Mathau o gig a darnau o gig
meatandeducation.com 2012
Testun y ModiwlMae’r rhan fwyaf o bobl yn prynu cig wedi’i dorri’n barod – yn ddarnau neu’n friwgig (mince). Gallwch brynu cig wedi’i baratoi’n barod hefyd e.e. selsig, ham, byrgers, cebabs.
Mae gwybod o ble mae’r cig yn dod yn eich helpu wrth i chi ei baratoi, ei goginio a’i weini.
Mae’r modiwl hwn yn sôn am y gwahanol ffyrdd o fwyta cig eidion, porc a chig oen.
Rwmp
Ffiled
Llygadyr asen
meatandeducation.com 2012
CyflwyniadMae cigyddion mewn siopau neu archfarchnadoedd yn paratoi cig i fodloni gwahanol anghenion eu cwsmeriaid.
Mae llawer o wahanol ddarnau o gig ar gael, sy’n rhoi dewis da i’r prynwr.
Caiff cig carcas ei baratoi trwy ei dorri’n ddarnau neu ei wneud yn friwgig fel y bydd yn:
• gyfleus i brynu ychydig ar y tro;
• gyfleus i’w brynu wedi’i dorri’n ddarnau e.e. golwython, stêcs;
• haws i’w baratoi ac yn coginio’n gyflymach;
• haws i’w storio’n ddiogel.meatandeducation.com 2012
Cig heddiwMae pobl heddiw’n chwilio am gig:
• y gellir ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd;
• sy’n hwylus i’w baratoi;
• sy’n hawdd ei storio;
• sy’n hawdd ei goginio;
• nad yw’n cynnwys llawer o fraster.
Syrlwyn
meatandeducation.com 2012
Lle rydym yn prynu cig
meatandeducation.com 2012
Cig heddiw• Darnau heb asgwrn (cig eidion, porc a chig oen) – cynnig gwerth am arian a gellir eu coginio’n hawdd ac yn sydyn e.e. grilio.
• Darnau o gig wedi tynnu’r asgwrn a’u rolio – darnau llai fel eu bod yn coginio’n gynt ac yn haws eu torri.
• Darnau heb lawer o fraster – mae’r braster wedi cael ei drimio oddi ar y rhain.
meatandeducation.com 2012
Cig heddiw• Ciwbiau o gig – cig wedi’i dorri’n giwbiau, yn barod i wneud cawl/lobsgows, cebabs a chaserols.
• Briwgig heb lawer o fraster – y braster wedi’i drimio oddi ar y cig cyn ei finsio.
• Stribedi main – mae’r cig yn cael ei dorri’n stribedi main yn addas ar gyfer dulliau coginio sydyn e.e. tro-ffrïo.
meatandeducation.com 2012
Adnabod darnau o gigMae carcas o gig eidion, porc neu gig oen yn cael ei rannu’n wahanol ddarnau – gall y rhain amrywio yn ôl pwysau ac ansawdd y carcas. Felly, mae gwahanol ddarnau o gig yn amrywio yn ôl yr ynni a roddant, y maetholion sydd ynddynt, eu cyfansoddiad, eu pwysau a’r braster sydd ynddynt.
Er bod amrywiadau fel hyn, mae’r darnau o gig sy’n cael ei gwerthu yn amrywio yn ôl adeiledd a chyfansoddiad y carcas e.e. lle mae’r esgyrn a’r cyhyrau.
meatandeducation.com 2012
Adnabod darnau o gigYn gyffredinol:
• yn hanner blaen (chwarthor blaen) y carcas, mae mwy o gyhyrau (am bob darn o gig) sydd wedi gweithio’n galetach ac yn cynnwys mwy o feinwe cysylltiol, ac felly’n rhoi cig llai tyner;
Mae darnau o gig o gyhyrau’r gwddf a’r ysgwyddau, yn neilltuol, yn cynnwys ffibrau hir trwchus a llawer o feinwe cysylltiol.
meatandeducation.com 2012
Adnabod darnau o gigYn gyffredinol:
• mae hanner ôl carcas (y chwarthor ôl) yn cynnwys llai o gyhyrau (am bob darn o gig), maent wedi gwneud llai o waith ac maent yn cynnwys llai o feinwe cysylltiol, ac felly dyma lle y ceir y darnau cig mwyaf tyner.
Darnau cig o gyhyrau’r lwyn a’r rwmp (y pen ôl) sydd wedi gwneud lleiaf o waith ac mae ffibrau’r cyhyrau’n fyrrach ac yn feinach. Mae yno lai o feinwe cysylltiol a dyma’r darnau tyner gorau.
meatandeducation.com 2012
Darnau o gig eidion
Chwiliwch am y darnau cig sy’n addas i gael eu coginio’n araf.
Byrgyrs
Stêcs SylwynStêcs Ffolen
Darn o’r Ystlys Las
Darn o Ochr Orau’r Forddwyd
Stribedi Tro-ffrio
Stêcs Llygad yr Asen
Stêcs Ffiled
Stêc o Ochr Orau’r Forddwyd
Ciwbiau o Stecen Balfais
Cylchoedd o’r Goes Las
Asen FlaenStêc Balfais
Brisged wedi Rholio
meatandeducation.com 2012
Briwgig
meatandeducation.com 2012
Darnau cig oen
Pa ddarnau fyddai’n cynnwys fwyaf o feinwe cysylltiol?
Rhagiau
Cytledau
Stêcs Ffolant
Cnepynnau
Golwython Lwyn
Stribedi Tro-ffrio
CebabauBriwgig
Stêc YsgwyddYsgwydd wedi Rholio
Ciwbiau
Ffiledau’rGwddf
Siancen
Stêcs Coes heb Asgwrn
Hanner CoesStêc Ffolen
Ffolen heb Asgwrn
Darnau porc
Pa ddarnau sy’n debygol o fod fwyaf tyner?
CiwbiauCoesgyn
Asennau Bras
Stibedi Tro-ffrio
Stêcs Coes
Coes heb Asgwrn
Stêcs Lwyn
Golwython ar yr AsgwrnCanol Lwyn
Stêcs Ffolant
Stêcs Ffolen
Osso Bucco
Stêcs Gwddf
Stribedi Bola
Rhag Rhost
Golwython yr Asen
Darn o’r Ysgwydd wedi’i Rolio
meatandeducation.com 2012
Dewis ac amrywiaethEr mwyn ychwanegu dewis ac amrywiaeth, gellir halltu porc a’i drin â mwg.
Cig moch/bacwn
Caiff bacwn ei wneud trwy halltu porc â halen neu mewn dŵr hallt. Ar ôl aeddfedu, mae’n cael ei werthu fel cig moch di-fwg. Gellir trin y cig moch â mwg. Mae hyn yn tywyllu’r cig ac yn rhoi blas arbennig iddo.
Gamon
Coes gyfan mochyn wedi’i halltu yw gamon. Yn aml, caiff ei dorri’n dafelli sy’n hawdd eu coginio. Caiff y rhain eu bwyta’n boeth fel stêcs gamon. Mae hefyd yn cael ei werthu wedi’i goginio ac yn cael ei fwyta’n oer fel ham. Weithiau, gellir halltu ham a’i goginio mewn ffordd arbennig i roi blas neilltuol iddo – fel ‘ham mêl-rost’.
meatandeducation.com 2012
Dewis ac amrywiaethI fod yn fanwl gywir, nid yw offal yn ddarn o gig. Offal yw’r gair a ddefnyddir i ddisgrifio’r darnau o wartheg, moch a defaid sy’n cael eu torri oddi ar y carcas (off-falls) pan fydd y cig yn cael ei baratoi i’w werthu.
Mathau o offal
• y tu mewn i’r carcas – mae’r rhain yn cynnwys afu/iau, ’arennau, y galon, y dafod, cefndedyn/golwyth melys/sweetbread a treip. Mae gwaed yn fath o offal hefyd ac fe’i defnyddir i wneud pwdin gwaed.
• rhannau allanol y carcas – e.e. traed moch, cern eidion a chynffon ych.
meatandeducation.com 2012
Cig a choginioBydd y ffordd o goginio darn neilltuol o gig yn dibynnu ar:
• y math o ffibrau sydd yn y cyhyrau;
• faint o feinwe cysylltiol sydd ynddo.
Bydd darnau o gig sy’n dod o gyhyrau sy’n gweithio’n galed yn cymryd mwy o amser i goginio yn araf e.e. cawl/lobsgows, caserol.
Bydd darnau o gig sy’n dod o gyhyrau nad ydynt yn gweithio mor galed pan fydd yr anifail yn fyw yn gallu cael eu coginio’n gyflymach o lawer e.e. grilio, tro-ffrïo.
Mae angen amser hir ar offal fel calon neu gynffon ych i goginio yn araf e.e. brwysio neu eu rhoi mewn caserol. Does dim angen llawer o amser coginio ar afu/iau neu ’arennau (kidneys). Gellir coginio afu a’i finsio i wneud pâté.
meatandeducation.com 2012
Technegau coginioBarbeciwioCoginio bwyd (yn yr awyr agored fel rheol) at drybed (trivet) neu gril, dros dân coed neu gols neu fflam mwy.
GrilioCoginio neu frownio bwyd yn gyflym o dan wres mawr elfen drydan neu fflam nwy. Dim ond ar gyfer darnau tyner o gig, dim mwy na 5cm o drwch, y mae hyn yn addas.
FfrïoBas: coginio bwyd mewn ychydig iawn o saim mewn padell ffrïo fas.Tro-ffrïo: coginio bwyd yn gyflym, gydag ychydig o fraster neu hebddo, dros wres uchel.Dwfn: coginio bwyd mewn llawer o saim wedi’i gynhesu ymlaen llaw.
meatandeducation.com 2012
Technegau coginioRhostio
Coginio bwyd ar dymheredd uchel, sych, mewn ffwrn/popty. Mae’r gwres sych yn carameleiddio wyneb y cig.
Pot-rostio
Coginio darn o gig, sydd wedi’i frownio eisoes, ar ben llysiau, gydag ychydig iawn o hylif, mewn potyn â’r caead yn dynn arno.
Caserolio/Brwysio/Stiwio
Cognio darnau mwy gwydn o gig yn araf, mewn digon o hylif, gyda’r caead yn dynn arno. Mae cig wedi’i frwysio yn eistedd ar wely trwchus o lysiau gyda stoc cryf. Fel rheol mae’r cig wedi’i dorri’n sgwariau neu’n stêcs.
meatandeducation.com 2012
Technegau coginio: Cig eidion
Barbeciwio GrilioFfrïo
Pitsa eidion a parmesan
Stêc syrlwyn Stêc rwmp eidion – yn stribedi
Cobiau cyri
Briwgig eidion
Byrgyrs sbeis Asia
meatandeducation.com 2012
Technegau coginio: Cig eidion
Rhostio Pot-rostioCaserolio/brwysio/
stiwio
Darn ochr orau’r Forddwy
Coes las
Pot rhost siarpEidion rhost gyda mwstard caws ac ham parma
Gwlash eidion
Darn brisgcd
meatandeducation.com 2012
Technegau coginio: cig oen
Barbeciwio GrilioFfrïo
Briwgig oen Stribedi cig oen Darnau gwddf oen
Ffŷn cig oen gyda phaprica Cig oen teriyakiGwddf wedi grilio gyda Gorbwmpen
meatandeducation.com 2012
Technegau coginio: cig oen
Rhostio Pot-rostioCaserolio/brwysio/
stiwio
Cytledi cig oen gyda relish yr hydref
Siancen oen Darn or ysgwndd diasgrrn ac wedii’ rowlio
Ysgwydd wedii rostio mewn potyn
Sianc blas Tai
Cytledi cig oen
meatandeducation.com 2012
Technegau coginio: Porc
Barbeciwio GrilioFfrïo
Ffŷn porc a ffrwythau Risoto porcSalad bacwn pys a pherlysiau
Stêcs lwyn Stribedi canol lwyn Bacwn
meatandeducation.com 2012
Technegau coginio: Porc
Rhostio Pot-rostioCaserolio/brwysio/
stiwio
Bola porc
Bola wedi’i goginio gyda seidr a sbeis
Colwythion porc
Golwythion gyda ffa a chorizoPorc y caribi
Ysgwydd porc wedi’i giwbio
meatandeducation.com 2012
Crynodeb• Mae cig ar gael i’w brynu wedi’i dorri’n ddarnau bach neu fawr neu fel mins. Mae rhai cigoedd yn cael eu paratoi ymlaen llaw hefyd e.e. selsig, ham, byrgers.
• Mae’r mathau hyn o gig yn ei gwneud yn hawdd i’r defnyddiwr – maent yn rhoi dewis ac maent yn hwylus i’w paratoi, yn hawdd eu storio ac yn syml i’w coginio.
• Ma gan wahanol ddarnau o gig wahanol nodweddion e.e. ynni a maetholion, cyfansoddiad, pwysau, maint ac ymddangosiad.
• Mae angen coginio gwahanol ddarnau mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu o ble yn yr anifail y maent wedi dod e.e. yn araf (caserol), yn gyflymach (tro-ffrïo).
• Er mwyn rhoi mwy o ddewis ac amrywiaeth, mae porc yn cael ei halltu. Mae modd bwyta offal mewn nifer o brydau poblogaidd hefyd e.e. iau a chig moch.
meatandeducation.com 2012
Os hoffech ragor o wybodaeth a chymorth, ewch i:
www.meatandeducation.com
www.hccmpw.org.uk
www.eatwelshlamb.org.uk
meatandeducation.com 2012