ar fater Person Iesu Grist. Ystyria ffeministiaid rhyddfrydig ac efengylaidd fod Iesu’r Beibl yn gefnogol iawn i ferched a’i fod yn eu trin yn gydradd â dynion. Er enghraifft, yn Luc 10, y mae’n caniatáu i Fair eistedd gyda’r dynion i wrando arno’n dysgu ac yn Ioan 21 Mair Magdalen yw’r un gyntaf i weld y Crist atgyfodedig. ‘Mae’n briodol ystyried bod goruchafiaeth wrywaidd a marwolaeth yn groes i fwriad gwreiddiol Duw wrth greu’r byd. Canlyniad pechod yw’r ddau beth ...’

Pwnc trafod: Beth yw ystyr ‘melltith Efa’?

O ganlyniad i farwolaeth ac atgyfodiad Crist, mae ffeministiaid yn mynnu bod yr oruchafiaeth hon yn awr ar ben oherwydd, fel y dywed Paul: ‘Yng Nghrist Iesu y mae cyfraith yr Ysbryd, sy'n rhoi bywyd, wedi dy ryddhau o afael cyfraith pechod a marwolaeth.’ – Rhufeiniaid 8:2 Yn y llyfr a enwyd eisoes dywed Howe: ‘Rhyddhaodd marwolaeth Crist y ddynolryw rhag melltith pechod. Nid yw’r ferch bellach i’w darostwng dan benarglwyddiaeth dyn. Gellir yn awr adfer y cydberthynas a fwynhâi Adda ac Efa â’i gilydd.’ Y mae’r Apostol Paul yn cefnogi hyn: ‘Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu.’ – Galatiaid 3:28 Y mae ffeministiaid eraill, fodd bynnag, yn fwy beirniadol o Berson Iesu. Yn Changing the Gods (Boston, 1979) dadleua Naomi Goldenberg fod defnyddio rhagenwau gwrywaidd am Dduw a darlunio Iesu mewn modd gwrywaidd yn annerbyniol am fod hynny fel pe bai’n rhoi blaenoriaeth i’r bydolwg gwrywaidd. Cred fod hyn yn deillio i raddau helaeth o’r cysyniad Iddewig-Gristnogol o Dduw, a rhaid cyfnewid y cysyniad hwnnw am ddarlun o Dduw nad yw’n wryw na benyw ac, efallai, am grefydd newydd: ‘Yr ydym ni ferched yn mynd i roi terfyn ar Dduw ... y mae’r mudiad ffeministaidd yn niwylliant y Gorllewin yn araf ddienyddio Crist.’

Page 9: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

8

Pwnc seminar: I ba raddau y mae diwinyddiaeth ffeministaidd yn gwrthod safbwyntiau Cristnogol traddodiadol?

Yn Pure Lust: Elemental Feminist Theology (Boston, 1984), aeth Mary Daly ymhellach, a hawlio y dylid ymwrthod yn llwyr â’r gair ‘Duw’, am ei fod yn llawn o ddelweddaeth wrywaidd a bod ymgnawdoliad Crist yn: ‘… cyfreithloni’n symbolaidd treisio pob merch ...’ Mae’n amlwg bod mewn diwinyddiaeth ffeministaidd sawl barn ar batriarchaeth ac ar Berson Crist. Condemniodd llawer ffeminist Gristnogion benywaidd traddodiadol sy’n cefnogi’r eglwys a’r darlun traddodiadol o Iesu fel pobl anwybodus. Fodd bynnag, ym marn ffeministiaid llai eithafol, er i’r Beibl gael ei ysgrifennu oddi mewn i fframwaith patriarchaidd, yr oedd Iesu Grist yn dysgu egwyddorion rhyddid a chydraddoldeb ac fe grëwyd dynion a merched yn gydradd ond bod iddynt swyddogaethau gwahanol.

Pwnc trafod: A yw’r ffaith mai dyn oedd Iesu yn gymorth neu’n rhwystr i ddiwinyddiaeth ffeministaidd? Rhowch resymau.

Galwodd rhai ffeministiaid am hermeniwteg o amheuaeth – sef ailddiffinio’r Beibl fel y gall merched unwaith eto gael lle blaenllaw, fel y bu ganddynt yn hanes Cristnogaeth gynnar. Awgrymodd Rosemary Ruether mai Cristoleg yw sylfaen llawer agwedd rywiaethol mewn Cristnogaeth a defnyddiwyd gwrywdod Crist i hyrwyddo’r syniad nad oes neb ond gwrywod ar wir ddelw Duw – mai’r gwryw yw norm dynolryw a bod y fenyw’n fod llai na delfrydol. Dadleuodd Judith Plaskow yn Sex, Sin and Grace (UPA 1980) mai syniadau hanfodol gwrywaidd yw’r syniadau Cristnogol am bechod, iachawdwriaeth ac aberth. Awgrymodd y dylid tanlinellu’r syniadau ffeministaidd a hyrwyddodd Iesu - perthynas anghystadleuol, gofal a meithrin - sy’n osgoi rôl draddodiadol ymostyngol merched mewn cymdeithas lle y mae’r gwryw’n ben. Tasg ysgrifennu: (a) Archwiliwch ddysgeidiaeth o’r eiddo Iesu sy’n dangos (i) goruchafiaeth wrywaidd a (ii) cydraddoldeb gwryw a benyw. (b) ‘Fe gafodd y ffaith mai dyn oedd Iesu effaith bwysig ar y weinidogaeth Gristnogol draddodiadol’. Aseswch y safbwynt hwn. Gwrthod awdurdod eglwysig i ferched I lawer diwinydd o ffeminist, yr anhawster mawr yw bod gan yr Eglwys Gristnogol strwythur patriarchaidd, gyda dynion yn llenwi bron bob un o’r prif swyddi pwerus ac awdurdodol. Mae hyn, meddent, yn arwain at Eglwys sy’n ymwneud gan fwyaf â phynciau gwrywaidd ac sy’n gweld pethau mewn dull

Page 10: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

9

gwrywaidd, ac y mae hynny’n cyfyngu ar fewnbwn merched ac yn gwadu eu doniau ysbrydol a’r safbwynt benywaidd. Yn draddodiadol, i ddynion y rhoddodd Cristnogaeth y safleoedd o awdurdod yn yr eglwys a chymdeithas, ac mewn priodas. Fel rheol, disgwylid i ferched ymostwng a, hyd yn ddiweddar, fe’u gwaharddwyd rhag bod yn arweinwyr yn yr eglwys, yn enwedig rhag cael eu hordeinio. Y mae’r Eglwys Gatholig ac Eglwys Uniongred y Dwyrain a rhai enwadau Protestannaidd yn dal hyd heddiw na ellir ordeinio neb ond dynion. Ystyriant mai rôl y gwryw yw nid rheoli’n awdurdodol ond estyn gofal yn gyfrifol, yn ôl gorchymyn Duw. Fel y dywedodd Paul, yn ddadleuol ddigon: ‘Yr wyf am ichwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, ac mai pen y wraig yw'r gŵr … Oherwydd nid y gŵr a ddaeth o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr … Oherwydd fel y daeth y wraig o'r gŵr, felly hefyd y daw'r gŵr drwy'r wraig. A daw'r cwbl o Dduw.’ – 1 Corinthiaid 11:3, 8, 12

Pwnc trafod: A yw Paul yn iawn? Pam / pam ddim?

I roi un enghraifft, strwythur pyramid sydd i’r Eglwys Gatholig Rufeinig, gyda’r Pab (gwryw) yn ben – y mae ganddo awdurdod llwyr fel cynrychiolydd Crist ac olynydd yr apostol Pedr, arweinydd cyntaf yr Eglwys. Yn wir, gelwir y Pab weithiau yn ficer Duw ar y ddaear. Yn y strwythur patriarchaidd hwn cynorthwyir y Pab gan garfan o Gardinaliaid (gwrywod bob un) ac y mae gan y rheini awdurdod dros yr archesgobion, yr esgobion a’r offeiriaid (gwrywod eto). Mynnant mai dim ond disgyblion gwrywaidd oedd gan Iesu a, thrwy’r athrawiaeth hon o ‘olyniaeth apostolaidd’, fod ganddynt hawl i weithredu fel hyn. Fel yr ysgrifennodd Paul: ‘Rhaid i wragedd gymryd eu dysgu yn dawel gan lwyr ymostwng. Ac nid wyf yn caniatáu i wragedd hyfforddi, nac awdurdodi ar y gwŷr; eu lle hwy yw bod yn dawel.’ – 1 Timotheus 2:11-12

Pwnc trafod: A yw Paul yn golygu na ddylid caniatáu i ferched siarad yn yr eglwys?

Fe all, fodd bynnag, nad yw’r ffaith mai dim ond gwrywod a ddewisodd Iesu yn ddisgyblion mor bwysig ag y mae’n ymddangos. Fel y nododd Aida Spencer yn Beyond the Curse (Nelson 1985): ‘Os yw’r ffaith mai deuddeg disgybl gwrywaidd oedd gan Iesu’n golygu na all benywod fod yn arweinwyr yn yr eglwys, yna, i fod yn gyson, golyga hefyd na all Cenedl-ddynion (Gentiles) ddim bod yn arweinwyr yn yr eglwys ... gan fod Cenedl-ddynion yn cael bod yn arweinwyr yn yr eglwys, dylai hynny fod yn wir am ferched hefyd.’

Page 11: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

10

Y mae nifer o enwadau Protestannaidd yn anghytuno â’r safbwynt patriarchaidd hwn ar awdurdod ac yn derbyn y safbwynt ffeministaidd i Dduw greu dynion a merched yn gydradd ar ei ddelw ei hun ac, o ganlyniad, y dylai merched, yn ogystal â dynion, fod mewn safleoedd o awdurdod. Yn wir, y mae gan rai enwadau Cristnogol, gan gynnwys Methodistiaeth a Byddin yr Iachawdwriaeth, draddodiad hir o ganiatáu i ferched bregethu a gweinidogaethu. Yn Eglwys Loegr, ordeiniwyd merched yn offeiriaid er 1994, ac yn yr Eglwys yng Nghymru er 1997, ond gwrywod yw’r esgobion yn y ddwy eglwys. Mae cynlluniau ar y gweill i ganiatáu i ferched fod yn esgobion. Yn y llyfr a enwyd eisoes dywed Howe: ‘Nid mabwysiadu rôl gwryw y mae merch a benodir i safle arweinydd yn yr eglwys ... mae hi’n sefyll gerbron Duw fel un sy’n gydradd â dyn, a Duw sy’n rhoi iddi ei hawdurdod.’

Pwnc trafod: Os gall merched fod yn offeiriaid, a oes yna unrhyw reswm paham na ddylent fod yn esgobion hefyd?

Y mae, fodd bynnag, raniadau dwfn ymhlith ffeministiaid. Mae rhai yn mynnu bod awduron eglwysig patriarchaidd wedi gwthio merched i’r cyrion yn y gorffennol, fel Mair Forwyn a Mair Magdalen a oedd yn ddilynwyr blaenllaw i Grist - er enghraifft, dywedir mai putain oedd Mair Magdalen, er nad oes unrhyw dystiolaeth ysgrythurol i hynny, a dywed rhai bod y Forwyn Fair ei hun yn dduwies ac, felly, nad merch feidrol mohoni o gwbl. Arweiniodd y flaenoriaeth wrywaidd yn yr ysgrythurau sawl ffeminist o Gristion i gredu na ellir byth sicrhau cydraddoldeb i’r rhywiau yn yr eglwys heb yn gyntaf ailystyried holl ddarlun y Beibl o Dduw fel bod gwrywaidd. Yn rhan o’r ymgais i ddefnyddio symbolau sy’n adlewyrchu profiadau crefyddol merched, datblygwyd y syniad o ‘Sophia’ i gymryd lle’r Ysbryd Glân ‘gwrywaidd’ - nid peth statig mo Sophia; y mae’n llawn emosiwn a mynegiant ac yn tanlinellu ymdrech merched i ddod o hyd i Dduw sy’n trosgynnu rhyw, yn cynnwys agweddau benywaidd ar y Duwdod ac yn defnyddio cymeriadau Beiblaidd megis y Forwyn Fair, Mair Magdalen, Efa ac Esther. Ar y llaw arall, y mae un garfan o ffeministiaid Cristnogol yn cymryd y safbwynt a elwir yn ‘gyfatebolrwydd’, sef bod dynion a merched yn gydradd, ond yn wahanol, a bod Duw wedi eu creu i wneud swyddogaethau gwahanol yn yr eglwys. Felly, cyfrifoldeb y dynion yw arwain; cyfrifoldeb y merched yw cynnal a meithrin. Yn Recovering Biblical Manhood and Womanhood (1991), dywed Puper & Grudem: ‘Wrth galon gwrywdod aeddfed y mae synnwyr o gyfrifoldeb ewyllysgar i arwain a darparu ar gyfer merched a’u hamddiffyn mewn dulliau priodol i nodweddion penodol dyn ... wrth galon benywdod aeddfed y mae parodrwydd rhyddhaol i dderbyn a meithrin cryfder ac arweiniad oddi wrth ddynion teilwng.’

Page 12: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

11

Defnyddir y term Egalitariaeth Gristnogol am nifer o grwpiau Cristnogol benywaidd sy’n teimlo bod ffeministiaeth Gristnogol wedi mynd yn rhy bell. Eu dadl hwy yw bod pawb yn gydradd gerbron Duw o safbwynt gwerth personol a statws moesol – y mae gan bawb gyfrifoldeb i ddefnyddio’u doniau er gogoniant i Dduw ac y mae Duw’n galw pawb i wahanol swyddogaethau: ‘Yn awr, chwi yw corff Crist, ac y mae i bob un ohonoch ei le fel aelod. Ymhlith y rhain y mae Duw wedi gosod yn yr eglwys, yn gyntaf apostolion, yn ail broffwydi, yn drydydd athrawon, yna cyflawni gwyrthiau, yna doniau iacháu, cynorthwyo, cyfarwyddo, llefaru â thafodau.’ – 1 Corinthiaid 12:27-28 Felly, meddent, gan fod dynion a merched yn gydradd â’i gilydd, dylai arweinyddiaeth yr eglwys gynnwys merched. Mynnant fod Iesu wedi dileu pob gwahaniaethu ar sail rhyw yn yr eglwys – yr oedd ef yn siarad â merched, yn eu dysgu ac yn eu trin fel pobl gydradd â dynion.

Pwnc seminar: A oes dysgeidiaeth Feiblaidd o blaid ordeinio merched? Rhowch resymau dros eich safbwynt.

A lwyddodd diwinyddiaeth ffeministaidd i ysgogi newid? Mae diwinyddiaeth ffeministaidd wedi cynnig dehongliad newydd o’r traddodiad Cristnogol ac o’r Beibl. Awgryma nad neges o oruchafiaeth wrywaidd yw neges y Beibl ond, yn hytrach, neges am berthynas Duw gyda’r ddynolryw gyfan. Yn stori’r creu, y mae Efa yn gydradd ag Adda, a chanddi’r un nodweddion unigryw ag yntau. Yn y Testament Newydd disgrifir y ferch fel ‘gogoniant y gŵr’ a gorchmynnir iddi orchuddio’i phen pan fydd yn gweddïo, nid fel arwydd o israddoldeb ond fel arwydd o awdurdod, oherwydd y mae ei gwerth cyfuwch fel na ddylai dynnu dim oddi wrth ogoniant Duw. Ymhellach, crëwyd y ddau ryw’n gydradd; y mae dynion a merched ‘ar ddelw Duw’ (Genesis 1:27) ac fe’u gelwir i wasanaethu Duw ac i gyflawni ei bwrpas. Eto, y mae yn y Beibl ddysgeidiaethau dadleuol sy’n rhwystr i gydraddoldeb. Er enghraifft, dyna sylwadau Paul ar oruchafiaeth y gwryw a’i waharddiad ar ferched yn yr eglwys: ‘… dylai'r gwragedd fod yn ddistaw yn yr eglwysi, oherwydd ni chaniateir iddynt lefaru. Dylent fod yn ddarostyngedig, fel y mae'r Gyfraith hefyd yn dweud.’ (1 Corinthiaid 14:34). Felly, beth yw’r sefyllfa heddiw? Ym mis Mawrth 2008 gorchmynnodd y Fatican fod yn rhaid bob amser feddwl am Dduw fel ‘Tad’ ac y bydd yn rhaid ailfedyddio mewn dull traddodiadol unrhyw un a fedyddiwyd gan ddefnyddio geiriau diryw am Dduw, fel ‘Crëydd’, ‘Gwaredydd’ neu ‘Sanctaidd’. Yn yr un modd, y mae priodasau a weinyddwyd gan ddefnyddio’r termau hyn yn annilys. Datganodd y Cardinal Urbano Navarette y câi unrhyw offeiriad a fyddai’n defnyddio termau diryw ei gosbi gan eu bod yn ‘anghyfreithlon ac yn anghyfiawn’. (Daily Telegraph 01.03.08).

Page 13: Astudiaethau Crefyddol GCE...Dadleua diwinyddion ffeministaidd fod gan Gristnogaeth strwythur awdurdod patriarchaidd (yn rhoi blaenoriaeth i’r gwryw) ac y cyflwynir Duw a dysgeidiaeth

12

Yn gynharach, yn The Ratzinger Report (Ignatius Press 1985 a 2005), ysgrifennodd y Pab presennol: ‘Yn wir, yr wyf yn argyhoeddedig nad Cristnogaeth bellach mo’r hyn y mae ffeministiaeth radical yn ei hyrwyddo. Crefydd arall ydyw.’ Ar ran Catholigion rhyddfrydig, atebodd y diwinydd ffeministaidd Rosemary Ruether ‘ ... nad yw’r Pab yn Bab i ni’.

Pwnc trafod: A yw’r Pab yn iawn? Pam/ pam ddim?

Fodd bynnag, y mae llawer o enwadau Protestannaidd, gan gynnwys yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Loegr, yn derbyn iaith ddiryw, am ei bod yn osgoi’r hyn y mae llawer yn ei ystyried yn ddelweddaeth waharddol. Yn wir, y mae llawer o Brotestaniaid yn gweld amharodrwydd y Pab i ganiatáu ordeinio merched yn rhwystr i berthynas agosach rhwng y ddwy eglwys. I gloi, y mae’n sicr yn wir i ddiwinyddiaeth ffeministaidd dynnu sylw at rôl amhrisiadwy merched yn hanes Cristnogaeth. Tanlinellodd hefyd fethiant llawer o ddynion gydol yr oesoedd i gyflawni’r swyddogaeth a bennodd Duw iddynt. Dangosodd yn eglur iawn y cam-drin a’r gorthrwm a ddioddefodd llawer o ferched o ganlyniad i oruchafiaeth gwrywod yn yr eglwys. Anfantais fwyaf diwinyddiaeth ffeministaidd yw bod diwinyddion ffeministaidd yn anghytuno cymaint ymhlith ei gilydd ac nad oes ganddynt amcan a bwriad cyffredin. Yn syml, nid yw neges diwinyddiaeth ffeministaidd yn ddigon clir na llawer o’u hymatebion diwinyddol yn ddigon cryf. Gwnaethpwyd camau breision ymlaen, ond y mae eto ffordd bell i fynd.

(a) Archwiliwch y rhesymau paham bod rhai Eglwysi wedi gwrthod awdurdod eglwysig i ferched ac Eglwysi eraill wedi ei ganiatáu.

Tasg ysgrifennu:

(b) ‘Y mae diwinyddiaeth ffeministaidd wedi methu peri unrhyw newid o bwys yn yr Eglwys Gristnogol.’ Aseswch y safbwynt hwn.