7
14 Cynhyrchwyd y cylchlythyr hwn trwy garedigrwydd grant oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Fe'i golygwyd gan staff Gwarchod Glöynnod Byw. Nid yw'r syniadau a fynegir yma o angenrhaid yn adlewyrchu barn Gwarchod Glöynnod Byw. Prif Swyddfa Gwarchod Glöynnod Byw Manor Yard, East Lulworth, Wareham, Dorset BH20 5QP 01929 400209 E-bost:[email protected] www.butterfly-conservation.org Mae Gwarchod Glöynnod Byw / Butterfly Conservation yn elusen wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (254937) ac yn yr Alban (SCO39268).Gwarchod Glöynnod Byw yw’r elusen yn y DU sy’n gweithredu i achub glöynnod byw, gwyfynod a’u cynefinoedd. Trwy weithio gyda rhychwant eang o bartneriaid, rydym yn gweithredu trwy: Gynghori perchnogion a rheolwyr tir ynghylch cynnal ac adfer cynefinoedd pwysig. Prynu a rheoli tir er lles glöynnod byw a gwyfynod sydd mewn perygl, a rhywogaethau gwyllt eraill. Cyflawni arolygon, monitro a gwaith ymchwil hanfodol arall. Lobio llywodraethau a'u hasiantaethau i ddylanwadu ar bolisi ynghylch defnyddio'r tir. Bod yn bartner gweithredol i fudiad Gwarchod Glöynnod Byw Ewrop Gwarchod Glöynnod Byw Cymru 10 Rhes Calvert, Abertawe SA1 6AR 01792 642972 Russel Hobson, Pennaeth Cadwraeth, Cymru Clare Williams, Swyddog Cadwraeth George Tordoff, Ecolegydd Monitro Judy Burroughs, Cynorthwy-ydd Gweinyddol Gwefannau Canghennau Cymru www.northwalesbutterflies.org.uk www.southwales-butterflies.org.uk Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn dra diolchgar i'r sefydliadau canlynol yng Nghymru sydd wedi gwneud ein gwaith yn bosibl: Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Y Grid Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Oakdale, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Gallwch chi gefnogi gwaith hanfodol Gwarchod Glöynnod Byw trwy ymaelodi heddiw. Fel aelod fe dderbyniwch chi becyn croeso, ein cylchgrawn tra dethol Butterfly dair gwaith y flwyddyn, siart adnabod ac aelodaeth yn eich Cangen leol. Mae ein Canghennau'n trefnu mwy na 700 o achlysuron cyhoeddus yn ymwneud â glöynnod byw a gwyfynod trwy gydol y flwyddyn, ac fe allech chi chwarae rhan ynddynt. Cewch chi ymaelodi ar-lein ar www.butterfly-conservation.org neu'n galw ni ar 01929 406015. Ymunwch â ni Ymunwch trwy Ddebyd Uniongyrchol i gael aelodaeth 15 mis am bris 12 Wedi'i argraffu ar bapur 100% ail-gylchedig Pa ffordd well o ddathlu bioamrywiaeth Cymru na darllen ein Cylchlythyr 2010? Mae'n galonogol gweld amrywiaeth eang yr unigolion sy'n helpu i gofnodi a chadw glöynnod byw a gwyfynod. Mae'n gwych gweld plant yn rhyfeddu wrth ddysgu am fyd amryfal gwyfynod yn Ysgol San Siôr neu sylweddoli'r llwyddiannau mawr sy'n bosibl wrth inni ymdrechu i achub glöyn byw sydd mewn perygl o ddiflannu megis Brith y Gors ym Mynydd Mawr. Mae ein holl brosiectau yng Nghymru'n dibynnu ar frwdfrydedd unigolion ymroddedig. Ond does dim rhaid teithio ymhell. Trwy chwilio am lindys yn yr ardd, gwylio Mentyll Cochion ar goeden corn carw neu geisio adnabod y gwyfynod sy'n heidio trwy'ch ffenestr liw nos, cewch gyfle i flasu amrywiaeth hyfryd y bywyd sydd o'n cwmpas. Hwyrach y cofiwn ni 2009 fel blwyddyn goresgyniad y Mentyll Tramor. Cymerwch amser felly i ddysgu mwy am ein glöynnod byw a'n gwyfynod yn 2010. 2010 Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth – Ymunwch! Gellir ymuno â Gwarchod Glöynnod Byw ar-lein ar www.butterfly- conservation.org neu drwy alw 01929 406015 Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr Blynyddol 2010 Mantell Dramor jim Asher

Ymunwch Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr

  • Upload
    others

  • View
    5

  • Download
    0

Embed Size (px)

Citation preview

Page 1: Ymunwch Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr

14

Cynhyrchwyd y

cylchlythyr hwn trwy

garedigrwydd grant oddi

wrth Gyngor Cefn Gwlad

Cymru. Fe'i golygwyd

gan staff Gwarchod

Glöynnod Byw. Nid yw'r

syniadau a fynegir yma o

angenrhaid yn

adlewyrchu barn

Gwarchod Glöynnod Byw.

Prif Swyddfa Gwarchod Glöynnod Byw

Manor Yard, East Lulworth, Wareham,

Dorset BH20 5QP 01929 400209

E-bost:[email protected]

www.butterfly-conservation.org •Mae Gwarchod Glöynnod Byw / Butterfly Conservation yn elusen wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (254937) ac yn yr Alban (SCO39268).Gwarchod Glöynnod Byw yw’r elusen yn y DU sy’n gweithredu i achub glöynnod byw, gwyfynod a’u cynefinoedd. Trwy weithio gyda rhychwant eang o bartneriaid, rydym yn gweithredu trwy: Gynghori perchnogion a rheolwyr tir ynghylch cynnal ac adfer cynefinoedd pwysig. Prynu a rheoli tir er lles glöynnod byw a gwyfynod sydd mewn perygl, a rhywogaethau gwyllt eraill. Cyflawni arolygon, monitro a gwaith ymchwil hanfodol arall. Lobio llywodraethau a'u hasiantaethau i ddylanwadu ar bolisi ynghylch defnyddio'r tir. Bod yn bartner gweithredol i fudiad Gwarchod Glöynnod Byw Ewrop

Gwarchod Glöynnod Byw Cymru 10 Rhes Calvert, Abertawe SA1 6AR 01792 642972 Russel Hobson, Pennaeth Cadwraeth, Cymru Clare Williams, Swyddog Cadwraeth George Tordoff, Ecolegydd Monitro Judy Burroughs, Cynorthwy-ydd Gweinyddol Gwefannau Canghennau Cymru www.northwalesbutterflies.org.uk www.southwales-butterflies.org.uk

Mae Gwarchod Glöynnod

Byw yn dra diolchgar i'r

sefydliadau canlynol yng

Nghymru sydd wedi

gwneud ein gwaith yn

bosibl:

Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth

Cymru, Y Grid Cenedlaethol, Ymddiriedolaeth Oakdale, Cyngor Bwrdeistref

Sirol Bro Morgannwg a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gallwch chi gefnogi gwaith hanfodol Gwarchod Glöynnod Byw trwy ymaelodi heddiw. Fel aelod fe dderbyniwch chi becyn croeso, ein cylchgrawn tra dethol Butterfly dair gwaith y flwyddyn, siart adnabod ac aelodaeth yn eich Cangen leol.

Mae ein Canghennau'n trefnu mwy na 700 o achlysuron cyhoeddus yn ymwneud â glöynnod byw a gwyfynod trwy gydol y flwyddyn, ac fe allech chi chwarae rhan ynddynt. Cewch chi ymaelodi ar-lein ar www.butterfly-conservation.org neu'n galw ni ar 01929 406015.

Ymunwch â ni

Ymunwch trwy Ddebyd Uniongyrchol i gael aelodaeth 15 mis am bris 12

Wedi'i argraffu ar bapur 100% ail-gylchedig

Pa ffordd well o ddathlu bioamrywiaeth Cymru na darllen ein Cylchlythyr 2010? Mae'n galonogol gweld amrywiaeth eang yr unigolion sy'n helpu i gofnodi a chadw glöynnod byw a gwyfynod. Mae'n gwych gweld plant yn rhyfeddu wrth ddysgu am fyd amryfal gwyfynod yn Ysgol San Siôr neu sylweddoli'r llwyddiannau mawr sy'n bosibl wrth inni ymdrechu i achub glöyn byw sydd mewn perygl o ddiflannu megis Brith y Gors ym Mynydd Mawr. Mae ein holl brosiectau yng Nghymru'n dibynnu ar frwdfrydedd unigolion ymroddedig. Ond does dim rhaid teithio ymhell. Trwy chwilio am lindys yn yr ardd, gwylio Mentyll Cochion ar goeden corn carw neu geisio adnabod y gwyfynod sy'n heidio trwy'ch ffenestr liw nos, cewch gyfle i flasu amrywiaeth hyfryd y bywyd sydd o'n cwmpas. Hwyrach y cofiwn ni 2009 fel blwyddyn goresgyniad y Mentyll Tramor. Cymerwch amser felly i ddysgu mwy am ein glöynnod byw a'n gwyfynod yn 2010.

2010 Blwyddyn Ryngwladol Bioamrywiaeth – Ymunwch!

Gellir ymuno â Gwarchod

Glöynnod Byw ar-lein ar

www.butterfly-conservation.org

neu drwy alw 01929 406015

Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr Blynyddol 2010

Mantell Dramor jim Asher

Page 2: Ymunwch Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr

2

Daw partneriaeth Prosiect Mynydd Mawr

rhwng Gwarchod Glöynnod Byw Cymru a

Chyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) i ben

ym mis Mawrth 2010.

Mae hanner cynefinoedd addas neu

ddichonol Brith y Gors yn ardal y prosiect

wedi'u hamddiffyn bellach dan gytundebau

rheolaeth gyda thirberchnogion. Dyna 110

o hectarau o borfa Rhos - 60 hectar yn ein

cytundebau pwrpasol, a'r gweddill yn

derbyn cyllid amaeth-amgylcheddol neu

SSSI neu grantiau eraill.

Porir y caeau hyn yn yr haf gan wartheg

neu ferlod, i greu'r cynefin tuswog sydd ei

angen ar lindys Brith y Gors. Rydym wedi

gosod mwy na 1½ cilomedr o ffensys

newydd, ynghyd â chlwydi a chafnau dŵr i

hyrwyddo pori. Rydym wedi clirio mwy na

6 hectar o brysgoed, mieri a Chreulys Iago, er mwyn adennill y glaswelltir

a oedd wedi mynd ar goll trwy esgeulustod.

Eleni mae Richard Smith a Lyn Gander wedi parhau i chwilio am

gynefinoedd Brith y Gors mewn ardal o 10,800 o hectarau o gwmpas

Mynydd Mawr, ar ran Cyngor Sir Gâr (CSG). Mae'r canlyniadau'n cael eu

coladu ar hyn o bryd. Daethant o hyd i gannoedd o hectarau o welltir llaith

â'r potensial i gynnal y rhywogaeth hon, ynghyd â nifer o nythfeydd Brith y

Gors nas darganfuwyd o'r blaen.

Yr hyn sydd wedi symbylu'r arolwg hwn yw'r ffaith bod Cross Hands yn

cael ei dargedu fel canolfan i fusnesau a thai newydd gan Lywodraeth y

Prosiect Mynydd Mawr

Rydym yn gweithio ers

chwe blynedd gyda

pherchnogion tir ger Cross

Hands, Sir Gâr, i reoli eu tir

er lles Brith y Gors.

Deborah Sazer, Swyddog Prosiect Mynydd Mawr

Llun: D Sazer

13

Cofnodion Gwyfynod Hanesyddol Mae dau brif set cenedlaethol o ddata cofnodi gwyfynod yn cael eu darparu ar gyfer Cofnodwyr Gwyfynod Sirol ac, yn y pendraw, yr NMRS. Amcangyfrifir bod 10 miliwn o gofnodion gwyfynod o'r rhwydwaith o faglau goleuni Rothamsted wedi cael eu dosbarthu i Gofnodwyr Gwyfynod Sirol i gael eu dilysu a'u hymgorffori yn eu setiau data lleol. Rydym yn ddiolchgar iawn i elusen Rothamsted Research ac i Ian Woiwod yn arbennig am y cyfraniad hwn at yr NMRS. Yn ogystal, mae mwy na 600,000 o gofnodion gwyfynod o'r Cynllun Cofnodi Lepidoptera blaenorol, a fu ar waith o ddiwedd y 1960au tan y 1980au cynnar, wedi cael eu cyfrifiaduro gan Ganolfan y Cofnodion Biolegol (BRC). Mae'r holl wybodaeth a oedd ar y cardiau cofnodi gwreiddiol a anfonwyd i'r Cynllun wedi cael eu cadw ar ffurf electronig. Mae'r set data'n cynnwys cofnodion ar gyfer 863 o rywogaethau macro-wyfyn, ac mae'n nodedig am y ffaith iddo gwmpasu 84% o diriogaeth Prydain, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel ar lefel sgwariau 10km. Mae tua 139,000 o'r cofnodion yn set data Canolfan BRC yn dod o Gymru, a'r amcangyfrif syfrdanol yw bod cwmpas y cofnodi yng Nghymru'n cyrraedd 92.5% ar gyfartaledd. Bydd y setiau data hanesyddol hyn yn darparu gwaelodlin i alluogi'r NMRS i gyflawni asesiad manwl gywir o'r newid yn nosbarthiad y gwahanol rywogaethau. Byddant hefyd yn tynnu sylw at y “tyllau gwynion” i hyrwyddo cofnodi targededig mewn ardaloedd lle bu'r cofnodi blaenorol yn ddiffygiol. Ar hyn o bryd mae set data'r BRC yn cael ei wirio'n ganolog, ond bydd y cofnodion yn cael eu dychwelyd i Gofnodwyr Gwyfynod y Siroedd yn gynnar yn 2010. Diolch o galon felly oddi wrth dîm Gwyfynod yn Cyfrif i'r Dr. Mark Hill a'i dîm yn y BRC am eu camp odidog a'u cyfraniad gwerthfawr at y setiau data sirol a gwaith yr NMRS. Daliwch i Gyfrif Mae prosiect Gwyfynod yn Cyfrif yn parhau yn 2010, er bod prif grant Cronfa Treftadaeth y Loteri'n dod i ben yn yr haf. Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn benderfynol o gadw'r Cynllun Cofnodi Gwyfynod Cenedlaethol newydd yn rhedeg yn y tymor hir, ac yn chwilio am ffynonellau cyllid amgen. Mae cofnodi'n mynd yn ei flaen fel arfer ac mae'na ddigon o fylchau i'w llenwi yng Nghymru. Bydd rhagor o ddigwyddiadau hyfforddiant yn cael eu cynnal yn ystod 2010; ewch at wefan y prosiect felly i weld y manylion. Pa un a ydych chi'n cofnodi gwyfynod yn rheolaidd, ynteu'n dechrau ymddiddori, mae yna lu o ffyrdd o gymryd rhan ym mhrosiect Gwyfynod yn Cyfrif a'r Cynllun Cofnodi Gwyfynod Cenedlaethol yn 2010. Pob lwc wrth hela gwyfynod!

I gael gwybodaeth reolaidd am ddatblygiadau Gwyfynod yn Cyfrif ac NMRS, ymunwch â'r rhestr bostio trwy gysylltu â Laura Wiffen ar 01929 406009 neu [email protected].

Page 3: Ymunwch Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr

12

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae prosiect Gwyfynod yn Cyfrif wedi symud ymlaen yn sylweddol at godi ymwybyddiaeth am wyfynod a datblygu'r Cynllun Cofnodi Gwyfynod Cenedlaethol (NMRS). Yn ystod 2009, trefnasom dri digwyddiad hyfforddiant a phum cyfarfod cyhoeddus ynghylch gwyfynod yng Nghymru, sy'n golygu ein bod wedi cynnal 15 o sesiynau

hyfforddiant di-dâl ac 17 o gyfarfodydd cyhoeddus ynghylch gwyfynod yng Nghymru ers 2007. Tyfodd cronfa ddata'r NMRS yn sylweddol yn 2009 wrth i Gofnodwyr Gwyfynod y Siroedd gyflwyno eu setiau data lleol. Mae'n cynnwys yn agos i wyth miliwn o gofnodion am wyfynod bellach o 99 o siroedd hynafol ledled y DU. ! Mae'r cynnydd hwn wedi ei gwneud yn bosibl i baratoi mapiau dosbarthiad dros dro ar gyfer pob

rhywogaeth gwyfyn mawr ar wefan y prosiect, www.mothscount.org. Bydd y mapiau hyn yn rhoi'r diweddariad cyntaf ers degawdau yn achos y rhan fwyaf o wyfynod, a'r mapiau hygyrch cyntaf erioed ar gyfer y 300 o rywogaethau a gynhwysir dan yr enw Geometridae. Fe gaiff y mapiau eu diweddaru'n rheolaidd a byddant yn darparu gwybodaeth ac adborth defnyddiol ar gyfer cofnodwyr gwyfynod ynghylch newidiadau yng nghynefin gwahanol rywogaethau yn ogystal â'u galluogi i weld eu cofnodion am wyfynod mewn cyd-destun ehangach. Diolch o galon i holl Gofnodwyr Gwyfynod y Siroedd ac i'r unigolion i gyd sy'n olrhain hynt a helynt gwyfynod am eu cyfranogiad a'u cefnogaeth. Erys nifer fach o setiau data sirol fydd yn cael eu cyflwyno cyn gynted ag y bydd y Cofnodwyr Sir wedi cwblhau mewnbynnu, dilysu a fformatio eu cofnodion. Diolch i'r ffaith bod yr Isadain Felen Fawr wedi cael ei chofnodi ar raddfa mor eang, mae'n bosibl inni gael darlun da, ar sail ei dosbarthiad yng nghronfa ddata'r NMRS, o lwyrdeb ac ansawdd cofnodion gwyfynod yn gyffredinol. Mae'n debyg bod absenoldeb ymddangosiadol y gwyfyn hwn o ardal 10km sgwâr benodol yn datgelu lefelau cofnodi isel. Mae'n amlwg ar sail y map darpariaethol ar gyfer y rhywogaeth hon (Ffig. 1) fod cofnodi gwyfynod effeithiol yn digwydd ledled y siroedd hynafol yng Nghymru y mae gennym ddata amdanynt. Mae'r data a gasglwyd o'r rhwydwaith o faglau goleuni Rothamsted dros y cyfnod 1968-2002 yn dangos dirywiad o 97% ym mhoblogaeth Seffyr y Ffyrch. Adlewyrchir y gostyngiad hwn yn y boblogaeth gan ddirywiad yn y dosbarthiad sydd i'w weld yn amlwg eisoes ar fap darpariaethol yr NMRS o Gymru.

Gwyfynod yn Cyfrif: Y Diweddaraf Richard Fox Rheolwr Arolygon

Ffig 1 Isadain Felen Fawr

Ffig 2 Seffyr y Ffyrch

Mae mwy na

hanner y setiau

data ar gyfer

siroedd hynafol

Cymru wedi

cael eu derbyn

hyd yn hyn, gan

gynrychioli

mwy na 615,000

o gofnodion!

3

Cynulliad a CSG. Mae'r datblygiad yn cynnwys ffordd newydd y bwriedir

iddi dorri ar draws cynefin Brith y Gors, gan gynnwys rhan o'r Ardal

Cadwraeth Arbennig (ACA/SAC). Gwyddom fod ar Frith y Gors angen

blociau mawr cysylltiedig o'i gynefin er mwyn iddo oroesi yn y tymor hir.

Ar ben hyn, nodwyd bod y boblogaeth ym Mynydd Mawr yn un o'r ychydig

rai sy'n debygol o oroesi yn y tymor hir.

Dyna pam mae Gwarchod Glöynnod Byw Cymru'n cydweithio'n glòs ag

ecolegwyr CSG a CCGC i sicrhau na bydd y datblygiadau hyn yn

niweidio'r boblogaeth hanfodol bwysig hon. Gwaetha'r modd, nid yw ein

cynlluniau ar gyfer prosiect tirwedd ehangach o gwmpas Mynydd Mawr

wedi derbyn cyllid. Mae yna lu o gynigion cynllunio ar gyfer yr ardal sydd

heb gael eu prosesu eto, ac yn y cyfamser ni ellir cydweithredu yng

nghyswllt ein cynlluniau ni. Fe barhawn ni i weithio at ddatblygu cynllun

hirdymor i ddiogelu dyfodol Brith y Gors a'r holl rywogaethau gwyllt eraill

sy'n byw ar ein porfeydd Rhostir yn Sir Gaerfyrddin.

Brith y Gors Llun: D Sazer

Page 4: Ymunwch Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr

4

Yn ôl y llenyddiaeth mae'r Clai Smotyn Sgwâr

yn dirywio fel rhywogaeth; fe'i ceir yn nwyrain

Lloegr yn bennaf, ac anaml y caiff ei gofnodi

yng Nghymru a'r Alban.

Gwyfyn amhendant ei farciau ydyw, ac mae'n hawdd ei

gymysgu â'i berthnasau mwy cyffredin, yn enwedig os

yw'r marciau hynny wedi treulio. A minnau wedi dod ar ei

draws mewn tri lleoliad tra phell o'i gilydd yn Sir

Frycheiniog yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, rwy'n

dechrau amau a ydyw mor wirioneddol brin yng

Nghymru ag yr oeddem yn dychmygu, ynteu a ydym yn

methu â'i weld?

Ym mis Mai bues i'n ddigon ffodus i ymweld ag Ardal

Hyfforddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn yng

Nghaerwent yn ne ddwyrain Sir Fynwy, yng nghwmni

Oliver Howells (Ystadau Amddiffyn). Saif yr ardal 720

hectar hon ar frigiad o galchfaen carbonifferaidd yn

bennaf, a chanddi 400 o hectarau o laswelltir gan

gynnwys pum gwaun a ddynodwyd yn Safleoedd o

Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a maint sylweddol o

goetir.

Ers 2004 mae hyfforddiant milwrol ar y tir hwn wedi cynyddu ddeg gwaith, gan

droi mynediad i ddibenion cadwraethol yn fwy anodd o lawer. Adeg ein

hymweliad yr oedd tua 25% o'r safle dan waharddiad, ond serch hynny

llwyddasom i gofnodi 16 o Wibwyr Brith ac 8 o Wibwyr Llwyd, mewn gwahanol

leoliadau ledled y safle.

Daeth uchwafbwynt yr ymweliad wrth imi rwydo gwyfyn bach a oedd yn hedfan

ar hyd perth, y gwelwyd yn hawdd mai Dolennwr Llwydfelyn (Minoa murinata)

ydoedd. Bu hyn yn syndod, gan fod y larfâu'n ymborthi ar Laethlys y Coed

(Euphorbia amygdaloides), ac o bosibl y blodau a'r blod-ddail, ac nid oedd Oliver

na minnau wedi gweld y planhigyn hwn o fewn y wersyll filwrol. Aethom ati i

Martin Anthoney

LLun: David Green

Y Clai Smotyn A ydy e'n wir brin yng Nghymru? Norman Lowe

Llun: David Green

Dolennwr Lwydfelyn

11

Dark Green Fritillary Photo:

hefyd. Ddaru ni weld lindysyn y Siobyn

Gwelw yn ymborthi ar y cymysgedd yn

ogystal â phryf clust, crachen ludw a

miltroediaid.’

Mae cynnwys gwyfynod ym maes

llafur yr ysgol yn dod â sawl mantais.

Mae brwdfrydedd y plant yn heintus,

ac nid oes angen i'r athro fod yn

arbenigwr. Mae'n anochel y bydd

gwyfynod yn cael eu camadnabod ar y cychwyn, a

dyfeision ni enwau hyd yn oed i rai ohonynt, ond ar ôl

ychydig roedden ni'n adnabod y rhywogaethau'n gywir ac

erbyn hyn rydyn ni'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at y

data sy'n cael eu casglu gan gofnodydd y sir.

Rydyn ni wedi crogi rhwyd gwyfynod yng nghyntedd yr

ysgol, ac rydyn ni'n magu gwahanol rywogaethau

gwyfynod, gan roi i'r plant y cyfrifoldeb am fwydo'r lindys.

Y llynedd mi lwyddon ni i ddeor wyau Gwalchwyfyn y

Benglog a'u magu nes iddynt gyrraedd eu llawn dwf.

Dwi ddim wedi cysylltu gweithgareddau dal gwyfynod y

plant ag unrhywbeth ar y cwricwlwm.

Mae gweld eu mwynhad ac ennyn eu

diddordeb yn ddigon i mi, ond petai

rhyw arolygydd o ESTYN eisiau gweld

tystiolaeth, yna hyd y gwela i mi

fyddai'n ddigon iddo wylio'r plant yn

trafod ai Maen Cennog ynteu Faen

Croesog sydd o'u blaenau; gweld y

disgyblion yn astudio lluniau yn y llyfr

maes ac yn penderfynu a yw'r

amserau hedfan yn cyfateb – tra'n

astudio'r marciau ar adenydd y

gwyfyn.

Mae gan blant

chwilfrydedd

naturiol ynghylch

pethau byw. Y peth agosaf at yr

olwg ddisgwylgar

sy'n dod dros eu

hwynebau wrth i'r

fagl gael ei hagor a'r

blychau wyau gael

eu hastudio yw pan

agorir bocs o

siocledi.

Diolch o galon i Julian Thompson am ei gymorth a'i amynedd gwerthfawr

gyda'r plant.

Ellis a Blaen Brigyn

Page 5: Ymunwch Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr

10

Dechreuasom ni gydag un fagl. Dyna i gyd sydd eisiau!

Cost: tua £100.

Y fagl a ddefnyddir amlaf yw Magl Gwyfyn y Rhos sy'n

rhedeg ar fatrïau ailwefriadwy, a osodir yng Ngardd

Pilipalod yr Ysgol neu mewn gwahanol gynefinoedd yn

ardal Conwy. Mae'r plant yn cael cyfle i gymharu'r

gwahanol gynefinoedd hyn ac i weld bod gan rai

rhywogaethau ofynion penodol o ran eu cynefin. Maent

hefyd yn medru monitro'r newidiadau tymhorol yn y

nifer a'r rhywogaethau sy'n cael eu dal.

Mae'r plant wedi dechrau dal gwyfynod yn eu cartrefi

hyd yn oed a dod â nhw i'r ysgol mewn cynhwyswyr o

bob math. Mae rhai rhieni hwythau wedi dal 'byg'

brwdfrydedd y plant fel petai, ac yn dod yn gwmni

ynghyd â'u plant i'r swyddfa er mwyn dysgu beth yn

union oedd y gwyfyn hwnnw a hedfanodd i mewn i'r

stafell ymolchi.

Mae gennym ddwy Fagl ‘Robinson’ (lampau Anwedd Arian Byw) hefyd, a

ddefnyddir yn yr hwyr yn ystod cyfarfodydd dal gwyfynod yn yr ysgol. Yn ystod y

digwyddiadau hyn rydym yn arfer gwneud cymysgeddau Fictorianaidd a allai

ddenu gwyfynod. Meddiannwyd cegin

yr ysgol gennym er mwyn berwi'r

potsh gludiog hwn! ‘Mi gyrhaeddon ni Bensychnant efo

cwpanaid o'r cymysgedd gludiog braf

sy'n denu gwyfynod. Mae o'n drewi, ac

os cewch chi dipyn ohono ar eich bys

mi drowch chi'n fagnet gwyfynod!

Ddaru ni ei arllwys ar y goeden a'i

frwsio i mewn. Ac...... mi lwyddon ni i

ddenu Ôl-Adain Gopr i yfed y

cymysgedd. Gwelson ni Wladwr Du,

Melyn y Llwyf a Melyn y Rhafnwydd

Gwyfynod yn Ysgol San Siôr Ian Keith Jones,

Rysáit i wneud Cymysgedd Gludiog i Ddenu Gwyfynod

Tun 454g o Driagl Du 1Kg o Siwgr Brown (gorau po dywyllaf) 500ml o Gwrw Coch.

Llwyd y Ffawydd

5

Byddwn wrth fy modd o'ch cynghori ynghylch ble dylech chi chwilio amdano, ond

gan fod y llyfrau'n datgan bod ei larfâu'n ymborthi ar Ddanadl cyffredin, Llysiau'r

Parlys / Briallu Tal a Breswch y Cŵn / Cwlwm yr Asgwrn (a phlanhigion cyffredin

eraill efallai) ac chan fod y gwyfyn wedi cael ei gofnodi

mewn rhychwant eang o gynefinoedd, ni fyddai hynny'n

rhy ddefnyddiol efallai.

Os dewch chi ar draws gwyfyn nad yw'n ddigon porffor i

fod yn Glai Porffor felly, yn rhy dywyll i fod yn Glai

Deusgwar a chanddo adenydd mwy llydan na'r rhan

fwyaf o Gleiau Tri Smotyn, mae'n werth ystyried ai Clai

Smotyn Sgwâr ydyw. Efallai ei fod yn fwy cyffredin nag

yr ydym wedi dychmygu!

Cais llwyddiannus am reolaeth frys i achub y Dolennwr Llwydfelyn Mae angen gwaith rheoli ar frys ar Goedwig yr Hendre, cartref allweddol i'r

Dolennwr Llwydfelyn yn Nyffryn Gwy. Mae'n ymddangos nad yw'r gwyfyn hwn yn

bresennol ond mewn un ardal fach gymynedig, y mae ei haddasrwyd yn dirywio

wrth i'r llystyfiant ddychwelyd. Mae planhigyn bwyd y larfâu i'w weld ar nifer o

rodfeydd a chymynfeydd ledled y goedwig. Ond mae'r mannau hyn naill ai'n rhy

agored neu'n cynnal rhy ychydig o Laethlys y Coed i

ddarparu cynefin bridio addas. Diolch i grant oddi wrth

Gronfa Bioamrywiaeth Cymru, fe ymgymerir â micro-

reolaeth ar yr ardal lle mae'r gwyfyn yn byw trwy'r gaeaf

2010 i gynnal y boblogaeth nes y gellir gwneud y

rhodfeydd cyfagos yn fwy addas a chreu system o

goedlannau. Clare Williams, Swyddog Cadwraeth

Mae angen cymorth gwirfoddol i helpu i gribinio llystyfiant wedi'i dorri a thocion, cynhyrfu'r tir, a chanlyn arni â'r rhaglen arolygu a gwylio. Galwch ni i roi help llaw!

chwilio amdano, ac o'r diwedd daethom o hyd i Laethlys y Coed yn tyfu ar ymylon

lôn wrth ochr y ffens derfyn. Gwelsom bedwar Dolennwr Llwydfelyn arall hefyd.

Mae'r Dolennwr Llwydfelyn yn rhywogaeth flaenoriaethol dan Gynllun Gweithredu

Bioamrywiaeth y DU a welir yn bennaf mewn dwy brif ardal ar ynys Prydain, sef

canolbarth deheuol Lloegr ac am y ffin rhwng Lloegr a De Cymru. Mae wedi cael

ei gofnodi ar bedwar safle arall yn nwyrain Sir Fynwy, ond mae'n debyg ein bod

wedi darganfod y nythfa fwyaf gorllewinol ar yr ynys.

Y Clai Smotyn, llun : A. Driver

Page 6: Ymunwch Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr

6

Mae fy nghynllun peilot i gyfethol cwmnïau i'n helpu

gyda Gwyfynod yn Cyfrif yn graddol ehangu, wrth i 2

gwmni ar wahân i fy un fy hyn ymuno, ac er bod eu

cyfraniad braidd yn symbolaidd hyd yn hyn, rydym wedi

dechrau o leiaf.

Yn 2009 daethpwyd o hyd, ymhlith eraill, i: Esgynnwr

Mai, Carpiog Tywyll, Pwtyn y Wialen Aur, Carpiog y

Cyll, Chwimwyfyn Rhithiol a Chastan Goch, ynghyd â nifer dda o Risgl Smotyn

Sgwâr Bach, Gwensgodau Ôladain Dywyll a Rhisgl yr Helyg.

Bu 2009 yn flwyddyn dawel i bilipalod ar yr ystad. Hyd yn oed ar ôl ystyried bod

gwanwyn 2008 wedi bod yn un da, ymddengys i niferoedd y Gwibiwr Llwyd a

Gweirlöyn Bach y Waun leihau, er bod nifer dda o Wibwyr Brith a Gleision

Cyffredin i'w gweld ar y ddau safle rwy'n arfer ymweld â hwy amser cinio. Yn

ffodus mae'r ardal enfawr o brysgoed wrth ochr safle fy nghwmni i yn cael ei

chadw ar agor gan sgrialwyr lleol sy'n creu labyrinth o “rodfeydd” ac eangderau o

laswellt byr. Ychydig iawn o Frithribiniau Gwynion oedd i'w gweld, er bod y

rhywogaeth hon yn ffynnu i'r dwyrain o'r ystad yn ôl pob tebyg.

Mae'r stad yn gyfoethog hefyd mewn fflora, ac yn

enwedig y Tegeirian Gwenynog hyfryd a llu o Friallu

Mair Sawrus. Mae teloriaid yn niferus iawn hefyd, yn

enwedig y Troellwr Bach dirgelaidd (2 bâr). Cawn

obeithio y bydd 2010 yn heulog!!

Gosododd un o wirfoddolwyr rheolaidd Cangen De

Cymru, Gareth Tonks, nodyn yng Nghylchlythyr Grŵp

Glöynnod Byw a Gwyfynod Sir Fynwy ar y

rhyngrwyd, ar ôl cael ciplolwg cynnar o Fantell Goch.

Er syndod mawr fe dderbyniodd ebost oddi wrth rywun

a oedd yn chwilio amdano. Mae'n ysgrifennu:

“Daeth y neges oddi wrth fy merch hirgolledig nad oeddwn i wedi'i gweld ers pan oedd hi'n groten fach 36 blynedd yn ôl. Diolch i Fantell Goch a welais ym mis Mawrth 08, rwyf yn ôl mewn cysylltiad â'm merch i. Mae hithau'n dwlu ar bilipalod hefyd.”

Pilipala'n aduno teulu stori i dwymo'r galon!

Yr annisgwyl yn

Ystad Ddiwydiannol Wrecsam Mark Taylor

Carpiog Tywyll Llun: D Green

9

Symudodd tîm y Trefi Taclus i mewn i glirio'r prysgoed a'r mieri mewn cwpl o

ddyddiau. Y canlyniad oedd cynnydd yn y maint o fioledau a fydd, gobeithio, yn

golygu mwy o löynnod byw ar y safle yn 2010. Fe weithiodd y Tîm hefyd gyda

Changen De Cymru o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a chyflawnodd waith tebyg yn

Hirwaun a Thonyrefail er lles Brith y Gors.

Mae CGD yn annog grwpiau i ymgymryd â phrosiectau ac yn eu cynorthwyo i

sicrhau cyllid ar gyfer cyfarpar, hyfforddiant, yswiriant ayyb. Mae CGD yn

gweithredu cynllun grantiau bach hefyd i alluogi grwpiau cymunedol i brynu'r

cyfarpar angenrheidiol ar gyfer prosiectau o'r fath. Fe roddasom gyllid yn

ddiweddar i brynu llif gadwyn a chyfarpar diogelwch ar gyfer Grŵp Coed Y Bwl

(Bro Morgannwg) sy'n rheoli safle Cwm Alun er lles y Fritheg Frown.

Mewn ardaloedd eraill ar draws Cymru mae gan lawer o awdurdodau lleol dimau

‘Trefi Taclus' sy'n gallu cynorthwyo. Mae swyddogion prosiect gan CGD yn ardal

pob awdurdod lleol - cysylltwch â nhw i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd

ar gael yn eich ardal chi.

Mae'r holl fanylion cysylltu i'w cael ar www.keepwalestidy.org.

Cysylltwch â [email protected] ac fe rodda i chi mewn cysylltiad â'ch swyddog prosiect CGD agosaf.

Cwm Clydach cyn …. .. ac ar ôl

Prosiect partneriaeth yw Trefi Taclus rhwng CGD a phob un o'r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae'n cael ei ariannu gan

Lywodraeth Cynulliad Cymru, a'i nod yw "Cynorthwyo pobl Cymru i

dderbyn cyfrifoldeb am ansawdd eu hamgylchedd lleol”.

Page 7: Ymunwch Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru Cylchlythyr

8

Mae gan Cadwch Gymru'n Daclus (CGD) swyddogion

prosiect wedi'u lleoli mewn cymunedau ledled Cymru,

sy'n cynnig cyngor a chymorth arbenigol. Maent yn

annog cymunedau i fabwysiadu eu hardal leol a helpu

gwirfoddolwyr i ymgymryd â

rhychwant o brosiectau gwella'r

amgylchedd gan gynnwys:

casglu sbwriel, cynnal a chadw

llwybrau, gwella mynediad er lles

pobl anabl, datblygu gerddi

cymunedol a rheoli cynefinoedd.

Gellir cynnwys amddiffyn

rhywogaethau sydd mewn perygl

a rheoli cynefinoedd yn y cylch

gorchwyl hwn.

Gall CGD helpu i reoli

cynefinoedd er lles glöynnod

byw. Mae gan bob Awdurdod Lleol ddull gwahanol o drefnu gwaith Trefi Taclus yn ei ardal, ond yma yn

Rhondda Cynon Taf mae'r awdurdod lleol yn cyflogi pum

dyn sydd wedi'u hyfforddi'n llawn i

ddefnyddio torwyr prysgoed, strimmers a

llifiau cadwyn. Maent yn helpu prosiectau

Trefi Taclus, sy'n gallu cynnwys gwarchod

pilipalod.

Cafwyd esiampl dda o'u gwaith yn 2009

ym Mro Clydach. Mae'r safle'n cynnal

poblogaeth dda o Frithion Perlog Bach a

Brithion Gwyrdd (mae'r ddwy rywogaeth

yn ymborthi ar Fioled y Cŵn) ond roedd

yn dechrau cael ei dagu gan helyg a mieri

a oedd yn dechrau amharu ar y maint o'r

planhigyn bwyd hwn a oedd ar gael i'r

lindys.

Cadwch Gymru'n Daclus a Glöynnod Byw

Ben Williams

Swyddog Prosiect CGD Rhondda Cynon Taf

Credwch neu

beidio, mae

Cadwch

Gymru'n Daclus

yn gwneud

llawer mwy na

chasglu sbwriel.

Fel rhan o

brosiect ‘Trefi

Taclus' mae'n

gwella

cynefinoedd i

bilipalod

:Britheg Werdd, Llun: Jim Asher

7

Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn awyddus bob amser i gefnogi prosiectau myfyrwyr. Yn 2009 cyflawnodd Alice Smith astudiaeth o'r Fritheg Berlog Fach. Roeddem am weld sut mae'r rhywogaeth yn ymddwyn mewn tirwedd agored yn sgil y gwaith blaenorol yng Nghoedwig Clocaenog

Helpodd Dave Thorpe, cofnodydd glöynnod byw sirol Gwynedd i leoli sawl safle ar lethr ger Llanberis. Ymgymerodd Alice ag astudiaeth Marcio, Rhyddhau, Ail-ddal a mapio ansawdd y cynefin gan gymharu gwahanol ddulliau o asesu amgylchiadau. Nododd fod y gwrywod a ymddangosai'n gynnar yn ymwasgaru o'r clytiau bridio bach gwlyb i'r llethrau rhedynog o gwmpas nes bod y benywod yn ymddangos . Yn ogystal olrheiniodd symudiadau nifer fach o unigolion rhwng y clytiau hyn. Ar hyn o bryd mae Alice yn paratoi ei chanlyniadau er gyfer ei MSc.

Mae Gwarchod Glöynnod Byw Cymru'n cadw rhestr o brosiectau sy'n addas ar gyfer israddedigion a graddedigion. Yn 2010 rydym yn gobeithio cefnogi ymchwil i Wyfyn Gwent a chymhariaeth rhwng poblogaethau glöynnod byw ar ffermydd Tir Gofal a rhai nad ydynt yn rhan o gynllun Tir Gofal. Rydym yn gallu cynnig cymorth ymarferol ac, mewn rhai achosion, treuliau teithio. Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb gysylltu â Russel Hobson.

Myfyrwyr ymchwil

dan y sbotolau

Russel Hobson

Pennaeth Cadwraeth

CWRS AR LÖYNNOD BYW A'U GWAHANOL GYNEFINOEDD

Os carech chi ddysgu mwy am sut i adnabod glöynnod byw a'u gofynion o ran cynefin, ymunwch â'r cwrs hwn a drefnir gan Brifysgol Aberystwyth. Mae'n cynnwys 8 sesiwn o 2 ½ awr a 7 cyfarfod maes. Mae'r cwrs yn dechrau ar 26ain Mehefin 2010 ac yn gorffen ar 14eg Awst 2010. Am fwy o wybodaeth ewch at www.aber.ac.uk/sell neu e-bostiwch i [email protected] neu [email protected] Ffôn: 01970 621580

TAITH GERDDED DYWYSEDIG I WELD GLÖYNNOD BYW

Rhan o wythnos ‘Achubwn y Pilipalod'

Byddwn yn trefnu dwy daith gerdded wahanol ar ymweliad â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn y Canolbarth. Mae'r teithiau cerdded yn dechrau am 10 yb ac 1 yp ddydd Sul 25ain Gorffennaf 2010 o Faes Parcio Cors Caron ar y B4343, 2 filltir i'r gogledd o Dregaron. Cyfeirnod Grid SN 693625 Arweinydd: Red Liford. I gael mwy o fanylion galwch 01974 282672

Bryn Bigil, lleoliad yr astudiaeth Alice Smith

Digwyddiadau