24
Tachwedd 2013 Rhif 438 50c COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd Eleni, bydd y cyfarfod nos Wener, yn ogystal â’r cyfarfod dydd Sadwrn, yn Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen. Fe gofiwch, mae’n siwr, mai ar ffurf cyngerdd y bydd cyfarfod nos Wener, pryd y bydd unawdwyr lleisiol ac offerynnol, llefarwyr a chorau yn cael cyfle i arddangos eu doniau. Hefyd, cynhelir Seremoni Cadeirio’r bardd, a llenorion ifainc, yn ystod y noson hon. Dewch yn llu i fwynhau’r wledd flynyddol hon! Y N ystod mis Hydref, cynhaliwyd noson wobrwyo yn Llandudno i gydnabod gwaith unigolion a grwpiau o wirfoddolwyr mewn gwahanol feysydd yng Ngogledd Cymru. Testun llawenydd yw gallu cyhoeddi bod tair gwobr wedi dod i Ddyffryn Ogwen, drwy ymdrechion clodwiw Raymond Tugwell, Rachub, ac Eleanor Jones, Gerlan. Enillodd Raymond y wobr unigol, a hefyd y brif wobr, sef Pencampwr y Pencampwyr, a llwyddodd Grŵp Cymunedol Eleanor i gipio’r wobr yn adran y grwpiau. Sefydlodd Eleanor y Grŵp i godi arian i brynu offer i Ward Alaw Ysbyty Gwynedd, ac erbyn hyn mae’r Grŵp wedi codi miloedd o bunnau at yr achos teilwng hwn. Mae Apêl Eleanor yn dal yn brysur iawn, gydag amryw o weithgareddau ar y gweill i’r dyfodol. ‘Rydym yn gyfarwydd iawn â gwaith dyngarol Raymond dros ddeugain a mwy o flynyddoedd, nid yn unig drwy godi arian at ymchwil liwcimia mewn plant, ond hefyd at nifer helaeth o achosion da eraill. Mae wedi llithro i lawr Tŵr Marcwis, trefnu tripiau siopa, cerdded milltiroedd ar deithiau noddedig, hedfan ar y Weiren Wib, a threfnu carnifal blynyddol, nosweithiau coffi niferus, a chyngherddau Gŵyl Ddewi Prifysgol Bangor. Mae Raymond ac Eleanor ill dau yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth a gânt, ac ‘rydym ninnau, drigolion y Dyffryn, yn ddiolchgar iddynt hwythau am eu gweledigaeth a’u hymroddiad. Llongyfarchiadau mawr i chwi – dyma ddau sydd yn esiampl ardderchog i bob un ohonom. Campau'r Cymwynaswyr Carolau yn Llys Dafydd Yng nghwmni Côr y Penrhyn ac Eraill Nos Iau, 19 Rhagfyr 2013 8.15 pm Croeso Cynnes i Bawb Gwasanaeth Nadolig Cymunedol Yng Nghapel Jerusalem Nos Sul, 22 Rhagfyr 7.00 pm Dewch i ddathlu’r ŵyl yng nghwmni Côr y Dyffryn Côr Ysgol Dyffryn Ogwen ac eraill Gwneir casgliad at achos da Croeso Cynnes i Bawb Raymond Tugwell Yn y llun gwelir Eleanor a'r Grŵp yn derbyn y wobr gan Lowri Morgan, y cyflwynydd teledu a phersonoliaeth chwaraeon amlwg oedd yn cyflwyno'r gwobrau i'r enillwyr.

Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

  • Upload
    others

  • View
    5

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Tachwedd 2013 Rhif 438 50c

COFIWCH!

Eisteddfod GadeiriolDyffryn Ogwen

Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Eleni, bydd y cyfarfod nos Wener,yn ogystal â’r cyfarfod dydd

Sadwrn, ynNeuadd Ysgol Dyffryn Ogwen.

Fe gofiwch, mae’n siwr, mai ar ffurfcyngerdd y bydd cyfarfod nosWener, pryd y bydd unawdwyrlleisiol ac offerynnol, llefarwyr achorau yn cael cyfle i arddangos

eu doniau. Hefyd, cynhelirSeremoni Cadeirio’r bardd, a

llenorion ifainc, yn ystod y nosonhon.

Dewch yn llu i fwynhau’rwledd flynyddol hon!

YN ystod mis Hydref, cynhaliwyd noson wobrwyo yn Llandudno igydnabod gwaith unigolion a grwpiau o wirfoddolwyr mewn gwahanol

feysydd yng Ngogledd Cymru. Testun llawenydd yw gallu cyhoeddi bodtair gwobr wedi dod i Ddyffryn Ogwen, drwy ymdrechion clodwiwRaymond Tugwell, Rachub, ac Eleanor Jones, Gerlan. Enillodd Raymondy wobr unigol, a hefyd y brif wobr, sef Pencampwr y Pencampwyr, allwyddodd Grŵp Cymunedol Eleanor i gipio’r wobr yn adran y grwpiau.

Sefydlodd Eleanor y Grŵp i godi arian ibrynu offer i Ward Alaw Ysbyty Gwynedd,ac erbyn hyn mae’r Grŵp wedi codimiloedd o bunnau at yr achos teilwng hwn.Mae Apêl Eleanor yn dal yn brysur iawn,gydag amryw o weithgareddau ar y gweilli’r dyfodol.

‘Rydym yn gyfarwydd iawn â gwaithdyngarol Raymond dros ddeugain a mwyo flynyddoedd, nid yn unig drwy godi arianat ymchwil liwcimia mewn plant, ond hefydat nifer helaeth o achosion da eraill. Maewedi llithro i lawr Tŵr Marcwis, trefnutripiau siopa, cerdded milltiroedd ardeithiau noddedig, hedfan ar y WeirenWib, a threfnu carnifal blynyddol,nosweithiau coffi niferus, a chyngherddauGŵyl Ddewi Prifysgol Bangor.

Mae Raymond ac Eleanor ill dau yn hynod o ddiolchgar am y gefnogaetha gânt, ac ‘rydym ninnau, drigolion y Dyffryn, yn ddiolchgar iddynthwythau am eu gweledigaeth a’u hymroddiad. Llongyfarchiadau mawr ichwi – dyma ddau sydd yn esiampl ardderchog i bob un ohonom.

Campau'r Cymwynaswyr Carolau yn Llys Dafydd

Yng nghwmniCôr y Penrhyn ac Eraill

Nos Iau, 19 Rhagfyr 2013

8.15 pm

Croeso Cynnes i Bawb

Gwasanaeth NadoligCymunedol

Yng Nghapel Jerusalem

Nos Sul, 22 Rhagfyr7.00 pm

Dewch i ddathlu’r ŵyl yng nghwmni

Côr y Dyffryn Côr Ysgol Dyffryn Ogwen

ac eraillGwneir casgliad at achos da

Croeso Cynnes i Bawb

Raymond Tugwell

Yn y llun gwelir Eleanor a'r Grŵp ynderbyn y wobr gan Lowri Morgan, ycyflwynydd teledu a phersonoliaethchwaraeon amlwg oedd yncyflwyno'r gwobrau i'r enillwyr.

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 1

Page 2: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Oherwydd costau cynyddol,ofnir y bydd yn rhaid codiprisiau anfon Llais Ogwandrwy'r post o fis Ionawr2014 ymlaen.

Y gost fydd -Gwledydd Prydain - £20Ewrop - £30Gweddill y Byd - £40

Owen G. Jones, 1 Erw Las,Bethesda, Gwynedd LL57 [email protected]

01248 600184

Llais Ogwan

Derfel Roberts [email protected]

Ieuan Wyn [email protected]

Lowri Roberts [email protected]

Dewi Llewelyn Siôn 07901 [email protected] 913901

fiona Cadwaladr Owen [email protected]

Siân Esmor Rees [email protected]

Neville Hughes [email protected]

Dewi A Morgan [email protected]

Trystan Pritchard [email protected] 373444

Walter W Williams [email protected]

SWYDDOGION

Cadeirydd:Dewi A Morgan, Park Villa,Lôn Newydd Coetmor, Bethesda,Gwynedd LL57 3DT [email protected]

Trefnydd Hysbysebion:Neville Hughes, 14 Pant, Bethesda LL57 3PA [email protected]

Ysgrifennydd:Gareth Llwyd, Talgarnedd, 3 Sgwâr Buddug, Bethesda LL57 3AH [email protected]

Trysorydd: Godfrey Northam, 4 Llwyn Bedw, Rachub,Llanllechid LL57 3EZ [email protected],uk

Y Llais Drwy’r Post: Owen G Jones, 1 Erw Las, Bethesda,Gwynedd LL57 3NN [email protected]

PANEL GOLYGYDDOL

Golygydd y Mis

DYDDIADuR Y DYffRYNRhoddion i’r Llais

Llais Ogwan 2

Clwb Cyfeillion Llais Ogwan

Os gwyddoch am rywun sy’n caeltrafferth â’i olwg, ac a hoffai dderbyncopi o’r Llais ar gasét bob mis,cysylltwch ag un o’r canlynol:

Gareth Llwyd 601415Neville Hughes 600853

Llais Ogwan ar Dâp

Golygwyd y mis hwn gan Lowri Robertsa Walter W. Williams.

Golygydd mis Rhagfyr fydd NevilleHughes,Bryn Ffrydlas, 14 Ffordd Pant, Bethesda,LL57 3PA. (01248 600853)e-bost : [email protected]

Pob deunydd i law erbyn dydd Mercher,04 Rhagfyr os gwelwch yn dda. Plygu nosIau, 19 Rhagfyr, yng Nghanolfan Cefnfaesam 6.45.

£50.00 Huw Davies, Yarnfield, Stone.£100.00 Cyngor Cymuned Llanddeiniolen£20.00 Y Parchedig Geraint Hughes a Mrs

Ann Hughes, Bethel.£20.00 Er cof am Glyn Campbell, Erw las

ac er cof am Paul (a fuasai’n 50 oed ar 28 Hydref) oddi wrth Hilda, Lynne a’r teulu.

£6.00 Glyn P Evans, Amwythig.£30.00 Er cof annwyl am William Thomas

Roberts, 27 Glan Ffrydlas, Bethesda oddi wrth Mair.

£ 5.00 Elfed Evans, Hen Barc.£ 5.00 Er cof annwyl am Richard Cyril

Thomas (22 Maes Ogwen, Tregarthgynt). Buasai yn 98 mlwydd oed ar17 Tachwedd. Bu farw ar 13 Rhagfyr 1988. Oddi wrth Llewela!

£ 4.00 Dienw, Llandygi.£20.00 Mrs Megan Parry, 3 Penrhiw,

Mynydd Llandygái, er cof am Dei£50.00 Er cof am ben-blwydd (27

Tachwedd) David Wyn Williams, 16 STad COetmor. Oddi wrth Sandra, Darren a Sara.

£10.00 Er cof am Gwilym Williams, Maes Caradog. Gan y teulu.

Diolch yn Fawr

Gwobrau Hydref

£30.00 (86) Rosemary Williams, 19 ffordd Tanrhiw, Tregarth

£20.00 (03) John Huw Evans, Bro Rhiwen, Bethesda

£10.00 (95) Gwyneth Morris, Gwaen Gwiail, Gerlan

£5.00 (161) Meirwen Jones,3 Glan Llyn, Bethel.

Mis Tachwedd

15 a 16 Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen. Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen.

16 Bore Coffi Eglwys St. Tegai. Caffi Coed y Brenin. 10 – 12.

19 Cyfarfod Blynyddol Caban y Gerlan. Yn y Caban am 7.00

21 Sioe Ffasiwn Cyfeillion Ysbyty Gwynedd.Theatr Ddarlith yr Ysbyty am 7.30.

23 Bore Coffi Neuadd Talgai. Cefnfaes. 10.00 - 12.00

26 Cangen Plaid Cymru Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.00

27 Plaid Lafur Dyffryn Ogwen. Cefnfaes am 7.30.

28 Merched y Wawr Bethesda. Jonsi, Ambiwlans Awyr Cymru. Cefnfaes 7.00

Mis Rhagfyr

02 Merched y Wawr Tregarth. Cinio Nadolig.

03 Merched y Wawr Bethesda. Cinio Nadolig.

04 Ffair Nadolig. Festri Bethlehem, Talybontam 6.30.

05 Sefydliad y Merched Carneddi. Dathlu’rNadolig. Cefnfaes am 7.00

07 Ffair Nadolig y Blaid Lafur. Caffi Coed y Brenin. 10.00 - 12.00

07 Bore Coffi ysgol Llanllechid, Clwb Criced Bethesda. 10.00 - 12.00

09 Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen. Catrin Wager. Festri Jerusalem am 7.00.

14 Marchnad Ogwen. Clwb Rygbi Bethesda. 10.00 – 2.00

18 Cinio Nadolig Gorffwysfan. Gwesty Glan Aber, Betws y Coed.

19 Canu Carolau Cymunedol yn Llys Dafydd.8.15 y.h. ymlaen

19 Plygu Llais Ogwan. Cefnfaes am 6.45.

22 Gwasanaeth Nadolig Cymunedol. Capel Jerusalem, Bethesda am 7.00

Mis Ionawr

11 Marchnad Ogwen. Clwb Rygbi Bethesda. 10.00 – 2.00

Cyhoeddir gan Bwyllgor Llais Ogwan

Cysodwyd gan Tasg, 50 Stryd Fawr Bethesda,

LL57 3AN 07902 362 [email protected]

Argraffwyd gan Wasg Ffrancon, Dôl Ddafydd, Bethesda LL57 3LY

01248 601669

Nid yw pwyllgor Llais Ogwan na’rpanel golygyddol o angenrheidrwyddyn cytuno â phob barn a fynegir ganein cyfranwyr.

Archebu Llais Ogwan drwy’r Post

`

Ariennir yn rhannolgan Lywodraeth Cymru

-

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 2

Page 3: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Mewn ymateb i lythyr diweddar gan Bwyllgor Diogelu Coetmor, maeCyngor Gwynedd wedi datgan fel hyn:

“Nid oes bwriad gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd baratoi strategaethau cymunedol na chynnal arolygon cymunedol o anghenion tai.”

Mae hi’n anodd deall pam nad yw’r Cyngor yn barod i wneud hynoherwydd nid yw’n bosib cynllunio’n gytbwys a diogelu nodweddioncymunedol fel yr iaith a’r diwylliant heb lunio strategaethau cynlluniocymunedol yn seiliedig ar ddarlun cyflawn o sefyllfa dai pob wardunigol. Gan fod ymateb Cyngor Gwynedd yn anfoddhaol, maePwyllgor Diogelu Coetmor wedi anfon at y Cyngor yn gofyn i’rGwasanaeth Cynllunio sefydlu trefn a fydd yn golygu cynlluniocymunedol cytbwys a fyddai wedi ei seilio ar anghenion y cymunedauunigol ac a fyddai’n gwarchod eu nodweddion ieithyddol adiwylliannol. Dyma’r math o drefn y dymunwn ei weld:

• Creu mecanwaith efo’r bwriad o grynhoi gwybodaeth am y sefyllfa dai ym mhob ward yn y sir

• Casglu gwybodaeth gyfredol am y stoc tai ym mhob ward, sef y mathau a’r niferoedd o dai (tai preifat y farchnad agored/tai henoed/tai fforddiadwy/tai a fflatiau cymdeithasol) sydd ym mhob ward

• Cynnal arolygon cymunedol o anghenion tai yn rheolaidd er mwyn cadw’r data’n gyfredol

• Cynllunio’n unol â’r gofyn lleol am dai newydd fel nad oes gor-ddefnyddio tir a gorddatblygu a allai olygu denu mewnlifiad

• Codi clystyrau bychain o dai a fyddai’n mewn-lenwi bylchau ym mhatrwm cynllun yr ardal fel eu bod yn plethu i mewn i wead y gymdogaeth.

Llais Ogwan 3

Y gŵr (a finnau yn helpu) sy'ngyfrifol am anfon Llais Ogwantrwy'r post. Mae 92 copi yncael eu hanfon bob mis, yncynnwys Seland Newydd,Canada a'r Swistir. Wrth gwrs,mae angen stamp a labelcyfeiriad ar bob amlen a dymaddechrau meddwl beth oeddhanes llythyrau, stampiau a'rcyfaill pwysig - y postmon.

Yn ôl pob tebyg, yn yr hen Aifft a'r Dwyrain Canol y datblygwyd y systemau'post' cynharaf. Dywedir fod gan yr hen Eifftiaid system anfon negeseuonmor bell yr ôl a 1580 CC. Tua 1000 o flynyddoedd yn ddiweddarach, roeddgan y Persiaid system gyfathrebu eitha’ dibynadwy oherwydd datblygiadsystem ffyrdd effeithiol. Ar geffylau y trosglwyddwyd y post.

Yn 1783, roedd y goets fawr yn mynd o gwmpas y gwledydd yn casglu adosbarthu llythyrau. Aeth y gyntaf o Fryste i Lundain gan drafaelio dros nosac oherwydd llwyddiant y gwasanaeth, dyna wir ddechrau'r system bost syddgennym heddiw.

Y person oedd yn derbyn y llythyr oedd yn gorfod talu am ei gludiant yn yroes a fu ac roedd y swm yn dibynnu ar y pellter. Yn y flwyddyn 1840 cafwydy stamp cyntaf - sef y stamp ceiniog du - a'r person oedd yn anfon y llythyryn talu.

Nid ceffylau yn unig oedd yn gyfrifol am gludo post, roedd gwartheg mewnpentrefi yn yr Almaen, camelod yn y Dwyrain Canol a cheirw yngngwledydd Sgandinafia. Dywedir fod dinas Liège yng Ngwlad Belg wedirhoi cynnig ar gathod - ond annibynadwy oedd y rhain!Ydi, mae pethau'n dipyn haws erbyn heddiw a'r postmon o gwmpas ynddyddiol yn ei fan goch. Mae ein postmon siriol ni yn cerdded tua 4 milltir ydydd medda' fo.

Ond heddiw, y syndod mawr yw'r wyrth o allu anfon e-bost i bedwar ban bydmewn eiliadau. Hefyd, mae arna i ofn fy mod wedi hen roi'r gorau i anfoncardiau gwyliau (y rhai sy'n cyrraedd teulu / ffrindiau ar ôl i mi gyrraeddadref). Nodyn bach ar y ffôn bach symudol yn dipyn haws!

O ‘Tŷ Ni’

Yma yn Nyffryn Ogwen byddem yn falch iawn pe bai eincynrychiolwyr lleol, yn y cynghorau cymuned a’r cyngor sir, yncefnogi’r alwad hon gennym, ac yn rhoi arweiniad ar y mater hwn ermwyn sicrhau cynllunio cytbwys a chynaliadwy ar lefel gymunedol.Onid y cam cyntaf fyddai gofyn i’n cynghorwyr drefnu cyfarfodcyhoeddus ym Methesda i drafod y sefyllfa dai yn lleol?

Pwyllgor Diogelu Coetmor

Un poenus o drefnus ydi’r gŵr pan ddaw hi’n amser gwyliau. Yn wahanol i mi,bydd yn pacio ei gês tua phythefnos cyn cychwyn a bydd yn gwneud yn hollolsiŵr fod y dogfennau i gyd yn eu priod le yn y waled deithio gan eu tynnu allanyn ddyddiol er mwyn sicrhau nad ydynt wedi magu traed cyn i ni gychwyn arein taith. Felly dychmygwch fy siom a’m syndod wedi i ni gyrraedd porthladdDover o sylwi fod ein pasports out of date !“Ma’ nhw ’di darfod ers 2007! “Sbïa, mae gen ti lond pen o wallt yn y llun !”medda fi gan edrych ar y corun moel a eisteddai yn sedd y gyrrwr.

Wedi taith o 366 milltir, mi fasa hi wedi bod yn biti troi yn ôl. Felly draw a ni aty passport control. Doedd gan y Ffrancwr yn fanno ddim diddordeb mewnedrych ar ein dogfennau, dim ond dymuno “bon voyage” i ni!“Ond Monsieur, mae gennym broblem,” medda’r gŵr gan ddangos y dyddiad ary pasport. (Un cydwybodol a gonest fuo fo erioed!)“Mon Dieu is that your wife?” oedd ymateb y Ffrancwr powld, cyn holi i ble apha mor hir roeddan ni am aros yn ei wlad. Yna, ar ôl pendroni am ychydig,gadawodd i ni fynd drwodd. Felly ymlaen a ni at y passport control Prydeinig,lle cawsom ein rhybuddio i ddisgwyl helynt yn Calais ar ein ffordd yn ôl.

Bu’r gwyliau yn Ffrainc yn fendigedig ond yn rhy sydyn, daeth yn amserdychwelyd i Calais a gyrrodd y gŵr unwaith eto at y passport control. Wrthglywed am ein problem, chwarddodd swyddogion Ffrainc gan gynnig i ni arosyn eu gwlad am byth! Ond pan ddaethom at swyddogion Prydain, roedd ynfater gwahanol ac fe anfonwyd ni i ryw gompownd i aros ein tynged gydachriwiau o deithwyr amheus ac anystywallt yr olwg a’u cerbydau racs. Felrheol, rydw i yn un eithaf digynnwrf ond fel yr aeth yr amser ymlaen a ninnauyn dal i eistedd yno fel rhyw fewnfudwyr anghyfreithlon, a’r teithwyr amheuseraill i gyd, erbyn hynny wedi cael yr oce i gario mlaen i Blighty, dechreuaisdroi yn flin a beio’r gŵr am fod mor flêr.

Yna, o’r diwedd ar ôl amser hir, daeth rhyw swyddog hunan bwysig atom agofyn i’r gŵr ddweud ei gyfeiriad. Dechreuodd hwnnw sillafu'r enwauCymraeg ond torrodd y swyddog ar ei draws. “Na, na peidiwch â’i sillafu. Jestdudwch o.” Ar ôl clywed y gŵr yn adrodd ein cyfeiriad, torrodd gwên droswyneb y swyddog a dywedodd ei bod yn amlwg mai Cymry oeddan ni ac roeddam adael i ni fynd adref. “Ond cofiwch chi,” meddai, “petasech chi wedi bodyn Saeson, mi faswn yn eich cadw chi yma!”

Felly ferched Dyffryn Ogwen, dim ond rhybudd sydd gen i – peidiwch âchymryd yn ganiataol fod eich gwŷr yn dryst er mor drefnus ma’ nhw’nymddangos – gall y callaf golli weithiau!

Yr Ymgyrch i Warchod Coetmor

Does Dim Angen Stadau Mawr

Cofiwch (os nad ydych wedi gwneud hyd yma) anfon llythyr iwrthwynebu’r cais cynllunio i godi stad 69 o dai yng Nghoetmor,Bethesda. Gellwch anfon llythyr copi caled at Glyn LlewelynGruffudd, Uwch Swyddog Cynllunio, Swyddfa’r Cyngor, Ffordd yCob, Pwllheli, Gwynedd LL53 5AA, neu lythyr e-bost ato i:[email protected] batrwm ar eich cyfer, os dymunwch ei ddefnyddio:

Annwyl Glyn Llewelyn Gruffudd,

Cais Cynllunio C13/0412/13/AM (stad 69 o dai ar dir ger MaesCoetmor, Bethesda)

Gofynnaf i Gyngor Gwynedd wrthod y cais cynllunio uchodoherwydd ei fod yn engrhaifft o orddatblygu a fyddai’n debygol owanychu sefyllfa’r Gymraeg yn yr ardal. Hefyd nid oes arolwg oanghenion tai wedi ei gynnal yn y gymuned leol. Gofynnaf i GyngorGwynedd gomisiynu asesiad ardrawiad iaith o'r datblygiadarfaethedig.

Yn gywir,

Cysylltwch â Mrs J Jones, 1 Erw Las, Bethesda, Gwynedd. LL57 3NN neu [email protected] Plis!

Stori gas (ond gwir) gan wraig dyn sy'n dymunoaros yn anhysbys!! Dwi'n gweld dim bai arno -embaras! Cafwyd enw a chyfeiriad y cyfrannwr.

O ‘Tŷ Chi’

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 3

Page 4: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

BethesdaLlên Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda 600431

Siop KathyStryd Fawr, Bethesda

fiona Cadwaladr Owen, Bryn Meurig Bach, Coed y Parc, Bethesda, LL57 4YW 601592

Joe Hughes, Awel y Nant, Ffordd Ffrydlas,Bethesda 601902

Llais Ogwan 4

GeniLlongyfarchiadau i Daniel aSamantha yn Llanddaniel, arenedigaeth hogan fach ar 24 Hydref,sef Millie Nadine, chwaer fach iCallum.

Llongyfarchiadau hefyd i daid anain, Kevin a Beverley, 2 AlltPenybryn, ac i hen daid a hen nain,Derek a Norma, 46 Abercaseg. MaeDaniel a Samantha yn ddiolchgar ibawb am y cardiau a’r anrhegion.

GraddioLlongyfarchiadau i Nia Wyn Jones,35, Erw Las, ar ennill gradd 2:1mewn Nyrsio Anableddau Dysguym Mhrifysgol Bangor. Mae Mam aDad, Nerys a Kerron, a NainTregarth yn falch iawn ohoni!

DiolchDymuna Dafydd Pritchard, RhesElfed, ddiolch o galon i bawb am ycardiau, y galwadau ffộn a’rrhoddion ariannol er cof am eiannwyl chwaer, Helen. Diolch istaff Cartref Nyrsio Penisarwaen aci’r gweinidogion, y ParchedigionMarcus Robinson a Geraint Hughes.

Diolch hefyd i Gavin a James amdrefnu’r angladd ac i GarethWilliams, yr ymgymerwr am eidrefniadau gofalus a thrylwyr.Diolch i’r Dr. John Elwyn Hughes,Heulwen a Pat am eu cymorthhefyd. Casglwyd cyfanswm o £400i’w rannu rhwng Cartref NyrsioPenisarwaen ac Ymchwil Canser.

PriodasAr Hydref 19eg, yn Eglwys Crist,Glanogwen, priodwyd Lisa MarieRowlands o Erw Las a DavidTetlow o Gaerlŷr. Mae’r ddau ynwyddonwyr biomeddygol ynYsbyty Gwynedd, ac yn byw ynSling. Pob dymuniad da i’r ddauohonch.

Pen-blwydd ArbennigLlongyfarchiadau a phob dymuniadda i Joyce Jones, 14 Maes yGarnedd, ar ddathlu ei phen-blwyddyn 80 mlwydd oed ar 5 Tachwedd.

Cyfarchion NadoligNi fydd Doreen Jones, 15 MaesCoetmor, yn anfon cardiau Nadoligeleni, ond serch hynny mae’ndymuno Nadolig Llawen aBlwyddyn Newydd Dda i’wffrindiau a’i chymdogion i gyd!

LlongyfarchiadauLlongyfarchiadau i AngharadEfans, 26 Glanffrydlas, ar eidyweddiad ag Elfed John Williams,Waen Pentir, Rhiwlas.

MarwolaethBu farw Jean Griffith, 20 MaesCoetmor, yn 71 oed, fore Sul,Hydref 10, yn Ysbyty Gwynedd.Dymuna’r teulu ddiolch ynddiffuant am bob arwydd ogydymdeimlad ac i bawb a fu morgymdogol a chymwynasgar tuag atidros y blynyddoedd.Gwerthfawrogai Jeangyfeillgarwch ei ffrindiau – Val aJoanna (a fu gyda hi yn ei horiauolaf), Gwen ac eraill a fu morgaredig wrthi. Dymunir diolch iaelodau Adran Ddamweinau acArgyfwng a Ward Gogarth, YsbytyGwynedd, am eu gofal a’ucaredigrwydd ac i’r Parch. MarcusWyn Robinson am ei wasanaethddydd Gwener, Tachwedd 1 yn yrAmlosgfa ym Mangor. Diolchir ynarbennig hefyd i Robin Hughes a’iFab, Llangefni, am eu trefniadauteilwng ac urddasol.

Gair o ddiolchFe hoffai Thomas a HeddwenJones, Rhos-y-Coed, ddiolch i’wffrindiau a theulu am yr hollgymorth yn dilyn eu cyfnod yn yrysbyty yn ddiweddar.

Dymuna Nicola a’r teulu, Gwêl yNant, ddiolch yn fawr iawn i bawbam drefnu noson ardderchog yngNgwesty’r Llangollen ynddiweddar. Diolch yn arbennig iGwyn, Llangollen, ac AlastairJames, Conwy, ac i bawb agyfrannodd tuag at y noson.

YsbytyCofion a gwellhâd buan i’r sawl afu’n yr ysbyty yn derbyn triniaethyn ystod y mis diwethaf:Mrs Helen Roberts, FforddFfrydlas; Mr John Jones, FforddBangor; Mr Emlyn Evans, Rhos yNant

ProfedigaethauAnfonwn ein cydymdeimlad â MrsHefina Watts, Ffordd Abercaseg, aChris, Donna a’r plant, Garnedd-wen, yn eu profedigaeth o gollimam-yng-nghyfraith, nain a hennain annwyl sef y ddiweddar MrsCatherine Doreen Watts, Rachub.

Ar 10 Hydref yn ei chartref, 1 CilCaseg, yn 73 oed, bu farw MrsBarbara Ann Lovell, priod annwylMr Ron Lovell a mam Barry,Graham, Steven a Jacqueline, naina hen nain, a chwaer i Tony, Ray,Sheila a Jean. Bu ei hangladdddydd Iau, 17 Hydref gydagwasanaeth yn Amlosgfa Bangor.Anfonwn ein cydymdeimlad atochfel teulu.

Yn Ysbyty Eryri ar 19 Hydref, bufarw Mrs Shirley Patricia Roberts,9 Dolgoch (gynt o Fangor), yn 65oed; mam Chris a Medi, nain Chloea Thomas, a modryb i Sarah,Audrea a Bethany. Bu gwasanaethyn Amlosgfa Bangor ddyddGwener, 25 Hydref.Cydymdeimlwn â chwi fel teulu.

Ymddeoliad y Parch. Geraint Hughes

Nos Sul, Hydref 27, oedd Sul olaf y Parch. Geraint Hughes felgweinidog Bro yn Nyffryn Ogwen. Wedi blynyddoedd o wasanaethudrwy Gymru, yng Nghapel Carmel y bu’n pregethu am y tro olaf cynei ymddeoliad.

Un o Benmaenmawr yw Mr Hughes yn wreiddiol, ac wedi cyfnod yny Coleg ym Mangor, bu’n gwasanaethu mewn eglwysi yngNghanolbarth a De Cymru cyn symud i ardal Chwilog. Oddi yno,bron i ddwy flynedd ar bymtheg yn ôl, symudodd i Ddyffryn Ogwengan gymeryd gofal am dair eglwys sef Carmel, Rachub; Jerusalem,Bethesda; a Bethlehem, Talybont.

Cynhaliwyd oedfa arbennig wedi ei threfnu gan Joe Hughes yngNgharmel ar y prynhawn Sul olaf, gydag aelodau o’r dair eglwys yncymryd rhan. Gweinyddwyd Sacrament o Swper yr Arglwydd gan ygweinidog yn ystod yr oedfa.

Derbyniodd Mr. Hughes dysteb o ddiolchgarwch gan aelodau’r taireglwys am ei wasanaeth, gyda Mrs Anne Hughes yn derbyn tuswhardd o flodau. Dymuniadau gorau iddo ef ac Anne am flynyddoeddo iechyd a hapusrwydd yn eu cartref newydd ym Mhwllheli.

Clwb Gwawr NewyddGenod Pesda (ardal Bethesda)

Ar nos Iau 10fed o Hydref daeth criw o ferched at ei gilydd yn yClwb Rygbi, Bethesda i glywed mwy am Glybiau Gwawr.

Rhan o Ferched Y Wawr ydynt, yn rhoi cyfle i ferched ifanc (ac ifanceu hysbryd) gyfarfod unwaith y mis i gymdeithasu a chael hwyl trwygyfrwng y Gymraeg. Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae'rrhwydwaith o Glybiau Gwawr wedi lledaenu ar draws Cymru, acerbyn heddiw mae dros 40 clwb efo bron 600 aelod yn mwynhaugweithgareddau cyffrous bob mis.

Yn dilyn sgwrs efo Bronwen Wright (Swyddog Hyrwyddo ClybiauGwawr y Gogledd), roedd pawb yn unfrydol bod eisiau dechrau"Clwb Gwawr Genod Pesda".

Mi fydd y noson nesaf yn dechrau a gorffen yn y Clwb Rygbi,Bethesda ar nos Sadwrn, 16 Tachwedd o 7.30yh ymlaen. Dewch amnoson o hwyl ar daith tafarnau mewn gwisg ffansi i godi arian tuagat BBC Plant Mewn Angen.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Angharad Llwyd Beech ar07977 567592 neu [email protected]. Mae manylionhefyd ar Facebook "Clybiau Gwawr - Y Clwb i Ferched Cymru" acar www.clybiaugwawr.com

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 4

Page 5: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 5

Merched y Wawr

Cyfarfod Hydref Cynhaliwyd cyfarfod y gangen nosIau, Hydref 31ain, o danlywyddiaeth y Fns.Elena Owengyda’r Fns.Gwenno Evans yncyfeilio.

Anerchiad y LlywyddCroesawyd pawb. Derbyniwydymddiheuriadau gan Eirwen(Griffith) ac Eleanor Holland. Nidyw Eleanor wedi bod yn dda ynddiweddar a dymunwn wellhadbuan iddi. Diolchwyd i Griff acEleanor Morris am eu gwaith ynargraffu rhaglenni a thocynnau’rBore Coffi. Maent mor barod bobamser i ymwneud â’r gwaithcyfrifiadurol yma.

Wedi trefnu manylion y Bore Coffia’r Cinio Nadolig, daeth yr amser igroesawu’r gŵr gwâdd, sef GethinDavies. Fodd bynnag, cyn eigroesawu rhoddodd Elena ni yn ycyflwr meddyliol priodol ar gyfer ynoson, drwy sôn am weddi fer owaith yr Esgob Basil Fawr o Dwrci(330 – 379). Hen weddi drosanifeiliaid y ddaear yw hon, sy’n einhatgoffa y dylem barchu’r cread a’rholl anifeiliaid, gan gofio fod ganpob creadur, fel ninnau, deimladau.

Ond i ddychwelyd at Gethin. Brodoro Fôn yw’r gŵr ieuanc hwn, syddwedi ymgartrefu yn y Gerlan ers tairblynedd. Mae’n rhan o dîm sy’ngweithio i Barc Cenedlaethol Eryri,a’r testun ganddo oedd ‘BywydGwyllt Eryri’. Cawsom hanesamrywiaeth arbennig ac eang oblanhigion, pryfetyach, anifeiliaidbychain, adar, pysgod achynefinoedd. Gwaith y tîm ywgwarchod a gwella harddwchnaturiol, bywyd gwyllt, treftadaeth apharchu cynefin. Dyfynnaf eiriauSyr T.H.Parry Williams :-

Ond gwn pwy wyf os caf innau frynA mawndir a phabwyr a chraig allyn

Diolchwyd yn haeddiannol i Gethingan y llywydd a hefyd i’r merchedam ddarparu’r lluniaeth.

Y RafflRhoddwyd y wobr lwcus gan

Jennie a’r enillydd oedd Eirlys(Cefni)

Cyflwyno siecCasglodd Pwyllgor Anabl RhanbarthArfon o Ferched y Wawr dros£2,700 i fudiad CLIC sef i blantMôn ac Arfon sy’n dioddef o Gancrneu Lwcemia.

Dyma Valerie Jones Griffiths(Trysorydd y Gangen) a MairLloyd Hughes (Cadeirydd y

Gangen) yn cyflwyno’r siec i NyrsEleri Fôn Roberts sy’n gwneud

gwaith arbennig iawn gyda’r boblifanc hyn.

GorffwysfanCynhelir cinio Nadolig 2013 arddydd Mercher, 18 Rhagfyr, yngngwesty Glan Aber, Betws yCoed. Enwau ar y rhestr ynGorffwysfan os gwelwch yn dda.

O Fethesda i’r BahamasMae Elin Mai Roberts o Erw Laswedi dechrau ar swydd newyddsydd wedi mynd â hi yn belliawn o Ddyffryn Ogwen. Mae hiyn gweithio fel tylinydd ar longbleser teithiol sy’n mynd â phoblar deithiau moethus o amgylchmannau hyfryd megis yBahamas. Er ei bod yn gweithiooriau hir mae Elin hefyd yn caelcyfle i weld y lleoedd arbennighyn.

Bydd yn teithio tan fis Mehefinnesaf, pan gaiff ddod adref amgyfnod o wyliau! Onid ywtechnoleg yr oes hon yn wych -mae’r teulu’n gallu cysylltu â hi ynddyddiol drwy Skype! Pob lwc i tiElin, ac mae’n siwr dy fod ynmwynhau yn ogystal â gweithio’ngaled.

Wyneb NewyddBellach mae tafarn y Siôr,Carneddi, yn cael ei rhedeg ganwyneb newydd. Er hyn mae’nwyneb adnabyddus yn yr ardal, sefDewi Siôn, Erw Las. Braf gweldperson lleol yn ôl yno unwaith eto.Bydd croeso mawr i bawb ganDewi a’r criw. Pob lwc Dewi.

Cynhelir Gwasanaethau fel aganlyn:

Sul Cyntaf pob mis Cymun Bendigaid – 8.00amGwasanaeth Teuluol – 11.00amAil a thrydydd Sul pob mis - CymunBendigaid Cymraeg – 11.00amPedwerydd Sul pob mis - CymunBendigaid dwyieithog – 11.00amPumed Sul - Gwasanaeth ar y cydgyda Mynydd Llandegai a Phentir(Lleoliad i’w gyhoeddi)

Pob bore Mercher am 10.30am -Cymun BendigaidCroeso cynnes i bawb i’rgwasanaethau uchod.

Anfonwn ein cofion at bawb sy’ndioddef o unrhyw anhwylder ganobeithio y daw adferiad buan i chwi igyd.

Arch Noa - Clwb bach yw hwn argyfer plant bach cyn oed ysgol. Y mae’n cyfarfod yn Ysgol Abercasegbob bore Llun am 9.15am.

DiolchgarwchCynhaliwyd ein GwasanaethDiolchgarwch ar fore Sul, 6 Hydref odan arweiniad y Parchedig ChristinaMcCrea. Daeth cynulleidfa dda i’rgwasanaeth gan gynnwys Côr YsgolPenybryn, a mawr yw ein diolchiddynt am eu cyfraniad rhagorol i’rgwasanaeth. Diolchwyd i bawb addaeth i’r Eglwys fore Sadwrn cyn ygwasanaeth i lanhau ac addurnio’radeilad cyn y Sul arbennig hwn.

Cinio DiolchgarwchYn dilyn y Gwasanaeth Diolchgarwchaeth nifer helaeth o’r gynulleidfa ifwynhau cinio “dydd Sul” yngNghaffi Coed Y Brenin. Diolch ogalon i Gwenda Bowen am drefnu’rachlysur ar fyr rybudd. Roedd pawbwedi mwynhau’r wledd a diolch ynfawr i staff Coed y Brenin am baratoigwledd mor flasus.

Eglwys Crist,

Glanogwen

Gyda lliwiau’r Hydref mor amlwg o’n cwmpas, gwerthfawrogwnharddwch y cread.Artist yw’r Hydref ym mrigau y coed, Yn newid eu lliwiau drwy newid eu hoed - Dafydd Morris.

Boed i Dduw ein dysgu i beidio a chymryd popeth yn ganiataol gananghofio am anffodusion y byd rhyfelgar, treisgar hwn.

Cofiwn a bendithiwn yr aelodau a’n cyfeillion sydd dan unrhywanhwylder, gan eu cynnwys yn ein gweddïau. Bu’r Fns.Myfanwy Jones,Gwernydd, yn yr Ysbyty ond da oedd clywed ei bod gartref gyda’i mercherbyn hyn, Cofiwn hefyd y Br. Emlyn Evans sydd gartref yn gwella weditriniaeth.

Cynhaliwyd Seiat wythnosol ar nos Fawrth. Hyfryd oedd gweld tri aelodnewydd yno, sef Rhiannon, Owen John a Megan.

Bu’r bobl ifanc wrthi’n ddygn fel arfer yn gofalu am y Banc Bwyd,trefnu Blychau Nadolig ar gyfer plant anffodus y Trydydd Byd, ynogystal ag ymarfer ar gyfer Diolchgarwch yr Ysgol Sul.

Ar y 10fed, bu ‘Cymdeithas y Chwiorydd’ yn gwrando ar adloniant ganblant Ysgol Llanllechid. Bu’n noson i’w chofio gan lwyr fwynhaugwrando ar eitemau ar Offeryn Cerdd, Adrodd a Chanu. Roeddblynyddoedd 5 a 6 wedi astudio ‘themâu dŵr ‘, gan gynnwys ‘ Cantre’rGwaelod’, Tryweryn a’r Golomen yn hanes Noa, mewn cerddoriaeth.Bu’r croeso a’r lluniaeth yn dderbyniol iawn.

Yr Ysgol Sul. Anna fu’n ledio ‘ emyn y plant’ y mis hwn. Roedd yGwasanaeth Diolchgarwch yn un arbennig iawn gyda phwyslais ar y gairDIOLCH, gair byr sy’n golygu cymaint. Darparwyd lluniaeth ganathrawon yr Ysgol Sul a gwnaethpwyd casgliad at elusen CymorthCristnogol. Diolchwn i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniadau helaetho £80.

Diolchgarwch Yn ôl traddodiad cynhaliwyd gwasanaeth diolchgarwch ary 3ydd Llun o’r mis. Bu’r gwasanaeth boreol dan ofal Minnie a phregethyr hwyr gan y Parchedig John Owen.

Côr y Dyffryn. Bu’r Côr yn ymarfer bob nos Sul ar gyfer y Nadolig, o dan hyfforddianttrylwyr Menai.

LlongyfarchiadauLlongyfarchwn Mrs Medi Williams ar gyrraedd pen-blwydd arbennig yn85 oed. Mae mor heini ag erioed!!

Dyma fis olaf y Parchedig Geraint Hughes, ein Gweinidog wedi 16mlynedd ac wyth mis gyda ni. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol mewngwerthfawrogiad iddo am ei wasanaeth i’r tair eglwys dan ei ofalaethyng nghapel Carmel, Llanllechid ar brynhawn Sul y 27ain. Trefnwyd ygwasanaeth gan y Br. Joe Hughes, gyda siaradwyr o’r tair eglwys yncymryd rhan. Cyflwynwyd y Gweinidog â thysteb gan y Br. NevilleHughes (Trysorydd yr Ofalaeth). Gweinyddwyd y sacrament o Swper yrArglwydd, a darparwyd lluniaeth ysgafn gan wragedd eglwysi’r ofalaeth.Estynnwyd pob dymuniad da i’r Gweinidog ac i Ann, ei wraig ar euhymddeoliad.

Cydymdeimlwn â’r Br. Tecwyn Hughes, Ffordd Gerlan, sydd wedi colliei frawd yng nghyfraith yn ddiweddar, sef, y Br. Dei Parry, MynyddLlandygái.

Adnod y mis (Er cof am Brenda Owen, a fu farw Tachwedd 2012)‘Pwy all ddod o hyd i wraig fedrus? Y mae hi’n fwy gwerthfawr nagemau’ (Diarhebion 31. 10)

Yr Eglwys unedigGweinidog: Y Parch Geraint Hughes

EGLWYS UNEDIGBETHESDA

Oedfaon i ddod

Tachwedd 24. Parch John Owen (Rhuthun)

Rhagfyr 01 Mr Oswyn Evans08 Parch Dafydd Lloyd Hughes15 Gwasanaeth y plant (bore)Parch D.C.Williams (5.00)

CAPEL BETHANIA

BETHESDA

Tachwedd 17 : Parch Gwynfor Williams.

Rhagfyr 01 : Mr. Dafydd C. Thomas.15 : Parch. Gwynfor Williams.

Oedfaon am 5.30. Croeso cynnes ibawb.

Oedfaon am 5.30

Croeso Cynnes i Bawb

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 5

Page 6: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Rachub a Llanllechid

Dilwyn Pritchard, Llais Afon, 2 Bron Arfon,Rachub LL57 3LW 601880

Llais Ogwan 6

EGLWYS UNEDIGBETHESDA

‘LLENWI’R CWPAN’

Dewch am sgwrs a phaned

Bob bore dydd Iau

rhwng 10.00 o’r gloch a

hanner dydd

Y GerlanAnn a Dafydd fôn Williams, 14/4 Stryd y Ffynnon, Gerlan 601583

Cylch Meithrin GerlanCodi arianCychwynnodd blwyddyn ysgol 2013– 2014 yn wych i gylch MeithrinGerlan. Gyda 15 o blant ar yllyfrau, y nifer mwyaf erioed, maepobl yr ardal unwaith eto wedidangos eu haelioni wrth gefnogi yrhai sydd wedi bod yn tu hwnt obrysur yn codi arian i’r Cylch.

Codwyd yn agos i £350 pandderbyniodd Mrs Susan Williams aMrs Angela Speddy yr her o lithro ilawr y Weiren Wib (y “Zip Wire”)ym mis Gorffennaf. Disgrifiodd yddwy y profiad fel rhywbeth ‘ofnusond bythgofiadwy’ ac ‘roeddynt ynddiolchgar iawn am y gefnogaeth agafwyd.

Yna, yn ystod yr haf penderfynoddMr Dylan Williams godi arian i’rCylch drwy gerdded i fyny’r Wyddfagan gario bonyn coeden ar eiysgwyddau. Cododd yntau’r swmarbennig o £300.

Diolch yn fawr iawn i’r tri ohonoch -mae’r staff, aelodau o’r pwyllgor acwrth gwrs y plant yn ddiolchgar iawnam eich ymdrech.Diolchwn hefyd i Grŵp Pesda RocCyf am eu rhodd o £50. Bydd y rhanfwyaf o’r arian yn cael ei ddefnyddioi brynu nwyddau newydd i’r Cylch.

Ffair Nadolig Clwb Meithrin GerlanHoffwn atgoffa pawb am y FfairNadolig flynyddol, sy’n cael eichynnal yn y Caban ar 30 Tachwedd.Bydd yn cychwyn am 11.00 yb ac yngorffen am 1.00 yp. Pris mynediadyw £1.00 (plant am ddim) ac yn ypris cewch baned a mins pei. Roeddy ffair yn llwyddiannus dros ben yflwyddyn diwethaf ac rydym yngobeithio y bydd yr un morllwyddiannus y flwyddyn yma - osnad yn well! Bydd amrywiaeth ostondinau - stondin Ffiona Sherlockyn dychwelyd, a hefyd stondinsebonau Popeth Neis yn ogystal âstondin Dwylo Prysur. Bydd llawer ostondinau i’r plant, megis peintiowynebau a stondin tatŵ, ac wrthgwrs caiff y plant gyfle i weld y dynei hun, Siôn Corn.

Dewch draw i gefnogi – byddrhywbeth at ddant pawb.

Llwyddiant

Llongyfarchiadau mawr i Lisa Jên a Martin Hoyland, Gwernydd, areu llwyddiant gyda'u grŵp, 9Bach. Yn ddiweddar mae 9Bach wediclywed y bydd eu hail albwm, sef 'Tincian', yn cael ei rhyddhau ganRealworld Records, cwmni sydd yn enwog iawn am ryddhaucerddoriaeth byd eang, Cafodd y cwmni ei sefydlu gan Peter Gabriel.Golyga hyn fod caneuon 9Bach, sy'n cynnwys caneuon am Chwarely Penrhyn, y Carneddau, a'r fro yn cael eu clywed dros y byd i gyd!!Bydd 'Tincian’ yn cael ei ryddhau ym mis Ebrill. Mae'r band newyddddychwelyd o Gaerdydd ble cawsant eu dewis i gloi Gŵyl Womex,sef gŵyl fawr sy’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth o bob rhan o'r byd, Yndilyn eu perfformiad yn Womex bu 9Bach yn teithio o amgylchCymru gyda band o'r Congo - Les Tambours De Brazza.

Yn yr ysbytyRydym yn gyrru ein cofion atHeather, Stryd y Ffynnon, sydd ynYsbyty Eryri yng Nghaernarfon.Dymuniadau gorau am wellhadllwyr a buan iti, Heather.

Adref o'r ysbytyDa yw gweld Myfanwy Jones,Gwernydd, yn ei hôl gartref weditreulio cyfnod yn yr ysbyty. Mae'nbraf iawn gweld ei bod yn gwella,ac allan o gwmpas yr ardal unwaitheto. Cymrwch ofal yn awr,Myfanwy, a chymryd pethau'nysgafn.

LlongyfarchiadauRydym yn llongyfarch Mari Emlynac Iwan Charles, Stryd Hir, arenedigaeth mab bychan, ArthurEmlyn. Pob hwyl ichi fel teulu!

GwellaYn ddiweddar bu Vera Hughes,Ciltrefnus, yn yr ysbyty. Braf ywnodi ei bod hi adref bellach, ac yngwella. Rydym yn gyrru ein cofionatoch, Vera, ac yn dymunogwellhad llwyr ichi.

CydymdeimloRydym yn gyrru ein cydymdeimladi Megan a Len Williams, FforddGerlan, yn eu profedigaeth o gollibrawd Megan, y diweddar TomOwen, oedd yn trigo ynLlanfairpwll.

AdrefBraf yw gweld Margaret Williams,Tan Treflys, yn gwella ar ôl treuliocyfnod yn Ysbyty Gwynedd ynddiweddar. Rydym i gyd yn gyrruein cofion atoch, Margaret, ac yndymuno gwellhad llwyr ichi.

PartiDdechrau'r mis dathlodd JaneJones, Gwernydd, ei phen-blwydd. Er mwyn dathlu'rachlysur, trefnodd Gwenfair, eimerch, barti iddi, a hynny heb ynwybod i Jane. Cafodd niferohonom, yn deulu, ffrindiau, achymdogion, o'r ardal a thuhwnt, wahoddiad i WestyMeifod, Bontnewydd, i ddathlugyda Jane. Mae Gwenfair ynbyw a gweithio yn EfrogNewydd erbyn hyn, ac roeddwedi trefnu'r cyfan o'r fanhonno, ond wedi dod adref argyfer y parti. Mae Gwenfair ynawr yn aros yn y wlad hon amfis cyn dychwelyd i EfrogNewydd. Braf iawn oedd gweldmab Jane, Aneurin, hefyd wedidod adref gyda'i deulu i ddathlupenblwydd ei fam. Cafwyddathliad ardderchog ym Meifod,a chafodd pawb, yn enwedigJane ei hun, brynhawnbythgofiadwy. Penblwydd hapusiawn, Jane, a Gwenfair, hefyd,gan ei bod hithau yn cael eiphen-blwydd ar yr un diwrnodâ'i mam. Llongyfarchiadau mawri chi!

Gwobr arbennigYn ddiweddar bu seremoni fawri wobrwyo Eich Pencampwr,yng Ngwesty San Siôr ynLlandudno, o dan arweiniadArfon Haynes Davies. Roedd ygwobrau hyn wedi eu noddi ganScottish Power a Trinity MirrorGogledd Cymru, ac yn cael eurhoi i unigolion a grwpiau syddwedi gwneud cyfraniad arbennigi'w cymunedau. Gwych oedd

gweld y wobr am y grŵp yn caelei rhoi i Eleanor Jones, BrynCaseg, a'i chyfeillion, sy'n rhedegApêl Eleanor. Mae'r grŵp wedi eisefydlu gan Eleanor i godi arian ibrynu offer i Ward Alaw ynYsbyty Gwynedd, ac wedi bodyn brysur iawn dros y flwyddynddiwethaf yn codi miloedd obunnau i gynorthwyo'r ward a'istaff yn eu gwaith caled ogynorthwyo cleifion sy'n dioddefo gancr. Mae'r Apêl yn parhau ifynd o nerth i nerth, gyda sawlgweithgaredd wedi ei drefnu yn ydyfodol agos. Llongyfarchiadaumawr i Eleanor a'r tîm gweithgar,a diolch mawr i bawb o'r ardalsy'n cefnogi'r Apêl.

CydymdeimloDaeth diwedd cyfnod yn hanesteulu a ymfudodd o Dde Cymruyng nghanol y ganrif ddiwethaf,gyda’r newydd am farwolaethbrawd a chwaer o fewnwythnosau i’w gilydd.

Roedd y teulu clos yma wedisefydlu yn yr ardal ac wedichwarae rhan lawn ym mywyd ypentref ers hynny. Roedd euteuluoedd yn agos iawn at galonBill a Doreen. Anfonwn eincydymdeimlad at MargaretHughes, Hilary a Gaynor a’rteulu oll yn eu profedigaeth ogolli William Hughes (BillSowth), Bron Bethel. Cymeriadtawel oedd Mr Hughes a fu fu’nymladd ei waeledd yn ddewr ersamser. Bu farw yn YsbytyGwynedd ar Hydref 6, yn 84mlwydd oed.

Cynhaliwyd gwasanaeth yngNghapel Carmel ac yna yn yrAmlosgfa ym Mangor ar 14Hydref.

ProfedigaethDerbyniwyd y newyddion amfarwolaeth Mrs Doreen Watts,Maes Bleddyn, yn 89 mlwyddoed, wedi iddi hithau fod ynymladd salwch ers peth amser.Wynebodd dreialon bywyd ynddewr. Bu farw yn YsbytyGwynedd ar ddiwrnod olaf misHydref. Cynhaliwyd gwasanaeth

Cylch Meithrin Llanllechid

DiolchDiolch yn fawr i Ddwylo'rEnfys ac i'r Royal Oak am eucyfraniadau.

BingoDiolch i bawb a ddaeth atom igefnogi'r Bingo a gynhaliwydyn y Clwb Criced.

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 6

Page 7: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Capel Carmel, LlanllechidBedyddioBedyddiwyd Siôn Thomas a Rhiannon Fflur ar bnawn Sul, 13Hydref gan y Parch, Geraint Hughes. Mae Siôn a Rhiannon ynblant i Tom ac Amy Gowan, Caerdydd, ac Amy’n ferch i Ron aWendy, Bron Arfon. Braf oedd cael croesawu Amy a’i chwaerLaura i Garmel unwaith eto, dwy a fu tu hwnt o ffyddlon i’rYsgol Sul a gweithgareddau’r bobl ifanc.

Wythnos yn ddiweddarach bedyddiwyd Llinos a MichaelGashe, Tan y Bryn, Llanllechid, gan y Parch. Siôn Aled Owen,Wrecsam. Mae Megan yn un o blant ffyddlon yr Ysgol Sul.Dymuniadau gorau a phob bendith i’r tri plentyn a’uteuluoedd.

Gwasanaeth DiolchgarwchCafwyd cynulleidfa fawr i wasanaeth diolchgarwch y plant a’rbobl ifanc eleni. Diolch i’r plant a’r bobl ifanc a gymerodd rana gwneud eu gwaith mor ardderchog. Diolch i athrawon yrYsgol Sul ac arweinydd Cylch Ti a Fi am eu dysgu.Cyflwynwyd y casgliad o £135 tuag at Apêl Haiti CymorthCristnogol. Braf oedd cael cwmni’r Parch Geraint Hughes a’ibriod Anne yn y gwasanaeth. Diolchwyd iddo am ei waithymysg y bobl ifanc a chyflwynwyd rhodd iddo, a thusw oflodau i Mrs Hughes ar ran aelodau’r Ysgol Sul. Braf oeddgweld Mrs Gwenan Davies Jones yn y gwasanaeth ac fegyflwynwyd blodau iddi hithau am ei chefnogaeth barod i’rYsgol Sul dros y blynyddoedd. Cyflwynodd Mrs Davies Jonesrodd i Mr Hughes fel arwydd o ddiolch am gynnalgwasanaethau boreol yn yr ysgol.

Y plant gyda’r Parch a Mrs Hughes

DiolchDiolch unwaith eto i Mr a Mrs Geraint Jones, Royal Oak, ameu rhodd caredig i gapel Carmel yn ddiweddar. Nid dyma’r trocyntaf i ni dderbyn rhodd gan Gyfeillion y Royal Oak.

CAPEL CARMEL

Tachwedd

17 Parch. Gwyndaf Jones 5.0024 Parch. Gwynfor Williams 5.00Rhagfyr

01 Parch. T. Roberts 2.0008 Y Parch. D.C.Williams 5.0015 Oedfa Nadolig 5.00

Ysgol Sul am 10.30amDwylo Prysur nos Wener am6.30pm

Croeso Cynnes i Bawb

Braichmelyn

Rhiannon Efans, Glanaber, Pant, Bethesda 600689

CAPEL BETHELGwasanaethau:

Hydref 20 Mr Alun Wyn Rowlands27 Parch. Dafydd JobTachwedd 03 – Parch. Eleri Lloyd Jones10 – Gweinidog17 – Mr Islwyn Hughes24 – Parch. Huw Pritchard.

Oedfaon am 2.00pm. Croeso cynnes i bawb.

Llais Ogwan 7

Cartref NewyddCroeso cynnes i Ioan Doyle a Helen i’wcartref newydd yn Tŷ Ffynnon, 14Braichmelyn.Gobeithio y byddant yn hapus iawn yno.

Ers rhai blynyddoedd bellach mae Ioan wedigwneud enw iddo’i hun fel dringwr o fri, acmae rhai yn credu mai Ioan ydi’r dringwrCymraeg gorau erioed.Roedd yn braf ei weld yn ddiweddar ar SioeTudur Owen ar S4C.

AnffawdCafodd Mrs Rita Williams, 1, Blaen y Cae,godwm yn ddiweddar. Gobeithio ei bodwedi gwella erbyn hyn. Anfonwn ein cofionati.

ProfedigaethCydymdeimlwn â Mrs Dolores Edwards, 6Gernant, Esther ei merch a’r teulu yn euprofedigaeth sydyn ac annisgwyl o golli eiphriod George, tad Esther a thaid annwyliawn. Cydymdeimlwm hefyd â’i frodyr a’ichwiorydd yn eu colled o frawd annwyl.

yng Nghapel Carmel ar 5Tachwedd ac fe’i rhoddwyd iorffwys ym mynwent Coetmor.Anfonwn ein cydymdeimlad atJulie, Pearl, Hefina a’r holl deuluyn eu galar.

DiolchDymuna Mr Vernon Davies,Awelon, `Rynys, ddiolch i bawbam bob arwydd o gydymdeimlada dderbyniodd ef a’r teulu arachlysur marwolaeth ei wraig Iris.Fe drosglwyddwyd £515.30c tuagat gronfa Cystic Fibrosis er cofam Mrs Davies. Diolch i bawbam eu haelioni.

Dymuna Rheinallt Davies, HenBarc, ddiolch am y llu cardiau a’ranrhegion a dderbyniodd arachlysur dathlu ei ben-blwydd yn21 oed yn ddiweddar.

Dymuna Melanie Tugwell, TŷCapel Carmel, ddiolch am ycardiau a’r anrhegion adderbyniodd wrth ddathlu eiphen-blwydd arbennig ynddiweddar.

Brysiwch WellaDa cael adrodd fod GwilymWilliams Ffordd Llanllechid adrefo’r ysbyty wedi llawdriniaeth. Ynanffodus ymhen ychydig wedynfe gafodd ddamwain ffordd ynardal Bryn Bella. 'Roedd ynddamwain ddrwg, ond da caeladrodd ei fod yn gwella o’ianafiadau.

Brysia WellaDyma’r neges hefyd i Nell MediHughes, Lon Groes, merch LowriOwen a Mike Hughes. Mae Nell,sy’n bedair oed, wedi derbynllawdrinaieth ar ei chlun gan eibod yn dioddef o ‘hip dysplasia’.Derbyniodd y llawdriniaeth ynYsbyty Gobowen. Mae’r teulu amddiolch i bawb a ddymunodd yndda i Nell drwy anfon cardiau,anrhegion a negeseuon caredigati.

Marwolaeth FrawychusAnfonwn ein cydymdeimlad at yCynghorydd Pearl Evans yn dilyny newyddion syfrdanol amfarwolaeth ei gŵr Evan, a’r ddauohonynt wedi derbynllawdriniaeth mewn ysbytai drosyr wythnosau diwethaf.

Clwb Hanes Rachub,Caellwyngrydd a LlanllechidDaerh criw da i gyfarfod diwethafy Clwb Hanes pan fu cryn drafodar siopau’r ardal. Daeth LoisJones o Amgueddfa Gwynedd i’rcyfarfod gan amlinellu’r modd ygallai’r Amgueddfa fod ogymorth i ddosbarthiadau achlybiau hanes. Addawodd geisiorhoi benthyg peiriannau recordioa pheiriant sganio lluniau, afyddai’n hwyluso’r gwaith o helyr atgofion yn arw. Addysg aiffâ’n bryd yn y cyfarfod nesaf, ahynny ar nos Fercher, 27Tachwedd am 7.00 o’r gloch ynFestri Carmel. Croeso i chwiddod i rannu eich gwybodaeth amhanes Rachub a Llanllechid.

Cardiau NadoligDymuna Nansi a GarethHughes, Manod,ddymuno NadoligLlawen a BlwyddynNewydd Dda i gyfeilliona chymdogion. Ni fyddant yn anfoncardiau eleni.

Yr un yw dymuniadVernon Davies, Awelon,yr Ynys. Ni fydd yntauychwaith yn anfoncardiau eleni.

Clwb DwyloPrysur

Carmel, Llanllechid

Noson Goffi

Nos Wener

24 Tachwedd

am 6.30.

Yr elw at achosion da.

LlandygáiEthel Davies, Pennard, Llandygái

353886

GwaeleddRoedd yn ddrwg iawn gennym glywed nadoedd Mrs Olwen Lytham wedi bod yn dda eihiechyd yn ddiweddar ond gobeithiwn ei bodgartref erbyn hyn ac yn gwella’n araf.Anfonwn ein cofion ati a hefyd at y cleifionsydd yn wael yn eu cartrefi a’r rhai sydd ynaros am lawdriniaeth, sef Eric a NerysColeman, Jim a Beryl Hughes, CassieTindall, Dr Pam Jones, Beryl Williams aDorothy Proudley-Williams – brysiwchwella!

BingoCawsom noson o Bingo yn Neuadd Talgai arnos Fawrth, Medi 15. 'Roedd y ffyddloniaid igyd yno a Pauline a Raymond yn reit brysurfel arfer yn galw’r rhifau, a’r merched yn ygegin yn paratoi paned a bisgedi. Gwnaedelw sylweddol i’r Neuadd – bydd croesocynnes i bawb ar nos Fawrth, 19 Tachwedd.

LlongyfarchiadauRydym yn llongyfarch dwy o’r pentref fu’nlwcus iawn yn ennill gwobrau mis Hydrefsef Mrs Muriel Owen a Mrs PaulineEdwards. Mae’n braf gweld ffrindiau neurhywun yr ydych yn eu hadnabod yn ennillweithiau. Go dda ferched.

Plant Ysgol Llandygái Roedd yr eglwys dan ei sang fore Iau, 24Hydref, ar gyfer gwasanaeth diolchgarwch yplant. Roedd y plant i gyd wrth eu boddau yncael cymryd rhan, a’u rhieni yn falch o gaelbod yn bresennol, gydag aelodau o’r eglwyswedi ymuno yn y gwasanaeth hefyd. Diolchi’r pennaeth, y staff a’r plant am ddal i gadwcysylltiad â ni yn Sant Tegai.

Mae’r dirprwy bennaeth yn gwneud enwiddo’i hun hefyd ym myd y canu – mae i’wglywed yn fynych iawn ar y radio – daliwchati Elfed.

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 7

Page 8: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

GlasinfrynCaerhunMarred Glynn Jones2 Stryd Fawr, Glasinfryn, BangorLL57 4UP01248 [email protected]

Eglwys Sant Tegai

GwaeleddAnfonwn ein cofion anwylaf at Mrs SueMatthews, sydd wedi cael llawdriniaethyn Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar.Llwyr wellhad i chi, Sue. Rydym yncofio hefyd at Mrs Jane Couch, Mr Gwynne Edwards a Mr Harry Grosssydd yn wael yn eu cartrefi.

CydymdeimloAnfonwn ein cydymdeimlad cywiraf atJohn a Nia Bagnall yn eu profedigaeth ogolli mam John yn Ysbyty Gwynedd ar10 Hydref, sef Mrs Dilys Bagnall,Caergybi gynt, yn 86 mlwydd oed.Cynhaliwyd ei hangladd ar ddyddMercher, 16 Hydref, yng NghapelMaeshyfryd, a’r gladdedigaeth yn dilynym Mynwent Maeshyfryd.Cydymdeimlwn hefyd â Derek, Elaine,Robert a’u teuluoedd yn eu galar.

DiolchDymuna John, Nia a theulu’r ddiweddarMrs Dilys Bagnall, ddiolch o galon ibawb am bob arwydd o gydymdeimlada dderbyniwyd yn eu profedigaeth.Diolch arbennig i’r Parchedig JohnMatthews a Mrs Rhian Llewelyn Jonesam fynd i’r angladd drwy’r fath wynt aglaw – bendith arnoch.

Pen-blwydd arbennigLlongyfarchiadau a phob dymuniad da iCallum Metcalfe fydd yn dathlu pen-blwydd arbennig ar ddydd Sul, 17Tachwedd, yn ddeunaw mlwydd oed.Hwyl fawr i ti, Callum. Tybed a oes ynabarti ar y gweill? Byddi’n siwr o gaeldigon o anrhegion a chardiau drwy’rpost.

Gosber y CynhaeafNos Sul, 6 Hydref, cynhaliwydgwasanaeth o Ddiolchgarwch am yCynhaeaf o dan arweiniad y ficer, yParchedig John Matthews a Christina,gyda Geraint Gill wrth yr organ. Roeddyr eglwys wedi ei haddurno’n harddiawn gan Hazel, Nerys a Hefina a’rmerched eraill, a diolch o galon iddynt igyd. Croesawodd y Ficer bawb i’rneuadd ar ôl y gwasanaeth i gael coffi asgwrs. Rydym yn ddiolchgar i bawb agymrodd ran yn yr eglwys, ac i Nerysa’i ffrindiau a fu’n gweini yn y gegin.

Te BachCynhaliwyd Te Bach yn eglwys ySantes Fair, Tregarth, ar 22 Hydref adaeth nifer dda o’r tair eglwys yno.Roedd Sue, Rosemary, Linda a Rhianwedi bod yn brysur yn gwneud yteisennau blasus ac anodd iawn oedddewis beth i’w gymryd. Diolch yn fawri chwi, ferched, ac i John Matthews amfod yng ngofal y raffl, - cawsom amserdifyr iawn.

BingoLlwyddiant mawr fu’r noson Fingo arnos Fawrth, 22 Hydref, yn NeuaddTalgai, a gwnaed elw o £169.50 i’reglwys. Roedd aelodau o’r tair eglwyswedi dod i’r neuadd a rhai o’r pentrefhefyd. Diolch arbennig i Pauline aRaymond am drefnu’r noson, i bawb aroddodd help llaw, i’r merched yn ygegin, i’r cyfeillion am y gwobrau, ac ibawb a oedd yn bresennol. Mae’n ddafod Ceri wedi dod i helpu ei mam a’inain i ennill yr holl wobrau!

TalybontNeville Hughes, 14 Pant, Bethesda 600853

O’r YsbytyCroeso gartref i Sue Matthews yn dilyntriniaeth yn Ysbyty Gwynedd ynddiweddar. Da deall ei bod yn gwella’nfoddhaol.

Te NadoligCynhelir Te Nadolig ar ddydd Sadwrn 30Tachwedd yn yr Ysgoldy o 2.00-4.00. Croeso cynnes i bawb.

Eglwys Maes y Groes,

Talybont

Capel Bethlehem

Tachwedd 17 Parchg. Harri Parri, Caernarfon 24 Parchg. John Owen, Rhuthun

Rhagfyr 01 Parchg. Euros Wyn Jones, Llangefni ; 08 Parchg. Dafydd Lloyd Hughes, Caernarfon 15 Oedfa Nadolig gyda phlant yr Ysgol Sul 22 Parchg. Ieuan Lloyd, Llanfairpwll ; 29 Parchg. Trefor Jones, Caernarfon.

Oedfaon am 2.00 oni nodir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb.

Ysgol SulDiolch i’r plant am gynnal Oedfa DdiolchgarwchDeuluol ar ddydd Sul. 20 Hydref. Diolch hefyd i AntiBarbara, Anti Enid, Anti Angharad ac Yncl Nev amhelpu. Gwnaed casgliad tuag at Apêl Haiti.

Ymddeoliad ein GweinidogWedi cyfnod o 16 mlynedd ac 8 mis yn eingwasanaethu fel un o’r dair eglwys yng NgofalaethBro Dyffryn Ogwen, rydym wedi gorfod ffarwelio ậ’rParchedig Geraint Hughes a fydd yn ymddeol iBwllheli. Bu aelodau’r Capel a Bwrlwm Bethlehemyn ffarwelio ag ef a Mrs. Anne Hughes, mewn swperyng Ngwesty’r Four Crosses, Porthaethwy ar nosFercher, 30 Hydref. Cafwyd noson ardderchog! Diolchi Enid Lloyd Davies am drefnu’r noson gydachymorth Barbara Jones.

Ar y Sul cyn hynny, yng Nghapel Carmel Llanllechid,cynhaliwyd Oedfa Arbennig ar achlysur yrYmddeoliad. Trefnwyd yr oedfa gan Joe Hughes,Carmel, a hyfryd oedd cael cyfraniadau gan aelodauo’r tair eglwys. Cymerwyd rhan gan bedair ochwiorydd Bethlehem sef Enid Lloyd Davies, BarbaraJones, Jean O. Hughes ac Angharad Hughes, gydachyfarchion ar lafar ac ar gận gan Neville Hughes.Mwynhawyd te yn festri Carmel ar ộl yr oedfa.Prynhawn cofiadwy iawn, yn enwedig i’r Parchedig aMrs. Geraint Hughes a’r teulu. Ymddeoliad hapusiawn i chwi!

Penblwydd ArbennigLlongyfarchiadau a phob dymuniad da i RhiannonWilliams, 15 Cae Gwigin, ar ddathlu ei phen-blwyddyn 80 mlwydd oed ar 6 Tachwedd.

Llais Ogwan 8

ProfedigaethDrwg oedd gennym glywed am farwolaethJoan Fox, 63 Bro Emrys, yn ystod misHydref. Hoffem estyn ein cydymdeimladat Malcolm a’r teulu yn eu colled.

Trist iawn yw cofnodi marwolaeth JulieHughes, 25 Bro Emrys. Anfonwn eincydymdeimlad dwys at ei phriod, Dafydd,ei mab, Callum, a’r teulu oll yn euprofedigaeth fawr.

DamwainAnfonwn ein cofion a’n dymuniadaugorau at Ifan Jones, 1 Dolhelyg, yn dilyn yddamwain ddrwg a gafodd ar y beic ynddiweddar. Gobethio ei fod yn teimlo’nwell erbyn hyn.Dymuna Ifan a Barbara ddiolch i bawb ameu consyrn a’u caredigrwydd yn dilyn yddamwain.

Gwella CartrefiDymunwn yn dda i bawb sydd yn gorfodgadael eu cartrefi dros dro er mwyn caelgwneud gwelliannau sylweddol i’w tai.Gobeithio y cewch ddod yn ôl adref ynfuan!

Bingo a Noson GoffiDiolch yn fawr i bawb a gefnogodd yNoson Goffi a Bingo yn y Ganolfan yngNglasinfryn ar 4 Hydref. Gwnaed elw o£105 tuag at Apêl Eleanor Jones. Cynheliry Bingo nesaf ar 15 Tachwedd gyda'r elwyn mynd tuag at Gymdeithas StrôcGwynedd. Bydd y noson yn dechrau am7.30, yn y Ganolfan. Croeso cynnes i bawb- dowch draw am noson o hwyl wrth godiarian at achosion da !

Sefydliad y MerchedCynhaliwyd y cyfarfod ar 9 Hydref o dan lywyddiaethMrs Sarah Flynn. Cawsom gwmpeini Mr ColinGoodey fel gŵr gwâdd. Wel! Roedd ganddo wledd oluniau o Affrica lle bu ef a'i wraig ar ymweliad. Bu'rddau yn athrawon, ond penderfynasant gymrydymddeoliad cynnar er mwyn cael cyfle i deithio.Syniad gwych, os yw'n bosibl ynte!

Eisiau dringo mynydd Kilimanjaro oedd y ddau achael cyfle i weld ymfudiad blynyddol y Wildebeest.Mae hyn yn digwydd yn y gwanwyn. Bydd tua 2,500o'r Wildebeest yn ymgynnull i deithio 1,800 ofilltiroedd i chwilio am borfeydd gwell dros fisoedd yrhaf. Mae nifer o anifeiliaid eraill yn ymuno â hwy ynyr ymfudiad.

Roedd y disgrifiad a'r lluniau a gawsom yn anhygoel,a gallem ddychmygu'r sŵn carnau fel daeargryn, yllwch a'r olygfa - profiad bythgofiadwy.Ymlaen â Colin a'i wraig wedyn i Danzania ac i'r ParcCenedlaethol yno i ddarparu ar gyfer dringoKilimanjaro. Diddorol oedd gweld y newid yn ytyfiant wrth iddynt ddringo am bedwar diwrnod ac ynacyrraedd y copa mewn rhew ac eira.

Mwynhawyd cwmni Colin yn fawr iawn a diolchwydiddo gan Dr Ann Illsley. Cawsom baned a chacen pen-blwydd i ddathlu pen-blwydd arbennig Elizabeth.Diolch i Mair am y gacen ac i Carol a MargaretGriffith am ddarparu'r te.

Clwb Cant y Ganolfan - Hydref

£20 - 80 - Christina McCrea£10 - 140 - Carol Roberts£ 5 - 62 - Idwal a Gwyneth£ 5 - 42 - Beryl Williams

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 8

Page 9: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

PentirAnwen Thomas,Min yr afon11 Rhydygroes, Pentir 01248 355686

Clwb 100 Mis Hydref

1af Rhif 2 Kim Roberts, Rhiwlas2ail Rhif 24 Nia Roberts, Rhiwlas3ydd Rhif 53 Pamela Jones, Llanddeiniolen

Ffair NadoligBydd ein Ffair Nadolig eleni yn cael eichynnal yn y Ganolfan, Glasinfryn,prynhawn Sadwrn, 30 Tachwedd am 2.00y.h. Bydd amrywiol stondinau a Raffl.Croeso cynnes i bawb.

Gwasanaethau’r Sul

Tachwedd17 Cymun Bendigaid 9.45 y.b24 Boreol Weddi 9.45 y.b

Rhagfyr01 Cymun Pawb 9.45 y.b08 Boreol Weddi 9.45 y.b22 Cymun Bendigaid 9.45 y.b

Eglwys Sant Cedol

John Huw Evans, 30 Bro Rhiwen, Rhiwlas352835

Rhiwlas

Llais Ogwan 9

DathluLlongyfarchiadau i Barry ac AnnSanderson, 4 Waen Wen, ar ddathlu eupen-blwydd priodas aur yn ddiweddar.

Gwaith wedi dechrauWrth i’r Llais fynd i’r wasg, da oeddgweld bod Cyngor Gwynedd wedidechrau gweithio ar y ffordd sy’n arwaino’r brif ffordd trwy Lasinfryn at y llwybrcyhoeddus uwchlaw'r Ganolfan a’r HenYsgol.

Mae problem wedi bod gyda’r ffordd honers sbel. Pan mae’n bwrw glaw yn drwmyna mae dŵr wedi bod yn rhedeg i lawr yffordd o’r cwlfert ger y giât sy’n arwaini’r llwybr cyhoeddus, gan greutrafferthion wedyn ar y lôn fawr.

Gobeithio y bydd y gwaith sy’n cael eiwneud yn datrys y broblem. MaeCadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan,Elfed Roberts, wedi bod yn dwyn pwysauar y Cyngor i ddechrau ar y gwaith acmae’n braf gweld fod ei ddyfalbarhadwedi dwyn ffrwyth.

Parchu Pentir

Yng nghyfarfod diwethaf grŵp ParchuPentir yn y Vaynol Arms, Pentir ar 8Hydref fe drafodwyd y pynciau canlynol:

Cyfyngiad Cyflymder ar yr A4244Mae damwain wedi digwydd ar y lôn gerBryn Glas rhwng car a thractor, wedi eihachosi gan yrru’n esgeulus. Mae’rheddlu’n ymwybodol. Rydym wedicysylltu â’r Cyngor Sir ynglŷn â’rddamwain a hefyd i ofyn a ydynt wedibod yn monitro effaith y cyfyngiadcyflymder ymgynghorol. Mae’r Cyngorwedi ymateb gan ddweud bod ycyfartaledd cyflymder wedi gostwng o48mya i 42mya. ‘Rydym wedi gofyn amfwy o fanylion, gan fod ein profiad ynawgrymu bod canran sylweddol o draffigyn parhau i yrru’n rhy gyflym.

Prosiect CymunedolMae’r grwp wedi gwneud arolygiadamgylcheddol o’r safle. Ar sail y nifer orywogaethau o goed yn y gwrych, mae’ndebyg fod y lôn wedi bod yma am 600-700 mlynedd. ‘Rydym yn chwilio amrywun i wneud y gwaith o glirio’r safle.

LlifogyddRydym yn parhau i ddisgwyl amadroddiad gan y Cyngor wedi euhymweliad â Phentir mis diwethaf.

Teithiau cerdded lleolFe drefnwyd taith gerdded arall ar 19Hydref yn ardal Betws y Coed. Diolch iKen ac Evelyn am drefnu'r daith yma eto!

Casglu Ysbwriel:17 Tachwedd, 11.00 o’r sgwâr.

Dyddiad y cyfarfod nesafDydd Mawrth 12fed Tachwedd, 7.30 yn yVaynol Arms

Faciwî’n dod yn ôl i 'Rallt Uchaf

Ychydig ddyddiau’n ôl wrth arddio gwelsom ddwywraig yn cerdded nôl a mlaen ar y ffordd ger y tŷ acyn amlwg yn trafod yr adeilad. Ar y cychwynroeddem yn amheus iawn ohonynt gan eu bod âdiddordeb arbennig yn y tŷ. Bu inni fentro gofyniddynt oedd rhywbeth o’i le ac oedd modd inni euhelpu.

Dyna pryd y dywedodd yr hynaf o’r ddwy ei bodwedi dod i ddangos ’Rallt Uchaf i’w merch gan iddifod yn byw yn y tŷ am gyfnod. Bu inni estyn croesoi’r ddwy i’r tŷ, a thros baned cawsom hanes diddorolJoan Edwina Bradley a symudodd o Gilgwri(Wirral) i Bentir pan yn bedair oed yn ystod yr AilRyfel Byd fel faciwî.

Dywedodd Joan, sydd nawr yn 77 oed, bod eirhieni’n poeni’n fawr am ei diogelwch hi a’i chwaerfach Rita oherwydd y bomio dros Lerpwl. Roedd yteulu’n adnabod Cymro oedd yn hannu o Bentir -Evan Thomas - a threfnodd yntau i’r plant aros yn'Rallt Uchaf fel faciwîs. Yn ddiddorol, symudoddnain y plant gyda nhw er mwyn edrych ar ôl y plant.

Er bod Joan yn adrodd bod gadael ei mam a’i thadwedi bod yn boenus roedd presenoldeb ei nain wedilliniaru ychydig ar bethau. Roedd rhan helaeth o’ihatgofion yn rhai melys gyda darluniau byw yn eimeddwl o blentyndod hapus iawn. Cofiai amsercynhaeaf, gan chwarae ar ben y das wair, casglumwyar duon ac eirin gwyllt. Byddai’n cerdded iYsgol Rhiwlas gan gynhesu o flaen tanllwyth o danyn yr ystafell ddosbarth. Roedd ganddi atgofion bywo chwarae ar fuarth yr ysgol a gwneud ffrindiaugydag Eirlys Gordon sydd yn dal i fyw yn Rhiwlas.

Mae’n cofio un digwyddiad amhleserus yn fywiawn. Un diwrnod roedd yn cerdded i lawr y fforddpan gyfarfu â dau fachgen. Bu iddynt gychwyngwneud hwyl am ei phen a dyma’r ddau yn rhwygobotymau ei chot a’u taflu dros ben y wal i’r cae.Dyna’r unig dro iddi deimlo’n anhapus a chwenychuam fynd adref at ei theulu.

Daeth yn rhugl yn y Gymraeg yn fuan iawn, gan nadoedd pobl yr ardal yn gyfforddus yn y Saesneg achan fod ei ffrindiau yn siarad Cymraeg. Mae Joanyn gallu ynganu enwau lleol yn berffaith o hyd erbod ei Chymraeg wedi diflannu erbyn hyn. Mae’ncofio iddi gychwyn siarad Cymraeg efo’i mam a’ithad ac iddynt ei dwrdio’n iawn gan nad oeddynt ynei deall.

I rai ohonoch sydd yn gyfarwydd â 'Rallt Uchaf maegolygfa eang dros y môr. Cofia Joan bawb yn sefylltu allan i’r tŷ ar nosweithiau braf yn edrych allandros y môr ac yn gweld awyrennau yn ymladd yn yrawyr wrth i’r Almaenwyr geisio bomio porthladdLerpwl. Adroddai Joan nad oedd yn poeni dim am eirhieni oedd yn byw yng nghyffiniau Lerpwl, gan nadoedd plentyn yn deall yr hyn oedd yn mynd ymlaen.Mae’n cofio i un awyren ddod i lawr yn yr ardal aphobl yn tyrru yno i weld y llanast.

Byddai mam a thad Joan yn ymweld o bryd i’wgilydd ar brynhawn Sadwrn. Dalient drên o Lerpwla byddai hi, ei nain a’i chwaer yn eu cyfarfod ynFelin Hen. Arhosai ei rhieni yn Nhafarn y Faenol abyddent yn dychwelyd ganol dydd y diwrnodcanlynol.

Mae’n rhaid bod y tair o Loegr wedi dioddef gyda’rtywydd i fyny yn 'Rallt Uchaf, achos bu iddynt orfodsymud i lawr i’r pentref un gaeaf ac ymgartrefu ymMryn Awel. Oddi yno y bu iddynt ddychwelyd iGilgwri ar ôl dros ddwy flynedd yma yn ardalPentir.

Byddwn yn falch pe bai rhywun yn gallu ysgrifennuychwanegiad i’r stori fer yma. Gall bod rhywrai yncofio Joan a’i theulu, yn gwybod am leoliaddamwain yr awyren, neu yn gwybod am faciwîseraill yn ardal Pentir neu Rhiwlas.Edrychaf ymlaen am gyfraniadau!

Cynrig Hughes

Dymuno gwellhadCafodd Karen Lorraine Jones, 9, Hafod Lon,anaf i’w chlun pan syrthiodd yn ei chartref. Yndilyn triniaeth yn Ysbyty Gwynedd mae higartref erbyn hyn ac yn siwr o fod yn cael pobgofal gan Ken ei gŵr. Dymunwn wellhad buaniddi.

Cynorthwyo dosbarthwyrMae llawer o’r rhai sy’n derbyn Llais Ogwanyn y pentref yn talu amdano mewn un swm arddechrau’r flwyddyn. Mae hyn yn hwylusogwaith y dosbarthwyr yn fawr gan nad oes ondeisiau ei roi drwy’r twll llythyrau, er bodhynny’n golygu colli ambell i sgwrs ddifyr.Byddai’n ddymunol ychwanegu at eu nifer osyw hynny’n bosibl.

Taith MoelyciMae’r map o’r daith ddiddorol o gwmpasMoelyci gan Arwyn Oliver yn rhifyn Hydrefo’r Llais yn nodi bod gallt weddol serth ar ôlmynd heibio i Tŷ’n Llidiart. Dilyna’r rhan ymo’r daith y llwybr y byddai dynion Rhiwlas ynei throedio ar eu ffordd i’r chwarel yn y boreac eto ar eu ffordd adref wedi’r caniad.

Hwyrach y bydd o ddiddordeb i gerddwyr – ahefyd i roddi ar gof a chadw – wybod mai’renw lleol ar y rhan mwyaf serth o’r llwybr yw‘Clip Mawr’. Yn naturiol felly gelwir terfyn yrhan serth yn ‘Pen Clip’.

ProfedigaethYn ei gartref Fish Inn, Betws y Coed, ar 29Hydref bu farw Islwyn Griffith, gynt oRhiwlas. Roedd Islwyn yn fab i Mr a MrsJohn Owen Griffith, 6 Stryd Uchaf, Rhiwlas acyn frawd i Nancy a’r diweddar Joan a Meurig.Treuliodd ei blentyndod a’i lencyndod yn ypentref, gan fynychu Ysgol Rhiwlas ac YsgolDyffryn Ogwen. Roedd hefyd yn ffyddlon ynyr oedfaon a’r Ysgol Sul yng Nghapel Pisgah,lle roedd ei dad yn flaenor.

Gan ei fod wrth ei fodd yn gweithio arffermydd lleol yn ystod gwyliau’r ysgol, roeddyn naturiol iddo astudio amaethyddiaeth yn y

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 9

Page 10: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Capel Shiloh

Ysgol Sul 10.30Oedfa’r hwyr 5.00

Dyma’r gwasanaethau am yrwythnosau nesaf:

Tachwedd 10 Parch Dafydd Coetmor Williams17 Y Parchedig Olaf Davies,

Llandegfan24 Trefniant Lleol

Rhagfyr01 Y Parchedig Gwynfor Williams08 Trefniant Lleol15 Y Parchedig W.R. Williams,

Y Felinheli22 (am 4 o’r gloch ) Oedfa Nadolig

yr Ysgol Sul29 Trefniant Lleol

Te BachCynhaliwyd Te Bachllwyddiannus ddydd Mawrth, 22Hydref. Diolch yn fawr i bawb agefnogodd. Cynhelir Te Nadoligddydd Mawrth, 3 Rhagfyr, am2.00pm yn yr eglwys.

ProfedigaethCydymdeimlwn â David, Nikolaac Izac Gale. Bu farw tadNikola yn ddiweddar.

BedyddAr 13 Hydref bedyddiwyd AlawMai, merch fach ManonRoberts, 12, Bro Syr Ifor, acwyres i Goronwy a SulwenRoberts.

DiolchgarwchDydd Iau, 24 Hydref,cynhaliwyd GwasanaethDiolchgarwch yr ysgol, a brafiawn oedd gweld y plant ynmwynhau, a’r eglwys yn llawn.

GwellhadDymunwn wellhad buan i ValHayward a Sue Matthews, yddwy wedi derbyn llawdriniaethyn ddiweddar

Eglwys y Santes fair

Tregarth

Merched y WawrCangen Tregarth

Braf iawn oedd cael croesawu CadiIolen o Riwlas atom i GangenTregarth o Ferched y Wawr, NosLun 7 Hydref . Ei thestun oedd ‘Fyngwaith yn yr Amgueddfa Lechi ynLlanberis’.

Un o ferched Dyffryn Ogwen ydiCadi, wedi’i haddysgu yn YsgolGynradd Rhiwlas, lle bu ei thaid ynbrifathro, ac yna yn Ysgol DyffrynOgwen, Bethesda. Aeth ymlaenwedyn i astudio Hanes yngNgholeg Prifysgol Bangor, lle ygraddiodd naw mlynedd yn ôl, acers ei chyfnod yn y Brifysgol maeCadi wedi bod yn Guradur yn yrAmgueddfa Lechi yn Llanberis.

Cychwynnodd ei sgwrs drwyddweud beth yn union yw gwaithCuradur, sef un sy’n edrych ar ôl ygwrthrychau amrywiol sy’n rhan ogasgliad yr Amgueddfa. Mae’rrheini’n cwmpasu offerchwarelyddol o bob math, yr offerdiwydiannol sy’n rhan o’rAmgueddfa ac wrth gwrs ydogfennau, llyfrau, lluniau ynghydâ’r adeiladau sy’n gysylltiedig â’rcampws. Drwy gyfrwng lluniauamrywiol cafodd gyfle i ddangosrhai o drysorau’r Amgueddfa, ynychwanegol at gyflwyno hanescychwyn y diwydiant chwarelyddolyng Ngogledd Cymru ac ynarbennig yn ardal Llanberis.

Roedd ei chyflwyniad o’r testun yncael ei gyflwyno’n ddiddorol ahyderus ac yn amlwg roedd eibrwdfrydedd tuag at y swyddmae’n ei wneud yn fyrlymus achyffrous. Mae’n amlwg fodCadi’n mwynhau’r gwaith y mae’nei wneud yn ddyddiol ac roedd ynfraint bod yn rhan o’r gynulleidfa afu’n gwrando arni yn Festri CapelShiloh, Tregarth. Diolchwyd i Cadigan Gwenda Davies a NestaWilliams, a dymunwyd yn dda iddiyn ei swydd fel Curadur i’rdyfodol. Mae’n amlwg y byddllawer o’r aelodau yn troi i mewnunwaith eto i Amgueddfa LechiLlanberis yn dilyn y sgwrs hynod oddifyr gan Cadi.

TregarthGwenda Davies, Cae Glas, 8 Tal y Cae, Tregarth 601062

Olwen Hills (Anti Olwen), 4 Bro Syr Ifor, Tregarth 600192

Llais Ogwan 10

coleg. Hyn ar ôl iddo gwblhau dwyflynedd yn y Llynges.

Bu’n gweithio fel ymgynghorydd igwmni Cadbury ac yn ddiweddarachi’r Weinyddiaeth Amaeth, ganddiweddu ei yrfa yng Nghaernarfon.

Anfonwn ein cofion a’ncydymdeimlad at Peggy ei briod a’rmeibion Iwan a Dewi. Hefyd atNancy ei chwaer ym Methel, a’rcysylltiadau teuluol yn y pentref a’rardal.

Gair o ddiolchAr ôl treulio chwe wythnos ynYsbyty Eryri mae Heulwen Evans,30 Bro Rhiwen, gartref erbyn hyn acyn gwella. Dymuna Heulwenddiolch o galon i bawb a fu’nymweld â hi yn yr ysbyty ac am ycardiau a’r galwadau ffôn adderbyniodd tra yn Eryri ar ar ôldod adref.

DiolchDymuna Tony Jones, 9 Bron yWaun, gyfleu ei ddiolch cywir am yrholl gardiau, ymweliadau agalwadau ffôn a dderbyniodd ar ôldychwelyd adref o’r ysbyty.

Clwb RhiwenAr 16 Hydref aeth nifer ohonom igael cinio i fferm Tŷ Mawr, acroedd cryn edrych ymlaen gan innigael sawl pryd blasus yno o’r blaen.Ni chawsom ein siomi, cawsomginio gwerth chweil y tro yma eto.Braf oedd croesawu Gwenno a Jeanatom. Diolchwyd i Jane am y croesoarferol ac i Ann am wneud ytrefniadau.

Merched y Wawr

Cyfarfod Mis HydrefCroesawyd ni i’r cyfarfod ganEinir, Llywydd y mis, aderbyniwyd ymddiheuriadau ganAnn, Linda a Helen. Roeddem amlongyfarch Linda ar fod yn aelodo’r tîm Celf a Chrefft a ddaeth yngyntaf yng nghystadleuaethLlanelwedd. Cawsom wybodaetham y cwis blynyddol, testunau’rFfair Aeaf, ac am y bagiau y gellirrhoi cynnig amdanynt hyd at 1Mawrth. Hefyd mae’r cinioNadolig wedi ei drefnu – byddwnyn mynd i’r Black Boy yngNghaernarfon.

Ein gŵr gwadd oedd GethinDavies sy’n gweithio i BarcCenedlaethol Eryri, y mwyaf yngNghymru. Fe’i sefydlwyd yn 1951a chawsom weld rhaglen ddiddorola ddangosai amrywiaeth achyfoeth y Parc. Swyddogaeth yParc yw meithrin lles economaidda chymdeithasol yr ardal. Wrthgwrs mae amddiffyn cyfoethbioamrywiaeth y Parc yn bwysigiawn hefyd. Roedd cyflwyniadGethin yn hwyliog ac ynaddysgiadol ac yn sicr roeddgennym well dealltwriaeth o’ramrywiol waith a wneir gan yParc. Diweddodd gyda dyfyniadaddas gan T.H.Parry Williams:

Ond gwn pwy ydwyf, os caf innau fryn

A mawndir a phabwyr a chraig a llyn.

Dathlu pen-blwydd arbennig.Ar 26 Tachwedd bydd WilliamHughes, Isallt, Allt CerrigLlwydion, yn dathlu ei ben-blwyddyn 90 mlwydd oed. Derbyniwchein cyfarchion gorau Bill, gan yteulu, cymdogion a ffrindiau ynNhregarth a'r cyffiniau.

GenedigaethLlongyfarchiadau mawr i Liza acAdam, Maes Ogwen ar enedigaethmerch fach, Leila Imogen. Dymawyres fach gyntaf i Helen a Huw,Erw Faen a nith fach i David Huwa Ben. Llongyfarchiadau i chi i gydfel teulu.

Dathlu Priodas AurRoedd Dydd Sadwrn, 26 Hydref ynddiwrnod o ddathlu yn Yr Encil, 20Tal y Cae, Tregarth. Dyma’rdiwrnod yr oedd Wil a Dilys ParryWilliams yn dathlu eu Priodas Aur.Gobeithio i chi gael diwrnod wrtheich bodd Wil a Dil, ac fe hoffaieich holl ffrindiau yn NyffrynOgwen anfon dymuniadau goraui’r ddau ohonoch a phob iechyd abendith i’r dyfodol.

Cogydd o friLlongyfarchiadau gwresog i HefinRoberts, mab Glenys a DerekRoberts, Pen y Braich, BraichTalog, Tregarth, ar ennill tairgwobr arbennig iawn fel cogydd.Hefin yw’r Prif Gogydd yngNgwesty’r ‘Old Bull’ ymMiwmares, Ynys Môn. Ynddiweddar, enillodd y gwesty wobram y lletygarwch a’r bwyd sy’ncael ei weini yno. Ardderchog - aphob llwyddiant i Hefin yn ydyfodol.

Gwasanaethau yDiolchgarwch yn Shiloh

Bore Sul, 13 Hydref cafwydOedfa’r Diolchgarwch gan blanta phobl ifancYsgol Sul ynShiloh. Thema’r gwasanaetheleni oedd y Tymhorau, a thrwygyfrwng darlleniadau, emynau,unawdau, gweddïau a chaneuonar y testun cafwyd gwledd ynwir i bawb o’r gynulleidfa oeddyn bresennol. Roedd yn brafcael croesawu’r gwyddonyddDr Deri Tomos, Llanllechid i roisgwrs ar y newid sy’n digwyddyn y Tymhorau a’r hinsawdd amor ofalus y dylem i gyd fod ynein hagwedd tuag at yramgylchfyd a sut i’w warchodi’r dyfodol. Diolchwyd i’rsiaradwr gwâdd am roi i ni olwgnewydd ar y pwnc ac am eiddull cartrefol braf o gyfleu eineges yn ddiddorol a naturiol.

Dathlwyd Nos Lun yDiolchgarwch ar 21 Hydrefgydag oedfa yng nghwmni yParchedig Philip Barnett,Deganwy. Roedd yn braf iawncael croesawu ein cyn-weinidogyn ôl i bulpud Shiloh.Bore Sul, 10 Tachwedd, bydd yrYsgol Sul yn croesawu BuddugJones, Caernarfon, a’i chitywys. Dyma’r eildro i Buddugddod yma atom, ac mae croesomawr i unrhyw un a hoffai fodyn bresennol yng nghwmni’raelodau, a hynny am 10.30.

Bydd aelodau’r Ysgol Sul ynbrysur yn yr wythnosau nesafyn paratoi ar gyfer Gwasanaethy Nadolig , fydd yn cael eigynnal ar 22 Rhagfyr am 4.00o’r gloch.

Gwasanaethau

Tachwedd 24 9.45 Cymun Bendigaid

Rhagfyr 01 5.00pm Gwasanaeth Adfent08 9.45am Cymun Bendigaid15 4.00pm Gwasanaeth Carolau22 9.45am Cymun Bendigaid25 9.30am Cymun Bendigaid

Clwb Cant Medi£15 117 – Ann Jones£10 44 – Babs Roberts£ 5 98 – Muriel Williams

Clwb Cant Hydref£15 156 – Tim Jones-Griffith£10 106 – Goronwy Roberts£ 5 75 – A.M.Pritchard

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 10

Page 11: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 11

Mynydd

LlandygáiTheta Owen. Gwêl y Môr, Mynydd Llandygai. 600744

DiolchHoffwn ddiolch i Einir Frodsham am eigwasanaeth fel dosbarthwraig a gwerthwraigLlais Ogwan yn Mynydd Llandygai. Mae’ndda gennym glywed ei bod am ddal i werthuein calendrau. Croesawn Helen Berry, BrynHyfryd, St Ann’s (600583) yn ei lle, gydachymorth Colin Jones. Hefyd, oherwyddcynnydd yn nifer y prynwyr, croesawn bedwaro werthwyr newydd, sef Lynn Ashton, JohnJones, Sioned Ryder ac Elin Sanderson.Diolchwn hefyd i’r gwerthwragedd sy’n dal iweithredu, sef Rhian(wen) Roberts ac EdithJones.

ProfedigaethCydymdeimlwn â Mrs Mair Williams, Arafon,yn ei phrofedigaeth o golli ei brawd Mr DeiParry. Ymddiheurwn am fod yn hwyr. Rydymyn meddwl amdanoch.

Clwb MynyddCafwyd prynhawn hyfryd yn y Clwb ynddiweddar. Ein gŵr gwâdd oedd y Canon IdrisThomas, gyda’i ddarlith am Ysbyty ChwarelDinorwig a’r ardal. Pawb wedi eu plesio.Cafwyd paned, ac enillydd y raffl oedd MrsPaula Jones. Bydd y trip ar 20 Tachwedd iGaer, gyda’r bws yn gadael o’r pentref am 9o’r gloch

Clwb IeuenctidBydd y Clwb yn cynnal Bingo Nadolig yn yNeuadd Goffa am 7.00 o’r gloch ar 3 Rhagfyr.Buasent yn falch iawn o dderbyn unrhywgyfraniad at yr achos. Aiff yr elw at bartiNadolig aelodau’r Clwb. Diolch yn fawr.

GwaeleddNid yw Mr Elwyn Davies yn rhy dda ynYsbyty Gwynedd. Mawr obeithiwn eich bodyn teimlo’n well, ac anfonwn ein cofion atoch.Anfonwn ein dymuniadau gorau at bawb sy’nsâl yn y pentref a dymunwn adferiad buan ichwi i gyd.

Edward Oliver

Mynnaf nad llwch mohono; mae ei wênyn y mynydd eto;

Araf erioed i’w wyroA’i roddi i lawr oedd ei haul o.

Gwynfor ab Ifor

CHWILAIR MIS TACHWEDD 2013Emynau Caneuon ffydd

Y mis yma mae LLINELL GYNTAF RHAI O EMYNAU CANEUON FFYDD i’w darganfod.Mae un cliw wedi ei ddangos yn barod. A oes modd i chwi ddarganfod y gweddill? (Mae LL,CH, DD, TH), ac yn y blaen yn un llythyren yn y Gymraeg, ond i bwrpas y chwilair dangosirhwynt fel dwy lythyren ar wahân.

Atebion gydag enw a chyfeiriad i Andre Lomozik, Zakopane, 7 Rhos-y-coed, Bethesda,Bangor, Gwynedd, LL57 3NW. Erbyn 4 RHAGFYR. Bydd gwobr o £5 i’r enw cyntaf allan o’rhet. Os na fydd unrhyw un wedi darganfod y deuddeg yna’r rhif agosaf fydd yn cael y wobr.

Nifer fawr iawn ohonoch wedi darganfod LUC yn y chwilair mis diwethaf. Ond fel roeddllygaid craff Mr Elfed Bullock wedi sylwi, roedd yr atebion cywir i gyd yn dod o’r HENDestament. Hap a damwain oedd i LUC ymddangos. Diolch i Donna Coleby am roi cynnigunwaith eto ar y Chwilair, mae wedi bod sawl mis ers i mi dderbyn ateb ganddi. Pob lwcgyda’r testun y mis yma. Dyma atebion Hydref. Brenhinoedd, Daniel, Eseia, Exodus, Genesis,Habacuc, Josua, Lefiticus, Numeri, Obedeia, Samuel a Seffaneia.

Dyma enwau’r rhai a gafodd yr atebion cywir:- Rhiannon Efans, Glanaber, Pant; Merfyn a Laura Jones, Tregarth; Mrs G. Clark, Tregarth;Rosemary Williams, Tregarth; Elfed Bullock, Maes y Garnedd, Bethesda; Eira Hughes, FforddFfrydlas, Bethesda; Dilys A. Pritchard-Jones, Abererch, Pwllheli; Mair Jones, Ffordd Bangor,Bethesda; Marilyn Jones, Glanffrydlas, Bethesda; Herbert Griffiths, Tregarth.

Enillydd Medi oedd:- Marilyn Jones,1 Glanffrydlas, Bethesda.

Cangen Plaid Cymru

Dyffryn Ogwen

Cynhaliwyd cyfarfod o’r gangen ar 29 Hydrefyng Nghanolfan y Cefnfaes.

Cafwyd adroddiadau gan y rhai a fu yn yGynhadledd Flynyddol ac roedd pawb wedi euplesio yn arw gyda’r drefniadaeth a’rsiaradwyr ynghyd â’r sylw a ddenwyd gan ywasg. Y farn oedd iddi fod yn Gynhadleddeffeithiol ac adeiladol.

Mae Paul Rowlinson a Rheinallt Puw wedi euhethol ar Y Cyngor Cenedlaethol a fydd yncyfarfod i gydfynd â’r Ysgol Aeaf yngNgwersyll Glan Llyn, Tachwedd 22ain –24ain.

Eisoes mae ymgyrch Hywel Williams ar gyferyr Etholiad Gyffredinol wedi dechrau ac maenifer wedi bod o amgylch gwahanol ardaloeddyn gofyn barn y boblogaeth ynglŷn â nifer obethau sy’n ymwneud â’u bywyd bob dydd.

Unwaith eto cododd y pwnc Parcio yn yGerlan. Cafwyd gwybod bod trefniadau igynnal cyfarfod cyhoeddus eto amddiweddariad ac mae’r Cynghorydd DyfrigJones yn trafod y mater gyda nifer oswyddogion yn dilyn y cwynion mae o, a’rCynghorwyr Ann Williams a Linda Brown, yneu derbyn.

Codwyd y mater ynglŷn â’r blerwch a welir oflaen un adeilad yn arbennig ar Stryd FawrBethesda ble gwelir biniau ysbwriel gorlawnbron ar bafin y stryd. Bu’r Cynghorydd AnnWilliams yn ymweld â’r lle ynghyd â swyddogo’r cyngor sir i gwyno am y mater a gofyn amwella’r sefyllfa.

Cafwyd Bore Coffi llwyddiannus yng NghaffiCoed y Brenin a gwnaed elw da. Diolch eto iKaren a’r staff am eu gwasanaeth parod.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 26 Tachwedd ynyr un man, ac mae croeso i’n holl aelodauddod draw.

HENO & PRYNHAWN DA:

Wrth galon eich cymunedau

Mae rhaglenni cylchgrawn poblogaidd S4C,Prynhawn Da a Heno yn crwydro Cymru ynddyddiol yn chwilio am eich straeon chi. Rhannwch eich straeon â ni, neu beth am eingwahodd i’ch cymunedau? Boed eich stori’nfawr neu’n fach, mae lle iddynt ar PrynhawnDa a Heno.Codwch y ffôn 01554 880 880, [email protected]@tinopolis.com, neu dilynwchni ar Trydar a Facebook.

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 11

Page 12: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 12

Pwy Sy’n Cofio Ddoe?

© Dr J. Elwyn Hughes

Dyddiadur Digwyddiadau 1855-1860

1855

Dechrau saethu bob awr yn Chwarel yPenrhyn.11/12/1855: Geni David ThomasFfrangcon Davies, yn fab i Dafydd aGwen Davies, Mount Pleasant (y tŷ, aoedd yn un o ddau, a oedd agosaf at ychwarel ar lôn Bryn-llwyd. Tynnwyd yddau dŷ i lawr tua chanol y 1960au.Addysgwyd ef yn Ysgol Pont-Tŵr, Ysgoly Friars a Choleg yr Iesu, Rhydychen.Gyrfa yn yr Eglwys i ddechrau, yna troi’ngerddor proffesiynol a datblygu i fod yngerddor byd-enwog. Ymwelai ag Americaa’r Almaen i ganu a darlithio argerddoriaeth. Yn 1904, cafodd ei benodi’n

athro yn y Royal Academy of Music. Yn1905, cyhoeddodd The Singing of the

Future. Bu farw 13/04/1918.Ysgrifennodd ei ferch, Marjorie, David

Ffrangcon-Davies – His Life and Book yn1938. Roedd ei ddwy ferch (Gwen oedd yllall) yn actoresau pur adnabyddus.14/07/1855: Geni’r cerddor R[ichard]S[amuel] Hughes yn Aberystwyth.

1856

09/10/1856 (dydd Iau): Cysegru EglwysGlanogwen gan yr Esgob Bethel. Costioddtua £6000. 01/1856: Goleuni nwy am y tro cyntaf ynrhai o siopau a thai’r ardal.Y Bedyddwyr yn symud o GapelCaersalem i’r Stryd Fawr – i’r adeilad adrowyd yn Siop Tŷ Mawr wedi hynny(bellach wedi’i dymchwel). Symudwydwedyn i Gapel y Tabernacl ar Allt Pen-y-bryn.Edward Stephen (Tanymarian) yn dod ynWeinidog ar Gapel Bethlehem (Tal-y-bont) a Charmel (Rachub). Bu yno tan eifarw yn 1885. Claddwyd ef ym MynwentCapel Bethlehem.Cau Chwarel y Coed (Llety’r Adar).05-06/11/1856: Ailagor Capel Hermon(MC), Mynydd Llandegai, ar ôl eiailadeiladu. Eisteddfod Bethesda.

Tua 1857

Adeiladu Pant Teg, Tŷ Gweinidog CapelShiloh, Tregarth. [LLO 06/89]

1858

03/02/1858: Ffurfio Plwyf GlanogwenAiladeiladu Capel Shiloh, Tregarth.

29/08/1858: Lladdwyd y cerddor RobertDavies (Asaph Llechid), 24 oed, ynChwarel y Penrhyn. Claddwyd ef ymMynwent Glanogwen.

1859

16/10/1859: Y Frenhines Victoria a’i gŵryn ymweld â Chastell y Penrhyn. Rhoes yFrenhines gwpan arian a thros £150 obunnau i aelodau côr Llanllechid a’uharweinydd, Eos Llechid.Y Parchedig David W. Thomas yn dod ynFicer St Ann. Bu yno tan 1894. Bu farwRhagfyr 29, 1906.09/10/1859: Y Diwygiad yn gafael yngNghapel Carneddi.15/10/1859: Yr Arglwydd Penrhyn yncyflwyno harmoniwm ‘to the choirs of thedifferent denominations of Dissenters nearthe Penrhyn Quarry’.

Tua 1860

Capten Twigge yn agor Chwarel MoelFaban.

1860

Codi Capel Saron, Ty’n-y-Maes. Caewydnos Lun, Mai 11, 1970. Ailadeiladu Capel Bethlehem, Tal-y-bont.Ailadeiladu Capel Carmel, Rachub.Hydref: ‘Derbyn cyflawnder o ddwfrspring rhagorol trwy bibell haearn o frynCarneddi i lawr i’r lle mwyaf cyfleus ymMethesda i bawb i’w gael yn rhad ac amddim. Llenwir dyfrlestri yn ddiymaros ganddwfriedyn ardderchog. Rhodd yr HenLord’. Sefydlu Cymdeithas Lenyddol CapelBethesda.

I’w barhau

LLYFR O DDDIDDORDEB ARBENNIG ILENGARWYR DYFFRYN OGWEN

Yn ddiweddar, cyhoeddwyd y gyfrol Bob:Cofiant R. Williams Parry 1884 – 1956 gan ybardd a’r ysgolhaig, yr Athro Alan Llwyd.Gan fod R. Williams Parry wedi treulio 34 oflynyddoedd yn Nyffryn Ogwen bydd y gyfrolo ddiddordeb arbennig i drigolion yr ardal.

I unrhyw un sydd ag unrhyw fath oddiddordeb mewn llenyddiaeth yng Nghymrubydd teitlau fel ‘Eifionydd’, ‘Y Llwynog’ ac‘Englynion Coffa Hedd Wyn’ yn sicr yn canucloch. Dyma rai o gerddi y bardd anfarwol R.Williams Parry, wrth gwrs, ac er bod sawldegawd ers eu cyfansoddi, mae rhai o’i gerddiyn dal i fod ar faes llafur cyrsiau Cymraegmewn ysgolion, colegau a phrifysgolion hydheddiw.

Meddai Alan Llwyd, “Wrth farddoni, roedd R.Williams Parry yn un o’r ychydig feirdd oeddwastad yn cadw safon uchel ac yn rhoi sylwmanwl i gywirdeb ei grefft, ac o ganlyniadmae bron bob cerdd ganddo yn gampwaith.

“Dwi’n credu mai ei gamp fwyaf oll yw’rcorff anhygoel o farddoniaeth mae o wedi eiadael ar ôl i ni, ac mae’r ffaith bod y cerddihynny yn dal i fod yr un mor boblogaiddheddiw ag yr oedden nhw pan gawson nhw eu’sgwennu’r tro cyntaf yn dyst o’i ddawnaruthrol.”

Yn ogystal â thrafod barddoniaeth R. WilliamsParry mae’r gyfrol yn trafod ei fywyd, eigynefin, ei deulu, ei addysg a’r hollddylanwadau arno. Mae llawer o gerddi’rbardd mewn ymateb i ddigwyddiadau a oeddyn effeithio ar y gymdeithas ac ar Gymru felcenedl. Un o’r digwyddiadau a fu’n fawr eiddylanwad ar y bardd oedd y weithred olosgi’r Ysgol Fomio yn Llŷn gan SaundersLewis, D.J. Williams a’r Parch LewisValentine yn 1936, a’r ddau achos llys a’rcarchariad a’i dilynodd, ac yn arbennig felly,ddiswyddiad Saunders Lewis gan GolegPrifysgol Cymru, Abertawe.

Digwyddiad arall fydd o ddiddordeb arbennigi ddarllenwyr yn Nyffryn Ogwen yw dyfodiadyr ifaciwîs i’r ardal yn 1939 o ganlyniad igyhoeddi dechrau’r Ail Ryfel Byd,digwyddiad a fu’n achos anghydfod aarweiniodd at ymadawiad y Parch. ThomasArthur Jones, Gweinidog Jerwsalem.

Un o’r penodau mwyaf cyffrous yn y llyfryw’r bennod ‘Helynt y Brifysgol’, sy’n trafody frwydr hir a chwerw rhwng y bardd a’ibenaethiaid yng Ngholeg Prifysgol GogleddCymru, Bangor. Mae’r hanes hwn hefyd oddiddordeb lleol oherwydd bod y gwrthdarorhwng y bardd a’r Athro Ifor Williams, yrysgolhaig o Dinas, Tregarth.

Cyhoeddir y gyfrol gan Wasg Gomer acmae copïau ar werth yn y siopau llyfrauCymraeg. Pris: £25.00.

O’r Llyfrgell

Llongyfarchiadau mawr i Wil Davies 6 oed,o Ffordd Bangor, ac aelod o LyfrgellBethesda, ar ennill un o dair gwobr gyntafyng Nghystadleuaeth Haf LlyfrgelloeddGwynedd. Derbyniodd becyn o nwyddaucrefft - da iawn ti, Wil.

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 12

Page 13: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 13

Plaid Lafur Dyffryn Ogwen

Ar ddechrau mis Hydref, aeth rhai o’r aelodau i gyfarfod yn y Rhyl i drafoddogfennau polisi’r Blaid Lafur – e.e. y ddogfen ar y berthynas rhwng yr undebaua’r Blaid Lafur – gyda Lesley Griffith, y gweinidog dros lywodraeth leol, a MartinEaglestone, swyddog polisi Plaid Lafur Cymru.

Hefyd, aeth cynrychiolwyr y gangen i Fethel i drafod tair dogfen bolisi (amAddysg, Tai a Chyfansoddiad Cymru) ar gyfer fforwm polisi i Gymru.

Yng nghanol y mis, aeth nifer o aelodau i noson o hwyl yng NghyfforddLlandudno, yn dwyn yr enw ‘Stand Up for Labour’ ( tri digrifwr gwleidyddol).

Tua diwedd y mis, aeth y selogion i drafodaeth wleidyddol ym Mangor, gydagAlun Pugh (ymgeisydd seneddol Llafur), Hywel Williams (aelod seneddol) a MarkJones (newyddiadurwr o Wrecsam) - y tri gyda safbwyntiau tebyg wrthgollfarnu’r llywodraeth bresennol yn San Steffan.

Yn ogystal â hyn, mae tîm o Ddyffryn Ogwen wedi bod yn canfasio ar y ffôn ynwythnosol, a chynhaliwyd y cyfarfod misol arferol ym Methesda, pryd y cafwydadroddiad am Gyngor Gwynedd (e.e. 24% yn ysmygu, ond bod targed o 20%erbyn 2016), adroddiadau am y cynghorau cymunedol, â materion mewnol.

Treth ar Ystafelloedd Gwely Gwag:Yn ystod ei hymweliad diweddar â Dyffryn Ogwen, datganodd YsgrifennyddGwladol Gwaith a Phensiynau’r Wrthblaid yn San Steffan, Rachel Reeves, AS, eihymroddiad llwyr i gael gwared â’r dreth annheg uchod. Ymunodd Ms Reeves agAlun Pugh ar ei daith o amgylch busnesau lleol, ac ar ymweliad â chartrefi ynNhregarth.

Dywedodd Mr Pugh: “Llwyddais i gyfleu i Ms Reeves yr effaith andwyol y mae’rdreth yma’n ei chael yn yr ardal hon. Mae rhai pobl yn gorfod codi benthyciadaudiwrnod tâl, ac yn ddibynnol ar fanciau bwyd. Mae mwy fyth yn cael eu gwasgugan gostau ynni, sydd yn codi ar raddfa deirgwaith yn uwch na graddfachwyddiant. Mae cynlluniau Llafur i rewi prisiau nwy a thrydan hyd 2017, ac iddiwygio’r farchnad ynni, wedi ennyn llawer o gefnogaeth. Nid yw’n ormodiaithdweud bod argyfwng costau byw yng Ngwynedd, gyda miloedd o bobl wedi’ucaethiwo rhwng cyflogau sydd wedi’u rhewi a phrisiau cynyddol”.

Gweithgareddau i ddod:Cynhelir noson agored Plaid Lafur Arfon (Ysbryd 45) yn Galeri ar 29 Tachwedd, aFfair Nadolig y gangen ar 7 Rhagfyr yng Nghaffi Coed y Brenin.

COFIO SIONYNY diweddar Michael Jones (Meic, Felinhen) oedd ynbyw mewn tŷ pâr y drws nesaf i mi ym Mraichtalog,Tregarth, erstalwm. Roedd ef ychydig bach yn hŷn nami a bu ei lystad farw ar ddiwrnod Nadolig yn y 1950aucynnar. Wedi'r digwyddiad trist hwnnw fe symudoddMichael i Rhiwlas i fyw gyda'i fam wen a daeth teuluarall i fyw y drws nesaf i mi wedyn.

" Greigfa Farm " oedd enw cartref Michael ymMraichtalog ond tyddyn ydoedd y ' fferm ' honno mewngwirionedd ac ‘roedd ei ychydig dir yn amgylchynu fyhen gartref. Enw hwnnw oedd " Greigfa Cottage ".Gyrrwr bws Crosville a nabodid gan bawb fel 'Sionyn'a'i wraig, a hannai o rywle ym mherfeddion Môn,ynghyd â'u dau blentyn ac un fonesig ifanc arall oeddtenantiaid newydd " Greigfa Farm ".

Yn ogystal â bod yn yrrwr bws‘’roedd Sionyn ynamaethwr medrus, a hoffwn ei wylio'n trin a diwylliotir ei fferm cyn amled ag y medrwn.

Un dydd, wedi i Sionyn godi aradr olwyn o'i orweddlear fuarth ei fferm, fe'i gwelais ef yn bachu clust yrofferyn hwnnw wrth harnais gwedd ddwbl o geffylaugwaith ac wedyn fe'i dilynais i gae bychan, lle gwelaisef o un o'r talarau'n aredig gwndwn tewgroen nad oeddei wyneb wedi cael ei godi ers hydoed cyn hynny.Roedd y mymryn lleiaf o oriwaered ar y cae ond gannad oedd digon o lethr ynddo, ei aredig ar draws yllechwedd yn hytrach nag i fyny ac i lawr yn ôl arfergwlad y cyfnod wnaeth Sionyn.

Châi Sionyn mo'i boeni gan fân gnwciau a phantiau yny tir tra byddai'r wedd yn symud ac, o'i gychwynfan i'wgyrchnod, ni fyddai neb yn ardal Tregarth a dynnaiunionach cwys nag ef. Ni fyddai penelinoedd na balciauyn ei gwysi a byddai'n cwyso'n gyson heb godi priddnewynllyd i'r wyneb wrth hwylio'i aradr.Byddai'n dyner gyda'i feirch ac oherwydd hynnybyddent hwythau’n cyd-gamu'n ufudd fel milwyr yn ywedd o dalar i dalar heb wegian yr un iot.

Tra byddai Sionyn yn edmygu ceinder ei waith o benbob cwys, edrychwn innau ymlaen at gael clywed sŵny cwlltwr yn rhwygo'r tir unwaith yn rhagor a chaelgweld y ceffylau yn y wedd yn pwyso ar eu coleri wrthwneud eu gwaith. Mae gennyf gof byw o hyd o su'rcwysi'n cael eu troi gan asgell bridd yr aradr fel ysymudai Sionyn y wedd yn ei blaen wedi bob hoe fach,a sawr y pridd a ddeuai i'r wyneb yn llenwi fy ffroenau.

Ymhen amser priodol wedi'r cwyso gwelais Sionyn ynllyfnu'i âr gydag og bigau. Gyda honno roedd yn cauceg y cwysi a malu'r clapiau pridd oedd ynddynt ganwneud yr âr yn wely addas ar gyfer derbyn hadau. Caelei thynnu ar hyd y cwysi yn hytrach nag ar eu trawsgâi'r og ganddo.

Gyda'i ddwy law y byddai Sionyn yn hau a hynny ogynfas o'i flaen a fyddai ynghrog wrth ei wegil ar ffurfgwarrog. Roedd yn heuwr dan gamp. Byddai'n hau eihadau'n wastad a heb fynd dros yr un lle ddwywaith nagadael rhimynnau o'r cae heb had. Wedi hynny byddai'ndefnyddio rowler ysgafn a lusgid gan un o'i geffylau iwasgu'r had yn dyner i bridd yr âr.

Gyda phladur y byddai Sionyn yn lladd eiweirgloddiau. Ymhen rhyw dridiau wedyn fe ddeuaipawb oedd yn byw ym Mraichtalog at ei gilydd i droi'rgwaneifiau iddo fel y câi'r haul a'r gwynt sychu'r gwairynddynt yn llwyr cyn iddynt gael eu cywain gyda throla cheffyl i ddiddosrwydd sgubor ar gwr ei fferm arddiwrnod cario gwair. Caem ni blant hwyl fawr ynchwarae yn y gwair adeg y cynaeafau gwair hyn ymMraichtalog.

Ysywaeth, y mae Sionyn - coffa da amdano! - bellachyn ei fedd ac mae holl amgylchiadau bywyd gwlediggynt o'r math a ddisgrifiais uchod wedi newid yn llwyr,ac yn fy marn i mae rhai agweddau ar y newidiadauhynny'n golled mawr i unrhyw gymdeithas wâr.

DAFYDD LLEWELYN – gynt o Dregarth.

Llyth yrErs ychydig fisoedd bellach, yr wyf wedi bod yn gweithio ar gynllun newydd sef olrhainhanes a cherddoriaeth sioeau cerdd Cymraeg, gyda’r bwriad o greu archif o’r hyn yr wyf ynei gasglu.Euros Rhys Evans sy’n cydlynnu’r cynllun, ac ‘rydym yn gweithio’n galed igynnwys cynifer â phosibo sioeau a chaneuon yn yr archif.

Mae’n rhyfedd sut y mae gennym ryw draddodiad yma yng Nghymru o ysgrifennu sioeau argyfer achlysur, ac yna peidio ei pherfformio byth eto! Buaswn wrth fy modd cael atgyfodirhai o’r sioeau yma a rhoi cyfle i ieuenctid y wlad i’w perfformio. Bydd yr archif hefyd ofudd i ddisgyblion llais a drama gan y bydd cronfa newydd o ganeuon yna ar eu cyfer.

Mae’r cynllun yn cael ei ariannu gan y Coleg Cenedlaethol, ac mae’r archif yn cael ei redeg oBrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.Yr hyn a obeithiaf yw y gall eich papur fod yn helpmawr i mi ddod o hyd i ychydig mwy o gerddoriaeth a sioeau!

Apêl yw hwn felly am wybodaeth neu memorabilia neu unrhyw beth yn ymwneud â sioe agafodd ei sgwennu/pherfformio yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf – nid oes ots pa mor fyrneu hir yw’r sioe!Os hoffech fwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Richard VaughanSwyddog Archif Sioeau Cerdd Cymraeg

[email protected]

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 13

Page 14: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 14

Taith o Amgylch y frogydag Arwyn Oliver

Taith 6: Y Lôn Las i gyfeiriad Tregarth acyn ôl

Cychwyn ger Meddygfa’r Hen Orsaf ymMethesda a cherdded heibio rhes tai LônSarnau sydd ar y chwith. Ewch ymlaen heibioffatri G L Jones ar lwybr Pont Sarnau sy’nmynd gydag ymyl Afon Ogwen. Peidiocroesi’r bont ond yn hytrach, dilyn y Lôn Lasnewydd (heb agor yn swyddogol eto) hydlannau Afon Ogwen nes codi rhyw gymaint iddilyn yr hen reilffordd i gyfeiriad Bryn Bela.

Parhau ar y Lôn Las, o dan ddwy bont nescyrraedd i olwg y twnnel. Cadw i’r chwith ynfan hyn ar y tar mac a dilyn y lôn feics i'r lôn aPhont Coetmor ar y chwith. Croesi’r bont adilyn y ffordd i fyny at groesffordd HenDyrpeg. Croesi’r ffordd ac i fyny Lôn Hafoty,heibio arwydd glas a heibio Cwt y Giard, sy’ndal ar ei draed ers pan gaewyd lein y chwarel.

Daw Lôn Hafoty a chwi i gyffordd Lôn BraichTalog sy’n arwain o Benygroes, Tregarth iFynydd Llandygai. Troi i’r chwith a cherdded ifyny’r ffordd heibio i dai Hafoty Uchaf a giâtGlan Y Gors ar y dde. Ymhen rhyw ganllath,fe ddowch at dro i’r chwith ar y ffordd.Croeswch, ac ewch drwy’r giât fochyn ar ydde. Cerdded rhyw ddeg cam ac fe welwchgiât fochyn arall aiff a chwi i’r dde eto igyfeiriad Dob. Ewch drwy’r giât a dilyn yllwybr hyd odre Parc Dob.

Daw’r llwybr a chwi maes o law at giât brensy’n arwain at fferm Dob. Trowch i’r dde ilawr y llwybr gan gymryd gofal ar y grisiauconcrid. Dilyn y llwybr heibio talcen tŷ ac ynsyth ymlaen i lawr am bentref Tregarth. Cadwam i lawr a pheidio troi i’r chwith am WaunPandy. Ymhen dim fe ddowch i waelod yr alltac ymuno â ffordd Tregarth, rhyw ganllathislaw tafarn Pant yr Ardd.

Trowch i’r chwith a cherdded ychydig amPenrala. Croesi’r ffordd ac anelu am arwydd yLôn Las sydd ar y dde ac sy’n eich cyfeirioheibio talcen hen Siop Penrala ac i lawr am yGanolfan.

Aiff y llwybr a chwi heibio’r cae pêl droed adilyn llwybr yr hen lein eto. Ewch o dan ybont lein chwarel a throi i’r chwith i fynygrisiau'r llwybr am Lôn Cerrig Llwydion.Trowch i’r dde ac i fyny’r allt heibio Pendinas(cartref Syr Ifor Williams).

Wedi cyrraedd y brif lôn trwy Dregarth, cadwi’r chwith heibio stad Bro Derfel. Wedi pasiomynedfa’r stad, ewch i lawr y llwybrcyhoeddus (wedi arwyddo) heibio Pen Gamfaac i lawr y grisiau. Croeswch Lôn Dinas acymuno a’r llwybr grisiau eto nes cyrraedd ylôn a Phont Coetmor. Croeswch y bont a throii’r chwith i ymuno a’r Lôn Las unwaith eto.Dilynwch y Lôn Las yn ôl i’r man cychwyn.

Pellter: Tua 4 milltirAmser: Rhyw 2 awr hamddenolMath o daith: Cymedrol – dwy allt, LônHafoty a Cherrig LlwydionOffer: Esgidiau cerdded - y llwybr heibio ParcDob yn wlyb mewn mannau

David Thomas Ffrangcon-Davies

DRWY ei holl fywyd yr oedd David T. Ffrangcon-Davies ynŵr o argyhoeddiadau dwfn, mewn crefydd ac mewn

cerddoriaeth. Fel bachgen ifanc yr oedd ef wedi cerdded ybryniau oddiamgylch ei gartref ac wedi gweld gweledigaethau abreuddwydio breuddwydion. Yno mewn dychymyg y cerddaiac y siaradai â’r proffwyd Elias a chanu. Oherwydd fel plentynbyddai’n canu bob amser – yng nghorau’r capel a’r eglwys yngyffelyb. Ac yr oedd yn atgof parhaus o’i hapusrwydd ifanc gerBwlch Nant Ffrancon yr hyn y bu iddo ef ychwanegu yr enwFfrangcon i’w enw bedydd pan adawodd Cymru i fynd i’r coleg.

Ganwyd David T. Ffrangcon-Davies ym Mount Pleasant,Bethesda, yn 1855. Darganfu ei rieni ei fedrusrwydd, agwnaethont bob aberth i’w anfon o ysgol y pentref (YsgolGenedlaethol Pontŵr) i Ysgol Ramadeg Friars, Bangor, ac yna iGoleg Iesu, Rhydychen (graddiodd yn B.A. ac yn M.A.). Er nadoeddynt hwy eu hunain yn grefyddol iawn penderfynont ybyddai talentau Ffrangcon yn fwy buddiol i’r Eglwys, ac yn fuanar ôl cymeryd ei radd cafodd ei ordeinio yn esgobaeth Bangor. Urddwyd ef yn ddiacon yn EglwysLlantysilio, Porthaethwy, yn 1883, ac yn gurad yng Llanaelhaearn y flwyddyn ddilynol. Tra’n gurad yngNghonwy (1885) bu’n astudio’r organ o dan organydd yr eglwys gadeiriol ym Mangor, a’r un prydcyfarfu am y tro cyntaf â’i ddarpar wraig, Annie Francis Rayner, a briododd yn 1889.

Bu i siomedigaeth ynglŷn â dyrchafiad arwain i guradiaeth yn yr East End, Llundain, ac argyhoeddiadmwy fod ei wir fywyd mewn cerddoriaeth. Heb esgeuluso ei ddyletswyddau plwyfol bu wrthi’n galedyn astudio canu yn Ysgol Gerdd y Guildhall, a chafodd gynnig lle gyda Cwmni Opera Carl Rosa.Ymddiswyddodd o’i guradaeth ac ymunodd â’r cwmni a bu galw mawr iawn arno am ei wasanaethdrwy’r wlad, lle bu i rym ei bersonoliaeth greu argraff ddofn, yn enwedig yn ei ddehongliad o’rproffwyd Elias. Ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ar y llwyfan oedd yn Neuadd y Free Trade,Manceinion, yn Ionawr 1890. Aeth i’r America ar daith gerddorol yn 1896 ac 1898, ac yna i’r Almaenyn 1898, lle bu’n canu ac yn dysgu. Dychwelodd i’r wlad hon yn 1901 ac o’r flwyddyn honno daeth ynffrind agos i Syr Edward Elgar, a gyfansoddodd ‘Yr Apostolion’ yn ddiweddarach gyda Ffrangcon-Davies mewn golwg i chwarae rhan Crist. Ym Manceinion hefyd y bu ei berfformiad cyntaf mewnopera, pan chwaraeodd ran Valentine yn ‘Faust’.

Nid athro cyffredin mohono, yn fodlon i ddatblygu llais ei ddisgybl a’i lais yn unig. Yr oedd canu iddoef yn gynnyrch o’r dyn cyfan – corff, meddwl ac ysbryd yn cyfuno i greu undod o brydferthwch. Aethyn ôl i’r America drachefn yn 1901 i ddarlithio ar gerddoriaeth y gwahanol wledydd a chanu yn y prifgyngherddau. Yn 1904 penodwyd ef yn athro yn yr Academi Brenhinol. Yn 1905 cyhoeddodd lyfr llemae’n datgan am argyhoeddiadau ei oes, ‘The Singing of the Future’. Bu farw Ebrill 13, 1918.

Merch i David ac Anne Ffrangcon-Davies oedd Miss Gwen Ffrangcon-Davies. Yn Llundain y’iganwyd; Saesnes oedd ei mam. Aeth byd y ddrama a’i serch pan oeddhi’n blentyn, ond methodd ei thad, oherwydd afiechyd, â rhoi ygefnogaeth oedd arni cymaint ei heisiau. Mr. Redgewolf Dansig,disgybl i’w thad, a ddysgodd ganu iddi, a Mr. Rutland Boughton, awduryr ‘Immortal Hour’, a’i dysgodd hi i ganu’r piano.

Gyda Mr Boughton, yn Glastonbury yn 1919, yr actiodd am y trocyntaf, a hynny yn ‘A Midsummer Night’s Dream’, ac mewn dramaueraill – rhai cerddorol i gyd.

Wedi hynny bu’n dysgu eraill i ganu yn Llundain, ac yn 1920 fedynnodd sylw Syr Barry Jackson. Bu’n perfformio yn Birmingham yn‘The Immortal Hour’, ac wedyn yn Llundain. Bu gyda Syr BarryJackson am bum mlynedd, a bu’n actio mewn amryw o ddramau Shaw.Wedyn cymerodd ran Tess yn ‘Tess of the D’Urbervilles’, ac mi fu yn

Sir Dorset lawer gwaith yn gweld Thomas Hardy, yr awdur. Ar ol hynny bu’n cyd-actio â Miss EdithEvans yn ‘The Lady of the Lamp’, drama wedi ei selio ar fywyd Florence Nightingale. Yn 1931 `roeddyn actio y brif ran yn ‘The Barretts of Wimpole Street’ yn y Queen’s Theatre yn Shaftesbury Avenue,Llundain. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu ei chwaer allan yn yr Aifft gyda phartion canu LenaAshwell yn canu i’r milwyr Cymreig yn El Fferdan.

Côr y PenrhynRygbi a mwyAeth y côr i lawr i’r brifddinas ar benwythnosy 9fed a’r 10fed o Dachwedd i gymryd rhan ynyr adloniant cyn y gêm ryngwladol rhwngCymru a De Affrig ar y dydd Sadwrn. Felarfer, roedd yr awyrgylch cyn y gêm yndrydanol a chyda’r dyrfa enfawr yn llenwi’rseddau cafodd yr aelodau brofi’r wefr o ganu oflaen y miloedd yn Stadiwm y Mileniwm arhwbio ysgwyddau gyda rhai o fawrion y gêmrygbi o’r ddwy wlad. Cawsom ganu rhaglenmor amrywiol â Calon Lân ynghyd ag AnthemGenedlaethol De Affrig a Cwm Rhonddaymhlith eraill. Ymunwyd â ni yn y canu ganddau gôr arall o Dde Cymru o dan arweiniadHaydn James o Lundain. Profiad gwefreiddiolyn wir!

John OgwenWedi i ni ganu yn y stadiwm genedlaethol athreulio noson yn blasu awyrgylch y brifddinasaethom drannoeth i stiwdio cwmni teledu irecordio rhaglen i ddathlu penblwydd yr hogyn

o Sling, sef yr actor adnabyddus, John Ogwen.Atgyfodwyd cân enwog Bryn Fôn ar gyfer yrachlysur, Mardi Gras ym Mangor Ucha’ ac argais John hefyd fe ganwyd Tshotolosa y gân odde Affrica. Gobeithio i chi lwyddo i’w dalgan iddi gael ei darlledu ar yr un noson.

Cystadlu a charolauGydag Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn nesáua’r côr yn ôl ei arfer yn cefnogi trwy gystadlubu raid inni fynychu ymarferion ychwanegolar ôl dychwelyd o Gaerdydd.

Aelodau’r côr fydd yn gyfrifol am y gegin etoeleni a bydd nifer o’r aelodau yn gwirfoddoli iweithio yn y gegin trwy gydol y cystadlu.

Wedi’r eisteddfod bydd y Nadolig a’i alwadauam ganu carolau ar ein gwarthaf ac mae gan ycôr nifer o leoedd wedi eu clustnodi ar gyfer ydasg honno. Tua’r un cyfnod byddwn yn caelein cinio Nadolig blynyddol yng Nghlwb GolffSant Deiniol ym Mangor ac edrychwn ymlaenat ddanteithion yr ŵyl yng nghwmnididdanwyr.

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 14

Page 15: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 15

Marchnad Ogwen

Dyma stondin Cardiau Maes Melyn a'ipherchenog Jan Jones

Wel dyma fi yn gorfod dweud gair amdanaffy hun gan mai fi ydi YsgrifennyddMarchnad Ogwen!

Dwi wedi bod yn hoff iawn o waith llaw obob math ers yn blentyn. Bûm yn gwneudcardiau pwyth croes am flynyddoedd i deulua ffrindiau, ond mae henaint yn dal i fyny a'rhen lygaid ddim fel y buont! Roeddcydnabod yn dathlu rhyw achlysur neu'igilydd ac wrth chwilio am gerdyn Cymraegaddas, dyma sylweddoli y buaswn yn hoffirhoi cynnig ar wneud un fy hun - roedddigon o gardiau Saesneg ar gael!

Wedi ymddeol o fy swydd yn YsgolAbercaseg, dyma fynd ati o ddifri. Gan fodrhai siopau eisiau cyflenwad, rhaid oeddmeddwl am enw i'r cynnyrch. Mae gen iddau fab, Rhys a'i deulu yn byw yn MaesMeddyg, Caernarfon a Siôn a'i deulu ymMraichmelyn Bethesda. Cyfuniad o enwcartrefi'r teulu agos ydi'r enw.

Mae cardiau at bob achlysur ar gael - ohapusrwydd geni babi bach, i dŷ mewngalar a thristwch. Ceir cardiau pen-blwyddwrth gwrs a chardiau at y digwyddiadau ynein bywyd bob dydd. Dwi'n gobeithio'n fawrfod y cardiau yn rhoi pleser a chysur i'r rhaisy'n eu derbyn. Ym Marchnad Ogwen ynunig y maent ar gael, a thrwy eu prynu,rydych yn cyfrannu at yr Uned YmchwilCancr sydd ar Ffordd Deiniol ym Mangor acelusennau lleol.Rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth

gan fy nghwsmeriaid.

Dyma limrig i Farchnad Ogwen gan ycyfaill triw o Riwlas.

Marchnad OgwenMae safon arbennig i'r crefftau,I'r llysiau ac i'r cacennauPob mis yn ddi-ffaelMarchnad Ogwen sy' ar gaelAm fwy na jyst mân drugareddau.

Llawer o ddiolch i Êl am y gwirionedd yna -mae croeso cynnes yn y Farchnad a chyfle igymdeithasu dros baned.

Bydd y Farchnad nesaf Rhagfyr 11eg yn yClwb Rygbi o 10 y bore tan 2. Marchnad yNadolig fydd hon. Mae croeso cynnes iysgolion yr ardal ddod a chôr i ganu carolauyn y Farchnad hon (a chasglu ceiniog neuddwy i gronfa'r ysgol yr un pryd).Cysylltwch â'r Ysgrifennydd i drefnu.

Bydd Stondin Elusen y mis hwn yn cefnogiApêl Eleanor Jones sy'n casglu arian i brynuoffer i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd.Am fwy o wybodaeth am y Farchnadcysylltwch â ni ar Facebook, neu Twitter#marchnadogwen neu ar ein gwefanwww.marchnadogwen.co.uk

Marwolaeth Cenedl Lofr

Yn oer a heb dynerwch – y rhoddwydHen ruddin gwladgarwch

Yn y llaid, a’i hiaith i’r llwch,I farw o annifyrrwch.

Goronwy Wyn Owen

.....................................................

Tanchwa Pwll Glo Senghennydd

Mae olion datgymalu yn y lleY bu llwch a chwysu,

’Wnaeth neb dwys â’i wyneb duWir sôn am bwll ers hynny.

Gweddi a chryfion ysgwyddau a roedI rai oedd mewn bratiau

Yn ysu am weld perthnasauBlin ar ôl, a hi’n hwyrhau.

Aberfan

Dynion cryfion yn crafu â’u dwyloA dal rhai’n galaru,

A damio’n ddwys domen dduLwyddodd i sydyn gladdu.

Storїau ar y Stryd

Cludo’r stori a’r bag negesA wnes adref yr un pryd,

Ac i’w chadw hi yn gynnesDychwel wnes yn sionc o’r stryd.

Mae sawl un i’w cael wrth gyfarchAr y palmant llyfn a llwyd,

Ac i’r rhai sy’n hoff o sgandalMaen nhw’n well na phryd o fwyd.

Gwelir arno rai yn stelcianA thafodau hynod chwim

Yno’n sgwrsio ac yn holiFel pe baent ofn colli dim.

Sticio cynffon wna y rheiniAr bob stori fel mae’n dod,

A chamstumio fel y mynnontEr mwyn ceisio ennill clod.

Wedi oeri, wedi tyfuYr oedd hi cyn hanner nos

Ac ’rôl magu llawer cynffonRoedd hi’n bell o fod yn dlos.

Bro’r Chwareli

Cyrhaeddodd efo’i dad ond deng mlwydd oedI’r gwaith hyd lwybrau trymion ar ddwy droedA chlywed sŵn eu ’sgidia hoelion mawrYn taro bob yn ail hyd wyneb llawr.

Rhwng muriau moel y caban bob dydd LlunEi hollti gâi y bregeth gan sawl un,A hynod bwysig fyddai’r trafod ‘nawrGan y gwybodus rai dan glogwyn mawr.

Ceid cotiau’n mygu’n llonydd yn un rhesO flaen y stôf a dafla’i yno’i gwres,Ac oglau chwys a ddeuai yr un prydO ddillad gwŷr y graig a’u caled fyd.

A gwres berthynai i’r gymdeithas honA’r gwir drysorau bywyd dan eu bron;Roedd balchder er bod tlodi yn ein bro,A chafwyd mwy na llechen iddi’n do.

Dafydd Morris

Nyth y Gân

Darllen i’r deillionOs oes gennych ryw awr neu fwy i’w sbario,beth am ddod i ddarllen Llais Ogwan i’rdeillion? Gwneir hyn unwaith y mis yn ystiwdio yn swyddfa’r deillion ym Mangor, ahynny yn ystod y dydd. Galwch Mary ar600274 neu 07443047642.

Cyngor Cymuned Pentir

Yn eu cyfarfod ar 10 Hydref penderfynodd ycynghorwyr roddi £300 o Nawdd i FugeiliaidStryd Bangor er mwyn eu cefnogi yn eu gwaithda.

Mynegwyd siom mai prin iawn oedd yceisiadau am Nawdd ariannol a dderbyniwydeleni. Penderfynodd y cynghorwyr roddisiawns arall i Fudiadau a Chymdeithasau Lleolanfon cais i mewn. Mae'r Cyngor yn awyddusi gefnogi unrhyw weithgarwch lleol sydd ofudd i'r gymdeithas gyfan.

Hefyd penderfynwyd gwneud cais am grant ermwyn mynd ymlaen gyda'r prosiect ogynhyrchu map hanesyddol a diwylliannol oardal Pentir er mwyn ei rannu yn y pen drawgyda'r trigolion lleol.

Nodwyd fod rhai o gysgodfannau bws yr ardalmewn cyflwr gwael a phenderfynwyd gwneudarchwiliad i weld beth oedd eu cyflwr.

Cyngor Cymuned Llandygái

Cyfarfod Mis HydrefCynhaliwyd cyfarfod Hydref yn y NeuaddGoffa, Mynydd Llandygái, gyda’r CynghoryddDafydd Owen yn y gadair.

Mae llwybrau oedd angen eu trin wedi caelsylw, a gwaith atgyweirio wedi’i wneud. Mae’rCyngor Sir wedi cytuno i ystyried materionynglŷn â biniau ychwanegol, ac hefyd iatgyweirio Pont Coetmor. Gwneir asesiad oeffeithiolrwydd drych ar gyffordd LlwybrMain.

Cysylltwyd â’r Cyngor Sir ynghylch llwybraudiogel i blant sy’n mynychu Ysgol Bodfeurig,a chafwyd ar ddeall eu bod wedi trefnucyfarfod gyda’r athrawon, rhieni, CynghoryddSir a swyddogion i drafod y mater.

Penderfynwyd hefyd i gysylltu â’r Cyngor Sirynghylch problem sy’n codi oherwydd bwriady Cyngor Sir i atal bws i blant sy’n teithio iYsgol Llandygái o gyfeiriad Talybont. Mae’rffordd yn beryglus i blant, ac yn ddiamau byddrhagor o rieni yn gorfod danfon eu plant gydacherbydau, gan wneud y sefyllfa drafnidiaethddifrifol fore a phrynhawn yn llawer gwaeth.Mae diogelwch y plant yn hollbwysig a dylaifod yn flaenllaw bob amser.

O’r Cyngor

Cymdeithas HanesDyffryn Ogwen

Lowri Williams oedd y darlithydd a agoroddy tymor ar 14 Hydref yn festri CapelJerusalem. Cafwyd noson ddiddorol drosben yn ei chwmni wrth iddi drafod "Hengaeau, hen enwau, hen hanes DyffrynOgwen."

Dyma lun ohoni ar ddiwedd y noson gyda Mr.

Wynne Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas.

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 15

Page 16: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 16

AR DRAWS

1 Hagrwch hallt yr amgylchedd blêr (6)4 Ail. Dod yn ---- i’r brig (4)8 Ei gychwyn os mai ‘yr eiddoch yn

gywir’ a’i diwedda (6)9 A370 yw un o’r diweddaraf, a

rhannau ohoni o Gymru (6)10 Oherwydd hyn nid yw’n barod i godi

o’i wely (5)11 Tylwyth teg. ------- llwyr medd rhai

(7)13 Paid mynd ymlaen (4)15 Carreg ateb ar ein mynydd uchaf yn

ôl y papur bro (3)16 Blodau heb gael dŵr efallai, a’u

pennau’n llawn paill (4)18 Maent yn llon i fod yn rhoi eu

henwau ar y ddeiseb (7)20 Un o elfennau gêm o griced (5)23 Dyma’r hoff un ohonynt i gyd (6)24 Dywed rhai fod yr ynys yma fel 11 Ar

Draws (6)25 “---- Mater” – “Y Fam Faethlon” (4)26 Nofel glasurol yr awdur o fro 15 Ar

Draws (6)

I LAWR

1 Mae het nain yn dangos ei hoedran bellach (7)

2 Mi gefais ffit pan welais yr anifail peryglus ar ddechrau y goedwig (5)

3 Mi ddrysodd yn llwyr yn y rhan gyntaf o’r ail ras geir (4)

5 I awyru (7)6 Twll dan grisia’ yn rhannau o’r

gogledd (5)

Croesair Tachwedd 2013

Atebion erbyn dydd Mercher, 04Rhagfyr i: ‘Croesair Tachwedd’, Bron Eryri, 12 Garneddwen, Bethesda.LL57 3PD.

Enw:

Cyfeiriad:

7 Ai o’r tap y daw y dŵr i olchi a chael y llysiau’n barod i’w coginio (7)

12 Heb unrhyw amheuaeth (7)14 Mae angen i chi daro top yr offeryn

swnllyd i gadw’n effro pan fyddwch yn swrth fel hyn (7)

17 Coch y Bonddu,- un da i wneud hyn (7)

19 Gwneud un dim neilltuol, dim ond gwastraffu amser a chyfle (5)

21 Mae rhywbeth o’i le ym mol Alan bach. Diolch nad ydio’n digwydd o hyd (5)

22 Gweiddi ar ôl dod heibio, efallai (4)

Atebion Croesair Hydref 2013

AR DRAWS7 Bore, 8 Ymyrraeth, 9 Clarinet, 10Caib, 11 Y Proffwyd, 14 Hudo 15 Ynni, 16 Diweddglo, 17 Ogwr, 19 Maddeuant, 21 Ymladdgar, 22 Unig

I LAWR1 Sofl, 2 Meirioli, 3 Cyfnewid, 4 Hynt,5 Trac,6 Deniadol, 12 Penigamp,13 Diweddaru, 14 Heddlu Cudd, 18 Rwan, 19 Mygu, 20 Naid

Un camgymeriad a gafwyd, sef y gair‘cynt’ yn hytrach na’r ateb cywir‘hynt’.Y cyntaf allan o’r het y tro hwn idderbyn y wobr yw ymgais GwynethJones, Y Bwthyn,6 Waen Wen,Glasinfryn, Bangor LL57 4UF.Llongyfarchiadau mawr i chi.

Da iawn chwithau’r canlynol am anfonatebion hollol gywir :

Gareth William Jones, Bow Street;Jean Hughes, Talybont; KarenWilliams, Elfed Evans,Llanllechid; Ann Carran, GwennoEvans, Rita Bullock, Gwyl Owen,Bethesda; Dilys A. Pritchard-Jones, Abererch; Dilys Parry,Rhiwlas; emrys Griffiths,Rhosgadfan; Doris Shaw, Bangor;Donna Coleby, Penwortham;Dulcie Roberts, RosemaryWilliams, Elizabeth Buckley,Tregarth..

Erw Las,27 Bro Eglwys,

Bethel,Caernarfon,LL55 1GA

At : Aelodau Eglwysi Gofalaeth BroDyffryn Ogwen a chyfeillion y fro.

Annwyl Gyfeillion,Dymunaf ddiolch yn ddiffuant iawn iAelodau Eglwysi Gofalaeth Bro DyffrynOgwen a chyfeillion y fro am y dystebanrhydeddus a dderbyniais ar achlysur fyymddeoliad ar Hydref 27ain yn y CyfarfodYmadawol yng Ngharmel, Llanllechid. IBrifathrawes a Staff Ysgol Llanllechid aphlant ac ieuenctid Ysgol Sul Carmel,Llanllechid am eu rhoddion hwythau hefyd. Bu’r Oedfa Ymadawol yn oedfa fydd yn arosyn y cof am amser maith i ddod a diolchaf iMr Joe Hughes am drefnu’r cyfan ac i bawba gymrodd ran i wneud yr Oedfa morgofiadwy. Dymuna Anne ddiolch hefyd am y tuswblodau a dderbyniodd ac i Karen, Caffi Coedy Brenin, am y gacen flasus. Bu’r blynyddoedd yn Nyffryn Ogwen ynflynyddoedd bendithiol iawn i mi a dymunaffendith y nef ar yr eglwysi i’r dyfodol.

Diolch i chwi i gyd am eich caredigrwydd.

Yr eiddoch yn gywir,

Geraint S.R. Hughes.

Llythy rauAnnwyl Llais,Yr oeddwn yn yr ardd gefn yn Urmston,Manchester a’r wraig yn galw arnaf i ateb y ffôn.Aled fy nghefnder oedd arni o Dregarth yn dweudbod llun yn Llais Ogwan o blant ysgol Tregarth yny cyfnod 1929. Un o’r plant oedd fy nhad, EifionWilliams a dyma’r llun cyntaf ohono’n ifanc yr wyfwedi ei weld. Mae gennyf innau lun tebyg o’r unysgol a minnau’n sefyll yn yr un lle - y rhes uchaf, ytrydydd o’r chwith. Rhaid diolch i Mr RaymondDexter am ddangos y llun hwn – roedd fy nhad yrun oed â Mrs Nesta Jones o’r un cyfeiriad.

Ar ôl gorffen ei addysg yn 14 mlwydd oed, fel nifero fechgyn y pryd hynny, aeth i weithio i chwarel yPenrhyn i ddysgu hollti llechen. Daeth yr Ail RyfelByd ym 1939 ac enlistiodd yn yr R.W.F. ac fe aeth iFfrainc efo’r B.E.F. Ym mis Mai 1940 erlidiodd yr Almaenwyr y B.E.F.at borth Dunkirk ac yn lwcus, daeth fy nhad allano’r frwydr ar y llong H.M.S. Keith, a glanio rywleyn Ne Lloegr.

Yr oedd yn rhaid i’r milwyr symud o gwmpas ywlad a chael llety. Daeth fy nhad, a’i gyfaill HuwLloyd o Fethesda, i St Helens ac fe gawsant ystafellmewn tŷ yn Rhes Argyle.Rhaid oedd i berchennog y tŷ brynu bwyd eforatiwns y milwyr a’u bwydo. Gwaith y milwyr oeddsaethu lladron oedd yn dwyn o dai oedd wedi eubomio yn y blitz. Roedden nhw’n sefyll ar doeauadeiladau tal y dref a thaflu arfau llosgi i’r ffordd ermwyn i’r frigad dân eu difetha.

Roedd fy nhad a’i gyfaill y tu allan i’r tŷ rywddiwrnod a gofynnodd y wraig drws nesa osoeddynt yn cael digon o fwyd. Dywedodd fy nhadeu bod nhw’n llwgu. Dywedodd y wraig, “Dewchefo fi, mi wnaf fi rywbeth i chwi i’w fwyta.”Roedd gan y wraig wyth o blant - pedair o ferched athri o hogiau. Roedd tair o’r merched yn gweithioa’r lleill yn yr ysgol. Roedd Marion, yr hynaf, yndysgu bod yn athrawes.

Daeth fy nhad a’i gyfaill lawer tro i lenwi eu bolia idŷ’r wraig ac fe ddisgynnodd mewn cariad âMarion. Ym 1944 priodasant yn Eglwys St Marks,St Helens a daeth llawer o Dregarth i’r briodas. Eifrawd o’r R.A.F. oedd y gwas.

Ar ôl y rhyfel, buont yn byw yn 39 Tanrhiw yngyntaf, wedyn yn Nhandderwen ac wedyn yn ErwFaen. Fi oedd y cyntafanedig ym 1946, Barry ym1949, a’m chwaer ym 1961. Roeddwn yn ddisgyblyn Ysgol Tregarth ac wedyn yn ysgol DyffrynOgwen.

Dechreuais weithio efo Owen a Palmer yn 1961 ondyn Chwefror 1962 bu farw fy nhad yn 42 oed, abu’n rhaid i’r teulu symud i ardal St Helens i fyw.Roedd fy mam yn athrawes ym mhentref bachCrawford Village, 7 milltir o St Helens, am 25 oflynyddoedd. Bu farw fy mam yn 2010 ym mis Mehefin, ac ar ôlgwasanaeth yn eglwys ei phriodas, fe roddwyd eillwch ym medd fy nhad yn Eglwys Santes Fair,Tregarth.

Keith WilliamsManchester

Cyngor Cymuned PentirDro yn ôl nodwyd yn eich Papur Bro foddyddiad cau eleni i Gyngor CymunedPentir dderbyn ceisiadau am Nawdd.Mae'r dyddiad hwnnw bellach wedimynd a siomedig oedd canfod mai dimond un neu ddau o geisiadau adderbyniwyd. Mae'r cyngor yn awyddusi gefnogi gweithgarwch lleol sydd o fuddi'r gymdeithas, ac felly wedi penderfynurhoi tan ddiwedd mis Tachwedd idderbyn ceisiadau ychwanegol.Bydd yn ofynnol: a)llenwi ffurflenbwrpasol, ar gael gennyf i, y clerc, ab)anfon copi o'r Fantolen ddiweddaraf.Manylion i gysylltu: Jiwn M Jones, 2Rhes Constantine, Caernarfon LL552HL 01286 [email protected]

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 16

Page 17: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 17Llais Ogwan 17

Gair o’r dosbarth

Ysgol Dyffryn Ogwen

Prif Ddisgyblion

Dyma brif ddisgyblion yr ysgol am y flwyddyn :Josh Ward a Cara Thomas

Ymweliad OECD 16 Hydref

OECD (Organisation for Economic Cooperation and Development)ydi’r corff sy’n gyfrifol am y profion rhyngwladol PISA, ac fe’igwahoddwyd gan y cyn-weinidog addysg, Leighton Andrews, i gynnaladolygiad o system addysg Cymru. Buont yn ymweld â dwy ysgoluwchradd yng Nghymru, a gwahoddwyd Ysgol Dyffryn Ogwen gan yCynulliad i fod yn un o’r ddwy.

Bu tri ‘arbenigwr addysg rhyngwladol yn yr ysgol am y dydd yncyfweld staff a disgyblion – yn cynrychioli Seland Newydd, yrIseldiroedd ac Unol Daleithiau America. Bu Mr Godfrey Northam,cadeirydd y corff llywodraethol, hefyd yn rhan o’r cyfweliadau. Eu briffoedd ceisio gweld pam fod rhai ysgolion mewn amgylchiadau tebyg ynllwyddo’n well na’i gilydd.

Gwahoddwyd pedwar pennaeth o ysgolion cynradd ac uwchradd ycylch hefyd i gymryd rhan mewn sesiwn drafod yn ystod y dydd gan yCynulliad.

Noson AgoredCynhaliwyd Noson Agored flynyddol yr ysgol nos Fawrth, Hydref15fed, i rieni disgyblion ym mlynyddoedd 5 a 6. Yr oedd yn braf iawngweld yr ysgol yn llawn o ddarpar rieni a disgyblion o ysgolionBodfeurig, Llanllechid, Penybryn, Rhiwlas a Thregarth. Yr oeddcanmoliaeth mawr i’r noson gan y rhieni a fu’n bresennol, a gobeithiryn fawr y bydd pob disgybl sy’n byw yn y dalgylch yn dod i YsgolDyffryn Ogwen.

Yr Adran Addysg GorfforolRygbi Tîm rygbi dan 14 wedi chwarae dwy a churo dwy eleni. Wedi ennill38-20 yn erbyn Friars a 38-5 yn erbyn Brynrefail. Da iawn hogia!

Treialon Pêl-rwyd EryriLlongyfarchiadau i Manon Hughes ar gael ei dewis i garfan pêl-rwyddan 16 Eryri.

Llongyfarchiadau i dîm pêl-rwyd bl8, a gyrhaeddodd rownd plât yr 8olaf yn nhwrnamaint pêl-rwyd yr Urdd i ysgolion Gogledd Cymru.

BAC - Chweched DosbarthFel rhan o’u cymhwyster ar gyfer Bagloriaeth Cymru mae’n rhaid ifyfyrwyr y Chweched Dosbarth drefnu gweithgareddau 'GweithioGydag Eraill'. Penderfynodd rhai o’r genethod baratoi a chynnal DisgoGwisg Ffansi Calan Gaeaf ar gyfer blynyddoedd 5 a 6 ysgolion cynraddyr ardal yn neuadd yr ysgol.

Roedd y neuadd yn llawn addurniadau a goleuadau ar y thema CalanGaeaf. Cafodd y plant ddawnsio, chwarae gemau, dylunio paentwyneb, a siawns i brynu diodydd, jeli, cacennau, creision a llawer mwyo fwydydd iach!!!

Roedd y noson yn llwyddiant a gwnaed elw tuag at elusen.

Diolchgarwch

Cawsom wasanaeth diolchgarwch hyfryd yn yr ysgol gan y disgyblion.Diolch i’r holl ddisgyblion am eu gwaith caled ac am ddod ag eitemaubwyd ar gyfer y casgliad ‘Banc Bwyd’.

Llysgenhadon Chwaraeon

Mae Charlie Williams a Llawen Pierce Hopkins o flwyddyn chwechwedi cael eu dewis fel llysgenhadon chwaraeon Ysgol Bodfeurig. Felrhan o’u gwaith cawsant ddiwrnod o hyfforddiant yng Nghaernarfon ynddiweddar. Maent wedi cael defnyddio eu gwybodaeth ar gyfer dysgu’rdisgyblion iau yn yr ysgol, a bu’r plant wrth eu boddau yn cael dysgugemau newydd gan y disgyblion hŷn.

Cylchgrawn ‘Beano’

Mae un o ddisgyblion hynaf yr ysgol – Jasper Finn o flwyddyn 5, wedicreu cartŵn o’i hoff gymeriad sef ‘Dennis the Menace’ ac mae wedi caelei gynnwys yng nghylchgrawn y ‘Beano’. Mae Jasper yn cael llawer ofwynhad wrth arlunio. Da iawn ar dy lwyddiant Jasper Finn!

Ysgol Bodfeurig

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 17

Page 18: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 18

Ysgol Abercaseg

Ysgol Tregarth

Siarter Iaith Gwynedd

Cafodd yr ysgol ei hachredu gyda Gwobr Efydd Siarter Iaith Gwyneddam ei holl ymdrechion i hyrwyddo’r defnydd cymdeithasol o’rGymraeg ymysg y disgyblion. Mae’r ysgol yn ysgol beilot i’r cynllunarloesol hwn sy’n gweithio i sicrhau bod yr holl weithlu, rhieni,llywodraethwyr a phlant yr ysgol yn rhannu yr un welediageth sef’Siarad Cymraeg, wrth weithio, wrth chwarae bob amser. Mae Cymraegyn Cŵl’.

Daeth Sian Gwenllian, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg,i’r ysgol ar ddiwrnod lansio’r cynllun i holl ysgolion Gwynedd. Cafoddgyfle i gyfarfod â rhai o’r disgyblion ac aelodau y Cyngor Ysgol .Daeth Radio Cymru hefyd i gyfweld â Huckelberry Bladwell, StanleyFreeman , Gwilym Gray a’r pennaeth Mrs Alison Halliday, a holi ameffaith y Siarter ar weithdrefnau yr ysgol. Llongyfarchiadau i’r hogiau ar gyfweliad gwych ac i’r holl ysgol am eillwyddiant yn y fenter.

Cacennau Caredig y Cyngor YsgolLlwyddodd y Cyngor Ysgol i drefnu bore coffi llwyddiannus iawn igasglu arian i elusen Macmillan yn ddiweddar. Cafwyd llond lle ogacennau a danteithion o bob math. Gwahoddwyd rhieni plant dosbarthTryfan i’r digwyddiad yn dilyn eu gwasanaeth dosbarth. Cafodd pawblond eu boliau o gacennau hyfryd a llwyddodd y Cyngor i gasglu £140 igronfa Macmillan. Diolch i bawb a fu’n pobi!!

Gwasanaeth DiolchgarwchCynhaliwyd gwasanaeth Diolchgarwch arbennig yn Eglwys y Gelli ar ythema ‘Y Byd a’i Ryfeddodau’. Cyflwynodd pob dosbarth eitem yn eidro a chafwyd darlleniadau a gweddïau gan aelodau dethol o Flwyddyn6. Yn ôl dymuniad y Cyngor Ysgol bydd y casgliad yn cael ei gyflwynoi gronfa’r Groes Goch a’u gwaith yn Syria. Diolch o galon i’r Tad JohnMatthews am ei groeso a’i fendith yn ystod yr addoliad, a diolch hefyd iswyddogion a ffyddloniaid yr Eglwys am eu caredigrwydd yn dilyn ygwasanaeth.

Arbed ynni, arbed arian!!Gyda’r clociau bellach wedi eu troi’n ôl, y dyddiau’n byrhau a’r gaeaf ar eiffordd, rydym yn fwy dibynnol ar drydan am olau a gwres. Yn anffodus,ynwahanol i olau naturiol, mae’n rhaid talu am drydan, ac felly bu i’r grŵp‘Bysedd Gwyrdd’ drefnu i Ffion Jones, Swyddog Ynni Ysgolion Gwynedd,ddod draw atom i gynnig syniadau am ffyrdd o arbed ynni yn yr ysgol ac ynein cartrefi. Mae pawb yn ymdrechu i weithredu ar ei chynghorion, gan obeithioy bydd y cyfan yn golygu biliau is a mwy o arian yn ein pocedi!!

Sialens Ddarllen Plas Braw

Braf oedd gweld bod nifer fawr o ddisgyblion yr ysgol wedi bod yn brysur droswyliau`r haf yn ymweld â llyfrgell Bethesda. Roedd Gwasanaeth LlyfrgellGwynedd wedi gosod her i blant y sir, sef darllen o leiaf chwe llyfr dros ygwyliau. Llwyddodd nifer o blant yr ysgol i gwblhau’r her gan dderbyn medalfel gwobr am eu hymdrech. Da iawn chi blant.

Llongyfarchiadau hefyd i Wil am ddod i’r brig yng nghystadleuaeth lliwio`rllyfrgell a oedd yn agored i holl blant Gwynedd. Mae pawb yn yr ysgol yn falchiawn o’th lwyddiant.

Ymgyrch bocsys ‘Operation Christmas Child’Un o’r arwyddion cyntaf bod y Nadolig yn agosau yw gweld pamffledi aphosteri ‘Operation Christmas Child’ yn cyrraedd yr ysgol. Eleni, daeth Mr WynOwen, sy’n gweithio gyda’r elusen, draw i’r ysgol i ddangos ffilm a oedd ynolrhain taith y bocsys anrhegion o Gymru i wahanol rannau o’r byd. Agoriadllygad i blant Ysgol Abercaseg oedd sylweddoli mai dyma’r unig anrhegion ybyddai’r plant a oedd i’w gweld ar y ffilm yn eu derbyn y Nadolig yma. Roeddtystio i’w hapusrwydd yn ddigon i ysgogi plant Abercaseg i fynd ati i lenwibocsys anrhegion eto eleni. Cofiwch bod croeso i unrhyw un yn y pentref sy’ndymuno bod yn rhan o’r ymgyrch i ddod â’ch bocsys i’r ysgol lle byddgweithwyr o’r elusen yn dod i’w casglu .

Noson i’w chofioDoes dim amheuaeth mai un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i fwyafrif oddisgyblion Ysgol Abercaseg yw’r Disco Gwisg Ffansi. Bu hen bendroni athrafod beth i’w wisgo, a phan gynhaliwyd y cyfan ar 24 Hydref roedd neuaddyr ysgol yn llawn gwrachod, cathod, bwganod, morladrona phob creadur arall ygallwch feddwl amdano. Cafwyd noson hwyliog o ddawnsio a chwarae gemauamrywiol, gyda phawb yn mwynhau’n arw.Yn ôl y sôn, mae rhai wedi dechraucyfrif y dyddiau hyd nes y cynhelir y disco nesaf yn barod!!!

Gwobr Efydd y Siarter IaithCydnabuwyd y gwaith y mae’r ysgol yn ei wneud i hyrwyddo’r defnydd o’rGymraeg ymhob agwedd o fywyd a gwaith yr ysgol yn ddiweddar, pan y bu i nidderbyn y Wobr Efydd gan y Cyng. Alwyn Gruffydd. Ymlaen a ni am y WobrArian rwan!

Clwb Celf Mr UrddUnwaith eto eleni, mae Clwb Celf Mr Urdd yn profi ei fod yr un morboblogaidd ag erioed, gyda degau o blant yn mynychu’n wythnosol, gan greugwaith celf mewn amrywiaeth o gyfryngau. Diolch i’r holl gymorthyddion sy’ncynnal y clwb.

Ymgyrch ‘Wish List’ y ‘Daily Post’.Cofiwch ein bod fel ysgol yn rhan o ymgyrch ‘Wish List’ y ’Daily Post’ eleni.Byddem yn gwerthfawrogi pe gallai unrhyw un sy’n dymuno gasglu talebau’rymgyrch i’r ysgol. Bydd yr arian a gesglir yn cael ei wario ar brynu offergarddio er mwyn datblygu gardd yr ysgol ymhellach a chyfoethogi profiadaudysgu’r disgyblion yn yr awyr agored.

Noson Rieni Cynhelir Noson Rieni`r ysgol rhwng 3.30 – 5.00 yp ar 19 Tachwedd.

Llais Ogwan 18

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 18

Page 19: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Ysgol Llanllechid

Wythnos FathemategCawsom wythnos hwyliog a hynod ddiddorol yn ddiweddar yn datblygusgiliau rhifedd yn drawsgwricwlaidd. Bu’r disgyblion yn gweithio gydagadnoddau Techniquest a hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdaimathemategol eu naws. Daeth nifer dda o rieni i fwynhau cyflwyniad iesbonio pwysigrwydd datblygu sgiliau rhifedd a hefyd i ddatrys posaumathemategol. Diolch i Mrs Pritchard a Mrs Hughes am y cynllunio a’rtrefnu trylwyr. Wythnos i’w chofio.

Cyngor YsgolErbyn hyn mae aelodau’r cyngor ysgol yn cyfarfod yn rheolaidd ac yngweithio’n galed o dan arweiniad Miss Jones. Llongyfarchiadau i Shanea Bethan ar gael eu hethol yn brif ddisgyblion yr ysgol.

Ymweliad â Choedwig PenrhynBu disgyblion Dosbarthiadau Traed Bach ac Enfys yn y goedwig yngwerthfawrogi tymor yr Hydref. Roeddent yn defnyddio eu synhwyrau,yn chwilio am lythrennau, yn adeiladu cartrefi i’r saith cysgadur ac yncasglu eitemau o wahanol liwiau i greu graff yn y dosbarth. Diolch iGastell Penrhyn am gael defnyddio’r goedwig er mwyn annog diddordeby plantos.

Trip i Swyddfa Ddosbarthu’r Post Aeth disgyblion dosbarthiadau Heulwen a Gwawr i weld y post yn caelei ddosbarthu yn y Brif Swyddfa ym Mangor fel rhan o thema’r tymor‘Pobl sy’n ein Helpu’. Cawsant amser diddorol iawn yn chwilio amlythyrau oedd ar eu ffordd i’r ysgol. Hefyd, daeth Rhian sef postmon ypentref, atom i roi cyflwyniad i’r plant, a chawsant fynd i gael cip ar yfan bost goch. Diolch Rhian.

LlongyfarchiadauMae disgyblion yr ysgol wedi llwyddo i ennill y wobr Arian YsgolionGwyrdd Gwynedd o dan arweiniad y pwyllgor gweithgar. Ymlaen at yrAur rwan !!!

Gwasanaeth DiolchgarchCawsom wasanaeth bendithiol iawn yn Eglwys y pentref yn ddiweddar iddiolch i Dduw am ei roddion. Bu disgyblion y Cyfnod Sylfaen yndiolch am y bobl sydd yn paratoi ein bwyd i ni – o’r bugail a’r ffermwr iddyn y ffatri a’r siopwr. Roedd disgyblion yr Adran Iau yn diolch amdorth o fara, am fananas ac yn pwysleisio pwysigrwydd prynu nwyddauMasnach Deg. I gloi’r gwasanaeth cafwyd perfformiad hynod odeimladwy o gân ‘Footprints in the Sand’ gan yr Adran Iau. Diolch i’rParchedig John Mathews am ei eiriau i’r plant a diolch hefyd amgefnogaeth rhieni a ffrindiau yr ysgol.

Dymuniadau GorauPob dymuniad da i Mrs Caroline Hughes a’r teulu a chroeso i LlŷrMeirion-brawd bach newydd i Lois ac i Non.

Ysgol Llandygái

DyweddïadLlongyfarchiadau mawr i Ms Angharad Efans, Bethesda ar ei dyweddiadag Elfed o Rhiwlas. Pob dymuniad da gan bawb ohonom yn yr ysgol!(Diolch i Elfed hefyd am ei gyfraniad hael i Ffair yr ysgol)

BeicioGan fod beicio mor bwysig i ni fel ysgol iach ac ysgol werdd, cafodddosbarth Blwyddyn 6 gyfle i wella eu sgiliau ac ymgeisio am dystysgrifdiogelwch beicio ar y lôn. Bu’n brofiad gwych ac yn gyfle i atgoffa pawb am bwysigrwydd gwisgo helmed bob amser.

Trychfilod yn fyw!Diolch i Mr Ben Stammers am gloriannu ein haddysg am drychfilodgyda chyflwyniad diddorol tu hwnt am drychfilod a chynefinoedd.

Bang! Crash! Lafa!Cafwyd bore hynod o ddiddorol wrth i Mr Wright gyflwynorhyfeddodau llosgfynyddoedd i`r disgyblion. Roedd ganddo amrywiaetho greigiau i`w dangos a lludw o’r enwog losgfynydd yng Ngwlad yr Iâ.Dangosodd fideos o ffrwydradau y bu’n agos atynt ac, o ganlyniad, maenifer o’r dosbarth bellach a’u bryd ar fod yn ddaearegwyr! Bu dosbarthBlwyddyn 1 yn gwneud llosgfynyddoedd diddorol hefyd, gyda MrsRona Williams ac roeddent wrth eu gweld!

DiolchgarwchDaeth cynulleidfa ardderchog o rieni a ffrindiau`r ysgol ynghyd i neuaddyr ysgol ar fore ola’r tymor i weld ein cyflwyniadau Diolchgarwch.

Roedd pob dosbarth, yn ei dro, yn cael cyfle i ddiddanu`r gynulleidfa.Roedd yr arlwy yn cynnwys caneuon, darlleniadau, deialogau,cerddoriaeth greadigol/ offerynnol, dywediadau, ystod o farddoniaeth allawer mwy! Roedd yn gyfle gwych i rieni a`n cyfeillion weld yr ysgolar ei gorau. Braint hefyd oedd cael bod yn bresennol yng ngwasanaethdiolchgarwch Capel Carmel. Cafwyd gwasanaeth i`w gofio, a braf iawngweld yr holl blant yn cymryd rhan; braf hefyd oedd gweld ieuenctid yfro yn dal ati ac yn gwneud eu gwaith i safon uchel. Clod i Mrs HelenWilliams a`i thîm. Yn sgil hyn hefyd, dymunwn ymddeoliad hapus i`rParch Geraint Hughes.

Athrawes o’r IndiaRoedd disgyblion Ysgol Llanllechid wedi dotio at gael athrawes o`rucheldir yng ngorllewin yr India yn eu dosbarthiadau. Cafodd pobdosbarth ddigonedd o gyfle i`w holio`n dwll! Edrychwn ymlaen atddatblygu`r cysylltiad hwn ymhellach a chael cyfleoedd i ddysgu mwyam y teigrod a’r te ac ati!

Y disgyblion wedi mwynhau dysgu gan Mrs Renee, sy’n dysgu yn yr India

Cymdeithas y ChwioryddBu Blwyddyn 5 a 6, sef dosbarthiadau Mr Huw Edward Jones a MrsHanna Huws, yn diddanu Cymdeithas Chwiorydd y Capeli lleol ar nosIau, Hydref 10ed a daeth cynulleidfa gref ynghyd i neuadd yr ysgol.Cyflwynwyd pob math o eitemau, yn seiliedig ar y thema dŵr ac roeddyn hyfryd cael cyfraniadau yn ogystal gan Aziliz Kervegant a Beca Nia,sef dwy o’n cyn ddisgyblion. Diolch hefyd i Gwydion Rhys amchwarae ei soddgrwth i gyfeiliant ei dad, Mr Stephen Rees.

Trawsnewidwyd ein Ffreutur yn fwyty 5 seren a chafwyd lluniaeth cynei throi hi am adref! Diolch i Ms Leanne ac Anti Gillian am y cymorthparod a`r bara brith ac i Mrs Macdonald am y bisgedi. LLUN (ANTIJINI a rhai o`n ffrindiau o Gymdeithas y Chwiorydd)

FfilmioYmddangosodd Mr Huw Edward Jones a`i ddosbarth ar Newyddion 9,S4C yn ddiweddar. Roedd yr ysgol wedi ei dewis i arddangos gwers argadw`n heini fel rhan o ymgyrch cadw`n iach gan y Cynulliad.

RhoddDiolch y fawr iawn i Mrs Stella Davies, Bronnydd am y rhodd adderbyniwyd ganddi er côf am ei gwr, Wyn. Bu cysylltiad hir ganddiâ’r ysgol, cysylltiad sy’n parhau o hyd, gan fod ei hwyr a’i hwyresau’nddisgyblion yma ac roedd yn braf ei gweld yn cefnogi’r teulu yn eingwasanaeth Diolchgarwch.

DiolchDiolch yn fawr i Mr a Mrs H Roberts, Corbri a Mrs Shirley Roberts ameu rhoddion caredig o ddwy soffa gyfforddus i’r ysgol.

Diwrnod T. Llew JonesYn ôl ein harfer,dathlwyd diwrnod TLlew Jones. Roeddgweithgareddauamrywiol yn cael eucynnal ym mhobdosbarth gangynnwys darllenstoriau, dysgucerddi, coginiobisgedi ac yn wir,aeth y DosbarthMeithrin i‘ddawnsio gyda’rdail’ ar hyd Lôn Bach Odro!

Mabon ac Ethan yn casglu dail ar Lôn Bach Odro

Llais Ogwan 19

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 19

Page 20: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Ysgol Pen-y-bryn

Rygbi

Hoffai’r ysgol longyfarch Huw Davies a Tomos Hughes o flwyddyn 5 argael eu dewis i chwarae i dîm rygbi Eryri. Rydym yn falch iawnohonoch ac edrychwn ymlaen at glywed hanes y gemau!

Ennill beicLlongyfarchiadau mawr i Seren Mai o flwyddyn 5 am ennill beic drwyfynychu llawer o sesiynau ymarfer corff ym Mhlas Ffrancon dros yr haf.Seren yw’r unig un trwy Wynedd i ennill beic – da iawn ti!!

FfilmioCroesawyd Mr Dafydd Watcyn Williams a Dewi’r Dyn Camera Gwychi’r ysgol ar 21 a 22 Hydref i ffilmio arfer da’r ysgol gyda’igweithgareddau darllen. Ymatebodd y plant i gyd yn wych i’r hollweithgareddau gan drafod yn frwdfrydig a chall. Roedd aeddfedrwydd apharodrwydd y plant i helpu ei gilydd ac i gyd-weithio wedi creu crynargraff ar Mr Williams a Dewi. Roeddynt hefyd wedi gwirioni gweld yplant wedi ymlynnu i’r gwaith ac yn dyfalbarhau hyd nes cwblhau’rgwaith i safon uchel. Hoffai’r holl staff a phlant ddiolch yn fawr i’rddau am wneud y broses yn un hwyliog ac edrychwn ymlaen i weld ycynnyrch terfynol ddechrau’r flwyddyn.

Darllen

Gwobrwywyd llawer o blant yr ysgol am lwyddo i ymweld â’r llyfrgelldros wyliau’r haf fel rhan o’r Cynllun Plas Braw. Braf oedd gweldcymaint o blant wedi ymrwymo i’r cynllun, yn frwdfrydig am ddarllen abod cynnydd sylweddol ers llynedd. Da iawn blant!

Annwyl OlygyddGyda’r perygl y bydd yr Albanwyr yn pleidleisio dros annibyniaeth i’wgwlad mewn refferendwm y flwyddyn nesaf mae’r gyfundrefnBrydeinig wedi ymateb yn hysterig. Mewn ymgais i’n cadw yngefnogol i’r oruchafiaeth Seisnig ym Mhrydain maent am i ni goffau’rRhyfel Byd Cyntaf a’r rhai a gollodd eu bywydau yn ymladd dros yrYmerodraeth Brydeinig. Gobeithiant trwy hyn y byddwn ni, ynnhiroedd Celtaidd gorchfygedig Prydain, yn anghofio ein dyheadaucenedlaethol gan ddal i gredu yn y myth Prydeinig.

Mae achlysur hanesyddol sy’n fwy perthnasol i Gymru, fel cenedl, eigoffau, pan ymladdodd a bu farw Cymry dros ryddid. Ar 11 Ragfyr,1282, lladdwyd Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru, ynghyd âmiloedd o’i filwyr yng nghyffiniau Cilmeri wrth ymyl Llanfair ymMuallt, yn ymladd i gadw Cymru yn rhydd o ormes Lloegr. Claddwydcorff Llywelyn yn Abaty Cwmhir. Aethpwyd â’i ben i Lundain fel troffi.Credir i gyrff ei filwyr orwedd mewn bedd torfol o dan gwrs golffLlanfair ym Muallt.

Fel sy’n digwydd bob blwyddyn ers 60au’r ganrif ddiwethaf coffeir ytrychineb hwn yn hanes Cymru trwy gynnal seremoni yng Nghilmeri ary dydd Sadwrn agosaf i 11 Rhagfyr 11 sef 7 Rhagfyr eleni. Hefyd, arddydd Sul, 8 Rhagfyr cynhelir seremoni coffau yn Llys Rhosyr argyrion Niwbwrch ar Ynys Môn. Yn Llys Rhosyr gellir gweld olion yrunig un o lysoedd Llywelyn y cafwyd hyd iddo hyd yma.

Dylai pawb sy’n dymuno cymryd rhan ymgynnull wrth ymyl InstitiwtNiwbwrch am 1.30 o’r gloch. Cyn hynny yn y bore caiff torchau eugosod ar gofgolofn Llywelyn y tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwyneddyng Nghaernarfon am 12.30 o’r gloch.

Os ydych chi’n credu ei bod hi’n bwysig coffau’r rhai, “dros ryddidcollasant eu gwaed” gobeithiwn eich gweld yn y seremonïau hyn.

Yr eiddoch yn wlatgarChris Schoen

PenygroesGwynedd

Annw yl O lygydd

Annwyl Olygydd:Bob tro yr wyf wedi bod yn Israel tywysydd y grŵp oedd Cristion o’r enwJoseph Wahbeh. Mae’n byw yn Deir Hanna, tref yng Ngalilea rhyw bummilltir ar hugain o Diberias. Mae’n ŵr dysgedig, yn siarad pum iaith. Wrthagor yr Ysgrythurau i ni mewn modd arbennig byddai’r mannau sanctaidd yndod yn fyw. Roedd gwrando arno yn mireinio ein profiad. Er bod Joseph ynddinesydd Israelaidd, Palestiniad yw ac felly heb gael manteision materol felyr Iddewon. Nid oes gwasanaeth iechyd yn y wlad fel sydd gennym ni yma.Mae’r Iddewon yn gadael yr ysgol yn ddeunaw oed ac yn gorfod mynd i’rfyddin. O hynny allan maent yn rhan o gynllun iechyd sy’n gofalu amdanyntam weddill eu hoes. Nid yw’r Palestiniad yn mynd i’r fyddin oherwydd ymilwyr yma sy’n gormesu eu pobl. Os ydynt mewn gwaith maent yn talu ynreolaidd am gymorth meddygol ond mae llawer iawn ohonynt yn ddi-waith.Fel canlyniad, pan fo salwch yn taro, rhaid i’r Palestiniad dalu am gymorthmeddygol neu ddioddef a marw.

Dyma sefyllfa Joseph ar hyn o bryd. Mae’n dioddef o’r cancr - cyflwr sy’nbosib ei drin a’i wella gyda llawdriniaeth. Gan iddo fod yn sâl am bron iflwyddyn nid yw wedi gallu gweithio ac felly nid oes ganddo’r arian sydd eiangen i dalu am y driniaeth i achub ei fywyd. Mae’r gost yn debyg i gosttriniaeth breifat yn y wlad hon. Hefyd bu’n fynach yn Ffrainc am flynyddoeddac os oedd yn derbyn tâl am waith yna roedd yn rhaid rhoi’r arian i’r eglwys.Pan gaewyd y fynachlog ni chafodd y myneich unrhyw ad-daliad er iddyntapelio i’r Vatican.

Ni allaf adael iddo farw. Bydd angen £6,000 dros y tri mis nesaf i dalu am ydriniaeth. Gall nifer o roddion bychan wneud byd o wahaniaeth agwerthfawrogir pob rhodd.

Rwyf felly yn lansio cronfa i achub ei fywyd. Hoffwn eich gwahodd i anfonrhoddion i’r gronfa er mwyn iddo weld fod cariad Cristnogol yn ymestyn oGymru at gyd-ddyn mewn angen yng Ngwlad yr Iesu. Gadewch i ni ddilyn ynôl traed y Ffisigwr Mawr a chynnig rhodd o fywyd iddo.

Ym mhob argyfwng blin, pan gwydfy nghyd-ddyn llesg ei gri,rho i mi fentro, Iesu mawr,yng ngrym dy gariad di

Anfoner pob rhodd at Y Parchedig Eirlys Gruffydd, Argel, 4 Parc Hendy, YrWyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1TH Ffôn: 01352 754458 E-bost:[email protected]

Gellir anfon sieciau wedi eu gwneud allan i Eirlys Gruffydd. Mae cyfrif bancarbennig wedi ei agor i dderbyn y rhoddion. Diolch o galon i chi.

Llenyddiaeth CymruYdych chi’n ysgrifennupethau ffeithiol fel bywgraffiad,neu straeon byrion, cerddi, neu nofelyn y Gymraeg, ac yn hunan-nodi felperson anabl ac/neu a oes gennychgyflwr iechyd corfforol neufeddyliol hirdymor?

Ydych chi’n ffansïo gweithiogydag ysgrifennwyr eraillmewn grwp bychan cyfeillgarer mwyn datblygu eich gwaith?

Beth am ymuno â grŵp newyddarbennig sy’n bwriadu cyfarfod ynardal Caernarfon bob mis?

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:[email protected] neu [email protected] Ffôn:029 2055 1040

Llais Ogwan 20

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 20

Page 21: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 21

PriddMae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch ogyhoeddi mai drama newydd gan Aled JonesWilliams yw cynhyrchiad nesaf y cwmni.Mae Pridd yn ddrama ar gyfer un actor ac fefydd yn mynd ar daith ar draws Cymru ynystod mis Tachwedd. Ysgrifennwyd y ddramayn arbennig ar gyfer yr actor Owen Arwyn ganAled Jones Williams.

Bywyd y diddanwr plant, Handi Al ywcanolbwynt y ddrama. Un prynhawn mae’ndychwelyd adref i ddarganfod fod pob dim a’iben i waered a’r ddodrefn yn troi’n bridd. Afeiddiai dynnu ei golur ac ystyried y bywydmae wedi ei fyw?

Meddai Aled Jones Williams; “YsgrifennaisPridd fel drama ar gyfer actor. Felly yr actora’r actio sydd flaenaf, nid y themau. Os oesthema - ac rwyf am bwysleisio’r os - ynadrama am hunaniaeth ydyw: a wyddom pwyydym?; a wyddom beth sy’n digwydd i ni arhyn o bryd?; a wyddom sut y mae’r pethauhynny yn digwydd?”

Er mwyn deall cymeriad Handi Al mae OwenArwyn wedi bod yn treulio’i amser yn dysgutriciau clownio ac wedi cael arweiniad ganarbenigwyr yn y maes. Meddai;

“Mae’n bleser gweithio ar ddrama sydd wedicael ei ysgrifennu ar fy nghyfer gan rhywundwi’n ei edmygu cymaint ag Aled JonesWilliams. Mae’n ddrama ddiddorol sydd yncynnig llawer i actor. Dwi wrthi ar hyn o brydyn dysgu triciau clownio... Sy’n dipyn o her,ond mae’n gymorth i fynd at wraidd ycymeriad.”

Sara Lloyd fydd yn cyfarwyddo’r ddrama.Bu’n gweithio fel cyfarwyddwr cyswllt arBlodyn ym mis Mehefin eleni, ond dyma’r trocyntaf iddi arwain ar y cyfarwyddo i TheatrGenedlaethol Cymru.

Bydd perfformiadau o'r ddrama yn Galeri,Caernarfon ar Dachwedd 18 ac 19, am7.30.01286 685222 / galericaernarfon.com

Mae’r sioe yn addas ar gyfer oedran 14+.

Urdd Gobaith Cymru

Annwyl GyfaillTLWS JOHN A CERIDWEN HUGHES

Daeth yr amser unwaith eto i ni ystyriedenwau ar gyfer y tlws uchod. Fel y cofiwch,mae'r Urdd wedi derbyn cynnig caredig yteulu i gyflwyno tlws yn flynyddol ynEisteddfod Genedlaethol yr Urdd i unigolionsydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol iieuenctid Cymru.Hoffwn dynnu eich sylw at y pwyntiaucanlynol:• Gellir ystyried rhywun sydd wedi cyfrannuat waith ieuenctid yn y gorffennol ond syddwedi rhoi gorau iddi erbyn hyn, yn ogystal,wrth gwrs, â rhai sydd yn dal i weithio gydaphobl ifanc.• Gofynnir i chi ddefnyddio'r ffurflenenwebu briodol sydd ar gael o Swyddfa’rUrdd.

Dylid ystyried y pwyntiau isod wrth enwebuunigolion:• Dylai'r gwaith fod trwy gyfrwng yr iaithGymraeg neu'n ymwneud ag ieuenctid sy'ndysgu'r iaith• Dylai fod yn waith wyneb yn wyneb âphobl ifanc dros 11 oed a thu allan igyfundrefn addysg ffurfiol.• Gall fod yn ymwneud ag unrhyw agwedd owaith ieuenctid (diwylliannol, corfforol,dyngarol, cymdeithasol, gyda phobl anabl,gyda dysgwyr, rhoi cyfle i ieuenctidgyfrannu, gwaith awyr agored, cyfnewid acyn y blaen).• Gall fod yn waith gydag unrhyw fudiadieuenctid.

Os am ffurflen enwebu cysylltwch gydaEnfys Davies, Swyddfa Penhelyg, Gwersyllyr Urdd, Llangrannog, Llandysul, Ceredigion ar 01239 652163, neutrwy e-bost - [email protected] gywir

Efa Gruffudd Jones

Prif Weithredwr

Urdd Gobaith Cymru

Cyfle i ddysgu am olrhainhanes teulu

Oes gennoch chi ddiddordeb mewn olrhainhanes teulu? Bydd cyrsiau undydd ar gyfer ysawl sydd â diddordeb mewn olrhain hanesteulu yn cael eu cynnal yn ArchifdyCaernarfon dan arweiniad GwasanaethArchifau Cyngor Gwynedd ym misTachwedd.

Dyma gyfle i chi gael arweiniad ar y fforddorau i fynd ati i olrhain hanes eich teulu, achael edrych ar wahanol ffynonellau athystiolaeth. Cynhelir sesiwn yn trafodastudiaeth achos a sesiwn cwestiwn ac atebhefyd yn ystod y dydd. Bydd y sawl sy’nmynychu yn derbyn pecyn gwybodaeth.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones,Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros ycelfyddydau:

“Mae olrhain hanes teulu wedi dod ynboblogaidd iawn yn ddiweddar gyda nifer oraglennu teledu yn canolbwyntio ar y maes.Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd ganddiddordeb gael cyngor ar y ffordd orau ifynd ati i wneud hynny. Dwi’n siŵr y byddhwn yn gwrs yn hynod ddiddorol.”

Cynhelir y Cyrsiau Olrhain Hanes Teulu ar ydyddiau canlynol: • cwrs Cymraeg - Dydd Sadwrn 16Tachwedd am 10am yn Archifdy Caernarfon • cwrs Saesneg - Dydd Llyn 25 Tachweddam 10am yn Archifdy Caernarfon

Cost y cwrs yw £10, ac mae’n hanfodol eichbod yn archebu eich lle.

Am fwy o wybodaeth, neu i archebu lle ar uno’r cyrsiau, cysylltwch â Gwasanaeth ArchifauCyngor Gwynedd ar 01286 679095, neu e-bostiwch [email protected]

Siarter Iaith Gymraeg Ysgolion Cynradd Gwynedd

Ers dwy flynedd, mae Cyngor Gwyneddwedi bod yn datblygu cynlluniau arloesol ihyrwyddo ac annog defnydd plant o’r iaithGymraeg yn eu bywyd bob dydd.

Fel rhan o waith ‘Siarter Iaith GymraegYsgolion Cynradd Gwynedd’, mae’r Cyngorwedi datblygu pecyn o adnoddau ac wedisefydlu trefn o gydnabod a gwobrwyoymdrechion ysgolion wrth iddynt anelu amstatws efydd, arian neu aur y siarter.

Mae 23 o ysgolion cynradd yn nalgylchoeddOgwen, Botwnnog ac Ardudwy wedi bod ynrhan o gynllun peilot y siarter. Diolch iymdrechion plant, staff a rhieni’r ardaloeddhyn, mae’r ysgolion wedi cyrraedd statwsefydd ac maent wedi cyflwyno eu profiadaui athrawon gweddill y sir mewn taircynhadledd dathlu a dysgu yn ddiweddar.

Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllian,Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

“Nod syml y Siarter Iaith ydi annog achefnogi plant Gwynedd i ddefnyddio euCymraeg – nid yn unig yn y dosbarth ondym mhob agwedd o’u bywydau.

Ychwanegodd Gwenan Ellis Jones,Cydlynydd Siarter Iaith Ysgolion Gwynedd:

“Yn sail i’r cyfan, mae’r egwyddor syml fodllwyddiant yn dibynnu ar ymrwymiad staff,rhieni a llywodraethwyr yn ogystal wrthgwrs a’r plant eu hunain wrth iddyntgyrraedd at y nod o gynyddu’r defnyddcymdeithasol o’r Gymraeg.”

Gwybodaeth am ddim yn y Gymraeg – cadw’ch calon yn iach

Fel elusen genedlaethol y galon hoffem roi gwybod i’ch darllenwyr ein bod yn cynnigtaflenni cyfrwng Cymraeg i helpu i newid ffordd o fyw er mwyn bod yn iachach – agwybodaeth bwysig ynglŷn â rheoli cyflyrau calon.

Mae Clefyd Coronaidd y Galon yn dal i ladd mwy o bobl Cymru nag unrhyw glefydarall. Yn ogystal ag ariannu gwaith ymchwil arbenigol ar y galon yng Nghymru achefnogi 97 o nyrsys y galon yng Nghymru, ‘rydym yn ymdrechu i gefnogi cleifon ygalon a gofalu amdanynt, ac i atal clefyd y galon drwy hybu byw’n iach yn eincymunedau.

Gall clefyd y galon effeithio ar bawb ohonom – o’r plentyn lleiaf sy’n cael ei eni â namar y galon, i oedolion sy’n brwydro oherwydd methiant y galon. Os hoffech ragor owybodaeth am ein cyhoeddiadau Cymraeg neu Saesneg: ewch i –www.bhf.org.uk/publications neu ffoniwch – 0870 600 6566

‘Rwyf i yn un o dîm o gydweithwyr a fydd yn hapus i ddod at fudiadau lleol i sôn am eingwaith yn lleol a rhanbarthol, ac mae croeso i chwi gynnig ychydig o ddyddiadau prydy gallem ddod i sgwrsio â’ch mudiad, ac yna fe gysylltaf â chwi cyn gynted ag y gallaf.

Diolch yn fawr,

Jayne LewisSwyddfa: 01554 891 500Symudol: 07860 727 547

E-Bôst: [email protected]

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:01 Page 21

Page 22: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 22

Am Ddrama

9.00Bob nos Sadwrn

o berfformwyr, un canwr

s4c.co.uk

IsdeitlauSubtitles

Noddwyd gan

Llais Ogwan 22

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:02 Page 22

Page 23: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 23

Canolfan CefnfaesBETHESDA

GYRfA CHWIST

Tachwedd 26Rhagfyr 10

am 7.00 o’r gloch

Dewch i fwynhau nosweithiau difyr

Beth sy’ndigwydd

yn y Dyffryn?

I gynnwys eich gweithgareddau lleol yn

Nyddiadur y Dyffryn cysylltwch â

Neville Hughes

600853

Sesiynau Siarad i Ddysgwyr

Paned a SgwrsCaffi Fitzpatrick

Bethesda 11.00 – 12.00 Dydd Sadwrncyntaf pob mis

Peint a Sgwrs Douglas Arms

Bethesda 20.00 – 21.00

Trydydd Nos Lunpob mis

EGLWYS Y SANTES FAIRTREGARTH

Te Nadolig 3 Rhagfyram 2.00pm

Caffi Coed y BreninBore Coffi

Eglwys Sant Tegai

Bore Sadwrn, 16 Tachwedd 201310.00 – 12.00

Mynediad £1.00

Cymdeithas Rhieni ac AthrawonYsgol Llanllechid

Bore Coffiyn

Clwb Criced, Bethesda

Ddydd Sadwrn, 7 Rhagfyr

10am – 12pm

Raffl, Stondinau Crefft, Siôn Corn adigon o fwrlwm y Nadolig

Mynediad: £1 i oedolion; plant cynradd am ddimCroeso cynnes i bawb

(Am fanylion pellach neu i archebugofod stondin grefftau, cysylltwch â:

Iona Robertson: 602658 / 07747778577 neu

[email protected])

Cymdeithas HanesDyffryn Ogwen

Nos Lun 9 Rhagfyr 2013

yn Festri Capel Jerusalem

Catrin Wager‘Prosiect Penrhyn’

Catalogio Archifau Castell Penrhyn

£1.50 wrth y drws

neu am ddim i aelodau

Eisteddfod Gadeiriol DyffrynOgwen

Nos Wener, 15 Tachwedd 6.30pm

yn Ysgol Dyffryn Ogwen

Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd10.00am

yn Ysgol Dyffryn Ogwen

Ysgrifennydd Cyffredinol: LowriWatcyn Roberts, Tregarth

01248 600490

Cyfarfod BlynyddolCaban Gerlan

19 Tachwedd

am 7.00 o’r gloch

yn y Caban

Croeso Cynnes i Bawb

Eglwys Annibynnol Bethlehem TalybontFFAIR NADOLIG

yn

Festri Bethlehem

Nos Fercher, 4 Rhagfyr

am 6.30 o’r gloch

Mynediad £1.00Yr Elw at y Capel a’r Ysgol Sul

Eglwys Annibynnol Bethlehem TalybontGWASANAETH

NADOLIGyng Nghwmni

Plant yr Ysgol Sul

Dydd Sul 15 Rhagfyr

am 2.00 o’r gloch

Casgliad at Apêl NadoligCymorth Cristnogol

Cyfeillion Ysbyty Gwynedd

Sioe Ffasiwngan

So ChicTheatr Ddarlithio

Ysbyty Gwynedd

Dydd Iau 21 Tachwedd

7.30 p.m.

£7.00

Raffl

Caffi Coed y Breninffair Nadolig

Y Blaid Lafurhefo Siôn Corn

Bore Sadwrn, 7 Rhagfyr 201310.00 – 12.00

Mynediad £1.00

Caffi Coed y BreninBore CoffiNeuadd Talgai

Sadwrn, 23 Tachwedd 201310.00 – 12.00

Llais Ogwan 23

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:02 Page 23

Page 24: Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 Campau'r Cymwynaswyr Tachwedd 2013.pdf · Ta ˘ˆ 2013 R˘ˇ 438 50 COFIWCH! Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen Nos Wener, 15 Tachwedd Dydd Sadwrn, 16 Tachwedd

Llais Ogwan 24

Chwaraeon

Bocsio

CYMORTHfEYDDOs oes gennych fater yr hoffech ei

drafod gyda’ch AC mewn cymhorthfa,

yna cysylltwch ag o yn ei swyddfa ym

Mangor neu yng Nghaernarfon

Alun ffred JonesAelod CynulliadEtholaeth Arfon

Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076

[email protected]

Hywel WilliamsAelod SeneddolEtholaeth Arfon

CYMORTHfEYDDOs oes gennych fater yr hoffech eidrafod gyda’ch AS mewn cymhorthfa,yna cysylltwch ag ef yn ei swyddfaym Mangor neu yng Nghaernarfon:

Swyddfa Etholaeth, 70 Stryd Fawr, Bangor, LL57 1NR (01248) 372 948

Swyddfa Etholaeth, 8 Stryd y Castell, Caernarfon, LL55 1SE (01286) 672 076

[email protected]

Dyrnu Gwyllt

Cynhaliodd Clwb BocsioCaernarfon dwrnamaintllwyddiannus yng ngwesty Meifod,Bontnewydd ar Hydref 26. Eugwrthwynebwyr ar y noson oeddaelodau o Glwb Bocsio Wicklow,Iwerddon. Da cael adrodd fod y triaelod o dîm Caernarfon wedi caelllwyddiant - Sean Carson oRachub yn ennill ei ornest yn erbynConnor Roche a hynny yn y rowndgyntaf.

Yr un canlyniad gafodd DavidFlorence o Dregarth wrth iddodrechu Liam Hayes. Yn y drydeddrownd yr enillodd Les Florence,drwy atal ei wrthwynebydd CianByrne.

Yn wir, 'roedd perfformiad Les ynun arbennig, ac iddo ef yr aethgwobr Bocsiwr gorau’r twrnamaint.Llongyfarchiadau i’r tri.

Y Tîm Pêl-droed Peryclaf yn y Byd

Ydych chi’n eu hadnabod?

Lansio ymgyrch Cardiau CRASH Beiciau Modur yng Ngwynedd

Mae reidwyr beiciau modur yng Ngwynedd yn cael eu hannog i gario cardiau gyda gwybodaeth a allaiachub eu bywyd mewn damwain.

Mae tîm Diogelwch Ffyrdd Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth gydag aelodau o DdiogelwchFfyrdd Cymru i hybu’r ymgyrch hwn, gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Ambiwlans GIG Cymru.

Crëwyd y cardiau hyn gan y Clwb Beiciau Modur Ambiwlans cenedlaethol (AMC), a enillodd wobrFfederasiwn Internationale de Motorcyclisme Diogelwch ar y Ffyrdd ar gyfer y cynllun yn 2012.

Mae’r cardiau yn cynnwys y mnemonig CRASH, a ddilynai set debyg o gwestiynau a ddefnyddir ganganolfannau rheoli gwasanaeth ambiwlans. Ar yr ochr arall mae yna wagle i lenwi gwybodaeth feddygol,yn ogystal â lle i restru'r enw a rhif ffôn cyswllt perthynas.

Dywedodd Dr Paul Hughes, Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Gallai gwneud rhywbeth mor syml a chario cerdyn CRASH yn eich helmed, ein galluogi ni felgwasanaeth i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch y driniaeth sydd ei angen wedigwrthdrawiad neu ddamwain beiciau modur.

“Bydd y cardiau CRASH yn darparu ein staff â gwybodaeth glinigol hanfodol i wella'r gofal y gallwn eiddarparu i feicwyr modur ar draws Cymru. Mae’n bwysig iawn cofio, bod tynnu helmed reidiwr beicmodur ar ôl damwain yn dasg arbenigol y dylid ond ei wneud gan griwiau ambiwlans neu bersonélhyfforddedig arall."

Mae cardiau CRASH ar gael am ddim o siopau beiciau modur lleol yng Ngwynedd gan gynnwys DragonMotorcycles Y Felinheli, Bill Smith’s Motors Bangor a Café Eric Jones yn Nhremadog.

Er mwyn archebu pecyn ac am fwy o wybodaeth ewch i www.ambulancemotorcycleclub.co.uk neucysylltwch â thîm Diogelwch Ffyrdd Cyngor Gwynedd ar 01286 679901 neu ewch iwww.ambulancemotorcycleclub.co.uk.

Llo Tachwedd 2013_Llais Ogwan 12/11/2013 11:02 Page 24