22
Ebrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013 " Mae Pawb yn Cyfri’ " Traddodir y ddarlith gan Yr Athro Gareth Ff. Roberts yn Llyfrgell Bethesda Nos Lun, 17 Mehefin, 2013 am 7.30 o’r gloch Croeso Cynnes i Bawb Mynediad am Ddim Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Gwynedd Taith Fws i weld mannau diddorol yn Nyffryn Ogwen gan gynnwys cartrefi rhai o Enwogion Llên yr Ardal Cychwyn yn brydlon am 2.00 o’r gloch Bnawn Sadwrn, 4 Mai, 2013 oddi wrth Siop Spar, Bethesda. Cyfle i brynu copi o Rhai o Enwogion Llên Dyffryn Ogwen I sicrhau lle, anonwch £3.00 ar unwaith - y cyntaf i’r felin piau hi - at Dr J. Elwyn Hughes, Bryn Ogwen, Bethel, Caernarfon LL55 3AA Mae’r weiran wib hiraf yn Ewrop yn awr ar agor yn Chwarel y Penrhyn, er gwaethaf mymryn o oedi oherwydd y tywydd. “Y Nesaf Peth at Hedfan !!” Mae dwy wifren ar y safle, y gyntaf yn eich cario o ben domen i waelod y chwarel, lle mae hen gerbyd milwrol yn eich cario drwy olygfeydd gogoneddus i ben y ponciau. Yno, mae gwifren arall, filltir o hyd yn eich gwibio yn ôl i’r man cychwyn ar gyflymder o dros 100 milltir yr awr, 500 troedfedd uwchben twll y chwarel. Cynhelir agoriad swddogol yn fuan a bydd adroddiad llawn yn y Llais y mis nesaf.

Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

  • Upload
    others

  • View
    12

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Ebrill 2013 Rhif 432 50c

DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG

2013

" Mae Pawb yn Cyfri’ "

Traddodir y ddarlith gan

Yr Athro Gareth Ff. Robertsyn Llyfrgell Bethesda

Nos Lun, 17 Mehefin, 2013am 7.30 o’r gloch

Croeso Cynnes i Bawb

Mynediad am Ddim

Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth Gwynedd

Taith Fws i weld mannau diddorol yn Nyffryn Ogwen

gan gynnwys cartrefi rhai o

Enwogion Llên yr Ardal

Cychwyn yn brydlon am2.00 o’r gloch

Bnawn Sadwrn, 4 Mai, 2013oddi wrth Siop Spar, Bethesda.

Cyfle i brynu copi o

Rhai o Enwogion Llên Dyffryn Ogwen

I sicrhau lle, anonwch £3.00 ar unwaith - ycyntaf i’r felin piau hi - at Dr J. Elwyn

Hughes, Bryn Ogwen, Bethel, Caernarfon

LL55 3AA

Mae’r weiran wib hiraf yn Ewrop yn awr aragor yn Chwarel y Penrhyn, er gwaethaf

mymryn o oedi oherwydd y tywydd.

“Y Nesaf Peth at Hedfan !!”

Mae dwy wifren ar y safle, ygyntaf yn eich cario o bendomen i waelod y chwarel, llemae hen gerbyd milwrol yneich cario drwy olygfeyddgogoneddus i ben y ponciau.Yno, mae gwifren arall, filltir ohyd yn eich gwibio yn ôl i’rman cychwyn ar gyflymder odros 100 milltir yr awr, 500troedfedd uwchben twll ychwarel.

Cynhelir agoriad swddogol ynfuan a bydd adroddiad llawnyn y Llais y mis nesaf.

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 1

Page 2: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan

Derfel Roberts [email protected]

Ieuan Wyn [email protected]

Lowri Roberts [email protected]

Dewi Llewelyn Siôn 07901 [email protected] 913901

Fiona Cadwaladr Owen [email protected]

Siân Esmor Rees [email protected]

Neville Hughes [email protected]

Dewi A Morgan [email protected]

Trystan Pritchard [email protected] 373444

Walter W Williams [email protected]

SWYDDOGION

Cadeirydd:Dewi A Morgan, Park Villa,Lôn Newydd Coetmor, Bethesda,Gwynedd LL57 3DT [email protected]

Trefnydd Hysbysebion:Neville Hughes, 14 Pant, Bethesda LL57 3PA [email protected]

Ysgrifennydd:Gareth Llwyd, Talgarnedd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda LL57 3AH [email protected]

Trysorydd: Godfrey Northam, 4 Llwyn Bedw, Rachub,Llanllechid LL57 3EZ [email protected]

Y Llais Drwy’r Post: Owen G Jones, 1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN [email protected]

PANEL GOLYGYDDOL

£18 Gwledydd Prydain£27 Ewrop£36 Gweddill y Byd

Owen G. Jones, 1 Erw Las,Bethesda, Gwynedd LL57 [email protected]

01248 600184

-

Golygydd y Mis

Archebu Llais Ogwan drwy’r Post

DYDDIADuR Y DYFFRYN

Rhoddion i’r Llais

Llais Ogwan 2

Clwb Cyfeillion Llais Ogwan

Os gwyddoch am rywun sy’n caeltrafferth â’i olwg, ac a hoffai dderbyncopi o’r Llais ar gasét bob mis,cysylltwch ag un o’r canlynol:

Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853

Llais Ogwan ar Dâp

Golygydd y mis hwn oedd DewiLlewelyn Siôn

Golygydd mis Mai fydd Trystan Pritchard, 27 Allt Penbryn, Bethesda,LL57 3BD. 07402 [email protected]

Pob deunydd i law erbyn dydd Mercher,1 Mai os gwelwch yn dda. Plygu nosIau, 16 Mai, yng Nghanolfan Cefnfaesam 6.45.

£10.00 Er cof annwyl am Margaret Jane Tomlinson a fu farw 21 Ebrill 1992. Oddi wrth Raymond a Carol

£100.00 Cyngor Cymuned Llandygai£3.00 I.V.Moore£3.00 Hywel Williams, Llanfairpwll£5.00 DI-enw, Talybont£14.50 Deri a Megan Tomos, Llanllechid

Diolch yn Fawr

Gwobrau Mis Ebrill£30.00 (155) Mrs Bessie Buckley,

32 Maes Ogwen, Tregarth£20.00 (96) Mrs Carys Williams,

12 Tal y Cae, Tregarth£10.00 (57) Mr Gwyn Roberts,

Maes yr Hedydd, Tregarth£5.00 (6) Mr Joseph D. Hughes,

Ffordd Ffrydlas, Bethesda

Mis Ebrill20 Bore Coffi Cyfeillion Ysbyty Gwynedd.

Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00

21 Cyngerdd Corau Ysgol Glanaethwy at Apêl Eleanor. Capel Jerusalem Bethesda am 7.00

25 Merched y Wawr Bethesda. Noson o Gystadlu. Cefnfaes am 7.00

27 Bore Coffi Eglwys Sant Cedol Pentir. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.

30 Plaid Cymru Cangen Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.00

Mis Mai01 Sefydliad y Merched Carneddi.

Cefnfaes am 7.00

04 Bore Coffi Cymorth Cristnogol. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.

04 Taith Fws Drwy Ddyffryn Ogwen. Arweinydd – Dr. J. Elwyn Hughes. Siop Spar am 2.00

06 Merched y Wawr Tregarth. “Y Clio – Llong yr Hogia Drwg”. Festri Shiloh am 7.00

11 Marchnad Ogwen. Llys Dafydd. 10 – 2.00

11 Bore Coffi RNLI. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.

17 Noson yng Nghwmni Tammy Jones. Clwb Criced a Bowlio Bethesda am 7.30.

18 Bore Coffi Caban y Gerlan. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00.

19 Cymanfa Annibynwyr Dosbarth Bangor a Bethesda. Carmel Llanllechid 10.30 a

5.30.

24 Plaid Lafur Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.

25 Rali Clybiau Ffermwyr Ifanc. Fferm Coed Hywel, Glasinfryn.

25 Bore Coffi Gorffwysfan. Neuadd Ogwen. 10.00 – 12.00

30 Merched y Wawr Bethesda. Taith Ddirgel.

Mis Mehefin

08 Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen.

Cyhoeddir gan Bwyllgor Llais Ogwan

Cysodwyd gan Tasg, 50 Stryd Fawr Bethesda,

LL57 3AN 07902 362 [email protected]

Argraffwyd gan Wasg Ffrancon, Dôl Ddafydd, Bethesda LL57 3LY

01248 601669

Nid yw pwyllgor Llais Ogwan na’rpanel golygyddol o angenrheidrwyddyn cytuno â phob barn a fynegir ganein cyfranwyr.

Llais Ogwan yn Chwilio amDdeunydd Diddorol

Mae rhai wedi sôn yn ddiweddar y dylidcyhoeddi mwy o erthyglau yn y Llais. Felly, rydym yn chwilio am bobl frwdfrydiga fyddai’n fodlon ysgrifennu erthygl ynrheolaidd – unwaith y mis, bob yn ail fis,neu bob chwarter. Felly, beth amdanoch chi?

Dyma rai o’r syniadau sydd gennym ondefallai bod gennych chi syniadau eraill:Cornel y Plant, Garddio, Amaethyddiaeth,Colofn Grefyddol (fel Munud i Feddwl),Ryseitiau Bwyd, Cyfrifiaduron, Ffasiwn,Harddwch, Cerddoriaeth o bob math.

Dywedwyd hefyd nad oes digon oadroddiadau am chwaraeon a diddordebau, a byddem yn croesawu unrhyw gyfraniad.

Cysylllter â Ieuan Wyn,Cadeirydd Panel y Golygyddion, 600297 [email protected] neu 85 Ffordd Carneddi.

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 2

Page 3: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan 3

Nyth y GânPartneriaeth

Y wawr sydd ar fin torriA’r gŵr â’i fryd ar godiAc yno i lenwi’i gwpwrdd bwydMae ganddo rwyd a milgi.

Mae’r barrug trwm hyd gaeauA Fflach yn dynn wrth sodlau, Mor dawel yw y bore bach,Fe ddaw’r rhai iach o’u tyllau.

Rhyfeddol yw y cyffro Yn ystod oriau’r deffro,A thyfu wnaiff yn fwy yn awr,Bydd sbecian ’nawr a gwrando.

Dau fwriodd eu prentisiaethYn ifanc hyd dir amaeth,Ac mewn sawl gwrych neu dan ryw walBu’r rhain yn dal ysglyfaeth.

A ddaw rhai heddiw i’r ddalfa,Neu tybed ’gânt ddihangfaAc aros yno i fwynhauEu bywyd brau ar borfa?

Boddi Tryweryn

Ein tri arwr Tryweryn a gofiwn gofid mewn deigryn;

O dan arswyd llwyd y llyn Enciliodd Capel Celyn.

Dafydd Morris

Enwogion Llên Dyffryn Ogwen(o ddarllen y gyfrol)

Ein harwyr yw’n llenorion, – ein ceidwaidSy’n cadw’n hen ffynnon;

Cadw iaith yw cadw honYn olau yn y galon.

Y Graig

Mae’n anodd weithiau gwybod sut yn iawnFod yn fy nghalon awydd ffoi am byth

Rhag ffwdan byw-bob-dydd i le y cawnOrffwyso yn anghofrwydd ambell fyth;

Dro arall pan ddaw’r felan i’m tristáuA gwneud fy nghalon imi’n garreg fedd

A’r meddwl mud fel caead arch yn cauAmdanaf fel na allaf ffoi o’i gwedd;

Mi wn na lwyddaf ar fy mhen fy hunBob tro y daw’r ysictod i’m dwysáu,

Caf lenwi’r gwacter â meddyliau UnA ŵyr y gwynfyd ddaw i lwyr iacháu;

Am hynny, rhag im blymio’n wyllt i’r aigMi ymlonyddaf yn ystlysau’r graig.

Goronwy Wyn Owen

Taith 1. Y Felin Fawr a Llyn Coed y Parc

Cychwyn ger Meddygfa’r Hen Orsaf acherdded heibio tai Lôn Sarnau, ffatriG.L.Jones ac i gyfeiriad Pont Sarnau.

Croesi’r bont ac i fyny’r allt gyda’r Hen Felinar y chwith.

Cyrraedd y lôn gefn ger tai Ffancon View athroi i’r chwith i gyfeiriad Y Felin Fawr.

Croesi’r ffordd ymhen 200 metr ac i fyny drwyhen giat y felin gan ddilyn llwybr beicio LônLas Ogwen.

Cerdded rhwng sied y trenau ar y chwith a’rFfowndri ar y dde ond peidio mynd o dan ybont i gyfeiriad Pont y Tŵr ond yn hytrachmynd drwy ddrws bychan yn y wal sydd ynsyth o’ch blaen.

Troi i’r dde ar ôl mynd drwy’r drws ac yna i’rchwith ymhen rhyw 30 metr. Bydd Tai Stablauyn syth o’ch blaen.

Dilynwch y llwybr heibio Llyn Coed Parc gangodi’n raddol i gyfeiriad Parc ‘Rynys. Maepeth gwaith wedi ei wneud ar y llwybr yma’nddiweddar.

Ar ôl cyrraedd llwybr arall (‘Rynys-St Ann’s)ewch i’r chwith gan ddilyn y llwybr sy’n dilynafon Caledffrwd (Afon Rocar). Croesi Afon‘Rynys a chyrraedd y Bont Wen ger tŷ YrOcar.

Croesi’r bont ac i’r chwith i gyrraedd y lônyng ngwaelod allt Rocar.

Ewch ymlaen i lawr y ffordd gan basio heibioLlyn Coed Y Parc - fydd ar y chwith i chwi trohwn.

Taith o Amgylch y Frogydag Arwyn Oliver

Cyrraedd gwaith paent (ffatri Bradite) a throii’r chwith ar y lôn gefn.

Aiff y ffordd a chwi yn ôl i gyfeiriad StadDdiwydiannol Coed Y Parcac at Lwybr Pont Sarnau. Dilyn hwn yn ôl igyfeiriad Bethesda.

Pellter: Tua 2 filltirAmser: Oddeutu awr/hamddenolOffer: Esgidiau cerdded addas gan fodrhannau o’r llwybr yn fwdlyd.Math o daith: Rhai gelltydd ond dim bydanodd.

Mwynhewch!!

O ‘Tŷ Ni’Dyma rysáit am gacen wahanol a gefais oBen Llŷn. Cacen Weetabix! Gall y ffrwythausych gynnwys bricyll (apricots) neu geirioswedi eu torri’n fân.

Coginio mewn tun torth ar wres o 150c (2 ar bopty nwy) am tuag 1 awr a 5 munud Y nesaf peth i ddim o frasder yn y gacen yma felly - mwynhewch!

O ‘Tŷ Chi’Mae’n siŵr fod gan nifer ohonoch rywbethi’w rannu gyda darllenwyr Llais Ogwan.Dyma syniadau - tips garddio, neu lanhau,digwyddiad diddorol, rysáit, jôc, limrigddigri, hanesyn diddorol, byd natur a.y.b. Cysylltwch â[email protected], neu Mrs JJones, 1 Erw Las, Bethesda, GwyneddLL57 3NN - gan gofio rhoi enw achyfeiriad ‘Tŷ Chi’

Gobeithio y cawn i gyd rannu eitemauhwyliog a diddorol.

Arbenigwr mewn lloriau coed caled

Arbenigwr mewn gosod aselio lloriau coed caled,

adnewyddu lloriaugwreiddiol a chyweiriolloriau sydd wedi eu

difrodi.

Andrew G. Lomozik B.A.Ffôn: 01248 602117 Symudol: 07835487909

Rhowch 2 Weetabix225g / 8 owns o siwgr brown tywyll240 ml / llai na hanner peint o lefrith cyflawn225g / 8 owns o ffrwythau sych o’ch dewis chi i fwydo dros nos

Ychwanegwch 1 ŵy225g / 8 owns o flawd codi wedi ei hidlo1 llwy de fechan o sbeiscymysg

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 3

Page 4: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan 4

BethesdaLlên Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda 600431

Siop KathyStryd Fawr, Bethesda

Fiona Cadwaladr Owen, Bryn Meurig Bach, Coed y Parc, Bethesda, LL57 4YW 601592

Joe Hughes, Awel y Nant, Ffordd Ffrydlas,Bethesda 601902

Llais Ogwan 4

CAPEL BETHANIA

Ebrill21: Parch. Gwynfor Williams

Mai:05 Parch. John Owen12 Cau – Sul Cymorth Cristnogol19 Cau – Cymanfa Bangor a

Bethesda

Oedfaon am 5.30

Croeso Cynnes i Bawb

AR WERTH

Garej Hwylusyn Stad Coetmor

Os am ei gweldcysylltwch ag

Eurwyn neu Janetar 600855

Pris i’w drafod.

LlongyfarchiadauI Meilir a Siân Pritchard arenedigaeth merch – Anni Glyn.Mae Anni yn wyres i Brian acOrina Pritchard, Rhos y Nant, acyn gyfnither fach i Beca a Math,Elidir, Ffordd Penybryn.

LlongyfarchiadauI Alison Carden, Erw Las arenedigaeth merch fach i’w mab,Rhys, a’i gymar Delyth Haf , ar 22Mawrth yn Ysbyty Glan Clwyd.Mae Cadi Haf Rhys yn ddigon osioe gyda mop o wallt tywyll.

GenedigaethLlongyfarchiadau i Elen acIshmael Hen Barc ar enedigaeth eumab bach Currig, brawd bach iGwilym ac wyr bach newydd iGwilym ac Ann Williams FforddCoedmor. Mae’r terulu i gyd wedimopio’n lân.

Priodas ArianDathlodd Sined a Paul Davies euPriodas Arian ar 9 Ebrill.Llongyfarchiadau mawr iddyntgan y teulu i gyd.

YsbytyCofion a gwellhad buan at sawl una fu yn yr ysbyty yn ddiweddar ahefyd at y rhai sy’n sâl gartref. Yneu plith mae:Mrs Phyllis Roberts, Adwy’r NantMrs Betty Williams, AbercasegMr Tudor Roberts, Abercaseg

Pen-blwyddDathlodd Mrs Jane Roberts,Glanogwen, ben-blwydd arbennigyn ystod mis Mawrth.Llongyfarchiadau a gobeithio bodyr iechyd yn well y dyddiau hyn.

CydymdeimladAnfonwn ein cydymdeimlad atVera a Tom Morgan, Glanogwen,yn eu profedigaeth o golli Ron ymMangor.

ProfedigaethYn Ysbyty Gwynedd ar Fawrth 1afbu farw, yn 70 oed, Mr WilliamRichard Lloyd Williams (Bill) oMinogwen, Ffordd Bangor. Priodannwyl Mrs Gill Lloyd Williams,tad Sara, Charlotte a William, tadyng-nghyfraith Ady a thaid hoffusHarri, Katie, Samuel a Billy.Roedd Bill yn gwasanaethueglwysi Crist Glanogwen, Y

Codi arian at uned gofal arbennig

Mae rhieni merch fach a aned 16 wythnos yn gynnar ac yn pwyso llaina bag o siwr yn codi arian at elusen sy’n cefnogi uned arbennig ifabanod yn Ysbyty Glan Clwyd.

Roedd Martha Grug Meredydd yn pwyso 1 pwys 7 owns pan anwydhi’r llynedd. Derbyniodd ofal tyner iawn gan staff arbenigol unedgofal arbennig babanod yn Ysbyty Glan Clwyd am ddau fis a hanner,ac hefyd yn uned arbenigol yn Ysbyty Gwynedd lle bu am fwy nadau fis.

Mae Martha bellach gartref yn Rhes Gordon, Bethesda ac yn dod ynei blaen yn rhyfeddol ac yn pwyso mwy na stôn! Ond er mwyn diolchi’r staff yng Nglan Clwyd sydd wedi bod yn brwydro dros gadw’runed arbenigol yn agored dros y misoedd diwethaf, mae teulu Marthawedi cynnal taith gerdded noddedig o Bwllheli i Abersoch.

Cafwyd diwrnod gwerth chweil ar 13 Ebrill, ond maen nhw’n dal ihel arian. Felly os oes rhywun eisiau cyfrannu at yr achos da, ewch i’rwefan: http://www.justgiving.com/Martha-Grug neu cysylltwch gydaRobyn neu Carwyn ar 01248 605209.

Diolch

Dymuna Tom a Vera Morganddiolch o galon i’r plant amdrefnu parti i ddathlu penblwyddTom yn 80eg oed, ac i weddill orteulu au ffrindiau oll a ymunoddâ nhw i wneud ei benblwydd ynun iw gofio.’Diolch hefyd i Hogia’r Bonc amnoson ddifyr.

Santes Ann a’r Santes Fair, MynyddLlandygai, a St Cedol, Pentir, felpregethwr a Darllenydd Lleyg.Cynhaliwyd ei angladd ddydd Llun,11 Mawrth, gyda gwasanaeth ynEglwys Crist, Glanogwen acAmlosgfa Bangor. Gwasanaethwydgan y Parch. John Matthews, yBarchedig Jenny Hood, yBarchedig Angela Williams acEsgob Bangor, y Gwir BarchedigAndrew John. Wrth yr organ’roedd Mrs Christine Edwards.Cydymdeimlwn yn fawr â chwi,Gill a’r teulu i gyd yn eichprofedigaeth o golli Bill.

Ar Fawrth 23ain bu farw MrHerbert Percival Parry (Percy), 43Erw Las, yn 78 oed. Priod caredigMrs Vera Parry, tad gofalus Vivien,Amanda a’r diweddar Keith, tadyng-nghyfraith a thaid hoffus iChris, Laura, Sophie, Hannah,Thomas ac Elin, a brawd Victor,Carol, Leslie a Rosemary.Cynhaliwyd ei angladd ddyddMawrth, 2 Ebrill, gyda gwasanaethyn Eglwys Crist, Glanogwen acAmlosgfa Bangor. Gwasnaethwydgan y Parchedig Wynne Roberts a’rParchedig Elwyn Jones, gyda MrsChristine Edwards wrth yr organ.Cydymdeimlwn â’r teulu oll yn euprofedigaeth.

Ar fore Sadwrn y Pasg, yn YsbytyGwynedd, bu farw Mrs MairGriffiths, 27 Bryn Tirion, ardrothwy ei phen-blwydd yn 93 oed.Priod y diweddar Mr WilliamGriffiths, mam annwyl i Brenda,Ann, Derek a Dilwyn, mam-yng-nghyfraith Sylvia a Derran, a nain,hen nain, a hen-hen nain i’r plant.Derbyniodd ofal arbennig yn eichartref gan y plant a’r teulu, a bugofal Ann a Brenda yn ddiflino.’Roedd yn aelod yng NghapelBethania ac yno ’roedd ygwasanaeth fore Mawrth, 9 Ebrill,ac yn dilyn ym mynwent Coetmor.Gwasanaethwyd gan ei gweinidog,y Parchedig Gwynfor Williams,gyda Mrs Helen Williams wrth yrorgan.

Cydymdeimlwn â chwi fel teulu igyd yn eich profedigaeth.

Dyweddïo Llongyfarchiadau i Andrew GLomozik o Fethesda a Hannah C.Dickerson o Gaerfaddon arachlysur eu dyweddiad.Dymuniadau gorau oddiwrth yddau deulu.

GorffwysfanGwibdaith i’r Wyddgrug aBrychdyn, dydd Mercher, 24 Ebrill2013. Cychwyn o Lanffrydlas am8.15am, yna Adwy’r Nant, Londis,Coetmor, Rachub a Tregarth.

Cyfeillion Ysbyty GwyneddBore Coffi – Neuadd Ogwen, DyddSadwrn, 10.00 – 12.00 ar 20 Ebrill.Croeso cynnes i bawb.

DiolchDymuna Iestyn a Caryl, RhesVictoria, Stryd Fawr, ddiolch IGlyn ac Ann, Y Bull, a Richard aMary, King’s Head, a’ucwsmeriaid, am eu caredigrwyddtuag at Iestyn yn dilyn ei driniaethyn Ysbytai Whiston a Glan Clwydyn ddiweddar. Diolch o galon ibawb!

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 4

Page 5: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan 5

Cynhelir Gwasanaethau fel a ganlyn:

Sul Cyntaf pob mis - “Llanast yn y Llan” (Gweler isod) 11.00amAil a thrydydd Sul pob mis - Cymun Bendigaid Cymraeg 11.00amPedwerydd Sul pob mis - Cymun Bendigaid dwyieithog 11.00amPumed Sul - Gwasanaeth ar y cyd gyda Mynydd Llandegai a Phentir(Lleoliad i’w gyhoeddi)

Ni chynhelir y Gwasanaeth Cymun am 8.00am ar y Sul ar hyn obryd.

Pob bore Mercher am 10.30am - Cymun Bendigaid

Croeso cynnes i bawb i’r gwasanaethau uchod.

Llanast yn y Llan - Gwasanaeth teuluol anffurfiol. Dewisir themaar gyfer y gwasanaeth ac mae cyfle i brofi gweithgareddauymarferol a chreu arddangosfa. Cyfle i blant ac oedolion gael hwylwrth addoli. Ar ddiwedd y gwasanaeth trefnir lluniaeth i bawb.Dewch draw ar Sul cyntaf y mis i weld beth sy’n mynd ymlaen.

Arch Noa - Clwb bach yw hwn ar gyfer plant bach cyn oed ysgol.Mae yn cyfarfod yn Ysgol Abercaseg pob bore Llun am 9.15am.

Bore CoffiCynhaliwyd Bore Coffi yn Neuadd Ogwen bore Sadwrn, 9 Mawrth.Diolch o galon i bawb a fu yn cynorthwyo ac yn cefnogi i wneud ybore hwn yn llwydiannus unwaith eto.

Cofio am Bill Lloyd-WilliamsBu farw Bill ar Fawrth 1af 2013 yn 70 mlwydd oed ac fe gynhaliwydei Wasanaeth Angladdol yn Eglwys Crist Glanogwen ar ddydd LlunMawrth 11fed ac yn dilyn yn Amlosgfa Bangor. Bu Bill ynDdarllenydd yn y Plwyf gan wasanaethu yn Glanogwen, MynyddLlandegai a Pentir. Daeth nifer helaeth i’r Eglwys i dalu eu teyrngedolaf i Bill a tystia i’r nifer oedd yn y gynulleidfa bod Bill wedi bodyn gymeriad da, hoffus a phoblogaidd. Anfonwn ein cydymdeimladdwysaf at Gill ei briod a’i holl deulu yn eu profedigaeth.

Bu rhaid dileu y “Gwasanaeth Gwawrio” ger Llyn Ogwen foreDydd Y Pasg am 6.30am oherwydd y dywydd, ond cafwydgwasanaethau bendithiol iawn ar ddydd Gwener Y Groglith a Sul YPasg o dan arweiniad y Canon Idris Thomas. Diolchwn iddo am eigymorth parod a hynaws yn Glanogwen

Anfonwn ein cofion at bawb sydd yn dioddef o unrhyw anhwyldergan obeithio y daw adferiad llwyr a buan i chwi i gyd.

Eglwys Crist, Glanogwen

Daeth y mis i fewn fel oen ond yn anffodus roedd cryn newid at eiddiwedd, a bu raid dileu gwasanaethau Sul y Blodau oherwydd eira.Byddwn yn byw mewn gobaith y cawn well tywydd ym mis Ebrill. Gweddïwn dros yr aelodau, cyfeillion ac eraill y tu hwnt i furiau’r capelsydd dan gysgod gwaeledd, unigrwydd, profedigaeth neu unrhywanhwylder. Dymunwn wellhad buan a bendith arnynt.

Dechreuwyd y mis ar Ddydd Gŵyl ein Nawddsant gyda ‘Dydd GweddiByd-Eang Chwiorydd y Byd’, gwasanaeth sydd yn cael ei gynnal ar ydydd Gwener cyntaf ym mis Mawrth drwy holl wledydd y byd. Y flwyddyn hon paratöwyd gan Chwiorydd Cristnogol Ffrainc, achawsom fendith o fod yn rhan o’r addoliad.

Ar y 3ydd o’r mis cynhaliwydCyngerdd Gŵyl Ddewi ganblant yr Ysgol Sul. Mwynhadmawr oedd gwrando arnynt ynsôn am ein Nawddsant a chofioei eiriau, ‘Cadwch eich ffydda’ch cred. Gwnewch y pethaubychain a ddysgwyd gennyf fi’.Diolch i’r athrawon am euhyfforddi mor drylwyr ac ibawb a gymerodd ran.

Ar 5 Mawth cynhaliwyd Cyfarfod Gweddi ddechreu’r mis dan ofal CeriDart gyda Mair Jones a Joe Hughes yn cynorthwyo, dan gyfeiliantGwenno Evans.

Cynhaliwyd seiadau wythnosol am y gweddill o’r mis yng ngofalSioned gyda’r drafodaeth ar weinidogaeth Crist yn Efengyl Luc. Hefydcynhaliwyd Clwb Nos Fawrth gan y plant hŷn a’u hathrawon. Maentwedi cychwyn y ‘Banc Bwyd’ drwy dderbyn rhoddion o fwydydd argyfer rhai mewn angen. Roedd yr Eglwys Bentecostaidd yngNghaernarfon yn hynod ddiochgar am y rhoddion hyn. Bydd y casglu ydal i fynd rhagddo.

Ar y 13eg, gorffennwyd y tymor gan Gymdeithas yr Ofalaeth drwydderbyn gwahoddiad i ddathlu Gŵyl Ddewi yng ngwmni plant YsgolLlanllechid, a chawsom noson i’w chofio.

Nos Iau, 14 Mawrth,cynhaliwyd Cymdeithas yChwiorydd gyda Bleddyn aMaureen Hughes,Llanrwst, ynsôn am eu taith i Tsieina.Diolchwyd yn gynnes iawniddynt am noson hynod oddiddorol gan Rhiannon, ac iRita, Bessie, Dilys a Doris amddarparu’r baned

Bob bore Iau estynnwn groeso i bawb i ddod atom am baned a sgwrsrhwng deg a hanner dydd yn ogystal ag i’r seiadau ar nos Fawrth.

Prysur iawn yw’r Clwb Celf hefyd ar fore Mercher. Maent ar hyn obryd yn gwau carthenni i’r henoed yng nghartref Bryn Llifon a gwneudnwyddau i’w rhoddi ar stondin Ambiwlans Awyr Cymru.

Yr Eglwys unedig

Gweinidog: Y Parchedig Geraint Hughes

GWASANAETHAU'R SUL

Mis Ebrill 21 Y Parchedig Geraint Hughes.21 Côr Glanaethwy am 7.00 (Apêl Eleanor)28 Y Parchedig Iorwerth Jones Owen.

Sefydliad y Merched, CarneddiAr 4 Ebrill rhoddodd ein llywydd, Gwyneth Morris, groeso cynnes i bawb arnoson oer iawn, ond heb eira diolch byth! Yr oedd ychydig o ymddiheuriadauoherwydd anhwylder ambell i aelod. Yr oedd Heddwen Jones yn caelllawdriniaeth ar ei llygaid a da oedd clywed fod Phyllis Evans gartref o’rysbyty. Mae ein cofion yn mynd at y ddwy, a phawb o’r aelodau sydd ddim yndda.

Diolchodd Gwyneth i bawb a gyfrannodd at y bore coffi yn ddiweddar ac am ygefnogaeth i’r bore coffi hefyd.

Darllenwyd y llythyr misol gan Gwyneth Morris ac fe gafwyd trafodaethynglŷn â’i gynnwys. Yna aeth Jean Hughes ymlaen i ddarllen cofnodion misMawrth.

Ein gŵr gwadd am y noson oedd Mr Cynrig Hughes o Bentir, ond yn enedigolo Ddeiniolen. Wedi cael gyrfa fel athro a phrifathro, ei waith cyn ymddeoloedd darlithio yn y brifysgol ym Mangor. Ei sgwrs oedd atgofion o’iblentyndod – a’r tywydd yn amlwg mewn cof plentyn yn eithaf tebyg i’rtywydd gafwyd yma yn ddiweddar! Yr oedd oriawr ac esgidiau hoelion mawr allyfrau ganddo, a hanes tu ôl i’r eitemau i gyd. Cawsom hanesion difyr o’iblentyndod ganddo.

Diolchodd Rita Bullock i Cynrig am noson dda yn llawn adleisiau a oedd ynatgoffa pawb o’u plentyndod hwythau hefyd. Diolchwyd I’r merched am ybaned, ac enillwyd y raffl gan Margaret Williams, rhoddedig gan VioletWilliams.

EGLWYS UNEDIGBETHESDA

‘LLENWI’R CWPAN’

Dewch am sgwrs a phaned

Bob bore dydd Iau rhwng 10.00 o’r gloch a

hanner dydd

CarneddiDerfel Roberts, Ffordd Carneddi, Bethesda 600965

GenedigaethBu dathlu yng Ngharneddi arenedigaeth merch fach, Millica,i Cheryl a Stephen Robertsddechrau mis Mawrth.Llongyfarchiadau mawr.

Yr un yw’r dymuniad i Keith aJanice Thomas ar ddod yn daida nain ac i Mrs Eileen Robertsyn hen nain.

DiolchDymuna Mathew a Sioned,Penrallt, ddiolch o galon i bawbam y cardiau a’r anrhegion adderbyniasant yn dilyngenedigaeth eu merch MabliAnn, chwaer i Maia a Lowri, ar18 Chwefror.

Priodas RuddemLlongyfarchiadau i Gruff aCynthia Willams, 24 FforddCefnfaes, ar ddathlu eu PriodasRuddem ym mis Mawrth.

Braichmelyn

Rhiannon Efans, Glanaber, Pant, Bethesda 600689

CofionAnfonwn ein cofion at Nita Joneswedi iddi gael triniaeth ar ei llygad.Brysia i Wella Nita!

Nant Ffrancon

Capel Nant y Benglog

Mis Ebrill 21 Oedfa yng ngofal Nest Tudur28 Ebrill: I’w gyhoedd.

Mis Mai 05 Oedfa yng ngofal Peter Royal12 Parch. Dafydd Wyn William.19 Mai : Dr. Elwyn Richards

Oedfaon yn dechrau am 2.00 o’r gloch.

Croeso cynnes i bawb.

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 5

Page 6: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

CAPEL CARMEL

Gwasanaethau

Ebrill21 Parch/Ddr D.W.William 2.0028 Gweinidog 2.00 a 5.00

Mai05 Mrs Mererid Mair Williams 5.0012 Gweinidog 5.0019 Y Gymanfa Ysgolion –10.30

Cymanfa Ganu – 5.30

Yr Ysgol Sul 10.30 y boreDwylo prysur, nos Wener 6.30.

Croeso Cynnes i Bawb

Rachub a LlanllechidDilwyn Pritchard, Llais Afon, 2 Bron Arfon,Rachub LL57 3LW 601880

Capel Carmel, Llanllechid

CAPEL BETHEL (B)

GwasanaethauEbrill21 – Parch. Christopher Prew28 – Mr Richard Lloyd JonesMai5 – Parch. Dafydd Job12 – Gweinidog19 – Parch. Merfyn Jones

Oedfaon an 2.00 o’r gloch

Croeso Cynnes i Bawb

Carmel Llanllechid

Te Bach

Pnawn Llun29 Ebrill 2.30 tan 4.00

Croeso Cynnes i Bawb

CANOLFAN RACHUB

Ar gael ar gyferCyfarfodydd a gweithagaredd o

bob math

PRISIAU LLOGI

£10.00 am sesiwn hyd at 4 awr£15.00 – Partion neu benwythnosau

Cysylltwch â Godfrey Northam(600872) am ddyddiadau rhydd

Mentro i’r Ysgol Sul drwy’r eira

Fore Sul, 24 Mawrth daeth y plant ynghyd i ymarfer canu emynau argyfer Cymanfa Sul y Blodau, Bethlehem, Talybont.Wedi gorffen ymarfer mwynhawyd paned boeth a chacen siocledwedi ei gwneud gan Mari Rowlinson. Blasus iawn, diolch Mari.

Clwb Dwylo Prysur

Yn ystod mis Mawrth daeth Mr Bryan Griffith i’r Clwb i wneudcrochenwaith hefo’r bobol ifanc. Dyma lun o Llinos a Mari ynpaentio’r potiau gyda Mr Griffith. Roeddynt wedi ei paratoi ac wedibod yn y popyy ers amser ac wedi oeri ddigon i’w harddurno. Yprosiect nesaf fydd hau hadau perlysiau a blodau yn y potiau.‘Tyfu’, ydi thema’r flwyddyn yma. Diolch i Bryan am roi ei amser.

DiolchHoffai Iestyn, Gardd Eden ddiolchi’r teulu, ffrindiau a chymdogionam eu caredigrwydd tra bu’nderbyn triniaeth yn YsbytyWhiston, Lerpwl ac Ysbyty GlanClwyd yn ddiweddarach. Diolch iAlison a Geraint a chwsmeriad yRoyal Oak am eu haelioni. Diolcho galon i bawb.

Mae Helen, gardd Eden hefyd amddiolch am y cardiau, anrhegiona’r pres a dderbyniodd tra’n dathlupen-blwydd arbennig ynddiweddar.Diolch o galon i bawb.

Cylch Ti a Fi

Noson Goffi gyda stondinau,

Nos Wener, 17 Mai 2013 am 6.00 o’r gloch

yng Nghanolfan Rachub

Gadael y pentrefMae David, Kerry, ac Ethan wedigadael Stryd Goronwy, ac wedisymud i gartref newydd ymMraichmelyn. Rydym yndymuno’r gorau i chi fel teulu yneich cartref newydd.Deunaw oedDathlodd Mared Roberts, FforddGerlan, ei phenblwydd ynddeunaw oed yn ddiweddar.Llongyfarchiadau mawr iti,Mared. Gobeithio iti gael diwrnodarbennig yn dathlu’r achlysurarbennig.

Taith i Austin, Texas.Ar ddechrau Mis Mawrth bu SiônGlyn, Gwernydd, ar daith gyda‘iGrŵp ‘Y Niwl’ yn perfformio yngNgwŷl RyngwladolSouthbySouthwest yn AustinTexas, yr Unol Dalieithau.Cawsant groeso ardderchog gyda’rCymro o Gaerdydd, HuwStephens, yn eu cyflwyno i’r dyrfaddaeth i wrando arnynt ynchwarae eu cerddoriaeth.

GerlanAnn a Dafydd Fôn Williams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan 601583

Naw deg oedYn ddiweddar dathlodd LenWilliams, Ffordd Gerlan, eibenblwydd yn 90 oed.Llongyfarchiadau mawr ichi, Len,ar ddathlu’r penblwydd arbennigiawn hwn. Fyddai neb yn credufod Len wedi cyrraedd yr oed hwngan ei fod mor heini , yn cerddedo gwmpas, ac yn gyrru ei gar i bobman.Rydym yn gobeithio’n fawrichi fwynhau’r dathlu yngnghwmni teulu a ffrindiau, Len.

Hanner cantDathlu’r hanner cant oedd hanesMandy Roberts, Stryd Hir.Llongyfarchiadau mawr i tithau,Mandy, a gobeithiwn i ti fwynhaudathlu’r garreg filltir arbennighon. Pob hwyl i’r dyfodol.

LlongyfarchiadauRydym yn estyn einllongyfarchiadau calonnog i Lisaac Ian, Stryd Goronwy, arenedigaeth geneth fach, chwaer iLlion. Llongyfarchiadau mawr,hefyd, i Trefor a Sandra, StrydGoronwy, ar ddod yn daid a nainunwaith eto. Pob bendith arnochfel teulu.

Yn yr YsbytyRydym yn gyrru ein cofion atBeryl Williams, Stryd Goronwy,sydd yn Ysbyty Eryri yng

Nghaernarfon. Dymuniadau gorauam wellhad llwyr a buan, Beryl, agobeithiwn gael dy weld yn ôl yn ypentref yn fuan iawn.

DiolchDymuna Owain Rhodri Evans, RalltIsaf, ddiolch i deulu a ffrindiau am yrholl gardiau, anrhegion, adymuniadau da a dderbyniodd arachlysur ei benblwydd yn 21 oed ynddiweddar. Diolch yn fawr iawn ibawb!

CofionRydym yn gyrru ein cofion at PhilRoberts, Stryd y Ffynnon, sydd arhyn o bryd yn Ysbyty Eryri. Eindymuniadau gorau ichi, Phil,gobeithiwn eich gweld chi o gwmpasy Gerlan yn fuan iawn.

Newyddion tristDaeth newyddion trist iawn i’rpentref unwaith eto y mis hwn panglywsom am farwolaeth TraceyCook, Stryd Fer, a hithau ond ynwraig gymharol ifanc. Rydym ynestyn ein cydymdeimlad dwys i’wphartner, Thomas Michael Jones, a’itheulu a’i ffrindiau i gyd.

Cyfarfod CyhoeddusYn ddiweddar cafwyd cyfarfodcyhoeddus yn y Caban i drafodsefyllfa echrydus parcio yn y pentref.Trefnwyd y cyfarfod gan yCynghorydd Sir lleol, Dyfrig Jones, adaeth â swyddogion o GyngorGwynedd gydag ef.

Daeth tyrfa luosog ynghyd i leisio eucwynion am y sefyllfa sydd ynbodoli, sefyllfa ble mae hi’n anoddiawn cael lle i’r trigolion barcio euceir. Mae’r sefyllfa yn cael eigwneud yn waeth gan geir wedi euparcio ym mhobman ar ochrau’rffordd, ac mae hyn yn creuproblemau mawr.

Eisoes mae gwasanaeth bwsiau wediei atal ar ôl 7 yr hwyr, gan nad yw’rbwsiau yn medru mynd heibio’r ceirsydd wedi parcio ar ochr y ffordd.Mae’r sefyllfa yn peri pryder gwaethoherwydd, pe digwyddai tân, neuddamwain, neu fod angen ambiwlansar frys, ni allai cerbydau argyfwnggyrraedd y pentref. Gobeithio y byddrhyw fath o ddatrys ar y broblemfawr hon yn y dyfodol gweddol agos.

Hoffai Cyng. Dyfrig Jones ddiolch iswyddogion Cyngor Gwynedd am roio’u hamser i fynychu’r cyfarfod, iPaul Rowlinson am ddarparugwasanaeth cyfieithu ar y pryd, ac ibawb a ddaeth allan ar noson oer igyfrannu at y drafodaeth.

Llais Ogwan 6

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 6

Page 7: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan 7

TalybontNeville Hughes, 14 Pant, Bethesda 600853

Capel Bethlehem,Talybont

Drwg oedd gennym glywed amfarwolaeth sydyn John BrianMorrell, Cap Coch, ar y 13eg oFawrth yn Ysbyty Gwynedd. Buyn aelod ffyddlon yn yr Eglwysyn ogystal ag organydd cyn eiafiechyd.

Cynhaliwyd y gwasanaethangladdol yn yr Eglwys ac iddilyn yn yr Amlosgfa ar y 25Mawrth dan arweiniad ein ficer,y Parchedig John Matthews a’r

Eglwys Maes y Groes,Talybont

OedfaonEbrill 21 Gweinidog; Ebrill 28 Parchg. Iorwerth Jones

Owen, Caernarfon ; Mai 6 : Oedfa o Fawl

(Detholiad 2013) ; Mai 13 : Gweinidog ; Mai 19 : CAU – Sul y Gymanfa.

Oedfaon am 2 o’r gloch. Croeso cynnes i bawb.

Cymanfa Sul y BlodauEr gwaetha’r tywydd cafwydCymanfa lwyddiannus eto eleni!

Yn anffodus, bu raid i’rarweinydd, y Parchg. IwanLlewelyn Jones, Porthmadog,dynnu’n ôl oherwyddprofedigaeth yn y teulu.Rydym yn ddiolchgar iawn i Mr.James Griffiths, Waen Wen, amlenwi’r bwlch ar fyr rybudd. Mr.D. Wynn Williams oedd yncyfeilio unwaith eto.

Cyflwynwyd eitemauardderchog gan gôr merchedLleisiau Llannerch (arweinyddMrs. Grês Pritchard) a phlantYsgolion Sul Carmel aBethlehem, o dan arweiniad Mrs.Helen Wyn Williams. NevilleHughes oedd yn llywyddu etoeleni!

Pen-blwydd ArbennigAr ddydd Sul, 7 Ebrill,cyrhaeddodd Barbara Jonesgarreg filltir bwysig, sef ei phen-blwydd yn 70 mlwydd oed.Roedd yna ddathlu yngnghyfarfod y Bwrlwm yn ogystala dathliadau eraill gyda’iffrindiau. LlongyfarchiadauBarbara, a diolch am dy hollweithgarwch yn y capel, ac amdy holl gymwynasau yn y fro athu hwnt! Penblwydd hapus!

Cartrefi NewyddCroeso i ddau deulu newydd iDalybont, un i 35 Bro Emrys a’rllall i 34 Cae Gwigin.

GeniLlongyfarchiadau i Sara a Chris,31 Cae Gwigin, ar enedigaethJack, brawd i Callum ac Oliver.

PriodasLlongyfarchiadau i Einir a Mike,51, Bro Emrys ar achlysur eupriodas yn ddiweddar.

Pen-blwydd ArbennigLlongyfarchiadau i Mrs. EnidHughes, 3 Lôn Ddŵr, ar ddathlu eiphen-blwydd yn 80 mlwydd oed ar20 Mawrth. Gobeithio eich bodwedi mwynhau’r “syrpreis” ar ydiwrnod!

DiolchDymuna Mrs. Rhiannon Williams,15 Cae Gwigin, ddiolch o galon ibawb am bob dymuniad da acharedigrwydd a dderbyniodd panfu yn yr ysbyty ac ar ôl dod adref.Daliwch i wella Rhiannon!

Pen-blwydd Arbennig

Yn dilyn ei phenblwydd arbennigyn ddiweddar mae Mrs. EnidHughes, Lôn Ddŵr, yn dymunodiolch am yr holl gardiau acanrhegion a dderbyniodd ar yrachlysur. Diolch yn fawr i bawb,yn cynnwys teulu, ffrindiau achymdogion.

LlandygáiEthel Davies, Pennard,

Llandygái 353886

Eglwys Sant TegaiGwaeleddAnfonwn ein cofion cynnes a’ndymuniadau gorau at bawb syddyn wael yn y Bryn a’r pentref, sefErnie a Nerys Coleman, Beryl aJim Hughes, Dr. Pam Jones,Olwen Lytham, Mary Robinson,Betty Williams a DorothyProudley-Williams.

’Rydym yn falch iawn fod MrsCassie Tindall, Tŷ Mawr, wedidychwelyd gartref o YsbytyGwynedd ar ôl cael ei tharo’nwael ddechrau mis Mawrth.Edrychwn ymlaen at eich gweld igyd yn codi allan pan fydd ytywydd yn gwella.

Pen-blwyddiLlongyfarchiadau i Mrs PaulineEdwards, Hen Dŷ’r Ysgol, fyddyn dathlu pen-blwydd arbennigddydd Mercher, 17 Ebrill –gobeithio y cewch ddiwrnodhapus, Pauline.

Bydd Mrs Muriel Owen, 5 PentreLlandygái, yn cael ei phen-blwydd hithau ar yr un dyddiad,sef 17 Ebrill. Llongyfarchiadau,rydym yn dymuno’n dda ichwithau hefyd.

Ar ddydd Iau, 25 Ebrill, tro MrsMary Robinson, Fern Cottage,fydd i ddathlu ei phen-blwydd.Ein dymuniadau gorau amddiwrnod dedwydd iddi hithau.

Llongyfarchiadau i EdmundDouglas-Pennant, Drws Melyn,fydd yn dathlu ei ben-blwydd arddechrau mis Mai. Gobeithio ycewch i gyd amser hapus ondpeidiwch â gwledda’n ormodol.

CydymdeimladHoffem gydymdeimlo’n ddwys âMrs Gill Lloyd-Williams atheulu’r diweddar Mr Bill Lloyd-Wiliams, Bethesda, a fu farw ar ycyntaf o Fawrth yn YsbytyGwynedd yn 70 mlwydd oedwedi gwaeledd hir.

Rydym yn cofio Bill yn dod iSant Tegai fel Darllenydd Lleygsawl blwyddyn yn ôl. Byddai’ndod ar foreau Sul a Mercher acyn cymryd gwasanaethau yForeol Weddi – dyn annwylllawn hiwmor.

Estynnir cydymdeimlad dwys âMiss Nerys Jones a’i chwaerBeryl ar farwolaeth eu modryb(chwaer i’w tad) sef Mrs ElunedOwen, Dinbych, a fu farw ar 10Mawrth yn 85 mlwydd oed.Cynhaliwyd yr angladd ddyddSadwrn, 16 Mawrth, yngNghapel Mawr, Dinbych.Rydym yn meddwl hefyd amAngharad, ei phriod Aled a’rplant, sydd wedi colli mam a nainannwyl iawn.

Parchedig Jenny Hood. GeraintGill oedd yn cyfeilio.

Dymunwn estyn eincydymdeimlad dwys at Pat eiwraig a’r teulu yn euprofedigaeth a’u colled fawr.

Cynhaliwyd gwasanaethau iddathlu Gwyl y Pasg ganddechrau ar nos Iau Cablyd ynEglwys St Tegai. Bore dyddGwener y Groglith roeddgorymdaith tystiolaethu gangychwyn yn Eglwys St Tegai achael gwasanaeth yn y dairEglwys i ddadorchuddio’r Groes.Dydd Sul y Pasg cynhaliwyd yrofferen yn y dair Eglwys danarweiniad ein ficer y ParchedigJohn Matthews.

Hoffem ddiolch i bawb oedd yngyfrifol am eu gwaith caled yndarparu cinio blasus y Garawysyn Eglwys Gelli a hefyd am eucroeso i ni yno.

MarwolaethGyda thristwch y clywsom amfarwolaeth Mr. John BrianMorrell, Capcoch, Tal-y-bont, ynYsbyty Gwynedd ddyddMercher, 13 Mawrth, yn 73mlwydd oed. Roedd John wedibod yn wael ers amser maith ondfe frwydrodd yn ddewr trwy’rcyfan.

Bu’n ffyddlon iawn yn y cymunbob bore Mercher, a chyn iddofynd yn wael roedd yn cymrydrhan yn rheolaidd – bydd colledfawr i ni yn Sant Tegai.

Cynhaliwyd ei angladd ynEglwys Maes-y-Groes fore Llun,25 Mawrth, gyda’r Parch. JohnMatthews yn gwasanaethu.Claddwyd ei weddillion ymmynwent yr eglwys.

Cydymdeimlwn â Pat a’r teuluoll yn eu profedigaeth chwerw.

PriodasYn eglwys Sant Tegai ar ddyddSadwrn, 23 Mawrth, priodwydEinir Meredydd Young a MichaelEdward Lloyd, y ddau o Dal-y-Bont. Roedd y gwasanaeth danofal y Parch. John Matthews aMrs Sioned Webb yn canu’rDelyn. Dymunwn hir oes a phobhapusrwydd I Einir a Michael.

Wythnos y PasgBu prysurdeb mawr yn y daireglwys yn ystod Wythnos y Pasg.Dydd Iau cablyd, roeddgwasanaeth Golchi Traed (aDwylo) yn eglwys Sant Tegai.Dydd Gwener y Groglith roeddGorymdaith Dystiolaethu yncychwyn o Sant Tegai am 9.45 ybore i Eglwys Maes-y-Groes iWasanaeth Codi’r Groes am11.00. Ymlaen wedyn i’r SantesFair, Tregarth, i Ddadorchuddio’rGroes am hanner dydd. Yn yprynhawn am 2.00 cynhaliwydgwasanaeth Gorsafoedd y Groesym Maes-y-Groes, Talybont.

Sul y PasgDaeth cynulleidfa dda I’r CymunBendigaid fore Llun y Pasggyda’r Parch. John Matthews yngweinyddu a Geraint Gill wrth yrorgan. Diolch i bawb agymerodd ran: y Ficer, Sue, Annea Rhian. Diolch arbennig iHazel, Nerys a’r merched carediga fu’n addurno’r eglwys morhyfryd gyda lliwiau’r blodau owyn, gwyrdd a melyn, ac i bawba gyfrannodd tuag at y blodau.

Balch iawn oedden o gaelcroesawu teuluoedd Dr a MrsRobin Davies o’r America aChaerdydd. Roedd y plant bachyn annwyl iawn a Hannah Louisewrth ei bodd yn cael cwmni rhaio’r un oed â hi.

Croesawyd Einir a MichaelLloyd hefyd, wedi iddyntddychwelyd o’u mis mêl. Roeddgwahaniaeth mawr yn y tywyddar Sul y Pasg, fel yr oedd ar 25Mawrth, dydd eu priodas efo’rholl wynt, eira a rhew.

Llais Ogwan 7

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 7

Page 8: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

John Huw Evans, 30 Bro Rhiwen, Rhiwlas352835

Rhiwlas PentirAnwen Thomas,Min yr afon11 Rhydygroes, Pentir 01248 355686

Clwb 100 Mis Mawrth1af Rhif 35 Margaret Williams, Rhiwen2ail Rhif 30 Mair Roberts, Rhiwlas3ydd Rhif 63 Eira Crocombe, Tregarth

GarddwestBydd ein Garddwest flynyddolyn cael ei chynnal eleni arbrynhawn Sadwrn 25 Mai an 2o’r gloch yn ardd Y Ficerdy,Pentir. Bydd croeso i bawbymuno yn yr hwyl.

Gwasanaethau’r SulCynhelir y Gwasanaethau bobbore Sul am 9.45y.b.

Sul cyntaf a thrydydd - Cymun Bendigaid dwyieithogAil a Phedwerydd Sul - Boreuol Weddi ddwyieithogMae croeso cynnes i bawbymuno yng ngwasanaethau’rSul.

Eglwys

Sant Cedol

Drwg iawn gennym glywed bod eingohebydd, John Huw Evans, wedicael ei gymryd i Ysbyty Gwyneddar ddechrau’r mis. Yn ôl pob sônmae John yn gwella, a’r gobaithyw y bydd wedi cael dod adreferbyn y daw’r rhifyn hwn o’r Llaisallan! Mae caredigion LlaisOgwan i gyd yn gwybod amffyddlondeb a theyrngarwch Johni’r Llais, heb sôn am ei gyfraniadpwysig i lwyddiant ein papur brodros nifer fawr o flynyddoedd.Dymuniadau gorau oddi wrthbawb sydd ynglŷn â’r Llais!

Cydnabod Caredigrwydd

Ychydig wythnosau yn ôl feymddeolodd Colin Davies o fod ynbostmon llawn amser ac agor siopfarbwr yn Stryd y Deon, Bangor.Bu Colin yn bostmon yn Rhiwlasa’r ardal am nifer o flynyddoeddond roedd yn llawer mwy narhywun oedd yn dosbarthullythyrau; roedd hefyd yngymwynaswr ac yn barod i roi helpllaw i unrhyw un pan welai’rangen.

Fel arwydd o ddiolch agwerthfawrogiad y cyhoeddcasglwyd rhoddion yn y pentrefi’w cyflwyno i Colin. Cyflwynwydiddo £300 mewn arian, siocled,gwin ac amryw o roddion eraill.Roedd hyn yn ychwanegol i’rrhoddion a gyflwynwyd iddo ynbersonol.

Gwyddai ambell un a adnabu Colinyn dda am ei ddiddordeb yn ybeiciau modur Lambretta a’ihoffter ohonynt. Cafwyd y syniado gyflwyno mwg i Colin gyda lluno Lambretta arno. Hefyd ar y mwgroedd y geiriau ‘Rhodd gandrigolion Rhiwlas’.

Cydnabod CydymdeimladDymuna Ieuan, Donna ac Angela atheulu’r diweddar Elfyn Hughesddiolch i deulu, ffrindiau achymdogion am bob arwydd ogydymdeimlad a ddangoswyd tuagatom yn ein profedigaeth o golliElfyn.

Hoffem ddiolch i’r Parch. DafyddCoetmor Williams am ei wasanaethddydd yr angladd ac i Iona Jonesam gyfeilio wrth yr organ. Diolchhefyd i Stephen Jones y trefnwr

angladdau ac am y rhoddionariannol er cof am Elfyn tuag atYmchwil Cancr.

Pentref lwcusEr yr holl eira a rhew a orchuddioddran helaeth o Ogledd Cymru ynystod pythefnos olaf mis Mawrth,buom ni yn Rhiwlas yn eithaflwcus. Ychydig mewn cymhariaetha ddisgynodd yma. Dim digon irwystro pobl rhag teithio i’w gwaither fod problemau mewn mannaumor agos i ni â Bethesda aLlanberis.

Bu Bwlch Llanberis ar gau hydddiwedd y mis pan lwyddwyd idorri ffordd trwodd. Roedd hefydyn amhosibl rhedeg tren yr Wyddfadros y Pasg. Mae rhan helaeth oLlyn Ogwen yn parhau wedi rhewia hynny ar ddechrau Ebrill. Tybed aoes cofnod o pryd y digwyddoddhyn o’r blaen? 1947 neu 1963efallai. Rhaid canmol gweithwyrCyngor Gwynedd am eu holl waithcaled yn ystod yr wythnosaudiwethaf, o dan amgylchiadaueithriadol o anodd.

Erbyn y daw y rhifyn hwn o’r Llaiso’r wasg bydd yn 18 Ebrill. Hwnyw’r dyddiad y disgwylir y Gog igyrraedd yr ucheldir uwchlaw CaeMawr yn arferol. Tybed pryd ycyrhaedda eleni?

Merched y Wawr, RhiwlasCyfarfod mis MawrthCyfarfu’r gangen yn y Neuadd a’rsiaradwraig wadd oedd GwenllïanRoberts, Swyddog AilgylchuGwynedd.

Eglurodd mai nod y Cyngor ywailgylchu 52%, ac mae’r canranyma bron wedi ei gyflawni. Mae’nbwysig ein bod yn anelu at ytargedau gan fod y safle yngNghlynnog a’r Cilgwyn wedi cau adim lle i fwy o sbwriel yno.

Ers rhai wythnosau nawr rydym yncael rhoi mwy o bethau yn y bocsglas. Hyd yn ddiweddar dim ondpoteli plastig oedd yn mynd i’r bocsond bellach gellir ailgylchuplastigion eraill yn ogystal âchartonau a tetropak.

Pwysleisiodd fod y bocs ailgylchusbarion bwyd yn bwysig; maes olaw fe sefydlir system treulioanaerobig yn Llwyn Isaf yngNghlynnog a defnyddir y nwyon igynhyrchu trydan, digon i ddigoni900 o dai.

Roedd yn amlwg fod Gwenllïan ynangerddol dros y busnes ailgylchuac roedd yn ein hannog i helpu’rCyngor i gyrraedd y targed oailgylchu 52% o’r gwastraff.Cawsom gyfle i gael trafodaethfywiog ac addysgiadol.Helen oedd yn gyfrifol am y te.

Mae nifer o’r aelodau wedi methu âmynychu’r cyfarfodydd ynddiweddar oherwydd gwaeledd arhesymau eraill. Gobeithir panddaw’r gwanwyn a’r tywydd yncynhesu y bydd mwy o’nhaelodau’n gallu bod yn bresennol.Bydd swyddog o’r Ambiwlans Awyryn dod atom i’r cyfarfod nesaf.

Noson Picnic a Cherddoriaeth, Yn dilyn ymlaen o weithgareddauhynod llwyddianus dros yblynydoedd bydd Apêl Pentir yncynnal noson bicnic acherddoriaeth ar nos Sadwrn 27Gorffennaf. Mwy o fanylion iddilyn.

Parchu Pentir - Casglu SbwrielAr Dydd Sul 23 Mawrth er oeredy tywydd daeth niferoedd odrigolion Rhyd-y-Groes a Phentirynghyd i gasglu sbwriel oamgylch yr ardal. Rhyngomcasglwyd 14 bag bin o sbwriel.I gael gwybod am ddyddiadaucasglu sbwriel nesaf ewch i wefanpentir.org. Braf fyddai gweldwynebau hen a newydd. Y mae’nweithgaredd clodwiw. a’r mwyafo bobl, y taclusaf y pentref.

Cynghorydd Lleol yn canmol y gwelliannaudiogelwch y ffyrdd ym Mhentir

Mae Cynghorwyr Plaid Cymru ym Mhentir ger Bangoryn croesawu’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud i fforddyr A4244 ym Mhentir. Yn dilyn pwysau gan gynghorwyrGwynedd a chynghorwyr Cyngor Cymuned Pentir,cyflwynwyd mesurau newydd ar y ffordd i welladiogelwch ac yn y gobaith o leihau damweiniau rhwngcerbydau.

Yn ôl Cynghorydd Plaid John Wyn Williams sy’ncynrychioli trigolion Pentir ar Gyngor Gwynedd: “Dwi’nfalch iawn bod y cydweithio yn yr ardal wedi bod ynllwyddiant. Mae trigolion lleol, Parchu Pentir, CyngorCymuned Pentir a Chyngor Gwynedd wedi gweithio ar ycyd i sicrhau bod holl ddefnyddwyr y ffordd yn gweldgwelliannau i’r rhan yma o ffordd yr A4244. Maearwyddion yn annog gyrwyr i deithio o dan 50 milltir yrawr ac arwyneb lliw amlwg wrth y gyffordd yn fodd iannog defnyddwyr i leihau eu cyflymder wrth gyrraedd ygyffordd.

“Dwi’n falch bod pobl wedi gweld synnwyr a bod ydystiolaeth a gyflwynwyd i’r awdurdodau wedi sicrhaubod holl ddefnyddwyr, gan gynnwys, cerddwyr, beicwyra marchogion yn gallu mwynhau’r ardal a hynny’n fwydiogel. Mae pobl leol wedi gweithio’n ddiflino dros yblynyddoedd diwethaf i sicrhau bod diogelwch ynchwarae rhan flaenllaw yn yr ardal. Mae troedffyrdd yncysylltu canol pentref Pentir gyda Rhyd y groes achyswllt pellach o’r gyffordd i Rhiwlas yn welliant mawri bobl leol,” meddai’r Cynghorydd Williams.

Yn ôl Lowri James o Gyngor Cymuned Pentir: “Mae’rmesurau diogelwch y ffyrdd newydd yn chwa o awyriach i’r gymuned, ac mae’r Cynghorydd John WynWilliams wedi gweithio’n ddi-flino drosom i sicrhau’rgwelliannau. Mae’n wych bod cydweithio yn golygu body gwelliannau wedi digwydd a bod pobl leol bellach yncael y cyfle i fwynhau cerdded, beicio a marchogaethmewn awyrgylch llawer mwy diogel. Mae gyrwyr ynllawer mwy ymwybodol bod angen arafu wrth iddyntgyrraedd cyffordd Pentir.”

Costiodd y gwaith £185,000 trwy TAITH, consortiwmtrafnidiaeth gogledd Cymru i gwblhau’r gwelliannau ymMhentir yn ogystal â’r gwaith ar Allt Nant y Garthgerllaw.

Llais Ogwan 8

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 8

Page 9: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan 9

TregarthGwenda Davies, Cae Glas, 8 Tal y Cae, Tregarth 601062

Olwen Hills (Anti Olwen), 4 Bro Syr Ifor, Tregarth 600192

Capel Shiloh,

Tregarth

Ebrill21 9.45 Boreol Weddi28 9.45 Cymun Bendigaid

Mai5 9.45 Gwasanaeth Anffurfiol12 9.45 Cymun Bendigaid19 9.45 Boreol Weddi

Clwb Cant Mis Mawrth£20 21 Eirwen Williams£10 60 Rita Evans£10 54 Rosemary Williams£ 5 25 Myra Jones

ProfedigaethauTrist yw cofnodi marwolaethBill Lloyd-Williams ar Fawrthy 1af. Cymerodd wasanaethauyn Gelli am rai blynyddoedd aphawb yn eu mwynhau.Roedd yn gymwynasgar iawnac yn barod ei gymorth iunrhyw un. Cydymdeimlwnyn ddwys â Gill, Sara,Charlotte a William a’r teulu igyd yn eu galar.Daeth newyddion trist I MrsMyra Jones o golli Susan,gwraig Keith. Colled sydynarall i’r teulu. Cydymdeimlwnyn ddwys â Mrs Myra Jones,Keith a’r teulu i gyd yn eugalar.

Cynhaliwyd ciniawauGarawys llwyddiannus iawn.Braf gweld cynifer yno bobwythnos; gwnaed elw o £256.Diolch yn fawr i bawb wnaethgefnogi.Cynhelir y Festri Pasg dyddMercher, Ebrill 24 am 7.00 yrhwyr. Croeso cynnes i bawb!

Yr Ysgol Sul 10.30Oedfa’r hwyr 5.00 o’r gloch

Ebrill 14 Richard Lloyd Jones, Bethel21 Y Parchedig Gerallt Lloyd

Evans, Ynys Môn28 Y Parchedig Eric Roberts,

Caeathro.

Mai 05 Y Parchedig Gwynfor Williams

[Sacrament]12 Oedfa Deulu am 10.3019 Y Parchedig Trefor Jones,

Caernarfon

Croeso i aelod newydd i’n plith iShiloh, sef Mrs Eirwen PennantLewis, Llanfairpwll. Bydd yngwmni i’w merch, sef FfionRowlinson sydd yn un o aelodaugweithgar y capel a’r enwad.Croeso cynnes iawn.

Roeddem yn drist fel aelodauShiloh o golli un o’n haelodau,sef Mrs Ellen Griffiths, ErwFaen. Anfonwn eincydymdeimlad llwyraf gyda’rholl deulu’. Cynhaliwyd eihangladd yn Shiloh ar Fawrth 15.

Ar fore Sul y Blodau, sefMawrth 24 cynhaliwyd OedfaDeulu dan arweiniad aelodau’rYsgol Sul. Drwy gyfrwng yrhanesyn am Iesu yn gwellaBartimeus ddall cyflwynodd yraelodau ifanc eu fersiwn hwy o’rstori a hynny’n raenus dros ben.

Methodd rhai o’r aelodau â bodyn bresennol oherwydd yr eiratrwchus ym Mynydd Llandygaiac eraill gan eu bod ar wyliau.Cafwyd unawd gan Aziliz am yPedwar Tymor a datganiad arofferyn pres gan Cerys Elen.Cafwyd emynau a darlleniadauar gyfer yr achlysur ac yn dilyncafwyd anerchaid amserol acaddas gan yr Athro Wyn Thomas,Bangor. Diolchwyd i bawb oeddyn gyfrifol am yr oedfa gan MrsEirwen Williams Tyddyn Dicwmac i’r cyfeilydd, Mrs ChristineMorris Jones, Lliwedd.

Ar ddiwedd yr oedfa rhannwydwyau Pasg i bawb o’r plant a’rbobl ifanc a gymerodd ran yn ygwasanaeth.

Eglwys y Santes Fair

Tregarth

GwellhadGwellhad llwyr a buan i CarysWilliams, Garreg Wen, Tal y Cae,wedi iddi gael damwain ynddiweddar a thorri asgwrn yn eichoes.

Da clywed fod Gwenllian Owen,Meillionnydd, Tal y Cae, yngwella wedi triniaeth mewnysbyty yn Birmingham.

CydymdeimladDaeth profedigaeth i ran IslwynMorris a’r teulu, 49 FforddTanrhiw, pan fu farw ei frawdEifion Morris o Coetmor,Bethesda. Anfonwn eincydymdeimlad atoch.

ProfedigaethAr 7 Mawrth, yn Ysbyty GwyneddBangor, bu farw Ellen Griffiths,22 Erw Faen, a hithau’n 81mlwydd oed. Roedd yn briod â’rdiweddar Victor Griffiths, yn fam iMelvin,Wyn, Marian ac Arvon acyn Nain i Richard, Alex, Sioned,Ifan a Llion. Cynhaliwyd eihangladd yng Nghapel Shilohgyda’r gwasanaeth yng ngofal eigweinidog, sef Y ParchedigGwynfor Williams a Mr WynWilliams yn cyfeilio ar yr organ.Roedd yn aelod triw a chyson ynShiloh a bydd bwlch ar ei hôlymhlith yr aelodau. Cydymdeimlwn gyda’r holl deuluyn eu profedigaeth.

Cydymdeimlwn fel ardal gydatheulu Herbert Percival Parry[Percy] fu farw ar Fawrth 23 wedigwaeledd hir a chas. Mae ei ferchAmanda a’r teulu yn byw yn 11Tal y Cae a chydymdeimlwn gydachi i gyd fel teulu yn eich hiraeth.

Llwyddiant yn Eisteddfod Sir yrUrddUnwaith eto rydan ni’nllongyfarch Aziliz Kervegant, TanDderwen, Tregarth a gipioddddwy wobr gyntaf yn EisteddfodSir yr Urdd. Llwyddodd i ennill ywobr gyntaf am ganu unawdBlwyddyn 5 a 6 ac roedd hefyd ynun o drawd o Ysgol Llanllechidlwyddodd i gael y wobr gyntaf amganu Grŵp Lleisiol dan 12 oed.

Llongyfarchiadau i Manon Owen,9 Tal y Cae am ei llwyddianthithau yn ennill y drydedd wobram ganu unawd dan 19 mlwyddoed yn Eisteddfod Sir yr Urdd.

Da iawn tithau Huw Morris Jones,Lliwedd, am fod yn rhan o’r Grŵpcanu Bechgyn o Ysgol Tryfan,Bangor enillodd y gystadleuaethyn yr Eisteddfod Sir.

Beth am gael mwy o hanes rhai fu’nfuddugol yn Eisteddfod Sir yr Urddo’r ardal ac sydd yn edrych ymlaen igystadlu yn EisteddfodGenedlaethol yr Urdd yn Sir Benfroyn Mis Mai/Mehefin eleni ?

Merched y Wawr, Cangen TregarthDathlodd aelodau’r gangen ŴylDdewi gyda noson yng nghwmni ygrŵp Boncathod o ardal Bethesda.

Cyflwynwyd y merched i’rgynulleidfa gan Marred GlynnJones ac yn ystod y nosondiddanwyd ni drwy ganeuon gwerina thraddodiadol gyda chysylltiad âDyffryn Ogwan a gyda beirdd allenorion yr ardal. Cafwyd caneuonyn ymwneud â hiraeth a chariad aphob dehongliad yn deimladwy adidwyll. Noson werth chweil iddathlu Gŵyl ein Nawddsant

Diolchwyd i’r merched gan MaryJones a pharatowyd y baned gan raio aelodau’r pwyllgor.

Bydd y gangen yn cyfarfod nesaf arEbrill 8 gyda noson yng nghwmniGwilym Evans o Lanberis fydd ynsiarad ar y testun ’Oel MorrrisIfans’. Croeso cynnes i bawb iFestri Capel Shiloh am 7 o’r gloch.

Bore coffi Ymchwil CancrAr Fawrth 2, yn Neuadd Ogwen,Bethesda, cynhaliwyd Bore Coffi igodi arian i Ymchwil Cancr yGogledd Orllewin, er cof amCarwyn, mab Annwen ac EmlynThomas, Tre Ceiri, Tal y Cae,Tregarth.

Llwyddwyd i godi £820 a dymuniady teulu yw diolch o waelod calonam gyfraniad a chefnogaeth pawb oDdyffryn Ogwen a thu hwnt i’rachos teilwng yma.

Diolch i Annwen ac Emlyn amdrefnu y Bore Coffi.

Cylch Meithrin TregarthCreoso cynnes i’r holl blant newydda’u rhieni i Gylch MeithrinTregarth. Mae’n blesser gweldgymaint o blant yn barod am hwyl asbri bob bore.

Bu’r plant yn brysur iawn wrthddilyn thema ‘Dydd a Nos’ ynghyda dathlu sawl diwrnod arbennig sefBlwyddyn Newydd Cheiniadd,diwrnodd y crempog, Dydd GŵylDewi a’r Pasg.

Oes gynnoch chi blentyn 2 oed neufwy? Beth am iddo/iddi ymuno âni? Dan ni’n cymryd enwau rwanar gyfer mis Medi.

Ti a Fi Cylch Meithrin TregarthMae Ti a Fi Cylch MeithrinTregarth wedi bod yn brysur iawnefo babis a rhieni newydd yn dod ichwarae, canu a chael paned. Maeyna gyfle hefyd i siarad efo yrymwelydd Iechyd Menna Williamsa pwyso eich babi. Dan ni wedimwynhau sesiwn gan TWF, ac arDdydd Gŵyl Dewi daeth Annest oTWF Môn Ogwen er mwyn gwneudcrefftau a chanu cân arbennig argyfer yr ŵyl.

Cylch Meithrin Tregarth (Rhan o’r Mudiad Ysgolion Meithrin)

Dydd Llun i Dydd Gwener 9.00-12.00 £6 y sesiwnClwb Cinio £4 y sesiwn

Plant Meithrin Ysgol Tregarth yn unig

Ti a Fi Cylch Meithrin Tregarth(gyda ymwelydd Iechyd)

Dydd Gwener 10.00 i 12.00 £2Cynhelir bob sesiwn yng

Nghanolfan Gymunedol Tregarth.

A oes gennych lefel 2/3 mewn gofal plant?

Cysylltwch gyda ni. Rydan ni’nedrych am staff wrth gefn i ymuno

â’n tîm arbennig o Antis.

Rhif Ffôn Cylch MeithrinTregarth: 01248 602802 neu

07825406640

LlongyfarchiadauI Faye ar enedigaeth merch fach,Nancy Alice, ac I Alwenna ynNain a Dei a Megan Parry yn henDaid a hen Nain. Pobhapusrwydd I chi.

Clwb y MynyddCafwyd Te Prynhawn wedi eidrefnu gan Gaffi Coed y Brenin,rhodd gan Gapel Amana.Diolchwn i’r Capel ac i GaffiCoed y Brenin am wledd hyfryd.

Clwb IeuenctidBu’r plant yn brysur yn gwneudcardiau Pasg a choginioteisennau. Ar ddechrau Ebrilltrefnwyd Helfa Wyau Pasg, aphawb wedi mwynhau. Diolch iIola a Steff am y trefniadau ac iJames am y rhodd o wyau Pasg.

Mynydd

LlandygáiTheta Owen. Gwêl y Môr, Mynydd Llandygai. 600744

Llais Ogwan 9

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 9

Page 10: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Eglwys y Santes Ann a’r Santes Fair

Ebrill 21: 9.45 Boreol Weddi28: 9.45 Cymun Bendigaid

Mai 05: 9.45 Gwasanaeth Teuluol12: 9.45 Cymun Teuluol19: 9.45 Boreol Weddi

Braf oedd gweld cynifer o bobl yn ygwasanaeth fore Sul y Pasg - bore heulog brafwedi’r eira mawr.

Yn anffodus bu’n rhaid gohirio’r Ffair Basgond bwriadwn gynnal Te Bach y Sulgwyn efostondinau brynhawn Sadwrn, 18fed Mai am 2o’r gloch. Ymunwch â ni ar gyfer te’rprynhawn.

Ein dymuniadau gorau i bawb sy’n sâl ar hyn obryd, anfonwn ein cofion cywiraf atoch i gyd.

CHWILAIR EBRILL 2013Cwmnïau Bysys Gogledd Cymru

Y mis yma mae deuddeg o GWMNÏAU BYSUS GOGLEDD CYMRU i’w darganfod.

Mae un cliw wedi ei ddangos yn barod. A oes modd i chwi ddarganfod y gweddill. (MaeLL, CH, DD, TH), ac yn y blaen yn un llythyren yn y Gymraeg, ond at ddibenion y chwilairdangosir hwynt fel dwy lythyren ar wahân.

Atebion gydag enw a chyfeiriad i Andre Lomozik, Zakopane, 7 Rhos-y-coed Bethesda,Bangor, Gwynedd LL57 3NW erbyn y cyntaf o Fai os gwelwch yn dda. Bydd gwobr o £5i’r enw cyntaf allan o’r het. Os na fydd unrhyw un wedi dod o hyd i’r deuddeg, yna’r niferagosaf fydd yn cael y wobr.

Diolch am rhoi cynnig ar y chwilair unwaith eto, yn anffodus nid oedd y chwilair o’r unmaint ag yr oedd cynt, nag yn glir iawn ond fe gafodd nifer dda ohonoch hyd i’r atebioncywir. Dyma atebion Mawrth, Aneurin Bevan, Catherine Zeta Jones, David Lloyd George,Esgob Williams Morgan, Gerallt Gymro, Henry Morton Stanley, Hywel Dda, Kate Roberts,Michael D. Jones, Neil Kinnock, Saunders Lewis, Tanni Grey Thompson.

Dyma enwau’r rhai a gafodd yr atebion cywir. Merfyn a Laura Jones, Pen-isa’r AlltTregarth; Glenys Clark, Ffynnon Wen Tregarth: Marilyn Jones, Glanffrydlas; Eira Hughes,Ffordd Ffrydla,s Bethesda; Gwen Davies, Tanysgrafell Isaf; E. Buckley, Tregarth; ElfedBullock, Maes y Garnedd; Doris Shaw, Llwyn Hudol, Bangor; Glenys Roberts, Hen Barc,Mair Jones; Ffordd Bangor, Herbert Griffiths; Tregarth, Eirlys Edwards; Central GarageBethesda; Alwyn Rowlands, Tregarth; Rosemary Williams, Tregarth; Meirwen Owen,Rhiwlas; Rhiannon Ifans; Glan Aber, Pant.

Enillydd Mawrth oedd. Doris Shaw 26 Llwyn Hudol Bangor LL 57 1SG

GlasinfrynCaerhunMarred Glynn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn, Bangor LL57 4UP01248 [email protected]

Clwb Cant y GanolfanMis Mawrth

£20 - 16 - Rhiannon Hughes£10 - 116 - Hannah Williams£ 5 - 54 - Barbara Jones£ 5 - 95 - Debbie Hill

BingoGwnaed elw o £105.50 yn y Bingo a gynhaliwydar 8 Mawrth tuag at y Ganolfan. Diolch yn fawriawn i bawb am bob cyfraniad a chefnogaeth.

Ac ar 12 Ebrill am 7.30yh, cynhaliwyd Bingoarall gyda’r elw y tro hwn yn mynd tuag atAmbiwlans Awyr Cymru. Gobeithir cynnal yr unnesaf ar 17 Mai gyda’r elw yn mynd at DîmAchub Dyffryn Ogwen.

Sefydliad y MerchedUnwaith eto eleni buom yn ddathlu Gŵyl Ddewigyda Chawl a Chân. Daeth Mr Michael Richardsatom ar y noson. Bu’n chwarae’r delyn Geltaiddi’n diddanu a chawsom hwyl yn ymuno yn y canu.(Gwyliwch! Efallai y gwnawn ni ddechrau côr yny Sefydliad!)

Diolchwyd i Mr Michael Richards yn gynnesiawn gan Mrs Glenys Morgan. Yn dilyn ydiolchiadau cawsom wledd o gawl a phob math oddanteithion wedi eu paratoi gan yr aelodau.Noson braf, cymdeithasol gyda miwsig hyfryd.Diolch i bawb am eu cyfraniad.

Ymgyrch yn parhauMae’r ymgyrch i gael mwy o aelodau i Glwb Canty Ganolfan yng Nglasinfryn yn parhau. Mae nifero aelodau newydd wedi ymuno erbyn hyn sy’nnewyddion da i’r Pwyllgor Rheoli sy’n edrych arôl y Ganolfan ac sy’n awyddus i sicrhau fod ycyllid ar gael i gadw’r adeilad mewn cyflwrardderchog ar gyfer y gymuned.

Os hoffech chi fod yn aelod o’r Clwb Cant, ynacysylltwch â Mair Griffiths, y Trysorydd neuMarred Glynn Jones (manylion cyswllt uchod).

Mynydd Llandygái - Parhad Helfa Wyau ar Foelyci

Plant Mynydd wedi mwynhau ei hunainyn hel wyau pasg ar Foelyci ar ddydd

Llun y Pasg. Diolch i Coetir Mynydd aChlwb Ieuenctid Mynydd am y rhoddion.

Llais Ogwan 10

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 10

Page 11: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Posh PawsTacluso Cŵn

Busnes lleol

Prynhawniau neu Nosweithiau4.00 - 10.00

Dydd Sul 8.00 a.m - 4.00 p.m.Gwasanaeth casglu a danfon

Ty’n Llan Uchaf, Llanddeiniolen 01248 671382 neu 07935324193Ebost: [email protected]

01248 361044 a 07771 634195

Bysus o 25 i 57 sedd ar gael ar gyfereich holl anghenion teithio -

tripiau, priodasau, partïon ac ati.

Gwasanaeth lleol, traddodiadol a dibynadwysefydlwyd 1997 perchennog: derfel owens

Blodau Hyfryd7 Rhes Buddug, Bethesda

602112 (gyda’r nos 602767)Blodau ar gyfer pob achlysur

Priodasau, Angladdau ayybFfres a Sidan

Gwasanaeth ‘Archebu a Danfon’

MODURON PANDY

Cyf.Tregarth

Gwasanaeth AtgyweirioCanolfan ‘Unipart’

M.O.T.

Ffôn: 01248 600619 (dydd)

Modurdy CentralCeir ail-law ar werth

M.O.T. ar gaelHefyd

Trwsio a GwasanaethAr Allt Pen-y-bryn, Bethesda

601031

Elwyn Jones & Cohefyd yn masnachu fel

Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd

- Cyfreithwyr -

123 Stryd FawrBangor

Gwynedd(01248) 370224

Ar gyfer eich holl anghenion cyfreithiolGwasanaeth dwyieithog personol a chyfeillgar

Swyddfeydd eraill:

Llangefni Amlwch Benllech(01248) 723106 (01407) 831777 (01248) 852782

Caernarfon Pwllheli(01248) 673616 (01758) 703000)

Cerbydau PenrhynCabiau a bysiau mini

Ffôn: (01248) 600072

Meysydd awyr PorthladdoeddContractau

Contractwyr i Wasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru

Llais Ogwan 11

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 11

Page 12: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei

drafod gyda’ch AC mewn cymhorthfa,

yna cysylltwch ag o yn ei swyddfa ym

Mangor neu yng Nghaernarfon

Alun Ffred JonesAelod CynulliadEtholaeth Arfon

Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076

[email protected]

Hywel WilliamsAelod SeneddolEtholaeth Arfon

CYMORTHFEYDDOs oes gennych fater yr hoffech eidrafod gyda’ch AS mewn cymhorthfa,yna cysylltwch ag ef yn ei swyddfaym Mangor neu yng Nghaernarfon:

Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076

[email protected]

Contractwyr Trydanol

Jones & Whitehead Cyf

Swyddfa GofrestredigPenrala, Tregarth, Bangor, Gwynedd, LL57 4AU

Ffôn: 01248 601257Ffacs: 01248 601982

E-bost: [email protected]

Lôn Las Ogwen wedi ei hymestyn i Fethesda

Ar hyn o bryd, mae Lôn Las Ogwen - llwybr addas ar gyfer cerddwyr abeicwyr - yn ymestyn o Borth Penrhyn ar gyrion dinas Bangor hyd atDregarth. Mae’r prosiect yma, sy’n werth £14.5 miliwn yn golyguymestyn y llwybr i Fethesda.

Dywedodd y Cynghorydd John Wyn Williams, aelod Cabinet CyngorGwynedd gyda chyfrifoldeb am lwybrau:

“Rydw i'n falch iawn fod gwaith wedi cychwyn ar y cynllun pwysighwn ac yn hyderus y bydd y llwybr newydd o werth enfawr i’r ardalleol. Fel Cyngor, rydym yn awyddus i annog mwy o bobl i gerdded abeicio, nid yn unig yn ystod eu hamser hamdden ond fel modd i deithioo A i B.

“Mae gweithgareddau awyr agored yn cynyddu mewn poblogrwydd acrydym yn hynod o ffodus yma yng Ngwynedd bod gennym gefn gwladsyfrdanol i fwynhau’r awyr agored.

“Mae cerdded ar hyd y llwybrau hyn yn fodd o agor llygaid pobl i’rhanes lleol, gan fod cryn dipyn o rwydwaith Lôn Las wedi ei hadeiladuar gyn rheilffyrdd, yn cyfeirio’n ôl i orffennol diwydiannol Gwynedd.

“Rydym hefyd yn awyddus i annog mwy o bobl i adael eu ceir adref, aci gerdded neu feicio i’w gwaith, ysgol, i’r siopau neu i ymweld âffrindiau. Mae’r effaith amgylcheddol o gael cymaint o geir ar y fforddyn amlwg, a byddwn yn annog mwy o bobl i ystyried dulliau eraill ogludiant yn y dyfodol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Ann Williams, yr aelod lleol ar gyfer wardOgwen ar Gyngor Gwynedd: “Rydw i’n falch o weld y gwaith pwysighwn wedi ei gychwyn. Mae wedi cael ei groesawu gan bobl leol a byddo les enfawr i’r ardal.

“Ni fyddai’r cynllun hwn erioed wedi cael ei wireddu heblaw am ygefnogaeth a gafwyd gan berchnogion tir lleol ac rydym yn ddiolchgariddynt am eu parodrwydd i gydweithredu. Rydym hefyd wedigweithio’n agos gydag asiantaethau eraill, cynghorau cymunedol acYsgol Dyffryn Ogwen.”

Dywedodd y Cynghorydd Gwen Griffith, yr aelod ar gyfer Tregarth aMynydd Llandygai ar Gyngor Gwynedd: “Rydw i’n falch bod y camyma o’r cynllun wedi cychwyn, gan ei fod yn dilyn y gwaithllwyddiannus a wnaethpwyd ar y bont yn Felin Hen a’r gwelliannau iBarc Meurig - sydd wedi dyblu defnydd o’r parc wrth i bobl gerdded argyfer hamdden.

“Rydw i hefyd yn falch bod rhagor o waith i fod i gychwyn yn NyffrynOgwen yn nes ymlaen eleni, pan gaiff y llwybr rhwng Tregarth aBethesda ei uwchraddio drwy agor Twnnel Dinas ger Cerrig Llwydion.”

Mae’r buddsoddiad gan Gyngor Gwynedd a’i bartneriaid yn galluogipobl i gerdded a beicio ar hyd Gwynedd oddi wrth draffig: mae Lôn LasOgwen wedi’i gysylltu gyda Lôn Adda ym Mangor, sydd yn cysylltu’nhawdd gyda Lôn Las Menai rhwng Y Felinheli a Caernarfon, sydd yna’ncysylltu gyda Lôn Eifion rhwng Caernarfon a Bryncir. Mae llwybraucymunedol eraill sydd yn ymganghennu o’r llwybr hwn yn ymestyn morbell at y gorllewin ag Aberdesach.

Am ragor o wybodaeth am lonydd glas Cyngor Gwynedd, ewch i:www.gwynedd.gov.uk/lonlasgwynedd

Gwaith yn bwrw ymlaen ar ymestyn Lôn Las Ogwen

Llais Ogwan 12

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 12

Page 13: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

AR DRAWS1. Rhif unigol; 1,2,3 ac ati (5)4. Mewn hwn mae nerth diarhebol (5)8. Wel ! Dwi’n drysu wrth wneud yr

holl arian ‘ma (3)9. 12½c nain a taid (6,5)

10. Aelod sy’n dilyn un o enwadau crefyddol Cymru. Amlycaf yn y de (7)12. Yng Nghôr y Cewri a Gorsedd yBeirdd (5)13. Gwylio’n graff (6)14. Dyma Llio yn feddw heb ei modrwyyn cael diod (6)17. ‘Gwlad y menyg gwynion’. I hannery wlad efallai (5)19. Glynllifon, Faenol a ChastellPenrhyn (7)21. Ymhen saith niwrnod (6,5)23. A yw’n gwybod mai hogyn ei daidydyw ? (3)24. Mae’n chwarae’r offeryn a’i fol ardân ! (5)25. “Cwsg -----, cwsg yn glyd yn dyhudol grud; Cwsg heibio brad a llid,Cwsg er rhwysg dy fyd.” O sioe gerddGymraeg (5)

I LAWR1. Pan fyddwch ag awydd angerddol

am gael rhywbeth (5)2. Dwi’n gwybod fod gan Dafydd Ifan

un o’r rhain, yn ôl y gân werin (3)3. Gwasga dy drwyn, mae’r ogla’n

annioddefol ! (7)4. “Hoff gennyf fy mwthyn ------, A

weli’n y ceunant draw”. Eifion Wyn(6)5. Heb nerth, na hawl, na dylanwad (5)6. A neb ac 1 Ar Draws ar chwâl, er

mor sanctaidd ydyw (9)7. Herwr. Roedd llawer o rai cochion

Croesair Ebrill 2013

yn y blaen, etc.’. Roedd ymhell dros hannerohonoch wedi cynnig yr ateb ‘Ac eto’. Gan fodcymaint wedi rhoi’r ateb yna, bum yn meddwlei dderbyn. Ond wedi dwys ystyried, chlywais ineb erioed yn dweud ‘ac eto’ am ‘etc’. ‘Ac ati’glywaf i bob amser, ac er tegwch i’r gweddill agynigiodd yr ateb hwnnw penderfynais, ergwell neu er gwaeth, wrthod ‘ac eto’. Ondpeidied neb a digalonni; mae codi nyth cacwnyn beth da i’n cadw’n effro weithiau. Fellydyma enwau’r rhai a yrrodd atebion cywir :Dulcie Roberts, Tregarth; Emrys Griffiths,Rhosgadfan; Dilys Parry, Rhiwlas; EllenWhitehouse, Birmingham; Gwyl Owen,Bethesda. Yr un sy’n mynd a’r wobr y tro hwnyw Dilys A. Pritchard-Jones, Ynys, Abererch,Pwllheli LL53 6YP. Longyfarchiadau i chi.

Atebion erbyn dydd Mercher, 1 Mai i ‘Croesair Ebrill’,Bron Eryri, 12 Garneddwen,Bethesda. LL57 3PD.

Enw:

Cyfeiriad:

yng nghanolbarth Cymru erstalwm (7)11. Fel hyn mae’r llyn sy’n llonydd (9)13. Un o swyddogion gêm beldroedneu rygbi (7)15. Mae athro da -- ----- dychymyg abrwdfrydedd ei ddisgyblion (2,5)16. Mae angen tylla go fawrymhobman i’r gath wneud hyn ynllwyddiannus (6)18. Yr hyn a wneir i ferfa (5)20. Wedi blino cymaint, daw’n fuan iaros yn yr un lle heb symud (5)22. Llafn eira (3)

ATEBION CROESAIR MAWRTH2013

AR DRAWS 1. Ceffyl; 4. Ac ati; 10. Mordaith; 11. Mieri; 12. Soni/ja;13. Ailosod; 15. Elwa; 17. Safle;19. Gabon; 22. Isod; 25. Pastynu; 27. Natur; 29. Nerthu; 30. Nodedig;31. Mafon; 32. Burum.

I LAWR 2. Eirin; 3. Ymadael; 5. Camel; 6. Treisio; 7. Ymysg; 8. Athraw; 9. Tir Du; 14.Iago; 16.Lein;18. Awstria; 20. Adnodau; 21. Epynt; 23. Sugno; 24. Arogl; 26. Ymuno; 28. Tad-cu.

Ymddiheuriadau diffuant i’r saithffyddlon y methais eu henwi yn rhestrcynigion cywir mis Chwefror.Fy mlerwch i, a neb arall, oedd y cam.I wneud iawn â chi, dyma gyhoeddi’chenwau yma : Ann Ifans, Penisarwaun; EmrysGriffiths, Rhosgadfan; Jean VaughanJones, Rhiwlas; Gaynor Elis-Williams,Gwenno Evans, Bethesda; Dilys A.Pritchard-Jones, Abererch; DulcieRoberts, Tregarth.

Rwan at groesair mis Mawrth. Dymagur pen arall i mi ! Dim ond un gwall agafwyd, a hwnnw oedd ateb y cliw ‘Ac

Pwy Sy’n Cofio Ddoe?© Dr J. Elwyn Hughes

Dyddiadur Digwyddiadau yn NyffrynOgwen rhwng 1819 a 1822

1819• Codi’r adeilad cyntaf ar y lôn bost newydd –tafarn y ‘Star’ a’r llain o dir y tu cefn iddi yneiddo perchnogion y dafarn. Codwyd tai affatri ar y tir hwn ymhen rhai blynyddoeddwedyn a chwbl naturiol oedd cyfeirio ato fel‘Cae Star’.

• Codi Pont y Pandy gan Thomas Telford (adyddiad ei chodi wedi ei gerfio ar garreg ynwal y bont). Galwyd hi’n Bont Half-Wayoherwydd ei bod hanner ffordd rhwng yr hen

George Hotel (ar hen safle’r Coleg Normal arffordd Porthaethwy) a Thy’n-y-Maes, y ddaule hyn yn fannau pwysig yng nghyfnod yGoets Fawr.

1820• Adeiladu ysbyty i’r chwarelwyr ym Mangor.

• Yr Annibynwyr yn codi capel mewn lle o’renw Y Wern Uchaf, ar ochr Lôn Bost newyddThomas Telford, a’i alw’n ‘Bethesda’.Codwyd y capel hwn i gymryd lle’r hen gapelyn Nhros-y-ffordd (bellach dan domennyddChwarel y Penrhyn ers blynyddoedd lawer).

• Gŵr o’r enw Overen, brodor o Gaer Efrog, aoedd yn un o arolygwyr Thomas Telford ar yffordd newydd (yr A5), yn prynu Chwarel yCoed ‘a elwid felly’ meddai Hugh DerfelHughes, ‘am fod “Derw Coetmor” yn cyrraeddyma a chyfenwid hi gynt yn Gloddfa Llety yrAdar’. Overen a adeiladodd Tŷ Mawr ar AlltCefnfaes a gelwid y cae o gwmpas y tŷ hwnnwyn Cae Ofran.

• 16/06/1820: Geni’r cerddor David Roberts(Alawydd) yng Nghaerberllan, yn fab i MosesRoberts y Gof. Dechreuodd weithio yn yChwarel pan oedd yn 10/11 oed. CyhoeddoddGramadeg Cerddoriaeth yn 1848, aailargraffwyd, wedi’i ddiwygio, yn 1862.Enillodd wobrau am yr anthemau gorau ynEisteddfod Gerddorol Bethesda 1851, 1852 ac1853. Bu farw 26/05/1872 yn 52 oed, achladdwyd ef ym Mynwent Glanogwen.

• Griffith Williams (Gutyn Peris) yn sefydluYsgol Nos yng Nghapel y Carneddi i ddysguGramadeg.

1821• 06/1821: Yn ôl Ernest Roberts:‘Mabwysiadwyd yr enw “Bethesda” gyntaf …yn llyfr Bedyddiadau Eglwys Bethesda ar y

clwstwr tai a oedd yn codi o gwmpas y capel.Erbyn 1822, roedd yr enw wedi ei dderbyn ynswyddogol i gofrestrau Eglwys y Plwyf(Llanllechid) lle cofnodir claddedigaeth “ElinWilliams, Cae Garw, Bethesda”.

• Dyfodiad Robert Williams, Cae Aseth(Llanbedr, Dyffryn Conwy), i’r cylch.Sefydlodd Gymdeithas Ganu yng Nghapel yCarneddi i ddysgu canu, tonau, anthemau, acherdd yn gyffredinol. Lladdwyd ef ynChwarel y Penrhyn yn 1828 ac yntau’n 37 oed.

1822• Ebrill 1822: Lewis Owen, cyn-filwr a chyn-ostler yn y ‘Bull’, Dinbych, yn ymosod arecseismon (Thomas Sturdy) rhwng TyrpegPont-y-Tŵr a Bethesda, ei saethu a’i guro, adwyn ei geffyl a 3/6d o arian. Dihangodd hebdalu’r doll wrth Dyrpeg Pont-y-Tŵr ondgwelwyd ef gan William Thomas, ceidwad ytyrpeg, ac aeth hwn, ynghyd â dynion eraill, arei ôl a’i arestio yn Nhafarn y Swan ynNinbych. Bu achos yn Seisus Caernarfon ymMedi 1822 a chafodd Lewis Owen eiddedfrydu i farwolaeth. Crogwyd ef yngyhoeddus ar Forfa Seiont o flaen tyrfa ooddeutu 1500 o bobl.

• 22/11/1822: Geni Robert Morris Jones yngNghaerberllan. Ymfudodd i Slatington,Pennsylvania, UDA, pan oedd yn 24 oed, acagorodd chwarel lechi yno. Prynodd ragor o’r‘Slate Belt’ maes o law ac ystyrid ef yn dad ydiwydiant llechi yno a hefyd yn sefydlyddBangor, Pennsylvania. Ymsefydlodd tua 1864yn Portland, Northampton County, a sefydlu’r‘Old Bangor Slate Co.’ Bu farw Ionawr 15,1886, yn Philadelphia. Codwyd cofadail iddoar lawnt Ysgol Uwchradd Bangor, P.A. achofadail arall ger y Llyfrgell Gyhoeddus.

I’w barhau

Llais Ogwan 13

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 13

Page 14: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan 14

Y Douglas Arms* Lluniaeth i Bartïon * Te Cynhebrwng *

* Gardd Gwrw * Te a Choffi *Oriau Agor

Llun – Gwener: 6.00 - 11.00Sadwrn: 3.30 – 12.00

Sul: Pnawn 1.00 - 4.00, Hwyr 8.00 -11.0001248 600219

www.douglas-arms-bethesdaCewch groeso cynnes gan

Gwyn, Christine a Geoffrey

Braf yw cyhoeddi fod Lowri Prys RobertsWilliams o Frynrefail wedi cael ei phenodiyn Arweinydd Côr Meibion Dinas Bangor iolynu James Griffiths ar ôl ei ymddeoliad arddiwedd Ionawr wedi 25 mlynedd ynarwain y Côr.

Y mae aelodau’r Côr yn hynod falch o'rpenodiad oherwydd bu Lowri yn gyfeilyddy Côr am bron iawn i 25 mlynedd. Fellybraf yw edrych ymlaen at gyfnod newyddyn hanes y Côr o dan ei harweinyddiaeth.Cyfeilydd y Côr i olynu Lowri fydd GwilymLewis o Gaergybi sydd eisoes wedi bod yngweithredu fel Is-arweinydd. Y mae BarryWynne o Ffordd Islwyn, ac yntau yn aelodffyddlon o'r Côr ers blynyddoedd, wedi caelei benodi yn Is-arweinydd. Yn ogystal â hynbydd y cyn-arweinydd hefyd wrth law ihelpu allan mewn unrhyw ffordd pan fyddangen hynny. Y mae'r Côr yn hynod ffoduso gael tîm o gerddorion yn barod iweithredu ac i fwrw mlaen i sicrhau dyfodoli'r Côr sydd ers blynyddoedd bellach wedicyfrannu cymaint i gerddoriaeth a mwynhadcanu ym Mangor fel côr y ddinas. Dymunirpob llwyddiant i Lowri, Gwilym a Barry.Dyma gyfle gwych yn awr i ddarpargantorion ddod ymlaen i lenwi rhengoedd ytenoriaid a'r baswyr. Dewch i Ysgol y Faenol, Penrhosgarneddunrhyw nos Fercher rhwng 7-30 a 9-30 o'rgloch.

Plaid Lafur

Dyffryn Ogwen

Ar ddechrau mis Mawrth aeth nifer oaelodau’r gangen i gyfarfod o BlaidLafur Arfon yng Nghaernarfon, ynbennaf i wneud trefniadau ar gyferdewis ymgeisydd seneddol Arfon.

Yna, ganol y mis, aeth rhai i gynhadleddPlaid Lafur Cymru yn Llandudno, ynbennaf i holi a gwrando ar CarwynJones (Prif Weinidog Cymru) ac EdMilliband (Arweinydd Plaid LafurPrydain). Hefyd cafwyd cyfle i holigweinidogion Llywodraeth Cymru,trafod cynigion, cymryd rhan mewncyfarfod o Gymdeithas Cledwyn (GrŵpCymraeg y Blaid Lafur) ac yn y blaen.

Ar ddiwedd y mis cynhaliwyd cyfarfodmisol y gangen gyda Gwynfor Edwards(Cynghorydd Sirol Llafur, WardDeiniol). Yn ogystal â’r agenda arferol.gwnaed trefniadau i gynnal taithgerdded ym mis Ebrill. Nodwyd bodCyngor Gwynedd yn chwilio am ffyrddi leihau’r galw am wasanaethau’rCyngor a bod Cyngor Bethesda hebgynyddu’r praesept treth cyngor.

Côr Meibion Dinas Bangor Plaid Cymru

Cangen Dyffryn Ogwen

Rhes Flaen (o’r chwith): Mrs Jessi Owen, Tangadlas; Mrs Florrie Jones, 8 Gernant; Mrs NellJones, 4 Gernant; Mrs Dilys Hughes, 15 Gernant; Mrs Griffiths, ‘Sir Fôn’; Desna Ashton, 10

Gernant; Mrs Mary Owen, 12 Gernant. Rhes Ôl : Mair Owen, 14 Gernant; Iola Jones,Abercaseg; Helen Owen, 25 Braichmelyn; Eirwen Roberts, 33 Braichmelyn; ??

Diolch i Mair Martin (Owen gynt) o Lanfairfechan am y llun.

Cynhaliwyd y cyfarfod diwethaf ar 26Mawrth dan lywyddiaeth y cadeirydd, PaulRowlinson.

Croesawyd Huw Peredur Jones, cynghoryddnewydd Plaid Cymru ar Gyngor CymunedLlandygái i’r cyfarfod.

Adroddwyd yn ôl ar y sefyllfa barcio yn yGerlan a’r cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwydyn y Caban dan lywyddiaeth y CynghoryddDyfrig Jones. Dywedwyd y bu’n gyfarfodcadarnhaol a bod gwahanol syniadau i’wtrafod.

Cytunodd pawb bod y Cyfarfod Blynyddolwedi bod yn llwyddiannus iawn, ynghyd â’rbore coffi y bore canlynol.

Yn ystod y tywydd garw ni fu trydan mewnllawer o gartrefi yn yr ardal a bu nifer o’rcynghorwyr mewn cyswllt gyda ScottishPower i geisio monitro’r sefyllfa. Diolchwydunwaith eto i Meirion Williams o GyngorGwynedd am ei ddycnwch yn sicrhau bodein ffyrdd yn glir.

Bu’r Cynghorydd Dafydd Meurig yn helpuGrŵp Cymunedol Talybont gyda’u cais isicrhau grant ar gyfer cae chwarae yn ypentref. Y Cyngor Cymuned yw perchnogiony tir ond bydd y criw gweithgar yma yngyfrifol am gynnal a chadw.

Adroddwyd bod Partneriaeth Ogwen ynbrysur iawn a bod cynlluniau cyffrous ar ygweill.

Bu’r Cynghorydd Rheinallt Puw yngnghyfarfod o’r Cyngor Cenedlaethol lle butrafod ar y newidiadau sydd yn yCyfansoddiad Newydd. Pleidleisiwyd ybyddai swydd y Llywydd yn cael ei diddymuac y bydd bellach Arweinydd a thimarweinyddol.

Mae trefniadau ar gyfer noson yng nghwmniTammy Jones ar y gweill. Edrychwch am yrhysbyseb.

Carnifal Pont y Tŵr 1952

O’r Cyngor

Cyngor Cymuned PentirYng Nghyfarfod Cyngor Cymuned Pentir agynhaliwyd ar 14 Mawrth nodwyd yr angen igael gwybodaeth lawn o'r llwybrau cyhoeddusyn yr ardal. Mae angen gwybod lle mae'rllwybrau ac a ydynt yn cael eu defnyddiobellach. Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddiPolisi newydd ar gyfer llwybrau a byddswyddog o'r Cyngor yn trefnu archwiliad obob llwybr cyhoeddus yn y man.Nodwyd hefyd fod Mynwent Pentir yn prysurlenwi a bod angen gweithio allan yn fuanfaint o le sydd ar ôl i feddau newydd, aphenderfynu pa bryd y bydd yn ofynnoldefnyddio'r Fynwent Newydd yn unig.Yn unol â phenderfyniad Cyngor Gwynedd iwneud caeau chwarae y sir yn rhai di-fwg, cytunwyd y dylid pwrcasuarwydd i gae chwarae Caerhun yn nodi na ellirysymygu yno.

Cyngor Cymuned Llandygái Cynhaliwyd cyfarfod Mis Mawrth 2013 yngNghanolfan Tregarth gyda’r Cynghorydd RhysM. Llwyd yn y gadair.Estynwyd croeso i’r Heddwas Dale Cassidy achafwyd trafodaeth fuddiol yn ymwneud âphroblemau parcio yn yr ardal. Byddir yntrafod ymhellach gyda’r Cyngor Sir.Penderfynwyd cyfethol Mr. Huw PeredurJones i sedd wag ar Ward Tregarth a dymuniryn dda iddo.Nid yw’r Adran Briffyrdd mewn sefyllfa iddarparu bin halen ychwanegol ar Allt BrynEgwys.Bu’r Cynghorydd Dafydd Owen yn trafodmaterion ynglŷn â llwybrau cyhoeddus gydaswyddogion o’r Cyngor Sir a chafwyd arddeall y bydd contractwyr yn gwneudgwelliannau i nifer o’r llwybrau pan fydd ytywydd yn caniatau.Mae trefniadau ar y gweill i dacluso a pheintiorhagor o gysgodfannau bws.Byddir yn dwyn sylw’r Cyngor Sir at dyllausy’n gwaethygu ac yn datblygu i fod ynberyglus ar ffyrdd yr ardal.

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 14

Page 15: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan 15

L. Sturrsa’i feibionsefydlwyd yn 1965

ADEILADWYRHen Iard Stesion,

Ffordd y Stesion, Bethesda

Ffôn: 600953Ffacs: 602571

[email protected]

“J.R.”SGAFFALDWYR

Yr Iard, Ffordd StesionBethesda

Ffôn: (01248) 601754

Dyma ni - sgaffaldwyr o fri

Un sesiwn am ddim os dewchâ’r hysbyseb hwn hefo chi

Croeso i bawb, yn arbennig dysgwyr

Manylion gan Jake neu ElenaFitzpatrick - 01248 602416

neu galwch heibio’r dosbarth

Dosbarthiadau

yng Nghanolfan

Gymdeithasol

Tregarth bob

nos Fercher

6.30 tan 8.30

WU SHU KWANBocsio Cic Tsieineaidd (Kung Fu)

DAFYDD CADWALADRDAFYDD CADWALADR

Cynhyrchion Coedlannol

Coed Tân - Llwythi bach a mawrYsglodion pren i’r arddFfensio a thorri coed

Asiant system gwresogi trwylosgi coed

01248 605207

Malinda Hayward(Gwniadwraig)

Awel DegPenygroes, Tregarth.

Am unrhyw waith gwnïo- trwsio, altro ac ati -

Ffoniwch 01248 601164

DEWCH I WELDEICH

CYFREITHIWRLLEOL

SGWâR BUDDUGSTRYD FAWR

BETHESDAGWYNEDDLL57 3AG

BETHESDA01248 600171

[email protected]

CyfreithwyrY CYNGOR CYNTAF

AM DDIM

EWYLLYSIAU APHROFIANT

SYMUD TŶ

Tudur Owen, Roberts, Glynnea’u cwmni

OWEN’S TREGARTH

Cerbydau 4, 8 ac 16 seddArbenigo mewn meysydd awyr

Cludiant Preifat a Bws Mini

01248 60226007761619475www.owenswales.co.uk

MODURDY FFRYDLAS

PerchennogA. Ll. Williams

Stryd Fawr, Bethesda PROFION M.O.T.

GWASANAETH ATGYWEIRIOTEIARS A BATRIS

GWASANAETH TORRI I LAWRNEu DDAMWAIN

600723 Ffacs: 605068

ProfionM.O.T.

CONTRACTWYR TOI2 Hen Aelwyd, Bethesda

600633 (symudol) 07702 583765

Arbenigo mewn gwaith ffelt a pitsio.

Hefyd toeau llechi a gwaith yswiriant.

Gadewch i ni gynnig pris rhesymol am

waith diguro.

m.hughesa’i fab

Sefydlwyd 1969

Hysbysebwch yn y Llais 600853

Torri GwalltiauDynion a Phlant

gan Alison

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 15

Page 16: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan 16

Gair o’r dosbarth

Gweinidog yn ymweld âdwy o ysgolion ‘rhagorol’

Gwynedd

Rhai o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen yn dangos i LeightonAndrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru sut

maent yn defnyddio’r dechnoleg newydd yn eu gwersi

Mae Leighton Andrews, Gweinidog Addysg a Sgiliau LlywodraethCymru wedi ymweld â dwy o ysgolion ym Methesda a dderbynioddgydnabyddiaeth genedlaethol yn ddiweddar am safon yr addysgragorol y maent yn ei ddarparu.

Bu’r Gweinidog yn ymweld ag Ysgol Abercaseg, sydd wedi cael eiddyfarnu yn “arloesol” gan Estyn ac ysgol uwchradd Ysgol DyffrynOgwen sydd hefyd wedi derbyn canmoliaeth am ei safon “ragorol”gan y corff arolygiaeth.

Dywedodd y Gweinidog: “Dylid llongyfarch Ysgol Abercaseg acYsgol Dyffryn Ogwen am eu gwaith diflino i godi safonau ameithrin rhagoriaeth yn yr ystafell ddosbarth.

“Cafodd y dulliau dysgu dynamig mae Ysgol Abercaseg yn eudefnyddio i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd disgyblion grynargraff arna i, yn ogystal â’r ffordd mae Ysgol Dyffryn Ogwen yndefnyddio technoleg ddigidol i ysbrydoli disgyblion.

“Dylai athrawon a disgyblion yr ysgolion fod yn hynod o falch o’rhyn maent wedi ei gyflawni ac rwyf yn falch iawn bod euhymdrechion wedi derbyn cydnabyddiaeth gan Estyn.”

Yn ddiweddar, derbyniodd Ysgol Abercaseg safon “rhagorol” ymmhob un o’r deg o ddangosyddion ansawdd gan arolygiaeth ysgolionEstyn, a disgrifiwyd yr ysgol yn “arloesol” a “blaengar” gan yrarolygwyr. Yn ystod yr ymweliad cafodd Mr Andrews gyfle i weldyr amrywiaeth o ddulliau sy’n cael eu defnyddion yn yr ystafellddosbarth i ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd y disgyblion.

Meddai Sioned Hywel Thomas, pennaeth Ysgol Abercaseg: “Felysgol, rydan ni wastad yn chwilio am ddulliau newydd ac arloesol iwella safonau fel y gallwn sicrhau bod y disgyblion yn elwa’n fawro brofiadau dysgu. Rydym yn falch bod y Gweinidog wedi cael cyflei weld y dulliau hyn yn cael ei gweithredu yn ymarferol.”

Ysgol Dyffryn Ogwen oedd yr ysgol uwchradd gyntaf yng ngogleddCymru i gael ei dyfarnu’n ‘rhagorol’ ddwywaith o dan drefniadauarolygu newydd Estyn. Yn ystod yr ymweliad cafodd Mr Andrewsgyfle i weld rhan o wers Gymraeg blwyddyn 9.

Esboniodd pennaeth Ysgol Dyffryn Ogwen, Alun Llwyd: “Fel ysgolrydan ni wrth ein boddau bod Estyn wedi amlygu sgiliau ieithyddolrhagorol ein disgyblion yn ei adroddiad, ac yn ystod ei ymweliad,roedd hi’n bleser dangos gwaith blaengar ac arloesol ein staff yn ymaes pwysig hwn i’r Gweinidog.”

Marchnad Ogwen

Dyma Stondin ‘Tatws Bryn’ a’i pherchennog, Chris Jones

Yn Llanllechid mae fferm Chris – sef Bryn Hafod-y-Wern ac yno mae‘ntyfu nifer helaeth o’r llysiau amrywiol sydd ar ei Stondin.Sefydlwyd y busnes yn ôl yn 1952 gyda Chris yn dilyn ôl troed eiddiweddar dad, sef Ken Jones. Mae’r wybodaeth a’r cynghoriongwerthfawr a gafodd Chris gan ei dad yn sicr wedi cyfrannu at lwyddiantTatws Bryn heddiw.Mae’r gwaith yn galed, o hau’r hadau a thrin y planhigion i farchnata’rcynnyrch. Mae Tatws Bryn yn cyflenwi llysiau o gwmpas yr ardal a thuhwnt.Felly os ydych eisiau llysiau wedi tyfu’n lleol gan hogyn lleol, MarchnadOgwen amdani!Chris yw Cadeirydd Pwyllgor Marchnad Ogwen eleni ac mae’n weithgariawn yn hyrwyddo llwyddiant y Farchnad.

Yn Llais Ogwan mis Mai, bydd un o’r stondinau crefft yn cael sylw.

Bydd y Farchnad nesaf 11 Mai yn Llys Dafydd

TAITH DRWY DDYFFRYN OGWEN

Trefnir taith drwy Ddyffryn Ogwen i weld mannau geni a chartrefi rhaio enwogion llên y fro, ddydd Sadwrn, Mai 4, 2013. Bydd y daith yncychwyn y tu allan i Siop Spar, Bethesda am 2 o’r gloch yn brydlon acyn para oddeutu dwy awr a hanner.

Bydd cyfle o weld lle ganed Ifor Bowen Griffith (y darlledwr a’rdiddanwr), y Prifardd Caradog Prichard (awdur Un Nos Ola Leuad),Ernest Roberts (awdur Ar Lwybrau’r Gwynt), Benjamin Thomas(awdur ‘Moliannwn’), J. O. Williams (cydawdur Llyfr Mawr y Plant),a lle bu’r canlynol yn byw: Edward Tegla Davies (Gweinidog acawdur), R. S. Hughes (Cyfansoddwr ac Organydd Capel Bethesda),Rhys J. Huws (sefydlydd Eisteddfod y Plant), William Griffith, Hen-barc (awdur ‘Defaid William Morgan’), R. Williams Parry (Bardd yrHaf), W. J. Parry (awdur ac Ysgrifennydd cyntaf Undeb ChwarelwyrGogledd Cymru), Jennie Thomas (cydawdur Llyfr Mawr y Plant).

Ceir cyfle, hefyd, i weld llu o nodweddion eraill a wna ein hardal ynun o’r llefydd hynotaf yng Nghymru – e.e. Stryd y Gynffon; Pont-tŵra’r ‘llyn bach diog’; Chwarel y Penrhyn; Y Ficerdy (lle bu mamCaradog Prichard yn smwddio i’r Canon); Y Rheinws; Y Gofgolofn(a’i hanes); Y Blw Bel; Capel Bethesda; a beddau enwogion yngNghoetmor.

Yn ystod y daith, bydd cyfle i brynu Rhai o Enwogion Llên DyffrynOgwen – y llyfryn sy’n cynnwys llun pob un o’r enwogion, eu hanes,llun eu man geni/cartref a llun y goflech a osodwyd ar yr eiddo. Mae’rllyfryn yn cynnwys 48 tudalen ac yn costio £3.

Archebwch eich lle cyn gynted ag y bo modd, gan anfon eich tâl am ydaith, sef £3 y pen, at J. Elwyn Hughes, Bryn Ogwen, Bethel,Caernarfon. LL55 3AA

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 16

Page 17: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Llais Ogwan 17

Siop Trin Gwallt a Harddwch Newydd agor ym Methesda ym mis Medi

Yn arbenigo mewn trin gwallt merched, dynion a phlant.

Cynghori, gosod a thorri wigiau Rhai gwasanaethau harddwch a shafio

(rasal “cut throat”)

Mwy o fanylion gan Wendy ar 07748206817

Hefyd ymgymryd â gwaith cerrig beddi:

adnewyddu neu o’r newydd

Gweithdy Pen-y-brynCefn-y-bryn, Bethesda

Ffôn: gweithdy 600455gartref 602455personol 07770 265976Bangor 360001

Gwasanaeth personol ddydd a nos

STEPHEN JONES

†TREFNYDD

ANGLADDAU

Gareth WilliamsTrefnydd Angladdau

Crud yr Awel1 Ffordd Garneddwen

Bethesda

Ffôn: (01248) 600763 a 602707

GWASANAETH DYDD A NOS

01248 605566Archfarchnad hwylus Gwasanaeth personol

gyda’r pwyslais ar y cwsmerTocynnau Loteri, cardiau a biliau trydan a nwy

Ar agor 7.00 y bore tan 10.00 yr hwyr7 diwrnod yr wythnos

LONDISBETHESDA

JOHN ROBERTS

Teilsiwr

Symudol: 07747 628650

Paentiwr

Papurwr

Ffôn: 01248 600995

Gallai eich hysbyseb

Chifod yma

Cysylltwch âNeville Hughes 600853

Pob math o waith trydanol

Huw JonesYmgymerwr TrydanolTrydanwr cymwysedig gyda

phrofiad diwydiannol

Y Wern, Gerlan, Bethesda

Gwynedd LL57 3ST

Ffôn: 01248 602480

Oriel CwmCwm y Glo, Caernarfon

Gwasanaeth fframio lluniau obob math ar gael ar y safle

Prisiau rhesymolArddangosfaganartistiaidl lleol

Ffôn / Ffacs 01286 870882

RICHARD S. HUMPHREYS

CAFFI COED Y BRENIN1 Rhes Buddug, Bethesda

Ffôn: 01248 [email protected]

Bwyd cartref blasus(mewn awyrgylch cyfeillgar)

Cinio arbennig bob dydd Iau

Bwyd i’w gario allan

Gwasanaeth arlwyo ar gyfer partïon o bob math -

plant, pen-blwydd ac ati(yn y caffi neu mewn lle o’ch dewis chi)

Cacennau ar gyfer pob achlysur e.e. priodas neu ben-blwydd

Prisiau rhesymol

BISTRO’R BRENIN(Bwyty Trwyddedig)

Rydym yn croesawu partïon o bob math – dathlu pen-blwydd

ac achlysuron arbennig eraill.Beth am eich Parti Nadolig?

Gadewch i Londri Coed y Brenin

wneud eich golchi

Ymgymerwr adeiladu agwaith saer

Ronald Jones

Bron Arfon, LlanllechidBethesda

01248 601052

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 17

Page 18: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Ysgol LlangygáiDathlu Diwrnod y LlyfrCafodd y disgyblion a’r staff gyfle i wisgo fel cymeriad allan o lyfr iddathlu y diwrnod arbennig yma. Hefyd bu disgyblion yr adran Iau yngymheiriaid darllen i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen. Roedd hi’n brafclywed trafodaethau rhwng gwahanol oedrannau a llawer o fwynhad achwerthin wrth i’r plant ieuengaf wrando yn astud. Diwrnod diddorol iawn.

Diwrnod Trwynau CochRoedd yr ysgol yn fôr i liw coch ar y diwrnod yma a chasglwyd £116 obunnoedd tuag at achos haeddianol iawn.

Eisteddfod yr UrddRoeddem yn hynod o falch o lwyddiant Archie a Miles a Josh a Lily yngNghystadleuaeth Deuawd Blwyddyn 6 ac iau. Roedd y pedwar yncynrychioli yr ysgol yn Eisteddfod y Sir yn ddiweddar. Llongyfarchiadauhefyd i bawb fu’n llwyddiannus ym maes Celf a Chrefft eleni a phobdymuniad da iddynt yn yr Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro ym MisMai.

Dathlu Diwrnod Cenedlaethol TostBu Dosbarth Traed Bach ac Enfys yn dathlu y diwrnod yma drwy flasugwahanol liw jam ar dost, torri darnau o dost yn hanneri a chwarteri achefyd trafod basged yn llawn o fara pob siap a maint a lliw. Roedd euboliau yn llawn yn mynd adref !!!

Dathlu Diwrnod Sant PadrigBu disgyblion Dosbarth Gwawr a Heulwen yn dathlu y diwrnod yma drwyamrywiol weithgareddau. Buont yn trafod teimladau Padrig ar wahanoladegau o’i fywyd drwy lunio llinell ffawd ac edrych a chreu gwahanolarliwiau o wyrdd.

Ymweliad PC Dewi TomosBu Mr Tomos draw yn trafod Diogelwch ar y We gyda disgyblion yr AdranIau a diogelwch yn y cartref gyda disgyblion y Cyfnod Sylfaen.

Masnach DegDaeth y disgyblion at eu gilydd i feddwl am weithgareddau i godiymwybyddiaeth pawb yn yr ysgol am bythefnos Masnach Deg.Cafwyd nifer o syniadau gan y plant- roedd pob dosbarth yn gyfrifol amweithgaredd er mwyn cyfrannu tuag at y portffolio Masnach Deg eleni.Ymysg y gweithgareddau, cynhaliwyd prynhawn i’r gymuned i ddathluDydd Gwyl Ddewi lle roedd te a choffi Masnach Deg yn cael ei wieni.Cafodd Dosbarth Gwawr a Heulwen gyfle i flasu Smoothies bananas, budosbarthiadau Enfys a Thraed Bach yn creu collage o’r logo, ac edrychoddyr Adran Iau ar amodau gweithio teg ac anheg a phwysigrwydd negesMasnach Deg .

Tag RygbiMae hyfforddwyr o Goleg Menai wedi bod yn arwain sesiynnau Tag Rygbigyda disgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn wythnosol. Mae’r disgyblion ynmwynhau ac yn elwa o arbennigedd yr oedolion.

Gwasanaeth y PasgCafwyd Gwasanaeth arbennig iawn dan ofal disgyblion yr ysgol gyfan foreIau cyn diwedd y tymor.Roedd yr eglwys yn orlawn a diolch i’r rhieni acaelodau Eglwys Sant Tegai am eu cefnogaeth.Thema y gwasanaeth oedd Symbolau y Pasg a chafwyd darlleniadau o’rBeibl ynghyd a dramau byrion yn adrodd hanes yr Wythnos Sanctaidd.Hefyd cafwyd perfformiad clodwiw iawn gan gôr yr ysgol a daeth ygwasanaeth i ben gyda phob digybl yn canu You Raise Me Up ac roeddambell ddeigryn yn y gynulleidfa.

Ymweliad Dosbarth TirionBu disgyblion Dosbarth Tirion yng Nghastell Dolbadarn Llanberis sef un ogastelli Llywelyn Fawr yn ddiweddar i gloi thema y tymor – Oes yTywysogion. Bu’r disgyblion yn creu mapiau llinol tra yn ymweld a’rcastell a’r tir o’i amgylch.

Ymweliad Dosbarth Hedd

Aeth Dosbarth Hedd ar daith gerdded i fyny’r Wyddfa at Lyn Llydaw yngnghwmni Mr Hywyn Jones-Swyddog Parc Cenedlaethol Eryri. Pwrpas ydaith oedd i edrych a gwerthfawrogi yr amgylchedd ac i ddysgu amrywiogaethau.Daeth y disbyblion adref wedi blino ond wedi cael amser daac wedi dysgu llawer.

Ysgol Tregarth

YmddeoliadMawr yw ein diolch i Mrs LauraJones am ei gwasanaeth di-flinioi’r ysgol ers deng mlynedd ynbwydo disgyblion yr ysgol arbob achlysur. Cafwydgwasanaeth arbennig i ddathlu adiolch i Mrs Jones ar ei diwrnodola’ fel cogyddes yr ysgol.Ymddeoliad hapus a haeddianoli chwi Mrs Jones.

FfarwelioDiolch o galon i Miss CarylJones sydd wedi bod yn fyfyriwrhefo blwyddyn 1 ers mis Ionawr.Mae’r disgyblion wedi elwa ofod yn ei chwmni ac wedimwynhau profiadau diddorol a bythgofiadwy. Hoffai’r ysgol ddymuno’n ddaiddi yng ngweddill ei chyfnod yn y brifysgol, a dymuno’r gorau iddi yn eigyrfa wedi hyn.

Addysg GorfforolYn ystod tymor y Gwanwyn mae'r plant wedi mwynhau profiadau addysggorfforol amrywiol iawn. Cawsom gwmni Mrs Freeman, mam Stanley, fu’nrhoi gwersi Yoga i blant Blwyddyn 4, 5 a 6 a diddorol oedd cael gwybodtipyn am darddiad a phwrpas y gweithgaredd. Yn ogystal bu myfyrwyr oGoleg Menai yn cynnal cyfres o wersi i wella ein sgiliau rygbi ac edrychwnymlaen yn arw at y twrnament tag-rygbi i ysgolion ardal Dyffryn Ogwen yngNghlwb Rygbi Bethesda ar ôl y gwyliau Pasg.

Plannu CoedGweithgaredd corfforol gwahanol iawn oedd yn disgwyl Blwyddyn 5 a 6 yngNghlwb Rygbi Bethesda cyn y gwyliau - plannu coed yn hytrach na chwaraerygbi! Cawsom wahoddiad gan Barc Cenedlaethol Eryri i’w helpu i blannucoed brodorol ar lain o dir ar lannau’r Afon Ogwen. Ar ôl sgwrs gan staff yParc am bwysigrwydd coed i gynnal bioamrywiaeth ein hamgylchedd agwyrdroi newid hinsawdd bu’n rhaid i ni i gyd dorchi’n llewys a baeddu’ndwylo er mwyn defnyddio ‘matoc’ i blannu’r coed deri, bedw, helyg, cyll achriafol, a hynny mewn rhesi (gweddol) syth!

Diwrnod Trwyn CochCafwyd diwrnod llawn hwyl a sbri tra’n codi arian at yr elusen Comic Relief.Gweithiodd y Cyngor Ysgol yn ddygn iawn i drefnu dwy gystadleuaeth i’rdisgyblion a stondin cacennau. Ennillodd Morgan Blwyddyn 2 a Belle ygystadleuath wisg ffansi tra enillodd Morgan Blwyddyn 4 a Haf ygystadleuaeth gwallt gwirion. Dysgodd bawb gan Y Trwyn Coch a chael lotfawr o hwyl yn y broses. Casglwyd £215 i’r elusen gwerth chweil.Dymunai’r Cyngor Ysgol ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.

Llwyddiant y parti UnsainCafodd y parti unsain 3ydd allan o 5 yn yr Eisteddfod Sir yn ddiweddar. Maepawb yn yr ysgol yn hynod falch ohonynt. Tipyn o gamp yw cyrraedd y sirgan fod y safon mor uchel yn nalgylch Bangor/Ogwen. Da iawn parti Lucy!!

Tîm F1

Llongyfarchiadau mawr i’r Tîm F1 ar eu llwyddiant yn y gystadleuaeth F1mewn ysgolion yn Venue Cymru. Fe gipwyd y wobr a tlws am y dylunwyrgorau. Diolch i Siemmens a Krypton Clothing am noddi’r tim ac i FfionRoberts am eu hyfforddi.

Baner Eco-sgolionLlongyfarchiadau i’r ysgol am dderbyn ail faner Eco-sgolion. Canmolwyd yrysgol am wreiddio cysyniadau eco yng nghwrwicwlwm ac ethos yr ysgol.

Llais Ogwan 18

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 18

Page 19: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Ysgol Llanllechid

Ysgol AbercasegLobscows, teisennau cri a cherdd dant

Bu i ddydd ein nawddsant gael ei ddathlu drwy gynnal cyngerdd ar Fawrth1af. Daeth pawb i’r ysgol yn eu gwisgoedd Cymreig a’u crysau coch, ganfwynhau gwrando ar Mrs Owen yn chwarae casgliad o alawon Cymreig ar eithelyn ac ar yr unawdwyr cerdd dant, canu a llefaru yn perfformio. Bu i AntiMarian ac Anti Eleri baratoi gwledd blasus o lobscows cig oen a theisennaucri a oedd yn ginio perffaith ar ddiwrnod o ddathlu traddodiadau Cymreig.

Diwrnod y LlyfrDoli Glwt, Gruffalo, Mrs Wishi Washi a Jaci Soch. Roedd y rhain i gyd i’wgweld yn yr ysgol ar ‘Ddiwrnod y Llyfr’ wrth i’r plant wisgo i fyny fel euhoff gymeriad o unrhyw lyfr neu stori. Cafwyd diwrnod difyr gyda hollweithgareddau’r dydd yn seiliedig ar straeon a chymeriadau ‘Llyfr Mawr yPlant’. Yn sicr, bu i’r diwrnod danio dychymyg llawer i blentyn a chreu’rawch ynddynt i ddod i wybod mwy am anturiaethau Wil Cwac Cwac a’r henSiôn Blewyn Coch.

Trwynau Coch a ‘Onesies’!Llond ysgol o ‘onesies’ a trwynau yn ymdebygu i domatos! Dyna’r olygfa aoedd yn wynebu staff Ysgol Abercaseg ar ddiwrnod Comic Relief. Mae’ndebyg bod llawer un wedi cael sbario newid o’u gwisg nos i ddod i’r ysgol,gan ffafrio’r wisg newydd dros y wisg ysgol arferol. Roedd talu £1 o ddirwyyn fargen o ystyried yn hwyl a gafwyd ar y diwrnod. Casglwyd £95 i’r achos adiolch i bawb a gyfranodd.

Diffoddwyr Tân Dosbarth Llafar

Wel am fore cyffrous gafodd disgyblion dosbarth Llafar yn ddiweddar wrthymweld â gorsaf dân Bangor.Roedd yna hen edrych ymlaen am gael teithio ary bws a gweld “Sam Tân Go Iawn” a chafodd neb eu siomi. Bu i’r plantdreulio amser yn eistedd yn yr injan dân a gweld lle roedd yr holl offer agwisgoedd y diffoddwyr yn cael eu cadw. I goroni’r cwbl, cafodd pawb gyfle ifod yn “Sam Tân”gan afael yn y bibell ddŵr a chwistrellu dŵr ar gar a oedd ardân. Diolch i Gwawr am drefnu’r cwbl ac i staff Gorsaf Dân Bangor am ycroeso.

Diogelu Bywyd Gwyllt Afon CasegYn ystod y misoedd nesaf,bydd disgyblion blwyddyn 2 yn cydweithio âswyddogion o Asiantaeth yr Amgylchedd ar brosiect glanhau Afon Caseg. Ilansio’r prosiect daeth Emyr Jones o’r asiantaeth draw i roi sgwrs ddifyr am yrafon ac am y bwyd gwyllt sy’n trigo ynddi ac o’i hamgylch. Bydd yn rhaid i’r

Casgliad Gŵyl DdewiRoedd yr ysgol yn falch o gael cefnogi Gethin Jeffreys a Carwyn Evans,dau o hogia lleol, sydd am fentro cystadlu ym ‘Marathon Llundain’ eleni.Maent yn rhedeg er mwyn codi arian tuag at elusen yn ymwneud â ‘CysticFibrosis’, er côf am ein cyn-ddisgybl hoff ac annwyl,- Gavin Bolton. Brafoedd cael y cyfle i gyfrannu £150 i’r gronfa yn sgil y casgliad awnaethpwyd ar ddiwedd ein cyngerdd Gŵyl Ddewi.

Cinio Gŵyl DdewiDiolch i Mrs Macdonald a chriw y gegin am weinyddu cinio cig oenarbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi – blasus tu hwnt!

Diddanu aelodau o Gymdeithas y CapeliDaeth aelodau o Gymdeithas Capeli’r ofalaeth draw i Ysgol Llanllechid iddathlu Gŵyl Ddewi eto eleni a diolch i`r Parchedig Geraint Hughes am eieiriau caredig. Cafodd y gynulleidfa ei diddanu gan blant yr ysgol ynperfformio amrywiaeth o eitemau,- canu, llefaru, unawd offerynnol,ensemble lleisiol yn ogystal â sioe gan rai o blant Bl 2 yn seiliedig ar ycymeriad Madam Chips o Rachub. Cafwyd cyfle am baned, cacen a sgwrsar ddiwedd y noson ac roedd nifer o’r gynulleidfa’n sôn mor braf oeddclywed plant yn adrodd hen benillion ac englynion; canu caneuontraddodiadol, a dysgu am eu hardal. Noson hwyliog iawn. Diolch i bawb adiolch i`r aelodau am y casgliad o £89 i`r ysgol.

Bingo PasgRoedd y Clwb Criced dan ei sang unwaith eto ar noson Bingo’r Pasg;noson a drefnwyd gan y Gymdeithas Rieni/Athrawon dan ofal Mrs LowriRoberts a Mrs Iona Robertson. Roedd gwobrau o wyau siocled blasus i’wgweld ym mhobman a Mr Dilwyn Owen, unwaith eto oedd yn galw’rrhifau yn ei ffordd ddihafal ei hun! Gwych!

Eisteddfod SirLlongyfarchiadau i bawb fu’n cystadlu yn Eisteddfod Sir yr Urdd ynNeuadd PJ. Fe wnaeth pob unigolyn ei orau yn enw’r ysgol a hoffemddiolch i’r rhieni am gefnogi ar ddiwrnod mor gyffrous! Roedd gweld yplant yn ymuno gyda gweddill plant Eryri yn Neuadd Powis i wylio’r gemrygbi fawr (tra’n aros yn eiddgar i gael mynd ar y llwyfan) ynfythgofiadwy! Llongyfarchiadau i’r côr cerdd dant (ail), ThaliaLiechstenstein (trydydd gyda’r soddgrwth), y gerddorfa dan arweiniadmedrus Jane Parry (trydydd), Erin Grifiths (trydydd am lefaru dan 7 oed).Pob dymuniad da i Beca Nia (unawd chwythbrennau ac ensemble lleisiol),Aziliz Kervegant (unawd blwyddyn 5 a 6 ac ensemble lleisiol, ac fe gafoddAziliz ail ar yr unawd cerdd dant dan 12oed) a Gwydion Rhys (ensemblelleisiol) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Sir Benfro ym mis Mai.

Celf a Chrefft yr Urdd y SirEisteddfod SymudolLlongyfarchiadau mawr i’r grŵp dawnsio disgo ar eu perfformiad yn yrEisteddfod Symudol. Roedd eu hegni yn heintus a braf gweld y criw i gydyn mwynhau. Ond ni fuasai hyn wedi bod yn bosib heb Miss Nicola a MissAwen yn eu hyfforddi. Llongyfarchiadau gwresog!

Taith y Dosbarth DerbynCafodd plant bach y Dosbarth Derbyn ddiwrnod anturus iawn ynddiweddar wrth ymweld â Chastell Caernarfon a Beddgelert. ‘Cestyll’ ywthema`r tymor ac maent wedi eu cyfareddu wrth wrando ar Mrs Wilson yn

disgyblion rwan dorchi llewys gan fwrw ati i weithredu’r cynlluner mwyn diogelu bywyd gwyllt Afon Caseg.

Ymwelydd Pwysig Iawn!

Nid yn aml y bydd Gweinidog Addysg Cymru yn ymweld âBethesda,ond dyna beth ddigwyddodd ar Fawrth 22ain.RoeddLeighton Andrews wedi gwneud cais i ymweld ag Ysgol Abercasego ganlyniad i’r arolwg Estyn llwyddiannus iawn. Bu iddo ef, a’rCynghorydd Siân Gwenllïan, dreulio cyfnod ymhob ystafellddosbarth, ac yn ôl y wên a oedd ar eu hwynebau wrthadael,roeddynt wedi mwynhau’r ymweliad yn fawr ac wedi euplesio’n arw gyda’r hyn a welsant.

Llais Ogwan 19

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 19

Page 20: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

darllen stori Gelert! Diwrnod llawn bwrwlm; does ryfedd fod nifer ohonynt yngysglyd iawn ar y ffordd adref yn y bws!

Taith Blwyddyn 2 llun RSPBCafodd disgyblion Bl 2 ddiwrnod bendigedig yn yr awyr agored yn RSPB,Conwy. Roedd cyffro mawr pan gafodd y plant gyfle i wneud gwahanolweithgareddau fel astudio cynefinoedd, adnabod adar, darganfod creaduriaidoedd yn byw yn y pyllau, chwarae gemau, dysgu am wahanol bryfed, yn ogystalâ mynd am dro ar hyd y llwybrau bendigedig! Diolch i bawb am eu cymorth ,yn enwedig Aran a Gwenno ein cyn-disgyblion, sydd ar brofiad gwaith yn yrysgol.

Taith Bl 3 a 4Bu dosbarthiadau Bl 3 a 4 yn `Techniquest’ yn Wrecsam. Roedd yn brofiadgwych. Cafwyd digonedd o amser i arbrofi, chwarae, holi, dysgu am bobagwedd o Wyddoniaeth, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiol weithdai.

Noswaith o DdawnsRhaid llongyfarch y criw dawnsio disgo ar eu perfformiad grymus yn y Galeri,Caernarfon yn ystod y Noswaith o Ddawns. Diolch i Ms Awen a Ms Nicola ameu gofal ohonoch.

Gweithdy CyfrfiadurolCafodd disgyblion Mr Stephen Jones weithdy prysur iawn wrth iddyntgydweithio gydag arlunydd o'r enw Ian Jackson. Mae Ian yn hen law arddefnyddio rhaglen 'Microsoft Paint' er mwyn paratoi'r darluniau ar gyfer eilyfrau. Aeth y disgyblion ati’n hyderus i ddefnyddio’r rhaglen 'Paint' er mwyncreu cymeriadau hwyliog a chreadigol ar gyfer eu storïau. Cyflwynodd bl 4 eucampweithiau yn y neuadd i`r ysgol gyfan.

Diwrnod Trwynau CochCafwyd p`nawn o hwyl yn y neuadd ar ddiwrnod y Trwynau Coch. Roedd pawbyn ddigon o ryfeddod yn eu gwisgoedd lliwgar. Cafwyd cyfle hefyd i ddysgu amblant bach ar gyfandir yr Affrig sydd heb ddŵr glân a`r problemau sy`n codi ynsgil hynny.

Plannu coed

Bu disgyblion blwyddyn 5 yn plannu coed ger y clwb rygbi ym Methesda.Diolch i Gyngor Cefn Gwlad am drefnu’r digwyddiad. Roedd y plantos ynedrych yn weithgar iawn yn eu welingtons a da iawn nhw am feddwl am euhamgylchfyd. Cawsont y fraint yn ogystal o gael cyfarfod â Rupert Moon, sefcyn fewnwr Llanelli a Chymru.

Entrepreneuriaid y DyfodolGwelwyd y Clwb Menter yn mynd o nerth i nerth gan lwyddo i wneud elw etowrth blannu, tyfu, ail-botio ac yna gwerthu basgedi o flodau i’r cyhoedd. Daiawn chi. Edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld sut y byddwch yn buddsoddi’r£30 ar gyfer eich menter yn Nhymor yr Haf.

Masnach DegDaeth y disgyblion at eu gilydd i feddwl am weithgareddau i godiymwybyddiaeth pawb yn yr ysgol am bythefnos Masnach Deg.Cafwyd nifer o syniadau gan y plant- roedd pob dosbarth yn gyfrifol amweithgaredd er mwyn cyfrannu tuag at y portffolio Masnach Deg eleni. Ymysgy gweithgareddau, cynhaliwyd prynhawn i’r gymuned i ddathlu Dydd GŵylDdewi lle roedd te a choffi Masnach Deg yn cael ei weini. Cafodd DosbarthGwawr a Heulwen gyfle i flasu Smoothies bananas, bu dosbarthiadau Enfys aThraed Bach yn creu collage o’r logo,ac edrychodd yr Adran Iau ar amodaugweithio teg ac anheg a phwysigrwydd neges Masnach Deg.

Llais Ogwan 20

Ysgol Rhiwlas

DiolchiadauFfarwel a diolch o galon i Karen de Waert ac Angharad Thomas. BuKaren hefo ni yn yr ysgol fel cymhorthydd sgiliau sylfaen am gyfnod.Diolch am ei hymroddiad a’i brwdfrydedd. Diolch hefyd i AngharadThomas, myfyrwraig blwyddyn gyntaf a dreuliodd y ddau fis diwethafyn y dosbarth Babanod. Mae’r plant wedi mwynhau cwmni’r ddwy ynyr ysgol a bydd bwlch ar eu hôl!

Arwerthiant ar fwrddCodwyd £150 at yr ysgol drwy gynnal arwerthiant ar fwrdd yn neuaddyr ysgol rhyw fore Sadwrn. Diolch i bawb am gefnogi ac yn enwedig ibwyllgor y Cyfeillion a fu mor brysur yn trefnu.

Eisteddfod DdawnsBu nifer o’r plant yn cystadlu yn y gystadleuaeth Dawns Creadigol yngnghylch Bangor/Ogwen ac wedyn yn y Sir yn Neuadd Goffa Criccieth –roedd rhaid edmygu’r plant am eu hegni a’u hymroddiad gan fod yddawns yn un llawn cyffro! Cafwyd ail yn y Sir ac rydym yn falch iawno’r plant am eu gwaith called. Diolch hefyd i’r rhieni am eubrwdfrydedd tuag at y dawnsio a’u cefnogaeth parod fel cynulleidfa!

Diwnod y llyfr

I ddathlu diwrnod rhyngwladol y llyfr, cafodd blant Ysgol Rhiwlas gyflei wisgo i fyny fel cymeriad o’u hoff lyfr. Roedd pawb wrth eu bodd yncael cyfnewid y gwisg ysgol arferol am ddillad dynion tân,tywysogesau, pêl droedwyr a phob math o wisgoedd eraill. Cafodd pawbdaleb llyfr i fynd adref ac atgofion braf am ddiwrnod llawn hwyl!

Gŵyl AthletauAeth blynyddoedd 5 a 6 i Ganolfan Hamdden Arfon i gystadlu mewncystadleuaeth athletau yn diweddar – cawsant rhedeg, neidio, cymerydrhan mewn ras rwystr a ras gyfnewid a nifer o weithgareddau eraill.Colli bu eu hanes ond hitia befo roedd pawb yn hynod o falch o gaelffasiwn brofiad a phawb yn edrych ymlaen at flwyddyn nesaf yn barod!

Eisteddfod SirCafodd y parti Unsain gyfle i gystadlu yn yr Eisteddfod Sir. Da iawn chiplant am ganu mor dlws ar y llwyfan ac am y 4ydd wobr.

Noson o DdawnsWaw! Am brofiad arbennig – cael perfformio mewn awyrgylchbroffesiynol gyda goleuadau, cynulleidfa, ardal gefn llwyfan, systemsain a hyd yn oed ystafell goluro hefo teledu ynddi! Roedd yr adran Iauyn teimlo fel sêr o fri yn cael perfformio yn Y Galeri yng Nghaernarfon.Roedd pawb wedi blino’n lan y diwrnod wedyn ( ond ddim digon ibeidio dod i Glwb yr Urdd cofiwch chi!)

Diwrnod Genes for JeansCodwyd £28 ar gyfer elusen “Cystic Fibrosis” drwy wisgo Jîns i’r ysgolyn lle’r arferol melyn a glas. Mae’r elusen yn cefnogi a chodiymwybyddiaeth o gyflyrau geneteg sy’n effeithio rhai plant.

Gwasanaeth PasgDaeth Andrew Settatree atom unwaith eto i rhoi gwasanaeth difyr am yPasg. Cafodd Robert a Jenny gystadleuaeth bwyta ŵy Pasg o flaen yrysgol – 20 eiliad gymerodd Robert – ddim digon cyflym i guro’r recordbyd o 8 eiliad ond yn ddigon cyflym i ni sylweddoli fod mwy o ystyr i’rPasg na bwyta wyau siocled yn unig. Neges hynod o bwysig mewngwasanaeth cofiadwy – diolch Mr Settatree!

Llais Ogwan 20

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 20

Page 21: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

Canolfan CefnfaesBETHESDA

GYRFA CHWISTEbrill 23 a 30Mai 14 a 28

am 7 o’r gloch

Dewch i fwynhau nosweithiau difyr

Beth sy’ndigwydd

yn y Dyffryn?

NEuADD OGWEN,BETHESDA

20 Ebrill: Cyfeillion Ysbyty Gwynedd27 Ebrill: Eglwys Sant Cedol, Pentir04 Mai: Cymorth Cristnogol11 Mai: RNLI18 Mai: Caban Gerlan25 Mai: Gorffwysfan

(Bob bore Sadwrn am 10.00 o’r gloch)

BOREAuCOFFI

Marchnad Cynnyrch Lleol Ogwen

Yr ail ddydd Sadwrn yn fisol

Yn Llys DafyddStryd Fawr, Bethesda

11 Mai

www.facebook.com/marchnad-cynnyrch-lleol-

ogwen-local-produce-market

Apêl Eleanor Jones

Cyngerdd

Ysgol Glanaethwy(Côr Hŷn a Chôr Iau)

yng Nghapel Jerusalem, Bethesda

Nos Sul 21 Ebrill am 7.00 o’r gloch

Tocynnau £6.00 Plant a Phensiynwyr £4Ar gael yn Siop Kathy

neu gan Linda ar 01248 601526neu Ann 01248 601583

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Noson yng Nghwmni

TAMMY JONES

7.30 Nos Wener, 17 Mai 2013

Tocynnau: £5.00 (gyda bwffé)gan Neville 600853

a Mary 600274

Cynhelir Raffl tuag atGyfeillion Ysbyty Gwynedd

Trefnir y Noson gan

Gangen Plaid Cymru Dyffryn Ogwen

BOREAu COFFINEuADD OGWEN

HYSBYSIAD PWYSIG

Bydd y neuadd ar agor ar gyfer boreaucoffi a gweithgareddau eraill ym

misoedd Mai, Mehefin, Gorffennaf acAwst 2013.

Disgwylir i'r gwaith ar y Neuaddgychwyn ym mis Medi ac nid ym mis

Mai fel y cyhoeddwyd o'r blaen.

Llais Ogwan 21

Blodau RaccaPENISARWAUN

Planhigion gardd a basgedi crog o’ransawdd gorau

- gan hogan o Rachub

Ffôn: 01286 870605Cymanfa Annibynwyr

Dosbarth Bangor a Bethesda

Dydd Sul, 19 Mai 2013

yngNghapel Carmel Llanllechid

10.30 Cymanfa Ysgolion SulArweinydd: Mr. Huw Edward Jones

5.30 Cymanfa GanuArweinydd : Mrs. Rhian Roberts

Croeso cynnes i bawb

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 21

Page 22: Ebrill 2013 Rhif 432 50c “Y Nesaf Peth at Hedfan Ebrill 2013.pdfEbrill 2013 Rhif 432 50c DARLITH GOFFA DAFYDD ORWIG 2013" Mae Pawb yn Cyfri’ "Traddodir y ddarlith gan Yr Athro

CymdeithasGenweirwyr Dyffryn

OgwenYn ôl Geraint Thomas yn ei lyfrardderchog Cyfrinachau LlynnoeddEryri:

‘Mae Llyn Ogwen yn un o’rlleoliadau prydferthaf yngNghymru.’

Byddai’n anodd anghytuno â hyn, ery byddaf yn meddwl weithiau einbod ni bobl leol yn euog o beidio agwir werthfawrogi’r harddwch syddar ein ‘stepan drws’.

Heb os nac oni bai, Llyn Ogwanyw’r prif gyrchfan i bysgotwyr arddechrau’r tymor ac mae sawlrheswm dros hyn. I ddechrau, LlynOgwan yw’r isaf o holl lynnoedd yGymdeithas gan orwedd 310m uwchlefel y môr yn gwahanu’r Carneddaua’r Glyderau. Golyga hyn, ynghydâ’r ffaith ei fod yn lyn bâs iawn(rhyw 10 troedfedd ar ei ddyfnaf)mai dŵr y llyn hwn yw’r llyn cyntafi gynhesu ac felly’n amlach na dim,bydd y pysgod yma yn dechraubwydo fymryn ynghynt na’ucefndryd mwy mynyddig sydd ynymgartrefu yn Llyn Idwal, FfynnonLloer a Llyn Bochlwyd.

Rheswm arall pam fod Llyn Ogwanyn ddewis cyntaf i nifer o bysgotwyrydi’r ffaith mai hwn yw’r unig lynsydd yn cael ei stocio. Bum gwaithy tymor bydd stoc o frithyll seithliwyn cael eu rhoi yn y llyn a hynny,wrth gwrs, yn ychwanegol i’rbrodorion naturiol sef y brithyllbrown.

Y llynedd daliwyd sawl ‘sgodyn drosbedwar pwys.

I lawer, mae’r daith i Lyn Bochlwydneu Ffynnon Lloer yn dipyn o ‘slog’ adweud y lleiaf. Nid felly LlynOgwen. Gyda’r A5 yn glynu i un ochro’r llyn hirgul saithdeg wyth acer hwna llwybr cyhoeddus ar yr ochr arall,mae mynediad at y llyn yn hawdd.Ceir sawl maes parcio cyfleus ac maegwasanaeth bysus rheolaidd oFethesda.

Un fanatais amlwg sydd gan LlynOgwen dros y dyfroedd eraill yw’r tricwch rwyfo sydd ar gael i’w llogi o’rcwt cwch. Mae hawl gan bob aelodllawn dros un-ar-bymtheg oed i logiun o’r cychod ac rydym eleni yntreialu trefn newydd ar gyfer llogicychod sef:

- Ffonio neu anfon neges destun iGeraint Roberts ar 07879668860. - Byddwch yn derbyn côd i agor bocsdiogel (Key Safe) ger drws y cwtcwch. - Bydd goriadau’r cwt cwch a’rcychod ar gael yn y bocs diogel.- Y tu fewn i’r cwt cwch mae blwchpostio ar gyfer y ffi llogi. - Ar ôl pysgota, gadewch y goriadauyn y blwch diogel ar ôl cloi’r cwtcwch.

Cofiwch y caniateir sbinio yn ogystalâ ‘sgota pluen o’r cychod ac os nadyw’r rhwyfo yn apelio, mae croeso iaelodau ddefnyddio’u injan drydan euhunain os dymunant. Un pwyntpwysig ynglŷn â diogelwch i gloi, maegwisgo siaced achub ar gychod ygymdeithas yn orfodol.

Pob lwc!Gareth Evans

Mi fydd newidiadau i amserlen S4C yn digwydd o Ddydd Llun,22ain Ebrill ymlaen - gyda gwedd newydd sbon ar siâp yr arlwynosweithiol.

Y prif newidiadau i’r amserlen, a gafodd ei gyhoeddi gan S4Cym mis Ionawr, yw y bydd prif raglen Newyddion y dydd ynsymud i 9.00 y nos rhwng nos Lun a nos Wener.

Bydd y rhaglen ar ei newydd wedd - Newyddion 9 - yn cynniggwasanaeth newyddion cynhwysfawr sy'n adrodd ar yr hyn sy'nbwysig i ni yng Nghymru - yn lleol, yn genedlaethol, a'r tu hwnt.BBC Cymru Wales sy'n darpa ru'r gwasanaeth i S4C a byddgohebwyr y rhaglen yn dod â’r straeon diweddara o bob cwr oGymru bob nos.

Bydd y ddrama Rownd a Rownd yn symud i amser rheolaiddhwyrach bob nos Fawrth a nos Iau – i galon yr amserlen. Mae’rgyfres sydd newydd droi’n ddeunaw oed, yn cael ei chynhyrchuym Mhorthaethwy gan gwmni Rondo.

Bydd y rhaglen gylchgrawn Heno yn pa rhau am 7.00 o’r glochbob nos o nos Lun i nos Wener, ond bydd rhaglen estynedig awro hyd bob nos Lun a nos Wener. Mae’r rhaglen yn cael eichynhyrchu gan gwmni Tinopolis yn fyw o’u stiwdio yn Llanelli,gyda chyfraniadau byw o bob rhan o Gymru.

Hefyd, gyda hanner awr ychwanegol o Stwnsh bydd mwy fyth oraglenni gwych i bobl ifanc am 5.00 bob dydd Llun i ddyddGwener.

Dywedodd Dafydd Rhys , Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Mae'rnewidiadau yma yn ymateb i ofynion ein gwylwyr ac yn rhoi euhanghenion nhw yn gyntaf. Bydd symud Newyddion i slothwyrach yn y nos yn creu conglfaen newydd i wasanaethnewyddion S4C. Bydd yn wasanaeth cynhwysfawr, amserol fyddyn berthnasol i'r adeg honno o'r nos ac i gynulleidfa S4C fydd yncynnwys newyddion Cymru a'r byd.

"Mae hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ni wrth drefnu amserlen ynoson. Bydd symud Rownd a Rownd i slot hwyrach yncyflwyno'r ddrama i gynulleidfa newydd, ac 'ry ni hefyd wedigallu cynnig slot hirach i Heno, un o gonglfeini ein hamserlen, arddydd Llun a Gwener, gan roi rhagor o sylw i'n cymunedau agweithgareddau ym mhob cwr o'r wlad."

Newidiadau yn Amserlen S4C

Llais Ogwan 22

Llo Ebrill_Llais Ogwan 17/04/2013 10:49 Page 22