Upload
saxon
View
122
Download
0
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Dafydd ap Gwilym - ‘Yr Wylan ’. Amcanion Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu : Adnabod nodweddion cerdd llatai Trafod y dylanwadau a fu ar Dafydd ap Gwilym (I gyd yn gywir a heb gymorth ). Yr Wylan ( Rhan 1) Yr wylan deg ar lanw , dioer , - PowerPoint PPT Presentation
Citation preview
Dafydd ap Gwilym
-‘Yr Wylan’
Amcanion
Erbyn diwedd y wers hon byddwch yn gallu:
-Adnabod nodweddion cerdd llatai
-Trafod y dylanwadau a fu ar Dafydd ap Gwilym
(I gyd yn gywir a heb gymorth)
Yr Wylan (Rhan 1)
Yr wylan deg ar lanw, dioer,
Unlliw ag eiry neu wenlloer,
Dilwch yw dy degwch di,
Darn fal haul, dyrnfol heli.
Ysgafn ar don eigion wyd,
Esgudfalch edn bysgodfwyd.
Yngo'r aud wrth yr angor
Lawlaw â mi, lili môr.
Llythr unwaith lle'th ariannwyd,
Lleian ym mrig llanw môr wyd.
(Rhan 2)Cyweirglod bun, cai'r glod bell,
Cyrch ystum caer a chastell.
Edrych a welych, wylan,
Eigr o liw ar y gaer lân.
Dywaid fy ngeiriau dyun,
Dewised fi, dos hyd fun.
Byddai'i hun, beiddia'i hannerch,
Bydd fedrus wrth fwythus ferch
Er budd; dywaid na byddaf,
Fwynwas coeth, fyw onis caf.
(Rhan 2 parhad)
Ei charu'r wyf, gwbl nwyf nawdd,
Och wŷr, erioed ni charawdd
Na Merddin wenithfin iach,
Na Thaliesin ei thlysach.
Siprys dyn giprys dan gopr,
Rhagorbryd rhy gyweirbropr.
(Rhan 3)Och wylan, o chai weled
Grudd y ddyn lanaf o Gred,
Oni chaf fwynaf annerch,
Fy nihenydd fydd y ferch.
Dafydd ap Gwilym
www.dafyddapgwilym.net
Cynnwys Yr Wylan
Castell Cricieth
Castell Aberystwyth
Eigr
Enw mam y Brenin Arthur.
Un o ferched harddaf Prydain yn ôl Brut y Brenhinoedd.
Roedd Beirdd y Tywysogion yn aml yn cyfeirio ati.
Myrddin Cymeriad pwysig yn llenyddiaeth Cymru.
Cysylltiedig â’r hanesion am Arthur.
Bardd o’r 6ed ganrif.
Ymwybyddiaeth o’i gefndir barddol.
Awyddus i gadw cysylltiad â’r traddodiad hwnnw.
Myrddin yn adrodd ei farddoniaeth, o lyfr o Ffrainc o'r 13eg ganrif.
Taliesin•Bardd llys yn yr Hen Ogledd.
•6ed ganrif.
•Nifer o gyfeiriadau ato gan Feirdd y Tywysogion.
•Ymwybyddiaeth o gyfoeth y traddodiad barddol.
Tasg
Lluniwch grynodeb o gynnwys y cywydd hwn.
Gall fod ar ffurf siart lif.
Ydych chi’n cytuno â’ch partner?
Amser : 5 munud
Cywydd llatai
Bardd yn anfon yr wylan gyda neges serch at ei gariad.
Merch di-enw.Byw mewn tref lan-y-môr sydd gyda chastell.
D.J. Bowen = AberystwythAnthony Conran = Cricieth
Agor trwy ganmol yr wylan.Disgrifiad o’r ferch hefyd?
Ai Morfudd yw’r ferch?
Mynd ymlaen i ofyn wrth yr wylan ddwyn neges i’w gariad.
Cloi’r gerdd gyda chonfensiwn poblogaidd y canu serch y bydd y ferch yn achosi ei farwolaeth.
Beth ydy dyfalu?
Tasg
Mewn parau trefnwch y cardiau yn ôl y drefn y maent yn ymddangos yn y
cywydd.
Trefn:
1. 2.
3. 4.
5. 6.
Tasg
Nawr, rhowch y cardiau geirfa gyda’r lluniau cywir.
1. ‘eiry’ = eira
2. ‘gwenlloer’ = lleuad wen
3. ‘dyrnfol heli’ = maneg ddur
4. ‘lili môr’ = lili’r môr
5. ‘llythr’ = tudalen
6. ‘lleian’ = lleian mewn gwisg wen
Croen golau = harddwch yn yr Oesoedd Canol
Lliw haul = harddwch heddiw
Llun:www.flickr.co.uk
Cefndir Yr Wylan
Cywydd llatai
Llatai = negesydd serch
Anifail neu aderyn e.e. gwylan, ehedydd, carw
Anfonir gan y bardd gyda neges serch at ei gariadferch.
Pam dewis yr wylan fel llatai?
Cyflymder
Hedfan yn syth i’r man a ddynodwyd.
Symbol o brydferthwch y ferch. Pam?
Dylanwadau - Beirdd y Tywysogion
• Gwreiddiau’r confensiwn i’w darganfod yng ngwaith rhai o Feirdd y Tywysogion yn y 12fed a’r 13eg ganrif.
• Cynddelw Brydydd Mawr = gyrru march fel negesydd serch ar ei ran.
• NID OES enghraifft arall o adar neu anifeiliaid fel negesyddion serch yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr.
Dylanwadau – Y Trwbadwriaid
•Confensiwn tebyg yng ngwaith Trwbadwriaid Profens a Ffrainc hefyd.
•Ond, Eosiaid a anfonir ganddynt hwy fel rheol.
•Dim manylu hir a gorchestol fel a geir gan Dafydd chwaith.
Dylanwadau – Pedair Cainc Y Mabinogi
Chwedl Branwen ferch Llŷr
• Atgoffa o’r ddrudwy a yrrodd Branwen gyda llythyr i’w brawd yng Nghymru.
Tasg
Yn unigol, lluniwch siart bry cop gan gynnwys y penawdau y byddwch chi’n ei drafod am gefndir Yr Wylan a Dafydd ap
Gwilym.
Er enghraifft: Uchelwr
Cefndir Dafydd ap Gwilym
fl. 1340-1370
UchelwrCymeriad lliwgar
Geni: Brogynin, Llanbadarn Fawr
Bardd natur a serch
Teulu dylanwadol yn y Deheubarth.
Ewythr – Llywelyn ap Gwilym – Cwnstabl Castell Newydd Emlyn – Athro Barddol
28 copi mewn llawysgrifau e.e. Peniarth 49
Cywydd yn y person cyntaf – Dafydd yw’r carwr dioddefus
Lleoliad – D. J. Bowen yn awgrymu Castell Aberystwyth.Anthony Conran – Castell Cricieth
Cywydd llatai, serch a natur
Merch di-enw
Morfudd?
Morfudd =
•Un o brif gariadon Dafydd• Gwraig briod• Llysenw ei gŵr oedd ‘Y Bwa Bach’. • Byw ger Aberystwyth• Dod o deulu da• Gwallt golau ac aeliau tywyll ganddi• 80 o gerddi iddi
Y System Nawdd
Beirdd yr UchelwyrUchelwyr yn noddi’r beirdd ac
yn dechrau barddoni eu hunain Clera
1282 – Cwymp y Tywysogion
Diwedd nawdd Dosbarth newydd o dirfeddianwyr
Beirdd y Tywysogion
2 ganrif lewyrchus Tywysogion yn noddi’r beirdd
Datblygiad y Cywydd
Traethodl Cywydd
Dafydd ap Gwilym yn safoni’r mesur yma drwy osod cynghanedd ym mhob llinell.
Yr Wylan - Cerdd Serch• 4/5 o gerddi Dafydd yn ymwneud â serch a natur.
• Beirdd y Tywysogion:
- Awdlau serch Hywel ab Owain- Enghraifft dda o’r canu goddrychol yma yn llais y carwr dioddefus. - Dafydd yn gyfarwydd â cherddi Hywel ab Owain .
Yr Wylan – Serch Cwrtais
Perthynas rhwng y cerddi llatai â chysyniad Serch Cwrtais Cyfandirol:
• Anfon llatai – delwedd o’r ferch fel un anghyraeddadwy
• Dafydd – y carwr dioddefus
• Claf o gariad
Yr Wylan – cerdd natur
• Cerddi Ffrangeg alegoriol lle mae’r adar yn trafod pynciau serch ynddynt.
• Gramadeg Einion Offeiriad:Hen englynion sy’n cyfuno doethineb â disgrifiadau cryno o fyd natur. Hefyd, mae adar yn cael eu personoli i fod â nodweddion dynol ynddo yn union fel mae Dafydd yn ei wneud yn y cywydd hwn.
Yr Wylan – cerdd natur
•Natur yn mynd law yn llaw â serch.
•Cerdd llatai – creadur o fyd natur yn cynorthwyo Dafydd ar lwybr serch.
•Disgrifiad llachar o wynder yr Wylan – hefyd yn awgrymu rhinweddau’r ferch.
•Yr wylan yn ddelwedd adnabyddus am harddwch merch.
Yr Wylan – cerdd natur
Unigryw:
Yr hyn sy’n gwneud y cywydd hwn yn wahanol yw manylder synhwyrus Dafydd –
Disgrifiadau y mae a wnelont fwy â phrofiad a sylwgarwch y bardd nag ag unrhyw gonfensiwn llenyddol.
Camp Dafydd ap Gwilym
Soniodd Huw Meirion Edwards am allu Dafydd ap Gwilym i osod stamp ei bersonoliaeth ar yr holl ddylanwadau hyn gan greu, o ganlyniad, waith cwbl newydd a ffres:
“Pwysicach na phob dylanwad yw dychymyg ac egni creadigol cynhenid Dafydd, a’i galluogodd i drawsnewid yr hyn a glywodd ac a ddarllenodd ym mhair ei weledigaeth ef ei hun.”
Tasg
Yn eich grwpiau, paratowch gyflwyniad am gefndir Dafydd ap Gwilym a chywydd Yr
Wylan.
Defnyddiwch eich siart bry cop i’ch helpu.
Byddwch yn cyflwyno eich canfyddiadau i weddill y dosbarth.
Amser: 10 munud.
Tasg
Yn unigol, ysgrifennwch frawddeg agoriadol eich
traethawd ar gefndir Dafydd ap Gwilym a’r cywydd ‘Yr
Wylan’.
Gwaith Cartref:
Ysgrifennwch draethawd am gefndir Dafydd ap Gwilym a chywydd Yr Wylan gan ddefnyddio’r hyn a wnaethoch yn y
dosbarth heddiw fel sylfaen i’r gwaith.
Erbyn wythnos i heddiw.
Cefndir
1. Cywydd llatai + serch a natur
2. Lleoliad - Aberystwyth?/Cricieth?
3. Morfudd?
5. Bardd = - Pwy?- Beth?- Pryd?- Lle?
4. 28 copi mewn llawysgrif
6. System nawdd
7. Datblygiad y cywydd
8. Serch – Beirdd y Tywysogion
9. Serch – Y Trwbadawriaid
10. Serch Cwrtais
11. Branwen ferch Llŷr
12. Natur – cerddi Ffrengig
13. Natur – Gramadeg Einion Offeiriad
14. Unigryw