4
Y TYST PAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. DATHLU A DIOLCH Pisgah, Llandegla Roedd yn braf cael dathlu 200 mlwyddiant Capel Pisgah ar bnawn Sul 22 Hydref. Gwahoddwyd cyn-aelodau a ffrindiau atom. Arweiniwyd y gwasanaeth gan ein Gweinidog y Parchg Trefor Jones-Morris. Wedi myfyrdod ganddo cafwyd hanes yr achos gan Tegla Jones ac atgofion gan Trefor Jones, Chwilog a Prysor Williams. Pleser oedd cael cwmni cynaelodau’r ysgol Sul a’u clywed yn canu ‘Dy air Di’, a ‘Dwedwch yr hanes am Iesu’. Canwyd tri emyn gan y Parchg Ben Davies Pant-teg a ddechreuodd ar ei weinidogaeth yn Pisgah. Roeddem yn falch bod Mrs Gwen Hughes, Trefydd Bychain, ein aelod hynaf, yn medru bod gyda ni i dorri cacen y dathlu. Wedi’r gwasanaeth cafwyd pryd o fwyd blasus wedi ei drefnu gan ferched y capel. Mae llawer o amser ers adeiladu Pisgah a’r saint a ddechreuodd y gwaith yn ysgubor Penystryt wedi ein gadael. Ein braint yw cael diolch iddynt am yr hyn a wnaethpwyd ac i geisio cadw’r traddodiad Cristnogol yn fyw yn y fro. Daeth newid mawr gyda lleihad aelodau capeli’r fro. Fe weddnewidiwyd Pisgah gan yr Annibynwyr a’r Presbyteriaid, ac y mae’n awr yn adeilad amlbwrpas gyda’r ddau enwad yn cyd-weithio’n hapus. Bellach fe’i gelwir yn Gapel Bro Tegla. Diolchwn am yr hyn a fu ac edrychwn ymlaen yn hyderus i’r dyfodol. Tegla Jones Madagascar Yn ystod Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr 2018 yn Aberaeron, fe fydd apêl yn cael ei lansio i godi arian tuag at Fadagascar. Y mae cysylltiad cryf rhyngom fel Annibynwyr â Madagascar oherwydd i genhadon fynd yno o’n plith ym 1818. Yn ystod y Cyfarfodydd Blynyddol bydd dathliadau mawr yn gysylltiedig â Neuaddlwyd a disgwyliwn o leiaf 100 o gynrychiolwyr i ddod draw o Fadagascar. Gan y byddwch fel eglwysi, fwy na thebyg, yn dewis eich helusen nawr ar gyfer 2018 hoffem eich annog i ystyried yr apêl arbennig hwn. Madagascar yw’r degfed gwlad dlotaf yn y byd ac y mae anghenion dwys yno. Wrth gwrs, yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn rhannu llawer mwy o wybodaeth am yr apêl a’r prosiectau y byddwn yn eu cefnogi. Clywed Cri Duw Beth y mae Duw yn ei ddweud wrthym fel eglwysi’r dyddiau hyn? A yw yn dweud unrhyw beth? Os yw, beth yw ei gri? Beth yw ei arweiniad? Dyma’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn ar hyn o bryd ym mhrosiect diweddaraf Cyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM), Clywed Cri Duw. Lansiwyd y prosiect ar y cyd rhwng Undeb yr Annibynwyr ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym mis Mai gyda chyfarwyddyd fod angen iddo ddod i ben cyn y Nadolig! Nid oedd amser i’w wastraffu, felly, ac aethpwyd ati ar unwaith ati i gynnull grŵp o bobl fyddai’n cynrychioli nodweddion amrywiol yr eglwysi sy’n perthyn i’r Undeb. Yr oedd yr Undeb i weithio gydag eglwysi’r de, a’r Presbyteriaid gydag eglwysi’r gogledd. Derbyniodd pob un y gwahoddiad a anfonwyd atynt gan yr Undeb; Gethin Thomas, Capel Seion, Dre-fach; Fioled Jones, Tabernacl, Pencader; Beti-Wyn James, Priordy, Caerfyrddin ac Arfon Jones, Ebeneser, Caerdydd. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf yn Nhŷ John Penri ym mis Mehefin a bu trafod brwd ac egnïol drwy’r dydd. Deuparth gwaith Dechrau’r proses oedd edrych arnom ein hunain. Pe byddem ni’r Annibynwyr yn ddisgybl i Iesu Grist, pa un a fyddem, a pham? Pe byddem yn gymeriad yn un o’r damhegion, pa un a pham? Oes yna ddysgeidiaeth Feiblaidd benodol sy’n crynhoi ein sefyllfa ar hyn o bryd? Pe byddai un o’r proffwydi yn ymweld â Thŷ John Penri, beth fyddai’n ei ddweud wrth Annibynwyr Cymru? Pe byddai Paul yn anfon rhan o epistol atoch, pa un a fyddai? Pa un o eglwysi’r ail a’r drydedd bennod o Lyfr y Datguddiad sy’n eich cynrychioli chwi fel Annibynwyr orau? Yr oedd cwestiynau eraill hefyd, yn holi am anghyfartaledd yn ein cymdeithas, y sawl sy’n cael elw o adnoddau ein gwlad, trais ac anoddefgarwch, pobl ar yr ymylon o fewn a thu allan i’r eglwysi, ein defnydd o arian a statws, a chysgod yr ‘Ymerodraeth’, teyrnas y tywyllwch, dros ein bywyd. (Cawn sôn mwy am hyn ar adeg arall.) Yr oedd gofyn y cwestiynau yn fodd Arfon Jones a Wayne Hawkins parhad ar dudalen 2

Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. … · YPAPUR WTYSTYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. DATHLU A DIOLCH

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. … · YPAPUR WTYSTYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. DATHLU A DIOLCH

Y TYSTPAPUR WYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG

Sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c.

DATHLU A DIOLCHPisgah, Llandegla

Roedd yn braf cael dathlu 200 mlwyddiantCapel Pisgah ar bnawn Sul 22 Hydref.Gwahoddwyd cyn-aelodau a ffrindiau atom.Arweiniwyd y gwasanaeth gan ein Gweinidog yParchg Trefor Jones-Morris. Wedi myfyrdodganddo cafwyd hanes yr achos gan Tegla Jonesac atgofion gan Trefor Jones, Chwilog a PrysorWilliams. Pleser oedd cael cwmni cynaelodau’rysgol Sul a’u clywed yn canu ‘Dy air Di’, a‘Dwedwch yr hanes am Iesu’. Canwyd tri emyngan y Parchg Ben Davies Pant-teg addechreuodd ar ei weinidogaeth yn Pisgah.Roeddem yn falch bod Mrs Gwen Hughes,Trefydd Bychain, ein aelod hynaf, yn medrubod gyda ni i dorri cacen y dathlu. Wedi’rgwasanaeth cafwyd pryd o fwyd blasus wedi eidrefnu gan ferched y capel.

Mae llawer o amser ers adeiladu Pisgah a’r saint a ddechreuodd y gwaith yn ysguborPenystryt wedi ein gadael. Ein braint yw cael diolch iddynt am yr hyn a wnaethpwyd ac igeisio cadw’r traddodiad Cristnogol yn fyw yn y fro. Daeth newid mawr gyda lleihadaelodau capeli’r fro. Fe weddnewidiwyd Pisgah gan yr Annibynwyr a’r Presbyteriaid, ac ymae’n awr yn adeilad amlbwrpas gyda’r ddau enwad yn cyd-weithio’n hapus. Bellach fe’igelwir yn Gapel Bro Tegla. Diolchwn am yr hyn a fu ac edrychwn ymlaen yn hyderus i’rdyfodol.

Tegla Jones

MadagascarYn ystod Cyfarfodydd Blynyddol Undeb yr Annibynwyr 2018 yn Aberaeron, fe fydd apêlyn cael ei lansio i godi arian tuag at Fadagascar. Y mae cysylltiad cryf rhyngom felAnnibynwyr â Madagascar oherwydd i genhadon fynd yno o’n plith ym 1818. Yn ystod yCyfarfodydd Blynyddol bydd dathliadau mawr yn gysylltiedig â Neuaddlwyd adisgwyliwn o leiaf 100 o gynrychiolwyr i ddod draw o Fadagascar.

Gan y byddwch fel eglwysi, fwy na thebyg, yn dewis eich helusen nawr ar gyfer 2018hoffem eich annog i ystyried yr apêl arbennig hwn. Madagascar yw’r degfed gwlad dlotafyn y byd ac y mae anghenion dwys yno. Wrth gwrs, yn ystod y misoedd nesaf byddwnyn rhannu llawer mwy o wybodaeth am yr apêl a’r prosiectau y byddwn yn eu cefnogi.

Clywed Cri DuwBeth y mae Duw yn ei ddweud wrthymfel eglwysi’r dyddiau hyn? A yw yndweud unrhyw beth? Os yw, beth yw eigri? Beth yw ei arweiniad?Dyma’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn arhyn o bryd ym mhrosiect diweddarafCyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM),Clywed Cri Duw.

Lansiwyd y prosiect ar y cyd rhwngUndeb yr Annibynwyr ac EglwysBresbyteraidd Cymru ym mis Mai gydachyfarwyddyd fod angen iddo ddod i bencyn y Nadolig! Nid oedd amser i’wwastraffu, felly, ac aethpwyd ati arunwaith ati i gynnull grŵp o boblfyddai’n cynrychioli nodweddionamrywiol yr eglwysi sy’n perthyn i’rUndeb. Yr oedd yr Undeb i weithiogydag eglwysi’r de, a’r Presbyteriaidgydag eglwysi’r gogledd.

Derbyniodd pob un y gwahoddiad aanfonwyd atynt gan yr Undeb; GethinThomas, Capel Seion, Dre-fach; FioledJones, Tabernacl, Pencader; Beti-WynJames, Priordy, Caerfyrddin ac ArfonJones, Ebeneser, Caerdydd. Cynhaliwyd ycyfarfod cyntaf yn Nhŷ John Penri ymmis Mehefin a bu trafod brwd ac egnïoldrwy’r dydd.

Deuparth gwaithDechrau’r proses oedd edrych arnom einhunain. Pe byddem ni’r Annibynwyr ynddisgybl i Iesu Grist, pa un a fyddem, apham? Pe byddem yn gymeriad yn un o’rdamhegion, pa un a pham? Oes ynaddysgeidiaeth Feiblaidd benodol sy’ncrynhoi ein sefyllfa ar hyn o bryd? Pebyddai un o’r proffwydi yn ymweld âThŷ John Penri, beth fyddai’n ei ddweudwrth Annibynwyr Cymru? Pe byddai Paulyn anfon rhan o epistol atoch, pa un afyddai? Pa un o eglwysi’r ail a’r drydeddbennod o Lyfr y Datguddiad sy’n eichcynrychioli chwi fel Annibynwyr orau?Yr oedd cwestiynau eraill hefyd, yn holiam anghyfartaledd yn ein cymdeithas, ysawl sy’n cael elw o adnoddau ein gwlad,trais ac anoddefgarwch, pobl ar yrymylon o fewn a thu allan i’r eglwysi, eindefnydd o arian a statws, a chysgod yr‘Ymerodraeth’, teyrnas y tywyllwch, drosein bywyd. (Cawn sôn mwy am hyn aradeg arall.)

Yr oedd gofyn y cwestiynau yn fodd

Arfon Jones a Wayne Hawkins

parhad ar dudalen 2

Page 2: Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. … · YPAPUR WTYSTYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. DATHLU A DIOLCH

tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 23, 2017Y TYST

Clywed Cri Duw – parhadeffeithiol i agor a chynnal trafodaeth amein sefyllfa heb golli golwg ar yr hyn addywed y Beibl wrthym, ac wedi i’rdiwrnod cyntaf o drafod ddod i ben ynAbertawe, rhoddwyd gwaith cartref i’raelodau’r grŵp, sef ymgynghori ag aelodaueu hamrywiol eglwysi i geisio darganfodsut y byddent hwy yn ateb y cwestiynau.YmatebionAr ddechrau Medi, daeth y grŵp at eigilydd eto yn Nhŷ John Penri, y tro hwngyda’r ymatebion y gofynnwyd amdanynt.Bu trafod ar y rheini wedyn, a chael bodmesur helaeth o debygrwydd rhyngddynt ereu bod wedi dod o wahanol gyfeiriadau –o’r ddinas, o’r dref ac o’r wlad. Y dasgnesaf oedd didoli’r cyfan, a gwnaethpwydhynny gan yr Ysgrifennydd Cyffredinol arffurf cyflwyniad i’w ddefnyddio mewncyfarfod deuddydd o banelau’r Undeb a’rEglwys Bresbyteraidd yn Aberystwyth ar11–12 Hydref. Llywyddwyd y trafodaethauyno gan y Parchg Wayne Hawkins,

Ysgrifennydd Cenhadol CWM Ewrop.Unwaith eto, gwelwyd brwdfrydedd yn ydadansoddi, ac yn y cymharu rhwngprofiadau’r gogledd a’r de, y dinesig a’rgwledig, yr Annibynwyr a’r Presbyteriaid.Proffwydi’r PresennolY cam nesaf yn y proses hwn yw trafodpwy yw’r proffwydi cyfoes, pwy sy’n codillais yn erbyn anghyfiawnderau acanghyfartaledd o bob math, pwy sy’n sefyllgyda’r tlawd, yr anghenus a’r difreintiedig,pwy sy’n ymladd yn erbyn yr‘Ymerodraeth’ a’r grymusterau gormesolhynny sy’n gwadu i bobl ‘fywyd yn ei hollgyflawnder’, sef yr hyn y dymuna Duw, ynIesu Grist, i bawb ei fwynhau? Wedi ibanel yr Annibynwyr gyfarfod ym misTachwedd, bydd y ddau banel yn dod at eigilydd eto ar ddechrau Rhagfyr, y tro hwnym Mangor. Pan ddigwydd hynny, byddwnyn penderfynu pa gamau pellach fyddangen eu cymryd, a bydd y prosiect yn dodi ben.

YmlaenPwrpas y cyfan yw sicrhau fod gennymddarlun clir yn ein meddyliau o’n sefyllfa,o’r angen sydd o’n cwmpas, o’rgrymusterau sy’n ein herbyn, o’r safiadsydd angen ei wneud, ac o’n cyfrifoldebauni fel eglwysi a Christnogion. Prin ygallasai neb ddweud nad oes mawr angenhynny arnom. Er bod hyn eisoes ynrhannol ar waith gennym fel Annibynwyrtrwy raglen Y Ffordd, arwydd yw hynnyein bod fymryn ar y blaen i eraill yn ymater arbennig hwn. Er hynny, maeychwaneg i’w wneud. Mae angen rhannu’rweledigaeth o fewn yr eglwysi fod cryndipyn yn dal yn bosibl i ni er gwaetha’nsefyllfa fregus; mae ymerodraeth ytywyllwch angen ei gwrthwynebu, maepobl angen eu hamddiffyn a’u cynnal, acmae gwaith sydd angen ei weld, a’igyflawni.

Mae rhywun yn gofyn ar unwaith, ‘Sut,ar wyneb daear, y gallwn ni wneud hyn?’

Mae’r ateb yn syml; ‘Os yw Duwtrosom, pwy all fod i’n herbyn.’

Ymlaen!

ABERFANTywyllwch ddaeth i Aberfan ar fore gwlyb o Hydre’Tawelwch ddaeth i Aberfan dim plant yn rhedeg adre’.

Tristwch ddaeth i Aberfan, collwyd cenhedlaeth gyfanDagrau ddaeth i Aberfan, diwedd ar ddyddiau diddan.

Hiraeth ddaeth i Aberfan o gofio’r plant a gollwydArswyd ddaeth i Aberfan wrth ddeall yr hyn na wnaethpwyd.

Dicter ddaeth i Aberfan am hanes tip rhif 7A synwyd Cymru gyfan wrth glywed am y gwaith.

Tegwch ddaeth i Aberfan ar ol blynyddoedd lawerCywiro’r twyll yn Aberfan, gwyrdroi yr Anghyfiawnder.

Gobaith ddaeth i Aberfan o hiraeth y gorffennolGoleuni ddaeth i Aberfan wrth weld fod ’na ddyfodol.

Gwên ddaeth ’nôl i Aberfan wrth weld y plant yn tyfuTegwch ddaeth i Aberfan a’r pentref yn un teulu.

Yr hanes aeth ar draws y byd gan gofio’r loes a’r gofidFe ddaeth y byd i Aberfan i gofio’r golled Enbyd.

Oll dan bileri gwynion yn gorwedd yn eu beddYm mreichiau rhieni annwyl, yn gorwedd nawr mewn hedd.

Iris ThomasYsgrifenwyd y pennill olaf pan oeddwn yn sefyll ym Mynwent

Aberfan ar daith Cyfeillion Hope/Siloh i’r ardal ar 22 Awst 2017.

Page 3: Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. … · YPAPUR WTYSTYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. DATHLU A DIOLCH

GolygyddolTachwedd 23, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYST

COLEG YR ANNIBYNWYR CYMRAEGCynhelir Cyfarfod Blynyddol y Tanysgrifwyr ddydd Mercher, 6 Rhagfyr am 2.00pm a hynny yn Noddfa Bow St, Aberystwyth

Trefor Jones-Morris

Llawenydd ordeinioMi fûm i yng NghyfarfodOrdeinio a SefydluEuron Hughes ynweinidog i Iesu Grist yngngofalaeth Dolgellau aDinas Mawddwy ynddiweddar, ac mi roeddo’n wasanaethgwirioneddol wych llecafwyd amrywiaethoedran yn y gynulleidfa oedd yn llenwicapel Ebeneser, Dinas Mawddwy, a’r boblifanc yn fyrlymus wrth gymryd rhan. Ynwir, yr oedd pob rhan o’r cyfarfod, o’iddechrau i’w ddiwedd, yn codi calon dynmewn cyfnod mor anodd ac enw Iesu’ncael ei ddyrchafu uwchlaw popeth yno.Rhoddwyd arweiniad cadarn i’r cyfarfodgan Lywydd Cyfundeb Meirion, BethanDavies Jones a chymerodd pawb eu rhanyn wirioneddol gofiadwy. Ni warafun neb imi enwi gyfraniad godidog y bobl ifanc yny gwasanaeth, ac yr oedd y canucynulleidfaol yn codi’r to. Awyr iach ogyfarfod a dweud y gwir.Llawenydd cydweithioHogyn a fagwyd yn Nhrawsfynydd ydiElfed Lewis, ac un a fu’n ddarlithydd colegyn America cyn dod ’nôl i’w henwlad iddarlithio mewn Cyfrifiadureg yngNgholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau bethamser yn ôl. Mae’n flaenor yn yr EglwysBresbyteraidd yn Nhrawsfynydd, ond wrth

gwrs, yn rhan o’r Weinidogaeth Bro yno,ac ers peth amser yn dilyn cwrs yngNgholeg yr Annibynwyr Cymraeg, ac wedidechrau pregethu. Yn ddiweddar bu Elfedyn cael profiad gweinidogaethol o dannawdd Henaduriaeth Gorllewin Gwyneddyng ngofalaeth BresbyteraiddPorthmadog ac yna ym Mhwllheli. Ac ernad wyf fi (gan nad wyf Bresbyter!) ynrhan o’r cynllun hwn, mae’n dda cael eigwmni yma ym Mhorthmadog. Gyda llaw,mae ar ganol codi tŷ newydd yn y Brithdirger Dolgellau ...! Da was! O wrando arElfed yn siarad, ac o wybod am ei waithclodwiw fel pregethwr yn ein capeli, daclywed ei dystiolaeth am arweiniad Duwyn ei fywyd. LlawenhauGyda llaw, does gan Elfed enw da? OnidElfed Lewis arall a ddywedodd, ‘Maegweithwyr gorau’r ne yn marw yn eugwaith; OND ERAILL DDAW’N EU LLEhyd yr oesoedd maith.’ Ac mae’rgweithwyr newydd yn prysur ymddangosar draws Cymru. Gwae ni, y rhai syddwedi bod wrth y llyw am amser o’u blaen,os ceisiwn eu tanseilio. Lle i lawenhausydd gennym. Mae gennym Arglwydd bywsy’n dal i alw gweithwyr i’w gynhaeafmawr, a hynny o bob traddodiadCristnogol. Mae’r Ysbryd Glân ar waith acyn deffro’r eglwys i’w photensial ac i’wchyfrifoldebau fel corff Crist ar y ddaear.Dywedwn hynny yn lle sôn amnegyddiaeth ddamniol ddinistriol o hyd ...ac o hyd.

Iwan Llewelyn

Annwyl Olygyddion,Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr YTyst sôn wrth bobl ifainc y maent yneu hadnabod sydd wedi dod iAbertawe y tymor hwn i’r prifysgolionbendigedig sydd yma, bod croesotwymgalon iddynt ymuno â ni ymMethel, Heol Carnglas, Sgeti,Abertawe SA2 9BL i addoli ac igymdeithasu wrth i’r Nadolig agosáu.Mae ein gwasanaethau’n dechrau am10am ar fore Sul.

Y Parchedig Jill-Hailey Harries ywein gweinidog bywiog a brwdfrydig,ac edrychwn ymlaen at groesawunewydd-ddyfodiad i’n plith. Gallwchgysylltu â ni drwy Facebook neuTwitter yn ogystal.

Yn gywir, Dr Dai Lloyd

Ysgrifennydd Bethel Sgeti, Abertawe

GOHEBIAETH

Iwan Llewelyn

Undeb yr Annibynwyr Cymraeg

Diwrnod Gweinidogion y Gogledd

Festri Capel Coffa,Cyffordd Llandudno

LL31 9HDDydd Iau, 30 Tachwedd 2017

Byddwn yn dechrau am 10.30am gyda phaned a chroeso

‘Diffinio ac Ailddiffinio’Mrs Delyth Wyn Davies

Swyddog Dysgu a Datblygu Cymru,yr Eglwys Fethodistaidd

‘Y Ffordd y Daethom: Oes y Saint’

Y Parchedig J. Lloyd JonesFicer Plwyf Beuno Sant

UwchgwyrfaiBydd y cyfarfod yn gorffen am 1.00pm.

Os am gael cinio,cysyllter â Thŷ John Penri ar

01792-795888neu trwy e-bost at

[email protected] ymlaen at groesawu’r

Gweinidogion i Gyffordd Llandudno

Page 4: Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. … · YPAPUR WTYSTYTHNOSOL YR ANNIBYNWYR CYMRAEG Se fydlwyd 1 867 Cyfrol 150 Rhif 47 Tachwedd 23, 2017 50c. DATHLU A DIOLCH

Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, Uned 13, Ystad Ddiwyd. Heol Milland, Castell-nedd, SA11 1NJ. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.

Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd: Y Parchg Ddr Alun Tudur39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,Caerdydd, CF23 9BSFfôn: 02920 490582E-bost: [email protected]

Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:Ty John Penri, 5 Axis Court, ParcBusnes Glanyrafon, Bro Abertawe

ABERTAWE SA7 0AJFfôn: 01792 795888

E-bost: [email protected]

tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Tachwedd 23, 2017Y TYST Golygydd

Y Parchg Iwan Llewelyn JonesFronheulog, 12 Tan-y-Foel,

Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,LL49 9UE

Ffôn: 01766 513138E-bost: [email protected]

GolygyddAlun Lenny

Porth Angel, 26 Teras PictonCaerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX

Ffôn: 01267 232577 / 0781 751 9039

E-bost: [email protected]

Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen

Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yrAnnibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim âchynnwys y Pedair Tudalen.

Golygyddion

Roedd Capel Bethesda Llangennech odan ei sang fore Iau 12 Hydref pan aethplant ac athrawon ysgol GymraegLlangennech yno i gynnal eugwasanaeth Cynhaeaf. Fe ddechreuwydy gwasanaeth gan Elen Johnna MeganPritchard yn cyflwyno gweddi aysgrifennwyd ganddynt yn diolch am ycynhaeaf. Cafwyd cyflwyniadau hyfrydo emynau’r cynhaeaf gan y plant o’rmeithrin hyd at flwyddyn 6 apherfformiad arbennig o’r darn ‘Fel un’gan gôr yr ysgol gynradd o danarweiniad Lewis Richards. Roeddgweinidog y capel y ParchedigLlewelyn Picton Jones wrth ei fodd yneu canol a mwynhaodd y plant ei storiam y ffrwythau a’r llysiau o oedd yn euhatgoffa mae’r hyn sydd y tu fewn i’rffrwyth sydd yn bwysig nid yr olwg o’rtu allan. Neges bwrpasol iawn. Cafwydgwasanaeth bendithiol iawn adiolchwyd i swyddogion y capel amganiatáu i’r ysgol ddefnyddio’r capelgan Gary Anderson, pennaeth yr ysgol.

Jennifer Clark

Dathlu ymMethesda

Diolch i’r CynhaliwrDathlu’r Cynhaeaf yng nghapel Hope-Siloh

Hyfryd oedd gweld cynulleidfafawr wedi cwrdd yn y capel iddathlu’r Cynhaeaf. Mae’narferiad gennym bellach wedi’rgwasanaeth hwn i fynd gyda’ngilydd am ginio ac eleni feaethom i’r Deri a mwynhaugwledd arbennig. Gan fod ycinio yn dilyn y gwasanaethnewidiwyd yr amser cychwyn i 11 o’rgloch ac roedd gweld cynifer wedi troi imewn yn galondid mawr i ni gyd. Roedd ycapel wedi ei addurno yn fendigedig adiolch i’r gwragedd a fu wrthi. Roedd ygwasanaeth o dan ofal Mrs Marie-LynneJones gwraig ein gweinidog a diolch iddihi am drefnu. Cynhaliwyd yr oedfa ar foreSul 22 Hydref.Addoli a diolchFe ddechreuwyd y gwasanaeth gan aelodauieuengaf yr ysgol Sul a’r clwb babanod yndiolch ar gân am y Cynhaeaf a chafwydcyflwyniadau graenus o emynau’r plantgan Celyn, Sky Naymah, Alys a Maredrhai o blant yr ysgol Sul. Roedd ail hanner

y gwasanaeth yng ngofal yr ieuenctid achyflwynodd Llŷr, Siôn, Tomos a Bethanhanes Martin Luther a William Salesbury.Harri a Mirain oedd yn gyfrifol am yrhannau arweiniol a chyflwynwyd yremynau gan Tesni a Siwan. Yn glo i’rcyfan cafwyd perfformiad teimladwy iawno ‘Dyma Feibl annwyl Iesu’ ar yr emyndôn ‘Hyfrydol’ gan Anita Appleton. Ar gaisplant ac ieuenctid yr ysgol Sulpenderfynwyd y dylem eleni gefnogi einbanc bwyd lleol a braf oedd gweld cymainto gefnogaeth i’r achos teilwng hwn. Ynogystal â’r banc bwyd penderfynwydcynnal casgliad arbennig ar gyfer ApêlDec. Diolch i bawb am gyfraniadau haeliawn. Gwasanaeth i’w gofio.

Diolch, Diolch IesuHermon, Brynaman

Pleser o’r mwyaf y llynedd oedd gweld ailddechrau’r ysgol Sula diolchwn i famau ifanc y pentref oedd yn awyddus fod y plantyn cael y profiad o fynychu’r Ysgol Sul. Mae pethau wedimynd yn hwylus iawn hyd yn hyn ac mae’r plant wrthi yngwneud modelau a lluniau yn ogystal a mwynhau’r storïau o’rBeibl. Maent yn ddiwyd hefyd yn dysgu caneuon acadroddiadau ar gyfer gwasanaeth y Nadolig ar hyn o bryd.Mae’n braf gweld y capel bach yn orlawn ar yr adegau yma achawn y pleser o groesawu oedolion y pentref i’r cyfarfodydda’r gweithgareddau eraill yn y capel. Eleni eto cawsomwasanaeth diolchgarwch arbennig ac roedd yn sicr yn blesercael bod yno ar brynhawn Sul 22 Hydref. Edrychwn ymlaen yneiddgar at Wasanaeth y Nadolig.

Sara, Seren, Wil, Alys Eira, Lili, Lowri, Rhiannon, Eben Arthur, MaliFflur, Lacey, Macsen, Loti Hannah ac Ava. Cymerwyd rhan hefyd gan

Megan a Dylan