Upload
bangor-university
View
242
Download
7
Embed Size (px)
DESCRIPTION
Bangor - Beth sydd ymlaen Ionawr - Ebrill 2013
Citation preview
Bangor - Beth Sydd YmlaenIonawr - Ebrill 2013
1
Rhif elusen gofrestredig: 1141565
Llun y clawr: Anna Karenina (tudalen 15) IONAWR GWE 11 CORNELI CUDD 11■ Canolfan Gymunedol Hirael, 7.30pm
IAU 31 CERDDORIAETH YM MANGOR: 24■ THE ORLANDO CONSORT Cadeirlan Bangor, 8pm
CHWEFRORGWE 1 CABARET: THE MIGHTY DOONANS 8■ Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SAD 2 CHWEDLAU’R TAIGA 21■ Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 2.30pm
SUL 3 SINEMA SUL: THE ANGELS’ SHARE 16■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor,
7.30pm
IAU 7+ CERDDORIAETH YM MANGOR: 24SAD 9 SABINE WÜTHRICH & DANIËL KRAMER■ Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 1.15pm
GWE 8 FFILM GWENER: A ROYAL AFFAIR 14■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SAD 9 AR Y RÊLS: RICHARD JAMES A’R BAND + 18■ GARETH BONNELLO Clwb Rheilffordd Bangor, 8pm
SUL 10 SINEMA SUL: THE KID WITH A BIKE 16■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
GWE 15 FFILM GWENER: LE HAVRE 14■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SAD 16 CERDDORIAETH YM MANGOR: ■ CERDDORIAETH GYNNAR BANGOR Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm 25
SAD 16 MAVIS SPARKLE 21■ Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 11am + 4pm
MAW 19 ZOMBIES FROM IRELAND 13■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
GWE 22 CABARET: MOISHE’S BAGEL + ALLAN YN Y FAN■ Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm 8
SUL 24 SINEMA SUL: SEVEN POUNDS 17■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
IAU 28 CERDDORIAETH YM MANGOR: 25■ ENSEMBLE CYMRU Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm
MAWRTHGWE 1 FFILM GWENER: ANNA KARENINA 15■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SAD 2 GŵYL STRAEON 20■ Neuadd Mynydd Llandegai, drysau’n agor 2pm
SAD 2 CERDDORIAETH YM MANGOR: CERDDORFA ■ SYMFFONI PRIFYSGOL BANGOR 26 Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SUL 3 SINEMA SUL: SPRING, SUMMER, 17■ AUTUMN, WINTER… SPRING Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
MAW 5 WHAT THE DICKENS? 6■ Coleg Llandrillo, 7.30pm
IAU 7 CERDDORIAETH YM MANGOR: 26■ GWAWR EDWARDS & HANNAH STONE Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm
GWE 8 FFILM GWENER: TO ROME WITH LOVE 15■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
TUD
TUD
TUD
2
Pontio: Digwyddiadau
@Trydar Pontio
3
Cipolwg sydynSAD 9 DIWRNOD RHYNGWLADOL Y MERCHED 12■ Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor,
10am – 4pm
SAD 9 AR Y RÊLS: YR ODS 19■ Clwb Rheilffordd Bangor, 8pm
SUL 10 SINEMA SUL: PARIS, JE T’AIME 17■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
LLUN 11-16 CEREBELLIUM 22■ Labordy W.C. Evans.
Amseroedd unigol 6.30pm-9.30pm
IAU 14 LLOYD LANGFORD 7■ Tŷ Golchi, 7.30pm
GWE 15 CERDDORIAETH YM MANGOR: 27 ■ CERDDORFA GENEDLAETHOL CYMRU Y BBC Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SUL 17 SUOR ANGELICA 10■ Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 7.30pm
IAU 21 CERDDORIAETH YM MANGOR: 27■ THE GYPSY JAZZ ALL-STARS Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm
GWE 22 CABARET: CLAUDIA AURORA 9■ Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm
SAD 23 NINE 23■ Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor, 7.30pm
LLUN 25 HWYLIAU’N CODI 6■ Neuadd Goffa’r Felinheli, 7.30pm
EBRILLSAD 6 AR Y RÊLS: BRYN FÔN 19■ Clwb Rheilffordd Bangor, 8pm
GWE 12 FFILM GWENER: HOPE SPRINGS 15■ Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor, 7.30pm
IAU 18- CERDDORIAETH YM MANGOR: 28GWE 19 BENYOUNES QUARTET■ Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor, 1.15pm
GWE 19 CABARET KAYA 9■ Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 7.30pm
IAU 25 CERDDORIAETH YM MANGOR: 28CÔR SIAMBR PRIFYSGOL BANGOR
■ Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, 8pm
Ymunwch â’r rhestr bostio i gael y diweddara’
am ddigwyddiadau, newyddion a chynigion
arbennig. Ewch i dudalen
42
CABARET
CyMUNED
DRAMA
FFILM
HWyL pLANT A THEULU
CERDDoRIAETH
pERFFoMIAD
DIGRIFWR
poNTIo’N AWGRyMU
TUD
3
Mae craeniau wedi cyrraedd y safle a gallwn nawr, gyda hyder ddweud bod rhywbeth eithriadol ar y gweill…
Dros y deunaw mis nesaf bydd Canolfan newydd Bangor yn tyfu o flaen ein llygaid a gallwn ddechrau dychmygu’r cyfoeth o bosibiliadau, cyfleodd a phrofiadau fydd ar gael i ni. Yn y cyfamser, mae’r gweithgareddau yn parhau.. mae gennym ni nifer o fentrau newydd: “Yma ac Acw” prosiect adrodd straeon rhyng genhedlaethau: BLAS, priosectau celfyddydau ar ôl ysgol sy’n anelu at ddatblygu sgiliau perfformio a sgiliau llythrennedd ffilm yn ysgolion Hirael a Glancegin; byddwn hefyd yn rhoi’r cyfle i 30 o ysgolion tu hwnt i Fangor rannu eu HaDAsyniaDA / Seeds of Ideas ar gyfer y ganolfan gyda ni.
Mae rhaglen y tymor hwn yn dod a’i amrywiaeth o gyngherddau, gigs, dramáu, ffilmiau a mwy. I’r rhai ohonoch a gollodd Cerebellium llynedd – mae nôl, a’r tro hwn ar agor i rai 16 a drosodd. Prynwch eich tocyn tra bod rhai ar gael – chewch chi mo’ch siomi!
I orffen, bydd Mawrth 1af yn ddiwrnod pwysig eleni am fwy nag un rheswm, gan mai dyma’r diwrnod y byddwn yn datgelu enw’r Ganolfan Newydd. Yn y flwyddyn newydd, bydd panel o bobl ifanc, myfyrwyr a chynrychiolwyr o bob cwr o Fangor yn dod at ei gilydd i drafod eich syniadau – ac i ddewis un enw…
Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig a Tîm Pontio
Cerrig Milltir Pontio...HYSBYSFYRDDAUYn y misoedd i’w dod, byddwch yn sylwi ar lawer iawn mwy o fwrlwm ar y safle adeiladu.
Yn fuan, byddwch yn gweld dyfodiad ein hysbysfyrddau newydd sbon. Bydd pytiau bach o gerddi HaDAsyniaDA yn amgylchynu’r safle – gan gynnig blas ar obeithion a breuddwydion plant ysgolion Bangor ar gyfer y ganolfan newydd.
Y GARREG SYLFAENAr Ionawr 11, 2013, bydd Gweinidog Addysg Gymraeg, Leighton Andrews, yn gosod y garreg sylfaen ar gyfer y Ganolfan ar y safle.
SIOP NEWYDD PONTIOY tymor yma, mi fydd Pontio yn agor ei siop ei hun ar y Stryd Fawr. Byddwn wedi’n lleoli yno nes agor drysau’r ganolfan newydd. Gwyliwch y gofod yma a dewch am dro i ddweud helo…
ENWI’R GANOLFAN NEWYDDHoffai Pontio ddiolch i bawb am y cynigion sydd wedi dod i law ar gyfer cystadleuaeth enwi’r Ganolfan. Caiff yr enw buddugol ei gyhoeddi ar ŵyl Dewi Sant eleni a bydd yr ennillydd yn derbyn tocyn i bob digwyddiad yn nhymor agoriadol y ganolfan!
Cer
rig
Mil
ltir
Po
nti
o...
4
STRYD
FAW
R
FFORDD SACKVILLE
HEOL VICTORIA
STRYD YR ALLT
FFORDD SILIW
EN
FFORDD MEIRION
FFORDD HWFA
FFORDD Y COLEG
FFORDD Y
COL
EG
LON PENRALLT
FFORDD FARRAR FFORDD FARRAR
GORSAF
SAFLEPONTIO
MORRISONS
FFORDD FFRIDDOEDD
ASDA
LIDL
ALDI
KWIK FIT
M&S
CLOC
BBC
STRYD FAWR
STRYD FAWR
STRYD FAWR
AMBRORSE S
TREET
ORM
E RD
FFORDD GLYNNE
FFORDD Y TRAETH
GLANRAFON
RHOD
FA M
ENAI
FFORDD D
EINIO
L
A
5
FFORDD DEIN
IOL
A5Labordy
W.C. Evans
Neuadd Powis
Palas Print Pendref
P
P
P
P
P
P
P
Clwb Rheilffordd Bangor
Neuadd John Phillips
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau
lle
i’n C
AnFo
D
Canolfan Gymunedol Hirael
Neuadd Prichard-Jones
Ty GolchiNeuadd Goffa’r Felinheli
5
Mawrth 5 Mawrth, 7.30pm Coleg Llandrillo, Llandrillo yn Rhos, LL28 4HZ£7/£5 gostyngiadau )01248 382828 8www.pontio.co.uk
Gonzo Moose yn cyflwyno
DrAMA SlAPStiC SY’n ADroDD HelYntion CHArleS DiCKenS Dilynwch stori Charles Dickens fel gohebydd ifanc wrth iddo ddarganfod ar hap, stori a allai wneud ei enw. Croeso i fyd llawn lladron llwfr, troseddwyr treisgar, slymiau afiach, cyfrinachau tywyll a llawer iawn o niwl…
Mae tri actor yn chwarae dros 20 o gymeriadau mewn comedi gyflym a gwefreiddiol sy’n llawn dop o gymeriadau swreal, jôcs gwirion a newid gwisgoedd anghredadwy o sydyn!
“Cybolfa afieithus o actio byrfyfyr, theatr gorfforol, slapstic a
dychan!” - The Stage
Drama gomedi Saesneg yn addas i oedran 8+
Dr
AMA
Llun 25 Mawrth, 7.30pm Neuadd Goffa’r Felinheli£9/£7 gostyngiadau)01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
Theatr Bara Caws DYMA AtgYFoDi Un o gYnYrCHiADAU CYntAF CWMni tHeAtr BArA CAWS
Yn ôl a ni mewn amser i Gyfnod Teyrnasiad yr hen Gwîn Victoria, ac ymunwch â John, Robert, Richard Davies (a’i wraig Ann) - perchnogion cwmni llongau llewyrchus o Fôn - ynghŷd â llu o gymeriadau isel ac amheus eraill! ‘Roedd y cwmni’n gyfrifol am gludo cannoedd o Gymry, glo a nwyddau o bob math o Lerpwl a Llundain i bedwar ban byd, ac yn dychwelyd gyda sawl cargo - yn fwy penodol y giwano drewllyd o ynysoedd anghysbell arfordir Gorllewin De America.
Ond ‘roedd ochr arall i’r geiniog. ‘Roedd y colledion ymysg y llongau’n uchel, sawl un ohonynt yn diflannu am byth...
Addas i bob oed
6
Iau 14 Mawrth, 7.30pm Tŷ Golchi, Cylchdro’r Felinheli £10/£8 gostyngiadau)01248 382828 8www.pontio.co.uk
Mewn cydweithrediad â Ty Golchi
DigriFWr PenigAMP Ar ei DAitH goMeDi gYntAF erioeD Y dyn lwyddodd i lorio David Tennant wrth reslo braich, sydd wedi cael ei enwebu am Wobr Sony ac sy’n falch o gael dweud ei fod wedi ennill cystadleuaeth Esgidiau Mwyaf Sgleiniog Clwb Scowtiaid Baglan 1993. Efallai eich bod wedi ei weld ar Ask Rhod Gilbert, Dave’s One Night Stand neu Don’t Sit In The Front Row. Mae Lloyd Langford wedi ysgrifennu jôcs ar gyfer digrifwyr fel Rhod Gilbert a Frankie Boyle a dyma’ch cyfle chi nawr i glywed y rhai mae wedi eu cadw ar ei gyfer ei hun.
Cyfuniad hyfryd o jôcs, storïau, sylwadau, ad-libio, jôcs un-llinell, acenion*, damcaniaethu, cellwair cyfoes a hunan feirniadu, a’r cyfan gyda’i gilydd yn creu un cawl comedi gwerth ei flasu.
*dim ond yr un acen fydd
Addas i 18+
Dig
riF
Wr
7
CA
BA
re
t
Gwener 1 Chwefror, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor£12/£10 gostyngiadau)01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
The Mighty Doonans
BAnD MAWr teUlUol HWYliog
Datblygodd y MIGHTY DOONANS presennol o’r DOONAN FAMILY BAND. Maent wrth eu boddau’n ei morio hi efo pob math o gerddoriaeth – cerddoriaeth ddawns egniol, Americana, gwerin Iwerddon, roc, jazz.
Synnwch a rhyfeddwch at gyflymder y band yn cyfnewid offerynnau ac yn neidio o’r trydanol i’r acwstig ac yn ôl. ‘Does dim posib peidio neidio ar eich traed a gweiddi am fwy !
Gwener 22 Chwefror, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor£12/£10 gostyngiadau)01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
Moishe’s Bagel & Allan yn y Fan
BAnDiAU BYWiog A SAFonol o’r AlBAn A CHYMrU
Mae MOISHE’S BAGEL o Gaeredin wedi gwefreiddio pobol led-led y byd gyda’u cymysgedd hudol o fiwsig “ klezmer”, jazz a misiwg gwerin y Balcanau. Dawnsfeydd Ewropeaidd, rhythmau o’r dwyrain Canol a pherfformiadau “virtuoso” yn cael eu cyflwyno ar sbîd trên cyflym... Digon i gymryd eich gwynt..!
Gyda ALLAN YN Y FAN, un o fandiau gwerin safonol De Cymru.
Bar arian parod yn unig ar gael o 7pm ym mhob digwyddiad Cabaret.
8
CA
BA
re
t
Gwener 19 Ebrill, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor £12/£10 gostyngiadau )01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
Cabaret KayaDAtHliAD o FiWSig BYD, MeWn CYD-WeitHreDiAD Â gŴYl KAYA
Noson gofiadwy o seiniau’r byd gyda
Trevor Roots & The Collaborators band reggae dawnsiadwy o Fanceinion, gyda hanes hir o weithio gyda chymunedau stryd a sîn gerddorol y ddinas, a’u rhythmau dwfn hudolus.
The Venus Bushfires artist lliwgar o’r enw Helen Parker-Jayne Isibor yn wreiddiol o Nigeria, sy’n arbenigo yn ei gwisgoedd llachar, ei pherfformiadau tanllyd, a’i meistrolaeth o ddrwm metal traddodiadol yr “hang”.
John lawrence gynt o’r Gorkys, bellach yn byw yn unigeddau Eryri, lle mae’n cyfansoddi a recordio ei ganeuon tawel pwerus.
Ac yn croesawu... DJ Fflyffilyfbybl.
I gyd fynd â’r digwyddiad hwn bydd Gweithdai Cerddoriaeth Byd yn cael eucynnal yn ysgolion Gwynedd a Môn.
Gwener 22 Mawrth, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor£12/£10 gostyngiadau )01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
Claudia AuroraSAin CYFAreDDol CerDDoriAetH trADDoDiADol gWerin- BlWS PortiWgAl: FADo
Croeso i sain cerddoriaeth “Silêncio”. Alawon dwys hiraethus, wedi eu canu gan lais ryfeddol a swynol artist byd-enwog: Claudia Aurora gyda’i band o offerynwyr traddodiadol. Mae caneuon Claudia yn ymdrîn â themâu traddodiadol fado o fywyd, cariad, tynged, hiraeth a thristwch. Band Eryl Jones Jazz sipsi, Bluegrass a Swing gyda Billy Thompson (ffidil) Phil Gardiner (gitar) ac Alan Wilcox (bas dwbwl) yn cadw cwmni i’r gitarydd dawnus lleol Eryl Jones.
CABARET PONTIO
9
Cer
DD
or
iAet
HSul 17 Mawrth, 8pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor£10/£8 gostyngiadau )01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
ADDASiAD o oPerA Un ACt PUCCini
Suor Angelica oedd hoff waith y cyfansoddwr yn ôl rhai ac y mae’n chwedl llawn dirgelwch, drama a throeon yn y plot, ond yn fwy na dim, yn hanes gwaredigaeth grefyddol ddyrchafol. Mae’r addasiad hwn gan Brifysgol Bangor, dan gyfarwyddyd artistig Marian Bryfdir a chyfarwyddyd llwyfan Andrew Agace, yn ddathliad o gerddoriaeth ac iaith.
Bydd cantorion o ardal Bangor yn cymryd rhan, gan gynnwys Côr Cymuned Bangor dan arweiniad Pauline Down; a Cherddorfa Symffoni Prifysgol Bangor yn cyfeilio, gyda Chris Collins yn arwain.
Addas i bawb. Bar arian parod ar agor o 7.30pm
Suor Angelica
10
Gwener 11 Ionawr, 7.30pm Canolfan Gymunedol Hirael£3 )01248 382828 8www.pontio.co.uk
DAtgelU grYM CerDDoiAetH trWY BreSWYliAD UnigrYW YM MHlAS HeDD
Yn Hydref 2012, cynhaliodd Pontio ei phreswyliad artistig cyntaf erioed yng nghartref preswyl Plas Hedd ym Maesgeirchen, Bangor.
“Nid mynd i mewn fel diddanwr oedd y bwriad ond, yn hytrach, ymdoddi i gymuned y cartref, gan gynnig creadigrwydd cerddorol yn ôl y galw” – Yr artist preswyl Manon Llwyd.
Ymunwch â’r cerddor a’r gyfansoddwraig Manon Llwyd, cyfarwyddwr artistig Pontio Elen ap Robert, a’r darlithydd ym maes cerddoriaeth mewn iechyd a lles, Dr. Gwawr Ifan, mewn trafodaeth am y profiadau a’r gwersi a ddysgwyd ym Mhlas Hedd. Gwyliwch ffilm dyner am y preswyliad, siaradwch â’r rhai a grëodd y project, a gwrandewch ar brofiadau hynod o deimladwy hystio i rym cerddoriaeth.
Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.
Te a choffi am ddim
CYM
Un
eD
CorneliCuD
D
11
Sadwrn 9 Mawrth, 10am ymlaen Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor Mynediad am ddim
Diwrnod Rhyngwladol y MerchedDiWrnoD i DDAtHlU, CoFio & AnrHYDeDDU BYWYDAU A PHroFiADAU MerCHeD
CYM
Un
eD
Digwyddiad diwrnod cyfan yn gyflwynedig i ferched ymhobman, wedi ei rannu’n sesiynau:
Bore Cofio merched angof. Cyflwyniadau ar ferched sy’n cael eu masnachu; benywdod ac anabledd; merched sy’n cael eu hecsbloetio a darlleniad o waith yr awdures ac ymgyrchydd iaith amlwg Angharad Tomos ar ferched a iechyd meddwl.
Drwy gydol y dydd Ffair Fenter Merched yn rhoi lle amlwg i fusnesau merched lleol, man lles, canolfan wybodaeth, siop lyfrau ac arddangosfa celf merched.
Prynhawn Arddangosfa prosiect celf ar y cyd gyda’r cerflunydd Wanda Zyborska a’r ffotograffydd Glyn Davies sy’n gwneud defnydd o iaith swrrealaeth i archwilio profiad Zyborska o ganser y fron, heneiddio a benywdod.
Cau gyda darn pryfocio gan Deborah Williams. Mae Deborah yn arweinydd greddfol, dilys, angerddol a dymunol sydd, fel newyddiadurwraig, adolygydd a sylwebydd diwylliannol, yn boblogaidd yn y cylchoedd creadigol, diwylliannol cenedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â’r cylch academaidd. Mae ei gwaith yn
y theatr yn cael ei gydnabod yn eang am herio dirnadaeth ynghylch anabledd ac amrywiaeth.
Adnoddau crèche (angen cadw lle. Cysylltwch â Shan Ashton ar:
01248 383668 / 01248 383224 neu drwy e-bost: [email protected])
Cyfieithu ar y pryd, Arwyddo & Dolenni Clywed ar gael ar y cyflwyniadau.
12
CYM
Un
eD
Mawrth 19 Chwefror, 7.00pm Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor£5 (£3 wrth archebu o flaen llaw neu wrth wisgo fel zombi))01248 382828 8www.pontio.co.uk
Zombies from IrelandDIGWYDDIAD FFILM ARBENNIG (Ail ddangosiad yn y byd...)
ZoM-CoM geltAiDD.... gYDA tHrAFoDAetH gYDA’r CYFArWYDDWr
Wedi i brofion y llywodraeth ar droseddwyr mewn carchar Gwyddelig fynd o chwith, mae’r carcharorion yn cael eu cludo mewn llongau i labordy yn Llundain. Ond ar y daith, mae’r cleifion yma’n troi i mewn i zombis ac yn ymosod ar y llong. Cânt eu golchi i fyny ar draeth Llanddwyn lle maent yn gwledda ar unrhywbeth ac unrhywun o’u blaenau. Fyddan nhw’n ei gwneud hi dros Bont y Borth, yntau oes ‘na fodd eu stopio mewn pryd...?
Ffilm arbennig wedi ei chreu yng Ngwynedd a Môn yw ZOMBIES FROM IRELAND. Ffrwyth dychymyg y cerddor Ryan Kift, wedi ei chydlynu ar Facebook, ac yn defnyddio talent actio a thechnegol leol. Yn dilyn y dangosiad bydd dogfen “tu ol i’r llenni” yn cynnwys cyfweliadau gyda’r cyfarwyddwr ynghŷd a’r awduron a’r cast. Bydd y cyfarwyddwr a’r criw yno hefyd ar y noson i ateb eich cwestiynau.
(DU 2012) 84 mun. Cyfarwyddwyd gan: Ryan KiftPrif ran: Siân Davies. Arswyd /Comedi
Bydd gwobr am y wisg Zombi orau!
13
Chwefror 8, 7.30pm
A royAl AFFAir(Denmarc 2012) 137 mun Cyfarwyddwr: Nikolaj ArcelPrif rannau: Alicia Vikander, Mads Mikkelsen a Mikkel Boe Følsgaard
Drama/Hanes/Rhamant. Mae brenhines ifanc, sy’n briod â brenin gwallgof, yn syrthio mewn cariad gyda’i meddyg . Gyda’i gilydd maent yn dechrau chwyldro sydd yn newid eu cenedl am byth.
Chwefror 15, 7.30pm
le HAvre(Y Ffindir 2011) 93 munCyfarwyddwr: Aki KaurismäkiPrif rannau: André Wilms. Blondin Miguel a Jean-Pierre Darroussin
Comedi/Drama. Pan mae bachgen Affricanaidd yn cyrraedd porthladd Le Havre ar long gargo, mae glanhäwr esgidiau oedranus yn trugarhâu wrth y plentyn ac yn ei groesawu i’w gartref.Croeso i bawb
FFil
M
FFILMGWENER
14
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor£4/£3 )01248 382828 8www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael wrth y drws.
Dewiswyd ffilmiau’r tymor hwn gan grwp Ffilm Cymunedol Bangor, cymdeithas fechan o bobl leol sy’n edmygu ffilmiau. Hoffai Pontio ddiolch iddynt am eu dewisiadau cyson o ffilmiau dros y blynyddoedd. os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan, neu os hoffech sefydlu’ch grwp arbennig eich hun i’n helpu i ddewis ffilmiau yn y dyfodol, yna anfonwch ebost atom: [email protected] neu ffôn: 01248 388090.
Mawrth 1, 7.30pm
AnnA KAreninA(DU 2012) 130 munCyfarwyddwr: Joe WrightPrif rannau: Keira Knightley, Jude Law a Aaron Taylor-Johnson
Drama. Wedi’i gosod ymysg haen uchaf Rwsia yn hwyr yn y 19eg ganrif. Mae’r foneddiges Anna Karenina yn ymrwymo i berthynas gyda’r goludog Cownt Vronsky a fydd yn newid ei bywyd.
Mawrth 8, 7.30pm
To roMe wiTH love(UDA 2008) 112 munCyfarwyddwr: Woody AllenPrif rannau: Woody Allen, Penélope Cruz a Jesse Eisenberg
Drama/Rhamant. Bywyd trigolion ac ymwelwyr Rhufain, a’r rhamantau, anturiaethau, a thrafferthion y cant eu hunain ynddynt.
Ebrill 12, 7.30pm
HoPe SPringS(UDA 2012) 100 munCyfarwyddwr: David FrankelPrif rannau: Meryl Streep, Tommy Lee Jones a Steve Carell
Comedi/Drama/Rhamant. Wedi deng mlynedd-ar-hugain o briodas, mae cwpl canol-oed yn mynychu sesiwn wythnos o gwnsela i wella’u perthynas.
FFil
M
FFILM
15
Chwefror 2, 7.30pm
THe AngelS’ SHAre
Dewiswyd gan Tom Batt
(Yr Alban 2012) 101 munCyfarwyddwr: Ken LoachPrif rannau: Paul Brannigan, John Henshaw a Gary Maitland
Comedi/Drama. Gan osgoi carchar drwy drwch blewyn, mae Robbie, sydd yn dad newydd, yn addo troi dalen newydd. Mae ymweliad a distyllfa wisgi’n ei ysbrydoli ef a’i ffrindiau i chwilio am ffordd allan o’u bywydau anobeithiol.
Chwefror 10, 7.30pm
THe KiD wiTH A BiKe Dewiswyd gan Géraldine Crahay
(Ffrainc/Gwlad Belg 2011) 87 munCyfarwyddwyr: Jean-Pierre Dardenne & Luc Dardenne. Prif rannau: Thomas Doret & Cécile De France
Drama. Wedi ei adael gan ei dad, mae bachgen ifanc yn cael ei yrru i fferm wedi’i rhedeg gan y wladwriaeth. Mewn gweithred o garedigrwydd, mae torrwr gwalltau’r dref yn cytuno i’w feithrin ar benwythnosau.
Croeso i bawb
DEWiS Y GWYLWYR
FFil
M
SINEMASUL
16
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor£4/£3 )01248 382828 8www.pontio.co.uk. Hefyd ar gael ar y drws
Yn y gyfres arbennig yma o Sinema Sul, agorwyd y broses o ddewis ffilmiau i’r gynulleidfa. Cawsom ymateb anhygoel gyda dwsinau o gynigion. Dyma bump o ffilmiau a awgrymwyd gennych chi…
Fedrwch dal gynnig ffilmiau drwy enwebu eich hoff ffilm chi i’w ddangos. gofynnwch am ffurflen gan stiward wrth y drws.
Chwefror 24, 7.30pm
Seven PounDSDewiswyd gan illtud Deiniol
(UDA 2008) 123 munCyfarwyddwr: Gabriele MuccinoPrif rannau: Will Smith, Rosario Dawson & Woody Harrelson
Drama. Mae peirianydd gofodol gyda chyfrinach dywyll yn cychwyn ar daith ryfeddol o iachâd ysbrydol drwy newid bywydau saith dieithryn.
Mawrth 3, 7.30pm
SPring, SuMMer, AuTuMn, winTer… AnD SPringDewiswyd gan Eluned Glyn Dafydd
(Corea 2003) 103 munCyfarwyddwr: Ki-duk Kim. Prif rannau: Ki-duk Kim, Yeong-su Oh & Jong-ho Kim
Drama. Ffilm hyfryd o syml sy’n llwyddo i ganolbwyntio ar rywbeth elfennol am y natur ddynol tra ar yr un pryd yn taflu goleuni ar holl ystod y profiad dynol.
Mawrth 10, 7.30pm
PAriS, Je T’AiMeDewiswyd gan Christina Les
(Ffrainc 2006) 120 munCyfarwyddwr: 22 o gyfrarwyddwyrPrif rannau: Juliette Binoche, Leonor Watling & Ludivine Sagnier
Drama/Rhamant. Mae ugain o wneuthurwyr ffilm enwog yn rhoi eu hongl ar gariad yn Ninas y Goleuadau, yn y ffilm aml-haenog hon. 18 stori fer, pob un wedi ei gosod mewn gwahanol ardaloedd o Baris, gyda phob un â’i wahanol gast a chyfarwyddwr.
FFil
M
SINEMA
17
Ar
Y r
ÊlS
Sadwrn 9 Chwefror, 8pm Clwb Rheilffordd Bangor £10/£8 gostyngiadau )01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll, yn cyflwyno
Richard James a’r Band & Gareth BonnelloCYn AeloD o ZYgotiC MYnCi A’r tAlentog gAretH Bonnello
Mae Richard James wedi aeddfedu i fod yn gyfansoddwr creadigol. Mae ei ail albwm unigol We Went Riding yn llawn caneuon pop perffaith wedi plethu â cherddoriaeth gwlad, gwerin Gymreig a pync, i gyd â chymeriad a charisma James yn eu craidd. Mae The Gentle Good (Gareth Bonnello) wedi ei fendithio â llais hyfryd dros ben a chaneuon bendigedig.
“Gyda caneuon fel rhain, dim ond mater o amser fydd hi nes i’r byd ddod yn ymwybodol o dalent Richard James” – Cylchgrawn MOJO
.
Cerddoriaeth o Gymru yng Nghlwb Rheilffordd Bangor. Bandiau... artistiaid... nosweithiau i’w cofio.
welwn ni chi Ar y rêls!
18
Sadwrn 9 Mawrth, 8pm Clwb Rheilffordd Bangor £10/£8 gostyngiadau )01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll, yn cyflwyno
Yr OdsBAnD SeiCADelig A PHerFForMiAD Unigol gAn oSiAn HoWellS
Ennillwyr gwobrwyon Albwm Gorau a Band y Flwyddyn Roc a Pop 2012 ar ôl perfformiadau llwyddianus yn Glastonbury a Wakestock.
Pan dio ddim yn drymio i’r Ods, mae Osian Howells yn swyno gyda caneuon gole cannwyll. Yn fregus a gonest, does dim ffws na ffwdan yma, dim ond caneuon cignoeth, arbennig iawn.
Sadwrn 6 Ebrill, 8pm Clwb Rheilffordd Bangor £10/£8 gostyngiadau )01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
Pontio, mewn cydweithrediad â Gŵyl Gardd Goll, yn cyflwyno
Bryn Fôn a’r BandMAe HAneS Y SÎn roC gYMrAeg Yn AngHYFlAWn HeBDDoYn perfformio hefo ei fand ei hun, mae Bryn Fôn yn sicrhau cynulleidfa lawn ym mhobman ar hyd a lled Cymru, ei lais yn cyflwyno caneuon traddodiadol, baledi araf neu roc gyda hyblygrwydd.
Ar
Y r
ÊlS
19
Sadwrn 2 Mawrth (drysau’n agor 2pm) Neuadd Mynydd Llandegai£4 )01248 382828 8www.pontio.co.uk
DAtHliAD o StrAeon gWerin gWYCH o gYMrU AC inDiA
Prynhawn hudol o adrodd straeon gyda Esyllt Harker i’r plant a T.U.U.P. i’r plant hŷn ac oedolion!
2.30pm - Esyllt Harker o Gymru yn cyflwyno straeon doniol a hudolus am blant o bell ac agos, gyda chanu a cherddoriaeth a chyfle i bawb ymuno.
Addas i blant o bob oed – o 5 hyd 95! (yn Gymraeg)
4.00 - The Unprecedented Unorthodox Preacher Guyana gyda Sheema ar y sitar; yn cyflwyno hen epig o India: The King and the Corpse.
(Perfformiad iaith Saesneg addas i oedolion a phlant hŷn)
Crefftau plant drwy’r dydd gyda Angela Roberts.
HW
Yl P
lAn
t A
tHeU
lU
G W y l
20
Sadwrn 2 Chwefror, 2.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor£5/£3 gostyngiadau )01248 382828 8www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Cwmni Byd Bychan yn cyflwyno:
Chwedlau,r
TaigaDrAMA BYPeDAU i BlAnt A tHeUlUoeDD
Mae pypedau, creaduriad enfawr, adrodd storïau, cerddoriaeth a goleuo yn creu perfformiad swynol. Mae Cwmni Theatr Bychan yn denu’r gynulleidfa i fewn i’r stori lle nad yw pob cysgod yn ddu a gwyn…
“Gwych, deniadol, llawn syrpreisys. Dwi’n 58 blwydd oed a wnes i fwynhau hi cymaint a’r plant!” - Phillip Natty
Sioe Cymraeg addas i blant rhwng 3 & 12 blwydd oed
HW
Yl P
lAn
t A
tHeU
lU
Sadwrn 16 Chwefror, 11am & 4pm. Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor£5/£3 gostyngiadau )01248 382828 8www.pontio.co.uk Palas Print Pendref
Cwmni theatr M6 yn cyflwyno
DrAMA DDoniol i BlAnt YSgol gYnrADD
Gyda’i Thad yn gonsuriwr a’i Mam yn astrolegydd, does dim syndod bod mwy i Mavis na sydd i’w weld ar yr olwg gyntaf! Gyda thelesgôp mewn un llaw, pluen-ddwster yn y llall ac ychydig o driciau wrth gefn, mae Mavis ar daith i’r Gogledd i weld sioe oleuadau fwyaf natur! Gyda ychydig o help gan ei chloc cwcw digywilydd, bwced mop ddireidus a phaned hyfryd o de, mae Mavis yn agosáu at ei breuddwyd.
Sioe Saesneg, addas i blant 5+ a theuluoedd21
Per
FFo
rM
iAD
Llun 11 – Gwener, 16 MawrthSlotiau Amser Unigol: 6.30pm – 9.30pm Labordy W.C. Evans, Prifysgol Bangor
£8. Bwcio ymlaen llaw yn angenrheidol)01248 382828 8www.pontio.co.uk
CerebelliumProFiAD SeiCeDelig A FYDD Yn YSgWYD CHi i’CH CrAiDD
Mae Cerebellium yn ôl am ei ail flwyddyn. Gan gyfuno niwrowyddoniaeth flaengar a theatr i ymgolli ynddi: mae Cerebellium yn gwahodd cynulleidfaoedd i gwestiynu nid yn unig y byd o’n cwmpas ond hefyd y byd ynom ni. Ydy’r byd o’n cwmpas yn bodoli mewn gwirionedd? A chi… ydych chi yna mewn gwirionedd? Mae Dr. Kurtz yn eich croesawu chi i’w labordy, lle fyddwch yn dod wyneb yn wyneb gyda’r wyrth fwyaf erioed: bodolaeth.
“Roedd yn annisgwyl ac yn gwneud i mi feddwl. Dwi ddim yn siwr os oeddwn yn rhan o arbrawf neu ddarn o theatr.”
“Rydych wedi ail-siapio fy nghanfyddiad i o wirionedd!”
Mae’r digwyddiad yma yn boblogaidd iawn a chaniateir nifer cyfyngiedig o ymwelwyr felly byddwch yn siwr o archebu o flaen llaw i arbed siom.
Rhaid i bawb dan18 fwcio mewn parau.
Ddim yn addas i bobl a thueddiadau nerfus, nac i rai sydd yn ei chael hi’n anodd i fod mewn llefydd cyfyng neu dywyll, sydd a chyflyrau calon neu sydd ag anawsterau symud.
Rydym yn ymddiheuro nad oes cyfleusterau i gadeiriau olwyn oherwydd natur unigryw lleoliad y digwyddiad.
Addas ar gyfer oedran 16+
22
Sadwrn 23 Mawrth, 7.30pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor£7/£5 gostyngiadau)01248 382828 8www.pontio.co.uk
Palas Print Pendref
Mr & Mrs Clarke yn cyflwyno
NiNePerFForMiAD DAWnS ‘FilM noir’ rHYngWeitHiol
“Dau o bobl, naw golygfa, mae’r hyn a ddigwydd nesaf yn dibynnu arnoch chi…”
Therapi ffilm noir i gyplau mewn trafferthion a chleifion priodasol. Darn theatr ddawns rhyngweithiol amlgyfryngol gwirioneddol unigryw i gyfeiliant jazz hwyliog a cherddoriaeth yn null y 50au. Mae NINE yn gwahodd eu cynulleidfa’i lywio’r stori drwy gyfrwng darn o sialc a chlepiwr.
Datryswch y stori gyda golygfeydd dethol sy’n datgelu rhan Donnie Pentangelo, dawn Candy Vegas a gwytnwch Betty Mc Coy a fydd efallai yn mynd at wraidd argyfwng priodasol y perfformwyr.
“Arloesol, annisgwyl a’r perfformiad yn berffaith. Theatr gorfforol ar ei orau” – Cylchgrawn Buzz.
Bar arian parod yn unig ar agor o 7pm
Per
FFo
rM
iAD
23
Cer
DD
or
iAet
H Y
M M
Ang
or
Iau 31 Ionawr, 8pm Cadeirlan Bangor
THE ORLANDO CONSORTBydd pedwar llais gwrywaidd yr Orlando Consort yn perfformio cerddoriaeth hynod gain, gwefreiddiol ac amrywiol pump o gyfansoddwyr mawr y Dadeni cynnar yn Ewrop – Johannes Ockeghem, Josquin Desprez, Pierre de La Rue, Antoine Brumel, and Loyset Compère – gan chwilio am gysylltiadau cerddorol a dylanwadau cudd. Cyflwynir y cyngerdd mewn cysylltiad ag Ymddiriedolaeth Radcliffe.
£12 pris llawn, £9 gostyngiadau, £5 myfyrwyr
Iau 7 Chwefror, 8pm, Neuadd Powis, Prifysgol Bangor Sadwrn 9 Chwefror, 1.15pm, Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
SABINE WÜTHRICH (soprano) A DANIËL KRAMER (piano)Ceir dau gyngerdd amrywiol gan y soprano o’r Swistir Sabine Wüthrich a’r pianydd Daniël Kramer o’r Iseldiroedd. Bydd y datganiad nos Iau yn olrhain gyrfa Claude Debussy o chansonnier i fodernydd, trwy ei ganeuon a’i gerddoriaeth i’r piano, yn cynnwys y Six épigraphes antiques ar gyfer deuawd piano gyda Xenia Pestova yn westai. Brynhawn Sadwrn bydd Sabine a Daniël yn perfformio cerddoriaeth gan dri athrylith o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: Beethoven, Schubert a Mendelssohn.
£10 pris llawn, £7 gostyngiadau, £5 myfyrwyr
CerDDoriAetH YM MAngor
24
CerDDoriAetH YM MAngor
Cer
DD
or
iAet
H Y
M M
Ang
or
Cerddoriaeth ym Mangor yw cyfres cyngherddau flaenaf gogledd-orllewin Cymru, gyda pherfformiadau gan artistiaid proffesiynol a’r goreuon o dalent myfyrwyr yn ystod y tymor Brifysgol. Mae Pontio bellach yn gwerthu tocynnau ar gyfer holl ddigwyddiadau Cerddoriaeth ym Mangor! )01248 382828 8www.pontio.co.uk
© S
tephen Rees
Iau 28 Chwefror, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
ENSEMBLE CYMRUYn ymuno â phrif feiolinydd Ensemble Cymru, Marcus Barcham Stevens (darlledu ar BBC Radio 3, Classic FM) bydd y pianydd gwadd Christina Lawrie (enillydd Cystadleuaeth Piano Rhyngwladol Marsala, a daeth i’r rownd olaf yng Nghystadleuaeth Piano Rhyngwladol Madrid) mewn rhaglen o gerddoriaeth gan Kreisler, Chopin a Mathias, gan orffen gyda Sonata ‘Kreutzer’ Beethoven. Ensemble Cymru yw ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru. www.ensemblecymru.co.uk
£10 pris llawn, £7 gostyngiadau, £5 myfyrwyr
Sadwrn 16 Chwefror, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
CERDDORIAETH GYNNAR BANGOR
Dan gyfarwyddyd tri arbenigwr academaidd o Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol, bydd Cerddoriaeth Gynnar Bangor yn perfformio cerddoriaeth offerynnol gan Biber a Vivaldi, cantata hyfryd J. S. Bach Mit Fried und freud ich fahr dahin, a siantiau Gregoraidd ar gyfer Sul cyntaf y Grawys.
£10 pris llawn, £7 gostyngiadau, £5 myfyrwyr
25
Sadwrn 2 Mawrth, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
CERDDORFA SYMFFONI PRIFYSGOL BANGOR
Bydd Chris Collins yn arwain cyngerdd o gerddoriaeth o hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys Première rhapsodie hyfryd Debussy i’r clarinét a cherddorfa, a Choncerto hudolus Nielsen i’r Ffliwt. Gorffennir y cyngerdd gyda Phumed Symffoni enwog Shostakovich, a gyfansoddwyd fel modd i ryddhau trallod a galar y bobl Sofietaidd yng nghanol cyfnod erchyllterau enbyd Stalin.
£12 pris llawn, £9 gostyngiadau, £5 myfyrwyr
© S
tephen Rees
Iau 7 Mawrth, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
GWAWR EDWARDS (soprano) & HANNAH STONE (telyn)
Cyflwynir rhaglen boblogaidd gan y soprano flaenllaw Gwawr Edwards a Hannah Stone. telynores swyddogol y Tywysog Siarl. Ymhlith y darnau a berfformir gan y ddeuwad bydd Penillion Y Plant, Geraint Lewis; Trefniadau o Ganeuon Gwerin Cymreig, William Mathias; detholiad o gelf ganeuon Almeinig a Ffrengig a Dawns Sbaeneg Manuel de Falla.
Mae galw mawr am Gwawr ar gyfer cyngherddau a theledu. Mae hi wedi gweithio gydag Opera Gŵyl Glyndebourne ac yn westai lleisiol ar albwm Nadolig Bryn Terfel. Hannah yw telynores y Tywysog Siarl ers 2011 ac mae wedi perfformio mewn neuaddau o fri yn genedlaethol a rhyngwladol.
£12 pris llawn, £9 gostyngiadau, £5 myfyrwyr
Cer
DD
or
iAet
H Y
M M
Ang
or
CerDDoriAetH YM MAngor ©
Mission P
hotographic of Cardiff
26
Cer
DD
or
iAet
H Y
M M
Ang
or
© Betina Skovbro
Gwener 15 Mawrth, 7.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
CERDDORFA GENEDLAETHOL GYMREIG Y BBCThomas Søndergård (arweinydd), Robert Plane (clarinét)
Dan eu prif arweinydd, Thomas Søndergård, bydd cerddorfa genedlaethol y BBC yn perfformio’r enwocaf o’r holl symffonïau, y Bumed gan Beethoven, a hynny yn y neuadd gyda’r acwsteg gorau yng Ngogledd Cymru. Yn y cyngerdd hefyd perfformir y gyfres gyntaf o Scènes historiques Sibelius, sy’n cyfleu pasiantri canoloesol ei wlad enedigol, Y Ffindir, a hefyd y Concerto dirgel i’r Clarinét o waith Nielsen.
£12.50 pris llawn, £10.50 gostyngiadau, £6 myfyrwyr
Iau 21 Mawrth, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
THE GYPSY JAZZ ALL-STARS
Pan ddaeth Django Reinhardt a Stéphane Grappelli at ei gilydd ym Mharis cyn y rhyfel doeddent fawr feddwl y byddai eu cyfuniad o jas gyda phwyslais ar y llinynnau yr un mor boblogaidd ag erioed 80 mlynedd yn ddiweddarach. Yn y cyngerdd hwn ceir cyfle i fwynhau doniau disglair dau o feistri ifanc y maes ym Mhrydain: y ffidlwr Ben Holder a’r gitarydd Remi Harris. Yn ymuno â hwy bydd Andy Mackenzie (gitâr) a Greg Robley (bas).
£10 pris llawn, £7 gostyngiadau, £5 myfyrwyr
Cerddoriaeth ym Mangor yw cyfres cyngherddau flaenaf gogledd-orllewin Cymru, gyda perfformiadau gan artistiaid proffesiynol a’r goreuon o dalent myfyrwyr yn ystod y tymor Brifysgol. Mae Pontio bellach yn gwerthu tocynnau ar gyfer holl ddigwyddiadau Cerddoriaeth ym Mangor! )01248 382828 8www.pontio.co.uk
CerDDoriAetH YM MAngor
27
Iau 18 Ebrill, 8pm, Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Dydd Gwener 19 Ebrill, 1.15pm, Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
BENYOUNES QUARTETYn ddiweddar enillodd y Benyounes Quartet Gystadleuaeth Ryngwladol Gyntaf Sandor Vegh i Bedwarawdau Llinynnol yn Budapest, a byddant yn dychwelyd i Fangor i gynnal dau gyngerdd, yn cynnwys y cyntaf o bedwarawdau Op.18 Beethoven, Pumawd i’r Clarinét gan Mozart (gyda Peryn Clement-Evans yn westai), a’r Arcadiana o waith y cyfansoddwr Seisnig nodedig, Thomas Adès.
Nos Iau: £10 pris llawn, £7 gostyngiadau, £5 myfyrwyr Prisiau tocyn arbennig ar gyfer cyngerdd amser cinio ddydd Gwener: £6 pris llawn, £4 gostyngiadau, £2 myfyrwyr
Iau 25 Ebrill, 8pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
CÔR SIAMBR PRIFYSGOL BANGOR
Bydd y cyngerdd hwn yn ymdrin â thirweddau eang Gwledydd y Baltig drwy gerddoriaeth gorawl rhai o gyfansoddwyr dylanwadol Latfia, Estonia a Lithuania. Canolbwynt y cyngerdd fydd Plainscapes hudolus Peteris Vasks a’r Autumn Landscapes hyfryd gan Veljo Tormis, ynghyd â darnau byrrach gan Arvo Pärt ac eraill.
£10 pris llawn, £7 gostyngiadau, £5 myfyrwyr
CerDDoriAetH YM MAngorC
erD
Do
riA
etH
YM
MAn
go
r
28
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
Pontio’n AwgrymuYma yn Pontio, rydym wrth ein boddau efo’r celfyddydau – hoffem wybod pa ddigwyddiadau sydd ymlaen. Mae’r tudalennau sy’n dilyn yn llawn o ddigwyddiadau amrywiol o gwmpas ac yng nghanol Bangor y mae Pontio yn awgrymu’n gryf! o ffilmiau a chyngherddau roc i arddangosfeydd gwyddonol a darlithoedd cyhoeddus, mae ‘na rhywbeth at ddant pawb! Ystyried hon yn raglen “Beth sydd ‘mlaen”, mwynhewch…
os hoffech chi restru’ch digwyddiad yn rhaglen tymor y haf Pontio, e-bostiwch ni ar [email protected]
12 TuDAlen O O RESTRU
AM DDiM YN DECHRAU
YMA
Vivienne Rickman- Poole Wendy DawsonIonawr – Mawrth
Michael Powell & Hilary CartmelEbrill – Mehefin 2013
Oriel Ysbyty Gwynedd, Prif Fynedfa Ysbyty Gwynedd, Penrhosgarnedd, Bangor
Yn ddyddiol. Am ddim. www.gwyneddgreadigol.com
29
Petunia and the vipersSul 3 Chwefror, 8pm
Gwesty Victoria, Porthaethwy, Ynys Môn LL59 5DR
Tocynnau £12, Palas Print Bangor
Mae Petunia and the Vipers yn drysor heb eu darganfod o Quebec, Canada. Disgrifir eu cerddoriaeth gwyllt heintus fel “Tom Waits yn cyfarfod Elvis ar gyffordd hobo Woody Guthrie” !
www.petuniamusic.com
Sara Petite Gwener 8 Fawrth, 8pm
Gwesty Victoria, Porthaethwy, Ynys Môn LL59 5DR
Tocynnau £10, Palas Print Bangor
Cantores honci-tonc hyfryd o San Diego gyda chaneuon cryf a llais rhyfeddol sydd yn dwyn enwau fel Loretta Lynn a Dolly Parton i gof. (Aildrefnwyd o fis Tachwedd diwethaf)
www.sarapetite.com
ewan MclennanIau 17 Ionawr, 8pm
Gwesty Victoria, Porthaethwy, Ynys Môn LL59 5DR
Tocynnau £10, Palas Print Bangor
Canwr a gitarydd Gwerin ifanc syfrdanol o’r Alban ac enillydd y “BBC Radio 2 Horizon Award” yn 2011. “I was completely and utterly bowled over by his music” – Mike Harding
www.ewanmclennan.co.uk
GiGS OWENDetholiad o gigs dan ofal y dyn hynod hwnnw, owen Hughes o recordiau Cob
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
30
wikileaks: oes ganddon ni hawl i wybod? Nos Fercher 20fed Chwefror, 7pmDarlithfa 5, Prif Adeilad y Celfyddydau
Trafodaeth agored am WikiLeaks, Julian Assange a chyfrinachedd. Croeso i bawb.
Am ddim
Darlith gyhoeddus
yr Arglwydd Puttnamo Queensgate CBeMercher 1 Mai, 6pm Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau
Gwersi Leveson – Rheoli’r Cyfryngau yn Oes y Rhyngrwyd.
Am ddim
noson un Byd Dydd Gwener 8 Mawrth, 6.30pm Neuadd Prichard-Jones, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor, Ffordd y Coleg, LL57 2DG
Noson o berfformiadau lliwgar gan fyfyrwyr i ddathlu’r amrywiaeth o ddiwylliannau ymysg myfyrwyr Prifysgol Bangor.
Am ddim – ond angen cofrestru [email protected]
GiGS OWENDetholiad o gigs dan ofal y dyn hynod hwnnw, owen Hughes o recordiau Cob
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
Sioe gomedi Byrfyfyr AM DDiM Gwener 1 Chwefror Drysau: 8:30pm, Sioe’n dechrau: 9pm Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol BangorMae Bangor Comedy yn cyflwyno ei sioe gyntaf o’r flwyddyn newydd!!
www.facebook.com/bangorcomedy
Sioe gala Bangor ComedyLlun 22 Ebrill Drysau: 8:30pm, Sioe’n dechrau: 9pm Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol BangorCewch weld goreuon o Bangor Comedy yn ei sioe gala diwedd flwyddyn!
31
Huw Warren’s Brazil SpecialGwener 18 Ionawr, 8pm(Bwyd o 6.30 i 7.45pm)Seiniau trofannol ar gyfer gaeaf gogledd Cymru wedi’i arwain gan un o gerddorion jazz mwyaf blaenllaw Cymru ac artist preswyl presennol Gŵyl Jazz Aberhonddu. Cerddoriaeth gan Tom Jobim, Hermeto Pascoal, Tania Maria, Egberto Gismonti, Joyce a llawer iawn mwy.www.huwwarren.co.uk
Gwilym Morus, House of Trees a Rob JonesGwener 25 Ionawr, 8pm (Bwyd o 6.30 i 7.45pm)‘House of trees’ yw cyfrinach orau Sweden! Mae’r caneuon yn cymysgu cerddoriaeth glasurol, gwerin a jazz. Mae Gwilym Morus yn cyfareddu ei gynulleidfa gyda’i lais soniarus a’i ganeuon diymhongar. Mae Rob Jones yn frodor o ogledd Cymru ac yn dod â dehongliad cyfoes o faledi gwerin traddodiadol.houseoftrees.net http://caneuon.com/fr_hafan.cfm
Julia Biel a Phil KingGwener 1 Chwefror, 8pm (Bwyd o 6.30 i 7.45pm)Arlwy arbennig o ddau ganwr / cyfansoddwyr caneuon uchel eu clod. Mae straeon barddol Julia Biel a’i llais llawn cymeriad yn siŵr o’ch mesmereiddio, tra bo cerddoriaeth werin/blŵs gwefreiddiol Phil King ar y gitâr wedi’i gyfuno â chyfansoddi caneuon cynhyrfiol. Am Julia Biel: “striking and original”, The ObserverAm Phil King: “absolutely brilliant”, Bob Harris, Radio 2www.juliabiel.com www.phil-king.net
Heldinky’s Intimate eveningGwener 8 Chwefror 8pm £4 (Noson gig, dim bwyd ar gael) Y gantores a’r ysgrifennwr caneuon profiadol, Helena, yw prif leisydd Heldinky. Mae gwesteion arbennig ar gyfer y noson yn cynnwys: John Lawrence (gitarydd Gorky’s gynt) - canwr, cyfansoddwr caneuon a gitarydd uchel ei barch. Rhys Trimble - bardd dwyieithog cyfareddol a mentrus, a Zaru Johnson - y bardd ifanc byrfyfyr sy’n ysgogi’r meddwl uk.myspace.com/heldinky
Caffi BluE Skyneuadd Ambassador, yng nghefn 236 Stryd Fawr, Bangor ll57 1PA www.blueskybangor.co.uk
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
32
Gig £8 Pryd dau gwrs £10 (heblaw am 8 Chwefror, gig yn unig £4)
Tocynnau ymlaen llaw: Caffi Blue Sky: 01248 355444
Huw Warren - It could happen to Huw Gwener 22 Chwefror, 8pm (Bwyd o 6.30 i 7.45pm)Pianydd ardderchog gyda prosiect newydd sbon yn ailweithio safonau glasurol y llyfrau caneuon jazz.Huw Warren piano Huw V Williams bas Zoot Warren drymiauA gwestai gwadd arbennig i’w gadarnhau
www.huwwarren.co.uk
Sarah Smith Trio Mercher 13 Marwth, 8pm (Bwyd o 6.30 i 7.45pm)Cerddoriaeth wedi’i drosglwyddo’n uniongyrchol gan fawrion jazz y 30au a’r 40au, Django Reinhardt a Stephane Grappelli – cymysgedd hudolus o swing Americanaidd, sipsi ac arddulliau Ewropeaidd. ‘Stupendously good’
www.sarahsmithtrio.co.uk
The Carrivick Sisters & Blair DunlopMercher10 Ebrill, 8pm (Bwyd o 6.30 i 7.45pm)Carrivick Sisters “Formidable multi-instrumental skills and songwriting, maturing at such a steep curve they’ll soon be orbiting far beyond anyone else” Q MagazineBlair Dunlop “The British folk scene has produced a series of impressive dynasties and this looks like the start of yet another” The Guardian
www.thecarrivicksisters.co.uk www.blairdunlop.com
Sinema AchlysurolY pedwerydd Mercher o’r mis, Caffi Blue Sky Bangor, o Fedi tan Ebrill pob blwyddyn O 6.00pm ymlaen am fwyd, ffilm dueddol o ddechrau oddeutu 7.30pm
Sinema’r Byd i Bawb
Incendies 23 IonawrThe Guard 27 ChwefrorEat Drink Man Woman 27 MawrthNowhere in Africa 24 EbrillBwyd tua £10, ffilm am y tro cyntaf yn £5, £3 wedi hyny I archebu pryd o fwyd, ffoniwch, Blue Sky - 01248 355444. Dim archebu ffilm heb archebu bwyd, cyntaf i’r felin...
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
33
Pythefnos o arddangosfeydd a digwyddiadau i ddathlu’r byd o wyddoniaethMae trydydd Ŵyl Wyddoniaeth cyffrous Bangor yn cynnwys gweithgareddau AM DDIM, arddangosfeydd, cystadlaethau, teithiau gerdded a thrafodaethau. Cadwch lygad ar y wefan gan fod digwyddiadau newydd yn cael eu ychwanegu bob wythnos.
Junior Photography, Poetry & Art Awards Gwener 15 Mawrth
Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd, Bangor.
Cyflwyno’r Gwobrau i Enillwyr y Cystadlaethau Ffotograffiaeth, Barddoniaeth a Chelf Iau wedi’i ddilyn gan arddangosfa o’r enillwyr a llwybr gwyddonol am yr wythnos.
Llun uchod: “Diwrnod o hydref” gan Ellen Thomas, 7 oed
“Flowers of mainland Greece” Prof. John Richards Iau 14 Mawrth, 7.30pm
Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor.
Darlith Goffa Len Beer
Gw.yl Wyddoniaeth Bangor P
on
tio
’n A
Wg
rYM
U
www.bangor.ac.uk/bangorsciencefestival34
Gw.yl Wyddoniaeth Bangor
Arddangosfa Bydoedd CuddDydd Sadwrn 16 Mawrth 10am-4pm
Prifysgol Bangor, Adeilad Brambell, Stryd Deiniol, Bangor
Byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu gan ein hamgueddfa hanes naturiol, gweithgareddau gwyddonol ac anifeiliaid byw. Teithiau o amgylch yr acwariwm a’r cyfleusterau ymchwil.
Lleoliad: Gerddi Botaneg Treborth Sul 17 Mawrth, 10-2pm
Treborth Botanic Garden (www.treborthbotanicgarden.org/location)
Arddangosfeydd, arddangosiadau, modrwyo adar, gwyfynod, chwilota mewn pyllau, tegeirian, taith gerdded ar hyd yr arfordir a theithiau o amgylch y labordy tan ddaear a’r tai gwydr. Lluniaeth ar gael.
Dame Jocelyn Bell BurnellLlun 18 Mawrth
Cyfweliad radio ar y BBC am “The Wonders of the Universe” gan y Fonesig Jocelyn Bell Burnell.
Amser a lleoliad i’w cadarnhau: Sgwrs am ferched ym maes gwyddoniaeth gan y Fonesig Jocelyn Bell Burnell.
Mawrth 15 – 24, Am ddim
Po
nti
o r
eCo
MM
enD
S
35
Bangor New Music festival gwyl gerdd newydd bangor new m
usic
fest
ival
Dosbarth Meistr gyda Catrin FinchSul 10 Mawrth 2pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor£5 (adult/gostyngiadau); £3 (myfyriwr); £2 (-18); £3 (rhiant)
Catrin Finch gyda Disgyblion YsgolSul 10 Mawrth 2013, 7pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor£10 (oedolyn) £7; £5 (student); £3 (-18); £5 (rhiant)
Annwn: Catrin Finch a’r Band (jazz) Sadwrn 9 Mawrth, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor£15 (oedolyn); £12 (gostyngiadau); £7 (myfyriwr); £5 (-18); £12 (rhaint)
Gan fynd â chynulleidfaoedd i dir ieuenctid tragwyddol a gwledda diddiwedd, bydd y delynores enwog o Gymru, Catrin Finch, yn serennu yn y gyngerdd hon. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae albwm Finch o 2011, Annwn, yn cael ysbrydoliaeth o chwedloniaeth hynafol Cymru i greu delweddau o’r ‘Byd Arall’.
9 - 14 Mawrth 2013tocyn tymor: £50 (oedolyn); £40 (gostyngiad); £25 (myfyriwr); £15 (-18); £30 (rhiant) www.bnmf.co.uk
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
36
Bangor New Music festival
Cestyll, Barddoniaeth a CherddoriaethLlun 11 Mawrth, 7.30pm Capel Penrallt [i’w gadarnhau]£10 (oedolyn) £7 (gostyngiadau); £5 (myfyriwr); £3 (-18); £5 (rhiant)
Wedi’i hysbrydoli gan gestyll ac alawon gwerin, mae’r gyngerdd hon yn rhoi lle amlwg i gyfansoddiadau a barddoniaeth gan ddisgyblion o Lanberis a Chaernarfon. Bydd Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, yn ymuno â’r offerynnwr taro Dewi Ellis Jones mewn perfformiad dramatig o greadigaethau artistig gan bobl ifanc.
Ensemble Cerddoriaeth Newydd BangorMawrth 12 Mawrth, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor£10 (oedolyn) £7 (gostyngiadau); £5 (myfyriwr); £3 (-18); £5 (rhiant)
Wedi’u hysbrydoli gan y plentyn sydd ynom ni i gyd, mae myfyrwyr wedi cael eu hysbrydoliaeth o chwarae a chellwair i greu seinlun trwy sgorau graffig sy’n cyfuno rhai o’n gêmau mwyaf poblogaidd â cherddoriaeth. Dylai’r perfformiad hwn fynd â phawb yn ôl i’w hieuenctid, a chyflwynir ef gan fyfyrwyr Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor.
Electroacwstig CymruMercher 13 Mawrth, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor£10 (oedolyn) £7 (gostyngiadau); £5 (myfyriwr); £3 (-18); £5 (rhiant)
Mae Electroacwstig Cymru yn croesawu Peiman Khosravi, a bydd cyfansoddwyr ôl-raddedig yn ymuno â hwy, gan arddangos rhai o’r gweithiau gorau o gelfyddyd sonig i’w creu yn stiwdios Prifysgol Bangor. Mae cerddoriaeth Khosravi yn creu bydoedd sain â mynegiant pwerus amneidiol sy’n rhoi ystyriaeth arbennig i fanylder mewnol gwrthrychau a gweadau sain.
Teyrnged i Luciano Berio Iau 14 Mawrth, 7.30pm Neuadd Powis, Prifysgol Bangor£10 (oedolyn) £7 (gostyngiadau); £5 (myfyriwr); £3 (-18); £5 (rhiant)
Yn un o brif ensembles cerddoriaeth gyfoes y DU, mae Psappha yn torri’r muriau rhwng profiadau artistig ac addysgol, gan annog creadigrwydd a chyfnewid. Mae’r gyngerdd hon yn rhoi lle blaenllaw i gerddoriaeth gan gyfansoddwyr sy’n breswyl ym Mhrifysgol Bangor a chan blant ysgolion lleol, gan dalu gwrogaeth i’r cyfansoddwr o’r Eidal, Luciano Berio.
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
37
Arddangosfa Deialog a Sgyrsiau24 Tachwedd – 12 Ionawr
Mae Celf Ffibr Cymru yn lansio arddangosfa newydd, Deialog, ynghŷd â’i chwaer sioe, Sgyrsiau. Mae aelodau o’r grŵp wedi portreadu eu hymatebion i’r penawdau Deialog a Sgyrsiau, gan gynhyrchu corff o waith bywiog a gwahanol ar gyfer yr arddangosfeydd, sy’n amrywio o waith sy’n procio’r meddwl i waith ysgafn, llythrennol a haniaethol. Mae’r arddangosfeydd yn portreadu amrywiaeth eang o gelf ffibr – mae’r unigolion yng Nghelf Ffibr Cymru wedi datblygu arferion unigryw i’w crefft. Gan dynnu ar arbenigedd a sgiliau cain pob un o’r arlunwyr, crëwyd amrywiaeth cyfoethog o waith gan ddefnyddio ystod o dechnegau, o wneud cwiltiau a Shibori i waith resin a gwneud papur a ffilm..
Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru19 Ionawr – 2 Mawrth
Bydd arddangosfa newydd o ddelweddau o archif y Comisiwn Brenhinol yn rhoi cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru dros gyfnod maith o amser. Mae’n cynnwys delweddau wedi’u hatgynhyrchu o negatifau a phrintiau sy’n cael eu cadw yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yn Aberystwyth; gyda bron i ddwy filiwn o ffotograffau, hi yw’r archif gweledol mwyaf yng Nghymru.
Bydd y delweddau’n dangos cartrefi Cymru ar hyd yr oesoedd, o fythynnod tlawd i blastai gwledig crand, a byddant yn cael eu harddangos ochr yn ochr â gwrthrychau o gasgliadau’r amgueddfa. I gyd-fynd â’r arddangosfa, bydd y Comisiwn Brenhinol yn cyhoeddi llyfr newydd, Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru.
Arddangosfa deithiol wedi’w trefnu gan CBHC.
Karina Rosanne Barrett19 Ionawr – 2 Mawrth
Caiff Karina Rosanne Barrett, yr arlunydd cain o Lanberis, ei hysbrydoli gan aneddleoedd traddodiadol yr ardal honno, yn enwedig y rhai a ganfyddir yn y lleoliadau pellaf, wedi’u swatio’n uchel yn y bryniau, neu’n sefyll ar erchwyn Môr Iwerddon. Mae Karina yn ceisio dal gafael ar swyn ymddangosiadol yr aneddleoedd heriol hyn drwy weithio gydag acrylig ar gynfas.
Mae testunau peintiadau Karina Barrett wedi’u hysbrydoli’n uniongyrchol gan ei hamgylchfyd yn Eryri lle mae hi’n byw ac yn cynhyrchu ei gwaith. “Mae gen i ddiddordeb arbennig yn aneddleoedd traddodiadol yr ardal, a’r syniad ohonynt yn cael eu hadfer yn ôl yn araf gan eu tirwedd, tywydd a’u diystyrwch. Mae llawer o’r darnau yn seiliedig ar leoliadau yr wyf yn ymweld â nhw’n aml yn Ynys Môn a Phen Llŷn.”
aMGuEDDfa & ORiEl GWyNEDD Ffordd gwynedd, Bangor, gwynedd ll57 1Dt
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
38
aMGuEDDfa & ORiEl GWyNEDD Ffordd gwynedd, Bangor, gwynedd ll57 1Dt
Open Art 20139 Mawrth – 20 Ebrill
Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid dros 18 sy’n byw neu gweithio yng Nghymru. Dyma gyfle delfrydol i artistiaid lleol gyflwyno eu gwaith i’r cyhoedd. Bydd panel o ddetholwyr yn dewis yr arddangosfa o amrywiaeth eang o beintiadau, darluniau, ffotograffau a cherfluniau gyda gwobr y detholwr ar gael i’r ennillydd. Mae cyfle i’r cyhoedd bleidleisio dros eu ffefryn a fydd yn derbyn ‘Gwobr y Bobl’, rhodd gan Gyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, ar ddiwedd yr arddangosfa.
Gwbor Arddangosfa £250 Gwobr Dewis y Bobl £100
Dyddiadau cyflwyno gwaith fydd Dydd Iau Chwefror 21 a Dydd Gwener Chwefror 22, 2013.
Fydd y ffurflen ar gael ar y wefan yn fuan.
I’r Trysorfa o Sali Mali24 Tachwedd – 16 Mawrth
O gylchgronau Calfinaidd cynharafy 1840au, at ‘Lyfr Mawr y Plant’ agweithiau Sali Mali, mae’r arddangosfahon yn ffenestr siop i lyfrau o’r GanolfanLlenyddiaeth Plant, a sefydlwyd yn llyfrgell Prifysgol Bangor ar safle’r Normal. Ceir yma drosolwg o ddatblygiad llenyddiaeth Gymraeg i blant a’r dylanwad mae’r llyfrau yma yn parhau i’w gael ar ein hunaniaeth Gymreig. Bydd darluniau gwreiddiol o’r llyfrau hefyd i’w gweld. Pa lyfr Cymraeg i blant yw eich ffefryn chi?
Agor: Maw-Gwe12.30-4.30pm; Sad 10.30am-4.30pm Am ddim www.gwynedd.gov.uk/amgeuddfeydd
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
39
Sioe Ddawns yr Haf Y Brifysgol Gwener 26 Ebrill, 7.30pm Sadwrn 27 Ebrill, 2.30pmNeuadd John Phillips, Prifysgol Bangor,
Ymunwch â ni yn ein sioe ddawnsio haf!
£4 neu £3 efo cerdyn NUS Tocynnau ar gael wrth y drws www.budance.wix.com/ bu-dance
No Sex Please, We’re British gan Alistair Foot a Anthony Marrlott
25, 26, 27 Ionawr, 7pm Neuadd John Phillips, Prifysgol Bangor,
Mae’r stori ddifyr hon yn dilyn cynorthwy-ydd rheolwr banc, Peter Hunter, sy’n byw uwchben y banc gyda’i wraig newydd Frances. Pan mae Frances yn danfon am lestri gwydr o Sgandinafia, beth mae’n dderbyn yw lluniau anweddus o Sgandinafia.
£5/£4 NUS
Bydd manylion ar sut i archebu tocynnau gostyngiedig ar gyfer noson yr agoriad yn agosach at yr amser ar facebook.com/bangorbeds a Twitter @Bangor_SU_BEDS
Jazz@Teras bob misNos Wener 8 Chwefror, 8 Mawrth & 12 Ebrill Bwyd o 6pm Miwsig o 7.30pmY Teras, Prif Adeilad y Celfyddydau.Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG
Noson Jazz gyda cherddorion gwadd arbennig. Edrychwch ar ein gwefan: www.bangor.ac.uk neu Facebook am fanylion.
£7.50
Archebu o flaen llaw yn hanfodol 01248 388686 neu [email protected]
www.bangor.ac.uk/venues
Po
nti
o’n
AW
gr
YMU
40
SUt
i Ar
CH
eBU
AR Y FFÔN Gall archebion i ddigwyddiadau Pontio (y rhai sydd wedi’u rhestru ar dudalennau dau a thri) gael eu gwneud dros y ffôn lle y dynodir ar: 01248 382828. Gweithredir ein llinell docynnau mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru a darperir gwasanaeth llawn dwyieithog o ddydd Llun - ddydd Sadwrn, 10am-6pm.
YN BERSONOL Gellir prynu tocynnau ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau Pontio o Palas Print Pendref (digwyddiadau sydd wedi eu rhestru ar dudalennau dau a thri).
ARLEIN Bydd modd archebu tocynnau i ddigwyddiadau detholedig Pontio (y rhai sydd wedi’u rhestru ar dudalennau dau a thri) arlein: www.pontio.co.uk. Bydd y gwasanaeth hwn yn terfynnu bedair awr cyn y digwyddiad, neu am 5pm y diwrnod blaenorol os yw’r digwyddiad ymlaen yn y bore.
TÂL POST Ni fydd ffi yn cael ei godi wrth archebu tocynnau, ond bydd tâl post o 50 ceiniog yn cael ei ychwanegu pe baech angen i ni yrru’ch tocynnau drwy’r post. Er mwyn sicrhau bod tocynnau sydd angen eu postio yn cyrraedd mewn pryd bydd rhaid eu harchebu o leiaf 10 diwrnod ymlaen llaw. Wedi hyn, bydd pob tocyn sydd wedi’i archebu o flaen llaw ar gael i’w gasglu wrth y drws.
GOSTYNGIADAU Ble bynnag y nodir ‘gostyngiadau’ ar gyfer digwyddiadau Pontio, mae’r canlynol wedi eu cynnwys yn y diffiniad hwnnw: plant dan 16 oed, myfyrwyr a’r rhai dros 65. Mynediad am ddim i ofalwyr a phlant o dan 2.
AD-DALIADAU Yn anffodus, unwaith y bydd tocynnau wedi’u prynu, ni allwn eu had-dalu oni bai i’r perfformiad gael ei ddileu. Bydd unrhyw docynnau sydd heb eu gwerthu o flaen llaw ar gael i’w prynu wrth y drws.
MYNEDIAD ‘Rydym wedi ymroi i wneud mynediad i’n digwyddiadau mor hwylus â phosib. Cysylltwch â ni pe bae gennych unrhyw ofynion mynediad arbennig ar: 01248 388090 neu ebost: [email protected].
SUT I’N CANFOD Mae’r mwyafrif o ddigwyddiadau Pontio yn cael eu cynnal mewn lleoliadau hyd a lled Bangor, ond mae perfformiadau hefyd yn cael eu llwyfannu’n rheolaidd o fewn tri deg milltir i’r ddinas, o Ynys Môn i Ben Llŷn, Dyffryn Conwy ac arfordir Gogledd Cymru. Cysylltwch â ni am fwy o fanylion ynglŷn â lleoliad penodol ar: 01248 388090 neu ebostiwch ni: [email protected].
‘Rydym yn argymell i chi gyrraedd y digwyddiadau hyn 30 munud cyn yr amser cychwyn a hysbysir.
Sut i archebuAwgrymwn eich bod yn archebu tocynnau o flaen llaw. A fyddech cystal â gwirio manylion digwyddiadau unigol am amseroedd, prisiau, manylion archebu a lleoliadau.Mae PONTIO’N
llongyfarch... Grwp Ieuenctid Bangor (BYGs Bangor) - enillwyr pleidlais rhaglen SUPERASSEMBLY y National Theatre Wales!
Ers mis Gorffennaf 2012, mae BYGS BANGOR wedi bod yn adeiladu sylfaen i brosiect cyffrous iawn. Maen nhw’n awyddus i sefydlu canolfan yng nghanol dinas Bangor sy’n darparu gofod diogel ar gyfer pobl ifanc o bob cefndir, i gymdeithasu gyda ffrindiau a chyfoedion, heb y gofid hwnnw o gael eu gorfodi i symud ymlaen.
Bydd y ganolfan yn darparu mynediad i amrywiaeth o weithdai a gweithgareddau er mwyn rhoi cymorth archwilio’u diddordebau a datblygu sgiliau newydd.
Am fwy o wybodaeth am ein digwyddiadau yng Ngwanwyn 2013, ewch i’n tudalen Facebook: Bangor Youth Cafe/Caffi Ieuenctid Bangor.
41
Amdanoch chi Caiff y wybodaeth hyn ei ddefnyddio i ddarganfod gwybodaeth am ein hymwelwyr yn unig.
Oedran: 4-10 11-15 16-24 25-34 35-44 45-54 55-64 65+ Rhyw: Gwryw Benyw
Hoffwn hefyd dderbyn diweddariadau o rhestr bostio Grwp Celfyddydau Gogledd Cymru
*Mae Grwp Celfyddydau’r Gogledd yn cynnwys Prifysgol Bangor & Pontio, Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr Bara Caws, Galeri, Canolfan Ucheldre, Venue Cymru, Cwmni’r Fran Wen, Dawns i Bawb, Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Oriel Mostyn, Canolfan Gerdd William Mathias, Neuadd Dwyfor, Cyngor Gwynedd ac Oriel Ynys Môn.
Unrhyw sylwadau?
Beth yw eich…
Enw:
Ebost:
Cyfeiriad:
Côd post:
Ffôn
CAD
WC
H M
eWn
CYS
Yllt
iAD
Ymunwch â’n rhestr bostio
#
I gael gwybod am ddigwyddiadau, newyddion a chynigion arbennig, yna ymunwch arlein: www.pontio.co.uk, ebostiwch ni: [email protected] neu llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i: Pontio, Prif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol Bangor Ffordd y Coleg, Bangor, LL57 2DG.
42