Upload
serena-davies
View
234
Download
9
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Llyfryn Adolygu gan fyfyriwr Astudiaethau Hamdden Ysgol y Preseli
Citation preview
HAWLIAU CYFLOGAETH
Gan Bl. 13 Astudiaethau Hamdden
Ysgol y Preseli
Colli Gwaith a Diswyddo
Gan Gwyndaf
Rhan 1 - Trosolwg Rhan 2 - Osgoi Colli Gwaith Rhan 3 - Gweithio am Amser Byr Rhan 4 - Colli Gwaith (ddim yn orfodol) Rhan 5 - Colli Gwaith yn Orfodol Rhan 6 - Colli Gwaith Gyda Ymgynghoriad Rhan 7 - Rhoi Cyfnod o Rybudd i'r Staff Rhan 8 - Cyflog Colli Gwaith Rhan 9 - Derbyn Cymorth
Mae colli gwaith yn golygu :- *Gwaith yn dod i ben *Swydd rydych wedi cael ei gyflogi ddim ar gael rhagor *Swydd mewn sefydliad wedi dod i ben Mae colli gwaith yn orfodol neu ddim. Mae llawer o hawliau gyda'r cyflogai megis :- *Cyflog dewisol ar gael *Cyfnod rhagbrofol sydd ddim yn mynd i golli arian i chi *Amser i ffwrdd er mwyn chwilio am swydd arall *Cael eich dewis am ddim rheswm o gwbl
Rhan 1 - Trosolwg
Rhaid i chi gymryd y camau yma er mwyn lleihau'r posiblrwydd o golli gwaith :- *Chwilio am gyflogai sydd am ymddeol yn gynt *Chwilio am gyflogai sydd am weithio'n hyblyg *Osgoi dewis y rhai sydd yn hunan-gyflogedig *Gwahardd goramser ("overtime") *Defnyddio pobl sydd yn gweithio yn y sefydliad yn barod i lenwi'r swydd
Mae'n bwysig gofyn i'r cyflogai i aros gartref pan nad ydych yn medru ei talu am gyfnod dros dro (os yw'r cytundeb yn caniatau hyn) Mae'r cyflogai sydd yn y swydd yma yn gallu osgoi colli gwaith - ond mae'n rhaid i chi drafod gyda'r aelod o staff yn gyntaf. Gall hwn fod yn eich :- *Cytundeb *Cytundeb gyda chi a'r sefydliad *Uchafswm taliad yn £24.20 y dydd am 5 diwrnod mewn unrhyw 3mis. Os mae'r cyflogai yn derbyn llai na £24.20 y dydd, maent yn derbyn y cyflog yna. Gall cyflogai dderbyn cyflog colli gwaith wrth y sefydliad mewn amser byr os ydynt yn :- *Gweithio mwy na 4 wythnos ar y tro *Gweithio mwy na 6 wythnos heb weithio fwy nag 3 wythnos yn olynol.
Rhan 2 - Osgoi Colli Gwaith
Rhan 3 - Gweithio Cyfnodau Byr
Tal Gwariant Statudol
Mae hyn yn cynnwys ymddeoliad cynnar a cholli gwaith yn wirfoddol *Rhaid i chi ofyn i'r cyflogai os ydynt am golli ei gwaith ac yna dewis y rheini sydd am golli eu gwaith *Er eu bod wedi gofyn am golli eu gwaith, nid yn hynny yn golygu y byddant yn colli eu gwaith, rhaid mynd trwy broses fanwl. *Mae hyn yn ddewisol a rydych yn dewis cael ymddeoliad cynnar *Ni chaniateir gorfodi person i ymddeol, rhaid iddynt wirfoddoli
Rhaid i chi ddethol yn deg, felly rydych yn edrych ar :- *Sgiliau, cymwysterau a dawn *Safon y gwaith *Presenoldeb *Record ymddygiad Hefyd, gallwch edrych ar hyd y gwasanaeth mae'r aelod yna o staff wedi bod yn y gweithle. Peidwch wahaniaethu, ni ddylid colli swydd os ydych yn un o'r sefyllfaoedd canlynol :- *Feichiog *Problemau teuluol *Osgoi ymuno ag undeb *Actio fel cynrychiolydd undeb *Bod yn aelod rhan amser *Oedran, rhyw, crefydd ac ati
Rhan 5 - Colli Gwaith yn Orfodol
Rhan 4 - Colli Gwaith (heb fod yn orfodol)
Colli gwaith yn wirfoddol -
Ymddeoliad cynnar -
Colli a diswyddo
Gan Amy
Colli gwaith - ymgynghoriad
Os nad yw'r cyflogwr yn dweud wrth y gweithiwr am sefyllfa colli gwaith,bydd unrhyw benderfyniad diswyddiad bydd yr cyflogwr yn ei wneud yn sicr ddim yn deg a bydd yn gallu arwain i'r cwmni ac i'r cyflogwr i fynd i tribiwnlys apel cyflogaeth. Os rydych yn diswyddo 20 neu fwy o weithwyr o fewn unrhyw gyfnod 90 diwrnod dylid dilyn ymgynghoriad cydweithfeydd. os mae llai na 20 person yn cael eu diswyddio dylid dal trafod gyda'r gweithwr am y sefyllfa.
graddfa amser ymgynghoriad
Dylid rhoi mewn ffurflen rhybudd ar ddechrau'r cyfnod ymgynghoriad,os na fydd hyn yn cael ei wneud, gellid cael record troseddol a cael dirwy o £5,000.
nifer o bobl yn colli swydd: 20-99 pryd dylai'r ymgynghoriad ddechrau? 30 diwrnod cyn y colliad swydd gyntaf nifer o bobl yn colli swydd: 100 neu fwy pryd dylai'r ymgynghoriad ddechrau? 45 diwrnod cyn yr colliad swydd gyntaf
Gwybodaeth dylid rhoi i staff neu cynrychiolydd
* Rheswm dros colli gwaith *Nifer o weithwyr sydd yn rhan o'r colliad swydd a'i categori swydd *rhif o nifer o weithwyr ym mhob categori. *sut rydych yn dewis y gweithwyr i ymgynghoriad *sut byddwch yn cario allan ymgynghoriad *sut byddwch yn gweithio allan taliad colliad gwaith.
rhan 7 - rhoi rhybudd i staff
angen rhoi rhybudd i staff a cytuno ar ddyddiad gadael
Rhoi rhybudd yn ol pa mor hir rydynt wedi bod yn gweithle yn y gweithle.
Angen rhoi tal rhybudd sydd yn seiliedig ar ei graddfa tal.
Os yw'r gweithwyr yn diswyddo efallai bod ganddynt yr hawl i daliad diswyddo: "statutory redundance payment" I fod yn cymhwys i’r taliad dylai'r unigolyn fod wedi gweithio o dan contract cyflogaeth, gyda o leiaf 2 flwyddyn o wasanaeth parhuss ac wedi cael rhyddhad, diswyddio neu cael eu rhoi ar waith amser fyr.
Angen gwneud yr taliad pryd rydynt yn diswyddo neu yn syth ar ol.
"Statutory redundancy pay rates"
Dibynnu ar oed y gweithwr ac yr hyd yr ydynt wedi bod yn gweithio yn y gweithle.
Gweithwyr yn cael ; 1.5 wythnos o dâl am bob cyflogaeth blwyddyn ar ol eu penblwydd yn 41. wythnos o dâl am bob cyflogaeth blwyddyn ar ôl eu penblwydd yn 22. hanner wythnos o dâl am bob cyflogaeth blwyddyn lan nes eu penblwydd yn 22.
Os yw gweithle yn methu talu taliad colli gwaith,neu os nid yw'r gweithwr yn hapus gyda cyfanswm y tâl mae ganddynt 6 mis o'rdyddiad diswyddo i wneud cais am y taliad.
Salwch Gan Siôn
T
T
T
1. Cyflwyniad Posib derbyn £86.70 o dâl salwch statudol yr wythnos pan yn rhy sâl i weithio. Cael ei dalu gan y cyflogwr hyd at 28 wythnos Rhaid ennill tâl salwch statudol wrth fod i ffwrdd o'r gwaith 4 diwrnod yn olynol. (Cynnwys dyddiau i ffwrdd) Mae'n bosib derbyn llai na'r arfer ond hefyd yn fwy os yw'r cwmni yn rhedeg cynllun taliad salwch. Mae hwn wedi nodi fel arfer yn y cytundeb gweithio. Mae yna wahanol rheolau i weithwyr amaethyddol.
2. Beth y gellir ei dderbyn? £86.70 pob wythnos o dâl salwch statudol hyd at 28 wythnos. Derbyn tâl salwch statudol am y dyddiau y byddai'r cyflogai wedi gweithio. Nid yw'r taliad yn cael ei dalu am y 3 diwrnod cyntaf. Derbynnir tâl salwch statudol wrth bob cyflogwr os yw'r gweithiwr yn gweithio i fwy nag un sefydliad. Taliad Talu fel cyflog arferol (wythnosol neu misol). Treth a threth yswiriant gwladol yn cael eu tynnu i ffwrdd. Os nad yw'r cyflogai yn credu ei fod yn derbyn y swm cywir o dâl salwch stadudol, dylir siarad gyda'i gyflogwr.
3. Cymwys Rhaid fod yn gyflogai swyddogol ac wedi gweithio i'r cyflogwr. Wedi bod yn sâl am o leiaf 4 diwrnod yn olynol. Yn ennill o leiaf £109 cyn treth pob wythnos. Er mwyn derbyn taliad, rhaid dweud wrth y cyflogwr cyn y terfyn amser (7 diwrnod) Gweithwyr asiantaeth yn medru derbyn tâl salwch statudol. Eithriadau Ni fydd cyflogai yn derbyn os yw: Wedi derbyn yr uchafswm o 28 wythnos yn barod. Wedi derbyn 3 blynedd o gyfnodau salwch. Yn derbyn tâl mamolaeth.
4. Sut i hawlio? Rhaid dweud wrth y cyflogwr trwy lythyr ysgrifenedig. Rhaid derbyn nodyn salwch oddi wrth y meddyg os yw'r cyflogai i ffwrdd o'r gwaith am fwy na 7 diwrnod. Os oes problem yn codi, rhaid siarad gyda'r cyflogwr os yw'r: Penderfyniad i beidio talu tâl salwch statudol ddim yn gywir. Os nad yw'r cyflogai yn derbyn y swm cywir o dâl salwch statudol.
Mamolaeth gan
Arwel
a
a
Mae cyfnod mamolaeth yn cael ei roi i fenywod sydd yn feichiog. Bydd menywod sydd yn gymwys am gyfnod mamolaeth statudol yn derbyn rhain sef - Cyfnod Mamolaeth - Tâl Mamolaeth - Cael eu talu am amser i ffwrdd am ofal cyn-geni - Derbyn cymorth ychwanegol wrth y Llywodraeth Dyma yr hawliau sydd gennych pan ydych ar gyfnod mamolaeth: - Cyflog yn codi - Fwy o wyliau - Yr hawl i ddod nol i waith
Beth yw Mamolaeth?
Mae gennych tua 52 wythnos o gyfnod mamolaeth sydd yn cael eu rhannu mewn i dau fath sef: - 26 wythnos o gyfnod mamolaeth cyffredin - 26 wythnos o gyfnod mamolaeth ychwanegol (does dim rhaid defnyddio'r 52 wythnos llawn) Mae angen i'r fam allu mynd nol i'r gwaith ar ôl 2 wythnos o gael y babi. Bydd hyn yn 4 wythnos i fam sydd yn gweithio mewn ffatri. Byddwch yn gallu ymadael o'r gweithle mewn 11 wythnos cyn yr enedigaeth. Rhesymau dros ymadael yn gynnar: - Diwrnod ar ôl os mae'r babi wedi cael ei eni'n gynnar. - Os rydych yn dioddef o salwch beichiogrwydd 4 wythnos cyn y dyddiad genu.
Faint o gyfnod sydd gennych?
Mae angen i chi fod yn weithiwr yn y sefydliad Mae angen rhoi y rhybudd cywir i'r cyflogwr. Er mwyn derbyn y tâl, bydd angen rhoi 28 diwrnod o rybudd i'r rheolwr (mewn ysgrifen) ac yn cynnwys tystiolaeth o feichiogrwydd. Bydd tâl mamolaeth yn para 39 wythnos a
byddwch yn derbyn y canlynol: - Byddwch yn derbyn tua 90% o'ch cyflog wythnosol yn y 6 wythnos cyntaf. - £136.78 neu 90% o'ch cyflog wythnosol am y 33 wythnos nesaf.
O leiaf 15 wythnos cyn eich dyddiad terfynol, bydd angen dweud wrth eich cyflogwr am pryd mae eich babi yn debygol o gael ei eni a phryd yr ydych chi eisiau dechrau eich cyfnod mamolaeth. Bydd y cyflogwr yn gallu gofyn am hyn mewn ysgrifen. Bydd angen i'r rheolwr gytuno o fewn 28 diwrnod i gadarnhau faint o amser i ffwrdd a phryd bydd y cyfnod yn dechrau a gorffen.
Pwy sydd yn addas i dderbyn cyfnod mamolaeth?
- Bydd angen i chi wedi bod yn gweithio i'r cyflogwr am 26 wythnos yn parhaol. - Derbyn cyfartaledd o £109 yr wythnos. - Rhoi'r rhybudd cywir. - Rhoi tystiolaeth am eich beichiogrwydd.
Sut ydych yn derbyn cyfnod mamolaeth?
Faint o dâl byddwch yn derbyn?
Cyfnod Ychwanegol- Byddwch yn gallu cael 13 wythnos heb dâl ar ôl y genedigaeth. Yr enw am hyn yw Cyfnod Rhieniol - Bydd hyn yn gallu cael ei gyfyngu i 4 wythnos y flwyddyn. - Bydd eich partner yn derbyn tâl a chyfnod ychwanegol er mwyn edrych ar ôl y plentyn. Yr enw am hyn yw Cyfnod Tadolaeth Ychwanegol
Gwyliau
Gan Joe
Rhan 1 - Hawliau Er mwyn gweithio allan y nifer o wyliau, rhaid lluosi y nifer o ddiwrnodau maent yn gweithio
mewn wythnos gyda 5.6. E.e. 5 diwrnod yr wythnos x 5.6 = 28 diwrnod.
Llawn amser - Mae hawl gan weithwyr llawn
amser cael 28 diwrnod o wyliau pob blwyddyn gyda thâl.
Rhan amser - Mae hawl i weithwyr rhan amser dderbyn tua 17 diwrnod o wyliau gyda thâl pob blwyddyn. E.e. 3 diwrnod yr wythnos x 5.6 =
16.8 diwrnod
Gwyliau Banc - Mae gan bob busnes hawl i ddefnyddio gwyliau banc fel gwyliau tâl y
gweithwyr.
Mae'n rhaid i bob gweithiwr llawn amser dderbyn dim llai na 28 diwrnod o wyliau, ond
mae gan fusnesau yr hawl i gynnig mwy o wyliau gyda thâl i weithwyr. E.e. mwy o wyliau ar ôl
gweithio yn y sefydliad am 5 mlynedd.
Rhan 2 - Gwyliau wedi eu talu Mae gweithwyr yn cael eu talu yr un cyflog pob
wythnos maent ar eu gwyliau. I rywun sy'n cael ei dalu am bob awr, maent yn cael eu talu am
gyfartaledd yr wythnos weithio.
Rhan 3 - Cyfrifo gwyliau Mae rhaid i wyliau blynyddol cael ui cymryd erbyn dyddiad sydd wedi cael eu penodi gan y cwmni. Os
yw'r cwmni ddim wedi penodi dyddiad rhaid cymryd y gwyliau erbyn Hydref y Cyntaf.
Nid yw gwyliau blynyddol yn cael ei effeithio gan
famolaeth na thadolaeth.
Cario gwyliau drosto Nid oes rhaid i fusnes adael i weithwyr cario gwyliau drosto. Os yw busnes yn gadael i hyn
ddigwydd mae hawl gan weithiwr llawn amser gario dim mwy na 8 diwrnod i wyliau y flwyddyn nesaf.
Rhan 4 - Bwcio gwyliau Rhaid i weithwyr rhoi gwybod (Hysbysu) i'r
sefydliad cyn iddo gymryd y gwyliau. - 1 diwrnod o wyliau = 2 ddiwrnod o hysbys - 1 wythnos o wyliau = 2 wythnos o hysbys - 2 wythnos o wyliau = 4 wythnos o hysbys
Mae gan gyflogwyr hawl i benodi pryd mae staff yn cymryd ei wyliau e.e. gwyliau Banc a Nadolig. Mae ganddynt hefyd hawl i wrthod gwyliau e.e. amser
brysyr yn y gwaith.
Rhan 5 - Cymryd gwyliau cyn symud/gorffen swydd Unwaith mae gweithwr wedi dweud eu bod nhw'n gorffen yn y swydd, gallant wedyn cymryd unrhyw
wyliau sydd ganddyn nhw ar ôl.
Tadolaeth
Gan Alex
Tadolaeth
= Pryd mae partner yn cael babi neu os maent yn mabwysiadu
Bydd yn cael 1 neu 2 wythnos i ffwrd gyda thâl - hyn y tâl tadolaeth cyffredin.
Posib cael i fyny at 26 wythnos o dâl ychwanegol, ond rhoddir hyn os yw'r fam yn dychwelyd i weithio
Maw hawliau y cyflogai yn cael eu diogelu pan ar gyfnod tadolaeth:
-cynnydd mewn cyflog
-adeiladu fwy o wyliau
-mynd nol i weithio
Ni roddir hawl i berson i fynd i apwyntiad gan fod y person sydd yn feichiog yn mynd.
Mae yna rheolau clir: rhaid gwneud cais am eich cyfnod tadolaeth
Tadolaeth cyffredin
-cael un neu ddwy wythnos i ffwrdd
-rhoi 28 diwrnod o rybudd.
-6 wythnos os maent eisiau newid y dyddiadau gadael a dod nol.
Tal
-Y tâl am dadolaeth sy'n ychwanegol yw £136.78.
-Gall cael i fyny at 90% o'ch tâl cyfartalog yr wythnos.
-Bydd trethu yn cael ei didynnu hefyd.
-Bydd yn cael ei dalu pan fyddwch yn gadael
-28 diwrnod o hysbys os ydych am newid eich dyddiadau.
-Rhaid i'r cyflogai ddewis y dyddiadau maent yn dymuno gadael.
Rhaid i'r rheolwr gadarnhau.
Sut i wneud cais
Tadolaeth cyffredin
Rhaid dweud i'r rheolwr o leiaf 15 wythnos cyn bod nhw yn disgwyl:
- y dyddiad geni y babi - pan ydych eisiau eich cyfnod tadolaeth i ddechrau - a os ydych eisiau un neu ddwy wythnos o dadolaeth
Efallai bydd y rheolwr eisiau i hyn fod wedi ei nodi yn ysgrifenedig ar bapur.
Rhan o Brosiect eDdysg
@ Ysgol y Preseli