8
Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Canllaw i’r Gynhadledd Dydd Iau 14 Mehefin 2012 Stadiwm Dinas Caerdydd

Canllaw i’r Gynhadledd - Wales Audit Office · Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Agenda’r Gynhadledd 9.30 Cofrestru a phaned 9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan

  • Upload
    vomien

  • View
    218

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Canllaw i’r Gynhadledd - Wales Audit Office · Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Agenda’r Gynhadledd 9.30 Cofrestru a phaned 9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012

Canllaw i’r Gynhadledd

Dydd Iau 14 Mehefin 2012

Stadiwm Dinas Caerdydd

Page 2: Canllaw i’r Gynhadledd - Wales Audit Office · Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Agenda’r Gynhadledd 9.30 Cofrestru a phaned 9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012

Rhagair gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Mae Cymru’n wlad fechan. Ond mae’n rhaid iddi gael syniadau mawr o ran gwasanaethau cyhoeddus.

Os ydym ni am gyrraedd y rhagoriaeth rydym yn anelu tuag ato, rydym gyntaf angen deall a bod yn agored ynglyn â chryfderau a gwendidau ein darpariaeth a’n perfformiad presennol – a’r mecanweithiau sy’n eu cefnogi. Yna, mae’n rhaid i ni fod yn barod i arloesi hyd yn oed pan fo adnoddau’n brin.

Nid ydym ni ar ein pennau ein hunain wrth orfod darparu gwasanaethau gwell, sydd yn cwrdd ag anghenion y cyhoedd yn well, yn wyneb cyfyngiadau gwario. Gobeithio fydd heddiw yn darparu llwyfan a chyfle i ni oll allu edrych ar arferion presennol ac ystyried sut i wella’n perfformiad yng Nghymru, wrth ystyried profiadau mewn llefydd eraill.

Ceir heddiw ystod o gyfranwyr o Gymru ynghyd â chydweithwyr o’r Alban a Lloegr. Bydd tîm o’r sector cyhoeddus yn yr Alban yn dechrau’r gynhadledd drwy roi safbwynt unigryw o sut mae cenedl arall sydd wedi ei datganoli yn mynd i’r afael â heriau tebyg. Bydd siaradwyr ac arweinwyr gweithdai o ystod eang o ddiddordebau yn arwain ein trafodaethau.

Fel bydd ein siaradwr olaf yn ei arddangos – mae gan Gymru syniadau mawr ac yn perfformio ar lwyfan byd mewn meysydd eraill, felly gall, a dylai, gwasanaethau cyhoeddus anelu at wneud yr un modd hefyd.

Gobeithio gwnewch chi fwynhau’r diwrnod a chael budd ohono.

Huw Vaughan ThomasArchwilydd Cyffredinol Cymru

ˆ

Swyddfa Archwilio Cymru24 Heol y Gadeirlan

CaerdyddCF11 9LJ

Ffôn: 029 20 320500Ffacs: 029 20 320600

www.wao.gov.uk

Page 3: Canllaw i’r Gynhadledd - Wales Audit Office · Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Agenda’r Gynhadledd 9.30 Cofrestru a phaned 9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012

Agenda’r Gynhadledd

9.30 Cofrestru a phaned

9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru Yr Athro Kevin Morgan, Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, Prifysgol Caerdydd 10.00 Cynnwys y cyhoedd wrth i ni drawsnewid gwasanaethau - profiad yr Alban Jennifer Wallace, Ymddiriedolaeth Carnegie UK Alex Linkston, aelod o Gomisiwn Christie Martin Sime, Prif Weithredwr, Cyngor yr Alban ar gyfer Sefydliadau Gwirfoddol

11.20 Paned ac arddangosfa

11.50 Hyder y cyhoedd a gwella: rôl archwilio Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

12.20 Cydraddoldeb, Cyfiawnder Cymdeithasol a Gwella Kate Bennett, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cyfarwyddwr Cymru

12.50 Cinio

1.45 Dewis gweithdy 1: 1.45 - 2.30 Dewis gweithdy 2: 2.30 - 3.15 Gweithdy A: Her lywodraethu: cynnal ymddiriedaeth yn y byd modern

Gweithdy B: Codi hyder y cyhoedd pan fo llai o arian ar gael

Gweithdy C: Symleiddio a chynaliadwyedd: sgwario’r cylch

Gweithdy D: Mynediad a safonau: bodloni gofynion deddfwriaethol a chymdeithasol

3.15 Paned

Cymru: Creu tîm buddugol Nigel Walker, Cyfarwyddwr Cenedlaethol yr Athrofa Chwaraeon, a chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol ddaw â safbwynt unigryw o ran sut i greu tîm sydd yn rhagori 3.45 Adolygiad o’r diwrnod Yr Athro Kevin Morgan, Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, Prifysgol Caerdydd

4.00 Sylwadau i gloi Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru

Page 4: Canllaw i’r Gynhadledd - Wales Audit Office · Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Agenda’r Gynhadledd 9.30 Cofrestru a phaned 9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012

Siaradwyr

Huw Vaughan ThomasArchwilydd Cyffredinol Cymru

Addysgwyd Huw Vaughan Thomas ym Mhrifysgol Durham a Phrifysgol y Ddinas yn Llundain. Yn dilyn gyrfa â’r Gwasanaeth Sifil, yn 1988 fe’i benodwyd yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol yr Adran Gyflogaeth a Chyfarwyddwr dros Gymru.

Ym 1991, cafodd Huw ei benodi’n Brif Weithredwr Cyngor Sir Gwynedd. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol, symudodd i Gyngor Sir Ddinbych lle bu’n Brif Weithredwr. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd hefyd yn Ysgrifennydd Cenedlaethol Cynorthwyol SOLACE (Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol) a bu ar ymweliadau cyfnewid gyda phrif weithredwyr yn Tasmania a’r Seland Newydd.

Yn 2001, ymunodd Huw â Taro Consultancy a gweithiodd gydag ystod eang o gleientiaid cyhoeddus a phreifat. Roedd yn aelod o Gomisiwn Richard, a edrychodd ar bwerau a threfniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru; bu’n gadeirydd y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru ac yn aelod o Fwrdd Parôl Cymru a Lloegr.

Mae hefyd wedi bod yn aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cyngor Cymdeithas y Cyfreithwyr, y Cyngor Cymhorthion Clyw a Dosbarthwr Loteri’r Gemau Olympaidd. Mae Huw hefyd wedi ymwneud â llawer o waith gwirfoddol fel Ymddiriedolwr elusennau ar gyfer pobl byddar a thrwm eu clyw. Mae’n gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, ac yn 2001 cafodd ei wneud yn Gydymaith y Sefydliad Siartredig Rheoli am ei gyfraniad at wasanaethau rheoli y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Cafodd ei benodi yn Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 1 Hydref 2010.

Jennifer WallaceYmddiriedolaeth Carnegie UK

Mae Jennifer yn arwain y tîm polisïau yn Ymddiriedolaeth Carnegie UK. Ymunodd â’r Ymddiriedolaeth yn 2011 gyda dros ddeng mlynedd o brofiad ym maes ymchwil a datblygu polisïau. Mae ganddi ddiddordeb hirsefydledig mewn ymgysylltu â’r gymuned a gwasanaethau cyhoeddus.

Yn ei rôl flaenorol yn Consumer Focus Scotland arweiniodd y gwaith ymchwil a datblygu polisïau wrth gyflwyno User Focus a osododd ddyletswydd statudol ar gyrff craffu’r Alban i ganolbwyntio ar ddefnyddwyr yn eu holl weithgareddau.

Yn Ymddiriedolaeth Carnegie UK, mae’n rheoli’r tîm polisïau sy’n ymdrin ag ystod eang o feysydd polisi ac ymchwil o dan dair thema, sef Menter a Chymdeithas, Pobl a Lleoedd a Gwybodaeth a Diwylliant. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ceisio gwella bywydau a lles pobl ledled y DU a Gweriniaeth Iwerddon drwy ddylanwadu ar bolisïau cyhoeddus a dangos arfer da.

Page 5: Canllaw i’r Gynhadledd - Wales Audit Office · Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Agenda’r Gynhadledd 9.30 Cofrestru a phaned 9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012

Yr Athro Kevin MorganYsgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol, Prifysgol Caerdydd

Mae Kevin Morgan yn Athro Llywodraethu a Datblygu yn Ysgol Cynllunio Dinesig a Rhanbarthol Prifysgol Caerdydd. Mae wedi bod yn ymchwilio i arloesi yn y sector cyhoeddus am fwy na degawd, yn arbennig mewn perthynas â pholisi caffael cyhoeddus creadigol yn y DU, yr Eidal a Gogledd America, y mae’r canlyniadau wedi’u cyhoeddi fel The School Food Revolution: Public Food and the Challenge of Sustainable Development (Earthscan, 2008). Cyhoeddodd asesiad mwy diweddar am broblemau arloesi yn y sector cyhoeddus yng Nghymru mewn erthygl o’r enw Values for Money (Agenda, Gwanwyn 2012). Ar hyn o bryd, mae’n ymchwilio i rôl y sector cyhoeddus wrth hwyluso Arbenigaeth Ddeallus, y genhedlaeth newydd o bolisi arloesi rhanbarthol yn yr UE.

Alex LinkstonAelod o Gomisiwn Christie

Alex Linkston, IPFA, Cyn-Brif Weithredwr Cyngor Gorllewin Lothian. Dechreuodd ei yrfa pan ymunodd â Chyngor Sir Gorllewin Lothian fel yr oedd ar y pryd fel Cyfrifydd dan Hyfforddiant. Ym mis Hydref 1971, yn 21 oed, ef oedd y myfyriwr ieuengaf i ddod yn aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA). Cafodd ei benodi’n Brif Weithredwr Cyngor Dosbarth Gorllewin Lothian yn 1990 a Chyngor Gorllewin Lothian yn 1995. Derbyniodd Wobr Arweinyddiaeth Quality Scotland yn 2007. Dyfarnwyd CBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2008 ac ef oedd Gwirfoddolwr y Flwyddyn Prince’s Trust Scotland yn 2009.

Mae gan Alex nifer o ddiddordebau ers ymddeol. Mae’r rhain yn cynnwys bod yn Is-gadeirydd Bwrdd Coleg Gorllewin Lothian ynghyd â Chadeirydd Youth Link Scotland. Mae Alex hefyd yn aelod o Gyngor Prince’s Trust Scotland ac yn gyn-Arlywydd Clwb Rotari Linlithgow a Grange. Yn ddiweddar iawn, cafodd ei benodi’n Gadeirydd GIG Forth Valley

Ar ôl ymddeol, cafodd Alex ei benodi fel aelod o Gomisiwn Christie, corff a sefydlwyd gan Lywodraeth yr Alban i edrych ar ddyfodol gwasanaethau cyhoeddus yn yr Alban

Kate BennettY Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cyfarwyddwr Cymru

Cafodd Kate Bennett ei phenodi’n Gyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol newydd ym mis Medi 2007. Yn flaenorol, bu Kate yn Gyfarwyddwr Comisiwn Cyfle Cyfartal Cymru, swydd y bu ynddi ers 1999.

Mae Kate wedi ymwneud yn gyson â gwaith cydraddoldeb drwy gydol ei gyrfa. Cyn ei swydd fel Cyfarwyddwr y Comisiwn Cyfle Cyfartal, roedd Kate yn swyddog undeb llafur llawn amser, yn weithiwr ymgyrchu cymunedol, ac yn newyddiadurwr ymchwil. Cred Kate mai cydweithio, gweithio mewn partneriaeth a manteisio ar sgiliau a syniadau pawb fydd yr allwedd i sicrhau newid mewn cymdeithas.

Page 6: Canllaw i’r Gynhadledd - Wales Audit Office · Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Agenda’r Gynhadledd 9.30 Cofrestru a phaned 9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012

Martin SimePrif Weithredwr, Cyngor yr Alban ar gyfer Sefydliadau Gwirfoddol

Martin Sime yw Prif Weithredwr SCVO (Cyngor Mudiadau Gwirfoddol yr Alban), swydd y bu ynddi ers 20 mlynedd. SCVO yw corff mantell y sector gwirfoddol yn yr Alban ac mae ganddo dros 1300 o aelodau. Mae SCVO yn cynorthwyo’r sector i gynrychioli ei fuddiannau i’r cyhoedd a’r llywodraeth, yn darparu gwasanaethau cyffredin ac yn rheoli rhaglenni meithrin gallu.

Mae Martin yn aelod o Fwrdd ACOSVO, Rhwydwaith y Prif Swyddogion a Fforwm Arweinwyr yr Alban. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar Dasglu’r Fargen Newydd a’r Panel Arbenigol ar Weithdrefnau ar gyfer Senedd yr Alban. Roedd yn Gynghorydd i Gomisiwn Christie ar Ddiwygio’r Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn ddiweddar, ymunodd â Bwrdd Cynghori Reform Scotland.

Cyn ymuno â SCVO, gweithiodd Martin ym maes iechyd meddwl am 10 mlynedd, ac yn ddiweddarach fel Cyfarwyddwr Cymdeithas Iechyd Meddwl yr Alban (SAMH). Cyn hyn, mae wedi bod yn ymchwilydd academaidd a ffermwr defaid ar Ynys Lewis.

Nigel WalkerCyfarwyddwr Cenedlaethol yr Athrofa Chwaraeon, a chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol

Y tro cyntaf i Nigel Walker ennill cydnabyddiaeth o’r radd flaenaf fel athletwr oedd pan gynrychiolodd Prydain Fawr fel neidiwr clwydi uchel ar 30 achlysur ym mhob prif ddigwyddiad, yn cynnwys Pencampwriaethau’r Byd a’r Gemau Olympaidd. Ymddeolodd Nigel o fyd athletau yn 1992 i ddilyn ail yrfa chwaraeon fel chwaraewr rygbi’r undeb i Glwb Rygbi Caerdydd. Yn ystod ei dymor cyntaf enillodd gap dros Gymru ar lefel ryngwladol lawn ac aeth ymlaen i ennill 17 cap rhyngwladol llawn.

Mae Nigel wedi gwneud gwaith eang ac amrywiol yn y cyfryngau, gan gwmpasu teledu, radio a’r wasg. Mae wedi cyflwyno rhaglenni radio a theledu amrywiol, yn cynnwys ‘Walkeround Sport’ ar BBC Radio Wales; ‘Sports Magazine’ ar HTV; ‘Fantasy World Cup Rugby’ ar Radio 5 a ‘Quiz Challenge’ ar HTV. Mae Nigel yn gyd-sylwebydd ar Eurosport. Uchafbwynt ei waith yn y cyfryngau oedd cael ei benodi i’w swydd flaenorol fel Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru.

Mae Nigel yn siaradwr ar ôl cinio medrus. Ymhlith ei bynciau arbenigol mae: cymhelliant; gofynion ar gyfer llwyddo; gosod targedau; rheoli amser; arweinyddiaeth a datblygu diwylliant ‘gallu gwneud’.

Page 7: Canllaw i’r Gynhadledd - Wales Audit Office · Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Agenda’r Gynhadledd 9.30 Cofrestru a phaned 9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012

Gweithdy AHer lywodraethu: cynnal ymddiriedaeth yn y byd modern

Gerard Elias CF, Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Marcial Boo, Cyfarwyddwr Strategaeth, Gwybodaeth a Chyfathrebu, y Swyddfa Archwilio GenedlaetholPeter Tyndall, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Mike Usher, Cyfarwyddwr Grwp, Swyddfa Archwilio Cymru

Gweithdy BCodi hyder y cyhoedd pan fo llai o arian ar gael

Steve Thomas, Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad, Llywodraeth CymruKevin Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru

Gweithdai

ˆ

Page 8: Canllaw i’r Gynhadledd - Wales Audit Office · Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012 Agenda’r Gynhadledd 9.30 Cofrestru a phaned 9.45 Sylwadau agoriadol Huw Vaughan

Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus - 14 Mehefin 2012

Gweithdy CSymleiddio a chynaliadwyedd: sgwario’r cylch

Gareth Jones, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Dyfodol Cynaliadwy, Llywodraeth CymruTim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy, CLlLCAnne Meikle, Pennaeth, WWF CymruAlan Morris, Cyfarwyddwr Grwp, Swyddfa Archwilio Cymru

Gweithdy DMynediad a safonau: bodloni gofynion deddfwriaethol a chymdeithasol

Sarah Stone, y Dirprwy Gomisiynydd Dros Bobl Hyn Keith Towler, y Comisiynydd Plant Meri Huws, Comisiynydd yr Iaith GymraegGillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru

ˆ

ˆ