2
GWEITHDY SKILLSET CYMRU Anghenion sgiliau gweithlu'r cyfryngau digidol yng Nghymru yn y dyfodol Amser a Lleoliad Mae Skillset Cymru yn cynnal dau weithdy ym mis Rhagfyr yn Llandrillo yn Rhos a Chasnewydd, i unrhyw un o fewn addysg uwch a pellach a’r sector hyfforddi annibynnol, sy'n ymwneud â datblygu cynnwys ar gyfer cyrsiau'r cyfryngau creadigol. Mae’r gweithdai hefyd ar gael i ychydig aelodau o’r diwydiant fydd yn cael eu gwahodd yn arbennig. Byddwn yn rhannu canfyddiadau ymchwil newydd i anghenion sgiliau diwydiannau'r cyfryngau creadigol a digidol yng Nghymru. Gweithdy Gogledd Cymru Dyddiad: 8 Rhagfyr 2011 Amser: 14:30-17:00 Lleoliad: Ystafell Rhos a Chonwy, Campws Coleg Llandrillo, Llandrillo yn Rhos I gofrestru cliciwch yma Gweithdy De Cymru Dyddiad: 9fed Rhagfyr 2011 Amser: 9:30-12:30 Lleoliad: Ystafell C15 Campws y Ddinas, Prifysgol Casnewydd, Casnewydd I gofrestru cliciwch yma Gwybodaeth Gefndirol Mae Skillset Cymru wedi arwain prosiect ymchwil pwysig i nodi a oes gan Gymru'r sgiliau sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol i sbarduno twf y diwydiannau yn y pum i ddeng mlynedd nesaf. Diwydiannau digidol a chreadigol Cymru yw un o'r chwe sector blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru fel y diwydiannau sy'n sbarduno tyfiant economaidd. Er mwyn i'r diwydiannau barhau i fod yn grefftus, yn gynhyrchiol ac yn gystadleuol, rhaid i hyfforddiant ar gyfer y gweithlu barhau i fod yn ymatebol i'r galw gan gyflogwyr. Mae Skillset yn chwarae rôl allweddol o gydlynu'r gwaith rhwng diwydiannau'r cyfryngau digidol a chreadigol a'r sector hyfforddiant ac addysg yng Nghymru. Yn hynny o beth, mae Skillset Cymru wedi arwain prosiect ymchwil pwysig i nodi a oes gan Gymru'r sgiliau sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol i sbarduno twf parhaus y diwydiannau yn y pum i ddeng mlynedd nesaf. Ymgynghorwyd â chyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant a sefydliadau cymorth allweddol i ragweld anghenion sgiliau'r dyfodol ac asesu i ba raddau y mae'r ddarpariaeth hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd yn ateb y galw.

Gweithdy Skillset-Anghenion Sgiliau'r Dyfodol y Diwydiannau Creadigol

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Mae Skillset Cymru wedi arwain prosiect ymchwil pwysig i nodi a oes gan Gymru'r sgiliau sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol i sbarduno twf y diwydiannau yn y pum i ddeng mlynedd nesaf. Ymgynghorwyd â chyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant a sefydliadau cymorth allweddol i ragweld anghenion sgiliau'r dyfodol ac asesu i ba raddau y mae'r ddarpariaeth hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd yn ateb y galw. Gwybodaeth Gefndirol Amser a Lleoliad

Citation preview

Page 1: Gweithdy Skillset-Anghenion Sgiliau'r Dyfodol y Diwydiannau Creadigol

GWEITHDY SKILLSET CYMRU

Anghenion sgiliau gweithlu'r cyfryngau digidol yng Nghymru yn y dyfodol

Amser a Lleoliad Mae Skillset Cymru yn cynnal dau weithdy ym mis Rhagfyr yn Llandrillo yn Rhos a Chasnewydd, i unrhyw un o fewn addysg uwch a pellach a’r sector hyfforddi annibynnol, sy'n ymwneud â datblygu cynnwys ar gyfer cyrsiau'r cyfryngau creadigol. Mae’r gweithdai hefyd ar gael i ychydig aelodau o’r diwydiant fydd yn cael eu gwahodd yn arbennig. Byddwn yn rhannu canfyddiadau ymchwil newydd i anghenion sgiliau diwydiannau'r cyfryngau creadigol a digidol yng Nghymru. Gweithdy Gogledd Cymru Dyddiad: 8 Rhagfyr 2011 Amser: 14:30-17:00 Lleoliad: Ystafell Rhos a Chonwy, Campws Coleg Llandrillo, Llandrillo yn Rhos I gofrestru cliciwch yma Gweithdy De Cymru Dyddiad: 9fed Rhagfyr 2011 Amser: 9:30-12:30 Lleoliad: Ystafell C15 Campws y Ddinas, Prifysgol Casnewydd, Casnewydd I gofrestru cliciwch yma Gwybodaeth Gefndirol Mae Skillset Cymru wedi arwain prosiect ymchwil pwysig i nodi a oes gan Gymru'r sgiliau sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol i sbarduno twf y diwydiannau yn y pum i ddeng mlynedd nesaf. Diwydiannau digidol a chreadigol Cymru yw un o'r chwe sector blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru fel y diwydiannau sy'n sbarduno tyfiant economaidd. Er mwyn i'r diwydiannau barhau i fod yn grefftus, yn gynhyrchiol ac yn gystadleuol, rhaid i hyfforddiant ar gyfer y gweithlu barhau i fod yn ymatebol i'r galw gan gyflogwyr. Mae Skillset yn chwarae rôl allweddol o gydlynu'r gwaith rhwng diwydiannau'r cyfryngau digidol a chreadigol a'r sector hyfforddiant ac addysg yng Nghymru. Yn hynny o beth, mae Skillset Cymru wedi arwain prosiect ymchwil pwysig i nodi a oes gan Gymru'r sgiliau sy'n berthnasol ac yn angenrheidiol i sbarduno twf parhaus y diwydiannau yn y pum i ddeng mlynedd nesaf. Ymgynghorwyd â chyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant a sefydliadau cymorth allweddol i ragweld anghenion sgiliau'r dyfodol ac asesu i ba raddau y mae'r ddarpariaeth hyfforddiant sydd ar gael ar hyn o bryd yn ateb y galw.

Page 2: Gweithdy Skillset-Anghenion Sgiliau'r Dyfodol y Diwydiannau Creadigol

Mae'r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion sy'n cwmpasu:

datblygiad proffesiynol parhaus i'r gweithlu cyfredol;

addysg a hyfforddiant i weithwyr newydd;

gwella cydberthnasau darparwyr hyfforddiant â'r diwydiant. Mae'n rhybuddio bod diffyg perthnasedd rhwng y sector addysg bellach ac uwch a diwydiannau'r cyfryngau digidol a chreadigol yng Nghymru. Mae cyflogwyr o'r farn bod angen ailhyfforddi dechreuwyr newydd er mwyn iddynt gael mynediad i'r diwydiannau ar ôl gadael y brifysgol. Cynigir amrywiaeth o atebion i annog hyblygrwydd, perthnasedd a rhagoriaeth cyrsiau addysg drydyddol yn y dyfodol. Mae'r adroddiad yn hefyd yn crynhoi'r prif broblemau o ran sgiliau penodol allweddol ar gyfer dyfodol diwydiannau'r cyfryngau digidol a chreadigol yng Nghymru, fel rhyngwladoli, entrepreneuriaeth greadigol, arweinyddiaeth, croesffrwythloni, aml-sgiliau a denu talent. Ar ran diwydiannau'r cyfryngau creadigol a digidol yng Nghymru, bydd Skillset Cymru yn arwain y gwaith o fynd i'r afael âg argymhellion yr adroddiad mewn partneriaeth a’i ran-ddalwyr a’i wahanol raglenni cefnogaeth. Mae'r prosiect ymchwil hwn yn cael ei gefnogi gan Brosiect Cynllun Peilot y Gronfa Blaenoriaethau Sector sydd hefyd yn cael cymorth ychwanegol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.