6
Cwmni Cydweithredol o Wynedd yn Ennill Cytundeb Gwerth £50m Mae cwmni cynnyrch llaeth cydweithredol o Wynedd yn dathlu ar ôl ennill cytundeb caws newydd gwerth £50m dros gyfnod o dair blynedd. Mae Hufenfa De Arfon, sy’n cyflogi 110 o weithwyr, wedi cychwyn ar y broses o gyflenwi Adams Foods Limited, cyflenwyr mwyaf y DU o gaws caled wedi ei becynnu. Mae’r swp cyntaf o gaws wedi cael ei aeddfedu a’i ddosbarthu yn ôl blas a chryfder, a bellach yn barod i’w anfon. Bydd y cynnyrch yn cael ei anfon i ganolfan Adams Foods yn Leek, Swydd Stafford, i’w becynnu a’i ddosbarthu i adwerthwyr ledled y wlad. Bydd y cytundeb newydd yn cynnwys amrywiaeth o enwau brand ond bydd y brand ‘Draig’ cyfarwydd yn parhau i gael ei gynhyrchu. O ganlyniad i’r cytundeb newydd mae’r hufenfa wedi cyhoeddi cynlluniau i godi adeilad newydd i gynhyrchu caws erbyn 2016 ar eu safle yn Chwilog ger Pwllheli. Mae’r cwmni, a sefydlwyd fel cwmni cydweithredol gan 63 o aelodau-gynhyrchwyr ym 1938, wedi tyfu ar hyd y blynyddoedd, a chyda’r newydd da diweddar hwn, mae bellach mewn sefyllfa i recriwtio ffermwyr llaeth newydd. Ar hyn o bryd mae 125 o gyflenwyr ar lyfrau’r cwmni, gyda dau aelod arall newydd gofrestru fel rhan o’r broses recriwtio gyfredol. Mae Hufenfa De Arfon yn gwmni cydweithredol sy’n perthyn i ffermwyr, felly mae gan yr holl ffermwyr sy’n aelodau ac sy’n cyflenwi llaeth hefyd gyfranddaliadau yn y cwmni. Meddai Mark Beavon, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau: “Mae hwn yn newydd rhagorol i’r hufenfa yn dilyn cyfnod anodd. Mae’r cytundeb newydd yn gam ymlaen ac yn gyfle inni gyflogi mwy i’r dyfodol, ennill aelodau newydd a thrwy hynny ddiogelu dyfodol ffermio llaeth ym Mhenrhyn Llŷn ac yng Ngogledd Cymru.” www.sccwales.co.uk Sianel YouTube yn Rhoi Dimensiwn Ychwanegol Mae entrepreneur ifanc yn profi llwyddiant ysgubol ar ôl arallgyfeirio ei fusnes. Gwasanaeth archebu ar-lein yw Bythynnod Dioni Cottages Gwion Llwyd, sy’n arddangos amrediad helaeth o eiddo hunanarlwyo yn Eryri. Mae llwyddiant y cwmni wedi denu llu o gwsmeriaid bodlon o bob cwr o’r DU a thu hwnt. A nawr, gyda’r datblygiad cyfredol ym maes cyfryngau cymdeithasol, mae Gwion yn bwriadu ennill y blaen mewn marchnad gystadleuol. Gyda lansiad sianel YouTube bwrpasol, bellach mae fideos o safon uchel o’r bythynnod gwyliau gorau yng Ngogledd Cymru ar gael ar-lein. Dechreuodd Gwion y busnes o fferm ei deulu yn y bryniau uwchben Harlech. Creodd www.Dioni.co.uk, gwefan sy’n amlygu ystod o eiddo hunanarlwyo o safon yn Eryri. Yn ogystal â’r rhestrau o fythynnod hunanarlwyo uwchraddol yng Ngogledd Cymru, mae’r safle yn rhoi cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol am yr ardal. Meddai Gwion: “Mae’r ffaith ein bod yn gwmni bychan gyda naws gymunedol yn rhoi mantais inni ym myd newydd cyfryngau cymdeithasol. Nid llais pwy yw’r cryfaf yw hi bellach, ond yn hytrach siarad â phobl a chreu perthynas.” Ymysg rhai o’r eiddo mwy anarferol a ddangosir gan Dioni mae adeilad rhestredig Gradd II ar gyrion Dolwyddelan, ffermdy cerrig trawiadol ger y Bala, Capel Calfinaidd o’r 19eg Ganrif wedi ei drawsnewid ym Maentwrog, a hen goetiws ar ystâd Buckley ger Dinas Mawddwy. Mae sianel YouTube newydd Dioni yn rhoi dimensiwn newydd i’r cyfuniad hysbysebu ar gyfer perchnogion bythynnod. Mae’r sianel eisoes yn denu nifer gynyddol o ymwelwyr wrth i fwy a mwy o bobl rannu a mwynhau fideos proffesiynol Gwion. Maent yn ffordd ragorol o gael rhagflas o’r bythynnod hunanarlwyo hyn, ac mae Gwion yn rhoi croeso heb ei ail wrth iddo dywys yr ymwelydd drwy bob eiddo gan egluro ar yr un pryd. Er mwyn gweld fideos Gwion ewch i: www.youtube.com/user/gwionllwyd10/ I ddarganfod mwy ewch i: http://dioni.co.uk/ neu e-bostiwch: [email protected] www.gwyneddbusnes. net 01 Rhifyn 7, Gwanwyn 2013 RHWYDWAITH BUSNES GWYNEDD

Rhwydwaith Busnes Gwynedd · 2015. 4. 22. · Rhifyn 7, Gwanwyn 2013 Rhwydwaith Busnes Gwynedd. ... gyfer digwyddiadau fel cyngherddau a gigs, sioeau, dramâu, a seremonïau. Mae

  • Upload
    others

  • View
    2

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • Cwmni Cydweithredol o Wynedd yn Ennill Cytundeb Gwerth £50m

    Mae cwmni cynnyrch llaeth cydweithredol o Wynedd yn dathlu ar ôl ennill cytundeb caws newydd gwerth £50m dros gyfnod o dair blynedd. Mae Hufenfa De Arfon, sy’n cyflogi 110 o weithwyr, wedi cychwyn ar y broses o gyflenwi Adams Foods Limited, cyflenwyr mwyaf y DU o gaws caled wedi ei becynnu.

    Mae’r swp cyntaf o gaws wedi cael ei aeddfedu a’i ddosbarthu yn ôl blas a chryfder, a bellach yn barod i’w anfon.

    Bydd y cynnyrch yn cael ei anfon i ganolfan Adams Foods yn Leek, Swydd Stafford, i’w becynnu a’i ddosbarthu i adwerthwyr ledled y wlad. Bydd y cytundeb newydd yn cynnwys amrywiaeth o enwau brand ond bydd y brand ‘Draig’ cyfarwydd yn parhau i gael ei gynhyrchu. O ganlyniad i’r cytundeb newydd mae’r hufenfa wedi cyhoeddi cynlluniau i godi adeilad newydd i gynhyrchu caws erbyn 2016 ar eu safle yn Chwilog ger Pwllheli.

    Mae’r cwmni, a sefydlwyd fel cwmni cydweithredol gan 63 o aelodau-gynhyrchwyr ym 1938, wedi tyfu ar hyd y blynyddoedd, a chyda’r newydd da diweddar hwn, mae bellach mewn sefyllfa i recriwtio ffermwyr llaeth newydd. Ar hyn o bryd mae 125 o gyflenwyr ar lyfrau’r cwmni, gyda dau aelod arall newydd gofrestru fel rhan o’r broses recriwtio gyfredol. Mae Hufenfa De Arfon yn gwmni cydweithredol sy’n perthyn i ffermwyr, felly mae gan yr holl ffermwyr sy’n aelodau ac sy’n cyflenwi llaeth hefyd gyfranddaliadau yn y cwmni.

    Meddai Mark Beavon, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau: “Mae hwn yn newydd rhagorol i’r hufenfa yn dilyn cyfnod anodd. Mae’r cytundeb newydd yn gam ymlaen ac yn gyfle inni gyflogi mwy i’r dyfodol, ennill aelodau newydd a thrwy hynny ddiogelu dyfodol ffermio llaeth ym Mhenrhyn Llŷn ac yng Ngogledd Cymru.”

    www.sccwales.co.uk

    Sianel YouTube yn Rhoi Dimensiwn YchwanegolMae entrepreneur ifanc yn profi llwyddiant ysgubol ar ôl arallgyfeirio ei fusnes. Gwasanaeth archebu ar-lein yw Bythynnod Dioni Cottages Gwion Llwyd, sy’n arddangos amrediad helaeth o eiddo hunanarlwyo yn Eryri. Mae llwyddiant y cwmni wedi denu llu o gwsmeriaid bodlon o bob cwr o’r DU a thu hwnt. A nawr, gyda’r datblygiad cyfredol ym maes cyfryngau cymdeithasol, mae Gwion yn bwriadu ennill y blaen mewn marchnad gystadleuol. Gyda lansiad sianel YouTube bwrpasol, bellach mae fideos o safon uchel o’r bythynnod gwyliau gorau yng Ngogledd Cymru ar gael ar-lein.

    Dechreuodd Gwion y busnes o fferm ei deulu yn y bryniau uwchben Harlech. Creodd www.Dioni.co.uk, gwefan sy’n amlygu ystod o eiddo hunanarlwyo o safon yn Eryri. Yn ogystal â’r

    rhestrau o fythynnod hunanarlwyo uwchraddol yng Ngogledd Cymru, mae’r safle yn rhoi cyfoeth o wybodaeth ddefnyddiol am yr ardal.

    Meddai Gwion: “Mae’r ffaith ein bod yn gwmni bychan gyda naws gymunedol yn rhoi mantais inni ym myd newydd cyfryngau cymdeithasol. Nid llais pwy yw’r cryfaf yw hi bellach, ond yn hytrach siarad â phobl a chreu perthynas.” Ymysg rhai o’r eiddo mwy anarferol a ddangosir gan Dioni mae adeilad rhestredig Gradd II ar gyrion Dolwyddelan, ffermdy cerrig trawiadol ger y Bala, Capel Calfinaidd o’r 19eg Ganrif wedi ei drawsnewid ym Maentwrog, a hen goetiws ar ystâd Buckley ger Dinas Mawddwy.

    Mae sianel YouTube newydd Dioni yn rhoi dimensiwn newydd i’r cyfuniad hysbysebu ar gyfer perchnogion bythynnod. Mae’r sianel eisoes yn denu nifer gynyddol o ymwelwyr wrth i fwy a mwy o bobl rannu a mwynhau fideos proffesiynol Gwion. Maent yn ffordd ragorol o gael rhagflas o’r bythynnod hunanarlwyo hyn, ac mae Gwion yn rhoi croeso heb ei ail wrth iddo dywys yr ymwelydd drwy bob eiddo gan egluro ar yr un pryd.

    Er mwyn gweld fideos Gwion ewch i: www.youtube.com/user/gwionllwyd10/I ddarganfod mwy ewch i: http://dioni.co.uk/ neu e-bostiwch: [email protected]

    www.gwyneddbusnes. net 01

    Rhifyn 7, Gwanwyn 2013

    Rhwydwaith Busnes Gwynedd

  • Cymru yn Arwain y Ffordd gyda Sgorau Hylendid BwydMae’n argoeli mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno cynllun gorfodol lle gofynnir i fusnesau bwyd arddangos eu sgôr hylendid i bawb. Cafodd Bil Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) ei basio gan Gynulliad Cymru ac erbyn hyn mae’n agosáu at ddiwedd y broses ddeddfwriaethol. Y cam nesaf yw bod y Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol a dod yn Ddeddf.

    Dan y cynllun, defnyddir sgôr rhwng 0 a 5 i raddio busnesau, gyda 0 yn golygu bod angen gwella ar fyrder a sgôr o 5 yn golygu bod safonau hylendid yn dda iawn. Bydd y sgôr yn seiliedig ar feini prawf sy’n cynnwys safonau trin bwyd, sut y mae’r bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio, ei gadw’n oer a’i storio, cyflwr y safle a’r dulliau gweithredu a drefnwyd i sicrhau fod y bwyd yn cael ei gynhyrchu’n ddiogel. Bydd yn ofynnol i fusnesau arddangos eu sgôr mewn man amlwg, fel y fynedfa, neu wynebu dirwy. Yn dilyn ymgynghoriad ar y cynigion y llynedd, mae’r Bil yn cynnwys darpariaethau sy’n caniatáu i’r cynllun gael ei gymhwyso i fusnesau nad ydynt yn delio’n uniongyrchol â defnyddwyr ond sy’n cyflenwi bwyd i fusnesau eraill. Yn ogystal, mae dyletswydd newydd ar fusnesau bwyd i roi gwybod i gwsmeriaid beth yw eu sgôr hylendid bwyd os gofynnir iddynt, a bydd gwrthod gwneud hynny yn drosedd. Bydd hyn yn caniatáu i bobl â nam ar eu golwg neu rai sy’n gwneud ymholiadau ar y ffôn gael gwybod beth yw sgôr hylendid sefydliad cyn penderfynu prynu yno.

    Os daw’r Bil yn ddeddf, disgwylir mai’r dyddiad cynharaf i’r cynllun gorfodol ddod i rym fydd diwedd 2013, i ganiatáu i fusnesau wneud paratoadau. Mae’r hawl i apelio hefyd yn cael ei ymgorffori yn y Bil. I weld y Bil fel y mae ar hyn o bryd, ewch i: http://tinyurl.com/welshfoodhygiene

    www.gwyneddbusnes. net02

    Band Eang Cyflym Iawn o Fudd i FusnesauMae gan y Gweinidog Busnes, Edwina Hart, newyddion da i’r sector busnes yng Nghymru. Mewn datganiad i Aelodau’r Cynulliad, datgelodd Mrs Hart fanylion rhaglen ‘Cyflymu Cymru’ y Llywodraeth, a fwriadwyd i gyflenwi band eang ffibr cyflym iawn ar draws Cymru. Mae paratoadau at gyflwyno’r cynllun eisoes ar y gweill mewn awdurdodau unedol dethol ac mae Gwynedd ar frig y rhestr.

    Meddai Mrs Hart: “Bwriedir i’r rhaglen Cyflymu Cymru drawsnewid y sefyllfa band eang yng Nghymru, a bydd hyn yn hybu twf economaidd a swyddi cynaladwy. Bydd yn sicrhau ein bod ar flaen y gad yn yr economi ddigidol fyd-eang ac yn helpu i hybu Cymru fel lle rhagorol i weithio, i fuddsoddi ac i ddod ar ymweliad.” Mae cyllid strwythurol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop gwerth £80 miliwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer y rhaglen, ac mae BT, partner y Llywodraeth yn y prosiect, yn trafod gydag awdurdodau cynllunio ac awdurdodau priffyrdd ynghylch sefydlu’r rhwydwaith newydd.

    Y cymunedau cyntaf i elwa pan fydd y cynllun yn dechrau cael ei gyflwyno yn 2013 fydd Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Glyn Ebwy, Porthaethwy, Porthmadog, Pwllheli a Thredegar. Bydd y gwaith o gyflwyno’r cynllun yn digwydd ym mhob un o awdurdodau unedol Cymru erbyn 2014/15.

    Bydd y band eang ffibr newydd yn darparu gwelliant sylweddol mewn perfformiad, ac yn sicrhau bod gan Gymru fynediad i fand eang o gyflymdra hyd at 80Mbps, a band eang cyflymach fyth os bydd busnesau yn gofyn am hynny. O ganlyniad, bydd gan 96% o ddefnyddwyr yng Nghymru fynediad at gysylltiad band eang o safon fyd-eang.

    I gael manylion, diweddariadau, ac i fynegi diddordeb ewch i: www.superfast-wales.com/home

  • Galluogi BusnesauManteisiodd dros 50 o fusnesau yng Ngwynedd ar grantiau gwerth chwarter miliwn o bunnoedd i gyd y llynedd. Anogodd prosiect Galluogi syniadau am fentrau newydd a sefydliadau sy’n bodoli eisoes oedd yn dymuno datblygu cynhyrchion neu wasanaethau newydd. Roedd rhwng £500 a £50,000 ar gael o’r cynllun gyda chyfraniad grant o hyd at uchafswm o 50% o gyfanswm cost y prosiect.

    Mae John Bowden o Riwlas yn berchen ar Depth Productions, sy’n llogi systemau PA, offer sain ac awdio yn ogystal â gosod offer sain parhaol. Diolch i Galluogi mae John wedi gallu prynu goleuadau llwyfan, desg oleuadau ac offer eraill sy’n addas ar gyfer digwyddiadau fel cyngherddau a gigs, sioeau, dramâu, a seremonïau. Mae Depth Productions hefyd wedi ehangu i ddarparu cyfleusterau ar gyfer cwmnïau teledu i recordio cynnwys ar gyfer rhaglenni fel Bandit, Nodyn ac Uned 5.

    Un arall sydd wedi elwa ar y prosiect yw’r ffotograffydd o Ddolgellau, Erfyl Lloyd Davies. Teimlai Erfyl ei bod yn hanfodol bod y busnes yn arallgyfeirio ac yn gwneud defnydd llawn o gyfryngau digidol newydd megis fideograffi.

    Mae’r grant Galluogi erbyn hyn wedi ei ddosrannu yn llawn ond mae cymorth a chyngor busnes yn dal ar gael, a chymorth ariannol hefyd drwy’r Gronfa Teuluoedd Fferm.

    E-bostiwch: [email protected] neu ffoniwch: 01766 514057

    Celfyddyd o Amgylch y Byd Mae artist lleol yn prysur wneud enw iddi ei hun yn rhyngwladol, wrth i’w gwaith gael ei arddangos mewn orielau ar draws y byd. Ym mis Chwefror yn unig, roedd celfyddyd Sonja Benskin Mesher yn cael ei harddangos mewn gwledydd yn cynnwys Awstralia a Chanada, UDA, Gwlad Pwyl a Sbaen, heb sôn am Ogledd Cymru. Symudodd Sonja i Wynedd ym 1993, gan greu ei stiwdio mewn tŷ hir canoloesol yn Llanelltyd. Mae’n dwyn ysbrydoliaeth yn aml o’r amgylchedd

    naturiol ac mae ei gwaith yn amrywiol - peintiadau cyfrwng cymysg o’r tirlun Celtaidd, cynfasau mawr haniaethol, lluniadau personol neu egnïol a phortreadau cyfoes sensitif. Mae hi hefyd yn ymgymryd â gwaith tri

    dimensiwn - cerfluniau, celfyddyd amgylcheddol a gosodiadau celfyddyd.

    Ymhlith gwaith cynnar Sonja roedd cynllun ar gyfer British Airways, a dderbyniodd wobr ac a ddangoswyd yn y Sunday Times. Ar hyn o bryd mae hi’n derbyn comisiynau ar gyfer

    darluniau, ac mae briffiau diweddar wedi cynnwys gwaith ar gyfer Y Tabernacl, Amgueddfa Gelfyddyd Fodern Cymru, a llyfr darluniadol o storïau i blant. Mae Sonja hefyd yn cynnal gweithdai celf ar gyfer grwpiau neu unigolion, a Dosbarth Meistr mewn gwaith haniaethol ac ymarfer.

    www.sonja-benskin-mesher.com

    www.gwyneddbusnes. net 03

    Allorlun tri

    Gwobr i Ymgyrchwyr LleolRoedd Hamdden Harlech & Ardudwy Leisure yn falch tu hwnt o dderbyn £5,000 yng Ngwobrau Entrepreneuriaeth Sefydliad Morgan mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty Carden Park, Caer, ym mis Tachwedd y llynedd. Roedd Anwen Barry (chwith) yn falch o dderbyn y wobr ar ran y grŵp, a gipiodd yr ail wobr yn y categorïau Elusen Entrepreneuraidd Orau neu Fenter Gymdeithasol.

    Daw’r gydnabyddiaeth hon fel pennod newydd mewn stori ryfeddol. Ffurfiwyd grŵp cymunedol yn gyntaf yn dilyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i gau Pwll Nofio Harlech yn 2007. Ers hynny, mae Hamdden Harlech & Ardudwy Leisure wedi llwyddo i sicrhau grantiau gan wahanol sefydliadau, yn cynnwys Llywodraeth Cymru a’r Loteri Fawr, tuag at gyfanswm cost prosiect o £842,000. Mae’r arian wedi caniatáu gwneud gwelliannau sylweddol i’r adeilad, a chwblhawyd hwy yn gynnar yn 2012. Adeiladwyd wal ddringo newydd ac ystafell bowldro bwrpasol drws nesaf; mae ardal y pwll nofio a’r cyfleusterau wedi eu moderneiddio; ac mae derbynfa newydd a chaffi, sydd â lle i 50 o bobl ynghyd â theras haul allanol.

    www.harlechpool.com

  • www.gwyneddbusnes. net04

    Y Flwyddyn yn Dechrau’n Brysuri Inigo JonesWilliam Roache, yr actor sy’n chwarae rhan Ken Barlow yn Coronation Street, fu’n gyfrifol am ddadorchuddio plac llechen ym mis Ionawr i ddathlu gwaith ailddatblygu diweddar Hosbis Dewi Sant yn Llandudno. Mae’r plac a ddarparwyd gan Waith Llechi Inigo Jones, ger Caernarfon, yn nodi cwblhau rhaglen waith, a ddechreuodd yn 2011, ac a gostiodd £1.3 miliwn ac y talwyd amdani drwy apêl Help Llaw. Erbyn hyn mae mwy o breifatrwydd ar gael i gleifion ar ôl trawsnewid uned chwe gwely yn ystafelloedd sengl, tair ystafell ychwanegol, lolfa ddydd newydd i berthnasau ac Uned Ofal Dydd wedi ei moderneiddio. Addysgwyd Roache yn Ysgol Rydal ym Mae Colwyn, ac ef yw Llywydd Anrhydeddus yr Hosbis. Mae Hosbis Dewi Sant yn elusen leol sy’n darparu gofal diwedd oes yn ddi-dâl i oedolion o bob rhan o Ogledd Cymru ac sydd hefyd yn gefn i’r rhai sydd agosaf atynt.

    Mewn seremoni arall ym mis Ionawr cafodd carreg sylfaen canolfan gelfyddydau ac arloesi newydd Bangor ei gosod gan Leighton Andrews AC, Gweinidog dros Addysg a Sgiliau. Bydd y ganolfan £44m yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i gwrdd ag anghenion cymunedau a busnesau lleol. Bydd yn cynnwys theatr, theatr stiwdio, sinema, stiwdio ddylunio ac arloesedd, ynghyd â chyfleusterau addysgu a dysgu. Meddai Mr Andrews: “Rwyf yn hyderus y bydd y datblygiad uchelgeisiol hwn – sydd wedi derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru – yn rhoi hwb sylweddol i’r celfyddydau ac i arloesedd, nid yn unig o fewn y Brifysgol, ac ym Mangor, ond yn yr ardal yn fwy cyffredinol.” Inigo Jones fu’n gyfrifol am ysgythru a darparu’r garreg sylfaen o farmor Jura.

    www.inigojones.co.uk

    Gwir Flas Cymru yng Nghorris

    Gan adeiladu ar lwyddiant siop fwyd a diod Cymreig newydd a agorodd ei drysau’r haf diwethaf, mae perchnogion Bwtri Y Crochan bellach yn falch o ehangu eu dewis o gynhyrchion. Yn ystod gwyliau’r Pasg bydd detholiad arbennig o fisgedi cartref yn cael ei lansio, ochr yn ochr â Bara brith newydd Y Crochan, sy’n cael ei bobi yn ffres ar y safle gan ddefnyddio’r cynhwysion lleol gorau.

    Mae wedi bod yn bosibl cynhyrchu’r nwyddau newydd hyn ar ôl buddsoddi mewn technoleg arlwyo o’r radd flaenaf, yn cynnwys popty cyfunol, gyda thymheredd amgylchynol rheoledig a digon o silffoedd ar gyfer cynhyrchu bisgedi a theisennau ar raddfa eang. Mae cist arddangos oer newydd wedi arwain at welliant o ran cyflwyno a storio. Meddai Natalia Mascaro, Rheolwraig caffi’r Crochan a Bwtri Y Crochan: “Ni allai ein neges fod yn gliriach; mae gan y caffi ei bantri ei hun o gynhwysion Cymreig rhagorol, a chânt eu defnyddio gan y caffi i bobi bisgedi a theisennau blasus, ac mae’r rhain, yn eu tro, yn cael eu gwerthu ym Mwtri Y Crochan hefyd fel y gall ein hymwelwyr fynd â nhw adref i’w mwynhau.”

    Mae cynhyrchu’r dewis blasus hwn o gynnyrch wedi bod yn bosibl diolch i grant a dderbyniwyd gan y Gronfa Fuddsoddi Leol, sy’n dyfarnu grantiau cyfalaf o hyd at 40% i fusnesau lleol. Mae Bwtri Y Crochan y drws nesaf i gaffi’r Crochan ac mae’n rhan o gyfadeilad Canolfan Grefftau Corris. Mae ei silffoedd yn llawn o gynhyrchion blasus a dyfwyd, a feithrinwyd ac a gynhyrchwyd yng Nghymru. Mae gennym ddewis o gawsiau Cymreig, jamiau, pâtés a chigoedd fferm ffres. Ceir hefyd amrywiaeth o gwrw, gwinoedd a gwirodydd Cymreig ynghyd â siocledi, bisgedi, cyffug a theisennau Cymreig. Mae hamperi pwrpasol hefyd ar gael drwy gydol y flwyddyn.

    Dim ond ar benwythnosau y mae’r deli yn agored hyd at Ddydd Llun 18fed Mawrth, ac yna bydd Bwtri Y Crochan a’r caffi yn agored saith niwrnod yr wythnos.

    www.corriscraftcentre.co.uk/cafe/index.php

    http://tinyurl.com/GwyneddLIF

    © Charles Ward Photography: www.charlesgward.com

    Bara Brith A Bobwyd ar y Safle

  • www.gwyneddbusnes. net 05

    Cyfleodd i Grwpiau CymunedolMenter dair blynedd newydd yw Busnesau yn Cefnogi Cymunedau (B2C), a lansiwyd yn 2012 i annog partneriaeth rhwng busnesau a’r trydydd sector. Gyda chymorth ariannol gan y Gronfa Loteri Fawr, Ynys Môn a Gwynedd yw un o’r tri rhanbarth yng Ngogledd Cymru i elwa ar grant o £810,000 i ymgymryd â mentrau fydd yn fanteisiol i’r naill ardal a’r llall.

    Un cynllun o’r fath yw B2C Rhannu, sy’n annog perchnogion busnes i rannu adnoddau megis ystafelloedd cyfarfodydd a llefydd gwag ar gyrsiau hyfforddi. Yna ceir Cerdyn Cymunedol B2C, sy’n caniatáu i aelodau sy’n perthyn i fanteisio ar ostyngiadau ym mhrisiau nwyddau lleol a gwasanaethau gan fusnesau sydd ar Restr Busnesau B2C. Bydd cyfres o weithdai ar gael hefyd, fel rhan o fenter B2C Proffesiynol. Mae nifer o arbenigwyr mewn amrywiol feysydd wedi eu ffynonellu i siarad â grwpiau gwirfoddol ar bynciau arbenigol a digwyddiadau a drefnwyd yn cynnwys:

    • Dosbarth Meistr, Ymddiriedolwyr, Getting it right, 17 Ebrill, Bangor • Sesiwn Gynghori, Cyfrifon Cymunedol, 1 Mai, Dolgellau • Dosbarth Meistr: Ymdrin â Busnesau, dyddiad a chanolfan i’w cadarnhau

    Hefyd cynhelir sesiwn rwydweithio yn yr haf, a fydd yn rhoi cyfle i grwpiau cymunedol gyfarfod busnesau lleol mewn awyrgylch anffurfiol.

    Cysylltwch ag Emily Williamson Swyddog Prosiect B2C, ar 01286 672626 neu e-bostiwch: [email protected]

    Talu Wrth Ennill (PAYE) Gwybodaeth Amser Real (RTI)O 6 Ebrill, 2013 ymlaen bydd rhaid i gyflogwyr ddechrau rhoi gwybodaeth TWE (PAYE) i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) mewn amser real. Rhaid darparu’r data a’i anfon i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi bob tro y bydd gweithiwr yn cael ei dalu ar yr adeg y gwneir y taliad. Bydd angen i’r “wybodaeth amser real” yma (GAR neu “RTI”) gael ei anfon yn electroneg drwy ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol addas er mwyn caniatáu trosglwyddiad electronig.

    Mae cwmni Cambrian Software (UK) Ltd o Bwllheli bellach yn y broses o ryddhau’r fersiwn ddiweddaraf o’u meddalwedd ‘Camsoft Payroll’’, y gellir ei defnyddio gan gyflogwyr i greu slipiau talu a throsglwyddo’r data cywir i’r HMRC. Gyda phrofiad o fwy na 25 mlynedd yn y gwaith, mae tîm Cambrian yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn cynhyrchu meddalwedd sy’n syml i’w ddefnyddio, ynghyd â gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog os bydd angen cymorth. www.cambriansoftware.co.uk

    Llwyddiant yn y Gwynt i Gwmni TechnegolDaeth y Flwyddyn Newydd â newyddion da i PPM Technology yng Nghaernarfon pan gyhoeddwyd cytundeb newydd yn Nhalaith Shanxi yn Tsieina. Drwy Science International, prif ddosbarthwr PPM yn y wlad, mae’r cwmni wedi llwyddo i ennill tendr cyflenwi offer i hwyluso arolygiadau iechyd. Dyfais yw’r “Formaldemeter” sy’n mesur crynodiad y fformaldehyd sydd yn yr awyr, ac fe’i defnyddir i sicrhau bod safonau iechyd a diogelwch newydd yn cael eu cynnal mewn diwydiant, yn y gweithle ac mewn cartrefi.

    Mae’r cytundeb yn golygu cyflenwi 119 uned Formaldemeter Htv, y ddyfais 3-parameter ddiweddaraf gan PPM sy’n mesur crynodiadau fformaldehyd yn yr awyr yn ogystal â thymheredd amgylchynol a lefelau lleithder. Nwy di-liw yw Fformaldehyd, ac mae ei wenwyndra a’i anweddolrwydd yn achosi risgiau sylweddol i iechyd mewn crynodiadau cymharol fychan.

    Mae Tsieina wedi bod yn farchnad bwysig i PPM erioed a chyda chefnogaeth barhaus Science International, eu dosbarthwr gwerthu gorau, mae’r cwmni yn hyderus y bydd hyn yn parhau am flynyddoedd i ddod. Erbyn hyn mae cytundebau gyda’r Dwyrain Pell wedi mynd dros £100,000 o ran gwerth, ac mae’r cwmni yn allforio i 30 o wahanol wledydd yn fyd-eang. Mae PPM yn cyflogi deg o weithwyr ar eu safle yn Stad Ddiwydiannol Cibyn. www.ppm-technology.com

  • Yn GrynoRhannwch eich Profiad

    Gofynnir i Fusnesau Gwynedd am eu barn ynglŷn ag argaeledd cyllid i Fentrau Bychain a Chanolig. Gofynnodd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i’r Athro Dylan Jones-Evans, Prifysgol Cymru, archwilio i ganfod pa mor effeithiol y gall busnesau Cymru gael mynediad i ffynonellau cyfredol o gyllid sector preifat. Gofynnir am eich barn erbyn dydd Gwener 29 Mawrth ar:

    • Y prif broblemau sy’n wynebu eich busnes wrth geisio cael cyllid yn ystod y tair blynedd ddiwethaf • Pa fath o berthynas sydd gennych â’ch prif fenthyciwr ac a yw hon wedi newid yn ystod y tair blynedd ddiwethaf • A ydych wedi llwyddo i gael cyllid drwy raglenni newydd megis y Cynllun Gwarant Cyllid Menter a’r Cynllun ‘Funding for Lending’, a sut y mae’r rhain yn helpu eich busnes • Sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi benthyca i fusnesau

    Anfonwch eich syniadau os gwelwch yn dda i: [email protected]

    Galwad i bob Arthur

    Yn ystod y flwyddyn hon yn unig mae Labyrinth y Brenin Arthur yn cynnig bargen arbennig iawn gydag un amod yn unig - sef bod yn rhaid ichi fod yn Arthur! Mae’r atyniad hwn i ymwelwyr yng Nghorris yn dathlu mythau a chwedlau’r brenin nerthol, Arthur Pendragon, a thrwy gydol 2013 bydd pob Arthur yn cael cyfle i ddod yno yn rhad ac am ddim. Mae’r Brenin Arthur yn arweinydd Prydeinig chwedlonol o’r 5ed ganrif a dechrau’r 6ed ganrif, ac ef, yn ôl hanesion a rhamantau’r

    canoloesoedd, a fu’n gyfrifol am amddiffyn Prydain yn erbyn goresgyniad yr Eingl-Saeson. Yn ôl y chwedl bydd yn dychwelyd rhyw ddydd pan fydd ei wlad ei angen fwyaf. Mae’r chwedl hon a llawer o rai eraill yn datblygu, wrth ichi archwilio ceudyllau tanddaearol anferth a thwneli troellog y Labyrinth. Y cwbl sydd angen i unrhyw un sy’n rhannu enw cyntaf Arthur Pendragon yw cyflwyno trwydded yrru neu basport dilys â llun i gael antur danddaerol am ddim.

    www.kingarthurslabyrinth.co.uk

    Cinio Gala RhBG

    Gofalwch adael rhywfaint o le gwag yn eich dyddiadur ar gyfer yr wythnos sy’n cychwyn ar 20 Mai – Wythnos Busnes Gwynedd. Nos Iau, 23 Mai yw noson Cinio Gala Wythnos Busnes Gwynedd, ac eleni bydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Rheolaeth, Bangor. Un o uchafbwyntiau’r noson ragorol hon yw’r seremoni wobrwyo lle ddyfernir tair gwobr, yn cynnwys gwobr chwenychedig Person Busnes Y Flwyddyn Gwynedd. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu hanfon yn y cyfnod sy’n arwain at y digwyddiad.

    Boatshed Yn Hwylio Ymaith gyda Gwobr Ryngwladol

    Mae Boatshed North Wales.com, y cwmni broceriaid llongau hwylio ail-law yng Nghanolfan Fôr Pwllheli, wedi llwyddo i gadw ei deitl ac wedi cipio gwobr hyglod Boatshed.com Broker of the Year am yr ail flwyddyn yn olynol. Cyflwynwyd y wobr mewn seremoni yn Llundain ar 16 Ionawr 2012.

    http://northwales.boatshed.com/

    Diolch yn fawr gan RhBG

    Hoffai Rhwydwaith Busnes Gwynedd ddiolch i Parker O’Regan Tann & Co, y cyfrifwyr o Fangor, am eu cymorth parhaus yn paratoi’r cyfrifon am ffi fechan.

    www.port.ac

    Unrhyw Sylwadau

    Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen hwn, sef y Cylchlythyr Rhwydwaith Busnes Gwynedd diweddaraf. Byddem yn werthfawrogol iawn o dderbyn unrhyw ymateb gennych. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu syniadau ar ffyrdd y gallwn ei wella, cofiwch adael inni wybod.

    E-bostiwch Y Golygydd Jacquie Knowles: [email protected]

    I ymuno (mae aelodaeth yn RHAD AC AM DDIM) neu i ddarganfod mwy am y Rhwydwaith ewch i:

    www.gwyneddbusnes.net

    www.gwyneddbusnes. net 06

    Caroline ac Andy Topham, Boatshed North Wales

    © 2012 Rhwydwaith Busnes Gwynedd Ysgrifennwyd a golygwyd gan : Jacquie Knowles

    Dylunwyd gan:Sylwer na ellir dal y cyhoeddwyr yn gyfrifol

    am unrhyw wallau neu hepgorau yn y testun.