2

Map o gwrs cyfeiriannu Coed yr Esgob

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Map a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer cwrs cyfeiriannu Coed yr Esgob

Citation preview

Page 1: Map o gwrs cyfeiriannu Coed yr Esgob
Page 2: Map o gwrs cyfeiriannu Coed yr Esgob

Cyfeiriannu yng Nghoed yr Esgob

NOD. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o bwyntiau rheoli, drwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a

dod o hyd i'r pwyntiau rheoli.

Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:5,000, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 50m ar y ddaear, fel a

ddangosir gan linell y raddfa.

PELLTEROEDD Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall drwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn.

CYFEIRIADAU:. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar

un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear.

Y CWMPAWD. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn

pwyntio i'r gogledd hefyd. Bydd cwmpawd hefyd yn ddefnyddiol i ddod o hyd i gyfeiriadau cywir ar draws ardaloedd heb lwybrau, ac i benderfynu i ba gyfeiriad i fynd ar gyffyrdd llwybrau, etc.

Sut i ddefnyddio cwmpawd onglydd ar gyfer cyfeiriadau:

1. Gosodwch ymyl y cwmpawd onglydd ar hyd y cyfeiriad rydych chi'n bwriadu ei ddilyn ar y map. 2. Trowch y capsiwl fel bod y llinellau cyfochrog ynddo yn unol â llinellau'r gogledd ar y map. 3. Codwch y cwmpawd o'r map a'i ddal o'ch blaen, gan bwyntio ymlaen. TROWCH EICH HUN gyda'r cwmpawd nes bod y nodwydd yn unol â'r llinellau yn y capsiwl. 4. Ewch yn eich blaen i'r cyfeiriad y mae blaen y cwmpawd yn cyfeirio ato.

RHEOLYDDION A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolyddion ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolyddion ar y ddaear gan bostyn ac

ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyd-fynd â'r un rheolydd ar y map, a llythyren y dylech eu cofnodi yn y sgwâr perthnasol ar y cerdyn rheoli wrth ochr eich map i gadarnhau eich ymweliad.

DISGRIFIADAU O'R RHEOLYDDION:

Dechrau 1. 2. 3. 4.

Tro yn y llwybr Gwrthrych (Mainc) Gât Troed wal bridd

5. 6. 7. 8. 9.

- - - - Cyffordd llwybr

10. 11. 12. 13. 14.

Cyffordd llwybr Cyffordd llwybr Troed clegyr - Tro yn y llwybr

15. 16. 17. 18. 19.

Pant gorllewinol Cyffordd llwybr/wal bridd Gât Troed clegyr Cyffordd wal bridd/llwybr

CYRSIAU A AWGRYMIR. Yn dechrau a gorffen ychydig y tu hwnt i'r gât i ben gogleddol maes parcio Bae Caswell, a dynodir ar y map gan driongl coch ar ben cylch:

Oren 2.0km Dechrau - 1 – 2 – 3 – 4 – 19 – 18 – 17 – 16 – 15 - Gorffen

NEU rhowch gynnig ar ymweld â chynifer o reolyddion â phosib mewn amser penodol, er enghraifft 30 neu 45 munud (digwyddiad ‘Sgorio’).

CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, cysylltwch â'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, drwy ymweld â gwefan y clwb yn www.sboc.org.uk

CYDNABYDDIAETHAU. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda help grantiau a ddarparwyd drwy Ddinas a Sir Abertawe gan 'Dringo'n Uwch' (Cyngor Chwaraeon Cymru), Cydcoed (Comisiwn Coedwigaeth), Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.