68
Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad 2014 Chester Road CH7 3AJ

Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad

Adroddidad Terfynol

Ionawr 2014

Cyfoeth Naturiol Cymru

Chester Road

BWCLE

CH7 3AJ

Page 2: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc i

Swyddfa JBA

JBA Consulting Bank Quay House Sankey Street Warrington WA1 1NN

Rheolwr Prosiect JBA

Chris Smith BSc PhD CEnv MCIWEM C.WEM MCMI

Hanes Diwygio

Cyf Diwygio / Dyddiad cyhoeddi

Diwygiadau Cyhoeddwyd i

Adroddiad Drafft 04/06/13 Richard Weston/Rob Green

Adroddiad Terfynol 31/01/14 Diweddariadau yn dilyn adolygu’r model a sylwadau Cyfoeth Naturiol Cymru

Richard Weston/Rob Green

Adroddiad Terfynol 2il

argraffiad 11/02/2014 Mân ychwanegiad i’r crynodeb gweithredol

Richard Weston/Rob Green

Contract

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio gwaith a gomisiynwyd gan Richard Weston, ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, drwy lythyr dyddiedig 14 Ionawr 2013. Cynrychiolydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer y contract oedd Richard Weston. Julia Hunt a Chris Smith o JBA Consulting a gynhaliodd y gwaith.

Paratowyd gan .............................................. Julia Hunt BSc

Dadansoddwr

Adolygwyd gan .............................................. Chris Smith BSc PhD CEnv MCIWEM C.WEM MCMI

Prif Ddadansoddwr

Diben

Paratowyd y ddogfen hon fel adroddiad terfynol i Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw JBA Consulting yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw ddefnydd a wneir o’r ddogfen hon ac eithrio gan y Cleient at y dibenion y cafodd ei chomisiynu a’i pharatoi’n wreiddiol.

Nid yw JBA Consulting yn atebol am y defnydd a wneir o’r adroddiad hwn ac eithrio i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Page 3: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc ii

Hawlfraint

© Jeremy Benn Associates Limited 2014

Ôl troed carbon

256g

Bydd copi argraffedig o brif destun y ddogfen hon yn arwain at ôl troed carbon o 256g os defnyddir papur a wnaed yn gyfan gwbl o wastraff defnyddwyr. Mae’r ffigurau hyn yn tybio y caiff yr adroddiad ei argraffu mewn du a gwyn ar bapur A4 ac mewn dwplecs.

Mae JBA yn gwmni carbon niwtral a chaiff yr allyriadau carbon o’n gweithgareddau eu gwrthbwyso.

Page 4: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iii

Crynodeb Gweithredol

Yn sgil y llifogydd yn Llanelwy ym mis Tachwedd 2012, comisiynodd Cyfoeth Naturiol Cymru JBA Consulting i wneud dadansoddiad ôl-ddigwyddiad ac o ganlyniad mae model hydrolig Afon Elwy drwy Lanelwy wedi cael ei raddnodi drwy ddefnyddio’r data sydd ar gael ar y digwyddiad. Mae’r model hydrolig wedi’i raddnodi wedi cael ei ddefnyddio i ddiweddaru’r gwaith mapio llifogydd y gellir ei gyflawni i Lanelwy. Mae’r dadansoddiad ôl-ddigwyddiad wedi dangos bod llifogydd mis Tachwedd 2012 yn ddigwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o rhwng 1% a 0.5% o ran maint.

Fel rhan o’r gwaith hwn o ddiweddaru mapio llifogydd, ymchwiliwyd i hydroleg dalgylch Elwy drwy ddefnyddio data o lifogydd mis Tachwedd 2012. Cafodd data o fesurydd llif Pont y Gwyddel i fyny’r afon o Lanelwy ar Afon Elwy eu defnyddio i lywio’r asesiad hydrolegol. Cynhaliwyd asesiad safonol o’r hydroleg yn unol â’r Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd gan ymgorffori’r data diweddaraf. At hynny, ymchwiliwyd i ddull gweithredu amgen drwy ddefnyddio model llwybro er mwyn trosglwyddo llif o Bont y Gwyddel i Lanelwy hefyd. O’r dull hwn o fodelu llifogydd yn y dalgylch, crëwyd cyfres amgen o lifau dylunio yn Llanelwy, roedd y llifau hyn yn cynyddu’n gyson wrth i arwynebedd y dalgylch gynyddu, yn wahanol i’r llif dylunio a gyfrifwyd drwy ddefnyddio dulliau safonol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd. O ganlyniad, defnyddiwyd y llifau a gyfrifwyd drwy ddefnyddio’r dull amgen fel llifau dylunio Llanelwy.

Mae model hydrolig ISIS-TUFLOW presennol Afon Elwy drwy Lanelwy (a adeiladwyd gan JBA yn 2011) wedi cael ei uwchraddio a’i raddnodi yn seiliedig ar y data sydd ar gael ar lifogydd mis Tachwedd 2012. Yn ogystal ag ychwanegu’r rhannau llwybro rhwng Pont y Gwyddel a’r model hydrolig drwy Lanelwy, ychwanegwyd mewnlifau ychwanegol at y model er mwyn darlunio’r cynnydd yn y dalgylch rhwng y mesurydd a’r dref. Addaswyd strwythurau o fewn y model er mwyn ei raddnodi a chafodd gwerthoedd n Manning eu hystyried yn ofalus a’u huwchraddio drwy’r dref gyfan. Graddnodwyd y model ar sail y lefelau a gofnodwyd wrth fesurydd Llanelwy i lawr yr afon o bont ffordd yr A55 yn y dref ac arsylwadau eraill o lefelau a graddfa’r llifogydd.

Ymchwiliwyd i’r digwyddiadau dylunio canlynol gan ddefnyddio’r model wedi’i raddnodi; digwyddiadau tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 3.33%, 1.33%, 1%, 1% ynghyd â newid yn yr hinsawdd, 0.5% a 0.1%. Mae’r model wedi’i gyflunio ar gyfer y senario amddiffynedig a’r senario diamddiffyn gan fod argloddiau amddiffynfeydd ffurfiol rhag llifogydd ar hyd y rhan fwyaf o Afon Elwy drwy Lanelwy.

Mae’r perygl o lifogydd a ragwelir yn Llanelwy drwy ddefnyddio’r model wedi’i raddnodi â digwyddiad 2012 dipyn yn fwy na’r perygl o lifogydd a ragwelwyd gan yr astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd. Rhagwelir y bydd 40 eiddo o fewn ardal Parc Roe, Llanelwy mewn perygl o fynd dan ddŵr yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol dylunio amddiffynedig o 3.33% a rhagwelir y bydd cyfanswm o 236 eiddo yn Llanelwy yn mynd dan ddŵr yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol dylunio amddiffynedig. Mae graddfa’r llifogydd yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant o 1% yn dangos nad yw argloddiau llifogydd drwy Lanelwy yn diogelu eiddo mewn rhai lleoliadau hyd at ddigwyddiad tebygolrwydd gormodiant o 1%. Gwnaed dadansoddiad o Safon Diogelwch fel rhan o’r astudiaeth.

O gofio bod y model wedi’i raddnodi yn rhagweld bod eiddo mewn perygl yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol dylunio amddiffynedig o 3.33% ym Mharc Roe, defnyddiwyd y model i brofi nifer o opsiynau lliniaru perygl llifogydd yn y byrdymor yn Llanelwy. Ar ôl gwneud profion gan ddefnyddio’r model, mae uchder amddiffyn yr arglawdd sy’n diogelu Parc Roe wedi cael ei gynyddu ac mae coed ar lannau Afon Elwy wedi cael eu torri drwy’r dref er mwyn i fwy o ddŵr gael ei gludo drwy’r sianel.

Mae nifer yr eiddo sy’n wynebu perygl llifogydd yn Llanelwy yn cynyddu yn y senario diamddiffyn; rhagwelir y bydd 306 eiddo yn mynd dan ddŵr yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol diamddiffyn o 1%. Mae’r Ardaloedd Llifogydd a ddatblygwyd ar gyfer yr

Page 5: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv

astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan y diweddariad blaenorol o’r Map Llifogydd gan JBA yn 2011.

Fel rhan o’r astudiaeth hon, ymchwiliwyd i effaith Pont Spring Gardens ar berygl llifogydd yn Llanelwy drwy ddefnyddio’r model wedi’i raddnodi. Cafodd llifogydd mis Tachwedd 2012 eu rhedeg drwy fersiwn o’r model wedi’i raddnodi ar ôl tynnu’r bont er mwyn pennu effaith. Canfu’r prawf hwn na ragwelir llifogydd ym Maes Carafannau Spring Gardens os nad yw’r bont yn ei lle ac mae dyfnder llifogydd ym Mharc Roe yn cael ei leihau. I fyny’r afon o’r A55, nid yw tynnu Pont Spring Garden yn cael fawr ddim effaith ar y perygl o lifogydd a ragwelir.

Page 6: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc v

Cynnwys

Crynodeb Gweithredol ...................................................................................................... iii 

1.  Cyflwyniad ............................................................................................................ 1 

1.1  Diben a Chwmpas yr Astudiaeth ............................................................................ 1 1.2  Disgrifiad o’r Cwrs Dŵr a’r Dalgylch ....................................................................... 1 1.3  Hanes Llifogydd ..................................................................................................... 3 1.4  Data sydd ar gael ................................................................................................... 4 

2.  Asesiad Hydrolegol.............................................................................................. 5 

2.1  Trosolwg ................................................................................................................. 5 2.2  Mannau Amcangyfrif Llif a Disgrifyddion y Dalgylch .............................................. 5 2.3  Dull Ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd .................................................... 6 2.3.1  Cyfrifiad QMED Pont Y Gwyddel ........................................................................... 7 2.3.2  Pennu Cromlin Twf Pont Y Gwyddel ...................................................................... 7 2.3.3  Pennu Mannau Amcangyfrif Llif QMED Llanelwy .................................................. 10 2.3.4  Pennu Cromlin Twf Mannau Amcangyfrif Llif Llanelwy .......................................... 10 2.3.5  Llifau Dylunio Dull Strategol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd ............................... 11 2.4  Llifau Llanelwy Drwy Ddefnyddio Model Llwybro ................................................... 11 2.4.1  Profion Sensitifrwydd ............................................................................................. 12 2.5  Difrifoldeb Llifogydd mis Tachwedd 2012 .............................................................. 13 2.6  Hydrograffau’r Model Hydrolig ............................................................................... 13 2.7  Graddio Pont Y Gwyddel ....................................................................................... 14 

3.  Model Hydrolig ..................................................................................................... 15 

3.1  Trosolwg ................................................................................................................. 15 3.2  Model ISIS .............................................................................................................. 15 3.2.1  Darlunio Strwythurau.............................................................................................. 15 3.3  Parth TuFLOW 2D ................................................................................................. 18 

4.  Graddnodi’r Model Hydrolig ............................................................................... 22 

4.1  Data sydd ar gael ................................................................................................... 22 4.1.1  Data Hydrometrig ................................................................................................... 22 4.1.2  Data Topograffig .................................................................................................... 25 4.1.3  Astudiaethau Blaenorol .......................................................................................... 25 4.2  Diweddaru Model ISIS ........................................................................................... 25 4.2.1  Ymestyn y Model i Fyny’r Afon i Bont Y Gwyddel .................................................. 25 4.2.2  Mewnlifau’r Model .................................................................................................. 25 4.2.3  Ffin y Model i Lawr yr Afon .................................................................................... 29 4.2.4  Graddnodi’r Model Llwybro .................................................................................... 29 4.2.5  Graddnodi’r Model Hydrolig ................................................................................... 31 4.3  Canlyniadau’r Model Wedi’i Raddnodi ................................................................... 35 

5.  Mapio Perygl Llifogydd ....................................................................................... 41 

5.1  Trosolwg ................................................................................................................. 41 5.2  Digwyddad Diamddiffyn ......................................................................................... 41 5.3  Amseroedd Rhedeg y Model a Thybiaethau Allweddol ......................................... 41 5.4  Profion Sensitifrwydd ............................................................................................. 42 5.4.1  Sensitifrwydd i Werthoedd Garwedd ...................................................................... 43 5.4.2  Sensitrwydd i Amodau’r Ffin i Lawr yr Afon ........................................................... 43 5.4.3  Sensitifrwydd i’r Ffordd y Darlunnir Adeiladau ....................................................... 45 5.5  Digwyddiadau Dylunio ........................................................................................... 47 

Page 7: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc vi

5.6  Prosesu Data’r Model ............................................................................................ 47 5.6.1  Gwybodaeth am Ddyfnder a Graddfa Llifogydd ..................................................... 47 5.6.2  Gwybodaeth am Gyflymder a Pheryglon Llifogydd ................................................ 47 5.7  Gwybodaeth am Ddyfnder a Graddfa Llifogydd ..................................................... 47 5.7.1  Dyfnder a Graddfa Llifogwydd a Ragwelwyd ar gyfer Digwyddiad Tebygolrwydd

Gormodiant Blynyddol Amddiffynedig o 1% .......................................................... 47 5.7.2  Dyfnder a Graddfa’r Llifogydd a Ragwelwyd ar gyfer y Digwyddiad

Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol Amddiffynedig o 0.1% ................................ 49 5.7.3  Effaith Newid yn yr Hinsawdd ................................................................................ 51 5.7.4  Data ar Gyflymder .................................................................................................. 52 5.8  Senario Diamddiffyn ac Ardaloedd sy’n cael budd o Amddiffynfeydd ................... 54 

6.  Effaith ar Bont Spring Gardens .......................................................................... 56 

6.1  Trosolwg ................................................................................................................. 56 6.2  Effaith Pont Spring Gardens ar berygl llifogydd yn Llanelwy ................................. 56 

7.  Casgliad ................................................................................................................ 59 

Rhestr o Ffigurau

Ffigur 1-1 Amddiffynfa rhag Llifogydd yn Llanelwy ............................................................................................................................. 2 

Ffigur 2-1 Mannau Amcangyfrif Llif Llanelwy ............................................................................................................................. 6 

Ffigur 2-2 Cromliniau Twf Pont Y Gwyddel ............................................................................................................................. 9 

Ffigur 3-1 Diagram o Fodel ISIS-TuFLOW Afon Elwy (yng nghefn yr adroddiad) ............................................................................................................................. 15 

Ffigur 3-2 Hen Bont Llanelwy a’r wal i fyny’r afon ............................................................................................................................. 16 

Ffigur 3-3 Parth 2D Afon Elwy ............................................................................................................................. 18 

Ffigur 4-1 Lleoliadau Mesuryddion Hydrometrig ............................................................................................................................. 22 

Ffigur 4-2 Lefelau Cofnodedig Mesurydd Llanelwy yn ystod Llifogydd mis Tachwedd 2012 ............................................................................................................................. 23 

Ffigur 4-3 Is-ddalgylchoedd i fyny’r afon o Lanelwy ............................................................................................................................. 26 

Ffigur 4-4 Polygonau Thiessen ar draws Ardal yr Astudiaeth

Page 8: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc vii

............................................................................................................................. 27 

Ffigur 4-5 Dyfnderau Glaw HYRAD 00:00 26 Tachwedd - 23:45 27 Tachwedd 2012 ............................................................................................................................. 28 

Ffigur 4-7 Rhwystr yn Rheilen Pont Spring Gardens ............................................................................................................................. 32 

Ffigur 5-1 Hyd-doriad sy’n dangos Lefelau Dŵr Brig ar gyfer Profion Sensitifrwydd Gwerth n Manning ............................................................................................................................. 43 

Ffigur 5-2 Graddfa’r Llifogydd a Ragwelwyd ar gyfer Profion Sensitifrwydd n Manning ............................................................................................................................. 44 

Ffigur 5-3 Lefelau Dŵr Brig a Ragwelwyd wrth Derfyn y Model ISIS 1D i Lawr yr Afon ar gyfer Profion Sensitifrwydd Ffiniau ............................................................................................................................. 45 

Ffigur 6-1 Effaith tynnu Pont Spring Gardens ar lefelau dŵr ............................................................................................................................. 56 

Ffigur 6-2 Graddfa’r Llifogydd ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012 gyda a heb Bont Spring Gardens ............................................................................................................................. 58 

Rhestr o Dablau

Tabl 1-1 Hanes Llifogydd ............................................................................................................................. 4 

Tabl 2-6 Ffactorau Graddio Llanelwy ............................................................................................................................. 14 

Tabl 3-1 Gwerthoedd Garwedd Gorlifdir Llanelwy ............................................................................................................................. 20 

Tabl 4-1 Digwydiadau Graddnodi ............................................................................................................................. 26 

Tabl 4-2 Ffiniau Mewnlifau’r Model ............................................................................................................................. 29 

Tabl 4-3 Paramedrau ISIS a brofwyd yn ystod Proses Graddnodi Model Afon Elwy ............................................................................................................................. 33 

Tabl 4-4 Cymharu’r Llifogydd a Ragwelwyd gan y Model a’r Cofnod a Luniwyd yn

Page 9: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc viii

ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 ............................................................................................................................. 39 

Byrfoddau

Byrfodd Diffiniad AEP Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol

AMAX Llifogydd Mwyaf Blynyddol AO Arolwg Ordnans

CBHE Cronoleg o Ddigwydidiadau Hydrolegol Prydain

FEH Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd ISIS Meddalwedd Modelu 1D

LiDAR Canfod a Phennu Pellter â Golau NCD BDY Ffin Dyfnder Arferol/Gritigol NFCDD Cronfa Ddata Lllifogydd ac Amddifynfeydd

Arfordirol Genedlaethol QMED Llifogydd Canolrifol Blynyddol ReFH Hydrograff Llifogydd Wedi’i Ailfywiogi TAN15 Nodyn Cyngor Technegol15

TuFLOW Meddalwedd Modelu 2D Modelling

Page 10: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 1

1. Cyflwyniad

1.1 Diben a Chwmpas yr Astudiaeth Diben yr astudiaeth hon yw diweddaru’r Map Llifogydd ar gyfer Llanelwy yng Ngogledd Cymru a chael gwell dealltwriaeth o’r perygl llifogydd o Afon Elwy drwy’r dref. Datblygwyd model 1D-2D ISIS-TuFLOW cysylltiedig gan JBA Consulting yn 2011 er mwyn asesu’r perygl o lifogydd yn y dref. Ym mis Tachwedd 2012, cafwyd llifogydd mawr drwy Lanelwy. Gan ddefnyddio’r data a’r wybodaeth sydd ar gael am y digwyddiad hwn, mae JBA wedi gwneud dadansoddiad ôl-digwyddiad. Mae’r model ISIS-TUFLOW presennol wedi cael ei raddnodi yn seiliedig ar ddata llifogydd mis Tachwedd 2012 ac o ganlyniad mae’r gwaith mapio llifogydd y gellir ei gyflawni wedi cael ei ddiweddaru. Mae’r adroddiad hwn yn esbonio sut y cafodd y model ei raddnodi, y dadansoddiad hydrolegol ôl-digwyddiad a wnaed ac yn cyflwyno’r gwaith mapio llifogydd wedi’i ddiweddaru.

Ymchwiliwyd i’r digwyddiadau dylunio canlynol gan ddefnyddio’r model wedi’i raddnodi; digwyddiadau tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 3.33%, 1.33%, 1%, 1% ynghyd â newid yn yr hinsawdd, 0.5% a 0.1%. Mae’r model wedi’i gyflunio ar gyfer y senario amddiffynedig a’r senario diamddiffyn. Caiff graddfa’r llifogydd diamddiffyn a gynhyrchir ei defnyddio i ddiweddaru’r Map Llifogydd. Bydd canlyniadau’r astudiaeth hon yn sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael digon o wybodaeth er mwyn cydymffurfio â chanllawiau cynllunio Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN 15)1.

1.2 Disgrifiad o’r Cwrs Dŵr a’r Dalgylch Mae ardal yr astudiaeth yn ymestyn ar hyd darn 4.5km o Afon Elwy, sy’n llifo drwy dref Llanelwy. Mae terfyn uchaf ardal yr astudiaeth ym Mhlanhigfeydd Bryn Polyn (CGC 304126, 372776) sy’n draenio drwy Lanelwy i mewn i Afon Clwyd tua 2km i lawr yr afon o’r dref. Cydlifiad Afon Clwyd oedd terfyn model yr astudiaeth mapio llifogydd blaenorol (2011) i lawr yr afon, mae’r modwl wedi cael ei ymestyn drwy ddefnyddio rhannau o fodel Afon Clwyd a ddatblygwyd gan JBA yn 2011. Terfyn y model i lawr yr afon yw Rhuddlan erbyn hyn (CGC 302165 378037) ar Afon Clwyd. I fyny’r afon o ardal yr astudiaeth, mae Afon Elwy yn draenio dalgylch o 246km2 gan gynyddu i 253km2 wrth gydlifiad afon Clwyd. Mae’r tir yn fynyddig (Mynydd Hiraethog) yn bennaf gydag ystradau anhydraidd o Siâlau, Cerrig Llaid a Chalchfaen. Ar y terfyn wedi’i fodelu i fyny’r afon, mae’r tir yn wledig yn bennaf ac eithrio Y Wigfair Isaf, sef anheddiad bach ar lan ochr chwith Afon Elwy. Drwy Lanelwy ac yn ymestyn tuag at y cydlifiad ag Afon Clwyd, cyfyngir ar Afon Elwy gan argloddiau llifogydd mawr (Ffigur 1-1), hyd at 2m yn uwch na’r gorlifdor o’u hamgylch. Lleolir eiddo preswyl a masnachol yn agos iawn at Afon Elwy wrth i’r cwrs dŵr lifo drwy’r dref. Cafwyd llifogydd yn Llanelwy yn y gorffennol gan gynnwys y llifogydd mawr ym mis Tachwedd 2012 pan orlifodd Afon Ebwy ei glannau a’r argloddiau amddiffynnol drwy’r dref gan achosi llifogydd dros ardal eang. Aeth tua 320 eiddo a 70 o garafannau dan ddŵr ar 27 Tachwedd 2012. Trafodir y llifogydd hyn yn fanylach mewn adrannau dilynol o’r adroddiad ac fe’u defnyddiwyd i raddnodi’r model hydrolig fel y’i trafodwyd yn Adran 3.

1 Polisi Cynllunio Cymru: Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN 15): Datblygu a Pherygl Llifogydd. Gorffennaf 2004

Page 11: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 2

Ffigur 1-1 Amddiffynfa rhag Llifogydd yn Llanelwy

Ceir pum pont drwy Lanelwy: tair pont ffordd a dwy bont droed. Y bont sydd bellaf i fyny’r afon yw Hen Bont Llanelwy (Ffigur 1-2). Mae hon yn bont gerrig fawr (rhychwant o 70m) â phum bŵa gyda ffordd yr A525 yn mynd ar hyd-ddi ac mae wedi’i dynodi’n Heneb Gofrestredig. Y bont nesaf i lawr yr afon yw Pont Beicwyr Elwy, a adeiladwyd yn 2007 ac sydd tua 300m i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy. Ni chaiff y bont i feicwyr ei hystyried yn rheolaeth hydrolig o bwys ac nid yw wedi’i darlunio yn y model ISIS cyfredol. Y drydedd bont yw pont ffordd lefel uchel y mae ffordd yr A55 yn mynd ar hyd-ddi (Ffigur 1-3). Mae mesurydd lefel (gorsaf 66627) wrth ymyl y bont hon sydd wedi bod yn weithredol ers 1997. Y bont nesaf i lawr yr afon yw pont ffordd wastad lefel isel (Ffigur 1-4), sy’n bont fynediad i’r Gwaith Trin Carthion a’r Maes Carafannau. Mae hon yn rheolydd hydrolig ar Afon Elwy yn ystod llifogydd mawr, am fod lefel bondo’r bont yn gymharol isel o’i chymharu â’r pontydd eraill ar y cwrs dŵr. Y bumed bont (Ffigur 1-5) yw pont droed i lawr yr afon o’r dref tua 700 i fyny i’r afon o gydlifiad Afon Elwy ag Afon Clwyd.

Page 12: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 3

Ffigur 1-2 Hen Bont Llanelwy (ni ddangosir y bont gyfan)

Ffigur 1-3 Pont Ffordd yr A55

Ffigur 1-4 Pont y Gwaith Trin Carthion Ffigur 1-5 Pont Droed

1.3 Hanes Llifogydd Cafwyd llifogydd yn Llanelwy yn ddiweddar iawn ym mis Tachwedd 2012 pan arweiniodd llifau mawr at orlifo glannau’r afon a’r amddiffynfeydd mewn sawl lleoliad drwy’r dref. Dyma’r unig dro y mae Afon Elwy wedi gorlifo ei glannau ers i’r amddiffynfeydd rhag llifogydd gael eu hatgyfnerthu yn y 1970au. Trafodir llifogydd mis Tachwedd 2012 yn fanwl yn Adran 3 gan eu bod wedi cael eu defnyddio i raddnodi model hydroleg Afon Elwy.

Prin yw’r dystiolaeth o lifogydd diweddar cyn mis Tachwedd 2012 o fewn dalgylch Afon Elwy, efallai oherwydd yr argloddiau mawr rhag llifogydd sy’n diogelu Llanelwy, Fodd bynnag, ceir nifer o gofnodion ar wefan Cronoleg o Ddigwyddiadau Hydrolegol Prydain2 (CBHE). Tynnir sylw at y rhai sy’n ymwneud â llifogydd yn Nhabl 101, ynghyd â phob tystiolaeth arall o lifogydd.

2 http://www.dundee.ac.uk/geography/cbhe/

Page 13: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 4

Tabl 1-1 Hanes Llifogydd

Dyddiad/ Blwyddyn

Disgrifiad Ffynhonnell

1871 Gorffennaf 1871 Nododd arsyllwr glaw Llanelwy (Llannerch) (t97) “Weather showery and broken, but no floods or continuous heavy rains; generally cold for the season; hay harvest not finished.” [A.

Clwyd]

CBHE

1882 1882 Nododd arsyllwr yn Llanelwy (Nantlys) (t[106]) “Total rainfall 4 in. above the average of 16 years, yet fewer floods in the river

than for some years” [Clwyd]

CBHE

1896 1896 Awst 31 Nododd arsyllwr glaw yn Llanelwy, t[14], “Great rain and floods, the Holywell Road, near Clwyd bridge, was under

6 ft. of water. Flooding also at Colwyn Bay and Denbigh.”

CBHE

1913 1913 Ebrill 29 Dyfyniad o The Times, “Serious damage to crops and property was reported from various parts of North Wales in

consequence of the heavy floods. The Rivers Dee, Severn, Wye and Clwyd have overflowed their banks, and thousands of acres of crops and pasturage are inundated. Sheep and cattle have

been carried down by the floods.”

CBHE

1970’au Adeiladwyd amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Llanelwy (Afon Clwyd) a Llanfair (Afon Elwy) mewn ymateb i lifogydd yn y saith

degau

Atodiad G i’r adroddiad - Flooding

in Wales October/ November 2000

(Appendix G History of other Notable Flood Events)

Tach-00 Tai gwarchod Llys y Felin yn mynd dan ddŵr am fod llif dros y tir o system garthffosydd cyfun a orlifodd wedi cael ei ddal y tu ôl i’r

amddiffynfeydd

Anhysbys (Astudiaeth Ragweld3)

Rhag-10 Adroddiadau llafar o lifogydd wrth ymyl pont y gwaith trin carthion oherwydd rhwystrau. Dyma’r achos sy’n ysgogi’r senarios

rhwystro yn yr astudiaeth hon.

Gwybodaeth gan unigolyn lleol ynglŷn

â llifogydd sy’n gorlifo

amddiffynfeydd

1.4 Data sydd ar gael Mae’r astudiaeth fodelu wedi’i seilio ar y data canlynol:

Model ISIS-TuFLOW presennol Afon Elwy a ddatblygwyd gan JBA yn 2011. Mae’r model hwn yn seiliedig ar arolwg o’r sianel a gasglwyd ar gyfer astudiaeth A105 gynharach o Afon Elwy a data a gasglwyd yn 2011 gan InfoMap Surveys Ltd. Cafodd gwybodaeth am uchder argloddiau ei chasglu ar gyfer astudiaeth 2011 gan InfoMap hefyd a’i hymgorffori yn y model cysylltiedig.

Data LiDAR wedi’u hidlo a heb eu hidlo (taith hedfan Ebrill 2004) ar eglurder o 1m a ddefnyddiwyd i bennu’r gorlifdir a ddarlunnir mewn 2D drwy ddefnyddio TuFLOW.

Data ar lefelau dŵr a gofnodwyd o fesurydd Rhuddlan a ddefnyddiwyd i bennu’r ffin i lawr yr afon yn yr elfennau ISIS a TuFLOW o’r model.

Uchderau amddiffynfeydd ar hyd yr arglawdd rheilffordd o Strategaeth Afon Dyfrdwy ac Afon Clwyd a ddefnyddiwyd i bennu ffin y model 2D.

Data hydrometrig - gan gynnwys data o fesurydd lefel Llanelwy a data ar y llif wrth Bont y Gwyddel i fyny’r afon o Lanelwy ar Afon Elwy, data ar lefelau yn Rhuddlan a data ar lawiad ar gyfer nifer o fesuryddion glaw yn ardal yr astudiaeth a’r cyffiniau.

3 JBA Consulting, ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Gorffennaf 2007. River Clwyd and River Elwy Flood Forecasting Models. Final Report.

Page 14: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 5

2. Asesiad Hydrolegol

2.1 Trosolwg Mae amcangyfrifon dylunio o lif ar gyfer Afon Elwy drwy Lanelwy wedi cael eu hadolygu gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael. Ceir manylion llawn y cyfrifiadau a wnaed yng Nghofnod Cyfrifo’r Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd yn Atodiad A i’r adroddiad hwn. Pennwyd amcangyfrifon o lif ar gyfer tri lleoliad ar Afon Elwy ar gyfer Astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd Llanelwy a gwblhawyd gan JBA yn 2011 gan ddefnyddio dull Ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd (FEH) a dull Hydrograff Llifogydd wedi’i Ailfywiogi (ReFH). Cyfrifwyd yr amcangyfrif terfynol o’r briglif a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth drwy ddefnyddio dull Ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd; dangosir yr amcangyfrifon o’r briglif mewn digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol (AEP) o 1% a ddefnyddiwyd yn astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 yn Nhabl 2-1 ynghyd â lleoliadau’r mannau amcangyfrif llif.

Tabl 2-1 Mannau amcangyfrif llif Mapio Perygl Llifogydd 2011 ac amcangyfrifon o’r briglif gyda thebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%

Enw’r Safle

Cwrs dŵr Lleoliad Dwyrein-iad

Gogledd-iad

2011 Amcan-

gyfrif Ystadegol

FEH o briglif QMED (m3/e)

2011 Amcan-

gyfrif Ystadegol

FEH o’r Briglif

Digwydd-iad1% AEP

(m3/e) ELWY_

US Afon Elwy Graddfa i fodel

hydrolig 2011 i fyny’r afon

(Planhigfeydd Bryn-polyn)

304100

372750

74.8 181.0

Pont Llanelwy

Afon Elwy Hen Bont Llanelwy (A525)

303500 374200 75.8 183.4

ELWY_ DS

Afon Elwy Graddfa model hydrolig 2011 i

lawr yr afon (120m i fyny’r

afon o gydlifiad Afon Elwy ag Afon Clwyd)

303200 376500 75.9 183.5

Fel rhan o’r diweddariad mapio llifogydd hwn, ymchwiliwyd i hydroleg dalgylch Afon Elwy gan ddefnyddio data o lifogydd mis Tachwedd 2012. Defnyddiwyd data o fesurydd llif Pont y Gwyddel i fyny’r afon o Lanelwy ar Afon Elwy er mwyn llywio’r asesiad hydrolegol.

2.2 Mannau Amcangyfrif Llif a Disgrifyddion y Dalgylch

Pennwyd amcangyfrifon o lif ar gyfer yr un tri lleoliad fel yn astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011, fel y’i rhestrir yn Nhabl 2-1. Cyfrifwyd amcangyfrifon o lif wrth Bont y Gwyddel hefyd. Dengys Ffigur 2-1 leoliad y mannau amcangyfrif llif a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth hon.

Page 15: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 6

Ffigur 2-1 Mannau Amcangyfrif Llif Llanelwy

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl

Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

MannauAmcangyfrif Llif

Hyd wedi’i Fodelu

Daw disgrifyddion y dalgylch ar gyfer pob un o’r mannau amcangyfrif llif o CD-ROM v3.0 y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd4. Mae pob ffin o CD-ROM y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd wedi cael ei gwirio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau amlwg yn ffiniau’r dalgylch ac nad wnaed unrhyw newidiadau. Ceir manylion disgrifyddion y dalgylch ar gyfer pob man amcangyfrif yn Nhabl 2-2.

Tabl 2-2 Disgrifyddion Dalgylch Allweddol wrth Fannau Amcangyfrif Llif

Cod y safle Dwyrein-iad

Gogledd-iad

ARWYN-EBEDD

FARL BFIHOST SAAR (mm)

SPRHOST URBEXT 2000

FPEXT

Pont Y Gwyddel 295250 371799 191.37 0.98 0.476 1185 39.46 0.001 0.0318ELWY_US 304100 372750 245.52 0.981 0.484 1114 38.40 0.001 0.035 St_Asaph_Bridge 303500 374200 250.19 0.982 0.483 1107 38.42 0.002 0.0364ELWY_DS 303200 376500 253.04 0.982 0.484 1103 38.38 0.003 0.0393

2.3 Dull Ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd Mae i ddull ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd ddau brif gam; amcangyfrif y llifogydd mynegeiol (QMED) a phennu cromlin twf. Defnyddiwyd gorsaf fesur Pont y Gwyddel fel rhodd safle ar gyfer QMED er mwyn gwella’r amcangyfrifon drwy Lanelwy drwy eu cymharu â data a fesurwyd yn lleol yn astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011. Ers astudiaeth 2011, mae data ychwanegol ar gyfer Pont y Gwyddel ar gael ac mae’r mesurydd hwn wedi cael ei ddadansoddi fel rhan o’r astudiaeth hon er mwyn pennu effaith y data diweddaraf ar amcangyfrifon o lif.

4 CEH 2009. The Flood Estimation Handbook CD-ROM Version 3.0. Centre for Ecology and Hydrology, Wallingford, UK.

Page 16: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 7

2.3.1 Cyfrifiad QMED Pont Y Gwyddel

Cyfrifwyd QMED wrth fesurydd Pont y Gwyddel gan ddefnyddio’r data AMAX diweddaraf yn y mesurydd a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi darparu data AMAX ar gyfer mesurydd Pont Y Gwyddel hyd at a chan gynnwys llifogydd mis Tachwedd 2012. Er bod llai na hanner blwyddyn ddŵr 2012-2013, y digwyddodd llifogydd mis Tachwedd 2012 oddi mewn iddi, wedi mynd heibio ar adeg ysgrifennu, penderfynwyd y byddai’r llifogydd yn cael eu cynnwys fel gwerth AMAX wrth Bont y Gwyddel ar gyfer y dadansoddiad hydrolegol hwn. Gellir cyfiawnhau hyn gan mai’r rhain yw’r llifogydd mwyaf a gofnodwyd ac maent 30% yn uwch na’r llif uchaf a gofnodwyd o’r blaen wrth y mesurydd. Felly tybiwyd na chaiff llif mwy ei gofnodi o fewn y misoedd sy’n weddill o’r flwyddyn ddŵr (mis Chwerfror-mis Medi 2013 yn gynwysedig). Amcangyfrif mai 73.025m3/e yw’r QMED wrth fesurydd Pont y Gwyddel.

2.3.2 Pennu Cromlin Twf Pont Y Gwyddel

Pennwyd y briglif yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 gan Cyfoeth Naturiol Cymru drwy allosod gradd llif cam wrth fesurydd Pont Y Gwyddel yn WISKI. Cadarnhawyd y briglif o 91.045m uwchlaw’r seilnod ordnans a gofnodwyd am 7am ar 27 Tachwedd 2012 fel un realistig ar y safle gan staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn seiliedig ar farciau llanw o fewn y caban mesur. Yn seiliedig ar y gromlin raddio wedi’i hallosod, mae hyn yn cyfateb i lif o 202m3/e. Gwyddys bod ychydig o ddŵr wedi mynd heibio i’r mesurydd a fyddai’n ychwanegol at y llif yn y rhan o’r sianel a raddiwyd; mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn amcangyfrif bod hyn yn llai na 10m3/e. Felly ar gyfer y dadansoddid hwn defnyddiwyd briglif o 212m3/e wrth Bont Y Gwyddel yn niffyg gwybodaeth bellach ynglŷn â’r llif a aeth heibio i’r mesurydd. Dylid nodi bod y briglifau a lefelau ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012 wrth Bont Y Gwyddel dipyn yn fwy nag unrhyw fesuriadau llif a ddefnyddiwyd i greu’r gromlin raddio. Fel y cyfryw mae rhywfaint o ansicrwydd ynghylch y gromlin raddio wedi’i hallosod a’r llif a amcangyfrifwyd o lifogydd mis Tachwedd 2012.

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o raddfa llifogydd mis Tachwedd 2012 yn nalgylch Afon Elwy, gwnaed dadansoddiad o amlder llifogydd ar gyfer y dalgylch hyd at y mesurydd wrth Bont y Gwyddel. Gellir amcangyfrif cyfnod dychwelyd llifogydd orau lle mae cofnodion o safon dda o ddata ar friglif llifogydd am gyfnod sydd o leiaf ddwywaith yn hwy na chyfnod dychwelyd y llifogydd a amcangyfrifwyd. Mewn achosion o’r fath, gellir defnyddio dull Ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd i gyfateb cromlin amlder llifogydd ar safle sengl i’r llifau mwyaf blynyddol yn y safle ac yna nodi’r cyfnod dychwelyd ar gyfer y llif sy’n gysylltiedig â’r llifogydd. Noda Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei adroddiad hydroleg ar ôl y llifogydd mawr yn y gogledd ym mis Tachwedd 2012 fod y briglif a gofnodwyd wrth Bont y Gwyddel yn ystod y llifogydd yn fwy na’r amcangyfrifon cyfredol o lif unwaith mewn 100 mlynedd wrth Bont y Gwyddel ac mae’n debygol bod cyfnod dychwelyd o rhwng unwaith mewn 100 mlynedd ac unwaith mewn 200 mlynedd.

Roedd gwerth 38 mlynedd o ddata ar gael i Bont y Gwyddel ar gyfer yr astudiaeth hon; felly mae dadansoddiad safle sengl wrth y mesurydd ond yn briodol realistig hyd at y cyfnod unwaith mewn 20 mlynedd. Pennwyd nifer o gromliniau twf er mwyn llunio amcangyfrifon o’r briglif wrth Bont Y Gwyddel gan ddefnyddio dulliau gwahanol o fewn WINFAP-FEH v3.0.

Y dulliau a brofwyd ar gyfer pennu cromliniau twf wrth fesurydd Pont y Gwyddel oedd:

Dadansoddiad Safle Sengl heb gynnwys llifogydd mis Tachwedd 2012 yng nghyfres AMAX

Dadansoddiad Safle Sengl gan gynnwys llifogydd mis Tachwedd 2012 yng nghyfres AMAX

Dadansoddiad Cyfun - safle sengl estynedig gan gynnwys llifogydd mis Tachwedd 2012 yng nghyfres AMAX

Dadansoddiad Cyfun - trin Pont Y Gwyddel fel safle heb fesurydd.

Cafodd pob un o’r cromliniau twf a bennwyd drwy’r dulliau uchod eu cymhwyso at yr un gwerth QMED (73.025m3/e) a gyfrifwyd drwy ddefnyddio gwerthoedd cyfredol AMAX wrth

Page 17: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 8

Bont y Gwyddel gan gynnwys llifogydd mis Tachedd 2012. Felly, mae’r gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon o’r briglif mewn digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% a bennwyd (fel y’u dangosir yn Nhabl 2-3) yn deillio o’r gwahanol ddulliau a ddefnyddiwyd i greu cromlin twf er mwyn cymharu’r gwerth QMED â llifau cyfnod dychwelyd hwy. Dangosir y cromliniau twf yn Ffigur 202.

Tabl 2-3 Cymharu amcangyfrifon FEH o’r briglif ar gyfer y digwyddiad AEP o 1% ym Mhont Y Gwyddel drwy ddefnyddio dulliau gwahanol

Safle Dadansoddiad Safle Cyfun

(C) neu Safle Sengl (SS)

Dosbarthiad -Logistig Wedi’i

Gyffredinoli (GL) neu

Werth Eithaf Wedi’i

Gyffredinoli (GEV)

Paramedraudosbarthiad

(leoliad, graddfa a

siâp)

Ffactor Twf ar gyfer

cyfnod dychwelyd

o 100 mlynedd

Ystadegol FEH 1%

AEP Amcangyfrif

o’r Briglif

Pont Y Gwyddel

SS - heb gynnwys

llifogydd mis Tachwedd 2012 yng nghyfres AMAX

GL 0.991, 0.187, -0.133

2.18 159.53

SS - gan gynnwys

llifogydd mis Tachwedd 2012 yng nghyfres AMAX

GL 0.973, 0.205, -0.246

2.68 200.64

C – dadansoddiad

un safle a mwy*

GL 1.00, 0.213, -0.228

2.68 199.32

C – ei drin fel safle heb fesurydd

GL 1.000, 0.207, -0.218

2.64 192.50

*Mae dadansoddiad safle sengl estynedig yn defnyddio data o’r safle a fesurwyd (Pont y Gwyddel) ac mae’n cynnwys y safle yn y grŵp cyfun a ddefnyddiwyd i bennu’r gromlin twf. Rhoddir mwy o bwys ar y safle â mesurydd na’r safleoedd eraill sy’n rhan o’r grŵp cyfun.

Page 18: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 9

Ffigur 2-2 Cromliniau Twf Pont Y Gwyddel

Logistic reduced variate – Amryweb wedi’i leihau yn ôl logisteg

Q/Q

ME

D

SS Pont Y Gwyddel 2011

SS Pont Y Gwyddel 2012

GC Pont Y Gwyddel(gyda/heb ddata a fesurwyd)

SS Estynedig Pont Y Gwyddel gyda’r mesurydd eihun wedi’i gynnwys yn y CG

Mae’r amcangyfrif o’r briglif yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% a luniwyd drwy’r dull safle sengl estynedig yn debyg iawn i’r hyn a luniwyd ar gyfer y dadansoddiad safle sengl (gan gynnwys llifogydd mis Tachwedd 2012) oherwydd y pwysoliad a roddir yn y dadansoddiad safle sengl â mwy ar y llifau a fesurwyd. Mae’r cromliniau twf a gyfrifwyd drwy ddefnyddio’r ddau ddull hyn bron yr un fath fel y dangosir yn Ffigur 2-2. Fodd bynnag, dylid nodi bod Hi-Flows yn argymell nad yw Pont y Gwyddel yn safle addas ar gyfer cyfuno a bod yn rhaid ei gynnwys â llaw yn y grŵp cyfun er mwyn gwneud dadansoddiad safle sengl â mwy. Mae’r dadansoddiad safle sengl heb gynnwys llifogydd mis Tachwedd 2012 yn y data AMAX ar gyfer Pont Y Gwyddel (SS Pont Y Gwyddel 2011 yn Ffigur 2-2) yn arwain at gromlin twf sylweddol is na’r dadansoddiad safle sengl sy’n cynnwys llifogydd mis Tachwedd 2012 yn y gyfres AMAX sy’n nodi graddfa’r llifogydd.

Mae’r gromlin twf a bennwyd wrth drin safle Pont Y Gwyddel fel safle heb ei fesur (GC Pont Y Gwyddel) yn debyg i’r rheini a bennwyd drwy’r dadansoddiad safle sengl sy’n cynnwys llifogydd mis Tachwedd 2012 yn y gyfres AMAX a thrwy’r dadansoddiad safle sengl a mwy. Mae cromlin GC Pont Y Gwyddel ychydig yn is na’r cromliniau a gyfrifwyd drwy ddefnyddio’r data a fesurwyd hyd at 2012. O ystyried mai hwn yw’r dull safonol ar gyfer y safle hwn, nad yw’n dibynnu ar union raddfa llifogydd mis Tachwedd 2012 a’i fod yn rhoi canlyniadau tebyg iawn i’r dulliau sy’n defnyddio data o’r safle cynigir y dylid defnyddio hyn fel y gromlin twf ar gyfer Pont Y Gwyddel.

Yn seiliedig ar raddio’r mesurydd llif wrth Bont Y Gwyddel, y briglif yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 oedd 202m3/e. Roedd y briglif yn uwch o bosibl gan fod llif wedi mynd heibio i’r mesurydd yn ystod y llifogydd ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn credu bod y llif a aeth heibio i’r mesurydd yn <10m3/e. Felly mae gan friglif o tua 212m3/e ym mis Tachwedd 2012 gyfnod dychwelyd sy’n fwy na digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% ac o bosibl yn agosach at ddigwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 0.66% (unwaith mewn 150 mlynedd).

Page 19: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 10

2.3.3 Pennu Mannau Amcangyfrif Llif QMED Llanelwy

O ran dull Ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd defnyddiwyd Pont Y Gwyddel fel rhodd safle ar gyfer QMED i safleoedd Llanelwy fel y’i gwnaed ar gyfer astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011. Am fod data AMAX ychwanegol wrth Bont Y Gwyddel wedi’u cynnwys wrth amcangyfrif QMED ar gyfer y safleoedd dan sylw, mae gwerth uwch ar gyfer QMED ym mhob un o’r safleoedd dan sylw wedi cael ei amcangyfrif tua 4m3/e yn uwch nag yn astudiaeth 2011, sydd bellach yn cael ei amcangyfrif yn 79.5m3/e wrth Bont Llanelwy. Yn ogystal â llifogydd mis Tachwedd 2012, cafodd briglifau cymharol fawr eu cofnodi wrth Bont Y Gwyddel ym mis Tachwedd 2009 (104m3/e) a mis Chwefror 2011 (90.2m3/e).

Mae’n werth nodi bod yr amcangyfrifon QMED a bennwyd drwy Lanelwy ond 10% yn fwy na’r rhai a bennwyd wrth Bont y Gwyddel er bod y dalgylch wedi cynyddu mwy na 50km2 rhwng y safleodd (tua 25%). Mae hyn wedi peri i ni ystyried a ellir defnyddio gwybodaeth amgen i amcangyfrif QMED yn Llanelwy. Ystyriwyd dau ddull gweithredu:

1) Defnyddio data POT mesurydd lefel Llanelwy er mwyn rhoi amcangyfrif o QMED. Mae llai na phedair blynedd o gofnodion dibynadwy wrth y mesurydd hwn. Mae gwerth QMED sy’n seiliedig ar y data lefel POT hyn yn rhoi gwerth o 12.06m uwchlaw’r seilnod ordnans sef tua 93m3/e yn y model hydrolig wedi’i raddnodi. Fodd bynnag, dylid cymhwyso addasiad hinsoddol at hyn a fydd yn lleihau’r gwerth o’i gymharu â’r cofnod tymor hwy wrth Bont y Gwyddel sy’n dangos bod y pedair blynedd ddiwethaf wedi bod yn wlypach na’r cyffredin. Oherwydd hyd byr iawn cofnodion mesurydd Llanelwy, mae’r dull hwn yn annibynadwy ac yn agored iawn i newid o flwyddyn i flwyddyn wrth i fwy o ddata fod ar gael. Felly mae wedi’i ddiystyru ar hyn o bryd.

2) Cydberthnasau lefel QMED o Bont Y Gwyddel i fesurydd Llanelwy drwy ddefnyddio cydberthnasau rhagweld llifogydd. Mae’r gydberthynas rhwng lefel Pont y Gwyddel a lefel Llanelwy yn sefydledig ac fe’i defnyddir i ragweld llifogydd. Mae lefel QMED wrth Bont y Gwyddel o tua 1.97mASD o lifogydd mis Tachwedd 2012 yn cyfateb i tua 3.0 mASD yn Llanelwy (tua 11.91m uwchlaw’r seilnod ordnans). Yn seiliedig ar fodel wedi’i raddnodi’n fras mae’r lefel hon yn cyfateb i lif o tua 82m3/e. Noder bod hwn yn amcangyfrif eithaf bras gan fod y gydberthynas wedi cael ei darllen o graff.

Mae’r gwerth QMED hwn ond ychydig yn fwy na’r gwerth o 79.5m3/e a bennwyd o ddisgrifyddion y dalgylch o dan y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd a graddio Pont y Gwyddel. Mae’r amcangyfrif amgen hwn o QMED yn gyson iawn â’r dull gweithredu safonol mewn gwirionedd gyda gwahaniaeth o -5% yn unig ac felly ni chynigir y dylid gwyro oddi wrth werth y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd sef 79.5m3/e.

2.3.4 Pennu Cromlin Twf Mannau Amcangyfrif Llif Llanelwy

O ystyried y pellter mawr rhwng Pont Y Gwyddel a’r mannau amcangyfrif llif drwy Lanelwy, tybiwyd na fyddai’n briodol cymhwyso paramedrau’r gromlin twf a bennwyd ar gyfer y safle a fesurir at y safleoedd nas mesurir yn Llanelwy. Yn absenoldeb data ar lif yn Llanelwy, pennwyd cromliniau twf drwy ddefnyddio grwpiau cyfun ar gyfer y mannau amcangyfrif llif yn Llanelwy. Ers i’r astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd gael ei chwblhau, cyhoeddwyd fersiwn newydd o Hi-Flows gan Asiantaeth yr Amgylchedd (fersiwn 3.1.2, Rhagfyr 2011) sy’n golygu bod ychydig mwy o ddata ar gael wrth y mesuryddion yn y grwpiau cyfun a ddefnyddir i bennu’r cromliniau twf ar gyfer y safleoedd dan sylw. Er enghraifft, mae’r grŵp cyfun a bennwyd ar gyfer safle Pont Llanelwy, sy’n cynnwys yr un safleoedd â’r rhai a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth Mapio Peryglon Llifogydd, yn cynnwys hyd at 9 mlynedd yn fwy o ddata na’r grŵp cyfun a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth Mapio Peryglon Llifogydd.

Y dosbarthiad a roddodd y gyfatebiaeth orau ar gyfer grwpiau cyfun mannau amcangyfrif llif Llanelwy oedd Gwerth Eithafol Wedi’i Gyffredinol (GEV), ond dosbarthiad Gwerth Logistig Wedi’i Gyffredinol (GL) yw’r un a ddefnyddir gan amlaf ar gyfer dalgylchoedd yn y DU. Rhoddir yr amcangyfrifon o lif a bennwyd drwy ddefnyddio dulliau GEV a GK er mwyn pennu cromliniau twf ym mannau amcangyfrif llif Llanelwy yn Nhabl 2-4.

Page 20: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 11

Dengys Tabl 2-4 fod y cromliniau twf a bennwyd drwy ddefnyddio dosbarthiad GL yn arwain at amcangyfrifon uwch o’r briglif na’r rhai a bennwyd drwy ddefnyddio dosbarthiad GEV. Defnyddiwyd dosbarthiad GL yn astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 er mwyn pennu’r cromliniau twf. Mae’r amcangyfrifon o’r briglif mewn digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol 1% a bennwyd ar gyfer yr astudiaeth hon drwy ddefnyddio’r data mwyaf diweddar tua 10m3/e yn uwch na’r rhai a bennwyd ar gyfer astudiaeth 2011. Awgrymir y dylid defnyddio’’r gwerthoedd a bennwyd drwy GL gan mai dyna’r dosbarthiad a ffefrir yn y DU, sy’n rhoi canlyniadau ychydig yn uwch ac sy’n gyson â’r dosbarthiad wrth Bont Y Gwyddel.

Tabl 2-4 Amcangyfrifon o Lif ar gyfer Mannau Amcangyfrif Llif Llanelwy

Safle Dadansoddiad Safle Cyfun

(P) neu Safle Sengl (SS)

Dosbarthiad - Logistig Wedi’i

Gyffredinoli (GL) neu Eithafol Wedi’i

Gyffredinoli (GEV)

Paramedrau dosbarthiad

(lleoliad, safle a siâp)

QMED Ffactor twf ar gyfer

cyfnod dychwelyd o 100 mlynedd

Dull Ystadegol FEH 1%

AEP Amcan-gyfrif o’r

Briglif

Asutdiaeth FRM 2011 1% AEP

Amcangyfrif o’r Briglif

Elwy_US P GEV 0.892, 0.293, -0.028

78.6 2.33 183.13

P GL 1.000, 0.195, -0.188

78.6 2.42 190.43 181.0

St_Asaph_Bridge

P GEV 0.893, 0.290, -0.037

79.5 2.35 186.55

P GL 1.000, 0.194, -0.194

79.5 2.44 193.81 183.4

Elwy_DS P GEV 0.895, 0.282, -0.056

79.5 2.37 188.88

P GL 1.000, 0.191, -

0.206

79.5 2.46 195.84 183.5

2.3.5 Llifau Dylunio Dull Strategol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd

Rhoddir llifau dylunio dull ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd isod. Mae diffyg cynnydd llif dylunio o Bont y Gwyddel i Lanelwy yn achos pryder gan fod arwynebedd y dalgylch yn cynyddu 50km2.. Gan fod Pont Y Gwyddel yn fesurydd llif dibynadwy ystyrir bod yr amcangyfrifon hyn yn fwy cadarn na’r rhai nas mesurwyd yn Llanelwy.

Tabl 2-5 Amcangyfrifon o Lif Dull Strategol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd

Cod y safle

Briglif (m3/e) ar gyfer y cyfnodau dychwelyd canlynol (mewn blynyddoedd) 2 5 10 25 50 75 100 150 200 500 1000

Pont Y Gwyddel PG

73.03 97.49 115.63 142.32 165.66 180.89 192.50 210.10 223.54 279.15 333.25

ELWY_US 78.58 102.84 120.26 145.21 166.48 180.13 190.43 205.88 217.55 270.76 320.24 Pont Llanelwy

79.47 104.00 121.72 147.23 169.09 183.17 193.81 209.81 221.93 275.27 325.37

ELWY_DS 79.54 103.92 121.76 147.73 170.21 184.78 195.84 212.54 225.24 277.85 328.28

2.4 Llifau Llanelwy Drwy Ddefnyddio Model Llwybro Cynigir ffordd arall o bennu llifau dylunio yn Llanelwy drwy ddefnyddio model llwybro i drosglwyddo llif o Bont Y Gwyddel i Lanelwy ac ychwanegu mewnlifau priodol at hyn o’r dalgylch ychwanegol. Wrth ddefnyddio’r dull hwn pennir y llifau dylunio i fyny’r afon o Lanelwy lle mae’r model llwybro yn ymuno â’r model hydrolig. Y camau a gymerwyd oedd:

Page 21: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 12

1. Mae’r model llwybro wedi’i raddnodi â sawl achos o lifogydd yn ystod 2012 er mwyn sicrhau bod yr amseriad yn arbennig yn briodol (heb gynnwys llifogydd mis Tachwedd 2012 gan fod mesurydd lefel Llanelwy wedi peidio â gweithio yn ystod y llifogydd).

2. Mae llif sylfaenol a Tp wedi cael eu graddnodi ar gyfer mewnlif ReFH wrth Bont Y Gwyddel er mwyn gwella’r ffordd y darlunnir llifogydd mis Tachwedd 2012 wrth y mesurydd. Newidiadau cymharol fân yw’r rhain, e.e. y briglif gyda a heb y newidiadau yw 212 a 222 m3/e, llai na gwahaniaeth o 5%.

3. Mae’r paramedrau wedi’u graddnodi hyn wedi cael eu trosglwyddo i fewnlifau ReFh isafon a ddefnyddiwyd.

4. Mae llifogydd dylunio wedi cael eu modelu drwy ddefnyddio storm sy’n para 18.25awr (y parhad sy’n rhoi’r llifau uchaf o fodel ReFH) gyda glawiad dylunio yn defnyddio’r unedau ReFH wedi’u graddnodi. Tynnir briglif Pont Y Gwyddel yn ôl graddfa’r llif dylunio ystadegol (sy’n wahanol ar gyfer pob achos o lifogydd). Mae’r mewnlifau eraill hefyd yn defnyddio’r storm sy’n para 18.25awr a’r un ffactorau graddio. Mae hyn ychydig yn fyrrach na llifogydd mis Tachwedd 2012 pan gafwyd glaw yn nes at fwy na 24 awr.

O’r dull hwn o fodelu llifogydd mewn dalgylch, crëwyd set amgen o lifau dylunio yn Llanelwy - gweler Tabl 2-6 isod. Profir sawl un o’r rhagdybiaethau hyn yn y profion sensitifrwydd isod er mwyn dangos a fyddent yn dylanwadu ar y casgliadau.

Tabl 2-6 Cymharu Amcangyfrifon o Lif

Cod y Safle Briglif Llifogydd (m3/e) ar gyfer y cyfnodau dychwelyd canlynol (mewn blynyddoedd)

2 5 10 25 50 75 100 150 200 500 1000 Pont Y Gwyddel Statistical

73.0 97.5 115.6 142.3 165.7 180.9 192.5 210.1 223.5 279.2 333.3

ELWY_US_Statistical 78.6 102.8 120.3 145.2 166.5 180.1 190.4 205.9 217.6 270.8 320.2 ELWY_US_Routing 84.6 112.9 134.0 165.0 191.9 209.5 222.9 243.2 258.4 322.9 384.8

Yn ystod cyfnodau dychwelyd isel mae’r llifau hyn ond 5% yn uwch na’r llifau a geir drwy ddefnyddio dull ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrifon Llifogydd ond o ran y cyfnodau dychwelyd mwy mae’r llifau hyd at 20% yn Llanelwy. Mae’r llifau bellach yn fwy cyson na’r rhai sy’n seiliedig ar y mesurydd wrth Bont Y Gwyddel, h.y. mae amcangyfrif o lif yn cynyddu yn unol â’r cynnydd yn arwynebedd y dalgylch. Cynigir y dylid defnyddio’r llifau dylunio hyn bellach fel y llifau dylunio ar gyfer Llanelwy.

2.4.1 Profion Sensitifrwydd

Cynhaliwyd profion sensitifrwydd ar rai o’r rhagdybiaethau gan gynnwys;

Paramedrau ReFH rhagosodedig ar gyfer pob dalgylch. Mae’n hyn yn gofyn am dynnu briglifau ar raddfa wahanol.

Dim tynnu mewnlifau ReFH yn ôl graddfa, gadael Pont Y Gwyddel wedi’i thynnu yn ôl graddfa briglifau ystadegol ond heb dynnu’r mewnlifau eraill yn ôl graddfa.

Parhad - Tynnu graddfa yn ôl gwerthoedd 18.25awr gan mai’r rhain yw’r llifau uchaf yn ReFH wrth Bont y Gwyddel. Addasu parhad ar gyfer pob mewnlif, pennu llif yn Llanelwy. Yn bennaf, cadarnhau nad yw’r cyfuniad o lifau yn arwain at barhad arall yn mynd yn bwysig.

Tabl 2-7 Profion Sensitifrwydd Llifau Llifogydd Dylunio tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%

Model a gafodd ei redeg Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol o 1% Briglif yn Llanelwy (m3/e)

Digwyddiad Dylunio 222.9

Page 22: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 13

Paramedrau ReFH rhagosodeig (sy’n gofyn am dynnu graddfa wahanol i friglif Pont Y Gwyddel)

222.4

Dim tîm graddio ar fewnliifau ReFH ychwanegol

226.8

Storm sy’n para 8.25 214.0

Storm sy’n para 12.25 220.0

Storm sy’n para 18.25 (digwyddiad dylunio)

222.9

Storm sy’n para 24.25 219.4

Storm sy’n para 36.25 203.7

Nid yw’r profion a gynhaliwyd yn dangos fawr ddim gwahaniaeth ar y cyfan i friglifau tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% ac felly maent yn awgrymu bod y dull gweithredu yn gymharol gadarn ac nad yw’n rhy sensitif i’r rhagdybiaethau a luniwyd.

2.5 Difrifoldeb Llifogydd mis Tachwedd 2012 Mae llifogydd mis Tachwedd 2012 hefyd wedi cael eu modelu mewn modd tebyg i’r llifogydd dylunio. Pennir mewnlif Pont y Gwyddel ar 212 m3/e a chaiff mewnlifau eraill eu cynnwys yn seiliedig ar fewnbynnau glawiad priodol (yn seiliedig ar fesuryddion glaw Plas Pigot a Llanelwy) i unedau ReFH wedi’u graddnodi. Mae hyn yn rhoi briglif o 248.5 m3/e yn Llanelwy.

Byddai dull ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd yn awgrymu cyfnod dychwelyd, sef AEP rhwng 0.5% a 0.2% (unwaith mewn 200 ac unwaith mewn 500 mlynedd) ond nid yw hyn yn gyson â dull Ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd wrth fesurydd Pont Y Gwyddel sydd â chyfnod dychwelyd o tua .67% AEP (unwaith mewn 150 mlynedd) ac nid yw’n gweld fawr ddim cynnydd yn y llif ar gyfer y dalgylch ychwanegol o tua 50km2 o’r fan honno i Lanelwy. Felly caiff y dull modelu yn ôl dalgylch ei ffafrio ar gyfer amcangyfrifon o’r digwyddiad dylunio yn Llanelwy sy’n rhoi llifau uwch na dull Ystadegol y Llawlyfr Amcangyfrif Llifogydd e.e. mae digwyddiad. AEP o 1% yn Llanelwy yn cynyddu o 190 i 223 m3/e.

Wrth Bont y Gwyddel ac yn Llanelwy mae difrifoldeb llifogydd mis Tachwedd 2012 yn nes at ddigwyddiad unwaith mewn 150 mlynedd (AEP o 0.67%) neu o ystyried yr ansicrwydd annatod gellir dweud ei fod yn ddigwyddiad AEP o rhwng 1% a 0.5% (unwaith mewn 100 mlynedd ac unwaith mewn 200 mlynedd).

2.6 Hydrograffau’r Model Hydrolig O ran efelychiadau modelu ansefydlog, mae angen set o hydrograffau o fewn ISIS. Lluniwyd y rhain o fewn dull ReFH drwy ddefnyddio unedau ffiniau ReFG o fewn ISIS. Defnyddiwyd enghraifft o storm sy’n para 18.25 awr oherwydd gwelwyd mai hon sy’n arwain at y briglifau mwyaf yn ystod yr asesiad hydrolegol. Defnyddiwyd y model hydrolegol i brofi storm sy’n para 18.25 awr a storm sy’n para 24.25 awr er mwyn canfod a gafodd y rheolaethau hydroleg yn y system effaith ar raddfa’r llifogydd a’r lefelau dŵr brig a ragwelir ar gyfer stormydd o wahanol hyd. Arweiniodd storm sy’n para 18.25 awr at y lefelau dŵr brig uchaf a’r llifogydd mwyaf ac felly fe’i defnyddiwyd ar gyfer y digwyddiadau dylunio.

Ar gyfer pobl digwyddiad dylunio a fodelwyd, tynnwyd y hydrograffau ReFH a ragwelwyd wrth Bont Y Gwyddel yn ôl graddfa’r amcangyfrifon o’r briglif yn Nhabl 2-6. Yna cafodd y ffactor graddio a ddefnyddiwyd ar gyfer Pont Y Gwyddel ei gymhwyso at fewnlifau ReFH y model arall er mwyn bod yn gyson drwy’r model cyfan. Nodir y ffactorau graddio yn Nhabl 2-8.

Page 23: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 14

Trafodir mewnlifau’r model yn fanwl yn Adran 3-1, sy’n esbonio sut y cafodd y model hydrolig ei raddnodi ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012.

Tabl 2-1 Ffactorau Graddio Llanelwy

Cyfnod Dychwelyd

Ffactor Graddio

3.33% 1.33% 1% 0.50% 0.10%

0.864 0.883 0.888 0.889 0.912

2.7 Graddio Pont Y Gwyddel Ar gyfer yr ymchwiliad hydrolegol a gynhaliwyd ac a nodwyd uchod defnyddiwyd cromlin raddio bresennol Cyfoeth Naturiol Cymru yng ngorsaf fesur Pont Y Gwyddel, gyda lwfans ychwanegol ar gyfer llif a aeth heibio i’r mesurydd yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012. Wrth i’r gwaith barhau daeth yn amlwg y bydd angen adolygu graddio wrth fesurydd Pont Y Gwyddel yn fwy ffurfiol er mwyn cael mwy o hyder yn y llifau a amcangyfrifwyd wrth y mesurydd ac i lawr yr afon, ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012 a’r digwyddiad dylunio.

Gan fod gwaith gwella wedi’i gynnal wrth fesurydd Pont y Gwyddel yn 2006,mae’r graddio presennol yn seiliedig ar fesuriadau ar hap a wnaed ers i’r gwaith adeiladu gael ei orffen yn ogystal â modelu hydroleg i ymestyn y graddio y tu hwnt i’r llifau a fesurwyd. Adolygwyd y graddi ddiwethaf yn 209 gan Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd 19 o fesuriadau llif ar gael ar y pryd ar gyfer llifau isel i ganolig gyda’r llif uchaf a fesurwyd yn 67.3m3/e; defnyddiwyd model hydrolig 1-D yn unig i ymestyn y graddio. Gan fod mwy o fesuriadau ar gael bellach a’r llif uchaf a fesurwyd yw 102m3/e, mae posibilrwydd o wella’r broses raddio drwy fodleu safle’r mesurydd gan ddefnyddio model 1D-2D cysylltiedig. Mae’r tîm hydrometri yn cynghori nad oes digon o ddata o bosibl i gynnal ymarfer ailraddio llawn ond byddai’n fuddiol adolygu’r graddio cyn y bydd unrhyw opsiynau ar gyfer cynllun amddiffyn rhag llifogydd i Lanelwy yn cael eu hystyried, gan y gall gel effaith ar y cyfnodau dychwelyd.

Gall fod i unrhyw newidiadau i’r graddio oblygiadau o ran y gwerthoedd QMED a gyfrifir drwy Lanelwy gan fod Pont Y Gwyddel wedi’i defnyddio fel rhodd safle i amcangyfrif QMED. Fodd bynnag, efallai na fydd newid yn y graddio ar gyfer lifau uwch yn effeithio ar QMED. Os bydd mwy o hyder yn y mesurydd ar gyfer llifau uchel ar ôl adolygiad graddio, gallai safle Pont y Gwyddel gael ei gynnwys o bosibl yn y grŵp cyfun a ddefnyddir i bennu cromliniau twf ar gyfer mannau amcangyfrif llif Llanelwy. Ar hyn o bryd dosberthir y mesurydd yn un nad yw’n addas ar gyfer cyfuno yn HiFlows 3.1.2 oherwydd gwyddys bod llif wedi mynd heibio i’r safle. Mae HiFlows yn argymell bod angen gwerthuso’r llif a aeth heibio a bod terfyn cyfredol hyder wrth y mesurydd tua 2.4m. Efallai y bydd newidiadau i’r llifau a amcangyfrifwyd ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2014 yn gofyn am ailgyfrifo’r model hydroleg i ryw raddau.

Page 24: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 15

3. Model Hydrolig

3.1 Trosolwg Mae model hydrolig ISIS-TUFLOW presennol Afon Elwy drwy Lanelwy (a adeiladwyd gan JBA yn 2011) wedi cael ei diweddaru a’i raddnodi yn seiliedig ar y data sydd ar gael ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012. Mae’r adran hon yn disgrifio’r fersiwn o’r model a ddatblygwyd drwy’r astudiaeth hon a ddefnyddiwyd i baratoi’r gwaith mapio llifogydd y gellir ei gyflawni ar gyfer Afon Elwy drwy Lanelwy, Mae Adran 4 yn disgrifio’r broses raddnodi yr ymgymerwyd â hi yn sgil llifogydd mis Tachwedd 2012 yn fanwl.

3.2 Model ISIS Mae’r rhan fwyaf o drawstoriadau ISIS yn seiliedig ar ddata arolwg a gasglwyd yn 1999. Cafodd trawstoriadau ar strwythurau yn y model eu diweddaru ar gyfer astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 drwy ddefnyddio data a gasglwyd gan InfoMap Surveys Ltd yn 2011. Ni chafodd data arolwg ychwanegol eu casglu ar gyfer yr astudiaeth hon; fodd bynnag mae model ISIS wedi cael ei ddiweddaru drwy’r broses raddnodi Mae’r adran hon yn disgrifio’r model ISIS a ddefnyddiwyd i ddiweddaru’r gwaith mapio llifogydd y gellir ei gyflawni.

Mae’r model hydrolig wedi cael ei ymestyn drwy ymgorffori hyd afon Clwyd i lawr yr afon o’r cydlifiad ag Afon Elwy hyd at Ruddlan er mwyn gwella’r ffordd y darlunnir y ffin i lawr yr afon yn y model. Daw trawstoriadau Afon Clwyd yn uniongyrchol o fodel ISIS Clwyd a adeiladwyd gan JBA yn 2011 ar gyfer Ymarfer Diweddaru Map Llifogydd Afon Clwyd Lanwol5. Ni chafodd trawstoriadau Clwyd eu newid ar gyfer yr astudiaeth hon.

Dangosir diagram o ISIS-TuFLOW Afon Elwy yn Ffigur 3-1, yng nghefn yr adroddiad hwn.

Ffigur 3-1 Diagram o Fodel ISIS-TuFLOW Afon Elwy (yng nghefn yr adroddiad)

3.2.1 Darlunio Strwythurau

Mae pum strwythur yn y model hydroleg. Disgrifir isod y strwythurau a’r ffordd y cânt eu darlunio yn y model. Mae rhai o’r strwythurau wedi cael eu diweddaru o ganlyniad i’r broses raddnodi a thrafodir y newidiadau hyn yn Adran 4 o’r adroddiad hwn.

Hen Bont Llanelwy

Mae’r A525 (Stryd Fawr) yn mynd ar hyd Hen Bont Llanelwy a dyma’r strwythur cyntaf a gynhwysir yn y model. Pont garreg fwaog fawr ydyw, sydd â phum agoriad ac mae wedi’i modelu ag uned ARCH BRIDGE o fewn ISIS. Diweddarwyd geometreg y bont yn 2011 drwy ddefnyddio data arolwg a gasglwyd gan InfoMap Surveys Ltd ym mis Ionawr 2011. Nid yw senario gorlifo’r strwythur wedi cael ei fodelu oherwydd rhagwelir mai 16.05m uwchlaw’r seilnod ordnans fyddai’r lefel dŵr brig yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%, sydd 1.22m yn is na lefel isaf canllaw’r bont. Felly, ni chaiff y strwythur hwn ei orlifo yn ystod unrhyw un o’r digwyddiadau cyfnod dychwelyd a fodelwyd yn yr astudiaeth hon.

Ceir wal yn union i fyny’r afon o’r bont ar y lan ochr chwith er bod bwlch rhwng y wal a’r bont; dangosir y ddau strwythur yn Ffigur 3-2. Mae’r wal yn ymestyn tua 80m i fyny’r afon o’r bont ac ymhellach i fyny’r afon mae’n mynd ynghlwm wrth arglawdd pridd rhag llifogydd drwy ardd gefn sawl eiddo preswyl

5 Ymarfer Diweddaru Map Llifogydd Afon Clwyd Lanwol, JBA, 2011

Page 25: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 16

Mae’r defnydd o’r opsiwn llif drwy agorfa ar gyfer llif sy’n gorlifo’r bont wedi cael ei gadw o fodel astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 gyda’r pellter trawsyrru yn aros yn 0.25m uwchlaw ac islaw bondo’r bont. Mae’r opsiwn hwn wedi bod ar gael ers fersiwn 3.3 o ISIS ac mae’n modelu’r bont gyda hafaliad agorfa os yw’r strwythur yn llifo’n llawn. Mae hyn yn rhywbeth na allai ISIS ei ddarlunio’n dda yn y gorffennol. Cynyddir y lefelau dŵr brig a ragwelir wrth ddefnyddio’r opsiwn llif drwy agorfa ond ystyrir bod hyn yn briodol a dyna’r hyn yr argymhellir y dylid ei ddefnyddio erbyn hyn. Defnyddiwyd yr opsiwn hwn ar gyfer pob pont yn y model.

Ffigur 3-2 Hen Bont Llanelwy a’r wal i fyny’r afon

Pont Beicwyr

Ni chafodd y bont i feicwyr ei chynnwys yn y model hydroleg ar gyfer astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 ac ni chafodd ei chynnwys yn y model a ddatblygwyd ar gyfer yr astudiaeth hon. Dengys yr arolwg o uchder y glannau o 2011 godiad yn lefel yr arglawdd ar y lan ochr chwith a’r lan ochr dde i tua 15.85m uwchlaw’r seilnod ordnans yn lleoliad y bont o tua 15.00m uwchlaw’r seilnod ordnans felly mae’r bont yn sylweddol uwch na lefelau uchaf amddiffynfeydd i fyny’r afon ac i lawr yr afon. Mae tynnu graddfa o ddarlun fel y’i hadeiladwyd (a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru) yn awgrymu lefel bondo o tua 15.08m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae hyn yn uwch na lefelau amddiffynfeydd i fyny’r afon (ar y lan ochr chwith yn arbennig) ac ni chaiff ei gyrraedd hyd yn oed yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 0.1% (ceir lefelau dŵr brig o 14.99m uwchlaw’r seilnod ordnans yn y trawstoriad agosaf i fyny’r afon). Felly, o ystyried bod bondo’r bont yn uwch na lefel yr amddiffynfeydd a lefel llifogydd, mae’n annhebygol y bydd y bont yn dylanwadu ar y canlyniadau ac felly nid yw wedi’i chynnwys yn yr ymarfer modelu.

Pont Ffordd yr A55

Mae hon yn bont lefel uchel, y mae ffordd yr A55 yn mynd ar hyd-ddi; ceir wyth piler ar y naill ochr a’r llall i’r sianel yng nghyfeiriad y llif sy’n creu tri agoriad ar draws y sianel wrth y bont.

Page 26: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 17

Yn astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011, cafodd y bont ei darlunio drwy ddefnyddio uned ARCH BRIDGE. Ar gyfer yr astudiaeth hon, defnyddiwyd uned USBPR 1978 BRIDGE er mwyn caniatáu i ddylanwad y pileri ar lif gael ei fodelu’n fwy penodol. Mae’r pileri wedi’u darlunio drwy ddefnyddio tab Data Pileri o fewn uned y bont, cyfanswm lled y pileri yw 2.2m (cyfanswm lled y pileri ar draws y sianel) ac mae Nifer y Pileri wedi’i osod yn dri neu fwy (gan fod wyth yng nghyfeiriad y llif) Mae siâp y pileri wedi’i osod yn silindr ac iddo wynebau lled-gylchol. Ymddengys nad yw newid y ffordd y darlunnir y bont hon yn cael fawr effaith ar y llifogydd a ragwelir ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012 ond mae uned y bont wastad â phileri wedi cael ei chadw gan ei bod yn cynnig darluniad mwy cywir o’r bont mewn gwirionedd. O ystyried uchder y bont uwchlaw’r sianel, nid yw gorlifo yn debygol o ddigwydd wrth ymyl y strwythur hwn ac felly nid yw wedi’i fodelu mewn 1D na 2D.

Pont Spring Gardens

Mae pont Spring Gardens yn gwasanaethu’r Gwaith Trin Carthion a Pharc Gwyliau a hamdden Spring Gardens i lawr yr afon o ffordd yr A55 yn Llanelwy. Mae’r bont wedi’i darlunio drwy ddefnyddio uned ARCH BRIDGE gydag un agoriad fel yn astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011. Yn ystod yr astudiaeth honno profwyd uned USBPR 1978 BRIDGE er mwyn darlunio’r strwythur bwrdd gwastad hwn ac arweiniodd at lefelau dŵr ychydig yn is. Mae bondo’r bont yn isel ac mae’n cyfyngu ar lifau. Profwyd cyfluniadau eraill i ddarlunio’r bont yn y model er mwyn cadarnhau sensitifrwydd y model i’r strwythur hwn. Y cyfluniadau a brofwyd oedd:

Paramedr graddnodi rhagosodedig ARCH BRIDGE (1) fel yn astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011

USBPR 1978 BRIDGE gyda pharamedr graddnodi rhagosodedig (1)

Uned ORIFICE

Cadwyd darluniad ARCH BRIDGE o astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 ar gyfer yr astudiaeth hon gan nad oedd newid y ffordd y darlunnir y bont yn cael unrhyw effaith ar lefelau dŵr pan ddefnyddir yr opsiwn llif ag agorfa i fodelu’r gorlif wrth y bont.

Pont droed

Ceir pont droed 600m i fyny’r afon o gydlifiad Afon Elwy ag Afon Clwyd. Mae’r bont droed i lawr yr afon o’r dref ac ni ragwelir y bydd yn cael effaith ar lefelau dŵr brig drwy Lanelwy gan fod lefel ei bondo yn gymharol uchel. Ni ddiweddarwyd y ffordd y darlunnir y bont yn astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 ac ni chasglwyd data arolwg newydd ar gyfer y strwythur hwn. Yn yr un modd, nid yw’r strwythur wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer yr astudiaeth hon a chaiff ei darlunio drwy ddefnyddio uned ARCH BRIDGE. Nid yw gorlifo’r strwythur wedi’i fodelu gan nad yw’r strwythur yn llifo’n llawn yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%.

Pont Rhuddlan

O fewn y rhannau ychwanegol sy’n darlunio Afon Clwyd i lawr yr afon o Afon Elwy a ddefnyddiwyd i ymestyn y model i Ruddlan, ceir un strwythur a elwir yn Bont Rhuddlan. Mae hon yn bont fwaog ac iddi ddau agoriad ac mae wedi’i darlunio o fewn y model drwy ddefnyddio uned ARCH BRIDGE. Daw’r strwythur yn uniongyrchol o fodel Afon Clwyd a ddatblygwyd gan JBA yn 2011 ac nid yw wedi’i newid ar gyfer yr astudiaeth hon, yn bennaf am ei fod i lawr yr afon o’r ardal o ddiddordeb ac nad yw’n strwythur allweddol yn y model. Atodir gorlif 1D i’r strwythur hwn yn ISIS er mwyn darlunio gorlifo’r bont.

Page 27: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 18

3.3 Parth TuFLOW 2D Datblygwyd model gorlifdir 2d TuFLOW fel rhan o astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 ac mae wedi’i gysylltu â model ISIS 1D o Afon Elwy. Mae maint y parth 2D o astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 wedi’i gadw ac fe’i dangosir yn Ffigur 3-3. Mae’r parth wedi cael ei bennu drwy dopograffeg i’r dwyrain ac i’r gorllewin o Lanelwy, ac mae’n dilyn ffiniau caeau a ffyrdd yn aml lle y bo’n gymwys. Gwnaed gwiriad er mwyn sicrhau bod hyn yn cynnwys digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol amddifynedig/diamddiffyn o 1%. Yn ystod llifogydd mawr, rhagwelir y bydd dŵr llifogydd o Afon Elwy yn ymestyn ymhellach i lawr yr afon o Lanelwy gan ymuno â gorlifdir Afon Clwyd. Mae gan Afon Clwyd ei hun argloddiau llanwol mawr (i lawr yr afon o Afon Elwy) sy’n atal gorlifo afonol a llanwol o Afon Clwyd, ond sydd hefyd yn atal dŵr llifogydd o Afon Elwy rhag mynd i mewn sianel Afon Clwyd unwaith eto.

Ffigur 3-3 Parth 2D Afon Elwy

Ceir dwy ffin i lawr yr afon o fewn y parth 2D. Mae ffin HT yn diffinio cyflwr y ffin 2D a hyd Afon Clwyd i lawr yr afon o Afon Elwy. Ar gyfer y model wedi’i raddnodi, cymhwyswyd lefelau cofnodedig Rhuddlan at y ffin hon. Cynhaliwyd profion sensitifrwydd er mwyn canfod effaith y ffin hon i lawr yr afon drwy newid lefelau ±1m.

Page 28: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 19

Dangosodd canlyniadau’r profion sensitifrwydd na chafodd unrhyw newid i ffin HT i lawr yr afon effaith ar y llifogydd a ragwelwyd drwy Lanelwy.

Cafodd ffin y model i lawr yr afon ei gyflunio ar hyd amddiffynfeydd Afon Clwyd lle y bo modd neu fel arall ei gosod ar draws gorlifdir Afon Clwyd yn ddigon pell i lawr yr afon fel nad oedd unrhyw effaith ar raddfa llifogydd a fodelwyd yn Llanelwy. Mae Ffigur 3-4 isod yn cymharu lefelau’r amddiffynfeydd ar hyd Afon Clwyd â lefelau dŵr afonol brig yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 0.1% yn Afon Clwyd (a ddaw o Strategaeth 2011). Dengys hyn na ragwelir y bydd y lefelau dŵr brig yn Afon Clwyd yn mynd yn uwch nag uchder yr amddiffynfeydd. Gwnaed gwiriad hefyd er mwyn sicrhau nad yw dŵr llifogydd o Afon Elwy yn gorlifo’r arglawdd yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 0.1%.

Ar hyd ffin TuFLOW, mae’r ffin HT hefyd wedi’i chymhwyso lle mae rhyngweithio rhwng dŵr llifogydd yn Afon Clwyd ac Afon Elwy yn debygol. Mae hyn yn darlunio unrhyw all-lif i mewn i Afon Clwyd o ddŵr llifogydd Afon Elwy, ond mae hefyd yn darlunio mewnlif i’r gorlifdir o Afon Clwyd. Mae hyn yn atal dŵr llifogydd rhag cronni wrth ymyl y ffin i lawr yr afon. Felly mae graddfa’r llifogydd o ganlyniad i hynny yn debygol o fod yn llinell syth wrth ffin gorlifdir Afon Clwyd a dylid ystyried hyn wrth ddiweddaru’r Map Llifogydd.

Ffigur 3-4 Rhyngweithio rhwng Argloddiau Afon Clwyd a’r Model

!(

!(

!(!(

!(

!(

!(

!(

!(

5.51

6.02

6.14

6.82

6.17

!( Clwyd River Sections

Clwyd HT Boundary

Modelled River Elwy

Clwyd Defence

LiDAR

m

32

6

6.09

0.1% AEP Peak Water Levels

6.11

5.56

6.08

6.45

6.49

Elevation (m AOD)

Height of Clwyd Defence

6.61

6.55

6.85

8.01

9.63

7.02

River Clwyd

River

Elw

y

Contains Ordnance Survey data. © Crown copyright and database right [2011].

Yn cynnwys data Arolwg Ordnans. © Hawlfraint a hawliau cronfa ddata y Goron [2014].

Rhannau Afon Clwyd

Ffin HT Clwyd

Afon Elwy wedi’i Modelu

Amddiffynfa Clwyd

Uchder (mAOD)

TGB Lefelau Dŵr Brig 0.1%

Uchder Amddiffynfa Clwyd

Crëwyd grid model 2D sy’n cwmpasu’r gorlifdir o ddata LiDAR wedi’u hidlo ar eglurder o 4m. Dewiswyd hyn fel maint cell priodol er mwyn modelu’r ffordd y mae llifogydd yn symud ar hyd llwybrau llifo disgwyliedig yn y dref. Ar gyfer astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 cynhaliwyd prawf sensitifrwydd drwy ddefnyddio cell 2m o faint ar gyfer grid y model ond o ystyried maint y parth 2D, aweiniodd hyn at amseredd rhedeg anhydrin.

Page 29: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 20

Pennwyd uchder y gorlif rhwng ISIS a TuFLOW drwy ryngosod yn llinellol lefelau glannau o’r arolwg o uchder y glannau a gynhaliwyd gan InfoMap Surveys Ltd, Ionawr 2011. Drwy’r dref, darparodd yr arolwg o uchder y glannau lefelau glannau bob tua 10m yn fras. Y tu allan i’r ardal drefol, ni chynhelid arolwg o uchder y glannau yn rheolaidd felly daw uchder y glannau yn y rhanbarthau hyn o bob rhan o’r afon a arolygwyd. Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd y model a gwella ei eglurder, ychwanegwyd pwyntiau uchder ychwanegol (yn seiliedig ar ddata LiDAR wedi’u hidlo) mewn nifer o ardaloedd, gan gynnwys 1) glan ochr chwith Afon Elwy yn union y fyny’r afon o Nant Glascoed a 2) glan ochr dde Afon Elwy yn union i fyny’r afon ac i lawr yr afon o Bont Ffordd yr A55. Ar lan ochr chwith Afon Elwy, i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy, cadwyd brig lefelau muriau a arolygwyd o’r arolwg o uchder y glannau yn y model ar gyfer y digwyddiadau amddiffynedig.

Mae’r modelau 1D a 2D wedi’u cysylltu drwy system linellol o ffiniau TuFLOW (HX) sy’n pennu’r diferlif ar draws y ffiniau 1D a 2D. Snapiwyd y ffiniau HX hyn hyd at frig y lan (a ddisgrifir uchod).

Yn ogystal â’r ffiniau HX, roedd angen ychwanegu ffin TUFLOW (HQ) i lawr yr afon (yn debyg i ffin llif arferol) ar draws gorlifdir agored Afon Clwyd er mwyn caniatáu i ddŵr llifogydd adael y parth 2D (Ffigur 3-3). Mae hyn yn atal dŵr rhag cronni yn erbyn ffin y model 2D i lawr yr afon a all arwain at amlinelliadau llifogydd afrealistig.

Cymhwyswyd mân addasiad topograffi ar lan ochr dde Afon Elwy yng Ngwaith Trin Carthion Llanelwy, er mwyn dileu man isel yn y LiDAR. Mae’r man isel yn cyd-daro â’r gwelyau trin yng Ngwaith Trin Carthion Llanelwy gan nad yw LiDAR wedi nodi lefelau dŵr yn y gwelyau yn gywir. Mae uchder y gwely wedi’i gynyddu i 10.55m uwchlaw’r seilnod ordnans (h.y. lefelau’r tir o’i amgylch). Nid yw hyn yn afrealistig gan y byddai’r gwelyau trin yn debygol o fod yn llawn dŵr (h.y. ni fyddai ganddynt fawr ddim lle storio, os o gwbl) a hefyd y byddai wal o’u hamgylch a fyddai’n atal dŵr llifogydd rhag cyrraedd y gwelyau.

Defnyddiwyd llinell z TuFLOW i ddarlunio’r amddiffynfa uwch ar hyd glan ochr chwith Nant Glascoed. Mae hyn yn seiliedig ar yr arolwg o uchder y glannau a gynhaliwyd gan InfoMap Surveys Ltd, Ionawr 2011. Yn ychwanegol at hyn, gwnaed addasiadau DEM pellach i godi lefelau amddiffynfeydd Afon Clwyd mewn ardaloedd sydd wedi’u hidlo o’r LiDAR.

Defnyddiwyd clytiau siâp z a phwynt z TuFLOW hefyd i ddarlunio bwrdd y bont yn Hen Bont Llanelwy, Pont Ffordd yr A55 a Phont y Gwaith Trin Carthion. Er mwyn i’r model wedi’i raddnodi ddarlunio llifogydd mis Tachwedd 2012, cymhwyswyd llinell z ar draws canllaw ochr Pont Spring Gardens sy’n wynebu i fyny’r afon sy’n codi lefelau i lefel y bwrdd gwirioneddol ynghyd â 30% o uchder y rheilen. Tybiwyd lle mae sbwriel wedi ymgasglu yn rheilen y bont, y câi’r llif ei atal yn llwyr.

Ar draws parth TuFLOW, mae gwerthoedd garwedd hydrolig sy’n amrywio’n ofodol wedi’u pennu drwy ddefnyddio data MasterMap AO er mwyn gwahaniaethu rhwng ffyrdd, adeiladau a mannau agored. Nid yw’r rhain wedi’u newid ers astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011. Mae Tabl 3-3 yn nodi’r gwerthoedd garwedd gorlifdir a ddefnyddiwyd. Pennwyd gwerthoedd garwedd uchel ar gyfer adeiladau er mwyn atal symudiad dŵr ond pennwyd gwerth garwedd is ar gyfer ffyrdd, lwybrau a phalmentydd er mwyn adlewyrchu’r ffaith y byddai’r arwynebau llyfnach hyn yn debygol o weithredu fel llwybrau llif a ffefrir yn ystod llifogydd. Ychwanegwyd clwt bach o arwedd uwch (n o 1 Manning) ar derfyn y model ISIS i lawr yr afon er mwyn helpu i sefydlogi’r model.

Tabl 3-1 Gwerthoedd Garwedd Gorlifdir Llanelwy

Categori Mastermap AO Math o ddefnydd tir Gwerth Garwedd n Manning 1 Ffyrdd, Llwybrau a Phalmentydd 0.025 2 Dŵr Mewndirol 0.03 3 Adeiladau 1.00 4 Amgylchedd a Phrysgwydd

Naturiol 0.065

Page 30: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 21

5 Arwynebau Cyffredinol e.e. gerddi 0.05 6 Strwythurau 0.065 7 Conwydd a choed nad ydynt yn

gonwydd0.07

Page 31: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 22

4. Graddnodi’r Model Hydrolig

4.1 Data sydd ar gael

4.1.1 Data Hydrometrig

Ceir nifer o fesuryddion hydrometrig o fewn ardal yr astudiaeth ac yn y cyffiniau; dangosir y rhain yn Ffigur 4-1.

Ffigur 4-1 Lleoliadau Mesuryddion Hydrometrig

Rhuddlan

St Asaph

Pont Y Gwyddel

Padog

Denbigh

Pensarn

St Asaph

Gwytherin

Plas Pigot

Colwyn Bay

Llanrwst STW

Betws-y-Coed

Alwen Telemetry

Gauging Stations

Flow and level

Level only

Raingauges

Llif a lefel

Lefel yn unig

Mesuryddion glaw

Gorsafoedd Mesur

© Hawlf raint y Goron. Cedwir pob hawl Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Data Llif

Mae mesurydd llif Pont y Gwyddel ar Afon Elwy i lawr yr afon o’r cydlifiad ag Afon Clwyd a thua 15km i fyny’r afon o Lanelwy (gweler Ffigur 4-1). Darparwyd data llif wrth Bont y Gwyddel gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng 01/01/2009 a 31/12/2012. Darparwyd gwybodaeth am raddio a bennwyd ar gyfer y mesurydd hefyd.

Mae gan y mesurydd gofnodion cymharol hir yn dyddio’n ôl 39 mlynedd; cynhaliwyd gwaith yn 2009 i leihau faint o lif a oedd yn mynd heibio i’r mesurydd wrth ymyl y safle, a fu’n broblem gynt yn ystod llifau mawr. Mae data o’r mesurydd o safon dda gyda 94% o’r data a ddarparwyd wedi’u graddio fel ‘Da o fewn graddio’, ar gyfer y cyfnod data a ddarparwyd nid oes unrhyw ddata ar goll wrth y mesurydd, mae 3% o’r data wedi’i nodi fel ‘Amcangyfrifwyd islaw’r terfyn isaf ac mae 2% wedi’i labelu heb eu gwirio (mae’r rhan fwyaf o hyn yn ddata o tua diwedd mis Rhagfyr 2012). Yn ystod llifau uchaf llifogydd mis Tachwedd 2012, mae’r data wrth y mesurydd wedi’u labelu fel ‘Amcangyfrifwyd y tu hwnt i’r terfyn uchaf’. Defnyddiwyd y graddio wedi’i allosod ar gyfer y mesurydd i gyfrifo’r llifau yn ystod y cyfnod hwn.

Page 32: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 23

Data Lefelau

Roedd data ar lefelau ar gael ar gyfer y mesuryddion canlynol o fewn dalgylch Afon Elwy:

Pont Y Gwyddel (CGC 295250, 371800)

Llanelwy (CGC 303400, 374850)

Rhuddlan (CGC 303250, 376600)

Darparwyd data ar lefelau ar gyfer pob un o’r mesuryddion ar gyfer y cyfnod 01/01/2009 to 31/12/2012.

Mae mesurydd Llanelwy yn wynebu i lawr yr afon o Bont Ffordd yr A55 dros Afon Elwy yn Llanelwy a chofnododd lefelau yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012. Fodd bynnag, y lefel frig a gofnodwyd yn yr orsaf fesur ar gyfer y llifogydd oedd 4.352m (13.264m uwchlaw’r seilnod ordnans) ond lefel frig yr afon a gofnodwyd â llaw ar y safle oedd 4.78m (13.692m uwchlaw’r seilnod ordnans) sef 0.428m yn uwch na lefel y mesurydd. Mae man mesur y staff lle y mesurwyd y lefel â llaw i fyny’r afon o biler pont ffordd yr A55. Ni ddeellir yn llwyr pam na chofnododd y mesurydd lefel frig y llifogydd ond efallai fod rhwystr wrth y mesurydd gan yr ymddengys bod y mesurydd wedi unioni ei hun pan aeth y dŵr o dan lefel glannau llawn. Dangosir cyfres amser y lefel wrth y mesurydd yn ystod y llifogydd yn Ffigur 4.2. Defnyddiwyd cyfres amser y lefel i raddnodi model hydrolig Afon Elwy drwy Lanelwy, er i’r briglif uwch a gofnodwyd â llaw gael ei ddefnyddio wrth raddnodi.

Ffigur 4-2 Lefelau Cofnodedig Mesurydd Llanelwy yn ystod Llifogydd mis Tachwedd 2012

Time t26/11/2012 27/11/2012 27/11/2012 28/11/2012 28/11/201212:00 00:00 12:00 00:00 12:00

SG

[m]

2

3

4

066627.SG.15.P

Amser a

ML

1 [m

]

Data Glawiad

Darparwyd data ar 15 munud o law ar gyfer y mesuryddion glaw canlynol sy’n cwmpasu dalgylch Afon Elwy a’r cyffiniau:

Page 33: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 24

Alwen (CGC 295986, 352748)

Betws-y-coed (CGC 280286, 357077)

Bae Colwyn (CGC 285816, 378474)

Dinbych (CGC 307032, 366440)

Gwytherin (CGC 287884, 361536)

Gwaith Trin Carthion Llanrwst (CGC 279566, 361824)

Padog (CGC 283003, 351564)

Pensarn (CGC 295156, 378850)

Plas Pigot (CGC 295183, 364643)

Llanelwy (CGC 303327, 375166)

Darparwyd data ar gyfer pobl un o’r mesuryddion rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2012.

Darparwyd data glaw radar HYRAD gan Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd. Fe’u cymharwyd â data a gofnodwyd wrth y mesuryddion glaw a darparodd wybodaeth am batrwm llifogydd yn nalgylch Afon Elwy. Darparwyd dyfnder glaw HYRAD rhwng 9:00 20/11/2012 a 08:45 30/11/2012. Darparwyd data HYRAD ar gyfer lleoliadau mesuryddion glaw Plas Pigot a Gwytherin o fewn dalgylch Pont Y Gwyddel ac fe’u cymharwyd â’r data a gofnodwyd wrth bob mesurydd glawiad. Roedd cyfanswm data glaw HYRAD ar gyfer y cyfnod y darparwyd ar ei gyfer yn llai na’r data glaw cofnodedig wrth y ddau fesurydd, fodd bynnag nid oedd y data yn gyson is drwy’r cofnod.

Darparwyd delweddau HYRAD gan Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn dangos patrwm llifogydd yn y dalgylch a lle y cafwyd y glaw mwyaf. Roedd y rhain yn ddefnyddiol wrth benderfynu ar y data i’w defnyddio o’r mesuryddion glaw o fewn y model wedi’i raddnodi, ond ni ddefnyddiwyd dyfnderoedd glaw HYRAD cofnodedig yn y model mewn gwirionedd.

Yn union ar ôl llifogydd mis Tachwedd 2012, dadansoddodd Cyfoeth Naturiol Cymru y data ar lawiad gan gyfrifo amcangyfrifon o’r cyfnod dychwelyd glaw wrth fesuryddion gwahanol o fewn ardal yr astudiaeth gan gynnwys Plas Pigot, Llanelwy, Gwytherin a Dinbych. Daw’r darn isod o adroddiad hydroleg Cyfoeth Naturiol Cymru6.

Analysis of rainfall data gives a range of return periods of between <1month (Pensarn) and 1 in 13 years (Plas Pigot) for the 72 hours up to and including 09:00 on 27/11/12. When the analysis is extended to include rainfall on 22nd November, this gives a range of return periods of between 1 in 2 years (Pensarn) and 1 in 14 years (Plas Pigot). Rainfall totals for the month up to 26th November were not unusual, if looked at without any further information; and in-line with the Long Term Averages for that month. However, rainfall totals for the 7 days leading up to the 26th November were particularly high, with totals on the 26th November significantly so.

O ystyried y data ar lawiad mewn perthynas â llifogydd mis Tachwedd 2012 a’r cyfnodau dychwelyd a gyfrifwyd ar eu pennau eu hunain nid ydynt yn awgrymu llifogydd ar y raddfa a welwyd yn Llanelwy. Mae’r data yn dangos bod lefel uchel o law yn nalgylch Afon Elwy cyn llifogydd mis Tachwedd 2012 ac mae’n debygol bod y dalgylch eisoes yn ddirlawn pan gafwyd y glaw ar 26/27 Tachwedd gan arwain at y llifau uchel a welwyd ar 27 Tachwedd.

6 Hydrology_Flooding North Wales November 2012 FINAL_Amended 030113, Cyfoeth Naturiol Cymru, 2013

Page 34: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 25

4.1.2 Data Topograffig

Darparwyd data LiDAR gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddalgylch Afon Elwy o Bont Y Gwyddel hyd at derfyn y cwrs dŵr i lawr yr afon.

Darparodd Cyfoeth Naturiol Cymru lefelau brig y glannau ar yr argloddiau rhag llifogydd a gofnodwyd yn union ar ôl llifogydd mis Tachwedd 2012 ac fe’u gwiriwyd yn erbyn lefelau’r argloddiau a gynhwyswyd yn y model hydrolig presennol (a gasglwyd gan InfoMap Surveys Ltd yn 2011).

4.1.3 Astudiaethau Blaenorol

Mae nifer o astudiaethau blaenorol wedi cael eu cwblhau o fewn ardal yr astudiaeth ar gyfer y prosiect hwn. Yn fwyaf diweddar, cwblhaodd JBA astudiaeth mapio perygl llifogydd o Afon Elwy drwy Lanelwy yn 2011. Roedd yr astudiaeth mapio perygl llifogydd yn cynnwys dadansoddiad hydrolegol a gwaith datblygu model 1D-2D er mwyn pennu perygl llifogydd yn Llanelwy. Cafodd Strategaeth Clwyd ei chwblhau gan JBA yn 2011 hefyd’; roedd hyn yn cynnwys datblygu model hydroleg o Afon Clwyd. Yn 2007, cwblhaodd JBA astudiaeth a ddatblygodd fodelau rhagweld llifogydd ar gyfer Afon Elwy ac Afon Clwyd.

4.2 Diweddaru Model ISIS

4.2.1 Ymestyn y Model i Fyny’r Afon i Bont Y Gwyddel

Gan fod data o safon dda ar lif ar gael wrth Bont Y Gwyddel ac er mwyn cyfyngu ar ansicrwydd yn y model hydrolig, defnyddiwyd rhannau llwybro i ymestyn y model ISIS presennol i fyny’r afon hyd at fesurydd Pont y Gwyddel. Mae terfyn model hydrolig presennol Afon Elw drwy Lanelwy i fyny’r afon ym Mhlanhigfeydd Bryn-polyn. Mae mesurydd llif Pont y Gwyddel 15km i fyny’r afon o’r lleoliad hwn. Defnyddiwyd trawstoriadau LiDAR bob 1km er mwyn pennu’r rhan lwybro drwy ddefnyddio unedau X-SEC Afon Muskingham yn ISIS.

4.2.2 Mewnlifau’r Model

Pennwyd tri phrif is-ddalgylch ar gyfer terfyn model hydrolig Afon Elwy i fyny’r afon (ym Mhlanhigfeydd Bryn-polyn); fe’u dangosir yn Ffigur 4-3. Atodir ffin mewnlif QT sy’n darlunio’r dalgylch i fyny’r afon o Bont y Gwyddel i’r trawstoriad llwybro bellaf i fyny’r afon o fewn y model. Defnyddiwyd llifau a gofnodwyd wrth Bont y Gwyddel i bennu’r mewnlif hwn i fyny’r afon. Mae’r dalgylch yn mynd dipyn yn fwy rhwng Pont y Gwyddel a therfyn y model hydrolig i fyny’r afon, mae’r mewnlifau ychwanegol ar yr hyd hwn wedi’u darlunio gan fewnlif isafon o fewn y rhan lwybro. Afon Meirchion yw prif isafon Afon Elwy rhwng Pont y Gwyddel a Phlanhigfeydd Bryn-polyn, mae’r mewnlif ychwanegol ar gyfer y dalgylch hwn wedi’i ddarlunio fel mewnlif uniongyrchol i mewn i’r rhan lwybro o’r model. At ddibenion yr asesiad hwn, nid yw’n bwysig bod y dalgylch ochrol i fyny’r afon o Lanelwy wedi’i ddarlunio’n annibynnol o fewn ffin mewnlif isafon Meirchion. Nod y rhan lwybro a mewnlif yr isafon yw sicrhau bod lefelau a llifau dŵr yn gywir i lawr yr afon yn y rhan hydrolig o’r model drwy Lanelwy.

Page 35: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 26

Ffigur 4-3 Is-ddalgylchoedd i fyny’r afon o Lanelwy

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Llif a lefel

Lefel yn unig

Gorsafoedd Mesur

Is-ddalgylchoedd ifyny’r afon o Lanelwy

Meirchion

Is-ddalgylchoedd ochroli fyny’r afon o Lanelwy

Pont Y Gwyddel

Graddfa’r Model Hydrolig Presennol

(Bryn-poly Nurseries)

Cyfanswm arwynebedd Afon Meirchion ac is-ddalgychoedd Ochrol Llanelwy i Fyny’r Afon yw 54.15km2; defnyddiwyd un uned ffin ReFH i ddarlunio’r ardal o fewn y model y cyfeirir ati fel mewnlif MEIRCHION o hyn ymlaen. O fewn y model hydrolig presennol, ceir mewnlif ochrol ar hyd Afon Elwy drwy Lanelwy a elwir yn ELWY_LAT er mwyn darlunio’r dŵr ffo drwy Lanelwy ei hun, mae hyn wedi’i gynnwys yn y model fel uned ffin ReFH. Mae mewnlif ELWY_LAT ond yn cyfrif am gyfran fach iawn o’r llifau drwy Lanelwy, tua 3% yn ystod mis Tachwedd 2012 yn seiliedig ar ffin mewnlif ReFH.

Er mwyn efelychu digwyddiadau hanesyddol yn y model, roedd angen dadansoddi’r data ar lawiad sydd ar gael ar gyfer dalgylch Afon Elwy a chreu cyfres amser a gafodd ei phrofi wedyn o fewn ffiniau ReFH er mwyn canfod pa mor dda y gellid efelychu’r digwyddiadau. Nid oes unrhyw fesuryddion yn is-ddalgylch MEIRCHION, is-ddatgylch Ochrol Llanelwy i Fyny’r Afon nac is-ddalgylch ELWY_LAT er mwyn cadarnhau perfformiad ffiniau ReFH. Crëwyd ffin ReFH hyd at ddalgylch Pont Y Gwyddel a phrofwyd ei gallu i efelychu llifau a gofnodir wrth fesurydd Pont Y Gwyddel. Cafwyd pedwar digwyddiad llif uchel yn 2012 o fewn dalgylch Afon Elwy, crëwyd cyfres amser glaw ar gyfer pob digwyddiad. Ceir manylion y pedwar digwyddiad a ddefnyddiwyd yn y broses raddnodi yn Nhabl 4-1.

Tabl 4-1 Digwydiadau Graddnodi

Enw’r Digwyddiad Ystod dyddiadau efelychiad graddnodi

Briglif a gofnodwyd wrth Bont Y Gwyddel (m3/e)

Briglif a gofnodwyd yn Llanelwy (m uwchlaw’r seilnod ordnans)

Ebrill 2012 29/04/2012 07:00 – 01/05/2012 17:30

72.6 11.84

Gorffennaf 2012 06/07/2012 00:00 – 59 11.57

© Crown Copyright. All rights reserved. Natural Resources Wales, 100024198 2013

© Crown Copyright. All rights reserved. Natural Resources Wales, 100024198 2014

Page 36: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 27

08/07/2012 13:00 Medi 2012 24/09/2012 01:00 –

26/09/2012 11:00 75.3 11.93

Tachweddr 2012 22/11/2012 00:00 – 27/11/2012 23:45

202 13.26

Ar y dechrau, ymchwiliwyd i ddull polygonau Thieseen, lle y gellir creu cyfres amser glaw wedi’i phwysoli ar gyfer y dalgylch dan sylw yn seiliedig ar ddosbarthiad y mesuryddion glaw yn y dalgylch a’i gyffiniau. Cafodd polygonau Thiessen eu creu drwy ddefnyddio’r rhwydwaith o fesuryddion glaw a ddangosir yn Ffigur 4-1 ac wedyn eu cymharu â’r is-ddalgychoedd yn Ffigur 4-3. Dangosir y gymhariaeth ganlyniadol yn Ffigur 4-4.

Ffigur 4-4 Polygonau Thiessen ar draws Ardal yr Astudiaeth

Pont Y Gwyddel

Meirchion

Is-ddalgylchoeddochrol Llanelwy ifyny’r afon

Mae dalgylch Afon Elwy hyd at Bont y Gwyddel wedi ei gwmpasu gan bolygonau Thiessen mesuryddion glaw Gwytherin a Phlas Pigot yn bennaf, gyda chyfran fach o’r dalgylch wedi ei chwmpasu gan bolygonau Thiessen ar gyfer mesuryddion glaw eraill (Gwaith Trin Carthion Llanrwst, Bae Colwyn Bay, Pensarn a Thelemetreg Alwen). Ar y sail bod mesuryddion glaw Gwytherin a Phlas Pigot o fewn dalgylch Pont Y Gwyddel, eu bod ar uchder mawr (mae’r rhan fwyaf o’r dalgylch yn dir mynyddig) a bod y dalgylch wedi ei gwmpasu gan bolygon Thiessen ar gyfer y mesuryddion hyn, fe’u defnyddiwyd i bennu cyfres amser glawiad ar gyfer dalgylch Pont Y Gwyddel. Er mwyn creu’r gyfres amser glawiad, cymhwyswyd pwysoliadau o 0.52 a 0.48 at ddata o fesuryddion glaw Gwytherin a Phlas Pigot.

Cafodd cyfres amser glawiad wedi’i phwysoli ar gyfer pob digwyddiad graddnodi a ddangosir yn Nhabl 3-1 ei chreu a’i phrofi mewn uned ReFH a oedd yn darlunio dalgylch Afon Elwy hyd at Bont y Gwyddel. Er mwyn mireinio’r llifau a ragwelwyd gan y ffin ReFH, cafodd cyfuniadau o wahanol werthoedd ar gyfer paramedrau ReFH (Amser i Frig - Tp(0), Gwlypder y Dalgylch -

Page 37: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 28

Cini, Oedi Llif Sylfaenol - BL ac Ail-lenwi Llif Sylfaenol - BR) eu profi a’u cymharu â’r gwerhoedd rhagosodedig a gyfrifwyd drwy ddefnyddio disgrifyddion y dalgylch. Gan ddefnyddio paramedrau rhagosodedig, perfformiodd y ffin ReFH yn dda o ran rhagweld y llif a gofnodir wrth Bont y Gwyddel. Fodd bynnag, canfuwyd drwy brofion bod addasiadau i baramedrau Tp(0), BL a BR wedi helpu i bennu llifau a siâp y hydrograff a gofnodwyd wrth Bont y Gwyddel yn fwy cywir. Darperir y ffactorau graddio terfynol a ddefnyddiwyd i addasu’r paramedrau hyn yn Nhabl 4-2. Mae’r ffactor graddio a gymhwysir at werth BR yn isel ond mae’r paramedr hwn yn darlunio ail-lenwi llif sylfaenol, a fyddai wedi bod yn isel yn ystod mis Tachwedd 2012 gan fod y dalgylch eisoes yn ddirlawn.

Cafodd dull polygonau Thiessen ei brofi hefyd er mwyn pennu’r gyfres amser glaw ar gyfer mewnlifau MEIRCHION ac ELWY_LAT o fewn y model. Roedd y gyfres amser glaw a grëwyd ar gyfer dalgylch MERICHION yn cynnwys glawiad wedi’i bwysoli o fesuryddion glawiad Plas Pigot, Dinbych a Llanelwy. Defnyddiwyd data ar lawiad o fesurydd Llanelwy ar gyfer ffin mewnlif ELWY_LAT.

Nododd ymarferion rhedeg model 1D cychwynnol fod llifau yn cael eu tanamcangyfrif o ddefnyddio dull data ar lawiad wedi’i bwysoli a bennwyd gan bolygonau Thiessen. Ymchwiliwyd i’r data ar fewnbynnau glawiad ymhellach, dadansoddwyd data HYRAD er mwyn canfod a allai fod yn ddefnyddiol. O gymharu â’r dyfnderau glaw a gofnodwyd wrth fesuryddion glaw Plas Pigot a Gwytherin, roedd dyfnderau HYRAD yn ystod mis Tachwedd 2012 yn isel ar y cyfan er nad yn gyson isel. Gan fod y modwl ar y cam hwn yn tanamcangyfrif llifau, nid ystyriwyd y byddai’n briodol defnyddio’r set ddata glawiad HYRAD is yn y ffiniau ReFH o fewn y model. Defnyddiwyd data HYRAD i lywio’r dadansoddiad, sut bynnag, Dangosir patrwm gofodol dyfnderau glaw o ddata HYRAD ledled dalgylch Afon Elwy (a ddynodir â’r llinell goch) o 00:00 26 Tachwedd i 27 Tachwedd 2012 yn Ffigur 4-5.

Ffigur 4-5 Dyfnderau Glaw HYRAD 00:00 26 Tachwedd - 23:45 27 Tachwedd 2012

Page 38: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 29

Dengys Ffigur 4-5 i Blas Pigot brofi rhai o’r dyfnderau glaw uchaf o fewn y dalgylch yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012. Ymddengys bod y dyfnderau glaw a gafwyd ym Mhlas Pigot yn gynrychioliadol o gyfran fawr o’r dalgylch. Mae uchder mesurydd glawiad Plas Pigot hefyd yn fwy tebyg i’r rhan fwyaf o’r dalgylch i fyny’r afon o Lanelwy. Mae uchder y dalgylch rhwng Pont Y Gwyddel a Llanelwy yn amrywio o tua 40 (yn y dyffryn) a 360m uwchlaw’r seilnod ordnans). Mae mesurydd glawiad Plas Pigot ar uchder o 250m, ond mae’r mesurydd glawiad yn Ninbych a Llanelwy yn is, sef 40 a 10m uwchlaw’r seilnod ordnans.

O ystyried bod yr ymarferion rhedeg model cychwynnol a oedd yn efelychu digwyddiadau graddnodi wedi nodi bod y model yn tan ragweld llifau, penderfynwyd y byddai data o Blas Pigot yn unig yn fwy cynrychioliadol o lawiad ledled is-ddalgylch Meirchion sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r llifau ychwanegol ar hyd Afon Elwy rhwng Pont Y Gwyddel a Llanelwy. Nid oedd yn ddichonadwy defnyddio glawiad Plas Pigot ar gyfer ffin mewnlif Elwy_lat o ystyried bod yr is-ddalgylch dipyn yn is na mesurydd glawiad Plas Pigot ac mae mesurydd glawiad Llanelwy o fewn Elwy_lat ei hun. Felly defnyddiwyd data glawiad Llanelwy i ddarlunio glawiad dros is-ddalgylch Elwy_lat. Mae Tabl 4-2 yn crynhoi’r ffiniau mewnlif a ddefnyddiwyd o fewn model ISIS.

Tabl 4-2 Ffiniau Mewnlifau’r Model

Mewnlif Dalgylch (km2) Math o Uned Ffin Ffynhonell Data ar Ffiniau

Pont Y Gwyddel 191.37 Amser Llif (QTBDY) Data ar y llif a gofnodwyd wrth fesurydd Pont y Gwyddel

Meirchion (gan gynnwys Llanelwy i Fyny’r Afon)

54.15 ReFH Data Glawiad Plas Pigot

Elwy_lat 7.52 ReFH Data Glawiad Llanelwy

4.2.3 Ffin y Model i Lawr yr Afon

Mae Afon Elwy yn gollwng i mewn i Afon Clwyd lanwol tua 1.7km i lawr yr afon o ardal Spring Gardens Llanelwy. Er mwyn pennu a yw lefelau ar Afon Clwyd yn cael effaith ar lefelau dŵr Afon Elwy drwy Lanelwy ac er mwyn efelychu llifogydd mis Tachwedd 2012 yn fwy cywir, mae’r model hydrolig wedi cael ei ymestyn i ymgorffori hyd Afon Clwyd i lawr yr afon o’r cydlifiad ag Afon Elwy (daw’r croestoriadau o fodel ISIS Afon Clwyd a grëwyd gan JBA yn 2011). Defnyddiwyd data ar lefelau o’r mesurydd yn Rhuddlan (a ddangosir ar Ffigur 4-1) ar Afon Clwyd er mwyn pennu ffin y model ISIS 1D i lawr yr afon.

4.2.4 Graddnodi’r Model Llwybro

Ar ôl i amodau’r ffiniau ar gyfer model ISIS gael eu diweddaru, graddnodwyd y model llwybro drwy newid paramedrau o fewn unedau Muskingham X-SEC yn ISIS. Cafodd digwyddiadau graddnodi 2012 (a ddangosir yn Nhabl 4-1) eu rhedeg drwy’r model a chymharwyd y gyfres amser lefel dŵr a ragwelwyd wrth y nod sy’n darlunio ochr Pont Ffordd yr A55 sy’n wynebu i lawr yr afon (SA015C) â’r data ar lefelau a gofnodwyd wrth fesurydd Llanelwy. O blith y digwyddiadau graddnodi, dim ond yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 y gorlifodd y

Page 39: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 30

glannau. Defnyddiwyd y tri digwyddiad arall, mis Ebrill, mis Gorffennaf a mis Medi 2012 i raddnodi’r model 1D.

Defnyddiwyd y rhannau llwybro o fewn model Afon Elwy i drosglwyddo llifau a gofnodwyd wrth Bont Y Gwyddel i’r rhannau o’r model hydrolig drwy Lanelwy. Roedd cam cyntaf graddnodi’r model yn cynnwys sicrhau bod amseriad y briglif a ragwelwyd yn Llanelwy yn gywir. Mae amser teithio o tua thair awr rhwng Pont Y Gwyddel a mesurydd Llanelwy yn seiliedig ar gymharu’r data ar gyfer digwyddiadau a gofnodwyd wrth y mesuryddion yn y gorffennol. Addaswyd gosodiad llethrau’r hyd a’r gwerthoedd garwedd n Manning o fewn y rhannau llwybro nes bod yr amser teithio rhwng Pont Y Gwyddel a mesurydd lefel Llanelwy a ragwelwyd gan y model yn briodol. Defnyddiwyd llethr hyd cyson o 0.02 ar gyfer pob rhan lwybro o fewn y model a phennwyd gwerthoedd garwedd n Manning yn 0.1 ar gyfer pob un ohonynt. Mae 0.1 yn werth garwedd uchel, yn enwedig ar gyfer rhannau o sianel afon ond gan nad yw hydroleg yr hyd i fyny’r afon o Lanelwy hyd at Bont y Gwyddel wedi’i modelu, roedd y gwerth hwn yn rhan angenrheidiol o’r graddnodi er mwyn sicrhau bod llifau i mewn i’r rhan hydrolig o’r model yn ddigon uchel a bod amser teithio’r hydrograff yn ddigon hir.

Ar gyfer y tri digwyddiad graddnodi a arhosodd o fewn sianel Afon Elwy, (mis Ebrill, mis Gorffennaf a mis Medi 2012), roedd yr addasiadau a wnaed i’r rhannau llwybro yn y model yn golygu bod y lefelau dŵr a ragwelwyd o fewn y model ar ochr pont yr A55 sy’n wynebu i lawr yr afon yn gyson â’r rhai a gofnodwyd wrth fesurydd Llanelwy. Dangosir y lefelau dŵr a ragwelwyd gan y model a’r rhai a gofnodwyd wrth fesurydd Llanelwy yn ystod llifogydd mis Gorffennaf 2012) yn Ffigur 4-6.

Ffigur 4-6 Cymharu Lefelau Dŵr a Ragwelwyd ac a Gofnodwyd wrth Fesurydd Llanelwy - Llifogydd mis

Gorffennaf 2012

Ca

m (m

AO

D)

Amser (Oriau)

Lefel a Gofnodwyd yn Llanelwy Lefel y Dŵr a Ragwelwyd drwy’rModel

Page 40: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 31

4.2.5 Graddnodi’r Model Hydrolig

Ar ôl i’r rhan lwybro o fewn y model gael ei chyflunio ac ar ôl i fodel ISIS gael ei brofi ar gyfer y digwyddiadau llif llai o faint yn 2012, defnyddiwyd data o lifogydd mis Tachwedd 2012 i redeg y digwyddiad drwy’r model ISIS-TuFLOW cysylltiedig. Ar y pryd ni newidiwyd elfennau hydrolig model ISIS a’r parth TuFLOW ers astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011. Defnyddiwyd graddfa’r llifogydd a ragwelwyd, amseriad gorlifo, lefelau dŵr a ragwelwyd wrth Bont yr A55 yn Llanelwy a’r dyfnderau a ragwelyd ar y gorlifdir i asesu pa mor dda yr oedd y model yn efeylchu’r hyn a digwyddiad yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012.

Dangosodd y modwl cychwynnol hwn a gafodd ei redeg fod y model yn efelychu patrwm y llifogydd a gafwyd yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 ar y cyfan. Roedd graddfa’r llifogydd a ragwelwyd yn llai na’r hyn a welwyd ac ni ragwelodd y model y byddai rhai o’r argloddiau rhag llifogydd yn cael eu gorlifo yn ystod y llifogydd. Yr hyn a achosodd bryder penodol oedd y ffaith na ragwelwyd y byddai’r arglawdd ar lan ochr chwith Afon Elwy yn union i fyny’r afon o Bont yr A55 yn gorlifo. Dengys Ffigur 4-7 yn amlwg i’r arglawdd hwn gael ei orlifo gan arwain at lifogydd yn y farchnad wartheg y tu ôl iddo.

Ffigur 4-7 Gorlifo arglawdd ar lan ochr chwith Afon Elwy i’r Farchnad Wartheg

Disgrifir y strwythurau o fewn y model a’r ffordd y cânt eu darlunio yn Adran 3.2.1. Gwnaed newidiadau i’r ffordd y darlunnir Hen Bont Llanelwy a Phont Spring Gardens er mwyn graddnodi’r model hydrolig â llifogydd mis Tachwedd 2012 yn well.

Hen Bont Llanelwy

Ar gyfer Astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011, tybiwyd y byddai’r wal yn atal llif drwy’r bwa ym mhen chwith eithaf y bont ac yn cyfyngu ar lif drwy’r un nesaf (a ddangosir yn Ffigur 3-2). Modelwyd y bont drwy ddefnyddio uned pont ARCH yn ISIS gyda thri agoriad llawn a phedwerydd agoriad llai o faint ar y lan ochr chwith. Fodd bynnag, ceir bwlch o tua 2-3 m rhwng diwedd y wal a’r bont sy’n golygu ei bod yn debygol y byddai peth dŵr yn gallu mynd heibio drwy’r bwâu ar y lan ochr chwith yn ystod llifogydd mawr. Gan nad oedd y llifau na’r lefelau dŵr a ragwelwyd gan y model i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy yn ddigon uchel (a

Page 41: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 32

ddynodir drwy ddiffyg gorlifo wrth ymyl y farchnad wartheg) adolygwyd y ffordd y darlunnir y bont o fewn ISIS. Darlunnir y wal ar y lan ochr chwith mewn TUFLOW, felly penderfynwyd na ellid modelu pum bwa’r bont fel petaent ar agor i adael i fwy o ddŵr lifo drwy’r bont. Cadwyd y darluniad o’r bont gyda’r pum bwa agored o fewn y model wedi’i raddnodi gan ei fod yn helpu i symud dŵr i lawr yr afon tuag at ardal The Roe Llanelwy, er nad oedd y newid hwn ar ei ben ei hun yn ddigon i achosi gorlifo’r arglawdd wrth ymyl y farchnad wartheg yn y model hwn.

Pont Spring Gardens

Wrth raddnodi’r model, gwnaed newidiadau i gyfluniad Pont Spring Gardens. Dengys Ffigur 4-8 lun a dynnwyd yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 wrth ymyl y bont. Ymgasglodd cryn dipyn o sbwriel a gludwyd o gyfeiriad i fyny’r afon gan yr afon yn ystod y llifogydd yn rheilen wifrog Pont Spring Gardens. Amcangyfrifwyd i’r sbwriel achosi rhwystr i 30% o uchder y rheilen uwchlaw lefel bwrdd y bont. Modelwyd gorlifo’r strwythur hwn mewn 2D yn hytrach na 1D, felly darluniwyd rhwystro’r rheilen mewn 2D gan ddefnyddio llinell z er mwyn gosod lefel bwrdd y bont â’r bwrdd gwirioneddol ynghyd â 30% o uchder y rheilen. Tybiwyd lle ymgasglodd y sbwriel wrth y bont, bod y llif wedi cael ei atal yn llwyr.

Ffigur 4-6 Rhwystr yn Rheilen Pont Spring Gardens

Mae’n bosibl i agoriad Pont Spring Gardens gael ei rwystro i ryw raddau yn ystod y llifogydd oherwydd y swm mawr o sbwriel a ddaeth o gyfeiriad i fyny’r afon. Nid oes unrhyw dystiolaeth i agoriad y bont ei hun gael ei rwystro ond awgryma trigolion fod rhywfaint o rwystr. O fewn y model wedi’i raddnodi cymhwyswyd rhwystr o 10% at agoriad y bont er mwyn cyfrif am y rhwystr a allai fod wedi digwydd yn ystod y llifogydd. Cytunwyd ar gyfran y rhwystr â Cyfoeth Naturiol Cymru a oedd yn amheus a fyddai rhwystr mwy na 10% gan nad oedd angen gweithgareddau clirio wrth agoriad y bont ei hun ar ôl y llifogydd.

Page 42: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 33

Nid arweiniodd y newidiadau i Hen Bont Llanelwy a Phont Spring Gardent a amlinellir uchod at gynyddu lefelau dŵr a ragwelwyd o fewn y model yn ddigonol. Er enghraifft, nid oedd gorlifo’r arglawdd wrth ymyl y farchnad wartheg yn amlwg eto o fewn y model.

Adolygwyd model ISIS hydrolig ymhellach a phrofwyd paramedrau’r model er mwyn canfod sut y gellid darlunio llifogydd mis Tachwedd 2012 yn well o fewn y model 1D-2D cysylltiedig. Mae’r adran hon yn disgrifio’r newidiadau a brofwyd a’r rhai a gadwyd o fewn model ISIS er mwyn graddnodi’r model hydrolig.

Mae Tabl 4-3 yn disgrifio’r newidiadau i’r paramedrau a brofwyd o fewn model ISIS. Aseswyd effaith y newidiadau i’r paramedrau yn bennaf drwy gymharu i ba raddau y newidiodd y lefel dŵr a ragwelwyd wrth fesurydd Llanelwy (nod SA015C o fewn y model) o gymharu â’r ymarferion rhedeg model cychwynnol a ymgorfforodd y diweddariadau i strwythurau o fewn model ISIS.

Tabl 4-3 Paramedrau ISIS a brofwyd yn ystod Proses Graddnodi Model Afon Elwy

Paramedr Llinell Sylfaen (fel yn

Astudiaeth Mapio Perygl

Llifogydd 2011)

Newidiadau a Wnaed

Sylwadau Lefel Dŵr Brig a Ragwelwyd wrth Fesurydd Llanelwy (m uwchlaw’r seilnod ordnans) Briglif a gofnodwyd â llaw = 13.692m uwchlaw’r seilnod ordnans

Model Llinell Sylfaen (gan gynnwys y newidiadau i strwythurau) 13.45 Lefelau’r Gwely Lefelau’r gwely a

arolygwyd – cyfuniad o ddata arolwg a gasglwyd yn 1999 a 2011ar gyfer astudiaethau blaenorol

Cynnydd o 0.1m yn lefel gyfan y gwely

Lefel dŵr brig wedi’i newid o lai na 0.1m

13.53

Cynnydd yn lefelau’r gwely ond nis ddiweddarwyd gan arolwg 2011 o 0.1m (h.y. trawstoriadau yn seiliedig ar ddata arolwg hŷn)

Lefel dŵr brig wedi’i newid o dipyn yn llai na 0.1m

13.50

Garwedd y Glannau Gwerthoedd n Manning wedi’u gosod yn 0.05 neu’n 0.07 ar lannau Afon Elwy drwy gydol model Mapio Perygl Llifogydd 2011

Garwedd glannau cynyddol i 0.1 i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy oherwydd tyfiant coed dwys ar yr hyd hwn)

Peth effaith ar ganlyniadau’r model ond nid yw’r lefelau a ragwelwyd wrth y mesurydd yn ddigon uchel o hyd

13.50

Garwedd glannau cynyddol i 0.5 i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy oherwydd tyfiant coed dwys ar yr hyd hwn

Effaith fawr ar lefelau dŵr mewn rhannau o’r model ond nid wrth fesurydd Llanelwy ei hun

13.50

Garwedd glannau wedi’i newid i 0 er mwyn darlunio dim cludo ar hyd y glannau i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy

Ymddengys bod yr ymarfer rhedeg yn ansefydlog ac ni thybiwyd bod y canlyniadau yn ddibynadwy

13.66

Page 43: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 34

oherwydd tyfiant coed dwys ar yr hyd hwn

Mewnlifau ychwanegol (Meirchion ac Elwy_lat)

Ffiniau ReFH wedi’u hysgogi gan ddata o fesuryddion glaw o fewn dalgylch Afon Elwy

Paramedr ReFH Cini (gwlypter dalgylch cynyddol) wedi gynyddu o’r gwerth mwyaf

Effaith ar hyd terfyn y model i fyny’r afon ond fawr ddim effaith wrth fesurydd Llanelwy

13.53

Garwedd y sianel Garwedd y sianel wedi’i osod yn 0.035 drwy gydol model Mapio Perygl Llifogydd 2011

Garwedd y sianel i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy wedi’i osod yn 0.04

Cynyddu lefelau wrth fesurydd Llanelwy yn agos i’r lefel sydd ei angen i efelychu gorlifo argloddiau i fyny’r afon o’r A55

13.60

Garwedd y sianel i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy wedi’i osod yn 0.045

Cynyddu lefelau’n sylweddol wrth fesurydd Llanelwy yn ddigon i efelychu gorlifo argloddiau i fyny’r afon o’r A55

13.67

Garwedd y sianel i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy wedi’i leihau i 0.03 a garwedd y sianel i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy wedi’i osod yn 0.04.

Mae lleihau garwedd i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy yn cynyddu faint o ddŵr a gludir tuag at ganol Llanelwy ac mae’n cynyddu lefelau wrth fesurydd Llanelwy ychydig.

13.61

Dangosodd y profion ar y paramedrau o fewn model ISIS mai newid gwerthoedd garwedd o fewn y model a gafodd yr effaith fwyaf ar ganlyniadau. Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i sicrhau bod y tyfiant coed dwys ar lannau Afon Elwy i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy yn cael ei ddarlunio o fewn y model. Gan na wnaeth ymarfer rhedeg model prawf gan ddefnyddio gwerth n Manning o ddim arwain at ganlyniadau dibynadwy a’i fod yn ansefydlog, penderfynwyd y câi gwerth o 0.5 ei ddefnyddio i ddarlunio’r glannau ar yr hyd hwn. Mae hwn yn werth Manning uchel iawn i’w ddefnyddio o fewn ISIS ond roedd yn bwysig bod y cludo cyfyngedig ar hyd glannau Afon Elwy yn cael ei ddarlunio o fewn y model.

Cynyddu garwedd y sianel i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy a gafodd yr effaith fwyaf ar lefelau dŵr a ragwelwyd wrth fesurydd Llanelwy. Mae 0.045 yn werth n Manning cymharol uchel i’w ddefnyddio ar gyfer gwely’r afon yn y lleoliad hwn gan nad yw’n arw iawn. Roedd yn anodd cyfiawnhau defnyddio’r gwerth hwn ar gyfer y sianel yn seiliedig ar adolygiad o wely Afon Elwy drwy ddefnyddio ffotograffau a thrwy drafodaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, defnyddiwyd y gwerth n Manning is i ddarlunio garwedd gwely’r sianel er mwyn codi’r lefelau dŵr a ragwelwyd yn y sianel o gymharu â defnyddio’r gwerth.035 blaenorol.

Pan gafodd garwedd y sianel i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy ei leihau, cynyddu o ychydig a wnaeth lefelau dŵr o fewn Afon Elwy drwy ganol Llanelwy ac wrth y mesurydd. O ganlyniad, cafodd gwerthoedd n Manning ar gyfer garwedd y sianel i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy eu gosod yn 0.03 er mwyn cynyddu faint o ddŵr a gludir i ganol y dref. Mae hyn yn realistig oherwydd gwelwyd cryn dipyn o sbwriel yn y sianel i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 er nad oedd llawer iawn o sbwriel i fyny’r afon o’r bont.

Roedd model ISIS wedi’i raddnodi yn cynnwys y nodweddion allweddol canlynol:

Hen Bont Llanelwy – pob un o’r pum bwa wedi’i fodelu fel petai ar agor

Pont yr A55 wedi’i darlunio fel uned USBPR 1978 BRIDGE gan gynnwys y pileri

Gwerth n Manning o 0.5 wedi’i ddefnyddio i ddarlunio tyfiant coed dwys ar lannau Afon Elwy i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy

Page 44: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 35

Gwerth n Manning o 0.04 wedi’i ddefnyddio i ddarlunio garwedd sianel y gwely i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy

Gwerth n Manning o 0.03 wedi’i ddefnyddio i ddarlunio garwedd sianel y gwely i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy

Rhwystr o 10% wedi’i gymhwyso at agoriad Pont Spring Gardens.

Yr unig newid a wnaed i’r parth 2D o fewn y broses raddnodi oedd bod adeiladau o fewn y gorlifdir wedi’u codi 300mm er mwyn darlunio eu lefel trothwy uwchlaw’r ddaear gan i hyn arwain at ddarlunio graddfa llifogydd mis Tachwedd 2012 yn well o fewn y model. Tybiwyd y lefel trothwy hon ac mae’n lefel trothwy a dderbynnir yn gyffredinol i’w defnyddio ar gyfer adeiladau.

.Mae’n bosibl y bydd gwaith pellach ar gromlin raddio Pont Y Gwyddel a newidiadau i’r mewnlifau yn gofyn am ailraddnodi’r model hydrolig rywfaint.

4.3 Canlyniadau’r Model Wedi’i Raddnodi Caiff y lefelau dŵr a ragwelwyd o fewn y model wedi’i raddnodi eu cymharu â’r lefelau a gofnodwyd wrth fesurydd Llanelwy yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 fel y dangosir yn Ffigur 4-8. Fel y nodwyd yn Adran 2, ni chofnododd mesurydd Llanelwy y lefel dŵr brig yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012, Y lefel dŵr brig a gofnodwyd oedd 13.692m uwchlaw’r seilnod ordnans. Mae’r model wedi’i raddnodi yn rhagweld lefel dŵr brig o 13.62m uwchlaw’r seilnod ordnans yn lleoliad mesurydd Llanelwy (ochr Pont yr A55 sy’n wynebu i lawr yr afon)

Mae ystlys yr hydrograff sy’n codi yn y model wedi’i raddnodi yn rhagweld llifau uwch na’r rhai a gofnodwyd wrth fesurydd Llanelwy. Yn anffodus, arweiniodd ymgais i ostwng y lefelau a ragwelwyd ar yr ystlys sy’n codi at ragweld briglif is ac felly lifogydd llai o faint yn gyffredinol drwy Lanelwy. Ni chofnododd y mesurydd ystlys yr hydrograff sy’n gostwng yn briodol yn ystod y llifogydd oherwydd rhwystr o bosibl. Ymddangosai fod y mesurydd wedi unioni ei hun ar ôl y llifogydd fel y nodwyd gan y gostyngiad sydyn mewn lefelau cofnodedig a ddangosir yn Ffigur 4-6. Lle mae’r lefelau a fesurwyd yn ymddangos yn synhwyrol ar yr ystlys sy’n gostwng (tua 138 o oriau ar Ffigur 4-9), mae lefelau’r model a ragwelwyd yn agos i’r rhai a gofnodwyd wrth y mesurydd.

Page 45: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 36

Ffigur 4-9 Lefelau Dŵr a Ragwelwyd gan y Model Wedi’i Raddnodi a Lefelau Dŵr a Gofnodwyd gan Fesurydd Llanewy

Lefe

l(m

AO

D)

Amsery Model (Oriau)

Lefelau Dŵr a Ragwelwyd wrth Fesurydd Llanelwy – Model wedi’i Raddnodi

Lefelau a Gofnodwyd wrth FesuryddLlanelwy

Caiff graddfa’r llifogydd a ragwelwyd gan y model wedi’i raddnodi drwy Lanelwy i fyny’r afon o’r A55 ei chymharu â’r amlinelliad o’r llifogydd yr arsylwyd arnynt gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn Ffigur 4-10. Mae’r model yn rhagweld patrwm cyffredinol y llifogydd yn dda ac mae’r model yn rhagweld dilyniant gorlifo drwy Lanelwy yn gywir. Ar lan ochr dde Afon Elwy ger Pen Rhewl, mae’r model wedi’i raddnodi yn tanragweld graddfa’r llifogydd. Mae gan y sianel drwy’r ardal hon werth garwedd gwely is na gweddill y model sef 0.03 ar ôl graddnodi â lefelau mesurydd Llanelwy a gall hyn arwain at ragweld lefelau dŵr is ar yr hyd hwn ac felly lifogydd llai o faint. Fodd bynnag, hyd yn oed os defnyddir gwerthoedd n Manning uwch ar yr hyd hwn, nid yw graddfa’r llifogydd a ragwelwyd ar y lan ochr dde yn y lleoliad hwn gan y model mor eang â’r hyn a welwyd yn ystod y llifogydd.

Page 46: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 37

Ffigur 4-10 Graddfa’r Llifogydd a Ragwelwyd gan y Model Wedi’i Raddnodi ac Amlinelliad o’r Llifogydd yr Arsylwyd arnynt gan Cyfoeth Naturiol Cymru i fyny’r afon o’r A55

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Graddfa’r Llifogydda Ragwelwyddrwy’r Model wedi’i Raddnodi

Graddfa’r Llifogyddyr Arsylwyd arnynt gan CNC

Mae’r model wedi’i raddnodi yn rhagweld y bydd llifogydd yn yr ardal mewn cylch ar Ffigur 4-10. Ni chafwyd llifogydd yn yr ardal yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012. Fodd bynnag, arsylwyd ar lwybr y llif a ragwelwyd gan y model ar draws gerddi eiddo yn Dean’s Walk yn ystod y llifogydd. Caiff y gorlifdir 2D ei ddarlunio gan ddata LiDAR wedi’u hidlo ac nid yw’n cynnwys darluniad o waliau, fensys na chyrbiau. Rhagwelir llifogydd cymharol fas gan y model yn yr ardal hon lle na welwyd llifogydd yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 ac mae’n bosibl bod dŵr llifogydd wedi cronni y tu ôl i nodwedd uchel megis cwrb neu wal gan atal y llifogydd rhag ymledu mor bell ag a ragwelir gan y model. Gan fod llwybr y llif drwy erddi cefn mae’n debygol bod nifer o waliau yn yr ardal hon nad ydynt wedi’u darlunio o fewn parth 2D y model.

Dengys Ffigur 4-1 i’r model wedi’i raddnodi ragweld graddfa’r llifogydd i lawr yr afon o’r A55. Fel yn achos i fyny’r afon o’r A55, mae graddfa gyffredinol y llifogydd a ragwelwyd o’r model yn agos i’r hyn yr arsylwyd arno yn ystod llifogydd mis Tachedd 2012 ond mae’r model yn rhagweld llifogydd ychwanegol nas cafwyd mewn gwirionedd. Y brif ardal lle mae hyn yn amlwg yw’r llifogydd a ragwelwyd yn y gwaith trin carthion i’r de o Faes Gwyliau Spring Gardens, lle na chafwyd llifogydd. Nid yw’n amlwg pam bod anghysondeb rhwng graddfa’r llifogydd yr arsylwyd arni a graddfa’r llifogydd a fodelwyd yn y lleoliad hwn ond tybir bod amodau lleol yn ystod y llifogydd wedi atal dŵr rhag llifo i mewn i’r safle gwaith trin carthion yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012.

Fel yn achos unrhyw fodel, ceir ansicrwydd ynglŷn â chanlyniadau’r model wedi’i raddnodi ac nid yw’n darlunio llifogydd mis Tachwedd 2012 yn berffaith. Mae’r model yn rhagweld dilyniant llifogydd drwy Lanelwy yn dda. Mae’r model yn rhagweld gorlifo yn gynnar yn ystod y llifogydd ym Mhen Rhewl, a llifogydd o fewn amser byr ym Maes Gwyliau Spring Gardens a Pharc Roe

Page 47: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 38

i lawr yr afon o’r A55. Mae dŵr sy’n gorlifo glan ochr chwith Afon Elwy ger Pen Rhewl yn llifo tua’r gogledd i ardal The Roe ar ôl i’r ardaloedd i lawr yr afon o’r A55 fynd dan ddŵr.

Ffigur 4-11 Graddfa’r Llifogydd a Ragwelwyd gan y Model Wedi’i Raddnodi a’r Amlinelliad o’r Llifogydd yr Arsylwyd arnynt gan Cyfoeth Naturiol Cymru i lawr yr afon o’r A55

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Graddfa’r Llifogyddyr Arsylwyd arnynt gan CNC

Graddfa’r Llifogydda Ragwelwyddrwy’r Model wedi’i Raddnodi

Mae patrwm y llifogydd a ragwelwyd gan y model wedi cael ei gymharu â’r cofnod a luniwyd yn ystod y llifogydd sy’n rhoi gwybodaeth am amseriad gorlifo yn ystod y llifogydd yn ogystal â gwybodaeth arall. Dengys Tabl 4-1 sut mae canlyniadau’r model yn cymharu â’r cofnod o’r llifogydd.

Page 48: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 39

Tabl 4-4 Cymharu’r Llifogydd a Ragwelwyd gan y Model a’r Cofnod a Luniwyd yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012

COFNOD O’R LLIFOGYDD - 27 Tachwedd 2012

EFELYCHIAD Y MODEL

Cofnod Amser Lleoliad y Llifogydd Dyddiad Amser Cymhariaeth â’r cofnod

Gorlifo glan ochr dde i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy

26 Tachwedd

2012 20:30

Gorlifo glan ochr

chwith i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy

26 Tachwedd

2012 21:30

Lifogydd i mewn i ardal laswelltog i’r

gogledd o faes pêl-droed Pen Rhewl

26 Tachwedd

2012

21:30 - 00:30

27 Tach

Gorlifo glan ochr dde i lawr yr afon o Fryn Llanelwy yn

dechrau

26 Tachwedd

2012 23:00

Gorlifo glan ochr

chwith ger y maes pêl-droed

27 Tachwedd

00:00

Lefel y dŵr wedi cyrraedd uchder

bwrdd Pont Spring Gardens

04:10 Lefel Bwrdd Pont Spring Gardens wedi cyrraedd

27 Tachwedd

02:00 2 awr yn

gynt

Gorlifo yn dechrau Mharc Roe,

dyfnderau bas ar ffyrdd

05:35 Gorlifo ym Mharc Roe yn dechrau

27 Tachwedd

02:30 3 awr yn

gynt

Llifogydd ar Lôn gerbydau Rhuddlan -

Llanelwy 06:00

Llifogydd ar Faes Carafannau Spring Gardens a llifogydd

ar Lôn gerbydau Rhuddlan-Llanelwy

27 Tachwedd

03:00 3 awr yn

gynt

Gorlifo i fyny’r afon glan ochr dde ger

Stryd y Felin 07:05

Gorlifo’r arglawdd ochr dde yn union i lawr yr afon o Hen Bont Llanelwy (ger

Stryd y Felin)

27 Tachwedd

04:00 3 awr yn

gynt

Llifogydd ar Stryd y Felin

08:05 Llifogydd ar hyd

Stryd y Felin 27

Tachwedd 04:30

3 awr 30 yn gynt

Arglawdd yn gorlifo ger The Plough a’r

Clwb Criced 06:50

Arglawdd yn gorlifo ger The Plough a’r

Clwb Criced

27 Tachwedd

05:00 1 awr 50 yn

gynt

Arglawdd ger y Farchnad Wartheg ar y lan ochr chwith

yn gorlifo

27 Tachwedd

05:00

Llifogydd ar hyd yr A525 (The Roe)

27 Tachwedd

05:30

Dŵr llifogydd yn

mynd o dan drosbont yr A55

27 Tachwedd

07:30

Bwrdd Mesurydd Llanelwy yn 4.78m

09:45 Cam brig wrth

Fesurydd Llanelwy 27

Tachwedd 08:00

1 awr 45 yn gynt

Page 49: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 40

(13.62m uwchlaw’r seilnod ordnans yn y

model)

Page 50: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 41

5. Mapio Perygl Llifogydd

5.1 Trosolwg Defnyddiwyd y model wedi’i raddnodi i ddiweddaru’r gwaith mapio llifogydd y gellir ei gyflawni ar gyfer Afon Elwy drwy Lanelwy. Gwnaed rhai newidiadau i’r model wedi’i raddnodi cyn i’r digwyddiadau dylunio gael eu rhedeg er mwyn ei gwneud yn briodol at ddibenion mapio llifogydd:

Defnyddiwyd unedau ffiniau ReFH mewnlifau model o fewn ISIS i ddarlunio holl fewnlifau’r model; Pont Y Gwyddel, Meirchion ac Elwy_lat. Ar gyfer pob digwyddiad dylunio a fodelwyd tynnwyd graddfa’r hydograffau ReFH a ragwelwyd wrth Bont Y Gwyddel yn ôl yr amcangyfrifon o’r briglif a ddatblygwyd drwy’r dadansoddiad hydrolegol a ddisgrifir yn Adran 2 o’r adroddiad hwn. Cymhwyswyd y ffactor graddio a ddefnyddiwyd ar gyfer Pont Y Gwyddel at y mewnlifau ReFH eraill er mwyn bod yn gyson drwy’r model cyfan. Nodir y ffactorau graddio hyn yn Nhabl 2-8.

Amodau’r Ffin i Lawr yr Afon - cofnododd y ffiniau HT wrth ymyl terfyn y parthau 1D a 2D i lawr yr afon ar gyfer y model wedi’i raddnodi a ddefnyddiwyd ddata ar lefelau yn Rhuddlan yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012. Ar gyfer y digwyddiadau dylunio, cymhwyswyd data a gofnodwyd yn Rhuddlan o’r llifogydd llanwol uchaf a welwyd yn 2012 at y ffiniau i lawr yr afon. Mae’r brig llanwol wedi’i amseru i gyd-daro â’r brig afonol ar gyfer y digwyddiadau dylunio. Dangosodd y profion sensitifrwydd nad yw’r ffiniau i lawr yr afon yn effeithio ar lefelau dŵr yn Afon Elwy.

Rhwystrau wrth Bont Spring Gardens - ni chynhwyswyd y rhwystr o 10% wrth agoriad Pont Spring Gardens na’r rhwystr o 30% i’r rheilen ar draws Pont Spring Gardens yn y model a ddefnyddiwyd i redeg y digwyddiadau dylunio. At ddibenion mapio perygl llifogydd, tybir nad oes unrhyw rwystrau ar unrhyw strwythur a’u bod yn llifo’n ddirwystr.

5.2 Digwyddad Diamddiffyn Gan fod amddiffynfeydd ffurfiol rhag llifogydd ar hyd cryn dipyn o Afon Elwy drwy Lanelwy, cyfluniwyd model diamddiffyn ar gyfer astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011 a defnyddiwyd y dulliau a ddefnyddiwyd i dynnu’r amddiffynfeydd o’r parth 2D yn yr astudiaeth hon hefyd:

Yn lle uchder y glannau a arolygwyd ar hyd y wal gerrig yn union y fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy a Nant Glascoed rhoddwyd brasamcanion o uchderau gorlifdir

Mae clwt siâp Z ar hyd y celloedd o fewn y model 2D sy’n darlunio’r argloddiau yn tynnu’r amddifynfeydd uwch o’r model. Gosodwyd hwn â’r brasamcan o lefel y gorlifdir. Roedd angen hyn am fod lled yr amddiffynfeydd yn fwy nag un gell o led. Ychwanegwyd pwyntiau uchder ar hyd y siâp z (wedi torri i fertigau) er mwyn rhoi newid llyfn mewn uchder o un pen o’r arglawdd i’r llall (oherwydd canfuwyd bod uchder y gorlifdir y tu ôl i’r amddiffynfeydd yn amrywio).

Cynyddu hyd y ffin i lawr yr afon er mwyn cyfrif am unrhyw newidiadau i batrwm y llifogydd rhwng senarios amddiffynedig a diamddiffyn.

5.3 Amseroedd Rhedeg y Model a Thybiaethau Allweddol Cynhaliwyd yr ymarferion rhedeg model yn fersiwn 3.6 ISIS a fersiwn 2012-05-AE-iDP-w64 TuFLOW. Cafodd y modelau eu rhedeg gyda cham amser o 1 eiliad a cham amser 2D

Page 51: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 42

(TuFLOW) o 2 eiliad. Cymerodd rhwng 2.5 a 6.5 awr i gwblhau ymarferion rhedeg model ar gyfrifiadur pen desg safonol, yn dibynnu ar y cyfnod dychwelyd. Mae sefydlogrwydd y model yn dda ar y cyfan; nid oes unrhyw gydgyfeirio gwael yn ISIS yn ystod yr holl ymarferion. Ceir rhywfaint o osgiliadu bach rhwng parthau ISIS a TuFLOW yn ystod pob ymarfer a achoswyd gan absenoldeb amddiffynfeydd ger y cydlifiad ag Afon Clwyd. Mae hyn yn digwydd i lawr yr afon o Lanelwy ac nid yw’n effeithio ar yr amlinelliad o’r llifogydd drwy’r dref. Mae’r llif rhwng y parthau 1D a 2D drwy Lanelwy yn llyfn.

Mae’r tybiaethau modelu allweddol sy’n benodol i’r model hwn yn cynnwys y canlynol:

Mae ffin HT ISIS a TuFLOW i lawr yr afon yn tybio y byddai’r lefel dŵr brig ar Afon Elwy yn cyd-daro â’r lefel dŵr brig ar Afon Clwyd

Cadwyd wal garreg yn union y fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy yn y model ar gyfer yr ymarferion amddiffynedig. Felly mae’r model amddiffynedig yn tybio y byddai’r wal yn gwrthsefyll llifogydd mawr (fel y gwnaeth ym mis Tachwedd 2012). Rhagwelir y bydd y wal yn gorlifo yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%.

Mae pob ymarfer amddiffyendig yn tybio bod yr amddiffynfeydd yn aros ar eu lefelau presennol (a arolygwyd) yn ystod llifogydd ac nad ydynt yn gorlifo.

Nid yw’r model yn ystyried unrhyw lifogydd o ychydig o ddŵr ffo na rhwydweithiau carthffosiaeth. Aeth tai gwarchod Llys y Felin dan ddŵr ym mis Tachwedd 2012, am fod llif dros y tir o system carthffosydd cyfun a oedd wedi gorlifo wedi’i ddal y tu ôl i’r amddiffynfeydd.

Mae’r ffordd y darlunnir Pont y Gwaith Trin Carthion yn allweddol i batrwm y llifogydd wrth ymyl terfyn lawr yr afon Llanelwy.

Gall dŵr llifogydd adael terfyn y parth 2D i lawr yr afon yn gymesur â llif arferol ffin yn seiliedig ar frasamcan o raddiant gorlifdir.

5.4 Profion Sensitifrwydd Mae pob model hydroleg yn gofyn am amcangyfrif paramedrau model a all gael effaith sylweddol ar yr amlinelliadau o lifogydd a fodelwyd. Er i fodel Afon Llanelwy gael ei raddnodi ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012, cynhaliwyd cyfres o brofion sensitifrwydd er mwyn helpu i ddeall effaith bosibl addasu paramedrau’r model a’r ffordd y mae strwythurau hydroleg wedi cael eu modelu o bosibl. Cynhaliwyd y profion sensitifrwydd ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%. Cynhaliwyd y profion canlynol ar y model;

Garwedd y sianel a’r gorlifdir – wedi’i fodelu drwy addasu gwerthoedd garwedd y sianel a’r gorlifdir yn ôl ± 20% er mwyn darlunio ansicrwydd posibl wrth ddyrannu gwerthoedd ‘n’ Manning.

Darlunio ardaloedd trefol – wedi’u modelu drwy ddefnyddio garwedd cynyddol lle mae adeiladau wedi’u modelu ar lefel daear (daw o LiDAR) ac mae gwerth garwedd uchel wedi’i ddyrannu er mwyn arafu’r llif drwyddynt fel y byddent yn digwydd mewn gwirionedd. O fewn y model wedi’i raddnodi hwn, dyrannwyd lefel trothwy o 300mm i’r adeiladau gan fod hyn wedi rhoi canlyniadau mwy realistig ar gyfer y digwyddiad graddnodi.

Amodau’r ffin i lawr yr afon - profwyd effaith amodau’r ffin a dybiwyd drwy addasu’r proffil lefel dŵr yn ffiniau HT ISIS a TuFLOW yn ôl ±1m.

Roedd maint cell o 2m yn anymarferol oherwydd maint y model a’r amseroedd rhedeg ac felly defnyddiwyd maint cell o 4m ar gyfer y modelau terfynol.

Dadansoddwyd effaith profion sensitifrwydd mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, o ran lefel dŵr brig yn y model 1D ac yn ail yn seiliedig ar raddfa’r llifogydd a ragwelwyd.

Page 52: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 43

5.4.1 Sensitifrwydd i Werthoedd Garwedd

Canfuwyd mai i’r gwerthoedd garwedd a ddyrannwyd o fewn y model y mae’r y model fwyaf sensitif. Dangosodd y broses raddnodi fod newid gwerthoedd n Manning o fewn y sianel wedi cael effaith fawr ar ganlyniadau’r model. Dengys Ffigur 5-1 y newidiadau yn y lefelau dŵr brig a ragwelwyd ar gyfer y profion sensitifrwydd garwedd a gynhaliwyd ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%. Rhagwelir y gwahaniaeth mwyaf mewn lefelau i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy lle mae cynnydd o 20% mewn gwerthoedd garwedd yn arwain at gynnydd o 170mm mewn lefelau dŵr. I fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy, mae gostyngiad o 20% mewn gwerthoedd garwedd yn arwain at lefelau dŵr sydd 301mm yn is na lefelau’r digwyddiad dylunio (pennir gwerthoedd garwedd drwy’r broses raddnodi).

Mae effaith newid y gwerthoedd garwedd ar lefelau dŵr yn arwain at wahaniaethau mawr yng ngraddfa’r llifogydd a ragwelwyd; mae hyn yn arbennig o wir am y gostyngiad o 20% yng ngwerthoedd n Manning o fewn y model sy’n arwain at amlinelliad o lifogydd llawer llai o gymharu â’r digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% fel y dangosir yn Ffigur 5-2.

Ffigur 5-1 Hyd-doriad sy’n dangos Lefelau Dŵr Brig ar gyfer Profion Sensitifrwydd Gwerth n Manning

Le

fel(

mA

OD

)

Llinell Gynrychioliadol Afon Elwy

Digwyddiad DylunioTGB o 1%

Sensitif rwydd i Werthoedd Manning (n-20%) Sensitif rwydd i Werthoedd Manning (n+20%)

5.4.2 Sensitrwydd i Amodau’r Ffin i Lawr yr Afon

Ar gyfer yr astudiaeth hon, ymestynnwyd y ffin i lawr yr afon ac mae rhan fach o Afon Clwyd lanwol bellach yn rhan o hyd isaf y model hydroleg.. Mae newid y ffin i lawr yr afon yn Rhuddlan yn ôl ±1m o fewn model ISIS ond yn arwain at newidiadau mewn lefelau dŵr a ragwelwyd o fewn hyd Afon Clwyd a fodelwyd. Ceir gostyngiad o 1.5m yn lefelau’r gwely o Afon Elwy i Afon Clwyd, sef y rheswm pam

Page 53: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 44

nad yw newidiadau i’r ffin i lawr yr afon o fewn ISIS yn cael effaith ar Afon Elwy ei hun fel y dengys Ffigur 5-3. Mae newid ffin HT mewn 2D ond yn cael effaith fach iawn ar ganlyniadau’r model hefyd ac mae’r amlinelliadau o’r llifogydd a ragwelwyd drwy Lanelwy yn aros yn ddigyfnewid waeth pa amodau ffin i lawr yr afon a gymhwysir am fod y ffin mor bell i lawr yr afon o’r dref ac ar Afon Clwyd yn hytrach nag Afon Elwy ei hun.

Ffigur 5-2 Graddfa’r Llifogydd a Ragwelwyd ar gyfer Profion Sensitifrwydd n Manning

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Sensitifrwydd i Werthoedd Manning (n-20%)

Digwyddiad Dylunio TGB o 1%

Sensitifrwydd i Werthoedd Manning (n+20%)

Page 54: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 45

Ffigur 5-3 Lefelau Dŵr Brig a Ragwelwyd wrth Derfyn y Model ISIS 1D i Lawr yr Afon ar gyfer Profion Sensitifrwydd Ffiniau

Le

fel(

mA

OD

)

Llinell Gynrychioliadol (m)

Ffin i Lawr yr Afon -1m

Ffin i Lawr yr Afon +1m

DigwyddiadDylunioTGB o 1%

5.4.3 Sensitifrwydd i’r Ffordd y Darlunnir Adeiladau

O fewn y model wedi’i raddnodi a llinell sylfaen y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% ar gyfer y profion sensitifrwydd, mae adeiladau wedi cael eu darlunio â lefel trothwy 300m uwchlaw’r lefel daear (daw o LiDAR) a gwerth garwedd n Manning uchel o 1 er mwyn arafu’r llif drwyddynt fel y byddai’n digwydd mewn giwirionedd. Ffordd arall o fodelu adeiladau o fewn y parth 2D yw eu modelu ar y lefel daear â gwerth garwedd cynyddol er mwyn efelychu’r llif arafach a fyddai’n digwydd drwyddynt yn ystod llifogydd. Arweiniodd y prawf sensitifrwydd a ddefnyddiodd y dull hwn at effaith fach iawn ar lefelau dŵr brig a ragwelwyd o fewn y model 1D. Mae prif effaith y prawf sensitifrwydd hwn o fewn y parth 2D. Dengys Ffigur 5-4 y gwahaniaeth rhwng y prawf sensitifrwydd adeiladau a’r digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% o ran graddfa’r llifogydd a ragwelwyd. Fel arfer, mae’r prawf sensitifrwydd adeiladau yn amlinelliad mwy na’r digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% drwy Lanelwy, ond gan fod defnyddio’r trothwy 300mm wedi arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer y model wedi’i raddnodi, defnyddiwyd y model hwn ar gyfer y digwyddiadau dylunio am ei fod yn rhagweld patrwm llifogydd mawr cywir o bosibl.

Page 55: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 46

Ffigur 5-4 Sensitifrwydd y Ffordd y Darlunnir Adeiladau i Raddfa’r Llifogydd

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Digwyddiad Dylunio TGB o 1%

Sensitifrwydd y Ffordd y Darlunnir Adeiladau

Page 56: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 47

5.5 Digwyddiadau Dylunio

Gan ddefnyddio’r model a ddatblygwyd drwy’r astudiaeth hon, paratowyd gwybodaeth am raddfa, dyfnder a chyflymder llifogydd o fewn ardal yr astudiaeth ar gyfer digwyddiadau llifogydd tebygolrwydd gormodiant blynyddol diamddiffyn o 3.33%, 1.33%, 1%, 1% ynghyd â newid yn yr hinsawdd, 0.5% a 0.1%. Cyflwynir y data ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% yn ffurfiol yn y cynlluniau mapio perygl risg a geir yn Atodiad D. Mae’r adrannau isod yn disgrifio’r fethodoleg a ddefnyddiwyd i bennu’r mapiau perygl llifogydd ac yn crynhoi’r ardaloedd mewn perygl o lifogydd o Afon Elwy o fewn ardal yr astudiaeth.

5.6 Prosesu Data’r Model Cafwyd graddfa’r llifogydd ar gyfer yr astudiaeth fapio hon o’r model ISIS-TuFLOW cysylltiedig. Disgrifir y broses o nodi graddfa, dyfnder a chyflymder lliifogydd isod.

5.6.1 Gwybodaeth am Ddyfnder a Graddfa Llifogydd

Cafodd gwybodaeth am uchafswm dyfnder a baratowyd drwy’r model ISIS-TuFLOW ei throi’n fformat ffeil ASCII (.asc) yn seiliedig ar grid 2m a’i mewnforio i MapInfo er mwyn creu grid dyfnder.

Cafodd y grid dyfnder ei gyfuchlinio drwy ddefnyddio un cyfwng i baratoi’r amlinelliad o lifogydd.

Yna cafodd yr amlinelliad o lifogydd ei ‘lanhau’ yn MapInfo er mwyn dileu ynysoedd sych ac ardaloedd bach ar wahân o lifogydd.

Yna defnyddiwyd yr amlinelliad hwn o lifogydd i dorri’r grid dyfnder er mwyn dileu ardaloedd bach ar wahân o lifogydd.

5.6.2 Gwybodaeth am Gyflymder a Pheryglon Llifogydd

Proseswyd gwybodaeth am gyflymder a pheryglon llifogydd yn yr un modd â’r wybodaeth am ddyfnder llifogydd a ddisgrifir uchod. Mae’r gridiau cyflymder brig a pheryglon llifogydd a grëwyd wedi cael eu torri yn unol â’r amlinelliad wedi’i lanhau o lifogydd er mwyn creu cyfres gyson o haenau GIS.

Trafodir data ar ddyfnder a chyflymder llifogydd a ragwelwyd yn yr adrannau isod.

5.7 Gwybodaeth am Ddyfnder a Graddfa Llifogydd Mae’r drafodaeth yn yr adroddiad hwn yn canolbwyntio ar lifogydd yn Llanelwy. Darperir gwybodaeth am raddfa a dyfnder llifogydd ar gyfer Afon Elwy i lawr yr afon o Lanelwy o fewn gwybodaeth gyflawnadwy GIS a gyflwynir ar y cyd â’r adroddiad hwn.

5.7.1 Dyfnder a Graddfa Llifogwydd a Ragwelwyd ar gyfer Digwyddiad Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol Amddiffynedig o 1%

Dangosir dyfnderoedd a graddfa llifogydd a ragwelwyd ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol amddiffynedig o 1% drwy Lanelwy yn Ffigur 5.5. Mae graddfa’r llifogydd a ragwelwyd drwy ddefnyddio’r model wedi’i raddnodi yn sylweddol fwy na’r hyn a ragwelwyd ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% yn astudiaeth Mapio Perygl Llifogydd 2011. Rhagwelir y bydd argloddiau amddiffynfeydd Afon Elwy yn gorlifo mewn sawl lleoliad yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% gan gynnwys wrth

Page 57: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 48

ymyl y farchnad wartheg, ger tafarn The Plough ac yn ardal Hen Bont Llanelwy. Mae 385 eiddo yn Llanelwy o fewn yr amlinelliad o lifogydd yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% yn ogystal â Maes Carfannau Spring Gardens. Cyfrifir eiddo drwy ddefnyddio cyfuniad o ddata pwyntiau’r Gronfa Ddata Derbynyddion Genedlaethol a chreu ôl droed o ddata Mastermap yr Arolwg Ordnans. Mae hyn yn golygu bod y cyfrif yn cynnwys eiddo sy’n mynd dan ddŵr yn rhannol ar ymylon yr amlinelliad o lifogydd. I lawr yr afon o Lanelwy, ceir 12 eiddo ychwanegol o fewn yr amlinellliad o lifogydd yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%. Dengys graddfa’r llifogydd yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% nad yw’r argloddiau rhag llifogydd drwy Lanelwy yn diogelu hyd at y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% mewn rhai lleoliadau. Gwnaed dadansoddiad o Safon Diogelu fel rhan o’r astudiaeth hon a chyflwynir y canlyniadau yn Atodiad F.

Y prif ardaloedd lle mae eiddo mewn perygl yw Parc Roe, The Roe, glan ochr chwith Afon Elwy ger Pen Rhewl a glan ochr dde’r afon gyferbyn â The Roe. Dangosir bod Pen Rhewl yn mynd dan ddŵr a rhagwelir dyfnderoedd o fwy na 1m yn yr ardal hon ond nid oes llawer o eiddo yma. Mae’r maes pêl-droed a’i bafiliwn ym Mhen Rhewl o fewn yr amlinelliad yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%. Rhagwelir dyfnderau mawr o fwy na 2.5m mewn rhannau o faes carafannau Spring Gardens am ei fod mewn man isel wrth ymyl yr afon lle mae dŵr yn cronni. Fel y gwelwyd yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012, mae llifogydd yn digwydd yn gynnar yn Spring Gardens yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% pan fydd y bont fynediad yn gorlifo. Yn gyffredinol mae dyfnderoedd llifogydd ar lan ochr chwith Afon Elwy yn fwy bas na’r rhai ar yr ochr dde. Mae’r rhan fwyaf o’r llifogydd yn llai na 0.2m mewn dyfnder. Dangosir llifogydd dyfnach mewn eiddo i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy ar y lan ochr chwith. I fyny’r afon o Nant Glascoed, rhagwelir dyfnderoedd llifogydd o fwy na 0.5m ond nid oes unrhyw eiddo yn yr ardal hon.

Rhagwelir y bydd eiddo yn Llanelwy yn mynd dan ddŵr ar gyfer pob digwyddiad cyfnod dychwelyd a fodelwyd. Yn y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 3.33%, rhagwelir y bydd 47 eiddo ym Mharc Roe i lawr yr afon o’r A55 yn mynd dan ddŵr yn ogystal â Maes Carafannau Spring Gardens a’r maes pêl-droed ym Mhen Rhewl. Rhagwelir llifogydd mewn 188 eiddo ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1.33% yn Llanelwy gan gynnwys eiddo i fyny’r afon o’r A55 yn ogystal â Pharc Roe a Spring Gardens. Mae’r ardaloedd i fyny’r afon o’r A55 sy’n mynd dan ddŵr yn ystod y digwyddiad hwn ar lan ochr dde Afon Elwy gyferbyn â The Roe ac ar y lan ochr chwith i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy.

Page 58: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 49

Ffigur 5-5 Dyfnder a Graddfa’r Llifogydd a Ragwelwyd yn Llanelwy ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl

Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Dyfnderoedd Llifogydd Brig a Ragwelwyd(m)

Llai na 0.2

0.2 – 0.5

0.5 – 1.0

Mwy nag 1.0

O ystyried bod y model wedi’i raddnodi yn rhagweld y bydd eiddo mewn perygl yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 3.33% ym Mharc Roe, defnyddiwyd y model i brofi nifer o opsiynau lliniaru perygl llifogydd yn y byrdymor yn Llanelwy. Ar ôl profion a gynhaliwyd drwy ddefnyddio’r model, mae uchder amddiffynfa’r arglawdd sy’n diogelu Parc Roe wedi cael ei gynyddu ac mae coed ar lannau Afon Elwy wedi cael eu torri drwy’r dref er mwyn cynyddu faint o ddŵr a gludir o fewn y sianel. Bydd y mesurau hyn yn rhoi rhywfaint o ddiogelwch ychwanegol rhag llifogydd drwy Lanelwy nes bod opsiynau yn y tymor hwy wedi cael eu gwerthuso ac y gellir eu rhoi ar waith. Mae Atodiad G yn darparu gwybodaeth am y mesurau byrdymor a brofwyd o fewn y model a’r effaith ar berygl llifogydd a ragwelwyd drwy Lanelwy.

5.7.2 Dyfnder a Graddfa’r Llifogydd a Ragwelwyd ar gyfer y Digwyddiad

Page 59: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 50

Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol Amddiffynedig o 0.1%

Dangosir gwybodaeth am ddyfnder a graddfa’r llifogydd a ragwelwyd ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol amddiffynedig o 0.1% yn Ffigur 5-6. Rhagwelir y bydd cyfran fawr o Lanelwy yn mynd dan ddŵr yn ystod y digwyddiad hwn. Rhagwelir dyfnder llifogydd o fwy na 2m o fewn Spring Gardens a The Roe. Mae llifogydd i’r gorllewin o The Roe ymhellach i ffwrdd o’r afon yn gymharol fas gyda’r rhan fwyaf o’r ardal yn mynd dan ddŵr ar ddyfnder o < 0.2m ac ardaloedd cyfyngedig yn mynd dan ddŵr hyd at 0.5m. Mae 851 eiddo mewn perygl yn Llanelwy yn ystod y digwyddiad hwn. Mae’r llifogydd dwfn eang yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 0.1% yn golygu y byddai perygl mawr yn gysylltiedig â’r digwyddiad hwn. Trafodir perygl llifogydd ymhellach y Atodiad E.

Ffigur 5-6 Dyfnder a Graddfa’r Llifogydd a Ragwelwyd yn Llanelwy ar gyfer y digwyddiad dylunio tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 0.1%

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl

Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Dyfnderoedd Llifogydd Brig a Ragwelwyd(m)

Llai na 0.2

0.2 – 0.5

0.5 – 1.0

Mwy nag 1.0

Page 60: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 51

5.7.3 Effaith Newid yn yr Hinsawdd

Mae’r cynnydd o 20% mewn llifau a ddefnyddiwyd i ddarlunio effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cynyddu perygl llifogydd drwy Lanelwy yn y senario amddiffynedig o gymharu â’r digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%. Gwelir y cynnydd mwyaf mewn llifogydd i’r gorllewin o The Roe lle rhagwelir y bydd nifer ychwanegol o eiddo yn mynd dan ddŵr o gymharu â’r digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%. Dengys Ffigur 5-7 ddyfnder a graddfa’r llifogydd a ragwelwyd ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol amddiffynedig o 1% ynghyd â newid yn yr hinsawdd.

Rhagwelir y bydd 404 eiddo ychwanegol yn Llanelwy yn mynd dan ddŵr yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% ynghyd â newid yn yr hinsawdd o gymharu â’r digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% gyda chyfanswm o 800 eiddo yn y dref y rhagwelir y bydd llifogydd yn effeithio arnynt. Mae graddfa’r llifogydd yn ystod digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% ynghyd â newid yn yr hinsawdd yn fwy na’r hyn a ragwelwyd ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 0.5%. Rhagwelir y bydd 548 eiddo mewn perygl yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 0.5%.

Page 61: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 52

Ffigur 5-7 Dyfnder a Graddfa’r Llifogydd a Ragwelwyd yn Llanelwy ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% gyda Newid yn yr Hinsawdd

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl

Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Dyfnderoedd Llifogydd Brig a Ragwelwyd(m)

Llai na 0.2

0.2 – 0.5

0.5 – 1.0

Mwy nag 1.0

5.7.4 Data ar Gyflymder

Dangosir y data ar gyflymder brig a ragwelwyd a gafwyd o’r model 2D yn Ffigurau 5-8 a 5-9. O fewn Llanelwy, ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol amddiffynedig o 1%, mae cyflymder yn aros yn gymharol isel (<0.2m/e) ar draws rhan helaeth o’r gorlifdir. Rhagwelir y cyflymder mwyaf yn ardal Parc Roe yn enwedig ar hyd ffyrdd sy’n gweithredu fel llwybrau llif.

Yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol amddiffynedig o 1%, profir cyflymder uwch (0.8 - +1.5m/e) ar hyd ffyrdd a llwybrau llif allweddol. Profir cyflymder mawr iawn uwchlaw 1m ar hyd yr A525 i fyny’r afon ac i lawr yr afon o’r A55. Yn gyffredinol, profir cyflymder bach yn y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% a 0.1% wrth y Gwaith Trin Carthion a maes carafannau Spring Gardens, sy’n awgrymu bod dŵr llifogydd yn cronni yma wrth i’r llif fynd heibio i’r ystum.

Page 62: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 53

O ystyried y cyflymderau a’r dyfnderau mawr a ragwelwyd yn ardal yr astudiaeth i ddigwyddiadau tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% a 0.1%, mae perygl llifogydd yn debygol o fod yn uchel yn ystod digwyddiad yn Llanelwy. Rhagwelir perygl gan y model hydrolig a thrafodir hyn ymhellach yn Atodiad E.

Ffigur 5-8 Cyflymder Brig a Ragwelwyd yn Llanelwy ar gyfer y Digwyddiad Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol Amddiffynedig o 1%

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl

Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Cyflymder Brig a Ragwelwyd (m/e)

Mwy nag 1

Page 63: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 54

Ffigur 5-9 Cyflymder Brig a Ragwelwyd yn Llanelwy ar gyfer y Digwyddiad Tebygolrwydd Gormodiant Blynyddol Amddiffynedig o 0.1%

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl

Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl

Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Cyflymder Brig a Ragwelwyd (m/e)

Mwy nag 1

5.8 Senario Diamddiffyn ac Ardaloedd sy’n cael budd o Amddiffynfeydd Dangosir graddfa’r llifogydd diamddiffyn yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% a haen yr Ardal sy’n Cael Budd o’r Amddiffynfa o ganlyniad a baratowyd ar gyfer yr astudiaeth yn Ffigur 5-10 (yng nghefn yr adroddiad). Dengys y rhain fod cynnydd mewn perygl llifogydd sy’n gysylltiedig â thynnu’r amddiffynfeydd uwch yn y dalgylch. Rhagwelir y bydd 439 eiddo mewn perygl yn Llanelwy ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol diamddiffyn o 1%, o gymharu â 396 eiddo yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol amddiffynedig o 1%. Mae graddfa’r llifogydd i lawr yr afon o Lanelwy wedi cynyddu’n fawr heb yr amddiffynfeydd uwch ar hyd Afon Elwy, er nad oes llawer o eiddo yn yr ardal hon. Fodd bynnag, drwy Lanelwy ei hun, i fyny’r afon o Hen Bont

Page 64: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 55

Llanelwy, mae llai o berygl llifogydd yn y senario diamddiffyn, a hynny oherwydd o dynnu argloddiau amddiffynfeydd i lawr yr afon o’r A55, mae cyfaint mawr o ddŵr yn gollwng o sianel Afon Elwy ar y gorlifdir i lawr yr afon o’r A55 yn gynnar yn yr ymarfer rhedeg dylunio. Mae hyn yn cynyddu faint o ddŵr a gludir yn sianel Afon Elwy ac yn arwain at ostyngiad mewn lefelau dŵr i fyny’r afon o’r A55. Nid yw’n anghyffredin bod lefelau dŵr diamddiffyn yn llai na’r rhai a ragwelwyd ar gyfer y digwyddiad amddiffynedig oherwydd gall dŵr orlifo glan llawer yn gynt a lleihau cyfaint y dŵr yn y sianel yn ystod y senario amddiffynedig.

Ffigur 5-10 Yr Ardal y Rhagwelwyd y bydd yn cael Budd o Amddiffynfeydd (yng nghefn yr adroddiad

hwn)

Mae’r Ardaloedd Llifogydd a ddatblygwyd ar gyfer yr astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a baratowyd o dan yr ymarfer diweddaru Map Llifogydd blaenorol gan JBA yn 2011. Mae Ardal Lifogydd 3 (digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%) yn debyg iawn i fyny’r afon o Hen Bont Llanelwy. Mae ychydig yn fwy nag yn ardal The Roe a thipyn yn fwy i lawr yr afon o’r A55 o gymharu â’r Map Llifogydd presennol. Mae’r amlinelliad diwygiedig o Ardal Lifogydd 2 yn debyg i’r un presennol drwy ardal gyfan yr astudiaeth gyda chynnydd bach mewn lleoedd gwahanol fel yn ardal The Roe.

Ceir mapiau llifogydd yn Atodiad D ar gyfer graddfa’r llifogydd yn ystod digwyddiadau tebygolrwydd gormodiant blynyddol amddiffynedig a diamddiffyn o 1% a 0.1%. Darparwyd graddfa, dyfnder, cyflymder, lefel dŵr a pherygl llifogydd ar gyfer pob digwyddiad a fodelwyd fel data cyflawnadwy GIS ar y cyd â’r adroddiad hwn.

Page 65: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 56

6. Effaith ar Bont Spring Gardens

6.1 Trosolwg Tra bod y broses raddnodi yn cael ei chynnal, profwyd effaith Pont Spring Gardens ar lifogydd i Lanelwy drwy ddefnyddio’r model. Yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 ymgasglodd llawer iawn o sbwriel wrth ymyl y bont yn enwedig ar y rheilen. Cafwyd rhwystr o tua 300-400mm uwchlaw lefel bwrdd y bont wrth y rheilen a achoswyd gan sbwriel. Dangosir y bont yn Ffigur 1-4 o’r adroddiad hwn.

6.2 Effaith Pont Spring Gardens ar berygl llifogydd yn Llanelwy Er mwyn profi effaith y bont ar berygl llifogydd yn Llanelwy, cyfluniwyd fersiwn o’r model hydrolig ar ôl tynnu’r bont. Yna cafodd llifogydd mis Tachwedd 2012 eu rhedeg drwy’r fersiwn hwn o’r model a chymharwyd canlyniadau â’r rhai a gafwyd drwy ddefnyddio’r model a oedd yn cynnwys y bont. Nid model wedi’i raddnodi terfynol Afon Elwy oedd y fersiwn o’r model a ddefnyddiwyd i brofi effaith tynnu Pont Spring Gardens gan fod y prawf hwn wedi ei gynnal yn ystod y broses raddnodi. Fodd bynnag, roedd y fersiwn o’r model hwn a ddefnyddiwyd yn debyg iawn i’r model wedi’i raddnodi terfynol ac roedd yn darlunio’r llifogydd a ddigwyddodd yn ystod llifogydd mis Tachwedd 2012 yn dda. Felly byddai canlyniad y prawf hwn yn debyg iawn i’r model wedi’i raddnodi terfynol.

Dangosir effaith tynnu’r bont ar lefelau dŵr a ragwelwyd gan y model ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012 i fyny’r afon ac i lawr yr afon o’r A55 yn Ffigur 6-1. Mae lefelau dŵr brig yn union i fyny’r afon o Bont Spring Gardens yn codi tua 0.7m oherwydd presenoldeb y bont. Fodd bynnag, mae’r codiad hwn yn gostwng yn gyflym i fyny’r afon nes bod y codiad mewn lefelau dŵr wrth ymyl Pont yr A55 a achoswyd gan y bont wedi gostwng o dan 0.05m. I fyny’r afon o Bont yr A55 mae’r gwahaniaeth yn gostwng ymhellach i ddim i bob diben.

Mae lefelau dŵr i lawr yr afon yn uwch mewn gwirionedd ar ôl tynnu’r bont gan fod mwy o ddŵr yn aros yn sianel yr afon a bod llai wedi gollwng i’r gorlifdir.

Ffigur 6-1 Effaith tynnu Pont Spring Gardens ar lefelau dŵr

Lefe

l(m

AO

D)

Pellter (m)

Location of Spring Gardens Bridge

Page 66: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 57

Dengys Ffigur 6-2 y gwahaniaeth mewn amlinelliadau o lifogydd a baratowyd ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012 gyda a heb Bont Spring Gardens. Rhagwelir o hyd y bydd ystad Parc Roe yn mynd dan ddŵr ar ôl tynnu’r bont, ond gyda llifogydd llai dwfn. Rhagwelir o hyd na fydd Parc Gwyliau Spring Gardens na’r Gwaith Trin Carthion yn mynd dan ddŵr heb y bont yn ei lle; ond rhagwelir y byddent yn mynd dan ddŵr os yw’r bont yn ei lle yn y model wedi’i raddnodi. I fyny’r afon o Bont yr A55 mae’r llifogydd yn ehangu ac mae dyfrnderau yn debyg iawn gyda a heb Bont Spring Gardens yn y model.

Mae’r asesiad hwn wedi dangos bod Pont Spring Gardens yn cael effaith ar berygl llifogydd yn ardal Llanelwy i lawr yr afon o Bont yr A55, yn enwedig Parc Roe a Pharc Gwyliau Spring Gardens. Fodd bynnag, mae’r effaith ar berygl llifogydd i fyny’r afon o Bont yr A55 yn fach iawn.

Mae’r fersiwn o’r model a ddefnyddiwyd i gynnal y prawf hwn wedi cael ei raddnodi i wella’r ffordd y darlunnir llifogydd mis Tachwedd 2012. Nid y fersiwn terfynol o’r model ydoedd ond dim ond mân newidiadau a wnaed i’r fersiwn hwn er mwyn creu’r model wedi’i raddnodi terfynol fel y’i cyflwynwyd yn Adran 4. Felly, tybir bod y prawf hwn yn ddigonol i ddangos yr effaith fach iawn ar berygl llifogydd drwy Lanelwy pe bai’r bont yn cael ei thynnu. Dim ond yn ardal Spring Gardens wrth ymyl y bont y dangosir y byddai llai o berygl o lifogydd heb y strwythur yn ei le.

Page 67: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 58

Ffigur 6-2 Graddfa’r Llifogydd ar gyfer llifogydd mis Tachwedd 2012 gyda a heb Bont Spring Gardens

© Hawlfraint y Goron. Cedwir pob hawl

Cyfoeth Naturiol Cymru, 100024198 2014

Page 68: Mapio Llifogydd Llanelwy: Diweddariad · 2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc iv astudiaeth hon yn fwy na’r rhai presennol a gynhyrchwyd gan

2013s6840 - St Asaph Flood Map Update - Final Report_2nd Issue_11-02-14.doc 59

7. Casgliad

Mae’r astudiaeth wedi helpu i sicrhau gwell dealltwriaeth o berygl llifogydd yn Llanelwy yng Ngogledd Cymru. Yn sgil llifogydd mis Tachwedd 2012 yn y dref, gwnaed dadansoddiad ôl-ddigwyddiad ac o ganlyniad mae model hydrolig Afon Elwy drwy’r dref wedi cael ei raddnodi drwy ddefnyddio’r data sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad. Defnyddiwyd y model hydrolig wedi’i raddnodi i ddiweddaru’r gwaith mapio llifogydd y gellir ei gyflawni ar gyfer Llanelwy.

Gan ddefnyddio’r model hydrolig a ddatblygwyd ar gyfer yr astudiaeth, mae amlinelliadau o lifogydd wedi cael eu datblygu ar gyfer ystod o ddigwyddiadau amddiffynedig a diamddiffyn. Mae’r allbynnau o’r astudiaeth yn nodi bod 236 eiddo mewn perygl yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol amddiffyendig o 1%. Rhagwelir y bydd eiddo yn mynd dan ddŵr i lawr yr afon o’r A55 ar gyfer digwyddiadau gan gynnwys y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1.33% ac yn uwch na hynny. Mae ymarferion rhedeg model diamddiffyn yn dangos cynnydd mawr yng ngraddfa’r llifogydd ond nid yw’r cynnydd yn nifer yr eiddo sy’n mynd dan ddŵr o gymharu â’r ymarferion rhedeg model amddiffynedig ar gyfer digwyddiad cyfnod dychwelyd penodol yn gymesur, a hynny oherwydd rhagwelir y bydd y llifogydd mawr ychwanegol i lawr yr afon o Lanelwy tuag at derfyn y model i lawr yr afon lle nad oes llawer o eiddo. Rhagwelir bod 306 eiddo yn wynebu perygl llifogydd ar gyfer y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1%.

Dangosodd canlyniadau’r model hefyd, unwaith y bydd dŵr yn gorlifo glannau, ei fod yn parhau i lifo dros y glannau i raddau helaeth ac yn llifo i lawr yr afon ar hyd y gorlifdir tuag at Afon Clwyd. Mae dyfnder llifogydd a’r cyflymderau yn nodi perygl cymharol fach yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 1% dros rannau o Barc Roe ac ym Mharc Hamdden Spring Gardens a pherygl llifogydd sylweddol yn ystod y digwyddiad tebygolrwydd gormodiant blynyddol o 0.1%.

Mae’r astudiaeth hon wedi defnyddio’r data a’r wybodaeth ddiweddaraf i ddiweddaru’r gwaith mapio llifogydd ar gyfer Llanelwy. Argymhellir y dylid cynnal adolygiad graddio o fesurydd Pont y Gwyddel er mwyn cael mwy o hyder yn y llifau sy’n gysylltiedig â’r cyfnodau dychwelyd uwch cyn y caiff opsiynau cynllun manwl eu gwerthuso. Efallai y bydd hyn yn gofyn am ailraddnodi’r model hydrolig i ryw raddau.