Upload
others
View
4
Download
0
Embed Size (px)
Citation preview
Cyhoeddwyd gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac argraffwyd gan Wasg Morgannwg, 27 Ystad Ddiwyd. Mynachlog Nedd, Castell-nedd, SA10 7DR. Cofrestrwyd yn y Swyddfa Bost.
Erthyglau, llythyrau at y Prif Olygydd:
Y Parchg Ddr Alun Tudur
39 Dorchester Avenue, Pen-y-lan,
Caerdydd, CF23 9BS
Ffôn: 02920 490582
E-bost: [email protected]
Archebion a thaliadau i’r Llyfrfa:
Ty John Penri, 5 Axis Court, Parc
Busnes Glanyrafon, Bro Abertawe
ABERTAWE SA7 0AJ
Ffôn: 01792 795888
E-bost: [email protected]
tudalen 8 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 8, 2017Y TYsT
Golygydd
Y Parchg Iwan Llewelyn Jones
Fronheulog, 12 Tan-y-Foel,
Borth-y-gest, Porthmadog, Gwynedd,
LL49 9UE
Ffôn: 01766 513138
E-bost: [email protected]
Golygydd
Alun Lenny
Porth Angel, 26 Teras Picton
Caerfyrddin, Sir Gâr, SA31 3BX
Ffôn: 01267 232577 /
0781 751 9039
E-bost: [email protected]
Dalier Sylw!Cyhoeddir y Pedair Tudalen
Gydenwadol gan Bwyllgor Llywio’rPedair Tudalen ac nid gan Undeb yr
Annibynwyr Cymraeg. Nid oes awnelo Golygyddion Y Tyst ddim â
chynnwys y Pedair Tudalen.
Golygyddion
sefydlwyd 1867 Cyfrol 150 Rhif 23 Mehefin 8, 2017 50c.
Y TYsTPAPUR WYThNOsOl YR ANNIbYNWYR CYmRAEg
ADNODD CYFOES CYFFROUS
parhad ar dudalen 2
Cafodd Ap gyfrifiadurol i blant o’r enwArwyr Ancora ei lansio ar faes Eisteddfod yrUrdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. FersiwnCymraeg ydyw o Guardians of Ancora, addatblygwyd gan Scripture Union ar gyferplant 7-12 oed. Hwn yw’r Ap mwyafuchelgeisiol erioed yn y Gymraeg, ac mae’nffrwyth cydweithio rhwng Scripture Union anifer o’r enwadau a mudiadau Cristnogol yngNghymru. Mae’r Ap Guardians of Ancora, agyhoeddwyd yn 2015 wedi ennill ei le fel yprif ap gemau Cristnogol i blant ledled y byd,gyda dros miliwn wedi cofrestru felchwaraewyr!
Beth yw’r Ap?
Mae’r Ap yn cynnwys anturiaethau a gemausy’n tywys yr Arwyr i mewn i fyd y Beibl,gan eu cyflwyno i gymeriadau dychmygol felFfabwla a’r Urddfeistr, sydd, yn eu tro, yncyflwyno’r Arwyr i gymeriadau pwysig yn yBeibl. Trwy gwblhau tasgau arbennig maegwobrau fel ffilmiau bonws i’w hennill.O fewn yr Ap mae 11 cwest Beiblaidd, gyda
storïau, cwisiau, ffilmiau i’w gwylio a gemaui’w chwarae. Er mai dychmygol yw bydAncora a’i gymeriadau – fel Ffabwla,Macsen, y Sbarcod a’r Urddfeistr – mae’rstorïau a gyflwynir i gyd o’r Beibl, ac ynffyddlon a chywir i’r hanesion gwreiddiol.Cyflwynir 11 stori o fywyd Iesu, gangynnwys straeon y geni, galw’r disgyblion,bwyda’r dorf, a ‘Gweddi – sut i sgwrsio gydaDuw.’
Rhad ac am ddim
Mae’r gêm ar gael yn rhad ac am ddim i’wlawrlwytho a’i ddefnyddio. Mae moddchwarae’r gêm ar unrhyw ddyfais llechengymharol ddiweddar sy’n rhedeg meddalweddiOS neu Android. Mae modd ei lawrlwythohefyd i ffôn symudol.
Cafodd cân arbennig ei recordio ganMartyn a Meilyr Geraint, sef trosiad ganArfon Jones, Ni ydy Arwyr Ancora.
Ewch i wefan www.arwyrancora.com ilawrlwytho’r Ap.
Bu plant Cwm Dulais yn canu mewn oedfa gyfoes i ddathlu’r Pasg yn Saron Creunant, gydag Andrew Millard ac Eli Flowers ac
eraill hefyd yn cymryd rhan. Llywyddwyd gan Rhys Lock a phregethwyd gan Meirwen Crocket o Gwmafon. Gan fod Rhys yn dathlu
ei benblwydd yn 25ain y diwrnod hwnnw, cafwyd parti arbennig. Ar ddiwedd y parti, fe wnaeth y plant adael y balŵns i godi i’r
awyr, fel arwydd o obaith i’r byd.
PARTI WEDI’R OEDFA YN Y CREUNANT!
YMLAEN AT Y MILIWNMae rhai pobl yndweud “Nidachub yr iaith ywgwaith yr eglwys”ond mae
tystiolaeth Feiblaidd yn dangos yn glir bodDuw am weld amrywiaeth iaith a diwylliantyn ei fyd, meddai Arfon Jones wrth yRhwydwaith Merched.
Yn sgil ymweliad Meri Huws, Comisiynydd yGymraeg, â Chyngor yr Undeb yng Ngregynogcytunwyd y dylai’r Annibynwyr gyfrannu tuagat gyflawni nod Llywodraeth Cymru o sicrhaumiliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. YRhwydwaith Merched sy’n arwain hyn ar ranyr Undeb, a hwy wahoddodd Arfon Jones i’whannerch yng nghapel Y Priordy, Caerfyrddin.
Pwysleisiodd Arfon fod Duw â diddordebmewn bywyd yn ei gyflawnder,gan gynnwys ein iaith a’ndiwylliant fel Cymry. “Rhaidcydnabod cyfraniad aruthrolCristnogaeth a’r capeli dros ycanrifoedd tuag at barhad yriaith Gymraeg. Byddai’r iaithddim yn fyw heddiw oni baiam hynny,” meddai.
TYSTIOLAETH FEIBLAIDD
Ymhlith yr amryw gyfeiriadau sy’n y Beibl igyfiawnhau gwerth ieithoedd, cyfeiriodd ArfonJones at hanes y Pentecost. “Yno, r’oedd poblo lu o wahanol wledydd yn clywed am ypethau rhyfedd roedd Duw wedi eu gwneud –pob un yn ei iaith ei hun. Mae Datguddiad ynsôn am dyrfa fawr o bobl, o bob cenedl, hil aciaith yn dod at ei gilydd ar ddiwedd amser. Nidyw pawb yn dod i’r nefoedd yn siaradEsperanto neu Saesneg! Na, fe fydd yramrywiaeth rhyfeddol, ddiwylliannol,ieithyddol yma’n bodoli yn y Deyrnas sydd iddod, yn ôl Llyfr Datguddiad ac mae Duw amhybu a chadw’r amrywiaeth yma yn ypresennol hefyd.”
HER I’R ANNIBYNWYRMae yna her i ni fel Annibynwyr i wneud einrhan, meddai Arfon Jones. “Beth bynnag allwnei wneud i helpu pobl sy’n symud i mewn i’ncymunedau ni i ddod yn rhan o’r gymuned, iddysgu’r iaith ac yn y blaen, ac yn sgil hynnydod yn rhan o gymuned yr eglwys hefyd, fefydd hynny’n golygu fod y RhwydwaithMerched a’r Annibynwyr yn cyflawni rhanbwysig o’n gweinidogaeth fel Cristnogion.”
I glywed araith Arfon yn llawn, ewch i: www.mixcloud.com/rhodridarcy/rhwydwaith-merched_arfon-jones02/
tudalen 2 Y Pedair Tudalen Gydenwadol Mehefin 8, 2017Y TYsT
YSGOL HAF Y GWEINIDOGION
Mehefin 26-28, 2017Canolfan Halliwell
Coleg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Caerfyrddin
Prif thema: Dathliadau 2017
Cadeirydd: Jill Hailey-Harries
Dydd Llun 264.00 Cyrraedd, cofrestri, coffi5.00 Darlith a thrafodaeth: Densil Morgan
– Martin Luther.6.30 Swper 7.30 Darlith Goffa W. T. Pennar Davies ac
R.Tudur Jones: Eryn White –Williams Pantycelyn
9.00 Epilog
Dydd Mawrth 27: 8.00 Brecwast9.00 Defosiwn9.15 Astudiaeth Feiblaidd: R. Alun Evans
10.30 Coffi11.00 Darlith a thrafodaeth: Alun Tudur –
Y Diwygiad Radical12.30 Cinio1.30 Prynhawn rhydd: trip dan ofal Jill a
Guto5.00 Coffi 5.30 Cyfarfod Busnes6.30 Swper7.30 Atgofion: Howell Mudd9.00 Epilog
Dydd Mercher 28:8.00 Brecwast9.00 Defosiwn9.15 Astudiaeth Feiblaidd: R. Alun Evans
10.30 Coffi11.00 Darlith a thrafodaeth ar lyfrau:
Alun Lenny – Llyfrau Dadlennol12.30 Cinio
Diddymu’r Hen DestamentDyma ail ran ysgrif y Parchg Casi Jones
sy’n ystyried arwyddocâd a gwerth yr Hen
Destament i ni fel Cristnogion
7. Deall Meddwl Crist Cafodd yr Arglwydd Iesu ei hun eifagu yn sŵn geiriau’r HD a rhaidedrych ar rhain er mwyn deall cefndira meddylfryd Iesu. Weithiau maeIesu’n ategu geiriau’r HD, dro arall,mae’n dehongli hedyn o henwirionedd mewn ffordd newyddheriol, ond mae dysgeidiaeth yr HDyno yn y cefndir bob tro.
8. Deall pwrpas DuwOs nad ydym yn gyfarwydd â’r HD,fyddwn ni ddim yn deall yn iawn pamfod angen i Iesu ddod a fyddwn niddim yn gweld y stori fawr y mae efyn uchafbwynt disglair iddi.
9. Dysgu o’r arwyr Mae yna arwyr ffydd yn ymddangosyn yr HD. Cymerwch Abraham felenghraifft. Ceir cyfeiriadaeth ato yn yTN yn y llythyr at yr Hebreaid felenghraifft ddisglair o un a glywoddalwad Duw ar ei fywyd ac aymatebodd gyda brwdfrydedd iddi.
10. Dysgu o gamgymeriadau eraillMae cymeriadau sy’n cymryd cam
gwag trwy wrthryfela yn erbyn Duw.Mae’r brenin Dafydd yn enghraifft oddyn oedd yn cael ei ddefnyddio igyflawni pwrpas Duw er ei fod yneuog o dorri rheolau Duw. Onid ywhi’n gysur i’r Cristion wybod fod Duwyn medru defnyddio pobl amherffaithyn ei waith?
11. Neges mewn hanesDydy’r ffydd Gristnogol ddim yn caelei chyflwyno fel syniadaeth bur, ondfel cyfres o storïau a negeseuon ganDduw y mae pobl go iawn yn ymatebiddynt. Yn y stori, a’r sgwrs a’rberthynas rhwng pobl â Duw rydymyn medru deall ffydd. Dyma pam eibod yn bwysig darllen hollamrywiaeth llenyddol y Beibl ermwyn ymuno yn yr ymweud â Duw abod yn rhan o’i Stori Sanctaidd.
12. Anawsterau Mae darnau yn yr HD all beritramgwydd, ond mae’n gymorth bobamser i ofyn pam oedd y stori honwedi ei chadw gan y casglwyrgwreiddiol? Beth fedrwn ni ei ddysguam fwriad Duw, am ffydd ac am ynatur ddynol yn y stori hon? Maeergyd hanesion yr HD yn aml ynbwysicach na’r manylion.
13. Dechrau datguddiad sy’n cynydduMae’r HD yn llawn storïau o bobl sy’nymateb i neges gan Dduw –weithiau’n deall, weithiau’ncamddeall, weithiau’n ymateb mewnufudd-dod ac ymddiriedaeth, dro arallyn cefnu ac yn gwrthryfela. Wrthgwrs, datguddiad sy’n cynyddu wrthfynd ymlaen a geir yn y Beibl. Mae’rhyn y mae Duw am i ni ddeall amdanoac am ei ewyllys yn dod yn gliriachlawer yn y TN ac ym mherson agweinidogaeth Iesu.
14. YmgodymuOs ydym yn teimlo fod yr HD yngymhleth, efallai fod hynny’n golyguei bod yn werth i ni ymgodymu ag efoherwydd mai yn yr ymgodymu yma,gyda chymorth ac arweiniad yr Ysbrydy byddwn yn dod o hyd i arweiniad anerth, y goleuni a’r ysbrydoliaeth syddei angen arnom i fyw bywyd heddiwfel Cristogion mewn byd sy’n aml ynlle digon cymhleth ac astrus.
Casi Jones
Rydym yn dal i chwilio am Gristionifanc rhwng 18 – 25 oed i ddod arFlwyddyn Medrau 2017 – 18 ynEbeneser, Caerdydd.
Bwriad y flwyddyn yw rhoi blwyddyngap i unigolyn, yng Nghaerdydd, i gaelprofiadau amrywiol, tyfu yn y ffydd acystyried galwad Duw ar ei gyfer. Gallaihyn gynnwys cydweithio gydag EglwysGlenwood, gwaith plant, ieuenctid neuhenoed; gwaith gyda’r di-gartref,ymgeiswyr lloches, arwain addoliad,astudiaethau Beiblaidd a cherddoriaeth.
Mae Undeb yr Annibynwr wedicynhyrchu fideo i hyrwyddo’rflwyddyn. Teipiwch Medrau ynYoutube i’w gweld.
Mae’r flwyddyn yn rhedeg o fis Meditan fis Gorffennaf ac yn cael ei ariannu’nllawn trwy haelioni Undeb yrAnnibynwyr a Chyngor y GenhadaethFyd-eang. Os yr hoffet ragor o fanylionneu os y gwyddoch am unrhyw unfyddai â diddordeb cysylltwch gydagAlun ar 07814 536208 [email protected]
Capel y Baran, Rhydyfro,
Pontardawe
DARLITH
FLYNYDDOLgan Y Parchg Meirion Evans
"EISTEDDFOD
FICTORIA"
Nos Fawrth, Mehefin 13 2017,
am 6.30 yr hwyr
Bydd lluniaeth ysgafn ar gael
Croeso cynnes i bawb
Manylion: Dilys Walters 01792
863823
DECHRAU CANU
DECHRAU CANMOL
Capel yr Alltwen, Pontardawe
Nos Iau, Mehefin 26,
am 7 o’r gloch
Croeso cynnes i bawb ymuno ar
gyfer y recordiad
GolygyddolMehefin 8, 2017 Y Pedair Tudalen Gydenwadol tudalen 7Y TYsT
WYTHNOs IECHYD MEDDWL
Beth amser yn ol neilltuwydwythnos i’r perwyl hwn adarlledwyd nifer o raglennicyrhaeddgar ar S4C ac arRadio Cymru. Yr oeddwn yngyfarwydd â rhai o’rteuluoedd a fu drwy’rprofiadau dirdynnol yma.
Roedd edrych ar yrhaglenni hyn yn ysgwyd dyni’r byw, ac yn gwneud, i mi,beth bynnag, feddwl cyn dweud dim,oherwydd mor hawdd yw gwneud hynny.
Dioddefai Job yr Hen Destament o’r unafiechyd, ac fe gafodd o dri ffrind, a thriffrind da hefyd yn llawn cydymdeimladtuag ato. Dyma’u henwau: Eliffas, Bildad aSoffar. Tri oedd â thair dawn y dylemninnau eu mabwysiadu:
Y DDAWN I WELD
Yn y rhaglen a ddarlledwyd ar MattJohnson, y cyflwynydd teledu bywiog, ac
un o gyflwynwyr y rhaglen ‘Cariad at Iaith’,dywedodd Nia Parry, ei gyd-gyflwynydd,rywbeth cwbl arwyddocaol wrth son fodMatt yn berson cwbl wahanol tu allan iamser ffilmio ag a oedd o o flaen ycamera. Un diwrnod mentrodd Nia ofyniddo’r cwestiwn syml, ond gwirioneddolanodd: “Wyt ti’n iawn Matt?” Hynny yw,roedd Nia wedi gweld nad oedd pethau’n‘iawn’, ac fe fu hi’n ddigon craff i weld.Yda ni? Hawdd iawn yw pwyntio’r bysbeirniadol heb wybod dim am neb. Ygamp ydi mabwysiadu’r agosrwyddCristnogol hwnnw sy’n allweddol i’ndealltwriaeth ni o’n gilydd fel Cristnogionac aelodau o’r ddynoliaeth.
Y DDAWN I WRANDO
Pa mor barod yda ni i wrando? RoeddEliffas, un o ffrindiau Job, yn un o’rgoreuon am wrando, a gwrando amamser maith pe byddai raid. Gwrandohefyd heb ymateb yn feirniadol ac heb fodyn sarhaus o neb. Y mae i wrando hefydei reol euraid, sef nad oes datgelu iddigwydd. Synnaf, weithiau, o glywed pamor barod ydym i ddatgelu cyfrinachaupobl. Cofiaf y Dr R. Tudur Jones yn dweudwrthym ni ddarpar-weinidogion
flynyddoedd yn ol bellach pa mor bwysig
oedd, a dyfynnaf: “gosod y gyfrinach
mewn bocs, cloi’r bocs a’i daflu i eigion y
mor.”
Y DDAWN I sIARAD DOETHINEBGellir yn rhwydd iawn luchio ystrydebau
di-sylwedd a di-gyfeiriad. Roedd Eliffas yn
nyddiau Job, ac yn wir ym mhrofiad Job,
yn un o’r goreuon. Gair i godi’r gwan oedd
ganddo, a gair oedd yn ei atgoffa na fedrai
gwr Duw ddim osgoi’r cyflwr yr oedd
ynddo.
Clywyd dro ar ol tro bobl yn dweud
“wel, lle ma’ch ffydd chi?” Drwy’r afiechyd
hwn yn hanes Job, ni chefnodd ar ei ffydd,
ond yr oedd angen rhywrai i’w atgoffa fod
Duw yn ei garu. A dyma’n cyfrifoldeb ni -
atgoffa pobl yn dyner o gariad Duw yng
Nghrist.
Nantlais biau’r geiriau godidog hynny:
‘Tydi yn unig wyr
Holl gystudd plant y llawr,
Y rhai sy’n crefu am yr hwyr,
Yn griddfan am y wawr.’
Gweddiwch y geiriau yna o ddifri calon.
Iwan Llewelyn
Iwan Llewelyn
Y FFORDD YN FLWYDD OED!Hanes y daith hyd ynhyn gan Rhodri Darcy,Swyddog Hyrwyddo aChyfathrebu’r Undeb.
Meithrin ffydd a hyderyw nod uchelgesiol YFfordd, ac ar ddiweddblwyddyn mae’n galonogol i weld fod ycynllun - yn gyfres o ffilmiau byrion acastudiaethau penodol – wedi dechraugwreiddio yn ein heglwysi ac ymysg einhaelodau.
Torri Cwys Newydd
Wrth i awdur y gyfres, Dr Noel Davieslunio themâu a chynnwys Y Ffordd roeddyn torri cwys newydd. Er bod cyrsiau felAlpha yn boblogaidd iawn yn Saesneg, cynY Ffordd doedd dim adnodd yn delio âsefyllfa Cymru yn Gymraeg yn bod. Mae’rbedwaredd bennod yn dangos gwir gryfdery cwrs i mi. Wrth drafod y cwestiwnallweddol Sut mae meithrin ac adeiladueglwys? mae Cristnogion o bob oed achefndir yn ateb yn hyderus ac onest.Llwyddiant mwyaf y cwrs hyd y gwelaf iyw fod y drafodaeth honno wedyn ynparhau ar lawr gwlad. Gyda phob fideo mae cyfres o gwestiynauac arsylwadau, wedi eu paratoi ganswyddogion adnoddau’r Undeb, YParchgn. Casi Jones a Robin Samuel.Bwriad y cynllun yw bod gwylwyr, ynunigol neu yn gynulleidfa, yn medrustopio’r DVD a thrafod cwestiynaupenodol ymhlith ei gilydd. Ac yn ydrafodaeth honno rydym yn gweddïo ybydd ffydd a hyder yn cael eu meithrin.
Amrywiol Ddefnydd
Mae’r defnydd yn amrywio, gyda grwpiauo fewn eglwysi yn eu gwylio’n rheolaidd,neu fel cynnwys ‘y bregeth ar fore Sul’,mae grwpiau cyd-enwadol yn ymgynnulli’w gweld a chyfundebau cyfan hefyd ynarwain astudiaethau. Ond efallai maillwyddiant mwyaf y fideos yw bod moddeu gweld ar ffonau symudol, ar ipads ac atiac ar YouTube, fel bod modd i’r unigolyn,yn lle bynnag y mae, gael blas ar y cwrs.Mae gweld y fideos yn cael eu rhannu arFacebook hefyd yn anogaeth, ac yn dangossut mae’r genhadaeth yn gweithio yn ydydd sydd ohoni.
Ffigyrau Gwylio Da
Mae ffigyrau gwylio’r fideos wedi bod yngalonogol hefyd, gyda channoedd wedigweld y penodau ar-lein, a bron i ddau gant(yn unigolion neu yn eglwysi cyfan) ynarchebu’r DVD bob tymor. Ac i’r sawlsydd heb weld fideo eto neu heb ffurfiogrŵp trafod yn lleol – d’yw hi ddim yn rhyhwyr i ymuno â’r Ffordd! Er bod ffurfcwrs pedair blynedd iddo, does dim angengweld pob fideo mewn trefn, na chwaithdechrau gyda’r bennod gyntaf. Gellirdechrau gyda’r bennod gyfredol erengraifft, ac addasu pa mor aml mae’rgrŵp yn cwrdd i drafod yn ôl yr hyn sy’naddas yn lleol.
Does dim rhaid ‘chwaith defnyddiosgrîn fawr a thaflunydd yn y capel i weld yfideo! Mae sawl un wedi nodi bodcyfarfod mewn lolfa yng nghartref un o’raelodau yn gweithio’n dda ac yn ennyncyfarfod mwy anffurfiol a chynnes einaws.
Dyna yw gwir lwyddiant Y Ffordd.Pwysicach o bosib nag ansawdd y ffilmiau,yw awydd pobl i ddod ynghŷd ac i drafodthemâu Cristnogol, gyda’r bwriad o ddysguac o ddyfnhau eu ffydd. Ac wrth gamutuag at ail flwyddyn Y Ffordd, gweddiwn ybyddai hyn yn cynyddu ar draws eincyfundebau a’n heglwysi.
Cynllunio’r Ail Flwyddyn
Rydym wrthi eisioes yn cynllunio’r ffilmioar gyfer ail flwyddyn y cwrs, sydd i’wgyhoeddi mis Medi eleni. Y thema canologfydd Y Ffordd y Daethom. Mi fyddwn ynarchwilio seiliau hanesyddol y ffydd, gannodi penblwyddi’r DiwygiadProtestannaidd a William WilliamsPantycelyn ymhlith eraill. Rydym eisioeswedi bod yn ffilmio yn Wittenberg, YrAlmaen, sef crud y Diwygiad, ac mi fyddyr haf yn un prysur iawn o ffilmio!