Upload
others
View
1
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
1
Rhaglen Medi-Rhagfyr 2016
Canolfan Celfyddydau ac Arloesi, Bangor
2
Croeso i PontioOriau agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn
8.30am - 11.00pm
Dydd Sul
12.00pm - 8.00pm
Bwyty Gorad Dydd Llun – i ddydd Sadwrn
8.30am – archebion bwyd
olaf am 9.00pm
Dydd Sul
12.00pm – 6.00pm
Caffi Cegin Dydd Llun i ddydd Sadwrn
8.30am – 6.00pm
Dydd Sul
12.00pm – 6pm
Ciosg Copa Dydd Llun i ddydd Gwener
8.30am – 5.30pm (yn ystod
y tymor yn unig)
Bar Ffynnon Dydd Llun i ddydd Sadwrn
11.00am – 9pm*.
* Bydd Bar Ffynnon ar agor
tan 11:00pm pan gynhelir
perfformiadau gyda'r nos
Dydd Sul
12.00pm – 6pm
Tocynnau Ar-lein www.pontio.co.uk
01248 38 28 28
Llinellau ffôn ar agor Dydd Llun i ddydd Sadwrn
10.00am - 8.30pm
Dydd Sul
12.00pm - 6.00pm
Cofrestrwch i gael y
newyddion diweddaraf
ar www.pontio.co.uk
@TrydarPontio
PontioBangor
Pontio_Bangor
PontioBangor
Os hoffech gopi o
destun y rhaglen yma
mewn print bras neu
fersiwn clywedol, cysylltwch
â ni ar 01248 388 421
Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu
Rhif elusen cofrestredig: 1141565
a—
llwyfan
b—
c—
ch—
d—
dd—
e—
f—
ff—
g—
ng—
h—
l—
ll—
m—
n—p— r—ph—
1a—
1b—
2a—
2b—
1c—1ch—
2c—
1dd—1d—
2ch—
balconi lefel 1
balconi lefel 2
Cynllun SeddiTheatr Bryn Terfel
1
Cipolwg Pontio Medi - Rhagfyr 2016
Medi Amser TudSadwrn 10 11am a 2pm Unrhyw Ddiwrnod 3
Gwener 16 7.30pm Folk / Taith Hydref 2016 4
Sadwrn 17 1pm Folk / Taith Hydref 2016 (Perfformiad Matinee Rhyngweithiol i’r Teulu ) 4
Mawrth 20 8pm Comedy Central Live 6
Sadwrn 24 12pm a 3pm Webster & Jones: Canllaw Mawr i Gymru Fach 7
Sul 25 1-2pm Platfform: Anne Denholm 7
Mawrth 27 7.30pm Spine 9
Gwener 30 8pm Cabaret Pontio: Black Umfolosi 10
HydrefSadwrn 1 7.30pm Cyngerdd Dathlu Côr Seiriol yn 25 12
Mercher 5 7.30pm A Good Clean Heart 13
Iau 6 7.30pm A Good Clean Heart 13
Iau 6 8pm Christy Moore 14
Gwener 7 8pm Cabaret Pontio: We Banjo 3 15
Sadwrn 8 11am a 2pm Mavis Sparkle 16
Mawrth 11 7.30pm Merch yr Eog 17
Mercher 12 7.30pm Merch yr Eog 17
Gwener 14 8pm Rich Hall: Live 2016 18
Mawrth 18 8pm Comedy Central Live 19
Iau 20 7.30pm Unseen Preludes: Denis Smalley yn 70 20
Sadwrn 22 7.30pm Romeo a Juliet 22
Sul 30 3pm - 4pm Ensemble Cymru @Pontio 23
TachweddMercher 2 7.30pm Cân yr Adar / Birdsong 24
Iau 3 7.30pm Tape Face 25
Gwener 4 7.30pm Opus 7 26
Sadwrn 5 2pm Opus 7 26
Mercher 9 7.30pm Phoenix Piano Trio 27
Gwener 11 7pm Snow White 29
Sadwrn 12 3pm Snow White 29
Sadwrn 12 6.45pm Teyrnged i Max 30
Mawrth 15 8pm Comedy Central Live 31
Mercher 16 7.30pm Macbeth Director’s Cut 31
Iau 17 7.30pm Tŷ Bach Twt 32
Gwener 18 7.30pm Elgar a Brahms gyda BBC NOW 33
Gwener 18 8pm Cabaret Pontio: Chango Spasiuk Argentinian 34
Sadwrn 19 8pm Rhys a Meinir BBC NOW 35
Sadwrn 26 11am a 2pm Dilyn Fi 36
Sul 27 3pm Gloria! gydag WNO 37
Mercher 30 7pm BLAS yn cyflwyno... 38
RhagfyrIau 1 8pm Rob Beckett - Mouth of the South 39
Gwener 2 8pm Cabaret Pontio: Emily Portman & The Coracle Band 40
Sadwrn 3 7.30pm Hogia’r Ddwylan yn Dathlu 50 41
Mercher 7 12.30pm Blodeuwedd 42
Iau 8 10am a 12.45pm Blodeuwedd 42
Gwener 9 10am a 12.45pm Blodeuwedd 42
Sadwrn 10 11am - 4pm Caban Hub 43
Sadwrn 10 8pm Meilyr Jones 44
Sul 11 7.30pm Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor 45
Iau 15 6.30pm Raslas Bach a Mawr 46
Gwener 16 12.30pm a 6.30pm Raslas Bach a Mawr 46
Sadwrn 17 1pm a 6.30pm Raslas Bach a Mawr 46
Sul 18 7.30pm Llafn o Wawl 47
2
Croeso, a diolchCroeso i raglen newydd sbon llawn i’r ymylon
a diolch i chi i gyd am eich cefnogaeth dros y cwta
flwyddyn ers i ni agor ein drysau… mae hi wedi bod
yn siwrnai o ddarganfod i bawb, gyda dros 35,000
ohonoch wedi mynychu digwyddiadau yn ein tymor agoriadol.
I chi sy’n codi rhaglen am y tro cyntaf – mae’r drysau ar agor led y pen
yn eich disgwyl – bachwch ar ein cynigion a dewch i mewn am baned,
i ymweld â’r Caban, i weld ffilm, drama, sioe syrcas, i fwynhau noson
cabaret , gweithdy, cyngerdd neu un o’n sioeau
misol i deuluoedd gyda’r plant.
Edrychwn mlaen at eich gweld!
Cynigion Arbennig y tymor hwn Rydym yn falch iawn o gynnig ffyrdd newydd o
fwynhau mwy o beth sydd gan raglen artistig
Pontio i’w gynnig yn y theatr, stiwdio neu sinema
– manteisiwch ar ein cynigion arbennig…
*terms and conditions apply see website for full T&Cs
Dewch i fwynhau mwy am lai…*
Mwynhewch fwy o ddrama,
dawns neu gerddoriaeth
gyda gostyngiad o 20% o’r
cyfanswm wrth archebu
tocynnau ar gyfer 5 sioe neu
fwy ar yr un pryd. Mae’r holl
sioeau sy’n gymwys ar gyfer y
cynnig yma wedi eu nodi yn y
rhaglen gyda symbol ac mae’r
cynnig hefyd ar gael ar-lein.
Clwb Comedi Pontio*
Archebwch dair o’n
nosweithiau Comedy
Central Live ar yr un pryd
gan arbed £££ ar-lein neu
ffoniwch 01248 38 28 28
Pryd Clwb Comedi Byrgyr a Chwrw £10* Bwyty Gorad
2-am-1 Nos Fawrth yn Sinema Pontio **
Nos Fawrth yw’r cyfle
delfrydol i ddod â ffrind neu
aelod o’r teulu i fwynhau
sinema Pontio gyda’n cynnig
dau am un. Gwnewch noson
ohoni a mwynhau pryd o fwyd
ym mwyty Gorad.
** 2-am-1 o 1.9.16
*telerau ac amodau llawn
ar wefan Pontio www.pontio.co.uk
Elen ap Robert
CyfarwyddwrArtistig
3
Dydd Sadwrn, 10 Medi 11am a 2pm
Stiwdio
£6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau
(4 person, o leiaf un o dan 18)
Efallai mai hwn fydd y
diwrnod olaf yn y lle yma.
Efallai bod Max wedi bod
yn y lle yma ers peth amser.
A heddiw bydd Max yn ein
tynnu'n ddyfnach i'r byd
cyfrin y mae'n ei rannu gyda'i
aderyn ar ei drampolîn.
Mae'r byd yma'n lle addfwyn
ond torcalonnus. Byd yn
llawn o synau rhyfedd,
adleisiau o'r gorffennol, ac
efallai syniad o'r dyfodol?
Yn ddoniol, hurt a swreal,
mae Unrhyw Ddiwrnod yn archwilio archeoleg
unigrwydd gyda goleuni,
tywyllwch ac, yn y pen draw,
lawenydd.
Mae Unrhyw Ddiwrnod , sydd
wedi ei gosod i sgôr wreiddiol
gan Matt Huxley, yn stori
gyfareddol sy'n trawsnewid
hwrli bwrli gobaith annioddefol
gan wneud i'n hysbrydoedd
godi i'r entrychion.
Oedran: 5+
Gweithdy creu wedi ei ysbrydoli gan 'Unrhyw Ddiwrnod'
Addas ar gyfer
teuluoedd a ffrindiau
12.15pm-1.15pm 3.15pm-4.15pm PL2, Lefel 2 AM DDIM
teulu
family
Unrhyw Ddiwrnod
Teulu
4
Folk / Taith Hydref 2016
Yn Folk, gan Gyfarwyddwr
Artistig Cwmni Dawns
Cenedlaethol Cymru,
Caroline Finn, ceir golwg
ddoniol, ond gydag
ambell adlais tywyll,
ar fywyd a phobl, gan
ddefnyddio arddull
goreograffig anghyffredin.
Gan edrych ar thema
deinameg gymdeithasol,
mae cymeriadau mewn
golygfeydd cyfarwydd a
swreal yn dod yn fyw
mewn tirwedd cerddorol
eclectig a chyfareddol.
Bydd y cwmni hefyd yn
perfformio Tuplet gan
Alexander Ekman, darn
hynod egnïol a doniol lle
defnyddir rhythmau
bywyd bob dydd, yn
ogystal â They Seek to Find
the Happiness They Seem,
sy'n ddeuawd deimladwy
gan Lee Johnston.
“... rhyfedd a rhyfeddol fel yr
holl fythau a chwedlau gorau."
Matthew Bourne, ar Folk”
MATTHEW BOURNE, AR FOLK
@ndcwales #NDCWalesFolk
Nos Wener, 16 Medi, 7.30pmPnawn Sadwrn, 17 Medi, 1pm Perfformiad Matinee Rhyngweithiol i’r Teulu
Dawns
Llun: Rhys Cozens
Theatr Bryn Terfel
Perfformiad nos £14/£12
Matinee Rhyngweithiol i’r Teulu £8/£6
Yn y Sioe Brynhawn Ryngweithiol i Deuluoedd, gall
teuluoedd gymryd rhan
mewn gweithgareddau
gyda'r dawnswyr a
gwylio perfformiad
o Tuplet. Dwyieithog
mewn partneriaeth â
Dawns i Bawb
5
Music
Brecwast Cinio Swper Prydau lant
Swper Cyn Theatr Coctels a Diodydd Egwyl
Archebu: [email protected] | 01248 383826
Mae Pontio bwyd a diod yn
cael ei reoli a’i redeg gan Adran
Gwasanaethau Masnachol
y Brifysgol
Ymwelwch â Bwyd a Diod yn pontio.co.uk am ein bwydlen llawn
Bwyd cartref bendigedig gyda blas o Gymru Food & Drink
Bwyd a Diod
6
Comedi
Nos Fawrth, 20 Medi 8pm
Comedy Central Live yn cyflwyno
MC: Phil Ellis, Ed Hedges aRob Deering
Ymunwch â ni am noson o
chwerthin gyda thri digrifwr
ar daith o amgylch Prydain.
Caniateir diodydd yn y
stiwdio yn nigwyddiadau
Comedy Central Live.
Oedran 16+
Gall y comedïwyr a enwir uchod newid –
edrychwch ar y wefan am ddiweddariadau.
Stiwdio
£10/£8
Jessica Lloyd-Jones Comisiwn Celf CyhoeddusMae Jessica Lloyd-Jones
yn cyfuno celfyddyd,
gwyddoniaeth a thechnoleg
wrth iddi ymchwilio i'r
rhyngweithio sy’n digwydd
rhwng defnyddiau a
phrosesau gyda golau,
gan greu gwaith celf a
gosodiadau sy'n aml yn ein
hannog i brofi'r byd mewn
ffordd wahanol.
Yn ystod haf 2016, bydd
Jessica yn ymgymryd â
chyfnod o ymchwil yn
Pontio, gan brofi syniadau
ar gyfer gosodiadau ac
ymyriadau dros dro sy'n
cynnwys golau o fewn
mannau cyhoeddus Pontio.
Bydd y broses yn llywio
cynigion ar gyfer gosodiadau
celf gyhoeddus barhaol yn
Pontio fydd yn cyfrannu at
awyrgylch, hunaniaeth a
harddwch yr adeilad.
Mae Jessica yn gweithio
yn Llangollen ac mae ei
gweithiau blaenorol yn
cynnwys gosod golau
parhaol yng Nghanolfan
Grefft Rhuthun a goleuadau
pensaernïol sy’n ymateb i
wynt ym Mhlas Heli, Pwllheli.
Ariennir rhan celf gyhoeddus
yr adeiladu cyfalaf gan
Gyngor Celfyddydau Cymru
a Phrifysgol Bangor.
7
Pnawn Sul, 25 Medi 1-2pm
Anne Denholm
Yn wreiddiol o Dde Orllewin
Cymru ac o dras Albanaidd,
Anne Denholm yw un o
delynorion ifanc amlycaf
Prydain ac mae'n Delynor
Swyddogol i Dywysog Cymru.
Mae Anne wedi cael
magwraeth gerddorol gadarn
Brydeinig, gan astudio yn
Adran Iau Coleg Brenhinol
Cerdd a Drama Cymru, yn
y Purcell School, Prifysgol
Caergrawnt ac yn yr RAM.
Fodd bynnag, mae wedi
etifeddu traddodiadau
cyfoethog o'r ysgolion Ffrengig
a Rwsiaidd o chwarae'r delyn.
Mae galw cynyddol am Anne
fel dehonglydd a pherfformiwr
cerddoriaeth newydd. Mae
wedi bod yn recordio a
chwarae gweithiau newydd i
delyn unigol er 2006. Bydd yn
ôl yn Pontio ar gyfer Cyngerdd
gydag Ensemble Cymru ar
Hydref 30.
Yn ogystal â pherfformio, mae
Anne yn hynod frwd ynghylch
cerddoriaeth mewn cyd-
destun cymunedol ac addysg.
Ar y Bont, Lefel 2
AM DDIM
Pnawn Sadwrn, 24 Medi 12pm a 3pm
Dripping Tap Theatre Company
Webster & Jones: Canllaw Mawr i Gymru Fach
Ymunwch â Webster &
Jones ar eu hynt i orchfygu’r
awyr agored! Antur ddigri
a chyfranogol sy’n dilyn
helyntion y fforiwr dewr, ond
anlwcus, a’i dywyswr ffyddlon
wrth iddynt archwilio awyr
agored Cymru, i gyrraedd
eu nod eithaf: copa mynydd
‘Snowed On’.
Mae nod Mr Webster o lunio
canllaw i Gymru yn syniad
uchelgeisiol o ystyried nad yw
ei dywyswr yn gallu siarad gair
o Saesneg…
Yn cael ei chyflwyno gan
Gwmni Theatr Dripping Tap.
Comisiynwyd gan Articulture,
gyda Chonsortiwm
Celfyddydau Awyr Agored
Cymru. Cefnogir gan Gyngor
Celfyddydau Cymru.
Dwyieithog
Tirlun Pontio
AM DDIM
8
sinema
cinema
1 Sgrin 7 diwrnod yr wythnos 15 ffilm newydd y mis
70 dangosiad y mis 3D 2 am 1 ar Nos Fawrth*
1 llwyfan ar gyfer goreuon byd opera a theatr byw
Profiadau
niferus
ar gaelCyhoeddir rhaglen Sinema Pontio ar-lein
a thrwy raglen fisol a ddosberthir yn lleol
ac yn y ganolfan.
I dderbyn bwletinau e-bost wythnosol,
crëwch gyfrif ar-lein yn www.pontio.co.uk
gan rhoi tic wrth ymyl ‘Sinema’ yn y categori
diddordebau. Dilynwch y newyddion ffilm
diweddaraf ar Trydar @sinemapontio
Archebwch ar pontio.co.uk
01248 38 28 28
*O Fedi'r 1af 2016. Am delerau
ac amodau gweler www.pontio.
Dangosiad gyda'r actor Celyn Jones
9
Nos Fawrth, 27 Medi 7.30pm
Soho Theatre a Francesca Moody yn cyflwyno
Spine
Mae Spine yn alwad i'r gad i’n
hoes fodern – mae’n hynod
ddoniol, ond yn dorcalonnus
hefyd. Enillodd y ddrama
hon o waith Clara Brennan,
sy'n dod i amlygrwydd
cyflym fel dramodydd ar
Channel 4, wobrau Fringe
First a Herald Angel.
Mae Spine yn dilyn hynt
a helynt cyfeillgarwch
ymfflamychol rhwng merch
ifanc ffyrnig a phendant ei
daliadau a gwraig weddw
oedrannus o Ddwyrain
Llundain. Mae Glenda, sy'n
bensiynwraig ddireidus,
yn benderfynol o adael
gwaddol wleidyddol ar ei hôl
ac achub Amy o'r domen
sbwriel Dorïaidd oherwydd
'there's nothing more
terrifying than a teenager
with something to say'.
Yn y cyfnod yma o doriadau
niweidiol a dadrithiad,
ydi gwleidyddiaeth wedi
anghofio pobl? Allwn ni
grafangu grym yn ôl mewn
gwirionedd? Mae Amy
ar fin cael ei gorfodi
i ganfod yr ateb.
Canllaw oedran: 16+
Gyda sgwrs ôl-sioe
Stiwdio
£12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau
“An outstanding
piece of writing"
BRITISH THEATRE GUIDE
“Leaves you exhausted,
thrilled and full
of potential"
FEST
Drama
10
Nos Wener, 30 Medi 8pm
Cabaret Pontio yn cyflwyno
Black Umfolosi
Caiff perfformiadau Black
Umfolosi eu hysbrydoli
gan ganeuon a dawns
traddodiadol eu cartref yn
neheudir Affrica, ac mae
harddwch a brwdfrydedd eu
cyflwyniadau'n ddigymar.
Mae'r grŵp wedi dod yn
ffefrynnau mawr ymysg pobl
o bob oed a diwylliant ledled
y byd, oherwydd eu gallu
naturiol i gyfleu angerdd a
theimlad yn eu sioeau.
Caniateir diodydd yn y theatr
mewn digwyddiadau Cabaret.
Canllaw oed: 6+
Theatr Bryn Terfel
£14/£12 myfyrwyr a gostyngiadau
“Hwn oedd y perfformiad
gorau un yn yr ŵyl. Mae
ganddynt ffordd anhygoel
o ganu a dawnsio, gyda
phresenoldeb eithriadol
hardd ar y llwyfan. Roedd eu
symlrwydd, eu naturioldeb
a'u sirioldeb yn anrheg
hynod werthfawr i ni ar
ddiwedd yr ŵyl”
GŴYL MILAN
Gweithdy Llais a Symudiad
Dydd Gwener, 30 Medi, 12.30-2pm Stiwdio (30 o bobl ar y mwyaf) AM DDIM, ond bydd angen archebu lle.
Gweithdy ysbrydoledig o
ganu a dawnsio addas i bob
oedran - profiad fydd yn
fwynhad pur.
Cerddoriaeth
Dewch i gwrdd â chriw BLAS!
11
PontioTocyn AnrhegAnrheg berffaith ar gyfer unrhyw achlysur
Gydag amrywiaeth eang o
ddigwyddiadau ar gael yn
Pontio, o ddrama i syrcas,
cerddoriaeth byd a gigs i
bale, panto, ffilm a mwy,
prynwch docyn anrheg am
£10, £20 neu £50.
Gallwch archebu
oddi ar ein gwefan,
www.pontio.co.uk, dros
y ffôn ar 01248 38 28 28
neu ewch draw i’n Swyddfa
Docynnau – bydd
rhywbeth at ddant bawb.
BLAS yw rhaglen ieuenctid
Pontio sy’n rhoi’r cyfle i blant
a phobl ifanc gael blas o’r
celfyddydau.
Mae gan BLAS dri dosbarth
drama a gynhelir bob nos
Lun yn Stiwdio Pontio.
Dosbarth Bl 3 a 4 5-6pm
Dosbarth Bl 5 a 6 6:15 – 7:15pm
Dosbarth Bl 7, 8 a 9 7:30pm – 8:30pm
Hefyd mae BLAS yn gweithio
gydag ysgolion a’r gymuned.
Dyma ein gwaith diweddaraf:
Mae Yna Le – Gyda chwmni
syrcas NoFit State ac Ysgol
Friars, Glanadda, Glancegin,
Hirael a Chanolfan Addysg
Y Bont
Swyn y Gwyllt – Gyda
chwmni syrcas Citrus Arts a
Stiwdio Ddawns Bangor
Dod â Siwan yn Fyw i bobl
ifanc a oedd yn astudio'r
ddrama Siwan ar gyfer eu
Lefel A
Disgleirio – Gyda Pirates of
the Carabina ac Ysgol Coed
Mawr, Glancegin a Theatr
Ieuenctid Môn.
Cofiwch ddefnyddio
#BLAS wrth drydar!
Rydym wedi agor rhestr aros i bobl ifanc a hoffai ymuno â BLAS. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Mared Elliw Huws Cydlynydd BLAS a Datblygu’r Celfyddydau, Pontio [email protected] neu’r Swyddfa Docynnau drwy ffonio 01248 38 28 28.
12
Nos Sadwrn, 1 Hydref 7.30pm
Cyngerdd Dathlu Côr Seiriol yn 25
Dewch i ddathlu penblwydd
Côr Seiriol yn bump ar
hugain oed yng nghwmni
dau o brif gorau Cymru -
Côr Seiriol a Chôr Godre’r Aran. Cyflwynydd y noson
fydd Nia Roberts, BBC
Radio Cymru, sydd newydd
dderbyn Cymrodoriaeth er
Anrhydedd gan Brifysgol
Bangor. Cewch hefyd
fwynhau a gwerthfawrogi
doniau dau ŵr ifanc disglair
o’r ardal – Steffan Lloyd Owen, enillydd gwobr
Kathleen Ferrier, a Jâms Coleman, enillydd Rhuban
Glas Offerynnol Eisteddfod
Meifod yn 2015
ac ymgeisydd am
Ysgoloriaeth Bryn
Terfel ym mis Hydref 2016.
Theatr Bryn Terfel
£15
Cerddoriaeth
Steffan Lloyd OwenJâms Coleman
13
Drama
Nos Fercher, 5 HydrefNos Iau, 6 Hydref 7.30pm
Neontopia a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno
A Good Clean Heart
Ma’ HEFIN yn ymwybodol ei fod wedi’i fabwysiadu - ond nid eto o ble.
Ma’ JAY wedi teimlo hiraeth ers pymtheng mlynedd. But what the f*** is ‘hiraeth’?
Dyma ddrama ddeinamig,
ddoniol a theimladwy mewn
dwy iaith gan Alun Saunders,
enillydd Gwobr Theatr
Cymru am Ddramodydd
Gorau yn yr Iaith Saesneg;
stori HEFIN a JAY, dau
frawd a fagwyd ar wahân
gan deuluoedd ac
ieithoedd gwahanol.
Enillydd, Gwobr Dramodydd Gorau yn Saesneg Gwobrau Theatr Cymru
Cyd-gynhyrchiad Neontopia a Chanolfan Mileniwm Cymru, mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Genedlaethol Cymru, a gefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Gofynnwch am
ostyngiadau i grwpiau
Oedran: 14+
Stiwdio
£12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau
mewn cydweithrediad â The Other Room a Theatr Genedlaethol Cymru
141414141444
Nos Iau, 6 Hydref 8pm
Orchard Entertainment yn cyflwyno
Christy Moore
Bydd Christy yn dathlu
ei ben-blwydd yn 70
yn ddiweddarach yn y
flwyddyn, sy’n nodi iddo fod
yn teithio ers hanner can
mlynedd.
Yn ymuno ag ef ar y llwyfan
ar y gitâr bydd Declan Sinnott a Jim Higgins ar offerynnau taro.
Mae Christy Moore yn
parhau i chwarae rhan
bwysig yn y sin gerddoriaeth
gyfoes heddiw. Yn 2010
enillodd wobr Artist
Gwrywaidd Gorau yng
ngwobrau mawreddog
Cerddoriaeth Meteor ac
mae llyfr Penguin Book
of Irish Verse yn cynnwys
ei gân 'Lisdoonvarna'.
Perfformiodd o flaen
80,000 yn yr Oxygen
Festival yn 2011 gan rannu
llwyfan gyda Coldplay ac
mae ei fersiwn o gân Bob
Dylan 'Hattie Carroll' wedi
ei chynnwys yn The Rough
Guide to Bob Dylan, sy'n
cynnwys fersiynau gorau o
ganeuon Bob Dylan.
Mae Christy wedi bod yn
gweithio ar ffilm ddogfen
yn ystod y 6 mis diwethaf,
sydd wedi ei chreu gan y
gwneuthurwr ffilm dawnus
Mark McLoughlin i RTE.
Oedran: 14+
Theatr Bryn Terfel
£35/£32.50
Profwch y Fwydlen Wyddelig
Cyn-Theatr sy’n arbennig
ar gyfer y digwyddiad hwn.
I archebu bwrdd ffoniwch
01248 38 38 26 neu ewch i
www.pontio.co.uk
GORAD
Cydnabyddir cyfraniad hael Is-Ganghellor
Prifysgol Bangor John G. Hughes a wnaeth y
digwyddiad yma’n bosib.
Cerddoriaeth
15
Cerddoriaeth
Nos Wener, 7 Hydref 8pm
Cabaret Pontio yn cyflwyno
We Banjo 3
Dyma un o'r bandiau byw
gorau i ddod o Iwerddon yn
y blynyddoedd diwethaf.
Mae We Banjo 3 yn cyfuno
agweddau ‘supergroup’ gyda
meistrolaeth syfrdanol o
bŵer emosiynol y ffidil, gitâr,
mandolin a banjo.
Gallai unrhyw aelod o'r
grŵp hwn syfrdanu theatr
gyda pherfformiad unigol,
ond gyda'i gilydd fel We Banjo 3, mae'r canlyniad yn
wirioneddol fythgofiadwy.
Ar ddwy ochr yr Iwerydd, yr
un beth sy’n cael ei ddweud
bob amser: ‘Ewch i’w gweld
nhw tra byddwch yn gallu.'
Mae We Banjo 3 yn gosod
safon newydd ar gyfer
cyfuno cerddoriaeth
Wyddelig draddodiadol
a cherddoriaeth werin
Americanaidd.
Caniateir diodydd
yn y theatr ar gyfer
digwyddiadau anffurfiol
steil cabaret.
Theatr Bryn Terfel
£14/£12 myfyrwyr a gostyngiadau
Profwch y Fwydlen Wyddelig
Cyn-Theatr sy’n arbennig
ar gyfer y digwyddiad hwn.
I archebu bwrdd ffoniwch
01248 38 38 26 neu ewch i
www.pontio.co.uk
GORAD
16
Teulu
Dydd Sadwrn, 8 Hydref 11am a 2pm
M6 Theatre Company yn cyflwyno
Mavis Sparkle
Gyda'i thad yn gonsuriwr a'i
mam yn dilyn y planedau,
does dim syndod fod Mavis
yn ferch bur arbennig!
Gyda dwster plu yn un llaw
ac ychydig o driciau i fyny ei
llawes, mae ein glanhawraig
siaradus yn symud yn nes
ac yn nes at wireddu ei
breuddwydion.
Gydag ychydig o gymorth
gan ei chloc cwcw powld,
bwced mop direidus, a
phaned dda o de, mae Mavis
ar daith tua'r gogledd i weld
sioe oleuadau fwyaf natur
gyda'i llygaid ei hun.
Daw cynhyrchiad cosmig
M6 yn ôl i Fangor wedi galw
mawr, gyda’i gymysgedd o
hud a lledrith, animeiddio
a chwerthin, gan ein
hysbrydoli i gyd i anghofio
amheuon, dilyn ein
breuddwydion ac ymestyn
am y sêr!
Ysgrifennwyd a
chyfarwyddwyd gan Gilly
Baskeyfield a Dot Wood
I oedrannau 4+
a theuluoedd
HYD: Tua 45 munud
Stiwdio
£6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau
(4 person, o leiaf un o dan 18)
teulu
family
“Enchanting…a treasure
trove of delights”
THE STAGE
Gweithdy i’r Teulu
Crëwch waith celf
llawn hud a lledrith
gyda’r artist Lois Prys
12.15-1.15pm neu 3.15-4.15pm PL2, Lefel 2 AM DDIM
17
Nos Fawrth, 11 Hydref Nos Fercher, 12 Hydref 7.30pm
Theatr Genedlaethol Cymru a Teatr Piba mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Merch yr Eog /Merc'h an Eog
Pan mae Mair yn cael ei galw
adref o Lydaw i angladd yng
Nghymru, mae’n dioddef
pwl anghyfarwydd o hiraeth,
ac mae’r sôn am werthu’r
fferm deuluol yn corddi
teimladau o gyfrifoldeb a
dyletswydd. Mae hi bellach
yn cwestiynu dedwyddwch
ei bywyd dinesig yn Brest, a’i
pherthynas gyda’i chariad
Loeiza. Tydy Llydaw erioed
wedi teimlo mor bell o gefn
gwlad Gorllewin Cymru. A
hithau’n gorfod wynebu’r
penderfyniad mwyaf anodd
iddi erioed, daw cymydog
clên ag anrheg anghyffredin
iddi. Ai dyma’r arwydd mae
hi wedi bod yn ei geisio?
Drama newydd, gyfoes
ac amlieithog (Cymraeg,
Llydaweg a Ffrangeg) am
gariad a pherthyn, sy’n
archwilio arwyddocâd y
berthynas glos rhwng Cymru
a Llydaw, ac yn edrych o’r
newydd ar rai o’r problemau
sy’n wynebu pobl ifanc
cefn gwlad.
Perfformir y ddrama yn
Gymraeg, Llydaweg a
Ffrangeg gyda chyfieithiad
ar gael yn y tair iaith, a’r
Saesneg, trwy app Sibrwd
Gostyngiad o 10% i grwpiau
o ddeg neu fwy.
Theatr Bryn Terfel
£12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau
Mae Sibrwd am ddim i'w lawrlwytho o itunes a Google Play. Ewch i Sibrwd.com am ragor o fanylion.
Drama
18
Comedi
Nos Wener, 14 Hydref 8pm
Off the Kerb Productions yn cyflwyno
Rich Hall: Live 2016
Mae arddull sych a
difynegiant y digrifwr byd
enwog Rich Hall wedi ennill
enw iddo fel meistr eironi
absẃrd a brenin ffraethineb
cyflym. Mae'r brodor o
Montana, sy'n enwog am
ei areithiau llymion a’i
ryngweithio cyflym a doniol
gyda chynulleidfaoedd a’i
ddilyniannau cerddorol
gwych, yn mynd ar daith o
amgylch Prydain unwaith eto,
ac mae ar ei ffordd i Fangor.
Dyma ddigrifwr sy’n siarad
yn blaen gan luchio sylwadau
chwerw at gynulleidfa sy’n
dal ar bob gair ac mae’n ennill
cefnogwyr ar draws y byd.
Mae Hall, enillydd Gwobr
Perrier (Gŵyl Gomedi
Caeredin) a Gwobr Barry
(Gŵyl Gomedi Ryngwladol
Melbourne) wedi ei ddisgrifio
fel negesydd trawsatlantig
sy’n dychanu pob gwlad
mae’n ymweld â hi gyda’i
synnwyr cyffredin, ac nid
yw fymryn cleniach tuag
at ei famwlad.
Canllaw oed: 14+
Theatr Bryn Terfel
£16
Ymunwch â ni am ddiodydd cyn y sioe yn Ffynnon
“Now is the time to grab
this chance to see the
great man at work”
THE GUARDIAN
“captivating and brilliant…
ability to make the room
guffaw was worthy of
standing applause”
SUNDAY MIRROR
FFYNNON
Nos Fawrth, 18 Hydref 8pm
Comedy Central Live yn cyflwyno
MC: Michael LeggeSean McLoughlin Andrew Bird
Ymunwch â ni am noson o
chwerthin gyda thri digrifwr
ar daith o amgylch Prydain.
Caniateir diodydd yn y
stwidio yn nigwyddiadau
Comedy Central Live.
Gall y comedïwyr a
enwir uchod newid –
edrychwch ar y wefan am
ddiweddariadau.
Oedran 16+
Stiwdio
£10/£8
Dydd Iau, 20 Hydref 12.30pm – 2.30pm
6.30pm – 9pm
Ant Dickinson Llinellau Croes
Archwiliad cerddorol a
gweledol o offerynnau
mecanyddol a reolir yn
ddigidol, ac wnaed â llaw
yw “Crossed lines”. Drwy
ddefnyddio solenoidau a
moduron a reolir yn ddigidol,
ynghyd â dilyniannau
cynhyrchiol algorithmig
mae’r project yn archwilio
potensial sonig offerynnau
traddodiadol/canoloesol o
Gymru y tu allan i dechneg
a strwythurau cerddorol
confensiynol.
Mannau Cyhoeddus Pontio
Arddangosfa:
20
Nos Iau, 20 Hydref 7.30pm
Electroacwsteg Cymru
Unseen PreludesDenis Smalley yn 70
Cyngerdd o gelf sonig yn
dathlu pen-blwydd un o
gyfansoddwyr acwsmatig
pwysicaf Prydain yn 70.
Mae Denis Smalley wedi bod yn arloeswr
cerddoriaeth acwsmatig
ym Mhrydain ers y 1970au.
Yn ei waith defnyddir grym
technoleg ddigidol i greu
siapiau a lliwiau anweledig,
ond tanbaid, mewn sain
a gofod. I ddathlu ei
ben-blwydd yn 70, bydd
y cyfansoddwr ei hun
yn cyflwyno ei weithiau
diweddaraf, yn cynnwys
perfformiad Cymreig
cyntaf Fabrezan Preludes,
ynghyd â'r gelfyddyd sonig
ddiweddaraf o Gymru.
Perfformir y rhaglen
gan 'Acousmonium'
Electroacwsteg Cymru, sef
cerddorfa o uchelseinyddion
yn llenwi pob rhan o Theatr
Bryn Terfel, gan greu profiad
gwirioneddol wefreiddiol o
sain mewn gofod.
Theatr Bryn Terfel, 1–2pm Sesiwn ymarferol gyda'r Acousmonium
Cyflwyniad a gweithdy am ddim
Cyflwyniad i rym
mynegol rhyfeddol yr
Acousmonium. Rhowch
gynnig ar daflu seiniau
allan i'r gofod, gan
gyfarwyddo'r gerddorfa o
uchelseinyddion o'r consol
cymysgu. Addas i bob
oedran.
Am ddim, ond mae angen
archebu tocynnau.
Theatr Bryn Terfel
£10/£8/£5 myfyrwyr a dan 18 oed
Cerddoriaeth
21
sinema
cinema
Yn cynnig arlwy arbennig
o ddangosiadau theatr,
opera a bale byw
Royal Opera House Live Branagh Theatre Live National Theatre Live
a mwy
Ewch i www.pontio.co.uk
neu edrychwch ar
y daflen ffilm fisol
am ragor o wybodaeth. Swyddfa Docynnau O1248 38 28 28
Anastasia
Norma
The Nutcracker
Dangosiadau Byw
22
Ballet Cymru
Romeo a Juliet
From forth the fatal loins
of these two foes
A pair of star-crossed
lovers take their life
Un o gwmnïau arobryn
Gwobr y Critics Circle,
Ballet Cymru, yn cyflwyno
addasiad rhyfeddol o
gampwaith Shakespeare,
“Romeo a Juliet”.
Ceir ymladd enbyd,
deuawdau angerddol a
themâu cyffredinol yn
atseinio drwy goreograffi
dramatig a thelynegol.
Mae gwisgoedd gwych a
thafluniadau fideo rhyfeddol
yn creu byd o berygl a
chyffro lle delir dau gariad
ifanc mewn cynnen oesol.
Cydweithrediad egnïol a
dihafal ydi “Romeo a Juliet”
rhwng tri o gyrff eithriadol
Cymru yn y celfyddydau,
Ballet Cymru, Coreo
Cymru (Cynhyrchydd
Dawns Greadigol yng
Nghymru www.coreocymru.
com) a Theatr Glan yr
Afon yng Nghasnewydd
(www.newport.gov.uk/
theriverfront)
Mae “Romeo a Juliet” yn
cynnwys gwisgoedd gan
Georg Meyer-Wiel (www.
meyerwiel.com) a astudiodd
yn The Royal College of Art
a chreu gwisgoedd i rai o
gwmnïau blaenllaw’r byd gan
gynnwys Rambert Dance
Company ac Australian
Dance Theatre.
Gofynnwch am ostyngiadau
i grwpiau.
Nos Sadwrn, 22 Hydref 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£10
Dawns
gan William Shakespeare
Llun: Sleepy Robot
23
Cerddoriaeth
Mae Ensemble Cymru, sef
ensemble preswyl Prifysgol
Bangor a Venue Cymru, yn
lansio tymor 2016-2017
gyda’r gerddoriaeth siambr
orau o Gymru ac ar draws y
byd yng Nghanolfan Pontio.
Bydd y cyntaf o dri
pherfformiad yn cynnwys
perfformiad gan eu prif
delynores newydd a'r
cerddor cyntaf i fod yn
Gadeirydd Rhyngwladol
y Delyn Gaynor Cemlyn-
Jones, Anne Denholm.
Mae'r rhaglen, a luniwyd gan
Anne, yn dathlu'r gweithiau
mwyaf prydferth a chyffrous
ar gyfer y delyn ac ensemble
siambr.
Gwahoddir y gynulleidfa
i fwynhau lluniaeth
ysgafn mewn derbyniad
ar ôl y gyngerdd gyda
pherfformwyr Ensemble
Cymru ym mwyty Gorad.
Bydd rhagor o wybodaeth
am y rhaglen yn cael
ei rhyddhau ym mis
Gorffennaf ar
www.ensemble.cymru
Stiwdio
£12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18
Ensemble Cymru @Pontio
Dydd Sul, 30 Hydref 3pm – 4pm
Ensemble Cymru Darganfod y clasuron 1-2pm Lefel 2
Gadewch i gerddorion
Ensemble Cymru eich
diddanu mwyty Gorad
a mannau cyhoeddus
Pontio.
Anne Denholm
Telynores swyddogol
Tywysog Cymru
24
Music
Nos Fercher, 2 Tachwedd 7.30pm
Cân yr Adar Birdsong
Mae ‘na goedwig law
Geltaidd sy’n byw ac yn
anadlu yng Nghymru.
Mae Birdsong / Cân Yr Adar yn adrodd stori trwy
gerddoriaeth a ysbrydolwyd
gan Carngafallt, cartref i
ecosystem gymhleth, sy’n
ffurfio ychydig o dir coedwig
law y wlad ym Mhowys.
Daw Birdsong / Cân Yr Adar â’r bywyd gwyllt
hwn i’r llwyfan trwy asio
cerddorol byw o ganu
gwerin-soul a jazz. Mae’r
pianydd a’r cyfansoddwr
jazz Gwilym Simcock yn
cydweithio gyda’r gantores
Gymreig/Bahaiaidd Kizzy Crawford ac ensemble
glasurol o Sinfonia Cymru
i greu casgliad arbennig o
ganeuon sydd newydd eu
cyfansoddi a’u hysbrydoli.
Mae’r perfformiad hwn wedi
ei greu mewn partneriaeth
â RSPB Cymru a Chyngor
Celfyddydau Cymru.
Ymgollwch yn y tirlun
hwn wrth i ni archwilio
cyfrinachau cudd y goedwig
ar hyd y tymhorau (ac
weithiau yn erbyn y tywydd).
Profwch ddiwrnod a noson
ymhlith natur.
Dihangwch oddi wrth sŵn a
dysgwch eto sut i wrando.
Gofynnwch am
ostyngiadau i grwpiau.
Theatr Bryn Terfel
£14/£12/£5 myfyrwyr ac o dan 18 oed
Kizzy Crawford, Gwilym Simcock a Sinfonia Cymru
Kizzy Crawford a
Gwilym Simcock
MuMuMMMuMMMMuMuMMMMuMMMuMMuMuMuuMuMuMuMuMuMuMMMuMuMMMMMuMuMMMMMuMMMMuMuMMMMuMMMuMuMuMMMuMMMuuMuMuuMMuMMMMuuMMMMuuMuMMMMMuMuMMMMMMuMMuMuMMuMMMMuMMMMMMMuMuMMMMMMuMMuussisisisissssississ cccccccccccccccccccccCerddoriaeth
25
The Boy with The Tape on his Face is
Tape Face
Mae Tape Face yn gymeriad
sy’n apelio at gynulleidfa eang.
Dyma sioe hyfryd, goeglyd,
aml haenog a hynod o
ddoniol, lle mae Sam Wills
yn deffro’r plentyn mewnol
sydd ynom i gyd.
Mae’n llawn hiwmor syml,
clyfar a swynol sy’n creu un
o'r sioeau mwyaf hygyrch
a phleserus i’r byd erioed
ei gweld. Gan adlewyrchu
elfennau o ffilmiau mud,
meim, hud a lledrith,
pypedau, Motown a ffilmiau
Patrick Swayze, mae Tape Face yn enaid synfyfyriol
a chwilfrydig sy’n ymdrin â
phob gwrthrych neu aelod o
gynulleidfa fel darpar ffrind.
Mae Wills yn creu byd o
bosibiliadau a’r unig beth
sy’n sicr yn y byd hwnnw
yw y bydd yna chwerthin.
Mae ei sioeau blaenorol
wedi gwerthu allan yn llwyr
yng Ngŵyl Fringe Caeredin
bedair blynedd yn olynol.
Mae ei deithiau o amgylch
Prydain hefyd wedi gwerthu
allan, cafodd lwyddiant
ysgubol yn y West End yn
Llundain, ac mae wedi cael
ymateb eithriadol o amgylch
y byd.
Addasrwydd oedran: 10+
Nos Iau, 3 Tachwedd7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£16/£14
Comedi
“This boy is going places"
TIMES
“Endlessly inventive,
hysterically funny"
TIME OUT
26
Dydd Gwener, 4 Tachwedd 7.30pmDydd Sadwrn, 5 Tachwedd 2pm
Opus 7
Croeso i fyd drygionus a
chwareus Circa Tsuica.
Cwmni o gerddorion disglair
ac acrobatiaid hynod fentrus
sy'n cyflwyno sioe ryfeddol
o guriadau offerynnau pres
ffynclyd a gorchestion
corfforol fydd yn gwneud i
chi ddal eich gwynt.
Wrth i'r perfformwyr
chwarae cymysgedd llon o
rythmau trawiadol byddant
yn ymroi i'w sgiliau syrcas
heb ollwng nodyn na'i gilydd!
Drwy amrywiaeth nerthol o
acrobateg a cherddoriaeth
fyw mae Circa Tsuica yn
creu sioe syfrdanol.
Yn ychwanegu at y rhialtwch
bydd cerddorion lleol o Fand Jazz Tryfan.
Ydych chi eisiau mwynhau
eich hun i'r eithaf?
Wel, ymunwch â nhw wrth
iddynt ysgwyd y gynulleidfa
yn y sioe hwyliog a byrlymus
hon.
Mae Circa Tsuica wedi'i
chreu gan Cheptel Aleïkoum,
sef casgliad o ddiddanwyr
Ffrengig unigryw sy'n
teithio'r byd yn perfformio
eu sioeau hwyliog.
Theatr Bryn Terfel
£12/£10 myfyrwyr a gostyngiadau
Tocyn Teulu £40 (4 person, o leiaf un o dan 18 oed)
Crying Out Loud, ar ran Circus Evolution, yn cyflwyno Circa Tsuica
Cerddoriaeth a Syrcas
Ymunwch â ni o
7pm yn y bar lle
bydd Circa Tsuica
yn creu awyrgylch
hwyliog i bawb!
27
Cerddoriaeth
Phoenix Piano Trio
Josef Haydn : Triawd yn E fflat, Hob.XV/30
Niels Gade : 5 Noveletten
EGWYL
Franz Schubert : Triawd yn B fflat
Ffurfiwyd Phoenix Piano Trio yn 2010 ac mae wedi
sefydlu ei hun fel un o
ensembles mwyaf
blaenllaw ei ddydd.
Fe'i disgrifir yn Strings
Magazine fel un sydd
â 'naratif cerddorol o
ddyfnder aruthrol’. Maent
wedi perfformio ar sawl
achlysur yn Neuadd
Wigmore yn Llundain a
chafodd eu CD cyntaf – sef
recordiad byw o weithiau
Beethoven sy’n cynnwys y
triawd "Archddug" a'r triawd
yn E fflat, Op. 70 rhif 2 - ei
lansio yn Wigmore yn 2012.
Maent hefyd yn hyrwyddwyr
cerddoriaeth newydd,
ac wedi comisiynu
gweithiau newydd gan bum
cyfansoddwr Prydeinig, gan
gynnwys Cheryl Frances-
Hoad, Philip Venables ac
Edwin Roxburgh. Mae eu
huchafbwyntiau diweddar
yn cynnwys perfformiadau
yng Ngŵyl Ryedale, Gŵyl
Happy Days yn Eniskillen,
Gŵyl Gerdd Ryngwladol
Caerlŷr, a Chymdeithas
Cerddoriaeth Siambr
Llundain yn Kings Place.
Nos Fercher, 9 Tachwedd 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18
28
29
balletLORENT
Snow White
Mae balletLORENT yn
cyflwyno Snow White, a
gyd-gynhyrchir gan Northern
Stage a'i hailadrodd gan
Carol Ann Duffy.
"In the cold heart of winter,
when snow fell as though
the sky was a story that had
been ripped into a thousand
pieces, a beautiful Queen
sat by her window..."
Mae mam sy'n dyheu am
ferch o harddwch digymar
yn cael ei dymuniad, ond
gyda chanlyniadau dinistriol.
Yn nyfnder y goedwig dywyll,
saith o fwynwyr yw unig
obaith Eira Wen - a themtiad
yw'r prif fygythiad y mae'n ei
wynebu ...
Mae addasiad dawns
balletLORENT o un o
straeon tylwyth teg enwocaf
y Brodyr Grimm yn stori o
ddrychau hud, cyfeillgarwch
annisgwyl a phwysigrwydd
harddwch mewnol.
Mae Snow White yn
gynhyrchiad dawns theatr
hudolus i'r teulu cyfan
gan yr un cwmni ag a
gynhyrchodd y bale hynod
lwyddiannus Rapunzel.
Bydd 12 plentyn 6 i 8 oed o’r
ardal leol yn perfformio fel
rhan o’r cynhyrchiad.
Oedran a argymhellir 7+
Nos Wener, 11 Tachwedd 7pmDydd Sadwrn, 12 Tachwedd 3pm
Theatr Bryn Terfel
£15/£13/£10 myfyrwyr ac o dan 18 oed
£45 Tocyn teulu a ffrindiau (4 person, o leiaf un o dan 18 oed)
Yn ystod yr egwyl ac ar ôl y sioe
Yn dilyn llwyddiant
project tafluniad 3D a
dawns fertigol Porth ar
wal allanol Pontio yng
Ngorffennaf 2015, rydym
yn croesawu dylunwyr
fideo y Guildhall School of Music and Drama
yn ôl i Fangor. Y tro yma
byddant yn edrych
ar botensial waliau
gwyn enfawr y mannau
cyhoeddus yn Pontio ...
Byddant yn defnyddio
"straeon tylwyth teg" fel
ysbrydoliaeth i ddarn a
gomisiynwyd yn arbennig
i'w daflunio ar waliau gwyn
yr atriwm canolog yn
ystod yr egwyl ac ar
ôl y perfformiadau
o Snow White.
30
PsapphaThe Hebrides EnsemblePedwared BenyounesEnsemble Cymru
Teyrnged i Max
Mae prif ensembles
siambr a cherddoriaeth
gyfoes Prydain - Psappha
(Manceinion), Ensemble
Hebrides (Glasgow),
Pedwarawd Benyounes
(Llundain) ac Ensemble
Cymru yn dod at ei
gilydd mewn dathliad o
gerddoriaeth newydd fel
teyrnged i'r diweddar Syr
Peter Maxwell Davies.
6.45pm Pedwarawd Benyounes
Pedwarawd Rhif 2 – Simon
Bainbridge (Première y Byd)
7.30pm Transfigured Night Hebrides a Psappha – 25 mlynedd o gerddoriaeth newydd
Peter Maxwell Davies –
The Last Island, Farewell to
Stromness (tr. David Horne)
David Fennessy –
gwaith newydd ar y cyd
(perfformiad cyntaf Cymru)
Arnold Schoenberg –
Verklärte Nacht
Manylion llawn ar gael o www.ensemble.cymru
Nos Sadwrn, 12 Tachwedd O 6.45pm
Stiwdio
£12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18 oed
Gorad, Pontio 9.15pm Am ddim
Ensemble Cymru a Phedwarawd Benyounes Perfformiadau hamddenol
yn y bar: cerddoriaeth a
gyfansoddwyd yn arbennig
gan gyfansoddwyr ifanc
o Ysgol Cerddoriaeth
Prifysgol Bangor *
*Cyflwynir gan Ensemble Cymru,
Ensemble Preswyl Prifysgol Bangor
a Venue Cymru mewn cydweithrediad
ag Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol
Bangor a Pontio
31
MusicComedi
Comedy Central Live yn cyflwyno
MC: Ro Campbell, Laura Lexx a John Hastings
Nos Fawrth, 15 Tachwedd8pm
Stiwdio
£10/£8
Volcano Theatre
Macbeth
Radical Classic ™ o gatalog
Volcano wedi ei hail-lunio
yn 2016.
Cyfarwyddwyd yn wreiddiol
gan Nigel Charnock ar gyfer
Volcano yn 1999. Mae’r
fersiwn dau gymeriad yma
o ddrama fwyaf gwaedlyd a
mwyaf dwys Shakespeare
yn tynnu’r moethusrwydd
brenhinol allan ohoni,
gan greu byd domestig o
lofruddion cyfoes mewn
ymosodiad theatrig,
erotig a threisgar ar y
synhwyrau. Mae'n delynegol,
apocalyptaidd, eithafol a
pheryglus.
Canllaw oedran: 14+
Nos Fercher, 16 Tachwedd7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£10
Ymunwch â ni am noson o
chwerthin gyda thri digrifwr
ar daith o amgylch Prydain.
Caniateir diodydd yn y
stiwdio yn nigwyddiadau
Comedy Central Live.
Gall y comedïwyr a enwir
uchod newid – edrychwch ar
y wefan am ddiweddariadau.
Oedran 16+
MusicDrama
“Brings one closer to the
dark heart of the play
than many more
orthodox versions”
THE GUARDIAN
“Like seeing Tarantino
on stage”
WHAT’S ON
Director's Cut
32
Tŷ Bach Twt
Coreograffydd: Filipa Francisco (Portiwgal)
Perfformwyr: Angharad Harrop, Ceri Rimmer a Henry Horrell
Mae Tŷ Bach Twt yn
edrych ar y syniad o gynefin
gan ystyried beth sy’n
dylanwadu ar ein meddyliau
a'n teimladau ynghylch
cartref a swyddogaeth
Cymru a Chymreictod.
Bydd y darn yn ymdrin â
chwestiynau'n ymwneud
â diwylliant a threftadaeth
a'r hyn mae'n ei olygu i alw
rhywle yn gartref. Trwy
edrych ar ddawnsio gwerin
a cherddoriaeth Gymreig,
bydd y darn yn dod â'r
gorffennol a'r presennol
ynghyd mewn perfformiad
deinamig sy'n gofyn i'r
gynulleidfa ystyried y llefydd
a'r teimladau y maent yn eu
galw'n gartref.
Cyd-gynhyrchwyd
gan Migrations gyda
chefnogaeth Pontio,
Prifysgol Caer a Phrifysgol
De Montfort.
Mae Tŷ Bach Twt yn broject cydweithredol a arweinir gan Angharad Harrop, Bydi Dawns Pontio.
Rhaglen gan Creu Cymru yw
Bydi Dawns (Dance Buddy),
lle mae datblygiad artist a
datblygiad cynulleidfa yn
digwydd gyda'i gilydd. Mae'n
paru artist annibynnol ym
myd dawns gyda theatr
neu ganolfan gelfyddydau
mewn partneriaeth
gyd-fentora.
Nos Iau, 17 Tachwedd 7.30pm
Stiwdio
£5
MusicDawns
33
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Strauss, J Die Fledermaus: Overture
Elgar Concerto i'r Cello
Brahms Symffoni Rhif 4
Christoph König Arweinydd
Leonard Elschenbroich Cello
Ymgollwch mewn
cerddoriaeth am dorcalon,
drama a llawenydd yr hydref
hwn, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a dau o fawrion
cerddoriaeth glasurol:
Brahms ac Elgar.
Mae'n anodd deall yr
amheuaeth oedd ym meddwl
Brahms cyn y perfformiad
cyntaf o’i bedwaredd
symffoni. Mae bellach yn
un o’r darnau cyngerdd
hanfodol hynny ac mae
cynulleidfaoedd ar draws
y byd yn parhau i fod yn
ddiolchgar ei fod wedi goroesi
y tu hwnt i'r perfformiad
cyntaf. Nid yw Concerto i’r
Cello Elgar yn rhoi unrhyw
arwydd o bryderon o'r fath;
mae’n llawn teimlad ac
angerdd o’r bariau agoriadol,
dyma gerddoriaeth o
emosiwn dwfn sydd
â gallu di-ffael i gysylltu
â’r gwrandäwr.
Nos Wener, 18 Tachwedd 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones
£15/£13.50/£5 myfyrwyr a gostyngiadau
Tocyn Teulu: £15/£20
Elgar a Brahms gyda BBC NOW
MusicCerddoriaeth
34
Cabaret Pontio a Making Tracks yn cyflwyno
Chango Spasiuk Argentinian
Hudoliaeth acordion a swing
dwfn o'r Ariannin.
Gartref yn Yr Ariannin,
ystyrir Chango Spasiuk yn
arwr newydd chamamé, y
gerddoriaeth gyda'r ‘swing’
dyfnaf yn Yr Ariannin.
Mae gan yr arddull gynnes
hon, sydd wedi'i seilio
ar chwarae'r acordion,
wreiddiau yn y diwylliant
Guarani brodorol, yn ogystal
â diwylliannau Sbaenaidd
ac o Ddwyrain Ewrop. Ei
chartref naturiol yw tiroedd
coch a choedwigoedd
toreithiog gogledd-ddwyrain
Yr Ariannin, lle ganwyd
Spasiuk i deulu o ymfudwyr
o'r Wcrain.
Mae'n berfformiwr tanllyd
a sensitif ar ei acordion ac
yn dod â'i garisma arbennig
i'w berfformiadau byw.
Mae ei bresenoldeb fel
derfis cynhyrfus ar y llwyfan
a'i ensemble ragorol yn
cynhyrchu cerddoriaeth
o harddwch ac angerdd
dwfn, gan gymysgu
pruddglwyf ag optimistiaeth
wydn. Yn enillydd Gwobr
Cerddoriaeth Byd y BBC
ac wedi'i enwebu am wobr
Grammy De America, mae
ymweliad Spasiuk â Phrydain
ar ei daith hydref eleni yn un
hirddisgwyliedig - peidiwch
â'i golli!
changospasiuk.com.ar
Caniateir diodydd yn
y theatr yn ystod y
digwyddiadau hamddenol,
steil cabaret yma.
“A gifted, profoundly
expressive performer”
ROOTSWORLD
Nos Wener, 18 Tachwedd 8pm
Theatr Bryn Terfel
£14/£12
MusicCerddoriaeth
35
Rhys a Meinir
Arweinydd - Alastair King
Bydd Cian Ciarán o Super
Furry Animals a Cherddorfa
Genedlaethol Gymreig y
BBC yn ymuno ar antur
gerddorol i gyflwyno gwaith
clasurol newydd a fu ar
y gweill ers bron i ugain
mlynedd. Mae Rhys a Meinir, a berfformir gan
gerddorfa lawn, yn waith
hynod sy'n addo gwledd i'r
clustiau – yn ddehongliad
hudolus a dramatig o un
o hen chwedlau gwerin
Cymru a gogoniant tirwedd
ei lleoliad - gan gyfansoddwr
beiddgar yn troedio llwybr
creadigol newydd.
Yn ôl y stori...yn Nant
Gwrtheyrn mae
cyfeillgarwch Rhys a Meinir
yn blodeuo'n gariad pur. Ond
fore eu priodas, er chwilio
a chwilio, does dim golwg
o Meinir yn unman. Mae'r
dyddiau'n troi'n wythnosau,
ac yna'n fisoedd o chwilio
a gofid ac anobaith sy'n
gyrru Rhys yn orffwyll. Un
noson stormus, â Rhys yn
cysgodi dan dderwen, mae
mellten yn hollti'r goeden
gan ddatgelu sgerbwd mewn
ffrog briodas. Yn y fan a'r lle,
mae calon Rhys yn torri ac
mae'n syrthio'n farw wrth
draed ei briodferch.
Nos Sadwrn, 19 Tachwedd 8pm
Theatr Bryn Terfel
£15/£13.50/£5 myfyrwyr a gostyngiadau
Tocyn teulu: £15/£20
Cyfansoddwr: Cian Ciarán Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBCBarddoniaeth gan Gruffudd Antur
Ar ôl y cyngerdd – Jam yn y BarYmunwch â ni ym mar Ffynnon
Pontio ar ôl y cyngerdd am
rywbeth bach ychwanegol
gyda rhai o berfformwyr gorau
Cerddorfa Genedlaethol
Gymreig y BBC. Digwyddiad ar y
cyd rhwng Pontio a’r BBC.
36
Music
Dilyn Fi
Yn dilyn preswyliad yng
Ngŵyl Fringe Caeredin,
dyma sioe i blant dan 7 oed, i
helpu i ddatblygu dychymyg,
sgiliau cyfathrebu a hyder
plant bach.
Mae Nansi yn chwaer fawr
am y tro cyntaf.
I ymdopi mae Nansi yn
dianc i mewn i fyd
dychmygol ei hun.
Sut mae Cai, ei ffrind gorau
un, yn ei helpu hi i wynebu
realiti’r sefyllfa?
Antur dau ffrind sy'n llawn
chwarae, chwilota
ac eliffantod!
Dydd Sadwrn, 26 Tachwedd 11am a 2pm
Stiwdio
£6/£20 Tocyn Teulu a Ffrindiau
(4 person, o leiaf un dan 18 oed)
Cwmni’r Frân Wenteulu
family
Gweithdy i’r Teulu
Gweithdy creadigol
fydd yn mynd â chi
i fyd yr eliffantod
gyda’r artist
Nerys Jones
12.15-1.15pm neu 3.15-4.15pm PL2, Lefel 2 AM DDIM
MusicTeulu
37
Gloria!
VIVALDI : GLORIA
Bach: Brandenberg Concerto rhif 3
Fauré: Les Djinns
Bartók: Four Slovak Folksongs
Fauré: Cantique de Jean Racine
Dilys Elwyn Edwards: Exultate Deo
The Coolin' - Barber
Last words of David - Randall Thompson
Arweinyddion: WNO, Jenny
Pearson, Chris Collins a Guto
Pryderi Puw
Cyfeilydd: Stephen Evans
Cyngerdd arbennig sy'n dod
â Chorws a Chôr Siambr
Prifysgol Bangor, Côr Siambr
Canolfan Gerdd William
Mathias a doniau disglair lleol
ynghyd, mewn prynhawn
o ddathlu canu corawl yn
Theatr Bryn Terfel.
Mae‘r diwrnod yn paratoi’r
ffordd ar gyfer preswyliad
gan Gwmni Opera Cymru
yng ngwanwyn 2017 ac yn
rhan o bartneriaeth tymor
hir sydd yn datblygu rhwng
Pontio, Prifysgol Bangor ac
Opera Cenedlaethol Cymru.
Pnawn Dydd Sul, 27 Tachwedd3pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£10/£5 Dan 18 a myfyrwyr
Antur lleisiol gyda Opera Cenedlaethol Cymru
Opera Cenedlaethol Cymru: Dewch i Ganu
Mae digwyddiadau
Dewch i Ganu Opera
Cenedlaethol Cymru
am ddim i bawb a
does dim angen i chi
fod yn ganwr neu’n
gantores brofiadol.
Ymunwch â ni ar antur
leisiol yng nghyntedd
Pontio am awr cyn
y cyngerdd i gymryd
rhan mewn orig o
ganu. Bydd caneuon
yn ysbryd y cyngerdd
sydd i ddod yn cael eu
canu, gan gynnwys y
Can-can gyda geiriau
a gomisiynwyd yn
arbennig i ddathlu
70 mlynedd o Opera
Cenedlaethol Cymru.
Mae croeso i bawb
ganu gydag Opera
Cenedlaethol Cymru.
2.00 – 2.45 pm AM DDIM
38
BLAS yn cyflwyno...
BLAS yw cynllun cymryd
rhan Pontio, sy’n rhoi cyfle i
bobl ifanc ddarganfod byd
perfformio drwy weithdai
wythnosol a phrofiadau
unigryw gyda chwmnïau
proffeisynol.
Yn ystod y ddau dymor
diwethaf, mae criw BLAS
wedi bod yn brysur yn
dysgu sgiliau perfformio
gan ganolbwyntio ar waith
corfforol a masgiau wrth
gael hwyl!
Yn ystod tymor yr hydref, fe
fydd dosbarthiadau BLAS
yn prysur ddod â’u sgiliau
newydd ynghyd i ddyfeisio
eu sioe eu hunain.
Yr hyn a welwch ar y llwyfan
fydd syniadau’r plant a phobl
ifanc yn dod yn fyw.
Dewch i gefnogi camau
cyntaf actorion, sgriptwyr a
chyfarwyddwyr y dyfodol.
Nos Fercher, 30 Tachwedd7pm
Theatr Bryn Terfel
£6/£3/£15 Tocyn Teulu
(hyd at 4 person, un o dan 18 oed)
MusicMusicCymryd Rhan
3939
Rob Beckett - Mouth of the South
Mae Beckett yn ei ôl gyda
sioe newydd sbon o
ddigrifwch ac mae'n ymdrin
â materion o bwys mawr fel
Kit Kats a bara croyw! Mae'n
un o sêr Live At The Apollo
BBC1, Would I Lie To You?, 8
Out Of 10 Cats a Cats Does
Countdown ar Channel 4,
Mock The Week ar BBC2,
Play To The Whistle ar ITV,
a Celebrity Juice ar ITV2.
Rob hefyd yw cyflwynydd
podlediad The Magic
Sponge ar sianel Dave, gyda
Jimmy Bullard ac Ian Smith,
yn ogystal â chyflwynydd
sioe wych Rock ‘n Roll
Football ar Absolute Radio.
Oed: 14+
Nos Iau, 1 Rhagfyr 8pm
Theatr Bryn Terfel
£15
"There are hints that his eyes
are set firmly on arenas that are
as big as his mouth of his”
METRO
"Relentlessly smiley, perpetually
grinning Londoner whose
unshowy, unpretentious but
thoroughly funny shtick has
every chance of winning him a
big audience…"
GUARDIAN
"Lights up the stage with
his magnetic personality
(not to mention the dazzle
from his teeth)"
MAIL ON SUNDAY
Comedi
40
Emily Portman & The Coracle Band
Mae Coracle, trydydd albwm
Emily Portman, wedi cael
sylw cynyddol a thoreth o
adolygiadau canmoliaethus
ers ei ryddhau ym Mehefin.
Yn ddiweddar cafodd
Coracle ei enwi'n 'Albwm
Gorau 2015' gan y Telegraph
ac mae caneuon ohono wedi
cael eu chwarae gan rai fel
Jarvis Cocker, Late Junction,
gyda sesiwn fyw i ddod ar
Folk Show Mark Radcliffe
ar y BBC.
Mae Emily Portman yn
perfformio gyda The Coracle Band, sef cast
gwych o gerddorion a fu'n
recordio'r albwm stiwdio
gyda hi ac sydd nawr wedi
dod ynghyd i ail-greu
Coracle mewn sioe fyw
uchelgeisiol. Gyda'i gilydd,
bydd The Coracle Band
yn cyflwyno holl ehangder,
dyfnder a harddwch
gwaith gorau Emily hyd
yma. Mae offerynnau taro,
gwefrau, gitâr pedal ddur,
telyn drydan a llinynnau
mawreddog yn ymdoddi
gyda chôr gwirioneddol
o leisiau.
Caniateir diodydd yn
y theatr yn ystod y
digwyddiadau hamddenol,
steil cabaret yma.
Nos Wener, 2 Rhagfyr8pm
Theatr Bryn Terfel
£14/£12
Cabaret Pontio yn cyflwyno
"Coracle is, without
doubt, one of the folk
albums of the year"
SONGLINES
"Coracle is a triumph...
Delicate as a spider’s
web, yet tough as
memory, this is a rich and
remarkable record"
R2 MAGAZINE
Cerddoriaeth
41
Cerddoriaeth
Hogia’r Ddwylan yn Dathlu 50
Rydym yn falch o groesawu
Hogia’r Ddwylan i Pontio
ar achlysur go arbennig,
sef dathlu pen-blwydd y
côr yn 50.
Wedi ei sefydlu yn wreiddiol
fel parti cerdd dant o ryw
ddwsin, fe dyfodd yn raddol
i fod yn gôr cerdd dant ac
yna yn gôr gwerin ac, ymhen
amser, yn gôr meibion.
Fel mae’r enw Hogia’r Ddwylan yn ei awgrymu
mae’r aelodau yn dod o Fôn
ac Arfon ond bellach maent
wedi teithio i gyfandir Ewrop
ac i Ogledd America heb sôn
am Iwerddon a Lloegr.
Dros y blynyddoedd enillodd
y côr gystadlaethau yn yr
Eisteddfod Genedlaethol,
Yr Ŵyl Gerdd Dant, Radio
Cymru, gwyliau cenedlaethol
a rhyngwladol ac maent wedi
cyhoeddi sawl CD.
Nos Sadwrn, 3 Rhagfyr7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12
Unawdydd: Aled Wyn Davies Cyfarwyddwr Cerdd: Iwan Williams
42
Blodeuwedd
gan Huw Garmon (yn seiliedig ar chwedl Lleu Llaw Gyffes)
Amser maith yn ôl pan
fyddai mellt yn hollti’r
awyr a tharanau yn crynu’r
ddaear, credai’r Cymry mai
pwerau’r nos a’r dydd oedd
yn ymladd.
Ar ôl brwydr arbennig o
ffyrnig rhwng eryr yr haul a
helwyr y nos disgynnodd
baban bychan i’r ddaear.
Lleu, mab Eryr yr Haul,
oedd y baban ac yn
ystod y cynhyrchiad hwn
fe gawn glywed hanes
hynod y garwriaeth rhwng
Blodeuwedd ac yntau.
Ond ydy popeth fel y
mae’n ymddangos? Pwy yw
Blodeuwedd? Ydy’r gelynion
yn cael eu trechu? Dewch
i ymuno yn yr hwyl i gael
gweld!
Dydd Mercher, 7 Rhagfyr, 12.30pm
Dydd Iau, 8 Rhagfyr, 10am a 12.45pm
Dydd Gwener, 9 Rhagfyr, 10am a 12.45pm
Theatr Bryn Terfel
£10 oedolion/£8 i blant
Cwmni Mega
teulu
family
Teulu
43
Caban Hud
Dewch am dro i Pontio fel
rhan o ddathliadau tymhorol
dinas Bangor.
Byddwn yn trawsnewid
Caban, y darn celf
cyhoeddus yn nhirlun
Pontio, i rywle arbennig iawn i
blant a’u teuluoedd.
Dewch i weld beth sy’n bosib ei ddarganfod…
Dydd Sadwrn, 10 Rhagfyr11am - 4pm
Caban, mannau allanol Pontio
AM DDIM
teulu
family
Bydd Marchnad
Nadolig ym Mangor
ar y dyddiad yma,
felly galwch yn
Pontio fel rhan o’r
diwrnod i fwynhau
bwyd neu ddiod a
phrofiad unigryw.
: 2016/17
STORIEL.ORG | 01248 353 368
02.07.16 - 10.09.16 HIRAELA photographic portrait
09.07.16 - 17.09.16
VAL HUNT
09.07.16 - 17.09.16 COLIN SEE-PAYNTON
10.09.16 - 29.10.16
AR FAES A BRYN ON HILL AND FIELD
17.08.16 - 05.11.16 CLYWED Y CYN-CUDDIEDIG HIDDEN NOW HEARD
24.09.16 - 12.11.16 AIL-WNEUD/AIL-DDYFEISIO RE-TAKE / RE-INVENT
19.11.16 - 28.01.17YN ERYRI IN SNOWDONIA
AMGUEDDFA ORIEL SIOP CAFFI MUSEUM GALLERY SHOP CAFÉ
Ar agor Mawrth-Sadwrn 11.00 - 5.00 Open Tuesday-Saturday 11.00 - 5.00
44
Cerddoriaeth
Meilyr Jones
Mae’n bleser gan Pontio
gyflwyno Meilyr Jones a
hynny yn Theatr Bryn Terfel
am y tro cyntaf.
Yn dilyn rhyddhau ei albwm
diweddaraf o bop baróc
gwerinol o’r enw 2013 –
a gafodd ei ryddhau eleni -
daw cyn-ganwr y band Race
Horses i Fangor yn dilyn haf
o berfformio mewn gwyliau
ar draws Prydain fel rhan o’i
ail daith.
Mae 2013 yn gyfoeth o
ddylanwadau a gweadau
cerddorol. Mae yna
fflachiadau o faróc, sain
recorder a harpsicord,
recordiad o chwaraewr
acordion Japaneaidd y
daeth ar ei draws yn Rhufain,
recordiadau o garioci ar ffôn,
sain hyfryd a ddilynir gan
chwa o Rebel Rebel David
Bowie a recordiad organ
mewn eglwys ym Mryste.
“Roeddwn i eisiau gwneud
rhywbeth oedd yn teimlo’n
iawn i mi ac yn mynegi
fy niddordebau, sef
cerddoriaeth glasurol
a roc a rôl, a ffilmiau, a
natur a charioci a phethau
di-chwaeth,” meddai Jones.
“Ac roeddwn i eisiau cyfleu’r
teimlad hwnnw yn Rhufain,
y gymysgedd o gelfyddyd
uchel-ael a phethau isel-ael.”
Gig Sefyll
Canllaw oed: 16+
Nos Sadwrn, 10 Rhagfyr 8pm
Theatr Bryn Terfel
£10
A gwahoddedigion arbennig
45
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor
Prokofiev: Lieutenant Kijé Suite
Arutiunian: Trumpet Concerto
Beethoven: Symffoni Rhif 6, ‘Pastoral’
Bari Gwilliam (trymped)
Chris Collins (arweinydd)
Bydd Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol yn cyflwyno dau
gampwaith Sofietaidd
yr 20fed ganrif ochr yn
ochr ag un o symffonïau
mwyaf Beethoven. Mae
Cyfres Lieutenant Kijé gan
Prokofiev, oedd yn wreiddiol
yn sgôr i ffilm gomedi am
filwr dychmygol a grëwyd o
ganlyniad i wall clercyddol,
yn llawn hiwmor tafod
yn y boch a lliwiau Rwsia.
Mae Symffoni ‘Pastoral’
Beethoven yn atgof
hudolus o gefn gwlad, yn
flas croesawus o’r gwanwyn
ar noson o aeaf. Yn y canol,
bydd y pencampwr trymped
lleol, Bari Gwilliam, yn ymuno
â’r gerddorfa yn y concerto
cyffrous a thelynegol gan
y cyfansoddwr Armenaidd
Alexander Arutiunian.
Nos Sul, 11 Rhagfyr7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£10/£5 myfyrwyr ac o dan 18 oed
Music
46
Teulu
Raslas Bach a Mawr
Dewch i helpu ein harwyr
glew, Syr Wynff ap Concord
y Bos a Plwmsan y Twmffat
Twp, wrth iddynt gychwyn
ar antur enbyd i achub y
genedl rhag misdimanars
yr awdurdodau drygionus
ac i ailfeddiannu eu cartref
teuluol...
Sioe newydd sbon i bawb o
bob oed gan Wynford Ellis
Owen a Mici Plwm.
Cast yn cynnwys Iwan
Charles, Llyr Evans
a Carys Gwilym.
Gofynnwch am brisiau
arbennig i grwpiau ar
01248 38 28 28.
Nos Iau, 15 Rhagfyr, 6.30pm
Dydd Gwener, 16 Rhagfyr, 12.30pm a 6.30pm
Dydd Sadwrn, 17 Rhagfyr 1pm a 6.30pm
Theatr Bryn Terfel
£10/£9 myfyrwyr a gostyngiadau
Tocyn Teulu i 4 £35 (o leiaf un oedolyn)
Tocyn Teulu i 5 £43 (o leiaf un oedolyn)
Theatr Bara Caws mewn partneriaeth â Galeri
teulu
family
47
Llafn o Wawl
Noson arbennig i ddadorchuddio cerflun o Wilbert Lloyd Roberts a lansio CD diweddaraf Côr Glanaethwy.
Dau ddigwyddiad y bu
disgwyl mawr amdanynt,
dyna fydd yr arlwy yn Pontio
heno. Mae dros flwyddyn
bellach ers i Gôr Glanaethwy
adael eu marc ar y rhaglen
‘Britain’s Got Talent’ a
heno fe fyddan nhw’n
lansio eu CD ddiweddaraf,
yn cynnwys rhai o’r caneuon
a berfformiwyd ganddynt
yn y gyfres.
Ond mae dipyn mwy na
blwyddyn wedi mynd heibio
ers i Bwyllgor Apêl Cerflun Wilbert Lloyd Roberts gael
ei sefydlu. ‘Wilbert’ oedd y
cyfarwyddwr a gyfrannodd
at osod sylfeini’r theatr yng
Nghymru ac mae'n berygl
na fyddai yna Ganolfan
Gelfyddydau ac Arloesi
debyg i’r hyn a welwn yma
ym Mangor heddiw oni bai
am ei weledigaeth ef.
Heno, i goffáu ei gyfraniad
amhrisiadwy, fe fyddwn yn
dadorchuddio cerflun Nick
Elphick ohono yma yn Pontio.
Wedi’r Nadolig fe fydd
Côr Glanaethwy yn teithio
ar draws yr Iwerydd i
berfformio yn y Carnegie
Hall yn Efrog Newydd. Felly
dewch draw i ddymuno’n
dda iddynt cyn eu hantur
fawr ac i fod yn un o’r rhai
cyntaf i weld y cerflun
unigryw yma yn Pontio.
Nos Sul, 18 Rhagfyr 7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£12/£10
Côr Glanaethwy
Llenor tu hwnt
i’r llenni; - fe
roddodd wefr ei
freuddwyd inni; Llafn
o wawl, a’n llwyfan
ni a lanwyd â’i oleuni.
John Gwilym Jones
48
Gwirfoddoli Byddwch yn rhan bwysig o’n tîm
Cwrdd ag ystod
eang o bobl
Dysgu, datblygu a
defnyddio sgiliau
newydd
Derbyn
cydnabyddiaeth am y
sgiliau yr ydych yn eu
datblygu a phwyntiau
XP ar gyfer Gwobr
Cyflogadwyedd Bangor
Diddordeb? [email protected]
01248 382666
Archebion Grŵp Rydym yn darparu ar gyfer
grwpiau ac, yn achlysurol,
gallwn gynnig gostyngiadau
sylweddol. Cysylltwch â’r
Swyddfa Docynnau am fwy o
wybodaeth ar 01248 38 28 28.
Mae’r holl archebion yn
amodol ar ein telerau a’n
hamodau safonol. Am fwy o
wybodaeth ewch i’n gwefan
https://www.pontio.co.uk/
Online/term
Tâl Postio Ni chodir ffi pan fyddwch yn
prynu tocynnau, ond codir
£1 o dâl postio os gofynnwch
am docynnau trwy’r post.
Ni allwch ofyn am docynnau
trwy’r post yn hwyrach na 10
niwrnod cyn y digwyddiad,
er mwyn sicrhau eu bod yn
eich cyrraedd mewn da bryd.
Wedi hynny, fe allwch gasglu’r
holl docynnau sydd wedi’u
prynu ymlaen llaw o’r
swyddfa docynnau.
Teuluoedd Lle nodir pris tocyn teulu,
mae’r cynnig ar gael i grŵp
o bedwar. Rhaid i o leiaf un
aelod o’r grŵp fod o
dan 18 oed.
Gostyngiadau
Lle bynnag y bo
‘gostyngiadau’ wedi’i nodi ar
gyfer digwyddiadau Pontio,
mae’r categorïau isod wedi’u
cynnwys yn y diffiniad
hwnnw: myfyrwyr a rhai dros
60. Mae plant a phobl ifanc
yn cynnwys unrhyw un o dan
18 oed. Caiff plant dan 2 oed
fynd i mewn am ddim.
Cynllun Mynediad Hynt Mae celf a diwylliant i bawb.
Ond os oes gennych nam
neu ofynion mynediad
penodol, yn aml, gall
mwynhau ymweliad â theatr
neu ganolfan gelf fod yn
fwy cymhleth na dim ond
archebu tocynnau a dewis
beth i’w wisgo.
Mae Hynt yn gynllun
cenedlaethol sy’n
gweithio gyda theatrau a
chanolfannau celf ar draws
Cymru i wneud pethau’n glir
ac yn gyson. Mae Pontio yn
rhan o’r cynllun Hynt am ein
bod yn credu ei fod yn cynnig
yr arfer gorau i’n cwsmeriaid
o ran polisi tocynnau a
mynediad teg.
Cerdyn Aelodaeth yw Hynt Mae Hynt yn adnodd
Mae gan rai â cherdyn Hynt
hawl i gael tocyn yn rhad ac am
ddim i gynorthwyydd personol
neu ofalydd yn Pontio a phob
theatr a chanolfan gelf sy’n
rhan o’r cynllun.
Ewch i www.hynt.co.uk
neu www.hynt.cymru am
wybodaeth ac arweiniad
am y cynllun.
Gwybodaeth Gyffredinol