72
Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru 2009 creu a rhannu cyfoeth yn deg

Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru 2009 · 1.6 Ym mis Tachwedd 2008, roedd hi’n ganrif a hanner ers marwolaeth Robert Owen, tad y mudiad cydweithredol. Mae ei waddol

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru 2009

    creu a rhannu cyfoeth yn deg

  • ISBN 978 0 7504 4865 9© Hawlfraint y Goron Chwefror 2009 CMK-22-08-054D2850809

    Y lluniau ar y clawr:Yn y rhes uchaf ar y chwith: Clwb Rasio â Harnais Dyffryn Aman. Mae’r clwb hwn, sy'n eiddo i gymuned wledig yn Nhairgwaith, wedi’i sefydlu ers 1979. Mae’r clwb yn cynnal digwyddiadau cymunedol ac mae’r lleoliad yn darparu canolfan chwaraeon a hamdden ar gyfer nifer o bentrefi ynysig.

    Yn y rhes uchaf ar y dde: Mae Crafts for Everyone, yng Nghrymlyn, Caerffili, yn gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu a phroblemau iechyd meddwl, ac yn eu hyfforddi, i wneud llestri ceramig. Caiff y llestri ceramig hyn sydd o ansawdd da eu gwerthu yn eu siop ac mewn digwyddiadau lleol. Mae’r cyfleuster yn mynd i’r afael â phroblemau arwahanrwydd ac yn helpu pobl i gyfranogi yn y gymdeithas. Mae’r ffotograff yn dangos hyfforddeion yn ‘ffetlo’ neu’n tynnu’r ymyl a adawyd gan y mowld cyn iddo gael ei grasu yn yr odyn.

    Yn y rhes isaf ar y chwith: Fe agorodd Becws Pesda ger Bangor yn 2007 ac mae eisoes yn denu masnach gynyddol. Caiff y becws ei redeg gan Gymdeithas Genedlaethol Gofal ac Ailgartrefu Troseddwyr. Caiff y becws ei staffio’n gyfan gwbl gan gyn-droseddwyr ac mae’n cynnig cwrs dros un wythnos ar bymtheg ar sgiliau byw a chymhwyster cydnabyddedig mewn hylendid bwyd ac iechyd a diogelwch. Mae’r fenter gymdeithasol yn enghraifft ardderchog o helpu pobl a arferai fod yn gaeth i gyffuriau a chyn-droseddwyr i ymgartrefu yn y gymdeithas unwaith eto.

    Yn y rhes isaf ar y dde: Mae Telynau Teifi yng Ngheredigion yn fenter gymdeithasol fechan ond mae ganddi frwdfrydedd mawr dros delynau. Mae treftadaeth gerddorol y delyn â’i gwreiddiau’n ddwfn yn niwylliant Cymru, ac mae’r delyn, fel ein hofferyn cenedlaethol, heb os nac oni bai’n bwysig iawn i Gymru. Caiff yr ymwybyddiaeth hon o dreftadaeth ei hysgogi â phrosiectau cymunedol megis y prosiect Gweithio mewn Tiwn a helpodd 25 o bobl leol o bob oedran i ddysgu sgiliau newydd a chwarae rhan yn y fenter gymdeithasol. Mae’r ffotograff yn dangos prif wneuthurwr telynau’r cwmni gyda’i brentis yn edrych ar yr agweddau manylach ar reoli ansawdd.

  • 1

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Rhagair gan y Dirprwy WeinidogMae mentrau cymdeithasol wedi bod yn ganolog o ran cyflenwi gwasanaethau yng Nghymru ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y llynedd, roedd yn 150 o flynyddoedd ers marwolaeth Robert Owen, un o sefydlwyr y mudiad cydweithredol. Roedd hefyd yn 60 mlynedd ers i Aneurin Bevan sefydlu’r GIG, a seiliwyd ar Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar. O Owen, i Bevan, i Bwll Glo’r Tŵr, mae Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran darparu datrysiadau cydweithredol - trwy fentrau cymdeithasol.

    Yn y Strategaeth Mentrau Cymdeithasol a gyhoeddwyd gennym yn 2005, diffiniwyd mentrau cymdeithasol fel busnesau ag amcanion cymdeithasol yn bennaf. Maent yn ail-fuddsoddi unrhyw arian sydd dros ben yn y busnes neu’r gymuned er mwyn cyflawni’r amcanion hynny yn hytrach na chynyddu’r elw i’r cyfranddalwyr neu’r perchnogion.

    Mae’r mentrau cymdeithasol yng Nghymru yn amrywio o sefydliadau mor eang â Glas Cymru, y cwmni un pwrpas sy’n rhedeg Dŵr Cymru, i undebau credyd a chydweithfeydd bwyd cymunedol, bach.

    Mae mentrau cymdeithasol newydd yn cael eu ffurfio drwy’r amser, weithiau o ganlyniad uniongyrchol i bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae ein pobl ni ein hunain yn dangos, trwy nifer o’u dewisiadau, eu bod yn aml yn dyheu i ni ganfod dulliau newydd o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys mathau newydd o gyllid. Yn ddiweddar, mae tenantiaid yn Rhondda Cynon Taf a Thor-faen wedi pleidleisio o blaid creu Cartrefi RhCT a Chartrefi Bron Afon - dau gwmni tai cymunedol cydfuddiannol. Mae tenantiaid mewn awdurdodau lleol eraill hefyd wedi pleidleisio dros fentrau cymdeithasol ym maes tai.

    O ran perchnogaeth gymdeithasol yng Nghymru felly, mae gennym draddodiad o ddarpariaeth gydweithredol a chydfuddiannol sy’n bodoli ochr yn ochr â darpariaeth y wladwriaeth.

    Trwy rymuso pobl a sicrhau bod budd y gymuned yn ganolog i benderfyniadau, gallwn wella’r gwasanaethau a’r canlyniadau i’n dinasyddion. Ar yr un pryd, byddwn yn arloesi o ran safonau uchel y ddarpariaeth.

    Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae mentrau cymdeithasol yn fwy perthnasol nac erioed.

    Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn nodi rhai o’r camau a gymerwn i hyrwyddo mentrau cymdeithasol yng Nghymru:

    - corff newydd i hyrwyddo mentrau cymdeithasol, sef Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru

    - Grŵp newydd i Gynghori’r Gweinidog ar Fentrau Cymdeithasol

    - cynhadledd fawr mentrau cymdeithasol bob dwy flynedd

    - Cronfa Trosglwyddo Asedau Cymunedol newydd

  • 2

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Mae’n allweddol cryfhau ein diwylliant menter er mwyn adfywio ein cymunedau, a hoffem dalu teyrnged i waith yr entrepreneuriaid cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru. Nid oes diffyg egni na chreadigrwydd ym mhlith mentrau cymdeithasol Cymru.

    Edrychaf ymlaen at hyrwyddo mentrau cymdeithasol ar draws Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gweld pobl yng Nghymru yn creu eu datrysiadau eu hunain ar gyfer y problemau sy’n wynebu eu cymunedau.

    Leighton Andrews AC Y Dirprwy Weinidog dros Adfywio

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 3

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Cynnwys

    1 Paratoi’r Cynllun Gweithredu 5

    2 Beth yw mentrau cymdeithasol a pham eu bod yn bwysig? 8

    3 Mentrau cymdeithasol ym mholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru 17

    4 Cyflymu twf mentrau cymdeithasol yng Nghymru 24

    5 Ysbrydoli 30

    6 Trawsnewid 36

    7 Rhyddhau 47

    Y Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol - Crynodeb o’r Camau Gweithredu 56

    Atodiadau

    Atodiad 1 - Strwythurau Cyfreithiol ar gyfer Mentrau Cymdeithasol 58

    Atodiad 2 - Nodau ac Amcanion y Strategaeth Mentrau Cymdeithasol ar gyfer Cymru, 2005 60

    Atodiad 3 - Cymorth datblygu gan y trydydd sector i fentrau cymdeithasol 61

    Atodiad 4 - Manylion cyswllt asiantaethau sy’n rhoi cymorth i fentrau cymdeithasol 63

    Atodiad 5 - Rhestr o Brifysgolion 64

    Atodiad 6 - Llyfryddiaeth 66

    Atodiad 7 - Mentrau cymdeithasol a safbwynt y DU 68

  • 4

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Astudiaethau Achos Dynamix Limited 7

    Glas Cymru 16

    Wastesavers Recycling Limited 23

    Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru 29

    Tai Cymoedd i’r Arfordir 35

    Menter Fachwen 46

    Undeb Credyd Sir Drefaldwyn Robert Owen Cyfyngedig 55

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 5

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    1 Paratoi’r Cynllun Gweithredu1.1 Ym mis Mehefin 2005 fe gyhoeddwyd y Strategaeth Mentrau Cymdeithasol gyntaf

    ar gyfer Cymru. Ers hynny, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i llu o bartneriaid wedi bod yn cydweithio i wella’r amodau ar gyfer mentrau cymdeithasol presennol a newydd, yn seiliedig ar y Camau Gweithredu cytunedig. Mae Cyd-weithgor Mentrau Cymdeithasol, sy’n dwyn ynghyd swyddogion adrannol, asiantaethau cymorth arbenigol ac ymarferwyr mewn mentrau cymdeithasol, wedi bod yn cydlynu’r camau gweithredu ac yn olrhain cynnydd.

    1.2 Ym mis Ionawr 2008 fe gyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Y Trydydd Dimensiwn: Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol sy’n rhoi cyfarwyddyd clir o ran y modd y bydd yn ymgysylltu â’r trydydd sector dros y cyfnod sydd i ddod. Mae cyflymu’r datblygiadau o ran nifer, maint ac effaith y mentrau cymdeithasol yng Nghymru’n flaenoriaeth allweddol. Mae holl adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach wedi cael eu herio i adnabod cyfleoedd i fentrau cymdeithasol gystadlu er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus o safon uchel sy’n canolbwyntio ar y dinesydd - yn ogystal â manteision eraill megis creu cyfoeth yn lleol ac adfywio cymunedol, mewn ffyrdd cynhwysol a chynaliadwy.

    1.3 Mae agenda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymru’n Un - Rhaglen flaengar ar gyfer Llywodraethu Cymru, yn pwysleisio’r potensial i fentrau cymdeithasol ddiwallu amrywiaeth o anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

    1.4 Mae’r Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol hwn yn nodi sut y byddwn yn darparu amgylchedd lle gall mentrau cymdeithasol barhau i dyfu a rhoi cymorth i gyflawni’r ymrwymiadau yn Cymru’n Un. Mae’r ymrwymiadau hyn yn adleisio’r hyn a ragwelwyd yn Cymru: Economi yn Ffynnu mewn perthynas â photensial mentrau cymunedol i greu swyddi a hybu adfywio economaidd.

    1.5 Nod Llywodraeth Cynulliad Cymru yw ehangu a thyfu’r sector mentrau cymdeithasol ledled Cymru. Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn gyfle i adolygu, adnewyddu a diweddaru Strategaeth 2005 a’r Camau Gweithredu ynddi.

    Mae Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon Cyfyngedig yn bodoli ers dros 30 mlynedd ac yn cydweithio’n agos gyda’r gymuned i ddarparu nifer o gyfleusterau ar gyfer pobl o bob oedran. Mae’r Ganolfan yn rheoli tri adeilad cymunedol yn yr ardal ac yn ennill incwm amrywiol o osod unedau ar rent, clybiau i’r gymuned, cyfleusterau crèche, contractau a bod yn gartref i’r bartneriaeth Cymunedau’n Gyntaf. Mae ganddynt gyswllt â’r Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo ar gyfer eu cyfleuster crèche sy’n sensitif yn ddiwylliannol, ac mae ceiswyr lloches yn ei ddefnyddio wrth iddynt gael eu cyfweld. Mae’r prosiect peilot hwn yn unigryw o fewn y DU.

  • 6

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Mae’r ymarfer hwn wedi golygu casglu barnau a safbwyntiau ystod o gyfranwyr allweddol - entrepreneuriaid cymdeithasol blaenllaw, asiantaethau cymorth, darparwyr arian grant, rhwydweithiau, awdurdodau lleol ac adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae wedi arwain at lunio’r Cynllun Gweithredu newydd hwn gyda’i bwyslais ar weithredu ymarferol effeithiol a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

    1.6 Ym mis Tachwedd 2008, roedd hi’n ganrif a hanner ers marwolaeth Robert Owen, tad y mudiad cydweithredol. Mae ei waddol yn dal yn fyw mewn ystod o sefydliadau ac yn y cysyniad o fentrau busnes a berchenogir yn gymdeithasol, yn hytrach nag yn breifat. Yn 2008 hefyd dathlwyd trigeinfed pen-blwydd y GIG - sefydliad arall a ddeilliodd o weledigaeth Robert Owen ar gyfer cydweithio. Bu i Aneurin Bevan fodelu’r GIG ar y cynllun hunangymorth cymunedol a oedd yn cael ei redeg gan Gymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar, y bu’n aelod o’i phwyllgor yn y 1920au. Mae’r enghreifftiau ysbrydoledig hyn yn adlewyrchu awydd cynhenid yng Nghymru i gydweithio er lles pawb - dull seiliedig ar werthoedd y mae angen i ni ei harneisio’r un mor effeithiol heddiw.

    Sefydlwyd Syrcas Nofit State ym 1986 fel cwmni sy’n flaenllaw yn ei faes yng Nghymru. Mae ganddo ymrwymiad cryf i ymestyn ac ehangu cyfranogiad y gymuned yn y celfyddydau, i greu rhaglenni addysg a hyfforddiant ysbrydoledig ar gyfer cyfranogwyr yn y gymuned, pobl ifanc, ac artistiaid proffesiynol, ac i greu perfformiadau syrcas cyfoes o safon fyd-eang.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 7

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Dynamix Limited

    Sefydlwyd Dynamix Limited ym 1989 fel cwmni cyfyngedig a chwmni cydweithredol y gweithwyr yn Abertawe. Ei nod yw creu cymdeithas decach trwy ddatblygu sgiliau pobl ar gyfer cyfranogi, cynhwysiant, cydweithio, chwarae a menter. Mae Dynamix yn defnyddio dulliau creadigol a chyfranogol i archwilio materion difrifol mewn ffordd sy’n hwyl. Mae hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu’u sgiliau hunaneirioli, eu hunan-fri a’u hyder er mwyn cael eu hawliau yn ôl y diffiniadau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

    Mae gan Dynamix 18 aelod o staff sy’n ei alluogi i gynnig gwasanaethau ledled Cymru. Caiff y staff eu grymuso i berchenogi’r busnes, ac mae gan bob aelod o staff yr un faint o lais yn y modd y caiff y busnes ei redeg. Mae’r ethos cadarnhaol hwn mewn perthynas â chyflogaeth wedi arwain at gael y safon Buddsoddwyr Mewn Pobl yn ddiweddar.

    Mae Dynamix wedi bod yn gynaliadwy o safbwynt ariannol ers ei sefydlu ac mae’n darparu detholiad o wasanaethau gan gynnwys: hyfforddiant pwrpasol, ymgynghori, hwyluso a chyhoeddiadau, yn ogystal â datblygu cyrsiau safonedig i’w cyflwyno ar raddfa eang. Mae Dynamix wedi gwneud gwaith i Garchardai EM, ysgolion cynradd ac uwchradd, Gŵyl Glastonbury, cynlluniau chwarae, prifysgolion, Llywodraeth Cynulliad Cymru, awdurdodau lleol ac amryw sefydliadau yn y trydydd sector.

    Mae Dynamix yn berchen ar ei adeilad ac yn defnyddio’r ased hwn i ddarparu cyrsiau hyfforddi mewnol yn ogystal ag is-osod gofod swyddfa i sefydliadau eraill yn y trydydd sector gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Y brif ffynhonnell incwm yw contractau, yn aml trwy awdurdodau lleol.

    Mae Dynamix yn gweithio’n galed i gyfrannu at adfywio’i gymuned leol nid yn unig trwy adnewyddu’i adeilad, ond hefyd trwy roi cymorth uniongyrchol i elusen leol, Circus Eruption, syrcas ieuenctid integredig gyntaf y DU. Mae hefyd yn gweithio gyda sefydliadau i gynyddu’u hymwybyddiaeth o sut y gallent weithio mewn ffordd fwy cynhwysol.

    Gweithwyr Dynamix yn defnyddio Pêl Ddaear i archwilio syniadau am gydweithio a chynhwysiant trwy gemau.

    Astudiaeth Achos

  • 8

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    2 Beth yw mentrau cymdeithasol a pham eu bod yn bwysig?

    2.1 Mae menter gymdeithasol yn ddull neu’n fodel busnes y gellir ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd er lles y gymdeithas. Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau a berchenogir yn gymdeithasol sy’n amcanu at wneud elw tra’u bod ar yr un pryd yn cyrraedd nodau cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol. Caiff eu helw hefyd ei ail-fuddsoddi er mwyn cyrraedd y nodau hyn.

    2.2 Mae’r diffiniad o’r Strategaeth Mentrau Cymdeithasol wreiddiol ar gyfer Cymru, 2005 yn dal yn gywir:

    Menter gymdeithasol yw busnes a chanddo amcanion sy’n bennaf yn rhai cymdeithasol ac y caiff ei wargedion eu hail-fuddsoddi’n bennaf yn y busnes neu yn y gymuned, yn hytrach na bod y busnes yn seiliedig ar yr angen i gynyddu’r elw i’r eithaf ar gyfer cyfranddalwyr a pherchenogion.

    2.3 Nid dim ond sefydliadau gwirfoddol neu elusennol sy’n cael eu rhedeg fel busnesau yw mentrau cymdeithasol cwbl ddatblygedig ac nid dim ond busnesau preifat a gaiff eu rhedeg mewn ffordd sy’n gyfrifol yn gymdeithasol mohonynt ychwaith. Maent yn sefydliadau sy’n ymroddedig yn anad dim i achosion cymdeithasol ac/neu amgylcheddol ac sy’n defnyddio dull busnes (h.y. gwerthu cynhyrchion neu wasanaethau a rhoi cyfrif am elw a cholled) er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl.

    2.4 Gellir dewis amrywiaeth o wahanol strwythurau cyfreithiol yn ôl yr hyn sy’n gweddu i bwrpas a gwerthoedd craidd y fenter, megis Cwmni Buddiannau Cymunedol, Cwmni Cyfyngedig drwy Warant, Elusen neu Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus. Mae’r Model Tai Cymunedol Cydfuddiannol a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig dewis ychwanegol ar gyfer perchenogaeth gydweithredol i gymdeithasau tai. Gall mentrau cymdeithasol hefyd fabwysiadu gwahanol fodelau sefydliadol anghyfreithiol megis cwmnïau cymdeithasol, ymddiriedolaethau datblygu, cwmnïau cydweithredol neu fentrau cymunedol (gweler Atodiad 1 am strwythurau a diffiniadau cyfreithiol).

    Gweledigaeth gyffredin

    2.5 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cydnabod mai entrepreneuriaid cymdeithasol sy’n gweithio’n galed i sefydlu a thyfu mentrau cymdeithasol, a hwythau’n cael eu sbarduno gan frwdfrydedd a gweledigaeth. Bydd y Cynllun Gweithredu hwn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth a chynyddu nifer y mentrau llwyddiannus y gall eraill ddysgu ganddynt.

    2.6 Er mwyn meithrin gweledigaeth gyffredin a all fod yn sail i gynllun gweithredu mae’n rhaid wrth beth dealltwriaeth am y cam y mae model y mentrau cymdeithasol wedi’i gyrraedd yn ei daith o arloesi i’r brif ffrwd. Serch ei wreiddiau hanesyddol yn y mudiad cydweithredol cynnar, mae model y mentrau cymdeithasol (ac eithrio’r mudiad cymdeithasau tai) yn dal mewn cyfnod cymharol

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 9

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    gynnar ar y gromlin arloesi a adnabuwyd yn gyntaf gan Everett Rogers ym 1963. Mae Ffigur 1 yn dynodi safle tebygol mentrau cymdeithasol yng Nghymru ar y gromlin. Mae Ffigur 1 hefyd yn dangos ble mae’r cynllun gweithredu hwn yn amcanu at eu gosod ymhen pedair neu bum mlynedd.

    2.7 Mae’r dadansoddiad hwn yn dangos potensial digyffwrdd anferth model y mentrau cymdeithasol, o ystyried faint o wasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd trwy’r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae’r ychydig eithriadau o ran busnesau braenaru sy’n seiliedig ar fodel y mentrau cymdeithasol yng Nghymru, megis Glas Cymru, Glofa’r Tŵr a Pack-IT yn dal i fod yn cynrychioli dull arloesol, er bod yna nifer o fentrau cymdeithasol newydd a rhai sy’n tyfu, fel y dengys yr astudiaethau achos yn y ddogfen hon.

    amrediad ar ôl y Cynllun Gweithredu

    Effaith y Cynllun Gweithredu

    amrediad ar hyn o bryd

    Arloeswyr

    Oedwyr16%

    MabwysiadwyrCynnar13.5%

    MwyafrifCynnar34%

    MwyafrifHwyr34%2.5%

    cymdeithasau tai yn ystod cyfnody Cynllun Gweithredu

    Effaith SATC

    Ffigur 1

  • 10

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    2.8 Mae Ffigur 2 yn ymgais i ddangos y llwybrau hyn i statws llawn fel menter gymdeithasol (h.y. bod dros hanner trosiant y sefydliad yn deillio o fasnach). Er bod rhai mentrau’n datblygu fel busnesau traddodiadol, mae nifer o fusnesau cymdeithasol posibl a newydd y mae angen eu hannog a’u helpu i ddal i symud yn y cyfeiriad cywir. Trwy roi cymorth i’r busnesau hyn nid yw’n gwneud synnwyr codi muriau rhwng y gwahanol gamau yn natblygiad menter. Mae angen i ni gael ein hysbrydoli gan yr arloeswyr a rhannu’r gwersi a ddysgwyd er mwyn i ni gynyddu’r stoc gyffredinol o fentrau cymdeithasol go iawn yng Nghymru.

    mynediad sefydliadau newydd eu creu sefydliadau y mae 50%o’u trosiant yn deillio o fasnachu

    mynediad sefydliadau newydd eu creu

    mynediad sefydliadau newydd eu creu

    mynediad sefydliadau newydd eu creu

    sefydliadau sy’n canfod y potensial i fasnachu

    sefydliadau gwirfoddol a chymunedol nad ydynt yn masnachu

    Ffigur 2

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 11

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    2.9 Yn olaf, mae hefyd o gymorth deall y berthynas rhwng mentrau cymdeithasol a’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Mae Ffigurau 3 a 4 yn dangos bod dibenion cymdeithasol y mentrau cymdeithasol, y berchenogaeth gymdeithasol arnynt a’r drefn lywodraethu gymdeithasol sy’n gysylltiedig â hwy’n eu gosod yn bendant yn y trydydd sector ehangach. Gall fod cysylltiad agos rhyngddynt a’r sector cyhoeddus pan fo’r dull o ddarparu gwasanaethau’n cael ei drawsnewid, megis gyda chreu cwmnïau tai cydfuddiannol newydd. Gall fod perthynas gref rhyngddynt a’r sector preifat hefyd pan geir ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

    Y Trydydd Sector

    sefydliadau gwirfoddol a chymunedol nad ydynt yn masnachu

    Y Sector Preifat Y Sector Cyhoeddus

    Cyfrifoldeb C

    ymdeithasol C

    orfforaethol

    Cwm

    nïau

    deilli

    o o’

    r Sec

    tor C

    yhoe

    ddus

    sefydliadau sy’n canfod y potensial i fasnachu

    50% o’u trosiant yndeillio o fasnachu

    Cyfrifoldeb C

    ymdeithasol C

    orfforaethol

    Ffigur 3

  • 12

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    YR

    E

    CO

    NO

    M

    I

    GY

    MD

    EI T H A S O L

    BYD-EANG

    CYMDOGAETH

    CynghorauCymuned

    MentrauCymunedol

    BusnesauCymdeithasol

    CorfforaethauAmlwladol

    BusnesauMawr

    BusnesauBach a

    Microfusnesau

    BusnesauBach a

    ChanoligAwdurdodau

    Lleol

    LlywodraethGenedlaethola Rhanbarthol Y

    Cenhedloedd Unedig

    Yr Undeb Ewropeaidd

    MudiadauGwirfoddolElusennauUndebau

    ElusennauRhyngwladol

    MudiadauGwirfoddol ac

    Elusennausy’n masnachu

    CENEDLAETHOL / RHANBARTHOL DOSBARTH / LLEOL

    ME

    NT

    RA

    U C

    YM

    DE I T H

    A S O L

    M U D I A D A U G W I R F O DD O L

    YR E

    CO

    NO

    MI

    DE

    UL

    UO

    LY R E C O

    N OM I

    HUN

    A

    NG

    YM

    OR

    TH

    YR

    ECO

    NOMI GYMUNEDOL

    C w mn ï a

    u Cy d w

    e i t hr e d

    o l y G w

    e i t hi w r

    C wm n ï

    a u C y d

    w e it h r e

    d o l y G

    w e it h i w

    r

    Yr Economi Lwyd

    Gwasgariad

    Ffurfiol

    Anffurfiol

    TeuluNiwclear

    CwmnïauMasnach Deg

    Banciau AmserSMCLI

    CwmnïauCydfuddiannol

    Economi GynlluniedigHeb fod yn masnachu

    Seiliedig ar y farchnadYn masnachu

    Yr Ail SystemGwasanaethau CyhoeddusDarpariaeth Gynlluniedig

    Y Drydedd SystemHunangymorthCydfuddiannol

    Diben Cymdeithasol

    Y System GyntafPreifat

    Â Gogwydd Tuag at Elw

    Tair System yr Economi

    CwmnïauCymdeithasol

    Clybiau

    Yr

    E

    co

    no

    mi

    D

    du

    Ffigur 4 Tair system yr economi Pearce, J. (2003) Social Enterprise in Anytown

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 13

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    2.10 Mae pob menter gymdeithasol yn ymdrechu i fod â llinell isaf ddwbl neu driphlyg trwy ddwyn manteision economaidd, cymdeithasol ac/neu amgylcheddol ar yr un pryd. Mae mentrau cymdeithasol yn aml yn ffynnu lle mae busnesau preifat yn wan, megis mewn ardaloedd o amddifadedd trefol neu arwahanrwydd gwledig, a gallant chwarae rhan allweddol mewn gwaith adfywio cymunedol. Gallant helpu i wneud gwasanaethau cyhoeddus a chymunedol yn fwy fforddiadwy a hygyrch, lledaenu ffyrdd newydd o weithio, paratoi pobl ar gyfer byd gwaith, hybu diogelwch cymunedol neu greu cyfoeth lleol mewn cymunedau sydd wedi’u hymyleiddio. Mae rhai enghreifftiau da yng Nghymru’n cynnwys Glas Cymru, Pack-IT a Chymdeithas Atal Troseddau Cwm Cynon.

    2.11 Mae angen i’n dadansoddiad hefyd fod yn ystyriol o’r amryw ffyrdd y gall mentrau cymdeithasol ddatblygu. Er enghraifft:

    • mae rhai’n ymddangos o ganlyniad i angen a adnabuwyd yn y gymuned leol ac yn dechrau chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o gynyddu’u hincwm megis trwy fasnachu neu gontractio fel a enghreifftir gan Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation ar dudalen 14

    • caiff rhai eu creu o’r cychwyn cyntaf fel busnesau traddodiadol sy’n seiliedig ar angen i wneud elw, ond gyda’r elw wedyn yn cael ei fuddsoddi yn ei ddiben cymdeithasol fel a enghreifftir gan Glas Cymru ar dudalen 16

    • mae eraill yn deillio o strategaethau adfywio, tai neu economaidd mawr ar lefel leol, ranbarthol neu ofodol fel a enghreifftir gan Cartrefi RCT ar dudalen 15.

    2.12 Mae’r mudiad cymdeithasau tai’n dangos sut y gellir prif-ffrydio model y mentrau cymunedol. Mae cyflwyno Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn ymestyn y ffiniau’n bellach byth o ganlyniad i greu cwmnïau cydfuddiannol i ddarparu tai cymunedol. Mae cysyniad SATC a Mwy yn cael ei ddefnyddio er mwyn canolbwyntio meddyliau a strategaethau buddsoddi mewn ffyrdd a fydd yn creu ac yn cadw cyfoeth lleol, yn cynyddu galluoedd (e.e. mentrau cymdeithasol newydd) ac yn helpu i adfywio cymunedau amddifadus.

    Mae grŵp Pack-IT, a sefydlwyd ym 1988, yn enghraifft o fenter gymdeithasol a chwmni cymdeithasol sy’n gystadleuol ac sydd â chanolbwynt masnachol yn mynd ar drywydd llinell isaf driphlyg. Mae’n darparu gwasanaeth cadw, dosbarthu a phostio mewn marchnad hynod gystadleuol. Mae tîm Pack-IT yn gymysgedd o bobl abl ac anabl sy’n chwarae rhan weithgar yn eu cymuned leol.

  • 14

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation

    Fe sefydlwyd Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation ym mis Ebrill 2000 gan y bobl leol i helpu i fynd i’r afael ag anghenion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd cydnabyddedig cymunedau yng Nghwm Garw. Fe sefydlwyd y mudiad gan grŵp o drigolion lleol ac mae bellach yn gwmni cyfyngedig drwy warant, yn elusen gofrestredig ac yn ymddiriedolaeth ddatblygu.

    Mae Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation wedi’i lleoli yn Neuadd y Gweithwyr ym Mlaengarw ac mae wedi gweithio am nifer o flynyddoedd i ddatblygu’r ased hwn er mwyn iddo allu cael ei ddefnyddio gan y gymuned. Mae’r gweithgareddau wedi cynyddu i gynnwys dysgu oedolion, clwb ar ôl ysgol a phrosiectau amgylcheddol. Mae Creation wedi ehangu’n ddiweddar ac mae bellach yn berchen ar gaffi cymunedol yn y pentref a gweithdy celfyddydau. Yn 2007 fe ddatblygodd berllan fel rhan o’i chynllun hirdymor i sefydlu menter bwyd iach a fydd yn cynnwys Cynllun Blychau o Fwyd Go Iawn - gwerthu cynnyrch a dyfwyd gan y gymuned ar gyfer y gymuned leol.

    Fe gyflwynodd Creation hefyd brosiect Canolfan Amser ym mis Mai 2004. Y prosiect hwn oedd y cyntaf o’i fath yn y DU - ac mae’n annog pobl leol i helpu yn y gymuned a derbyn credydau amser yn gyfnewid am hynny. Gellir gwario’r credydau hyn ar weithgareddau yn y Ganolfan ac yn fwy diweddar mae’r cynllun wedi cael ei ymestyn i gynnwys y siop goffi a’r dafarn leol. Mae Creation hefyd yn trafod telerau gyda lleoliadau a sefydliadau eraill yn y gymuned er mwyn archwilio’r posibiliadau o ran cyflwyno ethos y ganolfan amser ymhellach eto. Gall y pentrefwyr wario’u credydau amser yn y pentref ar ôl helpu i ddatblygu’r gymuned.

    Dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, mae Creation wedi derbyn arian grant o amrywiaeth o ffynonellau ond mae’n gweithio tuag at gynaliadwyedd ariannol trwy ymestyn ei ffrwd incwm i gynnwys taliadau mynediad, y caffi, contractau ar gyfer prosiectau amgylcheddol a chelfyddydol, gosod eiddo a mentrau bwyd.

    Mae Creation yn enghraifft werthfawr o fenter gymdeithasol sy’n datblygu o angen a adnabuwyd yn lleol ac sy’n parhau i weithio fel rhan annatod o’r gymuned. Rheolir Creation gan fwrdd gwirfoddol o ymddiriedolwyr yn y gymuned ac mae nifer o’r staff yn lleol. Mae Creation bellach yn cyflogi 12 aelod o staff llawn-amser a 12 aelod o staff rhan-amser.

    Carnifal Ymddiriedolaeth Ddatblygu Creation 2007.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 15

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Cartrefi RCT

    Fe sefydlwyd Cartrefi RCT, cwmni tai cymunedol cydfuddiannol, yn 2007 ac mae’n cyflogi 357 aelod o staff. Daeth yn landlord cymdeithasol cofrestredig ail fwyaf Cymru pan fu iddo, wrth gael ei sefydlu, ddod yn berchen ar bob un o’r 10,000 o gartrefi a oedd yn rhan o stoc dai Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a dod yn gyfrifol am eu rheoli. Mae Cartrefi RCT bellach yn berchen ar gartrefi ar fwy na 60 o ystadau tai ac mewn 27 o gynlluniau tai gwarchodol, ac yn eu rheoli.

    Mae Cartrefi RCT yn ymrwymedig i roi cymorth i adfywio a datblygu economaidd yn y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Er enghraifft, mae’n gweithio gyda sefydliadau eraill i ddatblygu hyfforddiant sgiliau lleol a chreu swyddi trwy gaffael llafur lleol.

    Mae gan Cartref RCT raglen gwerth £170 miliwn i wella cartrefi’i denantiaid dros y pum mlynedd nesaf fel eu bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Dyma fydd y rhaglen fwyaf o welliannau i gartrefi a welwyd yng Nghymru erioed. Bydd y rhaglen yn golygu gosod oddeutu 5,000 o geginau newydd, 4,000 o ystafelloedd ymolchi newydd a 6,000 o foeleri ynni-effeithlon. Bydd gwelliannau eraill yn cynnwys gwaith ail-weirio helaeth, gosod systemau gwres canolog newydd, gwell mesurau diogelwch a gwaith ar doeau, simneiau a waliau yn ogystal ag addewid i wario £1 miliwn y flwyddyn ar welliannau amgylcheddol.

    Dan y rheolau ar gyfer cwmni cymunedol cydfuddiannol, mae’r tenantiaid yn chwarae rhan weithredol yn y broses benderfynu. Mae pum tenant yn eistedd ar Fwrdd Cartrefi RCT ac fe chwaraeodd y tenantiaid ran allweddol yn y gwaith o ddyfarnu contractau sydd werth miliynau lawer o bunnoedd i wneud gwaith adnewyddu yn eu cartrefi.

    Yn hytrach na gwahodd contractwyr i dendro am y rhaglen gyflawn yn unig, cafodd y gwaith ei rannu’n dendrau ar wahân, gan alluogi busnesau lleol i gynnig am gontractau, a’u hennill, a hwythau’n cystadlu yn erbyn cwmnïau cenedlaethol. Mae hyn wedi arwain at greu 59 o swyddi newydd yn lleol yn y busnesau sy’n contractio. Yn ogystal, mae Cartrefi RCT wedi rhwymo’i brif gontractwyr i ddefnyddio cyflenwyr lleol ac mae hyn hefyd wedi creu 61 o swyddi newydd gyda chyflenwyr lleol.

    Mae Cartrefi RCT wedi bod yn gweithio gyda’r fenter JobMatch ym Mlaenau’r Cymoedd a Manpower - darparwr y Fargen Newydd yn Rhondda Cynon Taf - i gynyddu i’r eithaf yr effaith y bydd y cyfleoedd newydd o ran swyddi a hyfforddiant yn ei chael ar y sefyllfa gyflogaeth yn lleol. Mae Cartrefi RCT ei hun hefyd wedi creu 53 o swyddi newydd yn Rhondda Cynon Taf ers iddo gychwyn ei weithrediadau ddiwedd y llynedd.

    Ffotograff o lansiad Cartrefi RCT ym mis Rhagfyr 2007.

  • 16

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Astudiaeth achos

    Glas Cymru

    Mae Glas Cymru’n gwmni a ffurfiwyd yn 2001 gydag un diben, i berchenogi, ariannu a rheoli Dŵr Cymru. Mae’n gwmni cyfyngedig drwy warant a chan nad oes cyfranddalwyr ganddo, caiff unrhyw wargedion eu cadw er budd cwsmeriaid Dŵr Cymru. Dŵr Cymru yw’r chweched mwyaf o’r deg cwmni dŵr a charthffosiaeth rheoledig yng Nghymru a Lloegr. Mae’n gyfrifol am ddarparu cyflenwad parhaus o ddŵr yfed uchel ei ansawdd ar gyfer tair miliwn o bobl ac am symud ymaith a thrin y dŵr gwastraff a gaiff ei greu a’i waredu mewn ffordd briodol.

    Mae’r arbedion effeithlonrwydd a gafwyd hyd yma o ganlyniad i’r trefniadau ariannu wedi bod yn cael eu defnyddio’n bennaf i ddatblygu cronfeydd wrth gefn i warchod Dŵr Cymru a’i gwsmeriaid rhag unrhyw gostau annisgwyl a hefyd i wella ansawdd credyd y cwmni fel y gellir cadw costau ariannu Dŵr Cymru mor isel â phosib yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae’r arbedion hyn hefyd wedi ariannu peth buddsoddiad dewisol ychwanegol mewn gwelliannau i’r gwasanaethau ac yn y difidend blynyddol i gwsmeriaid.

    Fel rhan o raglen buddsoddi’r cwmni, cafodd prosiect ei ariannu ar y cyd gan Dŵr Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin gyda £1 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddarparu ar ffurf grant Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Roedd y prosiect yn fuddsoddiad gwerth £3 miliwn i uwchraddio’r gwaith trin dŵr gwastraff yn Cross Hands ac mae hyn wedi ei gwneud yn bosibl cael datblygiadau busnes a phreswyl pellach yn yr ardal ac wedi hybu’r economi leol.

    Mae Dŵr Cymru hefyd yn un o gefnogwyr WaterAid, yr unig elusen fawr yn y DU sydd wedi’i neilltuo’n benodol i ddarparu dŵr cartref diogel, rhwydweithiau carthffosiaeth ac addysg hylendid ar gyfer pobl dlotaf y byd. Mae gan Dŵr Cymru rwydwaith o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn codi ymwybyddiaeth am yr elusen a’i gwaith ledled cymunedau lleol.

    Ym mis Medi 2007, enillodd y cwmni Wobr Busnes yn y Gymuned am ei ymrwymiad hirdymor i gymorth addysgol ar gyfer y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

    Ffotograff o gasgliad Glas Cymru, ‘O’r tarddle i’r arfordir’. Darparwyd y ffotograff gan Stuart Bailes - enillydd bwrsariaeth Glas Cymru yn 2007.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 17

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    3 Mentrau cymdeithasol ym mholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru

    3.1 Gall mentrau cymdeithasol fod yn arbennig o effeithiol o ran mynd i’r afael â gwahaniaethu a hybu egwyddorion cyfle cyfartal. Mae agenda Cymru’n Un yn dadlau dros gymdeithas gyfiawn a theg lle hybir cymunedau cydlynol ac amrywiol a lle gall pobl deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ni waeth beth fo’u gallu corfforol, eu rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hil, eu cred, eu hiaith na’u hoedran. Ystyrir bod mentrau cymdeithasol yn gyfranwyr allweddol tuag at y gwaith o gyflawni’r agenda hon.

    3.2 Gall dull y mentrau cymdeithasol ategu nifer o feysydd gweithredu strategol Llywodraeth Cynulliad Cymru, er enghraifft:

    • Dyfodol Teg i’n Plant. Mae diffyg gwaith yn un o’r prif ffactorau sy’n achosi’r risg o dlodi ymhlith plant ac mae gan fentrau cymdeithasol ledled Cymru ran allweddol i’w chwarae o ran cyfrannu at yr agenda bwysig hon.

    • Cynllun i Ychwanegu Gwerth. Mae’r strategaeth hon ar gyfer cymorth gan y trydydd sector i iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod y rhan bwysig a chwaraeir gan fentrau cymdeithasol ac yn dadlau dros fuddsoddi mwy ynddynt.

    • Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol. Mae’r strategaeth hon ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru’n pwyso am bartneriaeth gryfach gyda’r trydydd sector a chomisiynu gwasanaethau y gallai mentrau cymdeithasol eu darparu.

    • Cynllun Oes. Dyma weledigaeth Cymru ar gyfer trawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol dros y deng mlynedd nesaf. Ei nod yw newid cydbwysedd y gwasanaethau gan roi mwy o bwyslais ar ddarpariaeth gymunedol, gofal iechyd ataliol a gwella perfformiad, ac fe allai mentrau cymdeithasol o bosib fod o gymorth gyda phob un ohonynt.

    • Gweithredu’r Hawliau. Nod y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol hwn ar gyfer Gwasanaethau Plant, Pobl Ifanc a Mamolaeth yw datblygu plant a phobl ifanc fel dinasyddion gweithredol, gan wella’u gallu i ddeall a mynnu’u hawliau a chael llais.

    • Y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru. Fframwaith i sicrhau bod pobl, wrth iddynt fynd yn hŷn, yn gallu cynnal eu hiechyd, eu lles a’u hannibyniaeth am gyn hired â phosibl.

    • Datganiad ar Bolisi ac Arfer ar gyfer Oedolion ag Anabledd Dysgu. Mae hwn wedi’i fwriadu i sicrhau bod gan bobl ag anabledd dysgu’r hawl i batrwm byw cyffredin yn y gymuned, yr hawl i gael eu trin fel unigolion a’r hawl i help a chefnogaeth ychwanegol i wireddu’u potensial.

    • Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl yng Nghymru: Strategaeth ar gyfer Oedolion o Oedran Gweithio. Mae’r strategaeth hon yn seiliedig ar bedair egwyddor allweddol: mynediad teg yn ôl angen yr unigolyn; grymuso defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr i chwarae mwy o ran yn y broses o gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau; effeithiolrwydd ymyriadau i wella

  • 18

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    ansawdd bywyd a gostwng risg; ac effeithlonrwydd o ran y modd y defnyddir yr adnoddau.

    • Y Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid. Mae hon yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer dyfodol llewyrchus sy’n rhydd rhag hiliaeth a gwahaniaethu, lle caiff pawb ei alluogi i gyflawni’i botensial, a lle mae pawb yn cael mynediad teg a chyfartal at wasanaethau ac yn cyfranogi’n llawn ym mywyd gwleidyddol a dinesig y wlad.

    • Mae Pawb yn Cyfrif. Dyma’r strategaeth gyntaf erioed yng Nghymru ar gyfer cynhwysiant ariannol ac mae i fod i gael ei chyhoeddi yn 2009. Mae’n cydnabod bod pobl ar incwm isel yn debygol o ddioddef problemau dyledion mewn modd anghymesur. Gall mentrau cymdeithasol a gynlluniwyd mewn modd ystyriol, megis undebau credyd, helpu pobl i ddygymod ar gyllidebau eithriadol o dynn.

    • Iaith Pawb. Mae cynllun gweithredu cyfredol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y Gymraeg yn hyrwyddo’r Gymraeg. Nod Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru yw sicrhau bod Cymraeg a Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal. Mae’r ddau’n cynnwys ymrwymiadau mewn perthynas â phrif-ffrydio’r Gymraeg yn holl bolisïau a mentrau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

    Mae Iaith Pawb yn cydnabod pa mor bwysig i ddyfodol cymunedau Cymraeg yw hybu cymunedau sy’n gynaliadwy o safbwynt economaidd a chymdeithasol. Mae’r Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol hwn yn gosod disgwyliad ar fentrau cymdeithasol ac asiantaethau cymorth i sicrhau bod materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg yn cael eu prif-ffrydio yn eu gweithgareddau.

    • Cynllun Gweithredu’r Strategaeth Amgylcheddol. Mae’r strategaeth hon yn cynnig gweledigaeth ar gyfer yr amgylchedd yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf er mwyn cael amgylchedd sy’n lân, yn iach, yn amrywiol yn fiolegol ac yn cael ei werthfawrogi gan bobl Cymru.

    Mae Rounded Developments Enterprises Limited yn fenter gymdeithasol a sefydlwyd yn 2002 i hybu datblygu cynaliadwy. Mae’r ffotograff yn dangos digwyddiad diweddar fel rhan o brosiect Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Caerdydd ar gyfer Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig. Bu i’r prosiect llwyddiannus hwn ar gyfer pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy’n anweithgar yn economaidd yng Nghaerdydd ddarparu cwrs pythefnos o hyd ar adeiladu cynaliadwy a hwnnw’n arwain at dystysgrif City and Guilds.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 19

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Mentrau cymdeithasol a datblygu gwledig

    3.3 Mae mentrau cymdeithasol yn cyflawni rôl werthfawr o safbwynt helpu i ddatblygu cymunedau gwledig trwy: ddarparu gwasanaethau cyhoeddus megis cynlluniau cludiant cymunedol; darparu gofal cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar y dinesydd; gwasanaethau adwerthu; gwasanaethau hamdden a gwasanaethau lluosog a ddarperir yn aml mewn siop bentref; a thrwy alluogi cymunedau gwledig i gael mwy o lais yn eu datblygiad yn y dyfodol. Gallant hefyd chwarae rhan allweddol o safbwynt adeiladu asedau cymunedol.

    3.4 Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn cydnabod y gall mentrau cymdeithasol newydd a datblygol mewn ardaloedd gwledig fod yn gweithio mewn ffordd wahanol i fentrau tebyg mewn ardaloedd trefol ac y gall fod arnynt angen gwahanol lefelau o gymorth. Cynllun Datblygu Gwledig Cymru yw’r mecanwaith y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei ddefnyddio i gyflawni’r gweithgareddau dan Reoliad Datblygu Gwledig yr UE (EU 1698/2005). Echelau 3 a 4 y Rheoliad hwn sy’n cynnwys y mesurau sy’n berthnasol i fentrau cymdeithasol (Gweler http://europa.eu/scadplus/leg/en/lvb/l60032.htm i gael mwy o wybodaeth).

    Mae Traws-Newid yn fenter gymdeithasol a sefydlwyd ym 1998 gyda golwg ar wella’r agweddau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ar gymuned Trawsfynydd. Mae’r fenter gymdeithasol ysbrydoledig hon wedi adfywio sawl agwedd ar yr ardal leol yn ogystal â chynyddu masnach trwy ddatblygu hostel, Llys Ednowain, sydd erbyn hyn yn cynnwys canolfan dreftadaeth a stiwdio ar gyfer artistiaid lleol.

  • 20

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Rhaglen y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol

    Sefydlwyd Rhaglen y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol yn 2004 â grant o Gronfa Anghydraddoldebau Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Nod y Rhaglen yn wreiddiol oedd sefydlu 26 o gydweithfeydd bwyd cynaliadwy yn ne-ddwyrain a gogledd Cymru i gyflenwi cymunedau difreintiedig â ffrwythau a llysiau fforddiadwy o ansawdd da, a’r rheini, hyd y gellir, wedi’u cynhyrchu’n lleol. Aeth y rhaglen y tu hwnt i’w thargedau a sefydlu 77 o gydweithfeydd bwyd yn y ddwy flynedd gyntaf.

    Mae Rhaglen y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol wedi’i bwriadu i ddatblygu a chyflwyno arferion cynaliadwy er mwyn gwella iechyd trwy weithredu ar y cyd, ac mae’n cyfarwyddo ymdrechion ar lefel leol sy’n cysylltu ffermwyr â defnyddwyr. Mae’r cydweithfeydd bwyd yn gweithio trwy gysylltu’r gwirfoddolwyr lleol sy’n eu rhedeg â chyflenwr lleol, sy’n dyfwr llysiau a ffrwythau ac/neu’n gyfanwerthwr lleol. Cytunir ar system talu a danfon syml sy’n galluogi’r gwirfoddolwyr i archebu swm o ffrwythau a llysiau a thalu amdanynt yn wythnosol pan gânt eu danfon, gyda swm y cynnyrch a archebir yn cyfateb i werth yr arian y maent wedi’i gasglu gan gwsmeriaid. Wedyn bydd y gwirfoddolwyr yn rhannu’r cynnyrch rhwng yr un nifer o fagiau ag y mae’r cwsmeriaid wedi talu amdanynt ymlaen llaw a bydd y cwsmeriaid wedyn yn casglu’u ffrwythau a’u llysiau mewn lleoliad y cytunwyd arno ac yn archebu cynnyrch (a thalu amdano) ar gyfer yr wythnos ganlynol.

    Hyd yn hyn mae 162 o gydweithfeydd bwyd wedi cael eu sefydlu gan y Rhaglen. Maent yn darparu ffrwythau a llysiau ar gyfer tua 6,000 o deuluoedd, ac mae tua 800 o wirfoddolwyr yn gweithio iddynt. Tua £1 miliwn yw trosiant blynyddol y cydweithfeydd bwyd. Ar hyn o bryd mae 3 thyfwr, 10 adwerthwr, 8 cyfanwerthwr ac 1 fenter gymdeithasol yn cyflenwi’r cydweithfeydd bwyd. Caiff yr adwerthwyr a’r cyfanwerthwyr eu dewis ar yr amod eu bod yn darparu cymaint o gynnyrch lleol â phosib.

    Yn 2006 fe enillodd Rhaglen y Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol wobr gan Sefydliad Iechyd y Byd am wrthweithio gordewdra o ganlyniad i’w gweithgareddau i hyrwyddo ffrwythau a llysiau, gan ganolbwyntio ar gwsmeriaid agored i niwed.

    Ffotograff yn dangos Cydweithfa Fwyd Ysgol Gynradd Catwg yn dathlu’i diwrnod Ymwybyddiaeth o Iechyd.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 21

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Mentrau cymdeithasol a datblygu cynaliadwy

    3.5 Mae model y mentrau cymdeithasol yn ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae’n esgor ar ddatrysiadau arloesol sy’n creu cyfoeth mewn ffordd deg, gynhwysol a chynaliadwy mewn economi sy’n fwyfwy byd-eang. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n un o’r ychydig weinyddiaethau yn y byd y mae datblygu cynaliadwy wedi’i nodi fel egwyddor greiddiol yn eu statudau. Mae’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy newydd, Un Gymru: Un Blaned, yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Mae’n ategu agenda Cymru’n Un trwy nodi sut y bydd yn creu cyfiawnder cymdeithasol o ran bod Cymru’n peidio â defnyddio mwy na’i chyfran deg o adnoddau’r ddaear. Mae’r ymrwymiad cryf yng Nghymru i hybu datblygu cynaliadwy’n dangos y rôl bwysig sydd gan fentrau cymdeithasol i’w chwarae o ran diwallu anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ac o ran cyfrannu’n gadarnhaol tuag at gyfoeth a lles yn awr ac yn y dyfodol.

    3.6 Fe gefnogodd Llywodraeth Cynulliad Cymru’r ymgyrch, a arweiniwyd gan Fforwm Masnach Deg Cymru, i wneud Cymru’n Genedl Masnach Deg. Ym mis Mehefin 2008, enillodd Cymru’r statws hwn trwy ddod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd. Fel rhan o’r ymrwymiad i Fasnach Deg, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ariannu Canolfan Cydweithredol Cymru i weithio gyda busnesau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, i fabwysiadu cynhyrchion Masnach Deg. Ym mis Hydref 2008 fe gyhoeddodd cwmni Trenau Arriva Cymru ei fod yn mynd i newid i werthu te, coffi, siocled twym a siwgr masnach deg ar bob un o’i wasanaethau o ganlyniad i’r Prosiect Masnach Deg ar gyfer Busnesau gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

    3.7 Mae Rhaglen Cymru o Blaid Affrica’n fenter gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi cymorth ac anogaeth i fwy o bobl yng Nghymru gymryd camau gweithredu effeithiol o blaid datblygu rhyngwladol. Nod y Rhaglen yw gwneud cyfraniad nodedig ar ran Cymru tuag at gyflawni Amcanion Datblygu’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer y Mileniwm, a hefyd fod o fudd i Gymru. Un o’r mentrau allweddol sy’n cael eu hariannu gan y rhaglen Cymru o Blaid Affrica yw’r Prosiect Cymunedau Seren Aur - sy’n cysylltu cymunedau yng Nghymru â chymunedau yn Affrica ar gyfer cyd-ddatblygu, cyfeillgarwch a chyd-ddysgu. Mae’r Prosiect hwn wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn ddiweddar o ran hybu mentrau cymdeithasol yn Affrica.

    Mae Talybont ar Wysg yn gartref i’r cynllun trydan-dŵr cymunedol cyntaf yng Nghymru. Caiff arian a geir trwy werthu trydan ei ail-fuddsoddi yn y gymuned i roi cymorth i gynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy. Mae’r cynlluniau hyn yn helpu i leihau tlodi tanwydd a rhoi cymorth gydag ymgais Talybont ar Wysg i fod y gymuned gyntaf yng Nghymru sy’n niwtral o ran carbon.

  • 22

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Menter gymdeithasol yn Uganda

    Mae priodasau yn Uganda’n achlysuron drud i deuluoedd. Gall priodas fawr achosi i deulu fod mewn dyled am oes.

    Mae’r Ymddiriedolaeth Rhwydweithio Tramor rhwng Partneriaethau (PONT) yn gyswllt cymunedol rhwng Rhondda Cynon Taf a Mbale yn Uganda. Enillodd Seren Aur y Cenhedloedd Unedig yn ddiweddar am ymdrechion i ddwyn heddwch a llewyrch trwy ddatblygu cyfeillgarwch hirsefydlog rhwng y ddwy wlad. Cyflwynwyd y wobr gan Brif Weinidog Cymru ac Eiriolwr y Cenhedloedd Unedig yn Erbyn Tlodi, Edith Wakumire o Uganda, yn yr Eisteddfod ym mis Awst 2008 ar ran y Prosiect Cymunedau Seren Aur a gymeradwyir gan y Cenhedloedd Unedig er mwyn cydnabod effaith eu gwaith. Mae’r cyswllt rhwng y partneriaethau’n cynnwys pobl leol, yr awdurdod lleol, y brifysgol leol, y bwrdd iechyd lleol ac eraill.

    Mae’r cymorth a roddir gan PONT yn Mbale wedi arwain at ddatblygu menter gymdeithasol i ddarparu gwisgoedd priodas gyda chymorth y corff anllywodraethol lleol. Mae PONT, gyda chymorth y gymuned leol, wedi cyflwyno nifer o wisgoedd priodas yn rhodd i Mbale lle mae wedi sefydlu siop llogi gwisgoedd. Mae canlyniadau’r fenter gymdeithasol ysbrydoledig hon yn golygu bod teuluoedd yn gallu llogi gwisg briodas am ffracsiwn o’r gost, neu gellir darparu’r gwisgoedd yn rhad ac am ddim i deuluoedd nad ydynt yn gallu talu. Mae’r siop yn creu swyddi ac mae’r elw’n helpu gwragedd gweddw a phlant amddifad lleol.

    Ffotograff yn dangos y detholiad o wisgoedd priodas.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 23

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Astudiaeth Achos

    Wastesavers Recycling Limited

    Mae Wastesavers Charitable Trust Limited yn elusen a chanddi is-gwmni o’r enw Wastesavers Recycling Limited sy’n cyfamodi i roi ei holl elw i’r ymddiriedolaeth elusennol.

    Mae Wastesavers Recycling Limited (Wastesavers) yn bennaf yn rhedeg gwasanaeth i gasglu gwastraff y gellir ei ailgylchu oddi ar ymyl y palmant mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd yn ogystal â gweithredu gwasanaethau ailgylchu ar gyfer busnesau ar hyd a lled de-ddwyrain Cymru. Mae hefyd yn cynnal prosiectau hyfforddiant ac addysg a chynllun ailddefnyddio dodrefn.

    Dechreuodd Wastesavers ym 1986 fel grŵp buddiant amgylcheddol er mwyn hyrwyddo pwysigrwydd ailddefnyddio ac ailgylchu. Yn y 1990au fe ddechreuodd gasglu papurau newydd i’w hailgylchu ac mae bellach yn ailgylchu mwy na 12,000 o dunelli’r flwyddyn gan ddarparu gwasanaeth wythnosol ar gyfer trigolion Casnewydd i gasglu papur, caniau, poteli plastig, gwydr, tecstilau, ffonau symudol a chetris arlliwyddion oddi ar ymyl y palmant.

    Mae Wastesavers yn gweithredu llinell isaf driphlyg. Mae’n darparu un o’r cynlluniau sydd â’r gyfradd dargyfeirio uchaf a’r gost isaf yng Nghymru ar gyfer casglu defnyddiau i’w hailgylchu oddi ar ymyl y palmant. Mae’n creu incwm trwy gontractau gyda Chyngor Dinas Casnewydd i ddargyfeirio defnyddiau o safleoedd tirlenwi a thrwy werthu unrhyw ddefnyddiau a gesglir i’w hailgylchu. Mae Wastesavers yn annibynnol yn ariannol ac mae trosiant y cwmni bron yn £2 miliwn y flwyddyn a chaiff unrhyw elw ei ail fuddsoddi ar unwaith yn y cwmni a’i brosiectau.

    Mae ethos creiddiol Wastesavers yn seiliedig ar ymrwymiad i fudd amgylcheddol a gwelliant cymdeithasol, ac mae’n gweithio gyda’r bobl hynny sy’n aml ar ymylon cymdeithas. Defnyddir ailgylchu fel erfyn i weithio gyda phobl sy’n ddi-waith yn yr hirdymor, yn garcharorion hirdymor, yn wirfoddolwyr, yn bobl ifanc sydd wedi’u gwahardd o’r ysgol a phobl sydd ar brawf. Yn ychwanegol at hyn mae hefyd yn rhedeg prosiect dodrefn sy’n darparu dodrefn a ailddefnyddir ac sydd o ansawdd da ar gyfer pobl ar incwm isel a hynny am brisiau isel. Mae ei adran hyfforddiant yn gweithio i ddatblygu aelodau o staff, y mae gan nifer ohonynt lefelau rhifedd a llythrennedd isel. Mae Wastesavers yn cynnig

    gwasanaethau ailgylchu ledled De-ddwyrain Cymru.

  • 24

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    4 Cyflymu twf mentrau cymdeithasol yng Nghymru4.1 Mae nodau ac amcanion y Cynllun Gweithredu hwn yn dal i fod yr un fath â’r rhai

    yn y Strategaeth Mentrau Cymdeithasol ar gyfer Cymru, 2005. Mae’r nodau hyn yn cynnwys creu amgylchedd sy’n rhoi anogaeth i greu mentrau cymdeithasol newydd a sefydlu cymorth integredig a fydd yn helpu i greu mentrau cymdeithasol ffyniannus yng Nghymru (gweler Atodiad 2 am y nodau a’r amcanion yn llawn).

    Fodd bynnag, ers cyhoeddi’r strategaeth wreiddiol bu rhai newidiadau pwysig yn y trydydd sector, a datblygiadau yn economi Cymru a’r economi fyd-eang. Mae sbardunau newydd sydd wedi’u bwriadu i gyflymu twf y sector mentrau cymdeithasol yng Nghymru’n cynnwys:

    • gweithredu Y Trydydd Dimensiwn: Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol sy’n pwysleisio pwysigrwydd model y mentrau cymdeithasol fel dull a allai drawsnewid ac ychwanegu at y cyfraniad seiliedig ar linell isaf driphlyg a wneir gan y trydydd sector

    • twf cyflym mentrau cymdeithasol ledled y DU yn sgil ail don neu genhedlaeth o entrepreneuriaid/ymarferwyr cymdeithasol sydd wedi cael eu hysbrydoli gan lwyddiant neu yn sgil trosglwyddo ac efelychu syniadau/modelau/rhwydweithiau

    • amlygrwydd cynyddol mentrau cymdeithasol ac ymwybyddiaeth gynyddol ohonynt trwy wobrau ar lefel y DU/lefel ranbarthol a chylchgronau arbenigol, a sylw yn y wasg adfywio a’r wasg ariannol/economaidd brif ffrwd.

    4.2 Ffactorau eraill sy’n dwyn dylanwad cadarnhaol yw:

    Tai

    Mae’r ymgais i gyrraedd SATC Llywodraeth Cynulliad Cymru’n golygu y bydd oddeutu £3 biliwn yn cael ei fuddsoddi er mwyn uwchraddio’r holl eiddo sy’n perthyn i awdurdodau lleol a stociau a drosglwyddwyd erbyn 2012, ac y bydd angen £4 biliwn yn ychwanegol i gynnal y safon dros y 30 mlynedd nesaf. Bydd y buddsoddiad digynsail hwn yn cael ei wneud yn yr ardaloedd lle mae’r angen economaidd mwyaf, ac mae’n cynnig y cyfle i adfywio’r cymunedau hyn gan gyrraedd targedau Llywodraeth Cymru yn agenda Cymru’n Un ar gyfer gostyngiad o 3% yn yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o 2011 a chreu swyddi hirdymor.

    Mae’r cymdeithasau tai presennol a’r cwmnïau tai cydfuddiannol cymunedol sy’n cael eu ffurfio i gymryd cyfrifoldeb am stociau

    Mae gan nifer o glybiau rygbi yng Nghymru elfen sy’n ymwneud â menter gymdeithasol. Mae Undeb Rygbi Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn ystyried cynlluniau posibl lle byddai clybiau rygbi’n gweithredu fel canolfannau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned ac adfywio cymunedol a’r gweithgareddau hynny’n cynnwys mentrau cymdeithasol a rhannau eraill o’r trydydd sector.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 25

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    tai cyhoeddus a drosglwyddwyd ymhlith y mentrau cymdeithasol mwyaf a’r rhai â’r mwyaf o adnoddau sy’n weithredol yng Nghymru heddiw. Mae Activity and Accountability 2007, sef arolwg gan Cartrefi Cymunedol Cymru, yn dangos y rhan eang y mae’r sefydliadau yn ei chwarae mewn gweithgareddau adfywio, gan eu gwneud yn llawer mwy na landlordiaid cymdeithasol yn unig. Nid yn unig y mae’n debygol y bydd y mentrau tai a’r mentrau adfywio cymunedol hyn yn tyfu o ran eu nifer a’u maint, byddant hefyd yn ysgogi ac yn meithrin nifer o fentrau cymdeithasol eraill y byddant yn eu contractio i ddarparu gwasanaethau penodol a gwasanaethau a dargedir.

    Yn y sector tai â chymorth mae nifer cynyddol o ddarparwyr cymorth cysylltiedig â thai’n cydnabod y gall datblygiad mentrau cymdeithasol fod yn fodd i roi cymorth i bobl agored i niwed gael mynediad i, neu ddychwelyd i’r gweithle. Mae Cefnogi Pobl - Y Strategaeth Cymorth Cysylltiedig â Thai yn nodi mentrau cymdeithasol fel dull arloesol o hybu cyflogaeth ar gyfer pobl sydd wedi’u hallgáu’n gymdeithasol trwy ddigartrefedd.

    Trosglwyddo a datblygu asedau

    Bu i Making Assets Work, 2007 (Adolygiad Quirk) nodi’r potensial adfywiadol y mae trosglwyddo asedau cyhoeddus (e.e. neuaddau cymunedol, gweithdai, canolfannau cymdeithasol) i reolaeth a pherchenogaeth gymunedol yn gallu’i gynnig ar gyfer creu cymunedau ffyniannus a chynaliadwy. Daeth i’r casgliad bod ffactorau sy’n atal y math hwn o drosglwyddo’n ymwneud yn fwy â gwrthwynebiad pobl i newid a risgiau, nag ag unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol neu drefniadol. Erfyniodd ar awdurdodau lleol i fabwysiadu cynlluniau mwy craff ar gyfer rheoli asedau a strategaethau mwy gweithredol ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned.

    Cymunedau yn Gyntaf

    Mae cam nesaf y rhaglen flaenllaw Cymunedau yn Gyntaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru’n ceisio hyrwyddo atebion seiliedig ar fentrau cymdeithasol ar lefel leol, gan anelu at:

    “..grym a chyfoeth yn cael eu trosglwyddo i bobl yn ein cymunedau tlotaf yn arbennig. Felly rydym yn cydnabod bod angen cryfhau cynaliadwyedd sefydliadau cymunedol, cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a’r trydydd sector - sefydliadau sy’n helpu i rymuso pobl ac yn sicrhau eu bod yn cael dylanwad mwy uniongyrchol ar faterion sy’n wynebu eu cymunedau. [O ganlyniad] byddwn yn ceisio annog proses o drosglwyddo asedau i fentrau cymdeithasol, ymddiriedolaethau datblygu

    Mae Gwasanaeth Garddio Cwm Dulais yn rhan o Bartneriaeth Cwm Dulais - menter gymdeithasol sy’n gweithio er mwyn canfod datrysiadau i amddifadedd cymdeithasol ac economaidd yn yr ardal leol. Mae’r llun hwn yn dangos y cymorth a roddir i brosiect garddio cymunedol ar gyfer pobl ifanc.

  • 26

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    a sefydliadau cymunedol lle gellir gwneud hyn yn gynaliadwy.” (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2008. Dogfen ymgynghori ar gam nesaf y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf).

    Mae Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf wedi cyrraedd gwahanol gyfnodau yn eu datblygiad ac mae angen rhoi’r cyngor cywir i Bartneriaethau os byddant yn ystyried datblygu mentrau cymdeithasol. Fel rhan o’r cam nesaf, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n sicrhau bod y timau cynghori sy’n bodoli i roi cymorth i Bartneriaethau’n gallu cynnig yr arbenigedd angenrheidiol mewn perthynas â’r mater.

    Rhaglenni’r cronfeydd strwythurol

    Mae’r cylch newydd o raglenni’r cronfeydd strwythurol yn cynnig cyfle hanfodol i adfywio cymunedau mwyaf amddifadus Cymru, mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, gwella cludiant a helpu busnesau newydd a phresennol i dyfu. Caiff atebion sy’n seiliedig ar fentrau cymdeithasol eu nodi fel blaenoriaeth allweddol yn nifer o’r fframweithiau strategol. Dan y fframwaith strategol ar gyfer Datblygiad Economaidd Cymunedau bydd yr ymyraethau’n canolbwyntio ar y canlynol:

    • datblygu a rhoi cymorth i ffyrdd effeithiol o ymgysylltu â chymunedau lleol a datblygu rhwydweithiau lleol gyda’r nod o ganfod atebion lleol ar gyfer gweithgarwch adfywio

    • cynyddu cyfraniad economaidd y trydydd sector wrth ddarparu gwasanaethau lleol

    • cynyddu nifer, cynaliadwyedd a thwf mentrau cymdeithasol newydd a phresennol.

    Undebau credyd

    Mae undebau credyd erbyn hyn yn cael eu cydnabod yn gyffredinol fel sefydliadau sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i economïau lleol, trwy gyfrannu tuag at gynhwysiant ariannol a gallu ariannol. Mae ganddynt fantais ychwanegol o ran eu bod yn sicrhau bod yr arian y maent yn ei ddenu ac yn ei roi ar fenthyg yn cael ei gadw a’i ailgylchu’n lleol, yn hytrach na’i fod yn elw i gyfranddalwyr allanol. Mae nifer o undebau credyd yng Nghymru’n awyddus i roi cymorth i fusnesau lleol a mentrau cymdeithasol bychain a byddant yn rhoi benthyg arian i aelodau unigol at ddibenion busnes.

    Mae Trysorlys EM wedi cyhoeddi cynigion manwl am Orchymyn Diwygio Deddfwriaethol i newid y ddeddfwriaeth sy’n rheoli undebau credyd, cwmnïau cydweithredol a chymdeithasau diwydiannol a darbodus. Byddai hyn yn caniatáu i undebau credyd dderbyn cyrff corfforaethol yn aelodau o undebau credyd. Ar hyn o bryd ni all undebau credyd ond derbyn unigolion yn aelodau. Mae hyn yn rhwystr i gynhyrchiant a phroffidioldeb undebau credyd am y rheswm y gallai aelodaeth gorfforaethol ddwyn manteision economaidd a chymdeithasol i’r cyrff hynny, yn ogystal ag i’r undebau credyd eu hunain ac aelodau presennol undebau credyd. Disgwylir i’r cynigion hyn ddod i rym yn 2009.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 27

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Mae ymrwymiadau yn y ddogfen Cymru’n Un i ddatblygu ac ymestyn y ddarpariaeth o ran undebau credyd yng Nghymru trwy wneud y canlynol:

    • sefydlu undebau credyd fel mentrau cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru

    • sicrhau mynediad at undeb credyd i bob ysgol uwchradd yng Nghymru erbyn 2011

    • datblygu gallu undebau credyd i dderbyn taliadau i Gyfrifon Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant.

    Dirywiad mewn rhoddion cyhoeddus

    Mae rhoddion cyhoeddus a ffynonellau incwm traddodiadol eraill yn mynd trwy gyfnod o ddirywiad cymharol, ac mae hyn yn creu cymhelliant cryf i ystyried a allai rhai agweddau, os nad pob agwedd, ar weithgareddau sefydliad arbennig gael eu trawsnewid yn fenter gymdeithasol er mwyn cynnal ei wasanaethau craidd a’i fanteision cymdeithasol yn y tymor hirach.

    Mae cyllid gan y sector cyhoeddus ar ffurf grantiau a chontractau wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf ond mae pwysau ar wariant cyhoeddus yn golygu mai ychydig o gyfle sydd ar gyfer twf. Gallai hyn hefyd ennyn diddordeb y trydydd sector mewn mabwysiadu model y fenter gymdeithasol.

    Yn y sector preifat mae rhai cwmnïau’n mynd ar drywydd cyd-fentrau gyda sefydliadau yn y trydydd sector fel rhan o awydd y sector preifat i ddangos cyfrifoldeb cymdeithasol neu amgylcheddol. Un hwylusydd allweddol yw Busnes yn y Gymuned sy’n bodoli er mwyn herio a helpu cwmnïau i fynd ati’n barhaus i wella’u heffaith ar gymdeithas a’r amgylchedd. Mae’n cynnig rhyngwyneb gwerthfawr rhwng y sector preifat a’r trydydd sector, gan gynnig gwasanaethau a chymorth er lles y cyhoedd sydd o werth arbennig i fentrau cymdeithasol sy’n tyfu.

    4.3 Gan ystyried y llu o ddatblygiadau cadarnhaol a grybwyllwyd uchod a’r weledigaeth ar gyfer twf mentrau cymdeithasol yng Nghymru a nodwyd yn y bennod flaenorol, bu’n bosibl llunio Cynllun Gweithredu’n seiliedig ar dri phennawd deinamig.

    4.4 Yn gyntaf mae angen i ni ysbrydoli pobl a sefydliadau â nodweddion unigryw mentrau cymdeithasol, megis eu hagenda gref sy’n seiliedig ar werthoedd, eu hyblygrwydd mawr a’u gallu i ymateb i anghenion pobl, a grymoedd ysgogol pwerus y dull busnes sy’n gysylltiedig â hwy. Mae arnom angen eiriolwyr dros

    Mae The Wallich yn elusen digartrefedd â throsiant blynyddol o fwy na £6.6 miliwn. Fel modd i greu ffrydiau incwm annibynnol, fe ymgorfforodd The Wallich gangen fasnachu - The IKON Group Ltd, yn 2004. Mae gweithgareddau IKON yn cynnwys cwmni gwasanaeth TG (SFX Technology Ltd). Caiff y cwmni TG hwn ei berchenogi mewn partneriaeth gyfartal â chwmni yn y sector preifat sy’n dangos y potensial ar gyfer partneriaethau rhwng y sector preifat a’r sector gwirfoddol.

  • 28

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    fentrau cymdeithasol a phrosiectau a sefydliadau braenaru yn y maes, ac mae angen i ni wneud y dull hwn o ddiwallu anghenion pobl yn llawer mwy gweladwy ac yn un sy’n cael ei ddeall yn well. Pan fyddant yn wynebu her gymdeithasol, amgylcheddol neu gymunedol mae arnom angen i bobl feddwl tybed ai dull sy’n seiliedig ar fenter gymdeithasol fyddai’n cynnig y datrysiad gorau. Mae angen i ni hefyd ddangos sut y gall cyflogaeth trwy fenter gymdeithasol gynnig llwybr gyrfa sydd â chyflog da ac sy’n rhoi boddhad.

    4.5 Wedyn mae angen i ni drawsnewid y rôl y mae mentrau cymdeithasol yn ei chwarae yn economi Cymru trwy ymestyn yr ystod o gyfleoedd gwaith, creu datrysiadau busnes gwyrddach a dosbarthu’r cyfoeth yn fwy teg. Mae hyn yn golygu trawsnewid yr amgylchedd y mae mentrau cymdeithasol yn ymffurfio ac yn tyfu ynddo. Mae arnom angen i’r llu o wahanol sefydliadau a rhwydweithiau sy’n cynnig cyngor a chyllid gydweithio â’i gilydd mewn ffordd sy’n llawer mwy cysylltiedig, fel bod sefydliad sy’n dymuno trawsnewid y cyfan neu ran o’i weithgareddau’n fenter gymdeithasol yn gallu cael yr union gymorth y mae arno’i angen.

    4.6 Yn olaf mae angen i ni ryddhau mentrau cymdeithasol newydd a rhai sy’n tyfu rhag ystod o rwystrau a beichiau sy’n ffrwyno’u potensial ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys y broses caffael cyhoeddus y gall mentrau cymdeithasol heb unrhyw brofiad blaenorol ei chael yn gymhleth ac yn anodd i’w thrin a’i thrafod. Yn yr un modd, mae ceidwadaeth ac amharodrwydd i fentro’n atal y posibilrwydd o drosglwyddo asedau cymunedol sydd wedi’u hesgeuluso ac nas defnyddir ac a allai gael eu trawsnewid gan fentrau cymdeithasol dychmygus. Mae rhwystrau canfyddedig i’w cael wedyn o ran cymorth gwladwriaethol. Gall anawsterau wrth geisio cael cyllid a buddsoddiad hirdymor hefyd atal syniadau da rhag ffynnu, ac mae angen gwella ansawdd y cynigion busnes sy’n cael eu cyflwyno. Mae angen dileu, neu o leiaf leihau, pob un o’r rhwystrau hyn, er mwyn galluogi mentrau cymdeithasol i ffynnu yng Nghymru.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 29

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Astudiaeth Achos

    Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

    Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (GFGC) yn gwmni cofrestredig ac yn elusen yn Sir Gaerfyrddin. Fe sefydlwyd GFGC ym mis Gorffennaf 2004 i ddarparu cadwraeth, addysg ac i fod yn atyniad amgylcheddol i Gymru sy’n denu oddeutu 150,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

    Mae’r cwmni wedi gweithio’n ddiflino dros y blynyddoedd diwethaf i amrywiaethu’i ffrwd incwm a chynllunio ar gyfer bod yn gynaliadwy yn ariannol. Ar hyn o bryd, mae’n ennill tua 75% o’i incwm trwy fathau amrywiol o fasnach. Daw’r incwm uchaf o’r tâl mynediad a’r gwasanaeth arlwyo. Fodd bynnag, mae gweithgareddau masnachu eraill yn cynnwys siop roddion, gwerthu planhigion, lletygarwch corfforaethol a phriodasau, theatr a cherddoriaeth fyw yn ogystal â groto Siôn Corn a chynllun aelodaeth. Daw’r 25% sy’n weddill ar ffurf cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yr awdurdod lleol ac ystod o drefniadau ariannu a rhoddion eraill.

    Mae’r Ardd yn cydweithio’n dda gyda’r gymuned gan lwyddo i ddenu 200 o wirfoddolwyr. Mae’n rhoi lle i grŵp MENCAP rheolaidd sy’n mynd ati i weithio gyda’r tîm garddwriaethol. Mae hefyd yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu anffurfiol ac yn derbyn myfyrwyr garddwriaeth o Goleg Sir Gâr a nifer fechan o fyfyrwyr parhaol o bob rhan o Ewrop. Fel atyniad ysbrydoledig, mae GFGC yn croesawu 17,000 o ymwelwyr bob blwyddyn trwy ymweliadau addysgol ac yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu sy’n seiliedig ar gwricwla a rhai anffurfiol. Mae GFGC hefyd wedi sicrhau gwarchodfa natur newydd a fydd yn darparu’r safle ar gyfer hyfforddiant sgiliau gwledig a chefn gwlad. Yn ogystal â’r gwaith garddwriaethol, mae GFGC hefyd wedi cychwyn ar y broses o werthu cig organig yn uniongyrchol - gan ddefnyddio’i gyr o Wartheg Duon Cymreig a’i phraidd o ddefaid Cymreig. Caiff yr anifeiliaid eu defnyddio fel erfyn rheoli ar gyfer pori dethol yn y warchodfa natur.

    Mae GFGC, yn dilyn trafferthion cychwynnol am nifer o flynyddoedd, bellach ar fin cyrraedd ei llawn botensial fel sefydliad arwyddocaol yng Nghymru a gardd fotaneg o safon ryngwladol. Llun o’r Tŷ Gwydr Mawr yng Ngardd

    Fotaneg Genedlaethol Cymru. © Hawlfraint y Goron (2008) Croeso Cymru

  • 30

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    5 Ysbrydoli5.1 Mae camau gweithredu dan y pennawd hwn wedi’u bwriadu i wneud mentrau

    cymdeithasol yn fwy gweladwy ac i wneud y model hwn yn un sy’n cael ei ddeall yn fwy cyffredinol. Caiff hyn ei gyflawni gyda chymorth eiriolwyr dros fentrau cymdeithasol a phrosiectau a sefydliadau braenaru yn y maes, a chynhadledd bob dwy flynedd. Bydd ymgyrch cyfathrebu mawr hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn amlygu’r rhan y gall y genhedlaeth nesaf ei chwarae mewn mentrau cymdeithasol yn y dyfodol, gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion yn gynyddol yn hyrwyddo entrepreneuriaid cymdeithasol a mentrau cymdeithasol fel llwybr gyrfa yn y dyfodol.

    Eiriolwyr dros fentrau cymdeithasol

    5.2 Bydd Gweinidogion Cymru’n gweithio i sicrhau mwy o effaith ac integreiddio ar draws holl adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn hyrwyddo mentrau cymdeithasol a dylanwadu ar asiantaethau ac awdurdodau allanol.

    5.3 Bydd corff newydd, Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru (SEC Cymru), yn cael ei ffurfio i fynd ati mewn ffordd weithredol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol a chyflawni elfennau allweddol o’r Cynllun Gweithredu. Yn ogystal, bydd grŵp newydd, llai, Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Fentrau Cymdeithasol (SEMAG) yn disodli’r Cyd-weithgor Mentrau Cymdeithasol er mwyn rhoi cyngor uniongyrchol i Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn cyfarfodydd Gweinidogol (ceir mwy o wybodaeth am SEC Cymru ym Mhennod 6).

    5.4 Bydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, sy’n cynnwys aelod sy’n benodol yn cynrychioli buddiannau mentrau cymdeithasol a dau aelod o’r Rhwydwaith Mentrau Cymdeithasol (SEN Wales), yn hyrwyddo mentrau cymdeithasol fel rhan o’r camau gweithredu sy’n deillio o weithredu’r amcanion yn y Trydydd Dimensiwn. Mae gan y Cyngor Partneriaeth Busnes (BPC) hefyd ddau gynrychiolydd o SEN Wales. Bwriedir gofyn i’r Cyngor Partneriaeth Busnes ymateb i agweddau priodol ar y Cynllun Gweithredu hwn.

    Yn ogystal, bydd y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol hefyd yn sicrhau bod ei aelodau’n parhau i gydweithio er mwyn ystyried unrhyw agweddau priodol sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Gweithredu.

    Ffotograff o Tony Crocker (MBE) Rheolwr Gyfarwyddwr Track 2000 Yn 2008 fe drefnodd Llywodraeth Cynulliad Cymru (ar y cyd â Sefydliad Datblygu Fuping a’r Fenter Global Links) fod Tony yn cael cyllid er mwyn mynychu Cynhadledd Weithdy Ryngwladol yn China. Roedd y gynhadledd yn dwyn ynghyd arbenigwyr rhyngwladol ym maes mentrau cymdeithasol er mwyn helpu i ailadeiladu Talaith Sichuan yn dilyn y daeargryn enfawr a laddodd 60,000 o bobl ac a ddinistriodd 15 miliwn o gartrefi. Mae’r ffaith bod Llywodraeth y Cynulliad wedi darparu’r cyllid hwn yn brawf o’i hymrwymiad i ddatblygiad mentrau cymdeithasol yn rhyngwladol. Mae wedi golygu bod Tony wedi gallu rhannu’r gwersi a ddysgwyd, a’r modelau newydd o arfer gorau, â sefydliadau yn ôl yng Nghymru.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 31

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Cynyddu amlygrwydd mentrau cymdeithasol

    5.5 Bydd ymgyrch ymwybyddiaeth mawr yn cael ei gynnal er mwyn gwella dealltwriaeth am fentrau cymdeithasol yng Nghymru a’r rhan bwysig y maent yn ei chwarae o ran cryfhau cymunedau. Bydd yn defnyddio ystod o ddulliau cyfathrebu priodol i gyfleu negeseuon cyson i gynulleidfaoedd allweddol. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi comisiwn i SEC Cymru i baratoi, lansio a chynnal yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth hwn.

    Mae New Pathways yn Elusen gofrestredig sy’n darparu gwasanaethau ar gyfer dynion, menywod a phlant yr effeithiwyd arnynt gan drais neu gam-drin rhywiol. Mae gan yr Elusen hon gontractau gydag amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus i ddarparu nifer o wasanaethau unigryw ar gyfer eu cleientiaid.

    Camau Gweithredu:

    • Bydd Gweinidogion Cymru’n gweithio i sicrhau mwy o effaith ac integreiddio ar draws holl adrannau Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn hyrwyddo mentrau cymdeithasol a dylanwadu ar asiantaethau ac awdurdodau allanol.

    • Bydd sefydliad newydd, Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru (SEC Cymru), yn cael ei ffurfio i fynd ati mewn ffordd weithredol i hyrwyddo mentrau cymdeithasol a chyflawni elfennau allweddol o’r Cynllun Gweithredu.

    • Bydd grŵp newydd, sef Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Fentrau Cymdeithasol yn cael ei sefydlu i roi cyngor uniongyrchol i Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn cyfarfodydd Gweinidogol.

    • Bydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn hyrwyddo mentrau cymdeithasol fel rhan o weithredu Y Trydydd Dimensiwn: Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol.

    • Bydd y Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol a’r Cyngor Partneriaeth Busnes yn ymateb i agweddau priodol ar y Cynllun Gweithredu hwn.

  • 32

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Prosiectau a sefydliadau Braenaru ym maes mentrau cymdeithasol

    5.6 Bwriedir dod â’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o fentrau cymdeithasol yn fyw trwy rwydwaith o brosiectau a sefydliadau Braenaru. Er bod nifer o brosiectau a sefydliadau Braenaru o’r fath yn debygol o fod wedi hen ennill eu plwyf ac mewn sefyllfa i drosglwyddo’u dealltwriaeth a’u profiadau i eraill, gallant hefyd gynnwys mentrau arbrofol neu arloesol sy’n barod i weithredu fel enghreifftiau y gall eraill ddysgu ganddynt. Cyfrifoldeb y sefydliad newydd, SEC Cymru, fydd pennu prosiectau a sefydliadau Braenaru a diffinio amodau’r cynllun.

    Cynhadledd mentrau cymdeithasol bob dwy flynedd

    5.7 I ategu’r ymgyrch codi ymwybyddiaeth, bydd cynhadledd fawr yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ar gyfer mentrau cymdeithasol, gyda chyflwyniadau, arddangosfeydd a thrafodaethau a fydd yn tynnu ar brofiad yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y gynhadledd yn anelu at ddenu cynulleidfa eang o bobl, yn rhai a chanddynt ddiddordeb yn y dull sy’n seiliedig ar fenter gymdeithasol, ac yn rhai sydd eisoes yn defnyddio’r dull hwn. Bwriedir achub ar y cyfle i godi ymwybyddiaeth o ddatblygiadau cyffrous mewn rhannau eraill o’r DU, Ewrop a’r byd. Bydd gogwydd gref tuag at agweddau ymarferol yn y gynhadledd fel ei bod yn ymateb i wir anghenion a buddiannau’r bobl hynny sy’n creu ac yn tyfu mentrau cymdeithasol.

    Entrepreneuriaid cymdeithasol ifanc

    5.8 Mae’n hanfodol bod pobl ifanc yng Nghymru’n cael blas ar yr hyn y gall mentrau cymdeithasol ei wneud i’w helpu i ddatblygu a gwireddu’u dyheadau. Fel rhan o’r ymgyrch ymwybyddiaeth, bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ceisio hyrwyddo gweithgareddau a digwyddiadau y gall pobl ifanc gyfrannu atynt a dod yn rhan

    Camau Gweithredu:

    • Rhoi comisiwn i SEC Cymru i baratoi, lansio a chynnal ymgyrch mawr i godi ymwybyddiaeth.

    Camau Gweithredu:

    • Bydd SEC Cymru’n adnabod prosiectau a sefydliadau Braenaru ar gyfer mentrau cymdeithasol, ac yn trafod telerau eu cyfraniad fel enghreifftiau y gall eraill ddysgu ganddynt.

    Camau Gweithredu:

    • Rhoi comisiwn i SEC Cymru i drefnu cynhadledd fawr bob dwy flynedd ar fentrau cymdeithasol.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 33

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    ohonynt er mwyn deall mwy am fentrau cymdeithasol. Mae rhai ysgolion a cholegau eisoes yn gweithio tuag at y nod hwn a adnabuwyd yn Strategaeth Menter ac Entrepreneuriaeth Ieuenctid, 2004 trwy ddefnyddio’r rhaglen Dynamo.

    5.9 Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd yn annog ysgolion, colegau a phrifysgolion yn ogystal â mentrau cymdeithasol a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli i chwarae rhan weithredol yn yr Wythnos Fenter flynyddol ac yn enwedig Ddiwrnod Mentrau Cymdeithasol yn ystod yr wythnos hon.

    5.10 Bydd SEC Cymru’n cael comisiwn i fynd ati mewn ffordd weithredol i hyrwyddo entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru yn y cylchgrawn Trailblazers sydd ar gael trwy’r wefan Make Your Mark a Chynghrair Mentrau Cymdeithasol y DU yn ogystal ag annog cyfryngau eraill i roi sylw i’w straeon a lledaenu’r neges am yr hyn y gall pobl ifanc yng Nghymru ei gyflawni ar draws y byd i gyd.

    Mae’r rhaglen Dynamo’n ysgogi mentergarwch mewn ysgolion a cholegau gan roi cyfleoedd i bobl ifanc gael eu hysbrydoli gan entrepreneuriaid a datblygu’u sgiliau a’u hagweddau menter trwy ddeunyddiau dysgu ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Mae deunydd cwricwlwm Dynamo’n canolbwyntio ar hybu dull y mentrau cymdeithasol mewn ysgolion a cholegau trwy weithgareddau dysgu seiliedig-ar-brofiad. Fel rhan o Raglen Modelau Rôl Dynamo, defnyddir entrepreneuriaid cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o fentrau cymdeithasol trwy dynnu ar eu profiadau a’u cymhellion eu hunain.

    Nod Make Your Mark yw hybu ffyniant economaidd a chydlyniant cymdeithasol trwy gynyddu diwylliant menter ac ymddygiad entrepreneuraidd yn y DU.

    Mae Make your Mark am ysbrydoli pobl i fod â syniadau a gwneud i bethau ddigwydd trwy greu diwylliant sy’n rhoi cymorth a chydnabyddiaeth i

    entrepreneuriaid cymdeithasol. Gwna hyn trwy nifer o ymgyrchoedd gan gynnwys yr Wythnos Fenter.

    Mae Make Your Mark hefyd yn ymgyrchu dros roi cyfle i bobl ifanc hyd at 25 roi prawf ar eu syniadau ar gyfer busnesau cymdeithasol.

    Gallwch ddarllen mwy am Make Your Mark yn: www.makeyourmark.org.uk

  • 34

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    5.11 Caiff model y mentrau cymdeithasol ei hyrwyddo hefyd fel rhan o Lwybrau Dysgu 14-19 mewn ysgolion a cholegau. Un o’r chwe elfen allweddol o’r Llwybrau Dysgu 14-19 yw’r Craidd Dysgu, sy’n annog pobl ifanc mewn ffordd weithredol i gyfranogi mewn ystod eang o weithgareddau sy’n cynnwys sgiliau mentrau cymdeithasol mewn perthynas â’r gweithle a’r gymuned. Mae hyn yn annog pobl ifanc i werthfawrogi cyfleoedd sy’n dangos sut y gall mentrau ategu amcanion cymdeithasol nad ydynt yn llwyr seiliedig ar yr angen i gynyddu i’r eithaf yr elw ar gyfer cyfranddalwyr.

    5.12 Gall cyfranogiad cymunedol ddarparu profiad sy’n helpu pobl ifanc i ddeall beth yw bod yn ddinesydd a datblygu’u hunanymwybyddiaeth am fyw a chyfranogi’n effeithiol ac yn gyfrifol yn eu cymuned. Gall y profiad hwn fod yn rhan o graidd Bagloriaeth Cymru ac mae’n cynnwys:

    • codi arian i roi cymorth i eraill trwy sefydliadau elusennol

    • cynlluniau sy’n arwain at gymwysterau megis Gwobrau Dug Caeredin.

    5.13 Er y nodweddir poblogaeth ffermio Cymru wledig gan grŵp hŷn, mae polisïau wrthi’n cael eu datblygu i roi cymorth i bobl ifanc sefydlu busnesau yn y diwydiant. Mae pobl ifanc yn aml yn arloesol ac yn barod i gydweithio megis y rheini yng Nghydweithfa Cig Oen a Ffermwyr Ifanc Ceredigion.

    Ffotograff o Sion Jenkins o Gydweithfa Cig Oen a Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn gofalu am ei braidd. Mae’r grŵp arloesol hwn o ffermwyr ifanc wedi taro bargen unigryw i gyflenwi adwerthwr bwyd pwysig yng Nghymru â chig oen.

    Camau Gweithredu:

    • Hyrwyddo mentrau cymdeithasol ymhlith entrepreneuriaid ifanc trwy ymgyrch ymwybyddiaeth gan gynnwys Wythnos Fenter a Modelau Rôl Dynamo.

    • Bydd SEC Cymru’n hyrwyddo’r diwrnod mentrau cymdeithasol yn ystod yr Wythnos Fenter mewn ysgolion, colegau, prifysgolion a sefydliadau yn y trydydd sector fel rhan o’r ymgyrch ymwybyddiaeth.

    • Bydd SEC Cymru’n hyrwyddo llwyddiannau entrepreneuriaid ifanc lle y bo’n bosibl trwy achub ar gyfleoedd yn y cyfryngau megis y cylchgrawn Trailblazers.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 35

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Astudiaeth Achos

    Tai Cymoedd i’r Arfordir

    Cymoedd i’r Arfordir (V2C) ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr oedd y gymdeithas dai gyntaf yng Nghymru i gael ei sefydlu yn 2003 o ganlyniad i drosglwyddo stoc yn wirfoddol ar raddfa fawr gan awdurdod lleol.

    Mae’r gymdeithas ar hyn o bryd yn darparu gwasanaethau gwella, atgyweirio a rheoli ar gyfer dros 6,000 o gartrefi rhent. Ar ben hynny, mae’n darparu gwasanaethau ar gyfer dros 750 o ddeiliaid prydlesi ac yn rheoli portffolio o safleoedd masnachol. Mae’n cyflogi tua 220 aelod o staff.

    Mae corff llywodraethol a bwrdd rheolwyr V2C yn cynnwys tenantiaid etholedig ac aelodau annibynnol yn ogystal ag enwebeion o’r awdurdod lleol. Mae’n cael incwm o siopau, tir a gosod a gwerthu tai. Mae hefyd yn cynnig am gontractau tai cymdeithasol Llywodraeth Cynulliad Cymru.

    Mae V2C yn cydweithio gyda’r bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf i greu canolfannau cymunedol. Mae hefyd yn defnyddio mecanweithiau caffael sy’n gorfodi contractwyr i ddefnyddio llafur lleol. Mae’r system gaffael hon yn ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr roi canran o’u trosiant blynyddol o dan y contract ac/neu ddefnyddiau a llafur yn ôl er budd y gymuned.

    Mae V2C wedi datblygu dwy raglen sy’n ceisio trawsnewid amgylcheddau ystadau a chreu tir cyhoeddus mwy cynaliadwy. Mae’r Rhaglen Gwella Ystadau a’r Gronfa Gwella Cymdogaethau’n hybu gwelliannau ffisegol ac maent yn seiliedig ar ymgysylltu â chymunedau lleol er mwyn pennu blaenoriaethau ar gyfer ailddylunio strydweddau a thirweddau a’r defnydd o fannau agored cyhoeddus.

    Mae V2C hefyd yn buddsoddi’n gymdeithasol yn yr ardal. Fe helpodd i greu Canolfan Sgiliau Adeiladu Maesteg ac mae’n dal i roi cymorth iddi ddatblygu. Mae’r Ganolfan yn darparu hyfforddiant ar gyfer pobl leol yn y sgiliau y mae’u hangen i gael gwaith ym maes atgyweirio ac adnewyddu tai. Mae V2C a’i chadwyn gyflenwi’n darparu cyfleoedd ar gyfer lleoliadau gwaith yn ystod rhaglenni hyfforddiant ac maent wedi arwain rhai hyfforddeion i gyflogaeth lawn-amser.

    Derbyniodd V2C wobr Cadwch Gymru’n Daclus yn 2006 am ei gwaith yn y gymuned leol gan gynnwys amnestau sgipiau i atal tipio anghyfreithlon a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth gydag ysgolion lleol.

    Ffotograff o’r Felin Wyllt, ger Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr. Cyrhaeddwyd SATC trwy osod ffenestri newydd a phaentio’r tu allan i’r tai.

  • 36

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e gc r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    6 Trawsnewid6.1 Mae camau gweithredu dan y pennawd hwn wedi’u bwriadu i sbarduno

    newid mewn sefydliadau sydd â’r potensial i ddod yn fentrau cymdeithasol llwyddiannus, a newid o ran y ffordd y mae asiantaethau ac arianwyr yn gweithio i roi cymorth iddynt. Bwriedir hwyluso trefniadau rhwydweithio agosach a mentora a hyfforddiant gan gymheiriaid er mwyn cynyddu’r broses o gyfnewid syniadau a phrofiadau y gall pobl ddysgu ohonynt ac a all roi hyder i bobl.

    Cronfa wybodaeth mewn perthynas â mentrau cymdeithasol

    6.2 Mae ymarfer mapio mawr dros Gymru gyfan wedi cael ei gomisiynu er mwyn archwilio a dadansoddi ffyrdd y gallai Llywodraeth Cynulliad Cymru fynd ati’n fwy effeithiol i roi cymorth i’r trydydd sector ychwanegu gwerth a chanfod ble y byddai fwyaf defnyddiol iddi ganolbwyntio’i hymdrechion. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i sefydlu cronfa ddata a fydd yn ei gwneud yn bosibl deall yn well ym mha ffordd, ac i ba raddau, y mae gwahanol fodelau ar gyfer mentrau cymdeithasol yn cyfrannu at yr economi, lles cymdeithasol a’r amgylchedd.

    6.3 Bydd gwybodaeth o’r ymarfer mapio’n cael ei rhannu a bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ystyried sut orau i’w lledaenu.

    6.4 Bydd fframwaith monitro a gwerthuso’r Cynllun Gweithredu’n allweddol ar gyfer canfod a yw ei amcanion wedi cael eu cyflawni a phwyso a mesur ei effaith ar y mentrau cymdeithasol. Ar ben hynny, bydd yn chwarae rhan hanfodol o ran datblygu sylfaen dystiolaeth gref (a thrwy hynny ganfod bylchau o ran tystiolaeth) a chanfod meysydd y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt a goleuo polisïau a mentrau yn y dyfodol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas â datblygu mentrau cymdeithasol.

    Bydd y fframwaith monitro a gwerthuso’n cael ei ddatblygu a’i oruchwylio ar y cyd ag Uned Ymchwil a Gwybodaeth yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a

    Mae Celtic Community Leisure yn Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus a sefydlwyd yn 2003 i reoli cyfleusterau hamdden ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Mae’r fentrer gymdeithasol hon yn rheoli 9 canolfan hamdden, yn cyflogi 200 aelod o staff ac mae’i throsiant blynyddol yn £5.6 miliwn.

    Camau Gweithredu:

    • Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n defnyddio gwybodaeth o’r ymarfer i fapio mentrau cymdeithasol dros Gymru gyfan er mwyn cael dealltwriaeth well am weithgarwch y trydydd sector a bydd hefyd yn rhannu’r wybodaeth hon.

  • c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g 37

    Cynllun Gweithredu Mentrau Cymdeithasol Cymru

    c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g c r e u a r h a n n u c y f o e t h y n d e g

    Llywodraeth Leol, sydd wedi bod yn rhan o’r broses ers y cychwyn. Ar y cam cyntaf hwn, cynigir fel a ganlyn:

    • bydd y dull o fonitro a gwerthuso’n datblygu ochr yn ochr â’r broses o ddatblygu’r Cynllun Gweithredu a’i roi ar waith

    • gan hynny, efallai y bydd yn angenrheidiol cynnal ‘meta-adolygiad’ cyfnodol o’r fframwaith er mwyn sicrhau ei fod yn dal i fod â ffocws digonol ac yn addas ar gyfer y diben

    • bydd y fframwaith manwl o ddangosyddion a gweithgareddau gwerthuso’n cael ei ddatblygu dros y misoedd nesaf a bydd yn adeiladu ar waith ymchwil sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i fapio mentrau cymdeithasol yng Nghymru.

    Integreiddio gwasanaethau datblygu busnesau6.5 Mae nifer o asiantaethau, gwasanaethau ac arianwyr yn y trydydd sector a’r

    sector cyhoeddus, rhai ohonynt yn weddol arbenigol eu natur, sy’n mynd ati mewn ffordd weithredol i roi cymorth i ddatblygu mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Fodd bynnag, ychydig o’r rhain sy’n ddigon mawr neu sydd â digon o arbenigedd mewnol i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ledled Cymru gyfan.

    6.6 Mewn nifer o ffyrdd mae’r amrywiaeth hwn o ran y ddarpariaeth yn rhywbeth i’w groesawu gan ei fod yn arwain at gynnig ystod eang o wasanaethau cyffredinol, arbenigol a theilwredig a drefnir yn genedlaethol ac yn lleol. Serch hynny, mae’n hollbwysig sicrhau bod darparwyr yn cydweithio’n fwy effeithiol i sicrhau bod mentrau cymdeithasol yn cael y math priodol o gymorth pan fo arnynt ei angen. Bwriedir manteisio ar raglenni cronfeydd strwythurol newydd yr UE er mwyn hybu gwell cysylltedd ac integreiddio rhwng gwasanaethau sy’n rhoi cymorth datblygu busnes i fentrau cymdeithasol.

    6.7 Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n darparu’r math hwn o gymorth trwy Cymorth Hyblyg i Fusnes (FS4B). FS4B yw model newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer rhoi cymorth i fusnesau. Mae wedi’i fwriadu i helpu busnesau i gychwyn, tyfu a ffynnu. Mae’n mabwysiadu dull haenog a gwahaniaethol o ymgysylltu â busnesau, gyda chymorth yn cael ei deilwra fel ei fod yn gweddu i anghenion busnesau unigol. Caiff yr ymyraethau’u hwyluso gan reolwr perthynas-â-chwsmeriaid anffurfiol ac mae cymorth yn amodol ar brawf adenillion-ar-fuddsoddiadau. Bydd mentrau cymdeithasol yn gallu cael mynediad at gymorth priodol i fusnesau trwy’r gwasanaeth hwn ar unrhyw haen.

    Haen 1 cymorth sydd wedi’i neilltuo ac sy’n barhaus, cleientiaid sy’n ychwane