16
Rhifyn 33 Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae Gaeaf 2010 Chwarae dros Gymru www.chwaraecymru.org.uk Cyfoeth chwarae

Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Chwarae Cymru yw'r elusen cenedlaethol dros chwarae plant. Rydym yn cyhoeddi'r cylchgrawn Chwarae dros Gymru dair gwaith y flwyddyn.

Citation preview

Page 1: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Rhifyn 33

Newyddion chwarae a gwybodaeth gan yr elusen genedlaethol dros chwarae Gaeaf 2010

Chwarae dros Gymru

www.chwaraecymru.org.uk

Cyfoethchwarae

Page 2: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Cynnwys tudalen

Golygyddol 2

Newyddion 3-6

Cyfweliad: Huw Lewis 7

Mannau diogel i chwarae a

chymdeithasu 8

Pam gwneud amser i chwarae 9-11

Pam fod buddsoddi mewn

chwarae yn bwysig 11

Datblygu’r Gweithlu 12-13

Cynhadledd IPA 2011 14

Ymunwch â Chwarae Cymru 15

Digwyddiadau ac Ariannu 16

Mae mynd i’r afael â thlodi plant ynun o brif flaenoriaethau LlywodraethCynulliad Cymru. Disgrifiodd yGweinidog dros Blant, Huw Lewis,dlodi plant fel pla yng Nghymru amaes o law bydd yn lansiostrategaeth tlodi plant newydd sy’nanelu i leihau’r nifer o blant sy’nbyw mewn cartrefi heb waith; alleihau’r anghydraddoldebau sy’nbodoli ym meysydd iechyd, addysga chanlyniadau economaidd argyfer plant sy’n byw mewn tlodi.

Caiff tlodi plant ei ddiffinio gan lefel yrincwm sydd ar gael gan deulu â phlant,a chaiff teuluoedd â llai na 60 y cant o’rincwm canolrifol eu hystyried yn dlawd.Ond yn sgîl tlodi incwm dawanghydraddoldebau cymdeithasol aceconomaidd. Caiff plant sy’n byw mewntlodi lawer llai o gyfleoedd na’u cyfoedionmwy cefnog ac yn aml byddant ynwynebu anawsterau wrth gael mynediadi wasanaethau o safon. Bydd cael eumagu mewn tlodi’n cyfyngu ar gyfleoeddbywyd plant ar gyfer gwaith; hyfforddiant;perthnasau teuluol a chymdeithasolcadarnhaol, cryfion; iechyd corfforol ameddyliol da a hirhoedledd ac mae’neffeithio’n fawr iawn ar eu profiadaumewn plentyndod.

Mae nifer o ymgynghoriadau â phlantsy’n byw mewn tlodi ar draws y DU wedipwysleisio’r ymdeimlad o eithrio y byddplant mewn teuluoedd incwm isel yn eideimlo a’r modd y mae’r stigma o fod yn‘dlawd’ yn effeithio ar eu ymdeimlad owerth ac o berthyn. Bydd plant yn sôn droar ôl tro am y rhwystrau y maent yn euwynebu wrth gael mynediad i’w hawl ichwarae, adloniant a hamdden yn unolag Erthygl 31 o Gonfensiwn yCenhedloedd Unedig ar Hawliau’rPlentyn, fel dim neu fawr ddim mannauglân i chwarae, fawr ddim cyfleusteraulleol a chysylltiadau trafnidiaeth gwael.

Gwyddom y gall y math o gymdogaeth ymae plentyn yn byw ynddi wneud

gwahaniaeth mawr i gyfleoedd plant igael chwarae, adloniant a hamdden acar gyfer eu diogelwch corfforol. Erenghraifft, amcangyfrifir bod plant sy’nbyw mewn ardaloedd difreintiedigdeirgwaith yn fwy tebygol o gael euhanafu gan gar na phlant mewnardaloedd eraill1. Fel yr amlygwyd gan y‘Good Childhood Inquiry’ a gynhaliwydgan The Children’s Society yn ddiweddar,plant sy’n byw mewn tai o’r safon salaf acyn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig sy’nlleiaf tebygol o fwynhau llawer o’rcyfleusterau a’r cyfleoedd y maent wir euhangen (gan gynnwys y cyfle i chwarae)y tu allan, yn ogystal ag yn y cartref.

Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymruyn 1999, mae Llywodraethau olynolCynulliad Cymru wedi hyrwyddo hawliauplant yng Nghymru, yn enwedig eu hawl ichwarae. Cymru oedd gwlad gyntaf y DUi gyflwyno polisi chwarae oedd yncydnabod bod chwarae’n rhan annatodo ddatblygiad corfforol, dirnadol,cymdeithasol, moesol ac emosiynolplant. Mae’n amhrisiadwy ar gyfer ymarfereu dawn greadigol, fel offeryn therapiwtigac fel modd o ddathlu diwylliannau achymunedau. O ganlyniad, mae cael euheithrio o chwarae’n cynrychioli eithriadsylweddol o fywyd ar gyfer plant sy’n bywmewn tlodi.

Os yw nod Llywodraeth Cynulliad Cymru,o leihau anghydraddoldebau iechyd,addysg a chanlyniadau economaidd igael ei gyflawni, yna mae angengwneud llawer mwy (ar bob lefel olywodraeth a gan gymdeithas wâr) isicrhau darparu cyfleoedd cyfartal adigonol ar gyfer chwarae, adloniant agweithgarwch hamdden yn ogystal âgweithgarwch diwylliannol achelfyddydol ar gyfer plant sy’n bywmewn tlodi yng Nghymru.

1 Road Safety Analysis, Child Casualties 2010: Astudy into resident risk of children on roads in GreatBritain 2004-8.

Mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar:www.roadsafetyanalysis.org/projects/child-casualties-2010/

Cyhoeddir Chwarae dros Gymru gan Chwarae Cymru dair gwaith y flwyddyn.

Cysylltwch â’r Golygydd yn:Chwarae Cymru, Ty^ Baltig,Sgwâr Mount Stuart,Caerdydd CF10 5FH

Rhif ffôn: 029 2048 6050E-bost: [email protected] Gofrestredig Rhif. 1068926

ISSN: 1755 9243

Nid barn Chwarae Cymru o reidrwydd yw’r farn a fynegir yn y cylchlythyr hwn. Rydym yn cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi. Nid ydym yn ardystio unrhyw rai o’r cynnyrchna’r digwyddiadau a hysbysebir yn neu gyda’r cyhoeddiad hwn.

Argraffwyd y cyhoeddiad hwn ar bapur a gynhyrchwyd o goedwigoedd cynaliadwy.

Dyluniwyd ac argraffwyd gan CarrickFfôn: 01443 843 520E-bost: [email protected]

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010GOLYGYDDOL

2

Diolch o galon i bawb a gyfranodd at y cylchgrawn hwn – allen ni ddim ei wneudheboch chi. Mae’r rhifyn hwn o Chwarae dros Gymru, yn ogystal â rhifynnau blaenorol,ar gael i’w lawrlwytho o adran newyddion ein gwefan ar www.chwaraecymru.org.uk

GolygyddolGan Anne Crowley, Aelod o Grw^ p Arbenigol ar Dlodi Plant,Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Page 3: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010NEWYDDION

3

Mae Her Meysydd y FrenhinesElizabeth yr 2il yn rhaglen llawr

gwlad gyffrous a lansiwyd ym misMehefin 2010 i nodi Jiwbilî Deimwnt yFrenhines yn 2012. Dyma’r prosiectJiwbilî cyntaf i gael ei gymeradwyo’nswyddogol, ac mae’n anelu iwarchod 2012 o fannau awyr agoredar gyfer chwarae, chwaraeon neuadloniant mewn cymunedau trwy’rDeyrnas Unedig.

Mae Meysydd Chwarae Cymru yntrafod â phob Awdurdod Lleol yngNghymru a byddant hefyd yn cysylltu âpob Cyngor Cymuned a Thref i ofyn amenwebiadau ar gyfer mannau awyragored i gael eu neilltuo’n barhaol felMeysydd y Frenhines Elizabeth yr 2il.

Meddai Rhodri Edwards, RheolwrMeysydd Chwarae Cymru, ‘Bu ymatebyr Awdurdodau Lleol hyd yma’ngalonogol iawn, gan fod 11 o’r 22

awdurdod eisoes wedi mynegididdordeb mewn cymryd rhan yn ycynllun a hyderwn y bydd ymateb yCynghorau Cymuned a Thref yr un morgadarnhaol’.

Am fwy o wybodaeth a manylionynghylch sut i ymuno â’r prosiectymwelwch â: www.qe2fields.com

Her Meysydd Chwarae

Mae SkillsActive (y cyngor sgiliausector ar gyfer gwaith chwarae)

wedi lansio Strategaeth Addysg aSgiliau Chwarae a Gwaith Chwaraenewydd ar gyfer y DU. Mae’rstrategaeth yn seiliedig ar Erthygl 31o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedigar Hawliau’r Plentyn, sy’n cydnabodbod chwarae’n hanfodol i ansawddbywyd plant.

Datblygwyd y strategaeth pum mlyneddar y cyd ar draws y bedair gwlad, gangydnabod amrywiol anghenion Cymru,Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, ac

fe’i hysbyswyd gan grwpiau ffocws,gweithdai ac ymgynghoriad ar-lein, a’ichefnogi gan y gwaith ymchwildiweddaraf.

Mae’r strategaeth yn anelu i fwyafucytundeb ymysg y gwledydd trwyddynodi nodau, themâu ac amcanioncyffredin, gyda ffocws ar gyfer y DU sy’nddigon hyblyg i bob gwlad unigolddelio â’i blaenoriaethau ei hun o fewny weledigaeth gyffredinol.

Medd Hywel Williams, cadeirydd CyngorAddysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae(CAHGC) y DU:

‘Mae’n bleser gennyf allu cymeradwyo’rstrategaeth bwysig hon fydd yn arwaindatblygiad gwaith chwarae yn y dyfodol.Ni ellir di-brisio pwysigrwydd chwarae ifywyd a datblygiad y plentyn, ond maepwysigrwydd y ffaith bod trosglwyddiadgwaith chwarae’n cael ei ddarparu ganweithwyr chwarae cymwysedig aphroffesiynol yn hollbwysig. Bydd ystrategaeth hon yn sylfaen ar gyfertrosglwyddo’r sgiliau, y wybodaeth a’rddealltwriaeth sy’n sail i hyn.’

Am fwy o wybodaeth ymwelwch â: www.skillsactive.com/playwork/strategy

Ymgyrch Meysydd Chwarae Di-fwg

SkillsActive yn lansio Strategaeth Addysg a Sgiliau Chwaraea Gwaith Chwarae newydd y DU

Lansiwyd yr ymgyrch panaeth trigolion a phlant

ysgol Caerdydd ati i gasglusbwriel ym Mharc y Rhath igynyddu ymwybyddiaethynghylch sbwriel ysmygu sy’nllygru eu meysydd chwarae.

Mae ASH Cymru am i blant allumwynhau eu parciau a’umannau awyr agored heb gaeleu niweidio gan fwg ail-law. Yn ôlarolwg diweddar mae 75 y canto oedolion yn cefnogi menter o’rfath.

Mae’r elusen yn credu bod ganblant yr hawl i fwynhauamgylchedd di-fwg waeth osydynt gartref, mewn car, yncymryd rhan mewngweithgareddau ar ôl ysgol neuallan yn mwynhau eu hamserhamdden gyda’u cyfeillion a’uteulu. ’Dyw’r elusen ddim yn gofynam bwerau gorfodi newydd, ondyn hytrach arwyddion i weithredufel rhybudd.

Am fwy o wybodaeth ynghylchyr ymgyrch, cysyllter â: [email protected]

Ar 21ain pen-blwydd Confensiwn y CenhedloeddUnedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) lansiwyd pecyn

cymorth ar y cyfryngau sy’n darparu cyngor ymarferoli’ch helpu i gefnogi’r plant a’r bobl ifainc yr ydych yngweithio â nhw i gyflwyno darlun tecach, mwy cyflawno’u newyddion, eu barn, eu gweithgareddau amaterion sydd o bwys iddynt ar draws y cyfryngau.

Lansiwyd y pecyn cymorth, Dwedwch hi fel y mae,mewn dathliad gan y CCUHP ar gyfer plant a phoblifainc a gynhaliwyd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar19 Tachwedd 2010.

Datblygwyd Dwedwch hi fel y mae fel rhan o ymgyrchLlywodraeth Cynulliad Cymru i gael mwy o straeoncadarnhaol ynghylch plant a phobl ifainc yng Nghymru imewn i’r newyddion ac i fynd i’r afael â’r canfyddiadau,sy’n aml iawn yn negyddol, gaiff eu portreadu.

Am fwy o wybodaeth, ac i lawrlwytho’r pecyn,Dwedwch hi fel y mae, ymwelwch â: www.ccuhpgwneudpethauniawn.co.uk/mediatoolkit.aspx

Hyrwyddo delweddaucadarnhaol o blant yn ycyfryngau

Mae’r elusen iechyd cyhoeddus ASH Cymru, wedilansio ymgyrch ar gyfer meysydd chwarae di-fwgyng Nghymru.

Page 4: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010NEWYDDION

4

Rhwystrau i Chwarae – Strategaeth Chwarae ar gyfer Conwy

Tra’n eistedd yn swyddfa Rheolwr Cyfranogaeth Conwy arddechrau 2010, roeddwn wedi ymrwymo’n llwyr i osgoi

ymgynghoriad diystyr gyda phlant a phobl ifainc fyddai’ngwneud dim mwy na chadarnhau yr hyn yr ydym yn eiwybod eisoes – bod plant eisiau bod y tu allan yn chwaraegyda’u ffrindiau.

Nod yr ymgynghoriad oedd i ddynodi rhwystrau i chwaraeplant a phobl ifainc – a’r modd y byddwn yn delio â’rrhwystrau hynny. Credaf yn gryf y bydd hyn yn rhan allweddolo’r modd y byddwn yn sicrhau digonoldeb trwy’r Mesur Plant aTheuluoedd (Cymru).

Fe gyflwynodd yr ymgynghoriad a ddatblygwyd gasgliad oddelweddau o ystod o amgylcheddau chwarae, ogoedwigoedd a thraethau i strydoedd preswyl a meysyddchwarae ysgolion, i blant a phobl ifainc a’u rhieni a’u gofalwyr. Ynogystal, fe ddefnyddiom ‘atgofion chwarae’ i atgoffa oedolionam y modd yr oedden nhw’n arfer chwarae, gan ofyn ycwestiwn sylfaenol – ‘Beth sy’n eich atal rhag chwarae fel hyn?’

Roedd yr ymatebion yn rhai grymus, a digon trist ar brydiau:

‘Ry’n ni wedi cael ein dwrdio am chwarae yn y stryd mor amlgan un o’r cymdogion fel bod y plant iau wedi dysgu i beidioâ thrafferthu chwarae allan o gwbl ...’ (Person Ifanc, 15 oed)

‘Mae’r ceir yn tarfu ar ein chwarae ni, ond ’does neb yn eudwrdio nhw …’ (Person Ifanc, Bae Colwyn)

Mae traffig ac oedolion sarrug yn ddim ond dau enghraifft o’rrhwystrau sylweddol a ddynodwyd fel rhan o’r ymgynghoriad.

Mae’r dystiolaeth lleol yma wedi helpu’n aruthrol wrthymgysylltu â chyfranddalwyr o’r tu allan i’n cylch arferol.Denodd digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd yn gynharachyn y flwyddyn dros 70 o bobl broffesiynol, o adrannaucynllunio, iechyd a diogelwch a’r heddlu.

Mabwysiadwyd y strategaeth derfynol gan Gabinet CyngorBwrdeistref Sirol Conwy ar y 15ed Hydref 2010. Am gopi o’rstrategaeth neu’r adroddiad Ymgynghoriad Rhwystrau iChwarae, ebostiwch Martin: [email protected]

Martin King-Sheard (sydd ar hyn o bryd ar secondiad o Chwarae Cymru am dridiau’rwythnos fel Prif Swyddog Chwarae Conwy) sy’n ysgrifennu am y broses o ddatblyguStrategaeth Chwarae Conwy, o gysylltu â chyfranddalwyr i fabwysiadu’r strategaeth.

Daeth deuddeg o elusennau plant yngNghymru, yn cynnwys Barnardo’s, CyswlltTeulu Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru,ynghyd i weithio gyda Sefydliad Bevan ermwyn edrych ar gyfleoedd chwarae ahamdden ar gyfer plant a phobl ifainc anabl.

Fe wnaethom ganfod bod prinder cyfleoedd mawr. Er bodrhai plant a phobl ifainc yn gwneud llawer o wahanolbethau, mae cyfran sylweddol yn gwneud fawr ddimoherwydd nad oes dim ar gael yn agos i’w cartref.Dywedodd plant a phobl ifainc eu bod eisiau gallu bodgyda’u ffrindiau a hynny heb eu rhieni neu eu gofalwyr.Roedd rhwystrau i chwarae a hamdden yn cynnwys diffyg

mynediad, agweddau staff a’r cyhoedd mewn canolfannauhamdden ac yn y blaen, a diffyg cefnogaeth igyfranogaeth.

Fodd bynnag, ceir rhai gweithgareddau hamdden achwarae hynod o lwyddiannus sy’n cynnwys plant a phoblifainc anabl, waeth os ydynt yn grwpiau integredig ai peidio.Mae eu llwyddiant yn ganlyniad agwedd seiliedig ar hawliautuag at chwarae, staff a gwirfoddolwyr ymroddedig a dimond ychydig o gyllid.

Rydym yn gweithio gyda’r elusennau a gefnogodd y prosiecti gadarnhau’r argymhellion a gyhoeddir ym mis Ionawr 2011.

Am fwy o wybodaeth, cysyllter â Sefydliad Bevan ar 01495 356702 neu ymwelwch â www.bevanfoundation.org

Victoria Winkler sy’n adrodd am waith ymchwil Sefydliad Bevan (y felin drafod cyfiawnder cymdeithasolar gyfer Cymru) i gyfleoedd chwarae a hamdden ar gyfer plant a phobl ifainc anabl.

Ymchwil cyfleoedd chwarae ar gyfer plant anabl

Adrodd bod chwarae gemau pêl yn ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Wedi i’r heddlu dderbyn cwyngan un o drigolion ystad dai

yng Nghaerdydd, fydd plant ond yncael chwarae gemau pêl ynardaloedd cyffredin yr ystad y tuallan i’w cartrefi tan 9:30pm – hyd ynoed ar nosweithiau hir a golau’r haf.

Meddai Christine Booth, rhiant sy’n bywyn ardal Heol Cwrt Caerau, Elái, ‘Cefais

fy synnu pan dderbyniais lythyr gangymdeithas dai Wales and West(WWHA), yn dweud eu bod yn ymchwilioi ymddygiad gwrth-gymdeithasol ar yrystad.’ Ychwanegodd, ‘Y cyfan y maenhw’n ei wneud yw chwarae pêl-droed,ac mae’r rhieni i gyd yn gwybod blemae nhw. Fe ddylai fod hawl ganddynnhw i chwarae’r tu allan i’w cartrefi euhunain.’

Dywedodd Andy Pritchard, Swyddog Tailleol WWHA, ‘Rydym wedi bod yngweithio’n glòs â’r gymuned i geisio dodo hyd i ateb i’r mater hwn. Ein gobaithyw y gellir datrys materion fel hyn ynfuan ac mewn modd cyfeillgar, trwydrafod unrhyw broblemau’nuniongyrchol â’r gymuned leol.’

Adroddwyd am y mater hwn yn wreiddiol yn ySouth Wales Echo (21 Medi 2010, tudalen 15)

Page 5: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010NEWYDDION

5

Cyhoeddwyd adroddiad yr Arglwydd Youngo Grantham ar gyfer y Prif Weinidog –Common Sense, Common Safety – ar 15ed

Hydref 2010. Mae’n cynnwys argymhellionpwysig sy’n ymwneud â gweithdrefnauiechyd a diogelwch.

Mae dadansoddiad yr adroddiad a’r argymhellion terfynol ynymateb yn gadarnhaol i lawer o’r pryderon y mae ChwaraeCymru, ein cydweithwyr a’n haelodau, wedi eu mynegi ers rhaiblynyddoedd.

Mae Chwarae Cymru’n croesawu’n benodol y sylw a roddwyd i:

• Fabwysiadu agwedd ‘synnwyr cyffredin’ tuag at iechyd adiogelwch. Mae Chwarae Cymru, ynghyd ag eraill, wedihyrwyddo gwerth defnyddio synnwyr cyffredin i hysbysu barn

• Symud ‘oddi wrth system o asesu risg i system o asesu risg-budd’

• Ystyried adolygu’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaithayb ‘er mwyn gwahanu chwarae a hamdden oddi wrthgyd-destunau gweithle’.

Credwn fod y dyfyniadau canlynol o Common Sense,Common Safety o ddefnydd penodol i’n darllenwyr.

Dyfyniad o’r adran ar ardaloedd chwarae plantMaes arall sy’n destun pryder yw effaith iechyd a diogelwchar ardaloedd chwarae plant. Mewn termau cyfreithiol, caiffdarpariaeth chwarae ei arwain gan y Ddeddf Iechyd aDiogelwch yn y Gwaith ayb. Mae cred gyffredin yn bodoliyn y sector chwarae bod camddehongli’r Ddeddf yn arwainat greu mannau chwarae diflas sydd ddim yn galluogi planti brofi risg. Mae chwarae o’r fath yn hanfodol ar gyferdatblygiad plentyn ac ni ddylid ei aberthu i asesiadau risganghymesur a goreiddgar.

Mae hyn yn enghraifft arall o’r modd y mae deddfwriaeth, addyfeisiwyd yn wreiddiol at ddefnydd mewn amgylcheddperyglus, yn cael ei defnyddio mewn amgylchedd nadyw’n addas ar ei gyfer a hynny â chanlyniadau niweidiol.

Credaf y dylem, yng nghyd-destun chwarae plant, symudoddi wrth system o asesu risg i system o asesu risg–budd,ble y caiff effeithiau cadarnhaol posibl eu pwyso a’u mesuryn erbyn risg posibl. Yn ogystal, dylem ystyried adolygu’rDdeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith er mwyn gwahanuchwarae a hamdden oddi wrth gyd-destunau gwaith.

Dyfyniad o’r adran ar ymweliadau addysgol

Dylem symleiddio’r broses y bydd ysgolion a mudiadau tebygyn gorfod ei chyflawni cyn mynd â phlant ar wibdeithiau.Dylem gyflwyno un ffurflen ganiatâd, wedi ei harwyddo ganriant neu warcheidwad, sy’n cwmpasu’r holl weithgareddau ygallai plentyn gymryd rhan ynddynt yn ystod eu hamser yn yrysgol, gan alluogi rhieni i nodi nad ydynt am i’w plentyngymryd rhan mewn gweithgareddau penodol. Nid oesangen caniatâd eisoes ar gyfer gweithgareddau fydd yndigwydd yn ystod y diwrnod ysgol ac, er mwyn lleihau’rbiwrocratiaeth sy’n gysylltiedig â gwibdeithiau ysgol, dylembwysleisio’r neges hon i ysgolion ac awdurdodau lleol.

Dyfyniad o’r adran ar awdurdodau lleol

Ceir rhywfaint o anghysondeb ar draws awdurdodau lleol,ac ni chaiff y rheolau ar iechyd a diogelwch eu gweithredugyda’r bwriad o gynnal agwedd rheoli risg gywir bob amser.Mewn rhai achosion mae’n amlwg bod swyddogion yn rhoicyngor gwael i fudiadau ac unigolion, sydd yn eu tro’n caeleu hatal rhag cynnal digwyddiad (ffair ysgol er enghraifft)pan nad oes unrhyw reswm da dros hynny, ar sail iechyd adiogelwch. Fodd bynnag, ’does dim gofyniad i roi’rrhesymau hyn ar bapur ac yn aml iawn ni chaiff y rhesymaupenodol am wneud y penderfyniad eu hegluro’n llawn.

Yn ogystal, ’does dim system i gael ar hyn o bryd ar gyferapelio na sicrhau iawndal pan gaiff digwyddiad ei waharddneu ei gwtogi ‘am resymau iechyd a diogelwch’. Bydddisgwyl, yn syml, iddynt dderbyn y penderfyniad ac i beidioâ bwrw ymlaen â’r digwyddiad a gynlluniwyd. Gellid hefydeu hatal rhag hyd yn oed cynllunio digwyddiad o’r fath rhagofn, neu oherwydd eu bod yn disgwyl, na fydd swyddog o’rawdurdod lleol yn ei ganiatáu.

Hoffwn weld y Llywodraeth yn gosod system yn ei lle ble ybydd gan unigolion hawl i ofyn i swyddogion awdurdodaulleol sy’n gwahardd digwyddiadau ar sail iechyd adiogelwch, i gyflwyno eu rhesymau’n ysgrifenedig.

Barn Chwarae Cymru … Hyderwn y bydd yr adolygiad hwn yn helpu pobl i dderbyn bodplant angen ac eisiau heriau ac antur. Mae Chwarae Cymruwedi bod yn ymgyrchu am fabwysiadu agwedd synnwyrcyffredin ers blynyddoedd – gan hyrwyddo agwedd sy’ncefnogi darparwyr chwarae i gyflwyno asesiadau risg-budd:gan roi ystyriaeth i fuddiannau profiadau chwarae heriol ynogystal â rheoli risg i blant a phobl ifainc. Yr agwedd yma ymae’r Arglwydd Young yn argymell y dylid ei ‘datblygu’nehangach’, ynghyd ag adolygiad o ddeddfwriaethau er mwyn‘gwahanu chwarae a hamdden oddi wrth gyd-destunau gwaith’.

Mae Chwarae Cymru’n aelod o’r Fforwm Diogelwch Chwaraea gynghorodd ac a ddylanwadodd ar Managing Risk in PlayProvision: Implementation Guide (2008), sy’n ehangu arddatganiad safbwynt y fforwm, Managing Risk in Play Provision(2002). Mae Managing Risk in Play Provision yn amlinellu dull iddarparwyr chwarae gyflwyno asesiadau risg-budd.

Gellir lawrlwytho Common Sense, Common Safety ar: www.number10.gov.uk/news/topstorynews/2010/10/lord-young-report-55605

Common Sense, Common Safety

Page 6: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010NEWYDDION

6

© S

ustra

ns

YmgyrchStrydoedd o Safon Mae Sustrans yn annogpawb i gymryd y camaucyntaf tuag at droi eu ffyrddyn strydoedd o safon – acelfen allweddol hyn ywmabwysiadu cyfyngiadcyflymder o 20 milltir yr awr. Mae’r mwyafrif (o’r 2000 o bobl a holwyd) ynpryderu nad yw’r stryd o flaen y drws ffryntyn ddiogel ar gyfer eu plant neu hyd ynoed fel man i gwrdd a sgwrsio gydag eraill.

Dros y tair blynedd diwethaf mae Sustranswedi gweithio â chymunedau lleol i wella eustrydoedd gan ddefnyddio camau ail-gynllunio rhad, cost-effeithiol sydd wedi euhanelu at arafu cyflymder traffig ac atal‘cymryd llwybr tarw’. Mae syniadau syml felarafu traffig a defnyddio planhigion i greurhwystrau naturiol wedi eu cyflawni gyda cynlleied â phosibl o gostau, ond âbuddiannau sylweddol.

Yn y strydoedd ble y gwelwyd newidiadauo’r fath mae’r trigolion yn teimlo’n fwydiogel – dywed 36 y cant y byddent ynhapus i adael i’w plant chwarae y tu allan(o’i gymharu â dim ond 9 y cant cyngwneud y newidiadau). Mae’r newidiadauhefyd yn gwella ansawdd bywyd ac yndod â phobl ynghyd, gyda 40 y cant odrigolion bellach yn cymdeithasu mwygyda’u cymdogion.

Fel yr eglurodd Alex Allen, arbenigwrSustrans ar ail-gynllunio strydoedd:

‘Mae pobl yn ystyried bod traffig ynrywbeth sy'n effeithio ar yr amgylcheddffisegol - sy'n cymryd lle, yn achosi sw^ n allygredd - ond mae'n bosibl bod ei effaithar fywyd cymdeithasol yn fwy trawiadolfyth. Mae traffig yn atal rhyngweithio a llescymunedol. Rydym am i awdurdodau lleolgymryd y cam cyntaf tuag at greu mwy ostrydoedd o safon trwy ostwng cyfyngiadaucyflymder i 20mya mewn ardaloeddpreswyl a threfol.’

Ymwelwch â www.quality-streets.org.uk cynyr 28 Chwefror 2011 i lobïo eich cynghoryddlleol i ostwng cyfyngiadau cyflymder.

Blwyddyn Ewropeaiddar gyfer Brwydro ynErbyn Tlodi ac EithrioCymdeithasol

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedicyhoeddi bod 2010 yn

Flwyddyn Ewropeaidd ar gyferBrwydro’n Erbyn Tlodi ac EithrioCymdeithasol (EY2010). Mae EY2010yn anelu i gynyddu ymwybyddiaethy cyhoedd ynghylch pwysigrwyddbrwydro’n erbyn tlodi ac eithriocymdeithasol er budd datblygiadpersonol, cymdeithasol aceconomaidd ac i roi llais i’r rheinisy’n dioddef tlodi ac eithriocymdeithasol o ddydd i ddydd.

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP)yw adran arweiniol Llywodraeth y DU(fel yr aelod-wladwriaeth) ar gyfer yflwyddyn. Mae swyddogionLlywodraeth Cynulliad Cymru achynrychiolwyr y GweinyddiaethauDatganoledig eraill yn cymryd rhanmewn gweithgareddau sy’ngysylltiedig â’r flwyddyn.

Yn 2009 ymgeisiodd nifer osefydliadau am gyllid i gynnaldigwyddiadau fel rhan o’r flwyddyn.Yng Nghymru llwyddodd SefydliadBevan â’u cais am £25,000 i gynnalcynhadledd (Building a Fairer Wales,23 Medi 2010) i annog cyfnewiddatrysiadau i dlodi ac i gynhyrchuffilmiau byrion i gofnodi profiadaupobl sy’n byw mewn tlodi.

Fel rhan o EY2010 cynhaliwyd nifer oddigwyddiadau yng Nghaerdydd,Abertawe a Chasnewydd, yncynnwys y Gynhadledd Tlodiddiweddar, ar y thema Where WeLive and Learn, a gynhaliwyd ganAchub y Plant yng Nghymru ynStadiwm Dinas Caerdydd. CafoddLlysgenhadon Ifainc gyfle i dargedupobl sy’n gwneud penderfyniadau o

bob cwr o Gymru â syniadau adatrysiadau ynghylch sut y gellidgwella eu cymunedau lleol.

Cyn siarad yn y Gynhadledddywedodd Helen Mary Jones, ASPlaid Cymru a Chadeirydd PwyllgorPlant a Phobl Ifainc CynulliadCenedlaethol Cymru:

‘Mae’n annerbyniol, yn 2010, bodmiloedd o blant yng Nghymru yn dali fyw mewn tlodi. Os ydym i ddelio’neffeithiol â’r heriau yr ydym yn euwynebu fel cenedl wrth inni fynd ati iddileu’r cywilydd cenedlaethol ymabydd raid inni wrando, yn iawn, arleisiau plant a phobl ifainc sy’n bywâ chanlyniadau tlodi. Rwyf yn edrychymlaen yn fawr iawn i glywed yr hynsydd gan y plant a’r bobl ifainc i’wddweud – rwy’n gwybod y gwnafddysgu llawer.’

Yn ogystal, mae Achub y Plant Cymruwedi bod yn gweithio gyda phlant aphobl ifainc ar y prosiect My BackYard – Inspiring Community Change,sy’n anelu i fynd i’r afael â materionsy’n ymwneud â thlodi plant yn eucymunedau. Mae plant o ddwy ysgolgynradd yng Nghaerdydd wedidylunio posteri pryfoclyd i gadw euparciau lleol yn lân a diogel. Caiffdetholiad o’r posteri eu harddangosmewn parciau cyhoeddus oamgylch Caerdydd. Mae’r posteri argael hefyd i’w lawrlwytho oddi arwefan Chwarae Cymru.

Am fwy o wybodaeth ynghylchEY2010, ymwelwch âwww.2010againstpoverty.eu ac am wybodaeth ynghylchEY2010 yng Nghymru, ymwelwch âhttp://wales.gov.uk/topics/socialjustice/ey2010

Page 7: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

7Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010 CYFWELIAD

Yn ddiweddar fe wnaethomgyfweld y Dirprwy Weinidogdros Blant, Huw Lewis, am eiatgofion chwarae o’iblentyndod e’ a’rgwahaniaeth y bydd y MesurPlant a Theuluoedd yn eiwneud i gyfleoedd chwaraear gyfer plant yng Nghymru.

Beth yw eich atgof pennaf amchwarae fel plentyn?Rwy’n siŵr fel llawer o bobl eraill o’r unoed, roeddwn i’n rhan o’r genhedlaethhynny fyddai’n gadael y ty^’r peth cyntafyn y bore a fyddai ond yn dod yn ôl i gaelbwyd! Cefais fy magu yng Nghymoedd yDe felly roeddwn i mas yn yr awyr agoredtrwy’r amser. Mae’n wahanol iawn ibrofiadau chwarae fy mhlant i heddiw, acrwy’n siw^ r bod hynny’n brofiad cyffredin ibobl dyfodd lan yn ystod y 60au a’r 70au.

Beth yw eich hoff atgof chwarae?Rwy’n fab y Cymoedd yn y bôn, felly’rmynyddoedd oedd ein caeau chwaraeni. Rholio lawr y llethrau, dringo lan ymynydd a rhedeg lawr mor gyflym âphosibl. Yr holl dir agored yw’r hyn rwy’nei gofio bennaf.

Beth mae eich plant chi’n hoffi eiwneud a sut fyddwch chi’ncefnogi hynny fel rhiant?Mae rhieni cyfoes i gyd yn awyddus iawni greu gweithgareddau sy’n berthnasol i’nplant ac mae hynny’n digwydd llawermwy nag yn y gorffennol. Rwy’n credumae’r hyn y mae nhw’n ei hoffi fwyaf ywcael cyfle i fynd allan i redeg o gwmpasa chael y rhyddid i ddyfeisio eu chwaraeeu hunain, ond fel rhieni rydym ynbryderus iawn y dyddiau hyn ynghylchansawdd y profiadau y mae’r plentyn yneu cael. Efallai ein bod yn pryderugormod am y peth.

Pam gredwch chi ei fod ynwahanol?Mae’n siŵr ein bod i gyd wedi tyfu’nwyliadwrus o faterion sy’n ymwneud âdiogelwch plant, yn enwedig, ffyrdd athraffig. Efallai ein bod yn chwyddo’rpethau hyn yn ormodol yn einmeddyliau ein hunain, ond panoeddwn i’n fachgen fe allen ni chwaraepêl-droed ar y stryd heb weld yr un cara ’dyw hynny’n sicr ddim yn wir i fy mab.

Sut gredwch chi mae chwarae’nhelpu i leddfu effaith tlodi plant?Mae’r cyfle i chwarae’n un peth yr ydymni yn y Cynulliad o ddifrif yn ei gylch.Mae’n rhan allweddol o ddatblygiad pobplentyn a’r hyn y bydd tlodi plant yn eiwneud i ddifrodi plant yn fwy na unrhywagwedd arall yw ei fod yn niweidio eudatblygiad. Mae’n dechrau cyfyngu areu cyfleoedd bywyd trwy arafu eudatblygiad arferol yn ystod eu plentyndodac mae chwarae’n rhan cwbl annatod ohyn. Mae tlodi plant yn gysylltiedig âchyfyngu ar gyfleoedd i chwarae.

Mae anghyfiawnderau amgylcheddol yrardaloedd y mae’n rhaid i blant mewntlodi fyw ynddynt yn cael effaith aruthrol.Os y byddech chi’n ystyried damweiniautraffig ar y ffyrdd, mae plant mewntlodi’n fwy tebygol o fod yn rhan o’rmathau hyn o ddamweiniau oherwyddbod yr opsiynau ar gyfer chwarae yn yrawyr agored yn yr ardaloedd y maentyn byw ynddynt fel arfer wedi eu cyfynguoherwydd natur eu cymuned. Maeunrhyw beth y gallwn ni ei wneud ihyrwyddo chwarae diogel yn gymorthi’w plentyndod a’u datblygiad.

Pa effaith obeithiwch chi gaiff yMesur Plant a Theuluoedd argyfleoedd i blant sy’n chwaraeyng Nghymru?Mae’n eithaf cyffrous, oherwydd mae’rMesur yn cynnwys pennod ar chwarae,felly’r cam nesaf fydd creu rheoliadau,safonau a chanllawiau* fydd yn gosoddyletswydd ar awdurdodau lleol i asesua sicrhau bod cyfleoedd chwarae argael ar gyfer plant yn eu hardaloedd.Wrth gwrs rhaid cofio’r frawddeg: ‘cynbelled â sy’n resymol ymarferol’; rydym igyd yn ymwybodol bod cyfyngiadau igael sy’n golygu bod pethau’n dynnarnom, ond am y tro cyntaf erioed fegeir dyletswydd cyfreithiol ar bobawdurdod lleol i feddwl am chwarae achyfleoedd chwarae a buddsoddimewn chwarae – ac fe fydd rheidrwyddarnynt i wneud hynny. Mae’n pwysleisioymrwymiad y Cynulliad i chwarae acmae’n dangos ei fod yn rhan bwysig o’nagenda.

Beth fydd hyn yn ei olygu i’rplant?Rhychwant y cyfleoedd ar gyferchwarae yn ogystal ag ansawdd yddarpariaeth. Fyddwn ni ddim bobamser yn sôn am gyfleusterau chwaraesefydlog, i ddweud y gwir, ond fe fyddwn

ni weithiau. Rwyf hefyd yn edrych amwelliant mewn cyfleusterau ar gyfer plantanabl yn benodol. Rwy’n credu bod hwnyn fater o bwys, ac rwy’n gwneud fyngorau, o fewn y cyfyngiadau cyllidebolpresennol, i sicrhau ein bod yn cymrydcamau ymlaen ar gyfer plant anabl a’rddarpariaeth chwarae sy’n agorediddynt.

Sut gredwch chi fydd chwarae’ndod i’r amlwg yn eich cynlluniau argyfer y fenter Teuluoedd yn Gyntaf?Mae ein hardaloedd arloesi Teuluoeddyn Gyntaf yn datblygu cynlluniau lleol ermwyn rhoi’r cychwyn gorau mewnbywyd i blant. Oherwydd natur y fenterTeuluoedd yn Gyntaf, fyddwn ni ddim ynglynu at fodel ‘un maint yn gweddu ibawb’ nac yn dweud wrth awdurdodaulleol beth ddylid ei gynnwys yn eucynlluniau. Mae lan iddyn nhw ibenderfynu beth mae teuluoedd yn euhardal nhw ei angen, ac rwy’n siŵr ybyddant i gyd yn ystyried rôl bwysigchwarae wrth iddynt ddatblygu eucynlluniau. Bydd fy swyddogion yntrafod sut y gellid troi chwarae’n elfenmwy integredig o’r fenter Teuluoedd ynGyntaf yn y dyfodol.

* Ymgynghoriad cyhoeddus i’w gynnal ar ôletholiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2011.

Cyfweliad: Huw Lewis

‘Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jonesam ddewis chwarae fel testun eidadl fer. Po fwyaf y caiff ei gadw aryr agenda, y gorau i blant Cymru.’

Dadl fer Yr Hawl i Chwarae yn y CyfarfodLlawn, 24 Tachwedd 2010.

Page 8: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Ar y 23 o Dachwedd cyhoeddodd yPwyllgor Plant a Phobl Ifainc eiadroddiad ar ddarpariaeth mannaudiogel i chwarae a chymdeithasu. Mae’radroddiad yn benllanw ymchwiliad 11mis o hyd i’r rhwystrau i chwarae ar gyferplant a phobl ifainc yng Nghymru.

Penderfynwyd cynnal yr ymchwiliad wedii fwy na 2,700 o blant a phobl ifaincbleidleisio bod mannau diogel i chwaraea chymdeithasu’n un o’r prif faterionoedd yn achos pryder iddynt yn ystodprosiect ‘it’s all about you’ y Pwyllgor, agynhaliwyd yn ystod misoedd haf 2009.

Cynhaliwyd digwyddiad chwarae oflaen y Senedd ym Mae Caerdydd idynnu sylw at gyhoeddi’r adroddiad.Ymunodd aelodau’r Pwyllgor mewnamrywiol gyfleoedd chwarae ochr-yn-ochr â phlant a phobl ifainc oedd wedieu gwahodd draw am y bore.

Mae’r adroddiad yn cynnwys rhestr o 26o argymhellion sy’n cwmpasu meysyddmegis blaenoriaeth strategol chwarae,

trafnidiaeth a diogelwch ffyrdd,cynllunio trefol ac anghenion grwpiaupenodol o blant a phobl ifainc. Mae’rPwyllgor wedi gofyn i LywodraethCynulliad Cymru amlinellu sut y mae’nbwriadu cyflawni’r newidiadau y mae’radroddiad yn eu hargymell. Caiffnewidiadau tymor hir yn ogystal â rhaitymor byr eu hargymell gan y Pwyllgor.

Trwy gydol yr ymchwiliad cafodd yPwyllgor ei daro gan farn gref, onddigon amrywiol ar brydiau, y 1200 oblant a phobl ifainc y derbyniwydtystiolaeth ganddynt. Enynodd holiadur,a ddosbarthwyd gan y Pwyllgor, ymatebcryf gan rai o’r plant a’r bobl ifaincoedd yn teimlo eu bod eisiau oedolyni’w goruchwylio tra’u bod yn chwarae.Dywedodd rhai eraill, yr un mor huawdl,bod yn well ganddynt gael amser ar eupen eu hunain gyda’u ffrindiau heb yrun oedolyn o amgylch. Roedd rhaiplant a phobl ifainc eisiau cael amser agofod ar gyfer chwarae’n rhydd, tra boeraill eisiau gemau a gweithgareddau

wedi eu trefnu y gallent ymuno ynddynt.

Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd ystyriedmaterion oedd yn ymwneud âchynnwys plant a phobl ifainc yn ybroses llunio penderfyniadau,hyfforddiant gweithwyr chwarae,canllawiau iechyd a diogelwch ar gyferchwarae anturus a rôl ysgolion.

Disgwylir i ymateb Llywodraeth CynulliadCymru i’r adroddiad gael ei gyhoeddiym mis Ionawr 2011, a chaiff ei ddilyngyda dadl ar y mater yn fuan wedyn.

Mae’r adroddiad i’w weld ar:www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-committees/bus-committees-other-committees/bus-committees-third-cyp-home/bus-committees-third-cyp-inquiry/cyp3_-inq-safe_places.htm

Bydd ymateb Llywodraeth CynulliadCymru i’r adroddiad, yn ogystal âdyddiad a thrawsgrifiad y ddadl, ar gaelhefyd ar yr un dudalen maes o law.

Mae Chwarae Cymru’n croesawucyhoeddi adroddiad y Pwyllgor

Plant a Phobl Ifainc. Mae wedi dynodi,yn ddigon cywir, nifer o faterion syddangen mynd i’r afael â hwy ar fyrder.

Yn ein tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig i’rymchwiliad, hyrwyddodd Chwarae Cymruy syniad bod chwarae a chymdeithasu’nymwneud â mwy na dim ond cyrraeddcyrchfan; mae’n ymwneud â’r siwrnai trwyac o amgylch yr amgylchedd a’rgymuned. Fe wnaethom eiriol bod angeninni newid ein hagwedd tuag at chwaraeplant a’r amgylchedd trwy eincymunedau i gyd er mwyn creu Cymrusy’n gyfeillgar i chwarae. Fe wnaethomalw am agwedd mwy cydlynol tuag atgynllunio a darparu ar gyfer chwaraeplant ar lefel leol a chenedlaethol.

Ers ei sefydlu, mae’r CynulliadCenedlaethol wedi arddangos ei fod arflaen y gad o ran meddwl rhyngwladol argyd-destun chwarae plant. Gellid dadlaumai Cymru oedd y wlad gyntaf ifabwysiadu polisi chwarae cenedlaetholyn 2002, datganiad o gred y Llywodraethym mhwysigrwydd chwarae a’i uchelgaisar gyfer creu gwlad fyddai’ngwerthfawrogi a chefnogi chwarae.

Mae cynllun gweithredu’r polisi chwarae(2006) yn amlinellu’r camau gweithredu addynododd y Llywodraeth oedd euhangen i gefnogi, er mwyn troi’ruchelgeisiau hynny’n realiti ar gyfer plant.

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru)wedi cynnwys gosod gorfodaeth arloesolar awdurdodau lleol i asesu athrosglwyddo darpariaeth chwaraedigonol ar gyfer pob plentyn.

… ond mae plant yn dal i sôn am ddiffyglle ac amser i chwarae fel un o’r materionallweddol sy’n effeithio ar eu bywydau.Bu’r diffyg cyfleoedd chwarae’n linynthema trwy dymor o raglenni ar BBCWales (Gwanwyn 2009) wnaethganolbwyntio ar blentyndod yngNghymru, oedd yn cymharu profiadauplant heddiw â phrofiadau eu rhieni a’uteidiau a’u neiniau.

Mae adroddiad ymchwiliad y PwyllgorPlant a Phobl Ifainc yn dynodi nifer ofeysydd allweddol sy’n galw am ymateb;fe wyddom fod y llywodraeth allywodraeth leol yn ei chael hi’n anoddiawn i newid y modd y byddant yngweithio, a cheir amharodrwydddiwylliannol i weithio ar draws adrannau.Os fu mater erioed sy’n gofyn am weithio

ar draws adrannau a mabwysiaduagwedd strategol, yna chwarae plant ywhynny. Mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn.

Mae’r adroddiad yn dynodi’r angen am,a buddiannau, darpariaeth chwarae âgoruchwyliaeth. Mae hyn yn ategucanfyddiadau arolygon niferus agynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf;’does dim wedi newid. Ein prif bryder ywbod yr adroddiad hwn yn cael eigyhoeddi ar adeg pan fo’r cymhwystergwaith chwarae (P3) unigryw, addatblygwyd gyda chefnogaethLlywodraeth Cynulliad Cymru ac ariannuEwropeaidd, yn wynebu cael eiddiddymu oherwydd diffyg cyllid i sicrhauei fodolaeth i’r dyfodol. Rydym yn prysuragosáu at gyfnod pryd na fydd digon ostaff cymwysedig ar gael i ddigoni’rgofynion rheolyddol, heb sôn am atebmaterion megis ansawdd trosglwyddodarpariaeth chwarae.

Mae’n rhaid i ni, fel cenedl, gydnabod einbod yn ceisio gwrthsefyll llanw sylweddol onewid sydd wedi cael effaith andwyol archwarae plant. Mae’n rhaid inni newid einhagwedd, a chydnabod pwysigrwyddcyffredin chwarae i blant. Os y newidiwnein hagwedd, gallwn ddechrau newid yramgylchedd i un ble y byddwn yn sicrhauamser a lle i blant wneud yr hyn y maentangen ei wneud … sef chwarae.

8 Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010ADRODDIAD CHWARAE A CHYMDEITHASU

Pwyllgor Plant a Phobl Ifainc Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cyhoeddiadroddiad ar fannau diogel i chwarae a chymdeithasu

Mannau diogel i chwarae a chymdeithasu

Barn Chwarae Cymru ...

Page 9: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

9

Dadlau achos dros ddarpariaeth chwaraePan fyddwn yn gofyn beth sy’n bwysig iddynt, bydd plant yndweud wrthym mai chwarae a bod gyda’u ffrindiau yw un oagweddau pwysicaf eu bywydau. Ond yn aml iawn byddoedolion yn anghofio pa mor bwysig yw chwarae, a phanddaw’n fater o ganfod digon o amser, neu o fantoli’r cyfrifonneu i wneud penderfyniadau cynllunio, yn aml caiff chwarae eiwthio’n is i lawr y rhestr o flaenoriaethau.

Yn yr erthygl yma byddwn yn ceisio dangos pam fod chwaraemor bwysig, pam fod darpariaeth chwarae angen cefnogaethariannol a gwleidyddol a pham fod angen i gynllunwyr a phoblsy’n gwneud penderfyniadau i wneud amser ar gyfer chwaraeplant fel rhan o’u gwaith.

Mae plant yn aelodau o’n cymdeithas hefyd. Gwyddom fodpob agwedd o’u bywyd yn cael ei ddylanwadu gan eu ysfa ichwarae, ond ychydig bach iawn o’n amgylchedd adeiledig achynlluniedig sy’n rhoi cyfle, neu ganiatâd, iddynt chwarae.

Yn 2008 cyhoeddodd Play England, y sefydliad cenedlaetholdros chwarae plant yn Lloegr, adolygiad llenyddol ac ymchwilsy’n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf ar chwarae plant, Playfor a Change. Archwiliodd yr awduron ddealltwriaeth cyfredol obwysigrwydd chwarae plant a sut y mae hyn yn cydberthyn âllunio polisïau a darpariaeth cyhoeddus ar gyfer chwarae.

ChwaraeMae chwarae’n treiddio trwy pob agwedd o fywyd plant; nidcamgymeriad na chyfeiliornad mo hyn – mae chwarae’ngwneud cyfraniad sylweddol i iechyd a lles plant ac i oroesiad yrhil ddynol, neu fydden ni heb gadw’r ymddygiad yma trwy gydolein esblygiad.

Bydd plant a phobl ifanc yn chwarae’n ddigymell y rhan fwyaf o’ramser ac ym mhle bynnag y byddant, oni bai eu bod o danstraen meddyliol neu gorfforol neilltuol (er enghraifft trwy flinderdifrifol, eisiau bwyd, ofn neu salwch) neu ble fo ffactorauamgylcheddol allanol a / neu ffactorau biolegol personol yn euhatal rhag chwarae.

Buddiannau chwarae i blant – goroesi a ffynnu Nid yw’r rhestr yma o fuddiannau chwarae yn un cyflawn – mae’rymchwil yn parhau – ond, mae’n cynnig rhyw fath o syniad inni owerth chwarae a’r ystod o fuddiannau gaiff plant o chwarae.

Gall chwarae helpu i gynyddu gwytnwch – y gallu i blant ffynnuer gwaethaf adfyd a straen yn eu bywydau.

Bydd chwarae’n effeithio ar y modd y caiff gwead genetaiddplentyn ei fynegi, ac ar ddatblygiad cemegol a ffisegol yrymennydd. Bydd hyn, yn ei dro, yn dylanwadu’n gadarnhaol arallu’r plentyn i oroesi a ffynnu. Gall plant sydd wedi datblyguymateb dyfeisgar, chwareus i’w amgylcheddau ... addasu iymdopi â’r rhain mewn ffyrdd hyblyg, gan arddangos gwytnwch.

Mae iechyd corfforol a meddyliol yn gysylltiedig â’i gilydd a chaiffy ddau eu cefnogi gan chwarae – yn wahanol i chwaraeonymarfer corff mae chwarae’n cael ei yrru gan y plentyn ac mae’ngyfeillgar i blant, mae’n apelio i bob plentyn. [Mae mwynhad, herac elfen hunan-gyfarwyddo chwarae, yn ogystal â’r ystod o

symudiadau motor, yn fwy effeithlon na rhaglenni ymarfer corff agyfarwyddir yn allanol, allai fod yn ddiflas neu’n llawn straen.Poulsen a Ziviani, 2004 fel a ddyfynnwyd yn Play for a Change]

Mae chwarae corfforol, egnïol, rheolaidd yn helpu i atal clefydauac yn lleddfu iselder a phoen meddwl.

Bydd llawer o blant sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig yn‘ail-greu’r’ golygfeydd y maent wedi bod yn dyst iddynt.Dangoswyd bod chwarae yn y fath fodd yn helpu’r broses wella.

Mae natur anrhagweladwy a digymell chwarae’n cefnogidatblygu’r gallu i ymateb mewn modd hyblyg i wahanolsefyllfaoedd – i ymdopi ag ergydion bywyd.

Trwy chwarae, bydd plant yn datblygu eu hymdeimlad eu hunaino le ac o berthyn – mae cysylltiad â, a gwybodaeth ynghylchmannau awyr agored, yn cyfrannu at ymwybyddiaethamgylcheddol.

Mae chwarae’n helpu’r ymennydd i ddatblygu mecanweithiaueffeithlon ar gyfer dysgu – yn hytrach na throsglwyddocanlyniadau dysgu penodol – a thrwy hynny gyfrannu at allu iddysgu gydol oes.

Mae cysylltiad cryf rhwng chwarae a chreadigedd – mae’ncynnwys meddwl ochrol, dychymyg a datrys problemau.

Bydd plant yn ennill ymdeimlad o bleser ac o wobr trwy chwarae– bydd hiwmor a chwerthin yn helpu i ddatblygu cymwyseddaucymdeithasol.

Mae chwarae â phlant eraill yn helpu unigolion i ddatblygucyfeillgarwch a rhwydweithiau cyfoedion cryf – sy’n cyfrannu atwytnwch iechyd, meddyliol a chymdeithasol plant – yn enwedigrhai sy’n byw mewn tlodi.

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010CYFOETH CHWARAE

Cefnogaeth i ddarparwyr chwarae i eirioldros ddarpariaeth chwarae wedi ei staffio

Pam gwneud amser i chwarae

Page 10: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Mae cyfeillgarwch plant, gaiff eu ffurfio trwy chwarae gyda’igilydd, o fudd cymdeithasol ac yn gatalyddion gwerthfawr iberthnasau cymdeithasol oedolion o fewn cymunedau.

Buddiannau darpariaeth chwarae i blantMae darpariaeth chwarae wedi ei staffio yn gysyniad cymharolnewydd a phrin yw’r ymchwil i’w effeithlonrwydd. Yr hyn yr ydym ynei wybod yw bod chwarae plant yn fuddiol am yr holl resymau yrydym wedi eu rhestru eisoes, ac na ellir deall eu lles a’udatblygiad fel elfen ar wahân i’w amgylchedd.

Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon yn amgylcheddble y gall plant chwarae mewn modd sy’n ddigymell, hyblyg,anrhagweladwy, llawn dychymyg ac wedi ei gyfarwyddo gan yplant eu hunain – mae’r amgylchedd ei hun yn cyfrannu at euiechyd a’u lles. Bydd gweithwyr chwarae sy’n gweithio’n unol â’rEgwyddorion Gwaith Chwarae’n cefnogi pob plentyn a phersonifanc i greu gofod y gallant chwarae ynddo.

Ceir rhai ffactorau amgylcheddol a / neu fiolegol personol allanolsy’n atal rhai plant rhag chwarae. Caiff rhai plant eu cefnogi ichwarae mewn amgylchedd ble fo gweithwyr chwaraehyfforddedig sy’n gwybod sut i ymyrryd ble fo angen i hwylusochwarae. Bydd hyn yn ymestyn buddiannau chwarae i blant nafyddent yn elwa ohono fel arfer.

Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon yn darparu ‘pair’i gymdogaeth ble y gall plant, na fyddent yn cwrdd achymdeithasu â'i gilydd fel arfer, gymysgu mewn cyd-destundigon diogel; bydd hyn yn cynnig profiad o bobl eraill a mwy ogyfleoedd ar gyfer rhwydweithiau cymdeithasol ehangach sy’ncyfrannu at wytnwch plant.

Mae ein cymdeithas yn un sy’n ofni risg yn gynyddol; ceir llai a llaio gyfleoedd i fynegi ymddygiad sy’n cynnwys mentro mewnmodd digymell. O fewn darpariaeth chwarae wedi ei staffio osafon ceir dealltwriaeth y bydd plant yn naturiol yn chwilio amansicrwydd a heriau fel rhan o’u chwarae, caiff gweithwyrchwarae eu hyfforddi i asesu risg ac i ymyrryd dim ond os y byddsiawns sylweddol y caiff plant eu niweidio. Mae darpariaethchwarae’n cynnig gofod ‘digon diogel’ ble y gall plant ‘reoli bodallan o reolaeth’.

O fewn darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon ceirdealltwriaeth o bob ffurf a math o ymddygiad chwarae, efallainad yw hyn yn wir mewn mannau eraill. Er enghraifft, maechwarae corfforol, gwyllt yn cyfrannu mewn modd cadarnhaoltuag at wytnwch a chlosio cymdeithasol plant (yn enwedigbechgyn) ond mae’n tueddu i gael ei wahardd mewn nifer ogartrefi ac ysgolion.

Ceir tystiolaeth bod llawer o rieni bellach yn fwy caeth ynghylchrhyddid eu plant i rodio a chwarae draw oddi wrth y cartref nagmewn cenedlaethau blaenorol. Gall darpariaeth chwarae wediei staffio o safon mewn cymdogaethau lleol roi hyder i blant atheuluoedd y gallant chwarae allan heb gael eu niweidio achynnig dewis ‘digon diogel’ o fannau i gymdeithasu a chwaraedraw oddi wrth y cartref.

Mae bywydau plant yn cael eu gwladychu fwyfwy ganweithgareddau gaiff eu harwain gan oedolion – mewndarpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon annogir y plant i fod

yn weithredwyr rhyddion – i wneud eu penderfyniadau eu hunain,creu eu man chwarae eu hunain, cyfarwyddo eu chwarae euhunain. Mae plant yn gwerthfawrogi amgylcheddau ble y gallantfod yn nhw eu hunain a bod yn ddigymell.

Mae plant yn ‘neoffilyddion’ – golyga hyn eu bod wastad ynchwilio am ddewisiadau newydd ac amrywiol, sianelau newyddar gyfer archwilio a darganfod cyfleoedd a symbyliadau newydder mwyn bod yn hapus ac yn iach. Gall darpariaeth chwaraewedi ei staffio ddarparu’r posibiliadau newydd y mae plant euhangen i gael y budd mwyaf o’u hamser yn chwarae – foddbynnag, mae meysydd chwarae offer sefydlog yn tueddu i fod ânifer cyfyngedig o bosibiliadau ar gyfer chwarae plant.

‘Mae awydd oedolion am ddiogelwch, trefn a gwelededd ynwahanol iawn i awydd y plentyn am anhrefn, cysgod adeunyddiau rhydd’. Weithiau caiff chwarae plant ei lesteirio gananghymeradwyaeth a gwerthoedd oedolion. Fel rhan o’uchwarae bydd plant angen bod yn wirion, cwympo mas,chwarae’n wyllt a chorfforol, gwneud sŵn a llanast, bod ynddigywilydd ac yn greulon a dysgu’r canlyniadau gan eucyfoedion, a dinistrio yn ogystal â chreu. Mae mynegi’ranghenion hyn yn annerbyniol mewn nifer o amgylcheddau asefyllfaoedd – fe’u derbynir fel rhan o ystod chwarae plant o fewndarpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon.

Caiff plant eu cynnwys mewn prosesau gwneud penderfyniadau ofewn darpariaeth chwarae – o benderfynu a thrafod sut y byddantyn chwarae gyda’i gilydd, i ddewis gweithwyr chwarae newydd,bydd hyn yn cynnig cyfle ar gyfer cyfranogi ac asiantaeth bersonolsy’n aml ar goll mewn elfennau eraill o’u bywydau.

Mae llai a llai o blant yn chwarae allan yn ein parciau a’nstrydoedd – un o’r rhesymau am hyn yw diffyg hyder yn eudiogelwch, rheswm arall yw anoddefgarwch cynyddol tuag at euhymddygiad chwarae, ond yn ogystal mae plant yn amharod ifynd allan i chwarae os nad oes neb arall i gwrdd â nhw ac ichwarae â nhw. Mae plant sy’n tyfu i fyny heddiw’n tueddu i fodâ llai o gyfleoedd i gwrdd â’i gilydd ac i chwarae’n annibynnol –mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio’n cynnig cyfle o’r fath.

Mae’r gweithwyr chwarae a geir mewn darpariaeth chwaraewedi eu hyfforddi i gefnogi chwarae plant trwy ddarparudeunyddiau, man diogel a chaniatâd – ni fyddant yncyfarwyddo chwarae’r plant nac yn ymuno yn y chwarae, oni baieu bod yn cael eu gwahodd i ymuno.

Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio o fewn cymuned yndangos i’r bobl sydd yn y gymuned honno bod chwarae’n bwysig– mae ganddo hefyd rôl eiriolaeth a gwaith maes pwysig. Nid ywsefyllfa chwarae wedi ei staffio’n ‘ghetto’ chwarae, ond yn hytrachmae’n un o’r elfennau ddylai fod yn ystod eang o ddewisiadau achyfleoedd ar gyfer chwarae o fewn cymuned plentyn. Hyfforddirgweithwyr chwarae i eiriol dros chwarae plant – i hyrwyddo’rsyniad bod chwarae’n normal ac yn angenrheidiol ac ynymddygiad sydd i’w groesawu mewn unrhyw fan ble y bydd plantyn teithio trwyddo neu’n treulio amser ynddo.

Mae’r cwricwlwm gwaith chwarae, gaiff ei gefnogi o fewndarpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon, yn cynnwyschwarae gyda’r elfennau. Caiff plant eu hannog i chwaraegyda daear, awyr, dw^ r a thân mewn cyd-destun digon diogelble mae oedolion wrth law fydd yn asesu risg yn barhaus acyn cefnogi arfer diogel. I rai plant dyma eu hunig brofiad o’relfennau – neu’r unig fan yn eu bywydau ble y bydd ganddynthawl i chwarae â nhw.

Ble fo plant wedi eu trawmateiddio gan ddigwyddiadau yn eubywydau, bydd yr agwedd gwaith chwarae’n cefnogi‘chwarae allan’ ac ailgreu profiadau anodd mewn moddsensitif ac anfarnol. Er enghraifft, efallai y bydd plentyn sydd

10 Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010CYFOETH CHWARAE

‘Mae chwarae’n caniatáu ar gyfermynegi a phrofi emosiynau cryfion ofewn cyd-destun digon diogel.’

Brian Sutton-Smith

Page 11: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

11

wedi bod yn dyst i drais difrifol o fewn y teulu yn ail-greudigwyddiadau o’r fath wrth chwarae – mae gweithwyrchwarae wedi eu hyfforddi i gymryd amgylchiadau ac ysfachwarae’r plentyn i ystyriaeth ac i ymateb heb eu ceryddu.Mae’n bosibl na fydd chwarae o’r fath yn derbyn yr un ymatebsensitif mewn mannau eraill ym mywyd y plentyn.

Gall darpariaeth chwarae wedi ei staffio o safon greucanolbwynt i gymuned, yn debyg iawn i’r hyn y bydd ysgolionyn ei gynnig yn ystod y tymor, neu fel yr arferai capeli aceglwysi yn y gorffennol, maent yn cynnig cyfleoedd an-fygythiol i oedolion a phobl ifanc i wirfoddoli a chymryd rhan.

Mae darpariaeth chwarae wedi ei staffio’n darparu cyfleoeddgwaith a datblygu’r gweithlu o fewn cymunedau.

Mae plant a theuluoedd yn gwerthfawrogi darpariaethchwarae wedi ei staffio o safon; y perthnasau y byddant yn euffurfio trwyddo a’r cyfraniad y mae’n ei wneud i gymunedau.Po orau a mwyaf cynhwysfawr yw’r ddarpariaeth chwaraemewn cymuned, y mwyaf tebygol y mae teuluoedd o gael eudenu i fyw yno, oherwydd eu bod yn gwybod y caiff eu planteu gwerthfawrogi ac y caiff anghenion eu plant eu cwrdd.

CasgliadMae chwarae’n allweddol bwysig i iechyd a lles plant. Maeplant yn gyd-aelodau o gymdeithas ond eto, mae’rmannau y byddant yn treulio amser ynddynt fwy na heb ynwael mewn posibiliadau chwarae. Mae darpariaethchwarae wedi ei staffio’n ddewis gwerthfawr sy’n cefnogi acyn hyrwyddo chwarae plant yn eu cymuned.

Darllen pellach Joost Beunderman, People Make Play: The impact ofstaffed play provision on children, families and communities(Play England, 2010) Play England (ymchwil Matrix), An economic evaluation ofplay provision (2010)Stuart Lester a Martin Maudsley, Play, Naturally (Play England,2007)Stuart Lester a Wendy Russell, Play for a change – Play,Policy and Practice: A review of contemporary perspectives(Play England, 2008)

Mae cynaladwyedd yn air a ddefnyddir ynaml gan bobl sy’n ariannu ac yn gwneudpenderfyniadau. Yma rydym yn archwilio yrhyn y mae’n ei olygu i wasanaethau chwarae.

Wedi ei wreiddio yn y gymunedNid yw cynnal darpariaeth yn ymwneud â chyllid yn unig – maehefyd yn ymwneud llawer â phobl. Mae cynnal darpariaethchwarae’n bwysig i blant a’r cymunedau y maent yn bywynddynt – i fod yn gynaliadwy, byddwn angen cefnogaeth achyfranogaeth y gymuned sy’n byw o’n hamgylch.

Mae darpariaeth chwarae o safon wedi ei wreiddio yn ygymuned leol ac mae’n ffynnu ar berthnasau cryfion agaelodau o’r gymuned – yn enwedig plant, pobl ifanc a’uteuluoedd. Bydd meithrin perthnasau cadarnhaol o fewn ygymuned leol 365 dydd y flwyddyn yn golygu bod â grŵpparod o ddarpar gefnogwyr sy’n deall gwerth y ddarpariaeth.

Bydd cefnogwyr yn rhannu eich pryderon os yw’r gwasanaethchwarae’n cael ei gwtogi neu ei ddileu. Er mwyn i unrhywddarpariaeth chwarae wedi ei staffio fod yn llwyddiannus, boedyn faes chwarae antur neu’n brosiect chwarae peripatetig sy’ngweithio ar lain las lleol, bydd ymdeimlad o berchenogaeth achyfranogaeth cymunedol yn allweddol.

Bydd datblygu cysylltiadau a pherthnasau da gyda phoblddylanwadol, megis cynghorwyr lleol, trigolion eraill a busnesaulleol, a darparwyr eraill, megis ysgolion, yn creu cronfa eang o bobli’w recriwtio i gefnogi unrhyw ymgyrch ar gyfer cynnal y prosiect.

CyfranogaethMae gan blant a phobl ifanc hawl i gyfranogi a mynegi eu barnynghylch penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau – maeganddynt hefyd ddiddordeb byw mewn cynnal darpariaethchwarae o safon.

Bydd cyfranogaeth gwirfoddol plant a phobl ifanc mewnunrhyw ymgyrch nid yn unig yn strategol (bydd gwleidyddion aphobl sy’n gwneud penderfyniadau’n amharod i gael eucondemnio gan y cyhoedd am ‘niweidio’ aelodau mwyaf

bregus ein cymdeithas), ond bydd hefyd yn rhoi cyfle iddyntfod yn rhan o broses wleidyddol a chymdeithasol.

Un enghraifft o weithredu llwyddiannus yw pan y bu i blantLlaneirwg benderfynu i dapio eu hunain yn sownd i’r tanc mawroedd yn ffocws canolog i’w gwasanaeth chwarae lleol, ac nafu modd i’r lori a ddaeth i’w nôl i’w gludo i ffwrdd.

Swyddi lleol ar gyfer pobl leolUn ffordd o feithrin perthnasau lleol cadarnhaol yw trwy gyflogipobl leol (unai ar sail cyflogedig neu fel gwirfoddolwyr) fydd yndod â phob math o fuddiannau gyda hwy, yn cynnwysgwybodaeth leol a dealltwriaeth o rinweddau cyfoethogdiwylliant a hanes y gymuned leol. Tra ei bod yn bwysig i gaeltîm cytbwys o staff sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol a /neu arbenigedd penodol, gellir hyfforddi staff a aned ac afaged yn lleol i’r lefel angenrheidiol a gallant ychwanegu atansawdd y berthynas gyda’r plant a’r gymuned.

Materion ariannolMae’n bwysig i beidio â dibynnu’n llwyr ar un ffynhonnellariannu ac i gynllunio ymlaen llaw.

Efallai bod cyllid statudol ar gael gan yr awdurdod lleol, neubod cyllid an-statudol ar gael gan ymddiriedolaethauelusennol – bydd angen inni neilltuo amser ar gyfer ymchwilioa dal i ymgeisio am arian fel rhan o’n patrwm gwaith bobdydd (gaiff ei gynnwys mewn swydd ddisgrifiadau a chynlluniaugwaith, ar yr agenda yng nghyfarfodydd y bwrdd rheoli.)

Monitro a chofnodiYn aml iawn caiff y rhain eu gadael oddi ar y rhestr pethau i’wgwneud, ond mae angen inni gymryd amser yn rheolaidd ifonitro, gwerthuso a chofnodi’r buddiannau y bydd eingwasanaethau chwarae’n eu cynnig i blant a’u cymunedau lleol.

Bydd monitro a chofnodi’n darparu tystiolaeth am yr angen igynnal y gwasanaeth presennol yn ogystal â chefnogiceisiadau ariannu. Mae mwy a mwy o ddarpar gyllidwyr ynchwilio am dystiolaeth y bydd eu buddsoddiad yn gwneudgwahaniaeth mesuradwy i blant – os nad yw’r dystiolaeth ymagennym, mae’n bosibl y byddwn yn colli allan.

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010CYFOETH CHWARAE

Pam fod buddsoddi mewn chwarae yn bwysig

Page 12: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010DATBLYGU’R GWEITHLU

12

Wedi hir ymaros a chynllunio, cynhaliwydy cwrs cyfrwng Cymraeg cyntaf erioed oWobr Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorionar Waith (P3) yng Nghaernarfon yn ystod yrhaf. Dafydd Myrddin Hughes, un o’r ddauhyfforddwr cyfrwng Cymraeg, sy’n atebein cwestiynau am effaith aphwysigrwydd y cwrs.

Soniwch rywfaint am eich hun a’r modd ydechreuoch ym maes gwaith chwarae, ac ynbenodol sut y daethoch yn hyfforddwr P3?

Dair blynedd yn ôl fe wnaeth un o’m cydweithwyr fy annog iymgeisio am fy rôl presennol fel Swyddog Datblygu ChwaraeRhanbarthol gyda Fforwm Chwarae Gogledd Orllewin Cymru.Mae’r rôl yma’n cynnwys datblygu’r fframwaith ar gyfer cynnaldatblygiad chwarae yn y rhanbarth. Mae gennyf nifer oflynyddoedd o brofiad o weithio ym maes datblygucymunedol, datblygu chwaraeon ac fel gweithiwr chwarae.Pan ddaeth cyfle imi gymryd rhan yng nghwrs anhygoel P3 –Hyfforddi’r Hyfforddwr – fe achubais ar y cyfle, ac ers hynnyrwyf wedi hyfforddi 47 o ddysgwyr.

Rwy’n un o ddeg o frodyr a chwiorydd a faged ar fferm yngNgogledd Orllewin Cymru. Dyma ble y treuliais y rhan fwyaf ofy amser chwarae. O edrych yn ôl, credaf fod tarddiad unrhywlwyddiant yn deillio o fy mhlentyndod ar y fferm, ble roeddpob munud o bob diwrnod yn antur ac yn addysg.

Beth sy’n arbennig am y cwrs P3 o’i gymharu âchyrsiau eraill y bu ichi eu trosglwyddo?

Mae nifer o rinweddau arbennig i’r cwrs P3 – mae’n ymarferol,yn gyfredol ac yn realistig o ran y disgwyliadau a’r wybodaetha roddir i ddysgwyr. Mae amgylchedd cyfforddus a chyfeillgartrosglwyddo’r cwrs yn arbennig, yn ogystal ag yn unigryw. Mae’rdysgwyr yn teimlo bod y daith P3 yn arbennig iawn oherwyddnatur defnyddiol yr hyn y byddant yn ei ddysgu a’r buddiannauy mae’n eu cynnig. Fel un sydd wedi cwblhau’r cwrs, gallafdystio bod P3 yn gwrs sy’n gwneud i’r dysgwr deimlo cymaint ynwell ac yn fwy balch am ei hun a’i ddewis o yrfa. Mae hynoherwydd y cyfoeth o wybodaeth, dealltwriaeth agwerthfawrogiad y byddant yn ei ennill yn ystod P3, sy’ncwmpasu pob elfen o’r Egwyddorion Gwaith Chwarae.

Pam ydych chi’n credu ei bod yn bwysig bod y cwrshwn ar gael i’w drosglwyddo trwy gyfrwng yGymraeg?

Mewn ardaloedd o Gymru, fel Gwynedd, ble mai’r Gymraegyw mamiaith tua 80 y cant o’r boblogaeth, mae’n hanfodolbod cyrsiau’n cael eu cynnig yn ddwyieithog. Bydd hyn yngolygu y gallwn daenu’r rhwyd dros gynulleidfa ehangach oddysgwyr sy’n dymuno, ac sydd angen, cymryd rhan mewncyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd yn helpu’rhyfforddwr i ymgysylltu’n briodol â’r dysgwyr ac i drosglwyddo

brwdfrydedd hyfforddwyr P3 ynghylch gwaith chwarae mewnmodd y gall y dysgwr unigol wneud synnwyr ohono achroesawu’r neges. Rwy’n credu hefyd ei fod yn cyfoethogiansawdd y cwrs o ran cyfranogaeth y dysgwyr, trwy ganiatáuiddynt ddilyn y cwrs yn eu hiaith eu hunain.

Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw wahaniaeth yn ygweithwyr chwarae a gyfranogodd yn y cwrs?

Mae’n ymddangos bod y gweithwyr chwarae’n gwerthfawrogieu proffesiwn lawer mwy, ac mae eu rheolwyr yn sicr yngwerthfawrogi barn y gweithwyr chwarae ac yn gwrando ar eubarn ynghylch sut i hwyluso eu darpariaeth chwarae. Mae’rgweithwyr chwarae’n siarad â’i gilydd â llawer mwy owybodaeth a dealltwriaeth ynghylch sut y byddant yn dewisymyrryd yn y modd y bydd plant yn chwarae.

Beth yw’r her fwyaf i chi fel hyfforddwr gwaithchwarae?

’Does dim heriau o gwbl ynghylch trosglwyddo’r cwrs gan fod ycyfan yn dirwyn yn ei flaen yn gwbl naturiol trwy fy mhrofiad acansawdd y deunyddiau gan Chwarae Cymru. Ond, pe bawni’n gwisgo fy het trefnydd ac asesydd, daw nifer o heriau i’rmeddwl – yn ymwneud â diffyg arian ac amser yn bennaf!

Yn dilyn y cwrs dywedodd Swyddog Chwarae Gwynedd,Ceri Rhiannon Jones: ‘Braf oedd gweld y plant a’r boblifanc yn mwynhau chwarae rhydd yn sgîl y cwrs P3. Credaffod y cwrs wedi bod yn hynod lwyddiannus a bod ygweithwyr chwarae wedi magu hyder a chael syniadaunewydd. Mae’r cynlluniau chwarae yn mynd o nerth i nerthac mae’r cwrs wedi dod â gwedd newydd ar chwarae i ni.’

Sylwadau dysgwyr yn dilyn y cwrs P3 Cymraeg:

‘Mae’n agoriad llygaid o beth ddylai chwarae fod er mwyndatblygiad plant, a beth yw gwir rôl gweithiwr chwaraemewn darpariaeth.’

‘Gwerth chweil! Digon o hwyl!’

‘Dylai pob rheolwr/wraig fynychu’r cwrs gan ei fod yn dangosochr arall chwarae. Drwy gael rheolwyr i fynychu’r cwrs,bydd darparu chwarae rhydd yn rhwyddach yn y dyfodol.’

‘Rwy’n teimlo bod genai fwy o hyder o sut a phryd iymyrryd, neu beidio, mewn chwarae … rwy’n fwy hyderuswrth roi mwy o ryddid i’r plant.’

Y diweddaraf am P3

Rhwng mis Chwefror 2009 a mis Gorffennaf 2010llwyddodd cyfanswm o 208 o ddysgwyr i gwblhau eincymhwyster lefel 2, Gwaith Chwarae: Rhoi Egwyddorionar Waith (P3).

O’r 208 o ddysgwyr – mae 175 wedi cymhwyso i safonGwobr lefel 2; mae 24 wedi cymhwyso i safon Tystysgrif lefel2; ac mae 9 yn weithwyr chwarae lefel 2 cwbl gymwysedig– gan iddynt gwblhau tair rhan P3.

Cwrs Cymraeg P3

Page 13: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010DATBLYGU’R GWEITHLU

13

Ariannu gweithwyr chwarae trwy Gronfa Swyddi’r Dyfodol

Rydym wedi ymgeisio am gyllid ganGronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF).

Os y byddwn yn llwyddiannus, bydd yprosiect hwn yn cynyddu proffil a sgiliau’rgweithlu gwaith chwarae, gan annog dysgugydol oes, datblygu a throsglwyddorhaglenni Sgiliau Allweddol ar gyfer gwaith athrosglwyddo hyfforddiant a chymwysterauachrededig.

Bydd Undeb Unite, Chwarae Cymru aSkillsActive yn gweithio mewn partneriaeth âphartneriaid lleol a chenedlaethol eraill igefnogi gweithwyr chwarae rhan amser a rhaisydd ar gyflogau isel yn bennaf, llawer ohonyntyn fenywod; gan eu hyfforddi a’u mentora iwella eu sgiliau, eu cyfleoedd dysgu a’urhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Bydd y prosiect yn helpu i fynd i’r afael ârhwystrau i ddysgu ac yn sicrhau cyfartaleddmynediad i ddysgu ar draws y sector achynyddu ansawdd darpariaeth chwarae yngNghymru. Caiff Cynrychiolwyr Dysgu Undebaueu henwebu ar draws Cymru. Os y caiff y cyllidei sicrhau gan WULF rydym yn rhagweld y byddy prosiect yn dechrau ar y 1af o Ebrill 2011.

Bro Morgannwg Yn ddiweddar treuliodd Sian Offen a Phillipa Morgan chwe misyn gweithio gyda thîm datblygu chwarae Cyngor BroMorgannwg; gan ymuno â thîm o weithwyr chwarae iddarparu cyfleoedd chwarae ar draws y sir. Yn ogystal âdatblygu eu sgiliau gwaith chwarae fe ymgymerodd y ddwy ânifer o gyrsiau hyfforddi, sy’n ychwanegiadau gwerthfawr i’wCV’s, yn cynnwys cymorth cyntaf ac iaith arwyddion.

Meddai Joanne Jones, swyddog datblygu chwarae’r Fro, ‘Felcyflogwr, fe fu’n gyfle gwych i gefnogi dwy weithwraig oedd,pan ddaethon nhw atom yn gyntaf, â fawr ddim gwybodaethynghylch chwarae na’r effaith gaiff chwarae ar y plant a’r boblifainc y byddwn yn gweithio â nhw. Rwyf wedi gwylio’r ddwy yndatblygu i fod yn unigolion hyderus yn ogystal ag yn weithwyrchwarae proffesiynol.’

Play Right Ariannwyd pedwar lleoliad gyda Play Right trwy Gronfa Swyddi’rDyfodol – gweithwraig chwarae gynorthwyol (Emma);cynorthwywraig greadigol (Holly); cynorthwywraig weinyddol

(Nicola); cynorthwywraig warws (Lynne). Mynychodd y bedairhyfforddiant oedd yn berthnasol i’w rôl ac fe’u cynorthwywyd iddiweddaru eu CV’s.

Dywedodd Patricia Cutler, Cyfarwyddwraig Play Right, ‘Y priffuddiannau i Play Right oedd cynyddu cwmpas gwaith y staffgan alluogi’r mudiad i barhau i ehangu ein gweithgarwch. Erenghraifft, bydd y gynorthwywraig greadigol, ynghyd â’rgynorthwywraig warws, yn rhedeg gwasanaeth maes i ddwyardal wledig yng Nghanolfannau Plant Integredig (CPI) Castell-nedd – gan fynd â’r storfa sborion at ein aelodau ddwywaith ymis. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynyddu ein rhifau aelodaethac yn cefnogi darparwyr chwarae sy’n ei chael yn anodd iymweld â’r Ganolfan Adnoddau Chwarae i gasgludeunyddiau. Mae cefnogaeth Cronfa Swyddi’r Dyfodol wedigalluogi Play Right i ehangu ac wedi cyfrannu’n sylweddol atgynaladwyedd y gymdeithas.’

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut y gallai eich sefydliadchi elwa o fenter Cronfa Swyddi’r Dyfodol, ymwelwch â: http://new.wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/learning/guarantee/futurejobsfund/?skip=1&lang=cy

Cais Cronfa DdysguUndebau Cymru

Mae Gwaith Chwarae Cymru wedi lansio strategaeth cyfathrebu newydd –Cyfathrebu Clir … – fydd yn anelu i wella sgiliau cyfathrebu o fewn y

sector, i weithio ar y cyd ag eraill i rannu’r gwaith o raeadru gwybodaeth ofewn y sector gwaith chwarae ac ymysg gweddill y gweithlu plant.

Caiff Cyfathrebu Clir … ei hysbysu gan ddau ddigwyddiad ymgynghorolGwaith Chwarae – Dyfodol o Safon a gynhaliwyd gan Gwaith Chwarae Cymru.Mae’r strategaeth yn amlinellu cynllun Gwaith Chwarae Cymru ar gyfercyfathrebu â chynulleidfaoedd allweddol, annog cyfranogaeth a gweithio ar ycyd, a dynodi a chyfathrebu â chynulleidfaoedd newydd.

Fel rhan o’n cynllun i sicrhau gwell cyfathrebu o fewn y sector byddwn yndefnyddio eiconau i ddynodi natur yr ymateb sydd ei angen i wybodaeth ybyddwn yn ei raeadru:

MAE AMSER YN BRIN

CADW AT ETO

LLEDAENU’R NEWYDD

NEWID YN Y GWYNT

Cadwch olwg am yr eiconau hyn yn ein cyfathrebiadau yn y dyfodol.

Mae Strategaeth Cyfathrebu Cyfathrebu Clir … ar gael i’w lawrlwytho oddiar wefan Gwaith Chwarae Cymru: www.gwaithchwaraecymru.org.uk

Cyfathrebu Clir …

Mae tîm chwarae Bro Morgannwg a Play Right (cymdeithas chwarae Abertawe aChastell-nedd Port Talbot) ill dau wedi elwa o ariannu trwy fenter Cronfa Swyddi’r Dyfodol igyflogi staff tymor byr. Mae menter Cronfa Swyddi’r Dyfodol yn creu cyfleoedd ar gyferpobl ifainc 18 i 24 mlwydd oed sydd wedi bod yn ddi-waith ers dros chwe mis.

Page 14: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010IPA 2011

14

Mae 18ed cynhadledd yr InternationalPlay Association yn cynnig pedwardiwrnod ar gyfer rhannu tystiolaeth,profiadau ac enghreifftiau o arfer dagyda chydweithwyr o bob cwr o’r byd.

Pwy ddylai fynychu? Dylai pawb sydd â diddordeb personolneu broffesiynol mewn chwarae plant aphobl ifainc fynychu. Yn fwy penodol:darparwyr gwasanaethau plant a phoblifainc; darparwyr amgylcheddau argyfer plant a phobl ifainc; eiriolwyr droshawliau plant a phobl ifainc; llunwyrpenderfyniadau a pholisïau mewnllywodraeth leol a chenedlaethol a’r

sector gwirfoddol; darlithwyr, myfyrwyr,ymchwilwyr a darparwyr addysg ahyfforddiant.

SiaradwyrBrian Sutton-Smith PhDSudeshna Chatterjee PhDMarc BekoffBob HughesWendy Russell a Stuart Lester

Fe dderbyniwyd 265 o grynodebau o 32o wledydd o bob cwr o’r byd – o Awstraliai Iran ac o Frasil i Wlad Pwyl. Diolch i bawba gyflwynodd grynodeb i’w hystyried.Cafodd y crynodebau i gyd euhadolygu’n annibynnol yn unol â’r

themâu gan aelodau o Grw^ pYmgynghorol y Rhaglen. Caiff pawb agyflwynodd grynodeb eu hysbysu os yderbyniwyd neu os y gwrthodwyd eucrynodeb trwy ebost, yn ogystal â’rfformat a benodwyd ar gyfer y cyflwyniaderbyn 31 Ionawr 2011 fan bellaf.

Diolch hefyd i aelodau Grw^ pYmgynghorol y Rhaglen am eu cymortha’u cefnogaeth parhaus i adolygu’r hollgrynodebau a gyflwynwyd.

Cyhoeddir rhaglen ddiwygiedig ygynhadledd ar wefan cynhadledd2011 yr IPA ar ddechrau’r flwyddynnewydd.

Bydd angen i bob cyfranogwr achyfranwr gofrestru ar gyfer lle cyfranogwrcynhadledd trwy wefan y gynhadledd:

www.ipa2011.org/registration

Mae’r ffïoedd i gyd yn cynnwys pecyncynhadledd a bag, cinio a lluniaeth,digwyddiadau cymdeithasol gyda’r nosynghyd â bwyd, a gwibdeithiau.

I’r rheini sy’n methu bod yn bresennol argyfer pedwar diwrnod llawn y gynhadledd,ceir dewis i gofrestru (archebu) lle ar gyferdeuddydd neu dridiau.

Mae nifer cyfyngedig o leoeddcynhadledd ar gael i fyfyrwyr am brisgostyngedig – dim ond £250 am ypedwar diwrnod llawn. Mae’r cynnigarbennig hwn ar gael i fyfyrwyr sy’nastudio’n llawn amser yn y DU. Byddangen darparu prawf o’ch statwsmyfyriwr i gadarnhau’r archeb.

Bydd llety rhad, o fewn cyrraeddcerdded i leoliad y gynhadledd, ar gaeli gyfranwyr a chyfranogwyr yn un oneuaddau preswyl Prifysgol Caerdydd oddim ond £24 y person y noson –www.ipa2011.org/university_halls

Oes gennych ddiddordeb bod yn uno noddwyr IPA 2011? Neu oesgennych ddiddordeb hurio gofodarddangos y tu mewn neu’r tu allan ileoliad y gynhadledd?

Cysyllter â [email protected] ar 020 2048 6050

Mae Clochdar dros Chwarae ynddigwyddiad i blant ddathlu eu hawl ichwarae.

Fe ddaw gweithwyr chwarae cymwysedigo bob cwr o Gymru ynghyd i greuamgylchedd diddorol, creadigol acamrywiol ble y caiff plant deimlo rhyddid ichwarae yn eu ffordd eu hunain ac ar eutelerau eu hunain.

Os ydych yn ddarparwr chwarae ac yrhoffech chwarae rhan yn Clochdar drosChwarae cwblhewch y ffurflen MynegiDiddordeb sydd ar gael i’w lawrlwytho oddiar www.ipa2011.org

Rydym wedi gwahodd 1000 o blant ifynychu Clochdar dros Chwarae. Byddcyfranogwyr rhyngwladol y gynhadleddyn bresennol hefyd wrth i Gae Cooper,Caerdydd gael ei drawsnewid yn ardalchwarae.

www.ipa2011.org

Chwarae i’r Dyfodol -goroesi a ffynnu4 - 7 Gorffennaf 2011, Caerdydd - CymruCynhadledd fyd-eang 50ed pen-blwydd yr International Play Association Sut allwn ni greu dyfodol ble y caiff chwarae ei werthfawrogi a ble fo pob gwlad achymdogaeth yn cynnal hawl pob plentyn i gael amser, rhyddid ac amgylchedddigon diogel ar gyfer chwarae yn eu ffordd eu hunain?

Archebwcheich lle

Mynychu pedwardiwrnod ygynhadledd

Aelod o’r IPA

Cyfranogwr Cyffredin

Pris Dyddiol (o leiaf deuddydd)

Aelod o’r IPA

Cyfranogwr Cyffredin

Cofrestru’nGynnar erbyn31/12/10

£425

£475

£140 y dydd

£150 y dydd

Cofrestru arôl 01/06/11

£550

£600

£180 y dydd

£200 y dydd

Cofrestru ar ac arôl 01/01/11tan 01/06/11

£450

£500

£160 y dydd

£175 y dydd

Page 15: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010AELODAETH 2011

15

Mae aelodaeth cyswllt yn agored i bobsefydliad ac unigolyn sy’n byw yng Nghymru.

Mae aelodaeth cyswllt rhyngwladol yn agored i unrhyw sefydliadneu unigolyn sy’n byw neu’n gweithio y tu allan i Gymru hoffaigefnogi gwaith Chwarae Cymru. Mae’r buddiannau aelodaethyn gyfyngedig gan ein bod, fel elusen, wedi ein cofrestru iweithio er budd plant a phobl ifainc yng Nghymru.

Gofynnir i bob aelod i arddel:- yr Egwyddorion Gwaith Chwarae, a

- Pholisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru (gellir gweld y ddau ar ein gwefan)

Gallwch ymuno â ni trwy gwblhau a dychwelyd y ffurflengofrestru aelodaeth amgaeëdig neu trwy ymweld â’n gwefan:www.chwaraecymru.org.uk

Beth allwch chi ei wneud i ni• Helpu i hysbysu ein safbwyntiau polisi a dylanwadu ar

drafodaethau a gweithio gyda’r llywodraeth acasiantaethau eraill

• Amlygu materion sy’n peri pryder a dylanwadu ar bolisïaugyda llunwyr polisïau lleol a chenedlaethol

• Rhannu cefnogaeth, arfer gorau a gwybodaeth gydagaelodau eraill

• Ein cynghori ynghylch eich profiadau personol o weldtrosi polisi’n wirionedd. Mae’n rhaid i gyfeiriad polisïaucenedlaethol fod yn ystyrlon ac yn effeithlon ar gyferchwarae plant

• Enwebu a chael eich enwebu i ymuno â BwrddYmddiriedolwyr Chwarae Cymru

• Eistedd ar Grw^ p Ymgynghorol Gwasanaeth GwybodaethChwarae Cymru

• Ac yn 2011, gweithio gyda ni i sicrhau y byddcynhadledd fyd-eang yr International Play Association,sy’n cael ei threfnu gan Chwarae Cymru, y gynhadleddchwarae a gwaith chwarae orau erioed ...

Beth allwn ni ei wneud i chiYn ogystal â derbyn Chwarae dros Gymru, cylchgrawnChwarae Cymru, byddwch yn:

• derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi • derbyn e-fwletinau rheolaidd yn llawn newyddion am

ariannu a digwyddiadau • derbyn cipolwg cynnar ar erthyglau o ddiddordeb a

thaflenni briffio • derbyn ymatebion drafft i ymgynghoriadau

cenedlaethol, i wahodd eich sylwadau ac i hysbysu eichymatebion eich hunain

• arbed arian ar ffïoedd seminarau a chynadleddau • derbyn gostyngiadau ar gyhoeddiadau• cael mynediad i wiriadau rhad ac am ddim gyda’r Biwro

Cofnodion Troseddol ar gyfer staff sy’n gweithio mewndarpariaeth rheoledig

• gallu gwneud defnydd llawn, yn rhad ac am ddim, o’nllyfrgell gynhwysfawr yng Nghaerdydd

• derbyn poster rhad ac am ddim • elwa o hysbysebu recriwtio rhad ac am ddim ar gyfer eich

swyddi gweigion cysylltiedig â chwarae ar ein gwefan acyn ein e-fwletinau

Ymunwch â Chwarae Cymru

Ymunwch ac ychwanegwch eich llais

Un diwrnod bydd Cymru yn wlad ble y byddwn yn cydnabod ac yndarparu ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn

Mae Chwarae Cymru’n elusen ac yn fudiad cenedlaethol dros chwarae plant sy’n darparu cyngor, cefnogaeth acarweiniad ar gyfer pob un yng Nghymru sydd ynghlwm neu’n gyfrifol am unrhyw amgylchedd ble y gallai plant a

phobl ifainc chwarae.

Rydym yn cynnal hawl plant i chwarae yn unol ag Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Maechwarae a ddewisir o wirfodd yn allweddol bwysig i ddatblygiad iach pob plentyn a pherson ifanc - waeth beth fo’udiwylliant, nam, rhyw, iaith, cefndir, ymddygiad neu angen.

Mae gan bob plentyn hawl i dderbyn darpariaeth chwarae o safon yn eu cymunedau ac rydym yn gweithio’n strategol igyflawni’r nod yma ar eu rhan.

Page 16: Chwarae yng Nghymru rhifyn 33

Chwarae dros Gymru Gaeaf 2010DIGWYDDIADAU AC ARIANNU

16

Digwyddiadau

Ariannu

‘Everybody’s Business’Cynhadledd Flynyddol yPlaywork Inclusion Project (PIP)24 Chwefror 2011Llundainwww.kids.org.uk

Cynhadledd Genedlaethol GwaithChwarae 1 – 2 Mawrth 2011Eastbourne

www.playworkconferences.org.uk

Cynhadledd Athroniaeth Chwarae 12 – 13 Ebrill 2011 Prifysgol Swydd Gaerloyw

http://insight.glos.ac.uk/faculties/as/

newsandevents/Pages/default.aspx

‘Play and Health’:37ed Cynhadledd Ryngwladol FlynyddolTASP (The Association for the Studyof Play)27 – 30 Ebrill 2011Rochester, Efrog Newydd

http://tasplay.org/conference.html

Grantiau Plant Mewn Angen y BBCMae grantiau Plant Mewn Angen y BBC yn agored isefydliadau sy’n gweithio â phlant a phobl ifaincdifreintiedig sydd yn 18 mlwydd oed neu iau. Mae’nrhaid i’ch mudiad a’ch prosiect fod wedi ei leoli yn y DUa bydd angen ichi fod yn elusen gofrestredig neu’nfudiad di-elw arall.

Gallwch ymgeisio am: Grantiau Bychain o £10,000 yflwyddyn am hyd at dair blynedd, neu Brif Grantiau dros£10,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd.

Dyddiadau Cau nesaf: 15 Ionawr 2011 a’r 15 Ebrill 2011

www.bbc.co.uk/pudsey/grants/general_grants.shtml

Gwasanaeth GwybodaethMae Gwasanaeth Gwybodaeth ChwaraeCymru yn darparu cyngor ac arweiniad archwarae a darpariaeth chwarae. Mae einTîm Cyfathrebu’n gweithio’n galed fel bodpawb sydd â diddordeb mewn chwaraeplant yng Nghymru’n derbyn yr hollwybodaeth ddiweddaraf.

Mae ein gwefan, a’r adran newyddion gaiff ei diweddaru’nrheolaidd, yn rhan allweddol o’n Gwasanaeth Gwybodaeth.Rydym hefyd yn darparu taflenni gwybodaeth a datganiadausafbwynt ar chwarae a mannau chwarae; polisi chwarae; gwaithchwarae; yn ogystal â hysbysebu digwyddiadau a swyddi.

Ein llyfrgell gyfeirio chwarae (yn ein swyddfa yng Nghaerdydd)yw’r casgliad mwyaf cynhwysfawr o adnoddau ar chwaraeplant a phobl ifanc a materion perthynol eraill yng Nghymru.Mae gennym gasgliad o ddeunydd cyfredol ac allan o brintar ystod eang o bynciau – o theori chwarae a datblygiadplant, i adeiladu ty^ pen coeden.

Mae croeso i ymwelwyr a grwpiau bychain o fyfyrwyr –ebostiwch ni i drefnu ymweliad a byddwn yn falch i’ch helpu.Mae gennym hefyd gasgliad llai o lyfrau ac adnoddaucyfeiriol yn y llyfrgell ym Mhrifysgol Glyndw^ r yn Wrecsam, syddar agor i ymwelwyr.

I drefnu ymweliad â’n llyfrgell [email protected]