11
220118_02 Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 - Melin Homes...busnes craidd. Strategaeth Gorfforaethol 20182023 Neges gan y ... M.Sc (Econ) Wales, FHEA Nyrs Academaidd wedi ymddeol a Gerontolegydd

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

  • 2201

    18_0

    2

    Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

    Cynnwys Neges gan y Bwrdd ➌Pwy ydym ni ➎ Gweledigaeth a Gwerthoedd ❻ Yr hyn rydym eisiau ei gyflawni ➐Y Bwrdd ➒Grŵp Arwain ➓Amcanestyniadau ariannol ⓫

    Os ydych angen yr wybodaeth yn y cynllun busnes hwn mewn print mawr, Braille, ar CD, neu wedi ei hesbonio yn eich iaith eich hun, cysylltwch â ni ar 01495 745910.

    Mae fersiwn Saesneg o’r cynllun hwn i’w weld ar ein gwefan: www.melinhomes.co.uk/publications. Mae copïau wedi eu hargraffu ar gael o wneud cais.

    Busnes Cynaliadwy y Flwyddyn

    100 Cwmni Dielw Uchaf2015 / 2016 / 2017 / 2018

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023 ➌

    Neges gan y Bwrdd

    2017 oedd ein 10fed pen-blwydd ac felly rydym wedi treulio amser gyda’n staff, tenantiaid a rhanddeiliaid allweddol eraill yn meddwl am yr hyn rydym wedi ei gyflawni dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Rydym yn gyfundrefn sy’n edrych at y dyfodol ac rydym yn cydnabod, er ei bod yn iawn i ni gymryd amser i ystyried llwyddiannau’r gorffennol, y dylem dreulio eleni yn datblygu ein gweledigaeth newydd. Bwriad y weledigaeth a ddatblygwyd gennym yw gwneud y 10 mlynedd nesaf mor llwyddiannus â’r ddegawd ddiwethaf.

    Mae ein gweledigaeth yn seiliedig ar y gred ein bod yn bodoli i greu cyfleoedd i bobl a chymunedau ffynnu, a bwriad y strategaeth hon a’r Cynlluniau Gweithredu Busnes cysylltiedig, yw ein rhoi mewn sefyllfa i gyflenwi’r pwrpas hwn a heriau’r dyfodol.purpose and the challenges of the future.

    Rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i wrando ar a chysylltu gyda’n trigolion a’r cymunedau lle maent yn byw, a byddwn ond yn gwneud y pethau hynny sydd o fudd i’r cymunedau neu’r trigolion hyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn parhau i fod yn landlord cymdeithasol, yn cyflenwi, rheoli a chynnal tai fforddiadwy a chefnogi pobl i gadw eu tenantiaethau. I gyflawni hyn, byddwn yn canolbwyntio ar fuddsoddi yn ein busnes craidd a chynyddu ein maint trwy adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd; bydd y ddau beth yma yn cael eu cefnogi gan incwm a gynhyrchir drwy weithgareddau masnachol.

    Er mwyn gwneud y mwyaf o’r adnoddau sydd ar gael i gyflenwi mwy o gartrefi fforddiadwy, mae ein is-gyfundrefn ar y llwybr iawn i ddechrau ein rhaglen gwerthu i’r farchnad yn 2018. Wrth gyflenwi cartrefi i’w gwerthu, mae gennym ddealltwriaeth glir o’n blas am risg, ein capasiti ariannol a’r angen i amddiffyn ein busnes craidd.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

    Neges gan y Bwrdd

    Ein bwriad yw parhau i fod yn fusnes annibynnol, moesegol a chynaliadwy a chyflenwi twf yn ein maes gweithredu. Byddwn yn gweithio i ddatblygu a chryfhau ein perthnasau strategol presennol ac rydym yn edrych ar ddatblygu’r rôl sydd gennym o ddarparu cyfleoedd byw’n annibynnol trwy sefydlu partneriaeth ofal strategol yn ystod oes y strategaeth hon.

    Byddwn yn ceisio bod yn gyfundrefn chwim a byddwn yn ymateb i’r sefyllfa economaidd a demograffeg newidiol trwy wneud ein gwasanaethau a’n gweithgareddau yn hyblyg i ddiwallu anghenion pobl a chael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

    Bydd hyn yn cynnwys:

    l cefnogi ein trigolion i mewn i waith;

    l helpu i dorri biliau ynni a gwneud taliadau gwasanaeth mor isel ag y bo modd;

    l datblygu perthynas gydag ysgolion lleol a datblygu cyfleoedd dysgu a chyflogaeth drwy ein cwmni partneriaeth Y Prentis.

    Rydym yn parhau i gryfhau sut rydym yn cael ein llywodraethu er mwyn medru cyflenwi ein pwrpas a byw ein gwerthoedd a chanolbwyntio ar ragoriaeth weithredol ar draws y gyfundrefn gyfan. I gefnogi hyn, a gyda’r bwriad o fod yn gyflogwr da bob amser, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein pobl a chreu amgylchedd a diwylliant gwaith cadarnhaol.

    I gefnogi’r diwylliant hwn, rydym yn gweithio gyda Tai Pawb i gyflawni eu hachrediad QED. Mae’r gwaith hwn yn golygu bod staff, y bwrdd a’r trigolion yn trafod cydraddoldeb, yn herio eu hunain a chreu agwedd bositif er mwyn gwthio am degwch a chynwysoldeb i bawb. Bydd y dyfarniad QED yn mynd lawer o’r ffordd i’n cefnogi i wella ein harferion, herio ymddygiad ac yn y pen draw sicrhau bod cydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael eu blaenoriaethu fel rhan allweddol o’n diwylliant a’n harferion busnes.

    Edrychwn ymlaen at y flwyddyn i ddod, i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau gyda brwdfrydedd, penderfyniad a dychymyg, ac adrodd ar ein taith tuag at ddarparu’r cartrefi a’r gwasanaethau o’r ansawdd gorau i’r bobl a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

    Pwy ydym ni

    Ffigwr 1: Map yn dangos y pum ardal awdurdod lleol lle mae Melin yn berchen ar ac yn rheoli cartrefi.

    Tabl 1: Dadansoddiad o’r cartrefi yn ôl ardal awdurdod lleol

    Awdurdod lleol Cartrefi ar rent

    Perchno-gaeth tai cost isel

    Achub Morgais

    Arall** Cyfan-swm

    Blaenau Gwent 338 34 2 29 403 Sir Fynwy 828 123 12 185 1,148 Casnewydd 636 9 60 705 Powys 86 31 2 119 Torfaen 1,360 271 28 114 1,773 Awdurdod lleol arall* – 16 – – 16Cyfanswm 3,248 484 42 390 4,164

    Ffigwr 2: Stoc dai (Ffigurau 31ain Mawrth bob blwyddyn.)

    2,7202007

    2,8042008

    2,9652009

    3,0202010

    3,1792011

    3,5112012

    * cartrefi perchnogaeth a rennir yng Nghaerdydd, Caerffili, Rhondda Cynon Taf a Dyffryn Morgannwg.

    ** yn cynnwys lesddaliad, prydlesu digartref, rhenti canolraddol ac unedau masnachol.

    3,7322013

    3,8612014

    3,9252015

    3,9752016

    4,0202017

    4,1472018

    Powys

    Sir Fynwy

    Torfaen

    Blaenau Gwent

    CasnewyddAwdurdod lleol arall*

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

    Gweledigaeth a Gwerthoedd

    GweledigaethGyda gweithlu chwim, gofalgar a hyblyg sydd wedi ein helpu i ddod yn un o’r 10 cwmni gorau i weithio iddynt, byddwn yn creu cymunedau ffyniannus yn ne-ddwyrain Cymru. Byddwn yn adeiladu o leiaf 1,000 o gartrefi fforddiadwy yn y cymunedau hyn a chynhyrchu o leiaf £5m o ffynonellau masnachol a thrwy arbedion a geir o’r ymgyrch i gael rhagoriaeth weithredol sy’n canolbwyntio ar drigolion y byddwn yn ei ail-fuddsoddi yn ein gwasanaethau craidd.

    GwerthoeddGyda’n gilydd, medrwn:

    l Wneud y peth iawn

    l Cael hyd i ffordd

    l Gwneud i bethau ddigwydd

    l Gwneud gwahaniaeth

    l Mwynhau’r daith

    Mae ein gweledigaeth yn disgrifio’r hyn rydym eisiau ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf. Mae’n canolbwyntio ein sylw ar yr hyn sy’n bwysig yn y tymor canol ac yn bwydo gwybodaeth i’r blaenoriaethau rydym yn gweithredu arnynt..

    Mae ein gwerthoedd yn disgrifio’r dull y byddwn yn ei gymryd wrth redeg ein busnes a bydd yn arwain ymddygiad ein pobl wrth iddynt geisio cyflenwi ein gweledigaeth.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

    Beth rydym eisiau ei gyflawni

    Diwylliant gwychMeysydd ffocws a thargedau i’w cyflawni:

    l Cwmni gorau – yn y 10 uchaf o fewn pum mlynedd;

    l Rhaglen graddedigion – pum swyddog graddedig mewn pum mlynedd;

    l Cydraddoldeb rhyw mewn adeiladu – 25% o weithiwyr wedi eu recriwtio i’r tîm yn ferched;

    l Adeilad gwaith sy’n cefnogi’r diwylliant – astudiaeth ddichonolrwydd i ddeall sut swyddfa fyddai’n adlewyrchu ein diwylliant a’n gwneud yn falch.

    Incwm o gyfleoedd galluogi craiddMeysydd ffocws a thargedau i’w cyflawni:

    l Cartrefi newydd ar werth – 50 o gartrefi i’w gwerthu ar y farchnad bob blwyddyn;

    l Rhentu preifat – 150 eiddo mewn pum mlynedd;

    l Gwaith a chyngor ar ynni – contract Arbed 3 yn cael ei gyflawni a chyfrannu tuag at warged masnachol cyffredinol dros bum mlynedd.

    I gefnogi cyflenwad ein gweledigaeth, rydym wedi datblygu pedwar o bileri strategol: diwylliant gwych; rhagoriaeth weithredol sy’n canolbwyntio ar drigolion; cymunedau sy’n ffynnu ac incwm a gynhyrchir o’r cyfleoedd galluogi craidd.

    Dan bob un o’r pileri hyn rydym wedi cytuno meysydd ffocws ac yna rydym yn pennu targedau y mae angen i ni eu cyflawni er mwyn gyrru cyflenwad trefniadol.

    Bydd y meysydd ffocws a’r targedau hyn yn gyrru cynnwys ein cynlluniau gweithredu busnes manwl a’n cyllidebau. Byddant hefyd yn ffurfio asgwrn cefn ein fframwaith rheoli perfformiad ac yn ein helpu i olrhain cynnydd yn erbyn y canlyniadau strategol disgwyliedig.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

    Beth rydym eisiau ei gyflawni

    Rhagoriaeth weithredol sy’n canolbwyntio ar drigolionMeysydd ffocws a thargedau i’w cyflawni:

    l MOT atgyweiriadau – bydd pob eiddo’n cael MOT blynyddol ymhen pum mlynedd;

    l Mynediad estynedig at wasanaeth ar adegau ac mewn ffyrdd sy’n addas i’r trigolion – dim rhwystrau i weithio pan fo cwsmeriaid eisiau gwasanaethau – o fewn dwy flynedd;

    l Gweithio chwim/hyblyg – dymchwel holl rwystrau i weithio chwim a hyblyg o fewn dwy flynedd;

    l Pobl uchelgeisiol a gwydn – rhaglen datblygu gweithlu strategol a manwl o fewn dwy flynedd;

    l Taliadau gwasanaeth mor isel ag y bo modd – holl daliadau gwasanaeth heb fod yn hanfodol wedi eu dylunio allan ar gynlluniau newydd o fewn tair blynedd a holl daliadau gwasanaeth presennol wedi eu gostwng 25% o fewn pum mlynedd;

    l Trigolion a gynhwysir yn ddigidol – 75% o’r holl gyswllt gan drigolion yn digwydd arlein o fewn pum mlynedd.

    Cymunedau sy’n ffynnuMeysydd ffocws a thargedau i’w cyflawni:

    l Cartrefi fforddiadwy newydd – 1,000 o gartrefi newydd mewn pum mlynedd;

    l Costau rhedeg fforddiadwy – ni ddylai unrhyw aelwyd wario mwy na 10% o’i hincwm ar holl danwydd a chynhesu’r cartref i safon ddigonol o fewn pum mlynedd;

    l Gofal trwy bartneriaethau strategol – sefydlu partneriaeth gofal strategol o fewn pum mlynedd;

    l Darpariaeth dai arbenigol – 30 uned ychwanegol o dai arbenigol i’w darparu 9ac eithrio cartrefi i bobl hŷn);

    l Rhaglen ysgolion – datblygu perthynas gyda 25 o ysgolion ym mhob lleoliad allweddol o fewn pum mlynedd;

    l Cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy i drigolion – 50 o drigolion y flwyddyn yn symud i gyflogaeth gynaliadwy;

    l Cymorth i gadw tenantiaeth – gostwng methiannau tenantiaeth un flwyddyn i 5% o fewn pum mlynedd.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

    Y Bwrdd

    ➒❻

    Chris Edmondson CADEIRYDDMSc Tystysgrif. AddysgYmchwiliwr rheoli, cynghorydd a golygydd ar ei liwt ei hun.

    Julie Thomas IS-GADEIRYDDRNMH, Dip. Nyrsio, MScCyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Rhanbarthol wedi ymddeol, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

    Tracey BlockwellCyfarwyddwr Cwmni ac ymddiriedolwr gyda Phrosiect Cyngor ar Anabledd.

    Wendy BowlerMSc (Iechyd)Aseswr a chyfryngwr datrys anghydfod Cymru Iach ar Waith.

    Richard EsseryBSc (Anrh), MSc, MCIPD Siartredig, Graddedig ICSA, JPYmgynghorydd adnoddau dynol a datblygu cyfundrefnol.

    Anne HaywardCyfreithiwr wedi ymddeol a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Melin.

    Lyndon MayGoruchwyliwr wedi ymddeol yn ICI Fibres a chyn-gadeirydd Undeb Staff. Preswylydd-Aelod o’r Bwrdd.

    Anthony HearnMSc Rheoli (Arloesi mewn Menter Gymdeithasol), BA (Anrh) Cymdeithaseg a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Tai) Cymdeithas Dai Valleys to Coast

    Lisa HowellsCyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata ar gyfer y Curo Group gydag 20 mlynedd o brofiad yn y sector tai; aelod o Ffederasiwn Adeiladwyr Tai a’r Ffederasiwn Dai Genedlaethol.

    Clifford Lloyd JonesACIB, Cert PFS (MS)Banciwr wedi ymddeol, Cynghorydd Ariannol a Chyfarwyddwr Perthynas ar gyfer y Sector Tai Cymdeithasol, Addysg ac Awdurdodau Lleol ar gyfer Barclays yng Nghymru.

    Lorraine MorganRN, RM, RCNT, PGDipN (Lon), M.Sc (Econ) Wales, FHEANyrs Academaidd wedi ymddeol a Gerontolegydd Cymdeithasol a Gweithio fel Ymgynghorydd Annibynnol ar Heneiddio. Cynghorwr Gweinidogol Cymru ar Heneiddio.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

    Grŵp Arwain

    Paula KennedyPrif Weithredwr

    Mae Paula wedi bod mewn swyddi arwain am fwy nag 20 mlynedd o’i gyrfa. Cyn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai Brunelcare.

    Peter Crockett FMATT, FCCA

    Dirprwy Brif Weithredwr Twf a Datblygu Busnes

    Wedi bod â swyddi yn y sector cymdeithasau tai ers 1995, lle mae wedi cael profiad sylweddol o bob agwedd ar gyllid strategol, gan gynnwys cyllid benthyciadau ynghyd â holl wasanaethau cymorth eraill.

    Adrian HuckinFCIH, BA (Anrh)

    Cyfarwyddwr Gweithredol Arloesi, Diwylliant a Gwella

    Ymunodd Adrian â Chartrefi Melin ym mis Medi 2010 ar ôl bod â swyddi uwch yn y sectorau cyhoeddus a chymdeithasau tai. Mae’n Gyfarwyddwr Cwmni Y Prentis.

    Dave CookMCIH, MBA, MSc

    Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl, Cartrefi a Chymunedau

    Mae Dave wedi bod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid ers 2009. Mae’n gyfrifol am wasanaethau Tai a Rheoli Asedau a’r Gweithlu Uniongyrchol.

  • Strategaeth Gorfforaethol 2018–2023

    Amcan-estyniadau ariannol

    Mantolen Cyllideb 2018-19

    2020 Amcanestyniadau

    2021 Amcanestyniadau

    2022 Amcanestyniadau

    2023 Amcanestyniadau

    £ 000s £ 000s £ 000s £ 000s £ 000s

    Asedau sefydlog 286,492 307,550 329,263 351,487 357,000

    Asedau presennol 15,639 16,068 16,454 16,852 17,261

    Cyfanswm asedau 302,131 323,618 345,717 368,339 374,261

    Arian ym meddiant Melin 284,983 305,060 324,868 344,531 346,507

    Cronfeydd wrth gefn 17,148 18,558 20,849 23,808 27,754

    Gerio (Gwerth net) 59.66% 66.05% 71.46% 76.03% 74.07%

    Gerio (Cost hanesyddol) 37.36% 39.37% 41.00% 42.24% 39.45%

    Amcanestyniadau Cyfrif Incwm a Gwariant

    Cyllideb 2018-19

    2020 Amcanestyniadau

    2021 Amcanestyniadau

    2022 Amcanestyniadau

    2023 Amcanestyniadau

    £ 000s £ 000s £ 000s £ 000s £ 000s

    Incwm 36,481 38,547 40,634 42,875 45,226

    Gwariant 32,870 33,942 34,913 36,075 37,211

    Gwarged gweithredol 3,611 4,605 5,721 6,800 8,015

    Llogau sy’n daladwy a gweithgareddau eraill

    –2,734

    –3,194

    –3,432

    –3,840

    –4,070

    Gwarged 877 1,411 2,289 2,960 3,945

    Sicrwydd llogau 1.63 1.78 2.01 2.10 2.28