6
GWANWYN/HAF 2013 www.stdavidshospice.org.uk HOSBIS DEWI SANT TAFLEN NEWYDDION Mae darparu gofal arbenigol o’r radd uchaf yn brif flaenoriaeth i Hosbis Dewi Sant. Mae’r Hosbis yn cyfranogi i adolygiadau “iWantGreatCare”, rhaglen genedlaethol sy’n gwerthuso gofal arbenigol lliniarol a gwasanaethau Hosbis i gleifion. Mae’n caniatáu i gleifion a’u teuluoedd i adael adborth ystyrlon am eu gofal a hynny’n ddienw. Mae “iWantGreatCare” yn mesur bodlonrwydd cleifion ac mae’n cwmpasu penawdau megis hylendid, effeithiolrwydd, parch ac urddas a hefyd ymdrîn ag ofnau. Mae’r canfyddiadau yn arddangos fod Hosbis Dewi Sant yn gyson yn derbyn graddau uchel o fodlonrwydd gan gleifion, gan dderbyn 10 allan o 10 yn aml. Dywedodd Y Rheolwr Gwasanaethau Clinigol, Nia Rosser Hughes: “Rydym yn ymhyfrydu yn yr ymateb cadarnhaol a’r datganiadau hyfryd a roddir i ni gan ddefnyddwyr ein gwasanaeth. Rydym yn ddiolchgar fod bobl wedi rhoi o’u hamser i arddangos y fath werthfawrogiad ac mae’n rhoi hwb rhyfeddol i’r tîm.” Mae’r atborth o’r arolygon yn cynnwys datganiadau cadarnhaol iawn oddi wrth ein cleifion a’u perthnasau… Cawsom fod y gofal a’r sylw a gafodd fy mam yn ardderchog a’r staff yn ofalgar ac ystyriol” – perthynas claf preswyl “Ni allaf ganmol y tîm yn ddigonol. Mae’r nyrsio mor ofalus a chysurlawn.” - Claf Adran Ddydd “Cafodd fy ng^ wr ofal ardderchog tra yn Hosbis Llandudno. Ni allai fy nheulu na minnau ddymuno unrhyw beth gwell i wneud ei fywyd yn rhwyddach cyn iddo farw yn heddychlon a gydag urddas.” Perthynas claf preswyl. “Ni allaf ganfod unrhyw fai yn y gofal a gefais yn Dewi Sant. Mae’r staff mor ofalus ac ystyriol ac yn cymryd yr amser i wrando ac egluro pob agwedd o’r driniaeth.” - Claf Adran Dydd Gellir gweld y canlyniadau’n llawn drwy ymweld â: www.stdavidshospice.org.uk/iwantgreatcare CLEIFION A PHERTHNASAU YN CANMOL GOFAL ARDDERCHOG YR HOSBIS Mae Hosbis Dewi Sant wedi derbyn hwb ariannol i gynorthwyo gorffen ei hailddatblygiad holl bwysig. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cymhorthdal cyfalaf o £250,000 sydd wedi caniatáu i “Apêl Help Llaw” gyrraedd ei darged. Dywedodd Cadeirydd yr Hosbis, Gladys Harrison: “Mae ailddatblygiad Hosbis Dewi Sant wedi’i orffen yn lwyddiannus ac mae wedi darparu awyrgylch o breifatrwydd a chysur i gleifion a theuluoedd sydd wedi gofyn am y gofal arbenigol y mae’r Hosbis yn ei ddarparu. Bydd y tri gwely ychwanegol yn ein caniatáu i ddiwallu y galw cynyddol am le i gleifion sydd angen gofal lliniarol arbenigol. Mae cymhorthdal cyfalaf at yr apêl, a gefnogwyd mor hael gan Gymuned Gogledd Orllewin Cymru wedi’i dderbyn yn ddiolchgar iawn.” “HELP LLAW” I’R HOSBIS GYDA’I HAPÊL Llun: Kerry Roberts, North Wales Pioneer Ymwelodd Lesley Griffiths, Y Cyn Gweinidog Iechyd, â Hosbis Dewi Sant ym mis Chwefror, a dadorchuddiodd ran olaf y thermomedr codi arian. Yn y llun mae hi gyda’r Cadeirydd, Gladys Harrison. 3 Lolfa dydd newydd ar gyfer perthnasau 3 mwy o adnoddau i deuluoedd 3 Adnoddau gwell ar gyfer addysgu ac hyfforddi 3 Adran Codi Arian mwy hygyrch

St David's Hospice Newsletter Spring/Summer 2013

Embed Size (px)

DESCRIPTION

St David's Hospice Newsletter Spring/Summer 2013 Welsh

Citation preview

Page 1: St David's Hospice Newsletter Spring/Summer 2013

GWANWYN/HAF 2013

www.stdavidshospice.org.uk

HOSBIS DEWI SANTTAFLEN NEWYDDION

Mae darparu gofal arbenigol o’r radd uchaf yn brif flaenoriaeth i Hosbis Dewi Sant. Mae’r Hosbis yn cyfranogi i adolygiadau “iWantGreatCare”, rhaglen genedlaethol sy’n gwerthuso gofal arbenigol lliniarol a gwasanaethau Hosbis i gleifion. Mae’n caniatáu i gleifion a’u teuluoedd i adael adborth ystyrlon am eu gofal a hynny’n ddienw.

Mae “iWantGreatCare” yn mesur bodlonrwydd cleifion ac mae’n cwmpasu penawdau megis hylendid, effeithiolrwydd, parch ac urddas a hefyd ymdrîn ag ofnau. Mae’r canfyddiadau yn arddangos fod Hosbis Dewi Sant yn gyson yn derbyn graddau uchel o fodlonrwydd gan gleifion, gan dderbyn 10 allan o 10 yn aml.

Dywedodd Y Rheolwr Gwasanaethau Clinigol, Nia Rosser Hughes: “Rydym yn ymhyfrydu yn yr ymateb cadarnhaol a’r datganiadau hyfryd a roddir i ni gan ddefnyddwyr ein gwasanaeth. Rydym yn ddiolchgar fod bobl wedi rhoi o’u hamser i arddangos y fath werthfawrogiad ac mae’n rhoi hwb rhyfeddol i’r tîm.”

Mae’r atborth o’r arolygon yn cynnwys datganiadau cadarnhaol iawn oddi wrth ein cleifion a’u perthnasau…

“Cawsom fod y gofal a’r sylw a gafodd fy mam yn ardderchog a’r staff yn ofalgar ac ystyriol” – perthynas claf preswyl

“Ni allaf ganmol y tîm yn ddigonol. Mae’r nyrsio mor ofalus a chysurlawn.” - Claf Adran Ddydd

“Cafodd fy ngwr ofal ardderchog tra yn Hosbis Llandudno. Ni allai fy nheulu na minnau ddymuno unrhyw beth gwell i wneud ei fywyd yn rhwyddach cyn iddo farw yn heddychlon a gydag urddas.” Perthynas claf preswyl.

“Ni allaf ganfod unrhyw fai yn y gofal a gefais yn Dewi Sant. Mae’r staff mor ofalus ac ystyriol ac yn cymryd yr amser i wrando ac egluro pob agwedd o’r driniaeth.” - Claf Adran Dydd

Gellir gweld y canlyniadau’n llawn drwy ymweld â: www.stdavidshospice.org.uk/iwantgreatcare

ClEIFION A PHErTHNASAu YN CANmOl GOFAl ArDDErCHOG Yr HOSBIS

Mae Hosbis Dewi Sant wedi derbyn hwb ariannol i gynorthwyo gorffen ei hailddatblygiad holl bwysig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cymhorthdal cyfalaf o £250,000 sydd wedi caniatáu i “Apêl Help Llaw” gyrraedd ei darged.

Dywedodd Cadeirydd yr Hosbis, Gladys Harrison:

“Mae ailddatblygiad Hosbis Dewi Sant wedi’i orffen yn lwyddiannus ac mae wedi darparu awyrgylch o breifatrwydd a chysur i gleifion a theuluoedd sydd wedi gofyn am y gofal arbenigol y mae’r Hosbis yn ei ddarparu. Bydd y tri gwely ychwanegol yn ein caniatáu i ddiwallu y galw cynyddol am le i gleifion sydd angen gofal lliniarol arbenigol.

Mae cymhorthdal cyfalaf at yr apêl, a gefnogwyd mor hael gan Gymuned Gogledd Orllewin Cymru wedi’i dderbyn yn ddiolchgar iawn.”

“HElP llAW” I’r HOSBIS GYDA’I HAPêl

Llun

: Ker

ry R

ober

ts, N

orth

Wal

es P

ione

er

Ymwelodd Lesley Griffiths, Y Cyn Gweinidog Iechyd, â Hosbis Dewi Sant ym mis Chwefror, a dadorchuddiodd ran olaf y thermomedr codi arian. Yn y llun mae hi gyda’r Cadeirydd, Gladys Harrison.

3 Gwella preifatrwydd i gleifion drwy newid yr ystafelloedd lle bu chwe gwely yn ystafelloedd preswyl sengl

3 Tair ystafell wely ychwanegol (cyfanswm o 14 i gyd)

3 Lolfa dydd newydd ar gyfer perthnasau 3 mwy o adnoddau i deuluoedd3 Adnoddau gwell ar gyfer addysgu ac hyfforddi3 Adran Codi Arian mwy hygyrch

Page 2: St David's Hospice Newsletter Spring/Summer 2013

Drwy gyfrwng y llythyr newyddion hwn, fe

hoffwn ddatgan fy ngwerthfawrogiad o’n holl

wirfoddolwyr sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i

ansawdd bywyd pobl leol sy’n byw gyda salwch

sy’n byrhau oes.

Ar draws y sefydliad mae dros 300 o wirfoddolwyr

sydd wedi’u hyfforddi, yn rhoi miloedd o oriau o

wasanaeth i Hosbis Dewi Sant. Mae dros 300 o oedolion yn derbyn

gofal gan ein Hosbis bob blwyddyn ac mae gwirfoddolwyr yr Hosbis

yn rhan annatod o’r tîm gofal.

Mae ein gwirfoddolwyr yn ymwneud â bron pob agwedd o’r gwaith

a wneir yn Dewi Sant boed hynny yn weithio ochr yn ochr â staff

yr Hosbis yn cynorthwyo yn yr adran Gofal Dydd neu yn yr Adran

Cleifion Preswyl, cyfarch yn y dderbynfa, cynorthwyo gyda chodi

arian, casglu cleifion, gweithio yn siopau’r Hosbis, arlwyo yng

Ngaffi Dewi, sortio pethau yn y Ganolfan Ddosbarthu, a llawer

mwy. Maent yn cynorthwyo i greu awyrgylch llesol, cyfeillgar sy’n

cynorthwyo i dileu unrhyw chwedlau ofnus am ofal Hosbis.

Unwaith eto, diolch o galon i bob un o’n gwirfoddolwyr am eu

hymroddiad a’u gofal diflino. Ni allem lwyddo yn yr hyn a wnawn

heb eu hamser a’u talentau.

Pam na wnewch chi ymuno â ni? Os oes gennych chi amser i’w roi,

os gwelwch yn dda, cysylltwch â’n Cyd-gysylltydd Gwirfoddolwyr,

Kimberley Barr, ar 01492 879058. Byddwn yn edrych ymlaen tuag

at glywed gennych chi

Alun Davies, Prif Weithredwr

GEOrGE YN CIPIO GWOBr “EICH PENCAmPWr”

Llongyfarchiadau i Wirfoddolwr yr Hosbis, George Williams, a gafodd ei enwebu ar gyfer gwobr y North Wales Weekly News: ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2012’. Mynychodd George a’i wraig Kathleen (sydd hefyd yn wirfoddolwraig) noson anrhydeddu yng Ngwesty Sain Siôr, Llandudno. Roedd yn noson fythgofiadwy, gyda George, nid yn unig yn ennill gwobr ‘Gwirfoddolwr y Flwyddyn’ ond hefyd yn cipio’r teitl “Pencampwr y Pencamwyr” gan y gr^wp papur newydd Trinity Mirror. Go Dda George!

Am yr 16 mlynedd diwethaf bu George yn gyfrifol am ddosbarthu blychau casglu i dafarndai, siopau a gwestai yn Llandudno, a hyd yma mae wedi casglu dros £100,000 i’r Hosbis.

Llun

: Trin

ity M

irror

GYDA’CH CYFEIllION

Mae Hosbis Dewi Sant angen eich cymorth chi. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i sefydlu ac ymuno â Grwpiau Codi Arian Cefnogol mewn Cymunedau ledled Gogledd Orllewin Cymru.

Allech chi fforddio amser unwaith yr wythnos , neu unwaith y mis i ymuno â phobl unfryd i drefnu cymaint neu cyn lleied o ddigwyddiadau ag y gallwch? Yr hyn sydd ei angen yw cred ddidwyll yn y gwaith a wna Hosbis Dewi Sant, hoffter o hiwmor a hwyl, a’r gallu i dreulio ychydig oriau bob mis neu’n flynyddol hyd yn oed.

Efallai y byddai eich teulu, eich cyfeillion, eich cyd-weithwyr neu rhyw Grwp Cymunedol sy’n bodoli eisoes â diddordeb mewn trefnu digwyddiad ar gyfer yr Hosbis. Gall pethau hollol syml fel bore coffi neu ddiwrnod casglu misol yn eich ardal leol ein cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth am yr Hosbis a chodi arian sydd â gwir angen amdano.

Bydd Tîm Codi Arian yr Hosbis bob amser wrth law i’ch cynorthwyo yn eich ymdrechion i godi arian, gan gynnwys cyflenwi posteri, baneri, bwcedi casglu a threfnu cyhoeddusrwydd ar gyfer eich digwyddiad.

Am fwy o wybodaeth ar sut i ffurfio Grwp Cefnogi Cymunedol cysylltwch, os gwelwch yn dda gyda: Kim Barr ar 01492 879058 neu ebostiwch [email protected]

CODWCH ArIAN

CODWCH HWYl!

Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2013 Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2013

Page 3: St David's Hospice Newsletter Spring/Summer 2013

Y llynedd trosglwyddwyd fy ngefeilles, Rachael, i Hosbis Dewi Sant. Dwy ar hugain oed oedd hi a dehonglwyd fod ganddi gancr terfynol. Ar y cychwyn ‘doedd hi ddim yn hapus ynghylch symud o ysbyty i hosbis. Yr unig syniad oedd ganddi am Hosbisau oedd eu bod yn ymdebygu i gartrefi nyrsio.

Fodd bynnag, o’r funud y cyrhaeddwyd yr hosbis roedd hi’n amlwg mai dyma’r lle gorau iddi hi fod. Roedd y staff a’r gwirfoddolwyr mor barod i helpu, yn garedig ac yn groesawgar. Fe wnaethant y trosglwyddiad o’r Ysbyty i’r Hosbis yn brofiad cwbwl ddiofid. Roedd yn wych cael bobl mor garedig a chefnogol i helpu Rachael ymgartrefu am ei chyfnod yn yr Hosbis.

Mae’r nyrsys arbenigol nid yn unig yn cynnig cefnogaeth, arweiniad a gofal i’r cleifion, maent yn cynnig cymaint i’r teuluoedd hefyd. Gwnaethant i mi deimlo’n holl ddiogel, drwy wybod fod rhywun yno bob amser, drwy’r dydd a’r nos. Rhoddodd hyn i ni’r sicrwydd fod Rachael yn derbyn gofal yn y ffordd orau bosib’. Roeddynt yn parchu ein holl anghenion, ac nid oedd unrhyw gyfyngiadau gan fod rhyddid i ni ymweld pa bryd bynnag y dymunai Rachael i ni ddod.

Roedd yn hyfryd gweld eu bod yn cymryd yr amser i ddod i adnabod y cleifion ac nid yn siarad am feddyginiaethau, triniaethau a phethau a berthyn i’r salwch yn unig. Roedden’nhw hefyd yn gwrando ar beth oedd gan fy chwaer i’w ddweud.

Roedd ystafell wely iddi hi ei hunan gan Rachael, ystafell olau a iachus, gyda lle i’w holl bethau cartrefol.

O fewn yr ystafell roedd yna hefyd wely dros-dro arall oedd yn caniatâu i mi aros gyda’m chwaer; roedd hyn yn hyfryd, roedd yn rhywbeth na chawn ei wneud yn yr ysbyty.

Yn ystod ei chyfnod yn yr Hosbis, daeth i adnabod y staff yn dda ac roedd yn hoff iawn ohonynt. Roedd yn bwysig i Rachael nad oedd hi’n teimlo ei bod yn cael ei thrin yn wahanol o achos ei hafiechyd. Roedd y staff nyrsio yn ardderchog gyda hi; roeddynt yn ei thrin fel person dwy ar hugain oed. Ar un amgylchiad, gyda chaniatâd y meddyg, daeth adref am rai oriau i wylio gêm bêl droed. Gwn i hyn roi i Rachael y teimlad fod ganddi ei hannibyniaeth o hyd ac, er gwaethaf ei hoedran, ei bod yn cael ei chymryd o ddifri gan staff yr Hosbis.

Gwnaethpwyd i Rachael deimlo mor gyfforddus â phosibl. Roedd hyn yn cynnwys cael cynnig therapi cyflenwol gan gynnnwys tylino ei thraed, ei chefn, a’i gwddf. Cynorthwyodd y tylino hwnnnw iddi ymlacio a bod yn fwy cyfforddus. Cynigwyd yr un therapi i fy nheulu hefyd fel rhan o’r gwasanaeth gofal.

Roedd y gofal a dderbyniodd Rachael a’m teulu i yn wych. Mae’n anhygoel sylweddoli eu bod yn gallu cynnig y fath ofal a chefnogaeth trwy gyfrwng rhoddion ariannol ac ymgyrchoedd codi arian. Maent i gyd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau pobl sydd wedi’u heffeithio gan salwch terfynol ac ni allaf ddatgan fy niolch yn ddigonol iddynt am bopeth a wnaethant.”

HOFFWN YmuNO â Gêm lOTrI’r HOSBIS.

q Anfonwch ffurflen Archeb Sefydlog i mi.

q Dyma siec am £ ..........................

q Hoffwn dalu arian ar y rhiniog. Dyma £4.

(rhai ardaloedd yn unig)

q Rwy’n talu £52 mewn un taliad drwy Archeb Sefydlog -

anfonwch Dewi, arth y Hosbis i mi.

q Rwyf wedi talu £52 heddiw - anfonwch Dewi,

arth y Hosbis i mi

Enw: .................................................................................................................

Cyfeiriad: .......................................................................................................

............................................................. Cod Post: ........................................

Ffôn: ................................................................................................................

E-bost: ............................................................................................................

#

Ym Mis Mawrth eleni fe bu inni ffarwelio â Tom Williams wedi 15 mlynedd wrth y llyw a chodi £5.5 miliwn. Yn awr mae Julie Hughes, Cyn-Gyfarwyddwr Lotri Hosbis Hafren, yn ymuno â Thîm yr Hosbis fel y Rheolwr Lotri newydd.

Yn ystod ei chyfnod yn Hosbis Hafren, cynorthwyodd Julie i’r lotri gynyddu o tua 10,000 o chwaraewyr i dros 23,000, gan gyfrannu mwy na £800,000 tuag at gost rhedeg yr Hosbis. Yn awr mae hi‘n gobeithio dilyn gwaith rhyfeddol Tom yn Hosbis Dewi Sant a gwneud yn sicr fod y Lotri

yn parhau i fod yn ffynhonnell werthfawr a rheolaidd o incwm parhaus i’r Hosbis. Meddai Julie, “Bu’r Lotri mewn dwylo sicr am y 15 mlynedd diwethaf, ond rwy’n edrych ymlaen tuag at weithio gyda holl dîm yr Hosbis wrth i ni symud i gyfnod newydd a dymunwn ymddeoliad hir a hapus i Tom.”

Yn wreiddiol o Swydd Amwythig, mae Julie yn briod gyda dau o feibion a chath o’r enw Spartacus ac mae’n edrych ymlaen at symud i ardal Llandudno yn y dyfodol agos.

CyfLWyNo aeLod NeWydd i’N TîM LoTRi

rEBECCA HAIlSTONES YN ADrODD HANES Y GOFAl A GAFODD EICH CHWAEr YN HOSBIS DEWI SANT

Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2013

Page 4: St David's Hospice Newsletter Spring/Summer 2013

CHWIlOlAu Ar YmDDIrIEDOlWrAIG –

mANDY HuGHESBu gen i ddiddordeb proffesiynol mewn ymchwil i driniaeth cancr a Gofal Diwedd

Oes am sawl blwyddyn. I gychwyn bûm yn gweithio yn y diwydiant ffarmacolegol,

yn trefnu ac yn arolygu treialon clinigol ar gyfer cyffuriau cancr ac yn fwy diweddar

yn darparu rhwydwaith ar gyfer hosbisau sy’n ymgymryd ag ymchwil i ofal lliniarol yng Ngogledd

Orllewin Lleogr. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio gyda’r Association of Palliative Medicine a’r National Cancer

Research Institute yn cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth ac yn hyrwyddo pob agwedd o ymchwil i Ofal

Diwedd Oes oddi mewn i’r byd meddygol a thu hwnt.

Rwyf wedi bod yn ymddiriedolwraig mewn Hosbis yn Swydd Caerhirfryn ac yn wirfoddolwraig gefnogi

mewn achosion o brofedigaeth a gobeithiaf y bydd y profiadau hyn a’m hanes ym myd gwaith yn fy

ngalluogi i wneud cyfraniad gwerthfawr i Hosbis Dewi Sant. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn

sicrhau, lle bynnag mae hynny’n bosibl, fod arbenigedd yr Hosbis mewn Gofal Diwedd Oes ar gael i gleifion

a hefyd i’r rhai sydd naill ai’n darparu neu’n defnyddio gwasanaethau gofal lliniarol yn anuniongyrchol.

“Rwy’n ei theimlo’n fraint fy mod wedi cael fy ngwahodd i fod yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr ac

edrychaf ymlaen tuag at weithio gyda’r staff, y gwirfoddolwyr a chyd-aelodau o’r bwrdd er mwyn sicrhau

bod Hosbis Dewi Sant yn parhau i gyflenwi y safon uchaf o ofal i’w chleifion , eu teuluoedd ac i’r gymuned

ehangach.”

Magwyd Mandy yn Neganwy, merch i ddau feddyg teulu. Yn ddeunaw oed gadawodd yr ardal i astudio

ym Mhrifysgol Caerdydd. Dychwelodd i’r ardal dwy flynedd yn ôl, gan wireddu’i dymuniad i fyw yn ôl wrth

y môr. Mae rwan yn rhannu ei hamser rhwng gweithio ym maes ymchwil yng nghyswllt Gofal Diwedd

Oes, bod yn Ymddiriedolwraig yn Dewi Sant , helpu gyda 4 o wyrion ifanc a cheisio gwella ei gêm golff!

“Fy siom mwyaf, ar ôl ymuno â Hosbis Dewi Sant fel gwirfoddolwr ddwy flynedd yn ôl; yw nad oeddwn wedi ymwneud â’r lle llawer ynghynt! Wedi ymddeol ar ôl gyrfa ddiddorol, doeddwn i ddim yn gwneud fawr. Teimlais yr hoffwn wneud defnydd mwy gwerth chweil o fy amser. Daeth yr Hosbis i’r meddwl. A bod yn hollol eirwir, doeddwn i’n gwybod fawr ddim am y lle; ac ie, roedd y gair “hosbis” yn creu mymryn o ofn ac o ansicrwydd; a doeddwn i ddim yn siwr sut y gallwn i fod o unrhyw gymorth ‘chwaith!

Dywedodd rhywun, “Mae ’na gaffi yno.” Felly, gwelwyd fy wraig a minnau yn mynd yno ar wahanol amseroedd a dyma rai o’n hymatebion cyntaf: “Coffi blasus!”; “Croeso caredig.” Lle hamddenol a’r math o fwyd a wna i chi deimlo ei fod wedi’i baratoi yn arbennig ar eich cyfer chi.

Felly, roeddwn yn magu rhyw deimlad am y lle; yn wir, ymdeimlad o gynhesrwydd. Des i i ddeall fod y caffi’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr. Fynycha’ yn y byd yr awn i yno, mwya’ cartrefol y teimlwn, pa un bynnag o’r gwirfoddolwyr fyddai ar ofalaeth.

Felly, fe wawriodd y dydd pan gerddais at ddesg y dderbynfa a holi’r gwirfoddolwr oedd yno a allwn i gael Ffurflen Gais Gwirfoddoli.

Fe es i â’r ffurflen gartref a’i llenwi. Y cwestiynau arferol: enw ac oedran, hanes fy ngyrfa; fy niddorbebau; ansawdd fy iechyd; ym mha ffordd y tybiwn i yr hoffwn i wirfoddoli? Roedd y cyfweliad yn bleserus a thrylwyr yn unol â’r disgwyl. Dilynwyd hyn gan yr ymholiadau angenrheidiol ar gyfer caniatâd i weithio gydag oedolion mewn hosbis. Yna, mynychais sesiwn o gyflwyniad gyda gwirfoddolwyr newydd eraill; ac ie, sgwrs anffurfiol am yr hosbis.

Trwy gydol hyn, deuthum yn ymwybodol o awyrgylch hapus, diffiuant a chynnes y sefydliad, ac yn arbennig y staff. Mae nhw’n rhyfeddol. Fel gwirfoddolwr dydych chi ddim yn cael y teimlad “Rydan ni yn staff a dim ond gwirfoddolwr ydach chi. Fe wneir i chi deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi fel aelod gwerthfawr o’r tîm.

Rwan, rydw i’n gwyrfoddoli, yn y Brif Dderbynfa, yn yr Adran Ddydd, ac yn yr Adran Breswyl. Rydwi’n acbub ar bob cyfle a ddaw i siarad am Hosbis Dewi Sant ac fel yr wyf yn mwynhau fy sesiynau gwirfoddoli. Mae i’r Hosbis arwyrgylch arbennig. ac i mi mae’r gair “harddwch” yn cwmpasu cymaint o agweddau’r lle, ac nid gair yn unig yw hwn - rydych yn ei deimlo.

Mae gwirfoddoli yn broses ddwyochrog. Yn wir, fe ddywedwn i fy mod i yn cael mwy allan o wirfoddoli nag ydw i yn ei roi wrth gynnig fy ngwasanaeth. Mae pob sesiwn a wnaf yn fraint arall sy’n cyfoethogi fy mywyd a’i ystyr.

Mae CROESO cynnes yn eich disgwyl yng Nghaffi Dewi hefyd. Ewch ati i ennill ymdeimlad am yr Hosbis fel y gwnes i; ac yna, efallai y daw eich tro chi i ofyn am ffurflen wirfoddoli!”

Gan Dafydd Price

HArDDWCH GWIrFODDOlI

Gwnewch Ewyllys Heddiw ...

YN EISIAU! Pobl anturus ledled y deyrnas

Unedig i wneud pethau fel hyn… am ddiM!

Cynorthwywch ni i godi arian trwy wneud cwymp rhydd gyffrous gyda pharasiwt

o 10,000 troedfedd.

Nid oes angen profiad; darperir hyfforddiant ac os ydych chi’n codi’r isafswm o arian noddi,

gallwch neidio aM ddiM!

Am becyn gwybodaeth cysylltwch â: 01492 873665

Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2013 Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2013

Page 5: St David's Hospice Newsletter Spring/Summer 2013

SIOP EluSEN NEWYDDYN AGOr YNG NGHONWYMae ein siop elusen yn Stryd fawr, Conwy wedi symud i fyny’r ffordd i adeilad mwy a gwell, a bydd yn agor ei drysau i’r cyhoedd yn y Pasg.

Mae’r siop yn gwerthu ystod eang o eitemau gan gynnwys, dillad, llyfrau, cerddoriaeth, trugareddau ac eitemau bychan o ddodrefn. Bydd y siop hosbis wreiddiol, dau ddrws i lawr, yn cyd-redeg â’r un newydd hyd haf 2013.

Rydym yn ddiweddar wedi ehangu ein hadnoddau dosbarthu i Siopau’r Hosbis. drwy rentu uned gyfagos (Uned 6) yn

Builder Street, Llandudno a phrynu fan newydd ychwanegol, gallwn yn awr werthu dewis ehangach o eitemau megis dodrefn o safon da. Gyda lle parcio y tu allan i’r unedau, maen nhw mewn lle delfrydol i adael eich rhoddion ac i weld y dodrefn sydd gennym ar werth.

Rydym ar hyn o bryd yn edrych am syniadau ar gyfer yr enw i’w roi ar adnoddau dosbarthu’r Hosbis yn Builder Street. os oes gennych chi awgrymiadau e-bostiwch nhw, os gwlewch yn dda i [email protected]

Mae Hosbis dewi Sant angen rhoddion o ansawdd dda i’w gwerthu yn ein siopau elusen: Cds, dVds, dillad glân ar gyfer bob oedran, teganau a gemau, offer ty, lliain, gemwaith, eitemau trydanol bychan sy’n gweithio, a dodrefn.Gofynnwn yn garedig i chi fynd â’ch rhoddion i’n Canolfan ddosbarthu, Cwrt Roger Mostyn, Builder Street, Llandudno neu ffonio 01492 878935 i gael eu casglu.

APÉl Am STOC

Mae Hosbis Dewi Sant yn ddibynnol ar roddion a adewir gan gyfeillion a chefnogwyr yn eu hewyllysiau. Os ydych chi’n ystyried rhoi cymynrodd i’r Hosbis byddwn yn gwir

werthfawrogi eich bod yn meddwl amdanom.

Am fwy o wybodaeth am gymynroddion, neu i ddaganfod fel y gall rhodd mewn Ewyllys gynorthwyo, cysylltwch ag

Andrew Humphreys neu ewch i wefan:http://stdavidshospice.org.uk/rhoicymynrodd

Gwnewch Ewyllys Heddiw ...

… gwnewch wahaniaeth yfory

POLISI GWARCHOD DATAMae Hosbis Dewi Sant a’i gwmni lotri Hyrwyddion Dewi Sant Cyf wedi’u cofrestru dan

Ddeddf Gwarchod Data 1998. Ni fydd yr Hosbis yn cyflwyno data personol i unrhyw sefydliad arall ond efallai y bydd yn dymuno eich hysbysu am newyddion a gweithgareddau’r Hosbis.

Os nad ydych chi’n dymuno derbyn yr wybodaeth hon, cysylltwch â:Hosbis Dewi Sant. Ffordd yr Abaty, Llandudno, Conwy LL30 2EN.

E-bost: [email protected] www.stdavidshospice.org.ukFfôn: 01492 879058 Ffacs: 01492 872081

23 Stryd fawr, Conwy, LL32 8aH

BiWMaRiS 4 Stryd Yr Eglwys 01248 810403

CRaiG-y-doN 19 Rhoddfa Mostyn 01492 860504

Bae CoLWyN 34 Ffordd Penrhyn 01492 533166

CoNWy 17 Stryd Fawr 01492 593719

CoNWy – Newydd ar gyfer 2013 23 Stryd Fawr

LLaNdUdNo 9 Stryd Lloyd 01492 871751

CyffoRdd LLaNdUdNo 155 Ffordd Conwy 01492 573917

LLaNRWST 3 Stryd Watling 01492 641516

PoRTHMadoG 142 Stryd Fawr 01766 513155

LLaNdRiLLo-yN-RHoS 31 Rhoddfa Penrhyn 01492 544569

Rhes

tr S

iopa

u

Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2013

Page 6: St David's Hospice Newsletter Spring/Summer 2013

The St David’s Hospice popular Dawn Walk will be back again in its 6th year on Sunday 4th August. Thank you to the 226 ladies who took part in 2012 and collectively raised over £17,500. This brings the total over the five years to a fantastic £97,500!

The nine mile sponsored walk starts and finishes at Aberconwy School, Conwy. The route follows the low level coastal paths, with stunning views across the Conwy estuary, to the Hospice. You will then retrace your footsteps, experiencing the beauty of the mountains as the sun rises. The event starts at first light (registration is 4.15am) with a fun warm up before we all set off together.

This is a registration only event, entry is £15 and the closing date for entries is Friday 19th July. After this date, please ring the Fundraising Office on 01492 873665. For further detailed information about the Dawn Walk go to:

To take part please complete the registration form to the right and return it to Fundraising Dept, St David’s Hospice, Abbey Rd, Llandudno, Conwy, LL30 2EN.

What other walkers have said about the event:

“It was such a lovely time to walk, so peaceful and as dawn was breaking, the birds were singing and watching the sun coming up over this beautiful part of the world was spectacular. It was very relaxed and I went at my own pace.”

“I felt privileged, like I was part of something special.”

“Everybody was in good spirits and it was a great atmosphere.”

Bydd taith gerdded boblogaidd Hosbis Dewi Sant, “Cerdded gyda’r Wawr”, yn ôl am y 6ed flwyddyn ar ddydd Sul 4ydd Awst. Diolch i’r 226 o ferched a gymerodd ran yn 2012 ac a gododd gyda’i gilydd £17.500. Daw hyn a’r cyfanswm dros y bum mlynedd i £97,500. Gwych!

Mae’r daith noddedig naw milltir yn cychwyn a gorffen wrth Ysgol Aberconwy, Conwy a dilynir y llwybrau isel arfordirol gyda’u golygfeydd trawiadol o aber Conwy, i’r Hosbis ac yna dychwelyd ar hyd yr un ffordd, gan brofi harddwch y mynyddoedd wrth i’r haul godi. Mae’r digwyddiad yn cychwyn gyda thoriad gwawr (cofrestru am 4.15 y.b.) gydag ymarfer hwyliog i gynhesu cyn dechrau’r daith gyda’n gilydd.

Rhaid cofrestru i fod yn rhan o’r digwyddiad, cost ymuno yw £15 a dydd Gwener 19eg Gorffennaf yw’r dyddiad cau, Wedi’r dyddiad hwn, os gwelwch yn dda, ffoniwch y Swyddfa Codi Arian ar 01492 873665. Am fwy o wybodaeth am “Cerdded Gyda’r Wawr” ewch i:

I gymryd rhan, os gwelwch yn dda, cwblhewch y ffurflen gofrestru o’r dde a’i dychwelyd i Adran Codi Arian, Hosbis Dewi Sant, Ffordd yr Abaty, Llandudno, Conwy, LL30 2EN.

Beth mae cerddwyr eraill wedi’i ddweud am y digwyddiad:

“Roedd yn amser mor hyfryd i gerdded, mor heddychlon ac fel roedd y wawr yn torri roedd yr adar yn canu ac roedd gwylio’r haul yn codi dros y rhan hardd hwn o’r byd yn rhyfeddol. Roedd yn hollol hamddenol a gallwn gerdded ar gyflymdra o’m dewis fy hunan.”

Teimlais ei bod yn fraint, roedd fel bod yn rhan o rhywbeth arbennig.”

“Roedd pawb mewn hwyliau da ac roedd yr awyrgylch yn ardderchog.”

CallinG all ladies!

dawn Walk 2013

GalW’r MerChed!

Cerdded Gyda’r Wawr 2013

FFuRFLEN GOFRESTRu “CERDDED GYDA’R WAWR” DAWN WALk REGISTRATION FORM

Enw / Name .........................................................................................................

Cyfeiriad / Address ...............................................................................................................................................

............................................................................................. Côd post / Postcode ...............................................

Cwmni (os yn berthnasol) / Company (if applicable) ................................................................................

Teleffon Oriau’r Dydd/ Day Time Telephone No. ..........................................................................................

Cyfeiriad E-bost / Email Address .....................................................................................................................

Enw Cyswllt mewn Argyfwng / Emergency Contact Name .....................................................................

Rhif Teleffon y Cyswllt Argyfwng / Emergency Contact Telephone No. ..............................................

Dyddiad Geni (os o dan 16) / Date of Birth (if under 16) .........................................................................

Os ydych o dan 16eg oed mae’n rhaid i chi gyd-gerdded trwy gydol y daith gydag oedolyn sydd wedi cofrestru. (Dim cerddwyr o dan 12) If you are under 16 years of age you must walk with a registered adult who accompanies you throughout the walk (No walkers under 12)

Enw’r Oedolyn sy’n dod gyda chi / Name of Accompanying Adult .......................................................

q Amgaeaf siec yn daladwy i ‘Hosbis Dewi Sant’ am £15 (nid yw’n ad-daliadwy) / I enclose a cheque made payable to ‘St David’s Hospice’ for £15 (non-refundable)

Os hoffech dalu â cherdyn ffoniwch 01492 873665, os gwelwch yn dda / If you would like to pay by card please call 01492 873665.

Crys-T (Ticiwch y blwch) / T-shirts (Please tick box)

q Bach / Small (35”-37”) q Canolig / Medium (38”-40”)

q Mawr / Large (41”-43”) q Enfawr / Extra Large (44”-46”)

q Os gwelwch yn dda, arbedwch gost postio i’r Hosbis – e-bostiwch y pecyn gwybodaeth i mi / Please save the Hospice postage - email the information pack to me

Sut y daethoch i wybod am y daith gerdded? / How did you hear of the walk?

....................................................................................................................................................................................

DATGANIAD / DECLARATION

Rwy’n datgan fy mod yn cymryd rhan yn “Cerdded Gyda’r Wawr” Hosbis Dewi Sant o’m gwirfodd ac ni ellir dal y trefnwyr yn atebol am unrhyw anafiadau neu golli eiddo tra’n cymryd rhan yn y digwyddiad. Cadarnhaf nad oes gennyf unrhyw anabledd meddygol a fyddai yn fy mheryglu i nac unrhyw un arall a fydd yn cymryd rhan. Cadarnhaf fy mod yn derbyn rheolau a rheoliadau y digwyddiad.

I declare that I am entering the St David’s Hospice Dawn Walk of my own choosing and no liability will be placed on the organisers for any injury sustained or any property lost whilst participating in the event. I confirm that I have no medical disabilities which would endanger myself or others taking part. I confirm I accept the rules and regulations of the event.

ARWyDDWCH yMA / SIGN HERE

arWyddWCh yn y BlWCh isodPlease siGn in the Box BeloW

www.stdavidshospice.org.uk/dawnwalk2013www.stdavidshospice.org.uk/dawnwalk2013

#

Dychwelwch i: Adran Codi Arian, Hosbis Dewi Sant, Ffordd yr Abaty, Llandudno LL30 2EN

Return to: Fundraising Dept, St David’s Hospice, Abbey Rd, Llandudno LL30 2EN

FuNDRAISING DIARY

SAT 22 JuNE Black Tie BBQ at Caerhun Hall - Tickets £40

SAT 13 JuLY Hospice Hoedown & Hog Roast at Marl Farm - Tickets £22

SAT 27 JuLY St David’s Hospice Summer Fete 1pm – 4pm in the grounds of the Hospice

SuN 28 JuLY Duck Race at Conwy River Festival 10am – 5pm

SuN 4 AuG Dawn Walk - sponsored nine mile walk for ladies only

Tel: 01492 873665

DYDDIADuR CODI ARIANDYDD SADWRN 22 MEHEFIN

Barbeciw Tei Du yn Neuadd Caerhun – Tocynnau £40

DYDD SADWRN 13 GORFFENNAFHwylddawns yr Hosbis a Mochyn Rhost: Fferm Marl – Tocynnau £22

DYDD SADWRN 27 GORFFENNAFGwyl Haf Hosbis Dewi Sant o 1 – 4 y.p. ar dir yr Hosbis

DYDD SADWRN 28 GORFFENNAFRas Hwyaid yng Ngwyl Afon Conwy 10y.b. – 5 y.h.

DYDD SuL 4 AWST “Cerdded Gyda’r Wawr” – taith gerdded 9 milltir noddedig i ferched yn unig

Ffôn: 01492 873665

St David’s Hospice Newsletter - Spring/Summer 2013 Taflen Newyddion Hosbis Dewi Sant - Gwanwyn/Haf 2013