33

Click here to load reader

Chapter Chwefror 2015

  • Upload
    chapter

  • View
    234

  • Download
    4

Embed Size (px)

DESCRIPTION

 

Citation preview

Page 1: Chapter Chwefror 2015

chapter.org@chaptertweets029 2030 4400

Page 2: Chapter Chwefror 2015

Croeso i’ch cylchgrawn misol sy’n cynnwys holl fanylion rhaglen Chapter ym mis Chwefror. Mae gennym ambell ddigwyddiad ardderchog i’r teulu cyfan, o ddiwrnod agored ymarferol yr ardd gymunedol, ‘Plannu’r had ar y Sadwrn’ (t9), ynghyd â gweithdy i’r plantos, i hud a lledrith theatrig yn y sioe, If Only Rosa Could Do Magic (t14), sydd yn wledd o hiwmor a direidi. Ac i’r oedolion? Rydym yn falch iawn o allu cyflwyno gŵyl From Now On (tt12–13) am yr eildro, yn dilyn lansiad hynod lwyddiannus y llynedd. Mae’r ŵyl hon o gerddoriaeth fyw, arbrofol, wedi’i churadu gan Recordiau Shape, yn wrthbwynt perffaith i Ŵyl San Ffolant. Dewch â’ch cariad, eich ffrindiau, eich teulu, i fwynhau noson o gerddoriaeth fyw anhygoel. Bydd ein sinema yn ategu darpariaeth yr ŵyl â dangosiadau o rai o ffilmiau cerddorol gorau y gorffennol a’r cyfnod cyfoes, o Performance gyda Mick Jagger (t25) i’r clasur cwlt, Blow Up (t25). Ar ddydd Sul, 22 Chwefror, bydd arddangosfa Artes Mundi 6 (tt4-7) yn dod i ben. Os nad ydych chi wedi cael cyfle eto i astudio gwaith Karen Mirza a Brad Butler, Renzo Martens a Sharon Lockhart, brysiwch, da chi.Diolch am ddarllen ac fe welwn ni chi cyn hir.

ChapterHeol y Farchnad,Caerdydd CF5 1QE029 2030 4400

[email protected]

Croeso02 chapter.org

Delwedd y Clawr: If Only Rosa Could Do Magic

Defnyddiwch y côd QR hwn i lawr-lwytho copi digidol o gylchgrawn Chapter

CROESO

Jennifer KirkhamCynorthwy-ydd DatblyguDw i wedi bod yn gweithio yn rhan o Dîm Datblygu Chapter ers ychydig dros flwyddyn bellach a dw i’n ymwneud â phob agwedd ar Gynllun Ffrindiau Chapter.Wrth i dymor yr Oscars gyrraedd y mis hwn, mae yna ambell ffilm ardderchog ar y gorwel: mae Whiplash a Inherent Vice ar frig fy rhestr i o ffilmiau i’w gweld, ynghyd â Selma, Foxcatcher ac A Most Violent Year. Dw i ddim yn siŵr a fydd gen i amser i weld pob un ond dw i’n sicr yn mynd i roi cynnig arni! Cadwch lygad yn agored am gynnig aelodaeth gwych a fydd ar gael y mis hwn!

Page 3: Chapter Chwefror 2015

chapter.org

Oriel tudalennau 4–7

Bwyd + Diod/ Cefnogwch Nitudalen 8

Chapter Mix tudalen 9

Theatr tudalennau 10–15

Sinematudalennau 16–29 Addysgtudalennau 30–31

Gwybodaeth a Sut i archebu tocynnau tudalen 32

Cymryd Rhan tudalen 33

Calendr tudalennau 34–35

03

Nodwch os gwelwch yn dda bod copïau print bras o’n cylchgrawn ar gael ar gais. Cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 029 2030 4400.

03Uchafbwyntiau

CYMRYD RHAN

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Siaradwch â ni @chaptertweets facebook.com/chapterarts

Page 4: Chapter Chwefror 2015

Oriel04 029 2030 4400

Shar

on L

ockh

art,

Ste

phen

Bla

de, T

ryda

nwr,

200

8, 3

phr

int

crom

ogen

ig, G

yda

chan

iatâ

d yr

art

ist,

neu

gerr

iem

schn

eide

r Orie

l Gla

dsto

ne, B

lum

& P

oe, A

rtes

Mun

di, C

hapt

er. L

lun:

War

ren

Orch

ard

Page 5: Chapter Chwefror 2015

Oriel 05chapter.org

Renzo Martens & Institute for Human ActivitiesY Blwch Golau a Chyntedd y Theatr Mae Renzo Martens yn byw ac yn gweithio ym Mrwsel ac yn Kinshasa ac yn adnabyddus am ei ffilmiau ysgytwol am wledydd wedi’u difetha gan ryfel, lle mae e’n ei osod ei hun wrth galon y digwyddiadau cythryblus er mwyn dangos sut y mae gwylwyr Gorllewinol yn ‘prosesu’ digwyddiadau trawmatig mewn gwledydd pell. Bydd Martens yn cyflwyno ‘Episode 3 (Enjoy Poverty)’, ffilm am ei ymweliad â’r Congo adfeiliedig. Cynhaliodd gyfweliadau â ffotograffwyr, perchnogion planhigfeydd a chwarae rhannau’r newyddiadurwr gorllewinol, y gormeswr, y cenhadwr a’r gweithiwr cymorth. Mae ei ffilm yn canolbwyntio ar un prif bwynt: taw tlodi yw allforyn mwyaf gwerthfawr Affrica a’i fod, fel adnoddau naturiol eraill, yn cael ei ecsbloetio gan y byd Gorllewinol. Mae e’n cyflwyno darlithoedd i’r bobl leol ac yn sôn am dlodi fel nwydd ac yn eu hannog wedi hynny i werthu eu lluniau eu hunain o newyn a marwolaeth yn hytrach na gadael i newyddiadurwyr y Gorllewin elwa ar eu trychinebau dyngarol.

Sharon LockhartOrielMae Sharon Lockhart yn gweithio gydag unigolion a grwpiau i greu delweddau symudol a llonydd sydd yn weledol gymhellol ac yn arddangos ymagweddiad cymdeithasol sicr. Un o weithiau pennaf Lockhart yw Lunch Break (2008), sy’n dangos 42 o weithwyr mewn iard longau yn ystod eu hawr ginio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelwn weithwyr yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau — darllen, cysgu, a siarad — yn ogystal â bwyta eu cinio. Ar gyfer Artes Mundi 6 yn Chapter, bydd Lockhart yn dangos un o ddwy ffilm o Lunch Break o’r enw Exit. Wedi’i ffilmio dros gyfnod pum-niwrnod yr wythnos waith, mae pob un o’r pum golygfa yn Exit yn dangos y gweithwyr yn gadael y Bath Iron Works ar ddiwedd eu shifft. Gan ddwyn i gof ffilm Louis Lumière, Leaving the Lumière Factory, mae Exit yn canolbwyntio ar lif amser a manylion profiadau bob dydd.

Artes Mundi 6Tan ddydd Sul 22 ChwefrorRydym yn falch iawn o allu cydweithio ag Artes Mundi i gyflwyno gwaith gan Karen Mirza a Brad Butler (DG), Renzo Martens (Yr Iseldiroedd) a Sharon Lockhart (UDA). Mae gweithiau gan yr artistiaid eraill ar restr fer gwobr Artes Mundi 6 i’w gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, ac yn Ffotogallery, Penarth. I weld manylion yr holl artistiaid ar y rhestr fer ac oriau agor y lleoliadau eraill, ewch i www.artesmundi.org

Arddangosfa ar agor:Dyddiau Mawrth, Mercher,Sadwrn a Sul 12-6pm;dydd Iau a dydd Gwener 12-8pm; ar gau ar ddydd Llun

Renzo Martens, Episode III: Enjoy Poverty, 2009, fideo lliw â sain, 90 munud, is-deitlau Saesneg, gyda chaniatâd yr artist, Galerie Fons Welters, Amsterdam ac Oriel Wilkinson, Llundain, llun: Warren Orchard

Page 6: Chapter Chwefror 2015

Oriel06 029 2030 4400

Karen Mirza a Brad ButlerOriel a Celfyddyd yn y BarBu Mirza a Butler yn cydweithio ers 1998, ac maent wedi datblygu corff o waith aml-haenog sy’n cynnwys ffilm, gosodiadau, perfformiadau, cyhoeddiadau a gwaith curadu. Mae eu gwaith yn her i dermau fel cyfranogi a chydweithredu ac i syniadau traddodiadol am yr artist fel cynhyrchydd a’r gynulleidfa fel derbynnydd. Ar gyfer Artes Mundi 6 yn Chapter, bydd Mirza a Butler yn cyflwyno ‘The Unreliable Narrator’, clwstwr o weithiau sy’n chwarae â’r bwlch rhwng ffuglen a realiti. Yn ‘You are the Prime Minister’, mae neon llachar yn troi’n wahoddiad i dderbyn rôl y Prif Weinidog mewn ffuglen ffantasïol. Mae gosodiad fideo o’u heiddo hefyd yn sôn am yr ymosodiadau ym Mumbai yn 2008, o safbwyntiau terfysgwyr a sylwebwyr ymddangosiadol ddiduedd am yn ail.

Y ddau lun: Karen Mirza a Brad Butler, The Unreliable Narrator, 2014, fideo, gosodiad fideo 2-sianel, sain, 16’20”, delwedd fideo, gyda chaniatâd Waterside Contemporary, Llundain.

Page 7: Chapter Chwefror 2015

Oriel 07chapter.org

ODDI AR BRIF Y SAFLE, YN YR AMgUEDDFA gENEDLAEtHOL, CAERDYDD

the gossipMaw 17 Chwefror 11pm–7amMae angen chwyldro arnaf, ond does gen i ddim syniad sut beth yw chwyldro. Dw i’n teimlo ei bod hi’n amser i mi hawlio a deall fy ngallu. I ddefnyddio grym y menywod a’m rhagflaenodd a grym y rheiny a ddaw ar fy ôl. Ble mae dechrau? Mae hi’n dasg sy’n estyn ymlaen ac yn ôl drwy amser. Dechreuaf yn y fan hon — yn awr.Mae hwn yn wahoddiad i ni ddod at ein gilydd ar ddiwedd dydd, dan flanced y nos, i wylio’r lleuad. Caiff amheuon eu hatgyfodi ynghylch y prosesau hanesyddol o erlid gwrachod — prosesau a arweiniodd at ddinistrio perthnasau cymunedol, preifateiddio tir, preifateiddio bywyd ac atgynhyrchu cymdeithasol a dinistrio tir comin.Gwahoddir menywod i dreulio’r nos yma. Galwn ar ffoaduriaid, gwrachod, menywod doeth, ‘dakus’ a breuddwydwyr. Fe’ch gwahoddir i ymuno â ni i hel clecs yng nghalon yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth, 17 Chwefror o 11pm-7am.Mae The Gossip yn rhan o brosiect o’r enw The Patriarchal Clock, sydd yn archwilio cyrff menywod a’u rôl fel mannau ar gyfer wrthsafiad. Mae’r prosiect yn dathlu undod, cryfder a grym merched yn wyneb trais, camdriniaeth, hiliaeth a gormes.Mae hwn yn ddigwyddiad i fenywod yn unig, ac mae croeso i bob merch. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael i ymuno â The Gossip; i nodi eich diddordeb, anfonwch e-bost at [email protected] cyn 2 Chwefror.

Digwyddiadau Amser Cinio Artes Mundi Iau 5 Chwefror 1.05pmBydd Sinffonia Newydd yn perfformio première byd-eang o gerddoriaeth gomisiwn arbennig a ysbrydolwyd gan arddangosfa Artes Mundi.RHAD AC AM DDIM

Sgyrsiau am 2Sad 7 + Sad 21 Chwefror 2pmCynhelir ein ‘Sgyrsiau am 2’ bob yn ail ddydd Sadwrn yn ystod cyfnodau ein harddangosfeydd ac fe’u cyflwynir gan ein Tywyswyr Byw, Richard Higlett a Thomas Williams. Mae’r sgyrsiau’n gyfle i ddysgu mwy am yr arddangosfa gyfredol ac am ddulliau gwaith unigryw yr artistiaid. Ni fydd dwy sgwrs yn union yr un fath ond y gobaith yw y byddan nhw’n ddiddorol ac yn agored bob amser. Mae’r Sgyrsiau am 2 yn rhad ac am ddim ac nid oes angen archebu lle ymlaen llaw — ymunwch â ni y tu allan i fynedfa’r Oriel!RHAD AC AM DDIM

The

Patr

iarc

hal C

lock

, 201

4, G

yda

chan

iatâ

d Ka

ren

Mirz

a a

Rach

el A

nder

son.

Llu

n: W

arre

n Or

char

d

Page 8: Chapter Chwefror 2015

08 029 2030 4400Bwyd + Diod/Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni Mae Chapter yn elusen gofrestredig ac rydym yn dibynnu ar gefnogaeth gan unigolion a busnesau i gyflwyno ein rhaglen artistig amrywiol a’n gwaith addysgol pwysig. Rydym yn ddiolchgar am bob ceiniog a dderbyniwn ac fe allwn gynnig ambell beth gwych i chi yn gyfnewid. Mae yna nifer o wahanol ffyrdd o gymryd rhan ...

UNIGOLION FfrindiauYmunwch â chynllun Ffrindiau Chapter ac fe gewch chi fwynhau amrywiaeth o fuddion yn amrywio o ostyngiadau ar docynnau a bwyd a diod yn ein Caffi Bar i wahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn Ffrindiau hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd : £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur : £45/£40 MyfyrwyrYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth yn rhad ac am ddim a manteisio ar gynigion arbennig ardderchog, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? Cofrestrwch heddiw drwy ymweld âhttp://www.chapter.org/cy/chapter-student-membership RhoddionCofrestrwch i wneud cyfraniad unigol neu i wneud cyfraniadau rheolaidd i Chapter, er mwyn chwarae rhan lawn yn ein gwaith elusennol. Gallwch wneud cyfraniadau ar-lein, ar http://www.chapter.org/cy/cefnogwch-ni, neu drwy ymweld â’n Swyddfa Docynnau. Gallwch wneud cyfraniadau hefyd drwy neges destun erbyn hyn — tecstiwch ‘Chap14’, ynghyd â’r swm yr hoffech ei roi, i 70070. Fydd hi ddim yn costio ceiniog i chi anfon y neges destun ac fe fyddwn ni’n derbyn 100% o’ch cyfraniad.

CymynroddionMae gadael cymynrodd i Chapter yn fodd o ddiogelu ein gwaith at y dyfodol. Os hoffech chi ystyried gadael rhodd i Chapter yn eich Ewyllys, dylech gysylltu yn y lle cyntaf â’ch cyfreithiwr i gael cyngor. Os ydych chi eisoes wedi crybwyll Chapter yn eich Ewyllys, rhowch wybod i ni, fel y gallwn gydnabod eich cyfraniad yn y modd mwyaf priodol.

BUSNESAUClwbCynllun aelodaeth Chapter i fusnesau. Am ffi flynyddol fechan, gall eich busnes chi fwynhau manteision sylweddol yn Chapter, a’r rheiny’n cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, defnydd o’n mannau llogi hyblyg a gostyngiadau i chi a’ch staff ar docynnau sinema a theatr yn ogystal ag ar fwyd a diod yn ein Caffi Bar.I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.chapter.org/cy/chapter-clwb NawddYn 2014, dyfarnodd Celfyddydau & Busnes Cymru Wobr Gyffredinol Categori’r Celfyddydau i Chapter am ein perthynas waith ragorol â busnesau. Mae yna nifer o gyfleoedd noddi ar gael ac mae’r rheiny’n cynnig buddion gwych, gan gynnwys cyfranogiad staff, lletygarwch corfforaethol a hyrwyddo brand.

Bwyta + YfedÂ’r gwanwyn ar y gorwel, rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno cynnyrch ffres a chynhwysion newydd i groesawu’r tymor newydd. Cyn hynny, fodd bynnag, byddwn yn paratoi crempogau Mawrth Ynyd ac yn eu gweini â llenwadau melys a sawrus hyfryd. A fyddai hi ddim yn fis Chwefror heb Ddydd San Ffolant.

BWYD+DIOD/CEFNOGWCH NI

Page 9: Chapter Chwefror 2015

Chapter Mix 09chapter.org

Cylch Chwedleua CaerdyddSul 1 Chwefror 8pmStraeon ar Droad y Flwyddyn. Straeon, caneuon a chwmni da i’ch cynhesu ar noson aeafol.£4 (wrth y drws)

Dydd Iau Cyntaf y Mis:Barddoniaeth a Ffuglen NewyddIau 5 Chwefror 7.30pmNoson arbennig yng nghwmni golygydd Poetry Wales, Nia Davies, y nofelydd a’r bardd nodedig, Richard Gwyn, y beirdd ifainc o Gaerdydd, Emily Blewitt a Rebecca Parfitt, a Fran Lock sy’n byw yn Llundain. Sesiwn meic agored i ddilyn.Noddir gan Seren Press, Gwasg Mulfran a Llenyddiaeth Cymru.

£2.50 (wrth y drws)

Clwb Comedi the DronesGwe 6 + Gwe 20 Chwefror Drysau’n agor: 8.30pm Sioe’n cychwyn: 9pmClint Edwards sy’n cyflwyno’r ‘stand-ups’ addawol gorau. Gwelwyd peth o ddeunydd y nosweithiau hyn ar raglen ‘Identity Crisis’ Rob Brydon.Dydd Gwener cyntaf a thrydydd dydd Gwener y mis. Un o’r ‘Deg Peth Gorau i’w Gwneud yng Nghaerdydd’ yn ôl cylchgrawn The Big Issue. £3.50 (wrth y drws)

Clonc yn y CwtshBob dydd Llun 6.30–8pmYdych chi’n dysgu Cymraeg? Ymunwch â ni i ymarfer eich Cymraeg yng nghwmni dysgwyr eraill. Croeso i bawb!RHAD AC AM DDIMAr y cyd â Menter Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd

Jazz ar y SulSul 22 Chwefror 9pmEin noson fisol o jazz acwstig melodig yn y Caffi Bar gyda Phedwarawd Glen Manby.RHAD AC AM DDIM www.glenmanby.com

Darlith Cymdeithas Celfyddydau Cain ac Addurnol De CymruIau 12 Chwefror 2pm‘A Royal Wardrobe Unlocked’Kate Strasdin BA MARoedd y Frenhines Alexandra yn un o ffigyrau cyhoeddus mwyaf poblogaidd y 19eg ganrif ac roedd hi’n graff iawn wrth ymwneud â’i phoblogrwydd ei hun. Mae’r dillad a oroesodd o’i chwpwrdd dillad brenhinol eang yn adrodd hanes gwraig hynod. Bydd y ddarlith hon yn tynnu sylw at arwyddocâd gwrthrychau wrth fynd ati i geisio datguddio’r gorffennol.Ymwelwyr £6 (wrth y drws, yn ddibynnol ar le) www.swdfas.org

Music geek MonthlyIau 13 Chwefror 2pmTrafodir un clasur o albwm ac un albwm newydd sbon yn y Pwynt Cyfryngol ar ddydd Iau olaf y mis.RHAD AC AM DDIMwww.musicgeekmonthly.tumblr.com

Plannu’r had ar y SadwrnSad 28 Chwefror 11am–2pmCyfle gwych i rannu eich hadau, eich planhigion ac offer garddio diangen, ac i ddysgu gan arddwyr profiadol am faterion fel hogi a chynnal eich offer a chadw gwenyn. Fyddwch chi’n dod â’r teulu gyda chi? Bydd yna weithgareddau i blant, wedi’u trefnu gan Grŵp Gerddi Cymunedol Treganna a Chaerdydd yn ei Blodau.I gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch Sue Waring — [email protected] Ruth Mumford — [email protected] neu ffoniwch (029) 2068 4000.

Page 10: Chapter Chwefror 2015

Theatr10 029 2030 4400

Perf

form

io ‘L

es B

onne

s’

‘Gwaith cymhleth, aml-haenog... darn cyfoethog yn llawn pethau hyfryd’ Jon Gower am Perfformio ‘Les Bonnes’

Page 11: Chapter Chwefror 2015

Theatr 11chapter.orgBr

endo

n Bu

rns

Perfformio ‘Les Bonnes’Iau 19 — Sad 21 + Gwe 27 — Sad 28 Chwefror 8pmYng nghwmni Grŵp Llanarth (Cymru), Gaitkrash (Cork, Iwerddon) a Theatr P’yut (Seoul, Korea)Yn ystod cyfnod o galedi, pwy sy’n gwenu? Pwy sy’n gweini — a phwy sy’n derbyn? Bydd ensemble rhyngwladol yn archwilio deinameg caethwasanaeth…Cydweithrediad rhyngwladol rhwng artistiaid gwobrwyol o bedair o wledydd bychain, dan gyfarwyddyd Phillip Zarrilli a’r dramodydd, Kaite O’Reilly. Mae’r cyflwyniad yn archwilio deinameg grym a chaethwasanaeth, cyfoeth-fel-braint a gwleidyddiaeth globaleiddio. Gallwch ddisgwyl yr annisgwyl wrth i ddau bâr o chwaer-forynion (o Iwerddon ac o Korea), ‘Madame’ o Tsieina, ac artist sain a sielydd wau at ei gilydd gyflwyniad cyfoethog o gerddoriaeth, geiriau, symudiadau, ieithoedd ac ystumiau i greu profiad theatrig unigryw, wedi’i ysbrydoli gan glasur Jean Genet, Les Bonnes (Y Morynion). Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

+ Trafodaethau ar ôl y sioe£12/£10/£816+ oedwww.phillipzarrilli.com www.kaiteoreilly.com

Brendon BurnsMaw 10 Chwefror 8pmNid digrifwr cyffredin mo Brendon Burns. Mae e’n hŷn, yn ddoethach ac yn llai gwyllt (ac ar ôl cael cymorth clywed mae e dipyn yn dawelach) ond mae e’n dal yn fwrlwm o egni. Mae ei droadau ymadrodd yn gwrs ond yn rhyfedd o huawdl. Maent hefyd yn gwbl hygyrch ac yn hynod hoffus. Dyw e byth yn hunan-bwysig ac mae ei natur hunan-fychanus yn galluogi iddo ddweud pethau rhyfeddol. Mae ei ddylanwad ar y byd ‘stand-up’ i’w deimlo ymhobman. Cafodd ei efelychu sawl tro ond ef yw’r meistr: mae ei sioeau hirion yn ‘brofiadau’ yn hytrach na pherfformiadau. Mae Burns yn arbrofwr parhaol â ffurf ac wrth ei fodd â sialensiau newydd.£8

“Y sioe fwyaf syfrdanol, lletchwith a gwerth chweil a welsom erioed” ★★★★★★ (Sgôr ddigynsail o chwe seren allan o chwech) Time Out, Llundain

Page 12: Chapter Chwefror 2015

Theatr12 029 2030 4400

‘Un o wyliau cerddoriaeth gyfoes mwyaf cyffrous ac arloesol y cyfnod diweddar’ Cylchgrawn Crack

Ydy gŵyl From Now On yn apelio? Bydd ein sinema hefyd yn ymuno yn hwyl yr ŵyl ac yn dangos detholiad amrywiol o ffilmiau a dogfennau cerddorol yn ystod mis Chwefror. O glasuron cwlt y 60au i ddogfennau cerddorol cyfoes, a sesiwn karaoke Rolling Stones/David Bowie, bydd yna rywbeth at ddant pawb. Gweler y manylion ar dudalennau 24–27.

Page 13: Chapter Chwefror 2015

Theatr 13chapter.org

Mark Daman ThomasShape & IsletDw i’n edrych ymlaen yn eiddgar at allu cyflwyno From Now On eto. Mae hi’n bleser pur cael curadu gŵyl lle gall pobl ymwneud â cherddoriaeth a sain o’r tu hwnt i’r brif ffrwd. Eleni, dw i wedi ceisio cyfuno artistiaid rhyngwladol a Chymreig, pobl sy’n hoff o gymryd risgiau ac o greu a pherfformio cerddoriaeth sydd yn unigryw ac yn ysgogi’r meddwl.Fel cerddor gyda’r band Islet, mae nifer o’r bandiau hyn wedi fy ysbrydoli a fy herio — ac mae hi’n bleser mawr gallu eu gwahodd nhw i Gaerdydd. Dw i’n edrych ymlaen hefyd at weld rhai o fy nghyd-aelodau o Islet mewn perfformiad prin o’u prosiect progadelig, Them Squirrels!

From Now OnGwe 13 — Sad 14 ChwefrorMae’r ŵyl sy’n llawn cerddoriaeth anturus yn dychwelyd am yr eildro.

Anna Meredith, Zun Zun Egui, James Blackshaw, Jarcrew, Dope Body, Meilyr Jones, Them Squirrels, The Wharves, Moonbow, Tobion, Mowbird, Jemma Roper, Giant Burger + llu o fandiau eraill i’w cadarnhau Rydym yn falch iawn o allu cydweithio unwaith eto â Shape Records i gyflwyno gŵyl o gerddoriaeth a sain anturus ac anarferol.Bydd y perfformiadau’n cynnwys pync-ffync amlieithog ac egsotig Zun Zun Egui, ‘noise rock’ Dope Body o Baltimore a sioe gosmig amlsynhwyraidd gan Moonbow. Byddwn hefyd yn cyflwyno perfformiad prin gan y rocwyr cwlt o Rydaman, Jarcrew, a pherfformiad cyntaf o brosiect newydd cyn-arweinydd Racehorses, Meilyr Jones. Bydd yna sioe ‘fuzz’ arbennig gan The Wharves hefyd. Mae hi’n addo bod yn benwythnos a hanner.Tocynnau: Dydd Gwener: £15 Dydd Sadwrn: £20Y ddau ddiwrnod: £30I weld y rhestr lawn o berfformwyr ac i gael mwy o wybodaeth, ewch i fromnowonfestival.co.uk#FNO15Cynhyrchir gŵyl From Now On gan Shape a Chapter shaperecords.co.ukGyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Gyda’r cloc o’r chwith uchaf: Zun Zun Egui, llun: Leah Pritchard; Lucky Dragons yn FNO14, llun: Joe Singh; Grŵp Canolfan Hamdden yn FNO14, llun: Joe Singh; Moonbow, llun: Emmet Green; Them Squirrels

Page 14: Chapter Chwefror 2015

Theatr14 029 2030 4400

RUN RAggED PRODUCtIONS YN CYFLwYNO

the First time MachineLlun 9 + Maw 10 Chwefror 6pm + 8.30pmFoneddigion a boneddigesau, dewch ynghyd! Cyn Doctor Who a’r TARDIS, cyn Back to The Future, roedd Anacronopete — Y Peiriant Amser Cyntaf. Mae’r Brodyr Treays yn eich croesawu chi i’w llong ofod ar gyfer taith fythgofiadwy ac ymweliad anhygoel â’r gorffennol. Yn cynnwys gweithredoedd milwrol o ddewrder anhygoel ac eirth peryglus, mae’r darn hwn yn ddawns drwy amser a fydd yn eich diddanu ac yn eich haddysgu. Gwledd o gerddoriaeth fyw, theatr a dawns. Ymunwch â’r teulu cyfan ar daith yn llawn darganfyddiadau rhyfeddol ...Foneddigion a boneddigesau, fechgyn a merched, gwisgwch eich gwregysau diogelwch!£87+ oed

tHEAtR IOLO YN CYFLwYNO CYNHYRCHIAD gAN KAtJA BRItA LINDEBERg

If Only Rosa Could Do MagicGwe 20 + Sad 21 Chwefror 11.30am + 3pmSioe glown ddoniol, chwerw-felys a hollol unigryw.Byddai rhai’n dweud bod gan Rosa bopeth y gallai merch ddymuno ei gael.Mae ganddi’r ffrog hyfrytaf, y gwallt harddaf, llawer o deganau pinc a chymaint o losin ag y gall fwyta, felly pam mae hi’n drist? Mae Rosa yn aml yn meddwl tybed a oes rhywbeth yn bod arni? Does ganddi ddim ffrindiau i chwarae â nhw ac mae ei rhieni wastad yn absennol.Felly, er mwyn pasio’r amser, mae Rosa’n creu byd o freuddwydion wedi’i lenwi â dreigiau a brogaod, a rhieni sy’n ei deall ac yn mwynhau treulio amser yn ei chwmni.Cafodd Katja Brita Lindeberg ei geni a’i magu yn Trondheim, Norwy. Mae hi’n gweithio fel artist llwyfan ac actores ac yn arbenigo mewn arddulliau clown. Cafodd If Only Rosa Could Do Magic ei gweld gan fwy na 20,000 o blant ar hyd a lled Ewrop ac roedd yn un o uchafbwyntiau gŵyl celfyddydau perfformio plant a phobl ifanc Imaginate 2014.+ Gweithdy clown i blant ar ôl y sioe ar dydd Gwener 20 Chwefror, 11.30am a dydd Sadwrn 21 Chwefror 3pm — rhyw 50 munud (nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael felly gorau po gyntaf yr archebwch le)£6 neu £9 am docyn cyfun ar gyfer y sioe a’r gweithdy Addas ar gyfer plant 5 — 9 oedCefnogir gan Norsk kulturråd a Spenn.no

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

Firs

t Ti

me

Mac

hine

, If O

nly

Rosa

Cou

ld D

o M

agic

Page 15: Chapter Chwefror 2015

Theatr 15chapter.org

DEvIL’S vIOLIN YN CYFLwYNO

the Forbidden DoorLlun 9 Chwefror 8pmBeth fyddech chi’n fodlon ei aberthu er mwyn eich cariad? Croeso i sinema y meddwl. Â’u cyfuniad angerddol o gerddoriaeth fyw a chwedleua deinamig, mae Devil’s Violin yn gwau at ei gilydd alawon a dirgelwch. Peidiwch ag agor y drws!Cyn gynted ag y caiff rheol ei diffinio, caiff ei thorri. Ac ar ôl i’r drws gael ei agor ...? Anturiaethau! Rydym yn hoff bob un o stori dda, ac mae hon yn stori wych. Gallwch ddisgwyl clywed am gariad, colled, drama, perygl, arswyd, hiwmor a threialon di-ri. Ond a yw hi’n bosib gwthio pethau’n rhy bell?Bu The Devil’s Violin yn anadlu bywyd newydd i hen gelfyddyd chwedleua ers 2006. Bydd y storïwr nodedig Daniel Morden yn ymuno â’r cerddorion meistrolgar, Sarah Moody, Dylan Fowler ac Oliver Wilson-Dickson. Yn llawn dylanwadau o ganu gwerin, cerddoriaeth y byd a cherddoriaeth glasurol, mae’r gerddoriaeth a’r stori’n ffurfio undod a fydd yn eich arwain i fyd llawn dychymyg. £12/£10/£8Oed 12+

‘Gwaith hudolus sy’n troedio’r ffin rhwng bywyd a marwolaeth ac yn cydnabod, trwy rym y llais a cherddoriaeth, bod hud a lledrith i’w cael ym mhob man’ The Times

ODDI AR Y BRIF SAFLE YN YR EgLwYS NORwYAIDDgAggLEBABBLE YN CYFLwYNO

the Forsythe SistersMer 4 — Gwe 6 + Mer 11 — Sad 14 Chwefror 8pmStori ysbryd iasol a cherddorol gan y tîm arobryn a oedd yn gyfrifol am The Bloody Ballad. Ydych chi erioed wedi gweld wyneb cysgodol yn y tywyllwch, wedi clywed wylofain rhyfedd yn ystod y nos, neu wedi cael y teimlad bod yna rywun yn eich gwylio? Mae’r Chwiorydd Forsythe yn arbenigwyr ar y paranormal — drwy gyfrwng dangosiadau disglair o gysylltiadau seicig, caneuon a hanesion go iawn, gwelwn, y mis Chwefror hwn, y gall y byw gerdded yng nghwmni’r meirw. Ond beth yw’r holl wir am y Chwiorydd? A phwy yw’r angel gwyn sy’n aflonyddu arnynt? A yw hi’n bosib go iawn i gŵn weld globynnau (‘orbs’)? Ymunwch â ni yn yr Eglwys Norwyaidd am baned o de a phrofiad o’r tu hwnt i’r bedd.Ysgrifennwyd gan Lucy Rivers a Hannah McPakeCyfarwyddwyd gan Adele ThomasPartner Creadigol: Dafydd JamesCerddoriaeth wreiddiol gan Lucy Rivers, gyda’r gwestai arbennig, Dan Lambert.Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Iolo, Chapter a Chanolfan Mileniwm Cymru.

£12/£10 Rhagolygon (4 + 5 Chwefror) £1014+ oedwww.gagglebabble.co.uk @gagglebabble1 #ForsytheSisters Sioeau Ychwanegol ‘Friday Fright Night’ ar ddydd Gwener 6 + dydd Gwener 13 Chwefror 10pm.Gwisgwch i fyny a dewch draw i sioeau arbennig ‘Friday Fright Night’ — bydd yna gyffro a hwyl ychwanegol i’w cael yn ystod y perfformiadau hyn.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: The

For

bidd

en D

oor,

The

For

syth

e Si

ster

s

Page 16: Chapter Chwefror 2015

Sinema16 029 2030 4400

Test

amen

t of

You

th

‘Perfformiad rhyfeddol, gwirioneddol angerddol’ Catherine Shoard, The Guardian

SINEMA

Page 17: Chapter Chwefror 2015

Sinema 17chapter.org

FoxcatcherGwe 30 Ionawr — Iau 5 ChwefrorUDA/2014/134mun/15. Cyf: Bennett Miller. Gyda: Steve Carell, Channing Tatum, Mark Ruffalo.

Mae’r reslwr, Mark Schultz, sy’n benderfynol o ddianc o gysgod ei frawd mwy llwyddiannus, yn cael ei alw gan filiwnydd ecsentrig o’r enw John du Pont i’w ystâd i hyfforddi ar gyfer Gêmau Olympaidd Seoul 1988. Fodd bynnag, mae du Pont yn cymell arferion peryglus ac yn torri hyder Mark, ac mae hynny’n ei yrru i drobwll hunan-ddinistriol. Yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, mae hon yn drasiedi Americanaidd afaelgar am ddynion bregus a seiliodd eu bywydau ar geisio mawredd ond a arweiniwyd ar eu pennau i drasiedi.

testament of Youth Gwe 30 Ionawr — Iau 5 Chwefror DG/2014/130mun/12A. Cyf: James Kent. Gyda: Alicia Vikander, Hayley Atwell, Dominic West, Kit Harington.

Ffilm yn seiliedig ar stori wir Vera Brittain, a ohiriodd ei hastudiaethau ym Mhrifysgol Rhydychen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, i wasanaethu fel nyrs yn Llundain, Malta a Ffrainc. Darn godidog, wedi’i saethu’n hyfryd, am gariad, aberth a dinistr rhyfel. Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-Deitlau Meddal ar ddydd Mawrth 3 Chwefror 10.30am a dydd Mercher 4 Chwefror 5.45pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

wildGwe 30 Ionawr — Iau 5 ChwefrorUDA/2014/115mun/15. Cyf: Jean-Marc Vallée. Gyda: Reese Witherspoon, Gaby Hoffmann, Laura Dern.

Â’i phriodas ar ben a’i mam wedi marw, mae Cheryl Strayed wedi colli pob gobaith ac yn ei chael ei hun mewn twll go iawn. Mae hi’n penderfynu ffawd-heglu ar hyd llwybr 1100 milltir y Pacific Crest, ar ei phen ei hun, heb unrhyw brofiad o gwbl, ac wedi’i gyrru gan ei natur benderfynol yn unig. Yn llawn arswyd a phleser profiad o fywyd go iawn, mae hon yn ffilm hardd a chinetig.

Moviemaker Chapter Llun 2 ChwefrorSesiwn reolaidd sy’n caniatáu i gyfarwyddwyr annibynnol ddangos eu ffilmiau byrion. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â dangos eich ffilm chi, neu i gael unrhyw wybodaeth arall, e-bostiwch [email protected]. O bryd i’w gilydd, dangosir ffilmiau sy’n cynnwys deunydd anaddas i bobl iau. Awgrymwn, felly, bod sesiynau Moviemaker Chapter yn addas ar gyfer pobl 18+ oed.

O’r b

rig: F

oxca

tche

r, W

ild

Page 18: Chapter Chwefror 2015

Sinema18 029 2030 4400

whiplashGwe 6 — Iau 12 Chwefror UDA/2014/106mun/15. Cyf: Damien Chazelle. Gyda: Miles Teller, Melissa Benoist, JK Simmons, Paul Reiser.

Wedi’i blagio gan yrfa aflwyddiannus ei dad fel awdur, mae Andrew yn ddrymiwr jazz ifanc uchelgeisiol, sy’n ceisio llwyddo yn ei conservatoire fel y bydd, yn y pen draw, yn un o’r mawrion. Mae Terence Fletcher, hyfforddwr chwedlonol sy’n adnabyddus am ei ddulliau dysgu brawychus, yn clywed Andrew ac yn ei wahodd i ymuno â’i fand jazz. Ond mae dyhead Andrew i chwarae’n berffaith yn troi, mewn dim o dro, yn obsesiwn ac mae ei athro didostur yn ei wthio hyd derfynau ei allu a’i bwyll. + Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Mawrth 10 Chwefror 6pm a dydd Mercher 11 Chwefror 2.30pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

A Most violent YearGwe 20 Chwefror — Iau 5 Mawrth UDA/2014/125mun/15. Cyf: JC Chandor. Gyda: Oscar Isaac, Jessica Chastain, David Oyelowo.

Yn ystod gaeaf 1981, yn ninas Efrog Newydd, mae mewnfudwr uchelgeisiol yn brwydro i amddiffyn ei fusnes a’i deulu yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf treisgar a pheryglus yn hanes y ddinas. Ar ôl talu blaendal ar gyfer warws a fydd yn caniatáu iddo geisio gwireddu ei Freuddwyd Americanaidd, mae gan y mewnfudwr, Abel, 30 diwrnod i ddod o hyd i weddill yr arian. Ond mae trais, pydredd a llygredd yn rhemp yn y ddinas ac yn bygwth dinistrio popeth.Enillydd Gwobr Ffilm Orau 2014 y National Board of Review.Is-deitlau meddal ar ddydd Mawrth 24 Chwefror 10.30am a dydd Iau 26 Chwefror 6pm. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Inherent viceGwe 13 — Iau 19 Chwefror UDA/2014/149mun/15. Cyf: Paul Thomas Anderson. Gyda: Jena Malone, Reese Witherspoon, Josh Brolin, Joaquin Phoenix.

Ar ddiwedd y 60au seicedelig, mae cyn-gariad y ditectif preifat, Doc Sportello, yn gofyn am ei gymorth i rwystro cynlluniau gwraig ei biliwnydd o gariad i ddial ar bob un ohonynt. Mae’r ffilm hon, sy’n addasiad o nofel Thomas Pynchon, yn llawn ‘hustlers’, rocars, heddweision llygredig a sacsoffonydd — cast o gymeriadau brith sy’n byw ac yn bod ym myd ‘surf noir’ Los Angeles.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Mercher 18 Chwefror 2.30pm a 5.30pm (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

O’r b

rig: A

Mos

t Vi

olen

t Ye

ar, W

hipl

ash

Page 19: Chapter Chwefror 2015

19chapter.org Sinema

wild Combination: A Portrait of Arthur RussellGwe 6 — Iau 12 ChwefrorUDA/2008/71mun/15arf. Cyf: Matt Wolf.

Portread gweledol-graff o’r cyfansoddwr avant-garde arloesol a chynhyrchiol, a gŵr a oedd hefyd yn ganwr-gyfansoddwr, yn sielydd, ac yn gynhyrchydd disgo. Cyn ei farwolaeth annhymig, o ganlyniad i AIDS ym 1992, roedd Russell yn gyfrifol am gerddoriaeth a lwyddodd i gyfuno pop â phosibiliadau trosgynnol celfyddyd haniaethol. Yn cynnwys deunydd archif prin a chyfweliadau gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr Arthur, gan gynnwys Philip Glass ac Allen Ginsberg, mae hon yn stori deimladwy a phwysig. Gweler y manylion am ffilmiau cerddorol eraill, yn ein rhaglen Sineffonig, ar tt24-27 a manylion ein gŵyl o gerddoriaeth avant-garde, From Now On, ar tt12-13.

Staceyann ChinSad 7 ChwefrorDenmarc/2001/28mun/15arf. Cyf: Ulrik Wivel.

Mae isddiwylliant difyr y Poetry Slam yn wahanol iawn i sesiynau barddoniaeth meic agored traddodiadol. Fel gornest focsio, mae beirdd yn herio’i gilydd a dim ond un a all ennill. Mewn archwiliad o’r ffurf gelfyddydol ymosodol hon, mae’r ffilm yn tynnu sylw at un o sêr mwyaf y cyfrwng: y bardd a’r artist nodedig, Staceyann Chin, a fu’n ymgyrchydd di-flewyn-ar-dafod dros bynciau LGBTQ a hawliau merched. + Trafodaeth ar ôl y dangosiad a sesiwn arwyddo llyfrau yng nghwmni Staceyann Chin ac Ellora Adam o Rwydwaith Ffeministaidd Caerdydd

Love is StrangeGwe 13 — Iau 19 ChwefrorUDA/2014/94mun/15. Cyf: Ira Sachs. Gyda: Marisa Tomei, John Lithgow, Alfred Molina.

Ar ôl pedwar degawd gyda’i gilydd, gall Ben a George briodi o’r diwedd. Fodd bynnag, caiff eu haddewidion eu profi toc wedi i George golli ei swydd, sy’n gorfodi’r cwpl i fyw ar wahân. Wedi’u gwahanu ac yn ddibynnol, yn sydyn, ar ffrindiau a theulu, rhaid iddynt lywio’u ffordd trwy fyd newydd.

Pelo MaloGwe 20 — Iau 26 ChwefrorVenezuela/2014/93mun/15arf. Cyf: Mariana Rondón. Gyda: Samuel Lange Zambrano, Samantha Castillo, Beto Benites.

Mae Junior yn fachgen naw oed a chanddo wallt cyrliog, anystywallt a thrafferthus. Mae e eisiau cael sythu ei wallt, er mwyn edrych fel canwr pop ffasiynol. Wedi’i llethu gan fywyd yn ninas anhrefnus Caracas, mae ei fam weddw, Marta, yn ei chael hi’n gynyddol anodd goddef obsesiwn Junior â’i olwg ac mae ei phanig homoffobig yn bygwth eu perthynas.

Mis Hanes LgBtQI ddathlu Mis Hanes LGBTQ, rydym yn cyflwyno dwy ffilm wahanol iawn sy’n dathlu sinema hoyw gyfoes ynghyd â ffilm sy’n cynnig cipolwg diddorol ar ffigwr cerddorol tra phwysig.

Pelo

Mal

o

Page 20: Chapter Chwefror 2015

Sinema20 029 2030 4400

the Forgotten KingdomSul 8 ChwefrorLesoto/2013/97mun/TiCh. Cyf: Andrew Mudge. Gyda: Moshoeshoe Chabeli, Lillian Dube, Jerry Mofokeng.

Mae Atang yn gadael slymiau’r ddinas fawr i fynd i gladdu ei dad yn y pentref anghysbell, mynyddig lle cafodd ei eni. Ar ôl cychwyn cyfeillgarwch â bugail ifanc amddifad, a than ddylanwad atgofion o’i blentyndod, mae e’n syrthio mewn cariad â chyfaill o’i blentyndod, Dineo, sydd erbyn hyn yn athrawes ifanc ddisglair. Drwyddi hi, mae Atang yn cael ei swyno gan harddwch cyfriniol a bywydau caled y bobl, ac yn wynebu ei wirioneddau chwerw-felys ei hun.+ Trafodaeth Banel wedi’i harwain gan Dolen Cymru.

One HumanityLlun 16 ChwefrorDG/2014/110mun/TiCh. Cyf: Mickey Madoda Dube.

Mae One Humanity yn adrodd hanes aml-haenog y Gyngerdd Deyrnged ar achlysur pen-blwydd Nelson Mandela (a ddarlledwyd ar y BBC), ynghyd â’r ffocws ar y mudiad gwrth-apartheid byd-eang. Mae’r gwaith yn cynnwys cyfweliadau â’r rheiny a gymrodd ran yn y mudiad, gan gynnwys yr Arlywydd Zuma, Peter Hain, y Parch Jesse Jackson ac ES Reddy, a sefydlodd ac a gadeiriodd Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Apartheid. Stori am weledigaeth, strategaeth, empathi a gobaith ac ymgais i roi llais i’r mud. Mae’r ffilm yn llawn perfformiadau cerddorol anhygoel gan Peter Gabriel, Annie Lennox a Gil Scott Heron ac eraill.+ Ymunwch â ni am drafodaeth banel arbennig ar ôl y ffilm yng nghwmni’r cynhyrchydd, Tony Hollingsworth, a gwesteion arbennig eraill a chwaraeodd rannau pwysig yn nhrefniadau’r gyngerdd.

SelmaGwe 13 — Iau 26 ChwefrorUDA/2014/128mun/12A. Cyf: Ava DuVernay. Gyda: David Oyelowo, Carmen Ejogo, Tim Roth, Tom Wilkinson.

Yn ystod cyfnod cythryblus o dri mis yn ystod 1965, arweiniodd Dr Martin Luther King ymgyrch beryglus, ddi-drais i sicrhau hawliau pleidleisio cyfartal yn wyneb gwrthwynebiad creulon. Arweiniodd ei orymdaith epig o Selma i Montgomery at arwyddo Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 gan yr Arlywydd Johnson. Cipolwg tra diddorol ac amserol ar un o fuddugoliaethau mwyaf arwyddocaol y mudiad hawliau dynol sy’n cynnwys perfformiadau pwerus a theimladwy.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 15 Chwefror 7.30pm, dydd Iau 19 Chwefror 2.30pm, dydd Mercher 25 Chwefror 6pm, dydd Iau 26 Chwefror 10.30am (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Concerning violenceSad 28 Chwefror + Iau 5 MawrthSweden/2014/89mun/15. Cyf: Göran Olsson.

Ffilm ddogfen sy’n cynnwys deunydd archif o rai o ymgyrchoedd mwyaf beiddgar y frwydr i ryddhau Affrica o ormes trefedigaethol yn ystod yr 20fed ganrif. Lauryn Hill yw’r adroddwr ac mae’r ffilm feiddgar a ffres hon yn archwiliad o fecanweithiau dadwladychiad yn ogystal â bod yn ddramateiddiad o lyfr dylanwadol Frantz Fanon, The Wretched of the Earth. Ysgrifennwyd y llyfr hwnnw dros hanner can mlynedd yn ôl ond mae’n dal i fod yn waith pwysig o ran deall ac esbonio’r broses o neo-wladychu sy’n dal i ddigwydd heddiw, yn ogystal â’r trais a’r adwaith yn erbyn y broses honno.Ymunwch â ni am weithdy ar Athroniaeth Ubuntu a modelau eraill ar gyfer datrys gwrthdaro ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror

EFFEItHIAu GWrtHDArO A rHYFEl

Yn ystod ein hail fis o ffilmiau sy’n edrych ar frwydrau cyfoes dros ddemocratiaeth a rhyddid ac effeithiau parhaus y Rhyfel Byd Cyntaf, byddwn yn canolbwyntio ar ddylanwad yr hen Ymerodraethau Gorllewinol ar yr Affrica fodern.

The

Forg

otte

n Ki

ngdo

m

Page 21: Chapter Chwefror 2015

21chapter.org SinemaPo

b llu

n: S

elm

a

Page 22: Chapter Chwefror 2015

Sinema22 029 2030 4400

Amour FouGwe 20 — Iau 26 ChwefrorAwstria/2014/94mun/12A. Cyf: Jessica Hausner. Gyda: Christian Friedel, Birte Schnoeink, Stephan Grossmann.

Mae bardd o’r enw Heinrich yn dymuno concro anocheledd marwolaeth drwy gyfrwng cariad ac yn cwrdd â Henriette, sy’n wraig i ŵr busnes y mae e’n ei adnabod. Does yna fawr o apêl yng nghynnig Heinrich i’r ferch ifanc yn y lle cyntaf — ond yna mae Henriette yn dysgu ei bod yn dioddef o salwch marwol. Yn seiliedig ar stori wir y bardd Rhamantaidd o’r Almaen, Heinrich von Kleist, mae hon yn stori ffraeth am ddoethinebau melodramatig y cyfnod.

the turningGwe 27 Chwefror — Mer 4 MawrthAwstralia/2013/107mun/15. Cyf: Justin Kurzel, Mia Wasikowska ac eraill, gweler y we-fan am fanylion. Gyda: Cate Blanchett, Hugo Weaving, Rose Byrne.

Casgliad o ffilmiau byrion yn seiliedig ar straeon gan yr awdur Tim Winton, wedi’u gosod mewn cymuned arfordirol fechan lle mae’r gwahanol straeon yn ymgordeddu ac yn gorgyffwrdd. Wrth i gymeriadau wynebu ansicrwydd, ac wrth i berthnasau ddatblygu ac esblygu, mae bywydau yn newid am byth.

trashGwe 27 Chwefror — Iau 5 MawrthDG/2014/114mun/15. Cyf: Stephen Daldry Gyda: Rooney Mara, Martin Sheen, Wagner Moura.

Yn favelas bywiog a marwol Rio de Janeiro, mae’r arddegwyr, Raphael a Gardo, yn darganfod rhywbeth mewn tomen sbwriel sy’n arwain at orfod ffoi rhag yr heddlu. Gyda chymorth eu ffrind, Rato, offeiriad Americanaidd a gweithiwr cymorth, maent yn ceisio gwneud iawn am gamwedd ofnadwy. Portread dilys o ieuenctid yng nghladdfeydd sbwriel gwenwynig Brasil, sy’n cynnwys perfformiadau grymus.

Ex MachinaGwe 27 Chwefror — Iau 5 MawrthDG/2014/120mun/15. Cyf: Alex Garland. Gyda: Domhnall Gleeson, Oscar Isaac, Alicia Vikander.

Mae Caleb, peiriannydd côd 24 mlwydd oed gyda chwmni rhyngrwyd mwyaf y byd, yn ennill cystadleuaeth i dreulio wythnos mewn encil mynydd preifat sy’n perthyn i Nathan, Prif Swyddog Gweithredol dirgel y cwmni. Ond ar ôl i Caleb gyrraedd y fan anghysbell, ymddengys fod yn rhaid iddo gymryd rhan mewn arbrawf rhyfedd — ymwneud â deallusrwydd artiffisial arloesol, ar ffurf robot benywaidd hardd.

Gyda

’r cl

oc o

’r ch

wit

h: A

mou

r Fou

, Tra

sh, E

x M

achi

na

Page 23: Chapter Chwefror 2015

23chapter.org Sinema

RSC Live: Love’s Labour’s LostMer 11 Chwefror DG/2015/210mun/dim tyst. Cyf: Christopher Luscombe. Gyda: Edward Bennett, Michelle Terry.

Yn ystod haf 1914, mae’r Brenin a’i ffrindiau yn tyngu llw i osgoi cwmni merched er mwyn treulio mwy o amser yn astudio. Ond toc wedi hynny, mae Tywysoges Ffrainc a’i morynion yn cyrraedd — ac yn rhoi ar brawf addunedau’r dynion. Mae’r ddrama gomedi hyfryd hon yn hyrwyddo ac yna’n tanseilio addunedau afrealistig. Ar ddiwedd y ddrama daw’r miri i ben, wrth i’r cariadon gytuno i dreulio cyfnod ar wahân — ond heb yn wybod iddynt, mae’r byd o’u cwmpas ar fin cael ei drawsnewid yn llwyr, gan y Rhyfel Mawr.

RSC Live: Love’s Labour’s won (Much Ado About Nothing)Mer 4 Mawrth DG/2015/210mun/dim tyst. Cyf: Christopher Luscombe. Gyda: Edward Bennett, Michelle Terry.

Mae hi bellach yn fis Hydref 1918 ac mae grŵp o filwyr yn dychwelyd o’r ffosydd. Mae Benedick, sydd wedi diflasu ar y byd, a’i gyfaill, Claudio, yn cael eu haduno â Beatrice a Hero. Wrth i atgofion am y rhyfel ildio i fywyd o bartïon a dawnsfeydd, mae Claudio a Hero yn syrthio mewn cariad yn bendramwnwgl, a Benedick a Beatrice yn ceisio aildanio eu perthynas mwy ymfflamychol eu hunain. Mae rhamant yn blodeuo mewn cyfnod o hwyliau da, ond brau, ar ôl y rhyfel.Gweler manylion ein tymor o ddigwyddiadau’n archwilio Effeithiau Gwrthdaro a’r Rhyfel Byd Cyntaf ar tt20-21.

Nt Encore: treasure IslandMer 18 ChwefrorDG/2015/180mun/PG.

Caiff stori Robert Louis Stevenson am lofruddiaeth, arian a miwtini ei chyflwyno mewn addasiad newydd cyffrous i’r llwyfan gan Bryony Lavery. Mae hi’n noson dywyll a stormus. Mae’r sêr yn pefrio. Mae Jim, wyres y tafarnwr, yn agor y drws ac yn gweld dieithryn arswydus yno. Wrth draed yr hen forwr, mae yna gist enfawr, yn llawn cyfrinachau. Mae Jim yn ei wahodd i’r dafarn — ac mae ei thaith beryglus hithau ar ddechrau

Tocynnau i’r dangosiadau byw £17.50/£14/£13.Tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw £13/£11/£10

RSC LiveYn rhan o dymor i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, mae cwmni o actorion yn llwyfannu dau o gomedïau mwyaf pefriog Shakespeare, wedi’u gosod yng nghysgod rhyfel.Tocynnau i’r dangosiadau byw £17.50/£14/£13. Tocynnau i’r dangosiadau encore wedi’u recordio ymlaen llaw £13/£11/£10

O’r b

rig: L

ove’

s La

bour

’s L

ost,

Lov

e’s

Labo

ur’s

Won

(Muc

h Ad

o Ab

out

Noth

ing)

Y llWYFAN Ar Y SGrIN

Page 24: Chapter Chwefror 2015

Sinema24 029 2030 4400

I ddathlu gŵyl From Now On (manylion ar dudalennau 12–13), rydym yn cyflwyno detholiad o’r ffilmiau cerddorol cyfoes a chlasurol gorau.

‘Mae ffilm — neu fe ddylai ffilm fod — yn debycach i gerddoriaeth nag i ffuglen. Dylai fod yn ddilyniant o hwyliau a theimladau. Dim ond wedi hynny y gellir ystyried themâu, ystyron, a’r hyn sydd yn gefn i’r emosiwn.’Stanley Kubrick

O’r b

rig: N

o M

anife

sto:

Man

ic S

tree

t Pr

each

ers,

Per

form

ance

SINEFFONIG

Page 25: Chapter Chwefror 2015

chapter.org Sinema 25

No Manifesto: Manic Street PreachersGwe 30 Ionawr — Iau 5 ChwefrorDG/2015/95mun + 20 mun/15. Cyf: Elizabeth Marcus.

Yn 1991, ffrwydrodd y Manic Street Preachers fel bom yn y sîn roc Brydeinig gan ddatgan eu bwriad o wneud un albwm a gwerthu miliynau o gopïau cyn chwalu. Flynyddoedd, a nifer helaeth o recordiau hynod boblogaidd, yn ddiweddarach, ac ar ôl colli un aelod a chorddi dyfroedd dirifedi, maent yn dal i fynd. Mae’r ffilm hon yn olwg y tu ôl i’r llen ar brosesau creadigol y band ac yn adrodd hanes eu datblygiad o fod yn fand pync cegog i fod yn ffigyrau o bwys rhyngwladol. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r gwneuthurwyr ffilm ac i weld deunydd cyngerdd ecsgliwsif ar ddydd Gwener 30 Ionawr

It’s Not Repetition, It’s DisciplineMaw 10 + Iau 12 ChwefrorDenmarc/2014/hyd i’w gadarnhau/18. Cyf: Lars Kjelfred, Troels Holstrom, Jesper Hedaeger Madsen.

Wedi’i ffilmio dros gyfnod o 13 mlynedd gan ffans The Fall yn Nenmarc, mae’r ffilm hon yn deyrnged i fand dylanwadol, eu dulliau gwaith di-ildio a’u hagweddau digyfaddawd. Mae Mark E Smith yn ystyried ei ymwneud â’r grŵp ac fe ategir ei safbwyntiau ef gan gyfweliadau â John Peel, Thurston Moore, John Cooper Clarke, Henry Rollins, Stephen Malkmus a Dee Dee Ramone.

PerformanceSul 15 + Maw 17 ChwefrorDG/1970/103mun/15. Cyf: Nic Roeg, Donald Cammell. Gyda: James Fox, Mick Jagger, Anita Pallenberg.

Mae Chas, gangster sadistaidd o ddwyrain Llundain, yn chwilio am rywle i guddio. Mae’n dod o hyd i’r lle perffaith — gwesty wedi’i reoli gan y dirgel Mr Turner, cyn-seren roc, sy’n chwilio am ffordd o aildanio ei dalent. Mae perthynas y ddau ddyn yn datblygu ac mae Mr Turner yn poeni ac yn gwawdio Chas — sy’n ymateb yn dreisgar. Mae’r ffilm gyntaf hon gan y cyfarwyddwr, Nic Roeg, yn glasur seicedelig sy’n llawn cyffuriau ac angerdd a rhywioldeb dilywodraeth.

Northern SoulGwe 13 — Iau 19 ChwefrorDG/2014/102mun/15. Cyf: Elaine Constantine. Gyda: Elliot James Langridge, Josh Whitehouse, Jack Gordon.

Mae hon yn ffilm am ddiwylliant ieuenctid a newidiodd genhedlaeth gyfan ac a ddylanwadodd ar gyfansoddwyr, cynhyrchwyr, DJs a dylunwyr am ddegawdau i ddod. Mae bywyd yn newid am byth i ddau ffrind ifanc ar ôl iddynt fynd i’r Casino yn Wigan a chlywed cerddoriaeth ‘soul’ yr America ddu.

+ DJs o Glwb Soul Penarth ar ddydd Iau 19 Chwefror

Beautiful NoiseSad 21 + Llun 23 ChwefrorUDA/2014/90mun/15arf. Cyf: Eric Green.

Archwiliad manwl o rôl ‘feedback’ gitâr mewn cerddoriaeth roc fodern a’r modd yr aeth cerddorion ati i blethu sŵn gitâr â strwythurau caneuon pop bythgofiadwy. Mae’r ffilm hefyd yn gadael i’r gerddoriaeth siarad drosti’i hun. Mae personoliaethau swil, fel aelodau’r Cocteau Twins, My Bloody Valentine a The Cure, yn trafod eu cerddoriaeth a’u profiadau a’r modd yr aethant ati i herio’r rheolau ac arloesi.

Blow UpSul 22 + Maw 24 ChwefrorDG/1966/106mun/15. Cyf: Michelangelo Antonioni. Gyda: Vanessa Redgrave, David Hemmings, Jane Birkin, Jeff Beck.

Mae Thomas yn ffotograffydd ffasiwn cyfoethog a nihiliyddol yn Llundain cyfnod y ‘mods’. Er ei fod wedi’i amgylchynu gan fodelau a sêr roc, caiff Thomas ei hudo gan olygfa gyffredin o gwpl mewn parc — ond nid yw popeth fel yr ymddengys. Mae’r clasur cwlt hwn yn cynnwys trac sain anhygoel gan y cerddor jazz chwedlonol, Herbie Hancock, ac yn ymgorfforiad perffaith o’i cyfnod.

Nort

hern

Sou

l

Page 26: Chapter Chwefror 2015

Sinema26 029 2030 4400

the Possibilities are EndlessSul 8 — Iau 12 ChwefrorDG/2014/83mun/12A. Cyf: James Hall, Edward Lovelace. Gyda: Edwyn Collins, William Collins, Grace Maxwell.

Dychmygwch bod eich meddwl wedi cael ei ddileu: atgofion, gwybodaeth, profiadau, iaith — pob gair a lefarwyd gennych, y cwbl, wedi diflannu. Tasech chi’n gallu siarad eto yn y pen draw, beth fyddech chi’n ei ddweud? Dyma stori anhygoel Edwyn Collins, y cyfansoddwr a’r cerddor o’r Alban a gafodd strôc, ffrwydrad yn ei ymennydd a lwyddodd i ddileu, i bob pwrpas, holl gynnwys ei feddwl. Mae’n adrodd hanes ei wraig Grace hefyd, a’i tynnodd yn ôl i’r byd. Dathliad o ddylanwad cariad, cerddoriaeth ac iaith ar ein bywydau. + Ymunwch â ni ar ôl y ffilm ar ddydd Llun 9 Chwefror am drafodaeth Tinted Lens, cydweithrediad newydd gan Chapter, Prifysgol Caerdydd a’r BFI. Byddwn yn archwilio’r meddwl a chysyniadau’n ymwneud â normalrwydd a phatholeg, gan ganolbwyntio ar golled a galar, ffantasi a rhith, dealltwriaeth o amser a chyflyrau ymwybyddiaeth.

Karaoke Sineffonig:‘Put on your red shoes’ Sul 15 Chwefror 8pmYmunwch â ni wrth i ni ddathlu cwpl mwyaf dylanwadol y 70au ... Dewch i ganu eich hoff ganeuon gan Jagger a Bowie yn y noson karaoke arbennig hon. ‘Let’s Spend the Night Together’!

Phantom of the ParadiseSad 7 + Maw 10 ChwefrorUDA/1974/91mun/15. Cyf: Brian De Palma. Gyda: Jessica Harper, William Finley, Paul Williams.

Mae cyfansoddwr anffurfiedig yn gwerthu ei enaid er mwyn ei gariad — ac fel y bydd hi’n perfformio ei gerddoriaeth. Fodd bynnag, mae ‘tycoon’ recordiau maleisus yn ei fradychu ac yn dwyn ei gerddoriaeth er mwyn agor palas roc, The Paradise. Yn gyfuniad camp ac afreolus o Phantom of the Opera a Faust, mae’r ffilm hon yn glasur cwlt a gyd-ysgrifennwyd ac a gyfansoddwyd gan gyfansoddwr The Carpenters a Bugsy Malone, Paul Williams. + Cyflwyniad gan Chapter Wails CLwB FFILMIAU gwAEL:

gymkataSul 1 ChwefrorUDA/1986/86mun/18. Cyf: Robert Clouse.

Mae Nicko a Joe yn eu holau ac fe fydd y Clwb Ffilmiau Gwael y mis hwn yn cyflwyno pencampwr gymnasteg o Parmistan y gofynnir iddo gystadlu mewn gêm greulon, er mwyn cael gwireddu breuddwyd oes. Ond dyw trefnwyr y gystadleuaeth ddim yn gwybod taw ei ddymuniad ef yw cael defnyddio’r wlad fechan fel canolfan filwrol ar gyfer monitro ymosodiadau niwclear y gelyn. Rhaid iddo ddysgu sgiliau ymladd arbennig sy’n gyfuniad o karate a gymnasteg ... Gymkata!Dalier sylw: Bydd yna sylwebaeth fyw drwy gydol y ffilm ac fe all y ffilm a ddangosir newid ar y funud olaf.

O’r b

rig: T

he P

ossi

bilit

ies

Are

Endl

ess,

Phan

tom

of t

he P

arad

ise

SINEFFONIG

Page 27: Chapter Chwefror 2015

chapter.org Sinema 27

From Now OnSad 14 ChwefrorDyma gyflwyno rhaglen o ffilmiau, recordiadau sain a chelfyddydau lleol o sîn arbrofol ac avant-garde amrywiol a chyfoethog Caerdydd. Gweler manylion y rhaglen ar www.chapter.org.Rhad ac am ddim ond bydd angen tocyn.

the Lost women of JazzCymru/2014/30mun/dim tyst. Cynhyrchwyd gan Janine H Jones a Hannah Loy ar ran BBC Radio 4.

Yn y ffilm ddogfen hynod ddiddorol hon, gwelwn ddatgelu’r gwir am rôl arloesol merched yng nghyfnod cynnar jazz a’r stori drasig am y modd yr aed ati’n fwriadol i wadu cydraddoldeb cerddorol iddynt.

+ PianoPieces Cymru/2014/15mun/dim tyst.

Tua diwedd 2014, gwahoddwyd cyfansoddwyr, perfformwyr ac artistiaid i The Abacus, Caerdydd, gan y cyfansoddwr Daniel-Wyn Jones er mwyn archwilio dulliau avant-garde o berfformio a chyfansoddi ar gyfer y piano. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys perfformiad o Piano Activities gan Philip Corner a’r perfformiad cyntaf yng Nghymru o Blot Symphony gan Ralph Steadman. Cafodd caead y piano ei gau ac fe chwaraewyd yr offeryn â dwylo, breichiau, trwyn, bwcedi o ddŵr, torwyr gwifrau, bwyell a gordd.

+ Metal Militia gan S Mark gubbComisiwn gan Gelfyddydau Gweledol BerwickDG/2015/25mun/dim tyst.

Mae cyfraith sy’n dyddio o 1689 yn caniatáu i bobl Berwick-upon-Tweed godi byddin ‘i guriad y drwm’. Ymatebodd S Mark Gubb i hynny drwy greu gosodiad o olau a sain wedi’i ddylanwadu gan y cyfatebiaethau rhwng cerddoriaeth roc a rhyfel, terfysgaeth a marwolaeth. Ar y cyd â’r arddangosfa, roedd yna berfformiad gan Nicholas Barker, drymiwr gwreiddiol Cradle of Filth, ac aelodau bandiau pibau y Berwick RBL & Eyemouth RBLS, a chwaraeodd ddetholiad o ganeuon i gyfeiliant curiadau metel trwm. Gwelir canlyniadau’r cydweithio hwnnw yn y ffilm hon.

+ Loca LabelsFideos cerddoriaeth gan rai o’r labeli recordio lleol mwyaf diddorol, gan gynnwys Turnstile, Shape, Flower of Phong, Placid Casual, Peski a Businesman Records.

O’r c

hwit

h i’r

dde

: Met

al M

iliti

a, S

inff

onia

Cym

ru

Sinffonia Cymru yn cyflwyno: ‘Films for Chamber Orchestra’Sul 15 ChwefrorEnsemble: Ffliwt, Clarinet (Clarinet Bas D leiaf), Piano, Ffidil, Fiola, Soddgrwth + Offer taro.Bydd cerddorion o gerddorfa arloesol Sinffonia Cymru yn cyflwyno gweithiau comisiwn newydd a pherfformiad o gyfansoddiad ffilm gan yr artist lleol, Nic Finch.

RegenYr Iseldiroedd/1929/12mun. Cyf: Joris Ivens.

Archwiliad o’r arddull ffilmig arbrofol a elwid yn ‘City Symphony’. Mae’r cyfarwyddwr, Ivens, yn mynd ati i greu disgrifiad o ddinas Amsterdam drwy sinematograffiaeth, a hynny drwy geisio efelychu realaeth drylwyr Hen Feistri’r Iseldiroedd.

+ H20UDA/1929/13mun. Cyf: Ralph Steiner.

Astudiaeth o ddŵr ac o adlewyrchiadau a symudiadau’r hylif sy’n pwysleisio ei natur ansylweddol a’i brydferthwch metelaidd.

+ trio Elegiaque No. 1DG/2015/Hyd I’w gadarnhau. Cyf: Nic Finch.

Tafluniad fideo byrfyfyr gyda pherfformiad sgôr byw o waith gan Rachmaninoff.

Page 28: Chapter Chwefror 2015

Sinema28 029 2030 4400

Weithiau mae bywyd go iawn mor rhyfedd a hudolus bob tamaid â ffilm Hollywood. ‘O’r Rîl i’r Real’ yw ein rhaglen reolaidd o ffilmiau dogfen ac mae’n cynnwys ffilmiau sy’n cyflwyno digwyddiadau a phobl gwirioneddol ddiddorol ar y sgrin fawr.

Beyond CluelessGwe 30 Ionawr — Mer 4 ChwefrorUDA/2014/89mun/15. Cyf: Charlie Lyne.

Ffilm ddogfen am ffilmiau cyfoes i arddegwyr a’r modd y mae’r gweithiau hynny’n adlewyrchu’r gymdeithas ehangach. Mae hon yn daith ryfeddol trwy feddwl a chorff ac enaid y genre, fel y’i cyflwynir mewn dros 200 o ffilmiau modern am ddod-i-oed. + Ymunwch â ni am sesiwn holi-ac-ateb gyda’r cyfarwyddwr, Charlie Lyne, ar ddydd Mawrth 3 Chwefror

Empire RecordsSul 1 + Maw 3 ChwefrorUDA/1995/86mun/12. Cyf: Allan Moyle. Gyda: Liv Tyler, Renee Zellweger, Anthony Lapaglia, Robin Tunney, Maxwell Caulfield.

Diwrnod ym mywyd siop recordiau annibynnol a’i staff ardderchog, wrth iddyn nhw wynebu bygythiad gan fusnes mawr rhyngwladol. Ar ôl i un o’r gweithwyr, Lucas, ddysgu bod y siop mewn trafferthion ariannol, mae e’n gamblo’r enillion ac yn colli’r cwbl lot, sy’n golygu bod yn rhaid i reolwr y siop, Joe, a’i griw gwallgof o gydweithwyr gael gafael ar ddigon o arian i oroesi cyn diwedd y dydd… Ac mae’n rhaid iddynt ddelio hefyd â’r seren byd-enwog, Rex Manning, a’i ego anferthol. Dewch i ddathlu drama’r arddegau! Os prynwch docyn cyfun ar gyfer Empire Records a Beyond Clueless byddwch yn arbed £2.

the OvernightersGwe 6 — Maw 10 ChwefrorUDA/2014/102mun/12A. Cyf: Jesse Moss.

Yn Williston, North Dakota, mae degau o filoedd o bobl ddi-waith yn dod i chwilio am waith a ffortiwn yn y diwydiant olew. Ond buan y caiff y newydd-ddyfodiaid bod y realiti yn fwy creulon o lawer — ychydig iawn o waith sydd ar gael, ac mae yna lai o obaith fyth o gael gorffwys. Â’r dref yn methu â darparu cartrefi a gwasanaethau i’r ymfudwyr, mae gweinidog lleol, y Parch Jay Reinke, yn trawsnewid ei eglwys yn llety a man cwnsela dros dro.Ymunwch â ni am gyflwyniad gan yr elusen i’r digartref, Llamau

BAFtA Cymru yn cyflwyno: Cymru yn SundanceMer 11 ChwefrorMae byd ffilm Cymru yn mwynhau llwyddiant digynsail ar hyn o bryd, ar ôl buddugoliaeth ffilm Gwobr Iris, Burger, yn Sundance yn 2014. Dyma gyflwyno, felly, gasgliad o’r ffilmiau byrion Cymreig a gyflwynwyd i’r ŵyl eleni, mewn noson ragolwg arbennig. Mae’r digwyddiad hwn yn agored i aelodau BAFTA Cymru a Ffrindiau Chapter yn ogystal ag i’r cyhoedd. Gweler y we-fan am fanylion.

Beyo

nd C

luel

ess

O’r rIl I’r rEAl

Page 29: Chapter Chwefror 2015

chapter.org 29Sinema

The Lego Movie (2D)Sad 21 + Sul 22 Chwefror UDA/2014/100mun/U. Cyf: Christopher Miller, Phil Lord. Gyda: Chris Pratt, Elizabeth Banks, Will Arnett.

Ar ôl achos o gamadnabod, mae ffigwr Lego cyffredin yn ymuno â grŵp sy’n ceisio disodli unben creulon sydd eisiau gludo’r bydysawd at ei gilydd.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 22 Chwefror 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Book of LifeSad 28 Chwefror + Sul 1 Mawrth UDA/2014/95mun/ U. Cyf: Jorge R. Gutierrez. Gyda: Zoe Saldana, Channing Tatum, Ron Perlman.

Mae Manolo yn freuddwydiwr ac yn cychwyn allan ar daith epig drwy fydoedd hudolus, chwedlonol a rhyfeddol er mwyn achub ei wir gariad ac amddiffyn ei bentref.+ Disgrifiadau Sain ymhob dangosiad yn sinema 1. Is-deitlau Meddal ar ddydd Sul 1 Mawrth 11am. (Nodwch os gwelwch yn dda y gallai hyn newid. Ffoniwch ein Swyddfa Docynnau neu ewch i’n gwefan i gadarnhau yn ystod yr wythnos y caiff y ffilm ei rhyddhau).

Carry on ScreamingBob dydd Gwener am 11am, mae Carry On Screaming yn rhoi cyfle i rieni neu ofalwyr weld ffilm heb orfod poeni y bydd eu babi’n aflonyddu ar eraill. Gweler y calendr am fanylion y dangosiadau arbennig hyn i bobl â babanod dan flwydd oed.

Detholiad o ffilmiau gwych sy’n addas i’r teulu cyfan, bob dydd Sadwrn am 11am a 3pm. Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. Archebwch ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Noddir gan Funky Monkey Feet www.funkymonkeyfeet.co.uk02920 666688

AnnieSad 31 Ionawr + Sul 1 ChwefrorUDA/2014/118mun/PG. Cyf: Will Gluck. Gyda: Jamie Foxx, Quvenzhané Wallis, Rose Byrne.

Mae Annie’n blentyn maeth ifanc a hapus sydd hefyd yn ddigon gwydn i fyw a bod ar strydoedd Efrog Newydd. Ar ôl cael ei gadael gan ei rhieni biolegol pan yn fabi, er iddynt addo dod yn ôl i’w chasglu yn y dyfodol, bu’n ‘hard knock life’ i’r ferch fach ers hynny ... Ond mae popeth ar fin newid ar ôl i Will Stacks — gŵr busnes calon-galed sy’n ymgeisio i fod yn Faer Efrog Newydd — wneud addewidion mawr ...

Bugsy MaloneSad 7 + Sul 8 ChwefrorDG/1976/89mun/U. Cyf: Alan Parker. Gyda: Jodie Foster, Scott Baio, Florrie Dugger.

Yn America yn ystod cyfnod y gwaharddiad ar alcohol, mae’r arwr, Bugsy, wedi’i ddal rhwng dau gangster, Fat Sam a Dandy Dan. A all Bugsy ennill serch Blousey Brown, y ferch newydd sy’n dyheu am lwyddiant yn Hollywood, ac arbed ei groen ei hun hefyd? Sioe gerdd wych â chast o blant, lle caiff pasteiod cwstard eu tanio yn hytrach na bwledi. Mae ynddi nifer o ganeuon cofiadwy iawn hefyd, gan Paul Williams.

PaddingtonGwe 13 — Iau 19 ChwefrorDG/2014/95mun/PG. Cyf: Paul King. Gyda: Ben Whishaw, Sally Hawkins, Julie Walters.

Mae arth ifanc, sy’n hanu o Beriw ond sydd yn dwli ar bob peth Prydeinig, yn teithio i Lundain i chwilio am gartref. Ar ôl mynd ar goll a’i gael ei hun ar ei ben ei hun yng ngorsaf Paddington, caiff groeso gan deulu hyfryd y Browns.

Anni

e

FFIlMIAu I’r tEulu CYFAN

Page 30: Chapter Chwefror 2015

Addysg30 029 2030 4400

Academi Ffilm Pobl Ifainc 2015Sad 7 + Sad 14 Chwefror 10.30am–2.30pmYmunwch â’r Academi Ffilm i Bobl Ifainc ar gyfer y ddwy ddarlith ryngweithiol sy’n weddill yn y gyfres. Bydd cyfranogwyr yn dysgu am agwedd benodol ar wneud ffilmiau, ac yna’n gwylio ffilm.Sad 7: ‘R’ych chi eisiau bod yn gyfarwyddwr, felly?’Sad 14 Chwefror: ‘Sut i olygu ffilm’Nodwch os gwelwch yn dda y bydd angen pecynnau bwyd bob dydd.£8 y sesiwn (yn cynnwys tocyn i weld ffilm)

Chapter Sewcial — Dewch i wnïo!Am 10 wythnos o ddydd Sul 1 Chwefror ymlaen, 3.30–5pmGweithdai creadigol i bobl ifainc sy’n awyddus i ddechrau gwnïo. Bydd y cwrs yn dysgu sgiliau sylfaenol — mesur a thorri ffabrig — ac fe fydd cyfranogwyr hefyd yn cwblhau prosiect gwnïo mewn 10 sesiwn wythnosol. Mae ‘Dewch i wnïo!’ yn barhad o gwrs Hydref 2014 ac yn annog plant i uwchgylchu, i feddwl yn greadigol ac i greu nwyddau crefftus bob dydd Sul.Mae lle i 8 o blant ymhob sesiwn. £50 am 10 wythnos neu £6 y sesiwn (yn ddibynnol ar le). Darperir yr holl ddeunyddiau angenrheidiol.8 -11 oed

Datblygiad Proffesiynol Parhaus i AthrawonMae Chapter bellach yn darparu sesiynau DPP ‘Into Film’. Os ydych chi’n athro, neu yn cynrychioli ysgol a hoffai fanteisio ar hyfforddiant am ddim er mwyn gallu gwneud defnydd o ffilmiau yn yr ystafell ddosbarth, cysylltwch â ni i gael gwybodaeth am yr hyfforddiant sydd ar gael.

Animeiddio i Oedolion Dibrofiad — dewch i animeiddio eleni! Dewch i ddysgu crefft newydd yn y cwrs animeiddio hwn i oedolion a fydd yn cychwyn yn Chapter ym mis Chwefror. Gallwch arbrofi â gwahanol dechnegau animeiddio fel darlunio, torri allan, ‘stop-motion’, peintio ar wydr ac animeiddio tywod, a theimlo’r wefr o weld pethau’n dod yn fyw o flaen eich llygaid. Arweinir y cwrs gan animeiddiwr proffesiynol gwobrwyol o Winding Snake Productions a bydd y cwrs yn para am chwe wythnos. I gadw lle neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i: www.windingsnake.com/workshops/adults/Animation-for-Adults.

ADDYSG

Page 31: Chapter Chwefror 2015

I DDOD YM MIS MAwRtHAnimeiddio i Bobl Ifanc ar Sbectrwm Awtistiaeth + gweithdai mewn ysgolionMer 4 Mawrth, Mer 11 Mawrth, Mer 18 Mawrth, Mer 25 Mawrth, Mer 15 Ebrill, Mer 22 Ebrill, Mer 29 Ebrill, Mer 6 Mai, Mer 13 Mai, Mer 20 Mai 5.15–6.45pm (10 wythnos) Hwn fydd ein 4ydd cwrs 10 wythnos o hyd i bobl ifainc ar sbectrwm awtistiaeth a phobl ifainc a chanddynt anghenion addysgol arbennig. Mae’r sesiynau 90 munud o hyd hyn yn caniatáu i’r bobl ifainc fagu hyder cymdeithasol ac i ddysgu a datblygu sgiliau animeiddio mewn awyrgylch cefnogol a chreadigol. Gall pob sesiwn fod yn sesiwn unigol neu’n rhan o gynllun gwaith mwy — gallwn drefnu rhaglenni dysgu unigol i bob cyfranogwr. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael bob wythnos. £30 am 10 sesiwn8–18 oed

theatr Ieuenctid Chapter Dyddiau Mawrth 4.30-6pm I blant 7 — 16 oedMae Theatr Ieuenctid Chapter yn cyflwyno gwersi drama, dawns a symud wythnosol i blant rhwng 7 ac 11 oed a phobl ifainc rhwng 12 ac 16 oed. Yn rhan o Theatr Ieuenctid Chapter, bydd cyfle hefyd i gyfranogwyr gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr yn ystod gwyliau hanner tymor a gweithdai wythnos o hyd yn ystod gwyliau’r haf. Bydd dosbarthiadau Theatr Ieuenctid Chapter yn help i fagu hyder wrth berfformio ac yn fodd o ddysgu sgiliau a thechnegau newydd wrth i gyfranogwyr baratoi ar gyfer perfformiad cyhoeddus yn un o ofodau theatr proffesiynol Chapter.Dyddiadau: 3, 10, 17, 24 Mawrth 14, 21, 28 Ebrill, 5, 12, 19 Mai £6 y sesiwn, neu £50 am bob un o’r 10 sesiwn. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o’r cyrsiau hyn, a manylion ynglŷn â sut i gofrestru, cysylltwch â [email protected] Mae adran Addysg Chapter bellach yn defnyddio Schoop — ap newydd cyffrous rhad ac am ddim sy’n hysbysu defnyddwyr am weithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. Lawr-lwythwch Schoop a chwiliwch am Chapter: Schoop ID 4400. Gyda Schoop, r’ych chi yn y lŵp!

chapter.org 31Addysg

Page 32: Chapter Chwefror 2015

Archebu / Gwybodaeth32 029 2030 4400

Sinema Cyn 5pm O 5pm ymlaenLlawn £4.50 (£4.00) £7.90 (£7.20)Cons £3.50 (£3.00) £5.80 (£5.10)Cerdyn + Cons £3.00 (£2.50) £5.00 (£4.50)DISGOWNT DYDD MAWRTH Tocynnau’r holl brif ddangsiadau — £4.40

Sut i Archebu TocynnauDros y ffôn — ffoniwch ni ar 029 2030 4400. Rydym yn derbyn pob un o’r prif gardiau credyd.Galwch heibio — mae ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Sul o 11am-8.30pm, Ar-lein: Gallwch archebu ar www.chapter.org bob awr o’r dydd a’r nosConsesiynau: Mae cyfraddau disgownt ar gael i fyfyrwyr, pobl dros 60 oed, plant, y di-waith, pobl anabl, deiliaid cerdyn MAX ac i Ffrindiau Chapter a deiliaid Cerdyn Chapter.Bydd angen i chi gyflwyno prawf o’ch cymhwyster i dderbyn cyfradd ostyngol.Archebion grŵp: Prynwch 8 tocyn ac fe gewch chi’r 9fed yn RHAD AC AM DDIM.Noder os gwelwch yn dda • dim ond un disgownt y gellir ei ddefnyddio ar unrhyw un adeg • rydym yn hapus i dderbyn archebion ymlaen llaw ond ni allwn gadw tocynnau i’r naill ochr • os cyrhaeddwch chi’n hwyr mae hi’n bosib y cewch chi’ch hatal rhag mynychu eich digwyddiad.Cyflwynir rhai o’n ffilmiau â Disgrifiadau Sain ac Is-deitlau Meddal ond nid yw’r wybodaeth hon bob amser ar gael ar adeg argraffu’r cylchgrawn. Gweler ein gwe-fan am fanylion neu piciwch draw i’r Swyddfa Docynnau yn ystod yr wythnos y mae’r ffilm yn cael ei rhyddhau.

Prisiau ymlaen llaw/ar-lein mewn cromfachau. Mae “Ymlaen llaw” yn golygu unrhyw bryd cyn diwrnod y dangosiad.

gwybodaethCwmnïau ac Artistiaid Cysylltiedig Mae Chapter yn gartref i gwmnïau theatr, cwmnïau dawns, stiwdios animeiddio, gwneuthurwyr printiau, crochenwyr, dylunwyr graffeg, dylunwyr deunydd symudol, cyfansoddwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cyhoeddwyr cylchgronau, artistiaid annibynnol a llawer iawn mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

gweithdai a Dosbarthiadau Rydym yn cynnal amrywiaeth eang o weithdai dyddiol a dosbarthiadau gydag ymarferwyr annibynnol, gan gynnwys ballet, zumba, ioga, crefft ymladd, massage i fabanod, cerddoriaeth i blant, pilates, tango, fflamenco, ysgrifennu creadigol, gwersi cerddoriaeth a mwy. Ewch i www.chapter.org am fwy o fanylion.

Sut i gyrraedd ChapterFe ddewch chi o hyd i ni yn Nhreganna, i’r gorllewin o ganol y ddinas. Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd CF5 1QE

Ar Droed Mae hi’n daith gerdded hamddenol o ryw 20 munud o ganol y ddinas.

Ar Fws Mae bysus rhif 17 a 18 yn aros gerllaw ac yn gadael bob pum munud o ganol y ddinas.

Ar Feic Mae digonedd o raciau beic ar flaen yr adeilad.

Parcio Mae gennym faes parcio yng nghefn yr adeilad ac mae meysydd parcio lleol eraill wedi eu nodi ar y map. Gofynnwn i chi barchu ein cymdogion os gwelwch yn dda drwy osgoi parcio mewn strydoedd cyfagos.

GWYBODAETH

Mynediad i bawb Mae Chapter yn croesawu ymwelwyr anabl. Os oes gennych anghenion mynediad penodol, ffoniwch ein swyddfa docynnau ar 029 2030 4400, minicom 029 2031 3430.

Heol y Farchnad

Heol Ddwyreiniol y Bont Faen

Chur

ch R

d.

Llandaff Road

Leckwith Road

Albert St.

Wellington Street

Severn Road

Glynne St.

Springfield Pl.

Orchard Pl.

Gray St.

Gray St.

Gray Lane

King’s Road

Market Pl. Library St.

Penl

lyn

Rd.

Major Road

Earle Pl.

Hamilton St

Talbot St

Wyndham

Crescent

Har

ve

y Street

I Ganol Dinas Caerdydd

Treganna

o 6pm

P — meysydd parcio rhad ac am ddim — arhosfan bysus — rac feics

Page 33: Chapter Chwefror 2015

33chapter.org Cymryd Rhan

CYMRYD RHAN

Landfill Community FundEsmée Fairbairn FoundationEU Culture ProgrammeThe Baring FoundationGarfield Weston FoundationFoyle Foundation Biffa AwardColwinston Charitable TrustAdmiral Group plcMoondance FoundationFoundation for Sport and the ArtsTrusthouse Charitable FoundationCommunity Foundation in WalesBBC Children in Need The Waterloo FoundationScottishPower Green Energy TrustThe Welsh Broadcasting Trust

SEWTA Richer SoundsThe Clothworkers’ Foundation MomentumThe Henry Moore FoundationGoogleJane Hodge FoundationSimon Gibson Charitable TrustPeople’s Postcode TrustDunhill Medical TrustLegal & GeneralInstitut für Auslandsbeziehungen e.VMillennium Stadium Charitable TrustThe Ernest Cook Trust Lloyds TSBMorgan SignsGarrick Charitable Trust

BarclaysArts & Business CymruPenderynThe Austin & Hope Pilkington Trust Singapore International FoundationPuma Hotels Collection: Cardiff Angel HotelCardiff AirportWales Arts InternationalGibbs Charitable TrustCeredigion Community SchemeThe Steel Charitable TrustThe Boshier-Hinton Foundation1st OfficeOakdale TrustDipec PlasticsNelmes Design

The Coutts Charitable TrustBruce Wake CharityFunky Monkey FeetFinnis Scott FoundationUnity Trust BankHugh JamesContemporary Art Society for WalesThe Dot FoundryJVHGidden & ReesWestern Power DistributionFollett TrustArts & Kids CymruCanton High School Girl’s ReunionCo-operative GroupRenault CardiffEmbassy of BelgiumQueensland Government

Hoffai Chapter gydnabod cefnogaeth hael y sefydliadau a’r grwpiau canlynol:

Cerdyn CL1CCerdyn gwobrau Chapter. Casglwch bwyntiau wrth ymweld â’r sinema neu’r theatr ac fe synnwch chi ba mor gyflym y gallwch chi hawlio tocyn rhad ac am ddim. Codwch ffurflen y tro nesaf y byddwch chi yma neu lawrlwythwch hi o www.chapter.org. Cadwch lygad ar agor am y symbol

hwn i ddyblu eich pwyntiau!

Ffrindiau ChapterYmunwch â Ffrindiau Chapter a mwynhewch amrywiaeth o gynigion arbennig — fel gostyngiadau ar bris tocynnau ac yn ein caffi bar a gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig fel rhagolygon yn yr oriel a premières ffilm. Bydd eich cerdyn aelodaeth hefyd yn gweithio fel cerdyn CL1C.Ffrind Efydd: £25/£20Ffrind Arian: £35/£30Ffrind Aur: £45/£40

Cadwch mewn cysylltiad Ymunwch â ni ar-leinwww.chapter.org yw’r lle gorau i fynd i gael mwy o wybodaeth am ein holl weithgarwch.

eAmserlen rad ac am ddimeAmserlen wythnosol i’ch blwch derbyn. E-bostiwch [email protected] â’r teitl ‘Amserlen Chapter’ ym mhennawd yr e-bost.

Cynllun Myfyrwyr ChapterYdych chi’n fyfyriwr? Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael aelodaeth am ddim a manteisio ar gynigion arbennig nodedig, fel gostyngiadau yn ein Caffi Bar a thocynnau sinema rhatach? I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Jennifer — [email protected]/cy/aelodaeth-myfyrwyr-chapter