16
Y Cynllun Busnes 2016 - 2020

Business plan 2016 2020 welsh

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Y Cynllun Busnes 2016 - 2020

Citation preview

Page 1: Business plan 2016 2020 welsh

Y Cy

nllu

n Bu

snes

2016

- 202

0

Page 2: Business plan 2016 2020 welsh

From our small beginnings...Oluptatiis et, ut dolupta tiorest adit am, sapictem a qui nus vidit abor ma qui dolentibus que eatur sa incium untiam res net ea si-tatatecat.Bori tore pliquiat aut et et quae oditas comniendelit

2 | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 |Tai Wales & West

‘Dim ond bob hyn a hyn mae cyfleoedd gwych i wneud gwahaniaeth yn dod, ond mae cyfleoedd bach o’n hamgylch ni bob dydd. Sicrhau bod pawb yn Tai Wales & West yn manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael yw ein hanfod - gwneud gwahaniaeth un ar y tro, ym mhob ymgysylltiad, rhyngweithiad neu drafodaeth.

Mae gan fenter gymdeithasol hanes hir ac rydym yn brawf fod busnes da yn mynd law yn llaw â gwneud y peth iawn. Ein hegni, ein dyfalbarhad a’n parodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd yw’r hyn sydd wedi ein tywys ni i’r fan hon, a dyna beth fydd yn ein cynnal ni drwy’r heriau sy’n ein hwynebu. Rwy’n hynod hyderus y byddwn yn tyfu ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fwy a mwy o bobl yn ystod ein hanner can mlynedd nesaf.’

Anne Hinchey Prif Weithredwr

Page 3: Business plan 2016 2020 welsh

Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 | 3

Mae 50 mlynedd yn garreg filltir bwysig i unrhyw un ac unrhyw gwmni. Sefydlwyd Tai Wales & West fel busnes cymdeithasol yn ôl yn 1965 gyda phwrpas clir i ddarparu tai fforddiadwy ar gyfer y nifer o bobl sy’n cael trafferth i fforddio tai priodol. Mae ein twf ers hynny wedi cael ei yrru gan sylw pendant i’n diben cymdeithasol, ac rwy’n hynod o falch y byddwn yn fuan yn dathlu adeiladu ein 10,000fed cartref. Mae darparu tai yn hanfodol i bob un ohonom, i gadw cymunedau’n fywiog, ein heconomi’n gryf a’n dinasyddion yn iach ac yn hapus.

Rwyf yn dal mor ymroddedig yn awr ag yr oeddwn i 15 mlynedd yn ôl, pan ymunais â WWH, i fod mor effeithlon ag y gallwn fod yn y ffordd rydym yn defnyddio ein hincwm i ddarparu rhagor o gartrefi newydd. Ni fyddwn byth yn colli golwg ar ein diben ac arian pwy rydym yn ei wario. Mae preswylwyr bob amser wedi bod wrth wraidd y modd y mae Tai Wales & West yn gweithredu ac mae hyn yn fwy gwir yn awr nag erioed o’r blaen.

Yn 2015, ein 50fed blwyddyn, rydym wedi bod yn myfyrio ar o ble’r ydym wedi dod a beth a ddaw yn y dyfodol. Mae ein preswylwyr yn wynebu heriau sylweddol, yn yr un modd â’r sector yn ei gyfanrwydd. Wrth edrych yn ôl, rydym wedi esblygu, arloesi a newid ar bob cam o’r daith. Nid ydym wedi colli ein hymdeimlad o bwrpas, ac mae’r angen i sefydliadau fel ein un ni, sy’n adeiladu cartrefi fforddiadwy, i gynorthwyo preswylwyr i wireddu eu dyheadau a helpu i gynnal cymunedau, yn parhau i fod yr un mor fawr.

Kathy SmartCadeirydd

Page 4: Business plan 2016 2020 welsh

Cryf a chynaliadwyMae ein 50 mlynedd wedi ein galluogi i dyfu i fod yn un o’r cymdeithasau tai mwyaf yn y wlad. Rydym yn sefydliad cryf ac effeithiol gydag enw da i brofi hynny.

Rydym wedi cael gwobr am fod y cwmni nid-er-elw gorau i weithio iddo yng Nghymru, ac rydym ymysg y tri uchaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Tai Wales & West yw’r fan lle mae pobl ddawnus ac ymroddedig yn gweithio, yn gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau a’r partneriaethau sydd ar gael i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.

Rydym yn rhedeg ein sefydliad yn seiliedig ar fod yn glir ynghylch ein pwrpas a’r hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr o ran pob un o’r gwasanaethau a ddarparwn. Dyma sy’n ein gwneud ni’n wahanol i lawer o sefydliadau eraill, wrth i ni ystyried safbwynt cwsmeriaid ac asesu ein perfformiad mewn cymhariaeth â’r hyn maen nhw ei angen gennym. Mae ein preswylwyr eisiau’r tawelwch meddwl y bydd eu cartrefi yn eu meddiant gyhyd ag y byddan nhw eu hangen nhw, a rhan o’r hyn sy’n ein gwneud ni’n gryf yw ein hymrwymiad i gynnal tenantiaethau a chymunedau, gan fuddsoddi yn eu hyfywedd.

Rydym yma ar gyfer heddiw ac yma ar gyfer yfory. Mae diwygiadau i’r system les a phrinder cymorth ariannol i ddarparu tai fforddiadwy yn gwneud y gwaith o gyflawni ein gweledigaeth yn fwy anodd. Ein hymateb yw gwella ein heffeithlonrwydd ymhellach fel rydym wedi ei wneud wrth greu Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria, archwilio ffyrdd newydd o greu incwm, fel cartrefi sydd ar werth, a chanolbwyntio ein buddsoddiad a’n twf ar y meysydd hynny lle gallwn gael yr effaith fwyaf.

Mae eiddo’n fuddsoddiad cadarn ac yn werth yr arian os yw’n cael gofal da. Rydym yn cynnal ein hasedau i safon dda ac, yn ymwybodol o’r newidiadau demograffig, yn sicrhau eu bod yn addasu’n dda ac yn fforddiadwy i’w rhentu ac i fyw ynddyn nhw.

Yn ein 50 mlynedd gyntaf: 10,000 o gartrefi, 500 o bobl yn cael eu cyflogi, yn cael eu hyfforddi, neu mewn prentisiaethau, a 60,000 o gartrefi ar draws Cymru lle mae eu preswylwyr yn dawel eu meddwl bod Tai Wales & West yno rhag ofn y bydd argyfwng.

Yn y 50 mlynedd nesaf, rydym yr un mor uchelgeisiol. Rydym eisiau parhau i fuddsoddi yng Nghymru, gan wario ein harian yn ddoeth, yn lleol, a gwneud yr hyn sy’n iawn i gyflawni’r hyn sydd o bwys i’n cwsmeriaid.For the future, the following six priorities are where we believe we can make a difference:

4 | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 |Tai Wales & West

Page 5: Business plan 2016 2020 welsh

Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 | 5

Rhagor – o gartrefiBuddsoddi - yn ein cartrefi Tyfu – swyddi a hyfforddiant

Technoleg – rhagor i bawbGofal – gwasanaethau newyddBywydau – cynnal tenantiaethau

EIN 6 BLAENORIAETH

Ein gweledigaeth yw:“cyflawni twf cryf a chynaliadwy i wneud gwahaniaeth i fywydau, cartrefi a chymunedau pobl.”

Page 6: Business plan 2016 2020 welsh

RHAGOR6 | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 |Tai Wales & West

Mae pobl angen cartrefi y gallan nhw eu fforddio mewn lleoedd maen nhw’n dymuno byw ynddyn nhw, lle mae gwaith i’w gael a chymuned gefnogol. Gyda llai o bobl yn gallu prynu eu cartref eu hunain a thai rhent preifat yn costio cymaint, mae’r angen am ragor o dai fforddiadwy mor gryf ag erioed.

Lle mae galw mawr, rydym yn bwriadu adeiladu amrywiaeth o dai sydd yn wirioneddol fforddiadwy. Drwy fuddsoddi £30 miliwn bob blwyddyn, ein nod yw adeiladu tua 200 o dai bob blwyddyn ac fe fyddwn yn ceisio cyfleoedd pellach i gynyddu’r nifer hwnnw i gael y gorau o’r cynnydd yn y farchnad dai. Mae disgwyl i siroedd fel Caerdydd dyfu’n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf, a thrwy weithio’n agos gyda chynghorau lleol a datblygwyr, rydym yn credu y gallwn adeiladu hyd yn oed mwy o gartrefi.

Os ydym eisiau bod yr un mor llwyddiannus ymhen 50 mlynedd, mae angen i’n cartrefi newydd fod o safon uwch fyth. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gynllunio tai cynhesach, mwy diogel, a hyd yn oed yn fwy fforddiadwy, sy’n addas i anghenion pobl ifanc a hŷn.

o gartrefi i gwrdd â’r angen am dai

Jane Hutt AC, y Gweinidog dros Gyllid a Busnes y Llywodraeth, yn ymweld â’n datblygiad newydd ym Mharc Brickfield yn y Rhyl, Sir Ddinbych

Page 7: Business plan 2016 2020 welsh

BUDDSODDI

Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 | 7

Mae ein cartrefi mewn cyflwr mor dda oherwydd y buddsoddiad a wnaed hyd yn hyn. Gan ein bod ni yma ar gyfer y tymor hir, mae’n gwneud synnwyr i fuddsoddi mewn sicrhau bod ein cartrefi yr hyn y bydd pobl ei eisiau yn y dyfodol. Yr adborth gan ein preswylwyr yw bod angen i gartrefi fod hyd yn oed yn gynhesach ac yn fwy addas ar gyfer pobl sy’n hŷn neu sydd â galluoedd cyfyngedig, o ganlyniad i gyflyrau fel dementia.

Trwy ein Strategaeth Rheoli Asedau newydd, rydym yn deall yn well beth yw gwerth ein tai i’n preswylwyr ac i’n busnes. Mae’n ein helpu i wneud penderfyniadau buddsoddi gwell, gan wybod pryd i wella, pryd i ailfodelu a phryd i werthu. Mae’r penderfyniadau yn y gorffennol i adeiladu cartrefi o ansawdd uchel mewn lleoliadau da’n golygu y bydd gwario ar wella’r mwyafrif helaeth o’n cartrefi bob amser yn ddewis cywir.

i gynnal cartrefi o safon uchel

Ym mis Mehefin 2015, agorwyd ein datblygiad tai fforddiadwy arloesol £16.9m yn Hightown, Wrecsam yn swyddogol gan Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a nododd yr achlysur drwy helpu preswylwyr i gladdu capsiwl amser.

Page 8: Business plan 2016 2020 welsh

TYFU8 | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 |Tai Wales & West

Weithiau, mae angen help llaw ar bawb ohonom, ac mae rhai o’n preswylwyr angen ychydig o help i wireddu eu dyheadau ac i fanteisio ar gyflwr yr economi, sy’n gwella’n raddol. Pa un ai’n gyflogedig neu’n wirfoddol, mae gweithio yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl a’u cymunedau. Mae ein Tîm Mentrau Cymunedol yn dysgu’n gyflym beth yw’r ffordd orau o ddarparu cymorth, ac mae wedi cefnogi nifer o’n preswylwyr i gael eu cyflogi neu gael hyfforddiant.

Rydym yn darparu cyllid i helpu ein preswylwyr i ‘wneud gwahaniaeth’ i’w bywydau eu hunain - er enghraifft, drwy sefydlu eu busnes eu hunain. Byddwn yn ceisio gwneud y gorau o’r manteision cymunedol a gawn gan y contractwyr rydym yn gweithio gyda nhw i helpu rhagor o’n preswylwyr i gyflawni eu nodau personol.

Cynhyrchu cyfleoedd o ddifrif ar gyfer gwaith

CAPTION HERE CAPTION HERE CAPTION HERE CAPTION HERE CAPTION HERE

Fe wnaeth Kyle Hexter, sy’n 17 oed, lwyddo i gwblhau rhaglen brofiad gwaith dros gyfnod o bythefnos gyda WWH

Page 9: Business plan 2016 2020 welsh

TECHNOLEG

Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 | 9

Mae technoleg yn cadw pobl yn ddiogel hefyd – yn ein hachos ni, mae bron i 60,000 o bobl yn dibynnu ar ein gwasanaethau larwm mewn argyfwng a theleofal. Gyda chymaint o ddyfeisiau newydd a ffyrdd o gynorthwyo, fe fyddwn ni’n buddsoddi mewn technoleg newydd i wneud ein systemau yn well fyth.

Mae’r ffordd y mae pobl yn cael mynediad at wasanaethau ac yn rhyngweithio â’i gilydd yn newid. Mae technoleg mewn rhyw fodd neu’i gilydd wedi dod yn rhan o’n bywydau, ac mae pobl yn siopa, yn sgwrsio ac yn gweithio ar-lein mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosibl ddegawd yn ôl.

Gallwn ddefnyddio technoleg i wella’r ffordd rydym yn darparu gwasanaethau, gan ein gwneud ni’n fwy effeithlon a hydrin. Bydd ein buddsoddiad mewn systemau TGCh newydd yn galluogi ein staff i weithio o bell yng nghartrefi ein preswylwyr yr un mor effeithiol ag y bydden nhw yn y swyddfa. Nid ydym eisiau i breswylwyr gael eu gadael ar ôl yn y chwyldro digidol, ac fe fyddwn ni’n parhau i gyflwyno WiFi rhad ac am ddim lle bynnag y mae’n gost effeithiol i wneud hynny.

mynd yn ddigidol

Preswylwyr yng Nghwrt Anghorfa, Pen-y-bont ar Ogwr, yn mwynhau’r WiFi am ddim a osodwyd yn eu cynllun.

o breswylwyr wedi cysylltu eu dyfeisiau â’n rhwydwaith

WiFi bob mis

o gynlluniau wedi elwa ar osodiadau WiFi gan Cambria

hyd yma

702 47

Page 10: Business plan 2016 2020 welsh

GOFAL10 | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 |Tai Wales & West

Rydym yn gwybod bod llawer o’n preswylwyr angen gwasanaethau gofal a chymorth i fyw bywydau llawn ac annibynnol. Rydym hefyd yn gwybod y gall ansawdd y gwasanaethau hyn amrywio’n sylweddol, ac rydym yn gweld effaith hyn.

Rydym yn credu y gallwn gynnig gwasanaeth o safon uchel i’n preswylwyr sy’n byw mewn cynlluniau gofal ychwanegol a thai â chymorth. Yn rhan olaf 2015, dylai isadran Gofal a Chymorth ein his-gwmni Castell Ventures Ltd gael cadarnhad o gofrestriad gydag AGGCC a gallu tendro am y contractau i ddarparu gwasanaethau yn ein cynlluniau.

Drwy’r Grŵp cyfan, rydym eisiau gallu darparu’r cartrefi, y gwaith cynnal a chadw, y gefnogaeth a’r gost gofal yn effeithiol yn unol â’n gwerthoedd a’n hegwyddorion, gan roi’r preswyliwr wrth wraidd yr hyn a wnawn bob amser.

gwasanaeth newydd

Miss Margaret Collins, un o’n preswylwyr, yn sgwrsio gyda Kara Foulkes, Rheolwr Cynllun Gofal Ychwanegol Llys Jasmine

Page 11: Business plan 2016 2020 welsh

BYWYDAU

Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 | 11

Mae darparu cartrefi lle mae modd i bobl ffynnu wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym yn fwy na dim ond landlord, ac rydym eisiau i bobl ddechrau eu tenantiaeth yn gadarnhaol fel nad yw’r wefr o gael y cartref maen nhw wedi aros a dyheu amdano yn cael ei cholli oherwydd nad oes ganddyn nhw unrhyw gefnogaeth, dodrefn, gwres neu olau.

Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaethau priodol cyn a thrwy gydol tenantiaeth i helpu i wneud y denantiaeth yn llwyddiant. Rydym yn dysgu am y gwahanol fath o gefnogaeth y mae angen i ni ei darparu neu ei threfnu i sicrhau y gall pobl gynnal eu tenantiaethau gyda ni wrth i’w bywydau a’u hamgylchiadau newid.

Mae diwygio lles wedi effeithio ar rai pobl yn fawr iawn, ac mae tenantiaethau sy’n methu yn dinistrio bywydau. Rydym wedi buddsoddi mewn darparu cyngor arbenigol i leihau effaith diwygio lles ac yn parhau i weithio ar fentrau i’n helpu ni a’n preswylwyr ddelio â’r credyd cynhwysol wrth iddo gael ei gyflwyno.

cefnogi tenantiaethau

Fe wnaeth Jennifer Lunt (ar y dde), o’r Wyddgrug, Sir y Fflint, ymgeisio am grant gan WWH a phrynu gliniadur ac argraffydd i’w galluogi i weithio gartref wrth iddi astudio ar gyfer gradd nyrsio. Mae Kristin Vaughan, ein Hyfforddwr Cyflogaeth a Menter, yn ei chefnogi hi.

Page 12: Business plan 2016 2020 welsh

12 | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 |Tai Wales & West

Lle’r ydym yn gweithredu

W

32

W

71W

54

W

47

W

19

W

58

W

24

Ffigurau Mehefin 2015

Cyfanswm

Stoc 9,729

Cyfanswm ary safle yn awr

305

AC

249 AC

606

AC

821

AC

632

AC

1,028

AC

247AC

2,102

AC

253

Anghenion cyffredinolAC -Wrthi’n cael eu datblyguW -

Y -T -P -G -

YmddeolTai â chymorthPerchnogaeth cartrefGofal ychwanegol

AC

92AC

64

AC

36

AC

65

Y

204

Y

683

Y

58 Y

141

Y

88

Y

149

Y

128

Y

305

Y

245

Y

158

T

12

T

19

T

38

T

8

T

33T

26

T

49

P

34

P

1

P

23

P

3

P

31

P

629P

165P

34

P

31

P

11

Y

106

G

58

G

63

P

1

Page 13: Business plan 2016 2020 welsh

Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 | 13

Yn gryf yn ariannolMae ein cryfder ariannol yn ein galluogi i fenthyca ar gyfraddau ffafriol i dyfu ein stoc tai ac i wneud y peth iawn ar yr amser iawn ar gyfer ein preswylwyr a’n heiddo.

Mae gwargedion, cronfeydd wrth gefn, llifau arian parod rhydd cadarnhaol a diogelwch digonol i gyd yn elfennau sy’n bwysig i’n galluogi ni i fenthyca ar gyfraddau ffafriol dros gyfnodau hir o amser. Yn y blynyddoedd diwethaf mae bron y cyfan o’r arian parod rhydd a gynhyrchir gan ein portffolio tai wedi cael ei ail-fuddsoddi yn ein stoc tai presennol, disodli cydrannau a oedd wedi treulio dros gyfnod o amser a sicrhau bod ein holl eiddo’n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru. Er bod ein heiddo yn cael eu hadeiladu i bara, ac y gellir eu hailgyllido sawl gwaith yn ystod eu hoes ddefnyddiol, yn y pen draw mae’n rhaid ad-dalu’r benthyciadau, a chyda hynny mewn golwg rydym yn bwriadu cadw tua £3 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd mewn arian parod rhydd, sy’n rhoi nerth i ni ymdrin â’r amgylchedd newidiol ac yn ein galluogi i ad-dalu ein benthyciadau ar gyfartaledd o tua 70 mlynedd.

Mae ein cynllun yn ein galluogi i barhau i dyfu, cynnal ein stoc tai a gwasanaethu ein preswylwyr yn briodol. Ein cynllun pum mlynedd cyfredol yw gwario dros £300 miliwn yn y cymunedau lle mae ein preswylwyr yn byw, gan ddarparu tua 1,000 o gartrefi newydd, rhoi ysgogiad economaidd sylweddol a sicrhau bod ein heiddo yn cael eu cynnal a’u cadw’n briodol. Mae rhywfaint o’r gwariant hwn drwy ein his-gwmnïau, sydd â’r nod o wasanaethu WWH, pa un ai a ydyn nhw’n darparu gwasanaethau cynnal a chadw, ceginau newydd, ystafelloedd ymolchi a boeleri neu ofal ac arlwyo i’n preswylwyr. Maen nhw’n cyfrannu’n sylweddol at ein nod i fod hyd yn oed yn fwy effeithlon, gan wneud y defnydd gorau o bob punt sydd gennym.

Mae ein rhagamcanion yn tybio y bydd rhenti yn parhau i gynyddu dros ac uwchlaw chwyddiant, ac yn benodol ar raddfa chwyddiant a 1.5% hyd at fis Mawrth 2019 fel y cytunwyd yn flaenorol gyda Llywodraeth Cymru. Pe bai’r ymrwymiad hwnnw’n cael ei ddiddymu (fel sydd wedi digwydd yn Lloegr), yna fe fyddem yn cymryd camau adferol i sicrhau bod ein hyfywedd ariannol parhaus yn cael ei gynnal. Rydym yn ddigon cryf i ddygymod ag ergydion o’r fath, ond byddai newidiadau sylfaenol yn ei gwneud yn fwy anodd i fodloni pob un o’n dyheadau yn y dyfodol.

Page 14: Business plan 2016 2020 welsh

ar gyfer blynyddoedd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr

2016 2017 2018 2019 2020 2016-2020

£m £m £m £m £m £mIncwm 41.3 43.3 46.0 48.3 50.7 229.6Costau gweithredu (30.9) (32.2) (33.6) (34.7) (36.2) (167.6)Gwarged gweithredu 10.4 11.1 12.4 13.6 14.5 62.0Llog taladwy (6.2) (7.0) (7.9) (9.0) (10.1) (40.2)Gwarged net 3.8 3.9 4.3 4.4 4.3 20.7

ar 31 Rhagfyr 2016 2017 2018 2019 2020£m £m £m £m £m

Cost eiddo gros 546.3 582.4 619.8 651.9 682.0Dibrisiant (44.1) (49.8) (55.9) (62.4) (69.3)Cost net eiddo 502.2 532.6 563.9 589.5 612.7Grant tai (291.2) (306.8) (323.6) (336.9) (350.8)Benthyciadau (176.3) (193.3) (208.0) (220.4) (230.5)Asedau eraill 17.8 23.9 28.3 32.8 37.9Asedau a chronfeydd wrth gefn net

52.5 56.4 60.6 65.0 69.3

Cymhareb gerio(gwerth net)

51% 53% 54% 55% 55%

Cymhareb gerio(cost eiddo gros)

32% 33% 34% 34% 34%

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn sgwrsio gyda phreswylwyr yng nghynllun gofal ychwanegol Nant y Môr ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych

CYFRIF INCWM A GWARIANT

MANTOLEN

14 | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 |Tai Wales & West

Page 15: Business plan 2016 2020 welsh

ar gyfer blynyddoedd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr

2016 2017 2018 2019 2020 2016-2020

£m £m £m £m £m £mLlif arian net o weithrediadau 15.8 17.1 18.9 20.1 21.5 93.4Taliadau llog net (6.2) (6.9) (7.9) (9.3) (10.3) (40.6)Gwariant cyfalaf amnewid (0.8) (0.7) (0.7) (0.7) (0.7) (3.6)Cydrannau amnewid (6.9) (6.8) (6.6) (6.4) (6.5) (33.2)Mewnlif arian parod rhydd 1.9 2.7 3.7 3.7 4.0 16.0Gwariant datblygu (35.6) (26.9) (28.2) (23.3) (20.9) (134.9)Grantiau 8.3 9.0 9.9 6.5 6.9 40.6All-lif arian net cyn cyllido (25.4) (15.2) (14.6) (13.1) (10.0) (78.3)Cyfleuster benthyca ychwanegol sy’n hysbys

22.0 0.0 0.0 0.0 20.0 42.0

Gofyniad cyfleuster ychwanegol 1.9 19.8 17.6 15.2 13.0 67.5Ad-daliadau’r prif fenthyciadau (2.3) (2.8) (2.8) (2.8) (22.9) (33.6)Cynnydd / (gostyngiad) net mewn arian parod

(3.8) 1.8 0.2 (0.7) 0.1 (2.4)

ar gyfer blynyddoedd yn dod i ben ar 31 Rhagfyr

2016 2017 2018 2019 2020

Cynllun Cynllun Cynllun Cynllun CynllunChwyddiantRhent 4.0% 3.0% 3.5% 3.0% 3.0%Cyflogau 2.0% 2.3% 2.5% 2.5% 2.5%Costau cynnal a chadw 2.5% 3.0% 3.5% 3.5% 3.5%CPI 1.0% 1.5% 2.0% 2.0% 2.0%CyllidoCyfradd benthyciadau newydd 3.5% 4.5% 4.8% 5.0% 5.2%Cyfradd grant 58% 58% 58% 58% 58%Cwblhau tai 289 166 203 125 175

Mae aelodau o staff WWH a phreswylwyr Llys Ben Bowen Thomas a Llys Nazareth yn Rhondda Cynon Taf yn cymryd rhan mewn ymgyrch arloesol diogelwch ar y ffyrdd

LLIF ARIAN

TYBIAETHAU

Tai Wales & West | Y Cynllun Busnes 2016 - 2020 | 15

Page 16: Business plan 2016 2020 welsh

Tai Wales & West3 Alexandra Gate, Ffordd Pengam, Tremorfa, Caerdydd CF24 2UD

acUned 2, Parc Busnes Acorn, Aber Road, y Fflint CH6 5YN.

Ffôn: 0800 052 2526E-bost: [email protected]

Gwefan: www.wwha.co.uk@wwha

wwhahomesforwales