24
Taflen o wybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael triniaeth cemotherapi Cynnwys Tudalen Rhagarweiniad 2 Beth yw cemotherapi? 2 Sut mae cemotherapi’n gweithio? 2 Sut gall y cemotherapi gael ei roi? 3 Pa mor aml mae cemotherapi’n cael ei roi? 3 Ble fyddaf i’n cael y cemotherapi? 3 Cytuno i gael triniaeth cemotherapi 4 Manteision y driniaeth 4 Beth yw sgil effeithiau posib y driniaeth? 5 Effaith cemotherapi ar gelloedd eich gwaed 5 Effaith triniaeth cemotherapi ar eich ceg 7 Effaith triniaeth cemotherapi ar eich chwant bwyd 8 1

Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

  • Upload
    others

  • View
    0

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Taflen o wybodaeth gyffredinol i gleifion sy’n cael triniaeth cemotherapi

CynnwysTudalen

Rhagarweiniad 2Beth yw cemotherapi? 2Sut mae cemotherapi’n gweithio? 2Sut gall y cemotherapi gael ei roi? 3Pa mor aml mae cemotherapi’n cael ei roi? 3Ble fyddaf i’n cael y cemotherapi? 3Cytuno i gael triniaeth cemotherapi 4Manteision y driniaeth 4Beth yw sgil effeithiau posib y driniaeth? 5Effaith cemotherapi ar gelloedd eich gwaed 5Effaith triniaeth cemotherapi ar eich ceg 7Effaith triniaeth cemotherapi ar eich chwant bwyd 8Cyfog 8Effaith triniaeth cemotherapi ar eich coluddion 8Eich gwallt 9Beichiogrwydd a ffrwythlondeb 9Gofal yn yr haul 10Blinder a lludded 10Niwed i’r croen a’r meinweoedd 10Perygl o dolchennu gwaed 11Mwy o wybodaeth 11Brechiadau rhag ffliw 12Brechlynnau gwahanol 12Treialon clinigol 13Eich derbyn i ysbyty arall wrth gael cemotherapi 13Teimlo’n anhwylus yn eich cartref ar ôl cael triniaeth 14Rhifau ffôn defnyddiol 15Gwefannau defnyddiol 15Sut mae dod i Ysbyty Felindre 16

1

Page 2: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

RhagarweiniadMae gwybodaeth gyffredinol yn y daflen yma i gleifion sy’n cael triniaeth cemotherapi. Mae’n esbonio natur cemotherapi, sut mae’n gweithio a’r dull o’i roi. Mae hefyd yn trafod manteision a sgil effeithiau cemotherapi, ac yn cynnig gwybodaeth arall. Mae’r daflen yn esbonio sut mae cysylltu â ni os ydych chi’n teimlo’n wael ac mae angen sylw arnoch ar frys. Mae rhifau ffôn yng nghefn y daflen os ydych chi am gysylltu â ni. Rydyn ni hefyd wedi rhestru rhai gwefannau lle y gallwch chi gael mwy o wybodaeth.

Mae’r daflen hon yn cynnig gwybodaeth gyffredinol. Mi fydd eich meddyg yn trafod eich triniaeth bersonol gyda chi mewn mwy o fanylder.

Beth yw cemotherapi?Cyfuniad o ddau air yw cemotherapi – cemegol a therapi. Triniaeth yw sy’n golygu rhoi cyffuriau i ddinistrio celloedd canser. Bydd y math o gemotherapi y byddwch chi’n ei gael yn dibynnu ar natur y canser sydd arnoch chi. Bydd eich meddyg yng Nghanolfan Ganser Felindre’n esbonio popeth yn fanwl. Mae’n bosib defnyddio cemotherapi ar ei ben ei hun neu gyda llawdriniaeth neu radiotherapi.

Sut mae cemotherapi’n gweithio?Mae cemotherapi’n gweithio trwy ddinistrio celloedd sy’n tyfu a rhannu. Mae celloedd canser yn tyfu a rhannu o hyd, felly mae’r cemotherapi’n effeithio mwy arnyn nhw nag ar gelloedd iach. Ond gall cemotherapi niweidio rhai celloedd iach hefyd.

2

Page 3: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Sut gall y cemotherapi gael ei roi?Mae’n bosib rhoi cemotherapi mewn sawl ffordd ond dyma’r rhai mwyaf arferol:

Trwy bigiad i wythïen gan ddefnyddio drip Trwy’r geg ar ffurf tabled neu hylif Trwy linell arbennig sydd wedi’i chysylltu â phwmp.

Trwy tiwb dirwy â elwir yn PICC neu linell Hickman yw’r enwau arni ac mae’r pwmp yn cael ei gario mewn bag bach sy’n cael ei wisgo am y gwasg.

Pa mor aml mae cemotherapi’n cael ei roi?Yn ôl y driniaeth yr ydych chi’n ei chael, gallwch chi gael y cemotherapi bob dydd, bob wythnos, bob dwy neu dair wythnos neu drwy’r amser. Bydd eich meddyg yn trafod hyn gyda chi.

Ble fyddaf i’n cael y cemotherapi?Yn ôl y math o driniaeth yr ydych chi’n ei chael, gallech chi gael eich cemotherapi yn un o’r rhain:

Uned Cemotherapi i Gleifion Allanol Yr Uned Ddydd ar gyfer Cemotherapi Ward Tywysoges Margaret (fel claf mewnol) Uned Ddydd Rhosyn Mewn clinig allgymorth yn eich ysbyty lleol Yn eich cartref eich hun Ar yr uned symudol cemotherapi

Fel arfer mi fydd eich triniaeth yn digwydd yn yr un lle bob tro. Er hynny, mi fydd yna adegau lle bydd rhaid i ni symud eich triniaeth i leoliad gwahanol. Weithiau bydd hyn yn

3

Page 4: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

digwydd ar fyr rybudd ac ni fydd amser gyda ni i’ch hysbysebu o’r newydd ymlaen llaw. Os yr ydym yn newid amser eich triniaeth mi fyddwn bob amser yn eich ffonio neu ddanfon llythyr i’ch hysbysebu o’r newydd.

Cytuno i gael triniaeth cemotherapiCyn gynted ag y bydd triniaeth cemotherapi’n cael ei drafod, byddwch chi’n cael gwybod am y peryglon a’r manteision. Gallwch chi ofyn unrhyw gwestiynau am y driniaeth a bydd gofyn i chi lofnodi ffurflen yn rhoi’ch caniatâd. Dim ond os ydych chi’n fodlon ei chael y byddwch chi’n cael triniaeth cemotherapi. Gallwch chi stopio’r driniaeth ar unrhyw adeg ond dywedwch wrth eich meddyg neu nyrs am unrhyw bryderon sydd gennych.

Manteision y driniaethMae manteision cemotherapi’n dibynnu ar y math o ganser sydd arnoch chi a pha mor bell mae wedi datblygu. Mae’r amcanion yn cynnwys:

Gwella’r canser trwy ddinistrio’r holl gelloedd canser Lleihau’r tebygolrwydd o weld y canser yn dod yn ôl

trwy ddinistrio unrhyw gelloedd canser sy’n dal yn y corff ond sy’n rhy fach i’w gweld

Lleihau maint y canser cyn i chi gael llawdriniaeth neu radiotherapi

Rheoli maint a lledaeniad y canser i esmwytho unrhyw symptomau

4

Page 5: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Beth yw sgil effeithiau posib y driniaeth?Mae’n bosib i driniaeth cemotherapi achosi llawer o sgil effeithiau. Bydd yr effeithiau’n dibynnu ar y math o gemotherapi’r ydych chi’n ei gael. Fe gewch chi daflen wybodaeth ar wahân am eich cemotherapi chi, fydd yn rhoi mwy o fanylion am eich triniaeth a’r sgil effeithiau.

Mae’r daflen yma’n esbonio’r sgil effeithiau cyffredinol a allai fod yn gysylltiedig â’r rhan fwyaf o driniaethau cemotherapi.

Cofiwch os gwelwch yn dda:

Ni fyddwch yn dioddef o bob sgil effaith a nodwyd isod. Gallem ragweld sgil effeithiau yn nhermau pryd y maent

yn dechrau, faint y maent yn para a pa mor wael y byddent.

Fel arfer mae sgil effeithiau yn gildroad ac yn diflannu wedi i’r driniaeth orffen.

Fel arfer mi fyddwch yn gallu delio gyda sgil effeithiau. Mae gyda chi nifer o opsiynau er mwyn ei lleihau neu ei gwahardd nhw.

Effaith cemotherapi ar gelloedd eich gwaedMae tri phrif fath o gelloedd yn y gwaed:

celloedd gwyn y gwaed celloedd coch y gwaed platennau

Gall triniaeth cemotherapi ostwng nifer y celloedd yn eich gwaed. Felly, byddwch chi’n cael profion gwaed rheolaidd. Bydd y profion yn gwirio nifer y celloedd gwyn, y celloedd coch a’r platennau yn eich gwaed.

5

Page 6: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Celloedd gwyn: Os yw nifer y rhain yn is oherwydd y driniaeth cemotherapi, yna bydd eich corff yn llai abl i ymladd heintiau hefyd. Un ffordd o ddweud a oes haint arnoch chi yw gweld a yw tymheredd eich corff yn uchel. Os yw’ch tymheredd yn 37.5°C neu’n uwch, neu os ydych chi’n sylwi ar unrhyw arwyddion o haint fel dolur gwddf, peswch, oerni neu ddolur rhydd, fe ddylech chi gysylltu ar unwaith â Chanolfan Ganser Felindre (mae gwybodaeth am gysylltu â ni ar dudalen 14). Bydd nyrs yn dweud wrthych chi beth i’w wneud. Byddwch yn barod i ddod i Felindre i gael prawf gwaed os dyna yw cyngor y nyrs. Efallai y bydd rhaid i ni ohirio’ch triniaeth os yw cyfrif y celloedd gwyn yn eich gwaed yn rhy isel.

Celloedd coch: Y rhain sy’n cario ocsigen i bob rhan o’r corff. Os yw eu nifer yn isel, gallwch chi fynd yn flinedig ac yn welw. Anaemia yw’r enw ar hyn. Efallai y bydd angen trallwysiad gwaed arnoch chi os yw nifer eich celloedd coch yn is na’r lefel arferol.

Platennau: Mae angen y celloedd yma ar eich gwaed i greu tolchenni, er enghraifft os ydych chi wedi torri’ch croen. Os yw nifer eich platennau’n rhy isel oherwydd y cemotherapi, gallech chi sylwi’ch bod chi’n cleisio’n hawdd, neu fod eich trwyn neu’ch ceg yn gwaedu. Os bydd hyn yn digwydd, fe ddylech chi ffonio Canolfan Ganser Felindre ar unwaith (mae gwybodaeth am gysylltu â ni ar dudalen 14). Os yw nifer y platennau yn eich gwaed yn is na’r lefel arferol, efallai y bydd angen arllwysiad o blatennau arnoch chi neu efallai y bydd angen i ni ohirio’ch triniaeth.

6

Page 7: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Effaith triniaeth cemotherapi ar eich cegGall triniaeth cemotherapi effeithio’r cellau sy’n gorchuddio y tu fewn i’ch ceg. Gall hyn wneud eich ceg yn goch ac yn boenus ac yn fwy parod i ddal heintiau. Mae’n bwysig felly eich bod chi’n glanhau eich ceg yn ystod triniaeth.

Dylech gadw eich ceg mor lan a phosibl. Glanhewch eich dannedd yn ysgafn ar ôl pob pryd o fwyd gan ddefnyddio past dannedd a brwsh dannedd meddal. Defnyddiwch bast dannedd sy’n dda i ddannedd sensitif os oes gennych gymiau poenus. Dylech frwsio’ch tafod yn ysgafn hefyd os nad yw hi’n boenus.

Os ydych chi’n gwisgo dannedd gosod, brwsiwch nhw ddwywaith y diwrnod gyda sebon a dŵr. Mae’n well peidio â defnyddio past dannedd ar ddannedd gosod gan ei fod yn gallu crafu. Dylech chi rinsio’ch dannedd gosod yn drwyadl ar ôl bwyta. Mae gofyn eu gadael mewn dŵr dros nos a defnyddio toddiant diheintio unwaith yr wythnos i’w diheintio.Yfwch ddigon o hylifau i gadw’ch ceg yn ffres ac yn llaith. Efallai y byddai’n help i chi rinsio’ch ceg gyda dŵr a halen (toddwch un llond llwy de o halen mewn tua 500ml o ddŵr lled dwym, rinsiwch eich ceg gyda’r cymysgedd a’i boeri allan wedyn). Gallwch chi wneud yr un peth gyda dŵr ffres os oes well gennych chi beidio â defnyddio halen.

Os yw’ch ceg yn mynd yn boenus, neu yn datblygu wlser neu'r llindag dylech gysylltu ag Canolfan Ganser Felindre am gymorth pellach (gwelir tudalen 14 am wybodaeth cyswllt).

Os oes angen unrhyw driniaeth ddeintyddol arnoch chi, mae’n bwysig i chi drafod y driniaeth gyda’ch meddyg yn yr ysbyty cyn i chi adael i’ch deintydd wneud y gwaith.

7

Page 8: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Effaith triniaeth cemotherapi ar eich chwant bwydWeithiau gall triniaeth cemotherapi effeithio ar eich chwant bwyd. Oherwydd hyn, gallwch chi golli neu ennill pwysau. Mae gennym daflenni sy’n cynnig mwy o wybodaeth i chi am fwyta ac yfed wrth i chi dderbyn triniaeth Cemotherapi. Gofynnwch i’ch nyrs am fwy o wybodaeth. Gall eich meddyg neu eich Nyrs eich cyfeirio at y dietegydd am gyngor pellach.

Gallech chi deimlo bod eich bwyd yn blasu’n wahanol hefyd. Ond fe ddylai’ch synnwyr blasu droi’n normal eto o fewn dau neu dri mis o orffen eich triniaeth.

CyfogWeithiau gall triniaeth cemotherapi achosi cyfog (teimlo fel taflu i fyny) a gallwch chi daflu i fyny/chwydu. Mae rhai triniaethau cemotherapi’n fwy tebygol o achosi cyfog nag eraill. Ond mae’n anarferol erbyn hyn i rywun daflu i fyny gan y byddwch chi’n cael moddion i’w rwystro ac maen nhw’n effeithiol iawn fel arfer. Os ydych chi’n taflu i fyny mwy nag unwaith mewn 24 awr er gwaetha’r ffaith eich bod chi’n cymryd moddion i’w rwystro, cysylltwch â Chanolfan Ganser Felindre i ofyn am gyngor (mae gwybodaeth am gysylltu â ni ar dudalen 14).

Effaith triniaeth cemotherapi ar eich coluddionGall ambell i driniaeth cemotherapi effeithio eich coluddyn. Gall rhai achosi dolur rhudd a rhai yn achosi rhwymedd. Dim ond ychydig o gyffuriau cemotherapi sy’n achosi dolur rhydd. Os yr ydych yn derbyn y driniaeth sy’n achosi dolur rhydd mi fyddwn yn cynnig cymorth penodol i chi. Er hyn, os yr ydych yn dioddef unrhyw un o’r rhain dywedwch wrth

8

Page 9: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

eich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd.Os yw’ch coluddyn yn agor mwy na pedair gwaith mewn diwrnod uwchben yr hyn sy’n arferol i chi cysylltwch ag Canolfan Ganser Felindre os gwelwch yn dda yn syth (gwelir tudalen 14 am fwy o wybodaeth cyswllt).

Eich gwalltMae rhai cyffuriau cemotherapi’n gwneud i’r gwallt deneuo rywfaint. Yn anffodus, mae rhai pobl yn colli’u gwallt yn gyfan gwbl. Rhywbeth dros dro yw hyn bob amser a bydd eich gwallt yn tyfu’n ôl ar ôl i chi orffen eich triniaeth. Weithiau mae oeri croen y pen yn cael ei ddefnyddio gyda rhai triniaethau cemotherapi er mwyn lleihau’r effeithiau hyn. Gofynnwch i’ch nyrs am fwy o fanylion. Os oes angen wig arnoch chi, mae’n bosib trefnu hyn hefyd. Mae taflenni gwybodaeth ar gael am ymdopi os ydych chi’n colli’ch gwallt, ac am y gwasanaeth wigiau ac oeri croen y pen.

Beichiogrwydd a ffrwythlondebNid oes unrhyw reswm i chi ymwrthod rhag cyfathrach rywiol, ond rydyn ni’n argymell i chi ddefnyddio condom. Dylai hyn amddiffyn eich partner rhag y posibilrwydd y gallai’r mymryn lleiaf un o gemotherapi fod yn hylifau’ch corff.

Mae’n bwysig i chi beidio â beichiogi neu genhedlu plentyn tra’r ydych chi’n cael eich triniaeth cemotherapi ac am o leiaf chwe mis ar ôl iddi ddod i ben. Y rheswm am hyn yw bod cemotherapi’n gallu niweidio plentyn sydd heb ei eni.

9

Page 10: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Gall triniaeth cemotherapi weithiau achosi anffrwythlondeb. Efallai mai anffrwythlondeb dros dro neu barhaol fydd hyn. Os yr hoffech dderbyn mwy o wybodaeth ar ffrwythlondeb neu os oes gennych bryderon ynglŷn â rhyw gallech gysylltu âr Nyrsys arbenigol canlynol:

Christian Smith - Nyrs Arbenigol wroleg 029 2031 6991

Sarah Burton – Nyrs arbenigol Gynaecoleg Macmilan 029 2061 5888 bleep 195

Gofal yn yr haulGall rhai cyffuriau cemotherapi wneud eich croen yn fwy sensitif i’r haul. Os ydych chi’n cael un o’r cyffuriau yma, byddwch chi’n cael cyngor i ddilyn rhai rhagofalon arbennig. Yn eu plith nhw mae treulio llai o amser yn yr haul, aros yn y cysgod lle bynnag y bo hynny’n bosib, gwisgo het a defnyddio eli haul â ffactor uchel.

Blinder a lluddedGall triniaeth cemotherapi wneud i chi deimlo’n fwy blinedig na’r cyffredin. Mae’n bwysig i chi wrando ar eich corff a gorffwys os oes angen. Gwnewch eich gweithgareddau arferol os ydych chi’n teimlo fel eu gwneud. Mae cyfuno ymarfer corff ysgafn a gorffwys yn helpu rhai pobl.

Niwed i’r croen a’r meinweoeddMae rhai cyffuriau cemotherapi, yn arbennig rhai mewn drip neu bigiad, yn gallu niweidio’r croen a’r man o’i gwmpas os ydyn nhw’n gollwng y tu allan i’ch gwythïen. Gelwir hyn yn nawsio. Anaml iawn y bydd hyn yn digwydd. Ond mae’n

10

Page 11: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

bwysig i chi ddweud wrth eich nyrs ar unwaith os ydych chi’n sylwi ar unrhyw boen neu losgi lle mae’r drip yn mynd i mewn.

Perygl o dolchennu gwaedGall canser gynyddu eich risg o ddatblygu tolchen gwaed (thrombosis), ac mi all dderbyn cemotherapi gynyddu hyn yn bellach. Mae’n bwysig i chi ddweud wrth eich doctor yn syth os gewch chi symptomau megis poen, cochni neu chwydd yn eich coes, neu boen yn eich brest neu ddiffyg anadlu.

Gall dolchenni gwaed fod yn ddifrifol. Er hynny, gall y mwyafrif o dolchennu cael ei drin gyda chyffuriau i dynhau’r gwaed. Gall eich doctor neu nyrs rhoi mwy o wybodaeth i chi.

Mwy o wybodaethGall fymryn o gemotherapi aros yn hylifau’ch corff (eich gwaed, eich wrin a’ch cyfog) am sawl diwrnod ar ôl eich triniaeth. Er bod y perygl o niweidio rhywun arall yn isel iawn, mae’n bwysig i chi eu cadw nhw’n ddiogel rhag dod i gysylltiad â’r cyffuriau. Ein cyngor yw i chi fflysio’r tŷ bach yn syth ar ôl ei ddefnyddio ac ymolchi’ch dwylo’n drwyadl. Dylech chi wisgo menig rwber os yw hylif eich corff yn colli’n rhywle neu os yw’n cael ei drin â llaw.

Ddylai cael triniaeth cemotherapi ddim eich rhwystro rhag cyffwrdd eich teulu a’ch ffrindiau. Mae hyn yn cynnwys cusanu a chofleidio. Mae croeso i chi holi’ch nyrs os hoffech chi drafod hyn gyda rhywun.

11

Page 12: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Brechiadau rhag ffliwMae perygl i unrhyw glaf sy’n cael cemotherapi ddal ffliw. Yr argymhelliad yw i chi gael eich imiwneiddio rhag ffliw os ydych chi’n cael cemotherapi yn ystod yr hydref a’r gaeaf. Yn ddelfrydol, dylech chi gael eich brechu 7-10 diwrnod cyn i’ch triniaeth cemotherapi ddechrau. Efallai na fydd yr imiwneiddiad yr un mor effeithiol os ydych chi wedi dechrau ar eich triniaeth yn barod am fod ymateb imiwn eich corff yn is efallai. Bydd eich corff yn llai abl i greu’r gwrthgyrff i’ch diogelu rhag ffliw. Os byddwch chi’n cael eich brechu tra’r ydych chi’n cael triniaeth cemotherapi, mae gofyn ei wneud pan mae cyfrif y celloedd gwyn yn eich gwaed yn normal. Dylech chi osgoi cael ei brechu pan mae cyfrif y celloedd gwyn yn eich gwaed yn isel gan y gallai wneud i’ch tymheredd godi. Byddai’n anodd dweud wedyn ai twymyn (fever) a haint sydd arnoch chi, a gallech chi orfod cael triniaeth ddiangen yn yr ysbyty.

Brechlynnau gwahanolNi ddylech chi dderbyn unrhyw frechlyn tra eich bod chi’n derbyn triniaeth Cemotherapi ac am 6 mis wedi i chi orffen. Enghreifftiau o frech byw yw:

Rwbela Clwy’ pennau Y frech goch MMR BCG Y Clwyf felyn

12

Page 13: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Dylech chi osgoi cyswllt agos gydag unrhyw un sydd wedi derbyn brechlyn fyw yn ddiweddar (fel Polio). Nid ydym yn cynnig brechau ar lafar yn y DU rhagor. Felly nid ydych mewn perygl o fod mewn cysylltiad ag eraill sydd wedi derbyn brechau ar lafar yn y DU.

Treialon clinigolMae Canolfan Ganser Felindre’n ymchwilio i ffyrdd newydd o ddefnyddio cemotherapi ac i gyffuriau cemotherapi newydd. Efallai y bydd rhywun yn gofyn i chi ystyried cymryd rhan mewn astudiaeth glinigol os oes un sy’n addas i’ch diagnosis a’ch triniaeth. Fe gewch chi wybodaeth lawn am yr astudiaeth cyn gwneud unrhyw benderfyniad, ac mae cymryd rhan yn y fath astudiaethau’n gwbl wirfoddol. Fydd eich penderfyniad ddim yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar safon y gofal a gewch chi.

Eich derbyn i ysbyty arall wrth gael cemotherapiOs derbyniwyd chi i’r ysbyty, cofiwch ddweud eich bod yn derbyn cemotherapi. Dylech ddangos i’ch nyrs neu ddoctor eich cerdyn cemotherapi melyn. Gofynnwch iddyn nhw gysylltu â ni er mwyn dweud eich bod chi yn yr ysbyty. Gwelir ein rhif ffôn ar dudalen 15.

13

Page 14: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Teimlo’n anhwylus yn eich cartref ar ôl cael triniaethOs ydych chi’n teimlo’n anhwylus tra’r ydych chi gartref ac yn cael cemotherapi ac rydych chi’n teimlo mai’r cemotherapi sy’n effeithio arnoch, cysylltwch â ni ar unwaith. Os cewch chi unrhyw rai o’r symptomau sy’n dilyn:

Tymheredd o 37.5°C neu uwch Yn sâl mwy nag unwaith o fewn 24 awr Yn dioddef o ddolur rhydd Cleisio neu waedu heb esboniad Teimlo’n gyffredinol anhwylus / peswch drwg ar eich

brest neu broblemau wrth wneud dŵr

Ffoniwch Ganolfan Ganser Felindre ar 029 2061 5888 ac esboniwch eich bod chi’n glaf sy’n cael cemotherapi a’ch bod chi’n teimlo’n anhwylus. Byddwch chi’n cael eich trosglwyddo at nyrs a fydd yn gofyn am y manylion sy’n dilyn (maen nhw i’w cael ar eich cerdyn cemotherapi melyn):

Rhif eich ysbyty Enw eich doctor yn Felindre Pa gyffuriau cemotherapi yr ydych yn derbyn

Efallai bydd y nyrs yn cynnig cyngor i chi ar y ffon, neu’ch cyfeirio at eich doctor neu efallai’n gofyn i chi ddod i Felindre. Os byddwch chi’n cael eich galw i mewn, dewch â bag nos gyda chi gyda’ch meddyginiaeth, dillad a thaclau ymolchi fel bod modd eich derbyn i’r ward os oes angen.

Rhifau ffôn defnyddiol14

Page 15: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Canolfan Ganser Felindre 029 2061 5888Os ydych chi’n teimlo’n anhwylus yn eich cartref ac mae angen sylw arnoch ar frys, waeth beth yw amser y dydd neu’r nos, gofynnwch am beiriant galw cemotherapi

Y Fferyllfa 029 2061 5888 est 6223Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am – 5pm am ymholiadau ynglŷn â’ch cyffuriau

Llinell gymorth am ddim Tenovus 0808 808 1010Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am – 4.30pm am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â chanser

Gwefannau defnyddiol

Cancer Research UK www.cancerresearch.org.uk

Healthtalkonline www.healthtalkonline.org(profiadau personol o iechyd a salwch)

Cymorth Canser Macmillan www.macmillan.org.uk

Tenovus www.tenovus.com

15

Page 16: Specialist Nurses – Peter Gill – 029 20316991 · Web vieweich doctor neu nyrs gan ei bod yn gallu delio a rhain drwy feddyginiaeth neu newydd eich bwyd. Os yw’ch coluddyn yn

Canolfan Ganser Felindre Heol Felindre Yr Eglwys NewyddCaerdyddCF14 2TLFfôn: 029 2061 5888

16