4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 1 Ionawr 3, 2019 50c. Blwyddyn Newydd dda i bawb ohonoch. Derbyn ieuenctid Yn ddiweddar fe dderbyniodd y Parch. Carys Ann dri o bobl ifanc yn gyflawn aelodau o eglwys Glynarthen sef Daniel Phillips, Elain Davies a Dyfan Evans. Teimlai Carys falchder mawr yn yr oedfa gan ei bod wedi bedyddio’r tri pan oeddent yn fabanod. Roedd yn oedfa lawen i ryfeddu gyda chynulleidfa dda o aelodau a theuluoedd wedi dod at ei gilydd. Diolchwn i’r Arglwydd ei fod yn parhau i fod ar waith yn ein plith ac yn galw pobl ifanc i’w garu a’i ddilyn. Neges flwyddyn Newydd y Llywydd Mae perygl fod y drafodaeth chwerw a mewnblyg am Brexit yn tynnu gormod o sylw oddi wrth broblemau pwysig eraill, meddai’r Parchg Jill- Hailey Harries, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg yn ei neges Flwyddyn Newydd. Er mor anferth yw’r gofid am y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd, mae’r ffaith ei fod yn dominyddu’r agenda newyddion i’r fath raddau yn golygu bod llai o sylw’n cael ei roi i’r angen a’r anghyfiawnder sydd o’n cwmpas. Tra bod pobl allan yn dathlu’r Calan, mae eraill yn cysgu ar strydoedd ein trefi a’n dinasoedd. Yng nghanol y gwledda, mae nifer gynyddol yn dibynnu ar fanciau bwyd i fwydo’u hunain a’u teuluoedd. Nid yw hynny’n syndod, gan fod un ymhob tri o blant Cymru’n byw mewn tlodi. Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n cydlynu rhwydwaith o 1,200 o fanciau bwyd, bu cynnydd o 13% yn y galw yn ystod 2018. Ac ar ben hyn mae sawl un sy’n sâl neu’n anabl yn poeni am eu dyfodol wrth i’r drefn fudd-daliadau newydd ddod i rym. Wrth i ni wynebu’r flwyddyn fwyaf anodd yn hanes Prydain ers yr Ail Ryfel Byd, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar gyflwr a gofid presennol miliynau o bobl – yma a thramor. Rhaid i ni beidio â gadael iddynt fynd yn angof yng nghanol y drafodaeth fawr am adael yr Undeb Ewropeaidd. Gallwn fentro y bydd galw arnom fel Cristnogion i wneud ein rhan yn y flwyddyn heriol hon, gan roi ein ffydd yn y Duw sy’n rhoi’r nerth a’r hyder i ni wneud ei waith yn ein bro a’r byd. Beth bynnag ddaw, rwy’n dymuno pob bendith i chi yn ystod 2019. Cynllun gefeillio cynhyrfus Cymru–Madagascar Blant Cymru! Hoffech chi lythyru â phlant ym Madagascar? Dyma’ch cyfle chi! Mae un cynllun eisoes ar waith, ac yn rhoi syniad i chi o’r math o beth sy’n bosibl. Dyma hanes dwy ferch o ddwy wlad hynod wahanol i’w gilydd ... Dyma Kezia a Syfi. Mae’r ddwy yn un ar ddeg mlwydd oed. Mae Kezia yn dod o Fadagascar ac mae Syfi’n dod o Gymru. Mae’r ddwy wedi bod yn ysgrifennu at ei gilydd dros yr haf, yn rhannu eu profiadau hwy o dyfu i fyny yn eu gwledydd ac mae’r ddwy yn gobeithio yn parhau i rannu straeon am eu bywydau. Mae Kezia’n byw yn agos at brifddinas Madagascar, sef Antananarivo gyda’i chwaer Enya, sy’n 8, a’u rhieni. Mae Kezia’n hoffi anifeiliaid ac yn mwynhau gwersi mathemateg yn yr ysgol. Mae Syfi’n byw yng Nghaerfyrddin gyda’i brawd Caspar, sy’n 17, a’u rhieni. Hoff anifeiliaid Syfi yw eliffantod a chŵn selsig ac mae hi’n hoffi darllen. Byddai’n braf pe tasai mwy o bobl yn cael cyfle i rannu profiadau a chyfnewid hanesion. Tybed a hoffai’ch ysgol Sul neu eich ysgol chi wneud rhywbeth tebyg? Gallwch greu cyswllt mewn sawl ffordd: drwy lythyr, drwy gardiau post, drwy e-bost neu drwy skype – pa bynnag ffordd yr hoffech chi. Fydd dim angen cysylltu’n rhy aml, ond bydd yn ffordd wych i blant o ddwy ran go wahanol o’r byd i ddod i adnabod ei gilydd ychydig bach yn well. Rhowch wybod i Dŷ John Penri drwy Elinor Wyn Reynolds os hoffech fod yn rhan o’r cynllun cyfnewid, naill ar drwy e-bost: [email protected] neu drwy godi’r ffôn: (01792) 795888. Gall fod yn hwyl! Beth amdani? Dyma Kezia, sy’n dod o Fadagascar a Syfi, sy’n dod o Gymru. Mae’r ddwy wrthi’n llythyru â’i gilydd ers y dathlu fu’n Aberaeron dros yr haf

Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 152 Rhif 1 Ionawr 3 , 2019 50c ... · iddynt fynd yn angof yng nghanol y drafodaeth fawr am adael yr Undeb Ewropeaidd. Gallwn fentro y bydd galw arnom fel

  • Upload
    others

  • View
    1

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

    Sefydlwyd 1867 Cyfrol 152 Rhif 1 Ionawr 3, 2019 50c.

    Blwyddyn Newydd dda i bawb ohonoch.

    Derbyn ieuenctid

    Yn ddiweddar fe dderbyniodd y Parch. Carys Ann dri o bobl ifanc yn gyflawn aelodau oeglwys Glynarthen sef Daniel Phillips, Elain Davies a Dyfan Evans. Teimlai Carysfalchder mawr yn yr oedfa gan ei bod wedi bedyddio’r tri pan oeddent yn fabanod.Roedd yn oedfa lawen i ryfeddu gyda chynulleidfa dda o aelodau a theuluoedd wedi dodat ei gilydd. Diolchwn i’r Arglwydd ei fod yn parhau i fod ar waith yn ein plith ac yngalw pobl ifanc i’w garu a’i ddilyn.

    Neges flwyddynNewydd y LlywyddMae perygl fod y drafodaeth chwerw amewnblyg am Brexit yn tynnu gormod osylw oddi wrth broblemau pwysig eraill,meddai’r Parchg Jill-Hailey Harries,Llywydd Undeb yrAnnibynwyrCymraeg yn eineges FlwyddynNewydd. Er mor anferthyw’r gofid am ybroses o adael yrUndeb Ewropeaidd,mae’r ffaith ei fod yn dominyddu’r agendanewyddion i’r fath raddau yn golygu bodllai o sylw’n cael ei roi i’r angen a’ranghyfiawnder sydd o’n cwmpas. Tra bodpobl allan yn dathlu’r Calan, mae eraill yncysgu ar strydoedd ein trefi a’n dinasoedd.Yng nghanol y gwledda, mae nifergynyddol yn dibynnu ar fanciau bwyd ifwydo’u hunain a’u teuluoedd. Nid ywhynny’n syndod, gan fod un ymhob tri oblant Cymru’n byw mewn tlodi. Yn ôlYmddiriedolaeth Trussell, sy’n cydlynurhwydwaith o 1,200 o fanciau bwyd, bucynnydd o 13% yn y galw yn ystod 2018.Ac ar ben hyn mae sawl un sy’n sâl neu’nanabl yn poeni am eu dyfodol wrth i’rdrefn fudd-daliadau newydd ddod i rym.

    Wrth i ni wynebu’r flwyddyn fwyafanodd yn hanes Prydain ers yr Ail RyfelByd, rhaid i ni beidio â cholli golwg argyflwr a gofid presennol miliynau o bobl –yma a thramor. Rhaid i ni beidio â gadaeliddynt fynd yn angof yng nghanol ydrafodaeth fawr am adael yr UndebEwropeaidd.

    Gallwn fentro y bydd galw arnom felCristnogion i wneud ein rhan yn yflwyddyn heriol hon, gan roi ein ffydd yn yDuw sy’n rhoi’r nerth a’r hyder i ni wneudei waith yn ein bro a’r byd. Beth bynnagddaw, rwy’n dymuno pob bendith i chi ynystod 2019.

    Cynllun gefeillio cynhyrfusCymru–Madagascar

    Blant Cymru! Hoffech chi lythyru âphlant ym Madagascar? Dyma’ch cyflechi! Mae un cynllun eisoes ar waith, acyn rhoi syniad i chi o’r math o beth sy’nbosibl. Dyma hanes dwy ferch o ddwywlad hynod wahanol i’w gilydd ...Dyma Kezia a Syfi. Mae’r ddwy yn unar ddeg mlwydd oed. Mae Kezia yn dodo Fadagascar ac mae Syfi’n dod oGymru. Mae’r ddwy wedi bod ynysgrifennu at ei gilydd dros yr haf, ynrhannu eu profiadau hwy o dyfu i fynyyn eu gwledydd ac mae’r ddwy yngobeithio yn parhau i rannu straeon ameu bywydau.

    Mae Kezia’n byw yn agos atbrifddinas Madagascar, sefAntananarivo gyda’i chwaer Enya, sy’n8, a’u rhieni. Mae Kezia’n hoffi

    anifeiliaid ac yn mwynhau gwersimathemateg yn yr ysgol.

    Mae Syfi’n byw yng Nghaerfyrddingyda’i brawd Caspar, sy’n 17, a’u rhieni.Hoff anifeiliaid Syfi yw eliffantod a chŵnselsig ac mae hi’n hoffi darllen.

    Byddai’n braf pe tasai mwy o bobl yncael cyfle i rannu profiadau a chyfnewidhanesion. Tybed a hoffai’ch ysgol Sulneu eich ysgol chi wneud rhywbethtebyg? Gallwch greu cyswllt mewn sawlffordd: drwy lythyr, drwy gardiau post,drwy e-bost neu drwy skype – pa bynnagffordd yr hoffech chi. Fydd dim angencysylltu’n rhy aml, ond bydd yn fforddwych i blant o ddwy ran go wahanol o’rbyd i ddod i adnabod ei gilydd ychydigbach yn well.

    Rhowch wybod i Dŷ John Penri drwyElinor Wyn Reynolds os hoffech fod ynrhan o’r cynllun cyfnewid, naill ar drwye-bost: [email protected] neudrwy godi’r ffôn: (01792) 795888. Gallfod yn hwyl! Beth amdani?

    Dyma Kezia, sy’n dod o Fadagascar a Syfi,sy’n dod o Gymru. Mae’r ddwy wrthi’n

    llythyru â’i gilydd ers y dathlu fu’nAberaeron dros yr haf

  • tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 3, 2019Y TYST

    Coleg yr AnnibynwyrCymraeg

    Cyfarfod Blynyddol y Tanysgrifwyr

    Dydd Mercher, Ionawr 30ain, 2019Noddfa, Bow St.

    Cyfarfod Blynyddol y Tanysgrifwyr am 2p.m.

    Darlith y Coleg am 3p.m.Siaradwr gwadd -

    Y Parch. Dyfrig ReesTrefor Jones-Morris

    Ysgrifennydd yr Ymddiriedolwyr

    Ail-fyw gwefr dathlu’r cenhadon yn Neuadd-Lwyd

    Dyma ail ran yr adroddiad am gyfarfodCymdeithas Hanes yr AnnibynwyrProfiadau anoddRoedd y broses, wrth ymgymryd â’r dasg olwyfannu sioe am hanes y cenhadon, wediesgor ar brofiadau poenus ac anodd ar ydaith cyn dod at y penllanw gafwyd yngNghelaeron. Nid ar chwarae bach y maewynebu ein tasg ninnau heddiw, ac nid hebwynebu poen a gwewyr, wedi’r colledion,y medrodd David Jones, gyda chymorthcydweithwyr iddo, barhau gyda’r gwaith arynys Madagascar wedi’r colledion cynnarddau gan mlynedd yn ôl.

    Wrth i Dafydd Tudur adrodd am hollhanes y broses o gyflwyno Y Freuddwydgan gyfleu’r profiadau gwefreiddiol yngymunedol a chymdeithasol a gafodd hollaelodau’r cyflwyniad, yn cynnwys côr odros 100 o leisiau, yr oeddem felcynulleidfa yn y ddarlith y tro hwn ynmedru synhwyro’r chwysu a’r chwerthingafwyd ar y daith, trwy gydol yr amser o’rpenderfyniadau cychwynnol. Nid cymrydat opsiwn hawdd o ofyn i rywun neurywrai i gomisiynu sgript a wnaed, ond eihysgrifennu eu hunain, a chyn gwneudhynny roedd angen treulio’r amser yndarganfod yr hanes a cheisio’i ddeall, cyn

    dod at y creu, y sgriptio a’r cyfansoddi, acyna’r gweithredu wedi’r holl ymarfer, gangynnwys cael cydweithrediad neuaddaucymunedol oedd wedi bodloni benthyg 600o gadeiriau ar gyfer y gynulleidfa, heb sônam gadeiriau aelodau’r côr mawr. Profwydcymwynasgarwch mawr a mnegwydewyllys da yn gymunedol drwy’r ardal trosweld y sioe, a dathlu’r hanes, yn llwyddoyn eu bwriadau.

    Hawdd oedd dod i gredu yng nghwmniDafydd drwy gyfrwng ei ddarlith a’igyflwyniad, wrth fwynhau clipiau offilmiau a recordiwyd ar y noson ynCelaeron, a phrofi eto wefr wrth wyliohanesion galwad y cenhadon a’u hordeinio,a chlywed y gynulleidfa fawr yn canu’remynau’n wefreiddiol ar y noson. Yn nesymlaen bydd Theatr Felinfach yn llawn, yngorlifo â gwres a brwdfrydedd a llawenyddpan gaiff Y Freuddwyd ei gweld yno felffilm ar y sgrin fawr. Y gwaddol fyddhynny, gyda’r berthynas, a sefydlwyd arweithgaredd a chydweithio, yn parhau igadw’r hanes yn fyw gan weld dechraunewydd yn hanes y diddordeb a’rcysylltiadau cenhadol rhwng Cymru aMadagascar, ynghyd â meithrin balchderiach yn ein hanes yn lleol.

    Hanes yn fywYn sicr fe fu sioe theatrig Y Freuddwyd ynfodd i ddod â’r hanes eto’n fyw. Ac wediclywed am yr holl gorddi yn y gwaith odrefnu a’r paratoi, a’r teimladau olawenydd a thristwch a gafwyd ar ddiweddy cyflwyniad yn Celaeron, ar ddiwedd yddarlith, pan gododd yr YsgrifennyddCyffredinol newydd, Y Parchedig DyfrigRees, ar ei draed i gynnig pleidlais oddiolch, nid rhyfedd oedd iddo ddisgrifioholl brofiad cynhyrchiad Y Freuddwyd ynnhermau bod yna ddiwygiad wedi torriallan trwy weithgaredd y cyflwyniad, acmai da o beth, fel y mynegodd y darlithyddy Dr Dafydd Tudur, y byddai i gylchoedderaill fynd ati i gyflwyno gweithgareddaubyrlymus fel hyn fyddai’n cyfoethogi einbywydau eto, os nad yn arwain at ydiwygiad newydd sydd ei angen arnom ynyr eglwysi.

    Roedd diolch y gynulleidfa yng nghapelNeuadd-lwyd i’r Dr Dafydd Tudur yn fawram y wefr a’r cyffro a brofwyd drachefnyn hanes cynifer wrth gyflwyno i ni hanesllawn y sioe theatrig Y Freuddwyd. Achofiwn nad methiant oedd hanes arwrolcenhadaeth y cenhadon cyntaf, oherwyddfel yr atgoffodd y Cadeirydd, y Dr AlunTudur, ninnau oedd yn y ddarlith, pwy yngNghelaeron ar y noson gofiadwy naphrofodd yr ias, a dagrau o lawenydd, yngnghwmni ein brodyr a’n chwiorydd oFadagascar oedd yn rhan o’n cwmni, pangawsom ein hatgoffa bod Eglwys IesuGrist ym Madagascar, yr FJKM, heddiw achanddi dros 5 miliwn o aelodau, sefeglwys sy’n olrhain ei hanes yn ôl i lafurDavid Jones a’r cenhadon o Gymru heuoddhadau’r Efengyl ar yr ynys. A dyna waddoli lawenhau yn ei gylch. Y mae diolch ynddyledus hefyd i chwiorydd Neuadd-lwydam ddarparu’r cyfle i gymdeithasu drosbaned a lluniaeth yn festri’r capel arddiwedd y noson.

    Emyr Gwyn Evans, Ysgrifennydd y Gymdeithas Hanes

  • GolygyddolIonawr 3, 2019 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

    2019Blwyddyn newydd dda iawn i bawbohonoch a boed Duw yn agos atoch ynystod y misoedd sydd i ddod.Ar ddiwedd 2018 bu farw nifer ogyfeillion yn ddisymwth ac y mae hynnywedi fy arwain i ystyried pa mor frau ywein bywyd daearol ac na allwn gymrydyr un awr yn ganiataol. Bendith ywheddiw gan yr Arglwydd i’w ddefnyddioer gogoniant iddo Ef ac er budd eiDeyrnas. Mae’r Beibl yn ein rhybuddiodroeon am hyn:

    Mae bywyd dynol fel glaswellt —mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro;16pan mae’r gwynt yn dod heibio, mae      

    wedi mynd;ble roedd does dim sôn amdano.

    Salm 103: 15–16Ond er mai pobl fregus ac amherffaithydym, y rhyfeddod yw mai pobl felly ymae Duw yn eu defnyddio i wneud eiwaith. Ystyriwch gymeriadau’r Beibl,Moses a’i atal dweud; Eseia a’iansicrwydd; Elias a’i iselder; Rahab a’iphuteindra; Dafydd a’i odineb; Pedr a’ifyrbwylltra a Paul yn erlid a charcharuCristnogion. Eto defnyddiodd Duw yn eiras y bobl hyn i wneud ei waith.

    Ein cyflwr?Beth yw ein cyflwr ni? Pobl amherffaitha bregus ydym. Beth yw cyflwr einheglwysi? Amherffaith a bregus. Eto,cawn galondid mawr ar ddechrau 2019mai pobl fel ni y mae Duw wedi eudefnyddio trwy’r canrifoedd i gyflawni eifwriadau. I gyhoeddi’r newyddion da amei gariad a’i iachawdwriaeth trwy Iesu. Iddod a chyfiawnder a gobaith eiDeyrnas i’n cymunedau, cenedl a’r byd.Oherwydd pan sylweddolwn mai poblwan ydym, dibynnwn yn llwyr ar nerthac arweiniad Duw. Dyma pam ydywedodd Paul, ‘Am hynny, yr wyf ynymhyfrydu, er mwyn Crist, mewngwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, achyfyngder. Oherwydd pan wyf wan,yna rwyf gryf.’ (2Co. 12:10)

    Felly, pydrwn arni wrth gychwyn ar2019 yn ffyddiog a mentrus gan wybodfod gan Dduw fendithion i’w bobl agwaith iddynt i’w wneud ar ei ran a bodcryfder mawr yn ein gwendid. Rydym ynbyw mewn cyfnod eithriadol o gyffrousheddiw lle mae’r Arglwydd yn rhoicyfeiriad newydd i’n tystiolaeth felCristnogion yng Nghymru.

    Ystyriwch sut rai ydych chwi aalwyd, gyfeillion: nid oes rhyw lawerohonoch yn ddoeth yn ôl safon ybyd, nid oes rhyw lawer yn medduawdurdod, nid oes rhyw lawer odras uchel. Ond pethau ffôl y byd addewisodd Duw er mwyn

    BLWYDDIADUR2019

    UNDEB YR ANNIBYNWYRCYMRAEGYn cynnwys

    Dyddiadur, Darlleniadur, Suliadur a Llawlyfr

    Pris: £7.50yn cynnwys cludiantAR GAEL NAWR

    Cysylltwch â Thŷ John Penri i archebu eich copi

    01792 [email protected]

    cywilyddio’r doeth, a phethau gwany byd a ddewisodd Duw igywilyddio’r pethau cedyrn, aphethau distadl y byd, a phethaudirmygedig, a ddewisodd Duw, ypethau nid ydynt, i ddiddymu’rpethau sydd. Ac felly, ni all nebymffrostio gerbron Duw. (1Co.1:26–29)

    Alun Tudur

    Morgan Llwyd 1619–59Pedwar can mlynedd yn ôl i eleni feanwyd y llenor, y bardd, y cyfrinydd a’rdiwygiwr Piwritanaidd Morgan Llwyd.Dyma grynodeb o’i hanes.

    Ganwyd M. Llwyd yng Nghynfal,plwyf Maentwrog, Meirionnydd. Ychydiga wyddom am ei ddyddiau cynnar cyn eiymddangosiad, pan oedd yn 15 oed,gyda’i fam Mari yn Wrecsam er mwynmynychu’r ysgol ramadeg. Bu yno ynystod y blynyddoedd 1634–35. Ysgoleglwysig oedd hon ar y pryd lle rhoddidlle amlwg i astudio’r ysgrythur. Bwriadai,fwy na thebyg, baratoi ar gyfer y gyfraithneu urddau eglwysig. Ni wyddom pam yraeth mor bell gan fod ysgolion agosachi’w gartref ym Motwnnog, Bangor aRhuthun. Aeth am gyfnod i BramptonBryan, Llanfair Waterdine, sir Amwythig igael rhagor o addysg.

    Pan oedd yn 15 oed fe gafodddröedigaeth o dan bregethu Walter Cradoca oedd yn gurad yn eglwys Wrecsam ar ypryd. Hyd y gwyddom, Caradoc oedd ycyntaf i droi meddwl Morgan Llwyd oddifrif at bethau ysbrydol. Ynddiweddarach fe’i dilynodd ef i ddeCymru ac i Lanfaches lle y sefydlwyd yr

    Eglwys Anghydffurfiol gyntaf ym 1639.Yno fe ddaeth o dan ddylanwad WilliamErbury ac fe ymddiddorodd y ddau yngngweithiau yr athronydd a’r diwinydd o’rAlmaen Jakob Böhme.WrecsamDychwelodd i Wrecsam ym 1647, a gwnaethei gartref ym Mryn-y-ffynnon gan fwrwgolwg dros ‘eglwys gynnull’ y dref. Bu’ngweithio ym 1650 fel cymeradwywr gydaDeddf Taenu’r Efengyl yng Nghymru ac felafuriodd yn ddygn fel pregethwr teithiol.Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth yn yGymraeg a’r Saesneg, rhoddodd nifer oSalmau ar gân a chyfansoddi emynau.Argraffodd hefyd nifer o bamffledi a llyfrauac yn eu plith yr oedd y clasur hwnnw, Llyfry Tri Aderyn. Yr oedd yn arloeswr yn hanesllenyddiaeth Cymraeg. Dywed Derec LlwydMorgan amdano, ‘O blith mawrion, o ranamrywiaeth y dylanwad a fu arno, o rancyffro’i rawd, o ran ystyfnigrwyddffrwythlon ei unigolyddiaeth, ac o ran eiarwyddocâd yn ei ddydd, Saunders Lewisyw’r unig un sy’n cymharu ag ef. Ac ymmrwydr y oesau, ni hoffwn orfod dewisrhyngddynt.’

    Cymru i GristYm 1656 cymeradwywyd ef fel gweinidogi efengylu yn Wrecsam ac fe roddwyd yswm anrhydeddus o £100 iddo pobblwyddyn. Baich mawr Llwyd oedd drosweld Cymru yn Gymru i Grist. Llafurioddtrwy ei waith ysgrifenedig i geisiocyrraedd pobl Cymru, gyda’r efengylGristnogol. Nid oes rhaid ond edrych ardeitlau ei lyfrau i sylweddoli hyn, erenghraifft; Llythyr i’r Cymru Cariadus,Gwaedd yng Nghymru yn wyneb pobcydwybod, Tri aderyn yn ymddiddan ... neuAwydd i annerch y Cymru a Cyfarwyddydi’r Cymru. Gwladgarwr Cristnogol ydoedd,oedd am weld ei bobl yn ymateb i efengylIesu Grist. Bu farw ym 1659 a rhoddwydei weddillion i orffwys yng ngardd gladduRhosddu, Wrecsam. Y mae cofgolofn iddoyno a ddadorchuddiwyd ym 1912.

    Fy enaid cyfod, cân i Dduwith wreiddyn byw ath ffynnonyscwyd oddiwrthyt yr holl lwch

    ar tristwch ar amheuon.Dod heibio’r holl feddyliau gwael

    a fynnent gael dy lethuNerth Duw a gododd Ghrist yn glau

    ath gyfyd dithau fyny.(Allan o ‘Hymn o Hiraeth am Baradwys’ –

    Morgan Llwyd)

  • Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

    Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

    Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Tŷ John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

    ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

    E-bost: [email protected]

    tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Ionawr 3, 2019Y TYST Golygydd

    Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

    Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

    Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

    GolygyddAlun Lenny

    Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

    Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

    E-bost: [email protected]

    Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

    Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

    Golygyddion

    Dyddiadur Madagascar 10Prynhawn dydd Iau – TWRISTIAETHA THLODIYn yr ysgrifau hyn y mae’r Parch. RobinSamuel yn adrodd hanes ei brofiadau ar yrynys fawr pan aeth yno ar ymweliad igywain gwybodaeth ar gyfer ApêlMadagascar Undeb yr Annibynwyr.Ar y ffordd yn ôl i Tamatve, dyma wneuddargyfeiriad bach at lan y môr. Waw!Welais i erioed draeth gwell na hwn.Tywod mor olau a glân yn ymestyn morbell ag y gallem weld i’r ddau gyfeiriad,gyda thonnau môr India yn torri’nfawreddog arno, a neb ar gyfyl y lle. Dimymbarél haul, na fan hufen ia, na chlocparcio, na chwn, na neb yn reidio tonnau!Cafodd Rhodri a Richard fodd i fyw yntynnu lluniau a ffilmio, ond roeddwn i’nddigon bodlon i sefyll a syllu ar y môr.

    Potensial aruthrolDoes dim dwywaith fod yna botensialaruthrol yn y wlad – y traethau, y goedwigdrofannol, y bywyd gwyllt unigryw a’rmannau hanesyddol, a gyda 75% o’rboblogaeth yn byw mewn tlodi fe allai’rdiwydiant twristiaeth wneud cymaint ileihau tlodi a sicrhau twf economaidd.Wrth gwrs fe fyddai hynny’n dibynnu ar eugallu hwy i gadw rheolaeth ar y datblygiad.A dyna’r broblem, gyda Ffrainc yn para ifod yn ddylanwadol, America hefyd, India,China a’r economau teigr yn y dwyrain.Pob un ohonynt yn llygadu adnoddaunaturiol yr ynys.

    Ces sgwrs ar y mater yma gydaHeritiana un bore mewn tagfa yng nghanoly ddinas. Dangosodd siopau a busnesaugwag i mi sydd wedi cael eu prynu’n rhadiawn gan Indiaid, ac yn cael eu cadw’n

    wag. Credai ef fod y bobl hyn yn aros amyr amgylchiadau economaidd iawn i wneudffortiwn. Fe gofiais wedyn am sgwrs gydaboi tacsi yn Tenerife rhai blynyddoedd ynôl oedd yn cwyno bod Tseineaid yn prynubob busnes sy’n mynd ar werth yno. Dynani, fel ry’m ni Gymry’n gwybod, mae’nrhaid beio rhywun on’d oes!

    Ond i ddod ’nôl at y busnes twristiaeth,fe ddarllenais i rywle fod un arall oynysoedd môr India, Mauritius, sydd hefydâ rhan allweddol yn hanes y cenhadon, felpetai’n llwyddo i gynnal diwydianttwristiaeth sy’n rhoi budd i drwch yboblogaeth.

    Plant tlawdCyrraedd yn ôl yn Tamatave ychydig wedi2 o’r gloch y pnawn, a stopio i roi petrolyn y car a phrynu ychydig o fwyd i’wfwyta ar y ffordd. Mae ’na daith o leiaf 5awr o’n blaenau cyn cyrraedd y gwesty yny Parc Cenedlaethol. Wrth eistedd yn y caryn disgwyl am Josiane oedd wedi mynd ichwilio am rywle i brynu meddyginiaeth,dyma sylwi ar grŵp o blant yn ein llygaduni. Daeth un ohonynt draw i chwilio amarian. Wedi iddi hi fynd, daeth dau o’rlleill, ac felly bu nes bod pawb wedi bod.Ond beth oedd yn ddiddorol oedd bod ynawraig yn eistedd ar y pafin tu fas i’r maesparcio, ac ati hi roedden nhw’n myndwedi’n gadael ni. P’un ai eu mam nhwoedd hi, neu rywun arall oedd yn eudefnyddio, wn i ddim. Mae’n ddigon posibfod y wraig ei hun yn cael ei defnyddio.

    Yn ôl pobl FJKM mae merched ifanc yncael eu defnyddio i fegera yn y brifddinas.Yn aml rhoddir babanod iddynt i’w cariooherwydd bod hynny’n fwy effeithiol igael pobl i ymateb. Yndoes yna boblgythreulig i’w cael!