8
Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe gofiwch, efallai, i ni sôn am gynlluniau oedd ar droed i newid enw ysgol ym Madagascar i fod yn Ysgol David Griffiths, er cof am un o’r cenhadon a aeth allan i’r wlad dros ddwy ganrif yn ôl. Adroddwyd yr hanes yn Y Tyst. Erbyn hyn, mae’r ysgol wedi newid ei henw yn swyddogol: Ysgol David Griffiths sydd yn ardal Ambohidratrimo o’r ynys nawr. Hen ysgol Mae’n debyg bod yr adeilad yn un o’r adeiladau ysgol hynaf ar yr ynys, yn un o’r ysgolion cyntaf i gael eu hadeiladu y tu allan i’r brifddinas. Fe’i hadeiladwyd ddwy flynedd ar ôl i David Griffiths adael Madagascar yn y 1840au. Mae tipyn o waith cynnal a chadw ar adeilad o’r fath. Cafwyd hanes adnewyddu’r to yn Y Tyst dros yr haf eleni a bellach yn ystod cyfnod y glaw mawr, y mae’r adeilad yn sych. Y mae gwaith mawr i’w wneud ar y tu fewn o hyd. Ewyllys da Dros yr haf hefyd, adeiladwyd clwyd fawr haearn i gadw’r plant yn ddiogel pan maen nhw allan yn chwarae ar yr iard oherwydd mae’r ysgol wedi’i lleoli ger heol hynod brysur a pheryglus. Y mae elusen o’r enw Ankizy Gasy (Plant Madagascar) a sefydlwyd gan ddwy Bwyles ifanc, yn codi arian ar gyfer gwella’r ysgol a phrynu adnoddau ar gyfer addysg y plant. Daeth y ddwy Bwyles i Fadagascar am 6 mis yn 2009, fe syrthion nhw mewn cariad â’r lle ac yn wir, maen nhw’n dal i fod yno heddiw. Y mae cymuned Pen-rhys yn y Rhondda, sydd â chyswllt agos â Madagascar ers blynyddoedd lawer, yn codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol drwy’r elusen hon. Yn ddiweddar anfonwyd swm o arian allan yno oedd yn galluogi darparu adnoddau ysgol ar gyfer 55 o blant yn yr ysgol. Mae hyn yn newyddion ardderchog. Ond mae mwy i’w wneud eto, wrth gwrs. Caledi enbyd Y mae’r cyfnod Covid hwn wedi taro Madagsacar yn ofnadwy o galed, os nad yw pobl yn mynd allan i weithio, chawn nhw ddim o’u talu, felly mae pobl yn cymryd benthyciadau sy’n codi llog afresymol, ac yn y modd hwn mae’r tlawd yn mynd yn dlotach a’r cyfoethog yn mynd yn fwy cyfoethog fyth. Y mae teuluoedd y plant yn talu rhyw gymaint at anfon eu plant i’r ysgol ond oherwydd y pandemig, dydy’r plant ddim wedi bod yn mynd i’r ysgol ac felly, dydyn nhw ddim wedi bod yn talu. Y mae Ankizy Gasy wedi bod yn helpu talu cyflogau staff yr ysgol ers mis Ebrill ac yn sicrhau bod ganddyn nhw fwyd i’w fwyta. Bellach, mae’r plant wedi dychwelyd i’r ysgol. Gwella cyfleusterau Y cynllun nesaf sydd ar y gweill yn yr ysgol yw gwella ar y toiledau – y maent mewn stad ofnadwy. Mae angen gwella’r system garthffosiaeth gan fod perygl o afiechydon yn broblem real. Yn ogystal, dim ond un tap sydd i 100 o blant a staff ar y safle, y mae angen gwella’r system ddŵr yn yr ysgol hefyd. Y bwriad ymhen ychydig flynyddoedd yw gallu darparu ysgol ac addysg am ddim i’r plant, oherwydd dyna’u haeddiant. Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar eu gwaith diflino.

Madagascar: Mae’r codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol … · 2020. 10. 28. · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Madagascar: Mae’r codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol … · 2020. 10. 28. · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c.

Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhauFe gofiwch, efallai, i ni sôn am gynlluniau oedd ar droed i newid enw ysgol ym Madagascar i fod yn Ysgol David Griffiths, er cof am un o’r cenhadon a aeth allan i’r wlad dros ddwy ganrif yn ôl. Adroddwyd yr hanes yn Y Tyst. Erbyn hyn, mae’r ysgol wedi newid ei henw yn swyddogol: Ysgol David Griffiths sydd yn ardal Ambohidratrimo o’r ynys nawr. Hen ysgol Mae’n debyg bod yr adeilad yn un o’r adeiladau ysgol hynaf ar yr ynys, yn un o’r ysgolion cyntaf i gael eu hadeiladu y tu allan i’r brifddinas. Fe’i hadeiladwyd ddwy flynedd ar ôl i David Griffiths adael Madagascar yn y 1840au. Mae tipyn o waith cynnal a chadw ar adeilad o’r fath. Cafwyd hanes adnewyddu’r to yn Y Tyst dros yr haf eleni a bellach yn ystod cyfnod y glaw mawr, y mae’r adeilad yn sych. Y mae gwaith mawr i’w wneud ar y tu fewn o hyd.

Ewyllys da Dros yr haf hefyd, adeiladwyd clwyd fawr haearn i gadw’r plant yn ddiogel pan maen nhw allan yn chwarae ar yr iard oherwydd mae’r ysgol wedi’i lleoli ger heol hynod brysur a pheryglus. Y

mae elusen o’r enw Ankizy Gasy (Plant Madagascar) a sefydlwyd gan ddwy Bwyles ifanc, yn codi arian ar gyfer gwella’r ysgol a phrynu adnoddau ar gyfer addysg y plant. Daeth y ddwy Bwyles i Fadagascar am 6 mis yn 2009, fe syrthion nhw mewn cariad â’r lle ac yn wir, maen nhw’n dal i fod yno heddiw. Y mae cymuned Pen-rhys yn y Rhondda, sydd â chyswllt agos â Madagascar ers blynyddoedd lawer, yn codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol drwy’r elusen hon. Yn ddiweddar anfonwyd swm o arian allan yno oedd yn galluogi darparu adnoddau ysgol ar gyfer 55 o blant yn yr ysgol. Mae hyn yn newyddion ardderchog. Ond mae mwy i’w wneud eto, wrth gwrs.

Caledi enbyd Y mae’r cyfnod Covid hwn wedi taro Madagsacar yn ofnadwy o galed, os nad yw pobl yn mynd allan i weithio, chawn nhw ddim o’u talu, felly mae pobl yn cymryd benthyciadau sy’n codi llog afresymol, ac yn y modd hwn mae’r tlawd yn mynd yn dlotach a’r cyfoethog yn mynd yn fwy cyfoethog fyth. Y mae teuluoedd y plant yn talu rhyw gymaint at anfon eu plant i’r ysgol ond oherwydd y pandemig, dydy’r plant ddim wedi bod yn mynd i’r ysgol ac felly, dydyn nhw ddim wedi bod yn talu. Y mae Ankizy Gasy wedi bod yn helpu talu cyflogau staff yr ysgol ers mis Ebrill ac yn sicrhau bod ganddyn nhw fwyd i’w fwyta. Bellach, mae’r plant wedi dychwelyd i’r ysgol. Gwella cyfleusterau Y cynllun nesaf sydd ar y gweill yn yr ysgol yw gwella ar y toiledau – y maent mewn stad ofnadwy. Mae angen gwella’r system garthffosiaeth gan fod perygl o afiechydon yn broblem real. Yn ogystal, dim ond un tap sydd i 100 o blant a staff ar y safle, y mae angen gwella’r system ddŵr yn yr ysgol hefyd. Y bwriad ymhen ychydig flynyddoedd yw gallu darparu ysgol ac addysg am ddim i’r plant, oherwydd dyna’u haeddiant. Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar eu gwaith diflino.

Page 2: Madagascar: Mae’r codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol … · 2020. 10. 28. · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 29, 2020Y TYST

Mae Llywydd Undeb yr Annibynwyr wedi croesawi’r modd y cafodd Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig ei wrthod yn gadarn gan Dŷ’r Arglwyddi. Fe wnaeth y Parchg Jill-Hailey Harries, ar gais Cyngor yr Undeb, anfon llythyr at nifer o aelodau Cymreig y Tŷ yn erfyn arnynt i wrthwynebu’r bil. Dywedyd yn y llythyr mai dyma’r ymosodiad mwyaf erioed ar ddatganoli, a byddai gweithredu’r bil yn cael effaith andwyol ar yr economi a’r amgylchedd, safonau bwyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Pryderwyd bod y bil, a basiwyd eisoes gan Dŷ’r Cyffredin, yn galluogi gweinidogion y DU i dorri cyfraith ryngwladol tra’n cipio pwerau datganoledig.

Mwyafrif llethol Roedd hi’n amlwg bod aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn cytuno. Cafodd gwelliant gan Arglwydd Judge, a ddywedodd bod y bil yn tanseilio’r gyfraith ac yn niweidio enw da’r Deyrnas Unedig, ei basio trwy fwyafrif llethol o 226 o bleidleisiau

ar ôl dadl a barodd am ddeuddydd. Bydd y bil nawr yn mynd ’nôl i Dŷ’r Cyffredin i’w aildrafod. Dyma ddetholiad byr o areithiau tri o’r Arglwyddi Cymreig a dderbyniodd lythyr ein Llywydd.

Tryweryn arall ‘Byddai’r Bil yn gwanhau yn enbyd pwerau rheoleiddio Llywodraeth Cymru, yn amrywio o’r bwyd a werthir yng Nghymru i gymwysterau athrawon yn ein hysgolion. Byddai camau o’r fath yn dymchwel polisi “prynu’n lleol” llwyddiannus Llywodraethau olynol Cymru wrth gaffael cynnyrch a gwasanaethau. Mae’r mesur yn rhoi pwerau i weinidogion y DU i ymyrryd yng Nghymru mewn seilwaith dŵr, gan godi arswyd ein bod ar fin gweld Tryweryn arall yn cael ei orfodi arnom.’ – Arglwydd Wigley

Colli pwerau ‘Fel un o benseiri Datganoli yng Nghymru, fe’i hystyriaf yn ddyletswydd arnaf i ddiogelu’r setliad.

Unwaith y bydd pwerau wedi’u datganoli, ni ellir eu tynnu’n ôl. Dywed Llywodraeth Cymru wrthyf fod Llywodraethau’r DU wedi cydweithio ar y rhaglen seneddol gyffredin ers tair blynedd; ond mae’r bil hwn yn ei ysbaddu ac yn gwagio pwerau’r cyrff datganoledig i reoleiddio meysydd polisi.’ – Arglwydd Morris o Aberafan (cyn Dwrnai Cyffredinol)

Gwarchod iechyd ‘Petai Llywodraeth Cymru yn dymuno labelu bwyd i gryfhau’r rhybuddion ar gynnwys siwgr neu fraster, neu am wahardd diodydd llawn siwgr, gallent mewn theori barhau i wneud hynny. Ond byddai’r gyfraith yn gwbl aneffeithiol oherwydd gallai cynhyrchion a wneir yn Lloegr, neu a fewnforiwyd i Loegr, er nad oeddent yn cydymffurfio â’r dymuniad, i’w gwerthu’n agored yng Nghaerdydd a Chaernarfon.’ – Barwnes Finlay o Landaf

YR ARGLWYDDI YN DANGOS EU DANNEDD

Y Bod Arall Mae mor dawel ambell noswaith fel y gallaf glywed y ddylluan fechan yn hwtian a hithau ymhell i ffwrdd, a’r llwynog yn cipial filltiroedd draw. Ar yr amserau hynny y gorweddaf yn effro yn oriau main y bore yn gwrando ar ymchwydd y tonnau yn codi a gostwng, codi a gostwng, don ar ôl ton, don ar ôl ton ar y draethell gerllaw’r pentre di-olau a heb yr un enaid byw o gwmpas. A daw imi yn yr oriau mân yr ymwybyddiaeth o’r Bod arall hwnnw sydd hefyd ar ddi-hun, yn gadael i’n gweddïau dorri arno, nid fel myfi fel hyn am ychydig oriau, ond am ddyddiau, am flynyddau, am dragwyddoldeb, am byth Trosiad Tecwyn Owen o gerdd R. S. Thomas ‘The Other’

Cristnogaeth leihau yn ein gwlad, y bydd credoau ysbrydol amgen yn cynyddu. Rhaid bod yn wyliadwrus o hyn oherwydd arwain pobl y maent oddi wrth gariad Duw yn Iesu.

Unwaith eto y mae nwyddau Halloween wedi ymddangos yn ‘frawychus’ o niferus ar silffoedd ein siopau yn barod i ‘ddathlu’ Calan Gaeaf. Maent yn ddigon i godi braw ar y dewraf ohonom. Mae’n sicr na fydd cymaint o ddathlu ac arfer eleni oherwydd y bydd pawb ohonom yng Nghymru o dan glo ac yn methu â chymdeithasu.

Y mae’r Mentrau Iaith eleni wedi mynd ati i geisio gwrthweithio yr Halowîn masnachol Americanaidd sydd wedi ei hwrjo arnom ers cenhedlaeth a mwy, a hynny trwy dynnu sylw at draddodiadau a chwedlau Cymreig sy’n gysylltiedig â Chalan Gaeaf. Y mae’r chwedlau hyn yn cynnwys straeon am Gwyn ap Nudd, Brenin Annwfn, mangre’r meirwon a gellir gwylio fideos yn adrodd peth o’r hanes ar wefan y Mentrau Iaith. Mae rhywun yn canmol yr awydd i wrthsefyll y diwylliant Eingl Americanaidd sy’n cael ei arllwys arnom yn un cenllif beunyddiol. Mae cystadleuaeth ar wefan y Mentrau i addurno penglog erbyn hanner nos yr unfed ar ddeg ar hugain o Hydref. Dywed Bet Huws, Swyddog Hunaniaith: ‘Gyda chyfyngiadau Covid-19 eleni yn effeithio ar y

gweithgaeddau Eingl Americanaidd Calan Gaeaf arferol, dyma gyfle gwych i gyflwyno Gwyn ap Nudd i blant a phobl ifanc Cymru.’

Ond beth a wnawn o’r dathliadau hyn fel Cristnogion, mewn gwirionedd, sy’n mynd yn ôl i chwedloniaeth paganaidd ac ofergoelus ein gorffennol. Y pwyslais hwn ar frawychu, bwci bo, penglogau, sgerbydau,ystlymod, bwganod, pryfaid cop, ellyllon, ysbrydion, coblynnod, bwbachod, cythreuliaid a’u tebyg. Ai rhywbeth cwbl ddiniwed ydyw, y gallwn ei ddysgu yn hwyliog i’n plant yn gwbl ddigydwybod? Yntau a oes elfennau tywyll a pheryglus iddynt? Ys gwn i beth yw barn darllenwyr Y Tyst? Byddai’n

eithriadol o ddiddorol clywed gennych.

Gwyddom fod ein rhagflaenwyr Cristnogol yng Nghymru ers y dechrau wedi gweithio’n galed i ddileu ofergoeliaeth caethiwus a’r ofn oedd yng nghalonnau’r werin o’r goruwchnaturiol. Roedd hyn yn deillio wrth gwrs o’r rhybuddion sydd yn

y Beibl fod yna bwerau tywyll ar waith yn y byd, (Deut. 8: 10-11; Ioan 14: 30 - 31; Ioan 17: 15; Effesiaid 6: 11-12) ond eu bod yn bwerau sydd wedi eu concro gan Iesu. Un peth sy’n sicr wrth i ddylanwad

Calan Gaeaf

O wefan Mentrau Iaith

Page 3: Madagascar: Mae’r codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol … · 2020. 10. 28. · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe

Gwers 17

Nathanael – Bartholomeus

Gweddi agoriadolArglwydd Iesu, gwêl ni yn dydrugaredd heddiw wrth i ni fyfyrio ar dyAir. Fel y bu i Nathanael fyfyrio dan ygoeden ffigys er mwyn deallgoblygiadau’r ddeddf, agor ein llygaid iweld y nef yn agor a’th fendith yn eincyffroi. Amen.

Darllen: Ioan 1:43–51

Cyflwyniad

Bydd y rhan fwyaf o esbonwyrBeiblaidd yn ystyried mai yr unoedd Nathanael a Bartholomeus:Bartholomeus yn fath o gyfenw, a’iystyr fyddai ‘mab Tolmai’, a Nathanaelyn enw cyntaf ac yn golygu ‘rhodd ganDduw’ neu un ‘yn rhannu Duw’. Gweliry cyfeiriadau at Bartholomeus ynEfengylau Mathew, Marc a Luc, a’igyplysu â Philip. Awgryma rhai eu bodyn perthyn, er nad oes tystiolaethFeiblaidd i gadarnhau hynny. YnEfengyl Ioan, Philip sy’n tywysNathanael at Iesu, ond bod Nathanael,

ar y dechrau yn dal yn ôl. Efddywedodd y frawddeg gyfarwydd ynllawn amheuaeth, ‘A all dim da ddod oNasareth?’ Ar gymhelliad pellach ganPhilip, mentra draw at Iesu. Yn ôl Ioan,roedd Iesu yn ei adnabod, a dywed iddosylwi arno’n eistedd o dan y goedenffigys, lle pwysig i’r Iddew i gaelcysgod ac i fyfyrio ac yn arbennig ifyfyrio ar y gyfraith. Dywed Iesu wrthNathanael ei fod yn ‘wir Israeliad, aoedd yn werth ei enw, ac nad oedd twyllynddo’. Ymateb Nathanael i hyn oeddcadarnhau bod Iesu yn Fab Duw ac ynFrenin Israel. Roedd y sgeptig a’iamheuaeth wedi troi i fod yn un oddilynwyr Crist.

Myfyrdod

Bydd y mwyafrif ohonom sy’n ystyriedy myfyrdodau hyn wedi cael ein maguyn y ffydd, a byddwn yn ddiolchgar i’rsawl a’n harweiniodd i gymdeithas yreglwys. Nid yw pawb a fynychoddysgolion Sul fel plant wedi tystio ibrofiad personol o ffydd, ac wediymrwymo i fod yn aelod o’r eglwys.Mae’n sifir fod pobl ar draws ycenedlaethau wedi amau’r dystiolaeth

Gristnogol, a gwrthod credu – rhai felNathanael, eraill fel Thomas. Gwelsomnifer gynyddol yn ystod y cyfnoddiweddar yn wfftio’r ffydd a dweud eubod yn fwy tebygol o dderbyn ydystiolaeth wyddonol am esblygiad,neu’n dod yn ôl at osodiadau sy’npwysleisio bod angen gweld tystiolaethhaws i’w dirnad na chredu datganiadcrefyddol. Prin fod y trai argrefydd dros y ganrif ddiwethaf wedihelpu i gymell pobl i gymdeithas yreglwys.

Beth yw bod yn ‘wir Israeliad’, nidyng nghyd-destun hunaniaethgenedlaethol, ond bod yn aelod o’rIsrael Newydd ac yn bobl Crist? Byddbod yn ‘blant i Dduw’ fel roedd enwNathanael yn ei gyfleu neu’n boblddidwyll yn greiddiol i hynny. Nidmater o gael ein geni yn y ffydd, ond

Hydref 29, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 3Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Mae addysg yn un ffordd allweddol ogeisio dileu tlodi, gan rymuso pobl ihelpu eu hunain i fywyd gwell. Oamgylch y byd, fodd bynnag, maeargyfwng Covid-19 wedi cael effaithnegyddol ar addysg plant. Yn Indonesiamae partner Cymorth Cristnogol KUNHumanity System + wedi sefydlugorsaf radio er mwyn helpu mewnadegau o argyfwng.

Yr orsaf radio, sydd wedi ei lleoli

mewn ardal sy’n dioddef tirlithriadau allifogydd, oedd y prif ddull ogael gwybodaeth i bobl. Ers misMawrth eleni mae’r orsaf hefydwedi bod yn helpu gyda gwersiplant. Mae KUN yn helpu pedairysgol gyda’r dechnoleg, â 30 oathrawon wedi derbyn hyfforddiant a210 o ddisgyblion wedi derbyn set radiofel eu bod yn gallu dysgu gartref.Dywedodd Mrs Yuliana, un o’r

athrawon, ‘Mae hyn yn cfil iawn.Rwy’n gallu dweud stori wrth fynisgyblion drwy’r radio. Fe fyddannhw’n hapus iawn.’

Mae eich cefnogaeth i GymorthCristnogol yn gwneud gwahaniaeth goiawn. Diolch.

Dyfed Wyn RobertsSwyddog Cyfathrebu,

Cyfryngau ac Adnoddau

Gwersi ysgol ar y radio trwy gefnogaeth Cymorth Cristnogol

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd –Yr Efengylau

Cyfres o astudiaethau Beiblaidd ar gyfer y cartref neu grfipgan y Parch. Denzil I. John

Mae testun a chyflwyniad fideo o’r deunydd hwn ar gael ar wefany Cyngor Ysgolion Sul: https://www.ysgolsul.com/?page_id=804

(parhad ar y dudalen nesaf)

Cyfeiriad Golygydd Y PEDAIR TUDALEN

Huw Powell-Davies

neu Llifor, 60 Ffordd Rhuthun,Yr Wyddgrug, CH7 1QH

Anfonwch eich erthyglau, hysbysebiona.y.y.b. i’r cyfeiriad uchod.

Mae’r Pedair Tudalen Gydenwadol yncael eu cynnwys yn rhan o bapurauwythnosol tri enwad, sef Y Goleuad

(Eglwys Bresbyteraidd Cymru), SerenCymru (Undeb Bedyddwyr Cymru) a’rTyst (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

[email protected]

Page 4: Madagascar: Mae’r codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol … · 2020. 10. 28. · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe

Wrth i 2019 dynnu tuag at ei therfynroedd y Llyfrgell Genedlaethol ynedrych ymlaen yn eiddgar atweithgareddau 2020 ac yn arbennig ycyfle i ddathlu pedwar canmlwyddiantargraffu Beibl 1620. Prin y byddemwedi meddwl bryd hynny beth fyddaiyn ein hwynebu yn ystod y flwyddyn.

Wrth gwrs, yn sgil Covid-19 ni fumodd cynnal nifer o’r gweithgareddauhynny oedd gennym ar y gweill, ondrydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bodwedi llwyddo i drefnu cyfres o sgyrsiaurhithiol yn ystod mis Tachwedd i nodi adathlu’r achlysur.

Gobeithio y bydd modd i chi ymunoag E Gwynn Matthews, Dr Dylan FosterEvans, Dr Eryn White a’r Athro E WynJames bob nos Fercher yn ystod mis

Tachwedd wrth i ni ddathlu cyhoeddicampwaith John Davies yn 1620 a hanesy Beibl yn y Gymraeg ers hynny.

Gellir ymuno â ni ar Zoom neu arFacebook. I archebu tocynnau ewch idigwyddiadau.llyfrgell.cymru

4 Tachwedd @6yh

Symposiwm Beibl 1620: Y BeiblCymraeg – yr Arloeswyr

I agor y gyfres o sgyrsiau yn dathlupedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl1620 bydd E Gwynn Matthews yn myndâ ni ’nôl ychydig cyn hynny, i hanes ycyfieithwyr a fu wrthi fesul cam rhwng1567 a 1620 yn creu’r cyfieithiad‘traddodiadol’ o’r Beibl Cymraeg, ganddwyn sylw at gyfraniad arbennigarloeswyr fel William Salesbury aWilliam Morgan.

I archebu tocyn:<https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/symposiwm-beibl -1620-bible-sympos ium-y-be ib l -cymraeg-yr-arloeswyr/e-kraglo>

11 Tachwedd @6yh

Symposiwm Beibl 1620: Dr JohnDavies, Mallwyd a Beibl 1620

Yn yr ail yn y gyfres o sgyrsiau i ddathlupedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl1620 byddwn yn troi ein golygon at uno ysgolheigion mwyaf Cymru, Dr JohnDavies, Mallwyd. Ymunwch â Dr DylanFoster Evans wrth iddo drafod cyfraniadJohn Davies i Feibl 1620 a’i ddylanwadarhosol ar yr iaith Gymraeg a’idiwylliant.

<https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/symposiwm-beibl -1620-bible-

symposium-dr-john-davies-mallwyd-a-beibl-1620/e-jyagxo>

18 Tachwedd @6yh

Symposiwm Beibl 1620: ‘Beiblau iamryw bobloedd’ – Peter Williams aBeibl 1770

Mae 2020 yn 250 mlwyddiant cyhoeddi‘Beibl Peter Williams’ yn 1770, sef yBeibl cyntaf i gael ei argraffu yngNghymru yn hytrach nag ynLlundain, Rhydychen neu Gaergrawnt.Yn y drydedd o sgyrsiau i ddathlupedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl1620 bydd Dr Eryn White yn olrhainhanes poblogrwydd ‘Beibl PeterWilliams’ dros gyfnod hir – cafwyd dros30 argraffiad ohono rhwng 1770 a 1900.

<https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/symposiwm-beibl -1620-bible-symposium-beiblau-i-amryw-bobloedd-peter-williams-a-beibl-1770/e-ejlbom>

25 Tachwedd @6yh

Symposiwm Beibl 1620: ThomasCharles, Mary Jones a Chymdeithas yBeibl

I gloi’r gyfres o sgyrsiau yn dathlupedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl1620 bydd yr Athro E Wyn James yncanolbwyntio’n arbennig ar hanesThomas Charles a Mary Jones, y ferch ymae hanes ei thaith i’r Bala i brynuBeibl mor gyfarwydd i gynifer ohonom.Cawn gip hefyd ar gynnwrf cynhyrchu alledaenu Beiblau yn y 19eg ganrif yngNghymru a thu hwnt.

<https://www.ticketsource.co.uk/llgcnlw/symposiwm-beibl -1620-bible-symposium-thomas-charles-mary-jones-a-chymdeithas-y-beibl/e-dvagko>

tudalen 4 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 29, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu Beibl 1620

bod yn bobl sy’n medru dweud bod Iesuyn ‘wir Fab Duw’ ac yn Frenin ‘Israel’.Pobl felly sy’n gweld ‘y nef yn agor acangylion Duw yn esgyn ac yn disgyn arFab y Dyn’, pobl sydd wedi cael y frainto brofi gwirionedd y dystiolaethddwyfol ac yn sicr fod Iesu yn Fab iDduw. Mae angen i Philip a Nathanaelfod yn yr eglwys – pa un ohonynt ydymni?*

Gweddi i gloi

Diolch am bawb sydd, fel Philip, ynawyddus i dywys eraill at yr Iesu aceraill, fel Nathanael, yn mentro at Iesucyn sylweddoli pwy a beth ydyw. Helpani i rannu’r ffydd yn fwy effeithiol yn yr

oes wahanol rydym yn mynd drwyddi,ac i fyw’r ffydd mewn amseroeddanodd. Amen.

Trafod ac ymateb• Beth oedd sail amheuaeth Nathanael

am Iesu (adn. 46)?• A gawsoch chi brofiad tebyg i Philip

o geisio cymell rhywun at Iesu?Rhannwch am y profiad gyda’r grfip.

• Beth dybiwch chi yw sail amheuaethllawer heddiw o’r ffydd Gristnogol?

• Sut mae pethau’n newid ar ôl iNathanael gyfarfod Iesu yn bersonol?

• Trafodwch y cwestiwn olaf arddiwedd y myfyrdod (*).

Adnabod Cymeriadau’r Testament Newydd (parhad)

Page 5: Madagascar: Mae’r codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol … · 2020. 10. 28. · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe

‘Rebel!’ ‘Piwritan!’ ‘Anarchydd!’‘Unben!’ ‘Bohemiad!’ ‘Deinosor!’Anodd credu bod yr holl enwau’ndisgrifio’r un dyn. Ond un felly oeddCynan – Marmite o gymeriad agynhyrfai ymateb cryf o’i blaid neu ynei erbyn, clamp o bersonoliaeth a gydiaiyn nychymyg pobl. Cynan ar lafargwlad, neu Albert Evans Jones(1895–1970), a rhoi ei enw swyddogoliddo, oedd un o Gymry enwocaf yrugeinfed ganrif. Dyma gymeriad afwriodd ei ddylanwad ar Gymru amgyfnod o hanner can mlynedd, o’r1920au hyd at ei farwolaeth yn 1970.Ac ar hanner canmlwyddiant eifarwolaeth dyma weld cyhoeddi’rcofiant cyflawn cyntaf iddo gan wasg yLolfa.

Mae’r cofiant yn ymdrin â sawlagwedd ar ei fywyd – fel bardd,eisteddfodwr, Cofiadur, Archdderwydd,cyd-ysgrifennydd Cyngor yrEisteddfod, sensor dramâu, dramodydd,cynhyrchydd, beirniad. Rhannwyd ygyfrol yn saith pennod neu act i gyfatebyn gronolegol i wahanol gyfnodau yn ei

fywyd lliwgar a llawn. Daw’r gyfrol iben gydag ymdriniaeth fanwl o’r rhan achwaraeodd yn ystod pum mlyneddolaf ei oes yn un o ddigwyddiadau

mwyaf dadleuol y cyfnod, sefArwisgiad y Tywysog Siarl yngnghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf1969. Er na fu pawb yn canu clod ymarchog llwyddiannus pan oedd yn hena pharchus ar ddiwedd ei oes, go brinfod hynny’n achos gofid i fir morbenderfynol a hyderus a wyddai mai fooedd yn iawn. Yng ngeiriau DerecLlwyd Morgan, dyma gyfrol‘angenrheidiol, dra dra gwerthfawr, ynadrodd hanes cymeriad lliwgar a fu’nwrthrych clod, beirniadaeth a dychanfel ei gilydd’.

Mae’r gyfrol yn ffrwyth gwaithymchwil o dros 10 mlynedd i GerwynWiliams. Yn rhan o’r broses ymchwil,cafodd fynediad i ddeunydd personolCynan – yn ddogfennau a lluniau.Meddai: ‘Teithiais yn sgil Cynan oArchifdy Prifysgol Bangor i’r LlyfrgellBrydeinig ac o Lyfrgell GenedlaetholCymru i Archifau CenedlaetholKew. Traddodais ddarlithoedd yn yLlyfrgell Genedlaethol a’r EisteddfodGenedlaethol ac i gymdeithasaullenyddol. O ran derbyniad cynulleidfa,dyma’r testun a enynnodd fwyaf oymateb o blith holl feysydd ymchwil fyngyrfa yn ystod y pymtheng mlynedd arhugain diwethaf, prawf fod y diddordebyn Cynan, o hyd yn fyw.’

Nid cofiant llenyddol yn unig mo’rgyfrol hon, ond yn hytrach eir i’r afael âholl agweddau’r bywyd llawn dop obrofiadau diddorol a brofodd Cynan.Dywed Gerwyn: ‘O gymeriad alanwodd y llwyfan a theyrnasu amdros hanner canrif, bu’r ffaith nachaed eto gofiant iddo yn un aborthodd fy chwilfrydedd a chryfhau fymhenderfyniad i ddwyn y maen i’r wal.Rwy’n dyfalu mai un rheswm amabsenoldeb cofiant blaenorol oedd yffaith ei fod wedi cyflawni cymaint ynystod ei oes a’i bod hi’n her cwmpasu’rcyfan rhwng dau glawr. Profodd fywydhir a llawn digwyddiadau ac, ynwahanol i ambell ffigwr cyhoeddus, nichiliodd am ennyd o lygaid y cyhoeddar ôl ymddeol.’

Fel gwrthrych y gyfrol hon, ganedGerwyn Wiliams ym Mhwllheli, enilloddgoron yr Eisteddfod Genedlaethol, acfe’i cyflogir fel academydd ganBrifysgol Bangor. Ond dyna lle y daw’rtebygrwydd rhwng Cynan ac yntau iben.

Mae Cynan – Drama Bywyd AlbertEvans Jones (1895–1970) gan GerwynWiliams (clawr meddal) ar gael nawr(Y Lolfa, £19.99).

Hydref 29, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 5Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Cyhoeddi’r cofiant cyflawn cyntaf erioed i Cynan

O dan amgylchiadau arferol, fe fyddaitrefniadau ar y gweill ar hyn o bryd argyfer dwy gynhadledd, y naill yn ygogledd a’r llall yn y de, i drefnu DyddGweddi’r Byd 2021.

Er na fydd cyfle i gwrdd wyneb ynwyneb eleni oherwydd argyfwngCovid-19, eto, mae trefniadau ar ygweill i gynnal cynhadledd rithiol drosZoom. Y dyddiad fydd dydd Iau, 26Tachwedd o 10.30 hyd 12.30 o’r gloch,

dan gyfarwyddyd Gwen Wildman,ein cynrychiolydd ar y PwyllgorCenedlaethol. Gwahoddwn chwi yngynnes iawn i’r gynhadledd. Osydych yn dymumo ymuno, gofynnwnyn garedig i chi gysylltu âMargaret Morgan drwy ebost [email protected] 12 Tachwedd er mwyn derbyndolen i’r gynhadledd. Bydd y ddolen yncael ei hanfon allan erbyn dechrau’rwythnos 22 Tachwedd.

Dyddiad y Dydd Gweddi yn 2021 ywGwener, 5 Mawrth. Paratowyd ygwasanaeth gan Chwiorydd CristnogolVanuatu a’r thema yw ‘Adeiladwch arSylfaen Gadarn’. Gofynnwn am eichgweddïau dros ferched Vanuatu syddmewn sefyllfa lawer gwaeth na ni.Gwnawn ein gorau i gynnal eingwasanaethau ar 5 Mawrth 2021, ondos na fydd hyn yn bosib, gellir naill aigynnal oedfa dros Zoom neu ddewisdyddiad arall a fydd yn gyfleus i chwi.

Yng nghanol yr holl ansicrwydddymunir pob llwyddiant i chwi wrthdrefnu ar gyfer Dydd Gweddi 2021Vanuatu: Long God Yumi Stanap; ynNuw y safwn.

Parchg Beti Wyn JamesParchg Carys Ann

Swyddogion Cyhoeddusrwydd

Cynhadledd Rithiol Dydd Gweddi’r Byd 2021

Page 6: Madagascar: Mae’r codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol … · 2020. 10. 28. · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe

Dathlodd TCC (Trefnu CymunedolCymru / Together Creating Commun -ities) ei ben-blwydd yn 25 oed gydadigwyddiad ar-lein a fynychwyd gan yrhai sy’n gwneud pender -fyniadau allweddol, gangynnwys Prif WeinidogCymru, Mark Drakeford.

Sefydlwyd TCC, elusentrefnu cymunedol hynaf yDeyrnas Unedig, ym 1995, acmae’n canolbwyntio arhyfforddi a gweithio gydagoedolion a phobl ifanc ar drawsgogledd-ddwyrain Cymru ermwyn creu newid er gwell arfaterion lleol a chenedlaethol.Yr wythnos diwethaf ymunoddbron i ddau gant o bobl âdigwyddiad ar-lein yr elusen iddathlu ei hanes hir, gydagarweinwyr cymunedol yn rhannustraeon am y modd y mae poblgyffredin wedi cyflawni newidiadauenfawr drostynt eu hunain a’ucymunedau, a’r hyn y maent yn eigynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae aelodau TCC, sy’n cynnwysamrywiaeth o grwpiau cymunedol, yngweithio gyda’i gilydd i gynnalymgyrchoedd effeithiol a chwrdd ynuniongyrchol â’r rhai sy’n gwneudpenderfyniadau ar y materion sy’neffeithio ar gymunedau. Dros ychwarter canrif diwethaf, mae aelodauwedi cael llwyddiant ar lawer o faterionsy’n wynebu cymunedau lleol, gangynnwys sefydlu lloches nos ynWrecsam a sicrhau bod cyflogwyr yntalu’r Cyflog Byw go iawn. Yn ystod ydathliad, gofynnodd aelodau o SirDdinbych, Sir y Fflint a Wrecsam iASau lleol, Aelodau o’r Senedd,Cynghorwyr a’r Prif Weinidogymrwymo i ystod o ofynion gan eucymunedau ar faterion, gan gynnwysnewid yn yr hinsawdd, tai a noddfa.

Gwahoddwyd y Prif Weinidog,gwleidyddion lleol a’r rhai sy’ngwneud penderfyniadau i glyweddrostynt eu hunain, gan y bobl oedd âphrofiad ohonynt, am y materion y maeeu cymunedau yn eu hwynebu ar hyn obryd. Yn ystod y digwyddiad rhannoddmam sengl ei phrofiad o fyw mewnllety gwael ac effaith hynny ar eitheulu, gan ofyn i swyddogion yCyngor weithredu, a gofynnodd personifanc sydd wedi bod yn ceisio lloches

i’r Prif Weinidog gadw addewidLlywodraeth Cymru o ddarparucefnogaeth fel y gall pobl ifanc sy’nceisio lloches fynychu’r coleg.

Wrth gyfeirio at ymgyrch StopSchool Hunger / Dysgu Nid Llwgu, aarweiniodd at ymrwymiad ganLywodraeth Cymru i ariannubrecwastau mewn ysgolion uwchraddar gyfer disgyblion tlotaf Cymru gyda£1 ychwanegol i’r lwfans prydau ysgolam ddim, dywedodd y Prif Weinidogwrth yr arweinwyr cymunedol YvonneGirvan a June Edwards a gododd ymater, “Gwnaethoch yr holl bethauiawn a buoch yn llwyddiannus.”Canmolodd y Prif Weinidog waithaelodau TCC ac ymrwymodd i weithiogyda’r elusen wrth symud ymlaen.

Hefyd, rhoddodd arweinwyr ifanc oysgolion a grwpiau ledled gogledd-ddwyrain Cymru gipolwg ar sut mae’nteimlo, fel person ifanc, i gael grym aherio’r rhai sy’n gwneud penderfyn -iadau, gan roi eu hyfforddiant ar waithyn ystod y digwyddiad. Dathlwydhanes hir yr elusen trwy negeseuon ogefnogaeth a anfonwyd gan sefydliadauyn America ac ar draws y DeyrnasUnedig ac Ewrop sydd wedi gweithiogyda TCC, gan rannu eu meddyliauynghylch pam mae trefnu cymunedolyn bwysicach nawr nag erioed.

Myfyriodd sylfaenydd TCC, NiaHigginbotham, ar 25 mlynedd o drefnucymunedol gan ddweud: “Rydyn niwedi dysgu bod gweithio gyda’n gilyddyn rhoi llais i gymunedau di-rym, acrydw i wedi canfod bod dod â grwpiauynghyd sydd ddim fel arfer yn gweithiogyda’i gilydd yn gyffrous iawn. I mi,prif bwynt TCC oedd – ac yw –

galluogi unrhyw un a phawb i fod ynarweinydd cymunedol. Dros yblynyddoedd mae TCC wedi gweithioar faterion mawr a bach; gyda’n gilydd

rydym wedi herio a gweithiogyda chynghorwyr, ASau,Aelod au o’r Senedd, penaeth -iaid heddlu, perchnogionffatrïoedd, bancwyr ac ati, acyn y broses wedi helpu eingilydd i ddod yn arweinwyrcyhoeddus effeithiol.”

Hoffai TCC achub ar ycyfle hwn i ddiolch i’wcyllidwyr: Cronfa Gymunedoly Loteri Genedlaethol,The Tudor Trust, EglwysBresbyteraidd Cymru, SynodCymru’r Eglwys Fethodist -aidd, Ymddiried olaeth CodPost y Bobl a chronfa Act for

Change, partneriaeth rhwng SefydliadEsmée Fairbairn a Sefydliad PaulHamlyn.

Gwahoddir unrhyw un sydd âdiddordeb mewn gwybod mwy amadeiladu pfier a threfnu cymunedoli gysylltu â TCC am sgwrs:<https://www.tcc-wales.org.uk/25>

tudalen 6 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 29, 2020Y PEDAIR TUDALEN GYDENWADOLy4t y4t

Elusen trefnu cymunedol hynaf y DeyrnasUnedig yn dathlu 25 mlynedd mewn digwyddiad

ar-lein arbennig gyda Phrif Weinidog Cymru

Llun: Yvonne Girvan a June Edwards yn holi Prif WeinidogCymru am brydau ysgol am ddim

Sul, 1 Tachwedd

Dechrau Canu Dechrau Canmolnos Sul, am 7:30yh

Yr wythnos yma, Nia fydd ynAmgueddfa Big Pit yn dysgu am hanesBeibl y capel tanddaearol yng nglofaMynydd Newydd a Ryland sy’n caelcyfle i werthfawrogi mawredd ydiwylliant crefyddol yng nghymoeddglofaol y de-ddwyrain gyda’r AthroGareth Williams. Daw’r canu mawl oGapel Mynyddbach, Treboeth o danarweiniad Alun Tregelles Williams.––––––––––––––––––––––––––––––

Oedfa Radio Cymru1 Tachwedd am 12:00yp

yng ngofal Kevin Adams, Boston

Page 7: Madagascar: Mae’r codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol … · 2020. 10. 28. · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe

Hydref 29, 2020 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

Gwledd ryngwladol Cafwyd noson hyfryd yn ein cartref ni neithiwr. Roedd y cwmni’n gynnes, y bwyd yn fendigedig a’r sgwrs yn amrywiol a diddorol. Yn ein cegin roeddwn yng nghwmni pâr o ffrindiau o Gaerffili, pâr arall o ardal Rhondda Cynon Taf a Brahim a Sana o Marakesh ym Morocco.* Gan ein bod yn byw yn ardal Rhondda Cynon Taf, rwy’n siŵr y bydd rhai ohonoch yn pwslo faint o reolau Covid a dorrwyd neithiwr ond byddwch yn falch o glywed i ni gadw’n bur wrth gynnal ein diddanwch trwy’r we.

Diwylliant Marakesh Gwnaed y cyfan drwy archegu gwers goginio gan Brahim a Sana gydag airbnb.com yn fyw o’u cegin, ac fe gafwyd sgwrs fendigedig am eu gwlad a’u diwylliant tra’u bod nhw’n ein dysgu ni i goginio tagine ffowlyn. Ynghanol y sgwrs,

rhwng malu’r coriander a’r persli, fe soniodd Brahim am natur eu cymuned. Mae 120 o gartrefi yn ffurfio’u cymuned leol ac mae 3 lleoliad sy’n gwbl greiddiol

i’w bywydau fel unigolion ac fel cymuned gyfan, sef:

1.  y ffwrn neu’r popty cymunedol 2.  y baddonau cymunedol 3.  y mosg i’r gymuned.

Cymdeithasu Yn ddyddiol (ac yn aml deirgwaith y dydd) bydd pawb yn mynd a’u bara fflat lawr i’r ffwrn at y pobydd iddo eu gosod yn y ffwrn, ac yn casglu’r bara hanner awr yn ddiweddarach (neu’n aros am sgwrs) a hynny am ffi o 20 sent. Tu allan i amser anawsterau Covid byddai pawb yn arferol yn rhannu baddonau yn ddyddiol ac yn cael sgwrs hir wrth ymlacio. Byddai’r mosg ar agor hefyd yn ddyddiol, ond ar hyn o bryd mae pawb yn gorfod mynd a’u mat eu hunain i weddïo arno.

Cymunedol Roedd yr awr a hanner o wers goginio ynghwmni’r pâr hyfryd oedd yn ein croesawu ni i’w cartref a’u byd – nid jyst yn wers goginio, er iddi gyflawni’r pwrpas

hwnnw a’n gadael ni â swper arbennig o dda. Yr hyn a’m tarodd oedd cynhesrwydd cymunedol eu bywydau mewn dinas Foslemaidd. Mae eu bara beunyddiol a’u glendid personol yn faterion i’r gymuned, ynghyd â’u gweddi a’u haddoliad. Roedd y gwrthgyferbyniad syfrdanol rhwng hynny a’n bywydau preifat unigolyddol ni yn y rhan fwyaf o Gymru yn amlwg i bawb yn ein grŵp coginio.

Cwestiynau pwysig Wrth edrych ’nôl ar hanes y ffydd Gristnogol fe welwn gyfnodau o weithredu’r ffydd trwy gymunedau clos, boed y rheiny’n fynachod yn Ystrad-fflur neu’n gymunedau ymneilltuol seiadol clos adeg y Diwygiad Methodistaidd. Fodd bynnag, un o nodweddion amlwg Protestaniaeth o fath arbennig oedd (ac yw) ei bwyslais ar achubiaeth bersonol yr unigolyn. Fel i R. H. Tawney wneud yn ei ddadansoddiad fod Protestaniaeth wedi esgor ar gyfalafiaeth, rwy’n tybio erbyn hyn bod lle i ymchwilio i weld a yw twf Protestaniaeth wedi esgor ar y cam nesaf ar ôl cyfalafiaeth, sef unigolyddiaeth, sydd erbyn hyn yn nodwedd ymddygiadol o’n cymdeithas ac sydd mor aml yn gweithredu’n groes i’r syniad o’r gymuned, a’r colectif.

Camau gweigion Ar un adeg roedd capeli’n cynnig profiad bywyd eitha cyflawn i’w haelodau: cylchoedd llenyddol, grwpiau drama, criw gwnïo, hyd yn oed gwersi coginio yng nghapeli’r Rhondda adeg streic fawr y 1920au. Roeddent yn sefydliadau cymdeithasol clos, a’r rheiny mewn cymdeithas ehangach glos. Wedi’r cyfnod hwn fe drodd ein heglwysi’n aml yn sefydliadau i bobl fynd i oedfa yn unig, a daeth diwedd yn fuan ar eu statws canolog i wead eu cymunedau. Mae hi’n stori drist am sefydliadau a roddodd i bobl, fel a roddwyd i un o gewri’r Blaid Lafur, Jim Griffiths (1890–1975), yr arfogaeth bersonol i fynd i frig llywodraeth a chwyldroi y Wladwriaeth Les am dair cenhedlaeth, a thrwy hynny leihau rôl canolog yr eglwysi mewn cymdeithas. Trwy ddylanwad ysgol Sul a Band of Hope fe grewyd cymdeithas a gwladwriaeth oedd yn gadarnhaol am werthoedd Cristnogol y Wladwriaeth Les. Rhyfedd o beth wrth gael gwers goginio ar nos Sadwrn gan Brahim a Sana oedd sylweddoli bod cymdeithasau cynnes, cydweithredol a chyd-ddibynnol yn dal i fodoli o amgylch y byd, a’r wers honno yn dod o wlad Islamaidd. Diolch am eu hesiampl i ni.

*Os ewch ar wefan airbnb.com fe allwch gofrestru am wers goginio o bedwar ban byd. Mae’n rhatach na mynd i’r sinema, ac yn brofiad i gyfoethogi’ch bywyd. Mentrwch!

Geraint Rees (Nid yw cynnwys y Barn Annibynnol o reidrwydd

yn adlewyrchu safbwynt Undeb yr Annibynwyr na’r tîm golygyddol.)

Barn Annibynnol ‘A dail y pren oedd i iacháu’r cenhedloedd’ Mae Dail Pren, sef y teitl a ddewisodd Waldo i’w unig gyfrol o farddoniaeth, yn gyfeiriad at y dyfyniad uchod o Ddatguddiad 22 ac yn adlewyrchu ei obaith am ddyfodol ein byd.

Mae’r gobaith hwn am iachâd ac am well byd yn frith yng ngherddi Waldo. Nid optimistiaeth ddall y bydd pethau’n gwella o ran eu hunain oedd sail ffydd Waldo, ond cred bod gobaith yn rym gweithredol y gellid ei feithrin – yn y byd ac yn ein bywydau fel unigol. Gwelodd Waldo ‘drefn yn fy mhalas draw’ a hynny drwy frawdoliaeth dyn; beth bynnag fo cyflwr enbydus y byd ar hyn o bryd, ‘daw’r wennol yn ô1 i’w nyth.’

Yn Genesis, mae coeden y bywyd yn Eden yn arwydd o gyflawnder y bywyd sydd ar gael yn Nuw, ond canlyniad bwyta ffrwyth coeden gwybodaeth dda a drwg oedd bod Adda ac Efa wedi’u gwahanu oddi with Dduw. Mae’r goeden yn Llyfr y Datguddiad yn symbol o’r bywyd tragwyddol sydd ar gael yng Nghrist, ac o ddaioni Duw yn cael ei adfer i’r ddynoliaeth. Wedi’r golled yn Eden, mae coeden y bywyd yn dangos Duw yn adfer popeth, a’i dail yn iachâu’r cenhedloedd o’u doluriau niferus.

Cyfansoddodd Waldo ‘Mewn Dau Gae’ yn benodol ar gyfer Dail Pren ac mae’n sôn am brofiad cyfriniol, ysbrydol a gafodd ar gaeau Parc y Blawd a Waun Parc y Blawd ger Llandysilio – munud o ddatguddiad ynghanol môr goleuni a ysgogodd Waldo i holi’i hunan ynghylch trefn a phwrpas y cread a gwaith Duw yn ei Deyrnas.

Yn nyddiau’r Coronafirws, pa well cyfarwyddyd i’r ddynoliaeth gyfan na honno y bu Waldo’n ymhŵedd ar drigolion y Preseli pan oedd y Weinyddiaeth Ryfel yn bygwth troi’r fro gyfan yn faes milwrol, sef ‘cadw y mur rhag y bwysfil, cadw y ffynnon rhag y baw.’

Eurig Davies (Allan o Bwrlwm, misolyn Capel y Nant,

Clydach, Hydref 2020) (Gol.: Yn ystod mis Medi roeddem yn cofio am yr heddychwr Waldo Williams a anwyd 30 Medi 1904.)

Waldo Williams

Page 8: Madagascar: Mae’r codi arian yn gyson ar gyfer yr ysgol … · 2020. 10. 28. · Sefydlwyd 1867 Cyfrol 153 Rhif 44 Hydref 29, 2020 50c. Madagascar: Mae’r freuddwyd yn parhau Fe

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Serol Print, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur 39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan, Caerdydd, CF23 9BS Ffôn: 02920 490582 E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa: Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJ Ffôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Hydref 29, 2020Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn Jones Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138 E-bost: [email protected]

Golygydd

Alun Lenny Porth Angel, 26 Teras Picton

Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX Ffôn: 01267 232577 /

0781 751 9039 E-bost: [email protected]

Dalier Sylw! Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’r Pedair Tudalen ac nid gan Undeb yr

Annibynwyr Cymraeg. Nid oes a wnelo Golygyddion Y Tyst ddim â

chynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Rhwystr i gymuno: Covid-19Caf flas ar ddarllen cyfrol Derek Wilson: The Mayflower Pilgrims. Yn feistrolgar iawn rhydd yr awdur y cefndir i’r digwyddiadau hanesyddol a arweiniodd at fordaith 102 o Biwritaniaid o Plymouth yn 1620 i geisio rhyddid yn y Byd Newydd. Amlyga Derek Wilson bod pregethu’r efengyl yn rhywbeth digon dieithr yn Lloegr yn ystod teyrnasiad Elizabeth I (1558–1603) ac roedd y galw am bregethu wedi aflonyddu’n ddirfawr ar rai pwysigion oddi mewn i’r Eglwys Anglicanaidd. Cythruddwyd llawer o esgobion Anglicanaidd gan faniffesto a luniwyd gan Galfiniaid oedd yn ewyllysio i Eglwys Loegr fabwysiadu trefn Eglwys Genefa.

Y Gair a’r cymun Nodaf bwynt IV yn y maniffesto: ‘Ni ddylid gweinyddu sacrament heb iddo gael ei ragflaenu gan bregeth yn cael ei phregethu ac nid ei darllen ...’

Parodd y gosodiad yna i mi gofio geiriau a glywais lawer tro o enau’r Parchedig Brifathro Dewi Eirug Davies yn y dosbarthiadau a gynhaliai ar Sadyrnau yn Nhŷ John Penri ar Heol Sant Helen yn Abertawe: ‘Ni allwch gynnal Oedfa Gymun heb bregethu’r Gair yn gyntaf.’

Er cof amdanaf Nid ysgrifennodd yr Arglwydd Iesu ei hunangofiant er mwyn sicrhau adroddiad cywir o’r hyn a ddywedodd ac a wnaeth. Gwyddai y byddai’r Ysbryd Glân yn dwyn ar gof i’w ddisgyblion ei eiriau a’i weithredoedd (gw. Ioan 14:26; 16:13).Tanlinellodd yr angen i’w ddisgyblion gofio ystyr ac arwyddocâd ei farwolaeth drosom ar y groes wrth iddynt gyflawni act arbennig, sef act yr oruwch ystafell, ‘Gwnewch hyn er cof amdanaf.’

Achubiaeth Mae’r Cymun yn ein hatgoffa o’n hachubiaeth yng Nghrist. ‘Fe’n hachubodd ni, nid ar sail unrhyw weithredoedd o gyfiawnder a wnaethom ni, ond o’i drugaredd ei hun.’ (Titus 3:5) Cawn ein temtio i gredu bod ein hachubiaeth a’n cymod â Duw yn dibynnu ar y pethau yr ydym ni wedi eu cyflawni. Ni fyddwn ni byth yn ddigon da i sefyll gerbron Duw

DIOLCHGARWCH Cafwyd oedfa gynhaeaf yn Saron, Creunant ar 4 Hydref. Agorwyd yr addoliad gyda’r emyn ‘Derbyn ein diolch’ ac offrymwyd gweddi o ddiolchgarwch gan y Parchg Rhys Locke. Yn dilyn darlleniad o’r Beibl cafwyd unawd gan Mea gyda Carla Verallo yn cyfeilio ar y dôn ‘Gwili’. Gwrandawyd ar y gân ‘Bringing in the sheaves’ a phregethwyd ar Diarhebion 20:4 sef: ‘Nid yw’r diog yn aredig yn yr hydref; eto y mae’n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i’w gael.’ Pwysleisiwyd y pwysigrwydd i weithio yn galed er mwyn sicrhau cynhaeaf i Dduw. Dywedodd Rhys: ‘We must be Christians with a vision of Harvest ... and willing to give our best and play our part in God’s work.’ Oni heuir ni fedir!

Daeth yr oedfa i ben gyda’r emyn ‘Cynhaeaf’. Braf oedd gweld cynulleidfa o 30 yn bresennol yn y capel a’r festri lle’r oedd 8 wedi gwylio’r oedfa ar sgrin deledu. Casglwyd digonedd o fwyd gan yr aelodau a chyfeillion yr achos ar gyfer Banc Bwyd Cwm Dulais. Am fendith!

William Rhys Locke

heb gwmni a heb ein gwisgo gan ein Gwaredwr a’n Cyfryngwr, yr Arglwydd Iesu Grist. Mae’r Arglwydd Iesu Grist wedi wynebu’r gosb am ein holl bechodau ar y groes. Cyflwynodd ei fywyd glân a sanctaidd yn iawn am ein pechodau. Rhodd yr ydym yn ei derbyn yw ein cymod â Duw; ‘Nid eich gwaith chi yw hyn; rhodd Duw ydyw.’ (Effesiaid 2:8) Anfonodd Duw ei Fab i farw drosom bob yn un ac yn un oherwydd ei gariad eithriadol tuag atom.

Teulu’r ffydd Ni allwn ar hyn o bryd uno yn deulu’r ffydd o gylch Bwrdd y Cymun yn y capel a chael y profiad o sylweddoli pan yw’r bara a’r gwin yn ein dwylo bod yr elfennau yma yn ein dwylo am fod Iesu Grist yn ein caru ni – ti a fi – ac wedi marw drosom ar groes i’n dwyn at Dduw wedi ein gwisgo â’i gyfiawnder a’i lendid ef. Gwn bod rhai eglwysi yn gweinyddu’r cymun ar Zoom ond nid oes gan bawb o blant yr Arglwydd y cyfryngau i’w galluogi i ymuno. Beth a wnawn mewn ufudd-dod i orchymyn yr Arglwydd Iesu, “Gwnewch hyn er cof amdanaf”? Un peth gallwn ei wneud yw tynnu llun croes ac wrth edrych ar y groes atgoffa ein hunain: ‘Gwnaeth hyn er fy mwyn i a drosof fi.’

Cefais olwg ar ogoniant fy Ngwaredwr ar y pren, drwy ffenestri ei ddoluriau gwelais gariad nefoedd wen: gorfoledda f’enaid wrth ei ryfedd groes.

(John Roberts)

Wedi bod wrth droed y groes yr alwad wedyn i’r crediniwr yw sefyll dros Iesu Grist allan yn y byd gan adael iddo ein meddiannu i’r fath raddau fel bod ei gariad yn llifo trwom ni.

Andrew Lenny

Dymuniadau da Hoffem ddymuno yn dda i’r holl eglwysi Annibynnol yn ystod y clo diweddaraf hwn. Yr oedd nifer o eglwysi, yn betrus a gofalus, wedi dechrau ailgyfarfod yn dorfol ond gwaetha’r modd mae’r gwaharddiadau diweddaraf yn golygu na allwn wneud hynny am dri Sul. Y mae’r sefyllfa yn eithriadol o rwystredig i bawb ohonom ond er lles ac iechyd ein cymunedau y mae’n addas ein bod yn ufuddhau i arweiniad Llywodraeth Cymru er mwyn trechu’r haint difäol hwn.

Gweddïwn y bydd yr Arglwydd yn bendithio eich bywyd a’ch tystiolaeth fel eglwysi ac yn eich cadw’n ddiogel.