12
D ros flwyddyn yn ôl sicrhaodd Chwarae Cymru gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu’r Tybiaethau Gwaith Chwarae a ysgrifennwyd tua degawd yn ôl. Mae’r Tybiaethau a Gwerthoedd yn ffurfio sylfaen ethegol ar gyfer hyfforddiant gwaith chwarae. Mae’r Grw ^ p Craffu a fu’n goruchwylio datblygiad y cynnig newydd yn fodlon bod eu gwaith wedi’i orffen a’i bod yn amser iddynt gael eu profi yn yr amgylchedd gwaith. Mae’n dda gennym gyhoeddi y cytunwyd mewn cyfarfod rhwng y Grw ^ p Craffu a SkillsActive, y Cyngor Sgiliau Sector, i gyflwyno’r Egwyddorion Gwaith Chwarae ar gyfer eu cymeradwyo gan y Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae a Phwyllgor Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Chwarae. Os yw’r ddau gorff yn eu cymeradwyo, mae’n debygol y cânt eu hymgorffori mewn hyfforddiant Lefel 2, 3 a 4 ac yn ffurfio rhan o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer gwaith chwarae. Yn gynnar yn y broses penderfynwyd gwahaniaethu rhwng y Tybiaethau a Gwerthoedd newydd a’r cynnig newydd drwy alw’r rhai newydd yn Egwyddorion Gwaith Chwarae. Cynlluniwyd y naill a’r llall i fod yn sail i ymarfer gwaith chwarae fel set o ethegau proffesiynol, ac fe’u defnyddir yn bennaf mewn hyfforddiant gwaith chwarae, ond byddant yn sail i unrhyw fath o strategaeth chwarae neu ddatblygiad chwarae. Fe’u cynlluniwyd i gael eu defnyddio gan bob gweithiwr achos, ym mha bynnag gyd-destun y maent yn gweithio. Yng Ngham Terfynol yr ymgynghoriad, ar ôl dyfeisio geiriad sy’n adlewyrchu’r ymatebion i’r ddau gam cyntaf, teimlai’r Grw ^ p Craffu eu bod wedi bron gyflawni eu dyletswydd, ac yn hytrach na bod am gynnwys yr Egwyddorion yr oedd yr ymgynghoriad terfynol yn gofyn cwestiynau megis: A yw hyn yn ffit i’r pwrpas? A ydym wedi gwneud cyfiawnder i waith chwarae? A yw hyn yn welliant ar y Tybiaethau a Gwerthoedd? Daeth cam olaf yr ymgynghoriad i ben ar 23 Chwefror 2005. Gwahoddwyd yr holl weithwyr chwarae ym Mhrydain i ymateb, ac roedd mwyafrif yr ymatebion yn gadarnhaol. Ar ôl cyfarfod terfynol i werthuso’r ymatebion i’r cwestiynau hyn, lle cytunwyd gwneud rhai mân newidiadau i’r fersiwn terfynol, cyfarfu’r Grw ^ p gyda SkillsActive. Bydd y Grw ^ p Craffu yn cadw’r Egwyddorion mewn ymddiriedaeth ar gyfer y proffesiwn gwaith chwarae am y dyfodol rhagweladwy, hyd nes y sefydlir corff ethegol a fyddai’n fwy addas ar gyfer eu gwarchod. Os hoffech wybod mwy gweler www.chwaraecymru.org.uk. Mae’r egwyddorion Gwaith Chwarae i’w gweld ar dudalen 3. Egwyddorion ar gyfer Gweithwyr Chwarae PLAYWORK VALUES REVIEW AT Chwarae dros Gymru NEWYDDION CHWARAE A BRIFFIAD GAN Y SEFYDLIAD CENEDLAETHOL DROS CHWARAE Rhifyn 15 GWANWYN 2005

Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Chwarae Cymru yw'r elusen cenedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn cyhoeddi'r cylchgrawn Chwarae dros Gymru dair gwaith y flwyddyn.

Citation preview

Page 1: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Dros flwyddyn yn ôl sicrhaoddChwarae Cymru gyllid gan

Lywodraeth Cynulliad Cymru iadolygu’r Tybiaethau GwaithChwarae a ysgrifennwyd tuadegawd yn ôl. Mae’r Tybiaethau aGwerthoedd yn ffurfio sylfaenethegol ar gyfer hyfforddiantgwaith chwarae. Mae’r Grw^ p Craffua fu’n goruchwylio datblygiad ycynnig newydd yn fodlon bod eugwaith wedi’i orffen a’i bod ynamser iddynt gael eu profi yn yramgylchedd gwaith.

Mae’n dda gennym gyhoeddi ycytunwyd mewn cyfarfod rhwng y Grw^ pCraffu a SkillsActive, y Cyngor SgiliauSector, i gyflwyno’r Egwyddorion GwaithChwarae ar gyfer eu cymeradwyo gan yCyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith

Chwarae a Phwyllgor SafonauGalwedigaethol Cenedlaethol GwaithChwarae. Os yw’r ddau gorff yn eucymeradwyo, mae’n debygol y cânt euhymgorffori mewn hyfforddiant Lefel 2, 3a 4 ac yn ffurfio rhan o’r SafonauGalwedigaethol Cenedlaethol ar gyfergwaith chwarae.

Yn gynnar yn y broses penderfynwydgwahaniaethu rhwng y Tybiaethau aGwerthoedd newydd a’r cynnig newydddrwy alw’r rhai newydd yn EgwyddorionGwaith Chwarae. Cynlluniwyd y naill a’rllall i fod yn sail i ymarfer gwaith chwaraefel set o ethegau proffesiynol, ac fe’udefnyddir yn bennaf mewn hyfforddiantgwaith chwarae, ond byddant yn sail iunrhyw fath o strategaeth chwarae neuddatblygiad chwarae. Fe’u cynlluniwyd igael eu defnyddio gan bob gweithiwrachos, ym mha bynnag gyd-destun ymaent yn gweithio.

Yng Ngham Terfynol yr ymgynghoriad, arôl dyfeisio geiriad sy’n adlewyrchu’rymatebion i’r ddau gam cyntaf, teimlai’rGrw^ p Craffu eu bod wedi bron gyflawnieu dyletswydd, ac yn hytrach na bod amgynnwys yr Egwyddorion yr oedd yr

ymgynghoriad terfynol yn gofyncwestiynau megis:

• A yw hyn yn ffit i’r pwrpas?

• A ydym wedi gwneud cyfiawnder iwaith chwarae?

• A yw hyn yn welliant ar y Tybiaethau aGwerthoedd?

Daeth cam olaf yr ymgynghoriad i ben ar23 Chwefror 2005. Gwahoddwyd yr hollweithwyr chwarae ym Mhrydain iymateb, ac roedd mwyafrif yr ymatebionyn gadarnhaol. Ar ôl cyfarfod terfynol iwerthuso’r ymatebion i’r cwestiynauhyn, lle cytunwyd gwneud rhai mânnewidiadau i’r fersiwn terfynol, cyfarfu’rGrw^ p gyda SkillsActive.

Bydd y Grw^ p Craffu yn cadw’rEgwyddorion mewn ymddiriedaeth argyfer y proffesiwn gwaith chwarae am ydyfodol rhagweladwy, hyd nes y sefydlircorff ethegol a fyddai’n fwy addas argyfer eu gwarchod.

Os hoffech wybod mwy gwelerw w w . c h w a r a e c y m r u . o r g . u k .Mae’r egwyddorion Gwaith Chwarae i’wgweld ar dudalen 3.

Egwyddorion ar gyfer Gweithwyr Chwarae

PLAYWORK VALUES REVIEW AT

Chwarae dros Gymru

NEWYDDION CHWARAE A BRIFFIAD GAN Y SEFYDLIAD CENEDLAETHOL DROS CHWARAE

Rhifyn 15 GWANWYN 2005

Page 2: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Mae llawer o fythau a chwedlau hynafolhardd yng Nghymru a gaiff eu coleddu a’umeithrin fel hen gyfeillion ac aelodau’r teulu.Maent yn rhan o’n diwylliant a rhaid iddyntgael eu trosglwyddo drwy’r cenedlaethaunes bod amser yn anghofio amdanom.

Ac er bod y mythau hyn yn gysurlon, hoffemgael gwared ag un ohonynt. Cafodd y mythyma ei drosglwyddo am flynyddoedd lawerac mae’n ymwneud â ni. Mewn gwirionedd,bu cymaint o sôn amdano fel bod hyd ynoed pobl sy’n gweithio’n agos gyda niweithiau’n anghofio ac yn credu ei bod ynwir. A dyma’r myth ...

“Dim ond chwarae mynediad agored â staffa meysydd chwarae sydd o gonsyrn iChwarae Cymru”.

Ni fedrai dim fod ymhellach o’r gwirionedd,ond nid oes unrhyw stori yn codi heb reswm- pan achubwyd Chwarae Cymru rhagdifodiad a’i ailgyfansoddi fel elusengenedlaethol ar ddiwedd y 1990au, nidoedd unrhyw gorff arall a fyddai’n neu afedrai hyrwyddo darpariaeth chwaraemynediad agored neu feysydd chwaraeantur. Roedd darpariaeth chwaraemynediad agored â staff wedi gostwng acroedd angen dirfawr am gefnogaeth fel rhano amrediad o wasanaethau. Gan ein bod ynbodoli i hyrwyddo a chefnogi pob math oddarpariaeth chwarae ar ran plant a phoblifanc, fe wnaethom gamu i’r bwlch. Foddbynnag, mae llawer o feysydd eraill lle, fel ysefydliad cenedlaethol dros chwarae plant,darparwn gyngor ac arweiniad ac er maisefydliad bach gyda chyllideb fechan ydym,ceisiwn gael argraff eang. Dim ond un elfenyn yr amrediad enfawr o wasanaethau syddar gael o becyn cymorth cynhwysfawrChwarae Cymru yw arbenigedd ar chwaraemynediad agored.

Bydd dyfodiad proffesiwn yn anochel ynachosi dadlau a thrafod ymysg asiantaethauac unigolion sy’n datgan diddordeb yn ysector. Mae gwaith chwarae yn enghraifftglasurol o sector o’r fath, yn arbennig panroddir ystyriaeth i natur hollgynhwysol ygwaith. Medrid dadlau y gwelwyd gwaithchwarae yn hanesyddol fel opsiwncyflogaeth a ddewisid gan unigolion gydagymrwymiadau eraill yn eu hatal rhag dilyngyrfa “go iawn”. Ond mae gwybodaeth adealltwriaeth o chwarae plant a’r

sensitifrwydd tuag at anghenion chwaraesy’n sylfaen i’r dynesiad gwaith chwarae ynunigryw, a medrir ei weithredu i bobamgylchedd lle mae plant a phobl ifanc ynbodoli oherwydd bod chwarae morhanfodol i’w datblygiad ac yn gymaint rhano’u bywydau. Mae Chwarae Cymru ynymofyn sicrhau fod dynesiad gwaithchwarae yn cael ei gynrychioli ar y lefelwleidyddol uchaf ac yn cymryd camau ihyrwyddo ymarfer da ledled y proffesiwn.

Buom yn ymwneud yn agos â gwaith Grw^ pGweithredu Polisi Chwarae LlywodraethCynulliad Cymru ac os ydych wedi darllen yrargymhellion, byddwch yn gweld ein bod ynymroddedig i wella cyfleoedd chwarae einplant a phobl ifanc lle bynnag y maent. Maehyn yn golygu pob man: yn yr ysgol, mewndarpariaeth gofal plant, yn y maes chwaraeneu barc lleol, ar y tir gwastraff tu ôl i’rNeuadd Bentref, yn y lonydd a’r strydoedd,ac i fyny yn y goedwig.

Fel tîm bychan, gwnawn hyn ar lefelstrategol drwy gynnig cyngor ac arweiniad iweinidogion a gweision sifil o fewn yCynulliad, drwy gefnogi datblygiadauchwarae a gwaith ar strategaethau chwaraegan awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol ,drwy weithio fel ymddiriedolwyr neuaelodau grwpiau llywio sefydliadau eraill ynymwneud â phlant; drwy ymwneud âdatblygu hyfforddiant ac addysg gwaithchwarae, a llawer mwy. Rydym hefyd yndarparu cyngor ac arweiniad ymarferol ibobl yn gweithio yn y maes ar ffurf briffiau yny cylchlythyr hwn ac ar ein gwefan, a threfnudigwyddiadau hyfforddiant, seminarau achynadleddau ar draws amrediaddarpariaeth ar gyfer chwarae plant.

Mae’n cyhoeddiad ‘Yr Hawl Cyntaf’ ynbennaf oll yn fframwaith asesu ansawdd argyfer gweithwyr chwarae - nid dim ond yrhai yn gweithio mewn darpariaethmynediad agored, ond gweithwyr chwaraemewn unrhyw gyfleuster lle mae plant aphobl ifanc, ac fe’i cyhoeddwyd ynGymraeg ac yn Saesneg. Gall unrhyw unsy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc -rhieni, cynllunwyr meysydd chwarae,athrawon, cynllunwyr tref a phenseiri trefol,llyfrgellwyr teganau a gweithwyr ieuenctidymhlith eraill – ddefnyddio’r ymchwil agwybodaeth sydd ynddo oherwydd mae ‘Yr

Hawl Cyntaf’ yn ymwneud â sut mae plantyn datblygu drwy chwarae a’r ffyrdd gorau ihwyluso ac optimeiddio’r datblygiad hwn.

Y label arall a roddwyd i ni weithiau yw einbod yn “flaengar” (bydd pawb sy’n einhystyried fel rhan o’r ‘sefydliad’ yn gweldawgrym o eironi yn hyn - gweithredwn feladfocad dros blant a phobl ifanc a’uhanghenion chwarae, a gall rhai o’r materiona godwn fod yn anghyfarwydd neu’n heriol irai oedolion. Mae’n bwysig ein bod yn nodi ycaiff rhai o’r cynlluniau “newydd” “blaengar”a hyrwyddwn eu cymryd yn ganiataol fel rhano fywyd bob dydd mewn llawer o wledydderaill. Mewn gwirionedd mae gwybod nadydym yn ein darparu yn ein gwlad ein hunainyn aml yn achos sioc a siom.

Mae ymchwil i ddatblygiad plant amanteision profiadau chwarae ansawdduchel yn symud yn gyflym. Ar yr un prydmae cyfleoedd plant a phobl ifanc ichwarae yn cael eu herydu’n gyflym. Nidyw bob amser yn rhwydd codi ein pennauo’n gofidiau a dyletswyddau beunyddiolac edrych o ddifrif ar yr hyn sy’n digwyddi’n plant a’n pobl ifanc yng Nghymru -dyfodol gwerthfawr iawn Cymru - igymryd anadl ddofn a dweud na allbethau barhau fel hyn, a bod yn rhaid i niwneud rhywbeth amdano.

Yn Chwarae Cymru rydym yn wirioneddolfalch fod tair cenedl arall y Deyrnas Gyfunol yndechrau edrych tuag at Gymru i arwain yffordd ar faterion plant a phobl ifanc. Mae’rrhai sy’n ei gweld fel estyniad o Loegr yn amlyn diystyru natur unigryw Cymru, ac mae’ndda hyrwyddo ein hunaniaeth wahanol agwneud y newyddion. Hoffem weld einhunain fel rhan o’r hanes hir Cymru oanghydffurfwyr a diwygwyr cymdeithasoldewr, a hoffem helpu pob darparydd chwaraeyng Nghymru i gymryd rhan yn y stori.

Bu Barbara yn gweithio hyd ynddiweddar fel CydlynyddGwasanaethau Plant ym MlaenauGwent lle’r oedd yn gyfrifol am gydlynuCychwyn Cadarn, y BartneriaethDatblygu Blynyddoedd Cynnar a GofalPlant a’r Bartneriaeth Plant – cyn hynnybu’n Swyddog Datblygu Allan o’r Ysgoli Chwarae Teg.

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

2Chwarae dros Gymru

GOLYGYDDOLGOLYGYDDOLCafodd thema’r erthygl olygyddol hon ei hysbrydoli gan sgyrsiau gyda darparwyr chwarae yng Nghymru, a ddywedoddwrthym fod rhai yn dewis peidio ymwneud gyda Chwarae Cymru oherwydd y cawn ein gweld fel bod yn “rhy flaengar” a “dimond yn poeni am chwarae mynediad agored”. Bu Barbara Howe, Cydlynydd Rhianta Amlasiantaeth Torfaen, yn ein helpu iysgrifennu’r darn hwn mewn ymateb:

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw'r farn a fynegir yn y cylchlythyr yma. Rydym yn cadw'r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Bydd Chwarae Cymru yn cynnwys mewnddodion ahysbysebion yn y cylchlythyr hwn (cysyllter â Kathy Muse yn y cyfeiriad uchod i gael prisiau) fodd bynnag, nid ydym yn ardystio unrhyw rai o’r cynnyrch neu’r digwyddiadau a

hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.Dylun iwyd ac argraf fwyd gan Carr ick Bus iness Serv ices Cyf . F fôn: 029 2074 1150. E-bost ; sa les@carr ickbus iness.co.uk L lun iau car tw^ n gan Les Evans.

Chwarae dros GymruCyhoeddir gan Chwarae Cymru deirgwaith y flwyddyn. Dylid cyfeirio pob gohebiaeth ac ymholiadau at y Golygydd yn:

Chwarae Cymru, Ty^ Balt ic , Sgwâr Mount Stuart , Caerdydd, CF10 5FHFfôn: 029 2048 6050 Ffacs: 029 2048 9359 E-bost : mai [email protected]

Rhi f E lusen Gofrest redig 1068926

Page 3: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

3 Chwarae dros Gymru

Cyfarfu Swyddogion DatblyguChwarae o’r sector gwirfoddol a’rsector cyhoeddus gyda Peter Bryant,Uwch Swyddog Polisi Cronfa’r LoteriFawr cyn i’r ymgynghoriad ar yblaenoriaethau ar gyfer cyllid ydyfodol ddod i ben ym mis Mawrth.Esboniodd Peter rai o’r cynlluniau argyfer dosbarthu arian loteri yngNghymru a siaradodd gydaswyddogion am y potensial ifabwysiadu chwarae plant fel themagynhwysfawr.

Bydd faint o arian fydd gan y Loteri Fawri’w dosbarthu dros yr ychydigflynyddoedd nesaf yn dibynnu ar incwmy loteri ac ymrwymiadau blaenorol -medrai fod rhwng £100m a £140m yngNghymru. Os yw Llundain yn ennill y caisam y Gemau Olympaidd, gall effeithio arhyn oherwydd er y bu ymrwymiad nachaiff cronfeydd eu dargyfeirio oardaloedd eraill, mae incwm cyffredinol yLoteri yn debygol o ostwng os yw’rcyhoedd yn dewis chwarae gêm arall igyllido’r cynnig.

Mae’n debygol y bydd rhwng tair a pumrhaglen yng Nghymru (yn ogystal âMentro Allan a’r Gronfa Pobl Ifanc syddeisoes wedi eu lansio). Caiff 60 neu 70 ycant o’r arian eu cyfeirio tuag at y sectorgwirfoddol. Bydd mwy o bwyslais argynnwys y cyhoedd mewnymgynghoriad ar yr hyn a welir fel bod ynbwysig a phenderfyniadau ar wneudgrantiau.

Bydd y Gronfa yn edrych ar brosiectaucymorth grant sy’n ategu darpariaethbresennol sy’n gynaliadwy yn y tymor hir.Byddant hefyd yn ffafrio ceisiadau sy’nddatblygiadol, blaengar ac yn cymrydrisg. Mae ceisiadau yn debygol o orfoddangos i sefydliadau sy’n cyd-weithiogydag eraill a all gynnal cyllid ar sailtymor hwy. Bydd ffocws ar feysydd oanfantais gymdeithasol ac ar hyrwyddo

cyfleoedd cyfartal, a byddblaenoriaethau’r Gronfa yn ategu polisiLlywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae hyn yn golygu fod gan y Loteri Fawrddiddordeb yn y Strategaeth Chwaraearfaethedig, a chawsant hefyd adroddiadar yr ymgynghoriad ar y GronfaCyfleoedd Newydd o £200m “ar gyferchwarae” yn 2002. Bydd llawer oymatebion i’r Argymhellion GweithreduPolisi Chwarae (Strategaeth Chwarae)wedi amlygu’r angen am fwy o arian i’wgwneud yn realaeth, felly gobeithir fod ysector chwarae yng Nghymru wediymateb i’r ymgynghoriad cyllido hwn ganawgrymu fod chwarae yn ateb llawer oflaenoriaethau’r Loteri Fawr.

Daeth ymgynghoriad y Loteri Fawr i benar 18 Mawrth. Drwy fis Ebrill byddir yntrafod gyda sefydliadau yrymgynghorwyd â hwy eisoes. Yna eir âchanfyddiadau Cymru i fwrdd y LoteriFawr yn Llundain. Mae’n debyg y byddy rhaglen gyllido newydd yng Nghymruyn “rhywbeth syml” a chaiff eigweithredu ddiwedd 2005.

Cronfa Pobl IfancFfrwd cyllid Loteri Fawr sy’n anelu ihelpu pobl ifanc i fwynhau bywyd achyflawni eu potensial, datblygu sgiliau achyfrannu at eu cymuned. Mae £13m i’wymrwymo rhwng 2005 a 2009, a bydd yrhaglen yn canolbwyntio ar rai 10-19oed.

Ffôn 0845 410 2030 neu gwelerwww.biglotteryfund.org.uk/programmes/ypfw

Loteri Fawr – Cyfle Mawr i Chwarae

• Golygyddol T 2

• Loteri Fawr – Cyfle Mawr i Chwarae T 3

• Iaith a Chwarae Cymru T 4

• Chwarae yn Gymraeg T 4

• Chwarae, Risg a Damweiniau T 5

• Rheoleiddio Safonau Gofal i rai dan 18 T 5

• Chwarae ac Anfantais T 6-7

• Canolfannau Plant Integredig T 8-9

• Hyfforddiant Gwaith Chwarae yngNghaerdydd T 10

• Proffesiwn Gwaith Chwarae T 10

• Both Dysgu T11

• Digwyddiadau T12

• Adolygiadau Llyfrau T12

CYNNWYS EgwyddorionGwaithChwaraeparhad o’r dudalen flaen ...Mae’r Egwyddorion hyn yn sefydlu’rfframwaith proffesiynol ac ethegol acar gyfer chwarae, ac o’r herwydd rhaideu hystyried yn eu cyfanrwydd.Disgrifiant yr hyn sy’n unigryw amchwarae a gwaith chwarae, adarparu’r persbectif gwaith chwaraear gyfer gweithio gyda phlant a phoblifanc. Maent yn seiliedig ar ygydnabyddiaeth y caiff gallu datblygucadarnhaol plant a phobl ifanc ei hybuos cânt fynediad i’r amrediad ehangafo amgylcheddau a chyfleoeddchwarae.

1. Mae pob plentyn a pherson ifancangen chwarae. Mae’r awydd ichwarae yn reddfol. Mae chwarae ynrheidrwydd biolegol a seicolegol, acyn sylfaenol i ddatblygiad iach a llesunigolion a chymunedau.

2. Mae chwarae yn broses a gaiff eidewis yn rhydd, ei chyfeirio’n bersonola’i chymell yn gynhenid. Hynny yw,mae plant a phobl ifanc yn penderfynua rheoli cynnwys a bwriad eu chwaraedrwy ddilyn eu greddf, syniadau a’udiddordebau eu hunain, yn eu fforddeu hunain am eu rhesymau eu hunain.

3. Prif ffocws a hanfod gwaithchwarae yw cefnogi a hwyluso’rbroses chwarae a dylai hyn fod yn saili ddatblygiad polisi chwarae,strategaeth, hyfforddiant ac addysg.

4. Ar gyfer gweithwyr chwarae,mae’r broses chwarae yn caelblaenoriaeth dros gymdeithasu a rhaidi weithwyr chwarae weithredu feladfocatiaid dros chwarae wrthymwneud ag agendâu oedolion.

5. Rôl gweithwyr chwarae ywcefnogi plant a phobl ifanc wrth greugofod y medrant chwarae ynddo.

6. Rhaid i ymateb gweithwyrchwarae i chwarae plant a phobl ifancfod yn seiliedig ar wybodaeth gadarna chyfoes o’r broses chwarae acymarfer adfyfyriol.

7. Rhaid i weithwyr chwaraegydnabod eu heffaith eu hunain ar ygofod chwarae a hefyd effaithchwarae plant a phobl ifanc arweithwyr chwarae.

8. Rhaid i weithwyr chwarae ddewisarddull ymyriad sy’n galluogi plant aphobl ifanc i ymestyn eu chwarae.Rhaid i bob ymyriad gan weithwyrchwarae gydbwyso risg gyda budddatblygiadol a llesiant plant.

Page 4: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

4Chwarae dros Gymru

Mae plant yn bwysig tu hwnt yngnghyswllt yr iaith Gymraeg. Mae golwg aryr ystadegau yn Rhondda Cynon Taf yndangos pam - gall 13.5% o boblRhondda Cynon Taf siarad Cymraeg ondgall 30% o’r plant wneud hynny. Mae hynoherwydd llwyddiant addysg cyfrwng-Cymraeg gyda Mudiad Ysgolion Meithrinac ysgolion cynradd ac uwchradddwyieithog yn arwain chwyldroieithyddol. Mae ffigurau tebyg ledledCymru. Mae tua 25 o Fentrau Iaith mewngwahanol rannau o Gymru - pob un ynsefydliad ar wahân ond tebyg - a phobun ohonynt yn gweithio gyda phlant.

Mae gan Fenter Iaith Rhondda Cynon Tafddeunaw o gyfleusterau chwarae-gofalar ôl oriau ysgol dan enw Clwb Carco aphedwar cynllun chwarae gwyliau.Byddwch yn nodi nad ydym ni fel llawero ddarparwyr yn cael unrhyw anhawstero gwbl wrth gyfuno dwy elfen chwarae agofal. Mae rhannu'r gwasanaethau hynmewn modd simplistig a dogmatig ynaml yn hunllef i Menter Iaith a llawer oddarparwyr eraill. Nid yw mynediad

chwarae hollol agored fel arfer yn opsiwnpan fo plant yn gorfod teithio iddarpariaeth ddwyieithog ganolog. Galldewis chwarae plant a rhieni ddal i fod ynganolog i’r ddarpariaeth.

Cafodd yr holl gynlluniau eu sefydlu gydagrantiau OSCI ac yna’r Gronfa CyfleoeddNewydd ac rydym wrth ein bodd i fodwedi cadw bron y cyfan o’ngwasanaethau. Mae dau glwb ar ôl ysgola dau gynllun gwyliau wedi cau amresymau ariannol mewn cyfnod deuddegmlynedd o weithrediad ond mae’r hollwasanaethau dan fygythiad parhaoloherwydd diffyg cyllid i gefnogi agweinyddu’r clybiau i’r safonau cynyddoluchel sydd eu hangen. Eto ystyrir maidogma a gwleidyddiaeth yw’rbygythiadau mwyaf i’n gwasanaethau -cawsom anhawster mawr caelcefnogaeth gan Cymorth er enghraifft.

Gadewch i ni orffen ar nodyn cadarnhaol.Mae gennym ddeunaw o glybiau ar ôlysgol a phedwar cynllun chwaraegwyliau ar agor ar hyn o bryd. Rydym yn

un o’r darparwyr chwarae mwyaf ynRhondda Cynon Taf. Cyflogwn 40-50 obobl y dydd gan ddarparu gwasanaethaui dros ddau gant a hanner o blant bobdydd. Mae miloedd o rieni yn dibynnu arein gwasanaethau. Mae’r plant ynchwarae yn Gymraeg, darparwngyflogaeth i siaradwyr a dysgwyrCymraeg ac mae llawer o gyfleoedd iwirfoddoli. Hyfforddwn gannoedd o bobla chyfrannu at ddatblygiad cymdeithasolac addysg miloedd o blant drwy eingwasanaethau chwarae-gofal. Rydym ynfalch iawn o’n cyfraniad.

Steffan WebbPrif Swyddog GweithredolMenter Iaith Rhondda Cynon TafCysyllter â Steffan ar 01685 877187

Chwarae yn GymraegChwarae yn Gymraegdrdrwy’r Fenter Iaithwy’r Fenter Iaith

Mae Arolygiaeth Safonau Gofal Cymruyn ddiweddar wedi cyhoeddi cynlluniau iddiwygio rheoleiddiad gwasanaethaugofal cymdeithasol yng Nghymru, gydaphrofiadau beunyddiol defnyddwyrgwasanaeth yn awr yn dod yn ffocwsallweddol i waith yr Arolygiaeth.

Cafodd Jackie Evans, CyfarwyddyddStrategol Arolygiaeth Safonau GofalCymru ar gyfer Plant dan 8, ei gwahoddgan Chwarae Cymru i esbonio sut y byddy newid yn effeithio ar y proffesiwngwaith chwarae yng Nghymru, agofynnwyd iddi a fydd yn helpu i ostwngbaich arolygu ar ddarparwyr.

“Mae’n ymddangos fod llawer oddarparwyr yn teimlo fod darpariaethchwarae ansawdd uchel yn cael eiberyglu gan ddiwylliant rheoleiddio sy’ngolygu fod anghenion plant yn cael eudiystyru, tra bod materion megisglanweithdra a threfnusrwydd yn caelblaenoriaeth,” meddai Jackie Evans.

“Mae hyn mewn gwirionedd ymhell iawno fod yn wir, a bwriadwn wneud yn siw^ rein bod yn cael y neges drosodd.

“Mae‘r Arolygiaeth eisoes mewntrafodaethau gyda nifer fawr o fudd-ddeiliaid plant dan wyth yn cynnwysChwarae Cymru. Drwy siarad gyda

darparwyr, rhieni a gofalwyr ac, wrthgwrs, y plant eu hunain, medrwn sicrhauy caiff ein dynesiad newydd ei oleuo ganamrediad eang o farn cyn i ni weithredu’rdiwygiadau newydd mewn gwirionedd”,meddai Mrs Evans.

Bu Swyddogion Datblygu ChwaraeCymru ac Arolygwyr ASGC mewn cyfreso dair sesiwn hyfforddi rhanbarthol ynddiweddar oedd yn anelu i gryfhau’rberthynas rhwng y ddau sefydliad,cynyddu gwybodaeth arolygwyr ochwarae a gwaith chwarae tra hefyd yncael gwared â’r llu o fythau ynghylcharolygu.

“Er bod yr Arolygiaeth yn disgwyl canfodsafonau gofal, diogelu a diogelwchneilltuol pan fyddant yn cynnalarolygiadau, yn sicr nid ydym eisiaugweld darpariaeth chwarae yn dod ynddiflas a hesb,” meddai Mrs Evans.

Elfennau allweddol dynesiad newydd yrArolygiaeth fydd:

• Sicrhau bod arolygiad yn seiliedig arreoliadau gwarchod plant a gofaldydd 2002 tra’n rhoi ystyriaeth i’risafswm safonau cenedlaethol;

• Sicrhau bod profiadau plant a’urhieni/gofalwyr yn rhan hollbwysig o’r

broses arolygu;

• Sicrhau y caiff dwysedd yr arolygu eigyfateb gydag anghenion ygwasanaeth – dynesiad targedig yncanolbwyntio ar y meysydd lle maemwyaf o angen rheoleiddiad;

• Arolwg newydd symlach gyda ffocwsar reoleiddiad a fydd yn cynnwys elfensylweddol o hunanasesu, gan ddodillai o bwysau ar y darparydd achaniatáu arolygwyr i dreulio mwy oamser gyda’r plant a rhieni/gofalwyr;

• Mwy o bwyslais ar arolygiadaudirybudd.

Croesawodd Marianne Mannello,Swyddog Datblygu Chwarae Cymru, ycyfle i drafod y diwygiadau:

“Byddwn yn parhau i fonitro profiaddarparwyr ac edrychwn ymlaen atweithio gyda’r Arolygiaeth. Ein nod ar ycyd yw cefnogi dynesiad cyson achyfeillgar i chwarae - sy’n newydd dda iddarparwyr chwarae ac yn newyddiongwell byth i’r plant. Rydym eisiau gweldplant a phobl ifanc yn cael amser gwychmewn gosodiadau diogel ond etogreadigol ac mae’r Arolygiaeth yn eincefnogi’n llwyr yn hynny.”

Rheoli Safonau Gofal i’r RRhhaaii ddaann 88

Page 5: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

5 Chwarae dros Gymru

Helpwch ni i wellaChwarae drosGymru

Rydym yn cynnal arolwg ar Chwaraedros Gymru fel y medrwn ei wneud hydyn oed yn fwy defnyddiol i bobl yngweithio yn y maes chwarae yngNghymru. Cyhoeddir y cylchlythyr hwna’i ddosbarthu’n ddi-dâl deirgwaith yflwyddyn i bobl yn ymwneud âdarpariaeth chwarae yng Nghymru.

Byddem yn ddiolchgar iawn pebyddech yn llenwi’r holiaduramgaeedig a’i ddychwelyd i ni yn ycyfeiriad Rhadbost a nodwyd. Bydd unymatebydd lwcus yn ennill taleb o £20.Diolch am eich help

Mae cyfleoedd chwarae plant a phobl ifanc yn cael euherydu gan ein diwylliant cynyddol gyfreithgar. Maedarparwyr meysydd chwarae yn wynebu biliau yswiriantenfawr a all weithiau olygu cau darpariaeth, neu o leiafsymud offer a fedrai fod yn safle damwain. Dywedir fod rhaiysgolion yn cymryd camau llym i ostwng unrhywweithgaredd chwarae a fedrai fod â risg. Ar yr un pryd,ymddengys nad oes llestair ar arferion hysbysebu'rcwmnïau cyfraith ‘dim ennill, dim ffi’ ac eraill sy’n annogaelodau’r cyhoedd i hawlio am ddamweiniau. Yn y pendraw, er y gall rhai teuluoedd fod ar eu hennill yn ariannol,bydd mwyafrif ein plant ar eu colled.

Dangosodd ymchwiliad ar y diwylliant iawndal ar raglen TheBlame Game ar BBC Cymru y gwir broblem o hawliadautwyllodrus am anafiadau meysydd chwarae a phriffyrdd igynghorau lleol. Yn ôl y rhaglen, mae’r cynghorau yn ymaelodiâ chronfa ddata twyll traws-ffin a fydd yn eu helpu i ddynodihawlwyr amheus. Ond p’un a yw achos yn un ffals neu fodcyfiawnhad drosto, gall hawliad £2,000 am anaf gostio cymaintâ £20,000 i gyngor mewn ffioedd a chostau. O gofio fodcronfeydd yn gyfyngedig, mae hyn yn anochel yn arwain at ireolwyr meysydd chwarae a chyrff llywodraethu ysgolbenderfynu mai pwyll piau hi.

Rhan sylweddol o’r broblem yw parodrwydd yswirwyr i setlo tuallan i’r llys, yn hytrach na herio hawliadau. Fodd bynnagclywsom fod un awdurdod lleol yng Nghymru yn dechraucymryd safiad yn erbyn hawliadau meysydd chwarae, a byddaigennym ddiddordeb clywed gan unrhyw un sy’n gwybod amenghreifftiau lle medrai hyn fod yn digwydd.

Mae Chwarae Cymru wrthi’n weithgar yn ceisio gwella’rsefyllfa. Fel y gwyddoch efallai, rydym yn darparu cyrsiauarolygu meysydd chwarae a gwasanaeth ymgynghori arddyluniad ac arolygu meysydd chwarae, ac mae gennym aelodo staff sy’n dyst arbenigol mewn achosion anaf meysyddchwarae. Ar lefel fwy strategol, rydym yn cymryd rhan mewncynllun gan y Swyddfa Gartref i fynd i’r afael ac effaith cyfreithablinderus ar waith y sector gwirfoddol, yn cynnwys darparwyrchwarae plant.

Mewn cyfweliad diweddar yn The Observer, dywedodd TonyBlair iddo gael ei ddychryn pan ddywedodd pobl oedd yn cadwmeithrinfa wrtho eu bod yn poeni am adael i’r plant redeg i’rmaes chwarae pan oedd yn wlyb rhag ofn fod un ohonynt ynllithro a bod achos cyfreithiol yn eu herbyn. Dywedodd fod ynrhaid edrych am ddiogelu pobl rhag hynny.

Mae eraill yn hybu dynesiad mwy synhwyrol a symlach atchwarae plant a damweiniau. Mewn datganiad i’r wasgdiweddar ar byllau padlo, dywedodd Dirprwy GyfarwyddyddCyffredinol y Gweithgor Iechyd a Diogelwch fod iechyd adiogelwch synhwyrol yn ymwneud â rheoli risg, ac nid eu dileui gyd. Dywedodd nad oedd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn

y busnes o gael gwared â phleserau syml lle bynnag y maentyn ymddangos ac ar ba bynnag gost, a’u bod yn cydnabodmanteision chwarae i ddatblygiad plant. Dywedodd fodchwarae o reidrwydd yn cynnwys peth risg, ac na ddylidaberthu hynny i geisio nod amhosibl ddiogelwch llwyr.

Dyma’r diwethaf mewn nifer o negeseuon gan y GweithgorIechyd a Diogelwch sy’n hyrwyddo’r farn hon ac mae’n glir nadoes ganddynt fawr o amynedd ar gyfer y mesurau gwaharddconcers y sonnir amdanynt yn aml yn y cyfryngau.

Yn ei ddeunydd hysbysebu ar gyfer cynhadledd arfaethedig,dywedodd y Gymdeithas Brenhinol er Atal Damweiniau y butueddiad yn ystod yr ychydig flynyddoedd diweddar i‘santieiddio’ ardaloedd lle mae plant yn chwarae ac wrth geisioatal cyfreitha, yn dileu pob risg i bwynt lle mae plant yn eu caelyn ddiflas ac felly’n chwarae mewn mannau eraill mwy peryglus.

Mor bell yn ôl â 2002, cyhoeddodd y Gweithgor Iechyd aDiogelwch ymchwil gan yr Athro David Ball o GanolfanDadansoddiad Penderfyniadau a Rheolaeth Risg PrifysgolMiddlesex oedd yn ystyried effeithlonrwydd y gwahanol gamaua gymerwyd i wella diogelwch meysydd chwarae mewnblynyddoedd diweddar. Ychydig o dystiolaeth a ganfu fodwynebau amsugno trawiad yn gwneud fawr o wahaniaeth i’rnifer o anafiadau y mae plant yn eu dioddef. Ar yr un pryd, maemeysydd chwarae yn cael eu cau oherwydd diffyg arian iddarparu’r wyneb arbenigol hwn, a bod ysgolion sy’n gwella eudarpariaeth chwarae ar gyfer plant yn gwario arian prin ar ymath hwn o wyneb yn y camsyniad y bydd yn atal anafiadau.

Er na fyddai neb ohonom yn hyrwyddo rheolaeth meysyddchwarae mewn modd peryglus, rydym hefyd yn cydnabod foddamweiniau wrth chwarae yn rhan naturiol o dyfu fyny, a’i bodyn reddfol i blant a phobl ifanc brofi eu hunain yn erbyn euhamgylchedd. Byddem yn ddiolchgar pe cysylltech â ni os oesgennych chi brofiad o orfod cydbwyso materion iechyd adiogelwch ac yswiriant gydag anghenion chwarae plant aphobl ifanc o fewn darpariaeth chwarae.

Mae’r Athro Ball yn siarad yn ein cynhadledd YsbrydChwarae Antur ym mis Mai. Mae adroddiad o’iganfyddiadau ar gael ynwww.hse.gov.uk/press/2002/e02079.htm ac ymchwilbellach yn www.mdx.ac.uk/risk/research/projects.

I gael manylion pellach am gynhadledd ryngwladolRoSPA (y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau)“Protection v Risk Experience” a gynhelir yn Stratford-upon-Avon ar 6 Mehefin 2005, ffoner 0870 777 2120 neue-bost [email protected] .

I lawrlwytho “Masnaging Risk in Play Provision”,datganiad gan y Fforwm Diogelwch Chwarae, gwelerwww.ncb.org.uk/cpc/psf.asp

Chwarae, Risg a Damweiniau

Page 6: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

6Chwarae dros Gymru

Mae Canolfannau Plant Integredig newydd yn cael eusefydlu yn ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru. Fely Canolfannau Plant yn Lloegr, maent yn cynnwysdarpariaeth blynyddoedd cynnar a gofal plant adatblygu/hyfforddiant cymunedol, ond yn annhebygi’n cymdogion, mae’r Canolfannau yng Nghymruhefyd yn cynnwys Chwarae Mynediad Agored.Gobeithiwn gynnwys cyfres o adroddiadau o bobrhan o’r wlad ar sut yr aeth pob Canolfan i’r afael â’relfen hon o’u briff.

Yn y cyfamser mae’r Cynulliad yn cyllido’r SefydliadMaterion Cymreig i olrhain datblygiad y CanolfannauPlant Integredig. Cyhoeddwyd eu hadroddiad interimym mis Chwefror. Cysylltwch â’r IWA ar 02920575511 i gael copi o ‘Integrated Centres in Wales’.

Mae Abertawe yn datblygu maes chwarae antur fel elfenmynediad agored ei Chanolfan Plant Integredig gyntaf. Yrhyn sy’n wahanol i lawer o ganolfannau eraill yng Nghymruyw mai’r Maes Chwarae Antur fydd yn agor gyntaf.

Ysgrifenna Ben Greenaway o PlayRight:

Mae’r Ganolfan Plant yn brosiect awdurdod lleol ac maePlayRight yn bartner yn rhedeg yr elfen chwarae mynediadagored. Fi yw’r arweinydd tîm sy’n gyfrifol am gael y maeschwarae yn weithredol ac mae’r Awdurdod Lleol wedi cyflogiRheolydd Canolfan yn gyfrifol am elfennau eraill y Ganolfan.

Bydd y Ganolfan Plant yn ardal Penlan Abertawe yngysylltiedig ag Ysgol Clwyd. Ar ôl ymgynghoriad helaeth gydaphlant lleol, caiff y maes chwarae antur ei ddatblygu ar saflemwy canolog ym Mhenlan - lle dymunai’r plant iddo fod.

Staffio’r maes chwarae yw’r her nesaf - ar hyn o bryd rwyf ynarweinydd tîm heb dîm! Mae PlayRight wedi cyflwyno cais i’rprosiect Working Neighbourhoods sy’n gynllun peilot ganLywodraeth San Steffan i wella cyflogadwyedd pobl yn WardPenderi. Gobeithiwn gyflogi pedwar hyfforddai i ennilltystysgrif CACHE lefel 2 mewn gwaith chwarae tra’n caelprofiad ymarferol o weithio ar faes chwarae antur. Yn yr ailflwyddyn gobeithiwn gadw dau o’r hyfforddedigion a’u rhoidrwy’r diploma Lefel 3 a chymryd tri o bobl eraill i fynd drwylefel 2.

Tra bu hyn i gyd yn digwydd, bûm yn cael pethau yn barod fely bydd gan y plant ryw fath o ddarpariaeth chwarae yn ycyfamser. Rydym wedi dechrau clwb chwarae un noswaith yrwythnos yn yr eglwys Fethodistaidd leol, gan weithio mewnpartneriaeth gyda thîm chwarae Cyngor Abertawe a’r eglwys.Maes o law bydd y bobl leol yn cymryd y clwb drosodd ac ynei redeg. Fe wnaethom hefyd gynnal cynllun chwarae yn ystodhanner tymor mis Chwefror. Ar y diwrnod cyntaf daeth geiriaufel “i beth ydw i wedi cael fy hun?” i fy meddwl ond gadewaisy gwaith i ganfod fod plentyn wedi ysgrifennu “FUSK” (sic)mewn creon cwyr ar fonet fy nghar oherwydd nad oedd eisiaui’r clwb gau - rwy’n dewis cymryd hynny fel cymeradwyaeth!

Bûm hefyd yn mynd o amgylch yn y gymuned yn codicefnogaeth. Mae’r holl ysgolion lleol, cydlynydd Cymunedau’nGyntaf, yr heddlu lleol a llawer o drigolion yn awr yn eincefnogi. Mae nifer fawr o bobl yn barod i helpu i adeiladu’r

Canolfannau Plant Integrediga Chwarae Mynediad AgoredIaith a

CChhwwaarraaee CCyymmrruuMae Chwarae Cymru yn gweithredu fel adfocad dros blant a’uhanghenion chwarae pa bynnag iaith a siaradant. Mae’nbwysig i ni fod gan blant fynediad i ddarpariaeth lle medrantgyfathrebu yn yr iaith sydd orau ganddynt gyda phlant eraill agweithwyr chwarae - bydded yr iaith honno’n Gymraeg,Saesneg, neu er enghraifft, Urdu.

Fel sefydliad cenedlaethol mewn gwlad gyda threftadaeth adiwylliant cyfoethog mewn dwy iaith, mae Chwarae Cymrubob amser wedi ceisio dilyn arfer da mewn darparu cyflecyfartal. Mae’n cyhoeddiadau a’n hysbysebion ein hunain argyfer swyddi bob amser yn ddwyieithog, ac rydym yn ddiflinoyn codi’r mater mewn cyfarfodydd Prydeinig gyda phartneriaidarall sydd angen eu hatgoffa am faterion iaith Gymraeg. Foddbynnag, yr ydym yn dal i deimlo y medrem fynd ymhellach, acrydym yn gweithio gydag Estyn Llaw (sefydliad a grëwyd ihelpu eraill i fabwysiadu a chynnal dynesiad dwyieithog) iedrych ar ddulliau ymarferol a fydd yn gwneud ein sefydliad ynfwy cynrychioladol ac yn fwy defnyddiol i’r sector chwarae ardraws Cymru.

Mae’n gwlad yn symud ymlaen gyda strategaethau ar gyferdarpariaeth chwarae a gofal plant a fydd yn llwyddiannus osoes gweithlu cryf ac wedi’i hyfforddi’n dda i’w cefnogi -gweithwyr chwarae sy’n gwybod am y ddamcaniaeth acymarfer diweddaraf mewn chwarae a gwaith chwarae ac ynmedru darparu ar gyfer anghenion chwarae plant. Fel rhan ohyn mae’n hollbwysig fod gennym garfan gref o weithwyrchwarae sy’n medru’r Gymraeg ac a all arwain datblygiadauchwarae newydd, neu hyfforddi fel hyfforddwyr, i ddarparu argyfer y nifer cynyddol o blant a gaiff eu magu yn siarad yr iaith.Felly hyd yn oed cyn i ni gychwyn ar gynnwys y cwrshyfforddiant gwaith chwarae newydd yr ydym yn ei ddatblygufel rhan o brosiect Cwlwm, rydym yn gofyn i Estyn Llaw amarweiniad ar sut y medrwn ei wneud yn ddeniadol apherthnasol i siaradwyr Cymraeg. Os hoffech ein cefnogi yn ygwaith hwn, byddem yn ddiolchgar pe cysylltech â Gill Evansneu Tillie Mobbs yn ein swyddfa genedlaethol.

Roedd Gill Evans, ein Swyddog Gwybodaeth, wedi cael llondbol ar wneud esgusodion a dechreuodd ddysgu Cymraeg fisMedi diwethaf. Er bod ei chalon yn dal yn Swydd Efrog, mae’nrhan o ymrwymiad i fyw a gweithio yng Nghymru ac i’w phlantsy’n cael eu magu yma. Mae Chwarae Cymru yn talu am ycwrs ac yn rhoi amser i ffwrdd ar gyfer astudio. Nawr y cyfan ymae hi angen yw ymarfer, hyder ac amser i ddysgu’r eirfa sy’ndisgrifio ein gwaith - ond mae’r gwaith caled yn werth chweiliawn:

“Efallai na fyddwn yn medru ymdopi â sgwrs ffôn eto, ondrwy’n medru trafod negeseuon e-bost a llythyrau gyda help fyngeiriadur ffyddlon. Y peth gorau i gyd i mi oedd eistedd drwyfy nhrydedd Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd a medru deallbeth oedd yn digwydd, a pheidio bod angen ffrind i sibrwd ynfy nghlust pan gyhoeddwyd canlyniadau fy meibion.”

Os hoffech adolygu ymagwedd eich sefydliad atddwyieithrwydd, medrwch gysylltu ag Estyn Llaw ar 0800 9711969 neu e-bost [email protected].

Page 7: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

7 Chwarae dros Gymru

maes chwarae, gwirfoddoli neu ddim ond cadw llygad arno yny nos pan fydd ar gau. Rwy’n aelod o Grw^ p PartneriaethPenlan, sy’n gweld y maes chwarae antur Penlan fel un o’rprosiectau mwyaf buddiol i ddod i’r gymuned.

Ond y bobl sy’n fwyaf cefnogol i’r prosiect yw’r plant, sydd ynedrych ymlaen yn fawr ato. Rwy’n gobeithio y medrir cynnalhynny wrth i ni fynd drwy agendâu oedolion megis y brosesgynllunio. [Rwy’n credu y dylai pob darpariaeth chwarae gaeleu heithrio rhag cyfraith cynllunio. Efallai y medrai hyn fod ynher nesaf Chwarae Cymru?] Rydym yn gobeithio y byddpopeth ar y gweill adeg gwyliau’r haf, cyn gweddill y GanolfanChwarae, ac mae gennym ychydig o fisoedd prysur o’nblaenau. Felly cadwch eich llygad ar agor!

Cysyllter â Ben ar 01792 294884 neu [email protected]

Peidiwch byth ddiystyrru gymaint o hap sydd mewn bywyd!Sut mae rhywun sy’n symud papurau o gwmpas ar ddesgyn mynd i ddatblygu maes chwarae antur mynediadagored? Mae Chris Girvan yn dweud ei hanes personolwrth helpu sefydlu Maes Chwarae Antur Cwm Gwenfro felrhan o Ganolfan Plant Integredig yng Nghonwy.

Hyd at y pwynt hwn yn fy mywyd, yr unig gyswllt a gefais gydagweithwyr chwarae oedd ar draws byrddau pwyllgor. Roedd ynymddangos i mi fod pawb yr oeddwn wedi cyfarfod â hwy ynymrwymedig i ryw ethos o chwarae cynhwysol, ac yn eithafdigyfaddawd pan ddaeth i wybod sut yr oeddent yn barod iwneud eu gwaith. Nid yw’r math hwn o agwedd yn ddefnyddiolpan ydych yn ceisio ffeilio eich ffolderi.

Un diwrnod tywyll ym mis Rhagfyr, hysbysodd CydlynyddCymunedau’n Cyntaf Parc Caia fi fy mod i helpu’r GanolfanChwarae Integredig leol. Roedd y ddarpariaeth gofal plant, a’rhawl blynyddoedd cynnar, a hyd yn oed yr hyfforddiantcymunedol yn eithaf trefnus, ond mae, ac mae bob amser ond,roedd yr elfen chwarae mynediad agored yn llythrennol yn caelei ddechrau o’r gwaelod. Yn ffodus cefais gefnogaeth AdamHughes, Gweithiwr Ieuenctid a gyflogid gan Cymunedau’nGyntaf Parc Caia mewn prosiect ymrwymo ieuenctid, syddhefyd yn gweithio yn y maes chwarae antur The Venture ymayn Wrecsam.

Roedd Cyngor Wrecsam wedi cael grant Cronfa CyfleoeddNewydd i dalu am gost adeiladu'r ffordd fynediad a’r ffens oamgylch y safle, felly roedd pethau’n ymddangos yn eithaf da.Roeddent yn frwd i weld y prosiect yn mynd rhagddo, ondroedd y gweithwyr chwarae lleol sy’n gwybod y cyfan am ypethau yma eisiau i’r plant gael eu cynnwys yn yr adeiladu.Mae gan y bobl hyn fwy o ddiddordeb yn y broses adeiladu –y manteision datblygiadol a gaiff plant o gael o’u cynnwys, asut y gwneir i bobl ifanc deimlo’n rhan ohono - na dechrau agorffen prosiect.

Felly beth yw’r problemau? Darganfûm yn fuan nad oes llwybrmynediad clir i greu meysydd chwarae antur. Drwy neuaddaullychlyd cyrff swyddogol rwyf wedi canfod rhai sy’n cytunogydag ethos cyfranogiad ond sy’n symud ymaith o’iddefnyddio mewn modd ymarferol. Rhaid i mi gyfaddef fod yrhan fwyaf o bobl yr wyf wedi ymwneud â hwy yn rhai go lewac yn barod i helpu, ond mae’r broses o gynnwys plant mewnadeiladu strwythur chwarae yn dychryn pobl o ddifrif.

Cefais y fraint o siarad gyda chynghorwyr Chwarae Cymru felTony Chilton sydd wedi trafod gwerthoedd cyfranogiad a rhai

o’r goblygiadau ymarferol gyda fi. Cefais fwy o wybodaeth arymarferoldeb creu maes chwarae antur drwy siarad gydaAdam a gweithwyr The Venture. Hyd yn oed fel symudwr papur,cefais fy hunan yn mynd oddi ar y ffens a dweud y dylemddyfalbarhau i geisio cyflawni hyn gydag ymgyfraniad poblifanc. Pam? Oherwydd y dylem! Mae’n ein rhwystro rhag gweldcyfleusterau chwarae fel rhywbeth yr ydym yn ei ollwng i fywydpobl ifanc ac yn ein helpu i’w weld fel ffordd i rymuso achyfoethogi bywyd pobl ifanc.

Rwyf bron yn medru gweld diwedd y prosiect hwn ac mae fyffolder ar y bwrdd yn barod i’w ffeilio. Bu’n anodd i mi ganfodfy hunan rhwng dau ddiwylliant; rhai sydd eisiau cwblhau achyflenwi prosiect, a’r rhai sydd eisiau i bobl ifanc gymryd rhanyn y broses a chael caniatâd i fod yn berchen y safle o’rdechrau. Bydd gennym ein ffordd mynediad a’n llwybrau abydd gennym ein ffens o amgylch y maes chwarae antur llebydd pobl ifanc yn cynllunio a chymryd rhan yn ei ddatblygiad.

Ond, yr un olaf un, y peth gorau yw’r gweithwyr chwarae hynnya wrthododd aros yn dawel - yn arbennig Malcolm King,Rheolydd The Venture, ac Adam. Fel canlyniad bydd pobl ifancyn gallu hawlio eu gofod chwarae drwy adeiladu ffens sy’n eudiffinio fel eu hun hwy. Mae llawer o bobl dda o’r gymuned, ynarbennig Mrs Chris Thomas cadeirydd Cymunedau’n Gyntaf,sy’n aelod o’r gwahanol bwyllgorau, wedi dyfalbarhau iganiatáu i bobl ifanc fod yn rhan o’r hyn sy’n digwydd yn eucymuned. Fe wnaethant hyn er gwaethaf llawer o leisiauswyddogol yn dweud wrthynt nad yw’n bosibl! Huddyg ymmhotes y symudwyr papur!

Chris Girvan & Adam Hughes

Cysyllter â Chris ar 01978 316767

Page 8: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

8Chwarae dros Gymru

Yn y bedwaredd erthygl ynein cyfres ar ddarpariaethchwarae o safbwynt

rhyngwladol, mae FraserBrown, Darlithydd ymMhrifysgol Leeds Metropolitanyn ysgrifennu am ei brofiad oddarparu cyfleoedd chwarae argyfer plant yn Romania.

Ar ddiwedd 1989 dymchwelodd poblRomania un o unbeniaid mwyaf didosturyr oes fodern. Yn syth wedyn,dechreuodd y byd y tu allan ddysgu amwir erchyllterau cyfnod Ceaucescu - a’rmwyaf brawychus o’r cyfan oedd hynt yplant. Roedd y gyfundrefn wedigwahardd atal cenhedlu ac erthylu felrhan o’i hymgyrch i adeiladu gweithlumwy, gyda’r canlyniad fod babanod yncael eu gadael yn syth ar ôl eu geni.Roedd degau o filoedd o blant yn llenwicartrefi plant amddifad y wladwriaeth,lle’r oedd y drefn yn aml yn ddidostur achreulon, gyda staff heb eu hyfforddi aheb fawr arian ar gyfer bwyd neufeddyginiaeth ddigonol.

Roedd un o’n myfyrwyr wedi treulio dwyflynedd yn gweithio yn un o’r lleoedd hyncyn penderfynu dychwelyd i Brydain igofrestru ar gwrs gradd Gwaith Chwarae.Yn ystod ei hail flwyddyn, ddewisoddgwblhau ei lleoliad dysgu drwy brofiad ynRomania a threuliodd hi a myfyriwr aralldri mis yn gweithio mewn cartref plantamddifad yn Bucharest. Pan ymweloddfy ngwraig a finnau, roedd yn ddechraucysylltiad sy’n parhau hyd heddiw.

I gyntaf roeddem yn gysylltiedig gydagelusen (cynllun y Rhosyn Gwyn) yngweithio yn nhref Sighisoara lle’r oeddgrw^ p o blant amddifad yn byw mewnysbyty paediatreg. Roedd y plant wedieu cam-drin a’u hesgeuluso amflynyddoedd lawer - roeddent weditreulio y rhan fwyaf o’u bywydau wedi’uclymu mewn cot mewn ystafell fechan -ac rwy’n credu eu bod ymysg y plantoedd wedi eu hamddifadu fwyaf rhagchwarae yn y byd.

Sefydlodd yr elusen brosiect gwaith

chwarae therapiwtig a anelwyd i hybu euhadferiad. Roedd y prosiect ynllwyddiant enfawr ac yn cynnwyshyfforddi gweithiwr chwarae o Romaniayn Leeds Met. Cynhaliodd Sophie Webb,cyn fyfyrwraig gwaith chwarae a finnaubrosiect ymchwil yn canolbwyntio argynnydd datblygiadol y plant ar ôl iddyntgymryd rhan.i

O’r 16 o blant ar ward yr ysbyty, maes olaw aeth 14 at rieni maeth neu eumabwysiadu o fewn Romania , ac yn ypedair mlynedd diwethaf mae deugaineraill wedi manteisio o’r prosiect. Mae’rysbyty wedi newid ei drefn gweithio acyn awr yn anelu i ganfod lleoliad teulu iblant amddifad o fewn chwe mis - maentyn llwyddiannus fel arfer. Mae oedrancyfartalog y plant yn yr ysbyty wedigostwng, ac mae’r prosiect yn ymwneudmwy am ofal ac ataliaeth a llai am achubac adferiad.

Rydym yn dal i gymryd rhan ond rydymyn ar wedi symud ein ffocws i wahanolfath o anfantais. Yn Romania mae’rboblogaeth Roma fwyaf yn y byd - tua 2miliwn mae’n debyg - ac maent yndioddef gwahaniaethu cyffredinol yn euherbyn. Cafodd y Roma eu disgrifio fel ybwch dihangol cenedlaethol ar gyferproblemau enfawr Romania.ii Nid pobl

deithiol mohonynt, ond yn hytrach maentyn byw mewn trefi sianti mewn tai di-sutwedi’u gwneud allan o fwd a phren, hebunrhyw lawr, dim cyfleusterau, weithiaudim to. Ychydig o arian sydd ar gyferbwyd a meddyginiaeth, ac maedisgwyliad oes yn fyr iawn. Mae’n galediawn i oedolion gael cyflogaeth.

Y llynedd cawsom ein cyflwyno i KatieSimmonds, menyw o Brydain a oedd ynbrwydro i ddarparu safonau bywsylfaenol i bedwar cant o deuluoeddRoma ym mhentref Dyffryn Oer ynTransylvania. Ysbrydolodd hyn ni isefydlu ymddiriedolaeth elusennol – Aidfor Romanian Children. Ein nod ywdarparu adnoddau ac addysg hanfodol iblant y pentref. Mae’r arian a godwn ynhelpu i dalu am fwyd, dillad, cyflenwadaumeddygol, tai ac ysgolion, ac rydymhefyd yn rhedeg gwersylloedd haf. Drwyein helusen anelwn hyrwyddo’r farn maihynt y Roma yw’r broblem, ac nid yRoma eu hunain.

Haf llynedd cynhaliodd gwirfoddolwyr oBrifysgol Leeds Metropolitanwersylloedd ar gyfer tua chant ac ugain oblant. Disgrifiant eu profiad yma:

“Mae tua 600 o blant yn y pentref. Mae’rgwersylloedd yn gyfle i rai ohonyntddianc rhag caledi beunyddiol y pentref i

Chwarae ac Anfantaisgweithio yn Romania

Ciwio am y pryd poeth wythnosol

Page 9: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

9 Chwarae dros Gymru

le sy’n lân a diogel. Mae’n caniatáuiddynt fod yn blant ac i sylweddoli fodganddynt ddewis mewn bywyd.”

“Mae dysgu mwy am y system ynRomania wedi agor fy llygaid. Fe fyddai’rplant yn chwarae gydag unrhyw beth ymedrent ddod o hyd iddo.”

“Y plant yw’r hapusaf i mi eu cwrdderioed”.

Rwyf wedi cynnwys y dyfyniadau hyngan eu bod yn tynnu sylw at fatersylweddol iawn i weithwyr chwarae adarparwyr chwarae - sef pw^ er chwaraeyn wyneb difreintiad materol. Yn ygorffennol, mae prosiectau chwarae ynaml wedi cyfiawnhau eu bodolaeth ar ysail eu bod yn mynd i’r afael aganghenion plant dan anfantaiseconomaidd. Mewn gwirionedd, mae’nprofiad o weithio ar brosiectau ynRomania yn rhoi peth cefnogaeth i’r farny gall difreintiad chwarae fod yn broblemmwy difrifol nag anfantais faterol.iii Yn ôl yrhan fwyaf a safonau, mae plant DyffrynOer yn gronig o dlawd, ac eto maent yngymdeithasol ac mae ganddyntgysylltiadau teuluol cryf. Maent yn aml yngorfforol gryf ac ystwyth - gan ddringocoed heb feddwl ddwywaith.

Cawsom ein taro’n arbennig ganddyfeisgarwch a chreadigrwydd eu

chwarae. Er enghraifft maent yn chwarae“elastig” neu “sgipio Ffrengig” drwyglymu hen deits a’u clymu i wneudrhaffau sgipio; maent yn chwarae tidliwincs gyda thopiau potel; yn y gaeafmaent yn hollti poteli pop ac yn eudefnyddio fel slediau. Ymddengys fodcymhlethdod a chreadigrwydd chwarae’rplant hefyd yn cadarnhau DamcaniaethDarnau Rhydd Nicholson -

“Mewn unrhyw amgylchedd mae’rraddfa o ddyfeisgarwch achreadigrwydd, a phosibilrwydddarganfyddiad, yn uniongyrchol gymesurâ’r nifer a mathau o amrywion ynddo.” iv

Caiff y plant hyn eu hamgylchynu ganbren a phob math o sbwriel. Maent fellyyn byw mewn amgylchedd sy’n llawn oddarnau rhydd, ac maent yn ymddangosyn sylweddol fwy creadigol yn euchwarae na phlant Prydain heddiw, ymae eu bywyd yn aml yn cynnwys caeleu symud rhwng amgylcheddau lle maeoedolion yn dominyddu gyda theganauac offer soffistigedig nad oes ganddyntfawr iawn i’w wneud gyda’r dychymyg.Mae agwedd creadigol ymddygiad plant

Roma yn bwnc ymchwil parhaol.

Ym mhentref Dyffryn Oer mae cymunedsy’n profi lefelau o dlodi na welwyd ymMhrydain ers y 19eg ganrif, eto yngyffredinol mae’r plant yn gyfeillgar, actif,creadigol a hapus. [Nid yw hyn ynbychanu effaith tymor hir tlodi ar blantRoma, yn arbennig yn nhermau iechydac addysg.] O gymharu, roedd y plantdifreintiedig o chwarae a ddarganfuwydyn yr ysbyty yn Sighisoara yn treulio eubywydau yn siglo yn eu crud, gyda golwgwag yn eu llygaid.

Ymddengys mai’r wers i’w dysgu yma ywosgoi esboniadau simplistaidd o’rberthynas rhwng datblygiad plant astatws economaidd y plentyn. Mae plantsydd â theuluoedd cefnogol, digon offrindiau i chwarae â hwy ac amgylcheddchwarae creadigol yn fwy tebygol owneud y gorau o’u bodolaeth. Mae planta amddifedir o chwarae yn fwy tebygol ofynd i gragen edrych ar i mewn llemedrant guddio poen y byd allanol.

Dr Fraser Brown

i Mae crynodeb o’n gwaith yn y llyfr Playwork: Theory and Practice, F. Brown (gol), Buckingham, Gwasg y Brifysgol Agored (2003)

ii Crowe, DM (1995) A History of the Gipsies of Eastern Europe and Russia, Llundain, IB Tauris

iii Hughes, B (2001) Evolutionary Playwork and Reflective Analytic Practice. Llundain, Routledge.

iv Nicholson, S. (1971) The Theory of Loose Parts. Yn Landscape Architecture Quarterly, Cyfrol 62,Rhif 1, Hydref 1971 a Bulletin for Environmental Education Rhif 12 Ebrill1972, Llundain, Cymdeithas Cynllunio Tref a Gwlad.

Mae Aid for Romanian Children yn elusen gofrestredig (rhif 1098344), Os hoffech wybod mwy am y prosiectau hyn, neu roi cyfraniad, medrir cysylltu â hwy ar 01904635018 neu e-bost [email protected].

Sledio ar boteli pop

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

Pentref Dyffryn Oer

Page 10: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

10Chwarae dros Gymru

Hyfforddiant Gwaith Chwarae yng NghaerdyddMae Gwasanaethau Chwarae Plant yng Nghaerdydd bobamser wedi bod yn ymroddedig i ddarparu hyfforddiantchwarae, ond yn ystod y tair blynedd diwethaf daeth euhymagwedd yn fwy strategol ac maent wedi ymestyn eu cylchgorchwyl i gynnwys hyfforddiant ar lefelau un i dri. MaeRichard Trew, Hyfforddydd Chwrae, yn disgrifio euhymagwedd ac yn dweud ei farn am hyfforddiant gwaithchwarae:

Ar hyn o bryd, cynigiwn Gwrs Cyflwyno Gwaith Chwarae, CwrsGweithwyr Chwarae Haf, Tystysgrif CACHE mewn GwaithChwarae, Diploma CACHE mewn Gwaith Chwarae a’rDystysgrif City & Guilds llwybr-cyflym mewn gwaith gydaPlant (APEL). Yn ychwanegol at y cyrsiau achrededig, cynigiwnweithdai rheolaidd ar bynciau fel rhan o’n hymrwymiad iddatblygiad proffesiynol parhaol gweithwyr achos. Yn fwyafdiweddar, rydym wedi dechrau cynnig deunyddiau dysguelectronig rhyngweithiol i gefnogi ein cyrsiau achrededig - maemyfyrwyr a fagwyd gyda Technoleg Gwybodaeth yn gysurusiawn gyda’r adnoddau hyn.

Mae eleni yn argoeli bod yn flwyddyn gyffrous ar gyfer gwaithchwarae gyda chyhoeddi’r Egwyddorion Gwaith Chwaraenewydd, y strategaeth Gorwelion Newydd ar gyfer dyfodol ysector gwaith chwarae, effaith y Safonau GalwedigaetholCenedlaethol ac yng Nghymru ddatblygu dull cymeradwyaethhyfforddiant. Bydd gan yr holl gynlluniau hyn effaith sylweddolar ddarpariaeth yr hyfforddiant a chymwysterau gwaithchwarae sydd ar gael yng Nghymru.

Beth ddylai hyfforddiant gwaith chwarae ansawdd da eigynnwys? Efallai y byddai beth y dylai alluogi gweithwyrchwarae i’w wybod a’i wneud yn gwestiwn gwell? Wel, rwy’ncanolbwyntio ar gynnwys, cymhwysiad a chyflwyniad:

1. Dylai calon pob cwrs gwaith chwarae gynnwys archwiliadtrwyadl o’r broses chwarae a’n hymateb iddi fel gweithwyrchwarae. Dyna, wedi’r cwbl, yw’r hyn sy’n gwneud einproffesiwn yn unigryw. Ni ddylai hyfforddiant gwaith chwaraefod yn gylch diddiwedd o bolisi a gweithdrefnau ymhell o’ucyd-destun yn y broses chwarae. A yw hyn yn golygu na all fodunrhyw hyfforddiant a gweithio traws-sector effeithlon? Nagyw’n bendant. Drwy ddiffinio’n glir yr hyn sy’n neilltuol,amlygwn yr hyn a rennir ar draws proffesiynau cysylltiedig.

2. Mae hyfforddiant llwyddiannus yn ymwneud â mwy na dimond trosglwyddo gwybodaeth o’r tiwtor i’r myfyriwr. Dylaihyfforddiant ganiatau profiadau cadarnhaol sy’n arwain atddatblygu gwybodaeth a thechnegau ymarferol. Fodd bynnag,mae angen i ni sicrhau y gellir dodi pob un o’r galluoedd hynmewn cyd-destun. Hynny yw, mae gweithwyr chwarae yngwybod pryd i wneud rywbeth cystal â sut i’w wneud, ac maehynny yn ei dro yn dibynnu ar farn gadarn a chyfannol o’rbroses chwarae. Mae’r sgil gynnil hon yn greiddiol i lawer o’rhyn a wnaiff y gweithiwr chwarae.

3. Un mater o gonsyrn am ddyfodol hyfforddiant gwaithchwarae yn y drafodaeth hon am beth y dylai gweithwyrchwarae wybod yw ein bod yn anghofio sut y dylent wybod. Nifydd dylunio a chynnwys ansawdd uchel mewn cyrsiau yn fawro werth os yw cyflwyniad hyfforddiant gwaith chwarae yn wael.Mae’n sicr y dylai sefydlu dull i sicrhau safonau uchenmesuradwy a chyson wrth gyflwyno cymwysterau gwaithachos fod yn nod allweddol ar gyfer y dyfodol.

Yn y pen draw, rhaid i addysgu a dysgu ansawdd uchel fod ynsylfaen i ddatblygu gwaith chwarae fel proffesiwn ac mae hynyn ei dro yn hanfodol os ydym i sicrhau dyfodol gwaithchwarae a chanfyddiadau newydd ar bwysigrwydd ein rôl ynhwyluso chwarae plant.

Cysyllter â Richard ar 029 20873944

Proffesiwn Gwaith ChwaraeMae’r sector Gwaith Chwarae wedi ymofyn amddiffyn eigyfraniad unigryw i anghenion plant a phobl ifanc drwy lunioamrediad trawiadol o gymwysterau sy’n cadw integriti’r sectortra’n cydnabod gofynion cyfreithiol megis RheoliadauGwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002.

Mae teitl ‘Gweithiwr Chwarae Proffesiynol’ yn parhau’n brin, adangosir hynny gan y ffaith y defnyddir y term ‘gweithiwrchwarae’ heb gyfyngiad. Gall unrhyw un ddefnyddio’r teitlhwnnw heb fod gofyniad i’w gysylltu gyda chymhwyster agydnabyddir yn genedlaethol neu gyfraddau cyflogcysylltiedig. Pwrpas yr erthygl hon yw archwilio cyfleoedd afedrai ac sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru i ganiatau’rsector gwaith chwarae i geisio cydraddoldeb gydaphroffesiynau cysylltiedig (megis dysgu neu wasanaethaucymdeithasol) gan wybod fod y corff o arbenigedd, profiad acintegriti a rennir ar y cyd yn cyfateb ac yn ategu’r hyn aarddangosir yn y proffesiynau hyn.

Yn yr un modd â meysydd eraill o’r sector ‘addysg anffurfiol’,medrir defnyddio’r teitl gweithiwr chwarae ar gyfer amrediadeang o unigolion. Ar y continwwm mae gwirfoddolwyrbrwdfrydig ond heb gymwysterau, y gweithwyr tymhorol,ymarferwyr wyneb-i-wyneb llawn amser ac, yn olaf, reolwyrstrategol mewn awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol.

Mae’r sector Gwaith Chwarae yn cael ei yrru ar hyn o bryd ifabwysiadau isafswm safonau cymhwyster ar NVQ Lefel 2 aLefel 3, nid fel rhan o raglen gynlluniedig o ddatblygu gweithluond mewn ymateb i’r Safonau Cenedlaethol dros ReoliadGofal Dydd Plant Dan Wyth a Gwarchod Plant a ymgorfforwydyn Neddf Plant 1985. Mae’r ffocws hwn, er yn gymeradwy ynnhermau amddiffyn plant, yn anghofio fod y sector yngweithredu o fewn agenda oedran llawer ehangach a bodganddo ofyniad cyfatebol ac yr un mor bwysig i ddatblygu’rsgiliau a sylfaen gwerthoedd unigryw sy’n gynhenid i faesgwaith chwarae.

Datblygiad proffesiynol gweithwyr unigol a goleddir o fewn ycontinwwm gwaith chwarae ddylai fod yn brif ysgogyddtargedau cymhwyster gweithlu yn llwyr er mwyn codi a chynnalsafonau gwasanaeth yn y sector. Er mwyn cyflawni hyn, maeamcanion allweddol y mae’n rhaid i ni eu cyflawni:

• Cymwysterau yn gysylltiedig â’r rolau wedi eu dynodi ofewn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyferGwaith Chwarae

• Dylai teitlau swydd a disgrifiadau swydd yn gysylltiediggyda’r rolau hynny fod yn gysylltiedig â dyletswyddau’rswydd yn hytrach na gyda chymhwyster.

• Cymwysterau’n cyfateb â’r Fframwaith CymwysterauCenedlaethol i adlewyrchu’r lefel wahanol o arbenigeddsydd ei hangen ac felly adlewyrchu cymhlethdod y rolau awneir ar wahanol lefelau'r proffesiwn.

Ydych chi’n dal gyda fi? Yn y diagram islaw, ymgeisiaisddangos fy argymhelliad am yr hyn y dylai’r sector GwaithChwarae geisio ei sefydlu o fewn y degawd nesaf i symudGwaith Chwarae yn gadarn i’r 21ain Ganrif a thu hwnt. Mae’ncynrychioli nifer o lefelau cymhwyster y medrai pob swyddgwaith chwarae gael eu graddio â hwy. Dylid datblygu’r ‘LlwybrCydlynol’ bondigrybwyll fel partneriaeth rhwng y cyflogwyr adarparwyr gwasanaeth ac asiantaethau hyfforddi. I ddechrau,dylai pob swydd, yn cynnwys swyddi gwirfoddolwyr, gael eugraddio drwy eu mapio o gymharu â dangosyddion lefelFframwaith Cymhwyster Cenedlaethol a’r SafonauGalwedigaethol Cenedlaethol lle’n briodol. Yn dilyn hyn, dylidcyfosod dadansoddiad o lefel cymhwyster y gweithlu

HYFFORDD IANTHYFFORDD IANTHYFFOR

Page 11: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

11 Chwarae dros Gymru

presennol o gymharu â chanfyddiadau’r ymarferiad graddio dechreuol i sefydlu faint o ‘uwch sgilio’ sydd ei angen ar bob lefel ofewn y proffesiwn. Yn olaf, dylid cynhyrchu cynllun datblygu gweithlu i sefydlu camau cronnus ar y ffordd i gyflawni’r nod obroffesiwn gyda phob aelod yn ‘gymwysedig’.

Gadewch i ni symud blwyddyn neu ddwy i’r dyfodol. Ar ôl adeiladu llwybr cydlynol i gymhwyster, graddio pob swydd o fewn gwaithchwarae i lefelau cymhwyster priodol, a pharatoi cynllun datblygu gweithlu i ddarparu gwybodaeth ymchwil marchnad ar gyferdarparwyr hyfforddiant, medrid eich esgusodi pe credech fod y Proffesiwn Gwaith Chwarae yn awr wedi cwblhau ei dasg ac ymedrai edrych yn fodlon i’r tân gwersyll cynllun chwarae hollbresennol, ond na!

Nid yw rheoli ansawdd hyfforddiant yn fater y dylid ei adael i reolwyr ansawdd sefydliad hyfforddiant neu gynrychiolwyr ArolygaethEi Mawrhydi. Mae cymeradwyaeth broffesiynol yn swyddogaeth allweddol mewn sicrhau fod damcaniaeth gwaith chwarae yn caelei gaffael, cymhwyso ac adfyfyrio arno. Mae Skills Active yn hyrwyddo’r broses hon ar draws y Deyrnas Gyfunol ac yng Nghymru,mae Chwarae Cymru yn arwain gyda hyn. Gwnaed cynnydd sylweddol i rymuso’r maes wrth gynnal yr hyn sy’n swyddogaethgymhleth sydd angen grw^ p Safonau Addysg a Hyfforddiant i gynrychioli’r proffesiwn, cynghori, arolygu a monitro’r asiantaethauhyfforddi i sicrhau y cedwir safonau.

Yn olaf, yn fyr eu hanadl o’r holl ymdrech, bydd angen i’r proffesiwn wedyn sicrhau fod ei rannau cyfansoddol nid yn unig âchymwysterau dechreuol ond yn parhau’n ffit i ymarfer ac arddangos hyn drwy fframwaith datblygu proffesiynol cadarn. Unrhyw unawydd hyfforddi?

Alun Griffiths yw Ysgrifennydd Pwyllgor Safonau Addysg a Hyfforddiant Cymru.

Medrir cysylltu ag Alun drwy Asiantaeth Ieuenctid Cymru.

Lefel y Cymhwystera Argymhellir

LefelNQF

Teitl SwyddPriodol

Dangosydd Lefel NQF

BA Anrh mewnGwaith Chwarae

Lefel6

GweithiwrChwaraeGraddedig

Mae cymwysterau Lefel 6 yn cydnabod gwybodaeth lefel uchel arbenigol o faesgwaith neu astudiaeth i alluogi defnyddio syniadau ac ymchwil yr unigolyn ei hunmewn ymateb i broblemau a sefyllfaoedd cymhleth. Mae dysgu ar y lefel hon yngolygu cyflawni lefel uchel o wybodaeth broffesiynol ac mae’n addas ar gyferpobl yn gweithio fel gweithwyr proffesiynol seiliedig ar wybodaeth neu mewnswyddi rheoli proffesiynol. Mae cymwysterau Lefel 6 ar lefel cyfwerth i raddBaglor gydag anrhydeddau, tystysgrifau graddedigion a diplomâu graddedigion.

Llwybr cydlynol i Gymwysterau Gwaith Chwrae

Diploma AddysgUwch mewnGwaith Chwarae

Lefel5

GweithiwrChwaraeCymwysedig

Mae cymwysterau Lefel 5 yn cydnabod y gallu i gynyddu dyfnder gwybodaeth adealltwriaeth maes o waith neu astudiaeth i alluogi ffurfio datrysiadau acymatebion i broblemau a sefyllfaoedd cymhleth. Mae dysgu ar y lefel hon yngolygu arddangos lefel uchel o wybodaeth, lefel uchel o arbenigedd gwaithmewn rolau swydd a chymhwyster wrth reoli a hyfforddi eraill. Mae cymhwysterar y lefel hon yn addas ar gyfer pobl yn gweithio fel technegwyr gradd uwch,gweithwyr proffesiynol neu reolwyr. Mae cymwysterau Lefel 5 ar lefel cyfwerth igymwysterau Addysg Uwch canolig megis Diplomâu Addysg Uwch, graddauSylfaen a graddau eraill nad ydynt fel arfer yn rhoi mynediad i raglenni ôl-radd.

Tystysgrif AddysgUwch mewnGwaith Chwarae

Lefel4

HyfforddaiProffesiynol

Mae cymwysterau Lefel 4 yn cydnabod dysgu arbenigol ac yn cynnwysdadansoddiad manwl o lefel uchel o wybodaeth mewn maes gwaith neuastudiaeth. Mae dysgu ar y lefel hon yn addas ar gyfer pobl yn gweithio mewnswyddi technegol a phroffesiynol, a/neu reoli a datblygu eraill. Mae cymwysterauLefel 4 ar lefel cyfwerth i Dystysgrifau Addysg Uwch.

Tystysgrif AddysgUwch mewnGwaith Chwarae

Lefel3

GweithiwrCefnogiChwarae AilLefel

Mae cymwysterau Lefel 3 yn cydnabod y gallu i ennill, a lle’n berthnasolgymhwyso amrediad o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth. Mae dysgu ar y lefelhwn yn cynnwys cael gwybodaeth a sgiliau manwl. Mae’n addas ar gyfer poblsy’n dymuno mynd i brifysgol, pobl yn gweithio’n annibynnol, neu mewn rhaiardaloedd yn arolygu a hyfforddi eraill yn eu maes gwaith.

NVQ 2 mewnGwaith ChwaraeLefel II neugyfwerth

Lefel2

GweithiwrCefnogiChwaraeLefel Gyntaf

Mae cymwysterau Lefel 2 yn cydnabod y gallu i ennill gwybodaeth adealltwriaeth dda o faes pwnc gwaith neu astudiaeth ac i gynnal tasgau amrywiolgyda pheth arweiniad neu arolygaeth. Mae dysgu ar y lefel hon yn golyguadeiladu gwybodaeth a/neu sgiliau yng nghyswllt maes gwaith neu faes pwnc acmae’n addas ar gyfer llawer o rolau swyddi.

Cyflwyniad acAnwytho

Dimyn

berthnasol

RecriwtiaidNewydd

Mae cymwysterau Lefel 2 yn cydnabod gwybodaeth a sgiliau sylfaenol a’r gallu igymhwyso dysgu gyda chyfarwyddyd neu arolygaeth. Mae dysgu ar y lefel honyngly^ n â gweithgareddau sy’n bennaf yn cyfeirio at sefyllfaoedd bob dydd a gallfod yn gysylltiedig gyda chymhwysedd swydd.

DD IANTHYFFORDD IANTHYFFORDD IANTHYF

Page 12: Chwarae yng Nghymru rhifyn 15

Play Wales Chwarae Cymru Rhifyn 15 GWANWYN 2005

12Chwarae dros Gymru

DDIIGGWWYYDDDDIIAADDAAUUBydd Chwarae Cymru yn anfon ein e-Fwletin Hyfforddianta Digwyddiadau atoch os ffoniwch ni neu anfon e-bostatom i ofyn am gael eich ychwanegu at y gronfa ddata.Rydym hefyd yn cynnal gwasanaeth hysbysebu swyddi argyfer darparwyr chwarae a rhai’n edrych am swyddichwarae yng Nghymru. Cysyllter â Phil ar 029 20486050neu [email protected].

Seminar Asesu Risg Playlink12 Ebrill 2005, Canol Llundain – i gael manylion pellachgweler www.playlink.org.uk neu ffonio 07946 527264

Chwarae yng Nghefn Gwladgwneud iddo ddigwydd i blant a phobl ifanc. CynhadleddFlynyddol Chwarae Ranbarthol De Ddwyrain Lloegr, 23Ebrill 2005, Guildford. E-bost: [email protected].

Iachau drwy Chwraecyflwyniad i chwarae fel therapi. Community Insight, 26Ebrill 2005, Llundain. Ffoner 01793 512612 i gael manylionpellach.

Chwarae Ysbryd AnturChwarae Cymru, 11 a 12 Mai 2005, Caerdydd. Lle i ail-wefru, gloywi ac adolygu eich ymarfer gwaith chwarae -cyflwyniadau, gweithdai, amser i rwydweithio a chael eichysbrydoli. Ffoner Phil MacLeod i gael manylion archebu ar029 20486050.

Chwarae: Dysgu am OesCymdeithas Chwarae Ryngwladol, 18-22 Gorffennaf 2005,Berlin. I gael gwybodaeth bellach gweler www.ipa2005.de

Global GlueCommon Threads Publications £14.10Mae hwn yn adnodd cyffrous iawn. Yn ogystal â bod yngreadigol, gwneud i chi feddwl ac yn hwyl - mae hefyd ynaddysgol. Mae gan Global Glue gyfarwyddiadau a dalennaugweithgaredd rhydd eu dilyn ac os na fedrech ddychmygu’niawn sut olwg fyddai ar Innukshuk mae ffotograffau a lluniausy’n dod â’r cyfan at ei gilydd.Meddyliais y byddwn yn ceisio’r gweithgareddau ar raddfa laiyn hytrach na graddfa fawr i weld os oeddent yn rhwydd euhaddasu. Rwy’n gweithio ar Fws Chwarae a chredais maidyma fyddai’r lle delfrydol i roi cynnig arno. Gweithiodd ynwirioneddol dda, gyda’r plant yn creu coedwig law ac ystafellfideo yn y gegin fyny’r grisiau, a rhai o’r gweithgareddau llailawr grisiau - megis ysgrifennu reis - oherwydd nad oeddllawer o le. Cafodd y plant amser gwych a roeddent yn llawncwestiynau, felly mae angen i chi wneud eich gwaith cartref ary pwnc yr ydych yn eu cyflwyno iddo.Mae Global Glue mor hyblyg fel y medrir ei ddefnyddio felprosiect cyfan neu mewn rhannau llai. Medrir defnyddio’rgweithgareddau gyda phob oedran a gallu. Mae hyn ynadnodd a all ac a fydd yn cael ei defnyddio dro ar ôl tro yn einprosiect. Os nad yw gennych eisoes, byddwn yn argymell eichbod yn ei gael. Mae’n wych.Deb, Valleys Kids.

The Buskers Guide to PlayworkShelly NewsteadCommon Threads Publications £8.50Mae Doug Cole, Swyddog Datblygu Chwarae gyda Chyngor SirCaerdydd, yn adolygu cyhoeddiad gwaith chwarae newydd acychwanegiad diweddar i Lyfrgell Chwarae Cymru:Nawr mae’n well i mi ddechrau drwy ddweud i’r llawlyfr 70tudalen maint poced yma roi digon o gyfle i mi gymryd rhanmewn gweithgaredd gwrthdyniadol clasurol un prynhawn.Roedd un ai ceisio cael trefn ar y gyllideb, neu fynd ati i gyflawnify addewid i ysgrifennu adolygiad, dyfalwch pwy un a drechodd!Nod The Buskers Guide to Playwork yw diffinio'r hyn yw gwaithchwarae – camp go fawr pan ystyrir y nifer o goed a gafodd euhaberthu eisoes hyd yma i ddilyn y nod yma.Felly a wnaeth weithio? Mae’n rhaid i mi ddweud ei fod wedigweithio ar y cyfan. Mae hyn yn gyflwyniad onest a realistigoedd yn taro tant gyda mi ac rwy’n siw^ r y bydd yn gwneudhynny gyda llawer o weithwyr chwarae.Mae’r llyfr yn anelu i drafod llawer: gwaith chwarae a chwarae;beth yw gwaith chwarae; lleoedd gwaith chwarae; oedolion achwarae, ac mae’n gofyn y cwestiwn os ydym yn ei wneud yniawn? Medrai pob un o’r pynciau hyn fynd â 70 tudalen euhunain, ond llawlyfr cyfeirio cyflym yw hyn, ac mae’n llwyddogan bennaf.Wrth i mi ddarllen dechreuais ofyn i mi fy hunan pwy yw’rgynulleidfa ar gyfer y llyfr (ar wahân i Swyddogion DatblyguChwarae a ddylai fod yn cael trefn ar eu cyllideb!).Mae Shelly yn dweud yn y cyflwyniad yr hoffai i The BuskersGuide gael ei ddarllen gan unigolion cyn iddynt fynd ar gyrsiauhyfforddi, ac rwy’n credu fod rhywbeth i’w ddweud o blaid hyn.Wrth i’r llyfr fynd yn ei flaen, fodd bynnag, ymddengys ei fod yncolli ychydig o gyfeiriad ac yn dod yn llai am baratoi pobl ar gyferhyfforddiant gwaith chwrae, ac yn fwy am ddadansoddiadparhaol o waith chwarae, neu ddarbwyllo’r dibrofiad beth ywgwaith chwarae. Mae rhagoriaeth i’r ddau ac efallai bod ycyhoeddiad hwn yn ceisio gwneud gormod yn hytrach nachanolbwyntio ar un agwedd.Rwy’n siw^ r y bydd y llawlyfr byr hwn yn ddefnyddiol, allongyfarchiadau i unrhyw un sy’n ceisio diffinio gwaith chwaraemewn 70 o dudalennau bach.

Adolygiadau Llyfr

Cysyllter â Common Threads ar 07000 785 215 neu [email protected].

Bu Skillsactive Cymru, y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer gwaithchwarae, yn edrych ar fater sgiliau yn wynebu cyflogwyr yngNghymru er mwyn gwella mynediad i hyfforddiant ac addysg.

Maent ar hyn o bryd yn cynnal cynllun peilot o Fothau Dysgu –a fydd yn gweithio ar ddwy lefel:

• Rhwydweithiau cyflogwyr – tynnu ynghyd a chydlynuanghenion hyfforddiant a gofynion cyfathrebu.

• Darparydd hyfforddiant. Bydd ‘safleoedd both’ yn cydlynucysylltiadau i rwydwaith cyflwyno ranbarthol ehangach.Bydd y cysylltiadau hynny yn cynnwys swyddfa ranbartholELWa, darparwyr hyfforddiant lleol eraill, grwpiau cyflogwyrpresennol, CCET (Consortia Cymunedol Addysg aHyfforddiant), sefydliadau cenedlaethol a sefydliadaudiddordeb proffesiynol.

Y bwriad yw cael tri Both Dysgu ledled Cymru, yn y Gogledd,De a’r Canolbarth, ac os ydynt yn llwyddiannus byddSkillsactive yn eu hymestyn ledled y DG.

Mae Coleg Glan Hafren yng Nghaerdydd yn rhedeg cynllunpeilot chwe mis yn dilyn proses dendro agored. DywedoddAndy Evans, Rheolydd Datblygu Busnes, sy’n rhedeg y peilot:“Rydym yn falch iawn i fod wedi ennill y prosiect hwn acedrychwn ymlaen at yr her o’n blaen. Mae’r ymateb cynnar gangyflogwyr yn gadarnhaol iawn a gobeithiwn drefnupartneriaethau gydag amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant ermwyn ateb anghenion lleol.”

Bu Andy yn cwrdd gyda budd-ddeiliaid yn y sector gwaithchwarae yn ddiweddar. Os teimlwch y medrwch un ai gyrchuneu gynnig hyfforddiant ac addysg mewn gwaith chwarae ynNe Cymru, cysylltwch ag Andy ar 029 2040 6520 neu [email protected].

Both Dysgu Peilot