26
Cronfa Fforddiadwyedd Ynni WPD 2020/21 Ffurflen gais Gwybodaeth am y gronfa Mae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi sefydliadau nid-er-elw i ddarparu gwresogi fforddiadwy lleol arloesol a/neu wasanaethau Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth yn hydref/gaeaf 2020-21, gan addasu i bandemig Covid-19 a datblygu ffyrdd newydd effeithiol o weithio i gefnogi cwsmeriaid bregus. Mae grantiau ar gael ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i ymgeisio am hyd at uchafswm o £20,000, ac mae croeso i geisiadau am symiau is na hyn hefyd. Disgwylir i’r holl ymgeiswyr ddangos sut bydd yr arian hwn yn rhoi’r cyfle iddynt gyflawni gweithgaredd newydd mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosib fel arall. Rhaid i’r holl weithgareddau fod ar gyfer prosiectau sy’n rhedeg am uchafswm o chwe mis, yn digwydd rhwng Hydref 2020 a Mawrth 2021. Bydd yr holl geisiadau’n cael eu sgorio yn erbyn meini prawf penodol a hefyd eu hasesu yn erbyn nodau strategol ehangach Western Power Distribution. Gellir gwario’r arian hwn ar gostau rhesymol sy’n gysylltiedig â bodloni’r amcanion a ganlyn mewn ffyrdd newydd ac arloesol: 1. Adnabod ymgeiswyr newydd ar gyfer y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth a chynnig cefnogaeth i aelwydydd sydd eisoes wedi cofrestru. 2. Helpu aelwydydd sy’n gymwys ar gyfer y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth i leihau a rheoli eu biliau. 3. Darparu cyngor a chefnogaeth i alluogi i aelwydydd bregus ymgymryd â gwelliannau effeithlonrwydd ynni. 4. Targedu cyngor a chefnogaeth ynni cartref i aelwydydd sydd mewn ardaloedd o amddifadedd uwch ac ardaloedd nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy, gan ddefnyddio ap

  · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

  • Upload
    others

  • View
    4

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Cronfa Fforddiadwyedd Ynni WPD 2020/21

Ffurflen gaisGwybodaeth am y gronfa

Mae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi sefydliadau nid-er-elw i ddarparu gwresogi fforddiadwy lleol arloesol a/neu wasanaethau Cofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth yn hydref/gaeaf 2020-21, gan addasu i bandemig Covid-19 a datblygu ffyrdd newydd effeithiol o weithio i gefnogi cwsmeriaid bregus.

Mae grantiau ar gael ar gyfer sefydliadau sy’n gymwys i ymgeisio am hyd at uchafswm o £20,000, ac mae croeso i geisiadau am symiau is na hyn hefyd. Disgwylir i’r holl ymgeiswyr ddangos sut bydd yr arian hwn yn rhoi’r cyfle iddynt gyflawni gweithgaredd newydd mewn ffordd na fyddai wedi bod yn bosib fel arall. Rhaid i’r holl weithgareddau fod ar gyfer prosiectau sy’n rhedeg am uchafswm o chwe mis, yn digwydd rhwng Hydref 2020 a Mawrth 2021. Bydd yr holl geisiadau’n cael eu sgorio yn erbyn meini prawf penodol a hefyd eu hasesu yn erbyn nodau strategol ehangach Western Power Distribution.

Gellir gwario’r arian hwn ar gostau rhesymol sy’n gysylltiedig â bodloni’r amcanion a ganlyn mewn ffyrdd newydd ac arloesol:

1. Adnabod ymgeiswyr newydd ar gyfer y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth a chynnig cefnogaeth i aelwydydd sydd eisoes wedi cofrestru.

2. Helpu aelwydydd sy’n gymwys ar gyfer y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth i leihau a rheoli eu biliau.

3. Darparu cyngor a chefnogaeth i alluogi i aelwydydd bregus ymgymryd â gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

4. Targedu cyngor a chefnogaeth ynni cartref i aelwydydd sydd mewn ardaloedd o amddifadedd uwch ac ardaloedd nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy, gan ddefnyddio ap bregusrwydd WPD o bosib, a geir yma: www.westernpower.co.uk/social-indicator-mapping.

5. Gweithio gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau rhwng cartrefi oer, llaith ac iechyd corfforol a meddyliol gwael.

Bydd yr arian hwn yn helpu i gefnogi sefydliadau a all ddarparu un neu fwy o’r gweithgareddau a ganlyn i fodloni’r amcanion uchod. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried ceisiadau i ariannu gweithgareddau arloesol nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon os gellir gwneud achos cryf:

a. Darparu cefnogaeth a chyngor ynni cartref. Gallai hyn gynnwys:i. darparu cyngor ar-lein ii. cydweithio gyda banciau bwyd neu grwpiau cyd-gymorth

Page 2:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

iii. ymweliadau cartref o bell (e.e. defnyddio fideo gynhadledd) iv. gweithio gyda gwirfoddolwyr i ddarparu cymorth (e.e. gyda thopio mesuryddion rhag-daledig i fyny)v. ymweliadau cartref yn defnyddio PPE perthnasol (law yn llaw â gweithgareddau eraill, os a phryd y byddan nhw’n ddiogel i’w gwneud).

b. Ymestyn rhwydweithiau cyfeirio presennol i weithio gyda sefydliadau ychwanegol (yn benodol, sefydliadau sydd wedi dod yn flaenllaw yn y cymunedau lleol yn ystod covid ac sydd bellach yn gysylltiadau lleol yr ymddiriedir ynddynt) ar sail cyfeirio dwyochrog. Yn benodol, rydym am weld sut allai hyn ymestyn sgôp y gweithgareddau presennol, i gynnig gwasanaeth mwy holistaidd.

c. Ymestyn cyrhaeddiad daearyddol gwasanaeth cyngor presennol i ardal lle nad yw gwasanaethau tebyg yn bodoli ar hyn o bryd.

d. Defnyddio dulliau, technegau neu bartneriaethau arloesol i gyflawni’r pum amcan sydd wedi’u rhestru uchod, gyda diddordeb penodol mewn dulliau arloesol o gefnogi pobl fregus yn ystod y pandemig a rhoi sylw i anghenion newydd sy’n deillio o’r pandemig, yn cynnwys eithrio digidol.

Gallai’r ymgeiswyr sy’n medru cyflawni un neu fwy o weithgareddau a-d geisio ymgorffori un neu fwy o’r gweithgareddau hyfforddiant a ganlyn hefyd. Fodd bynnag, ni fydd ceisiadau am hyfforddiant nad ydynt yn cynnwys unrhyw rai o’r gweithgareddau eraill yn gymwys:

e. Hyfforddiant i weithwyr rheng-flaen (megis meddygon teulu, bydwragedd, ymladdwyr tân, nyrsys a therapyddion galwedigaethol) sefydliadau cyd-gymorth a grwpiau cymunedol i edrych allan am fregusrwydd ynni ymhlith eu cleientiaid (e.e. biliau ynni uchel, cartrefi oer a llaith, materion iechyd) a gwneud cyfeiriadau priodol.

f. Hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr, megis City and Guilds Lefel 3 mewn Ymwybyddiaeth Ynni ar gyfer ymgynghorwyr ynni, neu ddarparu hyfforddiant cefnogaeth o bell.

Addasu i COVID-19

Bwriad WPD yw cefnogi sefydliadau i gyflawni dulliau arloesol i ddarparu gwresogi fforddiadwy a gwasanaethau PSR mewn ffyrdd sy’n addasu i’r amgylchiadau sydd wedi’u creu gan bandemig Covid-19. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd y rhan fwyaf o’r dulliau newydd hyn yn wasanaethau o bell a gynigir ar-lein ond rydym am annog unrhyw syniadau sy’n ymgysylltu â phobl sydd mewn risg o beidio â chael mynediad i wasanaethau yn sgil eithrio digidol. Isod, ceir rhai enghreifftiau o addasu gwasanaethau cyngor i Covid-19 ac ehangu cyrhaeddiad i gefnogi’r aelwydydd mwyaf bregus:

1. Darparu cefnogaeth a chyngor ynni o bell

Page 3:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Gallai hyn gynnwys darparu cyngor ar-lein, cynnig ymweliadau cartref o bell (e.e. gan ddefnyddio fideo gynhadledd), gweithio gyda gwirfoddolwyr i ddarparu cymorth (e.e. gyda topio mesuryddion rhag-daledig i fyny).

2. Cymorthfeydd cyngor ynni ar fideoGweithio gyda sefydliadau cyngor annibynnol lleol i gynnig cyngor ar fideo mewn lleoliad un i mewn-un allan dan oruchwyliaeth (gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol yn eu lle). Byddai hyn yn apelio at gleientiaid a allai fod â rhwystrau technegol neu wedi’u cyfyngu yn sgil rhwystrau iaith ac felly na fyddent yn ffonio llinell gymorth.

3. Gwresogi, dŵr poeth a thalebau PPM tymor byrGweithio gyda chymdeithasau tai i ddarparu gwresogi, dŵr poeth a thalebau PPM tymor byr i’w tenantiaid. Gallai sefydliadau cyngor ynni gysylltu â’r tenant a chynnig opsiynau gwresogi tymor byr gan gynnig talebau PPM, cofrestru â PSR a dolenni i wasanaethau cefnogaeth. (Ni ellir defnyddio arian o’r gronfa hon i brynu talebau PPM ond gall dalu am amser i helpu i ddosbarthu’r rhain ar ran sefydliad arall megis cymdeithas dai os yw hyn hefyd yn creu cyfleoedd i gynnig cyngor).

4. Gweithio gyda phartneriaidI helpu gyda hyrwyddo gwasanaethau cyngor ynni a’r Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth. Er enghraifft, gweithio gyda fferyllfeydd lleol a grwpiau cefnogaeth lleol i gynnwys taflenni cofrestru PSR gyda danfoniadau presgripsiynau a bwyd.Cydweithio gyda banciau bwyd neu grwpiau cyd-gymorth i gael mynediad i aelwydydd bregus.Cychwyn neu bod yn bartner mewn cynllun ‘Cyswllt Cyntaf’ sy’n caniatáu i ymarferwyr sy’n delio â chleientiaid wneud cyfeiriadau aml-asiantaethol drwy un broses a gydnabyddir.

5. Cyfeirio i gefnogaeth ehangachCyfeirio cleientiaid i wasanaethau cefnogaeth ehangach sy’n cynnwys llinellau cymorth iechyd, iechyd meddwl, bwyd, ynni, tai a COVID.

6. Arddangosiadau ar stepen drwsArddangosiadau cymharu tariff a rheoliadau gwresogi ar y stepen drws wedi’u trefnu ymlaen llaw, wrth gofrestru cleientiaid i’r PSR neu adael gwybodaeth am PSR/Tariff/Gostyngiadau Cartrefi Cynnes.

Page 4:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Cymhwyster

Er mwyn cymhwyso am grant, rhaid i chi orfod bodloni’r meini prawf a ganlyn:

Mae gweithgareddau eich sefydliadau yn digwydd o fewn ardal rhwydwaith WPD (Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, De-orllewin Lloegr a De a Gorllewin Cymru fel sydd wedi’i ddiffinio gan gronfa ddata codau post WPD). Mae’r map isod yn dangos yr ardal hon neu gallwch ddefnyddio’r cyfleuster gwirio cod post hwn: www.westernpower.co.uk/About-us/Our-Business/Distribution-area/Find-your-distributor.aspx.

Rhaid i’ch sefydliad fod yn darparu un neu fwy o’r pedwar gweithgaredd cyngor a chefnogaeth ynni sydd wedi’u rhestru isod – neu’n medru arddangos eich bod wedi’u darparu o fewn y 18 mis diwethaf.

Darparu gwasanaeth cyngor ynni presennol dros y ffôn. Darparu ymweliadau cartref ar gyfer achosion cymhleth. Rhedeg digwyddiadau, sesiynau galw i mewn a gweithdai ar reoli ynni domestig a newid

tariff. Gweithio fel rhan o rwydwaith cyfeirio presennol gyda sefydliadau eraill ar sail derbyn a

chyfeirio.

Page 5:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Os nad oes gan eich sefydliad y profiad hwn wrth ddarparu cyngor yn ymwneud ag ynni, yna bydd rhaid i chi allu arddangos bod gennych gysylltiadau perthnasol i sefydliadau eraill sy’n rhoi mwy o hygrededd i’r prosiect.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn gorfforedig yn gyfreithiol gyda chyfrif banc yn ei le er mwyn ymgeisio. Ni all sefydliadau bach nad ydynt yn gorfforedig ymgeisio oni bai eu bod yn gweithio gyda sefydliad parod a all reoli derbyn cyllid ar eu rhan.

Byddai angen i gyrff statudol a mentrau preifat arddangos yn glir pam bod angen y cyllid hwn a pham na ellir ariannu eu gweithgareddau arfaethedig o fodelau busnes presennol neu ffynonellau ariannu statudol.

Rhaid i bob sefydliad sy’n derbyn cyllid ddarparu CSE gyda ffigyrau monitro ynghylch y gweithgaredd er mwyn helpu i werthuso effaith y gystadleuaeth. Bydd yr adrodd sydd ei angen yn cynnwys adroddiad misol ar ffurf templed a thaenlen adrodd safonol WPD ac astudiaeth achos di-enw bob yn ail fis ynghyd ag adroddiad terfynol byr. Bydd amserlen adrodd wedi’i hamlinellu yn nhelerau’r contract a chaiff yr holl adroddiadau eu rhannu gyda WPD.

Rhaid i chi fod yn rhydd i fynychu gweminar ar-lein i rannu sgiliau a rhwydweithio ddydd Gwener 2 Hydref 2020.

Rhaid i’r holl weithgareddau a ariennir a’r adrodd fod wedi’u cwblhau erbyn 30 Ebrill 2021.

Cyflwyniadau

Y dyddiad cau ar gyfer yr holl geisiadau yw hanner nos 23 Awst 2020. Caiff yr ymgeiswyr wybod am ganlyniad y pwyllgor ariannu erbyn 5pm ddydd Gwener 11 Medi 2020.

Dylid gwneud cyflwyniadau drwy e-bost i [email protected].

Byddwn yn derbyn ffurfiau Word a PDF ar gyfer eich ffurflen gais, a ffurfiau eraill y mae modd cael mynediad iddynt ar gyfrifiadur personol safonol/Windows ar gyfer unrhyw ddeunydd atodol.

Os oes arnoch angen help i gwblhau a chyflwyno eich cais, cysylltwch drwy e-bost:

E-bost: [email protected]

Page 6:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Manylion sylfaenolEnw’r sefydliad

Cyfeiriad cofrestredig

Beth yw pwrpas eich sefydliad?

Prif gyswllt

Byddwn yn defnyddio’r cyswllt hwn i adael i chi wybod beth yw canlyniad eich cais.

Enw

Rôl

Cyfeiriad e-bost

Ffôn

Cyfeiriad

Cod post

Nodwch os hoffech i’r cyfeiriad e-bost hwn gael ei gynnwys i dderbyn cylchlythyr cymunedau CSE i glywed am waith CSE a’r cyfleoedd ariannu sy’n codi yn y dyfodol.

HOFFWN/NA HOFFWN

Cyswllt arall

Byddwn yn defnyddio’r cyswllt hwn os na allwn gael ymateb prydlon gan y prif gyswllt.

Enw

Rôl

Cyfeiriad e-bost

Ffôn

Cyfeiriad

Page 7:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Cod post

Nodwch os hoffech i’r cyfeiriad e-bost hwn gael ei gynnwys i dderbyn cylchlythyr cymunedau CSE i glywed am waith CSE a’r cyfleoedd ariannu sy’n codi yn y dyfodol.

HOFFWN/NA HOFFWN

Manylion Banc a Chorfforaeth

Os yw eich sefydliad yn un corfforedig, nodwch y manylion isod gyda rhif y cwmni neu rif cymdeithas cofrestredig. Os ydych yn sefydliad anghorfforedig gallwch ymgeisio i Gronfa Fforddiadwyedd Ynni WPD o hyd, ond rhaid i chi weithio gyda sefydliad corfforedig a all reoli’r cyllid ar eich rhan. Os mai dyma’r dull y bydd rhaid i chi ei ddefnyddio, cofiwch gynnwys manylion y sefydliad trydydd parti isod.

Enw’r sefydliad (os yw’n wahanol i’r sefydliad sy’n ymgeisio)

Math o sefydliad

Cymdeithas Gofrestredig

Sefydliad Corfforedig Elusennol

Cwmni Cofrestredig

Rhif Cwmni, CIO neu Gymdeithas Gofrestredig

Pryd sefydlwyd eich sefydliad? (mis/blwyddyn)

Nifer o weithwyr

Nifer o wirfoddolwyr gweithgar

Nifer o aelodau

Os nad oes gennych aelodaeth ffurfiol, gallwch ddefnyddio nifer y bobl sydd wedi tanysgrifio i’ch rhestr bostio gymunedol.

Page 8:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Mae arnom angen i gyfrifon banc y sawl sy’n derbyn yr arian i fod angen dwy lofnod gan bobl nad ydynt yn gysylltiedig i dynnu arian allan, er mwyn helpu i atal twyll.

Rwy’n cadarnhau bod ar ein cyfrif banc angen o leiaf dwy lofnod gan bobl nad ydynt yn gysylltiedig i dynnu arian allan.

Darparwch fanylion eich cyfrif banc.

Enw’r banc

Enw’r cyfrif

Cod didoli

Rhif cyfrif

Pryd wnaethoch chi agor y cyfrif hwn (mis/blwyddyn)

Darparwch fanylion llofnodwyr y cyfrif hwn os gwelwch yn dda.

Enw Rôl Cyfeiriad cartref

Page 9:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Eich pobl

Pwy fydd yn rheoli eich gweithgaredd a gynllunnir? Pa amser, sgiliau a phrofiad y gallan nhw eu cynnig? (uchafswm o 200 o eiriau)

Rydym am osgoi gadael i aelodau grŵp heb fawr o gymwysterau na phrofiad fod yn rheolwyr prosiect cyflogedig am eu bod nhw eisoes yn gysylltiedig â’r prosiect yn unig. Cyfeiriwch at bob un o’r pedwar pwynt sydd wedi’u tanlinellu a byddwch yn fanwl yn eich ateb. Rydym yn gofyn am unigolion, nid ynghylch grwpiau cyfan. Gallwch ddefnyddio pwyntiau bwled os hoffech.

Pwy arall sydd eisoes yn ymrwymedig i ddarparu gweithgaredd eich prosiect. Pa amser, sgiliau a phrofiad y gallan nhw eu cynnig? (uchafswm o 200 o eiriau)

Cyfeiriwch at bob un o’r pedwar pwynt sydd wedi’u tanlinellu a byddwch yn fanwl yn eich ateb. Rydym yn gofyn am unigolion, nid ynghylch grwpiau neu sefydliadau cyfan. Fel enghraifft, gallai hyn gynnwys pobl a fydd yn gwirfoddoli i’ch helpu chi i ddarparu gweithgaredd eich prosiect hefyd, ynghyd ag aelodau cyflogedig yn eich sefydliad.

Profiad y sefydliad

Page 10:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Darparwch fanylion y gwasanaethau cyngor a chefnogaeth ynni yr ydych yn eu cynnig ar hyn o bryd (neu yr ydych wedi’u cynnig o fewn y 18 mis diwethaf) i bobl dan y penawdau isod. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn darparu cefnogaeth dan bob pennawd, rydym am weld beth yw lefel gyfredol eich gweithgaredd a’ch profiad. Hefyd, darparwch amcan nifer o bobl sy’n cael eu cynghori gan eich sefydliad ym mhob ardal o fewn y 18 mis diwethaf ac unrhyw ddeilliannau sydd wedi’u cofnodi o’r cyngor hwn.

Wedi darparu gwasanaeth cyngor presennol dros y ffôn

Wedi darparu ymweliadau cartref ar gyfer achosion cymhleth

Wedi rhedeg digwyddiadau, sesiynau galw i mewn a gweithdai ar reoli ynni domestig a newid tariff

Wedi gweithio fel rhan o rwydwaith cyfeirio presennol gyda sefydliadau eraill ar sail derbyn a chyfeirio

Page 11:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

3. Cynllun y prosiectFaint ydych chi’n gofyn amdano fel grant?Nodwch un gwerth mewn £ cyfan.

Dylai’r grant gael ei wario ar weithgaredd sy’n caniatáu i’ch sefydliad fodloni amcanion WPD. Nodwch pa rai o’r pum amcan yr ydych yn anelu i’w cyflawni a pha rai o’r gweithgareddau y byddwch yn eu defnyddio i ddarparu eich prosiect:

Blwch ticio

Amcanion WPD

Adnabod ymgeiswyr newydd ar gyfer y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth a chynnig cefnogaeth i aelwydydd sydd eisoes wedi cofrestru.Helpu aelwydydd sy’n gymwys ar gyfer y Gofrestr Gwasanaeth Blaenoriaeth i leihau a rheoli eu biliau. Darparu cyngor a chefnogaeth i alluogi i aelwydydd bregus ymgymryd â gwelliannau effeithlonrwydd ynni.Targedu cyngor a chefnogaeth ynni cartref i aelwydydd sydd mewn ardaloedd o amddifadedd uwch ac ardaloedd nad ydynt wedi’u cysylltu â’r rhwydwaith nwy, gan ddefnyddio ap bregusrwydd WPD o bosib, a geir yma: www.westernpower.co.uk/social-indicator-mapping. Gweithio gyda darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau rhwng cartrefi oer, llaith ac iechyd corfforol a meddyliol gwael.

Blwch ticio

Gweithgareddau hanfodol

Darparu cefnogaeth a chyngor ynni cartref sy’n ddiogel i bobl fregus i ymgysylltu (h.y. addasu gwasanaeth cyngor a fyddai fel arfer yn cael ei ddarparu drwy ymweliadau cartref) Ymestyn rhwydweithiau cyfeirio presennol i weithio gyda sefydliadau ychwanegol ar sail cyfeirio dwyochrog. Yn benodol lle mae hyn yn ymestyn sgôp y gweithgareddau presennol, i gynnig gwasanaeth mwy holistaidd.Ymestyn cyrhaeddiad daearyddol gwasanaeth cyngor presennol i ardal lle nad yw gwasanaethau tebyg yn bodoli ar hyn o bryd.Defnyddio dulliau, technegau neu bartneriaethau arloesol i gyflawni’r pum amcan sydd wedi’u rhestru uchod, gyda diddordeb penodol mewn dulliau arloesol o gefnogi pobl fregus yn ystod y pandemig a rhoi sylw i anghenion newydd sy’n deillio o’r pandemig.

Blwch ticio

Gweithgareddau ychwanegol

Hyfforddiant i weithwyr rheng-flaen (megis meddygon teulu, bydwragedd, ymladdwyr

Page 12:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

tân, nyrsys a therapyddion galwedigaethol) i edrych allan am fregusrwydd ynni ymhlith eu cleientiaid (e.e. biliau ynni uchel, cartrefi oer a llaith, materion iechyd) a gwneud cyfeiriadau priodol. Hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr, megis City and Guilds Lefel 3 mewn Ymwybyddiaeth Ynni ar gyfer ymgynghorwyr ynni, neu ddarparu hyfforddiant cefnogaeth o bell.

Darparwch grynodeb o’ch prosiect arfaethedig, gan gyfeirio at sut mae hyn yn galluogi i chi fodloni amcanion WPD a sut byddwch yn darparu cyngor dan y pynciau isod (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

Uchafu incwm Newid tariff Gwelliannau effeithlonrwydd ynni Uwchraddiadau gwresogi Newid ymddygiadol Iechyd a llesiant Mynediad i ddewisiadau ynni adnewyddadwy amgen

Rwy’n cadarnhau y bydd y gwasanaethau cyngor a chefnogaeth a ariennir ac a ddisgrifir yng nghrynodeb y prosiect uchod, ac unrhyw ofynion adrodd, wedi’u cwblhau erbyn 30 Ebrill 2021.

Page 13:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Rwy’n cadarnhau y bydd y gwasanaethau cyngor a chefnogaeth a ddisgrifir yng nghrynodeb y prosiect uchod oll yn digwydd o fewn ardal rhwydwaith WPD.

Nodwch yn benodol sut mae eich prosiect arfaethedig uchod wedi’i addasu i’r amgylchiadau sydd wedi’u creu gan bandemig Covid-19.

Nodwch sut bydd gweithgaredd eich prosiect yn galluogi i chi ymgysylltu â grwpiau a allai fod yn profi mwy o fregusrwydd yn sgil y pandemig a hefyd sut rydych wedi addasu eich dulliau er mwyn lleihau’r risg o ledaenu’r feirws.

Page 14:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Bydd disgwyl i’r holl ymgeiswyr ddarparu targedau mesuradwy ar gyfer dibenion monitro a gwerthuso, a bod y targedau hyn yn seiliedig ar dybiaethau realistig. Ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, bydd y targedau a ddarperir yma yn ffurfio rhan o’r gofynion adrodd ar gyfer yr arian.

Page 15:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Faint o bobl ydych chi’n anelu i’w cefnogi gyda phob un o’ch gweithgareddau?

Rhowch amcan nifer y bobl y byddwch yn ymgysylltu â nhw dros y cyfnod o chwe mis a rhowch rywfaint o dystiolaeth o’ch gwaith blaenorol sydd wedi galluogi i chi roi’r amcan ffigwr hwn.

Sut fyddwch chi’n defnyddio data dangosydd cymdeithasol i dargedu cyngor mewn ardaloedd tlodi tanwydd uchel a chynhyrchu mwy o gofrestriadau PSR?

Mae WPD wedi datblygu ap sydd ar gael ar ei wefan i helpu i adnabod ardaloedd o dlodi tanwydd uchel. Disgrifiwch sut gellir defnyddio hwn i helpu i dargedu eich prosiect tuag at bobl sydd angen cefnogaeth.

Eglurwch sut fydd y prosiect hwn yn adeiladu ar weithgaredd presennol, neu ymestyn y gefnogaeth a’r cyngor yr ydych yn eu cynnig ar hyn o bryd.

Dywedwch wrthym am unrhyw ddulliau arloesol y byddwch yn eu cymryd, p’un a ydych yn

Page 16:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

ymestyn eich cyrhaeddiad daearyddol, neu’n targedu grwpiau cleient penodol sydd wedi bod yn anodd ymgysylltu â nhw o fewn eich ardal.

Beth arall sy’n digwydd yn eich ardal? Sut mae eich gwaith chi’n wahanol?

Darparwch fanylion sefydliadau lleol eraill (os o gwbl) sy’n darparu cyngor gwresogi fforddiadwy i gleientiaid bregus. Amlygwch sut bydd eich gwaith neu’ch dulliau’n wahanol (gallai hyn fod o safbwynt darparu, neu’r math o gleient yr ydych yn gweithio gyda nhw) ac a ydych yn bwriadu gweithio mewn partneriaeth â’r sefydliadau hyn.

Darparwch drawstoriad cryno o’ch cyllideb

Dywedwch wrthym sut wnaethoch chi gyfrifo’r costau. Er enghraifft, dylai amser staff gynnwys cyfradd y dydd a nifer y dyddiau y bydd y cyllid yn eu galluogi.

Page 17:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Tasg Sut wnaethoch chi gyfrifo hyn Cais grant

Cyfanswm

Pa gyllid arall yr ydych yn credu y byddwch ei angen (os o gwbl), ac o ble ydych chi’n meddwl y daw hwn?Bydd tystiolaeth eich bod wedi sicrhau arian cyfatebol neu’n medru dod ag elfennau ychwanegol i’r prosiect drwy ffynonellau ariannu eraill neu ffrydiau ariannu eich sefydliad yn eich helpu chi i sicrhau cyllid o’r gronfa grant hon.

Page 18:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

4. Rhwydweithio a rhannu sgiliau

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus i’r gronfa fynychu gweminar hanner diwrnod ddydd Gwener 2 Hydref 2020. Bydd y diwrnod hwn yn ymdrin â gofynion adrodd misol o dderbyn cyllid WPD a bydd hefyd yn gyfle i ddysgu gan staff CSE ynghylch pynciau cyngor ynni y mae gennych ddiddordeb ynddynt a rhannu eich sgiliau a’ch profiad eich hun. Llenwch y tabl isod i alluogi i chi ddewis y 2-3 pwnc mwyaf priodol.

Hoffem ddysgu mwy am hyn

Mae gennym arbenigedd i’w rannu yn y maes hwn

Uchafu incwm

Biliau, tariff a mesuryddion

Lleihau colled gwres

Systemau a rheoliadau gwresogi

Ymweliadau cartref effeithiol a newid ymddygiadLleithder a llwydni

Ymgysylltu gyda’r sector iechyd

Cael y neges allan

Darparu gwasanaethau cyngor yn ystod pandemig

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill, darparwch ragor o fanylion

Page 19:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Datganiad diogelu data

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yr ydych yn ei rhoi i ni yn ystod yr asesiad ac yn ystod cyfnod eich grant (os caiff ei ddyfarnu) i weinyddu a dadansoddi grantiau, ac er ein dibenion ymchwil ein hunain.

Bydd yr holl wybodaeth sydd wedi’i chasglu yng nghyswllt eich cais, yn cynnwys cofnod o unrhyw ohebiaeth, ar gael i’r Centre for Sustainable Energy (CSE). Hefyd, caiff eich gwybodaeth ei rhannu gyda Western Power Distribution (ariannwr).

Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol a ddarperir gennych chi er mwyn ymgymryd â gwiriadau hunaniaeth priodol. Gall gwybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu gael ei datgelu i asiantaeth cyfeirio credyd neu atal twyll, a allai gadw cofnod o’r wybodaeth honno.

Ni chaiff gwybodaeth gyfrinachol yr ydych yn ei darparu, megis manylion personol a data masnachol sensitif, eu gwneud yn gyhoeddus mewn unrhyw ffordd, ac eithrio fel sydd angen dan y gyfraith. Gallem ddefnyddio data nad yw’n sensitif ynghylch grantiau sydd wedi’u dyfarnu, yn cynnwys data ystadegol ynghylch ceisiadau, i hyrwyddo’r rhaglen.

Caiff eich gwybodaeth a’r dogfennau yr ydych yn eu cyflwyno eu storio ar rwydwaith diogel a weinyddir gan CSE. Caiff y wybodaeth hon ei chadw am ddwy flynedd wedi diwedd y rhaglen. Wedi’r amser hyn, caiff y data ei ddinistrio gan CSE.

Bydd CSE a Western Power Distribution yn cadw unrhyw wybodaeth am drafodion ariannol drwy’r gronfa am y cyfnod angenrheidiol er mwyn bodloni gofynion ein cyfrifyddion.

Os ydych yn darparu gwybodaeth ffug neu anghywir yn eich cais neu unrhyw bryd yn ystod oes unrhyw gyllid yr ydym yn ei ddyfarnu i chi a bod twyll yn cael ei ddarganfod, byddwn yn darparu manylion i asiantaethau atal twyll, i atal twyll a chael arian drwy dwyll.

Rwy’n deall ac yn derbyn y telerau uchod ar ran fy sefydliad neu grŵp, ac mae gennyf yr awdurdod i wneud hynny (dileer fel sy’n briodol). YDW/NA

Llofnod

Enw

Rôl

Sefydliad

Dyddiad

Page 20:   · Web viewMae Western Power Distribution (WPD) mewn partneriaeth â’r Centre for Sustainable Energy (CSE) yn rhedeg cystadleuaeth grant o fewn ardal rhwydwaith WPD i gefnogi

Os hoffech weld datganiad preifatrwydd CSE, mae ar gael yn www.cse.org.uk/about-us/privacy-policy. Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch sut rydym yn defnyddio eich data personol i [email protected].