64
ATODIAD A CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR ADRODDIAD YMGYNGHORI ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL - PLANT RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION: Canlyniad ymgynghoriadau ar gynnig i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw trwy adleoli’r ysgol 1 Diben yr adroddiad 1.1 Diben yr adroddiad cyhoeddus hwn yw rhoi gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw trwy adleoli’r ysgol i adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Betws. 2 Cysylltiad â’r Cynllun Corfforaethol / Blaenoriaethau Corfforaethol Eraill 2.1 Mae’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn ategu llawer o’r blaenoriaethau corfforaethol, yn enwedig: Cydweithio i godi uchelgeisiau a sbarduno cyflawniad addysgol 3 Cefndir 3.1 Ar 3 Mawrth 2015, cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cyngor fabwysiadu egwyddorion diwygiedig fel fframwaith ar gyfer trefniadaeth ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr; amlinellwyd pum egwyddor allweddol i lywio trefniadaeth ein hysgolion a’r broses o’u moderneiddio: i. Ymrwymiad i safonau uchel a rhagoriaeth mewn darpariaeth. ii. Cyfle cyfartal, er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad i gyfleoedd dysgu o safon, waeth pa ysgol mae’n ei mynychu. 1

 · Web viewATODIAD A. CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR. ADRODDIAD YMGYNGHORI. ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL - PLANT. RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION: Canlyniad ymgynghoriada

Embed Size (px)

Citation preview

ATODIAD A

CYNGOR BWRDEISTREF SIROL PEN-Y-BONT AR OGWR

ADRODDIAD YMGYNGHORI

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL - PLANT

RHAGLEN MODERNEIDDIO YSGOLION: Canlyniad ymgynghoriadau ar gynnig i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw trwy adleoli’r ysgol

1 Diben yr adroddiad

1.1Diben yr adroddiad cyhoeddus hwn yw rhoi gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw trwy adleoli’r ysgol i adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Betws.

2 Cysylltiad â’r Cynllun Corfforaethol / Blaenoriaethau Corfforaethol Eraill

2.1Mae’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn ategu llawer o’r blaenoriaethau corfforaethol, yn enwedig:

Cydweithio i godi uchelgeisiau a sbarduno cyflawniad addysgol

3 Cefndir

3.1 Ar 3 Mawrth 2015, cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet i’r Cyngor fabwysiadu egwyddorion diwygiedig fel fframwaith ar gyfer trefniadaeth ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr; amlinellwyd pum egwyddor allweddol i lywio trefniadaeth ein hysgolion a’r broses o’u moderneiddio:

i. Ymrwymiad i safonau uchel a rhagoriaeth mewn darpariaeth.ii. Cyfle cyfartal, er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad i gyfleoedd

dysgu o safon, waeth pa ysgol mae’n ei mynychu.iii. Ysgolion cynhwysol, sy’n diwallu anghenion dysgu pob un o’u disgyblion.iv. Ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned, lle mae’r ysgol yn ymgysylltu â’r

gymuned leol.v. Gwerth am arian.

3.2 Mae’r Fframwaith Polisi a Chynllunio yn amlinellu 17 maes lle y dylai’r egwyddorion hyn gael eu cymhwyso’n ymarferol.

3.3 Mae’r egwyddorion sy’n arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y cynnig hwn yn ymwneud â maint ysgolion cynradd (er mwyn sicrhau bod “holl ysgolion cynradd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddigon mawr i’r amrediad cyfan o ddarpariaeth fod ar gael”) a gwerth am arian, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd a darparu ysgolion lleol, gan gynllunio darpariaeth newydd i adlewyrchu newidiadau yn nosbarthiad y boblogaeth.

1

3.4 Mae darpariaeth ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ar gyfer ardal ogledd-ddwyreiniol y fwrdeistref sirol ar hyn o bryd yn cael ei darparu gan Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw, ym Mhontycymer. Mae’r ysgol hon yn nodweddiadol o nifer o ysgolion y cymoedd, wedi ei hadeiladu ar ochr bryn gyda mynediad gwael ar gyfer disgyblion ac ymwelwyr anabl. Nid yw’n addas ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm cyfoes a bernir bod ei chyflwr yn ‘Wael’ (dangos diffygion mawr a/neu ddim yn gweithredu yn unol â’r bwriad) gyda £700,000, yn ôl yr amcangyfrif, o waith atgyweirio a chynnal a chadw i’w wneud.

3.5 Mae lle yn yr ysgol ar hyn o bryd ar gyfer 210 o ddisgyblion, gyda 123 (4-11) ar y gofrestr ym mis Ionawr 2015, gan arwain at 87 o leoedd gwag. Rhagwelir y bydd y niferoedd ar y gofrestr yn codi i 161 yn 2022, a fyddai’n golygu 49 o leoedd gwag. Nod y Cyngor yw cynyddu nifer y rhieni sy’n dewis addysg Gymraeg ar gyfer eu plant ac mae angen cydbwyso hyn yn erbyn nifer y lleoedd gwag sydd ar gael. Er bod lleoedd gwag yn yr ysgol hon ac yn ein darpariaeth Gymraeg arall yng ngogledd y fwrdeistref sirol, sef Ysgol Cynwyd Sant, mae gennym ni ddiffyg lleoedd yn y de.

3.6 Gosodwyd unedau ystafell ddosbarth symudol yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ym mis Rhagfyr 2013 ac yn Ysgol y Ferch o’r Sgêr yn 2014 i ddiwallu’r materion digonedd uniongyrchol, ond mae angen datrysiad tymor hwy a bydd y cynnig hwn yn lleihau’r pwysau ar Ysgol Gymraeg Bro Ogwr. Byddai adleoli YGG Cwm Garw yn agosach i ardal Pyrth y Cymoedd yn gwneud yr ysgol yn fwy hygyrch, gan y byddai wedi’i lleoli’n fwy canolog. Byddai’r ysgol yn caniatáu ar gyfer twf yn y galw am addysg Gymraeg a byddai’n gallu darparu ar gyfer disgyblion ychwanegol yn dod o ddalgylch mwy.

3.7 Byddai’r cynnig adleoli hwn yn hwyluso newid i ddalgylch yr ysgol i gynnwys ardal i’r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr, a fyddai’n lleihau’r pwysau ar leoedd yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd bron yn llawn ac na fydd yn gallu bodloni anghenion disgwyliedig datblygiadau tai yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr a Phyrth y Cymoedd yn y dyfodol agos. Byddai cydbwyso lleoedd cyfrwng Cymraeg ar draws y fwrdeistref sirol yn y modd hwn hefyd yn gwneud YGG Cwm Garw yn fwy ymarferol ei maint o ran darpariaeth addysg ac yn darparu ysgol sy’n addas i’r diben ac yn fwy effeithlon o ran costau gweithredu.

3.8 Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r ymatebion i’r ymgynghoriad mewn perthynas â’r adleoli arfaethedig

4 Y sefyllfa bresennol

4.1 Er mwyn symud ymlaen â’r cynnig, cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 25 Ebrill ac 1 Mehefin 2015 yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol. Roedd copi o’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor yn ystod y cyfnod hwn hefyd:

http://www1.bridgend.gov.uk/services/consultation/hub/ygg-cwm-garw.aspx

4.2 Estynnodd y ddogfen ymgynghori wahoddiad i bobl gyflwyno barn a sylwadau mewn perthynas â’r cynnig i agor yr ysgol ar 1 Ebrill 2018.

2

4.3 Yn dilyn cyngor gan swyddogion technegol yr awdurdod, mae’r rhaglen adeiladu ar gyfer yr adeilad newydd arfaethedig yn golygu y byddai’r ysgol yn barod i’w meddiannu ar 1 Medi 2018, sy’n wahanol i’r dyddiad agor arfaethedig. Ceisiwyd barn corff llywodraethu’r ysgol ynglŷn â hyn ac rydym yn aros am ymateb, yr adroddir arno ar lafar yng nghyfarfod y Cabinet os caiff ei dderbyn mewn pryd.

4.4 Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, cam nesaf y broses fydd cyhoeddi hysbysiad statudol yn amlinellu’r cynigion, y byddai angen ei gyhoeddi am gyfnod o 28 niwrnod. Byddai unrhyw wrthwynebiadau ysgrifenedig ffurfiol yn cael eu gwahodd yn ystod yr adeg hon.

4.5 Os na cheir unrhyw wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod Hysbysiad Cyhoeddus, gall y Cabinet ystyried p’un a yw’n dymuno gweithredu’r cynnig.

4.6 Os ceir gwrthwynebiadau yn ystod y cam Hysbysiad Cyhoeddus hwn, cyflwynir ‘adroddiad gwrthwynebiadau’ i’r Cabinet i’w ystyried ac fe’i cyhoeddir wedi hynny yn crynhoi’r gwrthwynebiadau ac ymateb yr awdurdod iddynt. Bydd angen i’r Cabinet ystyried y cynnig yng ngoleuni unrhyw wrthwynebiadau. Yna, gallai’r Cabinet dderbyn, gwrthod neu addasu’r cynnig.

5 Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad

5.1 Roedd y pwyntiau allweddol o’r ymarferion ymgynghori fel a ganlyn. Atodir manylion llawn ar ddiwedd yr adroddiad hwn.

5.2 Ymgynghori â DisgyblionCyfarfu cynrychiolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr â Chyngor yr Ysgol, Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw ar 11 Mai 2015 a Chyngor yr Ysgol, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ar 15 Mai 2015 i drafod y cynnig. Rhoddir manylion y cyfarfodydd yn Atodiad 1 yr adroddiad hwn.

5.3 Ar ôl y sesiynau holi ac ateb a gynhaliwyd yn y ddwy ysgol, gofynnwyd i ddisgyblion godi llaw os oeddent yn credu bod adleoli YGG Cwm Garw yn syniad da. Yn y ddwy ysgol, cododd pob disgybl ond un eu dwylo. Pellter teithio oedd achos pryder y ddau blentyn. Roedd y ddau’n credu y byddai adleoli’r ysgol yn effeithio ar y pellter teithio ar gyfer y disgyblion hynny sy’n byw yn agos i’r ysgol bresennol ar hyn o bryd.

5.4 Crynodeb o’r arolwg ar-leinCyrchodd pedwar unigolyn yr arolwg ar-lein ac ymatebodd ddau ohonynt iddo:

Gwnaeth un ymatebwr, sef rhiant, y sylw canlynol:

‘Rwy’n gwrthwynebu’r cynnig yn chwyrn. Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, ni fydd fy mab i’n mynd i’r ysgol honno byth!!! Ry’n ni’n byw ym Metws ac rwy’n dewis byth ei anfon i’r ysgol honno, felly os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, ni fydd fy mhlentyn i’n mynd yno!!! Pam na wnewch chi ofyn i rieni’r disgyblion sy’n mynd i Gwm Garw a fydden nhw’n anfon eu plentyn ar fws i fynd i Ysgol Betws? NA WNEWCH!!! Pam? Gan eich bod chi eisoes yn gwybod na fyddan nhw’n mynd i’r ysgol honno. Mae Cwm Garw’n ysgol wych a dylid ei chadw ble y mae!!! Pam na allwch chi ofyn i’r rhieni cyn gwario swm gwirion o arian ar ysgol nad yw’n

3

ymarferol? Hefyd, ble mae’r plant yn mynd i chwarae? Ry’ch chi’n adeiladu ar gae chwarae’

Dywedodd yr ymatebwr arall, sef preswyliwr lleol:

‘Rwy’n chwyrn yn erbyn y cynnig i symud Ysgol Cwm Garw i safle newydd ym Metws. Mae gan y pentrefi uchaf yng Nghwm Garw lawer o broblemau eisoes o ran cael mynediad at wasanaethau, ac felly byddai symud ysgol sy’n ganolog i’r gymuned yn gwaethygu’r sefyllfa hon. Mae Betws, sy’n ardal Cymunedau yn Gyntaf a Dechrau’n Deg, yn cael llawer o gyllid gan wahanol asiantaethau i fynd i’r afael â phroblemau yn yr ardal, ond nid yw Pontycymer a Blaengarw yn cael unrhyw gyllid o’r fath er eu bod yn ardaloedd amddifadedd ac yn dioddef arwahanrwydd. Mae’r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhwng Pontycymer a Betws yn wael iawn ac felly byddai’n anodd iawn i rieni deithio i’r ysgol heb gar. Mae’n ymddangos bod gwella trafnidiaeth gyhoeddus rhwng y ddwy ardal yn ddewis drud gan ei bod yn annhebygol iawn y gwneir defnydd da ohoni, oherwydd ychydig o bobl yn gyffredinol y bydd angen iddynt deithio rhwng y ddau bentref yn rheolaidd, a byddai cynnwys Betws ar y llwybr bws rheolaidd i Ben-y-bont ar Ogwr yn cynyddu’r amser teithio’n sylweddol. Mae eisoes yn cymryd gormod o amser i deithio o Flaengarw i Ben-y-bont ar Ogwr ar fws, felly byddai cynyddu’r amser ymhellach yn cael effaith negyddol ar yr holl bobl leol sy’n defnyddio’r dull hwn o drafnidiaeth o ddydd i ddydd. Mae rhai o’r strydoedd yn union o amgylch yr ysgol yn dioddef yn wael oherwydd problemau amddifadedd, ac felly byddai symud yr ysgol o’r gymuned hon a gadael adfail ond yn gwaethygu hyn. Mae digon o adeiladau gwag ym Mhontycymer yn barod. Fe es i i Ysgol Cwm Garw fy hun ac ymlaen i Ysgol Llanhari ar gyfer fy addysg uwchradd Gymraeg. Roeddwn yn llawn bwriadu anfon fy mhlant i Ysgol Cwm Garw, ond os bydd yr ysgol yn symud i Fetws ni fyddaf yn dewis hyn. Yn hytrach, byddai’n well gennyf eu hanfon i’r ysgol Saesneg leol. Rwy’n gwybod bod llawer o gyn-ddisgyblion o’r un farn. Buaswn mor siomedig pe byddai hyn yn digwydd gan y buaswn wrth fy modd i’m plant fynd i ysgol Gymraeg. Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn sicr wedi fy helpu yn fy ngyrfa yn y GIG hyd yma. Ond ni fyddai symud yr ysgol i Fetws yn ymarferol i mi o gwbl ac rwy’n teimlo ei bod yn enghraifft arall o ardal Blaenau’r Cymoedd yn dioddef er budd y rhai hynny sy’n byw’n agosach i goridor yr M4.'

5.5 Gohebiaeth uniongyrcholDerbyniwyd dwy eitem o ohebiaeth uniongyrchol yn ystod y cyfnod ymgynghori ynglŷn â’r cynnig. Ymatebwyd i’r rhai a anfonodd yr eitemau gohebiaeth yn diolch iddynt am eu cyflwyniadau ac yn dweud y byddai eu sylwadau’n cael eu hystyried yn yr adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet.

5.6 Rhoddir y darn cyntaf o ohebiaeth uniongyrchol isod:

‘…Rwy’n rhiant i un plentyn sy’n mynd i Gwm Garw ar hyn o bryd a dau blentyn sydd i ddechrau ym mis Medi eleni yn ogystal â’r mis Medi dilynol. Rwy’n byw y tu allan i’r dalgylch ac yn dal i ddewis anfon fy mhlant yno. Rwy’n credu bod yr ysgol (addysgu) yn wych. Roeddwn am wybod a fydd Sarn yn rhan o’r dalgylch ar ôl y symud. Hefyd, rydw i wedi darllen am fynediad 1.5 dosbarth a mynediad 1 dosbarth, ond nid yw’r un o’r rhieni rydw i wedi siarad â nhw yn gwybod beth yw ystyr hynny. O ran dechrau ym mis Ebrill 2018, byddai gennyf 3 phlentyn yn yr ysgol yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2. A fydden nhw ar safleoedd gwahanol ac, os felly, am ba mor hir?’

4

Ymateb yr Awdurdod:Nid yw ffin y dalgylch ar gyfer yr ysgol wedi’i gosod eto a bydd yn destun ymgynghoriad ar wahân. Gobeithiwn geisio cymeradwyaeth i symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus ar ffin y dalgylch ym mis Medi pan fydd y rhai sydd â diddordeb yn cael cyfle i wneud sylwadau ar y cynnig wedi hynny. 

Mae’r term ‘dosbarth mynediad’ yn cyfeirio at nifer y dosbarthiadau sydd mewn ysgol ym mhob grŵp blwyddyn. Felly, er enghraifft, byddai gan ysgol ‘mynediad un dosbarth’ un dosbarth ym mhob grŵp blwyddyn, ac yn y blaen.

Pan fydd yr ysgol newydd yn agor yn 2018, ni fydd yr ysgol yn gweithredu ar sail safle rhanedig, ac felly bydd yr holl ddisgyblion yn mynychu’r ysgol newydd ym Metws gyda’i gilydd.

5.7 Mae’r ail ddarn o ohebiaeth uniongyrchol oddi wrth yr AC Rhanbarthol, sef Suzy Davies, ac fe’i manylir isod (amlygir ymatebion gan yr Awdurdod Lleol isod mewn teip du trwm):

Byddwn yn ddiolchgar pe gallai’r sylwadau canlynol gael eu hystyried yn yr ymgynghoriad uchod.

Bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn llai nag a ddisgwyliwyd yn wreiddiol, yn dilyn canlyniad yr adolygiad barnwrol o’r cyfnod ymgynghori cynharach. Fodd bynnag, byddai’n dda cael ysgol newydd a bydd 315 o leoedd amser llawn yno o hyd, sef dwywaith cymaint â’r gofrestr bresennol yn safle Pontycymer; bwriedir i hyn gynnwys disgyblion o ogledd Pen-y-bont ar Ogwr a fyddai, yn unol â ffiniau dalgylch presennol, yn mynd i YG Bro Ogwr.

Cynlluniwyd y newid i’r dalgylch er mwyn lliniaru’r pwysau ar YG Bro Ogwr, lle y ceir gormod o alw am leoedd ar hyn o bryd ac a fydd yn debygol o gynyddu yn sgil datblygiad yng Nghoety.

1. Pa ailgyfrifiad o nifer y lleoedd meithrin amser llawn a gynhaliwyd cyn yr adolygiad barnwrol ac a yw ffin newydd y dalgylch wedi’i haddasu i gyd-fynd â’r ysgol lai?Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i werthuso’r twf yn y lleoedd ysgol angenrheidiol ar gyfer dalgylchoedd YGG Cwm Garw ac YGG Bro Ogwr er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r dalgylch yn adlewyrchu’r galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a wasanaethir gan y ddwy ysgol. Gobeithiwn ddechrau ymgynghori yn ystod blwyddyn academaidd 2015-16.

2. Pa ymgysylltiad uniongyrchol ydych chi wedi’i gael â theuluoedd yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n debygol o fod yn newid dalgylch, a pha atebion ydych chi wedi’u cael ynglŷn â’r canlynol:

(a) pa un a ydynt yn credu y bydd mynd i’r ysgol ym Metws yn golygu y bydd eu plant yn cael eu haddysg Gymraeg mewn cymuned wahanol;Er na ofynnwyd y cwestiwn penodol hwn yn rhan o’r ymgynghoriad, mae safbwyntiau penodol wedi’u hystyried lle y’u darparwyd.

5

(b) pa un a fydd hynny’n eu hatal rhag anfon eu plant i Fetws o blaid ysgol Saesneg agosach;Mae gan rieni’r hawl i fynegi blaenoriaeth dros yr ysgol sy’n briodol i’w plant yn eu barn hwy. Gallai symud yr ysgol i leoliad newydd, yn enwedig os yw mewn pentref gwahanol, effeithio ar benderfyniad rhieni i’w plentyn fynd i’w ysgol ddalgylch. Mae’r effaith ar hunaniaeth a chydlyniant cymunedol wedi’i hamlygu yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb sy’n cyd-fynd â’r adroddiad ymgynghori, yr adroddir arno i’r Cabinet ar 16 Mehefin 2015. Er mwyn cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r newid arfaethedig i Bolisi Teithio Dysgwyr yr ALl yn cynnig y byddai disgyblion mewn ysgolion cynradd Cymraeg sy’n byw 2 filltir neu fwy o’r ysgol, neu ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd Cymraeg sy’n byw 3 milltir neu fwy o’r ysgol yn cael trafnidiaeth rad ac am ddim, ni waeth pa un ai’r ysgol honno yw’r ysgol addas agosaf.

(c) pa un a fydd anfon eu plant i gymuned wahanol ar gyfer eu haddysg cyfrwng Cymraeg yn lleihau eu tebygolrwydd eu hunain o ddefnyddio’r Gymraeg fel oedolion yn eu cymuned eu hunain; acUn o fanteision posibl lleoli’r ysgol gerllaw Ysgol Gynradd Betws ar yr un safle fyddai’r cyfle ar gyfer mwy o integreiddio rhwng disgyblion yn yr un cymunedau sy’n dymuno dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg â’r rhai hynny sy’n dymuno dysgu trwy gyfrwng y Saesneg.

(ch) pa un a yw’r plant yn fwy tebygol o gysylltu’r defnydd o’r Gymraeg â’u hysgol yn unig yn hytrach nag fel cyfrwng cyfathrebu pob dydd yn eu cymuned eu hunain?Byddai’r ALl a’r ysgol yn ceisio cyfleoedd i sicrhau na fyddai’r Gymraeg yn dirywio o gwbl, yn enwedig ar lefel gymunedol. Nod y Cyngor yw cynyddu nifer y rhieni sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant. Un o fanteision lleoli’r ysgol yn ardal porth y cymoedd yw sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gael i wasanaethu’r ardal lle y ceir galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

3. A yw’r ymatebion i’r cwestiynau hyn yn adlewyrchu’r ymatebion i’r un cwestiynau a ofynnwyd i’r teuluoedd yng Nghwm Garw?Heblaw am yr ymgynghoriad ffurfiol, nid yw’r ALl wedi gofyn y cwestiynau penodol rydych chi wedi’u hamlinellu i’r ymgyngoreion.

4. A yw’r ymatebion yn adlewyrchu profiad a theimladau presennol y teuluoedd a’r plant o Fro Ogwr sy’n teithio i safle Pontycymer ar hyn o bryd (cymuned wahanol)? Bydd adleoli’r ysgol yn amlwg yn byrhau eu taith, ond a fydd y teuluoedd hynny sy’n ystyried bod eu plant yn cael eu haddysg ym Metws yn dal i ystyried bod eu plant yn cael eu haddysg y tu allan i’w cymuned? Mae RhAG wedi mynegi pryderon ynglŷn ag effaith y cynnig ar allu trigolion Cwm Garw i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal, ac maent yn teimlo y byddai hyn yn rhwystro unrhyw obaith o adfer yr iaith yn y cwm.

O’r tri ymateb a gafwyd gan y cyhoedd, roedd pob un yn gyffredinol negyddol ynglŷn â’r cynnig, gan ei wrthwynebu ar sail:- Y pellter i’r ysgol newydd o ardal y cymoedd a hygyrchedd cyffredinol; Yr effaith ar gydlyniant cymunedol o ganlyniad i golli’r ysgol yn y

gymuned bresennol;

6

Bod yr ysgol bresennol yn ysgol dda.

5. Pe adleolir yr ysgol i Fetws, yn agosach at breswylwyr Bro Ogwr, faint o deuluoedd a fydd yn ystyried dechrau eu plant mewn addysg cyfrwng Cymraeg / symud eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg na fyddent wedi gwneud hynny tra oedd y ddarpariaeth ym Mhontycymer?Mae lle yn yr ysgol ar hyn o bryd ar gyfer 210 o ddisgyblion, gyda 123 (4-11) ar y gofrestr ym mis Ionawr 2015, gan arwain at 87 o leoedd gwag. Rhagwelir y bydd y niferoedd ar y gofrestr yn codi i 161 yn 2022, a fyddai’n golygu 49 o leoedd gwag. Nod y Cyngor yw cynyddu nifer y rhieni sy’n dewis addysg Gymraeg ar gyfer eu plant ac mae angen cydbwyso hyn yn erbyn nifer y lleoedd gwag sydd ar gael. Er bod lleoedd gwag yn yr ysgol hon ac yn ein darpariaeth Gymraeg arall yng ngogledd y fwrdeistref sirol, sef Ysgol Cynwyd Sant, mae gennym ni ddiffyg lleoedd yn y de.

[Codaf y pwyntiau hyn oherwydd polisi Llywodraeth Cymru yw bod mwy o fynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar a chynradd cyfrwng Cymraeg ar gael yng nghymuned y plant. A yw teuluoedd yn credu bod yr adleoli’n cyflawni hyn?)

6. O’r teuluoedd yng ngogledd Pen-y-bont ar Ogwr a fynegodd ddiddordeb yn yr ysgol wedi’i hadleoli, (a) faint oedd yn ymwybodol o gynlluniau ar gyfer adeiladu ysgol cyfrwng Saesneg newydd ym Mrynmenyn; a(b) faint a anfonodd eu plant i ysgolion cyfrwng Saesneg ar y sail bod YG Bro Ogwr yn ‘llawn’? (Mae adroddiad Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) yn datgan bod yr holl rieni yr oedd arnynt angen addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant yn ei derbyn)Ni ofynnwyd y cwestiynau penodol hyn yn rhan o’r ymgynghoriad, ond ystyriwyd safbwyntiau lle y’u darparwyd.

7. Nid yw’r twf rhagamcanol yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn drawiadol a disgwylir iddo wastadu o fewn dwy flynedd. Ni ddylai hyn fod yn derfyn uchelgais Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn enwedig yng Nghwm Garw a Bro Ogwr. Polisi Llywodraeth Cymru yw i’r galw gael ei greu ac nid ei reoli yn unig.Mae’r Awdurdod Lleol yn monitro a gwerthuso’r galw gan rieni am leoedd yn y sector cyfrwng Cymraeg a faint o leoedd sydd ar gael er mwyn sicrhau bod yr holl blant sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod y blynyddoedd cynnar yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd. Yn 2013, roedd yr holl ddisgyblion a ofynnodd am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd yn gallu cael mynediad ati.

Pam nad yw’r ddarpariaeth Ti a Fi/Ysgol Feithrin wedi arwain at drosglwyddo uwch, neu fwy cyson, i ddarpariaeth cynradd Cymraeg a pham nad yw’r galw sydd wedi’i orsymbylu wedi cael ei adlewyrchu yn y gogledd(a) a yw’n ymwneud â lleoliad a nifer yr ysgolion cynradd; neu(b) a yw’n fethiant yn y gwaith hyrwyddo a gynhaliwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, (i) a fydd arweinwyr yn yr ysgolion lle y ceir gormod o alw am leoedd yn chwilio am ddisgyblion newydd ac (ii) a ddylai arweinwyr ysgol fod yr unig brif chwaraewyr wrth gyflawni’r ddyletswydd statudol i hyrwyddo’r Gymraeg; prin y mae hyn yn cyfleu ethos cyngor cyfan i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg?(c) Os bydd ymdrech fwy penodol yn arwain at alw newydd yng ngogledd y fwrdeistref, beth yw’ch syniadau ar gyfer darpariaeth yng Nghwm Garw a Bro

7

Ogwr? (Rydych yn crybwyll gweledigaeth tymor hwy ar gyfer ardal Porthcawl/Cynffig)Ar hyn o bryd, addysgir 8.72% o blant 7 mlwydd oed trwy gyfrwng y Gymraeg mewn pedair ysgol gynradd Gymraeg. Mae’r holl rieni y mae arnynt angen addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant 7 oed yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth hon.Mae niferoedd rhagamcanol yn dangos cynnydd yn nifer a chanran gwirioneddol y plant 7 oed a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg ym mlwyddyn academaidd 2014-15, ac yna cynnydd bach yn y nifer ond lefelu o ran y ganran yn 2015-17.I fynd i’r afael â’r anghydbwysedd mewn capasiti, byddai’r cynnig i symud YGG Cwm Garw ymhellach i’r de yn galluogi gwell cydbwysedd o ran niferoedd disgyblion ar draws ein pedair ysgol gynradd. Mae gan YGG Cwm Garw 87 o leoedd gwag ar hyn o bryd ac mae’r adeilad presennol mewn cyflwr gwael (Gradd C).Byddai’r datblygiad arfaethedig hefyd yn caniatáu ar gyfer twf yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg gan ddarparu ar gyfer disgyblion ychwanegol yn dod o ddalgylch mwy a fydd yn bodloni’r galw disgwyliedig o’r datblygiadau tai newydd o fewn ardal Porth y Cymoedd y Fwrdeistref Sirol. Bydd ail-lunio dalgylchoedd yn cynorthwyo i ryddhau lleoedd yn YG Bro Ogwr, sef yr ysgol ddalgylch ar gyfer datblygiad newydd Parc Derwen yng Nghoety (1500 o dai). Mae datrysiad tymor hir yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer dalgylch Porthcawl a Chynffig. Ceir posibilrwydd o ddatblygu uned ddechreuol ym Mhorthcawl. Fodd bynnag, megis ar ddechrau’r broses gynllunio yw hyn, ac ni fydd yn dwyn ffrwyth am 2-3 blynedd arall.Bydd gwaith yn parhau i archwilio dewisiadau i ymestyn capasiti yng ngorllewin y sir lle y gwyddys bod y galw’n cynyddu. Os cynyddir y ddarpariaeth yng ngorllewin y sir (h.y. o amgylch ardal Porthcawl yn agos i leoliad Ysgol y Ferch o’r Sgêr), bydd hynny, ymhen amser, yn effeithio ar nifer y plant sy’n dod trwodd i gael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn Blwyddyn 9. Bydd yr ALl yn parhau i fonitro canran y dysgwyr blwyddyn 9 mewn addysg cyfrwng Cymraeg a bydd hefyd yn parhau i ymgymryd â gwaith i ragfynegi, gyda mwy o sicrwydd, y galw am addysg Gymraeg a chynllunio yn unol â hynny, yn enwedig o ystyried y pwysau ar gapasiti mewn dwy o’n hysgolion cynradd Cymraeg a lleoedd gwag yn y ddwy arall.

8. Yn 2013, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr nad oedd yn briodol defnyddio ôl troed Cwm Garw i gynyddu lleoedd cyfrwng Cymraeg ar gyfer y rhai hynny sy’n byw yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr. Sut mae’r Cyngor wedi goresgyn y farn honno?Mae’r Awdurdod Lleol wrthi ar hyn o bryd yn ystyried y posibilrwydd o sefydlu dosbarth cyfrwng Cymraeg dechreuol yn ne’r Fwrdeistref Sirol ac mae tîm prosiect wedi cael ei awdurdodi ac eisoes wedi dechrau cwmpasu a gwerthuso ystod o ddewisiadau.

5.8 Derbyniwyd un eitem gohebiaeth uniongyrchol oddi wrth RhAG ar 3 Mehefin, ar ôl dyddiad cau’r broses ymgynghori. Yn anffodus, o ganlyniad i’r graddfeydd amser llym sy’n gysylltiedig â pharatoi adroddiadau’r Cabinet a’r ymgynghoriad, nid ydym wedi gallu ymateb yn uniongyrchol i RhAG eto, ond rydym wedi cynnwys eu hymateb yn Atodiad 1a, sy’n cynnwys sylwadau RhAG gydag ymatebion yr Awdurdod Lleol wrth eu hymyl. Bydd yr Awdurdod yn ymateb yn uniongyrchol i

8

RhAG yn fuan iawn. Yn ogystal, mae cyfarfod wedi’i drefnu gyda RhAG a’r Cyfarwyddwr Addysg a Thrawsnewid i drafod y materion a godwyd yn eu hymateb i’r cynnig.

6 Barn Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Ymateb Estyn i’r cynnig i wneud newidiadau rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru wedi paratoi’r adroddiad hwn. O dan delerau Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’i Chod cysylltiedig, mae’n ofynnol i gynigwyr anfon dogfennau ymgynghori i Estyn. Fodd bynnag, nid yw Estyn yn gorff y mae’n ofynnol iddo weithredu yn unol â’r Cod ac nid yw’r Ddeddf yn gosod unrhyw ofynion statudol ar Estyn mewn perthynas â materion trefniadaeth ysgolion. Felly, fel corff yr ymgynghorir ag ef, bydd Estyn yn rhoi ei farn ar deilyngdod cyffredinol y cynigon trefniadaeth ysgolion yn unig.

Mae Estyn wedi ystyried agweddau addysgol y cynnig ac wedi llunio’r ymateb canlynol i’r wybodaeth a ddarparwyd gan y cynigiwr a gwybodaeth ychwanegol arall fel data gan Lywodraeth Cymru a safbwyntiau’r Consortiwm Rhanbarthol, sy’n darparu gwasanaethau gwella ysgolion i’r ysgolion o fewn y cynnig.

CyflwyniadY cynnig yw bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwneud newidiadau rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw trwy adleoli’r ysgol i adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Betws.

Crynodeb Cynnig yr awdurdod lleol yw gwella safle’r ysgol yn Ysgol Cwm Garw, er mwyn bodloni gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd o ran mynediad i ddisgyblion ag anabledd a darparu gwell lleoliad ar gyfer addysgu a dysgu er mwyn bodloni anghenion y cwricwlwm. Yn ôl yr awdurdod lleol, mae cyflwr presennol yr ysgol yn ‘wael’ ac o ran cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ceir ‘Diffyg cydymffurfiaeth, ac ni ellir sicrhau cydymffurfiaeth, os oes modd gwneud hynny o gwbl, heb gost fawr’, sy’n golygu bod diffygion mawr yn y safle.

Ysgol cyfrwng Cymraeg yw hon ac mae ganddi tua 87 (40%) o leoedd gwag ar hyn o bryd. Fodd bynnag, yn ôl yr awdurdod, er bod lleoedd gwag yma, ceir prinder lleoedd cyfrwng Cymraeg yn ne’r Fwrdeistref Sirol. Disgwylir i adleoli’r ysgol hon i ardal Porth y Cymorth leihau’r pwysau ar leoedd mewn ysgol cyfrwng Cymraeg arall, sef Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, trwy ad-drefnu dalgylchoedd presennol ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae’r cynnig hwn yn gyson â strategaeth yr awdurdod lleol ar gyfer ad-drefnu ysgolion ac yn debygol o wella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.

Disgwylir i’r cynnig hwn helpu i gynyddu nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg ac mae’n debygol o fod o fudd i ddisgyblion yn Ysgol Cwm Garw trwy ddarparu safle mwy hygyrch, gydag amgylchedd addysgu a dysgu modern. Ym marn Estyn, mae symud i adeilad ysgol newydd yn debygol o gynnal ansawdd y canlyniadau a’r ddarpariaeth yn yr ardal o leiaf.

9

Disgrifiad a buddion Mae’r cynigiwr wedi rhoi sail resymegol eglur ar gyfer y cynnig. Mae’r sail resymegol hon yn cynnwys mynd i’r afael â lleoedd gwag mewn addysg gynradd Gymraeg yng ngogledd y sir, a mynd i’r afael â phrinder lleoedd yn y de. Mae hefyd yn cynnwys mynd i’r afael â safon ddirywiol adeiladau ysgol a diffyg mynediad i’r anabl yn Ysgol Cwm Garw, yn ogystal â bodloni rhywfaint o’r galw am leoedd ysgol ychwanegol yn deillio o ddatblygiadau tai yn ardal Porth y Cymoedd.

Mae’r cynigiwr yn diffinio buddion disgwyliedig y cynnig yn eglur. Mae’r rhain yn ymddangos yn rhesymol ac yn cynnwys darparu cyfleusterau dysgu modern, a mynediad sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ar gyfer disgyblion ag anableddau. Mae’r cynnig hefyd yn datgan yn rhesymol y bydd sefydlu ysgol sy’n fwy canolog yn ddaearyddol gyda dalgylch diwygiedig yn lleihau’r pwysau ar leoedd yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg lle y ceir mwy o alw na’r lleoedd sydd ar gael.

Mae’r cynigiwr wedi darparu tystiolaeth eglur i ddangos ei fod wedi ystyried dewisiadau eraill yn lle’r cynnig hwn. Mae’r rhain yn cynnwys ailddatblygiad ar safle presennol Ysgol Cwm Garw yn ogystal â lleoliadau eraill ar gyfer yr ysgol newydd. Mae wedi darparu rhesymau da ynglŷn â pham y diystyriwyd y rhain a pham y dewiswyd yr opsiwn a ffafrir.

Mae’r cynnig hefyd yn amlygu’r angen am newidiadau i’r dalgylch ar gyfer yr ysgol hon ac ar gyfer Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r awdurdod lleol yn datgan na fydd Ysgol Bro Ogwr yn gallu bodloni anghenion disgwyliedig datblygiadau tai yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr a Phorth y Cymoedd yn y dyfodol agos, ac felly y byddai newid dalgylch Ysgol Cwm Garw yn lleihau’r pwysau ar leoedd.

Mae’r cynigiwr wedi rhoi ystyriaeth briodol i effaith y cynnig ar drefniadau teithio dysgwyr. Bydd yr ysgol newydd wedi’i lleoli oddeutu 4.7 milltir o’r ysgol bresennol, gan olygu y bydd angen cynyddu’r ddarpariaeth trafnidiaeth ysgol. Mae’r awdurdod lleol wedi costio effaith y cynnig ar drafnidiaeth ysgol, ac wedi dangos cynnydd o oddeutu £49,000 mewn costau trafnidiaeth.

Mae’r cynnig yn amlygu un anfantais a saith risg bosibl. Mae’r unig anfantais yn deillio o amhariad posibl ar Ysgol Gynradd Betws o ganlyniad i’r ffaith y bydd gwaith adeiladu’n digwydd wrth ei hymyl. Mae’r mesurau rheoli arfaethedig yn ymddangos yn briodol ac yn debygol o reoli’r amhariad. Mae’r saith risg a amlygwyd oll yn ddamcaniaethol heb unrhyw risg sylweddol na thebygol wedi’i hamlygu. Mae’r mesurau rheoli risg arfaethedig yn ymddangos yn briodol ac yn debygol o reoli’r risgiau pe byddent yn codi. Mae’r cynigiwr wedi cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, ac asesiad o’r effaith ar y gymuned, sy’n ymddangos fel petaent yn mynd i’r afael â’r prif faterion.

Agweddau addysgol y cynnig Mae’r cynigiwr yn cyfeirio at adroddiad arolygu diweddaraf Estyn ar gyfer

Ysgol Cwm Garw (Hydref 2010), lle y barnwyd bod safonau yn yr ysgol, ynghyd ag arweinyddiaeth a rheolaeth, yn rhagorol.

10

Mae’r cynnig yn datgan yn eglur bod y perfformiad cyfredol yn gwella ar gyfer y rhan fwyaf o ddisgyblion Cyfnod Sylfaen, ond bod y perfformiad yn wannach ar gyfer disgyblion mwy galluog. Mae’r cynnig hefyd yn datgan yn eglur bod y perfformiad cyfredol ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 2 yn dirywio, ar y lefel ddisgwyliedig ac ar gyfer disgyblion sy’n fwy galluog. Fodd bynnag, mae deilliannau disgyblion yn cymharu’n dda yn gyffredinol ag ysgolion sydd â lefelau tebyg o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Nid yw’r cynnig yn nodi’r categori cymorth ar gyfer yr ysgol yn seiliedig ar y system categoreiddio ysgolion genedlaethol. Fod bynnag, mae’r awdurdod lleol wedi gwerthuso arweinyddiaeth yr ysgol ac wedi barnu bod yr ysgol yn cael ei harwain yn dda, ei bod yn ddigon hunanfeirniadol i sbarduno gwelliant, a bod perfformiad athrawon yn dda.

Ymateb yr Awdurdod LleolMae’r ysgol mewn categori cymorth ambr ar hyn o bryd.

Mae’r cynigiwr yn datgan bod ‘yr amgylchedd ar gyfer addysgu a dysgu yn wael iawn’, ond nid yw’n rhoi tystiolaeth o beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol.

Ymateb yr Awdurdod LleolAdeiladwyd yr ysgol ym 1910 ac mae ganddi ofynion atgyweirio a chynnal a chadw uchel. Nid yw rhai mannau allanol yn briodol ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac nid yw’n rhwydd addasu’r mannau dysgu mewnol i ofynion dysgu sy’n addas i’r 21ain ganrif, gan leihau’r cyfleoedd dysgu ar gyfer disgyblion.

Ym marn Estyn, mae symud i adeilad ysgol newydd yn debygol o gynnal ansawdd y deilliannau a’r ddarpariaeth yn yr ardal o leiaf.

7 Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

7.1Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn rhan o’r cam ymgynghori ac fe’i llywiwyd ymhellach gan ymatebion i’r papurau ymgynghori. Mae’r asesiad wedi dod i’r casgliad nad oes effaith negyddol ar ddyletswyddau’r Cyngor tuag at grwpiau a warchodir. (Atodiad 2)

Nid yw’r YGG Cwm Garw bresennol yn hygyrch yn gyffredinol i ddisgyblion anabl ac ymwelwyr â phroblemau symudedd. Felly, disgwylir y bydd hygyrchedd y ddarpariaeth yn cael ei wella’n sylweddol trwy feddiannu’r ysgol newydd ar safle presennol Betws (gan y byddai’r adeilad newydd yn cael ei gynllunio gan roi sylw priodol i Reoliadau Adeiladu).

7.2 Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg yn rhan o’r ymgynghoriad. (Atodiad 3)

7.3 Cynhaliwyd Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned yn rhan o’r ymgynghoriad. (Atodiad 4)

11

8 Goblygiadau Ariannol

8.1 Mae’r prosiect yn un rhan o gynllun De Cwm Garw a bydd cost ddisgwyliedig yr ysgol newydd yn cael ei hariannu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru o dan y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, y mae’r Awdurdod wedi derbyn ‘cymeradwyaeth mewn egwyddor’ ar ei chyfer. Mae’r prosiect wedi’i gynnwys yn rhaglen gyfalaf y Cyngor fel y’i cymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2012. Cyfanswm y gyllideb gymeradwy ar gyfer Cynllun Cwm Garw yw £10 miliwn. Mae proffil ariannol y cynllun wedi’i ddiwygio a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru i adlewyrchu’r rhaglen adeiladu. Bydd cyfanswm cost y cynllun yn cael ei adolygu yng nghyd-destun y newidiadau arfaethedig a amlinellir uchod.

8.2 Nid yw cynllun De Cwm Garw yn gysylltiedig ag unrhyw gynnig cyllideb Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS).

8.3 Ar hyn o bryd, mae tri bws yn cludo disgyblion i YGG Cwm Garw (un o ardal Nantymoel, un o ardal Blackmill ac un o ardal Betws/Llangeinor). Mae’r gwasanaeth bws hwn yn costio £63,000 ar hyn o bryd. Byddai gwasanaeth bws ysgol a chanddo ddigon o gapasiti i gludo’r nifer rhagamcanol o ddisgyblion i safle Betws, yn costio oddeutu £92,000 y flwyddyn academaidd. Yn ogystal, pe byddai’r dalgylch yn cael ei newid i gynnwys ardal Porth y Cymoedd a lliniaru’r pwysau ar YG Bro Ogwr o ganlyniad, byddai angen un bws ychwanegol yr amcangyfrifir y bydd yn costio £20,000 y flwyddyn academaidd. Felly, amcangyfrifir y gallai cyfanswm y costau trafnidiaeth yn ymwneud â’r cynnig hwn ddod i £112,000, sef £49,000 yn fwy na’r costau trafnidiaeth presennol. Ni amlygwyd sut y bydd y gost ychwanegol hon yn cael ei hariannu eto.

9 Y broses statudol ar gyfer pennu cynigion

9.1 Amserlen dros dro:

Adroddiad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad (16 Mehefin 2015)Cyhoeddi Adroddiad yr Ymgynghoriad ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bydd copïau caled o’r adroddiad ar gael ar gais (23 Mehefin 2015)Os bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno, bydd Hysbysiad Cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi (24 Mehefin 2015) a bydd cyfnod o 28 niwrnod i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i’r cynnig yn ysgrifenedigDiwedd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus (22 Gorffennaf 2015)Os na cheir unrhyw wrthwynebiadau, gall y Cabinet benderfynu p’un ai symud ymlaen ai peidio. Os ceir unrhyw wrthwynebiadau, bydd Adroddiad Gwrthwynebiadau’n cael ei anfon i’r Cabinet er mwyn iddynt ei ystyried a phenderfynu yn ei gylch ac fe’i cyhoeddir wedi hynny (9 Medi 2015)

Mae copïau caled o’r adroddiad hwn ar gael ar gais gan:

Ellen Franks d/o Y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a ThrawsnewidY Gyfarwyddiaeth Plant, Swyddfeydd Dinesig

12

Stryd yr Angel Pen-y-bont ar OgwrCF31 4WB

Rhif ffôn (01656) 642617

Neu drwy anfon neges e-bost at: [email protected]

13

Atodiad 1

Ymgynghoriad YGG Cwm Garw

12 Mai 2015 , YGG Cwm GarwYn bresennol:Cyngor Ysgol YGG Cwm Garw Mr WebbGaynor ThomasSarah Lee

1 Rhoddwyd trosolwg yn esbonio bod y cynnig blaenorol i ddatblygu ysgol fwy ar safle Betws wedi’i ddiystyru. Diben yr ymgynghoriad hwn oedd ceisio barn a rhoi cyfle i ofyn cwestiynau am y cynnig i ddatblygu ysgol gynradd 210 lle ac ysgol feithrin 45 lle ar safle presennol Betws. Esboniwyd y gallai fod angen newid dalgylch Bro Ogwr, ond bod hyn yn dal i gael ei drafod gan yr Adran Blant ac y bydd angen cynnal ymgynghoriad ar wahân arno. Gwahoddwyd cwestiynau am y cynnig ac fe’u cofnodir isod:

1.1 A fydd yr ysgol cyfrwng Saesneg a’r ysgol cyfrwng Cymraeg ar wahân neu mewn un adeilad? Bydd yr ysgolion ar wahân ond ar safle Betws.

A fydd Ysgol Gynradd Tynyrheol yn symud yno hefyd? Na fydd, bydd Ysgol Gynradd Tynyrheol yn aros yn Llangeinor.

A fydd gennym ni ystafelloedd o’r un maint ag sydd gennym ni nawr? Bydd, bydd gennych ysgol o’r un maint o ran lleoedd disgyblion ond bydd y mannau’n cael eu trefnu’n wahanol. Byddai gennych 1 neuadd. Bydd gennych ‘stryd’, sef coridor mawr y gellir ei rannu’n byrth dynodedig, a byddai’r holl ystafelloedd dosbarth wedi’u lleoli ar y ‘stryd’. Byddai gan y dosbarth meithrin ei fan addysgu ei hun.

A fydd canolfan adnoddau anghenion arbennig? Bydd gan Ysgol Betws fan meithrin a man ar gyfer plant â nam ar eu clyw. Bydd gennych yr un nifer o fannau, felly galla’r ystafelloedd hyn gael eu defnyddio ar gyfer AAA, ond yr ysgol sydd i benderfynu ar hyn e.e. Gellid defnyddio’r rhain fel ystafelloedd tynnu’n ôl/grŵp.

A fydd gennym ni warchodfa natur? Bydd, a mannau gwyrdd.

A fyddwn ni’n rhannu unrhyw beth â’r ysgolion eraill? Dim ond y lle parcio; y man gollwng bysiau; a’r warchodfa natur. Bydd y gweddill i gyd mewn dau adeilad ar wahân.

Ble fydd y lle parcio? Yn nhu blaen yr ysgol, ger y brif ffordd.

Pryd fyddwn ni’n symud i mewn? Mis Ebrill 2018. Pa liw fydd yr ysgol? Byddwn yn dod i gael sgwrs â chi ac yn datblygu byrddau naws i

gael eich barn am hyn yn ystod y cam cynllunio.

A fydd cyfleusterau storio chwaraeon? Bydd, un oddi ar y neuadd ar gyfer addysg gorfforol a storfa awyr agored ar gyfer offer.

A fydd ystafelloedd newid? Bydd, 1 y mae’n debygol y bydd angen iddi fod ar gael yn unol â’r amserlen.

A fydd y staff a’r plant yn cael cyfle i fynd i weld Pen-y-Fai eto? Byddant, gallwn

14

drefnu hynny.

A fydd lifftiau? Na fydd, mae’r ysgol ar un llawr felly bydd popeth ar 1 lefel. Bydd yr ysgol yn cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac yn cynnwys mynediad i gadeiriau olwyn; ystafell archwilio meddygol; a thai bach i’r anabl. Os oes gwahaniaeth o ran lefel, fe allai fod angen lifft llwyfan.

A fydd dosbarthiadau’n cael eu cysylltu’n ffisegol? Na fyddant, byddwch yn gallu cyrraedd ystafell ddosbarth arall trwy ystafell gotiau y bydd y ddau ddosbarth yn ei rhannu. Bydd hyn yn addas i ddau ddosbarth.

A all plant o ysgolion eraill ymuno â’r ysgol hon? O bosibl, ond y Pennaeth a’r rhieni fyddai’n penderfynu oherwydd fe allai fod materion yn ymwneud ag iaith.

Crybwyllodd plentyn y byddai hyn yn gadarnhaol oherwydd gallai rhai plant Saesneg eu hiaith ddysgu Cymraeg o bosibl.

A fydd lle i gadw beiciau? Bydd. Mae’r Adran Briffyrdd yn ystyried pob agwedd ar ddiogelwch ffyrdd.

Beth fydd yn digwydd i’r ysgol hon? Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd. Bydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad ynglŷn â hynny os byddant yn penderfynu y dylai’r cynnig hwn mynd yn ei flaen.

A fydd lle i gadw offerynnau cerdd? Bydd, gall y stryd neu’r ystafelloedd grŵp gynnwys man cerddoriaeth.

Beth fydd yn digwydd i’n dodrefn? Mae gennym ni gyllideb ar gyfer y gwaith adeiladu a rhywfaint o ddodrefnu. Bydd dodrefn da yn cael eu symud i’r safle newydd a bydd unrhyw hen ddodrefn yn cael eu cynnig i ysgolion eraill ar sail y cyntaf i’r felin.

A fydd gennym ni eglwys i ganu ynddi? Nid ar y safle, ond mae hyn yn rhywbeth y gellir ei drefnu gan yr ysgol.

A fydd ystafell gyfrifiaduron a llyfrgell? Ni fyddai ystafell gyfrifiaduron/llyfrgell ddynodedig, ond bydd ardal ddynodedig yn y ‘stryd’ a bydd cyfrifiaduron mewn ystafelloedd dosbarth.

A fydd ffynhonnau dŵr? Bydd, bydd dŵr yfed ar gael.

A yw’r ysgolion yn agos iawn? Byddai’r ysgolion bellter oddi wrth ei gilydd a cheir gwahanol lefelau ar safle Betws, felly byddai un ysgol wedi’i lleoli’n uwch na’r llall. Byddai maes chwarae’r ysgol ar lefel is nag adeilad yr ysgol.

Beth yw cynllun y ‘stryd’? Byddai angen i’r cynllunwyr weithio gyda’r ysgol i gytuno ar gynllun. Bydd y ‘stryd’ yn ffurfio coridor canolog hir i lawr canol yr ysgol a bydd yr holl ystafelloedd dosbarth yn dod oddi arno. Bydd modd cyrraedd yr iardiau chwarae yn uniongyrchol o’r ystafelloedd dosbarth.

15

Pa mor fawr yw’r ysgol o ran arwynebedd? Oddeutu 1500m2

A fydd ffens o amgylch yr ysgol? Bydd, byddai ffens yn mynd ar hyd terfyn yr ysgol.

1.2 Gofynnwyd i’r plant godi llaw os oeddent yn credu ei fod yn syniad da. Roedd 1 plentyn yn credu nad oedd yn syniad da oherwydd y bydd angen i lawer o blant sy’n byw’n agos i’r ysgol bresennol deithio ymhellach. Esboniwyd nad oes unrhyw lwybrau diogel i Fetws ar hyn o bryd, felly mae’n debygol y bydd y plant hyn yn gymwys i gael trafnidiaeth ysgol rad ac am ddim.

Ymgynghoriad YGG Cwm Garw

15 Mai 2015 , Ysgol Gymraeg Bro OgwrYn bresennol:Cyngor yr Ysgol, Ysgol Gymraeg Bro Ogwr Gaynor ThomasSarah Lee

1 Rhoddwyd trosolwg yn esbonio bod y cynnig blaenorol i ddatblygu ysgol fwy ar safle Betws wedi’i ddiystyru. Diben yr ymgynghoriad hwn oedd ceisio barn a rhoi cyfle i ofyn cwestiynau am y cynnig i ddatblygu ysgol gynradd 210 lle ac ysgol feithrin 45 lle ar safle presennol Betws. Esboniwyd y gallai fod angen newid dalgylch Bro Ogwr, ond bod hyn yn dal i gael ei drafod gan yr Adran Blant ac y bydd angen cynnal ymgynghoriad ar wahân arno. Gwahoddwyd cwestiynau am y cynnig ac fe’u cofnodir isod:

1.1 A fydd Ysgol Cyfrwng Saesneg ac Ysgol Cyfrwng Cymraeg ar y safle? Bydd, bydd yr ysgolion ar wahân ond ar 1 safle Betws. Bydd hen Ysgol Betws yn cael ei dymchwel a bydd YGG Cwm Garw yn cael ei hadeiladu yno.

A fydd yr ysgol yr un maint ag ydyw nawr? Bydd, bydd Betws ac YGG Cwm Garw yn parhau i fod yr un maint ond ar hyn o bryd mae gan YGG Cwm Garw lai o ddisgyblion nag sydd ganddynt le ar eu cyfer, felly fe allent gael mwy o ddisgyblion os bydd y newid i ddalgylch YG Bro Ogwr yn digwydd.

Bydd y Gyfarwyddiaeth Plant yn adolygu’r dalgylchoedd er mwyn bodloni’r galw yn sgil y datblygiad presennol ym Mharc Derwen ac unrhyw ddatblygiadau eraill posibl yn y dyfodol er mwyn lleihau’r pwysau am leoedd ar Ysgol Gymraeg Bro Ogwr a, thrwy wneud hynny, lleihau’r lleoedd gwag yn YGG Cwm Garw.

Beth fydd yn digwydd i adeilad presennol YGG Cwm Garw? Bydd angen i’r Cabinet wneud penderfyniad ynglŷn â hynny.

A fydd y ddwy ysgol yn rhannu meysydd pêl-droed? Na fyddant, mae’n rhaid iddynt gael eu meysydd eu hunain. Bydd gan YGG Cwm Garw faes pob tywydd.

Pa mor fawr yw’r caeau? 2500m2

Pryd fydd penderfyniad yn cael ei wneud am ddalgylchoedd? Bydd proses ymgynghori ar wahân a fydd yn cael ei chynnal ar ôl y broses bresennol hon fwy na thebyg, tua mis Medi.

Pan fydd y broses gynllunio’n dechrau, a fydd yr ysgol yn cael lleisio barn? Bydd. Ceir cynllun safonedig ar gyfer yr ysgol ond bydd yr ysgol yn cyfrannu at y cynllun. Cynhelir ymgynghoriad nid yn unig ar y cynllun ei hun ond hefyd ar y cynlluniau lliw a mannau dynodedig yn y stryd, y dodrefn ac ati.

16

Pryd fydd yr ysgol yn agor? Ym mis Ebrill 2018, felly bydd y plant yn aros lle y maent tan hynny, ac yna byddant yn trosglwyddo.

Pa grwpiau blwyddyn presennol fydd yn cael profi’r ysgol newydd? Blwyddyn 3 ac iau, ond gall y plant hŷn helpu i lywio’r cynllun ac fe’u gwahoddir yn ôl i weld yr ysgol pan fydd wedi’i chwblhau.

1.2 Gofynnwyd i’r plant godi llaw os oeddent yn credu ei fod yn syniad da. Roeddent i

gyd yn cytuno ei fod yn syniad da, ond cododd un plentyn y posibilrwydd y gallai arwain at broblemau trafnidiaeth i rai plant sy’n byw’n agos i ysgol bresennol YGG Cwm Garw.

17

Atodiad 1A

Gohebiaeth oddi wrth RhAG

Sylwadau RhAG Pen-y-bont i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar y cynnig i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw trwy adleoli’r ysgol i adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Betws.

PAPUR YMGYNGHORI

21 Ebrill 2015

CefndirByddai RhAG yn ddiolchgar pe gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ystyried y sylwadau canlynol yn rhan o’r ymgynghoriad hwn.

Mae RhAG wedi datgan yn gyson mewn nifer o gyflwyniadau bod angen i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gael ei chadw yng Nghwm Garw, safbwynt y glynwn wrtho yn y cyflwyniad hwn. h.y. sylwadau a gyflwynwyd mewn ymateb i Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) drafft y Cyngor (Chwefror 2012):

“Rhagwelwn y gallai’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer ad-drefnu ysgolion yn ardal Cwm Garw arwain at oblygiadau ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg yng ngogledd yr awdurdod.”

“Anogwn fod ystyriaethau fel lleoliad, amserau teithio a phellteroedd yn ffactorau canolog er mwyn sicrhau bod materion cydraddoldeb yn derbyn sylw. O ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg, yn amlach na pheidio, lleoliad y ddarpariaeth sy’n cael mwy o effaith ar y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn hytrach na’r adeiladau eu hunain.” (Chwefror, 2012)

Mae RhAG wedi mynegi’n gyson yr angen i ddatblygu ac ymestyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws yr ALl cyfan. Rydym wedi pwyso ar yr ALl i ddatblygu darpariaeth newydd ac ychwanegol yn hytrach nag ad-drefnu’r ddarpariaeth bresennol yn unig. Dro ar ôl tro, rydym wedi pwysleisio mai ffactor allweddol ar gyfer y sector cyfrwng Cymraeg yw’r graddau y

Ymateb yr Awdurdod LleolMae’r safle adleoli arfaethedig, h.y. Betws, yng Nghwm Garw. Mae’r ALl yn derbyn ei fod yn rhan isaf y cwm a bod yr ysgol bresennol yn rhan uchaf y cwm.Mae datrysiad tymor hir i gefnogi twf addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ac mae prosiect yn cael ei arwain gan Mark Jones (Pennaeth YGG Llangynydd) i ystyried dewisiadau ar gyfer unedau dechreuol yn ardal ganolog y fwrdeistref, lle y ceir y galw uchaf am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Bydd gwaith yn parhau i archwilio dewisiadau i ymestyn capasiti yng ngorllewin y sir lle y gwyddys bod y galw’n cynyddu. Os cynyddir y ddarpariaeth yng ngorllewin y sir (h.y. o amgylch ardal Porthcawl yn agos i leoliad Ysgol y Ferch o’r Sgêr), bydd hynny, ymhen amser, yn effeithio ar nifer y plant sy’n dod trwodd i gael eu hasesu trwy gyfrwng y Gymraeg erbyn Blwyddyn 9. Bydd yr ALl yn ymgymryd â gwaith i ragfynegi, gyda mwy o sicrwydd, y galw am addysg Gymraeg a chynllunio yn unol â hynny, yn enwedig o ystyried y pwysau ar gapasiti mewn dwy o’n hysgolion cynradd Cymraeg

18

mae darpariaeth leol ar gael. Mae lleoliad a phellteroedd yn faterion allweddol i rieni – yn enwedig teuluoedd o gefndiroedd mwy difreintiedig nad oes ganddynt eu trafnidiaeth eu hunain. Mae’r rhain yn ffactorau yr ydym wedi annog yr ALl i’w hystyried bob amser.

Mae’n nodedig mai’r ysgol gynradd Gymraeg ddiwethaf i’w sefydlu yn yr ALl oedd Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw ym 1988, mewn gwrthgyferbyniad llwyr ag awdurdodau lleol cyfagos.

a lleoedd gwag yn y ddwy arall.

Mae’r ALl eisoes wedi dechrau gwaith paratoi i gynnal arolwg newydd ynglŷn â’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol yn ddiweddarach yn 2015.

Y broses ymgynghoriYn ystod yr ail ymgynghoriad hwn, nodwn na chynhaliodd yr ALl gyfarfodydd â rhieni, llywodraethwyr, staff a rhanddeiliaid fel y trefnwyd yn ystod yr ymgynghoriad gwreiddiol. O ganlyniad, mae rhieni’n teimlo nad ymgynghorwyd â hwy’n briodol, na roddwyd y ffeithiau llawn iddynt wrth wraidd y newidiadau arfaethedig na chanlyniadau’r newidiadau hynny, ac na roddwyd cyfle iddynt leisio’u barn mewn perthynas â’r cynnig newydd hwn.

Teg yw dweud yr oedd cefnogaeth gyffredinol i’r cynnig ar gyfer ysgol fwy mewn adeilad modern newydd sbon, ond ystyrir bod y cynnig symlach hwn yn un gwahanol iawn. O ystyried hyn, mae corff llywodraethu Ysgol Cwm Garw wedi cadarnhau wrth RhAG eu bod yn gwrthwynebu’r cynnig newydd hwn.

A all yr ALl esbonio pam y penderfynwyd peidio â chynnal yr hyn yr ystyrir yn arfer da yn gyffredinol o ran prosesau ymgynghori trwy gyfarfodydd ymgynghori a sesiynau gwybodaeth yn ystod yr ail ymgynghoriad hwn?

Nid yr un cynnig gydag ambell addasiad yw hwn yn amlwg – cynnig cwbl newydd a gwahanol ydyw gyda goblygiadau newydd. Mae’n rhaid i RhAG amau na chynhaliwyd proses briodol mewn perthynas â’r cynnig newydd hwn.

Ymateb yr Awdurdod LleolCadarnhaodd yr ysgol a’r corff llywodraethu nad oedd angen cynnal ymgynghoriad uniongyrchol arall â hwy yn ychwanegol at hwnnw a gynhaliwyd yn rhan o’r cynnig cynharach. Roedd ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal ac roedd ar gael ar-lein ar wefan yr Awdurdod Lleol ac wedi’i hysbysebu yn unol â gofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion. Nid oes gofyniad yn y Cod i gynnal cyfarfodydd ymgynghori.

Y cynnigMae RhAG yn parhau i wrthwynebu adleoli Cwm Garw i Fetws, fel y mynegwyd yn rhan o’r ymgynghoriad gwreiddiol a gynhaliwyd yn 2013. Mae ein gwrthwynebiad mewn perthynas â’r cynnig diwygiedig hwn hyd yn oed yn fwy oherwydd ei fod ar gyfer ysgol lai – 1 dosbarth mynediad yn hytrach nag 1.5 dosbarth mynediad – a fydd yn golygu llai o gapasiti a hyblygrwydd

Ymateb yr Awdurdod LleolMae digon o gapasiti yn YGG Cwm Garw i gefnogi ailbroffilio addysg cyfrwng Cymraeg yng ngogledd y Fwrdeistref Sirol. Capasiti presennol yr ysgol yw 210 gyda 123 (4-11 oed) ar y gofrestr ym mis Ionawr 2015, gan arwain at 87 o leoedd gwag.

19

ar gyfer cynyddu mynediad rhesymol a chyfleus at addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac o fewn yr ALl cyfan.

Anghytunwn yn gryf â nifer o’r manteision a awgrymwyd yn y papur ymgynghori pe byddai’r cynnig yn mynd yn ei flaen: gan gyfeirio’n benodol at y canlynol:

Caniatáu ar gyfer twf yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref sirol.

Lleihau’r pwysau ar Ysgol Gymraeg Bro Ogwr o ganlyniad i ddatblygiadau tai yn y dyfodol yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr a Phorth y Cymoedd.

Gellid cynnwys darpariaeth gymunedol yn yr adeilad ysgol newydd.

Ymhelaethwn ar ein gwrthwynebiad i’r pwyntiau hyn maes o law.

Rhagwelir y bydd y nifer ar y gofrestr yn cynyddu i 161 yn 2022, a fyddai’n golygu y byddai 49 o leoedd gwag. Nod y Cyngor yw cynyddu nifer y rhieni sy’n dewis addysg Gymraeg ar gyfer eu plant ac mae angen cydbwyso hyn yn erbyn nifer y lleoedd gwag sydd ar gael.

Roedd y cynnig gwreiddiol yn cyflwyno cynllun ar gyfer dwy ysgol newydd ym Metws – un cyfrwng Saesneg ac un cyfrwng Cymraeg – a fyddai’n rhannu gwasanaethau craidd, e.e. bloc canolog, systemau gwresogi a chegin. Yn dilyn canlyniad yr adolygiad barnwrol o’r cyfnod ymgynghori blaenorol a’r ffaith nad yw Tynyrheol yn rhan o’r ad-drefnu cyffredinol bellach, awgrymwn fod y newid hwn mewn amgylchiadau yn newid y meddylfryd cyfan wrth wraidd y cyflwyniad gwreiddiol ar gyfer cyllid Llywodraeth Cymru mewn modd sylfaenol.

Dadleuwn nad oes gwir gyfiawnhad na sail resymegol bellach dros barhau i gynnwys Betws a Chwm Garw yn rhan o’r un cynnig.

Rhoddwyd sicrwydd i rieni a llywodraethwyr na fyddai canlyniad yr adolygiad barnwrol yn rhwystro nac effeithio ar gynigion Cwm Garw, ond nid dyna yw’r achos yn amlwg. Mae’r ffaith na ellir parchu’r ymrwymiad gwreiddiol yn ddatblygiad anffodus ac yn difwyno’r cynnig cyfan.

Ymateb yr Awdurdod LleolCeir buddion arwyddocaol yn sgil lleoli’r ddwy ysgol ar safle Betws. Byddai’n:-

• sicrhau bod ein hysgolion yn addas i’r diben er mwyn darparu addysg o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc yn yr 21ain Ganrif;

rhoi cyfle ar gyfer mwy o integreiddio rhwng disgyblion yn yr un cymunedau sy’n dymuno dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg â’r rhai hynny sy’n dymuno dysgu trwy gyfrwng y Saesneg

• cael ei lleoli yn y man gorau i wasanaethu cymunedau lleol;

• lleihau lleoedd gwag a chyflawni’r gwerth gorau am arian;

• rhoi cyfle i gydweithredu â darparwyr gwasanaethau eraill er mwyn sicrhau yr achubir ar bob cyfle i wneud ysgolion yn rhan annatod o fywyd ac addysg eu cymunedau;

• bodloni’r galw am addysg

20

cyfrwng Cymraeg yng ngogledd-ddwyrain y fwrdeistref sirol a chefnogi’r galw cynyddol mewn rhannau eraill o’r sir am addysg cyfrwng Cymraeg;

• gwella’r ddarpariaeth addysgol a chodi safonau yn sgil y ffaith bod mwy o gyfleoedd cwricwlaidd ar gael trwy ddarparu ysgolion a chanddynt fwy o gapasiti;

• rhoi cyfleoedd i’r ysgol cyfrwng Saesneg rannu’r arfer rhagorol wrth addysgu’r Gymraeg yn fwy effeithiol.

Yn ogystal, mae RhAG yn deall bod tirfesuriad a gynhaliwyd ar safle arfaethedig Betws yn ddiweddar wedi datgelu problemau mawr a fydd yn golygu bod yn rhaid i ran sylweddol o’r gyllideb ddynodedig gael ei hailgyfeirio o’r gwaith adeiladu ei hun i waith paratoi pridd. Rhaid i ni ofyn pam nad amlygwyd mater mor sylfaenol o flaen llaw? Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynglŷn â’r achos busnes gwreiddiol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ac mae’n amryfusedd mawr ar ran yr ALl.

Ymateb yr Awdurdod LleolMae bob amser yn bosibl y bydd angen gwaith paratoi tir ychwanegol wrth ddatblygu gwaith ymchwiliol ar gyfer prosiect adeiladu cyfalaf arwyddocaol fel hwn. Ni fyddai maint y gwaith paratoi tir sydd ei angen i gefnogi datblygiad y safle wedi bod yn hysbys yn fanwl ar adeg y cam achos busnes, heb ystyried y cynnig. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod y safle eisoes yn cael ei feddiannu gan ysgol gynradd Saesneg yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â gallu’r safle i gefnogi datblygiad o’r fath. Nid oes unrhyw risg arwyddocaol ar hyn o bryd i gynllun yr ysgolion arfaethedig o ganlyniad i unrhyw waith paratoi tir ychwanegol.

A allem ni ofyn pa gynlluniau sydd gan yr ALl mewn golwg ar gyfer ysgolion Ffaldau a Blaen Garw yn ystod y 5 mlynedd nesaf? Rydym yn ymwybodol bod y ddau adeilad yn nesáu at ddiwedd eu hoes ac y bydd angen buddsoddi’n sylweddol ynddynt neu eu hailgartrefu mewn adeiladau newydd yn y dyfodol agos.

Ymateb yr Awdurdod LleolNid oes gan yr Awdurdod Lleol unrhyw gynlluniau i ddatblygu na newid y naill ysgol na’r llall ar hyn o bryd.

Rydym yn ymwybodol bod llain o dir ym Mlaengarw y gellid ystyried ei bod yn safle addas ar gyfer ysgol newydd.

Ymateb yr Awdurdod LleolMae gwerthusiad wedi’i gynnal mewn perthynas â’r tri dewis

21

A allem ni ofyn a oes unrhyw waith wedi’i wneud i archwilio dewisiadau a allai gynnig adeilad newydd ar gyfer darpariaeth cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg bresennol ar y safle posibl hwn, naill ai gydag arian o Fand A neu’r rownd nesaf o gyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif? Gallai hyn fod yn ffordd o sicrhau safonau addysg Ysgolion yr 21ain Ganrif ar yr un pryd â chadw darpariaeth cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg yn y cwm a chynnig cydraddoldeb go iawn o ran dewis lleol i rieni.

Ceir pryder cyffredinol mai ofn colli cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd eisoes wedi’i gytuno mewn egwyddor yw’r hyn sy’n symud y cynnig yn ei flaen. Mae RhAG yn pryderu nad dyma’r cymhelliad iawn ac y byddai gwthio ymlaen â’r cynnig hwn yn cael effaith fwy niweidiol na chadarnhaol yn gyffredinol yn y tymor byr a’r tymor hir.

sydd ar gael ar unwaith i’r Awdurdod Lleol h.y. ailddatblygu safle’r ysgol bresennol, datblygu safle presennol Ysgol Gynradd Betws neu ddatblygu’r safle yn David Street ym Mlaengarw. Defnyddiwyd ystod o feini prawf yn y gwerthusiad hwn ac mae’r wybodaeth hon wedi cefnogi nodi safle Ysgol Gynradd Betws fel y dewis gorau wrth symud ymlaen.

Cyfeirir yn y ddogfen ymgynghori at ddatblygiadau tai newydd, ond ni cheir union fanylion am ba ddatblygiadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer yr ardal yn unol â Chynllun Datblygu Lleol yr Awdurdod.

Pa waith sydd wedi’i wneud i asesu sut y bydd y tai newydd ychwanegol hyn yn effeithio ar y galw am leoedd ysgol cyffredinol ar draws yr ALl, gan gyfeirio’n benodol at y galw am leoedd cyfrwng Cymraeg, ac yn ne’r fwrdeistref yn arbennig, lle y ceir prinder lleoedd cyfrwng Cymraeg yn barod?

Ymateb yr Awdurdod LleolCaiff datblygiadau tai a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol a’r rhai hynny sy’n destun ceisiadau/caniatâd cynllunio eu hystyried wrth lywio methodoleg fanwl yr ALl ar gyfer rhagamcanu’r galw am leoedd ysgol.

Gofynnwn y cwestiynau canlynol hefyd:

i. Pa ddatblygiadau tai newydd sydd wedi’u cynllunio ar gyfer ardaloedd cyfagos? A oes unrhyw gyfleoedd lles cynllunio a allai fod ar gael?

ii. A oes unrhyw gynlluniau ad-drefnu ysgolion wedi’u cynnig neu’n debygol o gael eu cynnig ar gyfer yr ardaloedd hynny?

Ymateb yr Awdurdod Lleoli. Mae’r ardaloedd a

neilltuwyd ar gyfer datblygiad preswyl wedi’u nodi yng Nghynllun Datblygu Lleol y Cyngor. Ystyrir unrhyw geisiadau cynllunio / datblygiadau ar hap heb eu cynllunio, yn ôl eu teilyngdod ar yr adeg cyflwyno. Ystyrir cyfleoedd ar gyfer cytundebau Adran 106 yn unol â phob cais ac ar eu teilyngdod eu hunain.

ii. Bydd y Cyngor yn adolygu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg yn y

22

fwrdeistref sirol yn barhaus, ac, o dan nawdd y Tasglu Ysgolion, mae’r ALl yn gweithio gydag ysgolion ar hyn o bryd i ddatblygu strategaeth gynaliadwy ar gyfer darparu addysg cyfrwng Saesneg a chyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Os felly, pa ystyriaeth, os o gwbl, a roddwyd i’r cynnig hwn yn sgil y datblygiadau hynny? Awgrymwn felly nad yw’r cynnig hwn yn addas i’r diben bellach gan nad yw’n ystyried y darlun ehangach o ran y galw cynyddol tebygol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y fwrdeistref gyfan.

Mae’n berthnasol cyfeirio at bolisi’r Cyngor ei hun ynglŷn ag ‘ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned, lle mae’r ysgol yn ymgysylltu â’i chymuned leol’ fel y crybwyllir ar dud.(au) 5-6 y ddogfen ymgynghori.

Mae Ysgol Gymraeg Cwm Garw eisoes yn ysgol gymunedol sy’n gwasanaethu’r ardal leol ac mae nifer sylweddol o’r plant yn cerdded i’r ysgol. Mae’r ysgol yng nghalon y gymuned ac yn chwarae rôl allweddol mewn hunaniaeth, diwylliant ac iaith yr ardaloedd amgylchynol yn ogystal â’r pentref. Byddai ei hadleoli’n gam yn ôl ac yn rhoi terfyn ar hyn ar unwaith. Byddai’r cynnig yn dileu gallu preswylwyr Cwm Garw i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal ac yn llesteirio unrhyw obaith o adfer yr iaith yn y cwm.

Yn ei arolygiad diwethaf, roedd ESTYN o’r farn bod yr ysgol yn Rhagorol, sy’n atgyfnerthu’r ffaith bod safonau addysgol yn yr ysgol o’r lefel uchaf (Hydref 2010).

Mae rhagamcanion yr ALl ei hun yn cadarnhau bod yr ysgol yn tyfu, gyda 162 (4-11) ar y gofrestr ym mis Medi 2015 a’r disgwyl y bydd hyn yn cynyddu i 177 ym mis Medi 2019, a fyddai’n golygu y byddai unrhyw leoedd gwag yn gostwng hyd yn oed ymhellach.

Cymerir y wybodaeth isod o ddogfen yr ymgynghoriad gwreiddiol a gynhaliwyd rhwng 19

Ymateb yr Awdurdod LleolByddai’r datblygiad arfaethedig yn caniatáu ar gyfer twf yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg gan ddarparu ar gyfer disgyblion ychwanegol yn dod o ddalgylch mwy a fydd yn bodloni’r galw disgwyliedig o’r datblygiadau tai newydd o fewn ardal Porth y Cymoedd y Fwrdeistref Sirol. Byddai’r ALl a’r ysgol yn ceisio cyfleoedd i sicrhau na fyddai’r Gymraeg yn dirywio o gwbl, yn enwedig ar lefel gymunedol. Nod y Cyngor yw cynyddu nifer y rhieni sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant. Un o fanteision lleoli’r ysgol yn ardal porth y cymoedd yw sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gael i wasanaethu’r ardal lle y ceir galw am addysg cyfrwng Cymraeg. Mae rhagamcanion diweddaraf yr ALl (2015) ar gyfer yr ysgol yn dangos twf araf yn unig mewn niferoedd disgyblion hyd at 2021, i 157 o ddisgyblion 4-11 oed.

23

Tachwedd 2013 a 30 Rhagfyr 2013, sy’n dangos bod y nifer ar y gofrestr eisoes wedi cynyddu o 2013 a gwahaniaeth o ran twf rhagamcanol, gyda’r rhagolygon cyfredol yn dangos hyn yn digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

Mae hyn hefyd yn codi amheuon ynglŷn â gallu unrhyw ysgol 1 dosbarth mynediad newydd arfaethedig i ymdopi yn y tymor hwy ag unrhyw dwf arwyddocaol o ardaloedd eraill, boed hynny trwy gynyddu’r dalgylch a/neu unrhyw ddatblygiadau tai newydd.

Yn sicr, nid dadleuon dros adleoli’r ysgol yw’r rhain ond yn hytrach dros atgyfnerthu a buddsoddi yn nyfodol yr ysgol yn ei lleoliad presennol.

Gan gyfeirio at y ffaith bod yr adeilad wedi’i raddio’n ‘Wael’, mae’n amlwg nad yw cyflwr yr adeilad ei hun yn amharu’n fawr ar safonau a chyrhaeddiad addysgol presennol. Yn amlach na pheidio, mae ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi cael eu lleoli mewn adeiladau Fictoraidd mawr sydd, yn gyffredinol, mewn ardaloedd llai hygyrch. Yna, defnyddir canran y lleoedd gwag sy’n bodoli o ganlyniad naill ai fel rheswm i beidio â sefydlu darpariaeth newydd neu adleoli’r ddarpariaeth i leoliad mwy canolog. Mae’r ddau bolisi er anfantais i dwf darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae’n rhaid i’r cyd-destun unigryw hwn gael ei ystyried mewn unrhyw broses blaengynllunio strategol ar gyfer lleoedd ysgol.

Ymateb yr Awdurdod LleolWrth ystyried ystod o ddewisiadau ar gyfer darparu addysg ym Mhen-y-bont ar Ogwr a chynaliadwyedd ysgolion unigol i gefnogi cynigion o dan Raglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae atgyweirio a chynnal a chadw ein hadeiladau ysgol yn newidyn pwysig yn y penderfyniad hwnnw. Yn ogystal, nid yw safleoedd ysgol hŷn yn cynnig y cyfle i ailddatblygu yn gyffredinol, gan gyflwyno anawsterau’n aml mewn perthynas â’r tir sydd ar gael, trefniadau mynediad a hyblygrwydd, ymhlith eraill. Mae hyn yn wir o ran ysgolion cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg, ac felly mae’n rhaid i’r ALl gymathu amrywiaeth o wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad gwybodus am gynlluniau addas yn unol â chyfyngiadau ffisegol i ddatblygu a’r cyllidebau sydd ar gael. Mae angen i gynigion fod yn fuddiol i’r

24

strategaeth gyffredinol ar gyfer darparu ysgolion yr 21ain Ganrif, yn gyflawnadwy ac yn werth am arian.

Fe wyddoch mai un o amcanion Llywodraeth Cymru yn ei Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg, yw ‘Hyrwyddo’r gallu i fanteisio ar ddarpariaeth addysg y blynyddoeddcynnar cyfrwng Cymraeg yng nghymuned y plentyn.’ (tud.13). Yn nrafft gwreiddiol ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) (2012), cynhwysodd y Cyngor y bwriad i sefydlu ‘ysgolion cynradd Cymraeg cymunedol mewn rhannau o’r Fwrdeistref Sirol lle mae mynediad yn fwy cyfyngedig ar hyn o bryd ac mewn ymateb i ddymuniadau rhieni.’ Fodd bynnag, mae’n ymddangos nad yw hyn yn ddyhead mwyach, er mawr siomedigaeth i RhAG. Mae dalgylchoedd ysgolion cyfrwng Cymraeg presennol yn fwy o lawer ac mae eu maint yn anghymesur â rhai ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn arwain at oblygiadau o ran amserau a phellteroedd teithio ar gyfer disgyblion a rhieni fel ei gilydd, ac yn codi nifer o faterion cydraddoldeb. Byddai RhAG yn annog yr awdurdod i weithredu’r polisi hwn nid yn unig o ran y cynnig hwn ond hefyd fel elfen allweddol o unrhyw gynllunio strategol yn y dyfodol.

Ymateb yr Awdurdod LleolMae’r Awdurdod Lleol o’r farn nad yw’r mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y Fwrdeistref Sirol wedi’i gydbwyso yn yr ardaloedd iawn ar hyn o bryd, fel y trafodwyd yn gynharach. Mae’r ddarpariaeth yn gyfyngedig yn ne’r fwrdeistref sirol a cheir lleoedd gwag yn y gogledd. Byddwn yn edrych ar gyfleoedd i ymestyn y ddarpariaeth yn y de.

Mae RhAG yn credu’n gryf bod y cynnig hwn yn tanseilio nifer o elfennau canolog sy’n sail i weledigaeth WESP cyfredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys y canlynol:

cyflawni egwyddorion allweddol cydraddoldeb, dewis a chyfle i bawb;

bod yn gyson â’r dyheadau cenedlaethol a osodwyd yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru;

sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn cyn oed ysgol a hŷn y mae eu rhieni / gofalwyr yn dymuno iddynt gael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny o fewn pellter teithio rhesymol o gartrefi plant;

Wrth ystyried y galw am addysg cyfrwng Cymraeg, mae angen i’r Cyngor ystyried y pellter

Ymateb yr Awdurdod LleolCeir tri gwasanaeth bws dan gontract i’r ysgol ar hyn o bryd:-

Bws B59 BETWS, Llangeinor, PontyrhylBws B60 NANTYMOEL, Bro Ogwr, Lewistown, PantyrawelBws B60A BLACKMILL

Yn arwyddocaol, mae mwy na dwywaith cymaint o ddisgyblion yn teithio ar wasanaeth Nantymoel na gwasanaethau Betws a Blackmill gyda’i gilydd. Gan y cynigir lleoli’r ysgol ym Metws, bydd y pellter a deithir gan y mwyafrif helaeth o ddisgyblion sy’n cael trafnidiaeth

25

y mae’n rhaid i blant ifanc pum mlwydd oed, neu hyd yn oed iau, ei deithio i’r ysgol. Mae profiad yn y gorffennol wedi dangos dro ar ôl tro, pan sefydlwyd ysgol cyfrwng Cymraeg mewn cymuned leol, bod y galw wedi bod yn llethol, ac nid yw’n hir cyn iddi fod yn llawn. Mae’r pellter i’r ysgol yn brif ffactor i unrhyw riant sy’n dewis ysgol. Nid oes neb am i’w plentyn orfod teithio’n bell.

Pellter ac amserau teithio yw’r prif ffactorau ar hyn o bryd sy’n atal holl rieni Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr rhag cael cydraddoldeb dewis gwirioneddol o ran iaith addysg eu plentyn, ac os bydd y cynnig adleoli hwn yn mynd yn ei flaen, byddai effaith niweidiol ar deuluoedd Cwm Garw hefyd.

Ar hyn o bryd, ceir un o’r enghreifftiau gwaethaf yn yr ALl o bosibl yn Nantymoel, lle y disgwylir i blant deithio i lawr Bro Ogwr ac yn ôl i fyny Cwm Garw i Bontycymer. Mae Betws ychydig bach yn agosach yn unig, a byddai’n parhau i olygu bod y mwyafrif helaeth o ddisgyblion yn gorfod cael eu cludo i’r ysgol mewn bws, yn ogystal â chludo’r rhan fwyaf o blant Cwm Garw mewn bws.

Byddai’r pellter teithio ar gyfer nifer o blant sy’n byw yn eithafoedd Cwm Garw yn golygu taith ddwyffordd 12 milltir o leiaf y dydd, gyda rhai’n teithio ymhellach o bosibl.

Bydd y cynnig hwn yn golygu y byddai’n rhaid i nifer fwy o blant deithio ymhellach i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg.

rad ac am ddim sawl milltir yn llai.

Mae hefyd yn codi cwestiwn ynglŷn â dewisiadau eraill i rieni yng Nghwm Garw. Byddai tair ysgol cyfrwng Saesneg yn aros, gan gynnwys Ysgol Gynradd Blaengarw, Ysgol Gynradd Ffaldau ac Ysgol Feithrin Pontycymer. Heb unrhyw ddewis cyfrwng Cymraeg lleol, mae’n achos pryder na fyddai gan rieni unrhyw ddewis arall ond darpariaeth cyfrwng Saesneg o ganlyniad i faterion cyfleustra, hygyrchedd ac ymarferoldeb.

Pe byddai’r ALl yn gwthio ymlaen â newidiadau i’r Polisi Trafnidiaeth o’r Cartref i’r Ysgol, yr ymgynghorwyd arnynt yn gynharach eleni, gallai hyn hefyd eithrio nifer o deuluoedd a fydd yn cael eu dal allan gan unrhyw newidiadau i’r polisi presennol. Gallai’r cam i gynyddu’r trothwy i 2

Ymateb yr Awdurdod LleolNid yw’r cynnig yn cyfyngu ar ddewis; mae’n dod ag addysg cyfrwng Cymraeg yn agosach i’r ardaloedd lle y ceir y galw mwyaf er mwyn cefnogi mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r newid arfaethedig i Bolisi Teithio Dysgwyr yr ALl yn cynnig y byddai disgyblion mewn ysgolion cynradd Cymraeg sy’n byw 2 filltir neu fwy o’r ysgol, neu ddisgyblion mewn ysgolion

26

filltir arwain at oblygiadau sylweddol yn y cynnig hwn, yn enwedig i deuluoedd llai cefnog nad oes ganddynt eu cludiant eu hunain.

Mewn ardaloedd lle y ceir mwy o broblemau economaidd, fel Cwm Garw, mae’r graddau y mae darpariaeth leol ar gael yn ystyriaeth sylfaenol. Lle nad oes gan deuluoedd eu cludiant eu hunain, mae mynediad at ddarpariaeth leol yn hollbwysig. Yn ogystal, oherwydd nad yw trafnidiaeth yn statudol yn y sector cyn ysgol, mae’r graddau y mae darpariaeth leol ar gael yn bwysicach fyth. Mae dilyniant ieithyddol yn gonglfaen allweddol arall o’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a allai gael ei effeithio’n niweidiol.

uwchradd Cymraeg sy’n byw 3 milltir neu fwy o’r ysgol yn cael trafnidiaeth rad ac am ddim ni waeth pa un ai’r ysgol honno yw’r ysgol addas agosaf.

Mae’r papur ymgynghori’n cyfeirio at yr adleoli fel ‘cydbwyso’ dosbarthiad ‘lleoedd cyfrwng Cymraeg ar draws y fwrdeistref sirol’ (tud.2). Byddem yn gwrthbrofi’r awgrym hwn yn gryf gan y byddai symud Cwm Garw’n amddifadu ardal ogledd-ddwyrain gyfan yr awdurdod o unrhyw ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg leol. Darpariaeth newydd sydd ei hangen, ond ni ddylai hyn fod ar draul darpariaeth lwyddiannus bresennol.

Ymateb yr Awdurdod LleolNid yw lleoliad yr ysgol bresennol ym mhen cwm llinol ac iddo fynediad cyfyngedig yn cefnogi gwell hygyrchedd i addysg cyfrwng Cymraeg lle y ceir galw cynyddol amdani. Nod y cynnig i adleoli’r ysgol i ardal porth y cymoedd yw unioni’r anghydbwysedd hwnnw.

Ni ellir dilyn polisi canoli fel dewis teg a chyfiawn ar gyfer datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr awdurdod ar draul cymunedau pellennig.Mae’r ddogfen ymgynghori’n cyfeirio at Asesiadau o’r Effaith ar y Gymuned, y Gymraeg a Chydraddoldeb a gynhaliwyd yn rhan o’r broses ymgynghori.

Byddem yn cwestiynu’r asesiad cychwynnol sy’n awgrymu y disgwylir y byddai’r symud yn cael effaith gadarnhaol o ran y Gymraeg ac yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ddalgylch ehangach. Y nod ddylai fod lleihau’r dalgylchoedd sydd eisoes yn anghymesur o fwy y mae’n rhaid i ysgolion cyfrwng Cymraeg ymdopi â hwy ar hyn o bryd.

Ymateb yr Awdurdod LleolMae’r awdurdod lleol wedi cychwyn ffrwd waith yn ddiweddar o dan nawdd y Tasglu Ysgolion y cyfeiriwyd ato’n flaenorol i ddatblygu methodoleg gadarn mewn perthynas â nodi ffiniau dalgylch a gwerthuso’r holl ffiniau dalgylch ar draws y fwrdeistref sirol yn unol ag ystod o ffactorau; nid y lleiaf o’r rheiny yw’r patrymau galw amrywiol.

Byddem hefyd yn annog bod asesiad llawn o’r effaith ar anghydraddoldeb yn cael ei gynnal ar frys cyn i unrhyw ddewis a ffafrir gael ei gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad statudol.

Ymateb yr Awdurdod LleolMae Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gwblhau ac fe’i hadroddir i’r Cabinet ar ôl canlyniad yr ymgynghoriad ar 16 Mehefin 2015.

27

Mae’r pwysau cynyddol ar gapasiti Ysgol Gymraeg Bro Ogwr wedi dangos yr angen am leoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol, ond mae’n rhaid i ddatrysiadau i liniaru’r sefyllfa hon gael eu seilio ar gynlluniau ar gyfer darpariaeth newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ei hun (ardaloedd Trelales / Bryntirion yn arbennig) yn hytrach nag ad-drefnu dalgylchoedd presennol. Byddem yn dadlau mai mesur tymor byr yn unig yw ad-drefnu dalgylchoedd ac nad yw’n ddatrysiad strategol i fodloni’r galw yn y tymor hir. Un broblem arwyddocaol a ragwelwn yw y bydd yn gorfodi teuluoedd i anfon brodyr a chwiorydd i ddwy ysgol wahanol, a fyddai’n ganlyniad anfwriadol negyddol.

Ymateb yr Awdurdod LleolMewn unrhyw gynnig ar gyfer newid dalgylch, byddai amddiffyniad ar gyfer teuluoedd yn ystyriaeth bwysig o ran derbyn i ysgol. Er enghraifft, yn rhan o’r penderfyniad i newid dalgylchoedd Ysgolion Cynradd Maes yr Haul a Threlales ym mis Medi 2013, cytunodd y Cyngor ar drefniant trosiannol ar gyfer y teuluoedd hynny a chanddynt frodyr a chwiorydd hŷn a oedd eisoes yn mynd i Ysgol Gynradd Maes yr Haul. O ran teuluoedd a oedd yn byw yn yr ardal dan sylw a chanddynt blant hŷn yn yr ysgol, roedd y trefniadau trosiannol yn rhoi’r un statws iddynt â’r rhieni hynny a oedd yn byw yn y dalgylch diwygiedig. Pe byddai’r ysgol yn cael ei gordanysgrifio, ni fyddai rhieni a oedd yn byw yn yr ardal dan sylw yn cael eu rhoi dan anfantais, a byddai eu cais am le yn Ysgol Gynradd Maes yr Haul yn cael ei drin fel pe byddent yn byw yn y dalgylch.

A ninnau’n aelod o Fforwm Addysg Cyfrwng Cymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, derbyniwn gopïau o ohebiaeth Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â WESP yr ALl, a chyfeiriwn yn benodol at bwynt 8 eu hymateb i WESP drafft y Cyngor ym mis Ebrill 2013:

“Er mwyn ysgogi twf yn y sector, gofynnwn i’r awdurdod roi ystyriaeth ofalus i sefydlu dosbarth dechreuol ym Mhorthcawl. Hefyd, byddem am i’r awdurdod ddangos eu cynlluniau i ni ar gyfer cynyddu capasiti yn Ysgol Bro Ogwr. Nid ydym yn credu ei bod yn briodol defnyddio glasbrint Cwm Garw i gynyddu capasiti ar gyfer lleoedd addysg cyfrwng Cymraeg i’r rhai hynny sy’n byw yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr.” (18 Ebrill 2013)

A allem ni ofyn sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi goresgyn y farn hon yng ngoleuni’r cynnig presennol?

Ymateb yr Awdurdod LleolMae’r Awdurdod Lleol wrthi ar hyn o bryd yn ystyried y posibilrwydd o sefydlu dosbarth cyfrwng Cymraeg dechreuol yn ne’r Fwrdeistref Sirol ac mae tîm prosiect wedi cael ei awdurdodi ac eisoes wedi dechrau cwmpasu a gwerthuso ystod o ddewisiadau.

Mae Deddf Safonau Ysgolion (Cymru) 2013 yn gosod disgwyliad ar ALlau i greu galw yn hytrach

Ymateb yr Awdurdod LleolCyfarfu’r Pennaeth Gwasanaeth

28

na darparu ar ei gyfer yn unig. Mae hyn yn newid sylfaenol mewn rôl y mae angen i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gydnabod a’i weithredu’n rhagweithiol. Roedd Llywodraeth Cymru’n benodol yn ei gwrthwynebiad i’r cynnig hwn gael ei ddefnyddio i gynyddu capasiti yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae RhAG hefyd yn mawr obeithio y bydd y Cyngor bellach yn ailystyried ei fwriadau yn rhan o ddull mwy cytbwys a blaengar o gynllunio lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg yn strategol ar draws yr awdurdod cyfan.

Gobeithiwn y byddwch yn rhoi eich ystyriaeth lawn i’r materion a godwyd a byddem yn croesawu’r cyfle i drafod ein pryderon ymhellach.

a’r Dirprwy Arweinydd â chynrychiolwyr RhAG ar 9 Mehefin 2015 i drafod y materion a godwyd. Cadarnhaodd RhAG yn dilyn y cyfarfod hwnnw eu bod yn fodlon ar ymatebion yr ALl i’r holl faterion a godwyd.

Diolchwn i chi am eich cyflwyniad.

29

Atodiad 2

Asesiad Llawn o’r Effaith ar GydraddoldebEnw’r prosiect, polisi, swyddogaeth, gwasanaeth neu gynnig sy’n cael ei (h)asesu

Cynnig i adleoli YGG Cwm Garw (ysgol 1 dosbarth mynediad h.y. 210 o ddisgyblion ynghyd â darpariaeth feithrin â 45 o leoedd) i safle presennol Ysgol Gynradd Betws.

Dyddiad cwblhau’r asesiad 03/06/15

Cwblhawyd proses sgrinio gychwynnol ar gyfer yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ym mis Mawrth 2015Mae’r Cyngor wedi cynnig adleoli darpariaeth gynradd Gymraeg Ysgol Gynradd Gymraeg (YGG) Cwm Garw i safle presennol Ysgol Gynradd Betws yn flaenorol. Ym mis Mai 2014, penderfynodd y Cabinet adleoli’r ysgol i ysgol cyfrwng Cymraeg newydd ar y safle a feddiannir ar hyn o bryd gan Ysgol Gynradd Betws. Y cynnig oedd cydleoli YGG Cwm Garw â’r ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd sy’n gwasanaethu de Cwm Garw. Ym mis Chwefror 2015, penderfynodd y Cabinet ymhellach y dylai’r YGG Cwm Garw wedi’i hadleoli fod yn ysgol 1.5 dosbarth mynediad. Fodd bynnag, yn dilyn canlyniad yr Adolygiad Barnwrol a ddileodd benderfyniad y Cabinet i gau Ysgolion Cynradd Tynyrheol a Betws, bu angen ailystyried cynllun cyfan De Cwm Garw. Y cynnig presennol yw adleoli’r ysgol i safle ysgol Betws yn unol â’r cynnig gwreiddiol, ond fel ysgol un dosbarth mynediad yn unig.

Ar y cam hwn, bydd angen i chi ailedrych ar eich templed sgrinio cychwynnol i lywio eich trafodaethau ar yr ymgynghoriad a chyfeirio at y nodiadau canllaw ar gwblhau Asesiad llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb 1. Ymgynghoriad

Pwyntiau GweithreduGyda phwy y mae angen i chi Ym mhob un o’r grwpiau Dylai’r offer a’r dulliau

1

ymgynghori (pa grwpiau cydraddoldeb)?

nodweddion gwarchodedig, bydd angen i’r cyngor ymgynghori â’r rhai hynny a nodir yn adran 3.2 Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013.

ymgynghori a ddefnyddir gynnwys: Cyfarfodydd â Ffocws, Cyfarfodydd Cyhoeddus, dogfen ymgynghori a holiadur cysylltiedig, cyhoeddi’r holl wybodaeth ar wefan y cyngor.

Sut byddwch chi’n sicrhau bod eich ymgynghoriad yn gynhwysol?

Mae’r Awdurdod Lleol yn ymwybodol bod angen defnyddio ystod mor eang â phosibl o weithgareddau ac offer ymgynghori ac ymgysylltu er mwyn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl o ymgyngoreion. Mae’n rhaid cynyddu’r ymgynghori a’r ymgysylltu hyd yr eithaf er mwyn sicrhau bod safbwyntiau a phryderon y cyhoedd yn cael eu “clywed a’u hystyried” gan y cyngor.Bydd dulliau ymgynghori’n cynnwys (lle y bo’n briodol) deunyddiau dwyieithog (Cymraeg / Saesneg), gwybodaeth a gynhyrchir mewn ieithoedd heblaw’r Gymraeg a’r Saesneg, ac, ar gais, dogfennau print bras,

2

fersiynau rhwydd eu darllen o wybodaeth a darparu gwybodaeth glywedol, a bydd yn cynnwys cymysgedd o ddogfennau copi caled a darparu ffurflenni a gwybodaeth ar-lein. Mae’r cyngor yn cydnabod mai’r hyn sy’n allweddol i strategaeth ymgynghori ac ymgysylltu’r cyngor yw’r ymrwymiad i ymweld â’r cyhoedd ac ymgyngoreion eraill yn eu lleoliadau / cymunedau eu hunain ar adegau sy’n gyfleus iddynt.

Pa ymgynghoriad a gynhaliwyd? Ystyriwch unrhyw weithgarwch ymgynghori a gynhaliwyd eisoes, nad oedd yn ymwneud yn benodol â chydraddoldeb o bosibl, ond a allai gynnwys gwybodaeth y gallwch ei defnyddio

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus llawn rhwng 21 Ebrill 2015 ac 1 Mehefin 2015.

Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori â chynghorau ysgol YGG Cwm Garw ac YG Bro Ogwr ac fe’u manylir yn yr adran ganlynol.

3

Cofnod o ymgynghori â phobl o grwpiau cydraddoldebY grŵp neu’r unigolion yr ymgynghorwyd â hwy

Dyddiad, lleoliad a nifer y bobl

Adborth, meysydd pryder a godwyd

Pwyntiau Gweithredu

Cyfarfod cyffredinol â chyngor ysgol YGG Cwm Garw

12 Mai 2015

YGG Cwm Garw

Roedd cynrychiolwyr cyngor yr ysgol yn bresennol.

Codwyd sylwadau cyffredinol. Ni chyfeiriwyd at unrhyw beth penodol yn ymwneud â grwpiau cydraddoldeb.

Cyfarfod cyffredinol â chyngor ysgol YG Bro Ogwr

15 Mai 2015

YG Bro Ogwr

Roedd cynrychiolwyr cyngor yr ysgol yn bresennol.

Codwyd sylwadau cyffredinol. Ni chyfeiriwyd at unrhyw beth penodol yn ymwneud â grwpiau cydraddoldeb.

Amherthnasol

2. Asesu’r EffaithAr sail y data a ddadansoddwyd gennych, a chanlyniadau’r ymgynghoriad neu’r ymchwil, ystyriwch yr effaith bosibl ar bobl â nodweddion gwarchodedig (negyddol neu gadarnhaol). Os nodwch unrhyw effaith niweidiol, mae’n rhaid i chi:a) Gysylltu â’r Tîm Cydraddoldebau a allai geisio cyngor cyfreithiol ynglŷn â pha un a yw effaith niweidiol yn wahaniaethol neu y gallai fod yn wahaniaethol, yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd, a

4

b) Nodi camau i liniaru unrhyw effaith niweidiol – bydd angen i’r camau hyn gael eu cynnwys yn eich cynllun gweithredu. Mae’n annhebygol y bydd unrhyw effaith negyddol uniongyrchol ar unrhyw grŵp gwarchodedig heblaw am symud yr ysgol yn ffisegol i leoliad newydd. Bydd yr ysgol newydd yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac felly bydd ganddi gyfleusterau i’r anabl i gynorthwyo pob dysgwr, aelod o staff ac ymwelydd anabl. Felly, ystyrir bod hyn yn effaith gadarnhaol a fydd yn sicrhau bod pob dysgwr, gan gynnwys y rhai ag anableddau, yn cael mynediad at amgylchedd dysgu i gefnogi eu hanghenion.

Bydd yr ysgol arfaethedig, ynghyd â newidiadau cysylltiedig i ffiniau dalgylchoedd yn y dyfodol, yn helpu i sicrhau bod disgyblion (a’u teuluoedd) sy’n dymuno cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael cyfle da i wneud hynny, yn enwedig yn ardal calon y cymoedd gan y bydd y lleoliad newydd yn fwy hygyrch i ardal lle y ceir galw mawr am addysg cyfrwng Cymraeg. Fodd bynnag, gallai adleoli ysgol sydd wedi bod yn rhan annatod o’i chymuned leol ers degawdau, achosi rhywfaint o bryder cychwynnol yn y gymuned leol a chael effaith ar gydlyniant cymunedol. Felly, byddem yn ceisio sicrhau bod buddion y datblygiad yn cael eu cyfleu’n effeithiol i’r holl randdeiliaid a’u bod yn gallu cyfrannu at ddatblygu ac ailfrandio’r ysgol newydd ar safle Betws. Byddai’r ALl yn ceisio cynorthwyo’r ysgol i ffurfio perthnasoedd cadarnhaol er mwyn lliniaru unrhyw bryder posibl, fel yr amlinellir yn y cynllun gweithredu isod.

Gan y bydd yr ysgol newydd ym Metws oddeutu 4.5 milltir ymhellach i ffwrdd, fe allai hynny gael effaith ar deuluoedd yng ngogledd y cwm, yn enwedig y rhai hynny y byddai angen iddynt gael eu cludo gan yr ALl i’w hysgol newydd ym Metws ond, i’r gwrthwyneb, gallai’r rhai hynny yn ardal porth y cymoedd golli eu cymhwysedd i gael trafnidiaeth rad ac am ddim os nad oes llwybr diogel i’r ysgol, gan y byddent o fewn y pellter a nodir yn y polisi teithio dysgwyr presennol neu’r un a gynigir ar gyfer y dyfodol.

Rhyw Effaith neu effaith bosibl Camau gweithredu i liniaruNodwch yr effaith/effaith bosibl ar Dim wedi’i rhagweld gan fod y Dim wedi’u rhagweld

5

fenywod a dynion. cynnig yn golygu adleoli’r ysgol bresennol i safle newydd.

Anabledd Effaith neu effaith bosibl Camau gweithredu i liniaruNodwch yr effaith/effaith bosibl ar bobl anabl (sicrhewch eich bod yn ystyried ystod o namau, e.e. corfforol, namau ar y synhwyrau, anableddau dysgu, salwch tymor hir).

Nid yw’r YGG Cwm Garw bresennol yn hygyrch yn gyffredinol i ddisgyblion anabl ac ymwelwyr â phroblemau symudedd. Felly, disgwylir y bydd hygyrchedd y ddarpariaeth yn cael ei wella’n sylweddol trwy feddiannu’r ysgol newydd ar safle presennol Betws gan y byddai’r ysgol yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac felly bydd ganddi gyfleusterau i’r anabl i gynorthwyo pob dysgwr, aelod o staff ac ymwelydd anabl. Felly, ystyrir bod hyn yn effaith gadarnhaol.

Dim wedi’u rhagweld

Hil Effaith neu effaith bosibl Camau gweithredu i liniaruNodwch effaith/effaith bosibl y gwasanaeth ar bobl dduon a

Dim wedi’i rhagweld gan fod y cynnig yn golygu adleoli’r ysgol

Dim wedi’u rhagweld

6

lleiafrifoedd ethnig (BME). bresennol i safle newydd.

Crefydd a chred Effaith neu effaith bosibl Camau gweithredu i liniaruNodwch effaith/effaith bosibl y gwasanaeth ar bobl o wahanol grwpiau crefydd a ffydd.

Dim wedi’i rhagweld gan fod y cynnig yn golygu adleoli’r ysgol bresennol i safle newydd.

Dim wedi’u rhagweld

Cyfeiriadedd Rhywiol Effaith neu effaith bosibl Camau gweithredu i liniaruNodwch effaith/effaith bosibl y gwasanaeth ar bobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol.

Dim wedi’i rhagweld gan fod y cynnig yn golygu adleoli’r ysgol bresennol i safle newydd.

Dim wedi’u rhagweld

Oedran Effaith neu effaith bosibl Camau gweithredu i liniaruNodwch effaith/effaith bosibl y gwasanaeth ar bobl hŷn a phobl iau.

Effeithir ar blant yn yr ysgol yn fwy gan fod y cynnig hwn yn ymwneud ag adleoli’r ysgol i bentref gwahanol. Yn ogystal, gallai disgyblion, rhieni, gofalwyr a gwarcheidwaid deimlo effaith colli hunaniaeth yr ysgol bresennol pan fydd wedi’i gwaredu, gan

Rhoddwyd sicrwydd eisoes ynglŷn â buddion cadarnhaol y datblygiad. Bydd yr ysgol hefyd yn cael ei hailfrandio gyda chyfranogiad llawn disgyblion a’r gymuned.

7

bryderu y gallai hyn effeithio ar gydlyniant cymunedol. Er hynny, bydd y cynnig yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr, gan gynnwys y rhai hynny ag anableddau, yn cael mynediad at amgylchedd dysgu sy’n addas i’r 21ain ganrif i gefnogi eu hanghenion. Bydd disgyblion o’r cymunedau lleol yn ardal y cymoedd yn arbennig yn rhannu’r un safle ysgol gydag addysg cyfrwng Saesneg a Chymraeg yn cael ei chynnal ar safle Betws, ac felly fe allai hyn gefnogi mwy o gydlyniant cymunedol yn y tymor hir.

Beichiogrwydd a Mamolaeth Effaith neu effaith bosibl Camau gweithredu i liniaruDim wedi’i rhagweld Dim wedi’u rhagweld

Trawsrywiol Effaith neu effaith bosiblDim wedi’i rhagweld

Camau gweithredu i liniaru

Priodas a Phartneriaeth Sifil Effaith neu effaith bosiblDim wedi’i rhagweld

Camau gweithredu i liniaru

8

Mae’n hanfodol eich bod chi’n cwblhau’r cynllun gweithredu yn awr. Pan fydd eich cynllun gweithredu wedi’i gwblhau, sicrhewch fod y camau gweithredu’n cael eu prif ffrydio i’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth Thematig perthnasol.

3. Cynllun GweithreduCam Gweithredu Unigolyn

ArweiniolTarged ar gyfer cwblhau

Adnoddau sydd eu hangen

Cynllun Datblygu Gwasanaeth ar gyfer y cam gweithredu hwn

Rhoi sicrwydd ynglŷn â buddion cadarnhaol y datblygiad ar gyfer disgyblion/rhieni. Bydd yr ysgol ar safle newydd Betws hefyd yn cael ei hailfrandio gyda chyfranogiad llawn disgyblion.

Pennaeth Parhaus hyd nes y bwriedir i’r ysgol agor yn 2018

Cyfranogiad disgyblion a’r gymuned

Cyfathrebu â’r ysgol.

9

Rhowch enw’r unigolyn annibynnol (rhywun heblaw’r sawl sy’n cynnal yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb) sy’n cydlofnodi’r Asesiad hwn o’r Effaith ar Gydraddoldeb isod:

Nicola Echanis (Pennaeth Strategaeth, Partneriaethau a Chomisiynu)

Amlinellwch sut a phryd y bydd yr Asesiad hwn o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei fonitro yn y dyfodol a phryd y cynhelir adolygiad:

Bydd yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei fonitro trwy’r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ac yn benodol trwy’r prosiect i ddatblygu’r ysgol h.y. trwy Fwrdd Prosiect Cwm Garw (YGG Cwm Garw) a fydd yn adolygu’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac yn sicrhau bod monitro a rheolaethau digonol ar waith.

Llofnod: R J Davies Dyddiad: 03/06/2015

4. Cyhoeddi eich canlyniadau ac adborth i grwpiau ymgynghoriMae’n bwysig bod canlyniadau’r asesiad hwn o effaith yn cael eu cyhoeddi mewn fformat hygyrch sy’n hawdd ei ddefnyddio. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn rhoi adborth i’ch grwpiau ymgynghori ar y camau gweithredu rydych chi’n eu cymryd i fynd i’r afael â’u pryderon ac i liniaru yn erbyn unrhyw effaith niweidiol bosibl. Anfonwch ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i llenwi at y Tîm Cydraddoldebau

10

Atodiad 3Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg

YGG Cwm Garw

Cynnig i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw, trwy adleoli’r ysgol i adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Betws

Cynigir gwneud newid rheoleiddiedig i YGG Cwm Garw ar ffurf adleoli ac adeiladu ysgol gynradd Gymraeg ar safle presennol Ysgol Gynradd Betws, sydd 4.7 milltir i ffwrdd. Byddai hyn yn creu capasiti yn yr ysgol ar gyfer 210 o ddisgyblion yn ogystal â dosbarth meithrin ar gyfer 45 o ddisgyblion cyfwerth ag amser llawn. Byddai hefyd yn caniatáu ar gyfer twf yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg ac yn darparu ar gyfer disgyblion ychwanegol yn dod o ddalgylch mwy. Y Nifer Derbyn Cyhoeddedig ar gyfer yr ysgol newydd fyddai 30.

Gan y byddai’r ysgol cyfrwng Cymraeg arfaethedig wedi’i adleoli yn parhau fel ag y mae, ond mewn lleoliad gwahanol, byddai’r Gymraeg yn parhau i gael ei haddysgu trwy’r cwricwlwm.

Bydd yr awdurdod yn cydymffurfio â’i bolisi iaith Gymraeg trwy sicrhau bod yr holl arwyddion a ddefnyddir o fewn safleoedd yr ysgol yn ddwyieithog.

Nod y Cyngor yw cynyddu nifer y rhieni sy’n dewis addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant. Un o fanteision lleoli’r ysgol yn ardal porth y cymoedd yw sicrhau bod darpariaeth ddigonol ar gael i wasanaethu’r ardal lle y ceir galw am addysg cyfrwng Cymraeg.

Un o fanteision posibl lleoli’r ysgol gerllaw Ysgol Gynradd Betws ar yr un safle fyddai’r cyfle ar gyfer mwy o integreiddio rhwng disgyblion yn yr un cymunedau sy’n dymuno dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg â’r rhai hynny sy’n dymuno dysgu trwy gyfrwng y Saesneg. Fodd bynnag, byddai’r ALl a’r ysgol yn ceisio cyfleoedd i sicrhau na fyddai’r Gymraeg yn dirywio o gwbl, yn enwedig ar lefel gymunedol. Gallai symud yr ysgol i leoliad newydd, yn enwedig os yw mewn pentref gwahanol, effeithio ar benderfyniad rhieni i’w plentyn fynd i’w ysgol ddalgylch. Mae’r effaith ar hunaniaeth a chydlyniant cymunedol wedi’i hamlygu yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb sy’n cyd-fynd â’r adroddiad ymgynghori, yr adroddir arno i’r Cabinet ar 16 Mehefin 2015.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i werthuso’r twf yn y lleoedd ysgol angenrheidiol ar gyfer dalgylchoedd YGG Cwm Garw ac YGG Bro Ogwr er mwyn sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r dalgylch yn adlewyrchu’r galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr ardal a wasanaethir gan y ddwy ysgol. Gobeithiwn ddechrau ymgynghori yn ystod blwyddyn academaidd 2015-16.

Disgwylir i bryderon gael eu codi ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai’r cynnig effeithio ar allu trigolion Cwm Garw i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardal a llesteirio cynaliadwyedd y Gymraeg yn y cwm.

Mae’r Awdurdod Lleol yn monitro a gwerthuso’r galw gan rieni am leoedd yn y sector cyfrwng Cymraeg a faint o leoedd sydd ar gael er mwyn sicrhau bod yr holl blant sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod y blynyddoedd cynnar yn gallu cael mynediad at

1

ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd. Yn 2013, roedd yr holl ddisgyblion a ofynnodd am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y cyfnod cynradd yn gallu cael mynediad ati.

Ar hyn o bryd, addysgir 8.72% o blant 7 mlwydd oed trwy gyfrwng y Gymraeg mewn pedair ysgol gynradd Gymraeg. Mae’r holl rieni y mae arnynt angen addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant 7 oed yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth hon.

Mae niferoedd rhagamcanol yn dangos cynnydd yn nifer a chanran gwirioneddol y plant 7 oed a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg ym mlwyddyn academaidd 2014-15, ac yna cynnydd bach yn y nifer ond lefelu o ran y ganran yn 2015-17.

I fynd i’r afael â’r anghydbwysedd mewn capasiti, byddai’r cynnig i symud YGG Cwm Garw ymhellach i’r de yn galluogi gwell cydbwysedd o ran niferoedd disgyblion ar draws ein pedair ysgol gynradd.

Byddai’r datblygiad arfaethedig hefyd yn caniatáu ar gyfer twf yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg gan ddarparu ar gyfer disgyblion ychwanegol yn dod o ddalgylch mwy a fydd yn bodloni’r galw disgwyliedig o’r datblygiadau tai newydd o fewn ardal Porth y Cymoedd y Fwrdeistref Sirol. Bydd ail-lunio dalgylchoedd yn cynorthwyo i ryddhau lleoedd yn YG Bro Ogwr, sef yr ysgol ddalgylch ar gyfer datblygiad newydd Parc Derwen yng Nghoety (1500 o dai).

Mae datrysiad tymor hir yn cael ei ystyried ar hyn o bryd ar gyfer dalgylch Porthcawl a Chynffig. Ceir posibilrwydd o ddatblygu uned ddechreuol ym Mhorthcawl. Fodd bynnag, megis ar ddechrau’r broses gynllunio yw hyn, ac ni fydd yn dwyn ffrwyth am 2-3 blynedd arall.

Bydd gwaith yn parhau i archwilio dewisiadau i ymestyn capasiti yng ngorllewin y sir lle y gwyddys bod y galw’n cynyddu.

G Thomas

5 Mehefin 2015

2

Atodiad 4

Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned

Enw’r cynnig: Cynnig i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw trwy adleoli’r ysgol i adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Betws, gan greu ysgol 1 dosbarth mynediad yn ogystal â dosbarth meithrin â 45 o leoedd yn effeithiol o 1 Ebrill 2018.

Pwy fydd yn gwneud y penderfyniad? :Y Cabinet

Pwy sydd wedi bod yn ymwneud â datblygu’r cynnig? :Y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a ThrawsnewidY Pennaeth Strategaeth, Partneriaethau a Chomisiynu – Gwasanaethau PlantY Rheolwr Prosiect – Gwasanaethau Eiddo

Nodau ac amcanion:Cynnig i wneud newid rheoleiddiedig i Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw trwy adleoli’r ysgol i adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd Betws, gan greu ysgol 1 dosbarth mynediad yn ogystal â dosbarth meithrin â 45 o leoedd yn effeithiol o 1 Ebrill 2018

Er bod gennym ni leoedd gwag yng ngogledd y fwrdeistref sirol ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ceir prinder lleoedd yn y de. Cynhelir ymarfer dilynol ar wahân ynglŷn â newid arfaethedig i’r dalgylch i gynnwys ardal i’r gogledd o dref Pen-y-bont ar Ogwr, a fyddai’n lleihau’r pwysau ar leoedd yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy’n llawn ac na fydd yn gallu bodloni anghenion disgwyliedig datblygiadau tai yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr a Phyrth y Cymoedd yn y dyfodol agos.

Camau gweithredu allweddol: Gweithdrefn statudol i adleoli’r ysgol i adeilad ysgol newydd ar safle Ysgol Gynradd

Betws Ymarfer ar wahân i ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r dalgylch – cynhelir hyn

yn ddiweddarach.

Canlyniadau disgwyliedig: YGG Cwm Garw yn adleoli i safle Ysgol Gynradd Betws ac yn agor fel ysgol 1 dosbarth mynediad gyda dosbarth meithrin â 45 o leoedd ym mis Ebrill 2018.

Y rhai yr effeithir arnynt: Staff, llywodraethwyr, disgyblion, rhieni a’r gymuned

Tua faint o bobl yr effeithir arnynt: Mwy na 1000 o bobl o bosibl

Dyddiad disgwyliedig penderfyniad: Medi 2015

Cwmpas/ffocws yr asesiad: Rhoddwyd ystyriaeth i ddefnydd presennol o’r ysgolion gan y gymuned; hygyrchedd i ddisgyblion, staff, rhieni a’r gymuned; effaith symud ysgol gynradd yr effaith ar adeilad yr ysgol

3

yr effaith ar y gymuned estynedig

Data a/neu waith ymchwil perthnasol: gwybodaeth a ddarparwyd gan YGG a Chylch Meithrin Cwm Garw ynglŷn â

defnydd y gymuned o safle presennol yr ysgol gwybodaeth a ddarparwyd gan YGG Cwm Garw ynglŷn â chlybiau ar ôl ysgol a

gynigir ym mhob ysgol adroddiad 2015 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o’r enw ‘Dogfen

Egwyddorion’ amcanestyniadau disgyblion, capasiti, cyflwr adeiladau

Canfyddiadau:Defnydd Cymunedol: YGG Cwm Garw

Clwb brecwast: 8-8:50 bob dydd. Dydd Mawrth ar ôl ysgol – Urdd Gobaith Cymru 3:30-4:30 Dydd Iau ar ôl ysgol – Pêl-droed 3:30-4:30

Defnydd Cymunedol Cymraeg ar Ddydd Iau – Y Gymraeg 9:30-11:30 bob wythnos. Bob dydd – Cylch Meithrin 9:15-1:15. Mae wedi’i gofrestru ar gyfer 20 o blant ond

dim ond 15 sy’n mynychu. Grŵp Ti a Fi – 1:15-2:45 bob dydd

Polisi Cynradd: Mae’r cynnig hwn yn cyd-fynd â Dogfen Egwyddorion Addysg 2015 y Cyngor.

Amcanestyniadau disgyblion, capasiti, cyflwr adeiladau: Mae’r amcanestyniadau disgyblion sy’n effeithio ar ysgolion cynradd yng Nghwm

Garw (sy’n cynnwys YGG Cwm Garw, Ysgol Bro Ogwr, Ysgol Gynradd Betws, Ysgol Gynradd Blaengarw ac Ysgol Gynradd Ffaldau) yn dangos gostyngiad – disgwylir iddynt ostwng o 1154 (ar y gofrestr ym mis Ionawr 15) i 1145 (mis Ionawr 22).

Mae cyflwr adeiladau mewn perthynas ag YGG Cwm Garw ac Ysgol Gynradd Betws yng nghategori C (Gwael – dangos diffygion mawr a/neu ddim yn gweithredu yn unol â’r bwriad).

Mae hygyrchedd YGG Cwm Garw ac Ysgol Gynradd Betws yng nghategori D (Anhygyrch. Diffyg cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, ac ni ellir sicrhau cydymffurfiaeth, os oes modd gwneud hynny o gwbl, heb gost fawr).

Yr effaith ar y gymuned estynedig Os newidir y dalgylch, bydd hynny’n effeithio ar yr ardaloedd a wasanaethir gan

YGG Cwm Garw ac, o bosibl, ardal Porth y Cymoedd. Mae gan ardaloedd yng Nghwm Garw gymunedau gwahanol iawn o ran cymeriad.

Mae ganddynt oll gryfderau ac maent yn cynnig cymorth cadarnhaol. Fodd bynnag, maent wedi’u gwasgaru’n ddaearyddol a byddai’n fuddiol i’r dalgylch gael ei ail-lunio er mwyn galluogi’r plant a’u teuluoedd i gyrraedd eu hysgol yn haws.

Bydd effaith gadarnhaol o ran cyfleusterau cymunedol modern, hygyrch ar y safle newydd, er, fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad, teimlir yn gryf y gallai symud yr ysgol gael effaith niweidiol ar gydlyniant cymunedol yn ogystal ag effeithio ar gymeriad a hunaniaeth cymunedau o bosibl. Hefyd, ceir pryder y byddai addysg cyfrwng Cymraeg yn pylu yng ngogledd ardal y cymoedd er bod galw uchel yn y de.

4

Mae Cylch Meithrin yn gweithredu ar hyn o bryd o safle presennol YGG Cwm Garw. Byddai’r Awdurdod yn gweithio gyda’r darparwr i nodi llety arall addas os bydd angen.

Yr effaith ar ysgolion eraill Mae’n ddigon posibl y byddai’n well gan rieni yn ardal Blaengarw/Pontycymer i’w

plant fynd i’r ysgolion Saesneg lleol yn hytrach na’u bod yn teithio i’r de i leoliad arfaethedig yr Ysgol Gymraeg.

Mae’n bosibl na fydd rhieni yn ardal Porth y Cymoedd yn croesawu’r newid arfaethedig i’r dalgylch, gan ddewis i’w plant gael eu haddysgu mewn ysgol arall (cyfrwng Saesneg o bosibl), pe byddai’r cynnig yn mynd yn ei flaen. Felly, gallai hynny effeithio ar y Gymraeg o ganlyniad.

Gallai cysylltiadau trafnidiaeth fod yn achos pryder i rieni/y gymuned, ond darperir trafnidiaeth ysgol rad ac am ddim i’r safle ac oddi yno. Mae’n bosibl y gallai’r ysgol roi mesurau ar waith i ymdrin ag achosion lle mae angen casglu disgyblion ar adegau ansafonol e.e. oherwydd salwch.

Sut bydd y penderfyniad yn effeithio ar bobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig? :Byddai effaith gadarnhaol yn debygol o ystyried y byddai’r ysgol newydd yn cydymffurfio’n llawn â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac yn cynorthwyo pob disgybl, aelod o staff, ymwelydd ac ati.

Ymgynghoriad

A gynhaliwyd ymgynghoriad penodol ar y penderfyniad hwn (os na, nodwch pam a/neu ba bryd y gallai hyn ddigwydd): Do

Beth oedd canlyniadau’r ymgynghoriad? :Gweler yr adroddiad atodedig

Ar draws y nodweddion gwarchodedig, pa wahaniaethau o ran barn a ddatgelodd y dadansoddiad o’r ymgynghoriad?Dim

Pa gasgliadau y daethpwyd iddynt o’r dadansoddiad o ran sut y bydd y penderfyniad yn effeithio ar bobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig?Ni ddisgwylir unrhyw effaith wahaniaethol.

Asesiad o’r effaith ar staff

Rhowch fanylion yr effaith ar staff, gan gynnwys y proffil staffio os yw’n briodol:Gallai’r cynnig gael effaith ar staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu. Y corff llywodraethu sydd i benderfynu ar y mater hwn pan fyddant yn deall anghenion yr ysgolion unigol a’r gyllideb sydd ar gael iddynt er mwyn pennu’r strwythurau staffio sy’n ofynnol.

Asesiad o’r effaith ar y gymuned ehangach

Rhowch fanylion unrhyw effeithiau ar y gymuned gyfan:Mae’n bosibl na fydd y gymuned yn dymuno bod YGG Cwm Garw yn cael ei lleoli ar safle Ysgol Gynradd Betws o ganlyniad i gynnydd posibl mewn traffig yn yr ardal leol a’r effaith

5

bosibl ar y Gymraeg os nad yw rhieni’n cytuno â’r cynigion. Fodd bynnag, darperir trafnidiaeth ysgol i’r disgyblion a bydd ardaloedd dynodedig yn y safle ar gyfer parcio.

Dadansoddiad o’r effaith yn ôl nodweddion gwarchodedig

Rhowch grynodeb o ganlyniadau’r dadansoddiad:Ystyrir mai’r nodweddion y gellid effeithio arnynt yw oedran ac anabledd(effaith gadarnhaol ddisgwyliedig)Aseswch berthnasedd ac effaith y penderfyniad o ran pobl â gwahanol nodweddion Perthnasedd = Uchel/Isel/Dim Effaith = Uchel/Isel/Niwtral

Nodwedd Perthnasedd Effaith

Oedran Uchel Isel

Anabledd Uchel Isel

Ailbennu rhywedd Dim Niwtral

Priodas a phartneriaeth sifil Dim Niwtral

Beichiogrwydd a mamolaeth Dim Niwtral

Hil Dim Niwtral

Crefydd neu gred Dim Niwtral

Rhyw Dim Niwtral

Cyfeiriadedd rhywiol Dim Niwtral

Grwpiau eraill a eithrir yn gymdeithasol (gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd) Dim Niwtral

Lle y nodwyd unrhyw effaith negyddol, amlinellwch y camau a gymerwyd i’w lliniaru:Yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad ar y cynnig hwn ac ymgynghoriad ychwanegol ar newidiadau arfaethedig i’r dalgylch, bydd yr Awdurdod yn:

Gweithio gyda’r corff llywodraethu a’r ysgol i’w cynorthwyo i bennu strwythurau staffio.

Annog a chynorthwyo’r ysgol i barhau i ddarparu defnydd cymunedol o adeiladau’r ysgol.

Sicrhau trosglwyddo didrafferth trwy weithio’n agos gyda’r ysgol.

Llofnod:G Thomas

Dyddiad:02/06/15

6

7