7
Lois Rock Andrew Rowland Addasiad Cymraeg: Dafydd Ifans Taith trwy’r Beibl

Taith Trwy'r Beibl (Sampl)

Embed Size (px)

DESCRIPTION

Taith Trwy’r Beibl Testun: Dafydd Ifans, Pris: £6.99, 48tt, cc. Llyfr sy’n ein harwain trwy’r Beibl ar ffurf taith yn dilyn hanes cenedl Israel o’r creu hyd at yr Eglwys Fore.

Citation preview

Page 1: Taith Trwy'r Beibl (Sampl)

Lois RockAndrew Rowland

Addasiad Cymraeg: Dafydd Ifans

Ta ithtrwy’rBe ib l

Page 2: Taith Trwy'r Beibl (Sampl)

Cynllunio’r daithTaith 1 Dechrau’r daith

Taith 2 Abraham yn mynd ar daith bell

Taith 3 Ŷd yn yr Aifft

Taith 4 Mynydd Sinai

Taith 5 Ar y fferm yng ngwlad Canaan

Taith 6 Dinas y Philistiaid

Taith 7 Y brifddinas: Jerwsalem

Taith 8 Y gelyn o Asyria

Taith 9 Wrth afonydd Babilon

Taith 10 Llys brenhinol Persia

Taith 11 Congl fach o’r Ymerodraeth

Taith 12 Y daith i Fethlehem

Taith 13 Nasareth

Taith 14 Taith bysgota o Gapernaum

Taith 15 Crwydro bryniau Galilea

Taith 16 Galilea a thu hwnt

Taith 17 Gartref ym Methania

Taith 18 Wythnos yn Jerwsalem

Taith 19 Rhannu’r newyddion da

Taith 20 Dros fôr a thir

Mynegai i enwau pobl a lleoedd

Cynnwys

Page 3: Taith Trwy'r Beibl (Sampl)

Pam mynd yno?I Gristnogion, y Beibl yw’r llyfr pwysicaf yn hanes y byd.

Mae adran hynaf y Beibl yn cynnwys llyfrau sanctaidd, neu ysgrythurau yr Iddewon. Mae’r adran fwyaf newydd yn cynnwys hanesion am Iesu Grist sy’n arbennig o bwysig i Gristnogion. Gelwir y darnau hynny y Testament Newydd a gelwir yr ysgrythurau Iddewig yr Hen Destament.

Bydd y llyfr hwn yn mynd â chi ar daith drwy amser. Dyma gyfle i chi alw draw i weld rhai o’r digwyddiadau pwysicaf a fu yn amser y Beibl. Mae hanesion y Beibl rhwng 2,000 a 3,000 blwydd oed. Hen Destament

Ysgrifennwyd y rhan fwyaf o’r storïau yn Hebraeg, iaith yr Iddewon. Ysgrifennwyd yr hanesion am Daniel, sydd wedi eu lleoli ym Mabilon a Phersia, mewn Aramaeg.

Testament NewyddAramaeg oedd yr iaith a siaradai’r Iesu. Er hynny, fe ysgrifennwyd llyfrau amdano mewn Groeg – iaith a oedd yn ddealladwy ym mhobman yn amser Iesu.

Erbyn hyn, mae’r Beibl wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd modern. Gallwch deithio drwy’r

Beibl yn Gymraeg.

Rhai geiriau i’w cofioShalom (Hebraeg): cyfarchiad bob dydd sy’n golygu ‘heddwch’Abba (Aramaeg): ‘dad’Crist (Groeg): ‘brenin’

Cynllunio’r daith

5

Ieithoedd defnyddiol

Page 4: Taith Trwy'r Beibl (Sampl)

Y MÔR CANOLDIR

YR EIDAL

GROEG

YR AIFFT

Mynydd Sinai

ISRAEL

PALESTINAJerwsalem

TWRCI

Mynydd Ararat

AFON TIGRIS

AFON EWFFRATES

IRAC

IRAN

AFON NEIL

Y CILGANT FFRWYTHLON

SYRIA

Mae storïau’r Beibl yn digwydd yn y tiroedd sydd ar lannau dwyreiniol y Môr Canoldir. Yn y canol ceir cilgant o dir sy’n cael ei ddyfrhau gan afonydd pwysig. Roedd yn lle da iawn i dyfu cnydau. Roedd yno hefyd ddigon o borfa i ddefaid, geifr a gwartheg. Y cilgant ffrwythlon hwn yw lleoliad rhai o storïau hynaf y Beibl.

6

Dechrau’r daith

Mae’r Beibl yn dechrau gyda storïau sy’n mynd yn ôl i’r dechreuad. Caent

eu hadrodd a’u hailadrodd gan rieni i’w plant hyd yn oed cyn iddynt gael eu

hysgrifennu.

Tiroedd y Beibl. Defnyddir enwau’r gwledydd fel y maent heddiw.

Taith 1

Page 5: Taith Trwy'r Beibl (Sampl)

7

Arch NoaMae stori’r Beibl am Noa yn sôn am ddilyw mawr. Roedd Duw am olchi drygioni’r byd yn lân a dechrau o’r newydd. Daeth Duw o hyd i un dyn da, Noa, a dywedodd wrtho am adeiladu cwch anferth i achub yr anifeiliaid. Ar ôl y dilyw, yn ôl y stori, fe laniodd yr arch ar Fynydd Ararat.

Ceir hafau hir, sych yng ngwledydd y Beibl fel arfer. Mae’r gaeafau’n oerach, a dyna pryd y bydd y rhan fwyaf o’r glaw yn disgyn. Anaml y ceir llifogydd mawr, ond gall cawodydd o law trwm achosi fflachlif ac i’r afonydd orlifo.

Mae’n bosib cael eira ar dir uchel yn y gaeaf. Ceir capan o eira ar Fynydd Ararat drwy gydol y flwyddyn oherwydd ei fod mor uchel.

Gardd EdenMae hanes y Creu yn y Beibl yn dweud bod

Duw, yn y dechreuad, wedi plannu gardd yn Eden. Câi’r ardd ei dyfrhau gan bedair

afon, gan gynnwys afon Tigris ac afon Ewffrates. Roedd yr ardd yn baradwys o gartref i’r dyn cyntaf, Adda, a’r ferch gyntaf, Efa. Temtiwyd Adda ac Efa i fwyta ffrwyth a oedd wedi ei wahardd iddynt. Wrth fwyta’r ffrwyth, gadawsant

bob math o bethau drwg i mewn i’r byd.

Tip teithio

Page 6: Taith Trwy'r Beibl (Sampl)

Abraham yn mynd ar daith bell

8

Ur

Haran

CANA

AN

Y MÔR

CANOLDIR

YR AIFFT

Yn y Beibl mae hanes pobl Israel yn dechrau gydag Abraham. Dechreuodd taith Abraham yn ninas Ur. Aeth Tera, tad Abraham, â’r teulu i Haran. Pan oedd Abraham wedi tyfu’n ddyn credai fod Duw yn ei alw i fynd i Ganaan, ac i sefydlu ei gartref yno.

Roedd Abraham angen symud o le i le i chwilio am borfa i’w anifeiliaid. Roedd ef a’i deulu yn byw mewn pebyll.

Gweision yn coginio

Gweision yn cloddio ffynnon

Merched yn gwehyddu brethyn

Mae’r map hwn yn dangos taith Abraham o’i gartref cyntaf i Ganaan.

Taith 2

Page 7: Taith Trwy'r Beibl (Sampl)

Yr addewidAddawodd Duw i Abraham y byddai’n dad i genedl fawr. Hwy fyddai pobl arbennig Duw a châi’r holl fyd fendith drwyddynt hwy.

9

Mae’n rhaid

i bawb sy’n

dilyn taith

Abraham

gerdded.

Bydd

sandalau neu

esgidiau lledr yn addas.

Ar brydiau bydd y daith

yn dilyn ffyrdd masnach

prysur. Dro arall

byddwch yn teithio dros

borfeydd garw.

Asynnod fydd yn

cario’r paciau trwm.

Bydd yna gert ychen

ar gael bob amser i’ch

cario am ran o’r daith os

byddwch wedi blino.

Symud o le i leYng ngwlad Canaan, roedd Abraham a’i deulu yn byw bywyd crwydrol gyda’r praidd. Pan fu prinder glaw, a dim llawer o fwyd i ddyn nac anifail, teithiodd Abraham i’r Aifft. Dychwelodd ymhen amser a mynd yn gyfoethog: roedd ganddo breiddiau a gwartheg yn ogystal ag aur ac arian.

Gweision a’u teuluoedd

Sara ac Isaac

Abraham

Bechgyn yn dysgu hela gyda bwa a saeth

Plant yn helpu i ofalu am y praidd

Tip teithio