Upload
city-and-county-of-swansea
View
223
Download
4
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Map o gwrs cyfeiriannu Parc Brynmill a Cwmdonkin
Citation preview
Cyfeiriannu ym Mharc Brynmill
AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o reolfannau, trwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r rheolfannau.
Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:5,000, sy'n golygu bod 1cm ar y map yn cynrychioli 50m ar y ddaear, fel y dangosir gan linell y raddfa.
RHEOLFANNAU A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolfannau ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolfannau ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyfateb i'r un rheolfan ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y blwch priodol ar y cerdyn rheolfan i gadarnhau eich ymweliad. PELLTEROEDD. Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall trwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn gymesur yn fras â brasgam dyn.
CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn pwyntio i'r gogledd hefyd. DISGRIFIADAU O'R RHEOLFANNAU: Dechrau Ffin llystyfiant 1. Troad llwybr 2. Cornel ffens 3. Adeilad, cornel orllewinol 4. Cornel ffens 5. Bryncyn 6. Diwedd y wal 7. Cornel ffens 8. Clawdd pridd, pen dwyreiniol 9. Cornel ffens
1.
2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9.
Cyfeiriannu ym Mharc Cwmdonkin
AMCAN. Yr amcan wrth gyfeiriannu yw mynd o gwmpas cwrs sy'n cynnwys cyfres o reolfannau, trwy ddefnyddio map i benderfynu ar lwybr
rhyngddynt, ac yna dilyn y map ar hyd y llwybr a dod o hyd i'r rheolfannau.
Y MAP. Map cyfeiriannu safonol yw hwn; mae'r symbolau a'r lliwiau'n cael eu hesbonio yn yr allwedd. Y raddfa yw 1:2,500, sy'n golygu bod
1cm ar y map yn cynrychioli 25m ar y ddaear, fel y dangosir gan linell y raddfa.
RHEOLFANNAU A MARCWYR. Dangosir lleoliadau'r rheolfannau ar y map gan gylchoedd wedi'u rhifo'n goch, a cheir disgrifiad o bob un isod. Nodir y rheolfannau ar y ddaear gan bostyn ac ar ei ben mae plac â symbol cyfeiriannu coch a gwyn. Mae rhif yno, sy'n cyfateb i'r un
rheolfan ar y map, a llythyren rydych chi'n ei gofnodi yn y blwch priodol ar y cerdyn rheolfan i gadarnhau eich ymweliad.
PELLTEROEDD. Gellir cyfrifo'r pellter o un pwynt i'r llall trwy ddefnyddio llinell y raddfa ar y map. Wrth fesur ar y ddaear, mae metr yn
gymesur yn fras â brasgam dyn.
CYFEIRIADAU. I ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn mynd neu'n ei wynebu, cadwch y map yn yr un cyfeiriad â'r ddaear, h.y. wedi'i gyfeiriadu. Wrth fynd yn eich blaen, bydd y nodweddion ar un ochr o'r map ar yr un ochr ar y ddaear. Os oes gennych gwmpawd, gallwch ei ddefnyddio i gyfeiriadu'r map. Mae'r nodwydd yn pwyntio i'r gogledd magnetig. Defnyddiwch hwn i gadw saethau'r gogledd ar y map yn
pwyntio i'r gogledd hefyd.
DISGRIFIADAU O'R RHEOLFANNAU:
Dechrau Cyffordd llwybr 1. Adeilad, cornel dde-ddwyreiniol 2. Ffens/Cyffordd wal 3. Cyffordd trywydd 4. Cornel wal 5. Cyffordd llwybr 6. Clogfaen 7. Coeden amlwg, ochr dde-ddwyreiniol 8. Llwyni, pen gogleddol 9. Ffens/Cyffordd wal 10. Diwedd ffens 11. Ffens/Cyffordd wal 12. Troad ffens
CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, gallwch ymweld â chyrsiau parhaol eraill, a gellir lawrlwytho mapiau o wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/orienteering Mae'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, yn trefnu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ac mae rhestr o'r digwyddiadau ar gael ar wefan y clwb yn www.sboc.org.uk
CYDNABYDDIAETH. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda chymorth grantiau a sianelwyd trwy Ddinas a Sir Abertawe gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.
CYFLEOEDD CYFEIRIANNU ERAILL. Os hoffech wneud mwy o gyfeiriannu, gallwch ymweld â chyrsiau parhaol eraill, a gellir lawrlwytho mapiau o wefan y cyngor www.abertawe.gov.uk/orienteering Mae'r clwb lleol, CLWB CYFEIRIANNU BAE ABERTAWE, yn trefnu digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, ac mae rhestr o'r digwyddiadau ar gael ar wefan y clwb yn www.sboc.org.uk
CYDNABYDDIAETH. Sefydlwyd y cwrs cyfeiriannu parhaol hwn gyda chymorth grantiau a sianelwyd trwy Ddinas a Sir Abertawe gan Gyngor Chwaraeon Cymru. Lluniwyd y map a chynlluniwyd y cyrsiau gan Glwb Cyfeiriannu Bae Abertawe.
1.
2. 3. 4. 5. 6. 7. 8. 9. 10. 11 12.